Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Pregeth VI
← Pregeth V | Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern gan David Samuel Jones |
Pregeth VII → |
PREGETH VI.
"SANCTEIDDRWYDD YN GYMHWYSDER I DDEFNYDDIOLDEB."
"Pwy bynag gan hyny a'r glanhao ei hun oddiwrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymhwys i'r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda," 2 Tim. ii. 21.
SANCTEIDDRWYDD bywyd a chalon yw y prif gymhwysder i fod yn ddefnyddiol.
1. Y mae troedigaeth pechadur yn waith o anrhydedd mawr, ac nid yw yn debyg y gwna Duw osod yr anrhydedd hwnw ar ei elynion. Ni wna neb ddewis gelyn i ddadleu ei achos, neu fradychwr i fod yn llysgenadydd. Ni wna Crist ymddiried parthed ei wyn i neb ond y rhai hyny sydd yn ei garu, Ioan xxi. 15.
2. Heb dduwioldeb personol ni thycia pob cymhwysderau eraill ddim. Y mae fel peiriant heb allu, neu adeilad heb sylfaen dda. Bydd yn sicr o roddi ffordd rywbryd neu gilydd.
3. Y mae defnyddioldeb dyn yn fwy cysylltiedig â gweddi nag â dim arall. Nis gall dyn ansanctaidd fod yn weddiwr, o leiaf, nid yw ei weddi yn gymeradwy. Prawf ffeithiau fod y dynion defnyddiolaf yn mhob oes yn ddynion mawr mewn gweddi. Felly y dywed yr Arglwydd, "Nid ä y rhywogaeth hyn allan, ond drwy weddi ac ympryd.". Gallant chwerthin am ben eich dysgeidiaeth, eich ymresymiad cadarn, eich hyawdledd mawr, a'ch ieithoedd ardderchog. Y mae y rhai hyn yn rhagorol yn eu lle, ond ni wnant y tro yn lle gweddi.
4. Heb dduwioldeb personol, ni wna dynion eu dyledswydd fel y dylent. Ni fydd eu calon yn eu gwaith. Gwnant ef rywfodd, ac mor ysgafn ag y byddo modd, dim ond i gadw i fyny eu poblogrwydd, ac i gadw i gydwybod yn dawel. Nis gallant ddysgwyl i Dduw eu gwobrwyo am waith mor arwynebol.
5. Sancteiddrwydd yn ein personau ein hunain yw y ris gyntaf tuag at ei wasgaru yn mhlith eraill. Y rheol fawr ydyw, "Bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun;". . ." y meddyg, iacha dy hun." Nis gall yr hwn na fedr berswadio ei hun i fod yn sanctaidd lwyddo gydag eraill.
6. Sancteiddrwydd personol ydyw un o'r moddion apwyntiedig i ddychwelyd y byd, 1 Pedr ii. 15; iii. 12.
Dichon pregeth sanctaidd barhau am awr, ond pregeth barhaus yw bywyd sanctaidd, a gall hen wraig dlawd bregethu y cyfryw bregeth cystal a'r dyn mwyaf ei ddoniau, "Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr yr hwn sydd yn y nefoedd. Gall pawb ddeall y fath bregeth a hon yna, ac nis gall gael neb i'w gwrthddywedyd.
7. Y mae sancteiddrwydd er mwyn bod yn wrol a diysgog yn nghyflawniad ein dyledswydd yn angenrheidiol, "Y cyfiawn sydd hyf megys llew," oblegid y mae ganddo gydwybod dda. Gwna cydwybod euog lwfriaid o honom oll—"Mi a ofnais," meddai un, "ac aethum, ac a guddiais dy dalent." Pa fodd y ceryddwn eraill am y pethau yr ydym ein hunain yn euog o honynt? Dywedodd Dafydd, "Cerydded y cyfiawn fi yn garedig, fel pe na fedrai oddef hyny gan neb arall. Y rhai ysbrydol sydd i adgyweirio y dyn a oddiweddwyd ar fai.
8. Os na allwn fod o wasanaeth i eraill heb sancteiddrwydd, yn sicr, nis gallwn fod o unrhyw leshad i ni ein hunain. Byddwn fel dyn, yr hwn, o herwydd esgeuluso ei orchwyl, a aeth yn fethdalwr. Trwy hyn clwyfai ei gyfeillion a'i berthynasau. Teifl ei hun bendramynwgl i dlodi a thrueni. Nid oes ganddo oleuni ei hunan, ac ni rydd oleuni i eraill. Nid yw yn halen iddo ei hun nac i eraill. [1]
[Wele restr ychwanegol o destynau a phenranau nifer o bregethau Mr. Williams, y rhai a ysgrifen—wyd wrth ei wrando, gan y Parch. William Roberts, Penybontfawr. Er nad oes yma ond y testynau a'r penranau wedi eu copio, eto yr ydym yn sicr y bydd yn dda gan y darllenydd eu cael fel y maent, ac yr ydym yn ddiolchgar iawn am danynt.]
Nodiadau
golygu- ↑ Cyfieithiad yw yr uchod o gopi a gymerwyd o lawysgrif Mr. Williams yn y flwyddyn 1852 gan Lloffwr. Gwel y Diwygiwr am Awst, 1889, tudalen 277—278