Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Pregeth XII
← Pregeth XI | Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern gan David Samuel Jones |
Pregeth XIII → |
PREGETH XII.
"GWERTH Y BEIBL."
"Mi a ysgrifenais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithr—beth y cyfrifwyd," Hos. viii. 12.
I. GWERTH Y BEIBL.
1. Datguddiad goruwchnaturiol ydyw.
2. Mae yn anffaeledig.
3. Datguddiad o bethau y mae arnom ni eu heisieu ydyw, pethau addas i ni.
4. Datguddiad o'r pethau mwyaf eu pwys ydyw, ein pethau tragwyddol.
5. Mae effeithiau da yn perthyn iddo.
II. MAI BRAINT YW EI FOD WEDI EI YSGRIFENU.
"Mi a ysgrifenais iddynt," &c.
1. Mae yn sicrach nag un ffordd arall.
2. Mae ei ledaeniad yn fwy helaeth.
3. Mae yn burach.
4. Mae ei barhad yn hwy.
5. Mae yn fwy cyfleus.
III. CYNWYSIAD Y GWYN. "Ac fel dyeithr—beth y cyfrifwyd."
1. Ei gyfrif fel pe na bae un berthynas rhyngom âg ef.
2. Nid oes dim cymdeithas neu gyfeillach âg ef.
3. Peidio ag ymddiried iddo.
4. Gwybod ond ychydig am agwedd ysbryd y Beibl.
Sylwadau:—1. Dylem ddiolch i Dduw am dano. 2. Gwnawn ein goreu i'w anfon i eraill. 3. Edrychwch na bo neb heb ei ddysgu. 4. Mae genyt gyfaill, sef y Beibl, a ddaw gyda thi i bob bwlch cyfyng.