Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Pregeth XIII
← Pregeth XII | Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern gan David Samuel Jones |
Pregeth XIV → |
PREGETH XIII.
"Y PECHOD O ANGHOFIO DUW."
"Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a'r holl genedloedd a anghofiant Dduw," Salm ix. 17.
I. NATUR Y PECHOD O ANGHOFIO DUW.
1. Pechod yn erbyn gwybodaeth ydyw.
2. Pechod yr holl ddyn, trwy ei holl gyneddfau ydyw.
3. Mae y cwbl ag ydyw Duw yn cael ei anghofio.
II. Y DRWG O'R PECHOD YMA.
1. Mae yn rhwystro pob peth duwiol ar unwaith o ran gweithrediadau yr enaid.
2. Mae yn codi oddiar ddrwg ansawdd y galon, neu o herwydd anghrediniaeth y galon o Dduw.
3. Mae yn agor y drws i bob pechod arall.
4. Yr angharedigrwydd a'r anghariad mwyaf tuag at Dduw ydyw.
5. Didduwiaeth ymarferol ydyw.
6. Y ffolineb mwyaf. Mae rhyw bethau yn ein meddwl y bydd yn dda cael ymadael â hwynt wrth farw, ond nis gelli farw yn iawn heb Dduw.
III. CANLYNIAD Y PECHOD—"A ymchwelant i uffern."
1. Bywyd ar fin dibyn ydyw bywyd o anghofio Duw.dontistes
2. Fe fydd yn anocheladwy.
Addysg: 1. Wrth ystyried hyn gallwn wybod am wirionedd ein crefydd. 2. Achos galaru gerbron Duw. 3. Yma yn unig y mae anghofio Duw yn bod.
Cyfarwyddiadau i wella:—1. Cysegra dy hun yn boreu i Dduw. 2. Cadw yn barhaus wyliadwriaeth i alw dy feddwl yn ol. 3. Dod rywbeth da iddo i'w wneud. 4. Treia fyw yn agos at y groes.