Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern/Pregeth XX
← Pregeth XIX | Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern gan David Samuel Jones |
Pregeth XXI → |
PREGETH XX
"MYFYRDOD.
"Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros; fel y byddo dy gynydd yn eglur i bawb," 1 Tim. iv. 15.
I. NATUR MYFYRDOD.
1. Peth perthynol i'r enaid ydyw.
2. Peth yn perthyn i'r holl enaid ydyw.
3. Nid oes dim tu allan i ddyn all rwystro myfyrdod.
4. Gall y dyn ei hun ei lywodraethu trwy weddi, gwyliadwriaeth, a pharhau ymarferiad.
5. Ni bydd byth yn llonydd.
6. Mae yn annherfynol o ran ei wrthddrychau.
7. Peth sydd yn nodweddu dyn yn dduwiol, ac annuwiol ydyw.
8. Nid yw i ymddiried iddo y saif ar wrthddrychau da heb yr Ysbryd Glan.
II. ANOGAETHAU I FYFYRIO.
"Myfyria ar y pethau hyn."
1. Prif gyfrwng troedigaeth yw myfyrdod.
2. Prif gyfrwng gwybodaeth ydyw.
3. Prif gyfrwng y cof ydyw.
4. Dyma y prif foddion i gadw rhag pechod.
5. Yn maes myfyrdod y mae ein holl aberthau crefyddol yn cael eu magu.
6. Dyma sylfaen ein defnyddioldeb.
7. Trwy fyfyrio y defnyddir ein bywyd oreu.
8. Dyma y paratoad goreu erbyn marw.
III. CYFARWYDDIADAU I FYFYRIO.
1. Yn y boreu, agor ddrws myfyrdod â gweddi, a chau ef yr un modd.
2. Dod bethau da i'r meddwl i'w wneud.
3. Cadw wyliadwriaeth arno trwy'r dydd.
Casgliad:1. Diffyg myfyrio yw y rheswm fod y byd mor dywyll.
2. Mae genym achos cywilyddio na byddem yn myfyrio mwy ar bethau da.