Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/"Saul" a "Sylvia"

Storm Biwritanaidd Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)

gan Evan Keri Evans

O Lundain i Landudno ac yn ol

XXI. "Saul" a "Sylvia."

Hunan-gofiant

YN 1892 derbyniaf fy ail gomisiwn gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Rhoddwyd "Saul o Tarsus" yn y Rhyl gerbron y dorf fwyaf o lawer o holl gyfarfodydd yr Eisteddfod.

O! Amser! Mam greulon ydwyt, yn rhoddi genedigaeth i ddigwyddiadau ac amgylchiadau prudd a galarus, gan i ti y flwyddyn hon ddanfon dy was angeu i gylch tawel a hapus ein bywyd teuluaidd, gan symud o'n plith ein hanwylaf Willie (William Sterndale), a rhoddi i ni Och! y fath dasg i'w osod yn y bedd tywyll, oer, byth i weld ei wyneb hawddgar a llednais eto, hyd nes y cwrddwn yn y cartref tragwyddol a digyfnewid uchod. Fel hyn bu'r flwyddyn 1892 i ni y fwyaf greulon o'r holl flynyddoedd. (Gwêl y Rhestr.) 1893 Blwyddyn arall o anffodion i'n teulu ni, pryd y dinistriwyd stereotyped plates fy ngweithiau cyhoeddedig a llafur fy mywyd yn nhân y "Western Mail," yn golygu colled o rhwng £800 a £900, heb geiniog o ad-daliad, heblaw'r golled barhaol o beidio gwerthu copiau yn y dyfodol. (Gwêl y Rhestr.)

Y mae fy mab Haydn a minnau'n arwain perfformiad mawr o "Gwen" a "Nebuchadnezzar" yn y St. James's Hall, Llundain: llwyddiant mawr.

1894: O Amser creulon! a'th was angeu! paham yr ymwelwch eto â chylch ein teulu, ac mor fuan, gan ein hamddifadu ni o fab annwyl a thalentog, ei wraig a'i blant o'u cymorth, a'r wlad o'i athrylith? Y mae'th olwyn fyth yn troi, gan ein malu â'i phwysau a llethu'n hysbrydoedd nychlyd. Mor gyfnewidiol ydwyt! yn dwyn llawenydd yn awr, ac yna galar, i'th blant yn ddiwahaniaeth.

Y mae fy mhriod, a Dilys, a minnau unwaith eto ar ein taith i America ar fwrdd yn "Etruria" (fy nawfed mordaith) ar gyfer cwrs o ddarlith-gyngherddau, eisteddfodau, etc., a chyfarfyddwn unwaith eto â pherthnasau a chyfeillion.

ONIBAI am yr angen, y cyfeiriwyd ato eisoes, am wneuthur ei weithiau mawr yn brif landmarks ei hanes, byddai y teitl "Gwawr a Chysgod " neu "Tes a Chawod yn briodol iawn uwchben y bennod hon. Yn ei Hunan-gofiant fe ddywed Dr. Horton, fel y sylwyd, fod yna brofedigaeth ar gyfer llawenydd yn ei fywyd fel rheol, "fel na'i tra dyrchefid"; ond y mae'r un mor ysgrythyrol i ddywedyd fod yna lawenydd ar gyfer profedigaeth hefyd, fel y cân Hiraethog:

Os y ddafad barai flinder,
Poen a phryder fore a hwyr,
Trefnid Tango ar ei chyfer,
Rhag fy nigalonni'n llwyr.

Felly y bu hi gyda Parry: ar ol yr ysgarmes Biwritanaidd ac ymosodiad "Zetus," diau ei bod yn achos o foddhad pur iawn iddo i'w hen gyfeillion a chyd-drefwyr yn Abertawe drefnu agor yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1891 drwy i'r côr ganu ei "Faesgarmon," a gorffen y gweithrediadau drwy ddatganu ei Emmanuel yn y cyngerdd olaf, dan arweiniad Eos Morlais. Yn yr eisteddfod hon hefyd yr oedd "Cytgan y Pererinion (heblaw rhai pethau eraill yn gystadleuol,—cytgan a brawf nad oedd ffynonellau ei ysbrydoliaeth yn pallu gyda threigl y blynyddoedd. Ac er mai claear oedd y clod a roddwyd i'w "Nebuchadnezzar" gan y papurau Saesneg pan ddatganwyd y gantawd yn Llundain ychydig cyn hyn, rhoddwyd gwaith cerddorfaol newydd o'i eiddo yn un o gyngherddau Mr. Stockley yn Birmingham gyda chymeradwyaeth mawr. Darn ydyw yn portreadu cwsg—"Tone Picture"—am yr hwn y dywedai y "Gazette" ei fod "yn sylweddoli y meddylddrych barddonol mewn dull tra hapus, ac iddo gynhyrchu effaith rhagorol, a chael derbyniad neilltuol o ffafriol."

Yn nechreu 1892 penderfynodd pwyllgor Gwyl Gerddorol Caerdydd berfformio Saul o Tarsus" (Parry), gyda'r prif weithiau eraill ("Messiah," "Elijah," etc.); ac ymgymerodd ef, gyda'r Mri. Aylward a Scott â phartoi y côr. Ond gyda'i fod yn dechreu ar y gwaith daeth i'w gyfarfod brofedigaeth chwerw iawn, un barodd iddo friw a loes na ellid ei gynhyrchu gan biwritan na beirniad. Yr oedd ei fab ieuengaf, Willie Sterndale, wedi bod yn gwaelu, "yn araf, araf wywo" ers blwyddyn neu ddwy, ond hunodd yn yr angeu yng ngwanwyn 1892, er galar nid yn unig i'w berthynasau, ond i lu o gyfeillion, ac efe yn awr yn fachgen ugain oed. "Hoffus ydoedd gan bawb," meddai un gohebydd—"enillodd ei dymer addfwyn, ei ymddygiad boneddigaidd, a'i gymeriad dilychwin iddo edmygwyr a ffrindiau lawer. Penderfynodd ddilyn yn ol troed ei dad am ei fywoliaeth. Nid yn unig meddai ar lais da, ond yr oedd wedi ymaflyd ers llawer o amser yn y piano, ac yn ddiweddar mewn cynghanedd a gwrthbwynt. . . . Bu farw fel pe yn mynd i gysgu."

Yr oedd Parry'n ddyn o deimladau tyner, a hoff iawn o'i blant; a diau i'r amgylchiad leddfu llawer ar ei ysbryd, a dofi ei ynni. Prawf o hyn yw iddo roddi arweinyddiaeth yr "Orchestral Society" i fyny, gan roddi ei deimlad briw fel rheswm dros hynny; tebyg fod y gwaith ag yr oedd yn rhaid ei wneuthur yn gymaint o faich ag a allai gario ar y pryd. Ac eto y mae gwaith fyddo'n ennyn ein diddordeb yn pylu min ein gofid—yn arwain y sylw i ffwrdd oddiwrth ei achos gan felly leihau ei artaith. Ac felly y bu i Parry'n ddiau y pryd hwn; yn neilltuol yr oedd y gwaith o ddwyn allan un o'i brif weithiau, a hwnnw'n un oedd yn symud ar lefelau uchel, yn fwy o help nag o rwystr iddo anghofio'i boen.

Gelwir "Saul o Tarsus" ar y copi yn "Dramatic Oratorio, or Scenes from the life of St. Paul." Y mae geiriau'r libretto wedi eu dethol o'r Ysgrythyr, gyda rhai telynegion gan Dewi Môn. Yn yr olygfa gyntaf cawn Saul yn erlid y Cristinogion, y daith i Damascus, a'i droedigaeth. A'r ail â ni at Paul a Silas yn Philippi—y carchar a'r ddaeargryn. Y mae y drydedd olygfa yn Jerusalem—gŵyl y Pentecost, y deml, a'r carchar; a'r olaf yn Rhufain yn diweddu gyda phrawf a dienyddiad Paul.

Rhoddwyd y gwaith am y tro cyntaf yn un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl ym Medi. "Yr oedd y perfformiad," meddai un o olygyddion y "Cerddor," yn llwyddiant digymysg, er bod y rhan gyntaf o'r gwaith yn rhagori ar y rhan olaf; ac yr ydym yn tueddu'n gryf i feddwl y byddai'n welliant pe gadewid allan rai o'r symudiadau lleiaf pwysig, y rhai sydd hefyd mewn ystyr yn anghysylltiol." Ac meddai'r llall: "Parth y perfformiad yr ydym yn cydweld â'n cydolygydd; yn unig yr ychwanegwn mai nid yn aml y cafodd gwaith newydd y fath berfformiad rhagorol, ac y mae yr awdur i'w longyfarch yn galonnog ar y gwaith newydd hwn Yr ydym wedi cael y fantais o glywed gweithiau newydd yn ystod y deng mlynedd diweddaf yng ngwyliau Leeds, Henffordd, Birmingham, a Llundain, a da gennym dystiolaethu fod gwaith newydd Dr. Parry'n rhagori ar rai o'r gweithiau a ddygwyd allan yn y gwyliau hyn. Credem y buasai torri tri chwarter o'r gwaith i ffwrdd yn y rhannau olaf, fel na fyddai'r gwahanol olygfeydd mor debyg i'w gilydd, yn welliant . . . Darnau rhy operatic sy'n ei andwyo fel gwaith cysegredig." Am y perfformiad yng Ngwyl Caerdydd ychydig yn ddiweddarach, dywed yr un beirniad: "Rhaid dywedyd na chafwyd agos cystal perfformiad ag a gafwyd yn y Rhyl, a hynny'n unpeth am nad oedd y côr wedi ei ddysgu cystal, ac yn ail am nad oedd yr awdur yn arwain mor sefydlog; a chymerai rai darnau mor gyflym fel ag i'w gwneuthur nid yn operatic, ond yn comical; mae yn sicr ei fod wedi niweidio rhannau o'r gwaith drwy eu cymryd yn rhy gyflym."

Rhoddwyd ail berfformiad o'r gwaith yn Nhachwedd gan yr un côr, dan arweiniad yr awdur—perfformiad llawer gwell, ond ni chefnogwyd yr anturiaeth gan y cyhoedd fel y disgwylid.

Gyda golwg ar y gwaith ei hun, sieryd y "Daily Telegraph" braidd yn wawdus, a dyfynna ddywediad Wagner am gerddorfäeth or-helaeth Berlioz, "ei fod wedi ei gladdu dan adfeilion ei beiriannau ei hun," a gobeithia nad hynny fydd tynged Dr. Parry. Y mae y "Musical Herald " yn dra chlodforus: gwir fod yna ormod o fanylion a'r darlun wedi ei growdio, ond y mae yn waith "rhyfeddol o darawiadol ac effeithiol, a'r rhan offerynnol yn ffres ac edlym." Pan roddwyd y gwaith yn 1895 yn Newcastle- on—Tyne, cymeradwyid rhifyn ar ol rhifyn, a bu rhaid ail—ganu rhai, a disgrifiad y "Newcastle Chronicle" o'r gwaith ei hun yw, a masterly and scholarly production, which entitles the author to rank high amongst eminent modern composers."

Yn nechreu 1893 dechreuodd ar y gwaith o ddwyn allan y "Cambrian Minstrelsie" (Alawon Gwalia) fel cydymaith i'r "Scots Minstrelsie"—dros T. C. & E. O. Jack, Edinburgh. Ei gyd—olygydd oedd Dewi Môn. Ymddangosodd y gyfrol olaf (VI) yn nechreu 1895. Yr oedd yn waith mawr ysgrifennu cyfeiliannau i gynifer o alawon—tua thrigain ymhob cyfrol; ond o ran Parry buasai'r gwaith wedi ei orffen lawer yn gynt. Y mae y rhagymadrodd i'r casgliad yn amherffaith ac annigonol. Ceir hefyd ddwy gân gan y golygydd, un ar y dechreu, ac un ar ddiwedd pob cyfrol, yr hyn yn ddiau sydd yn gamsyniad, er i Brinley Richards ac Owain Alaw wneuthur yr un peth. Am y rhelyw, medd y "Cerddor," "Nid oes brin angen nodi fod ôl llaw y cerddor profiadol a gorffenedig ar y cyfeiliannau; fel rheol y maent yn amrywiaethol a diddorol, ac yn gydnaws â theithi'r alawon, heb fod yn rhy deneu ar y naill law, fel eiddo Brinley Richards yn ei 'Songs of Wales,' nac yn rhy drwmlwythog fel rhai sydd wedi bod o dan ein sylw'n ddiweddar. Ceir un eithriad i hyn yng 'Nghlychau Aberdyfi.' . . . . Cymerir rhyddid hefyd gyda darlleniad yr alaw . . . Alaw arall ag y cymerir rhyddid anwarantedig gyda hi—yr hyn y rhaid i ni fel mater o ddyletswydd tuag at ein hen alawon ei gondemnio'n groyw—yw 'Y Deryn Pur.' . . . Honnwn nad oes gan neb pwy bynnag hawl i wneuthur y cyfnewidiadau mympwyol hyn i foddio 'cywreinrwydd ysgolheigol,' neu ryw deimlad arall; ac os y goddefir y tincera hyn gan un, pa beth sydd i rwystro eraill rhag dod â'u gwelliannau hwythau i mewn? Gydag eithrio hynyna y mae trefniad yr alaw hyfryd hon yn hapus iawn. Ceir yn y casgliad amryw alawon swynol nad ydynt i'w cael wedi eu trefnu i'r llais yn ein casgliadau cyffredin."

Ceir yn y gyfrol olaf, yn ychwanegol at alawon wedi eu trefnu fel unawdau, nifer wedi eu cynganeddu i wahanol leisiau,—cymysg, benywaidd, a gwrywaidd.

Yr oedd hwn yn waith cariad yn gystal ag yn offeryn elw iddo, a phrawf y ffaith ei fod yn troi gwaith mor dda allan gyda chyflymder a wnai i Dewi Môn a'i fagad beirdd ebychu'n dost, ei fod yn cael mawr hwyl wrtho.[1] Ond yng nghanol y mwynhad hwn, a chyda bod y clwy o golli Willie'n dechreu gwella, dyma'r "cnoc bach" ar y drws yn dod eto yn awr i 'nol Haydn, ei fab hynaf, nid ym "mlodau" ei ddyddiau fel ei frawd ieuengaf, ond pan wedi dechreu cynhyrchu ffrwyth o wir werth, a roddai addewid am gnwd toreithiog—yn fab naw ar hugain oed. Pan ofynnwyd unwaith i'r Frenhines Victoria sut y teimlai wrth golli un plentyn ar ol y llall, ei hateb oedd i farwolaeth y Tywysog Albert wneuthur rhwyg digon mawr yn ei chalon i'r lleill syrthio drwodd heb roddi iddi nemor loes. Ond ni ellir dywedyd hyn am Parry: nid oedd y boen of golli Haydn efallai'n fwy llym na'r un o ffarwelio â Willie, ond yr oedd yn fwy llydan a dwys.

Dyma ddywed Mr. D. Jenkins amdano: "Gan ein bod wedi treulio cymaint o flynyddoedd gyda'r teulu yn Aberystwyth, cawsom gyfleustra i weld tueddfryd ei galon, ac mor bell ag y gallem farnu, y piano oedd prif ffynhonnell ei ysbrydoliaeth, a daeth yn gryn feistr ar yr offeryn hwn heb ryw lawer o wersi cyson, ond yn unig trwy rym ymarferiad. Tyfodd i fyny'n chwareuwr yn ddiarwybod iddo'i hun a'i deulu. Nid oedd yn efrydydd caled o gwbl, felly difater fu ynglŷn â'i ddosbarthau a'i wersi. Credwn ei fod wedi dysgu cynganeddu heb wybod yn iawn pa fodd. Yn hyn yr oedd yn hollol wahanol i'w dad athrylithgar, un o'r gweithwyr caletaf y daethom i gyffyrddiad ag ef erioed." "Amlwg ydyw ei fod wedi creu disgwyliad ymhlith rhai o gerddorion Llundain, ac y mae hyn yn llawer i Gymro, lle y mae cymaint o ragfarn yn bodoli." "Yr unig rai (o'i weithiau) ydym wedi weld ydyw y sonata fuddugol yn Eisteddfod Lerpwl, a'r gantawd 'Gwen.' Oherwydd na chlywsom 'Cigarette' a 'Miami' —y rhai a ystyrid yn rhagori ar 'Gwen,' yr oedd yn naturiol i ni feddwl yn uwch am ei dad fel cyfansoddwr." Yr oedd wedi ei benodi i ysgrifennu gwaith ar gyfer Gŵyl Gerddorol Caerdydd, a dywedai wrth Mr. Jenkins ei fod wedi agos ei orffen yn Ionawr; ond yr oedd y cwbl yn ei gof, gan na chafwyd dim ymhlith ei bapurau. Bwriadai i'r gwaith fod o natur hollol wahanol i bopeth a gyfansoddasai'n flaenorol.

Camsyniad yw dywedyd, fel y gwna rhai bywgraffwyr, i "Sylvia" gael ei chyfansoddi yn 1889, a'i gwneuthur yn fath ar "study companion" gwaith y ffenestr arall—i "Saul." Y dyddiad cyntaf ar y copi yw Gorffennaf 24, 1893, a'r olaf Mehefin 25, 1895. Perfformiwyd hi yn y Theatre Royal, Caerdydd, yn 1895. Y mae y libretto—gan Mr. Mendelssohn Parry—yn sylfaenedig ar chwedl boblogaidd ynghylch y Tylwyth Teg, a'u perthynas â llecyn yr arferent ei fynychu yn ymyl pentref. Yn ôl y gân ddechreuol gan Arthur (yr arwr), byddai i neb weld y "Tylwyth" yno ddwyn melltith ar y pentref; byddai dal llygad un ohonynt yn ei gwneuthur yn fod dynol a'i gwisgo â chnawd ac esgyrn; byddai cyffyrddiad yn ei gwneuthur yn eiddo i'r sawl a'i cyffyrddai am byth; a chusan yn ei rhyddhau o'r cnawd eilwaith. Yr "egwyddorion" hyn mewn gweithrediad geir yn y libretto. Y prif gymeriadau yw "Sylvia," elffig (fairy), a droir yn eneth gan edrychiad "Arthur"; syrth y ddau mewn cariad â'i gilydd a gedy ef ei fywyd bugeiliol i'w dilyn; brawd ieuanc i "Arthur" yw "Osmund," a dilyna yntau'r ddau. Y mae y cadfridog Rhufeinig "Severus" mewn cariad â "Sylvia." Y prif gymeriad arall yw "Thurston," yr olaf o'r derwyddon.

Syrth "Sylvia" ac Arthur" i ddwylo'r Rhufeiniaid. Y mae Thurston yn eu dwylo eisoes, a bygythiant ei ladd, ond ar gais "Sylvia" arbedir ei fywyd. Bwriada "Severus" drwy'r hynawsedd hwn brynu serchiadau "Sylvia," ond pan wêl ei siomi, rhydd orchymyn i'w llosgi'n fyw. Partoir y stanc a'r ffagodau, ac y mae'r cwbl yn barod i'r aberth, pan y cusennir "Sylvia" gan ei chariad, gyda'r canlyniad ei bod yn syrthio i lawr yn farw, a'i hysbryd yn dianc i'w gynefin at ei chwmni ei hun, a welir yn ei derbyn â breichiau agored. Perfformiwyd yr opera eilwaith yn 1897 (ynghydag "Arianwen ") gan y Welsh National Opera Company, dan arweiniad Mr. Mendelssohn Parry-gyda llwyddiant hollol ymhob ystyr ond ym mhresenoldeb y cyhoedd.

Nodiadau golygu

  1. Wedi marw'i fab hynaf, aeth Parry am daith i'r Amerig, ond nid cyn gorffen ei waith ar y "Cambrian Minstrelsie," ag eithrio un alaw, cyfeiliant i'r hon a ysgrifennwyd gan Emlyn.