Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Storm Biwritanaidd

Caerdydd Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)

gan Evan Keri Evans

"Saul" a "Sylvia"

XX. Storm Biwritanaidd.

NID anaml y cymherir un sy'n hoff o gweryl a gornest i stormy petrel—yr hyn sy'n gam â'r aderyn, ac â'r storm. Y mae rhywbeth sy'n aruchel ac aruthr mewn storm; a phan ddarllenwn am Faraday'n mynd filltiroedd i weld storm daranau, neu am Beethoven yn mwynhau'r mellt a dychmygu'r daran, gwelwn fod yna swyn iddynt hwy mewn gallu a'u codai allan o'u myfiaeth gyfyng eu hunain i'w arucheledd a'i alluowgrwydd ei hun—yr oeddynt hwy'n hoff o'r storm am ei bod yn ateb i ryw arucheledd ynddynt hwy, er mai ei dilyn a wnaent, nid ei rhagfynegi fel y petrel. Ond pan elwir un fel Fred Burnaby, a ai ar draws cyfandir i geisio rhyfel a thywallt gwaed, neu ambell un arall a fynycha feysydd llai gwaedlyd ond nid llai cynhenllyd, yn stormy petrel, y mae hynny, meddwn, yn sarhad ar y storm a'r aderyn.

Ond os caniatawn am y foment fod y ffugr o storm yn gweddu i gweryl a chynnen, ymosod ac erlid, ac os cofiwn mai cael ei ddilyn gan y storm mae'r petrel, yna gallwn alw Joseph Parry'n stormy petrel, gan ei fod, er o ran anian a hoffter yn fab tangnefedd, yn un diniwed ac anymladdgar, eto'n cael ei amgylchynu o'r tu ol a'r tu blaen gan wregys o gwerylon; ar ei waethaf, yr oedd braidd yn gyson mewn rhyw gythrwfl neu'i gilydd. Yr oedd hyn yn ddyledus, rai prydiau, i lif awen; brydiau eraill i'w fyfïaeth; ond byth i'w hoffter ef o dinc cleddyfau.

Ar un olwg y mae'n beth syn i Biwritaniaeth yr oes ohirio'i phrotest mor hir, a'i bod yn rhaid iddo fynd i Gaerdydd cyn i hynny ddigwydd Hyd lannau Teifi, a'r ardaloedd cylchynol yn siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, nid wyf yn cofio cymaint a murmur yn erbyn chwarae "Blodwen " yn ystod cyfnod Aberystwyth; ac yn ddiweddarach yn Abertawe, yn ol Mr. D. Lloyd, ai y bobl yn lluoedd i'w gweld a'i gwrando, ar waethaf rhyw gymaint o ragfarn "yn erbyn chwarae ar ddull y chwareudy." Torrodd y "storm", allan yng Nghaerdydd ynglŷn â pherfformio "Blodwen" ac "Arianwen" yn y chwareudy, yn bennaf drwy enau y Parch. F. C. Spurr, yr hwn a wnaeth brotest gyhoeddus yn erbyn y peth un nos Sul. "Nid wyf," meddai, "yn beirniadu Dr. Parry na'i operäu. Ond yr wyf yn enw Duw yn gwneuthur protest ddifrifol ac angherddol yn erbyn yr holl fusnes." Y mae ei brotest gyntaf fel y rhoddir hi yn y papurau braidd yn amhenodol, gan y dywed nad oes ganddo wrthwynebiad i'r operäu fel y cyfryw; ond ymddengys yn ddiweddarach fod y perfformwyr yn aelodau eglwysig—"genod yn hoff o ganu" o'r gwahanol enwadau, merch i weinidog annibynnol, merch i glerigwr, merched blaenoriaid Methodistaidd, etc., a bod ei brif wrthwynebiad i berthynas y rheiny â'r chwareudy, ei awyrgylch a'i gysylltiadau, Bu ysgrifennu lawer yn y papurau ar y mater, ac ymddangosodd y ddau eithafion, fel arfer: y naill yn cymeradwyo cicio'r bêl droed, etc. ar y Sul, a'r llall yn condemnio dyganu (chanting) yn y gwasanaeth! Cynrychiolir y "golden mean" gan un o olygyddion y "Cerddor": "Tra nad wyf yn credu fod unrhyw un a ddygwyd i fyny yn awyrgylch foesol a chrefyddol Cymru yn debyg o gefnogi'r gŵr parchedig na wel wrthwynebiad i chwarae'r bel droed, cricket, etc. ar y Saboth; y mae yn sicr, lawer ohonom na ânt i eithafion gwrthgyferbyniol y boneddwr a noda ddyganiaeth, cantodau, operäu, operetau, etc. fel rhai o brif ddrygau'r oes. Ni allaf ddyfalu ar ba dir y condemnir y flaenaf; am y rhelyw y mae cantodau a chantodau, operäu ac operäu, etc.; ac os condemnir y ddygan a'r gantawd, paham lai hefyd na wneir yr anthem a'r dôn, y cymanfaoedd canu, a cherddoriaeth yn hollol?

"Ynglŷn â pherfformiadau o'r opera mewn chwareudai y mae cryn lawer i'w ddywedyd o du y gwrthwynebwyr, gan y daw y cysylltiadau' i mewn yma eto; ni allwn gau ein llygaid i'r ffaith fod awyrgylch moesol ein mân chwareudai, a chymeriadau isel llawer o'r mynychwyr, yn gyfryw ag na allant effeithio'n ddaionus ar fechgyn a merched ieuainc dibrofiad yn ffyrdd y byd. Yn yr hwrli-bwrli presennol mewn cysylltiad â pherfformiad diweddar rhai operäu Cymreig rhaid i mi ddatgan fy marn fod cryn dipyn o ffoledd wedi ei ddywedyd a'i ysgrifennu o'r ddau du; ond credaf mai nid drwy fynd i eithafion y gwna ein blaenoriaid crefyddol wasanaethu oreu yr achos sydd yn ddiau yn agos at eu calonnau, ond drwy gymryd sylw o dueddiadau'r oes, a'u cyfarfod drwy foddion doeth. Pe cefnogid cerddoriaeth y cysegr mewn ysbryd hael yn lle ei phrin oddef, a phe, er esiampl, y ceid datganiadau teilwng o weithiau teilwng yn ein haddoldai, mewn ffurf o wasanaeth crefyddol yn achlysurol, teimlaf yn gryf na fyddai yr ieuenctid mor chwannog i fynd i wrando seindorf ar y Sul, nac i fynd i chwareudy yn yr wythnos.

Rhaid dechreu gartref hefyd, a chofio am gysondeb; nid gwiw collfarnu cantodau, a gwrando'n ddigon boddus ar ganeuon iselwael yn ein capeli; na chondemnio mynd i'r chwareudy, tra ar yr un pryd yn caniatâu afreoleidd-dra yn ein tai o addoliad mewn cysylltiad â chyngherddau, eisteddfodau, a chyfarfodydd eraill, na oddefid mewn unrhyw chwareudy trefnus."

Rhydd Mr. Seward, gweinidog annibynnol yng Nghaerdydd, mewn ateb call a chryf, ei fys ar wendid y chwareudy a Phiwritaniaeth. Wedi cyffesu nad oedd ganddo ef ei hun amser i fynd i chwareudy, dywed—gydag Aristotle—fod yna duedd yn awyrgylch y sefydliad i ddatblygu archwaeth at y coeg, yr arwynebol, a'r gwagsaw, i'r Piwritaniaid ei gollfarnu oherwydd ei lygredd wedi'r Adferiad (Restoration), ac i'r dramodwyr dalu'r pwyth yn ol yn eu gwawdluniaeth. "Ond," meddai, "nid yw yn Gristnogol i dynnu llinell na fedr dylanwadau crefyddol ei chroesi. Fy ymgais i yw plannu egwyddorion da i fod yn amddiffyn rhag y llygredd sydd yn y byd yn hytrach nac ymosod ar sefydliadau."

Y mae'n ddiffyg canolog mewn Piwritaniaeth ei bod yn gwneuthur i "burdeb" ddibynnu ar "dynnu llinell " rhwng pethau a phethau, yn hytrach nag ar egwyddor fewnol a'n galluoga i ymwneud â phopeth yn ei le; ac ar yr ochr hon perthyn yn agosach i Iddewaeth nac i Gristnogaeth. Fe gymerodd gryn amser i Paul a Phedr i weld nad yw un creadur a wnaeth Duw yn aflan, ac nid yw Piwritaniaeth gul yn gweld hynny eto. Cynnwys crefydd iddi hi yw ymwneud â phethau crefyddol, nid ymwneud â phopeth, yn yr ysbryd fawn—rhoddi i bopeth ei le ei hun. Nid oedd y pregethwr hwnnw ymhell o'i le, a ddywedai wrth y "brodyr" fod y bechgyn a giciai'r bel droed yn y cae y tu allan i'r capel, gan reoli eu tymer, a hunanymwadu a chydweithredu, yn well Cristnogion na hwynthwy na fedrent drin materion crefydd heb dymer ddrwg a chweryl cyson. Y mae'n ffaith awgrymiadol i'r gweinidogion Cymreig fel corff gymryd ochr Parry—nid am eu bod yn Gymry, nac ychwaith, mi gredaf, am nad oes digon o chwareudai yng Nghymru i gynhyrchu teimlad yn eu herbyn, ond yn hytrach am fod gwirionedd yr Efengyl wedi gloywi golygon y Cymro, tae faint mae wedi gyfnewid ar ei galon—tra y mae y Sais yn para'n fwy o Iddew. Bid sicr, y mae yna lu o bobl y " mynydd hwn a Jerusalem yng Nghymru rhai a gyfrif lawer o'r ddaear sydd y cwbl ohoni'n llawn o'i ogoniant Ef" yn ddiofryd. Gwyddom am rai a gondemnia fynd i gyngerdd! Ni welant mai nid duwioldeb mo hyn, sy'n gyfystyr å dywedyd wrth Dduw, "ni ddylaset fod wedi gwneuthur y creadur hwn"; nac ychwaith mai'r peth logical iddynt hwy yw cau pob da naturiol (yn feddyliol a chorfforol) allan o'u bywyd—barddoniaeth, gwyddoniaeth, hanesiaeth, busnes, priodas, a hyd yn oed bwyd a diod—a chyflawni hunanladdiad!

Ar y llaw arall rhaid i ni gofio mai nid gwaith arbennig yr Eglwys yw bod yn fagwrfa i'r buddiannau llai; ond canolbwyntio ar yr ysbrydol a'r moesol, fel ag i droi allan ddynion fyddo'n alluog i drafod y buddiannau llai yn ol eu lle a'u gwerth cymharol. Ein perigl ni y dyddiau hyn, efallai, yw i'r pethau llai gymryd lle y prif amcan, nid yn unig mewn bywyd, ond hefyd yn yr Eglwys.

Ni welsom i Parry gymryd rhan yn nadleuon y pleidiau gwrthwynebol o gwbl yn fwy na brysio i gyhoeddi "Saul o Tarsus"! Ond cawn iddo roddi sylw—drwy ohebydd a ddaeth i'w weld ar y mater—i ymosodiad arall a wnaethpwyd arno mewn perthynas â'r un operäu.

Bu y perfformiadau yn 1890 yn eithriadol lwyddiannus, y chwareudy dan sang, y canwyr yn eu hwyliau goreu, a'r brwdfrydedd mor fawr fel ag i fod yn fwy o rwystr nag o help ymron. Cariwyd Parry i ffwrdd gan y llif, a phan ymddangosodd ar gais y dorf ar y diwedd, yr oedd yn orchfygedig gan ei deimladau. Ymhlith pethau eraill dywedodd yr arhosai'r wythnos honno byth yn ei gof. a'i fod yn ei chyfrif yn ddechreu cyfnod newydd yn hanes cerddoriaeth Cymru, na chai ef, efallai, mo'i weld yn ei anterth; ei fod ef wedi hir gredu ym mhosibilrwydd ysgol o gerddoriaeth nodweddiadol Gymreig, ac y profai y genedl yn y dyfodol ei bod yn meddu greddf gerddorol a dramayddol arbennig.

Ar bwys hyn, gofynnodd gohebydd cerddorol y "Western Mail" (dan yr enw "Zetus") mewn ysgrif ymosodol, sut na fuasai wedi meddwl am hyn pan gyhoeddwyd "Blodwen" bymtheng mlynedd yn flaenorol (deuddeng mlynedd fyddai'n gywir); ac aeth ymlaen i gyhuddo Dr. Parry o gerdd—ladrad, gan nad oedd Cytgan yr Helwyr," a'r "Dead March" yn gwneuthur dim ond atgynhyrchu rhannau o Rossini. Drwy enau y gohebydd gofynna Dr. Parry i "Zetus" ddatguddio ei hun a'i gred—lythyrau, pa beth a gynhyrchodd, pa ddiploma a feddai? yr hyn a'i gesyd yn agored i'r ateb nad oedd y prif feirniad Seisnig, Joseph Bennett, wedi cynhyrchu dim, ac nad oedd y prif gerddorion Seisnig yn meddu ar deitl o fath yn y byd! Am y gytgan, maentumia Parry mai dim ond y corn sydd yr un gan y ddau awdur, ac mai dim ond ym mrawddeg gyntaf y "Dead March" y mae tebygrwydd. Ymddengys na wyddai "Zetus" am y ddeuawd Eidalaidd ag y mae "Mae Cymru'n barod" yn "rhy debyg" iddi.

Ynglŷn â'r mater hwn dyma ddywed Dr. Protheroe: "Weithiau nid oedd yn orofalus am wreiddioldeb. Fe gafodd lawer o'i feirniadu am hyn. Yr oedd ganddo gof ardderchog—ac ar adegau fe fyddai rhywbeth a chwareuai ar yr organ neu y piano—yn suddo i mewn i'w gof, ac yn aros yno yng nghudd am dymor, ac yna yn dod i'r golwg yn sydyn—fel eiddo iddo ef. Dywedodd wrthyf un tro am ddyddiau ei astudiaeth gyda John Abel Jones a John Price, yn Danville. Yr oedd y cyntaf a chanddo grap go lew ar elfennau gwrthbwynt, a rhoddai wersi yn y gangen honno i'r cerddor bach pybyr oedd wedi newydd ddod i Danville o Ferthyr. Fel un o'i wersi fe ysgrifennodd ehetgan, ac aeth â hi yn llawn hwyl ac asbri at ei athro. Pan welodd hwnnw hi—gofynnodd i Parry paham yr oedd wedi gosod testun o eiddo Cherubini fel un gwreiddiol. Atebodd yntau nad oedd wedi gweld dim o eiddo Cherubini erioed, a bod y testun yn eiddo iddo ef. Ar hynny, dyma'r athro yn dangos iddo gorawd o eiddo'r Ffrancwr enwog. Ymhen rhai dyddiau fe gofiodd Parry iddo fod yn canu alto mewn darn o eiddo Cherubini, yn debyg iawn wedi dysgu'r darn gyda'r glust, ac heb weld copi ohono, na chael unrhyw wybodaeth pwy a'i cyfan- soddodd. Heb fod ymhell o'm hen gartref yng Nghwmtawe y mae tair ogof, ac o un ohonynt fe ffrydia afon. Hyd y gwn i, ni ŵyr neb fan ei tharddiad, nac o ba le y daw y fath gronfa o ddyfroedd grisialaidd. Ond yno y mae, serch hynny. Efeallai ei bod yn y golwg yr ochr arall i'r Mynydd Du: 'does neb a wad y gwelir hi, efallai yn ymddolennu drwy rai o ddyffrynnoedd heirdd gwlad Myrddin, ond, yn sydyn ymguddia dan y Mynydd Du, a rhydd hwnnw amdo o redyn a brwyn amdani, hyd y daw i'r golwg yn ffrwd risialaidd ger Tan yr ogof.

"Fe ganodd y cerddor bach rai o gorawdau y meistri yng nghôr ei hen gynefin; syrthiodd y nodau euraid i'w galon, ac yno y buont yng nghudd am dymor, fel pe baent wedi eu rhoi dan glô gan ebargofiant. Ond yn sydyn, dacw ddorau yr awen yn ymagor, a'r nodau a ganwyd gynt yn dod yn fyw i'r côf, a'r cerddor, yn hollol naturiol, yn priodoli y cyfan i'w awen ei hun, ac wedi llwyr anghofio canu y darnau yn yr hen wlad!"

Rhaid bod yn ofalus cyn cyhuddo neb o lên neu gerdd-ladrad. Y mae hwnnw, bid sicr, yn lleidr, a gymero ac a ddefnyddio waith un arall fel ei eiddo ei hun, heb i hynny gostio dim llafur pellach iddo mewn cymhathu, atgynhyrchu, a rhyw fath ar greu o newydd." Y mae cof gafaelgar—heb fod yn gof manwl—yn gryn rwystr i wreiddioldeb; y mae yna berigl i syniadau, cyfuniadau, melodion, a drysorwyd yn y cof heb yn wybod inni i godi i fyny i'r wyneb gyda holl swyn, a ffresni, ac apêl creadigaethau newydd. Wrth gwrs byddai cof mwy perffaith yn cofio mai nid ein heiddo ni mohonynt. "Gall melodi a glywsom yn nyddiau maboed," meddai Emlyn, "ddod yn ol yn ei chyfanrwydd flynyddoedd ar ol hynny; gall mai ein heiddo ni ydyw, o ran hynny, ond pa mor bell y cydnebydd y byd hynny sydd gwestiwn; eithr ofer yw dywedyd, fel y dywedodd un wrthyf fi, na wyddem yn wahanol." Eto, nid yw y sawl a ddefnyddio eiddo arall felly'n anfwriadol i'w osod yn yr un dosbarth a'r cyntaf uchod a nodwyd.

"Gall mai ein heiddo ni ydyw" beth yw ystyr hyn? A fedr syniad neu felodi ddod i ddau? Gwrandawer ar Wagner. Fel y gwyddis, arferai ef, fel Beethoven, fynd allan gyda'r hwyr i gymuno â natur, a phan ddelai'r ysbrydoliaeth, codai ef i ystâd o berlewyg, llawn o iasau cyfareddol yn yr hon yr agoshai un o gymeriadau'r ddrama fel drychiolaeth ato, nes ambell waith ei ddychrynu. "O'r diwedd," meddai, "symuda'i gwefusau, egyr ei genau, a daw llais o fyd ysbryd, yr hwn a ddywed wrthyf rywbeth hollol wirioneddol, cwbl ddealladwy, ond mor rhyfeddol ddieithr, fel ag i'm dihuno o'm breuddwyd. Yna diflanna'r cwbl, yn unig yng nghlust fy meddwl erys y seiniau—y syniad—y motif cerddorol. Y nefoedd a ŵyr a glywyd yr un peth, neu rywbeth tebyg, gan eraill." Yn ol hyn, y mae'n bosibl i'r un syniad ddod yn annibynnol i fwy nag un o ran dim a'r a ŵyr Wagner.

Yn olaf, i ba fesur y gellir cyhuddo awdur o ladrad pan y mae drychfeddwl yn ei waith wedi ei awgrymu gan waith arall, ond wedi pasio drwy ffwrnes a bâthdy ei ddychymyg a'i ddeall ef ei hun? Gwelsom fod un o feirniaid Arianwen" yn dywedyd fod "y cof yn gystal a'r dychymyg yn bresennol gyda'r cyfansoddwr yn ei funudau o ysbrydoliaeth, heb fod yna ddrwgdybiaeth o ladrad, oblegid y mae'r oll yn eiddo iddo drwy greadigaeth neu driniaeth wahanredol (distinctive treatment)." Os na chaniateir fod y peth olaf hwn ar unwaith yn rhyddhau awdur o'r cyhuddiad o ladrad, yna rhaid i bawb gyfaddef eu bod yn lladron—yr ydym bawb yn ddyledus i'r gorffennol: pa mor ddyledus nid yw'n bosibl dywedyd, gan fod y cysylltiadau mor gymhleth ac anolrheinadwy. Tra y deffinia Myers athrylith fel "the uprush of the subliminal self," ac y cais yr Athro Percy Gardner gael y gair "downrush" i mewn i ddisgrifio ysbrydoliaeth, rhaid i ni gofio fod y naill yn cyfateb i'r llall, a'r ddau'n dibynnu i fesur ar y gorffennol a'i gymhathiad: "i'r hwn y mae ganddo y rhoddir."

Ni fedraf eglurebu'r mater o fyd cerdd; ond ystyried y darllenydd yr enghreifftiau a ganlyn o fyd llên. Y mae'n gof gennyf glywed dyn ieuanc mentrus a ffres o Rydychen yn dywedyd mewn cwmni ym Mhrifysgol Glasgow, wrth siarad am wreiddioldeb Wordsworth: "Wordsworth is only Plato and Christianity," a thynnu'r ateb oddiwrth yr Athro mewn Athroniaeth: "Everything of value is Plato and Christianity," fel nad oes dim ond y ffynonellau hyn yn hollol wreiddiol. Dengys yr Athro Hume Brown, yn ei lyfr diweddar ar Goethe, fod Sir Walter Scott yn nyled Goethe am rai o olygfeydd ei nofelau, heb ei gyhuddo o ladrad am eu bod wedi eu bedyddio i'w ddychymyg ef ei hun. Mewn llyfr pregethau gan un o weinidogion mwyaf poblogaidd yr Annibynwyr Seisnig, ceir pregeth ag y cafodd yr awdur y syniad canolog ohoni—yn ol ei dystiolaeth ef ei hun—ym mhregeth athro mewn coleg Cymreig ni thybiai ef, y mae'n sicr, pan yn gwneuthur y cyffesiad, ac ni thybiai'r athro, mi gredaf, ei fod yn euog o lên—ladrad, gan iddo ddatblygu a gwisgo'r syniad yn ei ffordd ei hun.

Credwn fod yna olygiad tebyg gan Dr. Parry yng nghefn ei feddwl; o leiaf ni fynnai ddiarddel darnau ag y galwyd ei sylw atynt eu bod yn "rhy debyg " i eiddo eraill, megis pan grybwyllodd Mr. Ben Davies wrtho fod unawd Saul yn y carchar yn galw "Star of Eve" Wagner i'w gof. Ac iawn cydnabod fod ganddo hawl i'r rhannau hyn yn ei weithiau nes y bo i gwmni o experts setlo pa le mae'r clawddffin rhwng gwreiddioldeb a lladrad.

Nodiadau golygu