Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Abertawe

Y Gadair Gerddorol Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)

gan Evan Keri Evans

Y Coleg Cerddorol

XII. Abertawe.

Hunan—gofiant:

1881—8: Golygfeydd nesaf fy mywyd. Darbwyllodd yr Hybarch Ddr. Thomas Rees, Abertawe, fi i symud yno i sefydlu Coleg Cerddorol i Gymru, ac i fod yn organnydd ei gapel (Ebenezer). Yr wyf yno am saith mlynedd dedwydd o'm bywyd. Ysgrifennaf rai o'm cyfansoddiadau goreu yno. (Gwêl y Rhestr.)

Ymwêl Tywysog a Thywysoges Cymru ag Abertawe i agor y Dock newydd. Gofynnir i mi ysgrifennu[1] "Hail! Prince of Wales " March, ac i arwain y côr o 2000 o leisiau gyda thair seindorf bres: llwyddiant mawr ar waethaf llawer o wrthwynebiad ar ran cymdeithas gorawl leol. Drwy gymhellion cyson Dr. Rees dechreuais ar fy "Llyfr Tonau Cenedlaethol."

Ni chawn arwain perfformiad fy Oratorio, "Emmanuel" yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr: y canlyniad—fiasco! Y mae distawrwydd yn euraid, felly ni ddywedaf ddim yn y fan hon—gwell ei gladdu ym mhair diwaelod holl bethau erchyll y gorffennol (all the dreadfuls of the past}.

Yn 1882 derbyniais fy nghomisiwn cyntaf i gynhyrchu gwaith ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol (yn Lerpwl). Cyfansoddais "Nebuchadnezzar": llwyddiant mawr.





Onibai fod yn rhaid i ni, yn unol â'i dystiolaeth ef ei hun, ac eiddo'i gyfeillion agosaf, edrych ar ei brif weithiau fel asgwrn cefn ei hanes, am eu bod yn arglwyddiaethu ei fywyd, naturiol fyddai cymryd blynyddoedd Abertawe fel yn ffurfio cyfnod newydd yn ei hanes—nid am iddo symud i le newydd, ond am fod yna ffurfiau newydd o weithgarwch, neu ynteu bwyslais newydd ar rai oedd yn bod yn flaenorol, yn dal perthynas â gwasanaeth cerddorol i'w genedl, i'w gweld yn fwy amlwg. Pe dychmygem am y foment fod nant y mynydd yn greadur ymwybodol, a'i bod wedi gadael cyfnod difyr dawns a chân y llethrau a'u "creigiau llathrwyn" yn ymlonyddu i fywyd llai rhamantus, ond mwy gwasanaethgar, y dyffryndir—yn gweld llecyn yn y fan hon ag eisiau ei wyrddlasu, a rhod melin yn y fan draw i'w throi, ac yn cymryd ei harwain i'r sianel ati—byddai yn ddarlun i ni o hanes Parry yn y cyfnod hwn. Diau y byddai geiriau Keats mewn perthynas â rhoddi ffarwel i bleserau mwy sensuous bore oes yn mynegi ei deimlad yntau yn awr:

And can I ever bid these joys farewell?
Yes, I must pass them for a nobler lie,
Where I may find the agonies, the strife
Of human hearts.

Yn wir, nid oedd yn bosibl i neb basio drwy flwyddyn o siom megis ag a dreuliodd ef yn Aberystwyth—ag i ni gofio mai nid blwyddyn o funudau ar y wyneb ydoedd, ond â phob munud yn flwyddyn tuag i lawr—heb orfod ceisio y bywyd uwch sydd y tu draw i "ingoedd" ac "ymryson" y galon ddynol—neu anobeithio. Er fod galluoedd ymadferol ei natur ef yn fawr, nid oeddynt yn ddigon mawr—a da hynny—i'w alluogi i basio drwy y cyfnod hwn yn ddigraith.

Nid oes gennym le i gasglu ei fod o ddifrif gydag addysg yr efrydwyr yng Ngholeg y Brifysgol yn Aberystwyth—yr oedd yno ormod o chware (fun). Cychwynnodd ei ysgol ei hun yno wedyn gyda brys, os nad rhuthr, ac heb hamdden i feddwl, fel y gellir edrych ar y flwyddyn a dreuliodd yn yr Academy of Music fel tymor prentisiaeth. Yn awr, yn Abertawe, y cawn ddelfryd uchel a chwmpasog o goleg ac addysg gerddorol cyn lleted â'r genedl—a ddatblygwyd ac a fagwyd yno—yn dod i hunan-fynegiant ac i hunansylweddoliad dechreuol. Meddiannodd ei ddychymyg, a llanwodd ei galon ag awydd i'w sylweddoli oedd cyn gryfed ymron a'i awydd i gyfansoddi; a diau mai hyn yn fwy na dim arall a'i harweiniodd i Abertawe, fel gwell canolbwnc i'w weithgarwch nag Aberystwyth.

Un ffurf arbennig ar y gweithgarwch cerddorol yr amcanai ei gynhyrchu yn y wlad, yn ychwanegol at yr eisteddfod a'r cyngerdd, a'r gymanfa ganu arferol, oedd yr Wyl Gerddorol, i berfformio prif weithiau gan Gymry, a Chymdeithas y Cerddorion ynglŷn â hi. Efallai y byddai'n fwy priodol galw y rhain—fel y bodolent yn ei syniad ef— nid yn " ffurfiau " ar weithgarwch cerddorol, yn gymaint ag yn drosolion i'w ddyrchafu a'i fwyhau. Gwelsom iddo alw sylw at yr angen amdanynt yn flaenorol, ond yn awr y daeth i'w pregethu a'u hargymell, yn gudd ac yn gyhoedd, drwy air ac ysgrifbin, a cheisio eu gwneuthur yn erthyglau yn y gred gerddorol Gymreig, nes peri i " Gronicl y Cerddor" eu galw yn hobbies y Doctor.

Rhediadau allan o'r un delfryd oedd y gyfres o lawlyfrau bychain cyfaddasi ddechreuwyr ar ddatganu, cynghanedd, etc. a ysgrifennodd yn Abertawe, ac a ddechreuodd gyhoeddi yn 1888 dan yr enw "The Cambrian Series." Ni chredaf fod ei edmygwyr mwyaf yn ystyried Parry yn llenor; hyd yn oed pan yw ei ramadeg yn gywir y mae ei iaith yn fwy celfyddydol na chelfydd, a'i frawddegau yn drwsgl—yn fwy fel arllwysiad gorfodol sugn-beiriant na rhediad ffynnon, fel y gellir bod yn sicr mai poen iddo ef oedd mynegi ei hunan mewn geiriau. Am y rheswm hwn, y mae ei glod yn fwy am iddo ysgrifennu cymaint yn ystod y blynyddoedd hyn ar faterion cerddorol—i'r cylchgronau cerddorol, y "South Wales Weekly News," "Y Tyst a'r Dydd " y "Genedl Gymreig," ac mewn papurau a ddarllenodd o flaen yr Undeb Cynulleidfaol, y Cymrodorion, a chymdeithasau eraill. Dyhead cryf i fod o wasanaeth yn unig a barai iddo wneuthur hyn.

Yn awr hefyd yr ymaflwyd ynddo gan y syniad rhyfedd o lyfr tonau cenedlaethol gan un dyn! Cyfansoddasai aml i dôn odidog yn flaenorol, megis " Aberystwyth " a "Gogerddan," ond tua 1883, fel y gellir casglu, y daeth y syniad o'r llyfr uchod iddo—llyfr i gyfateb yn gerddorol i gasgliad Gee yn emynnol, ac ymrôdd i'w gario allan drwy gyfansoddi tôn bob Sul, ac yn amlach na hynny, os gellir dibynnu ar y dyddiadau sydd uwchben ei donau.

Y mae ei hanes yn Abertawe yn troi o gwmpas y canolbynciau hyn,—a'r pethau eraill oedd yn parhau yr un o hyd, megis cyfansoddi prifweithiau, beirniadu, etc. Daeth Dr. Parry i Abertawe adeg y Pasg, 1881. Eto diau na symudodd oblegid yr alwad o Ebenezer, ond oblegid yr alwad o Ebenezer, Abertawe.

Yn y fan hon da gennym allu cyflwyno i'r darllenydd frasolwg ar weithgarwch Parry yn Abertawe, gan ŵr o sylw a safle, cerddor a llenor, fu'n aelod o'i gôr am saith mlynedd, sef Mr. Dd. Lloyd, Killay—brasolwg a wna'r tro yn iawn fel ffrâm i'r hanes mwy manwl.

Dr. Parry yn Abertawe.

"Creodd dyfodiad Dr. Parry i Abertawe gryn gyffro yn y dref a'r cylch, a disgwylid pethau mawr oddiwrtho. Efe ar y pryd oedd yr unig Gymro gyrhaeddasai y radd o Ddoethur Cerddorol. Ac yr oedd 'Blodwen ' a'r 'Emmanuel ' yn dywedyd fod rhywun mawr wedi ymweld â ni; ac felly yr oedd. Pan ddaethom yn agos ato am y tro cyntaf, tarawyd ni gan fywiowgrwydd digymar ei ysbryd a'i ysgogiadau. Ymddangosai i ni fel pe buasai yn cael ei symud gan reddfau yn fwy na chan reolau, ac na fedrai pe carai dynnu ei hun yn rhydd o'u gafael. Pe byddai yn bosibl i ddyn fod yn llai na'r hyn y mae yn ei gyflawni, i'n golwg ni byddai Parry yn enghraifft o hynny: nid yn yr ystyr—fel y mae yn bod weithiau—o ddyn isel yn dal swydd uchel, ond yn yr ystyr o fod wedi ymgolli yn ei ddelfryd, nes anghofio ac esgeuluso amodau cyffredin bywyd. Hyn, gallwn feddwl, oedd yn cyfrif am yr awyrgylch oedd ei bresenoldeb yn ei greu. Teimlem hyn i fwy o raddau yn ei bresenoldeb ef nag a wnaem ym mhresenoldeb personau oedd yn gyfartal iddo mewn gallu, dysg, a doniau. Ni chawsom le i feddwl y gwyddai Parry ei hun fod y fath beth yn bod yn ei berthynas ag ef o gwbl. "Cyn ei ddyfodiad i'r dref, gwnaethai Silas Evans waith tra chanmoladwy yma ynglŷn â cherddoriaeth gorawl; ac ar ei ol ef Eos Morlais, fel arweinyddion y Swansea Choral Society. Dichon nad oedd perffeithiach ac addfetach côr y pryd hwnnw yng Nghymru. Perfformient y gweithiau goreu yn y modd goreu. Cynorthwyid y côr gan gerddorfa Mr. W. F. Hulley, Gwyddel, ac organnydd eglwys babyddol St. Dewi yn y dref. Yr oedd yr awen wir ynddo yntau, a bydd y dref a'r cylch dan ddyled iddo am amser maith.

"Un o'r pethau cyntaf wnaeth Parry yn y dref oedd rhoddi rhes o berfformiadau o'r Opera 'Blodwen' Hawdd deall gan fod y fath ddefnyddiau cyfoethog at waith o'r fath yn Abertawe ar y pryd, iddynt droi allan yn llwyddiannus iawn. Er fod yn y meddwl Cymreig ar y pryd ragfarn yn erbyn chwarae ar ddull y chwareudy aent i'w gweld yn dyrfaoedd. Y cwestiwn cyntaf pan gwrddai dau Gymro yn y dref a'r cylch y dyddiau hynny ar ol gofyn ' Shwd i chi heddy'? oedd ' Ydych chwi wedi bod yn gweld 'Blodwen'? A'r ateb parod fynychaf oedd ' Ydwyf,' gan ychwanegu, 'ac yr wyf yn mynd i'w gweld eto' Rhoddodd Parry lawer rhes o berfformiadau ohoni ar ol hyn yn y dref, ac yr oedd yn wastad yn dderbyniol gan y bobol. Ac felly y mae heddyw. Rhaid gan hynny ei fod wedi taro y tant iawn yn y portread a rydd ynddi o deimlad a bywyd y genedl.

"Ar y r adeg y daeth yma, ymwelodd Tywysog Cymru â'r dref, i'r amcan o agor y dock elwir ar ei enw. Ysgrifennodd Parry waith cerddorol croesawgar iddo. Yr oedd Parry yn hyn i'r Cymry yn debyg i Poet Laureate y Saeson. Ceisiai gyfieithu teimlad ei genedl ar adegau neilltuol i seiniau cerdd. Ceir enghreifftiau lawer o hyn, megis ei gytgan faith ar * Ganmlwyddiant yr Ysgol Sul yng Nghymru' ei anthem ' Wylwn, wylwn ' ar ol y 'Gohebydd' ei anthem ar 'Orlifiad Glofa Tynewydd' etc.

"Yn fuan ar ol sefydlu yn y dref, agorodd ysgol gerddorol yma a alwai The Musical College of Wales. Tyrrai disgyblion iddi o bob rhan o'r wlad—Gogledd a De. Codwyd ynddi ddatganwyr gyrhaeddodd safle anrhydeddus. Bu y Coleg yn dra llwyddiannus a blodeuog dros y saith mlynedd y bu Parry yn byw yn y dref. Gynorthwyid ef gan ei fab talentog, Mr. J. Haydn Parry. Cynorthwyai Mendelssohn, y mab arall, hefyd, ond nid i'r un graddau a Haydn. Un o wleddoedd cerddorol y dref oedd cyngerdd blynyddol y Coleg. Gofalai Parry fod rhyw un cerddor o fri yn bresennol yn y cyfryw, yr hwn a draddodai anerchiad ar y gelfyddyd yn ei hystyr uchaf, etc. Gwelid Parry yn ei afiaith ar yr achlysuron hynny. "Cartrefodd ef a'i deulu yn Eglwys Ebenezer. Dr. Thomas Rees oedd y gweinidog arni ar y pryd. Anogodd Dr. Rees yr eglwys i wneuthur darpariadau fyddai yn fanteisiol i dynnu allan oreu Parry, sef gosod i mewn organ fawr ac oriel newydd i'r côr. Hyd nes yr oedd y pethau hyn yn barod, chwareuai Parry ar yr harmonium fach mor foddhaus a chydwybodol ag y gwnai drachefn ar yr organ fawr. Cyrchai y bobl yno i'w glywed, yr hyn oedd yn foddion dyrchafol os nad yn foddion gras mewn gwirionedd. Teimlem fod ysbryd Parry yn cael digon o le i ledu ei adenydd pan wrth yr organ. Dichon y dywed cerddorion nad oes llawer o art mewn chwarae emyn-dôn. Ond yn ei fyd ei hun, y mae cryn lawer ynddo. Y mae gwahaniaeth rhwng chwarae a chwarae hyd yn oed emyn-dôn, fel ag y sydd rhwng darllen a darllen yr emyn. Beth bynnag am hynny medrai Parry greu awyrgylch ffafriol iawn i addoli ynddo wrth chwarae y dôn drosti cyn dechreu canu. Cawsom y fraint o fod yn aelod o'i gôr am tua saith mlynedd, ac yr oeddem mewn safle i weld yr argraff wnai weithiau ar y gynulleidfa. Saif un enghraifft yn fyw yn awr ar ein meddwl. Un bore Sul, rhoddodd Dr. Rees yr emyn allan, cyn gweddïo, o lyfr Stephens a Jones:

I fyny at fy Nuw
Fy enaíd, côd dy lef,
Heibio'r angylaidd lu,
Hyd eithaf nef y nef:
Gostwng Dy glust o'r bryniau fry,
O! Arglwydd grasol, cofia fi.

'Carmel' oedd y dôn. Erbyn fod Parry bron gorffen chwarae, gwelem ddagrau ar aml i rudd, a phan ddechreuwyd canu, methem â chael o hyd i'n llais. Parchai bob aelod yn y côr; siaradai yn barchus â ni oll. Diolchai yn gynnes i'r organ blower, yr hwn oedd yn digwydd bod yn un o'r rhai na allai gael côt newydd gyda phob blwyddyn newydd. Ond nid oedd ei gôt yn gwneuthur un gwahaniaeth i Parry. Cyfarchai ef Mr. Jones gan ysgwyd llaw ag ef mor barchus a neb; a braidd na allem ddywedyd y rhoddai Jones ei einioes dros y Doctor pe byddai rhaid. Un o deimlad cynnes, tyner iawn oedd Parry. Gwelsom ef yn tynnu y deigryn i ffwrdd ddeuai i'r golwg o dan ei wydrau pan fyddai Dr. Rees yn cael gafael yn y pwerau tragwyddol, ac yn ceisio ymsythu fel petai dim byd wedi bod yn union drachefn. Canem anthem bob nos Sul, nid y côr yn unig, ond yr holl gynulleidfa. Darparai anthemau o nodwedd addolgar, hawdd i'r gynulleidfa eu dysgu a'u canu, megis 'Y Mab Afradlon.' 'Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws,' 'Gweddi'r Arglwydd,' a lliaws o rai eraill. Ei brif amcan yn yr addoldy ynglŷn â'r canu oedd nid dangos beth ellid ei wneuthur, yn gelfyddydol, ond arwain y meddwl trwy gymorth y sain a'r gair i dir cysegredig addoliad. Clywsom ef yn dywedyd ei fod yn ysgrifennu tôn gynulleidfaol bob prynhawn Sul, pan na fyddai yn mynd i'r Ysgol. Yr oedd gan donau lleddf afael fawr ar ysbryd Parry yn yr addoliad. 'Roedd hyn yn rhyfedd ag ystyried ei fod ef mor llon a bywiog ei ysbryd yn naturiol. Cytunai ef a Dr. Rees yn hyn o beth yn berffaith. Ond yr oedd Dr. Rees yn naturiol leddf a chwynfannus ei lais, er y gallai ef fod yn ddigrif dros ben hefyd. Clywem ef o'r côr yn gofyn i Parry cyn ei fod yn dechreu pregethu, ' Canwch dôn leddf, Doctor '; ac yr oedd yn ei chael. Yn Sir Gaerfyrddin, ni fyddem yn canu 'Diniweidrwydd' byth braidd ond mewn gwylnos neu angladd: nid felly Parry. Yr oedd mewn ffafr ganddo ef yn enwedig yng nghyfarfod yr hwyr, pan fyddai y gynulleidfa yn gref. Cerddai trydan drwy yr holl le gan wresyr organ a'r canu oedd arni ar yr emyn

"O anfeidrol rym y cariad,
Anorchfygol ydyw gras," etc.

"Mynychai yr Ysgol Sul, a chynhaliai Ysgol Gân i'r plant ar y diwedd. Hoffai glywed plant yn canu, a gwyddai yn dda y modd i'w cael i hwyl i wneuthur hynny. Dygai allan y pryd yma rannau newyddion o 'Telyn yr Ysgol Sul'

"Yr oedd nifer o ddoctoriaid yn Ebenezer y pryd hwnnw heblaw Dr. Rees, Dr. Parry, a mab Dr. Rees, yr hwn oedd feddyg galluog. Doctoriaid yn y Beibl oedd y rhai hyn, ac i ddosbarth y doctoriaid yr ai Parry. Ymffrostiai y dosbarth hwn eu bod yn treulio chwech wythnos i esbonio un adnod y n yr Epistol at y Rhufeiniaid. Rhyw dro, trodd cwestiwn y dilyw i fyny, a daeth Parry i enw drwg iawn am ddywedyd, 'Bobol fach, nid ydym i ddeall fod dyfroedd dilyw Noa wedi gorchuddio yr holl ddaear' Dywedai un o'r dosbarth drannoeth 'gall ei fod yn gwybod rhywbeth am ganu, ond ŵyr e ddim am y Beibl' Chwarddai Parry yn iachus am gael ei gyfrif yn heterodox am y tro."

Nodiadau golygu

  1. Cyfansoddodd "Â Chalon Lon" ar gyfer yr un amgylchiad, er na cheir sôn am ei chanu.