Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Y Gadair Gerddorol

Gwrthdarawiadau Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)

gan Evan Keri Evans

Abertawe

XI. Y Gadair Gerddorol.

Hunan-gofiant:

1879: Yr wyf eto yn Aberystwyth. Y mae'r Coleg yn brin o arian, rhif y myfyrwyr eraill yn fychan a'r efrydwyr cerddorol (yn gymharol) yn rhy luosog, a thros wyneb yr holl wlad y mae mwy o sôn amdanynt yn naturiol nag am y lleill— myfyrwyr pregethwrol gan mwyaf.

(Gwêl. y Rhestr am y flwyddyn.)

1880: Yr wyf yn arwain perfformiad mawr o fy Oratorio, "Emmanuel," gan gôr Cymreig Llundain yn y St. James's Hall. Cofnodir y datganiad gan holl bapurau Llundain gyda chymeradwyaeth. Rhoddwyd amryw berfformiadau rhagorol hefyd yng Ngogledd Cymru.

Yr wyf fi a'm teulu ar fordaith (fy seithfed) i America, i weld ein rhieni, brodyr, chwiorydd, perthnasau (y mae'r oll yn America), a llawer o gyfeillion. Y mae'r fiwyddyn hon yn bennod ddu yn fy mywyd; tyr fy iechyd i lawr; dioddefaf boenau anesboniadwy, ac â fy nghyflwr yn fwy a mwy enbyd. Yn Cincinnati, yn nhŷ cyfaill annwyl, bum yn wael iawn am bythefnos yn y gwely.

Dychwelaf i Aberystwyth, ac oblegid rhesymau neilltuol, er syndod i'r genedl, gwneir i ffwrdd â'r Adran Gerddorol (ynghyd â rhai testunau eraill). Er i mi adael safle fwy enillfawr yn America i gymryd y Gadair—am fy oes fel y deallwn—eto ni ddywedaf ac ni ysgrifennaf air, ond y mae'r holl genedl yn synnu. Y mae yn wastad wedi fy nharo i fod llwyddiant cenedlaethol fy nhôn "Aberystwyth, " a gyfansoddwyd tua 1876, ac a enwyd ar ol y lle, yn dod fel cerydd ar y Cyngor am osgoi ei ddyletswyddau tuag at un o ddoniau mwyaf amlwg y genedl, sef cerddoriaeth, a phan nad oedd y testun yn golygu baich ariannol o gwbl. Yr oedd hyd yn oed llwyddiant cerddoriaeth yn achos tramgwydd a chosb.

Rhoddir detholiadau o "Emmanuel," yn cymryd awr o amser, yn y Crystal Palace: llwyddiant arall.

(Gwêl. Rhestr Aberystwyth.)




Yn 1879, wedi prawf o bum mlynedd, penderfynodd Cyngor Coleg Aberystwyth ddiddymu'r Gadair Gerddorol, yr hyn a barodd lawer o synnu, a phrotestio, a dyfalu, ac nid ymddengys i neb o'r tu allan fynd y tu hwnt i ddyfalu y pryd hwnnw, os yn wir y medrwn ni heddyw wneuthur mwy na hynny.

Dyma lythyr Mr. D. Jenkins i'r "Gerddorfa" ar y pryd:

"Prifysgol Aberystwyth a'r Gangen Gerddorol.

"Yr hyn sydd yn ein synnu yn fawr ynglŷn â bwriad y Cyngor yw, eu bod mor ddifater o ddiddordeb Cymru mewn cerddoriaeth, oherwydd y mae cannoedd o bunnoedd wedi eu casglu at sefydlu dwy ysgoloriaeth mewn cerddoriaeth yn y Brifysgol. . . . Fe ddywedir mai bwriad y Cyngor yw, cyfyngu yr addysg gerddorol o hyn allan i'r classical students. Os yw hyn yn wir, nid yw yn amgen na dull arall o roddi notice to quit i'r Athro cerddorol, oherwydd gwybyddus yw nad oes braidd un classical student yn ymofyn gwers gerddorol. Dylai y Cyngor wybod hyn. A ydynt yn tybied y llwyddant i gael gan Athro cerddorol i aros os gwnant i ffwrdd â'r efrydwyr cerddorol? Sibrydir mai un rheswm gan y Cyngor yw fod yr efrydwyr cerddorol yn tynnu safon y Coleg i lawr. Carwn gael gwybod ymha fodd ac ymha ddull. A ydyw y wybodaeth gerddorol a gyfrennir yn y Coleg wedi bod yn aflwyddiant, neu a yw rhif yr efrydwyr cerddorol mor fychan fel nad ydyw yn werth trafferthu yn eu cylch? Pa reswm all y Cyngor ei roddi dros ddiddymu y Gadair Gerddorol i'n cyfeillion hynny sydd wedi casglu bron digon at gynnal dwy ysgoloriaeth? Gofynnir yn aml paham na fyddai rhywrai profedig ynglŷn â cherddoriaeth ar y Cyngor—rhai fyddai'n gwybod teimlad y wlad ac yn byw ynddi? Gwir fod yna gerddorion Cymreig yn Llundain ar y Cyngor, ond y mae'n naturiol i'w cydymdeimlad hwy redeg i gyfeiriad arall . . .

"Nid oes dim yn rhoddi mwy o bleser i mi na fy mod yn alluog i siarad yn ffafriol am yr addysg gyfrennir yn yr adran gerddorol. Nid wyf mor ddall a chredu mewn popeth a gyflawna yr Athro cerddorol, ond gallaf dystiolaethu i'w allu a'i onestrwydd. Gwaith anodd fyddai i'r Cyngor gael un a lanwai ei le. Mae y ffaith fod cymaint o efrydwyr cerddorol wedi gosod eu hunain dan addysg gerddorol yn y brifysgol, gan ymgydnabyddu â gweithiau y prif feistri, ac wedi ymsefydlu fel athrawon cerddorol yn y wlad, yn sicr o ddyrchafu chwaeth y werin, a gyrru i ffwrdd gerddoriaeth isel a llygredig, yn gystal a phersonau o'r un cymeriad oddiar lwyfannau ein gwlad. Gan hynny, gofynnwn unwaith eto, paham na chaiff y sefydliad lonydd oddiwrth y cyfnewidiadau diddiwedd hyn, fel y gallo gwblhau y gwaith y mae wedi ei ddechreu mor dda ac effeithiol?

Ydwyf,
David Jenkins."

Aberystwyth, Gorff. 14, 1879.

("Ymddengys fod y Cyngor wedi penderfynu fod Dr. Parry i ddysgu cerddoriaeth i'r efrydwyr yn gyffredinol; felly ni fydd mwyach efrydwyr cerddorol yn unig yn y Coleg.") '

Ysgrifenna Alaw Ddu yn "Yr Ysgol Gerddorol": "Y mae yr adran gerddorol wedi ei diddymu; ond y mae Dr. Parry yn parhau yn broffeswr yno o hyd, er nad oes ganddo ddim i'w wneuthur, a hynny am mai yn anaml iawn y bydd efrydwyr mewn canghennau eraill yn ymofyn am wersi mewn cerddoriaeth. . .

"Dygwyd Mr. Parry o bellafoedd y gorllewin, o ganol digon o waith, ac o fynwesau cannoedd o gyfeillion twymgalon, i lenwi y Gadair Gerddorol yn Aberystwyth; ac wedi iddo weithio, ie, a gorweithio ei hunan—mewn amser ac allan o amser—i gyfoethogi cerddoriaeth ei wlad, a rhoddi cyfeiriad a chynhyrfiad i beiriant mawr addysg gerddorol y Dywysogaeth, dyma awdurdodau y Coleg, o'u rhan hwy, yn ei adael allan yn yr oerfel! Symudiad yw hwn a fydd yn sicr o oeri Cymru benbaladr at y Coleg, os na agorir, a hynny'n fuan, y Coleg i ddysgu cerddoriaeth. "Buasai dyn llai penderfynol yn mynd yn ol i'r America, ond y mae Dr. Parry'n cychwyn Coleg Cerddorol ar ei gyfrifoldeb ei hun."

Yr oedd yna deimlad cryf fod y Cyngor yn ymddwyn yn annheg tuag at Dr. Parry: yr oedd yna annhegwch arall y geilw un o'r myfyrwyr (Mr. J. T. Rees) sylw ato yn "Y Gerddorfa": "Y mae'n wybyddus bellach mai nid yr U.C.W. a feddylir wrth yr 'Academy of Music.' Bwriwyd y gangen yma allan fel un annheilwng i'w hastudio wrthi ei hun heb gael Latin a Greek i'w dal i fyny megis, i fod yn deilwng o efrydiaeth. Ond nid hir y bu y golomen yma cyn cael lle i roddi ei throed i lawr, er ei bod wedi ei hamddifadu o'i breintiau am a wyddom ni. Y mae ysgoloriaethau at wasanaeth y gangen yma, ond pa le y maent? Carem weld rhywrai yn ein cynorthwyo . . . Er fod y gangen wedi ei thorri oddiwrth y boncyff, a'i thaflu i'r ffos megis, y mae yn tyfu fel cangen yr helygen."

Gohebydd Neilltuol "Y Gerddorfa" eto:

"Y mae Cyngor Prifysgol Aberystwyth o'u penarglwyddiaeth wedi dwyn eu penderfyniad i weithrediad drwy gau dorau y sefydliad yn erbyn yr adran gerddorol. Bellach ai nid gonestrwydd fyddai i'r awdurdodau ddychwelyd yr arian a gasglwyd at ysgoloriaethau Ieuan Gwyllt a Mynyddog? Gan fod Dr. Parry, fel y deallwn, wedi sefydlu Athrofa Gerddorol ar ei gyfrifoldeb ei hun, tegwch fyddai trosglwyddo yr oll a berthyn i gerddoriaeth i'r sefydliad hwnnw."

Trosglwyddwyd yr arian yn ddiweddarach i'r Athro at wasanaeth y Coleg Cerddorol. Ynglŷn â'r Musical College of Wales yn Abertawe, yr oedd yn alluog i gynnyg tair ysgoloriaeth, er cof am Ieuan Gwyllt, Mynyddog, ac Ambrose Lloyd.

Eto yr oedd—ac y mae—cryn ddirgelwch yn amgylchynnu'r mater, yn neilltuol y "paham" y darfu i'r Cyngor weithredu fel y gwnaeth.

Dyma benderfyniad y Cyngor (Gorff. 29, 1878):

"That measures be taken to alter the position of Prof. Parry in accordance with the following Minute, viz. That the Principal should confer with Prof. Parry on his position at the University College, and propose to him a new arrangement based on his discontinuance of teaching Music to any but the ordinary male students of Art at the College. It has been suggested with the general approval of the Council, that Dr. Parry should retain his Professorship at a salary to be agreed upon for such teaching as above-mentioned. Dr. Parry would be free to give such teaching, of a public or private nature, at Aberystwyth or elsewhere, as he may think proper on his own account, and outside the walls of the College—it being, however, clearly understood that during the Sessions of the College Dr. Parry should not give, nor professionally attend concerts in Aberystwyth or in its immediate neighbourhood."

Yna, Hydref 12, 1880, pasiwyd a ganlyn:

"That the Council in accepting the resignation of Prof Joseph Parry regrets exceedingly the circumstances which have led to the severance of his connection with the College. They desire to express their high sense of the zeal with which he performed his duties and most cordially reciprocate the kindly feeling which he expresses."

Y mae y gair "circumstances" yn un cyfleus i guddio lliaws o achosion, ac efallai, o bechodau; ond y mae'r achosion uniongyrch yn y penderfyniad cyntaf uchod, oblegid y mae'n amlwg fod yna fwriad i ostwng cyflog Parry, i wneuthur i ffwrdd â'r adran gerddorol fel y cyfryw (ac yr oedd hyn, medd Mr. Jenkins, cystal â notice to quit); ac i'w rwystro i gynnal cyngherddau yn y dref a'r ardal yn ystod y tymor (cyngherddau a ddygai iddo gryn elw). Ond y mae'r achosion pellaf yn gorwedd y tu cefn i'r penderfyniad cyntaf.

Nid yw siarad yr ystrŷd, na hyd yn oed cynteddoedd y coleg, yn help i ddod o hyd i'r ffaith mewn mater fel hwn, a phe croniclo ffeithiau noeth fyddai gwaith cofiannydd, iawn fyddai iddo osgoi cyfeirio at storïau pen ffordd. Ond cais y cofiannydd atgynhyrchu cymeriad ei wrthrych a'i amgylchfyd, a chyda'r amcan hwn y mae barn y lliaws ar fater fel yr uchod, a'u hymgais i'w esbonio o gryn bwys, oblegid ceisient gyfrif am weithred y Cyngor, a'i ymddygiad at Parry yng ngoleuni eu syniad hwy amdano ac am yr adran gerddorol. Yn ol Mr. J. T. Rees, Mus. Bac., dyma'r sefyllfa yn Aberystwyth: "Y mae yn sicr fod teimlad yn bodoli y dylasai efrydwyr cerddorol y Coleg gymryd efrydiau eraill yn ogystal. Yr oedd llu cymharol fawr ohonynt—mwy nag yn yr adrannau eraill; ac nid oedd ym mryd neb ohonynt i geisio dim arall yn y coleg ond y canu. Nid syn hyn, gan ei fod yn gyfleustra mor newydd i fechgyn a genethod oedd yn sychedig am wybodaeth gerddorol. Ond nid oedd hyn yn gweithio'n foddhaol yng ngolwg y senedd—ni ddeuai i fyny a'u delfryd hwy, a chreai anniddigrwydd ynddynt. I yrru'r 'llin' hwn oedd yn mygu'n waeth, yr oedd y Doctor yn lled ddibris o'i safle ac o safle y Coleg. Byddai galw mawr amdano i feirniadu a chanu mewn cyngherddau o Gaergybi i Gaerdydd. Byddai yn aml am ddyddiau'n olynol heb fod yn agos i'r lle—yr efrydwyr heb ddim i'w wneuthur ond cerdded yr ystrydoedd -y dosbarthiadau wedi peidio. Yna cwynent wrth y Prifathro nad oeddynt yn cael eu gwersi, ac nad iawn iddynt orfod talu am beth nad oeddynt yn ei dderbyn. Yna galwai'r Prifathro sylw'r Doctor at y mater—at ei ddyletswydd i'r efrydwyr ac i'r Coleg. Ond ni thyciai ddim: dywedai fod ganddo gystal hawl i fynd led y wlad gyda cherddoriaeth ag oedd gan y Prifathro i fynd led-led gwlad i bregethu!

"Bu'n rhaid dwyn y pethau hyn o flaen y 'senedd.' Aeth y 'llin yn mygu' yn fflam. Diorseddwyd y Doctor, a thaflwyd yr adran gerddorol allan o gynllun yr Athrofa yn llwyr. Dyna'r argraff adawyd ar y wlad ar y pryd: pa faint o hyn sydd yn llythrennol gywir, nid wyf yn sicr yn awr."

Er mai "yr argraff adawyd ar y wlad " a roddir i ni gan Mr. Rees, y mae'n cydgordio (fel achos) â'r penderfyniad uchod (fel effaith), hynny yw, a chaniatáu fod yr amgylchiadau fel y'u disgrifir ganddo, nid annaturiol disgwyl iddynt arwain i benderfyniad tebyg i'r cyntaf uchod.

Ond y mae gennym yn ddiweddarach dystiolaethau o'r tu mewn i'r Cyngor, sef eiddo y Prifathro, ynghydag Ysgrifennydd a Thrysorydd y Coleg. Yn y dystysgrif y dyfynnwyd eisoes ohoni, dywed y Prifathro ymhellach: "Rhoddwyd i fyny ddysgu cerddoriaeth yn y Coleg, pryd yr oedd ein trysorfa yn isel iawn i gario'r gwaith ymlaen. Gadawodd yr Athro mewn daeareg am yr un rheswm."

Meddai Syr Lewis Morris: "Fel diweddar Ysgrifennydd Mygedol Coleg Prifysgol Cymru, gwn gymaint oedd gofid y Gyngor pryd y gorfodwyd hwy i roddi i fyny adran gerddorol y Coleg, a hynny am resymau na ddalient unrhyw berthynas â'ch safle a'ch llwyddiant chwi fel athro."

Mr. Stephen Evans, y trysorydd, yntau ddywed: "Cododd y penderfyniad i beidio â pharhau yr adran gerddorol o ddiffyg arian, ac yn ystod y saith (pum) mlynedd y buoch chwi yn athro, yr oedd gan y Cyngor bob rheswm dros fod yn fodlon ar eich ynni a'ch medr rhagorol chwi fel cerddor, ac ar gynnydd llwyddiannus y myfyrwyr dan eich addysgiaeth."

Clywais gyfaill i'r Prifathro, a chyd-athro iddo, unwaith yn dywedyd nad yw yn angenrheidiol dywedyd y gwir i gyd pan na byddo galw am hynny. Mewn tystysgrif nid oes galw am hynny: o leiaf, y mae llawer o fedr yn cael ei arddangos gan ysgrifenwyr y cyfryw—fel gan y rhai a etyb gwestiynau anghyfleus yn y senedd—i ddefnyddio iaith yn y fath fodd ag i guddio a datguddio. Rhywbeth felly geir yma. Ni ddywed yr un ohonynt yn bendant mai y rheswm a'r unig reswm dros beidio a pharhau yr addysg gerddorol oedd diffyg arian. Dywed y Prifathro i hyn ddigwydd dan amgylchiadau felly. Ni ddywed ychwaith fod y Drysorfa yn rhy isel i gadw'r addysg gerddorol ymlaen, pe byddai awydd cryf i wneuthur hynny. Yr hyn a ddatguddia Mr. Stephen Evans ini yw i'r penderfyniad godi o ddiffyg arian. A thra y cyfeiria'r tri at allu Parry fel athro, nid oes yna gyfeiriad o gwbl at ddisgyblaeth yr adran gerddorol a'i pherthynas ag eiddo'r Coleg.

Trown yn awr at dystiolaeth Parry ei hun, yr hon a gawn yn ei anerchiad wrth gychwyn y "Musical College of Wales" yn yr Agricultural Hall, Abertawe. Wedi datgan ei obaith y byddai'r coleg yn llwyddiant, ac y byddai rhif y myfyrwyr yn galw am staff o athrawon, ä ymlaen: "Disgwyliwn hyn yn Aberystwyth. Yr oedd rhif yr efrydwyr yn galw am Athro arall, ond yr oedd polisi dinistriol y Cyngor yn gwanychu y llwyddiant drwy ostwng rhif yr efrydwyr cerddorol, a thrwy eu rhwystro i dderbyn ymrwymiadau achlysurol mewn cyngherddau er mwyn eu cynhaliaeth, tra y caniateid i'r myfyrwyr pregethwrol fynd yn wythnosol. Eto, yr oedd y myfyrwyr cerddorol yn ffurfio yn agos i'r bedwaredd ran o'r oll, pryd yr oedd yna naw o athrawon yn y Goleg, a pharhaodd yr adran i fod ymron yn hunan-gynhaliol. A thra y teimlai y wlad ddiddordeb dwfn yn yr adran, a chanddi ysgoloriaethau ynddi er cof am Ieuan Gwyllt a Mynyddog; a thra y codwyd gennym ni-drwy Bazaar—£260 i brynu organ er mwyn cymhwyso'r myfyrwyr i fod yn organyddion, gan gyfeirio ein hymdrechion felly at wella cerddoriaeth yn y cysegr—arian sydd yn gorwedd yn segur ers yn agos i dair blynedd; a thra, ymhellach, yr anrhegwyd yr adran gan gyfaill cerddorol i mi â thros 200 o gyfrolau o weithiau clasurol gyda full scores; eto i gyd, drwy ewyllys nifer fechan o aelodau'r Cyngor, daethpwyd o'r diwedd i'r penderfyniad anesboniadwy i beidio a pharhau yr adran gerddorol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, heb air o esboniad i mi nac i'r wlad paham y daethpwyd i'r fath benderfyniad rhyfedd."

"Heb air o esboniad i mi": tebyg i'r Cyngor farnu'n oreu i beidio rhoddi'r gwir esboniad, a phe dywedasid wrtho mai y rheswm oedd diffyg arian, gosodasent eu hunain yn agored i'r ateb fod yr adran agos yn hunan-gynhaliol. Yn ei sylwadau bywgraffyddol ar Dr. Parry (yng "Ngherddor " 1913) ceisia yr Athro D. Jenkins gyfuno y ddau reswm, sef yr un a roddwyd yn ddiweddarach gan rai o aelodau'r Cyngor, a'r un oedd ar wefus y lliaws: "Gwnaeth lawer o droeon ffôl, a chymerodd parti cryf yn Llundain oedd yn llywodraethu Coleg Aberystwyth fantais ar hynny, ac oherwydd sefyllfa ariannol y Coleg, bu rhaid rhoddi'r gadair gerddorol i fyny." Ni ddeil y frawddeg hon, a'r modd y llithrir o'r naill achos i'r llall, i'w helfennu na'i beirniadu; ond am yr un rheswm dengys y modd y ceisid cael rhyw esboniad boddhaus ar yr ymdrafodaeth.

Prawf Hunangofiant Parry a'r dyfyniad uchod o'i anerchiad yn Abertawe ei fod ef ei hun wedi ei ddolurio'n dost, a diau fod cydymdeimlad y bobl gydag ef, oblegid ynglŷn ag agoriad y Coleg Cerddorol newydd, darllenwn: "I'r diben o agor yr ysgol newydd, ac i gydymdeimlo â Dr. Parry yn y cyfwng presennol, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr Assembly Rooms pryd y daeth lliaws o'i gyd-drefwyr ynghyd." Ymhlith eraill siaradodd y Prifathro T. G. Edwards yn gryf o blaid y fath Goleg. Ar y llaw arall, rhaid cydnabod fod y Senate a'r Gyngor mewn sefyllfa anodd, a'i bod yn dra helbulus arnynt. Pan wahoddasant Parry o bellafoedd byd i ddod â'i athrylith a'i ddysg i ogoneddu Coleg Aberystwyth, ni fargeiniasant erioed eu bod i gysylltu y Coleg—a'u hurddas hwythau—a chynffon comedi. Tebyg fod yr athrawon yn ei theimlo'n chwith, a'u teimlad o urddas coleg yn cael ei ddolurio, wrth weld cynifer o hogiau a genethod yn dod yno i ganu'n unig, heb unrhyw gysylltiad â'r dosbarthau arferol, a'r rheiny ar y cyfan yn amrwd a di-reol, a chanddynt ddigon o amser i gerdded y strŷd, neu fwynhau y dŵr yn fwy na dysg. A phan at hyn, na fynnai eu Hathro, os gwir y sôn, gydymffurfio ag arferion coleg, aeth y "llin yn mygu," ys dywed Mr. J. T. Rees, yn fuan yn fflam! Nid yw "dyn y strŷd " fel rheol ymhell o'i le ar bethau canolog, a diau fod ei syniad am ymagweddiad Parry tuag at yr awdurdodau colegawl yn weddol gywir. Ni fedr Mr. Rees sicrhau fod yr hyn a edrydd yn llythrennol gywir—wrth ddywedyd hyn awgryma ei fod yn rhinweddol gywir. Y mae yna stori am J. Stuart Blackie, iddo un bore ysgrifennu â sialc ar y blackboard: "Prof. Blackie will not meet his classes to-day." Pan ddaeth y myfyrwyr yno, meddyliodd un ohonynt mai difyr fyddai chwarae joke ar yr Athro, drwy flotio yr "c" allan o'r gair classes, a'i adael yn lasses. Fore trannoeth, pan ddaeth yr Athro i'r ystafell fe welodd y tric yn union, a meddyliodd dalu'r pwyth yn ol drwy ddileu yr "l" o'r gair lasses ynghyd â'r gair not o'r frawddeg. Pan adroddwyd y stori hon unwaith wrth fwrdd cinio yr Athro, dywedodd nad oedd yn wir, ond meddai Mrs. Blackie, "But it is what you would have done." Ac yn yr ystyr yma, tebyg fod yr hyn a ddywedir gan Mr. Rees am y Doctor yn wir. Ac ai nid eco hyn, neu efallai eco agosach at y sŵn gwreiddiol a glywwn yn ei anerchiad, pan y cwynai sut y caniateid i'r pregethwyr fynd i ffwrdd i'w hymrwymiadau wythnosol, yr hyn na chaniateid i'r canwyr. Ymddengys ei fod ef yn hawlio mynd i ffwrdd—ef a'i efrydwyr—yn wythnosol—yr hyn nad oedd yn bosibl wrth gwrs ar y Sul.

Rhaid fod yna resymau tra chryf dros y cyfnewidiad, oblegid os oedd trysorfa y Coleg yn isel eisoes yr oeddynt yn rhedeg risk o'i gwacau'n fwy. O'r cyfraniadau gwirfoddol at y Coleg y pryd hwnnw, cawn fod Eglwys Loegr yn cyfrannu 33 y cant, y Methodistiaid Calfinaidd 29, yr Annibynwyr 24, a'r enwadau eraill 14. Rhaid fod gan y Cyngor ffydd ym mawrfrydigrwydd yr Annibynwyr, neu ynteu gred na byddai diraddiad un yn perthyn i enwad neilltuol yng Nghymru, lle mae'r teimlad enwadol mor gryf, yn ddim ond symbyliad i'r enwadau eraill.

Rhwng popeth, diau fod y senedd yn teimlo'n llai anniddig ac yn fwy diogel a sicr yn eu hurddas, wedi cael gwared ar y Celto-American annibynadwy o'u plith—y Jonah hwn o'u llong.

Gan mai rhywbeth tebyg ar y cyfan fu ei waith fel athro yn Aberystwyth, Abertawe, a Chaerdydd, gallwn ddywedyd yr hyn sydd i'w ddywedyd am y cylch yma o'i weithgarwch yn y fan hon. Cyfeiriwyd uchod at y si oedd ar led ynghylch ei fethiant yn Danville, a'r si gyffelyb ynghylch ei waith yn Aberystwyth, a chlywyd hi, i fesur llai, yn y ddau le arall—sonnid fod yna anhrefn y tu mewn i'r dosbarthau, ac yn Aberystwyth afreolaidd-dra ym mherthynas y gangen gerddorol â'r gweddill o'r Coleg. Ar y llaw arall, y mae gennym dystiolaethau ei ddau brifathro, ei gyd-athrawon yn y ddau Goleg, a nifer o'i ddisgyblion blaenaf, i'w allu a'i lwyddiant fel athro. Ond yr hyn a bwysleisiant yn bennaf yw ei frwdfrydedd, ei ymroddiad, a'i ynni. "Fel athro," meddai'r Prifathro T. C. Edwards, " yr oedd yn frwdfrydig ei hunan, ac yn gallu taflu ei frwdfrydedd i eraill." Dywed y Prifathro Viriamu Jones ei fod yn falch o gael dwyn tystiolaeth " i'w allu fel athro, ac i'r llwyddiant a ddilynodd ei waith " yng Nghaerdydd, gan gyfeirio'n neilltuol at y "brwdfrydedd hunanaberthol" (self-sacrificing ardour) a'i nodweddai. Y mae tystysgrif ei gyd-athrawon yng Nghaerdydd a'i ddisgyblion i'r un perwyl.

Wrth gwrs, ni ddywedir y cwbl mewn tystysgrif: gedy Garcia ei "obstreperous" allan. Beth, ynteu, a ddywed tystion y tu allan i "briodoleddau" y dystysgrif? Dyma ddywed Mr. D. Jenkins, mewn ysgrif amddiffynnol iddo adeg helbul y Gadair: "Nid wyf mor ddall a chredu mewn popeth a gyflawna yr Athro Cerddorol, ond gallaf dystiolaethu i'w allu a'i onestrwydd"; ac yn ddiweddarach (yn 1913): "Ni ystyriem ef yn athro da ond i'r rhai oedd wedi cael rhyw gymaint o addysg gerddorol eisoes. Yr oedd yn rhy wyllt a nwyfus i egluro i'r manylder a'r cyflawnder sydd ei eisiau ar efrydydd ieuanc."

Ac wele lygedyn arall o'r tu mewn gan un o farn a phrofiad Mr. J. T. Rees, Mus. Bac.:

"Nid llawer o drefn oedd arno, fel athro, rhaid cydnabod. Nid oedd yn ei elfen o gwbl. Tebyg fod pob un o'i ddisgyblion ag oedd yn ymdrechu llawer eu hunain gyda'u hefrydiau yn llwyddo. Bid siwr, yr oedd awgrym neu ddau oddiwrth y Doctor yn mynd yn bell i'r cyfryw. Yr oedd yno ' ddaear dda' a'r tipyn had yn cael 'dyfnder daear' Ond druain o'r rheiny a lafuriai yn brin eu hunain!

"Byddai yn fwy cartrefol gyda'r efrydwyr hynny a gymerai gyfansoddiant yn bennaf. Treuliai awr neu ddwy gydag un efrydydd felly. Pan y sonnid am gyfansoddi, collai bob syniad am amser a threfn pethau. Mantais fawr i rai ohonom fu hynny! Cymaint oedd ei afiaith, ei nwyd am gyfansoddi, fel na fedrai roddi'r sylw dyladwy i waith ei ofal. Byr iawn fyddai y gwersi ar y berdoneg a lleisiadaeth! Yn aml ymgollai mewn cyfansoddi pan fyddai un o'r efrydwyr wrth y berdoneg yn derbyn y wers (?). Byddai ef wrth fwrdd ymhen arall yr ystafell mewn 'full cry' yn cyfansoddi cân neu rannau o'i gantodau! Y mae yn ddirgelwch i mi pa fodd yr oedd yn medru cau pob dim allan rhag aflonyddu arno. Ond yr oedd ei awydd anniwall i gynhyrchu yn ei anghymwyso i fod yn athro." Eto nid anfantais i gyd mo hyn hyd yn oed i'r lleiswyr—deuai eu tro hwythau. "Byddai yn ystod hanner flaenaf y term wedi ysgrifennu rhyw gantawd neu ran o Oratorio. Yna treulid y gweddill o'r term i ddysgu'r gwaith, ac yna ar y diwedd trefnid cyngerdd i'w berfformio. Ni fyddai gan y Coleg fel y cyfryw unrhyw law yn y gwaith, a byddai'r elw iddo ef. Yma y deuai yn 'haf' ar y lleiswyr: yr oedd eisiau paratoi yr unawdau a'r deuawdau. Am y rheiny nad oedd yn cymryd 'canu yn eu hefrydiau- wel, byddai'r gwyliau wedi hen ddechreu iddynt. Hawdd canfod wrth hyn nad oedd 'trefn' yn elfen oleu yn y cwrs cerddorol. Eto, er y cyfan oll, llwyddodd llawer o'i ddisgyblion: yn wir ychydig iawn ohonynt fu'n fethiant."

Dyma'r test olaf o effeithiolrwydd addysg gerddorol wedi'r cyfan, sef fod cerddorion a chantorion yn cael eu troi allan, ac fe gydnebydd pawb y deil addysgiaeth Dr. Parry y test yma. Cymerer y rhestr hon o'r "Cerddor " o'r rhai fu'n cael gwersi ganddo: "Mri. T. Maldwyn Price, Wm. Davies (St. Paul's), David Parry, W. T. Samuel, R. C. Jenkins, W. Hopkins, David Davies (America), J. T. Rees, M. W. Griffith, Dan Protheroe, Meudwy Davies, Llew Ebbwy, Cynffig Evans, Hywelfryn Jones, James Sauvage, Maldwyn Evans, D. C. Williams, Maldwyn Humphreys, David Hughes, Meurig James. Ymhlith y merched: Misses Hattie Davies, Cordelia Edwards, Gayney Griffiths, Ceiriog Hughes, Jennie Alltwen Williams; Mrs. Jenkins, Caerdydd; Mrs. Gwynoro Davies; a Mrs. Walter Morgan, Pontypridd (dwy bianyddes ardderchog)—ac eraill na allwn eu cofio ar y funud."

Tra awgrymiadol yw yr hyn a ddywed Dr. Protheroe ar Parry fel athro:

"Fe greodd dyfodiad Joseph Parry gyfnod yn hanes cerddoriaeth Gymreig. Yr oedd yna lu o athrawon unigol yn y prif drefi—ond dyma yr ymgais gyntaf i roi gwedd genedlaethol i addysg gerddorol. Yn fuan fe aeth to o efrydwyr eiddgar ato, rhai a ddylanwadodd yn fawr ar gerddoriaeth eu gwlad. Deuent yno, nid yn unig o Gymru, ond cawn i un, beth bynnag, groesi'r don i eistedd wrth draed y Doethur—David Davies, Cincinnati—yr hwn gafodd yr anrhydedd o ganu yr unawdau yn Oratorio yr 'Emmanuel ' pan ddygwyd y gwaith hwnnw allan. "Dyna'r adeg yr aeth yr Athro David Jenkins i fyny o Drecastell, a'r hwn wedi hynny ddaeth yn un o brif ddylanwadau cerddorol ei oes yng Nghymru, fel cyfansoddwr, beirniad, ac arweinydd cymanfaol. Hoffai Parry gyfeirio yn fynych at yr 'olyniaeth.' Dywedai:, 'You know that Mendelssohn is your musical great-grandfather. It is this way—He was Sterndale Bennett's teacher—Bennett was mine—and I am yours'

"Fe ddywedir am Michael Angelo iddo gyfrannu addysg drwy gael ei ddisgyblion i greu, ac nid trwy feirniadaeth sych. Tynnu allan oedd ei ffordd ef—gwneuthur i'r ddisgyblion arfer eu greddf greol ac nid eu cronni â mil o fân reolau. Yn ol y diweddar Dr. Gunsaulus y mae yna ddwy gyfundrefn addysg yn ein gwlad—cyfundrefn y cronni, ac un y ffynnon yn tarddu: un yn sych ac anniddorol, a'r llall yn gwneuthur i'r disgybl roi o'i oreu, bron yn ddiarwybod iddo. Bid siwr, y mae yn rhaid wrth reolau. Nid oedd Beethoven yn llai artist am y gwyddai reolau cynghanedd a gwrthbwynt. Fe ŵyr y gwir artist faint o gymysgedd o goch a gwyrdd gynhyrcha liw arall. 'The universe is an orderly one'; rhaid wrth reol, ond ni ddylai hyd yn oed rheol fod yn llyffethair. Gwna law-forwyn ddengar i lunio ac nid i orfodi, tywys ac nid gyrru.

"Feallai nad oedd Parry o'r anianawd honno a fedrai gymryd llawer o boen i ddatblygu unrhyw beth. Yr oedd mor llawn o'r awen ei hun, fel yr oedd yn frysiog ar adegau pan yn edrych dros wersi ei efrydwyr. Fe geir amryw athrawon enwog fel gwyddegwyr, rhai yn fanwl yn neddfau a rheolau y gelf, ond yn gwbl amddifad o'r awen. Fe allant ddadansoddi a datrys unrhyw broblem gynganeddol neu wrthbwyntiol, ond ni fedrant greu bar o wir gerddoriaeth.

"Ond os mai neges uwchaf addysg ydyw deffro delweddau, eangu amgyffredion, tynnu allan, rhoi ysbrydoliaeth, cynneu tân ar allor y gerdd, yna yr oedd Parry yn llwyddiannus. Fe ddywed hen ddiareb Chineaidd mai 'Nid cri, ond ehediad yr hwyaden wyllt sydd yn gwneuthur i'r holl braidd ei dilyn.' Dyna nodau y gwir athro.

Oes y specialist yw hi yn awr. Ond yr oedd talentau cerddorol Parry yn amlochrog, a rhoddai wersi ar wahanol ganghennau y gelfyddyd, y piano, yr organ, cyfansoddiant, a'r llais. Yr oedd ganddo efrydwyr llwyddiannus ymhob adran; ond, efallai mai ei ddylanwad ar gyfansoddwyr adawodd fwyaf o argraff. Gellir ategu hyn ond edrych ar lwyddiant ei efrydwyr—David Jenkins, William Davies, Maldwyn Price, J. T. Rees, D. C. Williams, prif gyfansoddwyr Cymreig eu cyfnod."

Dyma ddywed Emlyn, yr hwn oedd feirniad craff a gonest, ac yn un na chanmolai heb reswm, pan yn pwysleisio'r pwynt y dylai ein colegau cenedlaethol fod yn ganolbynciau o addysg a dylanwad cerddorol, ac yn fagwrfeydd athrawon cerddorol i'r wlad: " Prawf yr hyn a gyflawnwyd yn Aberystwyth, a hynny yn wyneb ataliadau lawer, nad ffansi ofer mo hyn."

Wel, ynteu, swm yr oll a glybuwyd yw hyn: "Shakespeare was a genius in spite of his faults." Ni ellir athro heb frwdfrydedd ac ynni; heb y rhain nid yw trefn a deddf ond llythyren farw. Ond y mae eisiau trefn mewn dosbarth i gadw'r brwdfrydedd rhag crwydro ar y dde neu'r aswy law, a gwastraffu ei adnoddau, ac felly i leihau'r llafur a'r lludded. Meddai Parry frwdfrydedd dibendraw, ynghyd â'r gallu i'w atgynhyrchu yn ei ddisgyblion; ond ni ddysgodd erioed ei reoli a'i wneuthur yn is-wasanaethgar i amcan penodol, gyda'r canlyniad fod yna fwy o benrhyddid nac o ryddid yn aml yn ei ymdrechion ei hun, ac yn ei ddosbarth. Diau iddo ddysgu cryn lawer yng nghwrs bywyd, ond hyd yn oed yng Nghaerdydd yr oedd yn aml fwy o ystŵr nac o gerdd yn ei ddosbarth.

Y mae college magazine fel rheol yn dalentog, ac ambell i waith yn oleuol. Wele ychydig lygedynnau allan o un Coleg Aberystwyth ar fater cysylltiad Dr. Parry â'r Coleg: Tachwedd, 1879—"Y mae Dr. Parry yn parhau yn athro yn y Coleg, ac wedi ffurfio dosbarth o fyfyrwyr o duedd gerddorol, tra, i'r rhai sydd yn rhoddi eu holl amser i gerddoriaeth, y mae wedi sefydlu ysgol gerddorol; ac er nad yw hon yn gysylltiedig â'r Coleg, bydd i holl gyfeillion y Coleg, a'r eiddo ei hun, ddymuno iddo bob llwyddiant yn ei anturiaeth."

Rhagfyr, 1880—"Yr ydym oll yn falch o weld Dr. Parry yn ein plith eto, ond drwg gennym oll glywed am ei waeledd blin wedi dod yn ol. Y mae yn fater o ofid fod cysylltiad y Doctor â'r Coleg wedi ei dorri."

Chwefrol, 1881-"Y mae Dr. Parry yn ein gadael; nid ydym yn synnu, ac ni allwn ei feio . . . Y mae Aberystwyth yn gylch rhy gyfyng i'w weithgarwch diflino. Rhoddir cyngerdd ffarwel iddo ymhen rhyw fis, pryd y perfformir ei Opera 'Blodwen.'" Cynhaliwyd y cyngerdd hwn yn y Temperance Hall, a daeth tref a gwlad yn eu miloedd iddo. Yr oedd torf yn disgwyl i'r drysau agor; trowyd cannoedd i ffwrdd am nad oedd yno le iddynt; a chynhaliwyd cyngerdd arall i'r rheiny yn ddiweddarach.

Nodiadau golygu