Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Gwrthdarawiadau

Yr Awdur Epiliog Hwn Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)

gan Evan Keri Evans

Y Gadair Gerddorol

X. Gwrthdarawiadau.

Y MAE'R dyfyniad yna o Berlioz lawn mor gyfaddas i ddechreu'r bennod hon ag ydyw i orffen yr un ddiweddaf. Dengys inni yr anawsterau sydd ar ffordd creadigaethau athrylith i ymgorffoli ar y ddaear isod—mor arw yw'r ffordd i'r traed sanctaidd o hyd. Ar un olwg y mae'n drueni na ellid trefnu i blant awen aros ar barnasws o hyd. Nid da iddynt hwy yw goreu'r byd—yn wir, efallai y try goreu'r byd yn waeth na'i waethaf iddynt yn y diwedd. 0 leiaf, dyna ddywed Wagner, mi goeliaf:"Gwyn fyd yr athrylith,"meddai,"na chafodd wenau ffawd erioed. Y mae athrylith yn gymaint iddi ei hunan! Beth allai ffawd ychwanegu? . . . Pan fyddwyf wrthyf fy hun, a llinynnau cân ynof yn ymchwarae, a seiniau gwahanrywiol yn ymffurfio i gyfuniadau o'r rhai yn y diwedd y cwyd y felodi a ddatguddia i mi fy hun fy hunan nesaf i mewn, nes cyffroi'r galon i gydguro â rhediad y mydr, a pheri i'r perlewyg dorri allan mewn dagrau dwyfol drwy lygaid wedi colli eu golygon meidrol—yna y dywedaf yn aml wrthyf fy hun, 'y fath ynfytyn ydwyt i beidio aros yn wastad gyda thi dy hun, i fyw i'r fath felystra digymar! Beth all y cyhoedd yma, â'r croeso mwyaf godidog, ei roddi i ti yn gyfwerth â chanfed ran y perlewyg sanctaidd a dardd oddimewn?' "

Eto i lawr y daw y cerddor a'i gân—ymgnawdoli gais y delfryd o hyd. Ac y mae hyn yn ddiau er mantais i'r cerddor a'r byd—i'r olaf yn ysbrydoliaeth tuag i fyny, a thra yn ddisgyblaeth i'w ysbryd ef, yn rhoddi iddo olwg arall nag a geir ar y bannau:

O ddryslyd diroedd yr iselderau
A'u curlaw gerwin cei'r olwg orau.

Felly y bu gyda Dr. Parry, a chafodd brofiad o ddwy ffordd y byd o dderbyn—ei "groeso godidog" ar y naill law, ac ar y llaw arall, ei groesau chwerw, ei atalfeydd mynych, ei wrthdarawiadau creulon mewn amgylchiadau, cysylltiadau, a theimladau cwrs a chas.

Dywed Dr. Horton yn ei Hunangofiant ei fod wedi cael llawer bendith arbennig mewn bywyd, ond mor wir a bod y fendith yn dod, fod yna groes heibio'r gongl i gadw'r gorfoledd rhag troi'n falchter a hunan-foddhad. Ni wyddom beth fu effeithiau siomedigaethau bywyd ar Dr. Parry—y cerddorion a ddwed a ddaeth i'w gân Ryw newydd lais, fel nawfed ton y môr, fel yr ai'r blynyddoedd heibio. Gwyddom mai cecraeth ac erlid gelynion barodd i Handel adael yr Opera am yr Oratorio, ac na fuasai y "Messiah " wedi ei rhoddi i'n daear, nid yn unig heb Groes y Ceidwad, ond hefyd heb groesau Handel. Gwelsom y fath dderbyniad godidog a gafodd Parry gan ei gydgenedl—gadawer inni'n awr alw sylw at yr ochr arall i'r " darian." Daeth i gyffyrddiad cynnar ag ochr arw, gwerylgar, genfigenllyd yr Eisteddfod. Er iddo gael ei ddewis yn feirniad yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ei flwyddyn gyntaf yn Aberystwyth—yn wir cyn ymsefydlu ohono yno, anwybuwyd ef fel beirniad ar y cyfansoddiadau cerddorol. Anodd credu mai cenfigen neu hunan-bwysigrwydd yr hen ddwylo oedd y tu cefn i hyn, ond y mae'n amlwg eu bod yn ddiffygiol mewn cwrteisrwydd, a sôn dim am degwch. Hyd yn oed os y swyddogion a fu'n esgeulus, dylasai'r beirniaid eraill brotestio, wedi deall y sefyllfa. Yn lle hyn, bu'n rhaid i gyfeillion Parry—ei gydgerddorion ieuengach—brotestio. Dengys hyn ei fod yn teimlo'r peth a'i fod wedi ei ddatguddio iddynt hwy. Cynhaliwyd Eisteddfod enwog Pwllheli y flwyddyn ddilynol, ac ymddengys iddo ef—a'i ddisgyblion erbyn hyn—gymryd meddiant go lwyr o'r esgynlawr hwnnw mewn eisteddfod a chyngerdd, nes peri i rywrai ei dwbio, os iawn y cofiaf, yn "Eisteddfod y Students"-yr oedd ef ei hun yn un o'r beirniaid, ef a'i ddisgyblion ymysg y datganwyr, disgyblion eraill yn ennill, a rhai'n ennill yn yr eisteddfod ac yn datganu yn y cyngerdd! Yn yr "Herald Cymraeg " ymddangosodd rhestr o " Anghysonderau Eisteddfod Pwllheli," a chawn yn eu plith a ganlyn: " Pencerdd America yn codi ar ei draed i wrthdystio mewn modd difrifol yn erbyn beirniadu chwarae yr harmonium, am fod un o'i bupils ef yn cystadlu (gwobr dwy bunt), ac yn beirniadu yr anthem ac yn gwybod fod un arall o'i bupils yn cystadlu ac yn ennill (gwobr deg punt)." Tebyg fod gan y gohebydd ryw brawf fod Parry "yn gwybod fod un arall o'i bupils yn cystadlu ac yn ennill "; o leiaf buasai'n ddoethach i'r Athro rybuddio ei ddisgyblion y byddai'n well iddynt hwy beidio cystadlu dan ei feirniadaeth ef. Ond yr oedd ef yn llawn o anghysonderau o'r fath hyn—rhai ag y byddai un mwy gofalus am ei reputation ei hun yn gallu eu hosgoi yn rhwydd. Tua thair blynedd wedi'r uchod, cawn ef yn ysgrifennu mewn perthynas â'r bywyd cerddorol oedd drwy'r wlad: " Y mae cymdeithasau corawl yn rhoddi mantais i'n cenedl glywed gweithiau fel ' Ioan Fedyddiwr,' 'Joseph' ' Arch y Cyfamod,' ' Blodwen,' ' Jerusalem,' etc., etc. Cawn hefyd yr un gweithgarwch yn ein cyfansoddwyr yn ymddangosiad 'Jeremiah,' 'Blodwen' hefyd gorffeniad o'r 'Emmanuel' etc., etc." Yna cyfeiria at y lleiswyr da, "megis Lucas Williams, a rhai oddiyma na byddai'n ddoeth i mi eu henwi." "Na byddai'n ddoeth i mi eu henwi," a hynny pan yw wedi newydd wneuthur cyfeiriad go lawn at ei weithiau ei hun, a gwaith ei ddisgybl,—mewn cwmni da—gan farnu "etc., etc." yn ddigon da i'r lleill i gyd!

Lle yr oedd y rhugliadau hyn yn cael eu hachlysuro gan onglau ei ddiffygion ef ei hun, yr oeddynt yn ddiau er lles iddo, ac ni ellir cwyno; ond nid felly y byddai bob amser. Yr oedd ef yn ei elfen yn fwy yn y cyngerdd. Bu cyngherddau'r Coleg yn dra llwyddiannus a phoblogaidd. Mynychid hwy gan gefnogwyr y Coleg o bell ac agos, megis Arglwydd Aberdâr, yr Archddiacon Griffiths, Mr. Hugh Owen, Capt. Verney, y "Gohebydd," "ynghyd â phrif foneddigion a boneddigesau y dref a'r ardal." Eto, deuent i wrthdarawiad â dau deimlad, sef yr un cenedlaethol a'r un gwrthfyfïol: cwynid mai darnau dieithr a thramor yn unig a genid, a rhai y Proffeswr ei hunan—ond yr anwybyddid Cymry eraill. "Cafwyd cyngerdd lled dda ar y cyfan, ac y mae yn amlwg fod yr ieuenctid sydd dan ofal Mr. Parry yn derbyn lles cyflym drwy yr addysg gerddorol uwchraddol a gyfrennir iddynt. Diau fod y caneuon anodd a chaled a ganwyd gan lawer o'r myfyrwyr yn foddion addysg dda iddynt, ond yr oeddynt mewn rhai amgylchiadau y tro hwn ymhell uwchlaw gallu'r datganwyr."

"Credwn yn wylaidd y byddai'n weithred o modesty ar ran y Prof. Parry i beidio introducio cymaint o'i waith ei hun yn y cyngherddau." Yn Chwefrol, 1876, fodd bynnag, rhoddwyd perfformiad o "Llewelyn" (Pencerdd Gwalia) dan arweiniad Parry, ynghyd â " Chytgan y Bradwyr " (Parry), ac meddai'r beimiad: " Y mae mwy o amrywiaeth awdurol yn ddiweddar, ond eto y mae lle. Beth am Lloyd, Stephen, ac O. Alaw? Y maent hwy wedi cyfansoddi ambell i ddarn y gallai hyd yn oed R.A.M. neu U.C.W. edrych drosto i bwrpas."

Dygai ei fyfïaeth ef i wrthdarawiad â hyd yn oed ei gyfeillion goreu. Eto myfïaeth anymwybodol hogyn ydoedd: ni fwriadai sathru ar hawliau cydnabyddedig eraill ond ymddygai fel pe yn hollol anymwybodol ohonynt. "Credai ef yn hollol syml," meddai Mr. Jenkins, " fod holl gerddorion ac arweinyddion Cymru wedi eu creu i wasanaethu arno ef, a disgwyliai iddynt wneuthur hynny, ac fe wnaeth llawer ohonynt, a hynny gyda phleser." ond gwrthodai eraill wneuthur. Gwelsom uchod fel y darfu i'w gyd-gerddorion Cymreig brotestio ar ei ran yn erbyn ymddygiad awdurdodau Eisteddfod Bangor tuag ato. Y mae braidd yn anghredadwy ei bod yn bosibl iddo—yn y dyfyniad dilynol—pan yn sôn am y bywyd cerddorol oedd yn y wlad, gyfeirio braidd yn hollol at ei weithiau ei hun, a'r datganiadau ohonynt, gan eu cwbl anwybyddu hwy, neu ynteu eu cynnwys mewn, " etc., etc." er fod gweithiau pwysig o'r eiddynt wedi newydd ymddangos. Yr oedd hyn yn ormod i gig a gwaed, ac nid syn iddynt daro'n ol; yn wir rhoddai arfogaeth Parry ddigon o gyfleusterau iddynt wneuthur hynny. Yr oedd ei ramadeg yn aml yn dyllog, ei gerddoriaeth yn arwynebol, a'i ymffrost yn ei radd a'i ysnoden yn amlwg.

"Tickets may be had with the students " meddai rhaglen y cyngerdd. "Helo" meddai'r wags beimiadol, "dyma fantais i ferched Aberystwyth i gael gŵr—gallant gael D. Jenkins, neu R. C. Jenkins, neu W. Hopkins yn awr gyda thocyn swllt! "

Yn ei adolygiadau o'i weithiau, yr oedd Emlyn, hyd y gwelaf i, yn wastad yn barchus, er yn feirniadol, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn i'r adolygiad ar "Ryfelgan y Myncod" (1875): "Efallai fod Mr. Parry yn teimlo fod mynd i'r 'borfa' am dymor yn llawn mor angenrheidiol i'r meddwl ag ydyw i'r corff, neu hwyrach ei fod yn gweithio yn ddistaw ynglŷn â rhyw chef d'oeuvre ag sydd i'n synnu yn fuan. Pa fodd bynnag y mae yn ffaith mai dim ond prin dal i fyny ei reputation mae wedi ei wneuthur drwy y darnau bychain ag ydym wedi dderbyn o'i law er ys amryw flynyddoedd bellach, ac o ganlyniad yr ydym yn croesawu ymddangosiad y rhangan hon fel rhywbeth uwch a theilyngach o gymeriad yr awdur."

Yr oedd Alaw Ddu yn fwy gwawdus. Am ei " Bedair Anthem Gynulleidfaol " dywed: " Os mai byrder a llithrigrwydd ddylai fod nodwedd yr Anthem Gynulleidfaol (?) y mae y darnau bychain yma yn ateb y diben i'r dim. Ond ofnwn fod ein cerddor yn teimlo mai hawddach yw bod yn fyr a syml, na bod yn urddasol a defosiynol . . ."

Y mae ei " Ryfelgan Gorawl " wedi ei " gweithio allan ar gynllun ac mewn dull sydd yn rhy hoff gan gerddorion Cymreig—digon o go a lle i floeddio."

Gwelwn o leiaf, fod ei gyfeillion wedi colli ofn y Mus. Bac. fel y gwnaethant y Mus. Doc. pan ddaeth. Prawf o'i symlrwydd oedd ei ymffrost hogynnaidd yn ei radd, a'i ymhyfrydiad hogennaidd yn yr ysnoden a berthyn iddo. Gosodai yr olaf ef yn amlwg agored i wawd y direidus. "Yr ydym oll yn gwybod bellach," meddai un gohebydd, "fod y Proffeswr Parry yn ' Mus. Bac., Cantab,' heb iddo wisgo y badge ar y llwyfan gyhoeddus. Yr ydym yn awgrymu hyn yn y modd mwyaf caredig, gan y gwyddom nad oedd y Cambridge gown ond testun gwên i lawer oedd yn bresennol."

Ac er fod ystyr a gwerth i'r gradd ei hun fel sêl ar ysgolheigdod, synnwn fod un o allu creol Dr. Parry, yn cysylltu cymaint o ogoniant ag ef, gan ymheulo ynddo hyd y diwedd. Yr oedd yr hen Handel yn sicr yn fwy agos i'w le pan atebodd y cyfeillion a fynnai iddo dderbyn y radd o Mus. Doc. yn Rhydychen, ar yr amod ei fod yn talu swm bychan: "Vat te tevil I trow my money away for dat vich te blockhead vish? I no vant!" Ymffrostiai gerbron ei fyfyrwyr mai efe oedd "y Mus. Bac. cyntaf, a'r unig Mus. Doc. Cymreig," mor ddiweddar a 1897, nes tynnu'r ateb hwn oddiwrth "Ohebydd Neilltuol " "Y Cerddor": "Ni ddywedaf ddim yma parth ' Canmoled arall dydi' ond yn gyntaf, nid yw yn gywir, fel y gwŷr y cyfarwydd, ac fel y profwyd, ac fel y mae'n ddigon rhwydd profi eto; ac yn ail, petai yn gywir, pa beth a brofa? Dim ond ym Mhrydain (yn Ewrob) y cyfarfyddir â'r graddau hyn, ac nid yw y Saeson eu hunain yn tybio ronyn yn uwch am y dyn a'u medd, tra y mae y prif gerddorion Seisnig yn eu trin gyda'r un dirmyg ag y gwnaeth Handel."

Yr ydym ni yng Nghymru yn pasio drwy benumbra y teitlau ers blynyddoedd bellach, ac yn dechreu dod allan i eglurder parthed y B.A. a'r B.D. Yr ydym yn sicr wedi dysgu na enir bardd o'r B.A., na phregethwr o'r B.D., ond efallai y gellir gwneuthur gwell bardd a phregethwr ond cadw'r ddysg yn forwyn ac nid yn feistres. Rhag ein bod eto heb ddod i weld lle a gwerth teitl cerddorol nid difudd croniclo a ganlyn: "Yn y gystadleuaeth am gyfansoddi tonau a ddygir ymlaen dan nawdd Undeb Ysgolion Sabothol Manchester, ac ynglŷn â'r hwn y cynhygiwyd pedair gwobr o £3 yr un, derbyniwyd 850 o gyfansoddiadau. Ymhlith yr ymgeiswyr yr oedd un ar ddeg Mus. Doc., dau ar bymtheg Mus. Bac., ac un ar hugain F.R.C.O., ond nid oedd yr un ohonynt ymhlith y pedwar buddugol, y rhai oedd Mri. W. Walker, L.R.A.M., Gateshead; G. H. Loud, Toronto, Canada; W. Pearce, Sheffield; a Herbert M. Nelson, Canonbury, Llundain."

Yng nghyfnod Aberystwyth daeth Parry wyneb yn wyneb ag anhawster arall, nad iawn efallai ei alw yn wrthdarawiad, yn gymaint ag yn rhwystr neu atalfa i hunanfynegiant cerddorol cyfiawn. Megis y dywedir fod ysbryd milwrol ac uchelgais gwleidyddol yn ceisio ac yn gwneuthur cyfrwng peiriannol i'w galluogi i ymsylweddoli yn y byd— a phob ysbryd arall o ran hynny—cais awen y cerddor hefyd, nid yn unig bapur a nodau, ond hefyd gôr a chyfleustra datganiadol i gyrraedd hunan-fynegiant cyflawn. Er i ni allu edmygu Parry am ganu ymlaen o gariad at gân, ac er i ni gydymdeimlo ag ef yn ei ymagweddiad ymostyngol a lleddf ar derfyn ei ddyddiau pan yn dywedyd mai ei waith ef oedd cyfansoddi ac nid cyhoeddi, rhaid i ni gofio ei fod wedi ei ddidwyllo gan helynt a siom y blynyddoedd erbyn hyn. Ni feddai addfedrwydd heddychlon y ddoethineb hon yn Aberystwyth; a chawn ef yn dechreu ei ymgyrchoedd o blaid Gŵyl Gerddorol flynyddol. Yng Ngŵyl Gerddorol Harlech yn 1878, cawn ef yn rhoddi anerchiad i'r perwyl hwn. Wedi cyfeirio at yr angen am offerynnau mwy effeithiol ac amherffeithrwydd y canu hebddynt, aeth ymlaen i ddywedyd yr hoffai weld Oratorio Festival flynyddol mewn lle tebyg i Bafiliwn Caernarfon, a phenodi un o'n cyfansoddwyr i baratoi Oratorio at bob blwyddyn. Ni ddywedai hyn am ei fod wedi cyfansoddi yr unrhyw ei hun, ond i symbylu cyfansoddwyr ieuainc i droi i'r cyfeiriad hwn, er dyrchafu caniadaeth Cymru yng ngolwg y byd. Er yn ddiau ei bod yn wir na " ddywedai hyn am ei fod wedi cyfansoddi yr unrhyw ei hun," tebyg ei bod hefyd yn wir mai y ffaith ei fod ef yn awr yn llawn o "Emmanuel," "Nebuchadnezzar," etc., ac yn llawn o ymdeimlad o ddiffyg mantais i'w datganu, a barai iddo bwysleisio yr Ŵyl Gerddorol, a pharhau i wneuthur hynny am flynyddoedd.[1]

Geilw gwrthdarawiad arall a daflodd gryndod drwy ei holl fywyd, am bennod iddo ei hun.

Nodiadau

golygu
  1. Ymddengys i Mr. D. Jenkins alw sylw at yr angen am ŵyl o'r fath i ddatganu gweithiau Cymreig a Chymdeithas y Cerddorion ynglŷn a hi yn 1877, ond yr oedd yr athro a'r disgybl yn deall ei gilydd yn ddiau.