Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Eisteddfod Merthyr: Y Beirniad

Y Coleg Cerddorol Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)

gan Evan Keri Evans

Yr Arweinydd

XIV. Eisteddfod Merthyr: Y Beirniad.

ONIBAI i Eisteddfod Genedlaethol Merthyr godi safle a gonestrwydd Dr. Parry fel beirniad i sylw y cyhoedd, a bod yr hanes sydd gennym yn taflu goleuni gwerthfawr ar ei gymeriad, buasai yn fwy hyfryd gadael i gweryl y gantawd ynglŷn â'r eisteddfod honno bydru mewn ebargofiant, fel aml i lygredd arall perthynol i'r eisteddfod.

Yr hanes yn fyr yw hyn: Cynhygid gwobr o £21 gan Gôr Cymreig Llundain, a thlws aur gan bwyllgor yr Eisteddfod, am y gantawd oreu i libretto ar y testun "Cantre'r gwaelod," i'w dwyn allan yn y brif ddinas gan y côr. Y beirniaid oedd Tanymarian, Dr. Parry, a Mr. J. Spencer Curwen. Barnai Tanymarian "Corelli " yn oreu, a chydwelai Mr. Curwen ag ef. Barnai Dr. Parry "Taliesyn Ben Beirdd " yn oreu, a "Corelli " yn drydydd, ond at hynny ni farnai y goreu yn deilwng o'r wobr. Ym Merthyr hysbysodd Dr. Parry Mr. Curwen o'i farn, a phan ddeallodd yr olaf fod ganddynt hawl i atal y wobr, cydunodd yn union â'r Doctor i wneuthur hynny. Yn y cyfamser yr oedd "Corelli," sef Mr. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion) rywsut wedi cael ar ddeall mai efe oedd i gael y wobr, ac wedi dod o Gaernarfon i'w derbyn; yna pan ataliwyd y wobr, trodd ef a'i ffrindiau i chwythu bygythion a chelanedd yn erbyn Dr. Parry'n arbennig. Y mae yn beth tra hynod i rywbeth tebyg ddigwydd ynglŷn ag Eisteddfod Conwy yn 1879, pryd y cydfeirniadai Dr. Rogers, Dr. Parry, a Thanymarian. Ffafriai Tanymarian yr un gŵr (dan yr enw "Clementi") y pryd hwnnw hefyd, tra y barnai y ddau ddoethur Alaw Ddu ("Palestrina") yn oreu, ac efe wrth gwrs gadeiriwyd. Ond mynnodd Pencerdd Eifion yrru'r ddau fotett i Syr Julius Benedict, ac yr oedd ei farn ef ar ochr Tanymarian. Teg dywedyd, ran hynny, mai dim ond "tueddu" i roddi'r wobr i "Clementi" wnai Tanymarian, ac "nad oedd yn dewis penderfynu rhyngddynt." Ymddangosodd math ar her yn "Y Gerddorfa": Y mae Tanymarian a Syr Julius Benedict wedi cyhoeddi eu rhesymau, yn awr dylai'r wlad gael rhesymau y ddau Ddoctor." Yn fuan ar ol hyn cyhoeddwyd beirniadaeth Parry yn " Yr Ysgol Gerddorol," ac ar ol cymhariaeth fanwl o wahanol rannau y ddau gyfansoddiad, terfyna drwy ddywedyd fod "Clementi" o arddull secular llithrig, ac ysgafn, tra y mae "Palestrina " yn fwy aruchel a mawreddog, a'i gerddoriaeth wedi dod o galon fwy cysegredig, ac yn cynnwys mwy o amrywiaeth, gwreiddiolder, ac o ansawdd mwy myfyrgar."

Y mae ei feirniadaeth ar gantodau Merthyr ar yr un llinellau. Wedi cymharu y pedwar cyfansoddiad ddaeth i law ran a rhan, terfyna ei feirniadaeth fel y canlyn:- "Ar ol darlleniad manwl o'r cyfansoddiadau hyn a sylwi arnynt yn gyfochrog drwy bob rhifyn o'r gwaith . . . y cwestiwn mawr a phwysig yn awr ydyw pwyso y goreu yn ol teilyngdod y wobr fawr a'r bathodyn aur a roddir ynghyda'r achlysur pwysig a beirniadol y dygir y gwaith allan yn Llundain gan gôr Cymreig y brif-ddinas. Cyn dyfod at y gorchwyl pwysig o benderfynu hyn chwareuais yr oreu drosodd drachefn, ac ar ol dwys ystyriaeth fy marn ddifrifol a gonest yw, nad oes yn y goreu anadl einioes, ac nad ydyw y wreichionen nefol wedi disgyn i danio yr offrwm ar allor oer celfyddyd, fel y mae fy marn a'm dyletswydd yn fy ngorfodi i wneuthur y gorchwyl blin a thra annymunol o atal y wobr.

"Ar air a chydwybod

"Awst 27, 1881.
JOSEPH PARRY."


Pan hysbyswyd y penderfyniad, dechreuodd y "drin," a chan fod golygydd "Cronicl y Cerddor" yng nghanol yr helynt, ac mewn cyffyrddiad â'r pleidiau, ac yn ŵr o graffter a gonestrwydd, ni a gymerwn ei farn ef ar y mater, ynghyd a'i adroddiad o'r hanes pellach. Yn rhifyn Rhagfyr, 1881, darllenwn:

Justice, though her doom she do prolong,
Yet at the last will make her own cause right.

"Er ein bod yn dra gwrthwynebus i ddwyn unrhyw beth ag sydd yn sawru o fod yn bersonol i faes y 'Cronicl' eto pan y digwydd amgylchiad neu amgylchiadau a hawlia y ddyletswydd hon ar ein dwylo, ni fydd i ni betruso ei chyflawni: un o'r cyfryw ydyw cwestiwn y gantawd ym Merthyr—un o bwys nid yn unig yr adeg hon, ac i'r personau neilltuol sydd yn gymysgedig ag ef, ond un o bwys am holl amser, ac i bob cerddor a beirniad gwir a gonest y sydd neu a ddaw. Am wythnosau lawer y mae colofnau un o'n newyddiaduron—yr un yr honnir ei fod yn 'brif bapur y genedl '—wedi bod at rydd wasanaeth dyrnaid o ddynion yn cael eu harwain gan un a wisga y ffugenw (ymysg eraill) o'r 'Crwydrad,' neu—a theg i Gymru benbaladr wybod pwy ydyw yr oracl newydd hwn parth geirwiredd a gonestrwydd ein prif feirniad cerddorol— Mr. L. W. Lewis, (Llew Llwyfo). Yng ngholofnau y 'prif bapur' hwn ysgrifenna y boneddwr yna na phenderfynodd Dr. Joseph Parry ar atal y wobr cyn dyfod i Ferthyr, ac mai 'ar ei gwybod pwy oedd 'Corelli' y penderfynwyd atal. Yn y 'Cronicl' am fis Hydref cyhoeddwyd beirniadaeth Dr. Parry, fel ag y'i derbyniwyd o'i law gan y golygydd, yn union ar ol y dyfarniad gan Mr. Curwen. Fe wêl y darllenydd ei bod yn dwyn y dyddiad r Awst 27'— dri diwrnod cyn adeg yr Eisteddfod, a bod yr ysgrifennydd y pryd hwnnw (Awst 27)—cyn cychwyn o'i gartref yn Abertawe, ac heb wybod pwy oedd gwir awdur y gantawd a ddygai yr enw 'Corelli' (yr hon oedd wedi ei chopïo gan professional copyist)—wedi penderfynu, ac wedi ysgrifennu fod r ei farn a'i ddyletswydd yn ei orfodi i wneuthur y gorchwyl blin ac annymunol o atal y wobr. I bob boneddwr byddai hynyna yn derfynol ar y pwnc, ac eto ar ol gweld y dyfarniad yna yn argraffedig, yn wythnosol beunydd parha 'Crwydrad ' i ail—ysgrifennu ei haeriadau cyntaf, ac i honni, o ganlyniad, fod Joseph Parry yn dywedyd celwydd, ac wedi gosod forged date wrth ei feirniadaeth! Dyma i gerddorion ieuainc Cymru esiampl o'r hyn ydyw boneddigeiddrwydd, gonestrwydd, a geirwiredd, ym marn rhai pobl! Past all shame—so past all truth! Bellach nid oedd yn aros i Dr. Parry ond, naill ai cwympo dan waradwydd, neu ynteu i brofi ei uniawnder; herid ef yn haerllug i'r ornest; y mae'r her wedi ei derbyn, ac wele gyfran o'r canlyniad:

(CYFIEITHIAD)

'Coleg y Tonic Solffa,
Forest Gate,
Tachwedd 7, 1881.

'Annwyl Dr. Parry,

'Yr ydwyf wedi bod ymaith ar gylchdaith ddarlithiol, felly nid wyf ond newydd dderbyn eich llythyr am y 3ydd.

'Yr ydwyf yn neilltuol o anewyllysgar i ysgrifennu un gair ynghylch unrhyw un o'r dyfarniadau ym Merthyr, oherwydd ymddengys i mi nad yw yn un rhan o ddyletswydd beirniad i egluro neu amddiffyn ei benderfyniadau. Y mae y gwaith yn galed ac yn ddigon pryderus tra y parhao, a phan wedi ei orffen amhosibl i unrhyw ddaioni ddyfod o ymdriniaeth bellach.

'Yr ydych yn deisyf arnaf, pa fodd bynnag, fel ffafr bersonol, i alw i'm cof yr amgylchiadau ynglŷn â'r feirniadaeth ar y cantodau, a dywedwch fod eich cymeriad yn dibynnu ar fod i'r ffeithiau gael eu cyhoeddi. Yr ydych yn eu nodi yn hollol gywir yn eich llythyr. Pan yn ysgrifennu o Lundain wythnos neu felly cyn y cyfarfod (eisteddfod) dywedais wrth y Parch. Mr. Stephen fy mod yn meddwl mai cantawd 'Corelli' ydoedd yr oreu. Pan y cyfarfûm â chwi ym Merthyr, dangosasoch i mi eich beirniadaeth, wedi ei hysgrifennu yn y Gymraeg yn barod, a dywedasoch, os rhoddid y wobr o gwbl, eich bod dros ei dyfarnu i gystadleuydd arall, ffugenw yr hwn wyf yn ei anghofio. Ond ychwanegasoch mai gwell gennych atal y wobr. Nid oedd y dewisiad hwn wedi cynnyg ei hun i'm meddwl i, newydd fel yr oeddwn i'r dasg o feirniadu. Yr oeddwn wedi teimlo, fel y dywedais, pan yn gwneuthur y dyfarniad, y dylai y gantawd fuddugol fod o deilyngdod mawr, ac yr oedd wedi ymddangos i mi nad oedd yr un o'r rhai a ddanfonwyd i mewn yn dyfod i fyny â'r safon. Ond yr oeddwn yn tybied ein bod yn rhwym o ddyfarnu'r wobr, ac felly pleidleisiais dros 'Corelli' yr hwn oeddwn wedi ei osod yn gyntaf. Ond pan yr awgrymasoch atal cydunais ar unwaith, a gwnes hynny gyda llawer o foddineb.

Gyda chofion caredig,
Yr eiddoch yn gywir,
J. SPENCER CURWEN'

"Yr ydym wedi bod yn ymwneud â Mr. Stephen, ac yn cystadlu o dan ei feirniadaeth am flynyddoedd meithion, a chawsom ef bob amser yn onest, yn foneddwr, ac yn ddyn; ac yn y mater poenus hwn, os bydd ganddo unrhyw beth i'w ddywedyd ymhellach, ca—a hynny gyda'r pleser mwyaf yr un cyhoeddusrwydd a'r uchod. Am y lleill, gadawn hwynt i'w—trueni.

Yn y rhifyn dilynol cawn a ganlyn oddiwrth Dr. Parry:

"Dr. JOSEPH PARRY AT EI GYDGENEDL.

Musical College of Wales,

Abertawe,

Tachwedd 15, 1881.

"Fy Annwyl Gydgenedl,

"Yn wyneb yr ymosodiadau bryntion sydd wedi eu gwneuthur arnaf gan bersonau dienw gyda golwg ar fy meirniadaeth ar y cantodau yn Eisteddfod Merthyr, yr wyf yn dymuno gosod ger eich bron y ffeithiau canlynol. Yn gyntaf, fy mod wedi darllen y cantodau drosodd ar wahân yn y modd manylaf bob bar a chord, ac yna bernais bob un yn gyfochrog ymhob rhifyn o'r gwaith, er cael allan yr oreu, a'r canlyniad o hyn ydoedd i mi gael 'Taliesyn Ben Beirdd yn oreu, Romberg' yn ail, a 'Corelli' yn drydydd. Yn ail, dylai'r cyhoedd wybod hefyd mai myfi a gafodd y cyfansoddiadau ddiweddaf, wedi i'm Cydfeirniaid eu darllen; a chymerais ddigon o bwyll i fynd trostynt gyda'r gofal mwyaf, gan nodi allan yr holl wallau a'r diffygion, ac na chefais yr un gwall wedi ei nodi gan y lleill a brofir gan lythyr Alaw Ddu, a chan bob ymgeisydd arall ar bob un o'r testunau. "Yn olaf, euthum dros yr oreu drachefn, gan ei darllen a'i chwarae yn fanwl drwyddi, er penderfynu a ydoedd yr oreu i fyny â'r safon a'r lle yr amcenid iddi gael ei datganu, fel enghraifft deilwng o allu cerddorol Cymru ; a'm barn onest a difrifol ydoedd nad oedd yma deilyngdod digonol o'r wobr. Ysgrifennais fy holl feirniadaethau air am air fel y'u cyhoeddwyd wedi hynny, o lelaf wythnos cyn mynd i'r Eisteddfod, a'm dedfryd o barthed i'r gantawd ydoedd atal y wobr. Nid oedd gennyf ychwaith y ddamcaniaeth leiaf pwy ydoedd 'Corelli."

Yna y golygydd: "Fel prawf anwadadwy fod ei feirniadaethau wedi eu hysgrifennu fel y dywed yr uchod, cyn iddo fynd i Ferthyr, cyflwyna Dr. Parry lythyrau oddiwrth Meistri Hugh Edwards ac Edward Jenkins, ysgrifenyddion y London Welsh Choir; Eos Morlais (fel arweinydd y côr); Mr. David Rosser (Cadeirydd Pwyllgor yr Eisteddfod); Dr. Rees, Abertawe; Alaw Ddu; Dr. Rogers, Bangor; a Mr. D. Emlyn Evans."

Ni atebodd Tanymarian yn y "Cronicl" ond gyrrodd lythyr ymosodol a hunan-amddiffynnol, fel y gallwn gasglu, at Mr. Curwen. Yntau a'i danfonodd, mae'n debyg, i'r golygydd, yr hwn a wna sylwadau beirniadol arno; ond gan na ddaliant berthynas uniongyrch â gwrthrych y cofiant hwn, nid yw yn angenrheidiol eu dyfynnu. Yn unig gan fod enw Tanymarian wedi ei ddwyn i mewn rhoddwn yr hyn a ddywed ef yn wyneb y ddrwg-dybiaeth ei fod wedi datguddio cyfrinach y beirniaid, a sylwadau'r golygydd ar hyn. Cadwasoch fi yn y tywyllwch mor hir," meddai Tanymarian wrth Mr. Curwen, "fel y bu rhaid i chwi ddefnyddio y gwifrau i ohebu â mi. Yr oll a gefais oddiwrthych o'r blaen oedd Yr wyf yn hollol gytuno â chwi.' Gan ei bod felly, pa fodd y gallwn hysbysu na chyfaill na gelyn? Os cafodd ei hysbysu o gwbl, rhaid mai'r rhai oedd yn y gyfrinach a'i gwnaeth." Ar hyn sylwa'r golygydd: "Er nad yw Mr. Stephen mor bendant ag y gallai ei geraint ddymuno iddo fod ar y rhan bwysig yna o'r mater, eto awgryma na fu ganddo na rhan na chyfran yn y busnes gwarthus o ddatguddio cyfrinion beirniadaethol i'r chwilotwyr hyn a sarha ein purdeb eisteddfodol, ac y mae'n bleser gennym groniclo yr hyn a ddywed yma. Diwedda ei lythyr yng ngeiriau gweddi hen iawn': 'Oddiwrth genfigen, dygasedd, a malais, a phob anghariadoldeb, gwared ni, Arglwydd daionus'; yr ydym yn barod i uno ag ef yn hynyna, ond diameu y cytuna ef â ninnau yn wyneb y cymeriadau amheus sydd eto'n rhy aml yn cymylu awyrgylch ein heisteddfodau,' i ychwanegu cymaint a hyn o'r un hen weddi: 'Oddiwrth dwyll y byd, y cnawd, a'r cythraul, gwared ni, Arglwydd daionus!'"

Oddiwrth lythyr Dr. Parry "at ei gydgenedl," ymddengys y cyhuddid ef nid yn unig o newid ei farn wedi gwybod pwy oedd "Corelli," ac o osod "forged date" wrth ei feirniadaeth, ond hefyd o beidio darllen y cyfansoddiadau. Y mae'n alluog i gyfarfod â'r cyhuddiad, ac i alw tystion ei fod wedi eu darllen, ac wedi nodi'r gwallau ar y copïau, yr hyn na wnaeth y beirniaid eraill a'u darllenodd o'i flaen. Nid oedd sail o gwbl i'r cyhuddiad, nac i gyhuddiadau eraill o'r fath, ond yn nychymyg cystadleuwyr drwgdybus a siomedig. Cawn brawf digwyddiadol arall o'i drylwyredd fel beirniad yn ateb Emlyn i gais Mr. Tom Price i fwrw golwg dros gantawd o'i eiddo a fuasai dan feirniadaeth Parry:

"Darllenais feirniadaeth Dr. Parry, ond braidd yn frysiog, ac nid wyf yn awr yn gallu galw i gof ei wahanol bwyntiau; yr oedd braidd yn llym, mae'n wir, ond fe wna beirniadaeth o'r fath lawer mwy o les i chwi nac wmredd o wageiriau. Y mae hefyd wedi mynd drwy'r copi yn fanwl, ac nid pob beirniad sydd yn gwneuthur hynny y dyddiau hyn."

Adroddir neu ynteu awgrymir llawer o bethau amdano fel beirniad ar ddatganu—pethau sydd mor bell ag y mae a fynnont ag egwyddor a'r bwriad i wyro barn mor ddisail a chyhuddiadau "Crwydrad." Gwyddis yn dra chyffredinol erbyn heddyw am gynllwynion cyfrwysddrwg gwibed y gelain eisteddfodol i faglu'r beirniad diniwed; ond ar y cyntaf pwy feddyliai am y fath ystryw? Oni bydd i ni wylio a gweddïo—yr ydym bawb yn agored i gael ein hudo oddiar y ffordd uniawn gan ein hunangariad a'n vanity, pan deifl yr un drwg damaid i'r cyfryw. A hyn a wna y rhai dichellddrwg uchod: nid ymfodlonant ar gystadleuaeth onest; nid ydynt yn ddigon gonest hyd yn oed i gynnyg tâl i'r beirniad; flanking movement yn hytrach na frontal attack yw eu dull o geisio goresgyn y sedd feirniadol—ceisiant ennill ffafr y beirniad drwy ei hunan—gariad. Ynglŷn âg Eisteddfod Llandudno gyrrodd un a gynrychiolai un o brif gorau'r de at ddau o'r beirniaid— Dr. Parry yn un—i ddywedyd y bwriadent gynnal Festival Gerddorol yn y dref honno y flwyddyn ddilynol, yn yr hon y byddai rhai o weithiau y ddau feirniad yn cael lle amlwg, gan broffesu holi ynghylch hyn ac arall o barthed i'r gweithiau er mwyn ffugio amcan i'r llythyr. Ond ni lwyddodd yr ystryw—ac ni enillodd y côr: yr oedd y ddau erbyn hyn yn "hen adar," nad gwiw gosod magl ger eu bron, na cheisio eu twyllo ag us. Eto tebyg fod y tric wedi llwyddo gyda rhywrai rywdro, neu ni byddid yn ei dreio eilwaith ac eilwaith.

Eto nid pob cyfansoddwr sydd yn feirniad da mewn cerddoriaeth yn fwy nac mewn llenyddiaeth. Efallai nad oedd Parry y beirniad goreu ar ddatganu am yr un rheswm na fedrai feirniadu ei weithiau ei hunan: yr oedd o ardymheredd rhy hylifol (fluid), ac ni fedrai ymddidoli oddiwrth lif awen yn ddigonol, ond cymerai ei gario i ffwrdd ganddo. Am yr un rheswm ymgollai ym mhleser a chyfaredd y foment yn ormodol, ac ni chodai i fyny i feirniadu'r cyfan (yn y rhannau): "he could not see the wood for the trees." Yn ol un, ysgrifennai ormod, yn ol un arall siaradai ormod—yn ystod y datganu. Y mae'r ddau olygiad yna ar yr olwg gyntaf, fel yn gwrthdaro, ond nid ydynt mewn gwirionedd: dywed y ddau ei fod yn lle gwrando a beimiadu (yn y ffordd fwyaf effeithiol) yn gwneuthur rhywbeth arall. O'r ddau, bid sicr, y siarad oedd waethaf, nid yn unig nac yn gymaint am ei fod yn ymyrryd â chanolbwyntiad meddwl ei gyd-feirniad, ond hefyd am ei fod yn argymell—drwy awgrym (suggestion)—ei farn ei hunan arno. Fel hyn ceisiai ddileu bodolaeth hwnnw fel beimiad annibynnol, drwy ei ddarostwng iddo'i hunan—a byddai cystal i'r pwyllgor fod heb ei logi, ag fod siarad Parry'n cyrraedd ei amcan—er yn sicr na olygai ef hynny, ac ni freuddwydiai fod yna ochr foesol i'w siarad!

Nid yw yn sicr ei fod bob amser yn cadw'i hunan "gyda'i gilydd," ac yn canolbwyntio'i sylw ar y gystadleuaeth. Megis y byddai wrthi'n cyfansoddi yn ystafell y wers, diau y rhedai'i ddychymyg i ffwrdd ag ef ar esgynlawr yr eisteddfod. Ai nid hyn a brawf yr hanes digrif amdano yn Eisteddfod y Bala, lle y cystadleuai pum merch ar ganu unawd. Fel y digwyddai yr oedd yna bum pennill i'r gân, ond gofynnodd y beimiad iddynt ganu un. Anghofiodd yr arweinydd hysbysu hyn i'r merched, a chanodd y gyntaf y pum pennill, nes peri i Parry dybio fod y pump wedi canu, a rhannu'r wobr rhwng y pump! Prawf da o'i allu beirniadol, gan y gellid disgwyl i'r un fod yn gyfartal iddi ei hunan, ond prawf hefyd ei fod yn ddiffygiol mewn sylwadaeth arall, â'i wits ar wasgar!

Yn y gallu cerddorol sy'n anhepgor i feirniad da, yr oedd, bid sicr, yn rhagori. At hyn—neu ynteu yn rhan o hyn—meddai glust eithriadol o deneu. Dywed Mr. Jenkins amdano y medrai ddarganfod y cysgod lleiaf o anghywirdeb yn natganiad y darnau mwyaf cymhleth. Mewn datganiad o'r gytgan "he never will bow down " yn Eisteddfod Tredegar, nododd tua deugain o wallau. "Gwyddwn ei fod yn iawn," meddai Mr. Tom Price, "canys yr oeddwn yn aelod o'r côr."

Meddai hefyd syniad uchel am swyddogaeth beirniadaeth:

"Y mae beirniadaeth yn iachusol ac yn dra llesol i'r efrydydd ieuanc ac uchelgeisiol. Y mae yn cyfarwyddo, yn cymell, ac yn gwasanaethu fel adlewyrchydd grymus y gall yr ymgeisydd awyddus wahaniaethu gwenith pur oddiwrth yr us diwerth ynddo; gwir deilyngdod oddiwrth ymhoniadau gweigion; gallu creol arweinydd sydd yn meddu grym atyniadol dros ei holl adnoddau lleisiol ac offerynnol; y lleisiwr sydd yn defnyddio pob celfyddyd fel moddion i gyffwrdd y galon; a'r offerynnwr a all gyfleu ei enaid, a churiadau ei galon, i fwrdd—allweddi ei offeryn: y gwir addasedig feirniaid a all ddadansoddi hyn oll, nid ydynt mor hawdd i'w cael; ond y mae llu o bersonau anaddasedig, y rhai sydd yn ymhonni meddu y doniau prinion hyn, yn ein papurau."


Nodiadau golygu