Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Yr Arweinydd

Eisteddfod Merthyr: Y Beirniad Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)

gan Evan Keri Evans

Y Llenor

XV. Yr Arweinydd.

"BU y saethyddion cystadleuol yn chwerw wrtho am! i dro, a chlwyfwyd ei ysbryd yn dost gan rai arweinwyr aflwyddiannus. Ei deimlad ef oedd y byddai lawer yn well ganddo gael perfformiad o'i weithiau yn y cyngherddau na beirniadu." Hyfryd oedd ganddo ddod yn ol i'w gartref at ei gyfansoddi a'i ysgol o Eisteddfod Merthyr a mannau eraill, a hyfryd i ninnau ei ddilyn i awyrgylch mwy hynaws a chydnaws â'i anian.

Ond ochr yn ochr â chyfansoddi a chadw ysgol (ynghyda chanu'r organ ar y Sul), rhed ei weithgarwch yn Abertawe o'r cychwyn ymron mewn sianel arall, sef y Gymdeithas Gorawl-un o brif anghenion y cyfansoddwr cerddorol. Gwrandawer arno ef ei hun yn y Royal Institution:

[1]"Y mae'r deisyfiad cynhyddol am gyngherddau oratoraidd yn ein gwlad yn arwydd tra iachus, ac yn deilwng o bob cefnogaeth posibl; ond y mae yn dwyn gydag ef yr hawliau cyfartal am gerddorfäu (orchestras); hefyd am ddosbarth uwch o arweinwyr. Un dasg, a thasg gym- harol hawdd, ydyw addysgu ac arwain lleisiau yn unig, ac mewn un ganig neu gytgan; ond ymgymeriad cwbl wahanol ydyw addysgu ac arwain traethgan gyfan yn yr holl fanylion o gytgan, cerddorfa, ac artists, yn enwedig y rhai hynny gan ysgrifenwyr diweddar, gan y rhai y mae yr adnoddau cerddorfaol yn cael eu trethu mor llymdost, ac yn ffurfio cynseiliau yr holl waith, a chan y rhai y mae arddull y gerddoriaeth mor newydd, mân-ddarniog, ac mor ddyrys, yn eu hymdrechion at gynhyrchu effeithiau newyddion. I gyflawn amgyffred y fath weithiau, heb y gradd lleiaf o syniad na gwybodaeth o ddyrys ac amryfal adnoddau y gerddorfa, ac heb unrhyw wybodaeth, o fath yn y byd, o gyfansoddiad cerddorol, yn ei amryfal fanylion. o arliwiaeth a dringraddebau, sydd or-niweidiol i unrhyw waith a gaffo ei arwain yn ol yr ysgôr lleisiol yn unig, ac heb y wybodaeth uchod. Y mae yn amhosibl i bob aelod o'r gerddorfa gael ei lywodraethu, a bod yn ymunedig yn y cyfanwaith, os na all gydymgynghori a dibynnu ar arweinydd deallus, yr hwn a all wneuthur rhywbeth mwy na defnyddio ffon i gadw amser, trwy nodi'r tarawiadau yn y bar. Y mae yn amlwg, gan hynny, y dylai ein harweinwyr ieuainc gael cyfleusterau i addasu eu hunain fel arweinwyr galluog; a bod i'n safon gael ei dyrchafu yn y cysylltiad hwn. Yn Lloegr, ac ymhob gwlad arall, y mae ganddynt arweinyddion proffesedig, y rhai sydd gyfansoddwyr galluog; ac y mae y swydd yn cael ei llenwi gan gerddorion galluog ac addasedig, fel, yn absenoldeb y cyfansoddwr, y mae ei waith yn nwylo y fath ddynion na fydd un ofn i'w waith ddioddef oddiwrth ddiffyg dehongliad priodol. A'r rheol gyffredinol ydyw i'r cyfansoddwr gael ei wahodd i arwain y perfformiad cyntaf o'i waith, a chael ei dalu yn dda; ond yng Nghymru, fe gafodd cyfansoddwyr eu rhwystro i arwain, pan yn cynnyg eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim; ac y mae llwyddiant a thynged gwaith, a allai fod yn llafur bywyd y cyfansoddwr, yn cael ei adael o dan fatwn y fath arweinyddion ag sydd yn analluog i wneuthur cyfiawnder â'r gwaith sydd i gael ei berfformio, â'r artists ac â'r gerddorfa, ac nad yw yn anrhydedd i'r wlad a gynrychiolir."

Gyda'i "Emmanuel" wedi ei orffen, a'i "Nebuchadnezzar ar waith, y mae'n ddiameu fod Parry'n awyddus am gôr a cherddorfa i fod at ei wasanaeth—rhyw Bayreuth ar raddfa fechan; a naturiol tybio fod y posibilrwydd o hyn, at y pethau a enwyd o'r blaen, yn ffurfio un o brif atyniadau Abertawe iddo. Yr oedd cymdeithas gorawl enwog, sef y Swansea Choral Society, yn bod yno eisoes, dan arweinyddiaeth Silas Evans, ac yn gyfarwydd â pherfformio gweithiau goreu y prif feistri, ac efallai fod Parry'n lled-obeithio y celai hon i'w wasanaethu. Ond nid felly y bu, hyd yn oed pan symudwyd Mr. Evans gan. angeu yn Awst, 1881. Ond yr oedd Parry'n gyfarwydd â siomedigaethau erbyn hyn, nid yn unig ynglŷn â beirniadu ond hefyd ynglŷn ag arwain. At hyn y cyfeiria'n ddiau yn ei anerchiad: "ond yng Nghymru fe gafodd cyfansoddwyr eu rhwystro i arwain, pan yn cynnyg eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim"; felly y bu yn Eisteddfod Merthyr mewn perthynas ag arwain y perfformiad o "Emmanuel."

Tebyg iddo weld yn gynnar y byddai'n rhaid iddo ffurfio cymdeithas gorawl ei hunan, oblegid cawn "Gronicl y Cerddor" am Mai, 1881, yn dywedyd: "deallwn fod ym mwriad Dr. Parry i gychwyn côr undebol yn y lle." A hynny a wnaeth dan yr enw The Swansea Musical Festival Society. Tebyg mai ffurf ddechreuol ar hon oedd y côr a gasglodd i ganu ei "Hail! Prince of Wales!' o flaen y Tywysog yn Hydref, 1881. Am y partoad ar gyfer hyn edrydd Mr. David Lloyd yn dra diddorol: Gymaint oedd y brys ynglŷn â'r peth fel y dysgai Parry yn yr hwyr i'r côr yr hyn oedd wedi ysgrifennu yn ystod y dydd. Meddai ar allu neilltuol i ddysgu côr yn ei waith ei hun heb ond ychydig notes. Gwyddai ef y gwaith, a chanai ei hun rywfodd gyda phob llais. Cerddai i fyny ac i lawr yr alê gan ganu mor nerthol nes argraffu y nodau yn sicr a diogel ar gof y canwyr. Ar ol gweithio felly yn galed am awr a hanner neu ddwy awr—dywedai dan chwerthin—hyd fanna heno—instalment arall nos yfory.' Ni chawd y darn wedi ei argraffu hyd o fewn dau ddiwrnod i ymweliad y Tywysog, ond yr oedd Parry wedi llwyddo i gael y côr i ganu y gwaith mor dda nes creu syndod edmygol yn y miloedd y dydd hwnnw. Ac nid yw y rhai a'i clywodd wedi ei anghofio hyd y dydd hwn."

Cwyd "Cronicl y Cerddor" gwr y llen ychydig yn uwch: "Ar yr achlysur o ymweliad Tywysog a Thywysoges Cymru â'r dref yn ystod mis Hydref yr oedd y partoadau cerddorol yn dra helaeth. Ar ben yr heol newydd, Alexandra Road, arweinid côr yn rhifo dwy fil gan Mr. Harlington Jones, dilynydd Mr. Silas Evans—y darnau a ddatgenid oedd Anthem Tywysog Cymru' a 'Let the hills resound,' gan Mr. Brinley Richards (y cyfansoddwr yn bresennol ar y llwyfan), ac Ymdaith Gwŷr Harlech 'i eiriau llongyfarchiadol Mr. Manning. Ar y fynedfa i'r Docks ceid côr arall o tua'r un nifer o dan arweiniad Dr. Joseph Parry, a chanent ei ymdeithgan newydd Hail! Prince of Wales! Cynorthwyid y côr hwn fel yr un blaenorol gan nifer o offerynnau, ac ymysg yr olaf yr oedd seindorf enwog y Cyfarthfa, Merthyr. Yn y Neuadd Gerddorol cafwyd gan y Choral Society (Mr. Harlington Jones) y 'Creation (Haydn) un noson, a Chantawd Tywysog Cymru' (Owain Alaw) noson arall. Yn Singleton Abbey, lle yr arhosai'r Tywysog, chwareuid y delyn Gymreig gan Gruffydd, telynor cyffredinol Arglwyddes Llanover ac arbenigol ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru; chwareuid hefyd gan Seindorf y Cyfarthfa dan flaenoriaeth Mr. Livesey. "Wrth edrych drwy y program swyddogol o'r gweithrediadau uchod, syn gennym am absenoldeb dau enw—Dr. Parry ac Eos Morlais, un o'n prif gyfansoddwyr, ac arall o'n canwyr. Paham hyn?

Y flwyddyn ddilynol dechreuodd y gymdeithas ar ei gwaith o ddifrif. Yn y "Cambrian News" am Hydref, 1882, cawn yr hysbyseb:

"The Swansea Musical Festival Society.

Weekly Rehearsals, Monday, 8 p.m.

Mendelssohn's 'Hymn of Praise';

Also Woman of Samaria' (Bennett);

'Emmanuel.'"

Cynorthwyai'r gymdeithas yng nghyngerdd cyntaf y Coleg Cerddorol ddiwedd y tymor gaeaf (1882). Ni chyfyngai Parry, fel y gwelir, gylch y datganu i'w weithiau ei hun. Ni roddwyd "Emmanuel cyn Mawrth, 1884. Am y datganiad hwn dywed "Cerddor y Cymry": "Y mae yn amlwg fod Dr. Parry'n llafurio o dan lawer o anfanteision yn Abertawe. Y mae yno gymdeithas gerddorol gref, a sefydlwyd ac a ddygwyd i sylw gan y diweddar Mr. Silas Evans, ond sydd yn bresennol o dan arweiniad Eos Morlais yn dwyn allan weithiau o bwys yn flynyddol; ond nid y gymdeithas hon ddygodd allan waith Dr. Parry. Llafuriai côr Dr. Parry a'r gymdeithas gorawl felly ar wahân; ac fel cwrs naturiol, y mae yna fath ar gydymgais rhyngddynt, a chyda hynny dipyn o deimlad.

Yr oedd yn amlwg fod y côr yn y perfformiad hwn dipyn yn wan ac ansicr—y mae yn gofyn nerth mawr i ddatganu darnau o'r fath—ac onibai mai yr awdur bywiog a galluog oedd wrth y llyw, buasai y llong yn debyg o suddo ar rai o'r creigiau anodd eu morio yn y gwaith. Ond y cyfansoddwr oedd yn llywyddu, ac yr oedd yn bopeth i bawb yn y côr a'r gerddorfa. Ar yr un pryd, cafodd Dr. Parry gefnogaeth a derbyniad calonnog iawn, a rhaid fod ei galon yn llamu o lawenydd wrth weld y fath gynulleidfa yn ei longyfarch. Curent a chalonogent bob ysgogiad a symudiad o'i eiddo. Yr oeddynt lawer pryd yn rhy frwdfrydig; y mae yn bosibl i gyfeillion, drwy ormod sêl, niweidio yr hwn yr hoffent ei anrhydeddu. Yr oedd effaith amryw o'r symudiadau goreu yn y gwaith yn cael ei golli, i raddau, oherwydd curiadau traed a dwylo dosbarth o'r gwrandawyr, a hynny ar ganol darnau pwysig. . . .

"Er i amryw o rifynnau gael eu gadael allan, parhaodd y perfformiad am dair awr. Y mae hynny'n rhy hir i gynulleidfa gymysg, er i'r mwyafrif eistedd y cwbl allan." Y mae'n amlwg fod y côr cymharol ieuanc yn annigonol i waith o'r fath; dylasai gael côr o trained veterans, rhai wedi eu caledu yn gystal a'u hystwytho gan ddisgyblaeth. galed ac ymarferiad hir i ddal pwysau y fath ddatganiad. Buasai'r gymdeithas henach yn ddiau'n fwy addas i'r gwaith. Deuai rhai o'r aelodau hynny i helpu. Heblaw hyn cai Parry fenthyg nifer o ferched neu ynteu o fechgyn cyfarwydd o'r Tabernacl, Treforris, neu Siloh, Glandwr, fel y byddai'r eisiau. Y mae'n naturiol fod yna ryw gymaint o gydymgais rhwng aelodau dau gôr Abertawe, ond nid oedd rhwng y ddau arweinydd; sicrheir fi fod Eos Morlais bob amser yn barod i wneuthur popeth yn ei allu i gynorthwyo Dr. Parry. Diddorol sylwi yn y fan hon i Gor yr Eisteddfod Genedlaethol, 1891, dan arweiniad Eos Morlais, roddi perfformiad o'r gwaith "Emmanuel " yn un o gyngherddau'r Eisteddfod.

Ond os oedd y côr yn "wan ac ansicr," y mae'n amlwg fod Parry'n alluog a sicr fel arweinydd, a bod hyd yn oed y côr (os nad y gerddorfa) yn rhoddi mantais iddo ddangos ei nerth yn eu gwendid hwy. Meddai ef i raddau helaeth ond annibynadwy yn ei eiriau ei hun-"allu creol arweinydd sydd yn meddu grym atyniadol dros ei holl adnoddau lleisiol ac offerynnol." Yn ol y disgrifiad yna o arweinydd effeithiol, ni ellir arweinydd o bob cerddor, Crea y cerddor gyfuniadau o nodau cerddorol i fynegi ei ddrychfeddyliau, ond gwaith yr arweinydd yw atgynhyrchu y drychfeddyliau hyn mewn seiniau drwy gyfrwng personau cydnaws y rhaid iddo eu hatynnu, neu eu darostwng iddo ei hunan.

Perthynai Parry i linell Wagner a Berlioz o arweinyddion; nid rhai mohonynt hwy yn curo batwn pren mewn modd peiriannol y tu allan i'r côr a'r gerddorfa, ac nid rhai dysgedig a galluog i ddehongli yn unig chwaith; ond rhai a'u rhoddai eu hunain i ddrychfeddwl yr hyn a genid, ac a ddioddefai wewyr esgor newydd wrth geisio atgynhyrchu ei "seiniau tân a'i suon tyner" mewn eraill. Arferai Wagner stormio, hisio, cylchdroi, stampio â'i draed fel ynfytyn, ac yna wenu'n dyner heb braidd symud llaw na throed," fel y byddai'r galw—yn y rehearsals. "Pan fyddo yn gwestiwn o rehearsal gorawl," meddai Berlioz, y mae yna fath ar ddicter yn fy meddiannu; y mae fy ngwddf yn cau i fyny, a rhaid i mi sylldremu ar y cantorion fel y Gascon hwnnw a giciodd hogyn bychan diniwed, a phan feiwyd ef am hynny, am na wnaeth y bychan un drwg, a atebodd, Beth pe buasai wedi gwneuthur! Ond yna pan gaffai ddatganiad wrth ei fodd, methai gynnwys ei lawenydd. "Ah! chwi feirdd!" torrai allan, "nid oes llawenydd i chwi fel y llawenydd o arwain. Carwn gofleidio'r gerddorfa yn ei chrynswth." Meddai wrth Liszt: Meddyliwch am . . .allu chwarae ar orchestra, a chael dan eich llaw offeryn byw ac aruthrol." Yr oedd ei unoliaeth â'r gerddorfa, a'i feistrolaeth arni, rai prydiau mor hollol, fel y dywedodd Tywysog Almaenaidd wrtho, "Nid arweinydd yn unig mohonoch chwi—chwi yw'r orchestra hefyd."

Cafodd Parry brofi o'r gorfoledd hwn rai prydiau, er nad bob amser. Yr oedd naill ai y côr yn "wan ac ansicr neu ynteu byddai ef yn cael ei amddifadu o'r arweinyddiaeth, ac ambell i waith un anfedrus yn cael ei benodi i arwain. Yr haf wedi'r datganiad uchod o "Emmanuel" rhoddwyd ei "Nebuchadnezzar" yn un o gyngherddau Eisteddfod Lerpwl gyda medr a hwyl neilltuol. "Cafwyd perfformiad da ar y cyfan," meddai "Cerddor y Cymry," "a hynny dan arweiniad yr awdur galluog: y gerddorfa yn chwarae yn gampus a'r effaith yn dda. . . Cadwyd y gynulleidfa fawr mewn cyffro drwy'r amser: cafodd ei swyno a'i syfrdanu, ac ar y diwedd nid oedd neb yn gwybod paham. Rhaid cael gallu anarferol i wneuthur hyn. Cafodd yr awdur dderbyniad brwdfrydig, ac yr oedd yn ei haeddu."

Cafwyd perfformiad llwyddiannus o "Nebuchadnezzar" gan gôr Ebenezer (a'u cynorthwywyr) nos Calan 1885, dan arweiniad yr awdur.

Dywedir wrthym ei fod yn "mwynhau popeth a gyfansoddai." Ond y mae'n bosibl gwneuthur gormod o'r diffyg hwn ynddo. Yn y lle cyntaf, y mae pob arweinydd teilwng o'r enw—a phob aelod o'r côr, o ran hynny, a phob gwrandawr a ddaw i mewn i'r hwyl—yn ei afiaith pan yw ysbryd cyfansoddiad yn meddiannu'r cwbl, a phawb yn un â'i gilydd Daw elfen arall o bleser i mewn i gyfansoddwr pan fyddo'n arwain ei waith ei hun, pleser llai pur ond nid llai o bleser serch hynny, yn ol cryfder y fyfiaeth fo mewn dyn. Tebyg fod hon yn dra chryf yn Parry, fel mewn hogiau'n gyffredin, ond pwy sydd hebddi : "Yr wyf yn ofni," meddai'r Athro Edward Caird, un o'r dynion mwyaf pur ac aruchel ei ysbryd, "nad yw y teimlad mai ni sydd wedi gwneuthur rhyw waith byth yn ein gadael."

Heblaw hyn rhaid fod yna fwynhad hollol arbennig yn eiddo'r cyfansoddwr with atgynhyrchu eto unwaith ei ddrychfeddyliau mewn cwmni cydnaws a deallus, a gweld y lledrithiau delfrydol y bu ef mewn unigrwydd yn cwmnïa hwy yn gwisgo cnawd, ac yn ymddangos i eraill mewn gwisg drybelid o seiniau, a chael yr ymdeimlad "mai da oedd." Yr oedd Parry'n agored iawn i swyn cwmnïaeth felly, pan nad oedd cyfle i gôr; pan ai i Wyl y Tri Chôr i Henffordd nid ystyriai hi'n ormod trafferth i gludo rhyw waith mawr o'i eiddo yn ei gist deithio er mwyn cael ei ddatganu gyda'r ffrindiau yno; pan wedi gorffen rhyw gyfran o waith gartref, gyrrai at Mr. Tom Stephens a chyfeillion eraill i ddod yno i'w ganu; ac os na chaffai hynny, gwnai rhyw enethod fyddai'n digwydd galw yn y tŷ y tro i wrando ar ganu darn newydd ar y piano—a disgwyliai i bawb ddod i mewn i'w hwyl ef ei hun, a'i anghofrwydd o dreigl amser.

Yng Nghymanfa Ganu Llanelli mynnodd ganu y dôn a gyfansoddasai ar ol Mr. Haydn Parry, yn oedfa'r bore, a'r prynhawn, ac eto yn yr hwyr.

Ymgollai ef mor llwyr ym mwynhad y gerdd, ai gymaint yn un a llif awen, fel y diflannai ei sylwadaeth gyffredin, ac nid iawn ei farnu yn ol safon dynion llai awengar a mwy gwaedoer. Ynglŷn â pherfformiad o'r "Mab Afradlon" yn Aberystwyth, y gantores ieuengaf yn y coleg oedd y fam, a dyn tra ieuanc yn dad, tra y cynrychiolid y mab afradlon gan ŵr hanner cant oed, yn gloff o'i ddwy glin, ac eto a ganai am ddawnsio yn nhŷ ei dad. Ond "details"—chwedl Tanymarian—oedd pethau felly i Parry, ac nid ymyrrent yn y modd lleiaf â'i fwynhad o'r perfformiad.

"Methai lywodraethu ei hun weithiau," meddai Mr. D, Jenkins, "gan y fath londer oedd yn berwi drosodd pan yn partoi yn ogystal a phan yn arwain yn gyhoeddus." Gallem feddwl wrth y mwynhad, a'r awch, a'r ynni, a'i llanwai wrth berfformio rhai o'i weithiau, mai dyna'i brif bleser." Eto rhaid i ni gofio mai is—wasanaethgar i" gyflawni " ei weithiau fel cyfansoddwr—i roddi ffurf iddynt mewn "amser a lle" oedd hynny iddo ef. Daliai ymlaen trwy bopeth, ac ar waetha'r cwbl i gyfansoddi. Ond cyn dod at yr arwedd honno ar ei weithgarwch yn Abertawe, bydd yn gyfleus i ni yn y fan hon fwrw golwg ar ei ymdrechion llenyddol, gan eu bod yn troi yn bennaf o gylch y ddwy arwedd sydd wedi cael ein sylw eisoes, sef addysgiaeth gerddorol, a chaniadaeth gorawl.

Nodiadau golygu

  1. O'r "Geninen."