Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Rhagair
← Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903) | Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903) gan Evan Keri Evans |
Cofiant Artist → |
RHAGAIR.
Cymar yw'r Cofiant hwn i un D. Emlyn Evans: onibai i mi ysgrifennu hwnnw—a hynny nid ohonof fy hun—ni fuaswn erioed wedi breuddwydio am ysgrifennu hwn. Cefais dystiolaeth cerddorion ac eraill i gofiant Emlyn lenwi gwagle amlwg, ac y byddai cofiant i Dr. Parry yn wasanaeth pellach. Heblaw hyn, rhaid i mi gyfaddef fod atyniad i mi yn y syniad o wneuthur cofiant i artist—un nad oedd yn ddim arall. Credaf fod Cofiant Parry'n werth ei ysgrifennu ar y cyfrif hwn, yn annibynnol ar werth yr hyn a gynhyrchodd. Hoffwn i'r darllenydd ei gymryd fel y cyfryw, gan mai dyna'r rheswm fod cynifer o gyfeiriadau at artists eraill ynddo yma a thraw, lle'r oedd eisiau dwyn allan ryw arwedd neu nodwedd yn fwy llawn a chlir. Tra y mae nofelwyr yn disgrifio cymeriadau dychmygol, cawn yn Joseph Parry deip arbennig o anianawd a bywyd yn rhodio'r ddaear.
Eto, disgwyliwn gael mwy o gymorth ei ddisgyblion nag a gefais: nid oedd gennyf ddymuniad i fod yn fwy na dolen gydiol rhwng rhai ohonynt hwy. Ond nid pob cerddor a fedd ddawn lenyddol fel Dr. Protheroe: efallai y barna'r darllenydd fod ei ysgrif ef ar ran disgyblion Parry yn ddigon. Eto ni allesid gwneuthur heb sylwadau gwerthfawr Mr. J. T. Rees, Mus. Bac. ar gyfnod Aberystwyth. Cefais addewid am ysgrif gan un o ddisgyblion disglair cyfnod Caerdydd na chyflawnwyd mohoni.
Y tu allan i gylch ei ddisgyblion ceir ysgrifau gan ddau o safle cerddorol uchel—Mr. Tom Price yng Nghymru, a Mr. Cyril Jenkins yn Lloegr. Diau y crea ysgrif yr olaf lawer o syndod, os nad dicter, mewn rhai cylchoedd. Eto y mae ganddo hawl i siarad ar gyfrif ei allu diamheuol, a'i safle uchel yn Lloegr, a dylasai ei sylwadau o leiaf ein symbylu i feddwl. Ar y llaw arall y mae i ni gofio bod oes o adweithiad bob amser yn condemnio'r oes flaenorol, ac nad yw ei barn yn derfynol. Rhydd Moderniaeth mewn Cerdd le uwch i'r deallol nag i'r teimladol; yn ol un beirniad cerddorol, nodweddir yr oes gan "disdain for eloquence." O safbwynt ysbryd yr oes yn unig y gallwn gysoni opiniwn Mr. Jenkins ag eiddo eraill yn y Cofiant nad ydynt nac yn ddiddawn nac yn ddiddysg. I gerddor o safle Sir Frederick Bridge y mae mynd i gyngerdd heddyw'n fwy o boen nag o bleser, meddai ef. (Gweler Pennod XXV ar hyn.)
Cefais ganiatâd caredig Mr. L. J. Roberts, M.A. i ddefnyddio'i ysgrif ar Dr. Parry a ymddangosodd yn y "Geninen," a chaniatâd parod perchenogion (neu olygyddion) "Y Cerddor Cymreig " a'r "Cerddor," "Y Geninen," "Baner ac Amserau Cymru," y "Drych," a'r "South Wales Weekly News," ddyfynnu ohonynt hwy. Bûm yn ffodus i gael dau ŵr o ganfyddiad a gallu cerddorol a llenyddol—Mr. David Lloyd, Killay, a Mr. E. R. Gronow, Caerdydd—i roddi hanes dyfodiad Dr. Parry i Abertawe, ac i Gaerdydd.
Y tu allan i'r ysgrifau rhaid i mi gydnabod fy nyled, ymlaenaf oll, i Mr. a Mrs. Waite (Wolverhampton), merch Dr. Parry, a'i phriod, am fenthyg llawer o'i bapurau. Deuthum o hyd i'w cyfeiriad drwy gynhorthwy caredig Mr. a Mrs. Horatio Phillips, Femdale, a phe buasai ffawd wedi fy arwain atynt yn gynt, arbedasai lawer o'r drafferth a'r amser a gymer i archwilio cannoedd o gyfnodolion a newyddiaduron. Efallai mai'r trysor goreu a gefais oedd yr Hunangofiant, er mai gwaith trafferthus oedd ei ddarllen—yn hytrach ei ddehongli—a'i gyfieithu. Ceir gwahanol adrannau hwn ar ddechreu'r gwahanol benodau lle y perthynant—mewn llythyren wahanol, fel y gallo'r darllenydd ei ddarllen drwodd i'r diwedd os myn. Drwg gennym na chafwyd y "rhestri" o weithiau y cyfeirir atynt yn yr Hunangofiant ymysg ei bapurau. Yr hyn a allodd Mrs. Mendelssohn Parry (Hannah Jones), hi a'i gwnaeth.
Cefais bob hwylustod i archwilio llyfrau a chofnodion, a phob help a geisiwn gan y Prifathro J. H. Davies, M.A., a Mr. J. Ballinger, M.A., Aberystwyth; Mr. D. R. Phillips, Abertawe; a'r Parchn. T. C. Edwards, D.D. (Cynonfardd), a D. M. Davies, Abertawe. Cefais ganiatâd parod Mr. D. J. Snell, Abertawe, i archwilio MSS Parry sydd yn ei feddiant ef. Drwy Dr. Protheroe, cafwyd gan Mr. Ted Lloyd, Utica, a nifer o'i gyfeillion, i archwilio'r "Drych" am y cyfnod 1860—1868. Yn y wlad hon cefais help Mr. Alban Davies a Mr. David Jones (yn Aberystwyth), a fy mab Emrys (yn Llundain) i archwilio, a darllen, a chymryd nodiadau.
Am fenthyg llyfrau yr wyf yn ddyledus i Mrs. Denzil Harries, Caerfyrddin, a fy chwaer, Brynderwen, Castellnewydd Emlyn; hefyd i'r Parch. D. T. Glyndwr Richards, B.A., B.D., Mr. Dunn Williams, G. & L., a Mr. John Morris, Caerfyrddin; ac am hanesion, etc. am Dr. Parry i'r Parchn. T. C. Edwards, D.D., H. Elfed Lewis, M.A., D. C. Williams, St. Clears; a Mri. Tom Price, David Lloyd, Conwil Evans, a D. Morgans (Cerddwyson). Cefais hefyd fenthyg darlith Mr. Price ac ysgrifau Mr. Morgans ar Dr. Parry.
Fel gyda chofiant Emlyn bum yn fíodus i gael help un yn cyfuno caredigrwydd cyfartal i'w wybodaeth helaeth o Gymraeg hen a diweddar yn y Parch. Dyfnallt Owen. Darllenodd a chywirodd y proflenni, ac awgrymodd lawer o welliannau. Iddo ef, a darllenydd y swyddfa argraffu, y mae'r clod yn ddyledus am gymaint o lendid oddiwrth wall a mefl a berthyn i'r Cofiant.