Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)/Y Llyfr Tonau Cenedlaethol

Y Llenor Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903)

gan Evan Keri Evans

"Virginia," "Nebuchadnezzar," "Arianwen"

XVII. Y Llyfr Tonau Cenedlaethol.

HYSBYSA Dr. Parry mewn cylch-lythyr yn 1898 fod ei Lyfr Tonau Cenedlaethol ar ol pymtheng mlynedd o lafur yn barod i'r wasg, a'i fod wedi ei amcanu fel cydymaith neu ychwanegiad cenedlaethol "i'r casgliadau eraill oedd ar y maes eisoes; ac y dibynna cyhoeddiad y llyfr ar yr atebion dderbynnir oddiwrth bwyllgorau yr holl gyfundebau, sef yr Eglwys, y Bedyddwyr, y Methodistiaid, y Wesleaid, a'r Annibynwyr."

"Ar ol pymtheng mlynedd o lafur": os felly dechreuodd ar y gwaith yn 1883, nid yn yr ystyr, bid siwr, na chyfansoddodd lawer o donau cyn hynny, ond mai y pryd hwnnw, drwy gymhelliad Dr. Rees, y meddiannwyd ef gan y syniad o Lyfr Tonau Cenedlaethol, ac yr ymrodd i'w gynhyrchu[1] (a'i atgynhyrchu). Cynnyg newydd ar eu dwyn allan—yn awr yn orffenedig yn unig a geir yn y cylch-lythyr uchod; canys dechreuodd gyhoeddi ei donau dan yr enw "Llyfr Tonau Cynulleidfaol Cenedlaethol Cymru " yn 1887, ac ymddangosodd pedwar rhifyn. Ynglŷn â hwnnw dywed ei fod ers blynyddoedd wedi amcanu partoi 'Llyfr Tonau Cenedlaethol i'r Cymry,' ac wedi cyfansoddi ugeiniau o donau ar wahanol fesurau angenrheidiol, a bod ganddo dri amcan arbennig, sef, cyfansoddi tonau o arddull Cymreig, llawn o dân a mawl Cymroaidd ; dwyn i mewn i ganiadaeth y cysegr elfennau mydryddol eraill, er mwyn dwyn amseriad darlleniadol mwy amrywiol o'r emynau; a nodi pob llinell a syniad yn yr emyn, er ennill unffurfiaeth ac unoliaeth yn natganiad a darlleniad y dôn a'r emyn.

Yn un o'i ysgrifau yn y "South Wales Weekly News yng nghwrs y flwyddyn hon (1887), wrth gyfeirio at ei lyfr, sieryd Parry gyda chymeradwyaeth am Lyfr Emynau Thomas Gee fel casgliad cenedlaethol, a dywed fod ei Lyfr Tonau ef ei hun—yn yr arddull cenedlaethol—yn un a fwriedir i gyfateb yn gerddorol iddo, yn fath ar gyfaniad cerddorol arno. Erbyn 1898, gwelir fod yr uchelgais hwn wedi cael ei gymedroli'n fawr yn lle bod yn gyfaniad (complement) i Lyfr Emynau Gee, golyga i'w Lyfr Tonau fod yn atodiad (supplement) i'r Llyfrau Tonau oedd yn bod eisoes.

Yn ei feirniadaeth ar y rhifyn cyntaf yng "Ngherddor y Cymry," gesyd Alaw Ddu ei fys yn ddeheuig ar wendid canolog y syniad cyntaf uchod:

"Ni fuasai ond cawr o ddyn yn meddwl am y fath idea a hon—cyfansoddi llyfr cyfan o donau cynulleidfaol! Digon hawdd i gerddor o ymarferiad a gallu gyda thalent y Pencerdd, i gyfansoddi ugeiniau o donau cynulleidfaol; ond peth arall yw cynhyrchu rhai â digon o fywyd ac individuality ynddynt i fyw. Un peth yw cyfansoddi, peth arall yw cynhyrchu tonau. Y mae eisiau llyfr tonau cenedlaethol, hynny yw, un a fydd at wasanaeth y genedl Gymreig, ac nid enwad; ond ni all hwnnw fod yn gynnyrch un meddwl, onide[2] celfyddydol ac arwynebol o angenrheidrwydd a fydd."

Nid yw y syniad ond enghraifft arall o duedd yr awdur i gymryd ei gario gan ryw uchelgais mawr, heb arfer barn o gwbl yn y mater; yn wir ni arhosai—drwy fyfyrdod a darllen yng nghwmni'r syniadau sy'n angenrheidiol i ffurfio barn. Pe buasai wedi ymgydnabyddu â'r syniad o "Unoliaeth mewn Amrywiaeth "mewn cyfnodolion neu ynteu yn y paragraff "Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd," ac aml i baragraff arall, cedwid ef rhag y fath gamhyder ynddo ei hun. Yn sicr, yr oedd Alaw Ddu yn nês at fath uwch ar fawredd pan yn dywedyd, "Ni all un cyfansoddwr wneuthur mwy na hanner dwsin o donau gwir dda ac uchel mewn oes hir"; neu Emlyn pan yn sôn am fenter Ambrose Lloyd yn rhoddi pump a deugain o'i donau yn "Aberth Moliant": "Experiment cynnil i'r mwyafrif o'n cyfansoddwyr fyddai gwneuthur yr un prawf;" gan ychwanegu na fydd rhai ohonynt, "efallai"—allan o'r fath nifer pa gyfansoddwr all obeithio yn amgen—yn ddim ond 'creatures of a day.'"

Ac felly y trodd hi allan gyda Parry. Yn ol yr Athro D. Jenkins nid yw mwyafrif ei donau "ond eco gwan o ddwsin o'i rai goreu." Ac meddai "Cerddor y Cymry" am y rhifyn gyntaf: "Y mae dwy ar bymtheg o donau, un salm—dôn, ac un anthem yn y rhifyn cyntaf hwn; ac fel y gallesid disgwyl, y mae yn eu mysg rai tonau o'r dosbarth blaenaf. . . . O ran yr amrywiaeth melodawl a nwyfus sydd yn rhedeg drwy'r holl leisiau . . . y mae Dr. Parry'n ardderchog. Ond ei ddiffyg yn ei donau, fel rheol, yw diffyg cyfoeth, defosiwn, ac urddas. Y mae yma ddiffyg amrywiaeth hefyd."

Yr oedd y llyfr hefyd i fod yn un cenedlaethol yn "y arddull Cymreig, ac yn llawn tân Cymroaidd." Ar y mater hwn eto, cymerai rhai cerddorion Cymreig eraill olwg wahanol. Ar hyn dywed Emlyn yn "Ỷ Cerddor":

"Nid condemnio naturioldeb a symlder ydym, ond yn hytrach o lawer eu cefnogi. Y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng yr hyn sydd yn syml a naturiol, a'r hyn nad yw ond masw ac arwynebol; rhwng yr 'Hen Ganfed,' 'French,' ac 'Wyddgrug,' er enghraifft, a'r tonau diddim nad oes eisiau eu henwi, sydd yn gynwysedig o ychydig felysion wedi eu sefydlu ar gordiau y Tonydd, y Llywydd, a'r Is—lywydd; neu o ddilyniadau gwylltion nad ydynt na thôn, na chytgan, na chanig. Mae y wir dôn gynulleidfaol yn naturiol ei melodi, ei diweddebau a'i chynghanedd yn amrywiaethus a chyfoethog, a'r teimlad fydd yn rhedeg drwy yr oll yn ddefosiynol ac addolgar.

"Ein perigl ni yn awr . . . yw llithro'n ol, mynd i'r anialwch ar ol asynod gwylltion . . . Trueni fyddai i ni yn y dyddiau hyn ddadwneud yr hyn gyflawnwyd mewn cyfeiriadau diwygiadol gan ein rhagflaenwyr; os felly bydd, nid yn unig daw yr ysbryd drwg a daflwyd allan yn ol, ond daw â rhai eraill gwaeth gydag ef, a bydd ein sefyllfa yn fwy gresynus nag erioed."

Eto y mae adolygiad Emlyn ar y rhifyn cyntaf o'r Llyfr Tonau yn y "South Wales Daily News" yn ffafriol iawn—yn ddigon ffafriol i Parry ei drysori yn ei scrap-book.

Am donau Parry dywed Mr. Jenkins eto:

"Y mae yna donau rhagorol gan Dr. Parry, ond fod gormod o'r elfen faledaidd ynddynt, a'u bod yn rhy debyg i'w gilydd. Fel cynganeddwr alawaidd i'r holl leisiau yr oedd Parry yn ddiguro—gweler ei gynganeddiad o'r dôn "Alexander" a thonau eraill—mae yr holl rannau mor ganadwy (vocal) ac nid yn offerynnol, er hyn llithrodd i efelychiadau plentynnaidd Wm. Owen, Prysgol, etc." Alaw Ddu eto:

"A osodir gwin newydd (wel, nid newydd iawn) mewn hen gostrelau? Os gwneir, beth fydd y canlyniad? Cyfansoddodd y diweddar J. Ambrose Lloyd y dôn 'Wyddgrug' ar y cyntaf, yn yr arddull efelychiadol, catiog hwn; ond fel yr oedd addysg gerddorol yn ymeangu, a goleuni gwell yn tywynnu ar ein cenedl annwyl ni, ail— drefnodd hi, gan ei gwisgo mewn dillad newydd— cynghanedd syml, urddasol, a chyfoethog—ei diwyg bresennol yn llyfr Gwyllt."

Sieryd Mr. L. J. Roberts gyda mwy o gydymdeimlad : ac y mae ei sylwadau ar "Aberystwyth " yn gyfryw ag y rhaid i bawb gytuno â hwy:

"Nid oes neb o'n cyfansoddwyr wedi ei feddiannu yn fwy llwyr ag ysbryd yr hen donau Cymreig; anodd yn wir yw gwahaniaethu rhai o'i donau, o ran naws ac arddull, oddiwrth hen donau Cymreig sydd wedi treiglo i lawr o oes i oes. Y mae amryw o'i donau wedi dod mor gynefin i ni a'n bara beunyddiol. Nid oes un dôn—hyd yn oed ymysg ein hen alawon—yn fwy adnabyddus yng Nghymru na'i don fendigedig 'Aberystwyth.' Yn ei ffurf a'i harddull y mae hon yn gynllun o'r emyn—dôn ar ei goreu. Y mae'r alaw yn codi ac yn disgyn yn rhwydd ac yn syml, o ris i ris, heb un naid drwsgl; ac ni anurddir y gynghanedd gan un cord anghyffredin neu ddieithr. Sylwer mor syml yw y frawddeg gyntaf, ac fel y canlynir hi gan yr ail frawddeg fel rhyw gysgod iddi. Yna ail genir y frawddeg gyntaf, ac atebir hi gan linell hynod o syml a rhwydd. Ar ol hyn ceir amrywiaeth hapus daw drychfeddwl newydd yn y bumed linell, a rhoir pwylsais neilltuol arno drwy ganu yn y llinell nesaf yr un alaw dri nodyn yn uwch; ac ar ol cyrraedd teimlad angherddol yn y frawddeg nesaf terfynir yn syml a defosiynol gyda'r frawddeg ganwyd gyntaf yn y dôn. Gwelir yr un nodweddion yn y lleisiau eraill; a cheir rhyw swyn rhyfedd yn y dôn drwy yr ieuad cydnaws rhwng y melodi a'r gynghanedd. Anodd meddwl faint yw dylanwad Joseph Parry drwy y dôn hon yn unig fel ffynhonnell cysur ac hapusrwydd i filoedd o bobl : ddydd ar ol dydd, a nos ar ol nos, cyfyd ei halaw i'r nefoedd o wely unig cystudd, mewn lleoedd anghysbell fel mewn cynulleidfaoedd llawn, ymhob cwr o'r byd."

"Credai Parry," meddai Mr. David Lloyd, "lawer mewn teimlad. Ystyriai ef fel peth yn codi o ddyfnder natur dyn, ac nid fel peth arwynebol. Ysgrifennai gyda'r amcan o gynhyrfu y ffynhonnau dyfnion hyn, ac ychydig iawn o flas a gafael gaffai ar donau sychion, dideimlad. Cof gennym amdano yn arwain cymanfa ganu yn yr Albert Hall; ac fel y bydd rhaglenni cymanfaoedd canu yn gyffredin, yr oedd hon yn dra llawn o gynhyrchion lleol heb fawr o oleu na gwres ynddynt. Troai ddail y rhaglen yn ymchwilgar ond à golwg lled siomedig ar ei wyneb. Eithr yn y man wele y 'Delyn Aur' yn dod i'r golwg, ac fe newidiodd ei wedd. 'Yn awr,' meddai, dyma dôn Gymroaidd ei hansawdd a'i mynegiant, y fath ag a symuda enaid Cymro at y gwaith uchaf.' Cawd amser mawr wrth ei chanu. Yna meddai, Gallwn fyw am beth amser yn awr ar fare lai.' Credai Parry yn null yr hen Gymry o ganu fel y cynhyrfid hwy gan yr Ysbryd Glân yn y diwygiadau crefyddol."

Ni roddir y golygiadau hyn am y barnwn fod y naill na'r llall yn derfynol ar y mater; ond am eu bod yn rhai y rhaid i'r cerddor newydd eu hystyried a'u prisio, ac, o leiaf, yn dangos y dylanwadau oedd yn gweithio yn amgylchfyd Parry. Rhaid fod ynddo ogwydd cryf at yr arddull Cymreig, neu ynteu ganfyddiad a'i meistrolai o'i swyddogaeth a'i hawliau, cyn y buasai'n para am gynifer o flynyddoedd i'w feithrin, a hynny yn wyneb llif barn prif gerddorion ei wlad o'r Millsiaid i lawr.

Yr ydym wedi gweld eisoes iddo gymryd at ysgrifennu cerddoriaeth syml a chanadwy, yn ystod tymor Aberystwyth, er mwyn gwasanaethu'r bobl. Efallai nad oedd y cymhelliad hwn yn absennol o'i waith yn pleidio yr arddull hwn, nid am ei fod yn syml a melodaidd, ond am ei fod yn fwy sensuous, neu anianol, ac felly yn gyfrwng moliant mwy naturiol i'r rhai na sydd eto—fel ar adegau o ddeffroad—yn gallu canu â'r ysbryd. Efallai hefyd a hyn sydd fwyaf tebygol—nad oedd yna unrhyw gymhelliad yn dibynnu ar olygiad o fath yn y byd, dim ond greddf gerddorol, a gogwydd cryf wedi ei etifeddu oddiwrth ei fam, a'i feithrin ym more oes, ac efallai'n ddiweddarach yn 1859-60.

Bid a fynno am hynny, y mae eu lle i'r math yma ar donau ar lefel arbennig o brofiad ysbrydol, ac i fesur, ar bob lefel, er iddynt gael eu condemnio o gadair yr Undeb Cynulleidfaol Seisnig, a chan arm-chair musicians eraill. Y gwir yw, y dylasai y cerddorion a gyfansodda neu ynteu a feirniada donau y bobl, adael eu cadair freichiau'n amlach, a mynychu nid un math ar wasanaeth crefyddol—a hwnnw fel rheol yn un respectable ffurfiol, ac oer, ond pob math ar bob lefel, fel ag í brofi yr amrywiaeth dylanwadau sydd yn gweithio y tuallan i'w rhigol hwy.[3] Gwn am un athro llenyddiaeth yn yr Alban ag yr oedd ganddo wrthwynebiad i ddarllen ysgrifau yr efrydwyr ar wahanol faterion llên, am fod eu harddull clogyrnog hwy'n cyffredineiddio ei un perffeith-gwbl ef! Beth bynnag yw lle dandy fel yna yn y byd llenyddol, nid oes iddo le yn Nheyrnas Nefoedd, ac ni ddylasai fod iddo le ynglŷn â chyfansoddi tonau y Deyrnas.

Bid siwr, y mae yna beryglon amlwg ynglŷn â gwasanaeth o'r fath. Dywed Rowlands Llangeitho mai un o anawsterau ei fywyd ysbrydol oedd llawenhau heb fynd yn ysgafn "too far East is West." A theimlodd Parry yr un anhawster ynglŷn â'i gerddoriaeth. Diau iddo rai prydiau syrthio islaw safon yr hyn a elwir yn "urddas" y cysegr, er na olygai ef hynny. Mewn ysgrif y dyfynnwyd ohoni eisoes dywed "mai y deml o bob lle a deilynga y pur, y coeth, yr aruchel, a'r gelfyddyd uchaf," a chan ei fod hefyd yn bleidiol i'r "arddull Cymreig," y mae'n dilyn y barnai ef ei bod yn bosibl cael "y pur, y coeth, yr aruchel" y tu mewn i'r arddull hwnnw, hynny yw, mai cyfrwng mynegiant o fath gwahanol ydyw, ac nid o ansawdd is, o angenrheidrwydd.

Fe weddai i ni gofio hefyd, ei bod yn bosibl codi uwchlaw yr hyn a elwir yn "urddas," fel y mae'n bosibl syrthio islaw iddo yn fwy cywir, y mae yna urddas ac urddas. Fe ddaeth yr amser pryd yr oedd yna brotest yn angenrheidiol yn erbyn y tonau amrwd a chwerthinllyd oedd mewn bri yn ystod hanner gyntaf y ganrif ddiweddaf—protest a gafwyd yn nhonau a llyfrau tonau y Millsiaid, Ambrose Lloyd, ac Ieuan Gwyllt; eto y mae'n dra sicr fod yna lefel o addoliad yn bod sydd yn uwch na'r hon a eilw Alaw Ddu yr un "urddasol," neu ynteu lle y mae yr hyn a ddeallwn ni wrth "urddas" yn cael ei golli—nid mewn rhywbeth is ond mewn rhywbeth uwch. Y mae yna fath ar "lawenydd anhraethadwy a gogoneddus" yn bod sydd yn gadael "urddas" y gwasanaeth eglwysig arferol yn anfeidrol ar ol yng nghymdogaeth iseldiroedd y cnawd, fel peth rhy negyddol, a rhy stiff a di-waed i ddringo i'r bannau. Nid fod y moliant yn an—urddasol, ond ei fod uwchlaw y gategori honno'n gyfangwbl. Dywed Paul am ryw bethau "na enwer chwaith yn eich plith," am nad ydynt yn perthyn i'r byd newydd yn yr un modd nid lle i sôn am "urddas" yw tŷ y Tad pan ddaw'r mab afradlon adref, pan syrthia'r naill ar wddw'r llall, a phan " ddechreuant fod yn llawen." Chesterton, onide, sydd yn dywedyd fod Duw'n gallu chwerthin, ac y mae hyd yn oed Ysgotyn sych—athronyddol fel Fairburn yn sôn am y nefoedd fel yn llawn the music of multitudinous laughter and tears."

Cyfansoddai dôn bob Sul, ond dengys y dyddiadau wrth y tonau ei fod yn cyfansoddi rai prydiau'n amlach na hynny, fel pe byddai un dôn yn mynnu dwyn chwaer neu ddwy gyda hi; a gobeithiwn hefyd ei fod rai prydiau'n cyfansoddi'n anamlach na phob Sul. Fodd bynnag, gwelir ôl yr ymgais ar y tonau; y maent yn rhy debyg i'w gilydd, fel standardized goods. Ys dywed Alaw Ddu, peth rhwydd i un o allu Dr. Parry oedd cyfansoddi; peth arall yw cynhyrchu; rhaid i bethau byw gael eu geni, nid eu gwneuthur.

Er y sieryd yr Alaw braidd yn ddiystyrllyd hefyd am rai o anthemau Parry, y rhai oedd yn ffrwyth ymgais i roddi cyfryngau moliant syml a chanadwy i'r bobl; dywed yr Athro Jenkins am ei anthemau cyntaf: "Crewyd cyfnod newydd yn hanes cerddoriaeth gysegredig Cymru pan gyhoeddwyd y 'Chwech o Anthemau'; ac y mae Yr Arglwydd yw fy Mugail' yn em ddisglair, na lwyddodd un cyfansoddwr Seisnig, tramor, na Chymreig wneuthur cystal."

Yr oedd yn un o anianawd ddefosiynol, ond ar hyd rhodfeydd cerddorol yn bennaf yr ai ef i gyfarfod y Brenin. Dywed Mr. Lloyd y byddai'n aml yn tywallt ac yn sychu deigryn dan ddylanwad hwyliau Dr. Rees, a rhwydd gennym gredu y byddai hynny'n cyffwrdd ag ef, ac yn dwyn ei sylw'n gaeth. Ond fel rheol nid oedd yn wrandawr astud, yn ol tystiolaeth rhai a'i gwelai'n gyson, ac oherwydd eu diddordeb ynddo, a'i gwyliai yn ystod y gwasanaeth. Os na fyddai rhyw apel eithriadol at ei deimlad, byddai ei feddwl ef ymhell o dref, a dangosai ei absenoldeb drwy ganiatâu i'w law chwith flino a thynnu bys bach ei law dde, fel pe byddai'n ei ddwyn drwy ymarferiadau fel yr eiddo Schumann i geisio 'i wneuthur yn fwy, neu ynteu'n fwy hyblyg.

Er yr anogir ni i weddïo bob amser â phob rhyw weddi, yn ol barn rhai, nid prawf o'r defosiwn uchaf yw ei waith yn dwyn gweddi i mewn i gynifer o'i weithiau, megis Ar don o flaen gwyntoedd," "Y Pererinion," "Y Bradwyr," ""Y Bachgen Dewr," "Y Mynachod," "Cytgan y Derwyddon," "Cambria," "Ceridwen," a'r rhan fwyaf o'i brif weithiau; ac yn arbennig ei waith yn gwneuthur i'r dorf yng ngolygfa "yr Eisteddfod" yn Opera "Y Ferch o Gefn Ydfa" i ganu "Crugybar." Yn sicr, y mae ysgaru rhwng geiriau gweddi neu emyn a'u hamcan addoliadol, gan eu gwneuthur yn gwbl is—wasanaethgar i amcanion dramayddol yn mynd â ni'n agos iawn at lygru llestri'r deml.

Nodiadau golygu

  1. Yn ôl ysgrif o'i eiddo yn y "South Wales Weekly News" (Tachwedd, 1887): "The writer is now devoting much of his time to composing, compiling, rearranging and better combining hymns and tunes. He is reviving the purely old Welsh Chorale, and expanding and maturing the true Welsh spirit by collecting and arranging all the old Welsh tunes, and composing many of his own in all metres in the same spirit, style, and devotional warmth. In short, he is getting up a national tune book for Wales." 147
  2. Yn yr ystyr o artificial.
  3. When one has seen the exaltation of Copt and Arab in religion, when one has heard the great choric voice of Russia at church, and the splendid purposeful faith of Teutonic hymns, one knows that a calm singing of Praise to the Holiest in the height' is not the only mode of praise."—Stephen Graham yn "Children of the Slaves," tud. 85.