Cofiant Hwfa Môn/Pennod I

Rhagarweiniad Cofiant Hwfa Môn

gan Rhys Jones Hughes


golygwyd gan William John Parry
Pennod II


Pennod 1.

FEL CYMERIAD CYMREIG

GAN Y PARCH. RHYS J. HUWS.

PLENTYN y 'wlad,' y cysegr, a'r eisteddfod oedd Hwfa Môn, ac felly, bu dan rym y tri dylanwad cryfaf ar fywyd Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Magwyd ef yn Môn hudolus, pan yr oedd John Elias a Goronwy Owen yn teyrnasu ar uchelgais gwlad. Yr oedd hyawdledd pregethau y naill, a swyn cywyddau'r lall yn gyfaredd gwerin y pryd hynny; ac er swyn corn hela'r uchelwr, ac er cryfed y demtasiwn i drin "daear dirion" Môn, yr efengyl a'r gynghanedd oedd hud y bobl yn nhymor mebyd Hwfa. Cymry uniaith, gan mwyaf, oedd y Monwysion yr adeg yma, a bu dylanwad Elias a Goronwy yn fawr ar lafar y wlad. Trethodd y pregethwr holl adnoddau'r iaith i ddisgrifio nef ac uffern, purdeb a phechod; a gweuwyd llawer o ansoddeiriau lliwgar y prophwyd i mewn i iaith y bobl; ac y mae'n ddiau i fin a thlysni Cymraeg Goronwy gadw'n fyw lawer priod—ddull tlws yn nhafodiaith y sir. A phan ychwaneger ddarfod i'r ddau ddenu'r werin i ddarllen y Beibl, nid rhyfedd fod y fath rym a graen ar Gymraeg yr ynys. Ac yn wir, y mae Cymraeg cryf, seinber, yn nodwedd amlwg ym mhob pregethwr mawr a godwyd ym Môn o ddyddiau Elias hyd yn awr. Dysgodd Hwfa Gymraeg Môn pan oedd y dafodiaith yn arf wedi ei loywi gan athrylith ddisgleiria'r wlad, ac er i'r ysfa am fathu geiriau ddifwyno llawer ar ei arddull, y mae arogl Cymraeg pêr ar ei waith, er yr holl afraid i gyd. Yr oedd yn ddihefelydd am yngan y Gymraeg. Pwy a allai ruglo ll' ac' ch' fel Hwfa Môn ? ac mor òd o felus y llithrai dros lafariaid yr hen iaith! Megis dwndwr nant y mynydd yn erbyn cymal o graig, ydoedd ei barabliad o glec a gwrthglee y gynghanedd yn y fèr awdl' ar agoriad yr Eisteddfod. Gorchwyl pur hawdd a fai dangos drymed yw cysgod y wlad dros ganu'r beirdd Cymreig, a phob math ar lenydda diweddar. Nid yw bywyd y ddinas fawr yn ei ruthr ofnadwy wedi ei farddoni yng Nghymru eto, a hynny am nad yw wedi ei fyw yma, canys cyfyd canu cenedl o'i bywyd mor naturiol ag y tyf glaswellt gwlad o'i daear. Yr oedd meddwl Hwfa, fel y mwyafrif o feirdd Cymru, wedi ymlinynnu mewn dwyster, cyfriniaeth, ceidwadaeth a rhyw ddiffyg cywirdra rhyfedd; a phriodolwn hyn i raddau pell i ddylanwad y wlad—yn arbennig nos y wlad, ar ei ddatblygiad. Yn wir, ni cheir nos yn y dre' boblog, canys llewyrcha'r nwy yno cyn machlud haul a llysg hyd godiad gwawr ymron; ac yn lle hwyrnos dawel tyr swn gorhoian ac wylofain cymhlith, beunos ar glyboedd y trefwr.. Ond yn y pentre' gwledig, mwynheir lledrith y llwydoleu yn swn ofergoel a chân heb gymaint a chanwyll frwyn mewn gwrthryfel a'r gwyll. Gyda'r nos daw llanw'r ysbrydol i'r wlad, bydd gwersyll o ysprydion ym mhob perth, a gwylliaid annaearol ym mhob ceunant, ac o bydd raid ymdaith i bell ym min hwyr ceisir cwmni'r ci i gadw'r ysprydion draw. Dyna nos Môn pan oedd Hwfa'n blentyn, a phan gofiwn i'w ddychymyg byw droi twmpathau'r wlad yn breswylfeydd angylion lawer tro, gallwn yn hawdd gyfrif am ymchwydd rhai rhannau o'i "Owain Glyndwr." Ond os yw nos y wlad yn meithrin rhyw gyfriniaeth afiach mewn rhai meddyliau, y mae yn creu parchedigaeth ofnus ym mron y bardd, ac yn dyogelu ffresni'r byd iddo. I Hwfa yr oedd y tywyllwch yn dwyn Môn yn ei freichiau i'r tragwyddol bob nos, a'r wawr yn ei dwyn hi'n ol bob bore yn ieuanc fyth." Yn nyddiau ei febyd ef, dyeithriaid a phererinion oedd mân reolau'r Cyngor Dinesig ym mhentrefi tlysion Môn—wrth reddf ac nid wrth ddeddf y gweithredid yno gynt. Ychydig o feddwl cynllungar a chlós oedd yn eisieu, ac nid oedd yr hyn a elwir genym heddyw yn broblemau cymdeithas yn wybyddus y pryd hwnw, fel nad oedd nemor alw am wyddor nac athroniaeth i chwilio am "natur pethau." Yr unig rai oedd wedi dechreu "aethu" pethau yr adeg yma oedd y difinyddion a thra yr oeddynt hwy ym mynych son am dadolaeth, etholedigaeth, brawdoliaeth a llawer aeth arall, am dad, dewis, a brawd y soniai y werin, ac yn y dull hwn o feddwl y meithrinwyd deall Hwfa—yr hyn yw dweyd mai bardd oedd. Gwyddis fod y wlad yn enwog am ei charedigrwydd, ac fel rheol, rhai tirion, tyner, yw ei phobl; ond ni fagwyd mewn gwlad erioed garediccach Hwfa Mon. Yr oedd ei natur yn oludog o deimlad, a da y gwyr ei gyfeillion gynesed oedd ei groesaw, ac mor òd o glwyfus oedd ei siom—er mai gwaedu 'n gudd a wnai ef bob amser dan archoll. Wrth edrych dros gynnwysiad ei gyfrolau yr hyn a'n tery fwyaf yw y nifer fawr o englynion cyfarch a beddargraff a geir ynddynt. Tybiwn nad ysgrifennodd yr un bardd Cymreig gynnifer o honynt ag efe. Yr oedd ei ddeigryn yn crisialu 'n englyn ar lan bedd, a'i wên yn troi'n glec groesawol mewn neithior. Pwy a rydd i lawr sawl darn o ganu a daflodd Hwfa i ganol dagrau babanod aniddig? Do, canodd y gwladwr caredig hwn yn helaethach na nebi amgylchiadau mawr bywyd—geni a marw, priodi a chredu; a druan o'r galon nas cryn ar drothwyon y drysau trwy y rhai yr el bywyd i fyd arall a phrofiad newydd. Y mae golud o farddoniaeth yno. Yn hyn oll, plentyn y wlad oedd y bardd, ac er aros o hono COFIANT dros ysbaid yn y ddinas fawr, ni bu i'w phrysurdeb fennu arno fel ag iddo golli ystyr tri pheth mwyaf barddonol y byd-cryd, modrwy a bedd. Aethum dros ei lyfrau 'r eildro 'r wythnos hon, a theimlwn fod yr awyrgylch yn hynod o iach-ni cheir ond dylifiad calon di-eiddigedd yn ei ganu, heb ergyd i neb ond i anghredwr. O'i barnu yn ol ei hysbryd, a'r galon a geir ynddi, y mae rhannau o'r farddoniaeth gyda 'r pethau goreu a feddwn, a tharddant o'r lle y cawsom ein cerddi pennaf—o galon gyffrous a meddwl hygoel plentyn y wlad.

II.

Yr ail ddylanwad mawr ar fywyd Hwfa Môn, fel ymron bob Cymro enwog arall oedd y cysegr. Magwyd ef yn nyddiau uniongredaeth dawél, canys ni chawsai hi eto gyfle i erlid, am na feiddiasai beirniadaeth hyd yn hyn roi ei llaw oer ar adnodau'r Beibl Cymraeg, na chynnyg tynnn tragwyddoldeb o uffern y Testament Newydd. A phan ddechreuodd Hwfa bregethu yr oedd meddwl y wlad wedi ei drwytho mewn rhyw fath of ofergrededd a'i gwnai yn dir da i dderbyn had yr hauwr Cymreig, oedd a'i natur yn llawn dwyster, cyfriniaeth, a gwres. Yn wir, rhoddodd y pulpud gyfle ardderchog i'r doreth barddoniaeth oedd yn ei natur lifo allan. Mor fyw y disgrifiai gyni'r ddafad goll a thaith ol—a—gwrthol y bugail, ac mor ufudd y bu ansoddeiriau iddo wrth ddarlunio'r nef a gorymdaith Ffordd y Gofid! Cymro ydoedd fel pregethwr yn ymdrechu, fel rheol i wthio'r gwir i'r galon, ac nid ei yru'n bwyllog trwy'r deall, y gydwybod a'r ewyllys, ac onid oedd yn hyn o beth, fel y rhelyw o bregethwyr mawr ei wlad, yn apelio at y llecyn mwyaf disgybledig ym mywyd ei genedl? Yn ei berthynas á chrefydd credaf mai yn ei ysbryd yr oedd ei fawredd. Yr oedd mor deimladwy a chariadlawn, mor serchog a diniwed, ac mor eang ei gydymdeimlad nes ei wneyd yn un o'r dynion mwyaf ennillgar yn y wlad. Dichon nad oedd yn hynod am rym ei argyhoeddiadau, canys ni bu raid iddo ymladd ei ffordd i'r goleu, a darganfod gwirioneddau'r Efengyl drwy gyfyngderau ac ing enaid. Cawsai efe ei gred yn etifeddiaeth, ac nid amheuodd erioed gadernid ei sail. Mater o ysbryd yn hytrach nag ymdrech oedd crefydd iddo ef. Er yn perthyn i'r Annibynwyr, ni bu erioed yn dadleu dros egwyddorion gwahaniaethol ei enwad, nac yn ymladd ym mrwydrau gwleidyddol y genedl. Paham hyn, tybed? Credaf ddarfod i mi eisoes awgrymu'r atebiad. Pobl yr argyhoeddiadau cryfion sydd yn myned i'r bylchau cyfyng; ond yn aml brwydrant dros y gwir mewn ysbryd anrasol iawn. Mewn Un yn unig y cafwyd gras a gwirionedd" mewn cyfuniad perffaith. Welwyd mo Hwfa Môn, yn aml, ond ar lwyfanau leted â'r genedl gyfan—llwyfan yr eisteddfod a maes y gymanfa, canys ni allai efe drywanu Cymro er cyfeiliorni o hwnw'n bell. Credaf na bu neb yng Nghymru yn gyn lleied o ddyn plaid ag efe, ac er mai clod amheus yw hynny weithiau, barnaf mai angen pennaf cenedl fechan fel nyni yw dynion o gyffelyb ysbryd i Hwfa Môn—o anwyl a thirion goffa. Cymro, dybygaf, yw y bardd—bregethwr, oblegid nis gwn fod pregethwyr unrhyw wlad arall yn barddoni cymaint a phregethwyr Cymru, na beirdd unlle arall yn pregethu fel awenyddion ein gwlad ni. Yr oedd Hwfa yn fardd ac yn bregethwr, ond er hynoted ydoedd yn pregethu'r gair, y bardd oedd amlycaf ynddo ef. Yr oedd y darlun yn fwy na'r wers, a'r lliw yn gliriach na'r egwyddor yn ei bregethau. Camp y bardd yw cuddio'r wers, camp y pregethwr yw ei dangos. Gwir, fod ambell ddisgrifiad barddonol yn cynyrchu teimladau dwysion, ac yn codi cwestiynau lu, ond y darlun tlws sy'n creu ac nid yn dangos y pryd hynny. Ceisiodd Hwfa ddwy goron dau arwr ei genedl, y bardd a'r pregethwr, a bu nesed i'w cael a nemor un; ond bu Duw yn ffyddlon i'w reol—nas gedy i neb goncro mwy nag un byd, ac fel bardd y bernir Hwfa Môn gan Gymru'r dyfodol. Yn y pulpud y cafodd y blas cyntaf ar boblogrwydd, ac awr bwysig mewn bywyd yw awr y blâs cyntaf, am mai yn honno fel rheol y taenir rhwydi tynged dros yrfa pob dyn. Fel y phïol o'r hon yr yfodd Trystan ac Essyllt, y mae defnydd rhamantau oes yn y diferion cyntaf a yfir o gwpan blâs. Fel y câr y Sais arwr y chwareudy, felly yr anwyla'r Cymro wron y pulpud, ac am oes faith bu'r Cymry yn eistedd dan weinidogaeth Hwfa, fel yr eistedd gwahoddedigion mewn gwledd. Ond y diwedd a ddaeth, a machludodd yntau yn fendigedig o dlws. Hardd yw syllu ar ymddatodiad grasol, ond gwelwyd llawer arwr yn cilio i'r gorwel fel un heb weled tlysni gorllewin, na dysgu'r gelfyddyd o ffarwelio 'n rasol. Gwnaeth Hwfa Môn hynny, a phan yn gweled oes newydd a thraddodiad newydd yn dod i le'r hên, gwenodd efe wrth gyfarch yr oes newydd, a gwyrodd i'r anocheladwy fel tywysog. Dichon nad oedd yr hen wron yn deall ond ychydig iawn ar ysbryd a delfrydau y Gymru newydd oedd yn amgau o'i gylch yn grefyddol a llenyddol; ond hyn sydd wir, Cymraes oedd natur Hwfa Môn, ac yr oedd honno wrth reddf yn bendithio popeth oedd yn dwf o gred a thraddodiadau y genedl yn y gorphennol.

III.

Canrif fawr yn hanes Cymru oedd y ddeunawfed. Dyna ddyddiau'r Cyffrawd crefyddol grymusaf a brofodd y genedl. Yn ei dechreu yr oedd athrylith Pantycelyn yn troi profiadau dyfnaf ei genedl yn ganu, a thua'r diwedd yr oedd athrylith drefniadol Thomas Charles yn rhoi llun a threfn ar gynyrchion y Pentecost, ac enaid Ann Griffiths yn ymarllwys yn yr hymnau mwyaf angerddol a glybu'r byd erioed. Dichon mai dau ddylanwad cryfaf y Diwygiad ar lenyddiaeth y genedl oedd gogwyddo 'r meddwl at y Beibl a'r byd ysbrydol, a meithrin serch y bobl at ganu rhydd. Athrylith, yn unig, fedr gysegru arfau llenyddol. Coded rhyw Bantycelyn neu Ann Griffiths i ganu emynau, a bydd bywyd y pennill yn ddyogel, nydded rhyw Dafydd ab Gwilym gynganeddion ac nis derfydd am y cywydd, a thra bo telynegion Ceiriog yn dihidlo miwsig i glust y wlad ceir rhywun beunydd yn "ceisio canu cân." Mantais fawr i hoedl y gynghanedd oedd i Oronwy ei phlethu yn yr un oes ag y canai Pantycelyn ei bennillion. Fodd bynnag, yn nechreu y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cawn rywbeth tebyg iawn i adweithiad yn digwydd. Ymrwyfai llawer yn anesmwyth yn erbyn disgyblaeth y seiadau, a daeth serch y Cymro at ramant, lliw a chlec i wrthryfel a Phuritaniaeth gyfyng "pobl y seiat.' Aed am ymwared at yr Eisteddfod, yr hon a groesawai gan ddigri, ac a achlesai hen ddefion a choelion y genedl. Yn fuan cyfyd traddodiad llenyddol newydd ac ysgol newydd o feirdd—yn cael eu blaenori gan Dewi Wyn, yr hwn a anwyd yn 1784 ac a nyddai gynganeddion cryfion, cywrain, yn nechreu 'r ganrif ddiweddaf. Yn ei oes ef yr aeth y beirdd i ogoneddu 'r gynghanedd groes, ac i ddiystyru, i raddau pell, y lusg a'r sain, ar waethaf y defnydd a wnaed o honynt gan y ddau feistr—Dafydd ab Gwilym a Goronwy. Rhyw ddeunaw mlwydd yn iau na Dewi oedd Eben Fardd, athrylith yr hwn a osododd fri mawr ar y gynghanedd, a thrwy ei gefnogaeth i gyfarfodydd llenyddol a wnaeth fwy na neb arall i greu a meithrin eisteddfodaeth yng Nghymru. Denwyd athrylith y wlad i'r Eisteddfod, gwnaethpwyd arwr o'r bardd cadeiriol, ac aeth blaenion y genedl i ymgiprys am safle'r pen campwr barddol. Dyna fel yr oedd pethau yn oes Hwfa, ac ymroddodd yntau fel ei gydoeswyr enwog—Caledfryn Hiraethog, Ap Vychan, Emrys ac eraill i ennill llawryfon yr Eisteddfod, ac ar ei llwyfan hi, yn 1862, pan y trechodd efe Eben Fardd ar awdly Flwyddyn," cafodd flas anniwall ar lwyddiant, ac hyd ei farw, yr oedd yr ysfa gystadlu yn llosgi yn ei waed. Bu gan yr Eisteddfod ddylanwad cryf ar ddatblygiad ei feddwl, ac fel y câr plentyn rodio'n llaw ei fam, y carai yntau ddilyn yr Eisteddfod. Ergyd englyn pert, cainc y delyn—deir—rhes, a meini'r Cylch Cyfrin oedd ei dri gwynfyd; ac yr oedd ei serch at ddefod gryfed ag ydoedd yn nerwydd yr hen oesau. Cyfunid grym a hud yn ei bersonoliaeth a'i gwnai yn hynod ym mhlith dynion. Nis gallai arlunydd fyned heibio iddo heb lygad rythu, na phlentyn ei weld a'i anghofio; a rhaid bod rhywbeth arbennig mewn wyneb all hudo celfyddyd a swyno plentyndod. Anodd penderfynu faint o'r Celt a'r Iberiad sydd yng ngwaed Cymro yr oes hon, ond y mae'n sicr fod y Cymry wedi etifeddu cariad y ddwy gainc at ymddangosiad golygus a glân; ac wrth ddarllen barddoniaeth y genedl o'r amser boreuaf, canfyddwn fod y bardd yn rhoi sylw neillduol i'r llygad yn ei ddarlun o dlysni, ac hyd heddyw y mae cryn lawer o'r llygad glâs" yng nghaneuon serch y wlad. Ceir yn llenyddiaeth henaf y byd gryn sylw'n gael ei wneud o'r gwallt,' a hwnw gan mwyaf yn "grych," pan yn disgrifio prydferthwch, a dichon nad oes ystyr neillduol i'r cyplysiad Cymreig o lygad a gwallt' fel dau anhebgor tlysni, ond bid a fynno, dyna'r ddwy elfen amlycaf yn narlun y bardd Cymreig o dlysni mun. A phwy a feddai ddau lygad cyffelyb i Hwfa Môn Ac os nad oedd ei wallt yn droellog, yr oedd yn fwyn a hirllaes, ac yn disgyn ar yr ysgwydd fel edau o bali gwyn. Credaf nad oedd Cymro'n fyw a feddai wyneb mor gyfrin—dlws a Hwfa Môn. Ceid haen o harddwch drosto 'i gyd, ac yr oedd rhyw fwynder rhyfedd ar ei rudd, a chyfriniaeth bell yn ei lygad. Son am lygaid ! Gan bwy y bu eu bath? Yr oeddynt fel dwy ffenestr dlos o'r rhai y syllai personoliaeth orchfygol—yn awgrymu cyfriniaeth, urddas a chariad, i'n holl natur. Welais i erioed lygaid mor fynegiadol â'i rai ef. Mae'n gof gennyf eu gweled fel ffynhonnau o ddagrau, ac hefyd yn loywon gan fellt, ac erys eu trem ger fy mron byth. Yr oedd llygaid mor fychain mewn wyneb llyfndeg, braf, a chorff mor dywysogaidd yn fynegiadol dros ben. Gosodwyd ef, gan genedl gyfan, drwy ryw gydsyniad greddfol, yn olyniaeth y derwyddon, a gallwn feddwl am dano yn trin y cryman aur ac yn tori'r uchelwydd yn deilwng o offeiriad y cynfyd. Diau i bersonoliaeth Hwfa Môn wneuthur llawer i wisgo seremonïau'r orsedd ag urddas a gwedduster, ac od oedd ambell ddefod yn wrthun yng nghyfrif rhai, yr oedd ymddangosiad yr archdderwydd yn dlws anniflan. Cwynir fod estron bethau yn ymgrynhoi o gwmpas yr Eisteddfod, ond hyd y flwyddyn ddiweddaf yr oedd wyneb a bloedd Hwfa Môn yn ddigon i argyhoeddi'r bobl, mai Cymraes oedd yr hen wyl, ar waethaf popeth. Pan aeth ef i gadw noswyl collodd yr orsedd ei cholofn gadarnaf, a'r llwyfan Gymreig yr wyneb harddaf a welodd erioed.

Nodiadau

golygu