Cofiant Hwfa Môn/Pennod III

Pennod II Cofiant Hwfa Môn

gan John Thomas Job, Bethesda


golygwyd gan William John Parry
Darlun II


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
J. T. Job
ar Wicipedia





Pennod III.

BARDDONIAETH RYDD HWFA MON.

GAN Y PARCH. JOHN T. JOB, BETHESDA.

EITHRIAD prin iawn yw cael bardd yn ein plith sydd wedi rhagori i raddau cyfartal yn Nau Ddosbarth y Caeth a'r Rhydd— Fesurau. Yn wir, tybed a oes yr un? Pe gofynnid i'n cenedl ni, i ba un o'r ddau ddosbarth hyn y perthynai Hwfa Môn, ni cheid ond un ateb ganddi—Dosbarth y Caeth. Y gwir yw, mai'r Mesurau Caeth aeth â'i fryd ef; a dilys gennyf mai yn y Mesurau hynny y cyfansoddodd efe ei bethau goreu. Eto, belled ag y mae a fynno cywirdeb iaith (ffurfiau cywir geiriau &c), a broddegiaeth lân a chyfan &c a'r cwestiwn, credaf y cytunir y ceir mwy o wallau yn ei Farddoniaeth Gaeth nag yn ei Farddoniaeth Rydd. Hwyrach mai'r demtasiwn sydd y'nglŷn a'r gynghanedd, sydd i raddau. pell yn gyfrifol am hyn: canys y mae ysfa'r gynghanedd wedi arwain llawer i fardd cyn hyn ar ddisperod—i ystumio iaith ac i frawddegi'n llac; ac un o lawer o bechaduriaid— anrhydeddus ddigon mewn ystyron eraill—ydoedd Hwfa Môn yn y cyfeiriad hwn. Dylid cofio cofio hefyd nad ydoedd cyfnod yr Uchfeirniadaeth Gymreig wedi gwawrio yn nyddiau anterth Hwfa: yn wir, weithian y mae y Cyfnod hwnnw'n gwawrio. Ac nid yw ond teg beirniadu pob bardd yng ngoleuni ei oes ei hun. Ac felly y'nglŷn â Hwfa Môn.

Wrth edrych drwy y Ddwy Gyfrol o'i Waith Barddonol, cyfarfyddir â thoreth o farddoniaeth ddisglair yn y Mesurau Rhydd. Weithiau, synnir ni gan feiddgarwch ei ddychymyg, tynerwch ei gyffyrddiadau, ac yn bendifaddeu gan gywirdeb a bywiogrwydd ei ddisgrifiadau. Ac yma gellir sylwi mai bardd disgrifiadol ydoedd yn bennaf: nid oedd yn perthyn o'r ganfed ach i'r Ysgol honno a adweinir fel Ysgol y Bardd Newydd. Na,—Hên Fardd ydoedd Hwfa—hên fardd cryf a rhadlon a thrwyadl—Gymreig. Fel ei gorph, felly yntau: hên dderwen braff, aml—geinciog, a chaeadfrig ydoedd,—â'i brigau yn gwybod dim ond am awelon Cymreig: dyna Hwfâ.

Gwyr pawb am ei gân i'r "Ystorm." Ni chaniatâ gofod i mi ddyfynnu'n helaeth o unrhyw ddarn o'i eiddo. Sylwer ar y cyferbyniad yn y ddau ddarlun hyn:—

Gorwedda'r defaid
Yn y twyn,
I wrandaw cerdd
Y bugail mwyn;
Breuddwydia'r gwartheg
Dan y pren
A'r borfa'n tyfu
Dros eu pen!

Mae'r adar mån
Yn gan i gyd
Yn pyncio'u dawn
Am rawn yr yd:
Mae natur fel
Nefolaidd fun
Yn hoffi siarad
Wrthi 'i hun!

Ond—dyna udgorn yr ystorm wedi galw; a dacw'r elfennau'n ufuddhau:—

Mae'r haul yn tywyllu!
Mae'r mellt yn goleuo!
Mae'r wybren yn crynu!
Mae'r dyfnder yn rhuo!
Mae mellten ar fellten!
Mae taran ar daran!


Mae Duw yn dirgrynu
Colofnau pedryfan!
Mae'r ddaear ar drengu!
Mae'r nefoedd yn syrthio!
Arswyded y bydoedd!—
MAE DUW'N MYNED HEIBIO!

(I. tud. 34—5.)

Dyna Ystorm berffaith, a Duw yn ei marchog!

Mewn darn cryf arall ar Y Cleddyf," terfynnir fel hyn:

Rhyw ddigorph ysbryd fel drychiolaeth ddaeth
I fwngial yn fy nghlust y syniad hwn :—
"Ystyria synllyd ddyn, wrth wel'd y CLEDD
Yn lleipio moroedd gwaed, gan duchan moes,
Nad yw ei nwydol wanc a'i danllyd får
Ond syched tafod damniol gythraul mud!"
(I. tud. 38.)

Syniad ofnadwy, onidê—Hwfä-aidd felly.

Ac yn y darn ar "Y Fagnel," disgrifia'r haul yn rhedeg drwy y nef ar—lwybr o dân"; ac yna:—

O ogof melldith yn ystlysau'r graig
Y llwybrai dynol ellyll tua'r maes,
Lle gwibiai dreigiau rhyfel yn eu bâr
Gan ruddfan am yr awr i sugno gwaed
O bwll calonau dewrion cryfaf byd.

A syndod y byd!—y mae Magnel Hwfa, wedi ei—

Chloddio gan ryw gryfion ddieifl
O ddanedd creigiau diffaeth affwys ddofn;
A thrwy ffwrneisiau melldith ffurfiwyd hi
I arllwys soriant barnol ar y byd.
Y gwaeau erchyll geulent yn ei bru,
Gan dwchu ar eu gilydd trwy y gwres;
Ac yn ei cheudod llechai angau blwng,
Gan fud ymborthi ar elfenau brad.
(I. tud. 215.)

Dyna i chwi Fagnel ddychrynllyd a sawyr uffern ar ei hanadl!

Ystyriaf ei fod weithiau yn ei ddisgrifiadau yn eithafol, yn ffinio ar y grotesque, os nad yn wir yn bradychu diffyg barn a chwaeth dda. Cân gref iawn drwyddi yw "Dydd y Frwydr." Beth yn fwy barddonol na'r pennill hwn'?—

Y march rhyfelawg ydoedd
Yn chwareu ar y ddol;
A gwellt y maes yn codi
I edrych ar ei ol;
Trwy faes y frwydr carlamai
Nes colli'i waed bob dafn;
Ac ar y cledd y trengai
A tharan yn ei safn!
(I. tud. 230.)

Wele gân ardderchog o destynnol, i'r "Eryr":—

Wrth olau'r lloer ryw noson
Y crwydrais drwy y glyn;
Ac yn ei llewyrch canaid
Canfyddais eryr syn,
Yn sefyll ar y clogwyn
I yfed awyr iach,—
A'i esgyll wedi'u trochi
Yn ngwaed rhyw faban bach.

Ar ael y graig dragwyddol
Y cysgai'r eryr mawr;
A thrwy ei gwsg pendronol
Breuddwydiai am y wawr;
A chyda'r wawr ehedai
Drwy froydd yr awyr glaer,
A'i esgyll gwaedlyd olchai
Yn nhònau'r môr o aur!

Ar donau'r dydd chwareuni
Gan fynd o nen i nen,
A sér, uwch sèr, a chwarddent,
A synent uwch ei ben;
Ac yntau'n hyf a'u pasiai,
A mawredd ar ei ael;
Ac uwch, ac uwch esgynai
Nes dawnsiai yn yr haul!

(II. tud. 25—6.)

Mae'n amheus gennyf a ganwyd gwell cân na honyna i'r "Eryr," mewn unrhyw iaith. Mae'r darlun yn berffaith; pob gair yn ei le; pob cyffyrddiad yn effeithiol. Dyna'r Eryr! onidê? Mae'n ofnadwy o Eryraidd!

Cán dyner, ddwys, yw ei gân ar "Einioes Dyn" (I. tud. 44—5); a "Bryneiriol yn Ddu" (I. tud. 138—141). Ac wele gân brydferth o'i eiddo ar "Y Lili Wen":—

Y Lili Wen, oleuliw wawr,
A dyf yn ngardd y Palas mawr;
Y Lili Wen, mewn awyr iach,
A dyf yn ngardd y bwthyn bach.

Y Lili Wen, o blith y drain,
A wêna ar y dduwies gain;
Y Lili Wen, lon eilun ffawd,
A wêna ar y weddw dlawd.

Y Lili Wen, dan goron wlith,
Anwylir gan y blodyn brith,—
Y rhosyn gwyn, a'r rhosyn och,
A wylant am gusanu'i boch.

Y Lili Wen, a'i nefawl swyn,
A huda angel at y llwyn;
A rhed angyles hyd yr ardd
I'w rhoi ar fron ei cherub hardd!
(I. tud. 73.)

Sylwer ar symlrwydd a chartrefolrwydd y dyfynniad hwn o'i "Fwthyn ar lan yr Afon":—

Y tad a'r fam eisteddent
Yn siriol wrth y tân;
A'r plantos bach chwareuent
Oddeutu'r aelwyd lân;
Y moethus gi orweddai
I gael mwynhau ei hun—
Er mwyn i'r ferch anwylaidd
'Gael yno dynui lun

Y Bibl mawr teuluaidd
Estynid ar y bwrdd;
Er cadw y ddyledswydd
Prysurai pawb i'r cwrdd:
Ac wedi cânu penill
Oedd beraidd iawn ei flas,
Cydblygai pawb yn wylaidd
I gyfarch gorsedd gras.
(II. tud. 35—6.)

Hapus iawn hefyd, yn y llinnell hon, yw ei Efelychiad o "Village Blacksmith" Longfellow (I. tud. 384).

Ond ei brif orchest yn y Mesur Rhydd yw ei Arwrgerdd ar "Owen Glyndwr," a enillodd iddo y wobr yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1867,—cerdd uwchlaw tair mil o linellau. Cerdd hanesyddol ydyw o ran ei chynllun; ond cerdd hynod o effro a chyffrous ei disgrifiadaeth : mae'r swn arwol yn cerdded yn rymus trwyddi; ac mewn llawer i adran, gwelir gallu disgrifiadol Hwfa Môn ar ei oreu—ac nid dweyd bach yw hynny. Peth sydd wedi'm taraw wrth ei darllen, yw llyfnder ei mydryddiaeth, a meistrolaeth amlwg yr awdwr ar y mesur: ni cheir nemawr i linnell afrwydd ei symudiad yng nghorph yr holl gerdd, yr hyn a brawf fod Hwfa Môn yn meddu clust dda: mewn gair, yr oedd canu yn ei ysbryd. Hwyrach y gellir ewynaw peth o herwydd tra— mynychiad yr un figyrrau; ond nid yw hyn i'w deimlo ond i raddau cymharol fychan. Credaf fod Owen Glyndwr yn destyn wrth fodd calon yr awdwr; canys, pa beth bynnag ydoedd Hwfa Môn, credaf nad oes neb a wâd iddo y cymeriad o Wron—addolwr; ac y mae'n rhaid wrth fardd felly i gânu Arwrgerdd dda. Nid rhyfedd, ynte, i Hwfa lwyddo ar destyn fel "Owen Glyndwr." Ni chaniatâ'r terfynnau i mi ddyfynnu nemawr o'r gerdd hon. Goddefer ychydig linellau:—

Delweddau ei henafiaid welir ar
Ei ysgogiadau yn y gwaedlyd faes;
Yn ei arwrol ddull, dyrchafai drem.
A diysgogrwydd cawr yn llenwi'i bryd!
O dan ei gamrau trymion, siglai'r llawr—
Ac wrth ei sangiad cadarn, tyrfai'r graig ;
A'i dolystainiad cryf arwyddai fod
Y GWRON synai fyd, yn sathru'i gwar.
Ei dywysogol ddull amlygai rym
Y meddylfrydau oedd fel tònawg för
Yn ymgynhyrfu yn ei galon fawr!
Ei dalcen llydan oedd fel marmor gwyn
Yn ymddisgleirio dan belydriad haul;
A'i lygaid creiffion fel ffwrnesiau tân,
O angerddoldeb ei feddylfryd eryf;
Ei wallt chwareuai tros ei dalsyth gefn
Fel godrau cwmwl du ar war ystorm!
A'i drwyn bwäog oedd yn dangos nerth
Ei benderfyniad mewn tymhestloedd blwng;
Delweddau'i ysbryd i'w wynebpryd llawn
A ymgyfodent, fel y cyfyd gwrid
Trwy wyneb eang wybr o wres yr haul!
Ei bendefigol drem fawreddog oedd
Fel gwyneb y ffurfafen, cyn i'r storm
Ymdori yn ei nherth, gan siglo'r nen,
Ac ysgwyd hyd eu gwraidd sylfaeni'r byd!
Ei eiriau oeddynt fel y daran groch,
Yn tori trwy y nen mewn llif o dân;
A thrwy ei ruol lais dychrynai myrdd,
Ac yn ei wyddfod gwelwai cryfion byd!
(I. tud. 249—250)

Yn ei gân "Yr Adfeiliad," ceir llai o ddychymyg—y mae cysgod ei henaint arni, a mwy o ffeithiau celyd bywyd ynddi; eto teimlir ei bod yn llawn o'r dwyster hwnnw sy'n dweyd mwy arnom, hwyrach, nag ehediadau dychmygol ei gerddi eraill:—

Yr olwyn wrth y pydew drydd
Bob dydd yn fwyfwy egwan;
Y foment olaf ddaw ar fyr,
A thyr y llinyn arian

Y llanc ysgafndroed, fu heb glwy,
Ar ofwy'n llamu'r afon;
Efe yn ebrwydd ymlesga,
A hoffa help y ddwyffon.
(II. tud. 133—6.)

Eto, mor ddwys—dyner yw ei "Odlig Henaint"; goddefer ddau bennill:—

Mae'm clyboedd gan henaint yn ffaelu
A chlywed mwyn nodau y gân,
Yr hon a fu'n toddi fy nghalon
Gan roddi fy nheimlad ar dân;
Ond er fod per seiniau y tànau
Yn cilio o'm cyraedd bob un ;
Caf eto yn nghanol distawrwydd.
Eu pyncio'n fy nghalon fy hun.

Mae clymau fy natur yn datod
O gwlwm i gwlwm o hyd;
A swn eu datodiad sy'n dwedyd
Fy mod yn dynesu o'r byd;—
Ond os ydyw clymau fy natur
Yn araf ymddatod bob un,—
Mae gennyf hên gwlwm cyfamod
Na ddetyd llaw angeu ei hun.
(II. tud. 273.)

Un ddawn arall a feddai Hwfa Món nad yw yn eiddo ond ychydig o feirdd y dyddiau diweddaf, sef yw honno—y ddawn Emynaul. Gweler Cyf I. tud. 393—"Bara Angylion," a'r" Winwydden Oreu"; Cyf II. tud. 31—"Cyfrif Beiau"; tud. 49.—Iesu yn Gymorth"; tud. 211— "Trefn y Cadw"; tud. 214—"Allorau Duw"; a thud. 302— Gwynt y Gogledd." Ni a ddyfynnwn dair engraifft :— {{center block| <poem> Peraidd fana yr Angylion Gefais yma yn y byd; Bara'r Nefoedd a'm cynhaliodd Rhag newynu lawer pryd; Profi gwleddodd mewn anialwch Ambell funud ar fy nhaith Droes yr anial er mor arw Imi'n Nefoedd lawer gwaith.

Gwin a darddodd o'r Winwydden Oreu yn y Ganaan wlad, Yw y gwin a yfaf yma Yn nghynteddoedd tŷ fy Nhad; Ac yn nghwmni'm hanwyl Iesu Pan y daw fy nhaith i ben, Caf ei yfed ef yn newydd. Byth o flaen yr Orsedd Wen. {{center block| <poem>


Chwythed gwyntoedd cryf y Gogledd
Yn fy erbyn yn y byd;
Af y'mlaen heb ddigaloni
Trwy y gwyntoedd oer i gyd;
Caf dawelwch
Wedi cyraedd pen y daith.

Bellach, y mae yr hên fardd rhadlon "wedi cyraedd pen y daith a'r tragwyddol "dawelwch," ac yn yfed o ffrwyth y "Winwydden Oreu" yn "newydd byth o flaen yr Orsedd Wen." Peraidd hûn i'w weddillion yn naear hên ei Anwyl Wlad, yng nghyffiniau'r Rhyl, yn swn suo-gân y môr.


Nodiadau

golygu