Cofiant Richard Jones Llwyngwril/Hynodrwydd R. J. yn Cadw Cyfeillachau Eglwysig

R. J. Yn Dechreu Pregethu Cofiant Richard Jones Llwyngwril

gan Evan Evans, Llangollen

Yn Bregethwr Teithiol

Pen. IV

HYNODRWYDD R.J. YN CADW CYFEILLACHAU EGLWYSIG.

Arferodd ei ddawn yn y Cyfarfodydd hyn am flynyddoedd lawer yn Llwyngwril cyn iddo fyned i bregethu yn gyhoeddus, ac ar ol hyny; ac yr oedd ei hynodrwydd gymaint yn hyn ag unrhyw beth a berthynai iddo, canys yr oedd ynddo ef gymwysderau nodedig i adeiladu a chysuro y saint. Yr oedd yn llygadgraff iawn i adnabod dynion, ac yn rhagorol yn ei fedrusrwydd i iawn gyfranu gair y gwirionedd at eu cyflwr, eu profiad, a'u hamgylchiadau. Os byddai rhyw frawd neu chwaer bron a suddo mewn iselder a digalondid, efe a'i derchafai i'r làn, ac a'i dyddanai â dyddanwch yr Ysgrythyrau, fel na byddai teithio rhai milldiroedd o ffordd, a hono yn un arw ac enbyd, yn ormod gan rai o'r cyfeillion a berthynent i'r eglwys yn Llwyngwril, i ddyfod yno i'r gyfeillach eglwysig. Yr oedd chwaer henaf yr awdwr yn un o'r rhai hyn, sef gwraig y Parch. E. Griffiths, Utica, America, oddiwrth yr hon y derbyniwyd yn ddiweddar y dystiolaeth ganlynol o'i heiddo am Richard Jones yn cadw cyfarfodydd eglwysig. Dywed fel hyn,—"Ni chlywais neb gwell mewn Society erioed nag ef. Bum yn cerdded pedair milldir, sef o'r Bwlchgwyn i Lwyngwril i'r Society gannoedd o weithiau. Fe allai mai hanner dwsin o nifer a fyddai wedi ymgasglu ynghyd; ond byddai yr hen sant mor wresog ac mor nefolaidd, fel y byddwn yn myned adref dan ganu, wedi cael eithaf tâl am fy siwr nai." Dyma hefyd dystiolaeth Mr. Griffiths ei hun, "Ni chlywais ei well erioed am ddwyn Society ymlaen er cysur ac adeiladaeth, a byddwn bob amser yn cael ad fywiad i'm hyspryd wrth wrandaw arno. gwybod yn brofiadol y pethau sydd o Yspryd Duw, ac yn gallu dyddanu ereill â'r dyddanwch y dyddenid ef ei hun gan Dduw. Gwyddai ef yr Ysgrythyr Lân, nid yn unig yn ei chysondeb, ond hefydyn brofiadol. " Os byddai angen darostwng ambell un, yr oedd efe mor fedrus i wneyd hyny hefyd mewn dull caruaidd a di dramgwydd. Os byddai ambell frawd gwan yn methu dweyd ei feddwl, helpai Richard Jones y gwan hwnw o'i drafferth yn ddioed. Os dywedai rhywun arall unrhyw beth a fyddai i'r pwrpas, tarawai ei law ar y bwrdd a dywedai, " Dyna fo fachgen," ac yna efe a orphenai forthwylio yr hoel adref. Byddai ganddo ef bron bob amser ryw fater neu bwnc neillduol yn cael ei osod i lawr yn destun i ymddyddan yn ei gylch, megis y pethau hyn,—Aberth Crist yn unig sail cymeradwyaeth pechadur gyda Duw—yr Yspryd Glân yn Awdwr crefydd yn yr enaid—y pwys fod pob Cristion yn meddu ffydd gref—yr anfanteision cysylltiedig â gwendid ffydd y dylai pob Cristion sefyll yn wrol dros ei egwyddorion—yr angenrheidrwydd i bawb a edrych ar grefydd yn ei mawredd a'i phwys—na byddo i neb roddi na chymeryd tramgwyddd—rhyfeddodau y byd tragwyddol y tu hwnt i amgyffred dyn tra yn y cnawd—Na ddylai plant Duw ddisgwyl cael myned drwy y byd hwn heb drallodion. Dyma rai o'r pethau yr ymhoffai efe eu gosod yn destynau ymddyddanion yn y cyfeillachau eglwysig. Wrth ymdrin â'r pwnc diweddaf a grybwyllwyd, efe a annogai ei gyfeillion i gofio yn wyneb yr hyn oll a'u cyfarfyddai ar daith bywyd, mai pererinion oeddynt ar y ddaear. "Byddaf" eb efe, "ar fy nhaith wrth bregethu yn myn'd i lawedd math o Lodginth. Pan fyddaf weithiau mewn ambell le na bydd o modd gythuruth ag y dymunwn, byddaf yn ceithio cymmodi fy meddwl âdd lle wth ddweyd ynof fy hun, Caf fyned i ffwdd y foddy, A phan elwyf lle mwy uddathol a chroethawgadd, byddwn yn dweyd ynof fy hun yno hefyd, Rhaid i mi ymadael y foddy. Felly y mae hi gyda ni yn y byd hwn fel peddeddinion; oth daw rhyw ofid i'n cyfaddfod, cofiwn na pheddy hyny ddim yn hîdd, aiff heibio yn union; ac o'dd ochoda addall, oth gwena y byd, cofiwn na pheddy hwnw ychwaith ond ychydig iawn." Medrai ddweyd yn bur lým pan fyddai angenrheidrwydd am hyny. Pan oedd ef un tro yn son yn y gyfeillach am adeiladu Seion, dywedai rhyw frawd wrtho am dano ei hun ei fod yn ofni mai rhywbeth oddi allan oedd efe. Dywedodd yntau, "Dwy i ddim yn hoffi peth welyma; mae Duw yn ffyddlon i'w addewidion, doeth dim achoth i neb fod oddiallan, mi fentra i mywyd ar air y Gwdd." Yr oedd yn bur hynod weithiau yn ei weddiau yn y cyfryw gyfarfodydd. Ambell waith efe a grybwyllai am rai o'r cyfeillion wrth eu henwau yn ei weddi, mewn rhyw amgylchiadau neillduol. Un tro pan oedd gwr o'r enw Morgan Morris, naill ai newydd ddyfod i'r gyfeillach eglwysig, neu ynte pan oedd yn cael ei dderbyn yn gyflawn aelod eglwysig, yr oedd yr hen frawd mewn hŵyl ragorol yn niwedd y Cyfarfod yn gweddio dros y frawdoliaeth fechan; ac ymhlith yr amryw fendithion a ddeisyfai gan yr Arglwydd, dywedai—" Yngiafal yngiafal â'dd pethau hyn y b'om ni, a Moddgian gyda ni." Dychymyged y rhai sydd adnabyddus â hwyl Richard Jones, pa fodd y lleisiai efe yr ymadrodd, "A Moddgian gyda ni," yn enwedig pan oedd efe mewn teimladau dwysion drosto ef. Nid dweyd hyn yn fyr ac yn sychlyd, ond efe a chwyddai ei lais ac a roddai sain effeithiol iddo "a Moddgan gyda ni." Er fod yr amgylchiad hwn wedi digwydd er's llawer blwyddyn, mae ei swn yn nghlustiau rhai o'i gyfeillion hyd heddyw, draw ar belldiroedd America, a diau yr adnewyddir y sŵn hwn os digwydd i'r Cofiant presennol ddyfod i'w llaw. Ac mae'n debygol nas annghofia Morgan ei hun mor weddi hon yn fuan, a gobeithir mai gweddi wedi ei hateb ydyw. Na thramgwydded Morgan wrth hen gyfaill am ofyn iddo—"Pa leyr wyt ti?" a wytti " yngiafal—yngiafal" â'r pethau sydd yn nglŷn âg iachawdwriaeth?

Nodiadau

golygu