Cofiant Richard Jones Llwyngwril/Yn Bregethwr Teithiol

Hynodrwydd R. J. yn Cadw Cyfeillachau Eglwysig Cofiant Richard Jones Llwyngwril

gan Evan Evans, Llangollen

Parhad o Helyntion Teithiol R. J.

Pen. V.
YN BREGETHWR TEITHIOL.

Gan mai fel Pregethwr Teithiol y daeth ei gymeriad yn fwyaf hysbys i'r cyffredin, cymerwn olwg arno yn y sefyllfa hòno; a chyn gwneuthur hyn, dylem ddywedyd mai colled ddirfawr i'r achos yn Llwyngwril a'r cymydogaethau cyfagos, oedd helaethiad cylch ei lafur, oblegid er pan ddechreuodd fyned yn bregethwr teithiol, ychydig a fwynhawyd byth wedi hyn o'i lafur yn mro ei enedigaeth, oddieithr dros yr amser byr y deuai adref i gael ychydig seibiant cyn cychwyn i'w daith drachefn. Nis gellir manylu ar yr oll a berthyn ai iddo yn y cymeriad hwn, ond sylwn ar rai o'r prîf bethau.

Cyn cychwyn i'w daith, efe a ragofalai yn eithaf prydlawn am bob angenrheidiau iddi. Astudiai a chyfansoddai nifer digonol o bregethau, gan eu trysori yn dda yn ei gôf mawr, ac yn gyffredin efe a'u traddodai yn gyntaf gartref, fel y byddent yn ddyfnach yn ei feddwl, ac yn rhwyddach ar ei dafod. Byddai yn lled hoff o'u traddodi cyn cychwyn mewn pentref bychan tlawd o'r enw Y Friog, o fewn dwy filldir i Lwyngwril, i hen boblach druain na byddent yn myned i addoliad ond anfynych. Gofalai am wisg addas erbyn diwrnod y cychwyn, er na pharhäai hono ond ychydig yn ei harddwch. Gofalai hefyd am dynu cynllun o'i daith, ac anfon ei gyhoeddiadau i'w priodol leoedd. Ar y dydd penodol, dacw efyn cychwyn i'w ffordd, a'i gôt fawr dan ei gesail, a'i ffon yn ei law, a chan sythed a phe buasai wedi bod yn sawdwr am ugain mlynedd, ac mor heinyf ar ei droed â llanc. Nid oedd ganddo na gwraig na phlant i ysbïo yn hiraethlawn ar ei ol, nac achos bydol i'w ymddiried i ofal neb. Cyrhaeddai ben ei daith yn brydlawn a chysurus; ni chyhuddid ef un amser o fod yn hwyr yn dyfod at ei gyhoeddiad. Ar ol cael ei luniaeth, eisteddai yn nghongl yr aelwyd, gyd'r fath sirioldeb a boddlonrwydd meddwl, fel pe na wybuasai am ddim gofid yn ei oes, oddieithr, efallai, y buasai wedi bod yn rhedeg y diwrnod hwnw am ei fywyd rhag ryw fuwch, gan dybied mai tarw ydoedd. Difyrai ei hun â rhagfyfyrdod ar y bregeth a fwriadai ei thraddodi. Mynai sicrwydd am yr amser y cyhoeddid fod y moddion i ddechreu. A phan y tybiai fod yr amser hwnw yn agosâu, taflai ei olwg yn awr ac eilwaith ar yr awrlais; a phan ddeall ai ei bod yn amser priodol i gychwyn, dyma ef ar ei draed, ac ymaith ag ef. "Aroswch, Richard Jones, aroswch dipyn eto, eisteddwch, y mae'n ddigon buan, ni ddaw yno ddim pobl y rhawg etto." "Dyma fi yn mynd," meddai yntau," dewch chwi amther a fynoch chwi, dechddau 'naf fi yn yr amther." Ofer fyddai ei berswadio i aros wrth undyn—ffwrdd ag ef yn ddi-ymdroi. Wedi myned o hono i'r addoldy, eisteddai ronyn bach i gael ei anadl, oblegid yr oedd yn ŵr tew a chorphol, Codai ei olwg ar yr areithfa, ac os dygwydd. ai ei bod yn lled uchel, dywedai, " 'Dat fi ddim yna, ni dda geni mo'dd pulpudau uchel yma, rhyw felldith ydyn' nhw; mae dynion yn gwiddioni wrth wneyd capeli— bydd fy mhen i yn tyddoi ynddyn nhw, wfft iddynt. Tyr'd fachgian, ceithia y blocyn yna i mi dan fy nhraed." "Dyna fo, Richard Jones." Yna efe a safai arno, a'r Beibl ar y bwrdd o'i flaen. Agorai ef, nid ar antur, eithr ar ryw fan penodol ynddo a rag fwriadasai efe ei ddarllen. Darllenai y bennod neu y Salm gan ei hesbonio with fyned yn mlaen. Addefir mai darllenydd go anghelfydd ydoedd, fel y buasai yn hawdd i blant yr Ysgol Sabbathol ganfod ei wallau yn hyn, a mynych y gwelid bechgyn ieuainc yn cilwenu ar eu gilydd wrth ei glywed yn darllen. Gwyddai ef hyn yn dda, a bu hyn yn brofedigaeth iddo rai gweithiau, megis y tro hwnw pan y digwyddodd iddo ddarllen Mat. xii : wrth ddarllen y rhan olaf o'r bedwaredd adnod ar hugain, fel hyn, "Nid yw hwn yn bwddw allan gythreuliaid ond trwy Beelthab, penaeth y cythreuliaid," efe a ddeallodd fod rhai yn y gynnulleidfa yn gwawdwenu. Aeth yn mlaen drachefn hyd at y 27 adnod, pan welai ei hun yn y brofedigaeth eto; dechreuodd ei darllen dan ryw led-besychu—Ac oth trwy—ac oth trwy—"Yma lled-besychai fel pe buasai am gael ei beiriannau llafar yn eithaf clîr i seinio y gair nesaf yn ddigon croyw a nerthol, bob llythyren o hono hefyd, a chynhygiai drachefn,—Ac oth trwy Beelthab—gwenai y bobl y tro hwn yn fwy nac o'r blaen. "Dwy i" eb efe," ddim yn hidio llawedd am enwi y gŵdd yma." Yna efe a aeth yn mlaen yn galonog. Ond os nad oedd efe yn gampus am ddarllen, edryched pawb ati pan elai i esbonio, oblegyd buan iawn yr annghofid ei ffaeleddau yn darllen, gan eglurdeb a gwerth ei esboniad ar Air Duw. Pwy bynag ni byddai yno yn nechreuad y cyfarfod, byddai yn dra sicr o fod yn go ledwr, canys yr oedd cymaint o adeiladaeth yn fynych i'w gael yn ei esboniad ef ar yr hyn a ddarllenai, ac a geid yn ei bregeth. Ar ol myned drwy hyn, rhoddai benill allan. Ac os dygwyddai na byddai y canwr yno yn brydlawn at ei waith, hwyliai ef y mesur ei hunan. Ar ol diweddiad y mawl, "Yddwan," meddai, " ni awn ychydig at Wrandawwdd gweddi." Gweddiai yn ddifrifol, cynnwysfawr, gwresog, ac yn fyr-eiriog. Byddai ganddo ryw fater neillduol bob amser ynddi, a byddai yn hynod yn ei sylw o ryw amgylchiadau a fyddai yn fwy pwysig na chyffredin yn ngoruchwyliaethau Duw at y byd a'r eglwys. Byddai ei deimlad weithiau yn ei orchfygu. Ar ol hyn rhoddai benill drachefn, a phan y gorphenid ei ddatganu, eisteddai pawb gan ddisgwyl elywed y testun. Hysbysai a darllenaf, gan ddangos ei gysylltiadau, a'i egluro i'r gynulleidfa. Yr oedd yn gampus am hyn. Medrai ef amlygu ei olygiad arno mewn ychydig eiriau, oblegid nid ydoedd un amser yn amleiriog. Yna drachefn crybwyllai y materion a gynnwysid yn ei destun, mewn modd eglur, dirodres, a naturiol iawn. Ei raniadau ar ei destun oeddynt yn gyffredin yn dlysion a tharawiadol. Byddai ei ym ddangosiad yn rhoddi argraff ar ei wrandawwyr ei fod yn feistr ar ei bwnc, a'i fod yn teimlo hyfrydwch yn ei waith. Yr oedd ganddo ddull priodol iddo ei hun yn yr hyn oll a wnai, ac ni bu erioed yn amcanu at ddynwarediad o neb mewn dim. Yr oedd rhyw bethau yn ei ddull yn pregethu a barai weithiau i rai ysgeifn chwerthin wrth ei wrandaw, ac yn wir gormod camp fyddai i wŷr go ddirfrifol hefyd beidio gwenu wrth glywed yr hen Ddoctor; ond pob un ystyriol a esgusodai yn rhwydd y diffygion diniwaid hyny, o herwydd yr adeiladaeth a'r hyfrydwch a geid dan ei weinidogaeth. Wrth ddybenu ei bregeth, dywedai, gan symud y Beibl a'i ddodi ar y fainc o'r tu ol iddo, "Yddwan, ni nawn ychydig o gathgliadau," y rhai bob amser fyddent yn naturiol ac i bwrpas. Edryched y canwr ato ei hun, oblegid gyda'i fod yn dyweyd y gair olaf yn ei bregeth, dyma'r penill allan yn ddisaib"

Mi redaith tua'r fflamia
'Doedd neb yn mron o'm mlaen;
Rhyfeddu grâth ’rwyf heddyw
Na buathwn yn y tân:
Trugaredd râd yn unig
Sydd wedi'm cadw'n fyw,
Mae arnaf ddirfawr rwymau
I ganmol grâth fy Nuw."

Dywedodd un canwr ieuanc, Byddaf am fy mywyd yn gwylio yn niwedd pregeth Richard Jones am ddechreuad y pennill, oblegid ni bydd ganddo un saib rhwng ei Amen a'i bennill, fel prin iawn y caiff un ei synwyr ato i chwilio am fesur priodol; ond y mae yn hawdd i'r canwr ac i'r prydydd faddeu iddo ryw ffaeleddau bach fel hyn gan mor dda y mae yn pregethu."

Ar ol diweddu y cwbl o'r gwasanaeth trwy weddi, edrychai am ei het a'i ffon, ac wedi byr ymgyfarch âg ychydig gyfeillion, hwyliai tua'i lety. Os dygwyddai fod y noson hono yn dywyll, ni syflai gam heb ryw arweinydd gonest a gofalus i'w dywys yno. Yn rhywle ar ol myned drwy ryw goedwig fechan, dywedai ei arweinydd wrtho, "Dyma ni yrwan, Richard Jones, yn ymyl y pontbren hwnw, os ydych yn ei gofio. Mae'n siwr ei bod yn lled dywyll heno, ond mi gymeraf ddigon o ofal am danoch chwi, gwnaf yn wir; ymaflaf yn eich braich, ac ni awn trosto yn araf bach, ac yn ddiogel." "Naddo i yn widdionedd i ddim droth i dy bompdden di heno." "O dewch, Richard Jones, dewch, mi gymeraf fi ddigon o ofal efo chwi, mi wn i am bob modfeddo honi, ac mi gewch chwithau gymeryd eich amser. Yrwan, Richard Jones." "Gollwng fy myddaich, fachgian, gollwng fi. mi af fi ffodd addall." "Dyn a'n cato ni, mae milldiro gwmpasi fyn’dy ffordd hòno, rwy'n siwr y mynyd yma. A fedrwch chwi ddim ymddiried cymaint â hyn yn ngofal rhagluniaeth i groesi rhyw afon fach fel hon?" "Taw a chadw thẃn, mae rhagluniaeth wedi rhoddi peth wel hyn i'n gofal ni ein hunain, tyr'd oddiyma yn y fynyd, awn ni ffodd addall, gwell gen i fyn'd ddwy filldidd o gwmpath na thoddi fy ethgyrn mewn rhyw le ofnadw wel yna." O dosturi at ei ofnusrwydd, ai ei arweinydd gydag ef rhwng bodd ac anfodd, gan synu wrtho ei hun fod dyn ẃmor gryf ei synwyr, a phregethwr mor dda, wedi y cwbl mor blentynaidd â hyn. Cyrhaeddodd y ddau y llety, a chyda'u bod yn y ty, "O bobolfach," ebe R, J. "dyma ni 'n thâff unwaith eto, trwy drugaredd;" a chyda'i fod yn eistedd i lawr, a dechreu ymgomio â'r teulu, dywedai Gwraig y tŷ wrtho, yr hon a orweddai yn gystuddiedig, Richard Jones bach, dyma у lle yr wyf fi yn gorwedd er's misoedd yn methu mynd i'r Capel; y mae arnaf hiraeth yn fy nghalon am foddion gras. Byddaf bron a digaloni weithiau wrth weled pawb o'r teulu yn gallu myned yno ond myfi. . . Gadewch i mi glywed beth oedd genych heno. Purion, meddai yntau, mi affi droth ychydig o'r materion jutht yn union. Ar ol swperu, dygid y Beibl i'r bwrdd. Yna tröai at y Salm yn yr hon yr oedd ei destun, sef Salm 73; ac wedi dyfod hyd at y ddegfed adnod, dywedai, Dyma oedd geiriau'r testun heno—"Am hyny y dychwel ei bobl ef yma, ac y gwesgir iddynt ddwfr phïol lawn." Sonia y Salmydd am lwyddiant dynion bydol annuwiol. Ond y mae'r adnod hon yn cyfeiddio at ddylanwad llwyddiant yr annuwiol ar y duwiolion, a'r tuedd drwg sy mewn rhai crefyddwyr i ogwyddo i'w llwybrau, drwy ymestyn yn ormodol am y byd. Nith gallaf gael gwell ethboniad ar y geiriau nac wel yna. Yr oeddym yn gwneyd tri o thylwadau o ar y tethtun—yn gyntaf, Pam y gelwir y duwiolion "ei bobl ef." Maent wedi eu prynu a'u gwaredu ganddo; maent wedi ymgyflwyno iddo; yn dal cymundeb ag ef, ac yn rhoddi gogoniant iddo. Wedy'n yr oeddym yn thylwi, yn ail, ar y fan lle y mae ei bobl ef yn myned i geisio cael cythur—"Dychwel ei bobl ef yma" I'r man lle y mae pobl y byd yn myned ! at gyfoeth y byd; at ddigrifwch a phleserau y byd; at anrhydedd y byd. Ar ol hyny yr oeddym yn thylwi, yn drydydd, ar yr hyn oeddynt yn ei gael am fyned yno, "gwethgir idd ynt ddwfr phïol lawn." Beth a gawthant yno? a gawthant yr hyn oeddynt yn ei ddymuno? Naddo, mae'n ddiau. Ond cawsant eu gwala a'u gweddill o ofidiau! "gwesgir iddynt ddwfr phïol lawn." Mae Duw yn rhoi gofid iddynt er mwyn eu diddyfnu oddi wrth y byd. Cawthant ofidiau wrth fethur, "dwfr phiol lawn." Cawthant lawer o ofidiau,—dwfr phïol lawn. Cawthant hyn yn raddol, fel y gallent ddal heb eu lladd—"gwasgu iddynt ddwfr phïol lawn." Cawthant yn ddiammau yn ol eu haeddiant. Wrth feddwl am y pethau hyn, y mae o bwyth mawr i edrych a ydym o nifer " ei bobl ef." Pobl pwy ydym? Mae cofio dyben Duw yn ei geryddon ar ei bobl yn help iddynt i ymdawelu yn amyneddgar dan ei law; ac er eu calondid, ni phery yfed o'r phïolau ddim yn hir "i'w bobl ef."—ond pery eu cythuron byth. O drueni yr annuwiol ! hwy a yfant o phïolau digofaint Duw byth. Dyna ychydig bach o'r pethau a ddywedwyd heno ar y testun hwn. Ar ol hyn cyflwynai ei hun a'r teulu trwy weddi i ofal yr Arglwydd. Bu yn fendithiol i gysuro ac adeiladu llawer o'r Saint trwy ei sylwadau yn y modd hwn ar Air Duw mewn teuluoedd. Mae'n wir y cymerai ambell fachgen a geneth ieuanc ef yn ys gafn, gan sylwi yn gellwerus ar ei ddull gwahanol i ereill, yn enwedig yn anestwythder ei dafod i seinio rhai geiriau yn groyw, ond mwynhäai dynion crefyddol wir lesiant bob amser oddiwrth ei wasanaeth crefyddol, pa un bynag ai yn gyhoeddus ai yn deuluaidd. Byddai yn hynod o ofalus am dano ei hun bob amser rhag cael gwely llaith. Ac os cawsai yr awgrymiad lleiaf na buasai neb yn cysgu yn ngwely y gwr dyeithr er's tro mawr, estynai ei fŷs at ferch y ty, a dywedai wrthi, "Dôth di i hwnw eneth, cymedd di dy thiawnth." Dygodd ei hun rai gweithiau i brofedgaeth trwy wneuthur felly; ond nid i gymaint profedigaeth â'r rhai hyny a gollasant eu bywyd trwy y darfodedigaeth buan a achoswyd o ddiffyg gofal yn nghylch yr orweddfa laith. Pe buasai ei ofal ef am godi yn brydlawn o'i wely gymaint ag oedd ei ofal am gael un diberygl i orwedd ynddo, canmolasid ef yn fwy. Teithiai fel hyn o fan i fan am wythnosau, gan bregethu y nos yn unig, oddieithr y Sabbathau. Ni byddai ei daith yn ystod y dydd fawr hwy yn gyffredin nac oedd o ffordd o Bethlehem Juda i Jerusalem, fel na byddai nemawr byth yn gofyn iddo, "A ddaethoch chwi o bell heddyw, Richard Jones?" Er hyny yr oedd yn llawen gan bawb ei weled bob amser; ac eithaf tegwch â'i gymeriad yw mynegu yma yr arferai lawer o ddoethineb trwy ddewis amryw o leoedd i letya yn mhob ardal lle yr elai, fel nad arhosai yn hir yn yr un man, oddieithr mewn rhyw fanau neillduol, lle y gwyddai ef fod iddo groesaw calon. Ni byddai yn euog o ymddwyn yn ei lettyai mewn modd a barai i'r teulu gau eu drysau rhag ei groesawu ef na neb arall o weision Crist mwyach; ond bu yn hytrach yn offerynol i agor drysau newyddion mewn rhai ardaloedd, y rhai ydynt yn agored hyd heddyw. Gwyddis am un gymydogaeth lle y rhoddai ei gyhoeddiad i bregethu ynddi, am yr hon y dywedid wrtho nad oedd yno gymaint ag un teulu a roddai letty am noswaith i bregethwr, ac mai eithaf digalon oedd iddo fyned yno. "Mi tyddeia i nhw" (ebe yntau) "mi fentra i yno am unwaith beth bynag." Ac yno yr aeth efe at ei gyhoeddiad, lle yr ydoedd amryw wedi ymgasglu yn nghyd i wrandaw ar Richard Jones, Llwyngwril hwnw. Mater ei bregeth oedd Darostyngiad yr Arglwydd Iesu Grist. Ac wrth ymdrin â'r pwnc, daeth at ei dlodi ef, a sylwai ar yr adnod hono—Y mae ffaeau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr. " Wel yma, gyfeillion bach, yr oedd ar ein Meithdar mawr ni, nid oedd gan ddo ef gartref o'r eiddo ei hun, ac nid yn mhob man a phob amther y cai efe lodgin am noswaith. Ond nid felly y mae ar ei weithion ef. Pan y b'o ni yn myned o fan i fan i bregethu, ni bydd raid i ni ofni am lodgin, byddwn yn ddigon thicr o honi yn mhob ardal; bydd yn yr odfa amddyw wragedd tirion yn barod am y cyntaf i fyned at y pregethwr ar ol iddo ddarfod, i ofyn iddo, Ddowch chwi acw heno gyda ni, wr diarth, cewch le wel y mae o, a chroetho calon." Erbyn i'r hen gyfaill ddybenu ei wasanaeth, yr oedd yno ddwy neu dair o wragedd yn nesâu ato am y cyntaf i'w wahodd i'w tai, yr hyn oedd yn gwirioneddu yr hyn a bregethasai.

Ar ei draed y teithiai ar y cyntaf, ond meddyliodd bob yn ychydig am gael anifail, nid yn gymaint gyda bwriad i bregethu yn amlach, na chyflymu dros fwy o dir, ond i arbed ei gorff, rhag nychu ei hun yn gynt na phryd. Nid yn fuan yr anghofir yr hen frawd pan y cychwynai i'w daith. Yr oedd yn drugaredd i'r anifail druan na byddai raid iddo deithio llawer yn nghorff diwrnod, gan fod ei faich yn drwm, ac yntau yn egwan. Nid oedd y cyfnewidiad hwn yn sefyllfa deithiol R. Jones yn ei wneuthur nemawr gwell mewn un ystyr. Cynghorid ef i gymeryd y traed drachefn yn lle yr anifail; felly y gwnaeth am ryw dymor. Ond teimlodd awydd eilwaith i feddiannu anifail i'w gario. Yr oedd ei ofal am dano ei hun gymaint fel na feiddiai brynu march ieuanc a bywiog, rhag iddo ruso a thaflu ei farchog, a pheryglu ei fywyd; ac felly wrth osgoi hyny, elai yn rhy bell i'r ochr arall yn ei ddewisiad o anifail rhy hen, rhy deneu, a rhy drwstan, fel y peryglai ei esgyrn yn llawn cymaint y naill ffordd a'r llall. Edrychwch arno, dacw fo wrth ddrws ei lety yn cael ei osod ar gefn ei anifail i gychwyn i'w daith. Wele un yn dal gafael yn y ffrwyn, a'r llall yn ymaflyd yn yr wrthafl. Dywedai wrth y naill, "Dal y dafal rhag iddi thymud dim; " ac wrth y llall, Cydia'n y thound," a fynu ag ef. Byddai cymysg o deimladau, gan ei gyfeillion yn wyneb yr olygfa hon; sef tosturi dros yr anifail teneu, coesgam, cymalog; a gradd o gywilydd wrth glywed plant yn gwaeddi, "Dyma hen geffyl hyll," yn nghydag ofn mai yn y ffôs y byddai gorweddfa y ddau cyn y cyrhaeddent ben eu taith. Ac yn wir, os dywedir y cwbl, cafodd yr hen frawd ambell godwm; ond fel y dygwyddai yr hap, yr hen gaseg yn gyffredin fyddai yr isaf; ac yn yr amgylchiad hwnw, dedwydd fyddai fod ei chymalau mor anystwyth, oblegid ca'i yr hen gyfaill amser i ymryddhau oddiwrthi cyn y gallai y druanes wingo dim. Dygwyddodd amgylchiad cyffelyb i hyn yn ardal Llanuwchllyn. Yr oedd R. J. bron ar ben ei daith, gan ymddyddan yn ddifyrus â rhyw gyfaill a gydymdeithiai ag ef ar y pryd; ac yn nghanol y chwedl, dyma'r hen gaseg i lawr, a'i marchog corffol bendramwnwgl dros i ei phen, gryn ddwy lâth neu dair oddiwrthi, yn gwaeddi am ei fywyd. Ond fel yr oedd y drugaredd yn bod, cafodd y ddau ymdreiglo y tro hwnw mewn gwely esmwyth o eira; a chafodd y pregethwr ddigon o amser i ddyfod ato ei hun o'i gyffro, ac i ymlonyddu cyn myned i'r addoldy. Nid pethau bychain a'i rhwystrent ef un amser i fyned yn mlaen at ei gyhoeddiadau. Eithr yr oedd y fath drafferth a helbul gyda'i hen anifail, fel prin y byddai gan y rhai a gymerent ei ofal ddigon o amynedd i beidio ei sènu o'i herwydd, nes o'r diwedd y penderfynodd R. J. deithio o hyny allan ar ei draed.

Anfynych y methodd a do'd at ei gyhoeddiad mewn pryd yn ei oes; ond yr oedd ganddo ddiwrnod cyfan o'i flaen i ddyfod ato, oddieithr ar y Sabbathau. Digwyddodd iddo unwaith fod ryw gymaint ar ôl yn Nolgellau, (ar y Sabbath mae'n debygol.) yr oedd yr addoliad wedi dechreu cyn iddo fyned i mewn i'r addoldy. Fel amddiffyniad diniwaid drosto ei hun, dywedai ar ol y cyfarfod dan wenu, " Pwnc yn Rhyd, y-main, profiad yn y Brithdir, a meindiwch yr amther yn Nolgellau." Chwareu têg i'r cyfeillion yn Nolgellau, canys nid rhinwedd bychan yw bod yn fanwl gydag amser addoliad; byddai yn dda i lawer o gynnulleidfä oedd ddilyn eu hesampl yn hyn.

Nodiadau

golygu