Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pennod III

Pennod II Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn

gan Griffith Williams, Talsarnau

Pennod IV

PENNOD III.

MR HUMPHREYS A'I HELYNTION TEULUAIDD.

O GYLCH yr amser hwn teimlodd Richard Humphreys fod yn bryd iddo feddwl am newid ei sefyllfa, a syrthiodd ei lygad ar Miss Anne Griffith—merch Capten Griffith, Quay, Abermaw, a chwaer Mrs. Cooper, Llangollen. Yr oedd Capten Griffith wedi bod yn dra llwyddiannus i gasglu cyfoeth lawer; ac yr oedd yn ŵr y teimlai ei gymdogion barch dwfn iddo. Bu yn ei flynyddoedd diweddaf yn ddiacon ffyddlon yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, a bu ei dŷ yn agored i dderbyn gweision ei Arglwydd, y rhai a fyddent yn mynd i wasanaethu'r achos i'r lle. Yr oedd yr ystyriaeth o uchafiaeth sefyllfa'r teulu yn achos o bryder mawr i feddwl Mr Humphreys gyda golwg ar lwyddiant yr anturiaeth hon oedd ar ei chymryd. Gwyddai yn dda fod y teuluoedd hynny ag y mae cyfoeth wedi dechrau rhedeg atynt yn dra gochelgar rhag gwneud dim i'w droi yn ôl, trwy oddef i briodasau anachaidd—mewn ystyr ariannol—gymryd lle. Ond os oedd coffrau'r Quay yn llawnach o aur ac arian na choffrau'r Faeldref, yr oedd Mr Humphreys yn gallu teimlo fod ganddo yntau gartref cysurus, talent i drin y byd, cymeriad difrycheulyd,' 'a lle cryf i obeithio ei fod wedi cael gafael ar " y doethineb ,sydd oddi uchod." Wedi mesur a phwyso'r holl bethau hyn, a hynny gyda'r pwyll a'r arafwch oedd yn 'nodweddu ei gymeriad ef, daeth i'r penderfyniad i wneud ei feddwl yn hysbys i Miss Griffith, a chafodd dderbyniad croesawgar ganddi. Dangosodd Mis Griffith, trwy roddi derbyniad i Mr Richard Humphreys, nad oedd fel rhai o foneddigesau ieuanc o'r un dosbarth a hi, y rhai nas gallant werthfawrogi dim ond arian ac aur. Y mae llawer ohonynt mor awyddus i gyfoeth fel na ryfeddem eu gweled yn priodi delw, pe caent gynnig arni, ond i honno fod yn ddelw aur, Ond dangosodd hi ei bod yn gwerthfawrogi dynoliaeth dda, a bod yn well ganddi gael cymar bywyd yn meddu ar y gallu i drin y byd nag un a llawer o'r byd ganddo, a'i bod yn llawer tebycach o gael mwynhau cysuron bywyd gyda dyn oedd yn cael ei lywodraethu gan ofn Duw na phe buasai yn troi i gyfeiriad arall.

Wedi iddo lwyddo i weithio ei ffordd i'w mynwes, yr oedd ganddo eto yn aros i ennill cydsyniad y tad. A hynod mor rhagluniaethol y daeth hynny oddi amgylch. Digwyddodd iddo fynd gyda'r Cadben Griffith i Gymdeithasfa'r Bala, ac ar y ffordd cymerodd yr ymddiddan canlynol le:—

CADBEN. "Dylech gael gwraig, Richard Humphreys."

RICHARD HUMPHREYS. "A ydych yn meddwl hynny, Cadben?'

CAD, "Ydwyf yn sicr, Chwi ddylech gael gwraig i ofalu am y tŷ a'r tyddyn pan fyddwch chwi oddi-cartref,"

R. H. "Pe bawn wedi cytuno â rhyw ferch ieuangc am hynny, efallai na chawn hi wedyn gan y teulu."

Cad. "Os byddwch chwi a hithau yn cydsynio, nid oes achos i ofni llawer am y teulu."

Wedi arwain y Cadben fel hyn i osod rhwymau am dano ei hunan, a gwneud ei draed ef yn sicr yn y cyffion, gofynnodd Mr Humphreys, Wel, Cadben, a gaf fi Anne genych chwi? (Ni wyddai'r Cadben ' fod dim rhwng y ddau yn y cyfeiriad hwn, ac ni feddyliodd, wrth athrawiaethu ar y pwnc, y byddai galwad arno i'w droi yn ymarferol mor fuan. Ond gwelodd ei fod wedi ei ddal â rhaffau ei eiriau ei hun. Tariwyd ef yn fud gan y cwestiwn annisgwyliadwy; ond wedi i rwymau ei dafod gael eu rhyddhau, dywedodd, " Os byddwch chwi a hithau yn cydsynio, bydd pob peth yn burion gyda mi," ac ychwanegai, " ieuanc ydyw, dyna'r drwg mwyaf." "Ie," meddai Mr Humphreys, "ond daw yn well o'r drwg hwnnw bob dydd." Yr oedd pob peth wedi ei wneud i fyny gyda Mis Griffith o'r blaen, a gwnaeth yr ymddiddan hwn i fyny a'i thad. Felly ar yr 8fed dydd o Chwefror, 1822, unwyd y ddau mewn glân briodas, ac ni chawsant byth achos i edifarhau. Manteisiodd achos y Methodistiaid yn y Dyffryn yn fawr ar y briodas hon, oblegid bu Mrs. Humphreys ar hyd ei hoes a'i thŷ yn agored i dderbyn a chroesawu gweinidogion y gair; ac yr oedd y cwbl yn cael ei wneud ganddi gyda'r serchawgrwydd mwyaf, ac oddiar wir awyddfryd i wasanaethu achos yr efengyl.

Ar ol prïodi ymgymerodd Mr. Humphreys â masnach yn y Dyffryn, gan dybied y buasai hyny yn fwy cydweddol â thuedddiadau Mrs. Humphreys, gan nad oedd wedi arfer â gofalon ffermdy. Ond os ymgymeryd â masnach, yr oedd y Faeldref yn cael ei ddal ganddynt fel o'r blaen. Nid oedd ef ei hun yn teimlo dim hyfrydwch mewn masnachu, ac felly yr oedd yn gadael y gofal hwn bron yn gwbl ar Mrs. Humphreys, a gyrai yntau yn mlaen fel cynt gyda'r fferm. Ond er na fyddai ond anfynych yn y masnachdy, nid ydym yn amhéu na chafodd yn yr ychydig flynyddoedd hyny fwy o adnabyddiaeth o arferion masnachol cymdeithas nag a gafodd erioed o'r blaen; ac ni ryfeddem nad y pryd hwnw y casglodd ddefnyddiau yr ysgrif benigamp ar "Hwda i ti, a moes i minnau," yr ihon a ymddangosodd yn y "Traethodydd" yn mhen blynyddoedd ar ol hyny. Byddai weithiau, pan y gwelai rai o'i gwsmeriaid yn camdreulio eu hennillion, a thrwy hyny yn rhedeg i'w ddyled, yn cymeryd achlysur i roddi cyfarwyddiadau iddynt gyda golwg ar iawn drefnu éu cyflogau; ond yn lle gwrando ar gyngor y doeth, troent eu cefn arno; a chafodd yntau, fel pob masnachwr, brofi gwirionedd yr hen ddiarheb Saesoneg, "It is better to cry over your goods, than after them." Wedi bod am o gylch deng mlynedd yn masnachu, daeth y ddau i'r penderfyniad o'i rhoddi i fyny, ac felly y gwnaethant.

Erbyn hyn yr oedd ganddynt dri o blant—tair merch; ond bu y ganol o'r tair farw pan yn ugain mis oed, yr hyn a fu yn achos o alar dwin i'r teulu. Priododd Mary Anne —eu merch hynaf, â Mr. Griffith Jones (Draper), Porthmadog, ond wedi hyny o Upper Bangor, lle y bu Mrs. Jones farw yn nghanol ei dyddiau. Yr oedd ei thad yn ei hystafell ychydig o amser cyn ei hymddattodiad, a'r diweddar Barch Ellis Foulkes gydag ef. Wrth weled Mr. Humphreys yn methu ag ymgynal yn yr olwg ar ei anwyl Mary Anne yn nghanol ingoedd marwolaeth, gofynai ei gyfaill iddo fyned gydag ef allan. Aeth yntau; ac wedi gadael yr ystafell, ymddrylliodd mewn dagrau, a dywedodd, "O, Ellis bach, y mae fy llygad yn gam heddyw."

Priododd Jennette, eu merch ieuangaf, â'r diweddar Barch. Edward Morgan, Dyffryn, yr hwn oedd yn bregethwr poblogaidd, yn weinidog llafurus, yn arweinydd. diogel, ac yn weithiwr diflino gyda phob rhan o waith yr Arglwydd.

Yr oedd Mr. Humphreys, fel penteulu, yn gwir ofalu am holl dylwyth ei dŷ. Y mae y llythyrau byrion a dderbyniasom oddiwrth ei ferch, Mrs. Morgan, y rhai a ysgrifenwyd atti gan ei hanwyl dad pan ydoedd yn yr ysgol yn Nghaerlleon, yn ddangosiad cywir o'r gofal oedd ganddo am ei blant. Rhoddwn rai o honynt yma.

Faeldref, Tach. 13, 1844.

"Fy Anwyl Blentyn,—

Y mae yn esmwythyd i fy meddwl wybod dy fod o'r diwedd wedi cymmodi a'th ran, a bod yr hiraeth annedwydd am gartref erbyn hyn drosodd. Hyderaf dy fod yn gwneuthur y goreu o'th amsercofia na ddychwel dyddiau ieuenctyd i roi cyfleusdra i ti wneyd gwell defnydd o honynt. Fe fyddaf fi yn teimlo yn bur bryderus i dreulio yr hyn sydd yn ol o'm dyddiau yn y fath fodd fel ag y gallwyf eu hadolygu ar wely angeu heb arswyd nac ochenaid. Yr wyf yn gobeithio dy fod yn gweddio yn aml ar Dad y trugareddau am iddo dy oleuo â'i Yspryd daionus, fel y gwelych ogoniant y Gwaredwr mawr, ac y rhoddych dy hun trwy ffydd yn gwbl iddo, ac y cyflwynych dy. hunan yn llwyr i'w wasanaeth. Llafuria i gael golygiadau clir am natur ei deyrnas, a phrofiad dedwydd o felusder ei ras. Bydd yn dda genym dy weled adref unwaith yn rhagor. Bydded i'r Arglwydd dy fendithio a'th gadw. Hyn yw taer a beunyddiol weddi

Dy byth serchus Dad,

RICHARD HUMPHREYS"

Ysgrifenwyd yr ail lythyr o Fanchester, mewn atebiad i lythyr a gawsai oddicartref, yn hysbysu am afiechyd un o gyfoedion ei ferch.

Manchester, Ion. 21, 1845.

"Anwyl Ferch,—

Yr oedd yn ddrwg genyf ddarllen am afiechyd L. W. Yr wyt yn gobeithio y bydd iddi wella, ac y cymer Duw drugaredd arni hi a'i rhieni, o herwydd yr wyf yn teimlo y funud yma pa mor anfoddlawn a fuasai dy fam a minnau i ymadael â thi: a pha mor bwysig ydyw bod yn barod erbyn y dygwyddiad mawr—angeu, yr hwn sydd yn ymweled â dynolryw yn mhob cyfnod o fywyd. Yr wyf yn gobeithio y bydd afiechyd L. W. yn rhybudd i ti beidio gohirio neu aros yn anmhenderfynol gyda golwg ar yr un peth angenrheidiol. Fy ngeneth anwyl, gweddia yn aml ac yn daer, a thyred yn amserol i gyfammod difrifol gyda Duw, i'w gymeryd ef yn Dduw i ti, a'i uniganedig Fab yn Waredwr, Offeiriad, Prophwyd, a Brenhin, a'i Yspryd daionus i'th sancteiddio, i'th arwain, a'th ddiddanu, a'i Air sanctaidd yr Ysgrythyrau, yn rheol yn mhob peth o natur foesol. Ni elli wneyd hyn yn rhy fuan nac yn rhy ddyfal. Y mae rhy arwynebol a rhy ddiweddar y ddau yn beryglus. Anwyl Jennette, myfyria ar y pethau hyn yn aml; gweddia hwynt gyda theimlad, fel y byddont yn cael eu hargraffu ar dy feddwl. Bydded yr Arglwydd gyda thi. Bydded Duw dy Deidiau, a Duw dy Neinoedd, ïe, Duw dy Dad a'th Fam gyda thi hefyd.

Dy Anwyl Dad,

RICHARD HUMPHREYS.

Maentwrog, Mai 1af, 1845.

Fy Anwyl Ferch,

Gobeithiaf dy fod yn gwneuthur defnydd da o'th amser a'th gyfleusdra i wella. Bydd ostyngedig a hawdd i'th ddysgu. Cymer ofal rhag rhoddi poen afreidiol i'th athrawon. Na fydd ymhongar. Gochel fursendod o bob peth. Adnebydd dy hun, a thi fyddi ostyngedig; adnebydd Dduw yn Nghrist, ac ni lwfrhei. Myfyria ar yr hyn a ddarlleni, a gwrando; edrych i mewn i bethau: na fydd bob amser ddrwgdybus, fel rhai pobl; ac nac ymddiried ormod chwaith. Gweddia yn aml ac yn daer. Cais olygiadau clir ar y Gwaredwr gogoneddus. Byddaf yn gweddio bob dydd drosot, ac yn meddwl llawer am danat. Er i rieni duwiol weddio dros rai plant, etto fe eu collwyd; ond gwrandewir bob amser y rhai a weddiant yn daer eu hunain.

Ydwyf, anwyl Jennette, dy serchus Dad,

RICHARD HUMPHREYS.

Ond nid am ei blant yn unig yr oedd yn gofalu, yr oedd llwyddiant tymhorol ac ysprydol ei wasanaethyddion yn cael lle mawr ar ei feddwl. Y mae un o'i hen weision, y Parch. R. Griffith, Bryncrug, wedi rhoddi i ni yr adroddiad hwn am dano fel meistr. "Ymddiddanai â'i was yn rhydd, siriol, a chyfeillgar. Fe fyddai pob gwas yn cael yr un chwareu teg ganddo i ffurfio ei gymeriad. Gadawai y gwaith o flaen y gwas newydd, a byddai am beth amser mewn sefyllfa o brawf: ond nid oedd pob un o honynt yn deall hyny. Adwaenai bawb wrth eu gwaith, ac ni feddyliai ddrwg am yr un o honynt hyd nes y byddai rhaid iddo. Yr oedd wedi cael achos i ddrwgdybio un am ei onestrwydd; a phan yn cychwyn oddicartref i daith, dywedodd wrtho, Paid ti a dwyn llawer, Wil, tra y byddaf fi i ffwrdd.' Aeth ei eiriau fel brath cleddyf i galon Wil, ac ni chafodd ei feistr ei flino na'i golledu ganddo mwyach. Ond gwyn ei fyd y gwas ffyddlon; enillai hwnw barch, ymddiried, a chlod, a gwahoddid ef yn fynych i eistedd gyda phendefigion, a rhan yn holl ragorfreintiau y teulu. Yr oedd efe, a'i anwyl briod, yn craffu ar ffyrdd tylwyth eu tŷ; gofalent am eu hiechyd, eu cysuron, ac yn neillduol am iachawdwriaeth eu heneidiau. Byddai yn fynych yn eu cynghori i wneyd y goreu o'r ddau fyd; a llawer gwaith y dywedodd wrthynt am beidio a myned ar ol eu blysiau. Ni welais ef wedi colli ei dymmer dda erioed, it roddi mwy o ddrwg i ni na dywedyd, pan y byddem wedi dyfetha ei arfau, "Ni waeth i mi geisio taflu fy het yn erbyn y gwynt na cheisio cadw mîn ar fy arfau yn y fan yma.'

Ni a ddodwn yma ymddiddan a fu rhyngddo â'r Parch. Robert Griffith pan oedd yn was gydag ef, ac a ysgrifenwyd gan Mr. Humphreys ei hunan i'r "Methodist." Testyn yr ymddiddan ydoedd

SEFYLLFA PRAWF.

Ar ryw ddiwrnod hynod o haf, tua diwedd mis Mai, er's amryw o flynyddoedd yn ol, yr oedd meistr a gwas yn gweithio yr un gwaith, ac yn yr un maes, gan ddefnyddio y cyffelyb arfau a'u gilydd. Yr oeddynt yn lled ddifyrus, oblegid y mae pleser mewn gwaith na ŵyr y segur ddim am dano. Pa fodd bynag yr oedd y meistr yn dechreu heneiddio, a gorchest wedi myned yn annaturiol iddo; ond yr oedd y gwas yn mlodau ei ddyddiau, pan nad yw gwaith yn boen na blinder. Ond am y meistr nid felly yn hollol yr oedd gydag of; canys wrth hir balu, teimlai ddolur o'i gefn, a chodai ei ben, a rhoddai yr hyn a alwai yr hen bobl yn "fron i'r rhaw," sef rhoi ei bwys arni, a'i ddwylaw ar ei phen uchaf, a phwys ei fynwes ar hyny. Ac am eu bod yn lled hoff o ymddyddan ill dau, a'r un gwaith bron wedi eu dwyn i'r un lefel, gofynai y

GWAS.—Meistr, beth mewn gwirionedd yw y sefyllfa prawf y clywaf gymaint am dani yn y dyddiau hyn ?

MEISTR.—Sefyllfa prawf yw sefyllfa o ymddiried, lle y gall y sawl sydd ynddi weithredu ffyddlondeb neu anffyddlondeb i'w harglwydd, ac mewn canlyniad gael eu gwobrwyo am y ffyddlondeb neu eu cospi am yr anffyddlondebd yna yn fyr yw sefyllfa prawf, os wyf fi yn iawn ddeall.

G.—Y mae hynyna o'r goreu gyda golwg ar ddynolryw cyn y codwm mawr, ond byth wedi hyny y mae fy Meibl yn rhoi ar ddeall i mi fod cyflwr plant dynion yn dra gwahanol. Nis gallaf fi gredu fod dyn yn awr fel ei crewyd ar y cyntaf, mwy nag y gallaf symud yr Wyddfa.

M.—Nid oes eisieu i ti gredu hyny, sef fod dyn mal cynt. Cymer ddyn fel y mae, ac fel y dengys yr Ysgrythyr a ffeithiau ei fod; gan hyny gâd yr Wyddfa ar ei stôl, a chymer ddyn yr hyn ydyw, ac nid yr hyn ydoedd; ac ar yr un pryd ystyriaf sefyllfa bresennol dyn yn un brofedig.

G.—Nis gwn i pa fodd y dichon y pethau hyn fod.

M.—Ti ddylit ystyried pa bethau a gollodd dyn, trwy ei gwymp, a'r a oedd ganddo o'r blaen, a pha bethau nis collodd, y rhai sydd ganddo eto. Amlwg yw iddo golli heddwch Duw o'i gydwybod, ond ni chollodd ei gydwybod; collodd ddelw Duw oddiar ei enaid, ond ni chollodd resymoldeb ei enaid—y mae yn greadur rhesymol o hyd; collodd gymdeithas Duw, ond ni chollodd y duedd i gymdeithasu. Weithian, gan hyny, y mae cyfrifoldeb byth a hefyd yn nglŷn wrth resymoldeb, ac nid ysgerir hwynt. Y mae gwobr neu gosp hefyd yn gysylltiedig â rhyddid ac â chydwybod, yn ol fel y defnyddir y naill a'r llall. Y mae pob dyn yn brofiadol ei fod yn rhydd, a bod ganddo gydwybod. Gwir yw fod Duw yn ei brofi a diafol yn ei demtio; ond nis gall diafol ddwyn ei ryddid oddiarno, ac nis gwna Duw.

G.—Myfi a welaf fod rhyw fath o brawf yn cael ei roddi ar bob math o ddynion, pa un bynag ai cyfiawn ai drygionus, ai yr hwn a wasanaetha Dduw ai yr hwn nis gwasanaetha ef; ond, fy Meistr, pa beth yw y gwahaniaeth rhwng prawf ein tad Adda yn Eden a'n prawf ni, ei epil, yn yr anialwch? oblegid yr wyf yn deall fod ei sefyllfa ef yn sefyllfa prawf i bob amcan a dyben; ond yn mha beth y mae y gwahaniaeth?

M.—Ti wyddost yn dda ddigon pa fodd y daethost ti yn was ataf fi, a pha fodd y daeth y wasanaethferch sydd yma hefyd ataf; daethoch o bell, ac o sir arall o Gymru, ond yr oedd genych garictor fel gwas a morwyn gonest a ffyddlon; ond nid oedd eich bwyd a'ch cyflog yn dyfod i chwi am fod felly, ond am barhau felly. Pe buasech anffyddlon i'r ymddiried a roddid ynddoch, buasai raid i chwi droi allan i'r byd mawr llydan heb wobr na charictor. Wel, dyna yn gymwys oedd sefyllfa ein tad a'n mam, Adda ac Efa: yr oedd eu cymeriad yn ddifrycheulyd. Gosodwyd hwynt mewn sefyllfa ddedwydd iawn, a galluogwyd hwynt â digon o nerth i sefyll eu tir, ac i gadw y 'stâd wynfydedig hon, pe buasent yn ei ddefnyddio. Ond, fel y mae yn bruddaidd yr hanes, "dyn mewn anrhydedd nid erys." Wrth wrando ar y gelyn yn lle Duw, pechasant, ac aethant yn ol am ei ogoniant ef.

G.—O'r goreu, yr wyf yn deall yn lled glir hyd y fan yma; ond pa fodd i ddeall prawf dynolryw ar ol y cwymp, dyna y dyryswch sydd ar fy meddwl yn wastad.

M.—Ti wyddost am y forwyn fu yma yn ddiweddar, yr hon a ddaeth yma trwy eiriolaeth ei mam. Gwyddai ei mam ei bod wedi colli ei charictor am onestrwydd, a'i bod yn euog o amryw fa-ladradau oddiar ei rhieni. Cwynai ei mam yn galed o'i herwydd wrth dy feistres a minnau; ac erfyniai, gyda llawer o ddagrau, am iddi gael dyfod yma i dreio adenill ei chymeriad yn mhlith pobl yn proffesu crefydd o leiaf, fel y gellid dysgwyl na byddai i neb o honynt edliw iddi ddim o'i chastiau drwg; ac ni wyddys ddarfod i neb wneuthur sarhad arni wedi ei dyfod. Pa fodd bynag, fe wariwyd pob cynghor a rhybydd a phob cyfleusdra yn ofer; oblegid ymddygodd yn annheilwng o'r ymddiried a roddwyd ynddi—aeth ymaith yn lladradaidd, gan gymeryd gyda hi yr hyn nad oedd eiddo iddi. Dyma gyflwr presenol dyn: y mae darpariaeth yn yr efengyl ar ei gyfer, y mae einioes yn cael ei gosod o'i flaen, a bygythiad marwolaeth o'i ol. Gwna yr efengyl gynygiad didwyll iddo o iachawdwriaeth gyflawn, rasol, a digonol; teilwng o'r Duw a'i trefnodd, o'r Cyfryngwr yr hwn a'i gweithiodd, ac o'r Yspryd tragwyddol, yr hwn a'i cymhwysa. Y mae yr ymwared yn cael ei esgeuluso a'i gamddefnyddio hyd yma gan y rhan fwyaf sydd yn clywed am dano—â un i'w faes ac arall i'w fasnach. Y prawf ofnadwy ydyw, pa fodd yr ymddyg dyn tuag at Fab Duw a'r efengyl, oblegid yn ol hyny yr ymddyg Duw tuag at ddyn yn y farn ac i dragwyddoldeb.

G.—Wel, dyma fi wedi deall, ac ni chollaf byth mo'r syniad.

M.—Byddai o'r goreu i ti ddeall mai creadur rheswm yn unig sydd brofedig. Y mae prawf yr angylion, y mae'n debyg, wedi pasio—rhai wedi troi allan yn ffyddlawn, ac wedi eu diogelu mewn dedwyddwch, a'r lleill yn dwyn cosp eu gwrthryfel a'u hanffyddlondeb. Fe allai mai dyn yn unig sydd yn y prawf yn awr—ac y mae dyn felly mewn gwirionedd. Goruchwyliaeth gwobr a chosp a gynwys hyny; oblegid ni chospir ond bai, ac ni wobrwyir ond rhinwedd; hyny yw, caiff anffyddlondeb ei gospi yn ol ei haeddiant, a ffyddlondeb ei wobrwyo yn llawer mwy na'i haeddiant, sef yn ol haelioni graslawn Duwdod. Y mae y prawf hwn fel y ffwrn i'r aur, a'r tawdd—lestr i'r arian; ïe, fel tân y toddydd, ac fel sebon y golchyddion; ond pwy a ddaw allan fel aur, a phwy a burir ac a gènir? Y mae ymrysoniadau Yspryd y Duw mawr â gwrandawyr yr efengyl, a'r gafael sydd gan y gwirionedd ar eu cydwybod o un tu, a llygredigaeth natur a deniadau y byd, y cnawd, a'r diafol o'r tu arall, yn cyfansoddi prawf tra phwysig. Duw yn unig a ŵyr pa fodd y gogwydd y galon ac y try yr ewyllys yn yr ymrysonfa, a thebyg yw fod yr angylion yn syllu ar hyn gyda phryder, oblegid y mae yn gof ganddynt hwy y prawf fu arnynt eu hunain. Dywed Iago nad yw Duw yn temtio neb. Gwir iawn. Ar yr un pryd y mae yn profi pawb. Noa, Abraham, a Job a ddaethant allan o'r ffwrn yn loywach nag yr aethant i mewn. Bu hir brawf ar Moses a meibion Israel yn yr anialwch am ddeugain mlynedd. "Cofia," ebe Moses," yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy yr anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchymynion ef, ai nis cedwit." Cawn fod Moses yn eu rhybuddio drachefn a thrachefn o'r profion pwysig oedd i'w cyfarfod. "Pan godo yn dy fysg di broffwyd, neu freuddwydydd breuddwyd (a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod, a dyfod i ben yr arwydd neu y rhyfeddod a lefarodd efe wrthynt) gan ddywedyd, Awn ar ol duwiau dyeithr (y rhai nid adwaenost) a gwasanaethwn hwynt; na wrando ar eiriau y proffwyd hwnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnw; canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru yr Arglwydd eich Duw â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid."

G.—Diolch i chwi am y cyfryw eglurhadaeth: bwriadaf gadw yr ystyriaethau hyn ar fy meddwl; a gweddiaf, trwy gymorth, am gymorth i sefyll yn y dydd drwg, ac wedi gorphen pob peth, sefyll.

M.—Ystyria hefyd nad yw y syniad hwn yn gwrthwynebu rhad ras yr efengyl, cyfiawnhad pechadur trwy ffydd, dyna efengyl. Barna y meirw wrth eu gweithredoedd, gan roddi i bob un fel y byddo ei waith ef,—dyna y prawf.

"Byddai fel hyn yn cydweithio llawer â ni ar hyd y meusydd, a chadwai ni mewn tymher dda trwy ei ymddiddanion difyrus ac adeiladol. Ni oddefai i neb o honom i arfer creulondeb at yr un o'r anifeiliaid. Pan y digwyddai i rai o honynt droseddu, trwy fyned i'r gwair neu i'r ŷd, gofynai bob amser pa un ai o fariaeth ai ynte cael bwlch a wnaeth; ac os trwy fwlch y byddai y creadur wedi myned, dywedai, Na chospwch ef, oblegid greddf y creadur ydyw cymeryd y tamaid goreu lle y gall ei gael.' Yn adeg y cynhauaf, dywedai wrthym, pan yn myned i'r gweir—gloddiau i ladd gwair, am adael i'r llyfaint ddiangc hyd y gallent. Cofus genym ei weled, pai yn cydbalu yr ardd ag ef, yn rhoddi y rhaw yn esmwyth o dan bryf genwair a ddaethai i fyny gyda'i baliad, a danfonodd ef ychydig oddiwrtho, a dywedai, Byddai yn well i ti fyned y ffordd yna, yr wyf fi yn ewyllysio i ti gael chwareu teg, ac y mae y byd mor llydan i ti ag ydyw i minnau.' Arferai ddyweyd ei fod yn bechadurus defnyddio pryf i demtio pysgodyn i lyngcu bach.'

"Yr oedd yr addoliad teuluaidd yn cael lle mawr yn y Faeldref, a byddai rhaid i bobpeth roddi lle iddo. Mrs. Humphreys fyddai yn darllen y rhan fynychaf, a hyny am y rheswm ei bod yn darllen mor dda, a byddai Mr. Humphreys yn cael y fath foddhad wrth ei gwrando. Byddai yn rhaid i'r holl deulu ddyfod at eu gilydd yn adeg y ddyledswydd, a gallaf chwanegu fod dylanwad yr addoliad teuluaidd yn fawr yn y Faeldref. Llawer gwaith ein gorchfygwyd gan ein teimladau pan y byddai Mr. Humphreys yn ein cyflwyno i ofal y Brenin Mawr." Cawn achos i sylwi ar ei weddiau teuluaidd mewn pennod arall.

"Yr oedd ei ofal yn fawr am ddydd yr Arglwydd, ac ni chaniatäai i ni wneud dim ond oedd anhebgorol angenrheidiol. Ni chaniatäai i'r morwynion adael dillad allan i sychu dros y Sabboth. Cofus genyf ei weled yn troi yn ei ol un bore Sabboth, ar ol gweled hen sach ar ben y clawdd o'r tu ol i'r tŷ, a dywedai wrth y merched nas gallai fyned ymaith tra y byddai pethau yn cael eu gadael yn y wedd hono o amgylch y tŷ."

Aeth pethau yn mlaen fel hyn yn y Faeldref am amryw flynyddoedd, heb unrhyw gyfnewidiad o bwys. Gwenai rhagluniaeth arnynt, a thywynai yr haul ar eu pabell: ond yr oedd yn rhy ddisglaer i barhau yn hir. Dechreuodd cymylau duon ymgasglu uwchben y teulu dedwydd, a gwelodd Mr. Humphreys arwyddion yn yr ystorm y byddai iddo gael esponiad yn fuan ar hen air ag sydd wedi profi ei hunan yn rhy wir, sef "Fod o'r rhai sydd a gwragedd iddynt, megys pe byddent hebddynt." Dechreuodd Mrs. Humphreys gael ei blino gan hen ddolur na bydd byth bron yn methu a chyrhaedd ei nod, sef y Cancer. Gwnaed pob ymdrech oedd yn bosibl i gael gwaredigaeth oddiwrtho, ond ni fynai y chwydd blygu i driniaethau y meddygon; ond i'r gwrthwyneb, yr oedd yn myned waeth waeth. Pan oedd Mrs. Humphreys yn dioddef fel hyn, ysgrifenodd Mr. Humphreys—tra yn aros yn Llangollen—y llythyr canlynol ati; ac o herwydd ei fod yn ddangosiad o'i deimlad didwyll ef, a'i ofal am ei chysuron, ni a'i dodwn i lawr yma.

Llangollen, Mai 1, 1851.

Fy Anwylyd,

Nid oes genyf ddim gorchymynion i'w rhoddi am y farm nac unrhyw beth arall. Nid wyr yn gofalu ond ychydig am ddim ond eich iechyd a'ch cysur chwi. Mewn perthynas i bwnc mwy pwysig o iachawdwriaeth eich enaid, hyderwyf ei fod oll wedi ei benderfynu, a'ch bod chwithau wedi dyfod i ddealltwriaeth da gyda Duw yn Nghrist ar y cwestiwn mawr, ïe, yn wir, yr unig un mawr sydd yn dwyn perthynas â'r holl hil ddynol, ond a deimlir i fod felly ond gan ychydig.Yr wyf yn teimlo yn ddigon hyderus ein bod ni, trwy ddaioni gras Duw, o nifer yr ychydig hyn; er hyny yr wyf yn brydeius rhag i mi dwyllo fy hun, fel yr ofnaf y mae llawer wedi gwneyd ac eto yn gwneyd; ond am y rhai hyny a roddasent eu hunain i fyny i Dduw y maent wedi eu derbyn a'u cymeradwyo, ac wrth gwrs yn y dwylaw goreu, ac ni chânt eu gwrthod na'u hesgeuluso: a phe baem yn teimlo yn amheus yn nghylch yr ymdrafodaeth hon rhyngom ni a'r Cyfryngwr, adnewyddwn ki drachefn a thrachefn, yn enwedig gan fod pob cymdeithas yn fuddiol i i ni ac yn ogoniant iddo ef. Ni ellwch wybod na chawn eto weled amseroedd da iawn. Sonir yn rhywle am "flynyddoedd deheulaw y Goruchaf." Fe gynyrcha sancteiddrwydd gysur yn gyffredin hyd yn oed mewn henaint. Bydded Yspryd daionus Duw yn Arweinydd, Goleuni, a Dyddanydd i chwi—yr wyf yn teimlo dymuniad angherddol i gyfranu tuag at eich dedwyddwch.—Dof adref fel y penderfynwyd ddydd Llun.—Gweddiwch drosof.

Yr eiddoch hyd angau,

RICHARD HUMPHREYS.

Wrth weled y chwydd yn tyfu ac yn myned yn fwy dolurus, gwnaed cais i geisio ei ddiwreiddio, ond yr oedd y gwraidd wedi ymestyn yn rhy ddwfn i arfau y meddygon allu myned o dano. Ac ar yr 8fed o Fehefin, 1852, daeth angau rhyngddi a'i phoenau. Bu ei marwolaeth yn achos o alar mawr, nid yn unig yn y Faeldref, ond trwy y Dyffryn oll, ac i gylch eang o'i chydnabod.

Wedi colli ei anwyl briod, dymunodd Mr. Humphreys ar ei ferch a'i fab-yn-nghyfraith roddi eu tŷ i fyny yn y Dyffryn, a myned i fyw i'r Faeldref, fel y gallai yntau gartrefu gyda hwy. Gwnaeth y ddau—Mr. Morgan a'i briod—bob peth oedd yn eu gallu i'w berswadio ef i gadw y Faeldref yn gartref iddo ei hun. Ond nid oedd dim a'i boddlonai ef ond iddynt hwy gydsynio a'i gais; a rhag rhoddi tristwch ar dristwch iddo, aberthasant eu barn a'u teimladau eu hunain er ceisio ei ddiddanu ef. Chwalasent eu tŷ, oedd ganddynt wrth y capel, a rhoddodd Mr. Humphreys gymeriad y Faeldref drosodd iddynt. Wedi cyd-drigo am o gylch pum' mlynedd, dechreuodd Mr. Humphreys ystyried fod teulu y Faeldref yn lluosogi, a bod iechyd Mr. Morgan yn graddol wanhau, a'i fod yntau ei hunan yn heneiddio, a gwyddai y byddai yn rhwym o roddi llawer o drafferth iddynt cyn hir: ac yr oedd yn gweled nad oedd un lle i'r holl ofalon hyn ddisgyn ond ar ysgwyddau gweiniaid Mrs. Morgan. Gwyddai hefyd na buasai dim yn ormod gan ei ferch i'w wneyd er mwyn ei hapusrwydd; ond yr oedd Mr. Humphreys yn deall deddfau priodasol yn dda, a bod yn ddyledswydd arni roddi y flaenoriaeth i'w gofalon am ei phriod a'i phlant. Arweiniodd yr ystyriaethau hyn ef i farnu mai doethineb ynddo fuasai edrych am wraig. Wedi i deulu y Faeldref ddeall ei fod yn bwriadu ail-briodi, cynnygiasant y Faeldref yn ol iddo, a hyny am y rheswm fod yn well ganddynt hwy symud eilwaith nag iddo ef adael ei hen gartref. Ond ni fynai ef hyny: gan iddo gyflwyno y cwbl drosodd iddynt hwy, teimlai mai nid anrhydeddus ynddo fuasai cymeryd y fargen yn ol. Bellach nid

oedd ganddo ond ceisio dilyn y golofn, ac arweiniwyd ef i Werniago— ffermdy, yn mhlwyf Pennal, Sir Feirionydd. Ar y 29ain o Mehefin, 1858, prïododd â Mrs. Evans, yr hon a fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd ddiwedd ei oes. Ganwyd iddynt un ferch.

Nodiadau

golygu