Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pennod IV
← Pennod III | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Pennod V → |
PENNOD IV.
MR. HUMPHREYS YN EI GYLCHOEDD CYHOEDDUS.
Cawn ofyn i'r cynifer—adwaenai'n
Daionus dad tyner,
Dan luaws doniau lawer,
Ei fawr iawn bwyll, a'i farn bêr,
Od oedd ar y ddaear ddyn
O'i lawnach—yn hael enyn
Rhinwedd a hedd? rhanodd hwy hyd
Ein hen ddaear ni yn ddiwyd;
A ffordd bu ef, ffoi yr oedd bai
Oll o'r golwg, lle yr elai.
—Gweryddon, Dyffryn Ardudwy.
NID hwy y bu Mr. Humphreys heb dynu sylw y cynnulleidfaoedd nag y dechreuodd dalu ymweliad â hwy yn y cymeriad o weinidog yr efengyl. Cydgyfarfyddai ynddo amryw bethau oedd yn hawlio sylw, pa bryd bynag y "cymerai ei ddameg" i addysgu y bobl. Yr oedd ei ymddangosiad personol, ei ddull serchog a chyfeillgar, ynghyd a'r cyflawnder o hanesion difyrus a dywediadau pert, yn gwneud y byddai yn dda gan bawb, yn mhob cylch lle y byddai, eistedd wrth ei draed i wrando arno. Mae Mr. Rees Roberts, Harlech, wedi rhoddi i mi y desgrifiad canlynol o hono:
"Yr oedd Mr. Humphreys yn ddyn o ymddangosiad talgryf ac urddasol iawn; a phenderfyniad, nerth, a phwyll, yn argraphedig ar ei holl ysgogiadau; a hyny mewn llythyrenau mor freision fel y byddem ni, hogiau y Dyffryn, yn ymdeimlo'n union pan y canfyddem ei dremwedd yn y pellder, fod yn y fan hono ryw gryn lawer o "uwchder llwch y byd" yn ymsymud gyda'u gilydd. Yr oedd ei wynebpryd yn un tra awgrymiadol o bob teimlad dymunol, fel pe buasai natur, neu yn hytrach ei Dduw, wedi darparu treat i bob cynnulleidfa y talai Mr. Humphreys ymweliad â hi. Yr oedd pob teimlad haelfrydig a hynaws yn daenedig ar ei wyneb llydan braf: yn ffurfio y fath gontrast rhyngddo ag ambell i greadur gwynebgul y teimlem yn falch nad oedd fodd dangos mwy o surni a chwerwder ar ei frontispiece. Ond am Mr. Humphreys ni fuasai yn waeth gan neb pe buasai ei wyneb cân lleted a'r ffenestr, o herwydd na fuasai ond gollwng ffrwd o oleuni ar deimladau mwyaf dymunol y galon ddynol. Teimlid fod cyfarchiad caruaidd Mr. Humphreys hefyd yn werth ei gael. Byddai ei' How di do, machgen i,' yn ymofyniad serchog a gwirioneddol, ac yr oedd ei ysgydwad llaw yn rhywbeth pur sylweddol. Nid fel ambell un yn gollwng ei bawen i'ch llaw fel rhyw lwmp o sponge llaith, gan edrych ffordd arall, y byddai efe; na, byddid yn teimlo fod ei galon fawr yn throbio yn nghledr ei law, a'i ddau lygad mawr gloew yn edrych yn eich llygaid chwithau, fel pe yn yspio a oedd rhyw drallod a gofid yn rhyw le tua gwraidd y galon ag y gallai ef roi plaster wrthynt. Efelychai yn fawr yn hyn dynerwch tosturiol yr Iachawdwr bendigedig, fel ei dangosir gan y bardd Cowper yn y llinellau hyny ar Y Daith i Emmaus:'
'Ere yet they brought their journey to an end
A stranger joined them, courteous as a friend,
And asked them, with an engaging air,
What their affliction was? and begged a share.""
Er dangos yn mhellach y rhagoriaethau oedd yn Mr. Humphreys i'w gymhwyso i droi mewn cylchoedd cyhoeddus ni a ddifynwn ranau o'r ysgrif a ymddangosodd arno yn y Faner (yn fuan ar ol ei farwolaeth), gan Dr. Edwards. Wedi sylwi nad oedd dim yn ei wisg, na'i ddull, yn dangos pa beth oedd ei swydd, na'i alwedigaeth, na'r blaid grefyddol yr oedd yn perthyn iddi, ac y byddai yntau ei hunan yn arfer dyweyd nad oedd yn dewis i ddyeithriaid gael achos i sylwi wrth edrych arno, "Dacw bregethwr Methodist;" ond y dymunai yn hytrach iddynt ddyweyd am dano, os dywedent rywbeth, "Dacw ddyn syml yn myned heibio," â yr awdwr yn mlaen fel hyn:
"Ond er nad oedd dim yn hynod yn ei ymddangosiad, nid cynt y dechreuai siarad ar unrhyw achlysur nag y tynai sylw pawb a fyddai yn bresenol. Yr oedd hyfrydwch i'r glust hyd yn oed yn ystwythder ei lais: ac yr ydym yn cofio fod y diweddar Mr. Sherman, o Lundain, mewn cymanfa unwaith yn Ninbych, yn gofyn i rywun yn y cynnadleddau, Pwy oedd y gŵr hwnw oedd yn llefaru yn fwy llithrig, a'i lais yn swnio yn fwy seinber na neb arall yn y cyfarfod. Ni chafodd geiriau yr hen iaith Gymraeg eu hacenu well yn gan neb erioed na chanddo ef. Ond yr oedd pawb oedd yn deall ystyr ei eiriau yn teimlo hefyd nad oedd ei ymadroddion un amser yn cynwys sŵn heb ddim sylwedd; ac yr oeddynt wrth ei wrandaw yn barod i ddyweyd, nid yn unig 'Dacw ddyn syml,' ond, 'Dacw ddyn synwyrol.' Efallai mai ei nodwedd fwyaf arbenig oedd ei helaethrwydd o synwyr cyffredin. Byddai rhai yn gwawdio y dywediad hwnw o eiddo yr hen batriarch Lewis Morris, fod yn rhaid cael synwyr i arfer synwyr,' ond y mae mwy ynddo nag yr oedd llawer yn tybied. Cawsom gyfle yn ddiweddar i ddarllen hanes Irving, gan Mrs. Oliphant; ac un effaith a gafodd arnom oedd ein argyhoeddi o gywirdeb dywediad yr hen dad o Sir Feirionydd. Yr oedd Irving yn un o'r dynion mwyaf yn ei oes; ond ammharodd ei ddefnyddioldeb i raddau mawr o ddiffyg 'synwyr i arfer synwyr.' Yn hyn yr oedd yn mhell islaw Dr. Chalmers, er ei fod yn rhagori arno mewn ystyriaethau eraill. Ond yn y synwyr neillduol hwn, nid oedd Chalmers na Franklin yn rhagori ar Mr. Humphreys, o'r Dyffryn. Paham y gelwir ef yn 'synwyr cyffredin nis gwyddom; ond pe dilynem rai o'r dysgedigion mewn achosion cyffelyb, ni a ddywedem ei fod yn cael ei alw felly am ei fod yn anghyffredin. Pa fodd bynag, y mae ei enw yn cyfateb yn berffaith i'w ddyben a'i ddefnydd; oblegid y mae yn dwyn perthynas yn benaf â phethau cyffredin. Ac yma eto y mae gwahanol ranau a rhywogaethau. Un o honynt ydyw synwyr i ymddwyn yn ddoeth yn ei berthynas â phethau cyffredin. Yn y ddau ystyr yma yr oedd llawer o wŷr a gwragedd yn Sir Feirionydd, ac mewn siroedd eraill, mor synwyrol a Mr. Humphreys, o'r Dyffryn: ac yn enwedig ni a deimlem duedd gref i efelychu yr hen weinidog hwnw, yr hwn pan yn gweddio dros Jonathan Edwards, a ddefnyddiodd y cyfle i ddadgan ei farn, er cymaint dyn oedd y duwiol hwnw, eto fod ei wraig yn rhagori arno. Ond y mae math arall o synwyr cyffredin : ac yn hwnw yr oedd Mr. Humphreys yn nodedig, sef y gallu i dynu addysgiadau buddiol oddiwrth bethau cyffredin, ac i wneuthur sylwadau buddiol arnynt.
"Y mae yn ddiau y rhyfeddai llawer pe cymharem Mr. Humphreys a'r bardd Wordsworth; ac eto er eu bod yn anhebyg iawn, ar amryw olygiadau, yr oeddynt yn gyffelyb yn y sylw a delid ganddynt i bethau cyffredin. Dangosai y naill fod yr amgylchiadau mwyaf cyffredin yn llawn prydferthwch, a dangosai y llall eu bod yn llawn o synwyr; hyn oedd yn gwneyd ymweliadau Mr. Humphreys mor ddiddanus ac mor dderbyniol mewn teuluoedd. Yr oedd y rhieni a'r plant, y gweision a'r morwynion, i gyd yn llawen pan ddeallent fod gobaith iddynt gael y fraint o'i groesawu: oblegid byddai ganddo ef air i'w ddywedyd wrth bawb, a'r gair hwnw yn addysgiadol i bawb. Dywedir yn hanes Irving iddo enill serch rhyw grydd anhywaith trwy ddangos ei fod yn deall am natur lledr. 'He's a sensible man yon; he kens about leather,' meddai y crydd rhagfarnllyd yn Glasgow. A'r un peth ydyw y natur ddynol yn Nghymru, ac yr oedd Mr. Humphreys, yn yr un dull, yn peri i bawb gredu ei fod yn sensible man. Yr oedd yn llwyddo, nid trwy ddeall yn unig, ond trwy gydymdeimlad. Nid fel un yn ymostwng o ryw diriogaeth uwch yr oedd yn ymddiddan a dynion o bob crefft ac o bob gradd; ond fel un o honynt hwy eu hunain. Nid rhywbeth gwneyd oedd y dyddordeb a ddangosai yn mhob achos. Yr oedd yn caru dynion fel dynion; ac heb hyn buasai y cwbl yn aneffeithiol; oblegid y mae ffug mewn ymddiddanion am bethau cyffredin, fel mewn achosion mwy pwysig, bob amser yn creu gwrthdarawiad. Nis gwyddom yn sicr pa un yn benaf ai achos ai effaith o hyn oedd ei fedrusrwydd i dderbyn addysg iddo ei hun oddiwrth bawb, yn gystal ag i roddi addysg iddynt hwythau. Mewn hen feini, na fuasai neb arall yn sylwi arnynt, yr oedd ef yn fynych yn cael mŵn gwerthfawr; ac fel hyn y byddai ganddo ryw hanes difyr, neu ddywediad pert, i'w gymhwyso at bob amgylchiad. Os cafwyd allan gan eraill fod trysorau yn nghreigiau Sir Feirionydd, dangosodd yntau fod cyfoeth o synwyr yn ymddiddanion cyffredin y werin."
Buasai yn hawdd i ni ddwyn lliaws o enghreifftiau yn mlaen er dangos ei fedrusrwydd i egluro a phrydferthu ei ymddiddanion a'i anerchiadau trwy gymhariaethau, pa rai a gymerai o blith pethau na buasai y cyffredin yn gwneyd dim a hwy ond yr un peth ag a wnai moch a gemau, eu sathru dan eu traed." Ond gan y bydd genym bennod ar hyn, ni a ymattaliwn heb roddi ond un neu ddwy o honynt. Un tro yr oedd y diweddar Barch. David Jones, Treborth, yn cael ei ddysgwyl i Gyfarfod Misol i'r Dyffryn; ond wedi gweled y Goach fawr yn myned heibio, a'r gŵr parchedig heb ddyfod, ofnwyd yn fawr fod rhywbeth wedi ei attal, ac nid oedd neb yn teimlo yn fwy pryderus na Mr. Humphreys. Ond pan oeddynt ar fyned i'r oedfa, pwy ddaeth i dŷ y capel ond Mr. Jones. Neidiodd Mr. Humphreys ar ei draed, a dywedodd yn ei ddull serchog ei hun, "Dafydd bach, y mae yn dda genyf eich gweled; sut y daethoch?" Wel, fe ddarfu rhyw ŵr fod mor garedig a'm cario o Borthmadog, ac y mae wedi dyweyd yr â a fi yn ol yfory." "Dyna beth ydyw bod yn ŵr mawr," ebe Mr. Humphreys. "Mi welais inau lawer yn cymeryd trafferth i'm cael inau i gymydogaeth, ond wedi fy nghael yno, gwnaent a mi fel y gwna y melinydd gyda'r dŵr: cymer gryn drafferth i gael y dwfr i gafn y felin, ond wedi ei gael yno, cymered ei siawns i fyn'd i ffordd."
Gofynwyd iddo—mewn lle heb fod yn mhell o'r Dyffryn —i roddi gair o annogaeth i rai fyn'd i'r Ysgol Sabbothol, yr hyn a wnaeth fel hyn:— "Y mae yn rhyfedd fod eisieu annog neb o honoch i fyned i'r Ysgol Sabbothol, a hithau yn sefydliad mor dda; ond er yr holl Ysgolion Sabbothol sydd yn y wlad, y mae llawer yn diangc heb fedru darllen. Gellid meddwl wrth edrych ar yr odyn galch ei bod yn un olwyn o dân; ond er yr holl dân, fe fydd ambell i gareg yn myn'd trwyddi heb losgi, ac nid oes dim yn well na'i thaflu i'r odyn drachefn. Felly chwithau, fy mhobl i, os oes rhai o honoch wedi diangc heb fedru darllen, ond i chwi fyned i'r Ysgol Sabbothol, y mae siawns dda am danoch eto."
Ni byddai Mr. Humphreys ychwaith yn ymddiosg o'i ddull naturiol ei hun pan yr esgynai i'r pulpud. Y mae rhai pregethwyr mor wahanol iddynt eu hunain pan yn pregethu, fel y gellid tybied eu bod yn cario llais a goslef yn eu satchels, o bwrpas i'w ddefnyddio pan yn llefaru o'r areithfa; ond am wrthddrych ein cofiant, fel y dywed Dr. Edwards yn mhellach, "Yr oedd yr un hynodrwydd i'w ganfod yn ei bregethau ag oedd yn ei ymddiddanion. Pa beth bynag oedd yn ddiffygiol ynddynt, nid oedd ynddynt byth ddiffyg synwyr, a hwnw wedi ei wisgo yn yr iaith goethaf, a'i addurno yn fynych â'r cymhariaethau prydferthaf. Fel enghraifft, gallwn grybwyll un gymhariaeth o'i eiddo, er dangos y gwahaniaeth rhwng caru Duw a charu dynion. Dywedai, Ein bod wrth garu dynion yn debyg i rai yn lladd gwair mewn tir caregog, lle y mae yn rhaid i ni ofalu am gadw o hyd mewn terfynau; ond ein bod wrth garu Duw yn debyg i rai yn lladd gwair mewn doldir fras, lle y gallwn roddi ein holl nerth mewn gweithrediad.' Efallai mai diffyg chwaeth ynom ni ydyw yr achos, ond y mae yn rhaid i ni addef ein bod yn hoffi y cyfryw gymhariaethau. O'r hyn lleiaf, yr oeddynt yn llawer mwy dealladwy i'r bobl na chyfeiriadau dysgedig at y sêr a'r planedau. Ac hyd yn oed y bydoedd wybrenol a ddygid ganddo yn agos at ddeall y bobl trwy gymhariaethau cartrefol. Fe ddywedai unwaith wrth son am ddoethineb y Creawdwr, Na buasai yr haul yn atteb y dyben pe buasai yn llai o faint, er iddo fod yn nes atom; gan y buasai y ddaear felly yn debyg i ddyn yn y gauaf wrth dân bychan—gwres yr hwn nis gallai ei gynhesu drosto pa mor agos bynag y nesaâi atto."
Yr oedd Mr. Humphreys yn athronydd craffus; a byddai yn gwneyd defnydd mawr o Athroniaeth Naturiol yn ei bregethau. Ond er y byddai yn dra hoff o son am natur a'i deddfau, ni feddyliodd neb a arferai ei wrando yn feddylgar nad oedd efe yn dduwinydd da hefyd. Gallai y sylw a wnaeth y diweddar Barch. Henry Rees ar ei bregeth ar y testyn "Dyna y Duw," wasanaethu i ddangos ei weinidogaeth yn gyffredinol," Wel mae y Duwinydd wedi llyngcu yr athronydd o'r golwg." Bob amser yr ymgymerai a rhai o athrawiaethau yr efengyl, byddai yn traethu ei olygiadau mewn modd goleu a chadarn, gan gadw ei olwg ar y gwirionedd cyferbyniol, ac i "brophwydo yn ol cysondeb y ffydd." Ni byddai yn proffesu fod ganddo gorph cyflawn o Dduwinyddiaeth; a byddai yn arfer dyweyd fod gwirioneddau mawrion yr efengyl yn wasgaredig trwy y Beibl fel yr esgyrn sychion âr hyd ddyffryn Ezeciel, a bod yn rhaid cael un pur fedrus i hel y rhai hyny ynghyd, a'u gosod wrth eu gilydd yn y fath fodd ag i allu gwneyd corph lluniaidd o honynt. Trwy y byddai efe yn traethu ei feddyliau ar byngciau athrawiaethol yr efengyl yn ei ddull a'i ymadroddion ei hunan, heb ofalu am y termau arferedig, fe aeth rhai o'i wrandawyr i ofni nad oedd yn iach yn y ffydd; a byddai rhai o honynt yn meddu digon o ddigywilydd-dra i'w alw i gyfrif. Byddai rhaid iddo "gadw ffrwyn yn ei enau" pan yn ymddiddan a rhai o honynt, a hyny am y gwyddai nad oeddynt yn deall dim am y pethau. Aeth un atto ar ol pregethu unwaith, a gofynodd iddo, mewn dull oedd yn ymylu ar fod yn haerllug, "A wyddoch chwi, Richard Humphreys, eich bod wedi cyfeiliorni heddyw?" ac ychwanegai, "yr wyf yn dysgwyl na wnewch ddigio wrthyf, mi fyddaf fi yn caru bod yn onest bob amser." "Ie," ebe yntau, "piti na baet yn caru bod yn gall hefyd yr wyt yn gofalu mwy am fod yn onest nag yn ddoeth, mi feddyliwn; ni byddai niwed yn y byd pe byddai i ti feddwl am fod dipyn yn ddoeth hefyd." Ond pan gofiwn mai dyddiau y dadleuon crefyddol oedd y dyddiau hyny—dyddiau ag yr oedd gwirioneddau yr efengyl yn fwy o ddefnyddiau cynhenau ac ymrysonau nag oeddynt o adeiladaeth[1]—nid oedd yn beth mor ryfedd fod yn rhaid i'r pregethwyr hyny oedd yn lled annibynol eu meddwl oddef cael eu galw i gyfrif gan rai llawer islaw iddynt eu hunain.
Ar ol iddo fod yn pregethu am o gylch tair blynedd-ar-ddeg, fe ddechreuodd rhai yn y sir aflonyddu am gael ei ordeinio i holl waith y weinidogaeth. Ond gan nad oedd yn pregethu yr un fath a neb arall, petrusai eraill gyda golwg ar ei ordeinio; ac er mwyn cael sicrwydd ei fod yn iach yn y ffydd, trefnwyd iddo fyned ar gyhoeddiad gyda'r diweddar Barch. Richard Jones o'r Wern. Nid oedd Mr. Humphreys yn gwybod dim am eu hamcan, ac nid oedd ar Richard Jones ei hunan eisieu prawf yn y byd arno,' oblegid yr oedd yn ei adnabod yn dda o'r blaen: ond gan fod yn rhaid i wyliedyddion yr athrawiaeth gael ei brofi, nid oedd modd iddynt syrthio ar ŵr cymwysach i fod yn feirniad arno na Richard Jones, oblegid nid wrth eu gwisgoedd y byddai ef yn adnabod gwirioneddau yr efengyl. Wedi gorphen y daith, aeth rhai o'r brodyr at Mr. Jones i ofyn ei farn am Mr. Humphreys, a'i ateb syml ydoedd, "Mae yn berffaith ddiogel i chwi ei ordeinio." Ar ol derbyn y dystiolaeth hon, meddyliodd y sir o ddifrif am ei neillduo i holl waith y weinidogaeth; ac yn y flwyddyn 1833 fe'i hordeiniwyd ef, a brodyr eraill, yn Nghymdeithasfa y Bala, canys dyna y fan lle yr oedd yn rhaid ordeinio y pryd hwnw. "Y mae yn gofus genyf," ebe fy hysbysydd, sef y Parch. G. Hughes, Edeyrn, yr hwn oedd yn bresenol, "fod un o'r frawdoliaeth yn areithio yn faith ar bob cwestiwn a ofynid iddo, gan ei brofi a'i ddadleu allan, hyd onid oedd llawer yn dywedyd, Mawr allu yw hwn.' Ond ateb yn lled gwta yr oedd y dyn mawr o'r Dyffryn, ac ymddangosai yn wylaidd a difrifol. Cynhyrfwyd un o wyliedyddion yr athrawiaeth i ddywedyd, 'Wel deudwch Richard.' Gofynai yntau yn dawel, Beth a ddywedaf? Yr wyf wedi dyweyd fy marn ar y mater; gofynwch chwi rhywbeth yn ychwaneg, mi dreiaf eich ateb.' Pan ofynwyd iddo a oedd yn barod i wasanaethu y Corph hyd y gallai, ei ateb ydoedd, Dyn yn trin y byd ydwyf fi, ac yn arfer gweithio gyda'r gaib a'r rhaw, ac mi ddymunwn wneyd fel o'r blaen, yn y cylch a berthyn i mi.' Gofynwyd iddo a oedd yn caru trefn bresenol y Cyfundeb. Yr wyf yn caru trefn y Corph, ond nid ei annhrefn,' ebe yntau. Yr oedd yn hawdd deall ar lawer," ychwanegai Mr. G. Hughes, "mai lled ganolig yr oedd efe yn pasio gyda rhai o'r frawdoliaeth. Diau ei fod yntau ei hunan yn deall hyny; ond nid oedd yn un brofedigaeth iddo, gan na bu enill cymeradwyaeth dynion yn beth mor fawr ganddo ag y buasai yn aberthu dim o'i syniadau er mwyn hyny."
O ddechreuad ei oes weinidogaethol, hyd y cyfnod hwn, ni bu Mr. Humphreys ond yn troi mewn cylch bychan iawn mewn cydmariaeth i'r hyn a fu yn mlynyddoedd diweddaraf ei oes. Yr oedd bron yn anmhosibl cael ganddo fyned ar "daith" nac i "Gymanfa;" ac ni byddai yn myned ar y Sabbothau ond i'r teithiau y gallai fyn'd iddynt y bore a dychwelyd yn yr hwyr. Ond trwy ei fod yn ddyn heinyf a chryf, ni byddai yn llawer o beth ganddo deithio o bymtheg i ugain milldir ar ei draed ar fore Sabboth. Y rhandir a gafodd fwynhau mwyaf o'i weinidogaeth adeiladol ydoedd Dosparth y Dyffryn, yr hwnt sydd yn cyrhaedd o Abermaw i Dalysarnau. Nid oedd yn y dosparth y pryd hwnw ond dwy o deithiau Sabbothol, sef Abermaw, Dyffryn, a'r Gwynfryn; Talysarnau a Harlech; a byddai yntau yn pregethu yn un o'r ddwy daith bron bob mis yn ei flynyddoedd cyntaf. Ni phregethodd yr un gweinidog perthynol i'r Cyfundeb fwy yn ei gartref ei hun na Mr. Humphreys. Heblaw y byddai yn y Dyffryn ar y Sabbothau yn fynych, byddai hefyd yn pregethu yn nhai ei gymydogion bron bob wythnos ar ryw adegau ar y flwyddyn; ac y mae adgofion bywiog am amryw o'r pregethau hyny yn aros hyd heddyw. Dywedai cyfaill iddo unwaith, "Yr ydych chwi yn pregethu llawer mwy yn y Dyffryn acw na Mr. Morgan.' "Y mae hyn yn dwyn i'm cof y ffughanes am y llew a'r llwynog," ebe yntau. Dywedai y llwynog wrth y llew, 'yr wyt ti yn llawer cryfach na mi, ond byddaf fi yn magu tri neu bedwar o gywion am un i ti.' Gwir,' ebai y llew, ond cofia di mai llwynogod fydd genyt ti, ond mi fydd genyf fi lew pan fagwyf ef. Felly," meddai, "ni bydd genyf fi ond llwynogod; ond pan y daw Morgan allan, fe fydd ganddo ef lew." "Ond efallai," ebe fy hysbysydd, "fod llwynogod Humphreys yn gwneyd cymaint o les a llew Morgan, o leiaf yr oeddynt yn fwy hawdd eu dal, ac y mae yn sicr mai yr hyn a ddelir o'r pregethau a wna les, a dim mwy."
Y mae un peth arall y dylem ei goffâu am dano, sef, ei fod wedi pregethu am flynyddoedd lawer yn ei gartref, a'r ardaloedd agosaf atto, heb gymeryd dim cydnabyddiaeth am ei lafur. Gellir gweled ei enw ar lyfr eglwys y Dyffryn, ac eglwysi y dosparth, ugeiniau o weithiau, heb yr un geiniog ar ei gyfer yn yr un o honynt. Yr oedd ganddo ddau amcan wrth beidio a chymeryd ei dalu fel ei frodyr; sef, peidio a phwyso ar yr eglwysi, ac er mwyn iddynt allu gwneyd yn well o'r gweinidogion oedd heb fod mor dda eu hamgylchiadau ag ef. Ond wedi i frawd oedd yn talu mwy o sylw i gynhaliaeth y weinidogaeth nag ef ddyfod i fyw yn agos ato, a deall pa fodd yr oedd yn arfer gwneyd, dangoswyd iddo mai dylanwad uniongyrchol ei waith ydoedd, nid gwella amgylchiadau ei frodyr, ond tueddu i wneyd yr eglwysi yn fwy diffrwyth, a gosod rhwystrau ar ffordd dyrchafiad y weinidogaeth. Pan y deallodd Mr. Humphreys hyny, dywedodd wrth swyddogion yr eglwysi ei fod wedi arfer eu gwasanaethu yn rhad; ond o hyny allan y cymerai efe ganddynt fel y byddent yn arfer rhoddi i'w frodyr, ac y gallai eu cyfranu at achos crefyddol fel y gwelai efe yn dda: a chlywsom gan un oedd yn gwybod ei hanes yn bur fanwl y byddai yn degymu cymaint oll ag a dderbyniai am ei lafur gweinidogaethol.
Ar ol marw y Parch. Richard Jones, o'r Wern, ymlithrodd cryn lawer o bwysau yr achos yn Ngorllewin Meirionydd ar ysgwyddau Mr. Humphreys, a hyny yn bur naturiol. Feallai nad ellid ei ystyried ef yn ddiwygiwr mawr, gan belled ag y mae dwyn allan gynlluniau newyddion yn perthyn i ddiwygiwr: nid oedd ganddo flas ar wneuthur rheolau a deddfau newyddion. Braidd na thybiwn mai goruchwyliaeth debyg i oruchwyliaeth y Barnwyr a fuasai yn fwyaf cydweddol ag ansawdd ei feddwl ef—eistedd mewn barn ar bob achos fel y digwyddai. Byddai yn arfer dyweyd fod llawer yn gwneyd deddfau o bwrpas i'w tori. Ond os nad oedd yn ddiwygiwr mawr, yr oedd yn weithiwr heb ei ail, ac yn gwir ofalu am bob peth yr achos gartref a thrwy y sir; a byddai yn un o'r rhai blaenaf i gefnogi pob ysgogiad a farnai efe a thuedd ynddo i lesoli y "deyrnas nad yw o'r byd hwn."
Bu o wasanaeth mawr gydag adeiladu ac adgyweirio capelau y sir. Trwy ei fod mor fedrus gyda saernïaeth coed a cherig, ac yn ymbleseru cymaint yn y gwaith, byddai y cyfeillion yn mhob cymydogaeth yn galw am ei gyngor a'i gyfarwyddyd pan yn bwriadu adeiladu neu adgyweirio eu capelau. Efe fyddai yn eu planio, yn eu gosod, ac yn edrych am eu dygiad yn mlaen. Nid oedd yr un "Bezaleel i ddychymygu cywreinrwydd" ar gapelau y Methodistiaid, yn y dyddiau hyny. Ni ddarfu i ni erioed ddeall y byddai Mr. Humphreys yn arfer tynu plan ar bapyr o'r un adeilad, ond dywedai wrth y gweithwyr, fel y dywedodd yr Arglwydd wrth Noah, am wneyd yr Arch, Gwna i ti Arch o goed Gopher," &c.; felly y byddai Mr. Humphreys yn dyweyd wrth y gweithwyr, "Gwnewch i mi Gapel o gerig ithfaen; ac fel hyn y gwnewch ef: deugain cufydd fydd hŷd y Capel, a deg cufydd ar hugain o led, a deg-ar-hugain ei uchder; gwnewch ffenestri arno, a gorphenwch hwynt yn bedwar cufydd oddiarnodd; a gosodwch ddrysau yn ystlys y Capel; o ddau uchder y gwnewch ef; gwnewch hefyd dŷ ac ystabl wrth ei dalcen." Ond er mai pur ddiseremoni y byddai efe yn myned at ei waith, byddai yn llwyddo i gael capelau mor gyfleus a dim rhai oedd i'w cael y pryd hwnw. Capel y Dyffryn oedd y cyntaf a wnaed ganddo; bu yn gweithio yn galed ar y capel hwn, o osodiad ei sylfaen hyd ei orpheniad; a phregethodd ynddo ar ddydd ei agoriad. Byddai yn hawdd. ganddo, pan yr ymwelai â'r gweithwyr fyddai yn adeiladu capel fyddai dan ei ofal, weithio am oriau gyda hwynt. Clywsom iddo, yn Llanuwchllyn, wedi bod yn pregethu yno un Sabboth, ac iddo sylwi fod tyllau yn nhô yr hen gapel, fyned bore Llun i chwilio am fenthyg dillad gweithio y diweddar Evan Foulk; ac wedi d'od o hyd iddynt, aeth i ben y capel a thrwsiodd ei dô cyn myned ymaith. Byddai yn cadw dau beth mewn golwg wrth eu gwneyd, sef planio capelau yn gysurus i addoli ynddynt, a gochelyd costau afreidiol, rhag tynu beichiau gormodol ar yr eglwysi. Cofus genym ei weled unwaith wedi ei wahodd i Danygrisiau, i edrych a oedd yr hen gapel yn ddigon uchel i gael oriel (gallery) arno. Cymerodd ddau o ddynion gydag ef i mewn. Gosododd un o'r ddau yn yr eisteddle uchaf yn. nghefn y capel, a'r llall ar ben maingc ar gyfer y man y buasai wyneb yr oriel yn cyrhaedd; a ffon yn ei law, yr hon a ddaliai i fyny ar ei gorwedd, yna aeth yntau ei hunan i'r pulpud. Yr oedd y dyn oedd ar ben y faingc i godi y ffon hyd nes y gwelai Mr. Humphreys a'r un oedd yn nghefn y capel eu gilydd o dani, a hyny oedd i benderfynu uchder wyneb yr oriel oddiwrth y llawr. Os nad oedd y ffordd hon yn ateb i ddarganfyddiadau diweddaraf celfyddyd, nid 'oedd modd cael ffordd mwy diogel. Os byddai wynebpryd siriol Mr. Humphreys yn weledig i'r rhai a eisteddai felly o dan yr oriel, nid oedd perygl am neb arall, oblegid efe oedd y talaf yn mysg y brodyr ar ol dyddiau Lewis Morris.
Yr oedd Mr. Humphreys yn allu mawr yn Nghyfarfod Misol ei Sir; a byddai yn taflu ei holl ddylanwad o blaid pob diwygiad a ddygid i mewn iddo. Ni chafodd yr Achos Dirwestol ffyddlonach dadleuwr nag ef, fel y gwelir oddiwrth bennod arall; a bu yn gyfaill ffyddlon i'r Athrofa; a phan y dechreuodd y diweddar Mr. Morgan athrawiaethu ar bwngc y Fugeiliaeth, yn y rhan hon o'r wlad, daeth yntau allan yn gefnogwr gwresog iddo. Y mae yn wir y byddai rhai brodyr oedd yn erbyn y fugeiliaeth yn dwyn Mr. Humphreys yn mlaen fel un oedd wedi rhoddi blynyddoedd o lafur yn rhad, a gofynent, Pa reswm oedd mewn meddwl i neb gael eu talu am gadw seiat ? Ond ni bu efe ddim yn fwy ymdrechgar i'w gwasanaethu yn rhad nag y bu wedi hyny i geisio eu hargyhoeddi o'u rhwymedigaeth i "gynal gair y bywyd.' A phan y byddai ein hanwyl frawd Mr. Morgan yn fawr ei sel yn llabyddio y gau-resymau a ddygid yn erbyn y Fugeiliaeth, byddai Mr. Humphreys yn sicr o fod yn dal dillad yn rhywle gerllaw iddo. Ond nid dal dillad yn unig a wnaeth ef, ond ymdaflai i ganol y tân. Dywedai mewn Cyfarfod Misol unwaith, lle yr oedd yr achos hwn yn cael ei ddadleu, "Y mae yn rhaid i'r eglwysi ddyfod allan yn fwy haelionus os ydynt am i'r achos lwyddo yn ein plith. I mi yn bersonol nid yw o ddim pwys, ni bydd arnaf fi eisieu ond suit neu ddwy o ddillad yn rhagor, ac fe wna pâr neu ddau o esgidiau y tro i mi: ond beth am fy mrodyr ieuainc sydd yn y weinidogaeth, ac o dan bwysau y byd? Pa fodd y gallant wasanaethu crefydd os na bydd i'r eglwysi ddyfod allan i'w cynorthwyo?" Cofus genym ei glywed mewn Cyfarfod Misol arall yn rhoddi cyfrif o'i dderbyniadau a'i dreuliadau gyda'r weinidogaeth am flwyddyn, a hyny er dangos pa mor lleied oedd ganddo yn weddill at gynal ei hunan a'i deulu. Yr oedd yn llawer haws iddo ef wneyd hyn na neb o'i frodyr, a hyny am y gwyddai pawb nad oedd ef yn bersonol yn ymddibynu ar y weinidogaeth.
Nid mewn Cyfarfodydd Misol mewn cymoedd gwledig, rhwng mynyddoedd Gorllewin Meirion, y byddai Mr. Humphreys yn unig yn traethu ei olygiadau ar gynhaliaeth y weinidogaeth. Yr ydym yn ei gael yn yr ordeiniad yn y Bala, yn Mehefin, 1841, yn traddodi araeth ar ddyledswydd yr eglwys at y gweinidog; a chofir yn hir am dano yn adrodd hanes Mr. Pugh, Dolgellau, a'i ferlyn. Yr oedd Mr. Pugh yn cadw merlyn, yn benaf, os nad yn gwbl, er mwyn ei roddi i'r pregethwyr a fyddai yn galw yno ar eu taith i'r lleoedd o amgylch Dolgellau; a phan y deuai merlyn Mr. Pugh i'r lleoedd cyfagos, yr oeddynt yn ei adnabod, a byddent yn ei adael heb roddi bwyd nac ymgeledd iddo. O dipyn i beth fe y merlyn farw, a daeth rhyw gyfaill at Mr. Pugh i ddyweyd y byddai yn well iddo gael merlyn etto, fod yn fraint iddo gael ei roddi i wasanaethu gweinidogion lluddiedig. "Wel," ebe Mr. Pugh, os oedd yn fraint i mi, fel yr wyf yn credu ei bod, gael rhoi benthyg y merlyn, pity na buasech chwithau yn gweled eich braint o roddi tamaid iddo i'w gadw yn fyw." "Wel, ie," ebai y cyfaill drachefn, i'w gysuro am ei ferlyn, ond mi gewch chwi eich talu yn adgyfodiad y rhai cyfiawn." "Oh!" meddai Mr. Pugh, "nid oes fawr o ddoubt am hyny, ond os collaf geffyl yn aml fel hyn, y cwestiwn ydyw, pa fodd yr af fi hyd yno." Yr oedd y ddameg hon mor eglur fel nad oedd raid i neb fyned ato i ddywedyd wrtho, "Eglura i ni ddameg merlyn Mr. Pugh." Yn yr araeth dywedai hefyd fod pennod gyfan, sef y nawfed o'r 1 Corinthiaid, nas gwyddai ef pa gyfrif i'w roddi am ei bod mor ddieithr i'r Methodistiaid. Bu yn gwestiwn ganddo pa un ai heb gael ei darllen fel pennodau eraill y Beibl yr oedd y bennod hon, ai ynte heb dalu sylw i'w chynwysiad yr oeddynt, gan eu bod mor bell ar ol gyda golwg ar weithredu yn ol ei chyfarwyddyd. Wedi ei dwyn. i sylw fel hyn, aeth yn mlaen i'w hegluro.
Yn y flwyddyn 1850, yr ydym yn cael ystadegau Sir Feirionydd yn cael eu hargraffu am y tro cyntaf, ac y mae Anerchiad rhagorol o waith Mr. Humphreys at yr eglwysi ynddo; a chan ei fod yn cynnwys ei syniadau ef ar gynhaliaeth y weinidogaeth, yn nghyda'r sylw a dalai i bob peth yr Achos, ni a'i dodwn ef i lawr yn ei eiriau ef ei hun.
"ANWYL GARIADUS FRODYR,—Wrth edrych i'r cyfrifon uchod, gwelwn fod 5,505 o aelodau yn y sir hon. Duw yn unig a wyr pa sawl morwyn ffol a gwas anfuddiol sydd yn eu plith: rhaid gadael hyn i farn y dydd mawr. Gwelwn hefyd fod 80 wedi eu diarddel, yr hyn a ddengys fod llygredigaeth natur yn ffrwd gref, er pob moddion a arferir i arafu ei rhediad. Yr ydym yn byw lle y mae Satan yn trigo, ac yn cau ar aml un o blant Duw yn y carchar o wrthgiliad am ddyddiau lawer, y rhai a oddiweddwyd ar dir anghyfreithlawn. Cofiwn bererin Bunyan, yr hwn a aeth dros y gamfa o'r ffordd, am fod y llwybr yn esmwyth i'r traed, ac ar y cyntaf yn gydfynedol â'r ffordd. Ymddengys hefyd fod 108 wedi myned i dŷ eu hir gartref y flwyddyn ddiweddaf: y rhai hyn a lefant o'u beddau, 'Gweithiwch tra 'mae hi yn ddydd,'—' Am hyny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn.' Am hyny, frawd, 'y peth yr ydwyt yn ei wneuthur, gwna ar frys,' er darparu erbyn tragwyddoldeb. Gweddia yn daerach ac yn amlach; gâd i Wrandäwr gweddi weled dy wedd a chlywed 'dy lais. Gwelir hefyd fod yn y rhan ddwyreiniol o'r sir o 2,799 o aelodau, 2,603 o Ddirwestwyr, gan adael felly 96 heb fod: a bod yn y rhan orllewinol o'r sir 35 heb fod. Y mae yn ddrwg genym dros y rhai hyn, a theimlwn yn bell oddiwrth fwrw ein coelbren yn eu mysg. 'Am neillduaeth Reuben 'y mae mawr ofal calon.' Y mae hefyd 631 yn yr eglwysi heb fod yn aelodau o'r Ysgol Sabbothol. Tebygid na raid i hyn fod. Cynghorem bawb a allo godi a cherdded, i fod yn aelodau, pe nas gallent fyned i'r ysgol ond unwaith yn y mis. Byddant yn debycach o weddio drosti pan yn absennol, ond iddynt weithiau fod yn bresennol; oblegid allan o olwg, allan o feddwl. Ymddengys yn mhellach fod £1,199 9s. 6c. wedi eu casglu at y weinidogaeth; ac er fod hyn yn ffyddlondeb lled fawr ar flwyddyn fel yr un a basiodd, a'r cwbl yn rhoddion gwirfoddol, eto y mae yn rhaid fod y swm uchod yn dra theneu wedi eu daenu dros gymaint o wlad. Rhaid fod rhywrai yn aberthu llawer er cynnal gweinidogaeth mewn cymaint o fanau am flwyddyn am beth llai na cheiniog yr wythnos i bob aelod. Ysgatfydd nad ydym yn teimlo yn hollol gywir ar y pen hwn. Mae aberthu eto yn ein dyddiau ninnau yn rhan o wasanaeth y Duw mawr. Y sawl a'r na aberthant at achos Crist, nis gallant dynu lles oddiwrth ei aberth ef.
"Y mae Mr. James, yn ei 'Eglwys o Ddifrif,' yn gwasgu y ddyledswydd hon at gydwybod yr Eglwys.—'Nid oes ond ychydig o bethau,' medd efe, 'ag y mae ysbryd haelionus yr oes hon yn gofalu llai am danynt na chynnaliaeth gysurus a chyfaddas y weinidogaeth gartref; ac, o ganlyniad, nid oes ond ychydig o rai mewn swyddau yn cael cynnaliaeth mor wael a'r gwŷr hyny, ar y rhai, yn llaw Duw, y dibyna holl achos efengyleiddio y byd. Y mae ysgrifenyddion cymdeithasau, cenadon at y paganiaid, ac ysgolfeistriaid, yn cael gwell tâl, a darpariadau helaethach yn cael eu gwneyd er eu cysur, na phregethwyr efengyl ogoneddus y bendigedig Dduw. Y pregethau a draddodir yw y pethau rhataf o bob peth rhad yr oes radlawn hon.' Ar ol desgrifio y bendithion a ddaeth yn fynych trwy un bregeth, dywed, 'Beth gan hyny a ddywedwn am holl bregethau blwyddyn neu oes? Meddyliwch am hyn, a dywedwch a ydyw deg swllt neu bunt yn ddigon o dâl i ddyn sydd yn difa ei nerth a'i oes trwy fyfyrio a llafurio er gallu cyfranu y fath fendithion a'r rhai hyn? Ai nid y nesaf peth i wyrth yw bod dyn yn nerthol, yn fywiog, ac o ddifrif yn ei weinidogaeth, a'i feddwl ar yr un pryd wedi ei lethu i'r llawr dan ofal am fara i'w deulu, gan ar yr un pryd ddarpar pethau gonest yn ngolwg pob dyn? Gristionogion! y mae arnoch eisieu i'ch gweinidogion redeg yn ffyrdd y gorchmynion a roddes Duw iddynt; am hyny, trwy eich haelioni, tynwch oddiarno y baich nas gall efe prin gerdded na sefyll dano. Os mynwn gael eglwysi o ddifrif, mi a wn yn dda ddigon fod yn rhaid i ni gael gweinidogion o ddifrif: ond hefyd os rhaid i ni gael gweinidogion diwyd a difrifol, rhaid i ni gael eglwysi haelionus.' Sylwer mor gynhes y mae apostol y cenedloedd yn cyfarch y Philippiaid ar y mater hwn; pen. iv. 10—19.
"Nis gellir dwyn yn mlaen achos yr efengyl heb i holl ganlynwyr ÿr Oen—yn esgobion, diaconiaid, ac aelodau—ymwadu â hwynt eu hunain, ac aberthu at ei achos. Gwneled pob dosbarth hyn, ni bydd gorthrymder ar neb: ond os bydd yr esgobion yn gorfod aberthu heb y diaconiaid a'r aelodau, byddant dan orthrymder mawr; neu os bydd y diaconiaid a'r aelodau yn aberthu heb yr esgobion, byddant hwythau dan orthrymder; ond aberthed pawb yn ol cyrhaedd eu llaw, try yn fendith i bawb heb orthrwm ar neb. Cadwed pob un gydwybod ddirwystr tuag at Dduw, gan gofio y bydd i'r neb a hauo yn brin, fedi hefyd yn brin. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda'ch yspryd chwi, frodyr. Amen."
Cefnogai Mr. Humphreys y fugeiliaeth hefyd mewn. dull ymarferol, trwy wneyd gwaith bugail. Dysgai ei gymydogion" ar gyhoedd ac o dŷ i dŷ." Rhoddai ei bresenoldeb yn yr holl gyfarfodydd perthynol i'r gynulleidfa ; ac ni ragorai yn fwy yn yr un o honynt nag yn y cyfarfod eglwysig. Byddai ganddo Psalmau a Hymnau ac odlau ysprydol i'w hadrodd ar bob achos, a byddai y cwbl a lefarai "er adeiladaeth, a chynghor, a chysur"—er adeilaeth yr eglwys, er cyngor i'r afreolus, ac er cysur i'r rhai profedigaethus. Braidd na thybiem nad yn y gallu oedd ganddo i gyd-ymdeimlo a chysuro y rhai trallodus yr oedd cuddiad ei gryfder, ac yma y llechai ei fawr nerth. Dywed un hen gymydog iddo fel hyn, "Yr wyf yn cofio yn dda, pan yn lled ieuangc, am un tro neillduol yn seiat y Dyffryn, pan oedd Mr. Humphreys yn cysuro mam, hynod ofidus ei chalon, ar ol plentyn iddi, a ddygwyd ymaith gan angau. Darluniai yn dra effeithiol ddaioni Duw yn ei lywodraeth a'i ragluniaeth; ac fel y byddai, weithiau, yn cyflawni ei fwriadau grasol trwy oruchwyliaethau chwerwon, fel ag i roddi digon o sail i'w blant i'w garu ac ymddiried ynddo, a hyny o dan brofedigaethau miniog a llymion. Dangosai yn amlwg iawn y gorthrwm a'r baich a osodasid ar famau, pe buasai yn rhaid dwyn y boen a'r blinder cysylltiedig a magu, ac ymgeleddu eu rhai bach, ïe—
Bod yn neffro lawer gwaith
Trwy hirnos faith annyddan,"
ac oni buasai am y cariad angerddol a blanodd y Creawdwr Mawr a doeth yn eu mynwesau, tuag atynt, mor anmhosibl oedd i'r cariad yma fod heb i ni deimlo gofid cyfartal pan eu dygid oddiarnom. Portreadai ddoethineb, daioni, a chariad yr Hollalluog yn ei lywodraeth fawr a'i ymddygiadau tuag atom ni bechaduriaid, mor oleu ac effeithiol, nes oedd llifeiriant o ddagrau cymysgedig o hiraeth am ei baban a chariad at ei Duw, yn rhedeg ar hyd gruddiau gofidus y "fam drallodedig." Cymwysder tra angenrheidiol mewn bugail ydyw ei fod yn feddiannol ar y gallu i gydymdeimlo.
Cefnogodd Mr. Humphreys y Fugeiliaeth hefyd trwy gymeryd ei ddewis yn ffurfiol yn fugail. Y ffurf gyntaf ar yr ysgogiad hwn yn Sir Feirionydd ydoedd hon, sef, fod i bob eglwys ddewis rhyw weinidog i fod gydâ hwy yn y cyfarfod eglwysig unwaith yn y mis; ac yr oedd dwylaw yr eglwys yn cael eu gadael yn hollol ryddion i ddewis y neb a fynent o'r brodyr. Y tair seren ddisgleiriaf yn ffurfafen Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd y pryd hyny oeddynt y Parchedigion Richard Humphreys, Edward Margan, a Robert Williams, Aberdyfi; ac yr oedd bron yr holl eglwysi oedd yn cydymffurfio â'r cynllun hwn yn galw un o'r tri wŷr hyn. Yr oedd hyn yn ofid i'w meddyliau mewn mwy nag un ystyr; yr oedd arnynt ofn bod yn achos o dramgwydd i'w brodyr, ac yr oedd yn llafur mawr iddynt hwythau. Ond, er hyny, rhag rhwystro yr ysgogiad, yr oeddynt yn cydsynio a'r ceisiadau. Bu y diweddar Mr. R. Williams, Aberdyfi, yn myned i lawer o eglwysi dosbarth y Ddwy-afon, a Mr. Morgan a Mr. Humphreys yn myned i rai o eglwysi dosbarth y Dyffryn, Ffestiniog, a Dolgellau ; ac nid oedd yr un o honynt yn ffyddlonach, tra y parhaodd yr oruchwyliaeth fisolaidd. hono, na gwrthddrych ein Cofiant. Ond er fod Mr. Humphreys yn selog dros y Fugeiliaeth a chynhaliaeth y weinidogaeth, nid oedd dim yn eithafol ynddo gydâ hyn, mwy na chyda phethau eraill, ac ni byddai yn caru clywed neb arall yn myned yn rhy eithafol. Yr oedd efe ac un o flaenoriaid eglwys Pennal wedi bod yn y Cyfarfod Misol yn Nolgellau, a bu ymdriniaeth helaeth yn y cyfarfod hwnw ar yr achos hwn; teimlodd y blaenor yn ddwys, ac aeth adref a'i galon yn llosgi o zêl dros y Fugeiliaeth, ac yn y cyfarfod eglwysig dechreuodd roddi adroddiad, ac wrth ei glywed mor zelog ofnai Mr. Humphreys i'w zel wneyd niwed i'r achos, gan y gwyddai nad oedd pawb yn yr eglwys yr un deimlad â hwy eu dau; a phan y clywai Mr. Humphreys y blaenor yn poethi wrth roddi ei adroddiad, dywedai yn ei ddull tawel ei hun, "Gently, William, gently." Yna arafai Mr. James am funud; ond ail dwymnai ei yspryd drachefn, a dechreuai lefaru yn arw. Gwaeddai Mr. Humphreys eilwaith, "Gently, gently, William;" a dyna lle y bu y ddau—y blaenor yn gyru, ac Humphreys yn dal rhag iddo fyned ar draws y rhai oedd yn methu symud yn ddigon buan o'r ffordd.
Gwasanaethodd Mr. Humphreys ei Gyfarfod Misol hefyd trwy ei gynrychioli mewn eglwysi ar achosion neillduol. Yr oedd ei ddoethineb, ei fwyneidd-dra, a'i fedrusrwydd y fath, fel y syrthiai y goelbren yn fynych arno i fyned i ddewis blaenoriaid, ac i heddychu eglwysi lle y byddai annghydfod wedi tori allan. Gwnaeth y sylw canlynol mewn eglwys lle yr oeddynt yn dewis blaenoriaid, "Wel, y mae yma un wedi ei ddewis, ac mi allwn i feddwl eich bod wedi gwneyd yn iawn wrth ddewis y brawd hwn; oblegid yn un peth yr wyf fi yn tybied ei fod yn feddiannol ar common sense. Y mae common sense wedi ei sancteiddio, lle bynag y bo, yn debyg iawn o wneyd lles. Y mae ffyliaid yn dda i rywbeth, bid siwr, onide ni buasai yr Hollalluog yn eu gwneyd; ond nis gwn i ddim i ba beth y maent da, os nad i brofi amynedd pobl eraill ; ond pa fodd bynag nid ydynt yn dda i fod yn flaenoriaid eglwysig." Ond gan y cawn achlysur i alw sylw atto yn y cysylltiadau hyn mewn pennodau eraill ni a ymattaliwn rhag i'r bennod hon fyn'd yn rhy faith.
Nid o fewn cylch ei Gyfarfod Misol yn unig yr oedd ein gwron yn cael ei gydnabod yn fawr, ond yr oedd yn llenwi lle pwysig yn y Gymanfa hefyd. Mae yn wir iddo fod am flynyddoedd yn cadw draw o honynt; ond wedi iddo ddechreu myned iddynt, dechreuodd deimlo mai da oedd cymdeithas ei frodyr iddo; a theimlent hwythau yr un modd mai da oedd ei bresenoldeb iddynt. Yr oedd ei syniadau ef yn llawer eangach na syniadau llawer o'r cyfeillion, ac achosai hyny wrthdarawiad weithiau. Ond yr oedd ei ddull ef mor bwyllog a boneddigaidd fel na byddai galanastra mawr yn cael ei achosi trwy y gwrthdarawiad bron un amser. Rhoddodd derfyn ar ymryson lawer gwaith â gair neu ddau. "Cofus genyf," ebe y Parch. Griffith Hughes, "am Sasiwn, pryd yr oedd rhai o'r gwyliedyddion yn swnio udgorn larwm nes peri dychryn yn y gwersyll, a hyny am fod rhai yn rhoddi gormod o le i allu dyn yn eu pregethau. Ond cyfarfyddodd Mr. Humphreys, y gâd trwy ofyn, Beth y mae neb yn pregethu ar allu a dyledswydd dyn, heblaw ei gyfrifoldeb fel creadur rhesymol i'w Gwaredwr ?' Ar hyn gofynodd John Elias, iddo, A fedrwch chwi gael y creadur heb y pechadur ?' Atebodd Mr. Humphreys ef trwy ofyn cwestiwn arall, A fedrwch chwithau gael y pechadur heb ei fod yn greadur?' 'Nis gwn,' ychwanegai Mr. Hughes, 'i mi weled yr hen esgob yn cael ei orchfygu, ac yn cymeryd ei godwm, mor esmwyth erioed. Eisteddodd i lawr gan wenu yn siriol, fel y rhan fwyaf o'r frawdoliaeth. Dro arall, pan oedd ymosodiad yn cael ei wneyd gan rai o'r hen frodyr ar y pregethwyr ieuaingc,—dywedai un fod arnynt eisiau cael eu pregethwyr ieuaingc yn bur. Ar hyn gofynodd yr Hybarch weinidog o'r Dyffryn, 'A ydych chwi eich hunan yn bur?" Pwy bynag oedd y brawd hwnw, a beth bynag oedd ei syniadau am dano ei hunan, nid oedd yn gallu honi perffeithrwydd, ac felly cafodd y gwyr ieuaingc ddiangc yn nghysgod ei anmherffeithrwydd ef."
Un tro yr oedd Cadwraeth y Sabboth yn destyn ymdriniaeth yn Sasiwn y Bala; ac yr oedd yno waharddiadau difrifol yn cael eu rhoddi rhag gwneyd dim oedd yn y mesur lleiaf yn tueddu at halogi y Sabboth. Yr oedd y gwaharddiadau yn cymeryd i fewn fwyta, gwisgo, cysgu, ymolchi, &c., a'r ymdriniaeth yn tueddu i edrych mwy ar awdurdod Duw yn sefydliad y Sabboth nag ar ei ddaioni. Mynych mynych y dywedid yn y drafodaeth y dylid cofio yn wastad mai dydd Duw ydyw. Ar hyn cododd Mr. Humphreys a dywedodd, "Ie, ïe, y mae eisiau cofio mai ein dydd ninau ydyw hefyd, oblegid y Sabboth a wnaethpwyd er mwyn dyn.' Y mae yn well dydd, a gwell gwaith, a pha niwed i'r bobol gael gwell dillad, a thipyn gwell bwyd hefyd." Dybenodd y cyfarfod ar hyn gydâ sirioldeb mawr. Gellid ychwanegu yma na byddai byth yn caru gweled neb mewn dillad cyffredin ar y Sabboth os byddai ganddynt rai gwell. Llawer gwaith y dywedodd pan y gwelai rai yn myned i addoli mewn dillad rhy gyffredin i'w hamgylchiadau, Nid yw hona yn wisg moliant, hwn a hwn."
Arno ef y disgynai y coelbren fynychaf, lawer yn y Cymanfaoedd i annog y gynnulleidfa i ymddwyn yn addas i'r achos oedd wedi eu casglu at eu gilydd, a byddai bob amser yn llwyddo i gael llygaid a chlust y dyrfa fawr fyddai o'i flaen; ac os byddai eisiau gwneyd casgliad at ryw achos cyhoeddus, efe fyddai y beggar bob amser. Wrth annog i haelioni, dywedai un tro fel hyn, "Yr ydych yn cael y fraint o roi i Wr Mawr, ac nis gwyddoch pa le y terfyna hyny. Pan briododd Lady Vaughan, yr oedd llawer yn myned i edrych am dani, ac yn dwyn eu hanrhegion iddi; ac yn eu plith fe aeth un hen wraig dylawd, a dywedodd wrth y Lady, Nis gwn beth i'w roddi i chwi, gan fod genych gymaint o bethau,' ac ychwanegai, dyma i chwi ddwy geiniog i brynu y peth a fynoch a hwy.' Boddhawyd y Lady mor fawr fel ag y dywedodd wrth y boneddigesau a fyddai yn arfer galw am rodd yr hen wraig; ac wedi clywed am dani, byddent yn arfer galw gyda hi, ac yn rhoddi rhywbeth iddi bob. amser; ac o'r diwedd fe drefnwyd cyfran blynyddol iddi, at ei chynnal yn gysurus weddill ei hoes. Peth fel yna ydyw rhoddi i Wr mawr." Pan y byddai y casglyddion yn arfer tramwy trwy y gynnulleidfa, arferai ddyweyd, Hyna, brithwch dipyn ar y boxes, a gadewch i ni eu cael fel defaid Jacob yn fawr frithion ac yn fân frithion."
Trefnwyd iddo hefyd gymeryd rhan yn y Gwasanaeth Ordeinio amryw weithiau. Y tro cyntaf iddo oedd yn Sasiwn y Bala, Mehefin, 1841. Ei destyn y pryd hwnw ydoedd, "Dyledswydd yr eglwys tuag at y gweinidog." Drwg genym ddeall nad oes cofnodion o'r Anerchiad hwn yn argraffedig, ond y mae llawer o'r sylwadau yn aros ar gôf y rhai oedd yn ei wrandaw, at yr hyn yr ydym eisoes wedi cyfeirio. Dyna y pryd y llefarodd Ddammeg Merlyn Mr. Pugh." Yn y flwyddyn 1851, y mae drachefn yn cael ei benodi i roddi y "Cyngor" i nifer o frodyr yn Sasiwn Caernarfon. Ysgrifenwyd y "Cyngor" wrth ei wrando gan Ysgrifenydd y Gymdeithasfa, ac am ei fod mor dda, ac mor debyg i Mr. Humphreys, ac yn cynnwys cymaint o wirioneddau ag y dylai pob pregethwr ieuangc feddwl am danynt, ni a'i dodwn ef i mewn ar ddiwedd y bennod hon. Traddododd Araeth drachefn ar "Natur Eglwys," yn Nghymdeithasfa Machynlleth, Mehefin, 1853; a thrwy ymdrech yr Ysgrifenydd y mae sylwedd hon etto wedi ei ddiogelu yn y "Drysorfa"; ac er mwyn y rhai nad ydyw y Drysorfa" yn eu meddiant, ni a'i dodwn i mewn yn ei "Gofiant." Bu yn Nghymanfa Bangor hefyd yn Medi, 1855, yn traethu ar " Ddyledswyddau yr Eglwys at y Gweinidog," ond y mae yn ddrwg genym fod y cyngor hwn wedi myned ar goll; ond hyny sydd yn aros ar gof y rhai oedd yn bresenol. Cawsom ychydig o'r sylwadau gan gyfaill oedd yn ei wrando; dywedai
1. Byddwch ffyddlon i'r Efengyl trwy weddïo llawer dros ei chenadon.
2. Hyd y mae ynoch, byddwch barchus o honynt bob amser. Nid ydyw yn deilwng i'r rhai nad ydynt yn rhoddi parch, dderbyn parch.
3. Byddwch garedig wrthynt; ysgydwch law yn gynes â hwy. Y mae yn hawdd deall teimlad y galon trwy ysgydwad y llaw. Yr ydych yn ysgwyd llaw gydag ambell un fel pe baech yn cydio yn nhafod buwch wedi marw.
4. Hefyd dylech deimlo dros gynnaliaeth y weinidogaeth. Y mae yn rhesymol ac yn bosibl i'r lluaws gynnal yr ychydig; ond nid yw unol â natur pethau i'r ychydig gynnal y lluaws. Er enghraifft, dywedwch, mewn ardal wledig, gall ardal gynnal un crydd, neu un doctor, yn gysurus; ond ni buasai yn rhesymol, yn ol natur pethau, i'r un doctor a'r un crydd gynnal yr ardal.
Terfynwn y bennod hon gydâ llythyr a ysgrifenwyd dros y Gymanfa, gan Dr. Edwards, at Mr. Humphreys yn ei gystudd.
ANWYL GYFAILL,—
Hysbysodd Mr. Morgan i'r Gymdeithasfa yn Nghorwen eich bod yn cofio atynt, yr hyn a dderbyniwyd gyda theimlad dwys o hiraeth am eich presenoldeb yn ein cyfarfodydd, a dymuniad am i'r Arglwydd eich cynnal a'ch cysuro yn eich cystudd. Penodwyd fod i mi ysgrifenu atoch dros y Gymanfa i fynegu eu cydymdeimlad â chwi, ac â'ch priod. Nid ydym yn gallu cymodi ein hunain â'r meddwl na chawn eich gweled eto yn ein cymanfaoedd; lle yr oedd eich ymadroddion synwyrlawn bob amser yn gweini addysg ac yn creu sirioldeb a bywiogrwydd. Bydd llawer o'ch dywediadau mewn cof fel diarhebion yn mysg y Cymry am oesoedd ; ac yn enwedig bydd y golygiadau a draethwyd genych am ddaioni Duw, ac addasrwydd y drefn fawr i gadw pechadur, yn gysur i filoedd pan y byddwch chwi wedi eich cyfarch gan eich Meistr fel gwas da a ffyddlon," ac wedi myned i mewn i lawenydd eich Arglwydd. Diammeu genyf fod y gwirioneddau a draddodwyd genych i eraill, am gynifer o flynyddoedd, yn gynnaliaeth i'ch meddwl yn eich cystudd: oblegid y mae pethau dianwadal, trwy y rhai y gallwn gael cysur cryf.
Yr wyf yn dymuno anfon fy nghofion serchocaf atoch chwi a'ch priod.
Ydwyf, anwyl gyfaill,
Yr eiddoch yn ddiffuant,
Sylwedd y "Cyngor" a roddwyd gan Mr. Humphreys yn Nghyfarfod yr
Ordeinio yn Nghymdeithasfa Caernarfon, Medi, 1851.
PAN anfonodd Iesu Grist ei ddisgyblion allan i bregethu yr efengyl dywedai wrthynt ei fod yn eu hanfon "fel defaid yn mhlith bleiddiaid;" "byddwch chwithau," am hyny meddai wrthynt, "gall fel y seirph, a diniwed fel y colomenod." Nid yn wenwynig fel y seirph, ac nid yn meddu colyn fel y seirph, ond yn gall fel y seirph. Mae y seirph yn ddiarebol am eu cyfrwysdra; ac mae y colomenod hefyd yn dra diniwed. Maent yn dlysach ac yn ddiniweitiach na'r cigfran. Yn awr, wrth annog ei ddisgyblion i arfer synwyr y sarph, a diniweidrwydd y golomen, yr oedd ein Harglwydd am ddysgu yr angenrheidrwydd am ddoethineb, sef doethineb gyda golwg ar eu hymddygiadau. Mae doethineb arall yn bod. Doethineb yn y Duw mawr oedd edrych am ddyben teilwng, ac arfer y moddion goreu i gyrhaedd y dyben hwnw. Felly mewn dyn, gyda golwg ar ei achos ei hunan, y ddoethineb uchaf iddo ydyw sefydlu ei feddwl ar amcan teilwng, ac arfer y moddion mwyaf priodol yn mhob amgylchiad i'w gyrhaedd.
Ond yn awr, frodyr, wedi cael fy ngalw i roddi gair o gynghor i chwi ar yr achlysur presennol, yr oeddwn yn amcanu galw eich sylw at ddoethineb fel y mae yn rhan o ymddygiad teilwng ynoch fel gweinidogion Duw. Mae gwybodaeth yn golygu pethau, a doethineb yn golygu ymddygiadau. "Yn ol ei ddeall," medd Solomon, "y canmolir gŵr; neu yn ol y Saesoneg, "yn ol ei ddoethineb." Nid yn ol ei ddysg, ac nid yn ol ei ddoniau, yn unig, rhaid cael doethineb hefyd ynddo, onide bydd yn tynu oddiwrth hyny, ac yn dyfetha pa ddylanwad bynag er daioni a allasai fod gan y dyn trwy ei ragoriaethau eraill. Mae hyn yn angenrheidiol i bawb, ond i neb gymaint ag i weinidogion yr efengyl. Mae y ddoethineb yma yn angenrheidiol i'w harfer genych gartref ac yn mhlith eich cymydogion; yn y tai a'r cwmpeini yr ymwelwch â hwynt; yn y pulpud; ac yn eich ymdriniaeth â holl achos yr eglwys. Ond yn
I. MAE Y DDOETHINEB HON I'W DANGOS EI HUNAN GENYCH GARTREF, AC YN EICH CYMYDOGAETH. Mae pob dyn lawer iawn gartref. Yno y mae ei wir gymeriad i'w ganfod. Yr hyn yw y dyn ar ei aelwyd ei hunan, ac yn ei gymydogaeth, ydyw mewn gwirionedd. Yn awr y mae gan ddoethineb neu annoethineb fwy na dim arall tuag at sefydlu cymeriad anrhydeddus neu ddarostyngedig i ddyn yn y cylchoedd hyn. Fe ddaw y ddoethineb yma i'r golwg,
1. Mewn gochel anwadalwch ac ansefydlogrwydd. Mae y doeth bob amser yn ffyddlawn iddo ei hunan. Nid ydyw byth yn llai na'i air. Nid oes odid ddim yn iselu mwy ar ddyn yn ei gymydogaeth na meddwl nad oes dim ymddiried i'w roi ynddo; wedi cael addewid ganddo na bydd wedi newid ei feddwl cyn amser ei chyflawni. Mae y parch sydd gan y doeth iddo ei hunan yn sicrhau i bwy bynag y rhoddo addewid gyflawniad ffyddlawn o honi.
2. Daw i'r golwg mewn gochel troion bychain a budron. Mae annoethineb yn fynych iawn yn ei ddangos ei hunan mewn pethau bychain. Ond os bydd pethau bychain yn dygwydd yn aml y maent yn myned yn bethau mawr. Nid yw dyferyn o wlaw ond peth bychan, ond y mae llawer o honynt yn dyfrhau y ddaear. Peth yn anurddo dyn yn ddirfawr ydyw tro bychan, gwael. "Gwybed meirw a wnant i enaint yr apothecari ddrewi; felly y gwna ychydig ffolineb i ŵr ardderchog, o herwydd doethineb ac anrhydedd."
3. Daw y doethineb yma hefyd i'r golwg mewn cadw pellder priodol oddiwrth ddynion. Mae pob dull ysgoewaidd, uchelfrydig, a thrahaus yn dra beïus. Eto y mae rhyw ddynion yn mhob cymydogaeth ag y daw doethineb y gweinidog i'r golwg mewn sefyll ar dir nas gallant hwy ddyfod ato. "Cilia oddiwrth cyfryw," medd Paul wrth y gweinidog ieuangc am ryw rai. Dylai ofalu cadw oddiwrth y dynion nas gall ef yn ddiogel wneuthur cyfeillion o honynt.
4. Daw i'r golwg mewn gochel bod yn ysgafn gyda phethau pwysig, na gwario ein difrifwch gyda phethau dibwys. Mae pethau pwysig yn bod: y Duw mawr a'i briodoliaethau, enaid dyn, cyfrifoldeb dyn i Dduw, a'i gyflwr rhyngddo â Duw, &c. Nid yw y rhai hyn i gael cyfeirio atynt ond gyda'r difrifoldeb, y gwylder, a'r parch mwyaf. Mae pob ymddygiad ysgafn gyda'r pethau hyn mewn pregethwr, nid yn unig yn arwyddo diffyg teimlad priodol tuag atynt yn y galon, ond diffyg y doethineb a'i harweiniai i barchu ei swydd. Y mae genym ni hefyd bethau bychain i'w gwneyd. Nid oes galwad am yr un pwysigrwydd gyda'r pethau hyny a chyda pethau pwysig. Meddyliwch am ŵr yn darllen adnod, ac yn darllen pob gair ynddi mor uchel ag y gallai, byddai yn anmhosibl i hwnw roddi y pwyslais priodol ar yr adnod hono. Yr un modd, pe byddai dyn gyda'r un difrifwch wrth dalu swllt ag wrth addoli, byddai yn anmhosibl iddo ddangos dim gwahaniaeth rhwng pethau cyffredin a phethau cysegredig.
5. Daw i'r golwg mewn gochel ymyraeth â phethau personol a theuluaidd dynion eraill. Mae dynolryw yn hoffi gweled dynion yn gofalu am danynt, yn enwedig y maent yn hoffi hyny yn ngweinidogion yr efengyl. Ond nid oes neb yn hoffi i'r gofal hwnw fyned yn ymyraeth a'u materion hwy. Nid oes ffordd rwyddach i bregethwr golli ei ddylanwad ar gymydogaeth na thrwy fod yn greadur ymyrgar, cleberllyd; yn ymddangos â digon o amser ganddo i gadw gwinllanoedd pawb eraill, ond yn esgeuluso yn hollol ei winllan ei hun. Dyma un o arwyddion sicraf annoethineb.
6. Fe ddaw y doethineb teuluaidd a chartrefol hwn i'r golwg hefyd mewn llunio y dull o fyw at y sefyllfa. Peth yn darostwng dyn yn fawr yw ei fod yn methu byw, yn enwedig mewn amgylchiadau ag y mae eraill yn gallu. Fe allai fod rhywbeth yn ein trefn ni, fel Methodistiaid, ag sydd mewn rhyw ystyr yn anfantais i ddyn wneuthur cyfiawnder âg ef ei hunan yn ei amgylchiadau, a chyfiawnder â'r weinidogaeth hefyd. Ond, yn gyffredin, fe geir gweled mai yr anhawsdra mwyaf, yn y diwedd, ydyw y rhai y mae dynion yn ei wneyd iddynt eu hunain, trwy wastraff ac afradlonedd. Byw uchel a chostus teulu llawer un sydd wedi ei wânu â llawer o ofidiau.
II. FE ELWIR ARNOCH I YMDDWYN YN DDOETH YN Y TAI AC YN Y CWMNIAU YR ELOCH IDDYNT. Yr ydym ni, bregethwyr y Methodistiaid, yn myned yn ein tro i lawer iawn o dai, ac at amrywiol fath o deuluoedd. Mae yn beth mawr at ddyrchafu ein cymeriad i ni fod yn mhob man yn ddoeth fel dynion, fel Cristionogion, ac fel gweinidogion Duw. Fe ddaw doethineb gweinidog yr efengyl i'r golwg mewn lleoedd felly,
1. Trwy ymocheliad manwl rhag cymeryd gwendidau ei frodyr yn destynau ei ymddyddanion. Pan y byddo brawd wedi syrthio i ryw bechod gwaradwyddus, nid oes eisieu i ni amddiffyn hwnw; ond y mae beiau pregethwyr yn gyffredin yn fychain. Sylwai gweinidog Americanaidd nad oedd odid un o ugain o'r gweinidogion adnabyddus iddo ef, oeddent wedi colli eu traed, wedi syrthio i ddim gwaradwyddus amlwg, ond rhyw fân feiau, yn cynnyddu yn lluosog, ac felly rhyngddynt yn andwyo eu cymeriad. Yr ydym ninnau wedi gweled rhywbeth tebyg. Y mae ysywaeth, eto, ambell un yn ein plith nad oes dim yn ei dynu i lawr ond anghymeradwyaeth o'i frodyr.
2. Fe ddengys y doeth ei hunan felly trwy ochel, yn mhob modd, ei gymeryd ei hunan yn destyn ei ymddyddan. Mae dyn yn meddwl llawer, y naill ffordd neu y llall, am dano ei hun. Mae yn greadur pwysig iddo ei hunan. Mae dyn mewn cyfeillach yn agored i ymddyddan yn ddifyr, ac y mae yn hawdd iddo, heb wyliadwriaeth, lithro iddo ei hunan. Yn awr, yn hyn y daw doethineb i'r golwg. Ychydig iawn fedr dyn siarad am dano ei hunan heb fyned yn feius. Ychydig iawn, yn wir, sydd gan ddyn i'w ddangos o hono ei hunan.
3. Byddwch ddoeth eto, fy mrodyr, trwy fod bob amser yn hawdd eich boddio. Mae yn wrthun iawn gweled pregethwr yn edrych yn sur ac yn angharedig, yn anhawdd ei foddio ar ei ymborth, ar ei wely, ar cuchio ar y bwyd pan y bydd yn ddifai i'w ddannedd o, ac yn llawer gwell, hwyrach, na dim a allai efe gael gartref. "Mae y ddoethineb sydd oddiuchod," yn mhlith pethau eraill rhagorol a berthyn iddi, "yn foneddigaidd a hawdd ei thrin."
4. Fe ddaw doethineb dyn i'r golwg mewn cyfeillach mewn peidio dywedyd y cwbl a wyr braidd. Hwyrach bod eisieu dywedyd hyn wrthyf fi fy hunan gymaint a neb hefyd. Yr un pryd, y mae yn arwyddo gwendid yn mhwy bynag. Mae eisieu ystyried, nid yn unig nad oes ond y gwirionedd i'w ddywedyd, ond hefyd pa wirionedd sydd i'w ddywedyd, oblegid "y mae llawer gwir gwaethaf ei ddywedyd." Mae eisieu i ni feddwl hefyd am y gwir sydd i'w ddywedyd, ai ni a ddylai ei ddywedyd. Y mae yr un ddoethineb yn cadw ei pherchen rhag holi ac ymofyn fel pe byddai am gael gwybod cymaint ag a wyr pawb eraill.
III. Y MAE DOETHINEB HEFYD I'W DANGOS GENYCH, FRODYR, YN Y PULPUD. GWR Y PULPUD YW Y PREGETHWR. Yno yn arbenig y mae dros Grist, ac yno, yn anad un man, y mae rhaid arno wrth ddoethineb. "Hawdd," medd yr hen air," adwaen ffŵl ar gefn ei geffyl," wedi ei godi oddiwrth y ddaear, yn ddigon uchel. Felly hawdd iawn yw adwaen yr ynfyd yn y pulpud. Daw doethineb i'r golwg yno genych,—
1. Trwy ochel pob dull annaturiol i chwi eich hunain. Y mae y Duw mawr wedi creu amrywiaeth yn mhlant dynion, ac y mae yr amrywiaeth hwn yn brydferth iawn. Mae yn dyfod i'r golwg yn y wyneb, yn y llais, yn y llaw—ysgrifen, &c. Mae pob un yn harddaf yn ei ddull ei hun. Nid oes dim benthyciol yn ateb cystal. Y mae y clochydd, weithiau, yn edrych yn bur dda wedi cael coat ar ol ei feistr, ond "Robin y clochydd," ydyw ê yn y diwedd. Felly chwi gewch rai pregethwyr yn cymeryd osgo hwn, tôn y llall, &c., ond eu hunain ydynt hwy wedi y cwbl. Y mae cryn lawer o ostyngeiddrwydd yn perthyn i'r tylwyth yma hefyd. Nid ydynt, y mae yn amlwg, yn eu meddwl eu hunain yn gynlluniau teilwng i eraill. Yr un pryd y mae yn wendid sydd yn taflu dyn yn isel iawn yn meddwl pob dyn call; am hyny, frodyr, ciliwch oddiwrtho.
2. Daw doethineb hefyd i'r golwg yn y pulpud mewn gochel pregethu y naill wirionedd i anfantais gwirionedd arall. Peth eithaf gwael, ac anonest, ac annoeth ydyw canmol dyn arall ar gost ei gymydog, neu ganmol un pregethwr ar draul pregethwr arall. Y mae rhywbeth tebyg yn dygwydd weithiau yn y pulpud. Pregethir cyflwr dyn weithiau fel ag i ddinystrio ei gyfrifoldeb. Dygir allan weithiau ras Duw, fel ag i wneyd yn afreidiol ddyledswydd ddyn, a phryd arall dangosir gwaith dyn fel ag i gymylu gras Duw. Y mae eisieu cadw y ddysgl yn wastad. Y mae y gwirionedd yn llesol, megys ag y mae yn yr Iesu. "Pob gair a ddaw allan o enau Duw," sydd i'w dderbyn ac i'w bregethu genym ni, oblegid ar hwnw y gall dyn fyw. Pe torech y gwirionedd, ni allech fyw ar ei haner. Rhaid i chwi ei gael o i gyd, os ydych am fyw trwyddo, a'i bregethu i gyd os mynwch fywyd i'ch gwrandawyr ynddo.
3. Fe ddaw doethineb i'r golwg hefyd trwy ochel eithafion gydag un athrawiaeth. Y mae dyn, rywfodd, yn dueddol i ryw eithafion. Ond y mae doethineb yn arwain "ar hyd ffordd cyfiawnder, ac hyd ganol llwyb barn." Calfiniaid ydym ni. Nis gallwn felly lai nag edrych ar Arminiaeth fel yn tynu at eithaf tra pheryglus. Ewch ychydig pellach, a dyna chwi dros y terfyn i Phariseaeth. Felly y mae Uchel-Galfiniaeth yn tynu at eithaf llawn mor beryglus yr ochr arall. Ewch ychydig pellach. a dyna chwi dros y terfyn mewn Antinomiaeth a phenrhyddid. Y man diogelaf ydyw canol y ffordd, a than arweiniad doethineb ni a fyddwn yno.
IV. OND HEFYD, FRODYR, BYDD YN ANGENRHEIDIOL ARNOCH WRTH DDOETHINEB YN EICH HOLL YMDRINIAETH AG ACHOS YR EGLWYS. Nid yw y pregethwr bob amser yn y pulpud. Y mae rhan fawr, ac ar ryw ystyr y rhan anhawddaf, o'i waith ef, yn yr eglwys, ac er llwyddo ynddo nid oes dim yn fwy angenrheidiol na doethineb. Daw eich doethineb yn yr eglwys i'r golwg,—
1. Mewn gochel pob math o dra-awdurdod. Peth peryglus a niweidiol iawn i'r eglwys yw, bod y gweinidog heb awdurdod briodol ganddo. Y mae awdurdod yn perthyn i'r swydd. Y mae hono i'w chadw ganddo gydag eiddigedd priodol. Gresynus yn wir ydyw cyflwr yr eglwys hono nad oes llywodraeth yn cael ei chynnal ynddi, yn ol rheolau y Testament Newydd. Y mae y cyfryw wedi peidio a bod yn eglwys i Iesu Grist. Nis gall honi un berthynas a "theyrnas nefoedd." Ond er fod y gweinidog yn rhyw lun o lywydd, eto nid yw i dra—awdurdodi. Os bydd yn dra-arglwydd, nid yw yn debyg o fod yn hir yn arglwydd. Ni ddylai ein llywodraeth gael ei theimlo. Yr oedd gŵr yn Llundain yn edrych ar ol ysgol Mr. Hill, a chanddo drefn ragorol arni. Gofynwyd iddo unwaith pa fodd yr oedd yn medru cadw trefn mor dda ar gynifer o blant. Atebodd yntau, "Cario y deyrnwialen yr ydwyf, a chymeryd digon o ofal rhag i neb ei gweled." Felly y dylem ninau wneyd, ac at hyn y mae doethineb yn rhagorol i gyfarwyddo.
2. Daw i'r golwg mewn gochel pleidgarwch a derbyn wyneb. Nis gall na bydd i ni gyfeillion, ac ond odid berthynasau yn yr un rhwymau a ni ac eraill. Ond yn yr eglwys nid ydym i adnabod neb yn ol y cnawd ac wrth ein mympwy ni. Y mae derbyn wyneb yn yr eglwys yn wfft. Nis gall odid ddim fod yn fwy o anfantais i ni i fod yn lles, nac yn fwy anhyfryd i'r rhai y byddom yn eu plith. Un o nodau "y ddoethineb sydd oddiuchod," ydyw, ei bod yn "ddiduedd."
3. Daw i'r golwg mewn gochel difaterwch am, ac oerfelgarwch at, yr holl frawdoliaeth. Gall fod i ni gyfeillion mwy mynwesol. Tybygid fod gan Iesu Grist ei hunan ryw hoffder neillduol yn Ioan. Eto ni ddylem fod yn draws wrth neb. Mae yn gweddu i ni fod yn agos at yr holl aelodau, yn ystyriol o'n perthynas â hwynt, ac yn deimladol o'n cyd—ddibyniaeth ar y Duw mawr, ac o'n cyd—gyfrifoldeb iddo.
4. Gyda golwg ar ddysgyblu y rhai afreolus, y mae mawr angen doethineb. Ni ddylid goddef y rhai drwg. Y mae y rhai sydd yn pechu i'w ceryddu yn ngwydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill. Rhaid bwrw y dyn drygionus o gynnulleidfa y saint. Tŷ Dduw ydyw. Sancteiddrwydd sydd yn gweddu iddo. Ond yn ngweinyddiad y ceryddon hyn, y mae yn hawdd iawn llithro i—yspryd ac agwedd gwbl anghristionogaidd, a gwyro barn heb amcan i hyny. Y mae rhai yn dysgyblu yn hollol yn ol clywed eu clustiau, yn ol sŵn y wlad. Nid yw yn anmhosibl i ryw hen deimlad tuag at y beius ddyfod i mewn i ddrwgliwio ei drosedd a dylanwadu yn helaeth ar yr ymddygiad tuag ato. Ond y cwestiwn i ni yw, beth wnaeth y dyn? Y galon dan ddylanwad cariad, a hwnw yn cael ei gyfarwyddo gan ddoethineb, gyda sylw manwl ar reolau gair Duw, yn unig a'n ceidw rhag methu. Mewn pethau gwladol y mae cyfraith i'w chael. Ond gyda phethau teyrnas nefoedd, nid oes genym ni yr un gyfraith a nemawr rym ynddi ond cyfraith cariad mewn doethineb. Os mynwn lwyddo, rhaid i ni o hyd gael ysbryd nerth, a chariad, a phwyll.
5. Yn olaf, fy mrodyr, coleddwch deimlad difrifol yn mhob man o'ch angen am arweiniad Yspryd y Duw mawr yn y cyfan o'i wasanaeth. Yn mha le bynag y byddoch, ac i ba le bynag yr eloch, pa un bynag ai gartref ai oddicartref, yn y pulpud ai yn yr eglwys, cofiwch eich bod yn weinidogion Crist. Meithrinwch deimlad o'ch dibyniad ar Dduw, o'ch rhwymau i'r efengyl, ac o'r cyfrif sobr sydd yn ein haros oll ger bron gorseddfaingc Crist. A Duw yr heddwch a fyddo gyda chwi. Amen.
Sylwedd Araeth a draddodwyd gan Mr. Humphreys yn Ngwasanaeth yr Ordeinio ar Natur Eglwys, yn Nghymdeithasfa Machynlleth, Mehefin, 1853.
MAE eglwys Crist, fe dybygid wrth ddarllen y Beibl, i'w golygu yn ddirgeledig ac yn weledig. Yr eglwys ddirgeledig ydyw yr holl gredinwyr. Pawb sydd wedi derbyn Crist—wedi eu geni o Dduw—wedi eu creu yn Nghrist Iesu i weithredoedd da―maent yn perthyn i eglwys ddirgeledig Crist. Mae y rhai hyn mewn undeb bywiol â Iesu Grist ei hun—yn aelodau o hono—yn gwneyd i fynu y corph ar ba un y mae efe yn Ben. Dyma yr eglwys, yr hon y mae Duw wedi ei roddi ef "yn Ben uwchlaw pob peth" iddi. Mae yr eglwys weledig yn gynnwysedig o ffyddloniaid, ar y cyfan, y rhai sydd yn credu yr efengyl—rhai yn cydgyfarfod lle y pregethir yr efengyl, a lle yr ymarferir yn gydwybodol âg ordinhadau yr efengyl. Nyni yma heddyw, yn ol iaith y Testament Newydd, ydym eglwys i Dduw. Pa le bynag y byddo credinwyr—rhai yn gwrandaw pregethiad y gwirionedd megys y mae yn yr Iesu—yn derbyn Crist—yn ei broffesu—ac yn ymarfer a'i ordinhadau—pe na byddai yno yr un capel na thŷ plwy'—fe fydd eglwys i Iesu Grist yn y fan hono.
I. CEISIWN DDAL Y DDWY YSTYRIAETH AM YCHYDIG AMSER AR GYFER EU GILYDD, FEL Y GALLOM GAEL GOLWG GLIR AR Y NAILL A'R LLALL.
Mae y naill yn y llall—y naill yn cynnwys y llall. Mae yr eglwys ddirgeledig yn y weledig, ond y mae yn ofnus fod llawer o'r weledig heb fod yn y ddirgeledig.
1. Nid yw yr eglwys ddirgeledig ond un trwy y byd. Un corph o dduwiolion ydyw. "Yr eglwys, yr hon yw ei gorph ef, ei gyflawnder ef, yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll." Bydd aelodau hon ar gael byth yn un eglwys—maent wedi eu geni oddiuchod i gyd yr un modd a'u gilydd. Ond nid felly y weledig. Mae hi yn llawer o gynnulleidfaoedd—yn hanfodi dan wahanol oruchwyliaethau, mewn gwahanol oesau, a gwahanol wledydd, yn siarad gwahanol ieithoedd, ac i'w chael ymhlith llawer o wahanol enwadau crefyddol.
2. Yn yr eglwys ddirgeledig nid oes yr un rhagrithiwr. Nis gall hwnw ddyfod i mewn yno. Mae yr Arglwydd yn adwaen pawb sydd ynddi fel ei eiddo. Ond, fel y mae gwaethaf y modd, mae yn yr eglwys weledig ragrithwyr. Nid yw yn hanfodol i eglwys weledig Crist fod ynddi ragrithwyr; gwnai y tro yn well hebddynt; ond fel hyn y mae yn dygwydd bod. Yn gyffelyb i'r saith o wragedd yn ymaflyd mewn un gŵr, gan ddywedyd, "Ein bara ein hun a fwytawn, a'n dillad ein hun a wisgwn; yn unig galwer dy enw arnom ni;" felly y mae yn eglwys weledig Crist, yn enwedig os bydd hi yn gostymol, ac yn cael ei chysylltu âg awdurdodau gwladol. "Ni a fyddwn fyw i'n pleserau, ac a borthwn ein chwantau; eto galwer arnom enw Crist." Nid yw yn angenrheidiol iddi fod fel hyn. Yn mysg y dysgyblion cyntaf oedd gan Grist, nid oedd ond un o ddeuddeg yn troi yn ddrwg; ond dywedodd ef ei hun, "Tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forwynion—pump yn gall, a phump yn ffol." Dyna yr hanner yn rhagrithwyr. Felly mae y ddameg yn golygu amser gwaeth ar grefydd nag ydoedd yn nechreuad yr oruchwyliaeth efengylaidd. Fel hyn y mae rhagrithwyr yn yr eglwys weledig. Eto, nid oes eglwys weledig i Grist heb fod ynddi saint. Gall cynnulleidfa a chyfundeb ddwyn enw y weledig heb fod yno neb saint; ond nis gall fod eglwys i Grist heb fod ynddi rai duwiolion.
3. Yn yr eglwys weledig y pregethir yr efengyl, ac yr ymarferir â'r ordinhadau; ond ffrwyth y pregethu, a ffrwyth y gweddïo, dan ddylanwad Ysbryd Duw, sydd yn rhoddi hanfodiad i'r ddirgeledig. Mae yn perthyn i'r weledig "gynnal gair y bywyd;" ac yn yr ystyr yma, y mae yn "golofn a sylfaen y gwirionedd:" bod yn y ddirgeledig yw meddu argraff y gwirionedd ar y galon. Peth mawr a phwysig yw bod yn perthyn i hon.
4. Yn yr eglwys y mae dysgyblaeth i fod yn ol gair Duw. Mae hon yn ateb yr un dyben ag ydyw cyfreithiau a chosbedigaethau mewn gwladwriaeth. Oni bai fod drwgweithredwyr i gael eu cosbi, ni allai neb ddyweyd mai hwy a biau eu henaid eu hun; elai y naill hanner yn lladron ac yn llofruddion yr hanner arall. Mae eglwys heb ddysgyblaeth yn myned yn ogof lladron. Mae dysgyblaeth eglwysig yn gynnwysedig mewn cynghori annog, ceryddu, a thori allan os bydd eisieu. Yn y weledig y gwneir hyn; nid oes dori allan o'r ddirgeledig. Ond pan y torir allan yn y weledig, y ddirgeledig sydd yn teimlo; fel y dywedodd un, "Pan y byddo y cŵn yn cael eu ffrewyllu, bydd y plant yn crïo."
5. Yn yr eglwys weledig y mae swyddogion, ac nid yn unig aelodau cyffredin; ond nid oes yn y ddirgeledig ddim swyddogion fel y cyfryw Maent ynddi hi oll yn lefel â'u gilydd—yn blant i'r un Tad—yn bwyta wrth yr un bwrdd—yr holl deulu yn freninoedd ac yn offeiriaid i Dduw a'i Dad ef. Ond yn y weledig y mae swyddogion eglwysig. Ac yr wyf fi yn meddwl mai dwy swydd sydd i fod yn yr eglwys: henuriaid neu esgobion, a diaconiaid. Ac nid yw eglwys yn gyflawn a pherffaith, yn ol y Testament Newydd, heb fod ynddi y ddwy swydd. Mae y fath beth yn y byd ag amlhau swyddau eglwysig, fel y mae y Pabyddion wedi amlhau y sacramentau. Yn yr Eglwys Wladol gynt, yr oedd overseer y tlodion, a'r warden, yn myned a swydd y diacon; ac wrth ddyrchafu un yn esgob i fod yn fugail y bugeiliaid, mae hyny yn pwyso ar swydd y Pen mawr ei hun, bugail ac esgob ein heneidiau. Yn yr eglwys dan yr hen oruchwyliaeth, yr oedd archoffeiriaid, offeiriaid, a Lefiaid; yr oedd llawer o offeiriaid a Lefiaid, ond dim ond un archoffeiriad. Ond fe ddaeth yr Arglwydd Iesu i fod yn ddiwedd diddymol ar lawer o bethau yr oruchwyliaeth hono. Efe yn awr yw yr unig Archoffeiriad ar dŷ Dduw; a digon i ni yw" fod genym y fath Archoffeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfaingc y Mawredd yn y nefoedd, yn Weinidog y gysegrfa a'r gwir dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn.". Gadawn ei le iddo; ymostyngwn iddo yn ei uchel swydd; cydnabyddwn ef yn Ben, ac ef yn unig. Mae yr eglwys weledig, wrth fyned ar llawer o seremonïau, a gosod rhyw lawer o swyddau, yn myned yn gyffelyb i ddyn tew, cnodig iawn, yr hwn y mae yn anhawdd i chwi feddwl ymron fod enaid ynddo, gan fel y mae cymaint o gnawd yn ei orchfygu. Anhawdd cael hyd i'r eglwys ddirgeledig pan y mae y weledig wedi tewychu a phwyntio gan ddefodau a threfniadau cnawdol.
Mae o bwys fod eglwys weledig yn y byd, ac y mae eisieu i ddyn fod yn perthyn iddi; ond bydded ein gofal penaf am fod yn aelodau o'r un ddirgeledig. Ond heblaw nodi fod yr eglwys yn weledig a dirgeledig, gallwn sylwi eto,
II. MAE YR EGLWYS, AR RYW OLYGIAD, YN EGLWYS FILWRIAETHUS.
Mae pob Cristion yn filwr; rhaid iddo fyned i'r rhyfel ysprydol, a gwisgo arfogaeth ysprydol tuag at hyny. Fel hyn y dywed Paul yn ei epistol at yr Ephesiaid: "Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol-lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysprydol yn y nefolion leoedd. Am hyny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi gorphen pob peth, scfyll. Sefwch, gan hyny, wedi amgylch—wregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfroneg cyfiawnder; a gwisgo am eich traed esgidiau parotoad efengyl tangnefedd: uwchlaw pob dim, wedi cymeryd tarian y ffydd, â'r hon y gallwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw gan weddio bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Yspryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara." Nid milwriaeth mewn enw ydyw, ni a welwn; ond y mae yma fyddin ofnadwy iawn i ymladd â hi. Rhaid i eglwys Dduw wynebu y diafol a'i luoedd, a byd a'i ddrygau. Nid oes fodd i Gristion beidio cael ei demtio; nid ei fai ef yw hyny; ond ymollwng gyda'r demtasiwn yw y drwg. Yn wyneb "tywyllwch y byd hwn," mae yr eglwys i fod yn "oleuni y byd." Mae ychydig o eglwys bur, dduwiol, a ffyddlawn wedi anfon, lawer gwaith, oleuni mawr trwy wledydd tywyll iawn. Y rhai sydd yn ymdrechwyr ffyddlawn yma a goronir eto ar ol hyn. Wedi ofni yn fynych yn y rhyfel, ceir eto lawenychu wrth ranu yr yspail.
Nodiadau
golygu- ↑ Gwel hanes y Dadleuon yn Nghofiant John Jones, Talsarn.