Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pennod XII

Pennod XI Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn

gan Griffith Williams, Talsarnau

Pregeth I

PENNOD XII.

MR. HUMPHREYS YN EI DDYDDIAU OLAF.

BUASAI pawb oedd yn adwaen Mr. Humphreys yn tybied, oddiwrth yr olwg gadarn a heinyf oedd arno yn ei flynyddoedd goreu, y buasai yn bur ddidrafferth yn gallu cyrhaedd ei bedwaredd ugeinfed flwyddyn, ac na buasai ei nerth yn llawer o boen a blinder iddo am dymor wedi iddo fyned heibio iddynt. Astudiodd ddeddfau iechyd yn fanwl, a byddai yn dra gofalus i'w cadw. Ymwrthodai bron yn hollol â moethau bywyd, a dewisai yn hytrach yr ymborth mwyaf iachus a maethlon. Yr oedd teulu y Faeldref yn myned at eu boreufwyd unwaith, pryd yr oedd ar y bwrdd dê wedi ei barotoi ar gyfer y mwyafrif o honynt, a chwpaned o gruel wedi ei wneyd iddo yntau, yn ol ei ddymuniad: wedi i bawb eistedd o amgylch y bwrdd, dywedai Mr. Humphreys, "Wel, dowch Morgan, gofynwch fendith ar y tê yna, y mae bendith yn fy mwyd i." Byddai yn cymeryd digon o ymarferiad corphorol, trwy y gorchwylion a gyflawnai yn barhaus o amgylch y fferm; a chlywsom y byddai ar ryw adegau yn myned o dan gafn yr olwyn ddŵr oedd ganddo, yr hwn a wasanaethai yn lle shower-bath iddo. Ond er fod pob peth yn rhoddi lle i obeithio y buasai yn cael ei ddigoni â hir ddyddiau," dangoswyd ynddo yntau, fel pawb a fu o'i flaen, mai gwir yw y gair," Pob cnawd sydd wellt, a'i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes: . . . yr hwn sydd heddyw, ac yfory a fwrir i'r ffwrn." Cydnabyddai yn ei gystudd ei fod wedi cael oes o iechyd da, ac nid ydym yn cofio clywed am ddim salwch neillduol arno, ond unwaith, sef yr amser y cymerwyd ef yn glaf wrth ddychwelyd o Lundain, pryd y bu yn gorwedd yn yr Amwythig am rai wythnosau. Yr oedd hyn o gylch y flwyddyn 1825. Achosodd yr afiechyd hwn bryder mawr i'w deulu a'i gymydogion yn y Dyffryn a'r amgylchoedd, a byddai llawer o weddïo drosto ac o holi yn ei gylch. Pan y gwellhâodd fel ag i allu dychwelyd adref, byddai llawer yn cyrchu i'r Faeldref i edrych am dano, ac i gyd-lawenhau â'r teulu am ei adferiad. Gofynodd i un cymydog, yr hwn oedd yn ffermwr parchus, ond heb fod yn proffesu, a oedd efe wedi bod yn gweddio drosto? Atebwyd ef trwy ddyweyd, "Os nad oeddwn yn gweddïo fy hunan, yr oeddwn yn cadw gwas i weddïo am eich adferiad."

Mae hanes Mr. Humphreys a'i gystudd yn gysylltiedig bron yn gwbl â chymydogaeth Pennal, ac yr ydym wedi derbyn defnyddiau y bennod hon gan Mrs. Humphreys, a'i hen gyfaill Mr. David Rowlands, yr hwn sydd yn flaenor defnyddiol gyda'r Methodistiaid yn Mhennal. Symudodd Mr. Humphreys yno, fel y dywedasom o'r blaen, yn Mehefin y flwyddyn 1858, a chafodd y derbyniad mwyaf croesawgar gan yr eglwys, a pharhaodd yn ngwres ei chariad cyntaf hyd y diwedd. Ond nid hir y bu yn eu plith cyn i'w natur ddechreu llesgau. Ei anhwyldeb oedd y bronchitis, oddiwrth yr hwn y dyoddefodd lawer yn amyneddgar ac ymostyngar. Yr oedd llawer yn barnu hefyd ei fod wedi cael tarawiad ysgafn o'r parlys, ac mai dyna oedd wedi gwaethygu ei gof, a niweidio ei barabl. Nis gallodd deithio ond ychydig wedi symud i Bennal. Bu ar gyhoeddiad trwy Sir Ddinbych, a'r diweddar Barch. Robert Thomas yn gwmni ganddo. Rhoddodd ddau Sabbath, a'r wythnos rhyngddynt, yn Sir Aberteifi, ar gais ei anwyl gyfaill y diweddar Barch. Thomas Edwards, Penllwyn. Y daith olaf y bu ynddi oedd trwy ran isaf Sir Drefaldwyn, gyda'i hen gydymaith, y Parch. E. Price, Llanwyddelen. Yr oedd yn teimlo yn hynod o'r llesg ar hyd y daith hon, a bu raid iddo ddychwelyd cyn ei gorphen. Ni soniodd mwy am fyned oddicartref. Ond wedi methu a myned o amgylch i wneuthur daioni fel cynt, bu am dymor wed'yn yn gallu myned i'r capel i fwynhau cymdeithas ei frodyr. Bu yn hynod o ymdrechgar i ddilyn moddion gras, a phan y byddai yn cael ei orfodi i gadw gartref am dymor, byddai yn dyweyd ei fod yn myned yn bagan heb fod yn y moddion cyhoeddus.. Arferai gychwyn yn brydlon i'r capel, er mwyn cael gorphwys gyda David a Mary Rowlands. Bu y ddau hyn yn hynod o'r caredig iddo. Cofus genyf fy mod yn myned un boreu Sabbath o Gwerniago i Bennal, a Mr. Humphreys yn dyfod gyda mi, ac yn ol ei arfer trodd i mewn atynt; ac ar ei fynediad i mewn, dyma y ddau ar eu traed yn barod i weini arno; a thra yr oedd un yn datod ei gôt fawr, yr oedd y llall yn dad-fotymu ei overalls; ac ar ol iddo eistedd dywedais: "Y mae y cyfeillion hyn yn ymddangos yn hynod o'r caredig i chwi, Mr. Humphreys." "Ydynt," ebe yntau, "fel hyn y maent er pan wyf yn y gymmydogaeth, a byddaf yn gofyn i mi fy hunan weithiau, am ba hyd y bydd i'w caredigrwydd barhau." Ond nid oedd un perygl iddo ddarfod, gan fod y ddau yn cael y fath fwynhad yn ei groesawu. Byddai yn hynod siriol gyda hwy. Dywedai un tro wrth ysgwyd llaw â hwynt,

"A wyddoch chwi am ba beth yr oeddwn yn meddwl wrth ddyfod yma heddyw?"

"Na wyddom ni, Syr," ebai y gŵr.

"Wel, meddwl pa un oreu ydyw Dafydd i Mari, ai Mari i Dafydd."

Yna gofynodd, "Sut mae eich temper heddyw, Mari bach?"

"Gwelais hi yn well lawer gwaith," ebe Dafydd.

"Dim anair am Mair i mi,"

ebe yntau.

Os byddai yn gweled gan David Rowlands amser, gofynai iddo weithiau ddarllen cyfran o ryw lyfr iddo; ac un tro fe ddarllenodd ei gyfaill bregeth o'r "Pregethwr"' o waith Mr. Humphreys ei hunan iddo, ond heb ei hysbysu o hyny. "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu," oedd y testyn, ac ar ol ei darllen gofynodd,

"Wel, beth ydych yn ei feddwl o honi, Mr. Humphreys?"

Wel," ebe yntau, "y mae yn dyweyd pethau digon tebyg i'r hyn a fuaswn yn eu dywedyd fy hunan am lywodraeth y Duw mawr."

Nodweddid ei wythnosau olaf gan ddifrifwch, tynerwch, a nawseiddi-dra yspryd. Yr oedd rhywbeth tra neillduol yn ei bregethau olaf, er nad oeddynt yn cael eu traddodi yn y dull rhwydd a phert yr arferai efe gynt; ond er hyny yr oedd yno ryw eneiniad oedd yn gwneyd i fyny am bob diffyg. Y mae y Parch. Joseph Thomas, Carno, yn yr adgofion a gawsom ganddo am dano, yn dyweyd fel hyn: Clywais ef yn pregethu mewn Cyfarfod Misol yn Llanfaircaereinion, a hyny yn lled agos i ddiwedd ei oes, gyda llewyrch anarferol. Ei destyn ydoedd, Ceisiwch yr Arglwydd tra galler ei gael.' Esaiah lv. 6, a dyma y penau :

I. Fod dyn wedi colli Duw.

II. Nas gall dyn ddim gwneyd heb Dduw.

III. Fod Duw i'w gael.

IV. Fod yr Arglwydd yn leicio bod yn Dduw i bechadur o ddyn.

Ni pharhaodd ond am o gylch haner awr. Yr oedd efe a phawb eraill yn ymdoddi o flaen y gwirioneddau."

Pan yn bur llesg, aeth i Gyfarfod Misol Machynlleth ; ac yn un o'r cyfarfodydd yr oedd gwŷr ieuaingc oedd yn ymgeiswyr am y weinidogaeth yn cael eu holi, ac un o faterion yr arholiad ydoedd, "Tragwyddol gospedigaeth." Pan oedd yr arholwr yn holi am brofion dros "dragwyddol gospedigaeth," dywedai Mr. Humphreys rywbeth mewn llais gwanaidd ac aneglur; trodd yr arholwr ato, a gofynodd yn dyner, "A oeddych yn dyweyd rhywbeth, Mr. Humphreys?" "Dim ond hyny," ebe yntau, "ni buaswn yn leicio ei mentro, rhag ofn ei bod yn dragwyddol." Achosodd y sylw ddifrifwch mawr trwy yr holl gyfarfod.

Wedi iddo fyned yn rhy lesg i fyned allan o'i dŷ, nid oedd dim yn sirioli mwy ar ei feddwl nag ymweliadau ei gyfeillion. Galwodd y diweddar Barch. Foulk Evans, Machynlleth, gydag ef amryw weithiau; a llawer gwaith y dywedodd Mr. Humphreys wrtho, fod yn dda ganddo gael bod yn yr un byd ag ef, a gwell drachefn ganddo ei fod yn gymydog iddo. Cwynai yr hen dad fod y byd yn ddrwg iawn, ond ni fynai Mr. Humphreys achwyn arno, a chydnabyddai ei fod ef wedi ei gael yn fyd go dda ar y cyfan. Aeth y diweddar Gapten Lewis Griffith, o Bortmadoc, i edrych am dano: yr oedd y ddau wedi bod mewn cysylltiadau â'u gilydd am faith flynyddoedd, un fel cadben, a'r llall fel owner a ship's husband y "Mary Ann." Nid oedd terfyn ar barchedigaeth y Cadben i'w hen feistr: a pha ryfedd? Yr oedd wedi ei gael yn garedig a ffyddlawn yn mhob profedigaeth y bu ynddi; ac nid ychydig oedd y rhai hyny. Y Sabbath yr oedd ef yn Mhennal oedd yr olaf i Mr. Humphreys allu myned i'r capel, ac yr oedd mor wael y tro hwnw fel y bu raid i'r Cadben ei gario o'r gig i'r tŷ; ac yr oedd yn dda ganddo gael gwneyd hyny fel ad-daliad am ei gymwynasau lluosog iddo. O gylch yr un adeg fe aeth ei fab-yn-nghyfraith, Mr. Morgan, i ymweled ag ef, a chymerodd Richard Humphreys Morgan, ei fab hynaf, gydag ef; ac ar ol ymddyddan ychydig, dywedai Mr. Morgan wrtho, "Yr wyf wedi d'od a'ch ŵyr, Richard Humphreys, gyda mi atoch, fel yr oedd Joseph yn myned a'i feibion at Jacob i'w bendithio; ac ychwanegai, "dywedwch air wrtho." Y mae yn bity na fuasai geiriau y fendith genym; yr oedd R. H. Morgan yn rhy ieuangc i'w cofio, ac y mae ei anwyl dad

"A'r tafod ffraethbert hwnw'n fud."

Ond gallem deimlo yn dra sicr fod yr olygfa yn un wir batriarchaidd. Galwodd ei hen gyfaill, y diweddar Barch. T. Edwards, Penllwyn, gydag ef, wrth ddychwelyd o gyfarfod pregethu oedd mewn cymydogaeth gyfagos. Byddai yn dyweyd am Mr. Edwards ei fod yn un o'r rhai tebycaf i Iesu Grist a welodd ef erioed. Gofynai Mr. Humphreys pwy oedd yno gydag ef, ac enwodd Mr. Edwards hwy. Yr oedd yn eu plith un nad oedd yn cael ei ystyried gan y wlad yn un o'r great guns. "Wel," ebe Mr. Humphreys, y mae y gynau bach yn lladd mor amled a'r gynau mawr 'rwy'n coelio."

Dangosodd ei hen gyfeillion lawer o gydymdeimlad âg ef trwy ysgrifenu ato, a byddai derbyn eu llythyrau yn sirioli ei feddwl yn fawr. Bu Mrs. Humphreys mor garedig ag anfon i ni lythyr a dderbyniodd oddiwrth y diweddar Mr. Rees, ac ni a'i dodwn ef i mewn.

91, Everton Terrace, Liverpool,
Mai 8, 1861.

ANWYL GYFAILL,

Pan yn Aberystwyth derbyniais lythyr, yr hwn a ysgrifenwyd ataf yn eich enw chwi, ac ynddo yr ydych yn gofyn am gyhoeddiad genyf oddeutu Cymanfa Machynlleth. Y mae ansicrwydd eto o barth fy nyfodiad i Fachynlleth, fel mai cwbl ofer a fyddai i mi wneyd un math o addewid. Ond os deuaf i'r Gymdeithasfa, gobeithiaf eich gweled yno, a bydd yn dda genyf, os bydd yn bosibl, eich gweled yn eich tŷ eich hunan.

Drwg genyf glywed mai parhau yn llesg a gwanaidd yr ydych o ran eich iechyd onid hyfryd yw, er llygru y dyn oddiallan gan gystuddiau, fod y dyn oddimewn yn cael ei adnewyddu o ddydd i ddydd—cysuron ysprydol yn cryfhau, a'r meddwl trwy hyny yn cael ei weithio i ddarfod â'r byd, ac i ymgymodi â'r bedd; ac yn troi i ddyheu am y fuchedd dragwyddol. Yr wyf yn clywed eich bod yn profi gradd o'r pethau hyn, a gobeithio yr wyf, os bydd eich cystuddiau yn amlhau, y bydd eich dyddanwch trwy Grist yn amlhau hefyd.

Dywedech, yn Nghymdeithasfa Dolgellau, y byddai arnoch ofn weithiau cael eich rhoddi i fyny i bechu, "pechu byth byth." Mor hyfryd, yr ochr arall, yw meddwl am gael sicrhau y galon yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd ger bron Duw:—"caru byth byth." Y meddwl wedi ei feddyginiaethu oddiwrth ei holl ynfydrwydd, a chwedi ei sefydlu mewn ansawdd bur ac iachusol—yn mwynhau daioni, yn canfod gwirionedd, ac yn synu gogoniant, byth byth. Gobeithio mai hyn fydd eich rhan chwi a minau: a chan fod yn rhaid marw, bydded i'r Duw mawr, yn lle ein gadael i ymladd â'r hyn nas gellir ei ochelyd, weithio ein meddwl yn hyf, ac i weled yn dda yn hytrach fod oddicartref o'r corph, a chartrefu gyda'r Arglwydd.

Yr wyf yn dymuno fy nghofio at Mrs. Humphreys.

Ydwyf, Anwyl Gyfaill,

Eich Brawd a'ch Cydymaith mewn cystudd,

Ac yn Nheyrnas ac Amynedd Iesu Grist,

HENRY REES.

Yr oedd yn parhau i deimlo y dyddordeb mwyaf yn llwyddiant achos yr Arglwydd, er methu a chael myned i blith ei frodyr fel cynt; a chymerai gyfleusdra ar ei ymweliadau i gael gwybod helynt yr eglwysi yn y sir. Bu Cyfarfod Misol yn Nghorris yn adeg ei gystudd, ac yr oedd y brawd David Rowlands wedi myned yno, a mawr oedd disgwyliad Mr. Humphreys am ei weled yn dychwelyd. Gofynai yn aml i Mrs. Humphreys a oedd hi yn meddwl ei fod wedi cychwyn adref; a thrachefn a oedd ef wrth gapel Pantperthog, neu y Penrhyn, ac a oedd hi yn meddwl fod y messenger yn agos; a phan y daeth, llawenychai â llawenydd mawr, nid am fod yno ddim byd neillduol i fod o dan sylw, ond fel y gallai glywed am helynt yr achos yn gyffredinol.

Yn yr adeg yr oedd ef yn glaf y bu farw ei gyfaill mynwesol y diweddar Barch. Robert Williams, Aberdyfi, ac effeithiodd ei farwolaeth yn fawr arno. Cadwyd y newydd galarus am ei farwolaeth oddiwrtho am rai dyddiau, a byddai yntau yn gofyn bob dydd a fyddent yn clywed pa fodd yr oedd efe; ac o'r diwedd dywedodd Mrs. Humphreys wrtho fod Mr. Williams yn y nefoedd er's dyddiau rai, ac atebodd yntau, "Nid oeddwn yn meddwl y buasai Robert yn cael myned adref o'm blaen." Wedi hyn dechreuodd bryderu yn nghylch claddedigaeth ei anwyl frawd, ac ofnai yn fawr i Mrs. Humphreys—gan fod y daith i Bryncrug mor bell, a'i phryder hithau mor fawr am dano—droi yn ol, cyn fod pob peth drosodd. Dywedai wrthi pan oedd yn cychwyn, "Peidiwch, da Mrs. Humphreys, a gwneyd tro cwta ar y fath achlysur;" a'r peth cyntaf a ofynodd wedi iddi ddychwelyd ydoedd, "A roddasoch chwi Robert bach yn nhŷ ei hir gartref? a basiodd pob peth yn anrhydeddus?" Dengys y pryder hwn mor bur ydoedd i'w gyfeillion, a'i fod yn parhau felly hyd y diwedd.

Yr oedd ganddo barch mawr i'r Sabbath bob amser, ac ni byddai byth yn hoffi gweled neb mewn dillad cyffredin ar ddydd yr Arglwydd. Byddai yn rhaid iddo gael ei ddillad goreu am dano bob Sabbath, er nad oedd yn gallu myned allan o'r tŷ; a llawer gwaith y dywedodd Mrs. Humphreys wrtho, wedi ei wneyd ef i fyny, "Dyna chwi, Mr. Humphreys, yn gymwys i gychwyn i Gymanfa." Treuliai lawer o amser i ddarllen y Beibl, a llyfrau da ereill, tra y parhaodd ei nerth; a byddai yn gofyn seibiant ar ol tê y prydnawn i weddïo. Galwai yr adeg hono yn "awr weddi." Tynodd lawer o gysur i'w feddwl yn ei gystudd o'r Philippiaid, pen. ii.; a iv., o'r 4ydd hyd y 10fed o adnodau; ac hefyd o ddiwedd y bennod gyntaf o'r Colossiaid, dechreuai ddarllen yn y 12fed adnod. Byddai yn galw y rhai hyn yn adnodau mawr, a byddai yn rhaid i'w gyfeillion ddarllen yr adnodau hyny iddo pan y galwent i edrych am dano; a chawsant wledd fras a danteithiol gydag ef uwch ben yr adnodau hyn lawer gwaith. Byddai yn dyweyd y geiriau, "Y Duw mawr;" "Y Cyfryngwr mawr;" a'r "Iachawdwriaeth fawr ;" gyda'r fath deimlad nes cynyrchu yspryd addoli yn mhawb fyddai yn y lle.

Amlygodd ddymuniad i gael gweled ei gyfaill David Rowlands, un diwrnod, a dywedai fod arno eisieu gofyn iddo a wnai efe aros yno gyda hwy adeg ymadawiad yr enaid. Gwnaed y cais hwn yn hysbys i D. R., ac aeth yntau yno ar unwaith, a bu yno ddydd a nos am amryw ddyddiau, ac y mae wedi bod mor garedig a rhoddi i ni hanes ei ddyddiau olaf. Dywedai, "Yr oeddwn yn teimlo yn mhresenoldeb Mr. Humphreys fel Pedr gynt yn nghymdeithas ei feistr mawr, ac yr oeddwn yn mwynhau llawer o'r un yspryd ag yntau: a buaswn yn foddlawn i aros gydag ef am lawer mwy pe buasai hyny yn angenrheidiol. Yr oedd yno rywbeth neillduol nas gallaf roddi cyfrif am dano na'i ddesgrifio. Y mae arnaf gymaint o ofn marw a'r un dyn ar y ddaear, ond teimlwn ar adegau gydag ef na buasai waeth genyf farw na pheidio. Yr oedd yn hynod dawel a dirwgnach, a dywedais wrtho fy mod yn rhyfeddu ei weled mor hynaws a thirion, a hyny yn wyneb gwaeledd mor fawr.

Yr wyf,' ebe yntau, wedi penderfynu, er pan yn ddyn ieuangc, os cawn i byth fyw i fyned yn hen ŵr, am fod yn hen ŵr hynaws.'

Y tro diweddaf y bu yn ein tŷ ni, yr oedd Mary Rowlands, fy ngwraig, yn ei gynorthwyo i ddiosg ei coat, gael iddo fyned i orphwys; ac wrth ei weled mor wael, dywedodd wrtho,

'Buasech yn ddedwydd iawn, Mr. Humphreys bach, pe buasech yn y nefoedd.'

Yn wir, Mary bach,' meddai yntau, 'mae arnaf ofn y nefoedd; pe buasai rhyw le canol, hwnw fuasai yn fy ffitio i.' Ond pan aeth Mary Rowlands i edrych am dano ar ol hyn, dywedai

'Wel yr wyf yn gallu dyweyd wrthych heddyw fy mod yn siwr o'r nefoedd.'

Daeth hen chwaer arall i ofyn am dano, a gofynodd iddo ра fodd yr oedd yn teimlo?

Hapus iawn,' meddai yntau, mae fy holl ddymuniadau yn dderbyniadau heddyw.'

Dro arall pan y gofynem iddo pa fodd y byddai?

Da iawn, yr wyf yn gallu diolch heddyw,' fyddai ei ateb yn aml. Nid annghofiaf byth yr agwedd addolgar fyddai arno; rhoddai ei ddwylaw yn mhleth, a chyfodai hwy i fyny yn aml, a pharhaodd i wneyd hyny hyd nes aeth yn rhy wan i'w cynal. Bum lawer gwaith yn ei gynorthwyo i'w dal i fyny, fel Aaron a Hur gyda Moses, a byddwn yn dyweyd wrtho y byddai i mi ei gynorthwyo hyd nes y byddai iddo orchfygu. O y ddau lygaid glân a wnaeth arnaf y pryd hwnw. Yr ydych yn credu y byddwch yn orchfygwr, onid ydych Mr. Humphreys? meddwn wrtho un diwrnod. O ydwyf yn sicr,' oedd ei ateb.

Byddai yn ateb pob cwestiwn yn nghylch diogelwch ei gyflwr yn gryf a phenderfynol. Pan y gofynodd cyfaill iddo sut yr oedd un diwrnod, dywedai,

Byddaf gydag Abraham, Isaac, a Jacob yn nheyrnas nefoedd yn bur fuan bellach.' Dywedai yn orfoleddus iawn un diwrnod

'Amser canu, diwrnod nithio,
Eto'n dawel heb ddim braw.
Y gŵr sydd i mi yn ymguddfa
Sydd a'r wyntyll yn ei law.'

Y dyddiau olaf aeth nad allem ei ddeall yn dyweyd yr un gair. Darfu i'r jaw-bone ymryddhau, a thrwy hyny aeth ein cymdeithas ni âg ef yn llai. Nid oedd gan y teulu a minau ddim i'w wneyd bellach ond wylo uwch ei ben. Dywedodd Mrs. Humphreys wrtho—gan nad allai ddyweyd dim byd wrthynt—a allai efe ddim gwneyd yr un arwydd arnynt fod pob peth yn dda, a'i fod yntau yn teimlo felly ar y pryd. Estynodd yn tau ei law—er gwaned ydoedd—a throdd hi gylch ei ben fel bwa, ac yna disgynodd hi yn drwm ar y gwely i beidio a chyfodi mwy. Yr oedd y llefaru hwn trwy yr arwydd yna yn anesgrifiadwy, ac nis gallaf ddarlunio ein teimladau ar y pryd. Yr oedd fel morwr wrth adael y tir yn gwneyd arwydd i'w gyfeillion fydd yn sefyll ar y lan. Felly ar y 15fed o Chwefror, yn y flwyddyn 1863, 'Cwympodd y gedrwydden,' ac agorwyd pyrth marwolaeth i Mr. Richard Humphreys i fyned trwyddynt i lawenydd ei Arglwydd. Yr unig wahaniaeth oedd rhyngddo wrth farw ag oedd ar hyd ei oes ydoedd fod ei hyder yn Nghrist wedi tyfu yn llawn sicrwydd. Bu farw yn y ddeuddegfed flwyddyn a thriugain o'i oedran. Er na chyrhaeddodd ddyddiau blynyddoedd einioes rhai o'i dadau, cafodd fyw digon i weled iachawdwriaeth Duw, ac i fod yn offeryn yn llaw ei Yspryd i ddwyn eraill i'w gweled."

Ysgrifenodd ei fab yn nghyfraith, y diweddar Parch. Edward Morgan hanes ei gladdedigaeth i'r "Faner," ac ni a'i dodwn ef i lawr yn ei eiriau ef ei hun.

"Claddwyd ef yn y Dyffryn, dydd Mawrth, Chwefror 25ain, mewn bedd a ddarparasai iddo ei hun, yn ol arfer y patriarchiaid gynt, er's blynyddoedd. O herwydd fod y pellder yn fawr—33 o filldiroedd yr oedd yn rhaid cychwyn o Bennal am 6 o'r gloch y boreu; ac yr oedd tywyllwch mawr a thawelwch dwfn y boreu hwnw yn chwanegu llawer at brudd-der yr amgylchiad. Wedi i'r Parch. T. Edwards, Penllwyn, gyfarch y gynulleidfa mewn ychydig eiriau, a gweddïo, cychwynwyd: y pregethwyr yn mlaenaf, yna yr elor-gerbyd, yn nghyda cherbydau eraill; ar ol hyny, rhai ar geffylau. O herwydd y pellder, yr oedd yn rhaid myned yn rhy gyflym i neb ddilyn, ond rhai mewn cerbydau, neu ar feirch; er hyny daeth tyrfa luosog o'r cymydogion yn nghyd yr awr blygeiniol hono i edrych arnom yn cychwyn.

Erbyn cyrhaedd at bont Machynlleth, yr oedd nifer yn disgwyl ar y bont. Arafwyd am ychydig ffordd, er iddynt gael y pleser pruddaidd o ddilyn am ychydig funudau un a barchent mor fawr, tua thŷ ei hir gartref. Gadawsom gyfeillion Machynlleth yn canu: ond daeth rhai o honynt, yn flaenoriaid ac eraill, gyda ni i Ddolgellau.

Ni oddefai yr amser i ni arafu wrth fyned drwy Gorris, ond yr oedd y creigiau a llethrau y mynyddoedd yn cael eu britho gan y gweithwyr y rhai oeddynt wedi gadael eu gorchwylion i gael golwg ar y cerbyd yn mha un yr oedd yr oll ag oedd farwol o'r hwn y bu golwg arno yn goleuo eu hwynebpryd â llawenydd am flynyddoedd meithion, pan y gwelent ef ar y Sadwrn yn cyfeiria tua Chorris.

Pan oeddym gerllaw Dolgellau, daeth canoedd o drigolion y dref a'r gymydogaeth, yn nghyda nifer mawr o'r Dyffryn, Ffestiniog, a lleoedd eraill, i'n cyfarfod. Pan aethom i mewn, yr oedd yr holl dref wedi ei gwisgo â dillad galar, y lleni ar bob ffenestr, holl fasnachdai y dref, oddieithr UN, wedi eu cau, pob gwaith wedi sefyll, a'r ystrydoedd yn llawn o bobl fel ar amser cymanfa. Yr oedd yr olygfa yn gyfryw fel nas gallai ymdeithydd lai na deall wrth ei gweled, a sylwi ar yr elor-gerbyd a'r cerbydau eraill oeddynt yn rhes ar yr heol, fod Tywysog a gŵr mawr wedi syrthio!

Wedi aros yn Nolgellau am awr a haner i orphwyso, cychwynasom oddiyno am haner awr wedi un-ar-ddeg, yn yr un drefn ag o'r blaen. Cychwynwyd yn araf am y chwarter milltir cyntaf o'r ffordd, er mwyn y canoedd oeddynt yn dymuno cael dilyn am ychydig. Canodd y cantorion am yr ysbaid hyny, pan ymwahanodd y dyrfa of bob tu y ffordd i ni fyned yn mlaen. Yr oedd y cerbydau a'r meirch erbyn hyn yn lluosog iawn.

Cyrhaeddasom yr Abermaw erbyn 2 o'r gloch, ac yr oedd yr olygfa yma yn gyffelyb i Ddolgellau—yr holl fasnachdai wedi eu cau, pob tŷ—bychan a mawr—hyd yn oed i fyny, fel y clywsom, i gesail uchaf y graig, âg arwyddion galar arno, oddieithr UN tŷ mawr, yr hwn, gan amlygrwydd ei sefyllfa, a dynai sylw cyffredinol.

Cerddwyd y 5 milldir olaf o'r saith, sef o'r Abermaw i'r Dyffryn, a chwanegwyd yn awr gannoedd lawer at y fintai. Cyrhaeddasom Gapel y Dyffryn ychydig cyn 4 o'r gloch—y capel a gynlluniwyd ganddo ef ei hun, er's tros 43 o flynyddoedd, ac ar goed a cheryg pa un y gweithiodd yn galed lawer awr (ei hyfrydwch drwy ei oes oedd trwsio a naddu ceryg).

Dechreuwyd y gwasanaeth trwy ddarllen a gweddïo gan y Parch. Rees Jones, Felinheli, a phregethwyd gan y Parch. L. Edwards, M.A., Bala, oddiar Matth. xxiv. 45, 46, a 47. Cyfarchwyd y gynulleidfa ar lan y bedd gan y Parchn. E. Price, Llanwyddelen, a Rees Jones, Felinheli, a gweddïodd y Parch. John Griffith, Dolgellau. Darlunid cymeriad yr ymadawedig yn dra tharawiadol, ond yn gwbl gywir, gan y brodyr a fuont yn cyfarch y gynulleidfa. Er ei fod yn cael gair da y tu hwnt i'r cyffredin ganddynt oll, tystiai pob mynwes fod y gwirionedd ei hun yn cael ei roddi iddo. Nis gallwn roddi—ni cheisiwn—ond crynodeb tra amherffaith o'r hyn a ddywedwyd, ac yr ydwyf wedi cymeryd gormod o le eisoes i ddisgwyl i chwi ei roddi i mewn pe yr anfonaswn hyny. Ond gallwn ddyweyd hyn, fod eneiniad oddiwrth Y Sanctaidd hwnw ar yr holl wasanaeth, a bod pawb yn teimlo, er mai claddedigaeth ydoedd, mai da oedd bod yno. Yr oedd rhywbeth dïeithr yn cerdded drwy y gynulleidfa pan y cyflwynwyd yn y weddi ar ran y rhai oeddynt yn bresenol, ac yn enwedig ei deulu a'i berthynasau, ei ddymuniad gwastadol ef ei hun yn mhob gweddi o'i eiddo, "Bydd yn Dduw i ni!" Ac wedi canu y pennill

Mae'n brawd wedi gorphen ei daith, "&c.,


gwasgarodd y dyrfa, gan deimlo, mi obeithiaf, werth cymeriad da, ac mai crefydd yn unig a all ei ffurfio—mai hyny oedd, yn ngeiriau un o'r brodyr ar lan y bedd, wedi gwneyd Dyffryn Ardudwy yn ddyffryn galar o ben-bwy-gilydd.

Nis gwn pa nifer oedd yn bresenol, ond nis gallasent fod nemawr, os dim, yn llai na mil. Yr oedd pob pregethwr perthynol i'r Cyfarfod Misol yno, oddieithr un brawd a luddiwyd gan henaint a llesgedd. Yn chwanegol at hyny yr oedd y Parchn. T. Edwards, Penllwyn; E. Roberts, D. Williams, a J. Hughes, (W.) Machynlleth ; E. Price, Llanwyddelen; Rees Jones, Felinheli; T. Owen, Porthmadog; L. Edwards, M. A., Bala, a J. Jones (A.) Abermaw. Hebryngwyd ni am ychydig gan y Parchn. C. Jones (A.), a H. Morgan (B.), Dolgellau. oedd holl eglwysi Ffestiniog yn cael eu cynrychioli gan rai o'u blaenoriaid, ac amryw o'r aelodau. Daethant i'r cyfarfod dros 20 milldir o ffordd, ac nid oedd ond ychydig iawn o eglwysi y sir heb rywrai o honynt wedi dyfod, fel y gellir ei ddarlunio fel claddedigaeth Jacob— Aeth i fyny gydag ef gerbydau a gwŷr meirch hefyd, ac yr oedd yn llu mawr iawn!' Ac nid rhyfedd hyn, oblegyd teimlai pawb, a'i gymeryd oll yn oll, mai nid yn fuan y cleddid ei gyffelyb !"

Terfynwn ein hadgofion am dano gyda diwedd ysgrif a dderbyniasom gan Mr. Rees Roberts, Harlech, o'r hon yr ydym wedi dyfynu darnau o'r blaen. "Heddwch i'w lwch y mae ei yspryd wedi diangc i'r Aneddle Lonydd' nad aflonyddir byth arno: ond y mae ei gorph eto yn aros yn mysg y pethau a ysgydwir; ac er fod ei lwch yn rhwymyn y cyfammod: er hyny y mae wedi ei ddodi mewn daear ag sydd yn ddarostyngedig i gynhyrfiadau mawrion ac amrywiol; a phe gallwn fe ffrwynwn yn dŷn bob rhuthr chwildroadol mewn teyrnasoedd, a holl gynhyrfiadau naturiol anian, a ddeuant yn agos i'r fan: ïe, y mae genyf y fath barch i'w enw a'i goffawdwriaeth fel y tynghedwn y ddaeargryn ei hunan, pe meddwn awdurdod, ar iddi siglo yn esmwyth y llanerch lle y gorwedd gweddillion Richard Humphreys."

Os bydd i ti ddarllenydd dalu ymweliad a'r Dyffryn, a myned i'r hen fynwent sydd wrth gapel y Trefnyddion Calfinaidd, gelli yn hawdd ganfod lle beddrod yr hybarch Mr. Humphreys. Y mae y geiriau hyn yn gerfiedig ar gareg ei fedd

YMA Y CLADDWYD

Y PARCHEDIG RICHARD HUMPHREYS,

O'r Dyffryn.

Bu farw Chwefror y 15ed, 1863,

YN 72 MLWYDD OED.

Wedi gwasanaethu Duw yn Efengyl ei Fab am 43ain o
flynyddoedd.

Yr oedd hynawsedd ei dymher, ei synwyr cryf, a'i arabedd, yn tynu sylw pob gradd atto, ac yn
enill iddo gymeradwyaeth gyffredinol fel dyn, ac yr oedd ffyddlondeb, a chywirdeb tryloyw
ei fywyd gweinidogaethol, yn enill iddo y radd o Wr Duw a Gweinidog cymwys y Testament Newydd
yn nghydwybodau pawb a'u hadwaenent: Efe a fu ar hyd ei oes yn fab tangnefedd,
a gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd.

"Ac yr oedd iddo ef heddwch o bobparth iddo o amgylch."

"Meddyliwch am eich blaenoriaid y rhai a draethasant i chwi air Duw:
ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."

Nodiadau

golygu