Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pregeth I
← Pennod XII | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Pregeth II → |
PREGETHAU.
PREGETH I.
FFYRDD DUW YN UWCH NA FFYRDD DYN.
"Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na'r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi." —ESAIAH lv. 9.
MAE yr Hollalluog yn claimio hawl i uwchafiaeth yn mhobpeth ar ei greaduriaid. Gall ddywedyd hyn wrth yr angelion, y cerubiaid, y seraphiaid, y thronau, yr arglwyddiaethau, a'r tywysogaethau, a'r meddianau, cystal ag wrthym ninau, trigolion y ddaear. Mae gan y rhai hyn eu ffyrdd: medr yr angelion esgyn a disgyn, a medr yr adar wneyd mwy na ni yn y ffordd hyny, ond ni fedrant hwy fyn'd yn uwch na chan uched a'r awyr—maent yn rhy drymion i ehedeg i'r awyr uchaf; ond y mae yr angelion yn medru myn'd i'r nefoedd o'r ddaear; ni fyddant yn hir chwaith, tramwyant y meusydd meithion o dawch sydd heb awyr ynddynt. Ond y mae ffyrdd Duw yn uwch na ffyrdd y rhai hyn, ac y mae ei feddyliau ef yn uwch na'u meddyliau hwynt. Pa faint mwy na ffyrdd ac na meddyliau dyn? Mae dyn wedi ei gaethiwo i'r hen ddaear yma,—gall ef ryw geisio at y bydoedd uwchben, ond ni wyr ryw lawer am danynt.
Yr ydym wedi dechreu bod ar y ddaear yma, ond nid ydym wedi bod mewn un byd oddiyma eto; yn unig gallwn dremio yn ein myfyrdodau ar ranau eraill o greadigaeth Duw. Ond creaduriaid y ddaear yma ydym ni— iddi y ganwyd ni, ei ffrwyth a'n magodd, ei chynyrch sydd yn ein cynal, ac y mae hi yn bur dirion wrthym; hefyd yn o fuan bydd mor garedig a lapio ein gweddillion marwol yn ei mynwes, wedi i ni fyn'd yn rhy lygredig ein gwedd, ag y dywed ein perthynasau agosaf, "Cleddwch ein marw allan o'n golwg." Ond y mae ffyrdd Duw yn ffyrdd y dylid cydnabod eu bod yn uwch na'n ffyrdd ni; dylem yn mhob modd a man gydnabod hyny. Yr oedd un o'r duwiolion dan ysprydoliaeth yn dyweyd, "Nid oes fel tydi yn mysg y duwiau, o Arglwydd, na gweithredoedd fel dy weithredoedd di." Mae gwaith pawb yn dangos pa fath un yw. Yr ydych yn gwybod o'r goreu pan weloch nyth yr aderyn mai efe a'i gwnaeth, er nad oedd o ddim yno nac yn ehedeg o hono. Byddwn yn adwaen pawb i ryw fesur wrth eu gwaith. Y mae rhai creaduriaid a wnant dai go ryfedd—beavers—yn curo rhyw bolion i'r ddaear, meddant, a'u heilio â gwrysg, a'u plastro â chlai, a gwneyd rhyw fath o lofftydd ynddynt, ond digon hawdd. gwybod mai y beaver a'u gwnaeth, dyna ei ffordd: felly y mae gweithredoedd dyn yn profi yn bur eglur mai yntau fu yno. Pe digwyddech wneyd siwrnai fawr i gyrion pell y ddaear, a chael eich bwrw ar ryw ynys, yr hon oedd yn annghyfaneddol, am a wyddech chwi; pe buasech yn gweled y peth hyn ac arall, ac yn eu mysg hen fasged wedi haner pydru, buasech yn gweled yn y fan fod dyn wedi bod yno; buasai ol erfyn ar hono, ac ni fedr un creadur ei ddefnyddio ond dyn: ond pe gallasech weled watch, gallasech weled, nid yn unig fod yno ddyn, ond dyn wedi ei wareiddio, a'i ddysgu mewn celfyddyd. Felly ffyrdd Duw ; y maent nid yn unig yn profi ei fod Ef, ond yn profi ei fod yn uchel iawn—yn annhraethol ddyrchafedig uwchlaw pawb o'i greaduriaid. Mae gan ddyn ei ffyrdd—mae i Dduw ei ffyrdd, ond y mae ffyrdd Duw yn uchel iawn, a ffyrdd dyn yn isel o'u cymharu a'i eiddo Ef. Dyna un gwahaniaeth mawr sydd rhwng ffyrdd Duw a ffyrdd dyn, y mae gair Duw yn effeithio pob peth. Dyna y dull mawreddog a gawn gan Moses yn adrodd hanes creadigaeth y byd, i Dduw ddywedyd, "Bydded, ac felly y bu." Galwodd y bydoedd mawrion i fod a dyma hwy yn dywedyd, "Wele ni, canys gelwaist arnom." Mae dynion wedi bod yn demandio ac yn dwrdio yr elfenau, ond nid oeddynt yn meindio mo ddynion. Nid ydyw deddfau mawr y nefoedd ddim yn hidio beth a ddywed dyn; ond y mae gwneyd yn nweyd Duw—mae yn gorchymyn, a hyny yn sefyll. Nid oes dim troi yn ol ar ei eiriau; pa sut y mae fel yna? am ei fod yn uwch yn ei ffyrdd na'n ffyrdd ni.
Hefyd, y mae yn uwch o herwydd y mae Duw yn ei weithredoedd yn anweledig. Pe buasai bosibl ei weled yn gweithio, ni buasai yn Dduw. Mae dynion lawer gwaith wedi gallu gwneyd pethau pur rhyfedd, ac y mae y naill ddyn yn gallu gwneyd pethau nad ydyw y llall yn eu deall, hyd yn nod wrth eu gwel'd wedi eu gwneyd. Peth go fawr ydyw gweled pont ar Fenai, a gwneyd y Tube a'i godi; ond beth er hyny, yr oedd yno ddynion gweledig lawer iawn wrthi, a phawb yn defnyddio arf i'w waith, a phower nerthol a phwrpasol iawn i'w godi; nid oedd yno ddim dirgelwch, o ran hyny, i ryw un oedd yn perchen tipyn bach o ddeall am bethau o'r natur hyny: ond y mae y Duw mawr yn gweithio ar y naill law, ond nid ydyw i'w weled y mae yn cuddio ei hunan â chwmwl, y mae yn gweithio o hyd ddydd a nos, ond welodd dyn erioed mo hono, ac nis dichon ei weled, y mae "ei ffyrdd ef yn y môr, a'i lwybrau yn y dyfroedd dyfnion." Clywsoch son am ambell un yn penderfynu gwneyd perpetual motion, rhywbeth i symud yn barhaus, ond pwy a ai i wneyd peth nad oedd yn bosibl i neb ond Duw? Ond y mae efe wedi gwneyd hyny. Y mae calon pob un yn perpetual motion, y mae yn myn'd bob dydd a nos, ac yn taflu y gwaed dri ugain neu ddeg a thriugain o weithiau bob mynyd, a hyny er pan wyt yn y byd yma,—dyna i ti berpetual motion! Y mae y greadigaeth, y môr a'r tir, a'r holl gyfundrefn, a holl wahanol systems yr universe yn berpetual motions bob Mae yma berpetual motions beth afrifed wedi eu gwneyd gan Dduw. Pa'm y mae wedi gwneyd hyny, a ninau yn methu? nid ydyw ffyrdd dyn cyfuwch a hyny —"uwch yw ffyrdd Duw na'n ffyrdd ni."
Hefyd, y mae y Duw byw yn rhoddi bywyd yn ei ffordd. Medr Ef roddi bywyd—nid yn unig rhoddi motion yn y greadigaeth, ond y mae yn medru rhoddi bywyd hefyd yn y creadur, ïe aneirif luaws o greaduriaid. A fedr dyn wneyd hyny? Na fedr, ac ni fedr gynyg—ni ŵyr yn mha le i ddechreu. A dyweyd y gwir am holl ddoethion y ddaear, ni wyddant beth yw bywyd; ond am Dduw, "oni wel yr hwn a luniodd y llygad:" pe buasai Ef heb weled, pa fodd y gallasai lunio llygad? Ni ŵyr dyn pa beth ydyw bywyd yn iawn; y mae yn anhawdd gwneyd un darluniad o hono, na chael amgyffred am dano; ond y mae y Duw anfeidrol yn heigio bywyd mewn miliynau o greaduriaid bob mynyd o'r dydd. Mae gan lawer iawn fywyd yn y byd hwn: nid dyn yn unig sydd yn byw, nid yr anifail yn unig; ond y mae pryfaid, bwystfilod, a chwilod, beth afrifed o amrywiaethau yn bod, ond y maent oll wedi derbyn eu bywyd gan Dduw. Ni fedr dyn nac angel, heb gymorth gan Dduw, wneyd cymaint a bywyd mewn gwybedyn. Rhywbeth ydyw bywyd na ŵyr neb beth ydyw ond Duw, ac na fedr neb ei roddi ond Duw.
Hefyd, mae cynydd gweithredoedd Duw yn dangos fod ei ffyrdd yn uwch na'n ffyrdd ni. Y mae creadigaeth Duw yn cynyddu tan ei dwylaw. A ydyw y ddaear yn myned yn fwy ag yn drymach na phan ei crewyd, nis gwn, ond pa fodd bynag y mae yn waith llaw Duw—y mae cynydd rhyfeddol ar y creaduriaid sydd ynddi—dyn, yn feibion ac yn ferched. Yr ydym rhyw dair rhan o bedair o honom wedi cyrhaedd ein llawn faint, ond yr ydym wedi bod yn fychain iawn daethost i'r byd ar y cyntaf yn egwan fychan ŵr,—cynyddu a ddarfu i ti i ddyfod i'r maint yma. Edrychwn ar y planhigion, y mae cynydd wedi bod arnynt hwy y dderwen fawr gauadfrig, nad all dau neu dri o ddynion gyrhaedd o'i hamgylch, gellwch fod yn siwr y gallasai bachgen oes neu ddwy yn ol, ei thori yn wialen gyda'i gyllell fach; pa fodd yr aeth mor fawr? Gwaith Duw yw'r achos—cynyddu a wnaeth. Yr Elephant—ychydig iawn unwaith fuasai yn ei ladd―ni fuasai perygl i'r dyn gwanaf ei gyfarfod; ond cynyddu ddarfu iddo nes myn'd yn dunelli o bwysau. Y llew a'r teigr sydd yn greulawn a chryf—y maent hwythau wedi bod yn fychain iawn. Felly hefyd y lefiathan anferth yn mesur o haner cant i gant o droedfeddi o hyd, y mae yn fawr iawn, ond bu yn fychan iawn. Y mae yr hen ddaear yn cynyrchu o hyd y naill flwyddyn ar ol y llall, ac y mae creaduriaid Duw yn filoedd yn heolydd y greadigaeth, ac yn cynyddu o hyd. Pa le y mae dyn a all wneyd hyny: os yn fychan y gwna y crydd yr esgid, bychan a fydd i'r troed; os bychan y gwna y carpenter y llong, nid aiff ddim mwy—yr un faint fydd hi o hyd; os gwna y saer y drws yn rhy fychan i'r frame, nid gwiw ei adael gan ddysgwyl iddo dyfu. Er fod y gragen can galeted a'r gareg, y mae hi yn cynyddu o gwmpas y pysgodyn, a'r pysgodyn yn cynyddu ynddi hithau fel yn ei amddiffynfa; ond os gwna dyn amddiffynfa, hi erys byth yr un faint ag y gwnaeth hi; pa fodd y mae hyny yn bod? y mae ffyrdd Duw yn uwch na'n ffyrdd ni.
Hefyd, y mae creaduriaid yn cynyrchu o hyd yn heolydd y greadigaeth, a hyny yn wastad. Addefwn fod y watch. a'r clock yn bur gyffredin yn awr; ond er eu bod yn waith celfydd, y maent yn dyfod yn annhraethol fyr i'w cymharu â chreadigaeth Duw. Y maent yn dangos yr awr o'r dydd, mae'n ddigon gwir, ond beth pe gwelem watch yn gwneyd peth tebyg i'r iâr—yn dodwy wyau, un watch yn dodwy rhai eraill, tybiech yn y fan eich bod yn gweled rhyfeddodau Duw. Ond beth ydyw cywreinrwydd dyn yn ei gwneyd o dipyn o steel, a phres, ac arian, a gwydr,—pa beth ydyw hyny yn ymyl y llall? Gwnaiff yr iâr hyny, am mai gwaith llaw Duw ydyw hi; ac nid yn unig gwna hyny, ond y mae yn medru teimlo, a chofio, a gofalu dros ei rhai bychain. Gwelais aderyn bach unwaith wedi ei wneyd o waith celfyddyd yn canu, ond âi ei gân heibio, a rhaid oedd ei windio; ond cân y ceiliog bach gyda'r wawrddydd, a pharhâ i wneyd hyny heb ei windio. Ond y mae dyn yn anfeidrol bell o wneyd dim i'w gydmaru am foment â gweithredoedd Duw. Rhyfeddodau ydyw gweithredoedd Jehofa ar y rhai yr edrych dyn. Beth wyt yn ymyl y Duw mawr? Y mae ar ddyn drafferth fawr gydag ychydig, ond am y Duw mawr nid oes arno efe ddim trafferth gyda llawer iawn. Pa beth ydyw eangder y greadigaeth? Nid oes neb ond Duw, neu yr angelion, a ŵyr rifedi y bydoedd a'r sêr, a gallai fod llawer nas gwelodd yr un angel mo honynt. Ond y mae Duw yn Frenin ar y cwbl, ac yn eu llywodraethu oll; ni "ddiffygia ac ni flina Duw tragwyddoldeb," mae yn anfeidrol uwchlaw pawb. Yr helynt sydd ar ddyn yn codi un peth ac yn tynu peth arall i lawr—llawer o helbul sydd arno gydag ychydig; ond y mae Duw yn gallu gwneyd rhyfeddodau aneirif, a hyny heb drafferth yn y byd. Y mae dynion yn gallu gwneyd llawer o bethau, ond trwy anhawsderau mawr y maent yn eu gwneyd uwch ydyw ffyrdd Duw na'n ffyrdd ni. Y mae ei feddyliau yn uwch na'n meddyliau ni. Yr ydym ni yn meddwl o'r naill beth i'r llall. Ein dull ni o feddwl ydyw cydmaru pethau a'u gilydd, a thynu casgliadau oddiwrth hyny. Yr ydym yn meddwl am yr achos wrth edrych ar yr effaith. Yr ydym ni yn gwel'd bob yn dipyn, o step i step, ond y mae y Duwdod mawr yn gweled y cyfan ar unwaith, yr effaith a'i achos, un meddwl Duw ydyw pob peth sydd mewn bod. Hefyd, nid ydyw ein meddyliau ni ond dychymygion. Y mae ein meddyliau yn feddyliau ofer, ac yn dra dychymygol. Y mae ffordd y meddwl yn ymddangos yn uniawn yn ngolwg dyn, ond pan â dipyn yn mlaen, ymddengys yn ffol iawn; ond gwirionedd ydyw meddwl Duw am bobpeth. Fel y mae Duw yn meddwl am bobpeth, felly y mae pob peth. Y mae pob peth yn ymddangos iddo Ef fel y mae yn gymwys—nid ydyw nac uwch nac îs, na gwell na gwaeth, yn ol nac yn mlaen, na'r hyn mae Ef yn ei feddwl am dano. Nid ydyw yn edrych yn ogwyddedig ar ddim, ac nid oes tuedd yn y meddwl Dwyfol ond at yr hyn sydd yn ei le; ond nid felly y mae gyda ni. Ein doethineb ni ydyw amcanu gwybod beth ydyw meddwl Duw am y pethau y mae wedi eu dadguddio i ni. Y mae yn afreidiol i ddyn wybod pob peth y mae y Duw mawr yn ei wybod. Ni chanlynit mohono am foment yn ei wybodaeth, byddai swm ei feddyliau wedi dy ddryllio, ac ni wnait ddim a holl—wybodaeth Duw hyd yn nod pe byddet wedi dy amgylchu âg anfarwoldeb; ond y mae wedi rhoddi i ni ei wybodaeth mor bell ag y mae arnom ei heisieu yn y fuchedd hon; cuddiodd y dirgeledigaethau oddiwrthym, a rhoddodd bethau amlwg i ni ac i'n plant. Y mae ganddo Ef ddeall clir iawn am ei deyrnas fawr a'i lywodraeth. Byddwn ni yn petruso yn ddirfawr, ac yn edrych yn aml ar y cwbl bron a myned yn bendramwnwgl, ond nid ydyw Duw felly, y mae ganddo Ef feistrolaeth berffaith ar ei holl waith i'r hon y mae y greadigaeth yn dalaeth o honi. Ni wyddom ni beth ydyw nifer talaethau ei deyrnas fawr, ond y mae Duw yn ei chynwys ynddo ei hunan. Mae gan deyrnasoedd y ddaear eu brehinoedd, a'u deiliaid i'w hamddiffyn a'u cadw, ond am y Duw anfeidrol y mae Efe yn cynal ei ymerodraeth i gyd, ac nid ydyw yn ymddibynol ar neb. Y mae pawb yn derbyn oddiwrtho Ef, ond nid ydyw Duw yn derbyn oddiwrth neb, ond o hono ei hunan. Yn holl drefn fawr iachawdwriaeth dyn y mae rhyw feddwl uchel, uwch na'i holl feddyliau gan Dduw. Y mae hon yr uchel iawn, ac yn deilwng o hono Ef ei hun. Nid oedd ar Paul ddim cywilydd o hon, "doethineb Duw mewn dirgelwch" ydyw. Y mae cant a mil o feddyliau wedi bod trwy feddwl dyn am y ffordd i fod yn ddedwydd; ond ni buasai neb wedi ei gweled, oni buasai i Dduw ei dadguddio. Ni bu neb mor amcanus ac mor lwcus a dyfod o hyd iddi, ond darfu i Dduw ei dadguddio, ac erbyn iddi ddyfod i'r golwg y mae yn ymddangos yn hynod o ogoneddus. Yr oedd Paul yn ei gwel'd yn glir iawn, ac yr oedd yn ei chanmol yn rhyfedd, ac yn cyfrif pobpeth yn dom ac yn golled yn ei hymyl—yr oedd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu ei Arglwydd wedi peri iddo fod yn barod i'w golledu ei hun mewn pobpeth er ei mwyn. Mae dynolryw wedi bod yn synu yn rhyfeddol wrth edrych ar weithredoedd Duw. Yr oedd un yn dychymygu fel hyn, a'r llall fel arall, am y system yr ydym ni yn trigo mewn rhan o honi; o'r diwedd, deuwyd o hyd i drefn y rhod yn y system yma yn lled gywir—tybiwyf eu bod yn agos i fod yn gywir—ac erbyn i'r gwirionedd ddyfod i'r golwg, yr oedd yn annhraethol gysonach ynddi ei hunan na'r un meddwl fu gan ddyn erioed am dani, a hyny am y rheswm ei fod wedi dyfod i feddwl yn debyg fel yr oedd Duw wedi gwneyd y machine mawr.
Mae ei feddyliau Ef yn uwch na'n meddyliau ni am natur drwg a da a rhinwedd a bai. Ychydig a wyddom ni am ddrwg a da. Medrwn ddyweyd y gair a'i gyfeirio at un ei fod yn ddrwg, ac at un arall ei fod yn dda; ond nid oes genym ni ond amgyffred anmherffaith am y naill na'r llall. Ychydig a wyddom ni am y pethau hyn, ond y mae y Duw sydd yn y nefoedd yn adwaen natur drwg a da yn drylwyr; y mae Efe yn gweled eu hegwyddorion, ac yn gweled drwg yn ei holl adgasrwydd. Gwel ddrwg yn ei ddrygedd a'i ganlyniadau i ddynion ac angelion drwg. Ni ŵyr Cain a Judas fawr am ddrwg pechod eto. Y maent yn uffern, ac y mae gwae ar ben y dyn fradychodd yr Arglwydd Iesu, "mai gwell fuasai iddo ef pe nas ganesid ef;" ond nid ŵyr y ddau fawr am ddrwg pechod : ond y mae Duw yn gwybod am ei ddrwg a'i ganlyniadau i dragwyddoldeb. Mae y Duw yma wedi ei wahardd i ti yn ei ddeddf lân y mae hono yn gwahardd drwg i gyd. Meddwl Duw am ddrwg yn ei berthynas a'i greaduriaid rhesymol ydyw, ei fod yn beth i'w wahardd iddynt, oddiar y duedd sydd ynddo i'w gwneyd yn dragwyddol druenus, ac yn wrthddrychau casineb yr Hollalluog.
Y mae ei feddyliau yn uwch na'n meddyliau ni am ei fod yn adwaen yr hyn sydd dda hefyd. Gŵyr Duw yn berffaith y foment yma y fath beth i ti—y fath nefoedd yn dy fynwes di—ydyw cael calon i'w garu Ef ei hunan. Ychydig a wyddom ni am Dduw ac am ei gariad; ond gŵyr Ef y cyfan. Gwel Ef werth y nefoedd fechan sydd o gariad Duw o fewn y Cristion; a gŵyr y bydd y Cristion hwnw o fewn y nef, ac o fewn y nef am byth, ac y câr ef fwy fwy i dragwyddoldeb. Y mae Duw yn gweled yr hyn sydd ynddo ei hunan yn dda yn ei natur yn berffaith glir a thrwyadl, ac yn ei ganlyniadau i ddyn ac angel yn berffaith glir am dragwyddoldeb. Y mae arnaf eisieu i chwi feddwl yn fawr am ei wybodaeth. Y mae Efe yn gyfoethog o drugaredd, ac yn oludog o ddaioni tuag at feibion dynion.
Mae ganddo feddyliau uwch na'n meddyliau ni, oblegyd y mae ganddo feddyliau uchel iawn am y Cyfryngwr. A oes eisieu i mi feddwl mor uchel? Nac oes, ond y mae eisieu i ti, fy nghyd—ddyn, dynu dipyn ar ei ol. Y mae Efe yn gwybod am undeb y ddwy natur yn mherson y Cyfryngwr mawr, ac fel yr oedd y natur Ddwyfol yn droppio rhyw gynwys anfeidrol o ddyoddefiadau y natur ddynol yn y fath fodd nas gwyddom ni ddim am danynt. Mae pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear gan Dduw ; paham ynte yr oedd eisieu aberth, offrwm, ac iawn? Yr oedd efe yn gwybod fod pechod mor ddrwg nad allasai ei faddeu heb iawn, ac yn gwel'd y canlyniadau a ddaethai i'r llywodraeth ddwyfol iddo faddeu heb iawn, a'r rhai hyny y fath na wnaethai byth heb hyny.
Maent yn feddyliau wedi eu dyweyd yn blaen iawn wrthyt yn y gwirionedd. Tyred i gollege yr Iesu; medr ef ddysgu i ti ostyngeiddrwydd fel y dysgodd y Tad ei Fab. Y mae meddyliau Duw yn uwch oblegyd y mae ganddo rhyw ddeddf fawr yn ngolwg ei feddwl tragwyddol, at yr hon trwy bobpeth y mae yn cyrchu—rhyw ben draw mawr a gogoneddus iawn. Beth sydd yn ngolwg y geiriau hyny, "Yr hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tuhwnt i ddim yr ydym ni yn ei feddwl," dyna ergyd go bell, y mae dyn yn meddwl, ac yn dychymygu, ac yn cynllunio llawer iawn, ond y mae y step nesaf yn uwch o lawer"neu yn eu dymuno." Medr dyn ddymuno daioni anamgyffredadwy, a daioni diderfyn; y mae rhywbeth yn nymuniadau naturiol dyn, nad oes dim ond Duwdod a'u lleinw, ond medr Duw wneuthur y tuhwnt i'r hyn yr ydym ni yn eu meddwl neu yn eu dymuno. Nid oes gan ddyn nac angel amgyffred am y meddyliau hyn. Rhaid dy amgylchu âg anfarwoldeb i gynal tragwyddol bwys gogoniant sydd wedi ei bwrpasu ganddo Ef i'r hwn sydd wedi goddef cystudd tros a chyda'r efengyl yn y byd yma. Rhyw olwg digon a stracio dyn ydyw gweled dynolryw—cymaint sydd yn cyfeiliorni ar y ddaear; cymaint sydd yn dyweyd am y da mai drwg yw; rhai yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, a rhai yn gwadu yr Hwn a'u prynodd, a llawer yn llithro i chwantau ynfyd a niweidiol ag sydd yn boddi dynion i ddinystr a cholledigaeth. Ond y mae gan Dduw ryw ben draw anamgyffredadwy o ddaioni i'w holl feddyliau, ac y mae yn siwr o ddwyn hyny i ben, ac yn bell iawn y tuhwnt i'n deall ni. A wnewch chwi beidio ag ymryson â'r Duw mawr? Yr wyf yn greadur iddo, ond yr wyf yn bechadur hefyd, ond er hyny y mae y Duw mawr a'th wnaeth yn ddigon mawr i faddeu i ti. "Tosturiol iawn yw yr Arglwydd." A wnei di beidio a thynu yn groes iddo? Gŵyr yn gan' mil gwell na thydi beth sydd oreu i ti, a wnei di gymeryd ei ewyllys yn rheol? Y mae yn dyweyd y gwir, a'r holl wir mor belled ag y mae eisieu i ti ei wybod, beth fyddai i ti ei gredu? "Duw gwirionedd ac heb anwiredd" ydyw. Mae ei ewyllys yn dy les a'th gysur di, beth pe bait yn cael ei feddwl mawr Ef i'th feddwl bach dy hunan am Gyfryngwr y Testament Newydd, eangai dy feddwl at Dduw a thuag at greaduriaid Duw nad oes dim arall a'i gwna. Y mae cael rhyw radd o feddwl Duw am ei Fab y meddyliau uchaf allwn gael. Mor wael ac isel a dyddim ydym o'n cydmaru â Duw. Ni leiciwn daflu un diystyrwch ar fawrion y byd, ond wrth edrych ar y Duwdod mawr yn Drindod o bersonau, nid ŵyr y dysgedicaf ddim o'i gydmaru âg Ef, ond gwyr Duw y cyfan sydd mewn bod. Nid ydyw gallu pawb ond gwendid yn ymyl gallu Duw. Nid wyt ond rhyw ysmotyn yn ymyl Duw tragwyddoldeb. Gadewch i Dduw gael eich holl feddyliau, y mae yn gweddu fod ein holl fyfyrdodau ar Dduw. Nid oes eisieu i ti feddwl mor uchel ag Efe; ond nid oes eisieu chwaith i ti feddwl yn groes iddo; ti a gei feddyliau wedi i ti fyned i'r byd mawr nad elli eu cynwys yn y byd yma. Y mae genym Dduw anamgyffredadwy mewn daioni, "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddaear, a llawenyched ynysoedd lawer." Gallai fod yma ambell un yn elyn i Dduw. Cofia, y mae genyt elyn rhy drech. Yr wyt yn ymryson ag un rhy gadarn i ti, na welir di ar dy draed i dragwyddoldeb. Pan mae dyn yn ymaflyd codwm a'i Luniwr, mae yn hawdd i bob dyn guessio pwy fydd isaf. Fel Pharaohdacw y Môr Coch wedi ei foddi ef a'i lu yn y fan. Na fydded gwae uwch ein pen o ymryson â'n lluniwr; ond pa beth bynag a ddywedo, gwnawn; beth bynag a orchymyn, cadwn; pa beth bynag y mae yn ei gynyg, cymerwn; a bydded yn dda genym ei gael; beth bynag y mae yn ei addaw, credwn ei addewid; a pha beth bynag y mae yn ei orchymyn, gwnawn â'n holl egni; ni welir achos i edifarhau am hyny i dragwyddoldeb. AMEN.
[Cofnodwyd mewn llaw fer wrth ei gwrandaw, gan Mr. Hugh Jones, Dolgellau, Chwefror 1, 1850.]