Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pregeth II
← Pregeth I | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Pregeth III → |
PREGETH II.
Y DDOETHINEB SYDD ODDI UCHOD.
"Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hyny heddychlawn, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith."—IAGO iii. 17.
NID oes dim son yn yr adnod hon am na chredo na phader dyn duwiol; nid oes yma son am ei gyffes ffydd, nac am ei ddefosiynau; nid oes yma son am ei gwymp yn Adda, nac am ei lygredigaeth ymarferol trwy ei waith yn pechu yn ei berson ei hun, nac am ei gyfodiad yn y Cyfryngwr. Nid oes dim o'r gwirioneddau a osodir allan mewn lleoedd eraill o'r pwys mwyaf i'w credu yn cael llefaru am danynt yn yr adnod hon; ond y mae yn cynwys effeithiau y gwirionedd ar y cristion. Dangosir yma agwedd yspryd a thymher gwir grefyddwr; neu ddoethineb, uniondeb, a boneddigeiddrwydd crist'nogol y dyn hwnw sydd yn feddianol ar wir grefydd.
Mae gwir grefydd yn cael ei galw yma yn "ddoethineb." Rhywbeth anhawdd ei gablu yw doethineb. Ni chlywsoch chwi gablu neb am ei fod yn gall, er y clywsoch feïo un am ei fod yn rhyw sarph ddichellgar. Nid oes achos i neb feio crefydd gan mai doethineb ydyw. Yn llyfr Job, a'r Diarhebion, ac mewn lleoedd eraill, cawn dduwioldeb yn myned dan yr enw hwn. A "dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd." Y peth sydd yn grefyddol i'w wneyd, y mae yn ddoeth ei wneyd ; a'r peth sydd yn synwyrol i'w wneyd, y mae yn ddoethineb ei wneyd. Mae ambell un yn ei feddwl ei hun yn gall am wneyd drwg, ac y mae yn arfer ei holl ddoethineb tuag at hyny, ond callach yw peidio. Mae ambell un yn arfer ei ddyfais i ddyweyd celwydd, ond doethach yw dyweyd y gwir. Mae ambell un yn cynllunio pa fodd i gymeryd ei gymydog i fewn, ond callach tro yw bod yn help iddo. Doethineb yw crefydd, a ffolineb yw bod hebddi. Da fyddai genyf i genedl y Cymry ddyfod i ddeall mai bod yn wir ddoeth yw bod yn wir dduwiol. Yn hyn y mae gwir ddoethineb yn gynwysedig; dewis y da, a gwrthod y drwg.
Gelwir crefydd yn "ddoethineb sydd oddi uchod" mewn cymhariaeth i ddoethineb y byd hwn. Mae plant y byd hwn yn gall yn eu cenhedlaeth, sef yn gall yn eu pethau hwy; ond y mae rhyw dwyll yn eu doethineb er hyny. Yn yr olwg ar bethau byd arall, nid ydyw ond gwâg dwyll." Oddi uchod y mae y ddoethineb nefol yn dyfod, ac yno y mae ei nôd.
Yr oeddwn yn meddwl sylwi ar y ddoethineb sydd oddi uchod yn yr amrywiol bethau a briodolir iddi yn y testun. Edrychwch arni yma, a chwi a'i gwelwch yn dra hardd a phrydferth. Nid ysgerbwd mo honi; nid tebyg i esgyrn sychion Ezeciel ydyw ; ond y mae wedi ei gwisgo â gïau, a chig, a chroen; a bywyd yn ei hysgogi; a rhyfedd genyf fi os, wedi edrych arni, na syrthiwch mewn cariad â hi.
I. PUR YDYW. Nid hardd oddi allan, ac ystŵff gwaeth oddi fewn; na: "pur ydyw." Mae yn aur pur drwyddi. "Puredd a gaed ynof ger ei fron ef," meddai Daniel. Gwerthfawr bob amser yw cael rhywbeth yn bur a chywir. Mae yn wir fod peth drygioni mewn pobl dduwiol. "Nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni ac ni phecha." Mae yma ryw ddeddf arall yn yr aelodau yn gwrthryfela yn erbyn deddf y meddwl; ac nid y peth y mae y duwiol yn ei ewyllysio, y mae yn ei wneuthur bob amser mae yn llithro mewn llawer o bethau. Ond nid oes drwg mewn duwioldeb serch fod drwg mewn duwiolion. Purdeb ydyw hi; ac ni bydd wedi gorphen ei gwaith nes cael ei pherchen yn gwbl yr un fath â hi ei hun. Nid yw gras yn cymysgu a llygredd.
II. HEDDYCHLAWN. Mae y dymher hon yn werthfawr iawn. Mae yn y byd yma lawer o groes—dynu; fel cŵn yn ymdynu am yr un asgwrn, a dim modd ond i un ei gael. Y neb sydd o duedd ymrafaelgar, rhaid iddo fod a'i gleddyf a'i fwa yn ei law o hyd: ceiff ddigon o waith i amddiffyn ei hun rhag ymosodiad o ryw gwr yn barhaus. pheth pur ddiennill yw ymrafaelio. Clywais fod y Dutchmen yn fynych yn rhoi yn arwydd (sign) ar eu tafarndai, lun buwch, a Sais yn tynu yn un corn iddi, a Frenchman yn y corn arall, a Dutchman yn ei godro. Nid yw pobl gwerylgar yn cael dim ond y cyrn i'w dwylaw, a hwyrach y cânt eu cornio hefyd; pobl eraill a gaiff y llaeth. Ond heddychlawn yw gwir grefydd. Mae y Cristion, y mab tangnefedd hwn, yn dyweyd am heddwch mai da yw. Cafodd brofiad ei hunan o hyn. Mae tangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, wedi ei wneyd yn dangnefeddus ac yn dangnefeddwr. Duw a roddo y ddoethineb hon i ninau oll.
III. BONEDDIGAIDD. Nid bod yn ŵr boneddig o berchen ystâd a feddylir yma; nid oes ond ambell un o'r boneddigion yn yr ystyr hwn wedi eu galw; ond bod yn meddu tymher foneddigaidd. Gallwch yn yr ystyr hwn fyned yn ŵyr boneddigion ac yn ladies i gyd; a noble a fyddai i chwi oll fyned felly ar yr un diwrnod. Wele, mae yn bosibl cael hyn. "O bydd ar neb o honoch eisieu doethineb, gofyned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddanod; a hi a roddir iddo ef." Nid peth shabby mo dduwioldeb; boneddigaidd yw. Mae ambell i ŵr tlawd yn right ŵr boneddig yn ei ffordd ef; mae heb ystâd, na thenantiaid, na meirch a cherbydau; eto mae yn foneddigaidd yn ei ffordd; yn pasio dros gamwedd, yn hoffi byw arno ei hun hyd eithaf ei allu, ac heb fod am gymeryd mantais ar neb o'i gydgreaduriaid.
Mae boneddigeiddrwydd yr efengyl yn cynwys,—
1. Rhyw yspryd rhydd a diragfarn. Yr oedd Paul a Silas wedi bod yn pregethu yn Thessalonica, ac fe gododd erlid arnynt yno, ac i Berea yr aethant. Yr oedd pobl Berea yn gwrando arnynt yn astud ac yn ewyllysgar iawn; eto ni ddarfu iddynt ddyfod yn broselytiaid ar unwaith y pryd hwnw; ond hwy a wnaethant yn foneddigaidd aethant adref i chwilio yr ysgrythyrau, a oedd y pethau hyn felly. "Y rhai hyn," meddai yr hanes, "oedd foneddigeiddiach na'r rhai oedd yn Thessalonica.' Yr oedd yspryd ac agwedd y bobl hyn yn uwch na'r cyffredin o'r byd. Yn lle barnu a chablu y pregethwyr ar un llaw, na chymeryd pob peth ar goel ar y llaw arall, aethant i gymharu ysgrythyr âg ysgrythyr; a chawsant wybod fod y pethau hyn felly.
2. Bod yn ddiddial. "Nac ymddielwch, rai anwyl." Mae yn anhawdd iawn peidio digio wrth lawer peth yn y byd hwn; ac ni wn i a oes eisieu hyny yn gwbl; mae cynhyrfiad yn erbyn drwg yn naturiol i'r goreu o ddynion. Ond y mae peidio dial am drosedd yn foneddigaidd. Fel hyn yr oedd ar Dafydd pan gafodd gyfleusdra i ddïal ar Saul. Yr oedd Saul yn erlid ar ei ol, fel un yn hela petris ar hyd y mynyddoedd; ond ar ryw adeg, dyma Dafydd yn cael cyfle i frathu ei gleddyf yn ei galon; ond arbedodd enaid Dafydd eneiniog yr Arglwydd. Ar dro arall, yr oedd un o feibion Serfiah yn gofyn cael taro Saul unwaith, ac ni cheisiai ei ail-daraw. "Na:" meddai Dafydd, "na ddifetha ef." Dyna i chwi yspryd boneddigaidd. Tri dial cristion ar ei elyn:-gweddïo drosto, maddeu iddo, a gwneuthur daioni iddo. Ond ar yr un pryd, nid oes rwymau arnaf i'w gymeryd yn gyfaill. Eithr dylwn gofio, pa fodd bynag, nad oes genyf ryddid i ddïal ar yr un o greaduriaid Duw.
3. Peidio cymeryd mantais annheg ar ein gillydd. Ni ddylech chwi, y plant bychain, wneyd hyny wrth chwareu. Chwithau, y bobl ieuaingc sydd heb briodi, ni ddylech gymeryd mantais annheg ar wendid y naill a'r llall, os gwelwch hyny. Peth pur anfoneddigaidd yw cymeryd mantais ar wendid. Mae y Beibl yn sôn am y rhyw fenywaidd fel y llestri gwanaf;" ond pe byddai y meibion yn sôn am hyny o hyd o hyd, byddai hyny yn annheg arnynt; ac yn wir y mae llawer o ferched yn gallach na'r meibion. Wrth drin y byd hefyd, nid yw Duw yn caniatâu i neb gymeryd mantais annheg ar ei gyd-greadur, mwy nag y mae tad yn hoffi gweled y naill blentyn yn cymeryd mantais ar y llall.
Fel hyn y mae y ddoethineb sydd oddi uchod yn foneddigaidd. Onid yw yr efengyl yn dyfod â dyn i lawr? Ydyw: ond y mae hi yn ei godi i fyny hefyd; mae yn codi y tlawd o'r llwch, ac yn dyrchafu yr anghenus o'r domen, i'w osod gyda phendefigion, ïe, gyda phendefigion pobl Dduw. Mae gostyngeiddrwydd a boneddigeiddrwydd yn byw yn nghyd.
IV. HAWDD EI THRIN. Un hawdd i ymwneyd âg ef yw perchenog y ddoethineb sydd oddi uchod. Mae ambell un, os bydd i chwi â ymhelioch âg ef, mae yn rhaid i chwi gonsid'ro llawer iawn pa fodd i'w foddâu. Ond y mae hyna yn beth cwbl wrthwyneb i yspryd yr efengyl. Mae dynolryw yn cael trafferth ryfeddol i drin eu gilydd. Mae plentyn bach hawdd ei drin yn ddymunol iawn; ac felly plentyn mawr yr un modd. Mae bod y gŵr yn hawdd ei drin yn dra dymunol i'r wraig, yn lle bod fel ambell un yn cadw ei god yn ei gydyn; ac felly y mae gwraig hawdd ei thrin yn ddymunol i'r gŵr. Mae y dymer fenywaidd yn gyffredin yn fwy bywiog a thouchy; ond y mae gras yr efengyl yn gwneyd y naill a'r llall yn llariaidd ac yn addfwyn. Dywedir fod modd trin pawb ryw sut, naill ai trwy deg neu trwy hagr; ond nid oes ond tymer yr efengyl a fwyneiddia bawb yn hawdd. Bod y mater mawr wedi ei settlo rhwng dyn â Duw, a wna ddyn yn garuaidd a thirion at bawb a phobpeth. Gobaith gwlad well yn mhen y daith a dymhera ddyn i ddygymod â llawer peth câs ar y ffordd. Pe baech yn trafaelu wedi y nôs ar hyd ffordd arw i ymweled â chyfaill hoff, gan wybod fod ganddo dŷ cysurus; tân, bwrdd, a gwely; os bydd yn wlyb, fod yno ddillad sychion i'w newid; ni byddai can waethed arnoch ar y ffordd: felly mae yr enaid sydd a'r gobaith hwn ynddo ef yn ei buro ei hun oddiwrth yr yspryd peevish ac anfoddog. Mae yr hwn a gafodd y ddoethineb hon yn bur annhebyg i ryw ddraenog o ddyn, na wyddoch pa ochr i ymhél âg ef. Hawdd ei drin yw hwn; nid oes ganddo bigau yn un lle. Ni wna byth godi ei law ond i'w amddiffyn ei hun. Yr efengyl a'n gweithio ni i'r dymer hon.
V. LLAWN TRUGAREDD A FFRWYTHAU DA.Cofiwn fod yn rhaid i ni gael crefydd fel hyn. Beth a feddylir wrth hyn? Ai bod dyn yn llawn arno o ran trugareddau tymhorol? Nage: ond fod yr enaid a gafodd ei fywyd yn nhrugaredd Duw yn Nghrist wedi ymgymeryd â'r egwyddor a'r teimlad o drugaredd; aeth i'r un dymer â'r Duw mawr ei hunan. Yr wyf yn cofio hen feddyges yn y gymydogaeth yr wyf yn byw ynddi; byddai pobl wedi eu hanafu yn myned ati yn aml, a hithau yn eu gwella yn o lew; ac fe fyddai hi a'r claf wedi myned yn ffrindiau bob amser; yr oedd hi yn hoffi gwneyd trugaredd, ac yntau yn hoffi cael trugaredd. Mae y pechadur sydd wedi derbyn trugaredd yn a thrwy y Cyfryngwr, yn hoffi ymarfer trugaredd. "Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda, a pheth a gais yr Arglwydd genyt; gwneuthur barn a hoffi trugaredd;" ymgymeryd â'r dymer drugarog. Mae y dymer hon yn myned yn gryfach gryfach wrth gael myned allan a gweithio
"A ffrwythau da;" ffrwythau trugaredd; gweithredoedd da. Mae gweithredoedd da bob amser yn dilyn crefydd dda; a pheryglus yw hoffi meddwl y gellir gwneuthur hebddynt. Pan welo y dymer drugarog wrthddrych truenus, hi a dosturia ac a gynorthwya. Llestri trugaredd yn rhedeg dros yr ymyl yw hyn. Mae llawer o bethau yn gofyn am ein hymdrech; mae yr amrywiol gymdeithasau crefyddol yn gofyn am ein haelioni. Ac os ydym yn llawn trugaredd, hi a rêd dros yr ymyl mewn cyfraniadau. 'Ffrwyth yn amlhau erbyn dydd y cyfrif" yw hyn. Bydd cyfrif eto o weithredoedd da y duwiol. Mae ei bechodau wedi eu dileu, ond bydd ei weithredoedd da ar gael i gyd. Dyma y bobl sydd yn trin y byd yn iawn: nid y rhai sydd yn ei garu; mae y byd wrth ei garu yn myned yn felldith; ond y bobl sydd yn medru ei drin i fod yn account o'u tu erbyn dydd y cyfrif. Bendigedig fyddo Duw ! "Canys nid yw efe yn annghyfiawn, fel yr annghofio eich gwaith, a'r llafurus gariad, yr hwn a ddangosasoch tuag at ei enw ef, y rhai a weiniasoch i'r saint, ac ydych yn gweini."
VI. DIDUEDD. Anhawdd iawn yw cael dyn heb dipyn o osgo ynddo ryw ffordd; ond peth syth yw duwioldeb; i fyny ac i lawr, mae hi yn bur dêg. Mae y natur ddynol wedi gogwyddo trwy bechod; ac at hunan y mae ei gogwydd. Wedi i ddyn lawer pryd geisio barnu pethau yn o uniawn, mae y duedd gref sydd yn ei natur yn ei gario i'w hunan yn ddiarwybod iddo. Mae cael y farn ddiduedd yn beth mawr. Wrth drin y byd, gwnewch allowance fod tipyn glew o duedd mewn dynion yn gyffredin i dynu atynt eu hunain. Fel hyn y mae gyda barnu eraill, ac yn ngwaith y naill barti crefyddol yn llefaru am y llall. O am fod yn wastad dan ddylanwad y ddoethineb sydd yn ddiduedd.
VII. DIRAGRITH. Mae pawb yn casâu rhagrith, a pheth doeth bob amser yw ei roddi heibio. Mae duwioldeb yn ymwrthod âg ef. Doethineb yw bod yn ddiragrith, o herwydd nid oes bosibl rhagrithio yn iawn. Os mynech fod yn iawn, ymofynwch am y peth ei hunan. Mae ambell un yn paentio yn dda, ond nid neb cystal â natur. Ac y mae yn haws cael y gwir beth o lawer. Nid yw rhagrith yn werth dim wedi ei gael; hawsach cael y gwir beth na chael dawn i ragrithio yn llwyddianus. Ni thycia gyda Duw ond gwirionedd; ac y mae Duw yn foddlawn i roi i ti y gwir beth, os âi ato i ymofyn am dano. Anhawdd rhagrithio cariad at Dduw ; ond y mae Duw yn foddlawn i roi i ni galonau i'w garu. Tâl y grefydd dda i'w defnyddio; deil i'w gwisgo. Gall y peth a fyddo wedi ei wisgo âg arian ac aur edrych yn dda am ryw yspaid; ond wrth ei rwbio, mae yr hen ddefnydd yn dyfod i'r golwg. Daw rhywbeth i roi crap arnom o hyd; trwy ryw foddion, fe gripir y croen, a mynir gweled lliw y gwaed. Daw y peth ydym i'r golwg ar fyrder. Os mynem ymddangos yn grefyddol, ymofynwn am grefydd wirioneddol rhyngom a Duw. Daw crefyddd dda gyda ni i bob man.
Wele, fy anwyl bobl, ymofynwch am y grefydd iawn yma. Mae hi yn awr i'w chael; ond y mae perygl i chwi fyned i'r byd arall hebddi. Ei gwir ddymuno yw y gamp. O am grefydd â'n gwnelo o nifer rhai llednais y tir, rhai llariaidd y ddaear; crefydd a fyddo yn dyweyd yn dda am ei Hawdwr mawr, yn ein gwneyd yn bobpeth drosto ac iddo tra y byddom yn y byd, ac yn ein cymhwyso i fyned ato yn y diwedd. Adnabod Iesu yn iawn a gaffom nes ein cyfnewid i'r unrhyw ddelw." [1] —AMEN.
Nodiadau
golygu- ↑ Gwel y "Pregethwr," Ebrill, 1842.