Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pregeth VI
← Pregeth V | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Pregeth VII → |
PREGETH VI.
ETIFEDDION SYLWEDD.
"I beri i'r rhai a'm carant etifeddu sylwedd: a mi a lanwaf eu trysorau.—DIAR. viii. 21.
SYLWEDD i greadur rhesymol yw yr hyn a'i gwna yn ddedwydd, a gyflawna ei holl raid, ac a leinw ei ddymuniadau. Gall gwellt y maes wneyd yr anifail mor ddedwydd ag y mae yn alluadwy iddo fod, oblegyd nas gall ddymuno ychwaneg; ond ni ddichon cynyrch y ddaear wneuthur dyn felly, am y gall ddymuno ychwaneg. Lleferydd doethineb am dani ei hun yw y geiriau hyn, wedi ei phersonoli gan y gŵr doeth fel pendefiges; ac at ddynion o bob oedran a sefyllfa y mae ei lleferydd. Yn yr adnod flaenorol, dywedir, "Ar hyd ffordd cyfiawnder yr arweiniaf, ar hyd canol llwybrau barn." Ffordd cyfiawnder yn unig sy ffordd ddyogel ac anrhydeddus, ac y mae gwir ddoethineb yn arwain ar hyd-ddi. "Ar hyd canol llwybrau barn." Nid yw doethineb yn arwain i'r eithafion hyd yn nod ar ffordd cyfiawnder " allwybrau barn;" ond y mae yn gynwysedig yn ngochel yr eithafion ar bob llaw, a dewis y canol, gan gadw y naill eithaf mor bell oddiwrthi a'r llall. Mae doniau a thalentau yn fynych yn rhedeg i'r eithafion; ond ni chanlyn doethineb hwynt, oblegyd gwell ganddi y "canol."
Ond "rhagoriaeth gwybodaeth yw fod doethineb yn yn rhoddi bywyd i'w pherchenog," pâr i'r rhai a'i carant etifeddu sylwedd.
1. Mae yr hwn sydd yn caru doethineb yn etifeddu sylwedd, yn un peth, oblegyd fod cariad at ddoethineb yn wir rinwedd yn y meddwl. Nid yw cariad at ddedwyddwch—at fwynhad—yn rhinwedd moesol, oblegyd y mae hwnw yn y drwg a'r da, yn y cyfiawn a'r drygionus, yn gyffelyb: iaith calon holl ddynolryw yw, Pwy a ddengys i ni y daioni hwn? Ond y mae cariad at ddoethineb yn dyogelu i ddynion fwyniant a dedwyddwch. Caru doethineb yw caru Duw— caru ei gyfraith a'i lywodraeth—caru Crist a'r efengyl—caru ei achos a'i bobl—caru yr hyn sydd dda a'i wneyd. Ond y mae cariad dynion yn fynych at ddedwyddwch fel "deisyfiad y dïog, ac ni chaiff ddim; oblegyd ei ddwylaw a wrthodant weithio."
2. Mae yr hwn sydd yn caru doethineb yn etifeddu sylwedd, oblegyd cyfaddasrwydd pethau doethineb i natur ac amgylchiad dyn. Mae doethineb a daioni y Creawdwr i'w gweled, nid yn unig yn nghreadigaeth pethau, ond yn nghyfaddasiad pethau i'w gilydd. Mae doethineb mawr i'w weled yn nghyfansoddiad yr aderyn, ac yn nghyfansoddiad y pysgodyn; ond y mae doethineb mwy i'w ganfod erbyn i ni ystyried cyfaddasrwydd cyfansoddiad y naill a'r llall o honynt i'w helfenau. Ac O! mor gyfaddas y mae cylla dyn ac anifail wedi eu gwneyd i wahanol ffrwythau y ddaear. Doethineb a wnai y naill ar gyfer y llall mewn canoedd o amgylchiadau cyffelyb. Felly, yr un ffunud, y mae cyfaddasder perffaith yn y Duw mawr a chynyrch ei ras i wneyd i fyny holl ddiffyg dyn fel creadur ac fel pechadur. Mae yn naturiol i ddyn garu. Tyn bron ei holl fwyniant o'r gwrthddrychau a gâr, ond y mae sylweddoldeb a pharhad y mwyniant hwnw yn ymddibynu ar gyfaddasrwydd a theilyngdod y gwrthddrychau. Nis gall y gwrthddrychau teilyngaf fod yn hapusrwydd iddo, heb eu caru; ac nid oes mwyniant sylweddol mewn gwrthddrychau annheilwng, er eu caru. Gall merch ieuange rinweddol garu a gwir garu gŵr ieuangc o ymddangosiad teg oddiallan, a myned ag ef i'r cyfamod priodasol, a theimlo yn ddedwydd yn ei gwmnïaeth dros yspaid; eithr os glwth a meddw, diog a diddefnydd, fydd efe, gwywa cicaion ei dedwyddwch yn fuan—nid am nad oedd yn caru, ond am nad oedd y gwrthddrych yn deilwng a chyfaddas. Ond pe byddai i ddau cyfaddas i'w gilydd fyned i'r sefyllfa hono heb gariad, nis gallent fwynhau dedwyddwch y sefyllfa. Y mae miloedd yn caru pechod, ac yn llawen yn ei gariad dros fyr amser—dros yr honeymoon—ond y mae yn berffaith amddifad o ddefnyddiau gwir ddedwyddwch. Ond am ddoethineb a'i phethau, y maent yn gwbl gyfaddas; nid oes eisieu ond eu caru, a thi a etifeddi sylwedd. Mae yma faddeuant i'r euog, ffynon i'r aflan, meddyginiaeth i'r afiach, gwisg i'r noeth, cyfoeth i'r tlawd, goleuni i'r tywyll—mae yma, mewn gair, ddyn yn Iachawdwr i'r pechadur, a'r Creawdwr yn Dduw i'r creadur.
3. Mae yr hwn sydd yn caru doethineb yn etifeddu sylwedd, oblegyd fe gaiff ei wrthddrych. Nis gall fod yn glaf o gariad at ddoethineb a marw o'r clefyd hwnw, oblegyd efe a feddiana wrthddrych ei serch, "Y sawl a'm carant i," medd doethineb, "a garaf finau." Gall y cybydd garu aur ac arian, a methu eu cael; y balch garu parch ac anrhydedd, a hwythau yn cilio oddiwrtho. Câr llawer y rhai hyn fel y carai Paul y Corinthiaid, yr hwn a gwynai ei fod yn caru yn helaethach, ac yn cael ei garu yn brinach;" eithr nis gellir caru doethineb felly—y mae hi yn eiddo pawb a'i caro. Gwelir dynion weithiau yn gwywo i angeu gan wres eu serchiadau at wrthddrychau nas gallant eu meddinau; ond ni ddigwydd hyn i garwyr doethineb, oblegyd mwynhânt eu gwrthddrych, ac etifeddant sylwedd."
4. Mae yr hwn sydd yn caru doethineb yn etifeddu sylwedd, oblegyd fod yn natur caru Duw a'i bethau reoleiddio gweithrediadau y serchiadau at bob is—wrthddrychau. Mae y byd hwn yn llawn o wrthddrychau y gellid, ïe, y dylid eu caru. Nid yn unig y mae yn gyfreithlawn, ond fe ddylai y gŵr garu ei wraig, a'r wraig y gŵr; y rhieni y plant, a'r plant y rhieni; ac nid oes yr un o greaduriaid Duw na ddylid eu caru i ryw fesur yn ol eu teilyngdod ynddynt eu hunain, a'u perthynas â ni; ond dyn, wedi colli delw Duw fel prif wrthddrych ei serchiadau, yr hwn y dylai ei garu â'i holl galon, i'r hyn hefyd y lluniwyd ac y gwnaethpwyd ef, sydd yn naturiol yn myned i garu rhywbeth â'i holl galon; ond nid oes teilyngdod mewn un gwrthddrych heblaw Lluniwr y galon:—er y dylai y wraig garu ei gŵr, eto ni wna, pa mor dda bynag, ond duw gwael iddi; ac er y dylai y gŵr garu ei wraig, ni wna hithau fawr gwell duwies iddo yntau na Diana; er y dylai y rhieni garu eu plant, eto i ymddiried ynddynt, a rhoddi yr holl galon arnynt, nid ydynt fawr well na phren a maen. Fe ddylid caru trugareddau Duw. Pe byddai un mor ddifater am drugaredd y bywyd hwn nad gwaeth ganddo pa un ai llwm ai llawn fyddai, deuai "tlodi arno fel ymdeithydd, a'i angen fel gŵr arfog," ac ni byddai ond canlyniad naturiol ei ddifaterwch; ond ni theilynga pethau y ddaear eu caru â'r holl galon, ac ni wna aur ac arian dduw, ac nid gwell ymgrymu iddynt nag i foncyff o bren. Eithr yr enaid sydd yn caru Duw â'r holl galon a etifedda y sylwedd sydd yn ngwrthddrych ei serch, ac a ochel y gofid sydd mewn caru pethau eraill yn annghymedrol. Mae y dyn sydd yn caru y byd yn cael ei sychu i fyny fel na chai ddim ond y byd; ond nid yw y dyn sydd yn caru Duw felly, oblegyd y mae perthynas rhwng Duw a phob peth arall y dylid eu caru, a theimlad cynhes yn yr enaid sydd yn caru Duw â'i holl galon at bob gwrthddrych yn ol graddau eu teilyngdod yn y berthynas hono. Nid yw y gŵr a'r wraig sydd yn caru eu gilydd o flaen pawb eraill, oblegyd hyny yn ddiserch at eu plant a'u teulu, cymydogion a pherthynasau; ond carant hwynt yn burach, a gweinyddant unrhyw garedigrwydd iddynt gymaint a hyny yn gynt.
5. Mae yr hwn sydd yn caru doethineb yn etifeddu sylwedd, oblegyd fod y gwrthddrychau y mae yn eu caru yn wrthddrychau disiomedig ac annghyfnewidiol. Mae llawer iawn o drueni y byd hwn yn gynwysedig mewn siomedigaethau i rai yn ngwrthddrych eu serchiadau. Mae y ffynon sydd yn rhoddi dwfr cysur yn rhoddi dyfroedd chwerwon gofid hefyd. Mae y gwŷr a'r gwragedd yn gorfod rhoddi y naill y llall yn y bedd, y plant a'r rhieni yn claddu eu gilydd, y gŵr a alara am ei wraig a'r wraig am ei phriod, a'r rhieni, fel Rahel, a wylant am eu plant, ac ni fynant eu cysuro am nad ydynt. Gwelir y cybydd weithiau wedi colli ei arian cyn ei farw, a chyfoeth wedi cymeryd ei adenydd ac ehedeg fel eryr tua'r wybr oddiar y rhai fu yn ei fwynhau gyda hoffder. Bydd y cybydd yn sicr o fod hebddynt yn y byd tragywyddol, ond nid heb ei gybydd—dod, a'r balch yno heb ei anrhydedd, ond nid heb ei falchder; ond "iachawdwriaeth a fydd byth," "cyfiawnder ni dderfydd." "Gwynfyd y gŵr a gaffo ddoethineb, ac a ddyco ddeall allan;" oblegyd y rhai hyn a fyddant etifeddiaeth iddo dros byth. Dywedai un wraig a adwaenwn am dŷ oedd ganddi ar lease, "Ni bïau hwn tra byddwn ni byw; ond," gan gyfeirio at dŷ arall oedd ganddi trwy bryniant, dywedai, "ni bïau hwn acw byth." Nid pethau ar lease yw pethau doethineb, ond eiddo tragwyddol i'r sawl a'u caro. "Y Duw hwn fydd ein Duw ni byth ac yn dragywydd." Yr ydym ni yn cyd-ofidio â'n cyfeillion mewn gofid, ac felly i raddau yn gyfranog o'u gofidiau; ond y mae Duw uwchlaw gofid. Y mae trueni iddo ef, ac iddo ef yn unig, yn anmhosibl, oblegyd hyny nis gallwn fod yn druenus yn nhrueni prif wrthddrych ein serchiadau, os byddant wedi eu sefydlu arno ef, oblegyd dedwydd byth a fydd efe. I Dduw hefyd y perthyn anfarwoldeb. "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un ac yn dragywydd." Nis gall yr hwn sydd yn caru Duw fel ei Dad fod yn amddifad, na'r hwn sydd yn caru Crist fel ei Briod fod yn weddw. Gwraig weddw unwaith yn galaru am ei phriod, ac yn ocheneidio yn drom ei chalon gyda'i phlentyn amddifad, wrth yr hwn y soniasai lawer am ei Duw, a ofynwyd iddi gan ei phlentyn, "Paham yr ydych mor bruddaidd, fy mam?" "Dy dad a fu farw, fy mhlentyn." Gofynai yntau, "A ydyw Duw hefyd wedi marw, fy mam?" "Nac ydyw, fy mhlentyn," meddai, a dygai gofyniad y plentyn i'w chof fod prif wrthddrych ei serchiadau yn aros wedi i'r gŵr drengu i ofalu am dani. Y mae Duw yn werth i'w garu â'r holl galon, ac yn cynal ei garu â'r holl galon, a nefoedd ar y ddaear yw rhoddi y lle mwyaf iddo yn y serch. Nid oes dim ond efe na byddwn ni yn waeth o roddi y lle mwyaf iddo yn ein serchiadau; ond etifeddu sylwedd ydyw ei garu ef.
"A mi a lanwaf eu trysorau." Wrth drysorau yma yr ydwyf yn golygu lle y trysor. Er mai creadur bychan yw dyn, y mae yn cynwys llawer. Er nad yw ei anghenion amserol ond bychain, y mae ei ddymuniadau yn fawrion ac yn eang. Y mae yn hawdd digoni natur; ond nis gellir boddloni chwant. Ni ddywed y cybydd byth "digon," am nas gall aur ac arian lenwi ei ddymuniadau. Y mae gwŷr y pleser yn gwaeddi "Melus, moes eto." Tybia y meddwon y tynant yr Iorddonen i'w safn pe byddai ddiod gref. Pe byddai "Asia a'r byd oll" yn addoli y balch, gallai ddymuno ychwaneg o anrhydedd. Pa beth, ai nid oes gan y cybydd ddigon o aur ac arian i brynu ei angenrheidiau? Paham nad ymfoddlonai ar hyny? Yr ateb yw, y mae yn gallu dymuno ychwaneg. Ymddengys nas gellir llanw y lle a gadwodd y Duwdod iddo ei hunan yn nghalon ei greadur â dim ar a grëodd Duw—nid oes a'i cyflawna ond holl gyflawnder Duw. Mae cyfoethogion y byd yn nghanol eu cyfoeth yn aml yn annedwydd, am eu bod yn gallu dymuno yr hyn nid yw ganddynt; ond y neb a gafodd Dduw a gafodd ddigon, am nad oes arno eisieu ychwaneg, ac am nas gall ddymuno mwy. "Holl lafur dyn sy dros ei enau: eto ni ddiwellir ei enaid ef â dim a welo." Traffertha dyn yn y fuchedd hon—y mae blinder arno wrth ymgyrhaedd am wrthddrychau ei ddymuniadau; ond yn y nefoedd, bydd y saint wedi eu diwallu yn berffaith o'u holl eisieu, ac wedi cael cymaint nas gallant ddymuno mwy. Dywedant, pan welant Iesu fel y mae, a phan byddant gwbl debyg iddo, "Wele, digon yw." "Mi a lanwaf eu trysorau."[1]
Nodiadau
golygu- ↑ Gwel y "Geiniogwerth," Hydref, 1850.