Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pregeth VIII
← Pregeth VII | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Pregeth IX → |
PREGETH VIII
YSGARU YR HYN A GYSYLLTODD DUW.
O herwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hyny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn.—MATTH. xix. 6. Y FFORDD y mae rhai yn ei chymeryd i golledigaeth ydyw ceisio cysylltu y pethau na chysylltodd Duw, ond y ffordd a ddewisa ereill ydyw ysgaru y pethau a gysylltodd Efeac nid rhyw lawer o ddewis sydd rhwng y naill a'r llall; y mae y naill fel y llall yn arwain i ganlyniadau tra anhyfryd.
Y mae y Phariseaid yn gofyn i'r Arglwydd Iesu, yn yr adnodau blaenorol, a oedd yn gyfreithlawn i ddyn ysgar a'i wraig ar bob achos. Yr oeddynt hwy yn ysgar â'u gwragedd; Moses wedi caniatâu hyny iddynt o herwydd calon—galedwch. Ond yr oedd dadl yn eu plith pa mor lleied oedd yr achos i fod: a oedd yn iawn ysgar â gwraig ar gyfrif pethau lled ddibwys.
Y mae Iesu Grist yn dyweyd mai yn wrryw a benyw yr oedd Duw wedi eu creu hwynt, ac nad oedd gan Adda ddim cyfleustra i gael llawer o wragedd; a phe buasai yn ysgar âg Efa, na buasai yr un iddo gael yn ei lle—mai un gŵr ac un wraig oedd wedi eu creu. Dywed hefyd eu bod yn un cnawd. A chan fod y peth hwn felly, mai peth pechadurus iawn oedd i ddyn ysgar y peth oedd Duw wedi gysylltu. Y mae dynolryw wedi bod yn treio pob ffordd yn lle yr iawn ffordd, ond nid oes neb yn llwyddo trwy amrywio o drefn yr Hollalluog. Y mae i chwi sydd yn ieuangc ryddid i ystyried cyn gwneyd beth yr ydych yn myned i'w wneyd. Yr ydych yn rhydd i beidio a phriodi am eich hoes, os ydych yn dewis; ond os eir i'r undeb a'r cyfamod yma, nid ydyw i'w dori. Gallai fod yn fyd digon anniddig rhwng ambell bâr, o herwydd rhyw fai o un ochr os nad o'r ddwy; ond drwg mwy a ddeuai o'r ysgariaeth—tyfai pob rhyw ymryson yn ffrae fawr. Y mae y mawrion yma yn cael rhyw ysgariaeth, ond ar y cyfan meddwl yr wyf fi ein bod ni y tlodion yn byw yn fwy cysurus na hwynt.
Y mae llawer iawn o gysylltiadau yn y byd yma i'w gweled rhwng gweithredoedd Duw. Y mae rhai o'i greaduriaid yn wahanol ddosbarthiadau, ond y mae rhyw link i'w cysylltu wrth eu gilydd i'w chanfod o hyd. Y mae y pysg yn y môr yn ddosbarth pur wahanol i greaduriaid y tir sych; ond y mae ychydig o greaduriaid a fedrant fyw yn y dwfr ac ar y tir sych; deuant allan o'r môr yn heigiau, a byddant byw ar y làn am dipyn. Y mae rhyw wahaniaeth mawr rhwng adar a physgod, ond y mae rhai o'r pysgod yn gallu ehedeg am amser, ac y mae llawer o'r adar yn gallu nofio gyda hyfrydwch, ac yn gallu byw yn mhell oddiwrth y làn am hir amser.
Y mae distance go fawr rhwng y bwystfilod a'r adar, ond y mae yma gysylltiad rhwng y rhai hyn. Y mae yr ystlum yn gallu ehedeg. Y mae yn debyg i'r aderyn ac i'r llygoden, yn link rhwng dau ddosbarth, felly hefyd y mae gwahaniaeth mawr iawn rhwng yr angel a'r anifail. Y mae yr angel yn greadur uchel dysglaer, heb gnawd ac esgyrn, fel y gwelwn fod gan yr anifail. Y mae yma ddistance pur fawr, ond y link sydd yn cysylltu yma ydych chwi eich hunain—dyn: o herwydd y mae ganddo gorff tebyg i'r anifail o ran llawer o bethau, a galluoedd rhesymol tebyg i'r angel. Y mae yr anifail a'r angel fel yma wedi cyfarfod yn y dyn; a chan fod dyn yn meddu ar gnawd ac esgyrn, y mae yn bur gyfaddas i wneyd gwas o'r anifail. Y mae dynion wedi bod yn siarad lawer gwaith â'r angelion, ac yn gallu gwneyd yn bur hapus nes i'r neges gael ei darfod. Y mae y Duw mawr ei hunan wedi rhyw nesâu yn rhyfedd at ddyn, yn mherson ei anwyl Fab. Y Cyfryngwr mawr ydyw y link sydd yn cysylltu yn y fan yma, o herwydd y mae ganddo natur ddynol yr un fath yn union a'n natur ninau, a natur Ddwyfol yr un fath a'r Tad a'r Ysbryd Glân. Cewch mai un mawr iawn ydyw ein Creawdwr. Pe bae'ch yn meddwl llawer am y Duw mawr, collech y gwahaniaeth sydd rhwng y naill ddyn a'r llall, wrth i chwi ystyried y gwahaniaeth sydd rhwng yr uchaf—Duw, a dyn. Uchaf y rhaid iddo fod, o herwydd rhaid fod y gwneuthurwr yn anfeidrol uchel, uwchlaw y gwneuthuredig.
Rhaid fod gwahaniaeth anfeidrol rhwng dyn a dim fedr ingenuity dyn wneyd. Dywedir fod dyn wedi gwneyd watch yn llygad modrwy y frenhines, ond nid oedd hono yn ddim byd at y dyn a'i gwnaeth; felly hefyd y mae gwahaniaeth anfesuredig i bawb rhwng Duw a'r uchaf o'i greaduriaid. Ond y mae yn ymddangos yn dirion iawn yn y Bod goruchel chwenych codi creadur yn nes ato ei hunan nag yr oedd yn bosibl iddo ei greu. Yr oedd y natur ddynol yn nes at y Duwdod nag un natur grëedig, ond nid oes yr un natur grëedig yn un â Duw fel y mae y natur ddynol yn un â'r Ddwyfol, yn mherson yr Immanuel mawr dyma beth a gysylltodd Duw. Beth ydyw yr ymyraeth sydd yn y natur ddynol am dreio dattod yr hyn a gysylltodd Duw? Am na fedr dyn ddeall y cysylltiadau yna, y mae yn chwanog i'w dattod. Na, paid â'r direidi o dreio dattod yr hyn a gysylltodd Duw, a phaid â'r direidi o geisio cysylltu yr hyn na chysylltodd Duw. Ac os mynwch lwyddo yn eich neges mawr sydd eisieu ei wneyd cyn myned i'r byd arall, peidiwch ag ymryson â'r Hollalluog yn hyn, ond cymerwch bob peth yn y cysylltiad y mae i'w gael.
Ond heblaw ei bod fel hyn yn mhlith y creaduriaid, ac yn y greadigaeth, y mae gwirioneddau fel hyn hefyd wedi eu cysylltu. Y mae genym ni gorph o wirioneddau yn yr Ysgrythyr, ac y mae gwirioneddau y corph yma yn gysylltiedig â'u gilydd. Y mae angen y naill wirionedd ar y llall, ac ni fedrant wneyd heb eu gilydd. Y mae pob un yn ei le yn angenrheidiol. Y mae y gwirionedd, fel oen y Pasg yn yr Aipht, nid oes dim o hono i'w weddillio. Y mae arnat eisieu y gwir, a'r holl wir. Bydd cloffni yn ein crefydd, ac ni bydd yn fywyd, hebddo. Nid oes arnom eisieu dim ond gwir—y gwirionedd yn ei effaith ddaionus ar y meddwl sydd arnom ni ei eisieu yn ein siwrnai trwy y byd hwn. Y mae gwirioneddau mawr yr efengyl yn ymddangos i mi yn bârau, neu yn gyplau; y mae y naill a'r gyfer y llall, a rhyw gysylltiad rhyngddynt. Y mae cyfiawnhâd a sancteiddhâd yn wahanol; ond nid ydynt i'w gwahanu nis gallwch byth gael y naill heb y llall. Pe meddyliech mai bod yn gyfiawn yn nghyfiawnder Crist ydyw pob peth, a bod yn ddifater am sancteiddrwydd, ni bydd yn werth dim. Nid ydyw gwir sancteiddhâd i'w gael ychwaith heb gyfiawnhâd. Pe byddai y fath beth yn bod ag i ddyn gael ei sancteiddio oddiwrth ei bechodau, byddai y condemniad o herwydd yr hen bechodau yn aros ar ei berson; ac o'r ochr arall, pe byddai modd i un fyned "trwodd o farwolaeth i fywyd," ac heb gael ei sancteiddio, byddai hyny yn ei wneyd yn anhapus byth. Nis gall un Cristion byth ddyweyd wrth Gristion arall, Tydi, ffydd sydd genyt," minau sancteiddrwydd sydd genyf; na, y mae pob Cristion yn meddu y naill a'r llall. Y mae ar bob gwirionedd eisieu ei gydmar o hyd, ac er i ti wneyd cyfrif mawr o un heb wneyd cyfrif mawr o'r llall, nid wyt yn iawn yn yr un. Gwna Duw bob peth "wrth gynghor ei ewyllys ei hun." "Fy nghynghor a saif, a'm holl ewyllys a wnaf." Y mae etholedigaeth gras yn cael son am dani fel yna. Nid oes modd gwadu nad ydyw yn bod. Rhyw ystyriaethau troednoeth rhyfeddol ydyw bod heb drefn ac heb fwriadau. Y mae daioni Duw yn ymddangos yn fwy wrth ystyried ei fod wedi bwriadu hyny er tragwyddoldeb. Y mae ambell un wedi gwneyd tipyn o dda am ei fod wedi dyfod yn ei ffordd, ond y mae Duw wedi bwriadu daioni er tragwyddoldeb. Ni wnaeth Efe ddim daioni damweiniol erioed, ond y mae yr holl ddaioni a wnaeth ac a wna byth wedi ei fwriadu ganddo. Ond o'r ochr arall, y mae natur rhyddid a chyfrifoldeb dyn yn wirionedd eglur. Y mae wedi gadael ewyllys ei greadur yn rhydd; nid ydyw ei arfaeth yn rheol i ti, ac nid oes eisieu ei bod; yr wyt yn gyfrifol i Dduw mewn ffordd uniawn a theg, ac nid elli fod yn gyfrifol heb fod felly. Y mae yn rhaid i ddyn fod yn berchen deall, ac ewyllys, a hono yn rhydd, i fod yn gyfrifol. Y mae y Beibl yn gosod hyny allan yn ei waith yn dangos y gosodir dyn ger bron brawdle Crist," ac y derbynir yn y corph "yn ol yr hyn a wnaeth, pa un bynag fyddo ai da ai drwg." Y mae yn dyweyd y gelwir ni "i farn am hyn oll." Nid ydyw cadernid arfaeth y Duw anfeidrol yn lleihau dim ar dy ryddid di fel creadur rhesymol. Y mae y cyntaf yn wirionedd, ac y mae y llall yn wirionedd hefyd. Y mae holl wirioneddau y gair eisieu y naill y llall. Y mae ar athrawiaeth y Drindod eisieu athrawiaeth yr Undod, onide aiff y Drindod yn dri Duw. Felly y mae athrawiaeth Undod y Duwdod yn sefyll mewn angen am athrawiaeth y Drindod, ynte rhaid i chwi wadu y Gair. Os wyt am y fantais o honynt, derbyn y naill fel y llall. "Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw."
Y mae bendithion yr iachawdwriaeth yn dibynu ar eu gilydd fel y mae athrawiaethau yr efengyl. Y mae maddeuant pechodau yn un o'r bendithion, ond mor wir a hyny nid oes maddeuant pechodau i neb heb "gyfran yn mhlith y rhai a sancteiddiwyd." Y mae "edifeirwch tuag at Dduw " yr un fath a "ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist" yn angenrheidiol. A phan y mae y meddwl yn dyfod i wneyd derbyniad o'r gwirionedd "megys y mae yn yr Iesu," y mae bob amser yn dyfod i mewn gyda'u gilydd. Os myni di edifeirwch, os gweli fod yn dda, tro dy wyneb i edrych ar ddaioni Duw, ar uniondeb a daioni ei gyfraith, yspïa i mewn i ddrwg pechod fel y mae yn y byd ac yn dy galon di dy hunan,—os myni edrych i mewn i'r pethau yna, a dyfod i alaru am dano, myn Duw roddi maddeuant i ti yn nglŷn â hwynt. Y mae dynolryw yn aml yn croesawu y naill heb y Hall. Y maent yn barod i ddyweyd eu bod yn dipyn o bechaduriaid, ac ni dda gan neb mor gosp; ond beth sydd am hyny? Wel, o herwydd hyny y mae dyn yn hoffi cael maddeuant i ochel y gosp. Nid oes mo bawb yn hoffi y peth sydd yn nglŷn—nid ydym yn hoffi ymostwng, ond dyna y gwirionedd, nid â y ddwy fendith yma ond gyda'u gilydd. Ni buasai yn deilwng i Dduw faddeu i'r edifeiriol ond mewn iawn, ond nid ydyw yn deilwng iddo faddeu i'r un pechadur heb iawn, ac ni chai edifarhau byth heb faddeuant.
Dyna fel y mae y moddion yn gyffredin, y mae gras y moddion a modion gras wedi eu cysylltu â'u gilydd. Y maent wedi eu cysylltu allan o'n golwg ni; ond pan welwch bechadur yn dyfod i ddysgwyl wrth yr Arglwydd am ras trwy y moddion, cewch weled yn fuan na chaiff ddisgwyl yn ofer.
Y mae eisieu gwylio a gweddïo, a darllen a myfyrio, defnyddio y gair, a gweddïo am Yspryd Duw; nid y gair heb yr Yspryd, na'r Yspryd heb y gair.
Y mae Duw wedi cysylltu rhinwedd â'i wobr, a phechod â'i gosp. Ni chai wneyd dim drosto yn y byd yma na bydd yn siwr o'th wobrwyo. Gallai fod y duwiolion yn gwneyd tipyn dros Dduw yn eu dydd a'u tymor heb feddwl llawer am y wobr; ond pe mynent wneyd llawer dros Dduw, ac heb feddwl dim am y wobr, ni chânt ddim bod felly, mae Duw yn "wobrwywr," fel y dywed y prydydd,
"Mae arnaf eisieu zel
A chariad at dy waith,
Ac nid rhag ofn y gosb a ddêl.
Nac am y wobr chwaith.'
Ond y mae Duw yn anfeidrol anrhydeddus. Edrychwch ar yr Arglwydd Iesu Grist ei hunan. Y mae Duw wedi penderfynu gwobrwyo gwir rinwedd a weithredir, yn y byd yma. Y mae pechod a chosp wedi eu cysylltu yn y fath fodd fel nad oes modd eu dattod. Gellir dyweyd fod rhinwedd yn rhyw lun o wobr iddo ei hun; y mae pechod hefyd yn rhyw lun o gosp iddo ei hunan. Pe buasai y Duw mawr ddim ond yn troi dyn i uffern, a gadael rhwng y dyn a'i gosp, byddai yn gosp fwy nag y gallwn ni ei hamgyffred. Y mae drwg a'i ganlyniadau yn anwahanol. Y mae yn anmhosibl, ar ryw olwg, i Hollalluowgrwydd wneyd dyn yn ddedwydd yn ei bechod. Yr unig ffordd i wneyd y meddw yn ddedwydd ydyw ei wneyd yn sobr, ac onide bydd ei bechod ei hun yn ei gospi, a'i wrthdro yn ei geryddu.
Y mae gras a gogoniant hefyd wedi eu cysylltu. Y mae pethau i'w cael yn y byd yma sydd wedi eu cysylltu yn y byd arall â sefyllfa o ogoniant. "Yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant; ni attal Efe ddim daioni oddiwrth y rhai a rodiant yn berffaith." Beth bynag ydyw y daioni mawr sydd yn y nef,—pa beth bynag ydyw y daioni sydd yn cael ei fwynhau gan drigolion y ddinas lle na ddywed y preswylwyr, "Claf ydwyf "—y mae sancteiddrwydd a hapusrwydd, yn ol natur pethau, ac yn ol ewyllys Duw, wedi eu cysylltu â'u gilydd; ac nid oes neb fedr eu hysgar. Y mae holl drefn yr efengyl felly. Y mae efengyl gras Duw, a'r ddeddf a roddes efe i fil o genedlaethau,"—y mae y naill yn cydfyned â'r llall yn hollol. Pe dygit ti fawr zel dros yr efengyl, ac yn ddisylw o'r gorchymyn, ni wnai y tro. Y mae holl fendithion yr efengyl i'w cael yn y cysylltiadau y mae Duw yn eu dwyn iddo yn ei air sanctaidd. Y mae holl fendithion yr efengyl fel y clo a'r agoriad yn bârau hefo eu gilydd; ac os myni y par, y mae i ti gan' croesaw o hono. Nis gelli eu dymuno gan Dduw a bod hebddynt. Na fyddwch yn euog o'r ynfydrwydd yma, o geisio dattod yr hyn a gysylltodd Duw. Y mae rhai yn meddwl y cânt y dedwyddwch tu draw i'r bedd a byw mewn pechod yn y byd hwn; ond "na thwyller chwi, ni watwarir Duw; pa beth bynag a hauo dyn, hyny hefyd a fed efe."