Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pregeth IX

Pregeth VIII Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn

gan Griffith Williams, Talsarnau

Pregeth X

PREGETH IX.

MOLIANU YR ARGLWYDD.

"O na folianent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.—SALM Cvii. 8.

DAIONI Duw yw y peth hwnw yn ei natur sydd yn ei dueddu i gyrchu yn wastadol yn mhob goruchwyliaeth at ddaioni a dedwyddwch ei greaduriaid. Y mae daioni diderfyn yn natur y Duw mawr: nid yw yn hoffi cystuddio a blino plant dynion. Mor fawr yw daioni Duw, fel nad oes un creadur yn bod a'r nad yw yn neu wedi profi ei ddaioni. Feallai nad oes un creadur yn bod nad yw yn profi daioni Duw ond y rhai sydd wedi ei abusiowedi camddefnyddio ei ddaioni;—rhai felly yw y rhai sydd yn uffern; nid oes un drugaredd yno; ac ni fydd yno ddim croesaw i tithau os ei yno. Ond y mae y byd yma yn llawn iawn o ddaioni Duw. Yma, beth bynag, ei "drugaredd" sydd i'w gweled " ar ei holl weithredoedd." Y mae ymwared o gyfyngderau yma; a'r amser hwnw y gwelir daioni Duw werthfawrocaf. Y mae ymborth a dillad yn annghyffredin werthfawr; ond hwyrach nad ydym ni yn eu teimlo mor werthfawr; pe byddai i newyn a noethni ein cyfarfod, gwelem werth annghyffredin ynddynt yr amser hwnw. Un o feiau dynolryw yw eu bod heb weled hyny. Nid oes eithriad i ddaioni Duw yn yr ystyr hyn. Er ei fod yn ceryddu, nid yw efe yn peidio a bod yn Dad da er hyny; ac er ei fod yn barnu, nid yw hyny yn rhwystro iddo fod yn Llywodraethwr da. Nid yw Duw yn peidio a bod yn Dduw da, er ei fod yn cospi yr annuwiol yn uffern. Nid wyf yn dyweyd mai lles yr annuwiol yw ei gospi yn uffern; eto nid oes modd peidio. Y mae pechod mor ddrwg fel y mae yn fit i'w gospi; ac nid oes gan y Duw da ddim lle gwell i yru yr annuwiol ar ol marw nag i uffern. Y mae yr annuwiol yn gorfod cartrefu yn uffern ar ol marw; pe cai ef rodio yn y byd yma, 'does wybod pa ddrwg a wnai efe; ond ar ol iddo farw, y mae y Duw mawr yn ei anfon i uffern, ac y mae yn dda i ni hyny. Y mae y Salmydd yn cydnabod nad yw dyn yn cydnabod daioni Duw: pity garw yw hyny. Mae un digymwynas yn bur gâs; y mae peidio cydnabod cymwynas, ar dir uniondeb, yn gam. Nid ellir parchu Duw heb ystyried ei ddaioni. Gellir dychrynu rhagddo am ei fod ef yn Dduw Hollalluog; ond nid ei barchu ond gyda'r syniad o ddaioni. Gellir cydnabod gŵr boneddig am ei fod yn ŵr boneddig ag y gellwch gael rhywbeth oddiar ei law; ond os gwir barch, am ei ddaioni y mae. Y mae daioni yn demandio parch. Clywais am un yn gorchymyn i un arall ddyweyd celwydd; ryw ŵr boneddig yn gofyn i rywun a fedrai efe ddyweyd celwydd? Medra i, meddai hwnw, ac fe ddywedodd gelwydd; ond am a wn i, nad yw efe ddim mwy ei barch er hyny. Felly nid oes modd parchu y Duw mawr heb ystyriaeth glir o hono, fel y gosodir ef allan yn y Beibl, yn Dduw da. Ond yr hyn y sylwaf fi arno yn bresenol a fydd mewn perthynas ddaioni yr Arglwydd; a bod hwnw yn destyn priodol i foliant pob dyn.

Y mae daioni Duw yn mhob man yn y byd yma. Fel Creawdwr, Duw da ydyw. Y mae efe yn cyrchu at les ei greaduriaid yn eu ffurfiad. Y ddaear, y byd yma, y maent hwy yn suitio eu gilydd yn dda. Pe buasem ni mewn rhai o'r bydoedd eraill, ni wn pa fodd y buasem ni: pe buasem ni yn y lleuad, hono yw y byd nesaf atom, meddant hwy, ni wn i ddim pa fodd y buasai hi arnom ni; ond y mae hon yn addas iawn i ni, yn awyr i anadlu, ac yn bob peth cymhwys i ni. Beth pe buasai efe yn un câs, fel ambell i dyrant fu yn y byd yma, yn ein gwasgu a'n gorthrymu nes y buasai yr holl greadigaeth yn ochain o'r naill ben i'r llall? Ond nid un felly yw. Y môr a'i luoedd lluosog—y maent yn lluosog iawn yno, yn fwy lluosog na lluoedd y byd yma—y maent yn hapus iawn, y maent wedi eu llunio i chwareu yn y moroedd. Nid ydynt wedi eu creu i amgyffred mohono, ond creodd Duw hwynt mewn rhyw drefn fel ag y maent yn hapus iawn. Yr adar asgellog hefyd, y maent hwythau yn canu rhywbeth fel moliant i'w Creawdwr, o'r gwybedyn lleiaf i'r aderyn mwyaf. Y mae yr adar yn un côr yn canu ei foliant. Nid oes neb yn medru canu ond adar a dyn.

Y mae daioni Duw i'w weled yn ei holl weithredoedd. Wrth ystyried ei drugareddau y mae efe i'w weled yn amlwg. Ei drugareddau ef sydd yn gyffredin, a pity garw na folianem ni ef am ei ddaioni a'i ryfeddodau i ni. Anifeiliaid y tir, y gwartheg, y maent yn chwareu ar y tir, y maent yn ymborthi ar laswellt, ac ar ol eu digoni, y maent fel yn ymsynied nad oes eisieu dim yn ychwaneg. Y maent yn ddigon hapus, o'r fath ag y mae ymsyniaeth creadur direswm.

Felly yr ydym ninau yn mwynhau daioni Duw. Ai pobl dduwiol sydd yn ei fwynhau? ïe, yr annuwiol hefyd; a phe byddet ti heb fwynhau ei ddaioni, fe roddwn i gyngor i ti beidio ei folianu. Ond y mae pob creadur yn y fan yma yn ei fwynhau, er hwyrach nad yw yn ei adnabod. "Yr ŷch a edwyn ei feddianydd, a'r asyn breseb ei berchenog;" ond hwyrach nad ydym ni yn gwybod "pan ddel daioni," "Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall." Es. i. 3. Yn ein creadigaeth y mae ynom ranau lluosog, a gwahanol orchwylion i'r gwahanol ranau yn y corph; ond nid oes yno ddim wedi ei wneyd o bwrpas i'n gofidio. Y mae yn bosibl i waew fod yn dy ddant, ond nidi hyny y gwnaed ef; ond i falu dy ymborth, er mwyn iddo dreulio yn dy gylla. Nid oes dim wedi ei wneyd i dy ofidio, ond i dy gysuro, ac ar yr un pryd, dylit ystyried y gallasai efe dy greu fel arall—i anadlu, ond eto yn llawn poen; i agor dy lygaid, a hyny nid yn ddiofid i ti, ond ei agor ef fel dattod briw. Y mae y cwbl wedi ei wneyd er dy les; ac onid yw yn bity na folianit ef am ei ddaioni? Gallasai yr hen ddaear yma fod yn annghysurus iawn ini —ein llygaid yn gorfod edrych arni, eto hyny yn gâs iawn genym; ond nid felly y mae hi, ond "hyfryd yw i'r llygaid weled yr haul." Ond y mae pob peth wedi ei wneyd ganddo yn rhyfeddol at gysur a lles ei greaduriaid yn ei ragluniaeth. Yn llywodraethu y byd, mae efe yn dangos ei ddaioni, ac mor gywir yw ei amcan wrth geisio at les ei greadur fel nad yw un amser yn methu." "Coroni yr ydwyt y flwyddyn a'th ddaioni, a'th lwybrau a ddiferant frasder." Rhyfeddol yw ei drugareddau yn ei holl weithredoedd yn y byd; ac onid yw yn bity na welem ni ef ynddynt? O, mor fawr yw y daioni y mae Duw yn ei ddangos i ddynolryw yn mhob oes o'r byd; a thrueni nad ellir ei ddesgrifio yw—bod dyn heb gydnabod ei ddaioni, ond yn ei ddefnyddio i wrthryfela i'w erbyn.

Y mae llywodraeth Duw yn dda. Da iawn yw deddf Duw—ei reol i lywodraethu wrthi, y mae hon yn dda iawn. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng fel y mae Duw yn llywodraethu pethau yn awr rhagor fel y buasai efe yn llywodraethu pe buasai dynolryw yn aros yn y cyflwr y crëodd efe hwynt. Ni fuasai y gofid a'r poenau sydd arnom, pe yr arosasem ni yn y cyflwr y crëwyd ni ynddo. Ond gwialen o herwydd ein bai yw; y mae gwïalen i gefn yr ynfyd yn gweddu. Ond y mae efe yn gwneyd yn awr mor dda ag y gallesid. Nid oedd modd i anfeidrol ddoethineb allu gwneyd yn well nag y mae Duw yn gwneyd. Daioni yw ei amcan yn mhob peth, a'i folianu ef am ei ddaioni yw ein dyledswydd ninau. Y mae Duw yn Frenin da; ac y mae ganddo gyfraith dda; a hyn yw y gamp ar gyfraith, ei bod hi yn tueddu at les ei deiliaid hyd y byddont yn cydffurfio â hi. Felly y mae cyfraith Duw—ei phlan hi yw dedwyddwch ei deiliaid; ond y mae pechod yn ei dyrysu, yn gwneuthur dyryswch yn y system, ac yn dwyn gofid i mewn yn achos hyny; ond ei hamcan hi yw eu dedwyddwch. Y mae deddf Duw yn dyfod i mewn yn uniongyrchol at ddaioni, ac onid yw yn gywilydd i ni droseddu deddf Duw; a chonsidero ei bod hi yn tynu at bob peth, goreu i ni, yr un fath a'r eneth hono ar ol iddi gonsidero mai ei lles yr oedd ei thad a'i mam yn ei geisio. Beth pe byddai i chwithau gonsidero ai onid eich lles y mae Duw yn ei geisio wrth eich galw i ufuddhau i'w gyfraith ddaionus? Ni raid i chwi fod yn philosophers annghyffredin i wybod hyn. Y mae Paul yn dyweyd bod deddf Duw yn gyfiawn, yn sanctaidd, a da. Peth o bwys annghyffredin yw hyn; ni bydd dim yn iawn heb fod yn gyfiawn, nid oes dim a gyfyd garictor i fyny heb hyn. Y mae deddf Duw yn gyfiawn a sanctaidd, ac o ganlyniad y mae hi yn dda.

Y mae rhai yn digio wrthi o herwydd ei bod yn melldithio ei throseddwyr. Os condemnir unrhyw beth ag y dichon ei fod yn ddrwg wrth ambell i ddyn, hwyrach mai digio yn annghyffredin a wna efe wrthych. Felly y mae llawer gyda deddf Duw. Y maent yn digio yn annghyffredin wrthi, am ei bod yn condemnio pethau y maent hwy yn yn eu caru, er eu bod yn ddrwg. Ond y mae deddf Duw yn ceisio eu lles o hyd. Oblegyd y mae pechod yn dra phechadurus yn ei goleu hi, a rhinwedd yn dra chysurus. Ond hyn yw y perygl, i ni fyned o dan lywodraeth rhagfarn, a myned yn erbyn deddf ddaionus Duw, tra mai cariad at bechod yw yr achos. Pa fodd y mae hyn yn bod? Wel, y mae yr holl ddrwg yn dy fai di. Beth yw y felldith sydd gan y ddeddf am hyny? Wel, y mae mor onest a dyweyd natur y drwg yr wyt yn ei wneyd; ac ystyried hyn, onid yw yn dda, yn enwedig am fod diangfa i'w chael, ac onid yw yn bity na folianem yr Arglwydd am ei ddaioni a'i ryfeddodau i ni feibion dynion? Y mae ei ddeddf yn dda, ïe, yn hynod dda; prawf o hyny yw, bod dedwyddwch dyn i'w fesur yn ol graddau ei gyd—ffurfiad ef â hi. Ac os ydym heb gyd—ffurfio â'r ddeddf, y mae yn anmhosibl i ni fod yn hapus iawn; ond lle y mae cyd—ffurfiad ehelaeth a'r ddeddf, y mae yno gryn lawer o hapusrwydd. Y mae graddau hapusrwydd dynolryw yn cydraddoli mwy â chydffurfiad â deddf Duw nag y maent yn cydraddoli â'r pethau bydol y maent yn eu meddu. Pe byddai ein meddwl yn gydffurf a deddf Duw, ac a llywodraeth y Jehofah, byddai y ddaear yn fuan wedi troi fel temli addoli yr Arglwydd, a byddai llais cân a moliant yn ein holl byrth.

Arwydd arall mai un pur ddaionus ydyw Duw—ei fod wedi gofalu am fod rhyw gysur pur sylweddol yn gysylltiedig â chyflawniad pob dyledswydd. Y mae pechod yn felus i'r genau rywfodd, y mae pechod yn fwyn dros y pryd ond y mae y canlyniad yn wastad yn chwerw. Nid rhaid i ti fyw yn y byd yma yn hir, na cha yr annuwiol weled mai drwg a chwerw yw byw felly dros amser. Felly o'r tu arall, nid oes un ddyledswydd a orchymynir i ti fel creadur, ac fel pechadur hefyd, nad oes ryw gysur pur sylweddol wedi ei gysylltu â hi. Ein dyledswydd ni yw gweithio ein galwedigaeth a'n dwylaw. A phe yr ystyriech y fath bleser sydd i'w gael wrth lafurio y ddaear yma, chwi a synech. Nid wyf yn meddwl nad oes ryw gysur yn mhob llafur—chwareu i'r plant, y maent yn cael ryw gysur rhyfedd; ond y mae cysur hefyd wrth weithio. Y mae y Duw mawr wedi gofalu am fod ryw gysur i'w gael yn yr ymarferiad a phob dyledswydd. Pe buasai dyledswydd yn gas i ni, fel y mae i ddynion diog: y mae hi yn gas iawn i'r rhai hyny, oblegyd nid ydynt yn cydffurfio a'r drefn. Y mae llawer o lafur i'r fam hefo ei phlant, ond y mae yno ryw gysur rhyfeddol hefyd.

Mae pob dyledswydd tuag at Dduw hefyd â llawer o gysur yn gysylltiedig â hwy. Caru Duw, ni welsoch chwi erioed beth mor gysurus a hyny. Teimlo y galon yn llawn o gariad tuag ato—cysur yw hwn na wyr y byd ddim am dano. Y mae cysur teimladol i'w gael wrth edifarhau. Y mae'n wir nad oes dim gofid yn y byd yn gysurus; ond y mae y gofid sydd yn hwn rywfodd felly. Hwyrach nad ellir dyweyd fod dim cysur ynddo ef ei hunan; ond y mae yn ei ymyl, oblegyd cysylltir maddeuant ag ef. Nid yw edifeirwch yn gwir ddarostwng dyn, ond ei fai sydd yn gwneuthur hyny. Nid yw edifeirwch yn ei ddwyn yn îs, ond ei ddwyn i deimlo y peth oedd y mae. Y mae ef yn bur isel, ydyw—ond nid yn îs. Y mae yn gweled ei fod yn isel, ac y mae o gymaint a hyny yn gallach heddyw nag o'r blaen, ac y mae yma ymgais am ddiwygiad hefyd. Nid oes dim ychwaith yn nghrefydd Mab Duw nad oes yno gysuron yn yr ymarferiad â hwy.

Y mae daioni Duw i'w weled yn benaf yn ei drefn i gadw pechadur mewn Cyfryngwr. Y mae ei ddaioni i'w weled yn ei lywodraeth yn ei waith yn trefnu pob peth, ond yn ei drefn i gadw pechadur y mae rhagorol olud ei ddaioni yn ymddangos; oblegyd fe amlygodd Duw ddaioni annherfynol ei natur yn anfoniad ei Fab i'r byd. Y Duw mawr! yr hwn a greodd y bydoedd i gyd. Beth a wnaeth? Anfon ei Fab i'r byd. Cododd ein natur yn anfeidrol uchel mewn cysylltiad ag ef. Cododd natur dyn i undeb a'i natur ei hun yn mherson y Mab. Dyma oludoedd daioni y Jehofah. Nid oes digon o ddaioni i'r pechadur tlawd yn y ddarpariaeth ar gyfer angen ei gorph yn y byd. Mae Duw yn dymuno cael dyn yn nes ato nag fel y creodd efe ef. Wrth greu yr oedd efe yn creu o rîs i rîs, yn agosach ato o hyd. Creaduriaid direswm yn uwch na'r llysieu, oblegyd fod bywyd ganddynt. Creaduriaid rhesymol wedi hyny yn fwy na'r direswm. Y cerubiaid ac angelion sanctaidd y gogoniant yn uwch na dyn. Ond nid digon agos yn y fan yna feddyliwn i; ond cododd ein natur grëedig ni i undeb a'i natur ei hun. Y mae amlygiadau o'i ddaioni yn myned bellach, bellach yma. Nid yn unig fe ddarfu y person bendigedig yma ymuno a'r natur ddynol, ond fe ddaeth i barthau isaf y ddaear hefyd, Canys yr hyn ni allai y ddeddf o herwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun, yn nghyffelybiaeth cnawd pechadurus." Nid cnawd pechadurus oedd, ac nid cyffelybiaeth cnawd, ond cyffelybiaeth, neu yn debyg i gnawd pechadurus. Yr oedd pechaduriaid yn bur anmhlygedig ac anhawdd eu trin; ond fe ddaeth er hyny, "Ac am bechod, a gondemniodd bechod yn y cnawd." Y mae daioni Duw yn ymddangos yn y fan hon gyda digyffelyb ogoniant yn anfoniad ei Fab i'r byd i ddyoddef trosom. Pa fodd y mae yr Arglwydd yn gorchfygu calon galed y pechadur? Yn gymhwys fel y gorchymynir i ninau, "Na orchfyger di gan ddrygioni, ond gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni." Felly Duw, nid ellir ei orchfygu gan ddrygioni. Beth a wna ynte? Gorchfyga galon galed pechadur trwy rym goludoedd daioni yr efengyl. Bydd gwaith gras Duw i'w ryfeddu yn dragwyddol. Y mae person y Cyfryngwr yn rhoi rhyw gyfleusderau i weled mwy o'r Duwdod, fel y mae yn Gyfryngwr, na phe buasai heb fod felly. Y mae y daioni hwn o bwrpas i ddynolryw. Y mae yn amheus genyf a oes greadur rhesymol îs yn ei greadigaeth na dyn. Braidd na feddyliwn nad yw yr angelion i gyd yn uwch na dyn. Ond mi wn hyn, fe anfonodd Duw ei Fab atom ni, "Canys ni chymerodd efe naturiaeth angelion: eithr hâd Abraham a gymerodd efe." Y mae yma oludoedd digyffelyb o ddaioni yn cael ei ddangos i blant dynion. Byddai yn dda genyf pe gallwn argraffu ar eich meddwl rwymau pob dyn i Dduw, fel y mae efe yn Dduw da. Pe yr adnabyddem ni Dduw yn iawn, byddai yn anhawdd ryfeddol i ni beidio ei barchu. Ni wn pa fodd y gallech lai na'i garu pe cymererch y darluniad a roddir yn yr Ysgrythyr o hono—Anfeidrol ddaioni. Peidiwch a meddwl ei fod ef yn dal dig. Llywodraeth anfeidrol dirion yw llywodraeth y Jehofah. Eto nid oes dim mwy ei berygl na syrthio i ddwylaw Duw. Y mae perygl abusio daioni Duw. Y mae Duw yn darpar ar dy gyfer bob moment, yn darpar ar dy gyfer fel ei greadur. Duw a'th gadwodd, ac a'th ddyogelodd hyd heddyw, a Duw a ddarparodd drefn i'th gadw trwy ras. Gochel ei ddiystyru. Y mae i ddirmygu doniau rhagluniaeth Duw ryw gonsequences mawr. Os dirmygi ddaioni Duw iachawdwriaeth, beth ddaw o honot. Mae ei ddaioni ef yn siwr o gario argraff arnat ar ol myned oddiyma. Os yn uffern y byddi, byddi yn siwr o gofio dy fod di wedi mwynhau daioni Duw, "Ha fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd." Coffa i ti gael yr amlygiadau mwyaf grymus o ddaioni Duw. Y mae yn enbyd i ti abusio ei drugareddau. A oes dim yn y Duwdod yn demandio parch? Y mae yr amlygiadau disgleiriaf o ogoniant Duw wedi eu rhoddi yn y Cyfryngwr. Y mae amlygiadau digon grymus ynddo i'th wneyd i'w garu, a digon grymus i dy dywys i edifeirwch. Gresyn yw eu camddefnyddio. Efe a'th wnaeth—gwaith ei ddwylaw ef ydwyt. Nid oes diffyg ewyllys da ganddo. Tybed na chymeri yr iachawdwriaeth a drefnodd? Gochel drci cefn ar ei ddaioni mewn dirmyg, ond yn hytrach, ei ddaioni a'th dywyso i edifeirwch. Os gwrthryfela yn ei erbyn yr wyt yn awr, tafl dy arfau i lawr. Os dibrisio ei ddaioni a wnest hyd yn hyn, moliana ef o hyn allan. Yn nhrefn iachawdwriaeth y mae rhyfeddodau gras; ac y mae yn werth sefyll tipyn i edrych arnynt. Safodd Job i edrych ar ryfeddodau Duw—rhyfeddodau ei ras a'i drugaredd fel Cyfryngwr. Fe ddaw Mab Duw "i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu "ynddo. Diau y bydd iachawdwriaeth yn egluro ei rhyfeddodau yn dragwyddol; "Ar yr hyn bethau y mae yr angelion yn chwenychu edrych." Peidiwch a chau eich llygaid ar ddaioni Duw yn achub dyn, heb ddiolch. Pe byddech heb ddiolch am eich bod yn bobl dduwiol, diolchwch am fod ganddo drefn i wneyd yn dduwiol. Y mae yn medru achub. Y mae edrych ar ei ddaioni yn duedd hynod gref i'th dywys i edifeirwch; ac os deui i lawr, nid aeth neb erioed ddaeth at ei draed, o dan ei draed. Y mae ef yn medru "sathru balchder meddwon Ephraim." Y mae ef yn rhoi y rhai na ddaethant at ei draed, o dan ei draed; ond yr hwn a ddaeth at ei draed, ni roes hwnw erioed o dan ei draed. Diolch iddo am drefn yr iachawdwriaeth. A'i ddaioni fyddo yn ein gyru at ei draed mewn edifeirwch am i ni bechu i'w erbyn.

Nodiadau

golygu