Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn/Pregeth X
← Pregeth IX | Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn gan Griffith Williams, Talsarnau |
Hwda i ti, a moes i minau → |
PREGETH X
CARIAD DUW
"Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef."—1 COR. ii. 9.
Y MAE cariad nid yn unig yn cadw y byd wrth eu gilydd—cadw y greadigaeth yn un, ond cariad sydd yn ysgogi y cyfan. Cariad sydd yn gyru dynolryw yn eu holl sefyllfaoedd. Byddai hwn yn fyd marwol ac oerllyd, a'i waed wedi rhewi i fyny, oni bai cariad. Y mae gwaith ffydd, a llafur cariad, ac ymaros gobaith, yn ei ysgogi ac yn ei gadw yn fyw.
Y mae y testun hwn yn son am y cariad uchaf sydd mewn body cariad goreu sydd mewn creadur, sef cariad Duw. Nid ydyw y galon ddynol yn alluog at yr un ddyledswydd mwy ysbrydol nac uwch yn ei natur na charu Duw. Hyd y gallaf fi weled a dirnad, y mae pob cariad a blanodd Duw yn dda yn ei le. Y mae hyn heb eithriad iddo ond un, sef cariad dyn at ei bechod a'i fai. Y mae hynyna yn felldith dôst; tostach na hon nid oes yn uffern ei hunan. Nid oes neb yn myned i uffern yn unig o herwydd eu bod yn bechaduriaid. Y mae llawer o bechaduriaid wedi myned i'r nefoedd; o blant y codwm nid aeth neb i'r nef ond pechaduriaid; ond dyma sydd yn seilio colledigaeth dyn, iddo garu ei bechod ac aros felly yn anedifeiriol: myned ar ol ei fai a chofleidio ei chwant, caru yr hyn sydd gas gan Dduw, sydd yn myned ag ef i uffern.
Ond edrychwch ar gariad yn y man y mynoch chwi, y mae yn werthfawr ac yn dlws. Ni fedrwn edrych arno yn un man yn beth isel iawn. Y mae yn ymddangos yn beth pur odidog fod y Duw mawr wedi rhoddi cariad yn yr hên tuag at yr ieuanc, yn mhlith y creaduriaid direswm. Nid ydyw yn hawdd i ni feddwl gymaint o fendith i ddyn ydyw fod y ddafad yn caru ei hoen bach. I ba beth y soniwch chwi am beth fel yna ar bregeth? Beth a wnewch chwi yn bod yn ddifeddwl am beth fel yna, a'r greadigaeth yn pregethu i chwi o hyd? Oni buasai ei bod fel yna, buasai y rhyw yna wedi myned o'r byd mor llwyr a'r bleiddiaid o'r deyrnas yma. Y mae cariad tad at ei blentyn yn fwy gwerthfawr, o herwydd fod y naill a'r llall yn uwch yn eu natur. Y mae llawer o draul a thrafferth i fagu y plant, er fod yn dda gan y rhieni am danynt, ond pwy fuasai yn talu i chwi pe heb fod yn eu caru? Ond gwna cariad hyny heb ei gymhell. Y mae ambell i bagan yn caru ei blentyn â rhyw fath o gariad angerddol. Cewch weled y fflam hon yn cynesu yn rymus iawn mewn annuwiolion yn gystal a duwiolion. Cariad y pâr priodasol, y mae hwn yn werthfawr iawn. Cariad cymydogion at eu gilydd, mae hyny yn werthfawr hefyd. Y mae tipyn go lew o hono, er fod cymaint o natur rhoddi corn y naill o dan y llall ynom ni ddynion. Y mae yn debyg eich bod chwi yma yn ddigon parod i farnu a beio eich gilydd; ond, er hyny, y mae genych fwy o ffafr i'ch cymydogion nag ydych yn ei feddwl: y mae yn debyg pe byddem haner y ffordd i'r America, y cofiem gyda chariad am ein cymydogion. Yr wyf yn meddwl y buaswn yn annghysurus iawn pe buaswn heb ewyllys da i neb, na neb i minau; ac ni waeth i mi pa mor fuan yr aethwn o'r byd. Y mae cariad y duwiolion at eu gilydd hefyd yn dda iawn. Y mae yn arwydd dda iawn o beth mwy.
Ond sylwn ar gariad pechadur at Dduw a'i Fab, neu at Dduw yn ei Fab. Dyma y cariad uchaf sydd mewn bod. Dyma y cariad goreu. Nid ydyw mor gyffredinol ag y byddai yn dda iddo fod, ond y mae yn annghyffredin o dda.
Y mae y Beibl yn son yn aml am gariad Duw at ddynion. "A chariad tragywyddol y'th gerais, am hyny y tynais di a thrugaredd." "Felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig—anedig Fab." Y mae yr apostol Paul yn dyweyd nad oedd "Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, a allai ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw,"—yr hwn sydd yn ein calonau ni; na, "yr hwn sydd yn Nghrist Iesu ein Harglwydd." Y mae y Beibl yn son yn aml am gariad Duw, cariad y creadur at y Creawdwr, cariad y cristion at Grist, ac at yr holl Dduwdod yn Nghrist. "Ni a wyddom," meddai yr apostol, "fod pob peth yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw." Nid yn unig eu caru gan Dduw, ond y rhai sydd yn caru Duw. "Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni." Nid ydyw cariad Duw at ddyn ddim wedi cael ei neges gyda dyn nes enill y dyn i garu Duw yn ol. Y mae yma ddarpariaeth fawr, a hono wedi ei darparu ar gyfer y rhai sydd yn caru Duw. "Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef." Y mae yn arfer gyffredin genym ddyweyd ein bod wedi gweled llawer ychwaneg nag a gawn, a chlywed llawer mwy nag a allem gofio; ond am bob cristion, ni welodd gymaint o ryfeddodau gras ac o ddaioni trugaredd ag a gaiff weled. Y mae mwy yn nghadw i'r rhai a'i hofnant ef nag y mae neb o'r saint wedi ei weled yn y fuchedd hon, "Ni welodd llygad," &c.
Sylwn ar NATUR Y CARIAD HWN—a'r ARWYDDION O HONO —ac ar Y BENDITHION ANNGHYDMAROL A'R GWERTH SYDD YN GYSYLLTIEDIG AG EF.
NATUR Y CARIAD HWN. Pa beth ydyw caru Duw.
Yn un peth, debygem ei fod yn gynwysedig mewn rhyw oruchel barchedigaeth iddo, mewn ein bod yn bowio i'r Hollalluog am fod enw a charictor y Duw mawr wedi enill parchedigaeth ein calon nes ei addoli. Y mae parch, gan mwyaf, tra y byddo at ein huwchradd neu ein cydradd, yn sylfaenedig ar gariad. Gellir parchu, y mae yn wir, heb garu, a gallai nad aiff y parch yma byth yn gariad o herwydd nad oes un gymdeithas. Ond deliwch sylw, nis gallwch garu Duw heb barch i Dduw. Nid oes modd i wraig garu ei gŵr yn iawn heb barchu ei gŵr, nac i'r gŵr garu ei wraig yn iawn heb barchu ei wraig. Nid oes modd i'r naill frawd crefyddol garu y llall heb fod ganddo barch iddo. Gellwch garu plentyn a gelyn heb eu parchu, ond y mae cariad at gydradd ac uwchradd yn wastad yn sylfaenedig ar barchedigaeth; ac os mynwch chwi, wŷr a a gwragedd, ymddwyn tuag at eich gilydd yn ol cyfraith cariad, peidiwch a gwneyd na dyweyd dim a ddarostynga eich parchedigaeth, o herwydd nis gellir parchu bob peth. Gellir parchu rhai o herwydd rhyw ellir parchu gwallau neb. Ond y mae gynwysedig mewn graddau o barch i'r Jehofah mawr. Bydded fod genym ras fel y bethau da, ond nid cariad at Dduw yn
gwasanaethom Dduw gyda "pharchedig ofn." Felly y gwnaeth Noah; darparodd arch, gyda pharchedig ofn, i achub ei dŷ. Y mae pob teilyngdod yn y Duw mawr i barchedigaeth.
Y mae yn anhawdd i chwi feddwl am ddyn îs na hwnw na fedr barchu neb, na dim. Isel iawn ydyw y creadur hwnw. Iselder mawr ar greadur ydyw yr ystyriaeth fod y Duwdod goruchel yn anfeidrol deilwng o barch, ond nad ydyw efe yn parchu mo hono. Y mae yn isel, ac yn isel iawn. Y mae mawredd Duw a'i ddoethineb, y mae daioni a chariad Duw, ac uniondeb ei natur, yn berffeithiau sydd yn y Duwdod mawr; a dylit yn mhob modd ei barchu; nid wyt yn dy le, nac yn agos, heb fod felly.
Y mae caru Duw yn cynwys ynddo hefyd gymeradwyaeth o oruchwyliaethau a gweithredoedd Duw. Y mae Duw, yn yr hyn oll y mae yn ei wneyd, yn dda yn ngolwg y dyn sydd yn ei garu y mae yn cymeradwyo ffyrdd yr Arglwydd, y mae Duw wedi ei blesio, wedi rhyngu ei fodd ef. Y mae y Beibl yn dyweyd pethau fel yna. Dyna a geir yn ngenau y duwiolion am Dduw. "Da y gwnaeth efe bob peth." Dywedodd am weithredoedd Duw, "Ti a'u gwnaethost hwynt oll mewn doethineb." Dywed mai rhyfeddodau Duw ydyw gwaith ei ddwylaw, ar y rhai yr edrych dyn. Y mae creadigaeth Duw wrth ei fodd: y mae mewn heddwch ag anifeiliaid y maes, ac ehediaid y nef, a physg y môr, ac â cherig y ddaear o ran hyny. Y mae yn barod i ddyweyd, yn mhob peth, "Da ac uniawn yw yr Arglwydd." Y mae ei ddeddf wrth ei fodd, a'r efengyl wrth ei fodd. Y mae Duw yn gymwys wrth ei fodd. Y mae yn dyweyd fod ei orseddfaingc wedi ei chadarnhau mewn barn. Y mae Duw wedi enill cymeradwyaeth y dyn sydd yn ei garu; nid ydyw yn dymuno cyfnewidiad ar Dduw pe byddai hyny yn bosibl. Y mae plant dynion wedi dangos y gwendid hwnw yn mhob oes a gwlad, pan aent i wneyd duw, gwneyd un at eu pwrpas y byddant. Nid ydym ni yn gwneyd delw o un math, mae'n wir, ond yr ydym ninau yn llunio tipyn ar Dduw yn ein dychymyg. Clywir ambell i hen bagan yn dyweyd fod Duw yn well na'i air, ond nid oes dim modd iddo fod felly; fel y dywedwn am ambell un fod y gair gwaethaf yn mlaen ganddo; ond nid yw yr Hollalluog yn debyg i hynyna.
Hefyd, y mae caru Duw yn cynwys parodrwydd i ganmol Duw, i ddyweyd yn dda mewn gair am dano." Y mae pobl dduwiol y Beibl yn son am Dduw dan ei ganmol yn wastad. Canmolant ef pan yn son am ei farnedigaethau, Tithau ydwyt gyfiawn, a ninau yn annuwiol." A phan nad ydyw trallodion yn gwasgu arnynt, felly y dywedant, "Profwch a gwelwch.' Pa bethau sydd genyt? O! caniadau i ddangos "mor dda yw yr Arglwydd gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo." Fy enaid bendithia yr Arglwydd, ac nac annghofia ei holl ddoniau ef yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iachau dy holl lesgedd." Cân fy ngogoniant iddo ef. Y mae yn felus ei fyfyrdod am dano, ac y mae yn bur naturiol i air o ganmoliaeth ddyfod o'i enau i'r Duw mawr. Y mae hyn yn brofiad genym mai nid yn aml y mae'r un gŵr neu wraig ag y mae yn dda genym am danynt, sydd yn gwneyd llawer o ddaioni, na ddaw rhyw air o glod dros y tafod am danynt. Fel yna y mae duwiolion; y maent yn canmol Duw ac yn dyweyd yn dda am dano, fel pe byddai yn dyfod heb iddynt geisio, fel y mae y dwfr yn dyfod o'r ffynon. "Fy enaid bendithia yr Arglwydd," meddai Dafydd, "a chwbl sydd ynot ei enw sanctaidd ef."
Hefyd, Ewyllys da i Dduw ydyw. Y mae rhai eisieu gwneyd rhyw un peth o'r cariad yma, ond ni fedrwn i yn fy myw wneyd hyny. Cariad mam at ei phlentyn, nid ydyw o'r un natur a chariad at ei gŵr. Y mae rhyw ychydig o ddifference mewn cariad yn mhob mam o'r bron. Cariad y tad at ei blentyn, a'r plentyn at ei dad; cariad Duw a dyn, nid ydynt o'r un fath yn union. Nid ydyw dy ewyllys da i Dduw yr un fath a'th ewyllys da i gymydog. Y mae y duwiol yn ewyllysio gweled llwyddiant mawr ar deyrnas y Cyfryngwr, a bod ei ewyllys yn cael ei wneyd ar y ddaear megys y mae yn y nef. Nid oes dim modd caru Duw â chariad o dosturi. Y mae yn bosibl caru gelyn felly, ond nid oes modd caru Duw fel hyny. Y mae yn bosibl caru y claf, y tylawd, a'r truenus, â chariad o dosturi, ond nid ydyw yn bosibl caru Duw felly. Gorchymyn Duw ydyw i ni garu ein gelynion; nid cymeradwyo gelyn fel y mae yn elyn, ond caru gelyn, sef tosturio wrtho ac ewyllysio yn dda iddo, a rhoddi hwnw mewn gweithrediad pan fydd cyfleustra. Ond y mae y Duw mawr wedi rhoddi ei gariad yn y fath fodd ag y gelli di ddangos dy ewyllys da. Y mae cyd-darawiad ewyllys y Creawdwr a'r creadur yn gyffredinol ar y byd. Nid ellwch garu Duw heb ddymuno fod plant dynion oll yn cydnabod un Duw, a'i enw yn un.
Hefyd, y mae caru Duw yn cynwys ymhyfrydiad enaid yn Nuw. Beth ydyw bod dyn yn ei garu ei hunan, ac yn caru arian? Gormod o hyfrydwch sydd ganddo ynddo ei hunan ac mewn arian. Beth sydd yn peri i ddyn ymhyfrydu llawer mewn clod a pharch? Gormod o delight sydd ganddo ynddo. Dyna ydyw caru Duw, bod yr enaid yn ymhyfrydu yn Nuw—" yn ymhyfrydu yn nghyfraith Duw o ran y dyn oddimewn." Yn mhob man lle y mae heddwch, tegwch, a dymunoldeb mawr, y mae yr enaid dynol yn ymhyfrydu yn hwnw. Pan edrych un ar greadigaeth Duw, a'i gweled yn deg odiaeth, y mae rhyw ymhyfrydiad yn hyny. Y mae gweithredoedd Duw yn deg iawn yn eu lle. Gwnaeth y ddaear yn hynod brydferth, cododd ei chefnau, a dyfrhaodd ei rhychau, gwnaeth i'r afonydd redeg trwy ei dyffrynoedd, paentia yr wybren uwch ein pen bob boreu a phrydnawn yn wahanol o'r bron; ond y mae tegwch y greadigaeth yn diflanu yn ymyl tegwch Duw ei hun. Y mae efe yn anfeidrol hawddgarach na'r pethau a greodd, ac na'u holl hawddgarwch wedi dyfod yn nghyd. Y mae hollalluawgrwydd Duw yn cael ei lywodraethu gan anfeidrol ddoethineb, daioni, a thrugaredd. Adlewyrcha holl briodoliaethau y Duwdod hawddgarwch a dymunoldeb ar eu gilydd. Ÿ mae hynyna mewn cariad. Gelli fod yn annedwydd yn y plentyn goreu a feddi, gall y gŵr fod yn annedwydd yn ei wraig, gall ei hafiechyd neu ei marwolaeth fod yn chwerw iawn iddo, gelli fod yn annedwydd mewn meddianau, gelli eu colli a theimlo hyny. Ond nid all neb fod yn annedwydd yn Nuw, y mae ef uwchlaw cyfnewidiadau y greadigaeth, ac uwchlaw pob adfyd a pherygl; byth ni byddi yn annedwydd yn y Duw a'th wnaeth, ond ei gael yn Dduw. "Er i'r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olew-wydd a balla, a'r meusydd ni roddant fwyd; torir ymaith y praidd o'r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai." Pa sut y bydd hi arnat, yn enw pob rheswm, os colli hwynt oll? "Eto, mi a lawenychaf yn yr Arglwydd; byddaf hyfryd yn Nuw fy iachawdwriaeth." Y mae mae holl ddymunoldeb a hawddgarwch y greadigaeth i gyd yn myned yn llen deneu iawn wrth y doraeth sydd ynddo ef.
YR ARWYDDION SYDD O'R CARIAD HWN LLE Y MAE. Llebynag y mae cariad at Dduw, y mae y meddwl wedi ei sefydlu ar Dduw— y mae y meddwl wedi centro arno fel y daioni mwyaf—fel y ffynon ddwfr yr hon ni phalla ei dyfroedd. Nid wyf yn dyweyd ei fod yn meddwl am dano bob amser, ac am ddim ond efe; nid ydyw Duw yn ceisio genym felly; y mae hyny yn beth sydd ynddo ei hunan yn anmhosibl, am hyny, nid ydyw dyledswydd neb yn gynwysedig ynddo. Beth ydyw gan hyny? Y mae dy feddwl, wedi cael tipyn o lonydd, yn dyfod o bob man at Dduw. Y mae y meddwl fel cwmpas y morwr, yn y byd yma; y mae tynfa hwnw tua'r gogledd, ond nid yw staunch yn y byd, nid ydyw yr attraction yn gryf iawn, o herwydd gellwch ei droi o amgylch ogylch, y mae yn beth pur wanllyd; ond gadewch lonydd iddo, daw ei bîg at y pwynt, y mae yno ddigon o at—dyniad i'w dynu y ffordd hòno. Felly nid ydyw cariad Duw mor gryf yn y duwiolion nas gall neb ei ddisturbio a'i alw oddiwrth Dduw. Nis gellwch wneyd dim yn iawn heb fod y meddwl yn o glòs gyda'r peth, y mae yn esgyn i'r nefoedd, ac yn disgyn i'r dyfnder, ond gadewch lonydd iddo am dipyn bach, daw i feddwl am Dduw os ydyw ei gariad yno. Y mae gan y cadben ar y llong ar y môr yn yr ystorm gymaint i'w wneyd fel nad ydyw yn meddwl llawer am ei wraig a'i blant gartref; rhaid iddo arfer ei nerth a'i ddoethineb i gadw y llong ar y wyneb, ac heb fyned yn erbyn y creigiau; ond bwriwch fod yr ystorm wedi tawelu, a'i fod wedi dyfod i rhyw safe harbour, gwarantaf fi y rhed ei feddwl at ei wraig a'i blant bach oedd gartref. Nid oedd amser iddo feddwl am danynt yn nghanol yr ystorm, ond erbyn cael tipyn o dawelwch, yr oedd y meddwl yn dyfod yn naturiol atynt. Felly y milwr hefyd, nid oes ganddo yntau ond ufuddhau i'r hwn sydd mewn awdurdod, gan ymgais am fywyd, y rhai sydd yn ceisio am ei fywyd ef. Ond wedi i'r frwydr fyned drosodd, meddylia am ei ffrindiau yn fuan iawn. Wedi i'r drafferth fyned trosodd i'r cristion, daw ei feddwl at ei Dduw. Pa le y bydd dy feddwl yn myned yn dy wely, pan y byddi yn dawel ac esmwyth? Pa le y byddi yn cael dy feddwl yn y boreu pan ddeffroi? Y mae y Salmydd yn dyweyd, "Pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad." A ydyw y Duwdod mawr yn ei ddaioni, a'i briodoliaethau dwyfol, wedi myned yn ganolbwynt i'th feddwl di? Nid y cwestiwn ydyw a wyt yn caru Duw, a neb ond Efe, ond a wyt yn caru Duw o flaen pawb a phob peth arall? A wyt yn gweled ei deilyngdod y fath ag y mae i'w garu o flaen pawb, ei ddoniau yn fwy, a'i drugaredd yn well na phawb a phobpeth?
Hefyd, Os ydym yn caru Duw, yr ydym yn caru gair Duw. Nid oes dim yn y byd yma a chymaint o ddelw Duw arno a'r Beibl. Y mae duwiolion y Beibl yma yn eu profiadau yn dangos i ni eu bod yn bur fond o hono. Dywed Dafydd fod ei air "fel mêl, ac fel diferiad y diliau mêl," a'i fod wedi ei gymeryd "yn etifeddiaeth dros byth," efe oedd ei "fyfyrdod beunydd." Yn y bedwaredd Salm ar bymtheg ar ol y cant, y mae yn mhob adnod yn ei ganmol. Os nad ydyw yn bur dda genym am y Beibl, nid ydyw yn dda genym am Dduw. Os nad ydyw tystiolaethau Duw yn werthfawr, yn fwy dymunol na'r "holl olud," nid wyt yn caru Duw; oblegyd y mae ef wedi "mawrhau ei air uwchlaw ei enw oll."
Hefyd, Os ydym yn caru Duw, yr ydym caru ei ordinhadau a thrigfanau ei dŷ. "Yn mhob man," meddai yr Hollalluog wrth Moses, "lle bynag y rhoddaf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf atat, ac y'th fendithiaf." Gwell oedd gan y Salmydd "gadw drws yn nhŷ ei Dduw na thrigo yn mhebyll annuwioldeb." Y mae "diwrnod yn nhŷ Dduw yn well "na mil" yn un man arall. Cenfigenai wrth aderyn y tô a'r wenol; yr oeddynt hwy yn cael gwneyd eu nythod yn agos iawn at allor Duw. Hiraeth mawr oedd arno pan oedd yn alltud o'i dŷ. Ffrindiau mwy na chyffredin, cyfarfyddant hwy a'u gilydd yn rhyw le. Gwelwch eich cariad a'ch câs braidd yn mhob man. Y mae Duw yn caru 'pyrth merch Sion, yn fwy na holl breswylfeydd Jacob." Dichon rhai dan ryw amgylchiadau fyw yn dduwiol heb addoliad cyhoeddus, ond nis gwn pa fodd y gallwn yn ngwlad y breintiau. Os nad oes yma yr un sect y gallwn yn gydwybodol farnu fod achos y Duw mawr yn eu plith, dylem geisio codi rhywbeth newydd; y mae dyn i fod a'i le yn addoliad Duw, ac y mae Duw wedi gosod ei dŷ yn y byd, ac y mae yn fan cyfarfod Duw.
Hefyd, os ydym yn caru Duw, yr ydym yn caru yr Arglwydd Iesu Grist, Mab Duw, y Cyfryngwr. Y mae rhyw gwestiwn rhyfedd iawn yn cael ei ofyn gan Ioan, Yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd?" Yr hwn nid ydyw yn caru Mab Duw, yr hwn a welodd yn y natur ddynol yn cerdded y ddaear, ac sydd i'w weled yn y natur ddynol yn y nefoedd eto, pa fodd y gall garu y Duwdod byth sydd yn anweledig?—Y Duwdod mawr sydd yn hanfodi erioed, yn llenwi y nefoedd a'r ddaear? Y mae creadigaeth aneirif o fydoedd yn ymsymud a bod ynddo ni chreodd ddim tu allan iddo ei hunan. Y mae y cyfan yn symud a bod ynddo ef―ond ar yr un pryd nis gellir ei ganfod y mae yn gweithio ar bob llaw, ond ni fedri gael gafael arno; ychydig iawn a wyddost am dano: ond y mae holl gyflawnder y Duwdod yn yr amlygiadau uchaf o hono i'w weled yn y Cyfryngwr; y mae efe yn Dduw yn y cnawd—" Y gair a wnaethpwyd yn gnawd," ac y mae llawer o blant dynion wedi gweled ei ogoniant. Pa fath o ogoniant oedd? "Gogoniant megis yr unig-anedig oddiwrth y Tad." Y mae Crist yn y natur ddynol yn ddelw y Duw anweledig," ac yn wir lun ei berson ef." Nid oes dim mwy o Dduwdod i'w weled, i ddynion nac angelion, nag sydd yn Iesu Grist. Y mae y natur ddynol ganddo ef yn berffaith yn ei thegwch heb ei hanfri. Y mae efe yn gariad, ac ynddo ef y mae yr amlygiadau uchaf o gariad Duw, ac nid oes modd caru Duw heb ei garu ef.
Hefyd, os ydym yn caru Duw, yr ydym yn caru pobl Dduw. "Yr hwn sydd yn caru yr hwn a genedlodd, y mae yn caru yr hwn a genedlwyd o hono." Y mae cariad brawdol yn wahanol i bob un arall. Caru delw Duw ar dy gydgreadur—caru delw Duw ar y tlawd am ei fod ef yn caru Duw, ydyw cariad brawdol. Y mae hwnyna yn arwydd o dduwioldeb, "Wrth hyn y gwyddom ein bod ni o Dduw, am ein bod yn caru y brodyr." Nid cariad at enw, sect, neu blaid, ond cariad at ddelw Duw, gan nad yn mha le y gwelir. Cariad at y rhai sydd yn caru Duw ydyw cariad brawdol.
Hefyd, os wyt yn caru Duw, yr wyt yn cashau pechod. Y mae Duw a phechod, nid yn unig yn annghymodlawn, ond yn annghymodadwy. Nid oes i bechod ddim hanfod ond drwg. Nid oes i'r Duwdod ddim hanfod ond daioni. Nid oes dim lle i obeithio y cymodir Duw byth â drwg; y mae y naill mor wahanol a gwrthwynebol i'w gilydd, fel nad oes modd eu cymodi. Ond y mae modd cymodi pechadur â Duw er hyny. Y mae modd i Dduw gondemnio pechod a chyfiawnhau y pechadur yn nhrefn yr efengyl. Ac i'r graddau yr wyt yn caru Duw a'i barchu, yr wyt yn casau pechod, ac yn digio wrtho.
Sylwn yn nesaf ar y DARPARIAETHAU SYDD AR GYFER YR HWN SYDD YN CARU DUW.
Yn un peth, Nid oedd trefn yr efengyl wedi ei hamlygu yn amlwg iawn nes dyfod Iesu Grist yn y cnawd. Nid oedd y disgyblion yn deall llawer am ei deyrnas; yr oeddynt wedi credu mai efe oedd yr un a waredai yr Israel; ac mai efe oedd y Messiah; ond er hyn i gyd, ni wyddent pa fodd y gwaredai efe hwynt. Yr oedd trefn fawr iachawdwriaeth fel system yn anadnabyddus i'r rhai duwiol yn yr amser hwnw. Ond wedi gogoneddu yr Arglwydd Iesu, a rhoddi yr Ysbryd, daethant i weled yn eglur ac o bell.—Hefyd, y mae y nefoedd a'i holl ogoniant a'i mawredd yn anadnabyddus i ddynolryw. Y mae un o'r apostolion yn dyweyd "Nid amlygwyd eto beth a fyddwn, ond ni a wyddom pan ymddangoso efe y byddwn gyffelyb iddo." Bydd cael ein hunain yn y byd arall heb gosp yn yn beth rhyfedd, ac heb gorff y farwolaeth yn beth rhyfeddach na hyny;—agor ein llygaid yn y byd mawr, a chael ein hunain ar wastadedd tragwyddoldeb, fydd yn beth rhyfedd iawn; cael ein hunain yn mhlith y saint a phatriarchiaid a merthyron; cael dy hunan yn iach. ac yn berffaith,—
"Pob gwahanglwyf ymaith,
Glan fuddugoliaeth mwy."
Mae y duwiolion yn canu yma
"Wrth gofio'r bore
Na welir arnynt glwy'."
Yma nid oes nemawr ddyn yn berffaith iach—y mae mesur o anhwyl ar systemy rhai iachaf, weithiau yn bruddaidd bron wedi eu bwrw i lawr, mae awyr y wlad yma sydd yn cynal yn fyw yn eu gwisgo i farwolaeth yr un pryd; nid felly yn y nef, mae awyr y wlad hono y fath na chai yr anwyd byth yno,—ni chai y relapse i'r gwahanglwyf byth yno. Ni bydd yno un gelyn chwaith, ac ni bydd raid i ti weithio âg un llaw a dal cleddyf â'r llaw arall; ond ti gei y ddwy law i ganu y delyn, ac eistedd tan dy ffigysbren heb neb i'th ddychrynu. Cei fyw heb angeu hefyd y mae hwn a'i ddwrn ar ein danedd o hyd yma; y mae y bobl, mawr a bach, ieuanc a hen, yn marw. Y mae yr ieuanc yn marw yn aml, ond nid i gyd; ond y mae yr hen yn marw oll bob yn dipyn: ond yn y nef byddant "fel angylion Duw." Priodi a phlanta sydd yn llanw y bylchau sydd yn cael eu gwneyd gan angeu yma, ond yn y nef, byddant fel angelion Duw, "uffern a marwolaeth ni bydd mwyach," tragwyddoldeb o'th flaen. Ar yr hen ddaear yma, nid ydyw tymor dyn arni ond ychydig nid oes gan ddyn hamdden i ddysgu llawer o ieithoedd y byd, ond yn y nef cai amser neu dragwyddoldeb digon o hyd yno. Byddi yn cael edrych yn mlaen yno heb weled terfyn. Nid ydyw Duw wedi gosod terfyn yn nhragwyddoldeb i ddyn fyned ato a dim yn mhellach. Y mae felly yn y byd yma, "Oni osodaist derfyn iddo fel gwas cyflog?" Hefyd, bydd yn brâf iawn yno, holl rai llednais y tir wedi hel at eu gilydd. Yn y byd mawr ni bydd "Ephraim yn cenfigenu wrth Judah, ac ni chyfynga Judah ar Ephraim," ond oll yn cydredeg at yr un daioni. a hyny am dragwyddoldeb. Ni wyddom fawr am y byd mawr. Y mae llen rhyngom â'r byd tragwyddol; nis gallasem wneyd dyledswyddau y fuchedd hon pe buasai y llen yn rhy agored. Ond pa beth a gaf yno? Cei gorph yr un ffunud a'i gorph gogoneddus ef;" cei weled yr Arglwydd Iesu Grist fel y mae, a "bod yn debyg iddo;" cei gwmni saint ac angelion yn un, a thragwyddoldeb i'w mwynhau; cei garu Duw, a Duw i'th garu dithau, heb ddim ymsen tan y fron; bydd hyny yn hyfryd iawn. Nid rhyfedd i Paul ddyweyd, "Byw i mi yw Crist a marw sydd elw." Meithrinwch feddyliau mawr a theilwng am Dduw. Nid gwaith ydyw caru Duw ag y gall dyn ei forcio iddo, ond y mae yn codi oddiar syniadau uchel am y Duw mawr. Gweddïa am i Ysbryd Duw dy oleuo am Dduw, dy barch fyddo fwy fwy iddo, a dy gydwybod fyddo yn gymeradwy o Dduw a'i berffeithiau. Ymhyfryda yn yr Hollalluog, dyna ddigon o waith i ti. Nefoedd fach ydyw caru Duw yn y galon; ac y mae y nefoedd fach ynot ti yn dy roddi dithau yn y nefoedd fawr wedi marw. Dyna wna nefoedd i ti—caru Duw â'th holl galon, a theimlo fod Duw yn dy garu dithau. Peidiwch a meddwl fod gan Dduw ryw falais i'ch rhoddi yn uffern; na, Duw da ydyw Duw, ac y mae yn anfeidrol ddaionus. Ei gael yn Dduw ydyw y peth mawr; cael dy Frenin yn Geidwad. Y mae arnaf ofn myned i uffern, meddai rhywun. Nid rhaid i ti, nid ydyw yn lle y rhaid i ti fyned yno. Nid ewch byth yno yn y byd mawr heb fyned ag uffern gyda chwi o'r byd hwn. Y mae arnaf ofn fod uffern wedi dechreu cyneu: nac ydyw, dy uffern di. Y mae hi wedi cyneu ar Cain a Judas, ond y mae dy uffern di heb ddechreu fflamio eto, ac os peidi a myned a thân euogrwydd o'r byd yma gyda thi yno, ni chyneua byth; ond os ai yno, ac euogrwydd yn dy gydwybod, y mae yno ddigon a'i rhydd ar dân—y mae yno ddigofaint yr Arglwydd fel afon o frwmstan i enyn dy euogrwydd. Bydd pob meddwl am Dduw yn dy roddi ar dân. Nis gwn yn iawn pa beth ydyw uffern. Nid oes un man esmwythach i'r annuwiol yn bod nac uffern; y mae yn well lle i'th gadw oddiwrth Dduw nac un man, os âi di yno dan wrthod ei Fab, a barnu yn aflan waed y cyfamod. Paid a myned yno. Paid a myned o'r byd yma yn wrthodwr o'r unig Waredwr drefnodd Duw. Y mae ganddo ef le yn llawn i'th waredu. Dyma y nefoedd y mae y duwiolion yn myned a hi gyda hwy, ac y mae yn esgor yn y byd mawr ar nefoedd fawr. "Gronyn noeth" ydyw nefoedd yn y byd yma, ond bydd yn ddaioni aeddfed o ogoniant yno.