Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern/Pennod II
← Pennod I | Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern gan William Rees (Gwilym Hiraethog) |
Pennod III → |
PENNOD II.
Ei sefydliad yn y Wern—Ei ordeiniad—Dechreuad yr achos yn Rhos-Llanerchrugog—Mr. WILLIAMS yn cymmeryd gofal yr eglwys yno —Cynnydd a llwyddiant yr achos yno—Adeiladu y capel cyntaf yn Rhos—Yr un presennol—Adeiladu capel Llangollen—Priodas Mr. WILLIAMS—Nodwedd Mrs. Williams—Eu symudiad i fyw i Langollen—Taith Mr. WILLIAMS i'r Deheudir—Ei symuniad i fyw i'r Talwrn, gerllaw y Rhos—Ei lafur cyhoeddus, hyd ei symudiad i Lynlleifiad.
GADAWODD Mr. WILLIAMS yr Athrofa yn y flwyddyn 1807, wedi pedair blynedd o arosiad ynddi, a daeth i'r Wern a Harwd ar brawf. Yr oedd yr eglwysi a'r ardaloedd hyn wedi cael digon o brawf o'i ddoniau a'i weinidogaeth tra yn yr Athrofa, oblegid mai y myfyrwyr o Wrexham a gynnaliasent bregethu ynddynt, gan mwyaf, o'r dechreuad. Derbyniodd a chydsyniodd â galwad a chais yr eglwysi, i gymmeryd ei ordeinio yn fugail arnynt, yr hyn a gymmerodd le ar yr 28ain o Hydref, 1808. Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. W. Hughes, Dinas; traddodwyd y ddarlith ar Natur Eglwys Efengylaidd gan Dr. Lewis, y pryd hyny Mr. Lewis, o Lanuwchllyn; anerchwyd y gweinidog ieuanc gan ei gyn-athraw, y Parch. Jenkin Lewis, o Wrexham; a'r eglwys, gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair. Buasai y gweinidogion uchod y diwrnod o'r blaen yn Dinbych, yn ordeinio y Parch. T. Powell, un o gyd-fyfyrwyr Mr. WILLIAMS, yn fugail ar yr eglwys gynnulleidfaol yn y dref hono.
Nid oedd yr eglwysi yn Harwd a'r Wern ond ieuainc a gweiniaid, pan y daeth Mr. WILLIAMS i ymsefydlu yn eu plith. Pump oedd y nifer yn y cymundeb cyntaf a weinyddwyd yn y Wern.
Ymroddodd Mr. WILLIAMS yn egniol at waith y weinidogaeth, ar ol ymaflyd ynddo. Dangosodd yn amlwg na chymmerasai y swydd gyda golwg ar esmwythdra a bwyta bara seguryd, ond yr ymaflai ynddi er mwyn ei gwaith. Treuliai ac ymdreuliai ynddo, gan "fod yn daer mewn amser, ac allan o amser." Yr oedd y pryd hyn yn mlodau ei ddyddiau a blaenffrwyth ei oes, yn meddu ar gyfansoddiad grymus, corff pybyr, tymher fywiog a hoenus, meddwl cyflym a gwrol, a thalentau ysblenydd; ac ymroddodd i'w dwyn oll allan i'r farchnadfa, a'u cyssegru at alwedigaethau y swydd bwysig yr ymaflasai ynddi.
Heblaw llenwi ei gylch gweinidogaethol yn y Wern a Harwd, cydymdrechai â'r myfyrwyr o Wrexham i gynnal pregethu a phlanu eglwysi yn Rhos-Llanerchrugog, Llangollen, a Ruabon, a phregethai yn fynych iawn ar nosweithiau yr wythnos mewn tai annedd, pa le bynag y byddai galwad am dano, neu ddrws agored iddo.
Sefydlwyd eglwys Annibynol Rhos-Llanerchrugog yn Chwefror, 1810, ychydig gyda dwy flynedd wedi ordeiniad Mr. WILLIAMS yn y Wern. Ymgynnullent y pryd hyny mewn tŷ annedd a elwid y Pant, yn gyfagos i'r pentref; symudasant yn Awst canlynol i'r Rhos, i ystafell ardrethol a gymmerasent i'r perwyl. Nifer yr eglwys pan ei sefydlwyd ydoedd saith. Wedi symud i'r ystafell grybwylledig, cytunasant â'u gilydd i ymgynnyg am weinidogaeth sefydlog, oblegid hyd hyny nid oeddynt dan ofal neillduol un gweinidog mwy nâ'i gilydd. Pregethid iddynt yn Sabbothol gan y myfyrwyr o Wrexham, a Mr. WILLIAMS ar gylch. Yn yr amgylchiad hwn rhoddasant eu hachos dan sylw y Parch. J. Lewis, athraw yr Athrofa, ac yntau a'u cynghorodd hwynt i gyflwyno eu hunain i ofal Mr. WILLIAMS, mewn cyssylltiad â'r Wern a Harwd, yr hyn a wnaethant; ac yntau, wedi ymgynghori â'i gyn-athraw hybarchus, a gydsyniodd â'u cais.
Dechreuodd yr achos yma flaguro a llwyddo yn fuan dan ei weinidogaeth, fel ag yr aeth yr ystafell yn rhy fechan o lawer i gynnwys y gwrandawyr, ac yr aethant i ddywedyd, "Rhy gyfyng yw y lle hwn i mi; dod le i mi fel y preswyliwyf!" Wedi bod yn yr ystafell hono yspaid dwy flynedd, ymofynwyd am, a chafwyd lle i adeiladu capel, yr hyn a gyf lawnwyd yn y flwyddyn 1812; ei faint ydoedd 13 llath. wrth 10. Bu Mr. WILLIAMS yn llafurus a llwyddiannus i gasglu at leihau dyled yr addoldy hwn, a chafodd yr hyfrydwch o'i weled yn cael ei lenwi â gwrandawyr, a'r eglwys yn myned ar gynnydd dymunol mewn rhifedi; a chyn diwedd ei oes, cafodd weled hwn drachefn wedi myned yn gymmaint yn rhy gyfyng i'r gynnulleidfa, ag y gwelsai y Pant a'r ystafell gynt; a gwelodd hefyd yr addoldy hardd ac eang presennol wedi ei orphen a'i agoryd, a'i lenwi â gwrandawyr; a'r eglwys hono, nad oedd ond saith mewn rhifedi pan gymmerasai ei gofal gyntaf, wedi lliosogi yn amryw gannoedd mewn nifer. Da y gallasai ddywedyd, megys y Salmydd gynt, "Ac â'th fwynder y'm lliosogaist.'
Yr oedd o ran ei farn a'i athrawiaeth yn Galfiniad lled uchel yn nyddiau boreuaf ei weinidogaeth, dyna oedd tôn y weinidogaeth yn fwyaf cyffredinol yn mhlith yr Annibynwyr yn y dyddiau hyny. Buasai dyfodiad y Wesleyaid i Gymru ychydig flynyddau cyn hyn, yn achlysur yn ddiau i'r Trefnyddion Calfinaidd, yr Annibynwyr, a'r Bedyddwyr, i sefyll yn dynach dros yr athrawiaeth Galfinaidd nag y gwnaethent cyn hyny; neu yn hytrach, i beri iddynt gilio oddiwrth Galfiniaeth gymhedrol i dir uchel Galfiniaeth, er mwyn ymgadw ac ymddangos yn ddigon pell, fel y tybient, oddiwrth yr heresi Arminaidd, fel yr edrychent arni, pan mewn gwirionedd yr oeddynt yn myned yn llawer nes ati o ran egwyddorion, tra yn cilio yn mhellach oddiwrthi mewn ymddangosiad arwynebol a swn geiriau yn unig. Cyn y dyddiau hyny yr oedd y corff Trefnyddol mor wresogfrydig dros yr athrawiaeth o gyffredinolrwydd yr Iawn, a galwedigaeth yr efengyl, ag y daethant wedi hyny yn erbyn y golygiadau hyny. Y Parch. J. Roberts o Lanbrynmair oedd un o'r rhai cyntaf yn Ngogledd Cymru a gyfododd i fynu dros yr hen athrawiaethau a fuasent yn foddion i ddeffroi, a chynnyrchu y diwygiadau nerthol yn nyddiau Lewis Rees, Howell Harris, Daniel Rowlands, William Williams, Pantycelyn, ac ereill, a gwrthddrych y cofiant hwn, oedd un o'r rhai cyntaf a ddaeth allan i'w gynnorthwyo. Y mae yn debygol fod hyn o wahaniaeth rhwng y ddau dô yma o weinidogion a'u gilydd; nid oedd gan hen dadau y tô blaenaf, unrhyw system bennodol o athrawiaeth, wedi ei chasglu a'i chrynhoi, a'i gosod yn drefnus wrth ei gilydd, ond ymollyngent yn ffrwd ymadroddion y Bibl, heb ofalu cymmaint am fanwl ddangos cyssondeb y naill gangen o athrawiaeth a'r llall, ac yn wir, fe ymddengys eu bod yn hollol yn eu lle, nid oedd amgylchiadau eu hoes a'u hamser yn galw am nemawr o hyny; yr oeddynt yn gwynebu ar y wlad pan oedd yn gorwedd mewn tywyllwch, anwybodaeth, a difrawder, a gwaith eu tymmor hwy, oedd seinio yr alarwm uwch ei phen, er ei deffroi o'i marwol gwsg trwm; ac at y gwaith hwn yr oedd eu Meistr mawr wedi eu haddurno â galluoedd corfforol a meddyliol i raddau helaeth iawn. Yr ail dô, yr ochr arall, a ddechreuasant osod trefniad o'r golygiadau wrth eu gilydd, gan ymdrechu dangos cyd-ffurfiant a chyssondeb y naill athrawiaeth â'r llall, ac yr oedd amgylchiadau eu hoes a'u hamser hwythau a mwy o alw am hyn, nag oedd o'r blaen; yr oedd y wlad erbyn hyn wedi ei goleuo i raddau, ac egwyddorion yr efengyl yn cael eu gosod gerbron mewn dullweddau gwahanol, nes oedd mwy o ysbryd ymofyniad wedi ei gyffroi ynddi, ac ymholi pa fodd y cyssonid y peth hwn a'r peth arall â'u gilydd. Gwnaeth Roberts, gyda'i ysgrifell yn benaf, a WILLIAMS, yn yr areithfa, lawer iawn o wasanaeth yn y ffordd hon.
Gyda golwg ar y cyfnewidiad dan sylw yn ei olygiadau ar rai athrawiaethau, ysgrifenai y Parch. T. Jones, gynt o Langollen, fel y canlyn: "Yn nechreuad ei weinidogaeth yr oedd Mr. WILLIAMS, o ran ei olygiadau duwinyddol, yn uchel Galfiniad, yr hyn oedd cred gyffredinol yr eglwysi y pryd hwnw. Cymmerai Mr. WILLIAMS, fel ereill, yn ganiataol mai hon oedd y wir athrawiaeth, hyd oni ddaeth i feddwl a chwilio yn fanylach drosto ei hun. Yr hyn a'i harweiniodd yn gyntaf i ddrwg-dybio cyfundraeth ei ieuenctyd, oedd anhawsdra a deimlai i'w chyssoni ag amrywyriol ranau o'r datguddiad Dwyfol. Yr hyn a fu y moddion cyntaf oll i'w ddwyn i dir goleuach a gwell mewn duwinyddiaeth, ydoedd darllen traethawd o waith Dr. Bellamy, a elwir "True Religion delineated." Cynnorthwyodd hwn ef i ddryllio yr hen lyffetheiriau a ddaliasent, hyd yn hyn, ei feddwl mawreddog mewn caethiwed. Bu cyfnewidiad ei farn. yn achos o gryn helbul iddo. Cafodd gryn wrthwynebiad oddiwrth ei frodyr ei hun, a'i gyhoeddi a'i ddynodi fel cyfeiliornwr a heretic gan enwadau ereill, yr hyn, yn ddiau, a darddai, yn benaf, oddiar eiddigedd at ei boblogrwydd a sel sectaidd, yn fwy nag oddiar gariad at yr hyn a farnent hwy yn wirionedd. Fel hyn y bu yn offeryn yn llaw Rhagluniaeth i ddwyn egwyddorion i'r golwg, a ystyrir yn Nghymru heddyw gan laweroedd, yn ddiau, yn werth dyoddef a marw drostynt, pe byddai galw am hyny; a chafodd yr hyfrydwch, cyn diwedd ei oes, o weled llawer o'i wrthwynebwyr a'i erlidwyr gynt, yn eu gwerthfawrogi a'u cofleidio.'
Mewn cyfeiriad at yr un amgylchiad, sylwai diaconiaid yr eglwys gynnulleidfaol yn Rhos-Llanerchrugog fel y canlyn: "Yr athrawiaeth a bregethai Mr. WILLIAMS oedd, i raddau, yn wahanol i'r hyn oedd wedi cael ei phregethu yn yr ardaloedd hyn o'r blaen, ac nid ychydig fu y gwrthwynebiadau a gafodd, a'r llafur a gymmerodd i argraffu ar feddyliau y bobl yr egwyddorion syml, ymarferol, ac ysgrythyrol, a draddodai iddynt. Byddai ei ddull yn wastad yn esmwyth a didramgwydd; ni fyddai byth yn ergydio at bersonau nac enwadau ereill, nac yn condemnio y rhai oeddynt yn barnú yn wahanol iddo ef. Gosodai ei egwyddorion yn oleu, syml, a theg, ger bron ei wrandawyr, heb gymmeryd arno ei fod yn gwybod fod neb yn y byd yn barnu yn wahanol, na bod neb yn ei osod allan fel cyfeiliornwr a heretic. Gadawai iddynt weithio eu ffordd yn eu nherth a'u goleuni eu hunain; a gweithio eu ffordd a wnaethant drwy lifeiriant o wrthwynebiadau, ac y maent yn awr yn sefydlog a chadarn yn meddyliau a chalonau cannoedd o drigolion yr ardal."
Mynych gydnabyddai ei fraint yn yr amser hwn o fod wedi bwrw ei goelbren yn mhlith yr Annibynwyr, lle nad oedd nac esgob, na llys, na chyfarfod, na chymmanfa, i hòni awdurdod i'w alw i gyfrif am ei gred a'i athrawiaeth, y teimlai ei hunan yn rhydd, wrth esgyn i'r areithfa, i draethu gwir olygiadau ei galon ar athrawiaethau yr efengyl, heb lyffetheiriau o erthyglau a chyffesion i gadwyno ei draed, na bod gofal arno rhag syrthio ar draws dim o'r fath bethau. Wrth bregethu teimlai nad oedd yn gyfrifol i un orsedd nac awdurdod ond gorsedd ac awdurdod Crist—mai ei was ef ydoedd, ac mai iddo ef yn unig yr oedd yn gyfrifol.
Ond er ei fod felly yn rhydd oddiwrth awdurdodau cymanfaol, cafodd gryn lawer o flinder, fel y rhag-grybwyllwyd, oddiwrth rai brodyr yn y weinidogaeth, ac ereill, ag oeddynt yn selog dros burdeb yr athrawiaeth, fel y meddylient hwy. Ystyrid ef ganddynt fel un wedi gŵyro oddiwrth y gwirionedd a'r athrawiaeth iachus, a diau, pe buasai awdurdod cymmanfaol i'w gael yn y cyfundeb, y buasai y gwŷr hyny yn, ei ddefnyddio yn ewyllysgar, os medrasent ei gael i'w dwylaw, er rhoddi gorfod arno ef, a phob un o'r un golygiadau ag ef, naill ai seinio eu Shibboleth hwy, neu, ynte, ymadael â'r corff. Buasai yn dda gan ambell un allu cau drws yr areithfa, pan ddygwyddai ddyfod heibio iddynt yn yr amserau hyny; ond yr oedd poblogrwydd a chymmeradwyaeth Mr. WILLIAMS yn y wlad yn gyfryw ag na feiddient wneuthur hyny. Gwahoddent ef i'w cyfarfodydd a'u cymmanfa oedd rhag ofn y bobl." Yr oedd y public opinion yn darian iddo rhag saethau o'r fath yma, yn gystal ag yr oedd y drefn gynnulleidfaol yn dwr amddiffyn i'w wared rhag y rhuthrgyrch arall a ddynodwyd.
Maddeua y nifer liosocaf o ddarllenwyr y Cofiant i'r ysgrifenydd, am dòri edefyn yr hanes yn y lle hwn, yn ngrym profedigaeth yr amgylchiad, i graffu ychydig ar yr ysbryd y mae uchel Galfiniaeth yn gynnyrchu bob amser yn mynwesau ei chofleidwyr. Ceir y rhai a fabwysiadant olygiadau ar nodwedd y Bôd Goruchaf fel un tra-awdurdodol yn ei arfaethau, ei fwriadau, a gweinyddiadau ei ras a'i ewyllys da, golygiadau culion a chyfyng ar Iawn y Cyfryngwr a darpariadau yr efengyl; ceir y duwinyddion hyn, meddaf, yn mhob gwlad Gristionogol, yn mhlith pob enwad a phlaid o Gristionogion, yn ddynion o ysbryd tra-awdurdodol a gormesol—bob amser yn ddynion na fedrant oddef eu gwrthwynebu mewn dim, er i hyny gael ei gynnyg yn yr ysbryd addfwynaf a gostyngeiddiaf. Y maent yn anffaeledigion oll, ac os bydd trefn eglwysig y blaid y perthynant iddi yn caniatâu, a hwythau, yn eu tyb eu hunain, yn ddigon cryfion, caiff eu brodyr a feiddiont farnu yn wahanol iddynt mewn dim, deimlo dwrn eu hawdurdod, oni wna arswyd barn y cyffredin eu lluddias. Y maent yn wastad yn fawr iawn eu stwr yn nghylch "athrawiaeth iachus," a chanddynt hwy, o anghenrheidrwydd, y mae hono, oblegid y maent hwy yn anffaeledig. Cyfeiliornwyr andwyol yw pawb nad ydynt yn hollol gydweled â hwy. Y mae duwinyddion old school yr eglwys Bresbyteraidd yn America, yn ateb yn berffaith i'r desgrifiad uchod. Galwent synod ar ol synod, ac assembly ar ol assembly, i gyhuddo, ac o'r diwedd esgymuno niferi o'r gweinidogion mwyaf eu dysg, eu dylanwad, a'u defnyddioldeb yn eu plith, am osod allan ddigonolrwydd darpariadau gras ar gyfer byd o dlodi ac angen! Y mae eu brodyr yr ochr yma i'r Werydd, yn mhlith pob plaid o bobl ag y maent i'w cael, yn hollol o'r un ysbryd â hwy. Ni chlybuwyd son erioed fod dynion o olygiadau cymhedrol, rhydd, a helaeth ar athrawiaethau yr efengyl yn ceisio cyfyngu a gwasgu ar derfynau eu rhyddid hwy i farnu drostynt eu hunain yn galw am gynghor na chynnadledd i'w dwyn i gyfrif am eu golygiadau, a bygwth eu hesgymuno allan o'u plith, er yn ddiau fod y dosbarth hwn mor gydwybodol ac mor wresog dros burdeb athrawiaethol â hwythau; y gwahaniaeth yw, nid yw yr olaf yn hòni hawl i anffaeledigaeth, yr hyn a wna y blaenaf, os nid mewn geiriau, etto mewn ymddygiadau mor uchel-groyw fel na ellir camddeall yr ysbryd.
Y mae y ffaith a gofnodwyd yn dangos yn eglur fod yr egwyddorion a gofleidio y farn yn dwyn dylanwad ar y galon, nes ei nhewid i'r unrhyw ddelw â hwy eu hunain; a pha rai yw y golygiadau cywiraf ar athrawiaethau gras, barned y darllenydd drosto ei hun, gan ystyried yr ysbryd a'r ffrwythau a gynnyrcha y ddau ddosbarth y bwriwyd golwg arnynt. Daw ansawdd a thymher ysbryd gwrthddrych ein Cofiant, un o'r rhai cyntaf a phenaf yn mhlith y tô diweddaf o dduwinyddion rhyddfrydig Cymru, dan sylw etto, pan ddelom yn mlaen i geisio rhoddi desgrifiad pennodol o'i nodwedd a'i deithi.
Yn fuan wedi cymmeryd o hono ofal bugeiliol yr eglwys fechan yn Rhos-Llannerchrugog, taer wahoddwyd ef i Langollen i bregethu. Nid oedd pregethu wedi bod gan yr Annibynwyr yn y dref hòno o'r blaen. Yr oedd Mr. E. Edwards, Trefor, wedi bod yn taer gymhell Mr. WILLIAMS amrywiol weithiau i fyned yno, ac yr oedd gwr parchus arall o'r dref hono, ag oedd yn aelod gyda y Trefnyddion Calfinaidd, yn awyddus iawn am ei gael yno. Fel ag yr oedd Mr. Edwards yn parhau i'w gymhell, ac wedi dyfod i'r Rhos, a gwr arall gydag ef, un Sabboth ar y neges hon, dywedodd Mr. WILLIAMS, "Pe gwyddwn mai ysbryd plaid sydd yn eich cynhyrfu, ni ddeuwn i Langollen byth," neu eiriau o'r cyffelyb. "Yr wyf yn sicrhau i chwi," ebe Mr. Edwards, "na buasai yn werth genyf symud cam oddicartref heddyw yn yr achos hwn, oni bai fod genyf rywbeth uwchlaw plaid mewn golwg." Ar hyn cytunodd Mr. WILLIAMS i fyned yno y Sabboth canlynol. Addawai y gwr y crybwyllwyd am dano o'r blaen, y cawsid benthyg capel y Trefnyddion iddo i bregethu; ond erbyn ymofyn yn fanylach, nid oedd i'w gael, ond cafwyd benthyg llofft helaeth y Royal Oak, ac yno y pregethodd ei bregeth gyntaf yn Llangollen, oddiar Sal. 119, 113, " Meddyliau ofer a gaseais." Cynnaliwyd pregethau rheolaidd yn Llangollen o'r dydd hwnw allan. Buwyd yn ymgynnull am gryn dymhor yn ngoruwch-ystafell y Royal Oak. Symudwyd wedi hyny i dŷ Mr. Thomas Simon. Casglwyd ychydig enwau yn nghyd yno, a sefydlwyd hon etto yn ganghen eglwys gyssylltiedig â'r lleill ag oeddynt dan ofal bugeiliol Mr. WILLIAMS. Wedi bod yno yn llafurio dan lawer o anfanteision am rai blynyddau, o eisieu lle mwy cyfleus i ymgynnull, penderfynwyd ar adeiladu capel yma drachefn. Hwn a adeiladwyd yn y fl. 1817. Priododd Mr. WILLIAMS yn y flwyddyn hon â Miss Rebecca Griffiths, o Gaer, yr hon oedd foneddiges ieuanc o gryn gyfoeth, a thra chyflawn o wybodaeth, doethineb, a synwyr, rhagorol mewn duwioldeb, a dysglaer yn mhob dawn rinweddol, ac felly yn mhob ystyr yn deilwng o'r ragorfraint o fod yn gydmar bywyd i wr o dymher serchus, calon haelionus, a doniau ysblenydd Mr. WILLIAMS; a dedwydd iawn a fuont yn eu gilydd, hyd nes eu gwahanwyd gan angeu. Bu, a dichon fod, ac y bydd etto, llawer o wragedd gweinidogion yn rwystrau ac yn faglau, yn ddarostyngiad a gwanychdod iddynt yn mhob ystyr; ond yr oedd y wraig ddoeth hon yn goron i'w gwr, "yn gymhorth iddo yn mhob golygiad; a diau ddarfod iddo ddysgu llawer mwy ar yr iaith Saesonaeg, a boneddigeiddrwydd moesau, oddiwrthi hi, nag a ddysgasai yn yr Athrofa. Bu iddynt bedwar o blant, dau fab a dwy ferch, tri o'r rhai sydd yn awr yn fyw; bu y ferch hynaf farw ychydig wythnosau o flaen ei thad, fel y ceir achlysur i grybwyll.
Lletyasai Mr. WILLIAMS dros y naw mlynedd blaenorol, sef o'r amser y daethai i'r Wern, hyd ei briodas â Mrs. Williams, yn nhŷ Mr. Joseph Challenor, gerllaw Adwy'rclawdd, yr hwn sydd etto yn fyw, ac wedi ennill iddo ei hunan radd dda, drwy wasanaethu swydd diacon yn ffyddlon a chymmeradwy yn eglwys y Wern dros lawer o flynyddoedd.
Yn fuan wedi ei briodi, symudodd i fyw i Langollen; cymmerodd daith drwy ranau o'r Deheudir y flwyddyn ganlynol, i gasglu at gapel newydd Llangollen. Pan ar y daith hon cafodd gymhelliad taer iawn gan eglwys luosog Abertawy, i ddyfod yno, a chymmeryd ei gofal gweinidogaethol; ond ni allai feddwl am adael yr ychydig braidd yn y Wern, a'r manau ereill, i ymdaraw drostynt eu hunain dan feichiau o ddyledion ag oeddynt yn aros ar eu haddoldai. Dewisodd yn hytrach ymwadu â'i esmwythder personol ac aros gyda hwy yn eu profedigaethau, i'w cynnorthwyo i ddwyn, ac ysgafnhâu eu gofalon.
Nid cymmaint fu llwyddiant ei weinidogaeth yn Llangollen; isel iawn oedd crefydd yn y dref hon yn mhlith pob enwad yr amser hwnw; ac nid ymddengys ei fod yn teimlo yn gysurus iawn tra y bu yno. Teimlai yr eglwys yn Rhosllanerchrugog, a theimlai yntau, ei bod o dan fawr anfantais o eisieu gweinidogaeth fwy rheolaidd; nid oedd erbyn hyn yn gallu myned yno yn amlach nag unwaith yn y pythefnos. Yn yr amgylchiad hwn, ymgynghorasant â'u gilydd yn nghylch ymofyn am weinidog iddynt eu hunain; gosodasant y peth o'i flaen yntau; dywedodd y deuai efe atynt os gallent gael tŷ cyfleus iddo i fyw; derbyniwyd y newydd gyda llawenydd mawr; ymofynwyd, a chafwyd tŷ cyfleus, yr wythnos ganlynol, sef y Talwrn, tua milldir o'r Rhos, ar ffordd y Wern; a symudodd yntau a'i deulu yno yn fuan; sylwai ar ei ddychweliad at ei hen gyfeillion, ei fod wedi cael gafael ar ei hen lyfr gweddi drachefn.
Dechreuasid pregethu gan yr Annibynwyr yn Rhuabon hefyd, yn agos i'r un amser â Llangollen. Byddai y myfyrwyr o Wrecsam yn dyfod yno ar gylch; y Parch. J. Breese, wedi hyny o Lynlleifiad, yn awr o Gaerfyrddin, a ddeuai yno fynychaf; pregethodd Mr. WILLIAMS ei bregeth gyntaf yno yn 1813, oddiwrth Luc 24, 47, "A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef, yn mhlith yr holl genedloedd, gan ddechreu yn Jerusalem." Bu y bregeth hon yn allu Duw er iachawdwriaeth i rai eneidiau. Dygwyddodd i un dyn tra annuwiol ac erlidgar ddyfod heibio i'r tŷ ar amser y bregeth, a throes i mewn, ymaflodd y gwirionedd yn ddwys yn ei feddwl, a chaled oedd iddo geisio gwingo yn erbyn y symbylau; ac efe oedd un o'r rhai cyntaf o ddaethant yn mlaen i ymofyn am aelodaeth eglwysig yn Rhuabon; yr oedd yn un o'r ychydig nifer yn ffurfiad cyntaf yr eglwys yno; hyn a gymmerodd le yn y flwyddyn rag-grybwylledig mewn tŷ annedd bychan; yr oedd Mr. Breese, ag oedd yn fyfyriwr y pryd hyny, yn cynnorthwyo Mr. WILLIAMS ar yr amgylchiad hwn. Bu yr eglwysi yn Rhuabon a Llangollen, dan ofal Mr. WILLIAMS, gan eu gwasanaethu ei hunan hyd y gallai, a gofalu am gynnorthwyon i lenwi y bylchau yn rheolaidd, hyd y flwyddyn 1822, pan yr ymunodd y ddwy i fod yn weinidogaeth rhyngddynt yn ol cynghor a dymuniad Mr. WILLIAMS; cytunasant i roddi galwad i Mr. W. Davies, myfyriwr yn Athrofa y Drefnewydd, yr hwn sydd yn bresennol yn gweinidogaethu yn Rhydy ceisiaid, swydd Gaerfyrddin, yr hwn a gyd-syniodd â'u cais, ac a sefydlwyd yn fugail arnynt y flwyddyn ganlynol. Adeiladwyd capel Rhuabon dan arolygiaeth Mr. WILLIAMS, ac agorwyd hefyd yn yr un flwyddyn, sef 1813.
Yr oedd baich ei ofal erbyn hyn wedi ei ysgafnhâu yn fawr; nid oedd ganddo mwyach dan ei ofal neillduol, ond Harwd, y Wern, a'r Rhos. Yr oedd y gwrandawyr a'r eglwysi yn y ddau le olaf yn myned ar gynnydd mewn rhifedi yn barhaus; ond am y cyntaf, Harwd, er cymmaint oedd dyfalwch, ffyddlondeb a doniau poblogaidd Mr WILLIAMS, yr oedd yr achos yn gwywo, ac yn marw dan ei ddwylaw; ychydig iawn a ddeuent i'w wrando yno. Dywedai fod Harwd wedi bod o fwy o les iddo ef, nag a fuasai efe i Harwd, ei bod yn swmbwl yn ei gnawd fel na'i tra dyrchefid, gan fawredd ei boblogrwydd cyffredinol mewn manau ereill; os byddai yn teimlo tuedd i ymchwyddo wrth weled tyrfaoedd mawrion yn ymgasglu i'w wrando, byddai cofio am Harwd, yn foddion i roddi attalfa arni. Rhoddodd ofal Harwd i fynu yn y flwyddyn 1828, a chymmerodd y Parch. Jonathan Davies, fugeiliaeth y lle mewn cyssylltiad â Phenuel, yn ardal Hope.
Gan nad oedd Mr. WILLIAMS, fel y sylwyd, wedi ysgrifenu dydd-lyfr, nid oes genym unrhyw ddygwyddiadau neillduol i'w cofnodi yn hanesyddiaeth ei fywyd, hyd nes y delom at y blynyddoedd diweddaf o hono. Ymdrechir gwneuthur y diffyg hwn i fynu goreu y gellir pan y delom i geisio rhoddi desgrifiad mwy neillduol a manylaidd o'i nodwedd gweinidogaethol. Gallem ychwanegu yn unig yn y lle hwn, iddo dreulio y blynyddoedd hyn o'i oes mewn llafur mawr, diwyd, a diflino, a mwynhau ar y cyfan, radd dda iawn o iechyd, a chysuron teuluaidd ac eglwysig. Teithiai lawer oddicartref i gyfarfodydd, yn mhell ac yn agos. Yr oedd yr eglwysi a'r gwrandawyr yn mhob man yn "dysgwyl am dano fel am y gwlaw," yn lledu eu genau am ei weinidogaeth, "fel am y diweddar-wlaw," a phan glywai clust ef, hi a'i bendithiai; "Canys ei athrawiaeth a ddyferai fel gwlith, a'i ymadrodd a ddefnynai fel gwlaw, fel gwlith-wlaw ar îrwellt, ac fel cawodydd ar laswellt." Ystyriai yr holl eglwysi WILLIAMS fel meddiant cyffredin, (public property,) ac yr oeddynt megys yn tybied bod ganddynt hawl gyfiawn i alw am ei wasanaeth pa bryd bynag y meddylient ei fod yn anghenrheidiol; ac mewn gwirionedd yr oedd llawer o reswm a phriodoldeb yn y dybiaeth hon; buasai yn drueni, ac yn golled gyffredinol i'w ddoniau a'i dalentau, gael eu cyfyngu o fewn cylch cynnulleidfa neu ddwy; ond teilwng iawn fuasai i'r fath wasanaeth gwerthfawr gael ei gydnabod yn well nag y cafodd; nid oes ynof yr amheuaeth leiaf, na threuliodd fwy o'i arian ar ei deithiau wrth wasanaethu yr eglwysi, nag a dderbyniodd am ei lafur. Yr oedd hyny yn eithaf annheilwng, ac anghyfiawn. Yr unig gwyn a ddygai'r eglwysi dan ei ofal yn ei erbyn, oedd, ei fod yn myned yn rhy fynych oddicartref. "Yr wyf yn deail, (meddai unwaith wrth frawd yn y weinidogaeth,) bod eich pobl chwithau yn cwyno llawer o herwydd eich bod yn myned gymmaint oddiwrthynt, peidiwn a chwyno bod yr eglwysi ereill yn galw am danom, a'r eglwysi gartref yn cwyno ar ein hol, ond diolchwn lawer am nad yw fel arall; yr eglwysi gartref yn cwyno ein bod yn aros gormod gyda hwynt, eisieu newid mwy â gweinidogion ereill; ac eglwysi ereill, yn well ganddynt beidio a'n gweled yn dyfod atynt ar y Sabboth na chyfarfod, a ninnau felly fel llestr heb hoffder ynddo;' y mae ryw faint yn boenus fel hyn, ond buasai yn dlawd iawn fel arall; cysur mawr ydyw i ni gael lle i feddwl fod ein gweinidogaeth yn gymmeradwy gan y saint.' Byddai yn llawer llai o draul a llafur i ni aros gartref, ond y mae amgylchiadau yr achos yn ein plith yn bresennol, yn gofyn am i ni aberthu rhyw faint yn y peth hwn." Buasai yn dda genym allu rhoddi cofrestr o'i deithiau, a'i lafur, yn y blynyddoedd hyn; hauodd lawer iawn o'r "hâd da" yn maes y Dywysogaeth, a chyrion Lloegr hefyd, o'r areithfaoedd, ac mewn cyfeillachau a theuluoedd; yr oedd yn dyfal ddilyn cyfarwyddyd y pregethwr, "Y boreu haua dy hâd, a'r prydnawn nac attal dy law, canys ni wyddost pa un a ffyna ai hyn yma, ai hyn acw, ai ynte da a fyddant ill dau yn yr un ffynud." Cynhauafwyd llawer t'wysen aeddfed i ogoniant a gododd i fynu o'r hâd a wasgarodd, a diau y cesglir llawer etto.
Oes y drafferth fawr gydag adeiladu addoldai newyddion oedd oes weinidogaethol Mr.WILLIAMs, yn enwedig y blynyddoedd y cyfeirir atynt yn bresennol; a chafodd ef ei gyfran helaeth o'r drafferth a'r gofal yma. Byddai ef a'i auwyl frodyr Jones o Dreffynnon, a Roberts o Ddinbych, yn fwyaf neillduol, yn wrthddrychau i apeliadau a chwynion o bob man yn mron, yn swyddi Dinbych a Fflint, ag y byddai angen am le newydd i addoli ynddynt; a byddai eu hysgwyddau yn fynych dan bynau trymion o'r gofal. Yr oedd gan Mr. WILLIAMS gariad neillduol at, a phryder mawr am yr achos, yn y manau hyny ag y cawsai lawer o draul a llafur gyda hwynt. Wrth adrodd ei deimlad hwn unwaith, sylwai, "Y mae hon yn reddfol yn ein natur, bod i ni deimlo cariad a gofal at ac am beth a fyddo wedi costio yn lled ddrud i ni; yr oedd mam Jabes yn anwylach o hono nag un arall o'i phlant, oblegid iddi ei ddwyn ef drwy ofid.' Y mae genyf finnau ryw serch mwy neillduol at ryw fanau nâ'u gilydd, oblegid i mi gael mwy o ofal a gofid o'u hachos." Gwnai yr un sylw yn mhen amryw o flynyddau drachefn, ac yn agos i ddiwedd ei oes, a chan gyfeirio at Ruthun yn neillduol, dywedai, "Y mae genyf ofal mawr er ys blynyddau am yr achos gwan yn thun, cefais lawer o drafferth a gofid gyda'r capel yno, a gweddiais lawer hefyd dros yr achos yno; y mae yn llawenydd mawr i mi weled yno weinidog o'r diwedd ag sydd yn debyg o fod yn un gweithgar a defnyddiol—yr wyf yn dra hyderus, y cyfyd crefydd ei phen odditan y dwfr yn raddol yno."
Diau y dylai, a diau fod coffadwriaeth y cyfiawn hwn yn fendigedig ac anwyl gan holl eglwysi Annibynol y Dywysogaeth; y rhai oll i raddau mwy neu lai a ddyfrhawyd â'i weinidogaeth; ond yn nesaf at eglwysi Harwd, y Wern, Llangollen, Rhuabon, Rhosllanerchrugog, a Llynlleifiad, y rhai a fuant yn wrthddrychau ei ofal bugeiliol; dylai eglwys Ruthun ac eglwys Gymreig Manchester, yn neillduol, fendithio ei lwch, a theimlo bythol anwyldeb tuag at ei enw a'i goffadwriaeth.
Ymwelodd Mr. WILLIAMS â'r brif-ddinas amrywiol weithiau, ac yr oedd ei barch, ei dderbyniad, a'i boblogrwydd yno, yn mhlith ein cyd-genedl, a'r Saeson hefyd yn fawr iawn. Yr oedd Duw yn arogli arogledd ei wybodaeth drwyddo yn mhob man." Y mae ei enw yn gariadus ac anwyl yno, fel yn mhob lle arall. Rhoddodd genedigaeth Iachawdwr y byd gyhoeddusrwydd ac enwogrwydd i Bethlehem fechan, na chawsai byth m'o hono, oni buasai yr amgylchiad hwnw; ac yn gyffelyb yn ei gyssylltiad ag enw ei ffyddlon was, WILLIAMS, rhoddwyd cyhoeddusrwydd ac enwogrwydd i enw y Wern, fel y daeth ei sain yn adnabyddus i glustiau miloedd yn Nghymru, Lloegr, ac America, na chlywsent byth am dani oni bai hyny.
Rhoddwn yn y fan hon bigion o lythyr y Parch. Calvin Colton, gweinidog enwog o America, a ysgrifenwyd ganddo yn Llundain, pan ar ymweliad yno; ac a ymddangosodd yn y "New York Observer," am Mawrth 7, 1835. Barnasom y rhoddai rhanau o'r llythyr hwn gryn ddifyrwch i'n darllenwyr yn gyffredin, fel ag y mae yn cynnwys sylwadau gŵr enwog o estron ar deithi a nodwedd ein cenedl, ac o herwydd hyny, rhoddir rhai darnau o hono yma, ag nad ydynt yn dal perthynas uniongyrchol â gwrthddrych ein cofiant.
"Llundain, Ion. 19, 1835. "CYMMERWCH ddysglaid o dê gyda ni y prydnawn heddyw am bump,' ebai gwraig anrhydeddus a chrefyddol o Gymraes wrthyf ddoe, ar ddiwedd addoliad boreuol yn un o addoldai Llundain, 'a daw fy ngwr gyda chwi i'r Borough, y capel Cymreig, lle yr ydych yn bwriadu myned. Chwi a gewch gyfeillach Mr. WILLIAMS, y gwr sydd i bregethu, a Mr. Roberts hefyd, yr hwn sydd i gymmeryd rhan yn y gwasanaeth, a dau neu dri ereill o weinidogion Cymreig, ag ydym yn ddysgwyl,'
"Fel yr oeddym yn croesi pont Southwark, wrth fyned tua'r Capel, ar ol tê, dywedai y gwr y buasem yn ei dŷ wrth Mr. Roberts, un o'r pregethwyr, 'Rhaid i chwi roddi i ni sylwedd eich pregeth yn Saesonaeg, gan nad yw ein cyfaill hwn (gan gyfeirio ataf fi) yn deall Cymraeg, Yr wyf wedi crybwyll wrth Mr. WILLIAMS, ac y mae yntau wedi addaw yr un peth.' 'Pa beth,' meddwn i, ‘a ydych yn ddifrifol?' 'Bid sicr,' eb efe. Y mae hyny yn anrhydedd na ddysgwyliais erioed am dani; ac heblaw hyny, yr wyf yn myned i'r capel heno i wrando Cymraeg, ac nid Saesonaeg.' Y mae y Cymry yn bobl dra chrefyddol—yn fwy felly nâ'r Yscotiaid na'r Americaniaid—hwyrach nad oes cenedl Gristionogol arall yn y byd a ddengys gymmaint o deimlad crefyddol, neu y gellir ei dwyn fel corff i'r fath raddau dan awdurdod a dylanwad crefydd. Y maent tua miliwn o rifedi, yn wasgaredig dros wyneb 150 o filldiroedd wrth 80, neu bum miliwn a dau cant o filoedd (5,200,000) o erwau o dir, rhanau o'r hwn a gynnwysant y golygfeydd prydferthaf yn Mhrydain Fawr.
* * * * Y mae y Cymry, gan mwyaf, yn siarad eu hiaith eu hunain, ac yn diwyllio dysgeidiaeth Gymreig. Y maent yn falch o'u henafiaeth, ac yn meddwl, gyda golwg ar hyn, eu bod yn un o'r cenedloedd anrhydeddusaf ar y ddaear. Y mae eu serch at eu hiaith yn nodedig, ac yr wyf yn cael fy nhueddu i'r un farn â hwy, y gellir ei defnyddio gyda nerth a dylanwad ar deimladau a nwydau y natur ddynol, yr hwn na all yr iaith Saesonaeg ddwyn un cydmariaeth iddo. Ymddengys bod yr effeithiau a gynnyrcha eu barddoniaeth a'u pregethau yn profi hyn. Y mae eu dynion mwyaf coethedig yn ddirmygus o'r iaith Saesonaeg mewn cymhariaeth i'w tafodiaith gynhenid, er y byddant mor hyddysg yn y naill ag yn y llall, yn neillduol os byddant o dymher awengar.
"Gellir dywedyd bod gan awenyddiaeth a chrefydd gartref yn serchiadau y Cymry mwy nag yn yr eiddo unrhyw genedl arall.
* * * *Dyna yw fy marn bersonol fy hun. Yr wyf yn cyffesu fy mod yn llwyr grediniol o wirionedd adfywiadau crefyddol America, er bod yno lawer o bethau ag hwnw ag sydd yn ddianrhydedd iddynt. Yr wyf yn credu hefyd bod yr ydynt yn myned dan yr enw adfywiadau hyn, sef y rhai gwirioneddol, yn waith Ysbryd Duw, ond nid, pa fodd bynag, yn annibynol ar drefniadau cymdeithasol. Gall fy mod yn methu, ond y mae sylw ac ystyriaeth wedi fy ngorfodi i ddyfod i'r penderfyniad, nad ydynt i'w dysgwyl yn sefyllfa cymdeithas na byddo ynddi gymundeb o deimlad; y mae cymundeb hwn o deimlad yn anghenrheidiol, fel ffrydle y dylanwad, yr hwn a ddefnyddia Ysbryd Duw i'r cyfryw ddybenion.
Yn y golygiad hwn yr wyf yn ystyried Cymru yn mhell iawn o flaen rhanau ereill o'r ymerodraeth Frytanaidd. Y mae y Cymry, gydag ond ychydig iawn o eithriadau, yn un gymdeithas gyffredin; yr hyn a deimla un a deimla pawb, os bydd yn achos o bwys cyffredinol; ac yr wyf yn credu ei fod yn gwbl wirionedd fod crefydd yn eu plith hwy yn wrthddrych mwy o deimlad a gofal cyffredinol nâ dim arall. Fy meddwl ydyw, nas gellir eu dwyn i deimlo, fel corff yn gyffredinol, mor ddwfn a dwys, gyda golwg ar unrhyw achos arall. Y mae yn mhell o fod felly yn Lloegr; y mae Yscotland beth yu nes, fe allai; y mae yn mhellach fyth o fod felly yn yr Iwerddon annedwydd.
"Ond y mae rhesymau cryfion ereill dros y golygiad hwn. Y mae dylanwad y sefydliad gwladol wedi ei lwyr ddiddymu agos yn Nghymru; y mae y weinidogaeth yno wedi mawr gynnyddu mewn cymhwysderau a ffyddlondeb, ac ar gynnydd yn barhaus. Y mae eu sel gynnyddol, o fewn ychydig o flynyddau, wedi codi lleoedd o addoliad agos, os nid llawn ddigon i gynnwys holl boblogaeth y dywysogaeth, a dysgwylir y byddant yn alluog i'w cynnysgaeddu â gweinidogion teilwng. Yr Annibynwyr Cymreig yn unig a aethant yn ddiweddar gymmaint dros ben eu gallu wrth adeiladu lleoedd o addoliad, nes tynu arnynt eu hunain yn agos i bymtheng mil a deugain o bunnau o ddyled. Wrth weled fod y baich hwn o ddyled yn attalfa mor fawr am eu llwyddiant crefyddol, daethant i'r penderfyniad ardderchog i wneuthur un ymdrech egniol er rhyddhau eu hunain oddiwrtho ar unwaith. Cyfranwyd y swm o ddeunaw mil, pedwar cant, a phedair o buunau yn y dywysogaeth yn unig; ac anfonasant genadau i Lundain, a rhanau ereill o Loegr, i wneuthur apeliad at eu brodyr Saesonig i'w cynnorthwyo i dalu y gweddill, yr hyn sydd, nid yn unig yn debyg o gael ei berffeithio, ond y mae yr anturiaeth wedi peri i'r Annibynwyr Saesonig feddwl cymmeryd yr un drefn i dalu dyledion eu haddoldai eu hunain, y rhai ydynt hefyd dan gryn faich; a dysgwylir y bydd iddynt yn fuan ddilyn esiampl eu brodyr Cymreig, ac fel hyn brofi i Loegr a'r byd oll, pa mor nerthol ac effeithiol ydyw yr egwyddor wirfoddol.
"Oud y mae yn amser i mi, bellach, ddwyn y llythyr hwn i derfyniad, drwy wneuthur sylw byr o'r cyfarfod Cymreig y bum ynddo neithiwr. Trefn y cyfarfod ydoedd dwy bregeth ar ol eu gilydd, a chanu rhyngddynt. Dywedir i mi fod yr arfer yma yn un dra chyffredin yn Nghymru, pan ddygwyddo dau weinidog dyeithr gydgyfarfod, a phob amser yn y gymmanfa. Nid yw yn beth anghyffredin ar yr achlysuron hyny fod amrywiol bregethau ac anerchiadau yn cael eu traddodi yn olynol yn yr un oedfa. Pregethu ydyw eu mawr ddywenydd cymdeithasol, ac y maent yn caru cael gwledd o hono.
"Y bregeth gyntaf neithiwr a draddodwyd gan y Parch. Samuel Roberts, o Lanbrynmair, oddiwrth Job 35, 10, 'Pa le y mae Duw, yr hwn a'm gwnaeth i, yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?" Treuliodd oddeutu deng mynud (er fy mwyn i) i roddi sylwedd ei bregeth yn Saesonaeg; wedi hyny llefarodd tua chwarter awr yn Gymraeg. Y mae yn wr ieuanc o dalentau gorwych, hawddgar, duwiol, tra pharchus, a mawr ei ddylanwad; medd yr anrhydedd o fod yn wr tra dysgedig, yn awdwr gwych, ac ennillodd amryw wobrwyon yn yr eisteddfodau. Y mae yn anuhraethol fwy o anrhydedd iddo ei fod yn llwyddiannus iawn mewn ennill eneidiau at Grist. Y mae yn llawn mor hyddysg yn yr iaith Saesonaeg ag ydyw yn ei iaith ei hun, a'r drychfeddyliau a adroddai efe yn Saesonaeg oeddynt fuddiol, prydferth, a thra effeithiol, ond yn hytrach yn farddonol, fel ag yr oedd y testun yn ei arwain yn naturiol i'r cyfryw ddull: Yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos.' Ei brif fater ydoedd dangos rhagoriaeth cysuron y credadyn ar yr eiddo yr anghredadyn, yn ngwahanol dymhorau ac amgylchiadau eu bywyd, ac, yn olaf, yn awr angeu, lle y perffeithiwyd y darlun yn y modd mwyaf effeithiol. Argyhoeddwyd fy meddwl na allai dim ond ffrwythlonrwydd yr iaith Gymraeg osod allan ddelweddau yr olygfa olaf hon, fel ag yr oedd ei law yn ei cherfio drwy yr ychydig eiriau Saesonig a ddefnyddiai i'w harddangos. Yr oedd yn tra ragori ar ddim o'r fath a wrandawswn o'r blaen.
Dilynwyd Mr. Roberts gan y Parch. W. WILLIAMS, o'r Wern. Ei destun ydoedd, 'O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim; etto, ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd,' Luc 5, 5. Rhoddodd yntau sylwedd ei bregeth yn Saesonaeg. Mawr oedd fy syndod at alluoedd a chyrhaeddiadau dyn, yr hwn oedd yn ddwy-ar-hugain oed cyn dechreu dysgu yr egwyddor yn iaith ei fam.[1] Y mae yn wr o wneuthuriad Duw ei hun mewn amryw ystyriaethau, ac yn un o ddynion mawrion Cymru; mawr yn ei gymhwysderau naturiol; mawr mewn canlyniad i'w lafur a'i ddiwydrwydd; a mawr yn ei wybobaeth a'i ragoriaethau crefyddol. Ei fater oedd, Mai nid ein teimladau, ond gair Duw ydyw rheol ein dyledswydd. Dangosai yr anghyssondeb a'r gwrthuni osod teimladau yn rheol dyledswydd; oblegid felly, pa fwyaf anystyriol a llygredig a fyddai y dyn, lleiaf oll fyddai ei rwymedigaethau i ufyddhau a byw yn dduwiol!
"Er ddarfod i'w bregeth pan draddodid hi yn Gymraeg, yn ei helaethrwydd a'i manylrwydd, gynnyrchu effeithiau a barent argraff ddwys iawn ar fy meddwl; etto, fel y'm hysbyswyd heddyw gan weinidog Cymreig arall, nid oedd mewn cymhariaeth ond methiant, oblegid iddo roddi y sylwedd o honi yn gyntaf yn Saesoneg, yr hon a ddeallai y rhan fwyaf o'r gynnulleidfa, yr hyn a leihâi yr astudrwydd yn ail-adroddiad y sylwadau. Gofidiai y brawd hwn yn fawr ddarfod i'r pregethwyr aberthu yr effeithiau a allasent gynnyrchu, drwy dalu gormod o sylw i mi. 'Nid i wrando pregeth Saesonaeg, ond Cymraeg, yr aethai Mr.—— yno,' eb efe wrth frawd arall, a thrueni ddarfod i neb geisio ganddynt wneyd." Yr oedd yn hollol yn ei le, ac ni allasai neb fod yn fwy blin arno o'r plegid nâ myfi, er i'r peth gael ei wneuthur er fy mwyn i yn bennodol.
"Ond etto, yr oedd yn bregeth dra bywiog a nerthol. Tra y traddodai yn Saesonaeg, yr oedd yn ddigon amlwg nad oedd gartref, nac yn ei elfen briodol; ac fel y dywedai wrthyf wedi hyny:—' Pan fyddwyf yn troseddu rheolau y Saesonaeg, byddaf yn gyffelyb i blentyn diriad ar ol tòri chwarel o wydr ffenestr—ni byddaf byth yn cynnyg troi yn ol i geisio gwella pethau, ond yn rhedeg ymaith, dan obeithio na bydd neb wedi fy ngweled a sylwi.' Tra yr ydoedd yn llefaru yn Saesonaeg, yr oedd y gynnulleidfa yn farwaidd; ond y foment yr agorodd ei enau yn Gymraeg, deffrowyd eu hystyriaethau, cynnyddai yr effeithiau fel yr elai yn mlaen; yr oeddynt fel yn crogi wrth ei wefusau, agorent eu geneuau, gwenent mewn cymmeradwyaeth, ac unwaith chwarddent allan. Ymofynais wedi hyny, pa un a oedd y teimlad hwnw ag oedd mor gyffredinol drwy y gynnulleidfa, a'r hwn oedd mor debyg i chwerthiniad, wedi ei achosi gan ffraetheb (wit)? 'Nac oedd,' meddid, 'ond trwy gymhwysiad bywiog o'r gwirionedd a drinid ganddo: cynhyrfai y pregethwr eu teimladau drwy gyfeirio at amgylchiad diweddar perthynol iddynt hwy fel cynnulleidfa, o'r hwn yr oeddynt oll yn hysbys, a theimlent ei rym mor effeithiol nes na allent ymattal rhag dangos eu teimladau yn y dull y gwnaethant.' Hysbysir i mi fod y Cymry weithiau yn eu cynnulliadau crefyddol yn amlygu eu teimladau yn y dull hwn."
Yr ydym bellach yn dyfod at gyfnod arall yn mywyd Mr. WILLIAMS: yn fuan wedi ei ddychweliad adref o'r brif-ddinas y tro y cyfeiriwyd ato uchod, dechreuodd awyrgylch ei gysuron wisgo cymylau a thywyllwch. Mwynhasai bedair blynedd ar bymtheg o heddwch a dedwyddwch gyda'i briod rinweddol a'i blant hawddgar, ond yn awr cafodd brofi mai ansicr ac anwadal yw cysuron daearol. Dechreuodd drygfyd yn ei dŷ.
Yr oedd iechyd Mrs. Williams wedi bod yn hytrach yn well nag arferol er ys rhai blynyddau yn flaenorol i 1835. Yn y flwyddyn hono cafodd anwyd trwm, yr hwn a effeithiodd yn ddwys ar ei chyfansoddiad gwanaidd; gwellhaodd i ryw raddau, ond yr oedd peswch poenus wedi glynu wrthi, yr hwn na allai un moddion ei symud. Tua dechreu y A. 1836, yr oedd arwyddion eglur i'w canfod bod y natur a'r cyfansoddiad yn prysur roddi ffordd dan ddylanwad darfodedigaeth, ac ar y trydydd o Fawrth y flwyddyn hòno, gorphenodd ei gyrfa mewn tangnefedd, a'i llygaid yn gweled iachawdwriaeth yr Arglwydd. Ysgrifenodd ein cyfaill hoffus, y Parch. T. Jones, Minsterley, Gofiant byr am y fam enwog hon yn Israel, yr hwn a ymddangosodd yn y DYSGEDYDD am Orphenaf, 1836. Wedi rhoddi byr-ddesgrifiad o nodwedd rhinweddol ei bywyd fel priod, mam, a Christion, cawn y dystiolaeth ganlynol am agwedd a phrofiad ei meddwl yn ei dyddiau olaf:
"Trwy ei chystudd oll yr oedd ei meddwl yn dawel a chysurus, nes oedd yn hyfrydwch bod yn ei chyfeillach. Yr oedd cysuron y grefydd a'i cynnysgaeddodd â'r fath gymhelliadau i ddyledswydd a bywyd duwiol, yn awr yn llifo fel afon i'w henaid, ac yn talu yn dda am bob traul a thrafferth a gymmerasai. Yr oedd ei meddwl yn gwbl ar Grist, ac yn rhyfeddu ei bod wedi caru cyn lleied arno, a gwneuthur cyn lleied drosto. Gyda'r myfyrdodau hyn ymddifyrai yn fawr mewn amryw bennillion, megys y canlynol:—
"Fy Nuw, fy nghariad wyt, a'm rhan,
A'm cyfan yn dragwyddol;
Ni feddaf ond tydi'n y ne',
Nac mewn un lle daearol."
"Yn ei horiau diweddaf, yn neillduol, yr oedd ei ffydd yn hynod o gref, eglur, a rhesymol, etto yr oedd yn ystyriol o dwyll y galon lygredig, ac yn ofni cymmeryd rhyfyg yn lle ffydd ddiffuant. Pan fyddai ei chysuron yn gryfion iawn, gofynai yn fynych, 'Can this be presumption?' A ddichon hyn fod yn rhyfyg? ac adroddai rai o'i hoff bennillion, megys—
"Tydi yw'r Môr o gariad rhydd,
Lle daw'm llawenydd dibaid;
Trogylch fy holl serchiadau wyt,
A Chanolbwynt fy enaid.
Fy enaid atat ti a ffy
Mewn gwresog gry' ddymuniad,
Ond O, mor bell yr wyf er hyn;
O Iesu! tyn fi atad."
"Ei gweddi barhaus oedd am fwy o santeiddrwydd, a chael ei meddwl wedi ei sefydlu yn fwy ar Grist, fel pa nesaf i'r nefoedd yr oedd yn tynu, mwyaf i gyd oedd yn weled o'i gwaeledd; yn debyg i Paul wedi bod yn y drydedd nef, yn gwaeddi allan, 'Nid wyf fi ddim.' Dywedai yn aml am werthfawredd crefydd y galon—nad oedd crefydd allanol werth dim heb grefydd y meddwl. Ychydig oriau cyn ei hymadawiad, yn ymwybodol fod yr amgylchiad yn nesâu, ffarweliodd yn dawel â'i phriod hawddgar ac â'i phlant anwyl, gan eu cynghori yn y modd dwysaf, a'u rhybuddio gyda'r difrifoldeb mwyaf, i fod yn sicr o'i chyfarfod hi yn y nefoedd; yna torodd allan mewn llef eglur, 'Ac y'm ceir ynddo ef,'
"Yn ei mynudau olaf dywedai ei merch hynaf wrthi, fod yn anhawdd iawn ymadael. Atebai hithau, 'Nac ydyw, nac ydyw!' Dywedai fod ganddi lawer o gyfeillion yn y nefoedd, a dysgwyliai y byddai Jones o Dreffynnon, a Roberts o Lanbrynmair, a llawer ereill, yn ei chroesawi i mewn; ond meddyliai nas gallai gymmeryd amser i ysgwyd llaw â hwy i gyd, cyn myned i fwrw ei choron i lawr wrth draed yr Hwn a fu farw dros y penaf o bechaduriaid.
"Fel ffrwyth aeddfed, wedi ymddiosg oddiwrth bob peth gweledig, ar ddydd Iau, Mawrth 3, 1836, ehedodd ei henaid dedwydd i'w gartref bythol; gadawodd y byd trancedig, yn yr hwn yr ymlwybrasai dros 53 o flynyddau; aeth i fyd didranc a diofid; ymadawodd â'i phriod naturiol, ac aeth i fyw at briod ei henaid; ffarweliodd â'i chyfeillion daearol i fyned at luoedd o gyfeillion nefol, 'at fyrddiwn o angylion, ac at Gyfryngwr y Testament Newydd.'
"Dydd Mercher y 9fed, claddwyd ei rhan farwol yn nghladdfa capel y Wern, pryd y gweinyddodd y Parch. J. Saunders, Buckley. Y Sabbath canlynol, pregethwyd ar yr achlysur i dyrfa luosog, gan y Parch. I. Harris, Waeddgrug, oddiwrth Diar. 10, 7."
Effeithiodd marwolaeth Mrs. Williams yn drwm iawn ar deimladau Mr. WILLIAMS; curiodd a gwaelodd yn fawr yn ei iechyd dan y brofedigaeth hon. Yr oedd yn llawn deim. ladwy o fawredd ei golled ei hun, a cholled ei blant, yn ei marwolaeth hi; ac er cryfed ydoedd ei feddwl, ei synwyr, a'i ras, bu agos iddo ymollwng dan faich o deimlad galarus y pryd hwn. Ymddengys ei fod wedi hyn megys yn dymuno ymadael o'r ardaloedd lle y treuliasai holl flynyddau dedwydd (mewn cydmariaeth) a llafurus ei oes weinidogaethol ynddynt, ac anghofio ei ofid mewn golygfeydd a chyda chyfeillion newyddion. Yn y flwyddyn ganlynol, 1837, derbyniodd alwad unleisiol oddiwrth eglwys Gymreig y Tabernacl, Great Crosshall Street, Llynlleifiad, a chydsyniodd â hi, a rhoddodd yr eglwysi yn Rhos a'r Wern i fynu gyda chalon drom ei hun, ac er gofid mawr iddynt hwythau. Wedi bod o honynt gyda'u gilydd mewn cariad ac anwyldeb mawr dros ddeng mlynedd ar hugain. "Soniais lawer gwaith," meddai, "am roddi yr eglwysi i fynu, ac ymadael, ond ni ddychymmygais erioed y buasai yn waith mor galed hyd nes aethum yn ei gylch o ddifrif."
yr Parodd y newydd am ei symudiad syndod ac anfoddlonrwydd cyffredinol drwy Gymru yn mron, a gellir dywedyd mai dyma yr unig ymddygiad yn mywyd Mr. WILLIAMS ag y darfu i gyfeillion na gelynion fedru ei feio o'i herwydd: yn WILLIAMS O'R WERN y mynai y bobl iddo fod, fel pe buasai cyssylltiad annattodadwy rhwng y ddau enw a'u gilydd; a phenderfynent yn mhob man i wneuthur hyny o ddial arno, sef na alwent ef byth wrth un enw arall, pe buasai yn byw hanner cant o flynyddau. Pa un bynag a ymddygodd yn ddoeth ac yn ei le yn ei waith yn symud, ai peidio, diau fod llawer ag oeddynt yn ei feio yn siarad dan eu dwylaw, ac yn hollol anwybodus o'r rhesymau ag oedd ganddo ef i'w dueddu i wneuthur y penderfyniad hwnw. Dywedai lawer gwaith ei fod yn dawel ei feddwl, wedi difrifol a manwl ystyried yr holl amgylchiad, a gweddïo llawer am arweiniad dwyfol, nad oedd wedi pechu yn erbyn y nef a'i gydwybod ei hun, er ei fod yn droseddwr yn ngolwg llaweroedd ag nad oedd ganddynt y wybodaeth anghenrheidiol i roddi barn deg ar yr achos. Ac yn awr, wedi cael holl amgylchiadau a chanlyniadau ei symudiad gerbron ein sylw, fe allai bod mor anhawdd ag erioed i ni ddyfod i benderfyniad sicr yn ein meddyliau yn y mater, sef pa un a ymddygodd yn ddoeth ac yn ei le yn ei waith yn symud, ai peidio. Pan edrychom ar fawr lwyddiant ei weinidogaeth yn ystod y tair blynedd olaf o'i fywyd yn Llynlleifiad o un tu, buan adfeiliad ei iechyd ef ei hun a'i ferch hynaf, yr hyn a'u dygodd ill dau i wared i'r bedd mor fuan, ar y llaw arall, a gosod y naill beth ar gyfer y llall, nid oes genym ond tewi, ac yn wir, ni pherthyn i ni farnu. Ond y ffeithiau ydynt: Ymadawodd o'r Wern-ymsefydlodd yn Llynlleifiad—treuliodd dair blynedd o fywyd llafurus a llwyddiannus iawn yno adfeiliodd yn brysur o ran ei iechyd a'i gyfansoddiad—dychwelodd yn ol i'r Wern, a gorphenodd ei yrfa a'i fywyd llafurus a defnyddiol mewn tangnefedd. Yr amgylchiadau olaf hyn a fyddant yn ddefnyddiau y bennod nesaf. Dygwn y bennod i derfyniad â byr grynodeb o'i bregeth ymadawol yn Rhos a'r Wern y Sabboth cyn ei symudiad oddiwrth anwyl bobl ei ofal, sef y 26ain o Fedi, 1837. Yr oedd yr ysgrifenydd yn yr un amgylchiad ag ef ar yr un amser, neu yn mhen ychydig ddyddiau ar ol iddo ef, Mr. WILLIAMS, benderfynu symud i Lynlleifiad, penderfynodd yntau, yr ysgrifenydd, symud oddiwrth bobl a'i mawr garai, ac a fawr gerid ganddo, i'r dosbarth o winllan ei Arglwydd ag y mae yn awr yn cael y fraint o lafurio ynddo. Cyfarfu & Mr. WILLIAMS yr wythnos ar ol ei ymadawiad o'r Wern: "Wel," eb efe, "yr ydych chwithau ar fin yr amgylchiad caled o ymadael; un caled iawn ydyw yn wir: dau amgylchiad cyfyng i'm teimladau i oedd ymadael â Rebecca, ac ymadael â'r Wern: yr oeddynt yn methu dal i bregethu y Sabboth diweddaf. Chwennychwn i chwithau bregethu yr un bregeth ar eich ymadawiad, os nad ydych wedi parotoi eisoes.' Ac felly fu.
2 COR. I, 14.
"Megys y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu."
I. Paham y mae dydd y farn yn cael ei alw "dydd Crist?"
1. Gwaith Crist yn unig fydd yn cael ei ddwyn yn mlaen y diwrnod hwnw. Bydd gwaith pawb arall wedi ei osod o'r neilldu a'i attal. Bydd y byd mor brysur ar waith y boreu hwn ag erioed, megys yr oedd yn nyddiau Noe, priodi, planu, prynu, gwerthu, adeiladu, &c., hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch; "felly y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn." Rhydd ymddangosiad Crist y dydd hwnw attalfa fythol ar bob gwaith daearol: gwaith yr amaethwr, y masnachwr, y morwr, y celfyddydwr, y teithiwr, gwaith llywodraethwyr, cyfreithwyr, 66 a phob crefftwr o ba grefft bynag y bo," ac ni "chlywir trwst maen melin" ar y ddaear mwyach; gwaith pregethwyr yn darfod, ni chlywir swn turtur fwyn yr efengyl mwyach; gwaith Crist fel Barnwr fydd yn unig yn cael ei ddwyn yn mlaen. Ni ddarfu iddo attal gwaith neb pan ymddangosodd ar y ddaear, ond ettyl waith pawb pan ymddengys ar y cymylau.
2. Pethau Crist yn unig fyddant yn llenwi meddyliau ac yn destunau ymddyddanion pawb y diwrnod hwnw; holl achosion trafferthus y byd hwn wedi eu llwyr anghofio gan bawb; holl ofalon galwedigaethau ac amgylchiadau y ddaear wedi eu carthu allan o bob meddwl, y miliynau meddyliau anfarwol wedi eu cydgrynhoi at yr un gwrthddrychau, pob ymddyddanion am bethau ereill wedi tewi; Crist a'i bethau wedi llyncu y cwbl iddynt eu hunain.
3. Y dydd y bydd Crist yn gorphen ei waith mawr yn ngoruchwyliaethau rhagluniaeth a phrynedigaeth, ac y bydd ei fuddugoliaeth ar ei holl elynion yn cael ei pherffeithio.
4. Y dydd y bydd Crist yn ymddangos yn ei lawn ogoniant—y bydd yn dyfod i'w oed—dydd ei goroniad.
II. Y bydd dynion yn cyfarfod yn y dydd mawr hwnw, yn ol y gwahanol berthynasau a fuasai rhyngddynt â'u gilydd, er eu mawr orfoledd, neu eu mawr drueni.
1. Yn eu cyssylltiad cymmydogaethol.—Y rhai a fuasent yn cydfyw yn yr un gymmydogaeth â'u gilydd, ac felly yn effeithio dylanwad da neu ddrwg y naill ar y llall; byddant yn cyfarfod gerbron brawdle Crist i ateb am y dylanwad hwnw.
2. Cyssylltiad masnach a galwedigaethau.—Y prynwr a'r gwerthwr, cydweithwyr.
3. Cyssylltiad teuluaidd.—Gwyr a gwragedd, rhieni a phlant, meistriaid a gweinidogion.
4. Cyssylltiad Crefyddol.—Gweinidogion ac eglwysi, a gwrandawyr. Bydd yr holl gyssylltiadau hyn ag y buom ynddynt yn y byd hwn, yn effeithio ar ein dedwyddwch neu ein trueni yn nydd Crist. Byddwn yn adnabod ein gilydd, yn cofio am bob peth a fu rhyngom a'n gilydd. Buom yn y gwahanol gyssylltiadau hyn yn fendith neu yn felldith i'n gilydd. Y mae y cyssylltiad a fu rhyngof fi a chwithau, bellach er ys deng mlynedd ar hugain, yn awr yn darfod, ond nid yw ei effeithiau a'i ganlyniadau yn darfod, nac i ddarfod byth. Yr wyf fi wedi bod yn fy swydd bwysig yn athraw a dysgawdwr i chwi: cyflwynais y rhan fwyaf o honoch i'r Arglwydd trwy fedydd; cefais yr hyfrydwch a'r fraint o dderbyn llawer o honoch yn aelodau i eglwys Crist; ond yr wyf yn gadael llawer o honoch yn annychweledig. Cyfarfyddwn oll yn nydd Crist; a pha fath gyfarfod a fydd hwnw? pa fodd y bydd ein cyssylltiad hwn yn effeithio ar y naill a'r llall o honom? A gawn ni gyfarfod yno i fendithio a chydlawenhau yn ein gilydd, ddarfod i ni erioed ddyfod i'r cyssylltiad hwn? Er gorfoledd, ynte er galar a gofid y cyfarfyddwn?
III. Bydd y cyfarfod hwnw yn dra gwahanol i bob cyfarfod arall a gawsom erioed.
1. Bydd y cyfarfod mwyaf o bob un. Yr holl genedloedd, yr holl Ni welwyd un oes nac un genedl oll mewn un cyfarfod o'r blaen, ond holl genedloedd yr holl oesau yn hwn.
2. Byddwn yn cyfarfod yn wastad yma mewn ystâd o brawf, ond yno i dderbyn ein gwobr neu ein cosp.
3. Byddwn yn cyfarfod yma i ymadael drachefn, ond yno i beidio ymadael byth, ar un llaw; ac ar y llaw arall, byddwn yn ymadael yma oddiwrth ein gilydd mewn gobaith o gael cyfarfod drachefn, ond ymadael am byth y bydd y rhai a fyddant yn ymadael â'u gilydd yno.'
4. Y mae ein cyfarfodydd yma yn gymmysgedig o drallod a llawenydd, ond yno bydd yn ddigymmysg―llawenydd pur, neu drallod digymmysg.
Nodiadau
golygu- ↑ Yr oedd y gwr parchedig wedi ei gam-hysbysu yn hyn; yr oedd Mr. WILLIAMS wedi dysgu darllen Cymraeg er yn fachgen ieuanc, ac yn yr Athrofa cyn bod yn ddwy-ar-hugain.