Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern/Pennod I

Y Rhagymadrodd Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)

Pennod II

COFIANT
Y DIWEDDAR BARCH. W. WILLIAMS, O'R WERN, &c.




PENNOD I.

Y MAE gan bob gwlad a chenedl ei gwroniaid a'i henwogion, rai a fuont hynod yn eu dydd, cyhoeddus a defnyddiol mewn rhyw gylch o alwedigaeth. Y mae yr un dueddfryd yn mhob cenedl i anrhydeddu y cyfryw bersonau drwy ymffrostio yn eu perthynas â hwynt, a chadw eu henwau yn fyw wedi iddynt feirw, drwy gyhoeddi eu nhodweddau, a throsglwyddo yr hanes am eu rhinweddau a'u gorchestion i'r oesau dilynol. Y mae y fath wasanaeth yn ddiau yn gyfiawnder â'r personau hyny eu hunain, yn fantais a budd i rai a godant i fynu ar eu holau i bobli y byd, a dwyn yn mlaen eu hamrywiol orchwylion.

Diau nad oes dim yn fwy effeithiol i genhedlu a meithrin mawrfrydigrwydd meddwl, ac awyddfryd ymestyngar at ragoriaeth a defnyddioldeb, nâ darllen hanesion dynion a fuant ragorol ac enwog mewn gwlad neu eglwys. Dihunwyd galluoedd llawer enaid mawrwych i fywyd a gweithgarwch, a esgorodd ar y canlyniadau pwysicaf, gan y dylanwad a argraffai darllen hanes esiamplau o'r fath yma arnynt; y rhai, oni bai hyny, a fuasent, ond odid, yn gorphwys byth yn llonydd mewn cyflwr anweithgar. Y mae y meddyliau a fuont weithgar a diwyd i gloddio i mewn i drysorgellau gwybodaeth, ac a ddygasant allan bethau newydd a hen, yn yr oesau a aethant heibio, yn effeithio dylanwad cyffroawl ar feddyliau o'r cyffelyb ansawdd a thueddfryd yn yr oes bresennol; a bydd enwogion yr oes hon etto yn cydweithio yr un dylanwad ar yr oesau nesaf, nes y byddo gwybodaeth yn amlhau gyda chyflymdra cynnyddol y naill oes ar ol y llall.

Bu ei gwroniaid a'i henwogion gan eglwys Dduw hithau yn mhob oes. "Am Sïon y dywedir, y gwr a'r gwr a anwyd ynddi:" y gwr enwog hwn, a'r gwr enwog arall. Gall ymffrostio yn ei phatriarchiaid a'i phroffwydi—ei Christ—ei hapostolion a'i merthyron: "y rhai, drwy ffydd, a oresgynasant deyrnasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gauasant safnau llewod, a ddiffoddasant angerdd y tân, a ddiangasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio." Gall ddangos rhestr hirfaith o enwau meibion a fagodd, "y rhai nad oedd y byd yn deilwng o honynt." Bu yr Ysbryd Glân yn ofalus am drosglwyddo eu coffadwriaethau, rhoddi i lawr eu gair da, fel ag y maent hwy wedi marw "yn llefaru etto." Eu ffydd a'u hamynedd, eu cariad a'u dyoddefgarwch, a'u rhinweddau ereill, ydynt fyth ar gael yn yr hanes am danynt, ac yn effeithio dylanwad daionus ar nodweddiad yr eglwys yn barhaus. Wedi terfyngload y datguddiad Dwyfol, ysgrifenwyd llaweroedd o gyfrolau helaeth, o bryd i bryd, o hanesiaeth am arwyr Cristionogol, a fuant hynod a defnyddiol yn eu hoesau fel tystion ffyddlawn dros eu Duw, ac ymdrechwyr glewion "yn mhlaid y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint." Dilys yw, ar yr un pryd, bod llawer o "werthfawr feibion Sïon" wedi eu hanghofio, y rhai y darfu i ddifrawder ac esgeulusdod adael i'w henwau, eu gwaith, a'u llafurus gariad syrthio gyda'u cyrffi dir anghof. Hwyrach na bu un genedl yn fwy esgeulus yn hyn o ran nâ'r Cymry, er, ond odid, na anrhydeddwyd un genedl yn fwy â dynion nerthol a chedyrn mewn doniau a thalentau gweinidogaethol. Amcan y llyfryn hwn ydyw cadw yn fyw enw a choffadwriaeth un o'r cyfryw enwogion, tra y mae efe ei hun wedi marw, i gynhyrfu adgof a chydymddyddan am WILLIAMS O'R WERN, ei ragoriaethau Cristionogol, ei dalentau mawrion, ei bregethau nerthol ac efengylaidd, a'i fuchedd a'i fywyd llafurus a duwiol, pan nad ydyw efe ei hunan yn y golwg mwyach; er cyffroi y cyfryw o'i ddarllenwyr ag a glywsant y blaenor hwn yn "traethu gair Duw," i adfeddwl am y gwirioneddau a draddodwyd iddynt ganddo; ac er rhoddi desgrifiad, er yn dra anmherffaith, i'r oes sydd yn codi yn awr, a'r oesau a godant etto, o un a fu mor ragorol a defnyddiol cyn eu bod hwy erioed mewn bodoliaeth.

Pan graffom ar hanesyddiaeth eglwys Dduw dan bob goruchwyliaeth, yr ydym yn cael mai arferiad gyffredin yr Arglwydd, yn mhob oes a gwlad, ydoedd codi dynion o sefyllfaoedd a dospeirth isaf cymdeithas i'r swyddau a'r graddau uchaf mewn defnyddioldeb yn ei dŷ a'i deyrnas—gwneuthur tlodion y ddaear yn bendefigion ei bobl; rhai bychain y byd yn fawrion yn Sïon. O'r cawell brwyn cuddiedig yn hesg yr afon y cofododd Moses ei was, i fod yn waredydd ac arweinydd i'w bobl. "O gorlanau y defaid, ac oddiar ol y defaid cyfebron," y cymmerth Dafydd, ac y "daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth." "O fysg bugeiliaid Tecoa" y galwodd Amos i fod yn broffwyd. O bysgotwyr tlodion môr Galilea y gwnaeth Crist ei apostolion: o'r sefyllfa a'r alwedigaeth waelaf hon y dyrchafodd efe y dynion hyny i'r swydd a'r sefyllfa uchaf o anrhydedd ac ymddiried y gosodwyd dynion erioed ynddi. Yn gyffelyb y mae wedi gwneuthur o ddyddiau yr apostolion hyd heddyw. Yn nghyffiniau Trawsfynydd, yn nghanol mynydd-dir Cymru, y cododd ac yr addurnodd efe WILLIAMS â doniau a thalentau a'i gwnaeth yn un o'r ser dysgleiriaf a lawyrchodd yn ffurfafen eglwysig y Dywysogaeth yn ei oes.

Anfantais fawr er cael Cofiant teilwng am ein gwrthddrych hyglod ydyw, ei fod heb adael dim defnyddiau tuag ato o'r eiddo ei hun, gan nad oedd erioed wedi arfer cofnod-lyfr, yr hyn sydd yn ddiau yn fawr golled. Nid oedd ynddo nemawr iawn o duedd at ysgrifenu, ac yn enwedig am dano ei hun. Arferai nodi rhai gwyr o enwogrwydd a theilyngdod mawr yn yr areithfa, yn Nghymru a Lloegr hefyd, ac y buasai yn garedigrwydd â hwy pe cadwesid y pin a'r papur, wasg allan o'u cyrhaedd, ac na bydd gan y rhai a ddarllenant eu gwaith, ag na chawsant erioed y fantais o'u clywed, ond tybiau isel iawn am eu galluoedd a'u talentau: a meddyliai y buasai efe ei hun mor waeled â'r gwaelaf o honynt, pe cynnygiasai ymddangos i'r byd yn ysgrifenydd.

GANWYD MR. WILLIAMS

Mewn lle o'r enw Cwmhyswn (Cwm-y-swn, ond odid) ganol, yn mhlwyf Llanfachreth, swydd Feirion. Enwau ei riaint oeddynt William a Jane Probert, neu ab Robert; yr oeddynt yn dal tyddyn o dir, a gair da iddynt yn y gymmydogaeth am hynawsedd a gonestrwydd. Yr oedd ei fam yn aelod dichlynaidd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Nid yw'n hysbys ddarfod i'w dad erioed ymuno mewn proffes gydag un blaid grefyddol, er ei fod yn wrandawr cysson o'r efengyl: arferai gadw dyledswydd deuluaidd yn rheolaidd. Bu iddynt saith o blant, o'r rhai y mae pedwar etto yn fyw, a thri wedi meirw. WILLIAM, gwrthddrych y Cofiant hwn, ydoedd y chweched plentyn. Y brawd a'r chwaer a fuant feirw o'i flaen oeddynt aelodau eglwysig, un gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a'r llall gyda'r Annibynwyr, y ddau, yn ol pob arwyddion, yn meddu grym duwioldeb.

Yr oedd WILLIAM, er yn blentyn, yn hynod ar y plant ereill, o ran ei dymher lawen, fywiog a chwareüus, fel yr arferai ei dad ddywedyd yn aml am dano, na wyddai yn y byd pa beth i'w feddwl o hono, a'i fod yn ofni y byddai yn od ar holl blant y gymmydogaeth; ac yn wir, felly y bu, ni fagwyd o'r blaen ei gyffelyb yn yr holl ardaloedd hyny, nac ar ei of ychwaith, hyd yma.

Dygwyddodd iddo, pan oedd oddeutu tair-arddeg oed, fyned i wrando Mr. Rees Davies, yn awr o Saron, swydd Gaerfyrddin, yn pregethu, mewn lle a elwir Bedd-y-Coedwr, pryd yr ymaflodd y gwirionedd gyda nerth ac awdurdod mawr yn ei feddwl. Cyn ei fod yn bedair-ar-ddeg, ymunodd â'r eglwys Annibynol yn Pen-y-stryd, Trawsfynydd, y pryd hyny dan ofal gweinidogaethol y diweddar Barch. W. Jones. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod eglwysig cyn ei fod yn bymtheg, yr hyn oedd beth tra anghyffredin yn y dyddiau hyny. Yr oedd yn nodedig o ffyddlawn, diwyd, ac ymdrechgar gyda moddion gras: anfynych iawn y byddai na phregeth na chyfarfod gweddi, na chymdeithas grefyddol mewn un man yn y gymmydogaeth heb ei fod ef yno. Yr oedd arno gryn ofn cael ei gymhell i fyned i weddi yn gyhoeddus yn y teulu neu mewn cyfarfod, o herwydd, fel y dywedai lawer gwaith wedi hyny, y buasai y plant ereill, y teulu, a'r gymmydogaeth yn dysgwyl iddo fyw fel sant perffaith byth wedi hyny. Pa fodd bynag, un noson, pan oedd wedi aros ar ei draed gyda'i fam, wedi i ereill o'r teulu fyned i'w gwelyau, aeth hi i weddi gydag ef, ac wedi terfynu, dywedodd wrtho, "Dos dithau dipyn i weddi, Will bach;" yntau a aeth: yr oedd ei frawd hŷn nag ef yn dygwydd bod yn effro, ac yn clywed, ac edliwiai iddo drannoeth, gan ei alw "Yr hen weddiwr." "Yr oedd arnaf beth cywilydd," meddai, "ond bu arnaf lai o ofn a chywilydd byth wedi hyny."

Bu mewn trallod a gwasgfa nid bychan o ran ei feddwl yn nechreu ei grefydd. Arferai ddywedyd, na wyddai yn y byd beth a wnaethai iddo ei hun, oni buasai Aberth y groes. Cafodd waredigaeth hynod tua'r amser hwn. Pan yn torri coed yn Penybryn, Llanfachreth, syrthiodd pren arno, a drylliodd ei het yn chwilfriw, ond ni phrofodd ef unrhyw niwed. Gwnaeth y tro argraff ddwys ar ei feddwl, a chrybwyllai yn aml am dano gyda diolchgarwch. Pethau crefydd oeddynt destunau gwastadol ei ymddyddanion gyda'i gyfeillion; a chofia y rhai o honynt sydd etto yn fyw am ei ymholion a'i sylwadau gyda hiraeth a llawenydd.

Sylwodd yr eglwys arno yn lled fuan, a deallodd fod ei gynnydd prysur mewn gwybodaeth, doniau, a rhinweddau Cristionogol, yn rhag-arwyddo iddi, bod WILLIAM bach i ddyfod yn WILLIAMS mawr; ei fod yn llestr etholedig dan rag-barotoad i waith mawr y weinidogaeth; ei fod yn dechreu magu esgyll ag oeddynt ryw ddiwrnod i'w godi oddiwrth y ddaear a'i galwedigaethau, i "ehedeg yn nghanol y nef," gyda'r "efengyl dragywyddol;" ac felly, cyn ei fod yn bedair-ar-bymtheg oed, annogodd ef i ddechreu pregethu.

Pan soniwyd gyntaf wrtho am bregethu, yr oedd am beth amser megys wedi ei orthrechu gan gymmysg deimladau o ofn a llawenydd. Daeth amheuon am ei gyflwr, a'i alwad i'r swydd oruchel o bregethu yr efengyl, i bwyso yn drwm iawn ar ei feddwl; ond wrth ddarllen ei Fibl, a "Hall's Help to Zion's Travellers," a thaer weddio am oleuni ac arweiniad Dwyfol, daeth i'r penderfyniad, fel y dywedai, i wneuthur ei oreu dros ei Dduw, ac na chai byth ei feio am hyny, beth bynag; ond os byddai iddo guddio ei dalent yn y ddaear, y byddai yn sicr o gael ei alw i gyfrif a'i gospi. Felly, wedi peth petrusder, ymaflodd yn y gwaith, a phregethai yn Pen-y-stryd, ac mewn tai yn y gymmydogaeth, gyda mawr dderbyniad a chymmeradwyaeth. Nid oedd wedi cael nemawr ddim ysgol, ond dysgasai ddarllen Cymraeg er yn lled ieuanc. Nid oedd ond ychydig o lyfrau Cymreig, ag oeddynt o werth eu darllen, i'w cael y pryd hwnw. Y llyfrau a hoffai fwyaf, heblaw y Bibl, oeddynt Eliseus Cole ar "Ben-Arglwyddiaeth Duw," a "Hall's Help to Zion's Travellers," a grybwyllwyd o'r blaen, y rhai oeddynt wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yr oedd yn neillduol hoff o'r olaf. Yr oedd ei chwaer Catherine yn cyd-ddechreu proffesu ag ef, ac yr oeddynt yn hynod o hoff o'u gilydd. Byddai ef yn arferol o fyned, â'i lyfrgell fechan gydag ef, o'r neilldu i le dirgel, oddiar ffordd ei dad; a phan y deuai holi am dano i gyflawni rhyw swydd neu neges, megys porthi neu ddyfrhau yr anifeiliaid, rhedai ei chwaer yn uniongyrchol i'w gwneyd, er mwyn iddo ef gael llonydd a heddwch gyda'i lyfrau. Yn y sefyllfa isel hon, a than yr anfanteision mawrion hyn, y dechreuodd enaid dy'sgleirwych ein harwr ymweithio allan i olwg y byd.

Wedi bod o hono yn pregethu oddeutu cartref a manau ereill yn achlysurol, am oddeutu dwy flynedd, aeth i ysgol yn Aberhafest, gerllaw y Drefnewydd, swydd Drefaldwyn; ni bu yno ond oddeutu wyth neu naw mis; wedi hyny, dychwelodd adref, ac aeth i Wrexham, a derbyniwyd ef i'r Athrofa yno, yn y flwyddyn 1803, ag oedd y pryd hyny dan ofal athrawaidd yr hybarch Jenkin Lewis. Yr oedd yr amser hwnw yn tynu at ddwy-ar-hugain oed. Rhaid i mi grybwyll yn y fan hon hanesyn am dano, a adroddwyd i mi gan ei fab hynaf. Yr oedd WILLIAM, pan yn blentyn, yn wrthddrych o neillduol hoffder ei fam, ac yr oedd wedi esgeuluso ei ddyddyfnu hyd nes oedd rhwng tair a phedair blwydd oed. Dywedodd ei dad wrtho un diwrnod, "Will, os gwnei di beidio sugno, mi a roddaf yr oen dû i ti." Cytunodd Will â'r cynnygiad, ac ni cheisiodd sugno o'r dydd hwnw allan. Cynnyddodd yr oen dû fel praidd Jacob, ac ar ei fynediad i'r Athrofa gwerthodd y ddeadell ddefaid, a dyna oedd prif foddion ei gynnaliaeth dros ystod yr amser y bu yno.

Pan y daeth gyntaf i Wrexham, yr oedd mor hollol Gymreigaidd, fel na allai roddi ar ddeall i Mrs. Lewis, gwraig yr athraw, yr hon oedd Saesones, pa beth oedd ei neges, a chan nad oedd Mr. Lewis gartref ar y pryd, bu raid anfon allan i ymofyn am gyfieithydd rhyngddynt.

Nid cymmaint o gynnydd mewn dysgeidiaeth ieithyddol a gyrhaeddodd yn yspaid y pedair blynedd y bu yn yr Athrofa. Gellid priodoli hyny yn un peth, i ddiffyg ysgol yn ei dymhor bachgenaidd. Yr oedd raid iddo ef ddechreu yn y dosbarth isaf megys pan ddaeth i mewn, fel ag yr aeth llawer o'i amser heibio cyn iddo allu cyrhaeddyd y radd o ddysgeidiaeth, ag y byddai ereill yn gyffredin wedi myned drwyddi cyn dyfod i'r Athrofa; a pheth arall, yr oedd ei feddwl wedi gogwyddo at ganghenau ereill o ddysgeidiaeth, cyn iddo erioed gynnyg ei ddwyn at y ganghen hon; neu, mewn gair, yr oedd wedi tyfu yn rhy fawr a chryf yn ei dueddfryd at elfenau ereill gwybodaeth, i'w ddarostwng a'i ystwytho i ymgymmodi ag egwyddorion sychlyd grammadegau. Ei hoff waith ef ydoedd chwilio i mewn i egwyddorion athroniaeth naturiol a moesol, yn enwedig egwyddorion duwinyddiaeth; felly nid oedd Mr. WILLIAMS, y mae yn wir, yn ddyn dysgedig, yn ol yr ystyr a roddir yn gyffredin i'r gair dysgedig, sef, cyfarwydd-deb a hyddysgrwydd mewn ieithoedd; eithr os priodol galw dyn cyfarwydd ag egwyddorion a deddfau natur, y meddwl, a'r ysgrythyr, yn ddyn dysgedig, yna, yn ddiau, yr oedd Mr. WILLIAMS yn un o ysgolheigion penaf ei oes. Pa fodd bynag, dysgodd gymmaint, tra yn yr Athrofa, ag a'i galluogai i bregethu yn Saesonaeg, a digon o Roeg ag a'i gwnelai yn alluog i ddefnyddio rhyw gymmaint ar yr iaith hono. Trwsgl ydoedd ei leferydd yn yr iaith Seisnig, fel y gellid ddysgwyl i un wedi tyfu i'w oedran ef, cyn dysgu gair o honi, i fod. Ni fyddai un amser yn mron mewn diffyg o eiriau i osod ei feddwl allan, ond yn seiniad ac aceniad y geiriau y byddai yn colli. Arferai ddywedyd, nad oedd ei dafod ef wedi ei wneuthur na'i fwriadu gan ei Luniwr erioed i barablu Saesonaeg. Ond er ei fod yn safndrwm a thafod-drwm yn yr iaith hòno, ni wnai hyny yn esgus a dadl, fel y gwnai Moses gynt, rhag pregethu ynddi, pan fyddai galwad arno; ac nid anfynych, ond yn wir yn dra mynych, y ceisid hyny ganddo. Byddai y Saeson, yn mhob man ag yr oedd yn adnabyddus iddynt, yn neillduol o hoff o'i wrando. Cai gynnulleidfaoedd lluosog iawn i'w wrando yn Ngwrexham, Croesoswallt, a lleoedd ereill.

Y mae yn chwedl am dano ddarfod iddo ddywedyd wrth ei athraw, pan ar ymadael â'r Athrofa, ei fod yn coelio nad ymadawsai nemawr un oddiyno yn onestach nag ef; gan olygu nad oedd yn dwyn rhyw ystor o ddysgeidiaeth ieithyddol gydag ef oddiyno. Pan annogid ef gan rai cyfeillion i aros yn yr Athrofa dros ryw gymmaint o amser yn hŵy, "Na, na," eb efe, "os felly, bydd y cynhauaf drosodd tra fyddwyf fi yn hogi fy nghryman."

Yn ystod ei dymhor athrofaol y dechreuodd ei dalentau ysblenydd fel pregethwr ymddadblygu ac ymddysgleirio, yr hyn sydd yn ddigonol brawf nad rhyw lawer a arosai ei feddwl yn mhorfeydd y grammadegau. Rhagorai y rhan fwyaf o'i gyd-fyfyrwyr arno wrth adrodd y gwersi gerbron yr athraw; taflai yntau hwythau oll i'r cysgod yn yr areithfa gerbron y gynnulleidfa.

Ymwelodd unwaith neu ddwy â rhanau o'r Deheudir, yn yspaid gŵyl-ddyddiau yr Athrofa, lle yr ennillai enw a chymmeradwyaeth anghyffredinol fel pregethwr. Wedi ei ddychweliad adref y tro diweddaf oddiyno, derbyniodd alwad unleisiol oddiwrth yr eglwys gynnulleidfaol yn Horeb, swydd Aberteifi, a phenderfynodd gydsynio â hi. Fel ag yr oedd un diwrnod ar ganol ysgrifenu ei atebiad cadarnhaol i'r alwad grybwylledig, daeth un o'i gyd-fyfyrwyr i'w ystafell gyda'r hysbysiad, bod eu hathraw yn myned i Lynlleifiad, i'r cyfarfod blynyddol, a bod caniatâd i'r sawl a ewyllysient o'r myfyrwyr i fyned yno, ond gofalu na byddai iddynt ragor na'r diwrnod hwnw a thrannoeth o amser. Taflodd ei bin a'i bapur o'i law yn y fan, ac ymaith ag ef, cyn gorphen ei lythyr, gyda'i athraw a nifer o'i gyd-fyfyrwyr, i Lynlleifiad. Cyn dyfod yn ol, perswadiwyd ef gan y gwr tra rhagorol hwnw mewn duwioldeb a haelioni, Mr. Jones, cutler, o Gaer, i aros a sefydlu yn Harwd a'r Wern, ac felly y bu. Mor ddirgel, gofalus, a manwl, ydyw ffyrdd Rhagluniaeth Ddwyfol yn trefnu ac yn gwylio camrau a symudiadau gweision Duw! Yr oedd maes llafur gweinidogaethol y gwas ffyddlawn hwn wedi ei rag-bennodi yn meddwl a bwriad ei Feistr mawr cyn erioed iddo ef ymddangos mewn bodoliaeth; a phan, yn ol ei feddwl a'i fwriad personol ei hun, yr oedd wedi penderfynu gadael gogleddbarth y dywysogaeth, i sefydlu yn y deheubarth, gwelwn fel y trefnodd Rhagluniaeth ddygwyddiad prydlawn i droi ffrwd ei fywyd a'i weinidogaeth, i redeg yn y ffrydle a ddarparasai iddi. Dangoswyd fel hyn mai "anrheg y nef i Wynedd," oedd WILLIAMS, fel y dywedai y Parch. D. Rowlands, o Langeitho, am y diweddar Barch. T. Charles, o'r Bala; a diau bod mwy o angen am wr o'i alluoedd a'i ddoniau ar yr achos bychan a gwan, y pryd hyny, yn y Gogledd, nag oedd am ei fath yn y Deheudir, lle yr oedd yr achos gyda'r Annibynwyr yn gryf a blodeuog mewn cymhariaeth. Dysgodd yr Arglwydd ei was ieuanc i gerdded "llwybrau nad adnabu ef o'r blaen."

Nodiadau

golygu