Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern/Y Rhagymadrodd

Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)

Pennod I

Y RHAGYMADRODD.

ANWYL GYFEILLION,—Wrth gyflwyno y Cofiant hwn i'ch dwylaw, dymunwn arddatgan, yn

1. Fy niolchgarwch diffuant i Dduw gras a rhagluniaeth am drefnu fy "amser gosodedig, a therfynau fy mhreswylfod," o fewn cylch manteisiol i ddyfod i gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch â'r gwrthddrych teilwng y dygir ei hanes ger bron yn y tudalenau canlynol. Diau genyf fod llawer o'm brodyr yn y weinidogaeth a gydgyfranogant â mi yn y teimlad hwn. Gallaf, a dylwn gydnabod, na buaswn y peth ydwyf heddyw, oni buasai yr addysg a'r hyfforddiant a dderbyniais ganddo drwy ei bregethau a'i gyfeillach, “er nad wyf fi ddim;" a dylwn alaru hefyd na buaswn wedi sylwi, dal, a dysgu mwy tra yr oedd yn bresennol gyda ni.

2. Yr wyf yn dra diolchgar i'm brodyr yn y weinidogaeth am fy anrhydeddu â'r ymddiried pwysig o gasglu a chyhoeddi Cofiant am yr addurn penaf i'n henwad crefyddol a ymddangosodd yn y Dywysogaeth yn yr oes bresennol. Oeddwn, ac ydwyf, yn ystyried hyn yn fwy o anrhydedd nag oedd genyf hawl i'w ddysgwyl ar amryw ystyriaethau. Ymaflais yn y gorchwyl, ac aethum trwyddo, dan deimladau ofnus, rhag na byddai mewn un modd yn deilwng o'r "tywysog a'r gwr mawr yn Israel" yr amcenid iddo fod megys yn gynnrychiolydd o hono, wedi iddo ef ei hunan syrthio i fro dystawrwydd a marwoldeb. Pa beth bynag fydd barn y darllenyddion yn gyffredin am dano, amser a brawf, hyn a allaf sicrhau, ei fod cystal ag y gallaswn ei wneyd, er nad cystal ag y dymunaswn iddo fod. Ni arbedais na llafur na thraul i'w grynhoi mor gyflawn ac mor deilwng ag oedd yn bosibl i mi. Fy esgusawd dros ei holl ddiffygion a'i anmherffeithderau ydyw hyn,—gwnaethum fy ngoreu; a chymmerais y gwaith arnaf mewn ufydd-dod i gais y rhan fwyaf o'm brodyr yn y weinidogaeth ag oeddynt yn bresennol yn angladd Mr. WILLIAMS, ac i'r brodyr hyny yn neillduol yr wyf yn cyflwyno fy nghydnabyddiaeth ddiolchus hon.

3. Yr wyf yn dymuno cyflwyno fy niolchgarwch hefyd i'r brodyr hyny a estynasant law garedig o gynnorthwy i'r gwaith, drwy anfon y llythyrau a ganfyddir yn argraffedig yn y Cofiant â'u henwau wrthynt. Y mae y rhai hyn yn cau i fynu lawer o adwyon a fuasent yn y gwaith, pe na buasai iddynt hwy fod mor gymmwynasgar. Teimla yr ysgrifenydd yn dra rhwymedig i'r beirdd hwythau am eu hanrhegion awenyddawl.

Yn ddiweddaf oll, yn gystal ag yn gyntaf a phenaf oll, yr wyf yn diolchgar gydnabod Awdwr a Ffynnonell pob daioni am estyniad oes ac iechyd i fyned drwy hyn o waith; a chyda y crybwyllion hyn, yr wyf yn awr, anwyl gyfeillion, yn ei ollwng fel y mae i'r argraffwasg, ac yn ei gyflwyno i'ch dwylaw a'ch sylw, dan obeithio, os na fydd iddo roddi cyflawn foddlonrwydd i bawb o'i ddarllenyddion, y bydd iddo roddi adeiladaeth a lles i lawer, a bod yn foddion i gadw coffadwriaeth ei wrthddrych teilwng heb ei ebargofio yn y Dywysogaeth, peri i'r eglwysi feddwl am y blaenor hwn "a draethodd iddynt air Duw, gan ystyried diwedd ei ymarweddiad, a dilyn ei ffydd a'i athrawiaeth."

Dinbych, Rhag. 29, 1841.
W. REES.

Nodiadau

golygu