Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern/Pennod IV

Pennod III Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)

Pennod V

PENNOD IV.

PERSON A NODWEDD MR. WILLIAMS.

O RAN ei berson, yr oedd Mr. WILLIAMS o daldra canolig, ac yn wr o gorff lluniaidd, lled gadarn ei wneuthuriad, ond yn hytrach yn deneu; o bryd a gwedd serchoglawn a dymunol, yn neillduol pan fyddai delweddau ei feddwl wedi derchafu i'w wynebpryd wrth bregethu, neu y pryd y byddai wrth ei fodd mewn cyfeillach. Ei lygaid yn benaf oedd arwyddnod o fawreddusrwydd ei feddwl: cymhwysder ei faintioli a'i osodiad, dull ei droad a'i ddynodiant (expression) oeddynt ddigon i beri i unrhyw graff-sylwydd, er yn anghydnabyddus ag ef, ddysgwyl cael rhywbeth tuhwnt i'r cyffredin yn ei berchenog. Ond y meddwl oedd y dyn, ac awn rhagom i geisio rhoddi desgrifiad o'i ansawdd, ei deithi, a'i gynheddfau ysplenydd, y rhai ydynt etto yn gweithredu gyda bywiogrwydd a nerth anfarwol a chynnyddol yn nedwydd fyd yr ysbrydion, pan y mae y cyfrwng trwy yr hwn y gweithredent ac yr amlygent eu hunain yma i ni, yn llygru yn mro dystawrwydd a marwoldeb.

1. Yr oedd wedi ei gynhysgaeddu â gradd helaeth iawn o synwyr cyffredin, yr hyn a'i cymhwysai i fod yn gynghorwr doeth a da. Yr oedd ganddo wybodaeth helaeth o amgylchiadau a galwedigaethau cyffredin bywyd, ynghyd ag adnabyddiaeth ddofn o'r natur ddynol, a'i galluogai i draethu synwyr, a bod yn gyfarwyddwr call ar unrhyw achos. Ystyrid ei farn a'i gyngor o bwys a gwerth bob amser mewn pethau cyffredin, yn gystal â materion eglwysig; ac ar ol ei "'ymadrodd ef ni ddywedid eilwaith." Nid oedd na phruddglwyf na phengamrwydd (eccentricity) yn perthyn iddo yn y mesur lleiaf; ffieiddiai y dybiaeth a goleddir yn rhy gyffedin o fod y fath dymherau yn elfenau hanfodol i ffurfio y nodwedd o ddyn mawr; a meddyliai fod llawer wedi llafurio i geisio ffurfio pruddglwyfiaeth a phengamiaeth i'r dyben gwael o gael eu cyfrif yn ddynion mawrion gan ddynion ffolion. Yn mysg y cyffredin, a chyda phethau cyffredin yr oedd ef bob amser fel dyn cyffredin arall; cuddiai bob ymddangosiad o ddyn mawr o'r golwg hyd nes y byddai gwaith mawr, a phethau mawrion yn galw am dano. Yr oedd ei wybodaeth ëang a'i dalentau gwychion yn wastad o dan reolaeth a dysgyblaeth callineb a synwyr.

2. Tymher ei feddwl.—Yr oedd o dymher meddwl fywiog, siriol, a chymdeithasgar. Pan fyddai y cyfeillion a'r gyfeillach yn gyfryw a gyd-darawent â'i archwaeth, byddai wrth ei fodd, ac yn ei elfen, pa un bynag ai anian-ddysg, ai llywod-ddysg, ai duwinyddiaeth fyddai testun yr ymddyddan, yr oedd ganddo ef sylwadau cyfoethog o feddyliau, a ddangosent ei fod yn gyfarwydd yn egwyddorion y naill gangen a'r llall. Ond at dduwinyddiaeth yr oedd prif dueddfryd a gogwyddiad ei feddwl. Yma yr ymddangosai megys yn ei wlad, ei awyr, a'i elfen gartrefol. Ni byddai ei feddwl ffrwythlon byth yn amddifad o elfenau, a thestunau ymddyddan o'r natur yma. Dywedai, "Os nad oes gan ryw frawd arall fater i'w osod i lawr, y mae genyf fi ryw bwnc ag y buaswn yn dymuno cael ei roddi dan ystyriaeth." Byddai pob dyn o chwaeth a theimlad, yn rhwym o'i garu a gwerthfawrogi ei gymdeithas. Mewn gwirionedd, yr oedd ei gyfeillach yn anmhrisiadwy. Ni welid dim o naws uchelfrydigrwydd ynddo ef, dim i darfu na dal y meddwl draw oddiwrtho—nid ymddangosai fel yn ymwybodol o'i uwchafiaeth a'i fawreddigrwydd ei hun—dim i beri y petrusdod lleiaf yn neb i fod yn rhydd o'i feddwl yn ei bresennoldeb; ymddygai nid fel arglwydd, ond fel brawd a chydwas. Ond er na byddai efe yn cymmeryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, byddai pawb o'i frodyr yn foddlawn i'w roddi iddo. Er na byddai ar neb ei ofn, yr oedd gan bawb barch calon iddo. Er y teimlai ei frodyr ieuengach y gallent fod yn ofn a rhydd yn ei gyfeillach, teimlent hefyd eu bod yn mhresennoldeb dyn mawr, yr hyn a barai iddynt roddi iddo y parch a'r flaenoriaeth ddyledus, fel, os nad oedd ef yn awyddus am ei gael, y byddent hwy yn awyddus am ei ddangos iddo. Gallaf ddywedyd, nad ymadewais erioed o'i gyfeillach, na byddai fy meddwl yn ei garu ac yn ei werthfawrogi yn fwy nag o'r blaen; ac yr wyf yn sicr bod degau o frodyr a dystient yr un peth.

Heblaw sirioldeb a hynawsedd ei dymher, gwnai ei gyfeillach yn ddifyrus a buddfawr â chyflawnder o sylwadau bywioglawn a grymusion. Yr oedd ei feddwl megys yn ystwyth ac aeddfed i gymmeryd gafael yn mhob mater, neu destun o'r Bibl a gynnygid i sylw; a cheid rhyw beth ganddo ar bob peth a fyddai o werth ei ddal a'i gofio; a thradd odai ei sylwadau yn ei briod-ddull daràwgar ei hun, yr hon oedd yn neillduol gyfaddas er argraffu ei bethau ar y côf. Yr oedd yn neillduol o hoff er ys cryn amser i ymddyddan am y nefoedd, carai dynu darluniadau o natur ei gwaith a'i chymdeithas yn fawr. "Yr wyf yn tybied, (meddai unwaith,) na bydd y nefoedd yn lle mor ddyeithr i mi; yr wyf wedi bod yn meddwl cryn lawer am dani yn ddiweddar; y mae genyf lawer o gyfeillion anwyl a hoff yno, yr wyfyn sicr; ac y mae arnaf gryn hiraeth am eu gweled weithiau, ac am fod gyda hwynt; Jones o Dreffynnon; a Roberts o Lanbrynmair, a llawer ereill, a Rebecca hefyd," (sef Mrs. Williams.) Dro arall wrth son am y nefoedd mewn cyfeillach, dywedai, "Os yw tybiaeth Dr. Dick o Scotland am y nefoedd yn gywir, y byddant yn dysgu y celfyddydau ynddi, y mae yn sicr mai i ddysgu y gelfyddyd o spelio y troir fi yn gyntaf oll yno." Am ei nodwedd gyfeillgar, sirioldeb, addfwynder, a graslonrwydd ei dymher, ysgrifenai y Parch. Dr. Raffles ataf fel y canlyn:" Am yr hyn ydoedd fel pregethwr, nis gallwn wybod dim ond yn unig drwy dystiolaeth ereill; ac a gasglwn oddiar weled yr effeithiau a ganfyddwn fod yn cael eu cynnyrchu ar y gwrandawyr a ddeallent yr iaith yn yr hon y llefarai. Am yr hyn ydoedd fel dyn ac fel Cristion, cefais y fantais a'r hyfrydwch i wybod ychydig drwy fy sylw a'm profiad personol; a gallaf sicrhau fod pob cyfleusdra y cefais y fraint o fwynhau ei gyfeillach, yn dyfnhau fwy-fwy yn fy meddwl yr argraff o wresogrwydd ei dduwiolfrydedd, a hynawsedd ei galon. Dywedais lawer gwaith, fy mod yn ei gyfrif yn un o'r nodweddau hawddgaraf a siriolaf, o'r rhai y cefais erioed yr hyfrydwch o'u hadnabod. Meddyliais lawer gwaith pan yn ei gymdeithas, am yr iaith brydferth a ddefnyddiodd Andrew Fuller, pan yn son am y diweddar Mr. Pearce, o Birmingham, "Tyner fel hwyrddydd hâf, a hyfryd-ber, fel rhôs Mai."

Er ei fod, fel y sylwyd, o'r fath ansawdd fywiog a siriol o ran tymher ei feddwl, yr oedd ganddo lywodraeth nodedig ar ei ysbryd a'i deimladau. Nid un o'r cyfryw fawrion nad allant byth oddef eu gwrthwynebu heb ffromi ac ymddigio oedd WILLIAMS, ond hollol i'r gwrthwyneb, pan fyddai pump neu chwech wedi cyd-ymosod arno, fel y gwelais un waith, mewn dadl, ac oll wedi gwresogi dros eu pwnc, yr oedd ef yn bwyllog a thawel yn eu canol, yn amddiffyn ei olygiadau ar y mater. Goddefai sèn neu anfriaeth bersonol oddiwrth rai annheilwng o'r fraint o ddwyn ei esgidiau; heb gymmeryd arno eu clywed, neutröai y peth heibio gyda gwen, a rhwymai i fynu dafod y senwr. Yr oedd yn gyffelyb i Moses, yn un o'r llarieiddiaf o feibion dynion.

3. Yr oedd yn dyner a gofalus iawn am deimladau ereill. Arferai ddywedyd yn aml, nad oes gan neb fwy o hawl i dòri ar draws teimladau arall, nag a fyddai ganddo i gymmeryd cyllell a thòri archoll ar ei fys, neu ryw ran arall o'i gorff; ac o'r ddau, mai mwy dewisol fuasai ganddo ef gael ei archolli yn ei gnawd nag yn ei deimladau bod yn haws gwella archoll ar ryw aelod, nag archoll teimlad; y dylai teimladau eu gilydd gael eu hystyried gan ddynion yn bethau rhy dyner a chyssegredig i chwarae a chellwair gyda hwynt; ac na ddylid byth eu cyffwrdd heb fod achos neillduol yn galw am hyny; a bod amean cywir at wneuthur lles i'r person bob amser drwy hyny. Dengys hyn fod ganddo deimladau tyner iawn ei hunan, ond ei fod wedi ei gynnysgaeddu â gras a synwyr yn ehelaeth i gadw llywodraeth ar ei nwydau, fel ag i beidio ffromi a chythruddo, fel y sylwyd, pan gyffyrddid â hwy. Ond yn benaf dim, yr oedd ganddo ofal neillduol rhag dolurio teimladau dynion duwiol. Clywais ef lawer gwaith yn dywedyd, "O! ni fynwn er dim ddolurio teimladau dyn duwiol, os gallwn beidio; it is a dreadful thing." Yn mhlith ei resymau dros fod yn Ddirwestwr, yr oedd hwn yn un "Hwyrach," medd efe wrth areithio unwaith, "yr ewyllysiech glywed y rhesymau a barasant i mi ymuno â'r gymdeithas, dyma un o honynt: yr oeddwn yn gweled fod y dynion duwiolaf, (o leiaf y rhai a olygwn i felly bob amser,) yn mhlith gweinidogion ac eglwysi, yn dechreu myned yn ddirwestwyr, a meddyliais y byddai yr holl ddynion ag yr oedd genyf fi feddylian uchel am eu duwioldeb, yn wyr llen a lleyg, yn ddirwestwyr yn fuan iawn; a gwelais, os nad ymunwn innau â'r gymdeithas, y byddwn ar eu ffordd, ac y doluriwn eu teimladau, a hyny ni fynaswn ar un cyfrif ar wyneb y ddaear. Felly ymroddais i'r penderfyniad o fyned ar ol y rhai oeddynt wedi blaenu, ac achub y blaen ar y lleill, a hyny gynted ag y gallwn; a gwelaf erbyn hyn, mai fel y rhag-dybiaswn y mae pethau wedi dygwydd; ac ni fynwn, er yr oll a fedd y ddaear, fod yn wrthddirwestwr heddyw, heb son am ddim ond yr ystyriaeth unigol hon. Annogwn fy nghyfeillion gwrthddirwestol i ddyfod trosodd atom er mwyn ein teimladau; yr ydych yn clwyfo ein teimladau yn ddwys, nid yn unig drwy ein gwrthwynebu, ond hefyd drwy ein gadael ein hunain ar y maes, attal eich cynnorthwy, eich cyngor, a'ch cymdeithas yn y gwaith hwn. Ni all fod yfed y diodydd meddwol yn fater cydwybod genych chwi, y mae peidio yfed yn fater cydwybod genym ni. Gellwch chwi roddi heibio y ddiod er mwyn ein teimladau ni, heb dramgwyddo eich cydwybodau; ond ni allwn ni ymwrthod â dirwest heb dramgwyddo a halogi ein cydwybodau. 'Wel ïe,' medd gwrthddadleuwr, eich gwendid chwi yw hyny.' Caniataer hyny, a 'rwystrwch chwi y brawd gwan, dros yr hwn y bu Crist farw? A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist.' Ha! y mae tramgwyddo, a rhwystro, a churo gwan gydwybod brawd gwan dros yr hwn y bu Crist farw, yn beth na fynai rhai o honom mo'i wneyd er llawer iawn o elw, heb son am bechu yn erbyn Crist." Rhoddais yr ymadroddion uchod o'i eiddo i lawr yn y lle hwn, yn unig fel eglurhad o'r hyn a chwennychwn ei ddangos yma: sef un o deithi prydferth meddwl y dyn mawr hwn—un o'r pethau oedd yn ei gyfansoddi yn wir fawr, sef ei dynerwch neillduol o deimladau ereill, ac yn neillduol dynion y credai ef eu bod yn ddynion duwiol.

4. Un arall o elfenau y dyn a'r Cristion hwn, ydoedd ei ffyddlondeb a'i onestrwydd diffuant. Er mor dyner o deimladau oedd ei hun, ac er cymmaint oedd ei dynerwch a'i ofal am deimladau ereill, pell iawn ydoedd ei nodwedd oddiwrth feddalwch gwlanenaidd; cyd-dymherasid ei addfwynder a'i hynawsedd â gonestrwydd a gwrolfrydigrwydd meddwl. Ni phetrusai geryddu yn llym iawn, pan farnai yn gydwybodol fod achos yn galw am hyny. Ffieiddiai weniaith a derbyn wyneb o'i galon, a chredať na chafodd neb erioed y sail leiaf i ddwyn y cyfryw gyhuddiad i'w erbyn, ac nid wyf yn gwybod ddarfod i neb gynnyg gwneyd hyny chwaith. Casaai ffalsedd mewn gweinidogion, ac yn y weinidogaeth, â chas cyflawn. Nid allai aros gwrando y pregethwyr hyny a ymddangosent eu bod yn gofalu mwy am foddio a difyru eu gwrandawyr, nag am eu hargyhoeddi, eu goleuo, eu dychwelyd, a'u hadeiladu; ac nid oedd dim, o'r tu arall, a'i boddhäai yn fwy nâ chlywed geiriau gwirionedd a sobrwydd yn cael eu traethu yn eu syml-noethedd priodol eu hunain. Dywedai "fod yr areithfa yn lle rhy ofnadwy i wenieithio ynddi, a bod eneidiau yn rhy werthfawr i ffalsio iddynt." Cof genyf ei glywed yn dywedyd fwy nag unwaith, yn ei briod—ddull arferol ei hun, "Y mae dosbarth o bregethwyr ag y mae yn ymddangos i mi that their chief aim is to please sinners, and not to convert them: y mae yn fater dychrynllyd."

Mor fawr oedd ei gariad at gywirdeb a gonestrwydd, fel os unwaith y caffai le cyfiawn i amheu cywirdeb egwyddor unrhyw berson, neu weled tuedd wenieithgar a maleisus ynddo, anhawdd iawn fyddai i'r cyfryw ennill cymmeradwyaeth ei feddwl drachefn. Ni fynwn ddywedyd ei fod bob amser yn hollol yn ei le o ran ei farn am bersonau; yr wyf yn sicr ei fod yn hollol gydwybodol; y cwbl yn mron a ddywedai fyddai, "I can feel no respect for the man, I am sorry for it;" oblegid ymddengys i mi mai dyn diegwyddor, gwenieithus, ac annheilwng o ymddiried ydyw ef." Byddai yn dueddol iawn i gymmysgu Cymraeg a Saesonaeg yn ei ymddyddanion cyffredinol a chyfrinachol. Y tro diweddaf y bu yn pregethu yn W——ch, cafodd gyfle i ymddyddan yn bersonol â hen wrandawr o'r ardal hòno, yr hwn a fuasai yn proffesu crefydd gynt. Yr oedd efe yn dra adnabyddus ag ef er ys llawer o flynyddau, ac yr oedd ganddo deimlad dwys drosto. Dywedodd wrtho, os nad ymadawai â'i ddiod feddwawl, a dyfod yn Ddirwestwr, y byddai mor sicr o fod yn golledig â bod ei enw yn ——; ond os byddai iddo ymwrthod â'r ddiod, y byddai ganddo ryw obaith o'i gyfarfod yn y nefoedd: "Yr ydych wedi cynnyg gyda chrefydd fwy nag unwaith o'r blaen, (meddai,) a hi a'ch maglodd bob tro, ac y mae ei dylanwad arnoch yn myned yn gryfach-gryfach o hyd, a myned gryfach-gryfach a wna bob dydd tra yr ymarferoch â hi." Gwelais ef drannoeth, ac adroddai yr hanes wrthyf, gan ychwanegu, "Yr wyf yn teimlo fy meddwl wedi cael esmwythâd ar ol ymddyddan ag ef; yr oeddwn yn ofni na buaswn yn ddigon ffyddlon a gonest tuag ato; y mae fy meddwl yn rhedeg yn aml at lawer o hen wrandawyr draw ac yma, y rhai y byddai yn dda genyf gael cyfle i ymddyddan yn bersonol â hwynt cyn fy marw; yr wyf yn teimlo yn euog na buaswn yn tori atynt pan y byddwn yn eu tai, lawer o honynt." Ychydig ddyddiau cyn ei farw, pan oeddwn i ac amryw frodyr yn ymweled ag ef, ac yn ein mysg gweinidog y lle yr arferai y gwr y cyfeiriwyd ato wrando ynddo, gofynodd "Pa drefn sydd ar hwn a hwn yn bresennol?" "Wedi myned yn ei ol i'r un pwll," neu eiriau cyffelyb, oedd yr ateb. "Wel, wel, (meddai yntau,) dyn a fyn fyned i uffern ydyw, er pob peth." Dengys yr ychydig enghreifftiau uchod, allan o'lawer o'u cyffelyb, mor dyner oedd ei gydwybod, ac mor ofalus oedd y gwas ffyddlawn hwn am onestrwydd a chywirdeb.

5. Yr oedd yn hynod hefyd o ran ei ysbryd rhydd a diragfarn. Meddai ar feddwl rhy eangfrydig i gulni a rhagfarn gael nawddle o'i fewn. Nid ffug-ymddangosiad o ryddfrydigrwydd yn unig yn y cyhoedd oedd yr eiddo ef; ond y peth a ymddangosai ei fod yn y cyhoedd, ydoedd mewn gwirionedd. Anadlai yr un ysbryd rhydd a diragfarn tuag at frodyr o enwadau ereill, yn ei gyfeillach gyda'i frodyr ei hun, ag a arferai osod allan yn ei bregethau a'i areithiau. Dywedai yn fynych ei fod wedi penderfynu gwneyd ei oreu tra y byddai byw i ladd rhagfarnau Cristionogion tuag at eu gilydd. Llawenhäai yn fawr wrth weled undeb a chyd-weithrediad y gwahanol enwadau yn yr achos Dirwestol; ac ofnai yn fawr rhag i ddim ddygwydd i oeri a dyrysu yr undeb hwn. "Y mae pob sect newydd (meddai unwaith) yn wrthddrych eiddigedd a rhagfarn yr hen sectau: felly yr oedd y Trefnyddion Calfinaidd a Wesleyaidd yn eu hymddangosiad cyntaf. Edrychai yr hen sectau arnynt fel rhyw bethau echryslon a niweidiol iawn; dynodid hwy fel rhyw gyfeiliornwyr ofnadwy; ond gwelir erbyn heddyw pa fawr ddaioni a wnaethant. Pe codai rhyw sect newydd etto yn y wlad, codai yr hen yn ei phen yn ddiatreg. Yn wir, o'm rhan fy hun, dymunwn i'r Arglwydd godi rhyw sect neu sectau newyddion yn Nghymru, i ỳru eiddigedd ar yr hen rai, a'u codi i fwy o fywyd a gweithgarwch.'

"O! (meddai dro arall,) y mae yn rhaid fod ysbryd cul a rhagfarnllyd Cristionogion yn rhywbeth ffiaidd a drewedig iawn yn ffroenau y nefoedd: 'Canys nid yw Duw dderbyniwr wyneb, oblegid yn mhob sect, yr hwn sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymmeradwy ganddo ef.' Byddaf yn meddwl yn sicr nad oes dim yn ddamniol gyfeiliornus mewn un sect ag y gwelom arwyddion fod Duw yn bendithio ei hymdrechiadau : Os rhoddes Duw iddynt hwy yr Ysbryd Glân, pwy ydym ni i allu luddias Duw?' Ysbryd brwnt yw hwnw ag y mae llwyddiant plaid arall o Gristionogion yn boen ac yn ofid iddo; ysbryd lluddias Duw ydyw! Pe gallai hwn, ni chai neb byth yr Ysbryd Glân ond ei enwad ef. Os rhoddes Duw i ni, yr Annibynwyr, yr Ysbryd Glân, na edryched ein brodyr o enwadau ereill yn gul arnom. Os rhoddes efe yr Ysbryd Glân iddynt hwythau, na edrychwn ninnau yn gul, ac na feddyliwn yn gyfyng am danynt; derbyniwn ein gilydd megys ag y 'derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw.' Nid oes gan Gristionogion amser i daeru a dadleu â'u gilydd ar y ffordd; y mae eu hamser yn rhy werthfawr, a'u gwaith yn rhy bwysig."

Cofir yn hir gan y rhai oeddynt yn bresennol, am y dull tra effeithiol yr adroddai hanesyn, gan wneyd cymhwysiad o hono at ei hoff-bwnc hwn, sef undeb a chariad rhwng Cristionogion â'u gilydd, mewn cyfarfod cyhoeddus yn RhosLlannerchrugog: "Yr wyf yn cofio (meddai) fy mod unwaith yn ymddyddan â môr-filwr, yr hwn a adroddai i mi gryn lawer o'i hanes a'i helyntion; dywedodd mai y frwydr fwyaf ofnadwy y buasai ynddi erioed, oedd un a gymmerodd le rhwng y llong yr oedd ef ynddi, a llong arall berthynol i Loegr, pan ddygwyddasant gyfarfod eu gilydd yn y nos, a chamgymmeryd y naill y llall. Tybiai y naill, a thybiai y llall ei bod yn ymladd yn erbyn llong Ffrengig. Lladdwyd amryw ar fwrdd y ddwy, ac anmharwyd a drylliwyd y ddwy lestr yn fawr iawn. Ond erbyn goleuo y boreu, mawr oedd eu syndod a'u gofid, pan welodd y naill fanerau Lloegr yn chwarae ar y llall, ac y deallasant eu bod wedi bod y nos o'r blaen yn ymladd â'u gilydd mewn cam-gymmeriad! Nesâodd y naill at y llall; cyfarchasant eu gilydd, a chydwylent mewn gofid a chydymdeimlad. Tebyg iawn i hyn y mae Cristionogion yn y byd hwn; y naill enwad yn cam-gymmeryd y llall am elyn; nos ydyw—methu adnabod eu gilydd y maent. Beth fydd y syndod pan welant eu gilydd yn ngoleu byd arall—pan gyfarfyddont eu gilydd yn y nefoedd, wedi bod o honynt yn saethu at eu gilydd yn niwl y byd hwn! Pa fodd y byddant yn cyfarch eu gilydd yno, wedi dyfod i adnabod y naill y llall, wedi bod yn clwyfo ac yn gwaedu eu gilydd yn y nos! Ond dylent ddysgu aros i'r dydd dori cyn gollwng at eu gilydd, bid a fyno, fel y gallont fod yn sicr o beidio â saethu cyfeillion mewn cam-gymmeriad."

6. Ei ysbryd cyhoeddus hefyd oedd yn dra nodedig. Cai pob achos da gynnorthwy parod a siriol ei dalentau a'i arian. Yr oedd fel enaid a bywyd pob sefydliad a chynllun tuag at wasanaethu yr achos yn mhlith yr enwad y perthynai iddo. Er yn sicr na bu neb erioed ddedwyddach gartref nag ef, nac yn hoffi ei gartref yn fwy nag yr oedd efe, etto ni bu neb erioed parotach i fyned oddicartref pan fyddai rhyw amgylchiad perthynol i achos Crist yn gofyn am hyny. Nid oedd nemawr addoldy perthynol i'r Annibynwyr mewn tref na phentref yn swydd Fflint a Dinbych, na byddai ef naill ai dan ryw ran o'r baich mewn ymrwymiad, neu na chostiai lafur a gofal iddo mewn rhyw ffordd neu gilydd. Llawer a deithiodd trwy Ogledd a Deau Cymru a Lloegr hefyd, ar bob tymhor a thywydd, i ddadleu achosion eglwysi gweiniaid a thlodion, er eu rhyddhau odditan feichiau trymion dyledion eu haddoldai, pan y gallasai fod yn esmwyth a diofal arno ar ei aelwyd gysurus, ac yn nghanol ei deulu dedwydd gartref. Ac nid siarad drostynt yn unig a wnai, ond efe bob amser a roddai ei law gyntaf a dyfnaf yn ei logell, er cyfranu tuag at eu cynnorthwyo. Llafuriodd lawer yn achos yr Undeb Cyffredinol, er talu dyledion yr addoldai, a sefydlwyd yn y fl. 1834, drwy deithio drwy amrywiol siroedd i annog a deffroi yr eglwysi yn yr achos. Bu yn y brifddinas hefyd gyda'i frodyr, Morgan, Machynlleth; Jones, Abertawy; Saunders, yn awr o Aberystwyth, yn casglu tuag ato; a chyfranodd gyda hyny y swm o ddeg punt a deugain ei hunan at yr achos. Felly y byddai gyda golwg ar bob achos teilwng a da: yr oedd ysbryd hunan-geisiol a chybyddlyd yn beth na wyddai ef ddim am dano, ond yn unig mewn teimlad o ffieiddiad tuag ato. Byddai yn barod bob amser i fenthyca gwasanaeth ei dalentau i unrhyw enwad o Gristionogion a geisient hyny ganddo. Yn ddadleuydd grymus ac effeithiol dros bob achos, cymdeithas, a sefydliad, er goleuo a diwygio y byd mewn gair, yr oedd "yn bob peth i bawb," heb fod yn ddim iddo ei hun. Ni thybia un darllenydd a ŵyr am dano, (a pha ddarllenydd na ŵyr,) fy mod yn dywedyd gormod wrth ddywedyd fel hyn: Yr oedd ei fywyd yn aberth cyssegredig i wasanaeth y ffydd; ymdrechai yn mhob modd i "adael y byd yn well (fel y dywedai) pan elwid ef o hono, nag yr oedd pan y danfonwyd ef iddo;" ac, o ganlyniad, yr oedd colli WILLIAMS yn golled, nid i ryw eglwys neu eglwysi neillduol—nid i un enwad o Gristionogion yn unig—ac nid i un wlad bennodol, ond i'r eglwys fawr gyffredinol, ac i'r byd mawr cyffredinol, fel y sylwai gweinidog o enwad arall, pan dderbyniai y newydd o'i farwolaeth.[1]

7. Yr oedd yn wr cadarn nerthol mewn gweddi. Yma yn ddiamheu yr oedd "cuddiad cryfder" ei weinidogaeth. Dywedai y Parch. M. Jones, o Lanuwchllyn, am dano, yn ei gyfarchiad ar ddiwrnod ei gladdedigaeth, y byddai bob amser pan yn ei gyfrinach, yn cael ei daro â'r ystyriaeth hon am dano, sef ei fod yn un ag oedd yn arfer dal llawer o gyfrinach â'i "Dad yr hwn sydd yn y dirgel." Mewn cyfrinach gyda'i frodyr, mewn cyfarfod neu gymmanfa, byddai bob amser yn ymdrechgar iawn i fagu ynddynt yr ysbryd hwn: arferai ddywedyd "ei fod yn meddwl nad oedd ein hen dadau yn llawer amgen pregethwyr nâ ninnau yn yr oes hon, a'u bod yn mhell yn ol at eu gilydd, mewn llawer o bethau, ond yr oedd rhyw eneinniad ar weinidogaeth llawer o honynt, a llwyddiant yn ei dilyn, na welir 'mo hono ond anfynych yn bresennol; a pha beth yw y rheswm am hyn? Yr oeddynt yn well gweddiwyr, dyna'r paham. Os mynwn lwyddo a gorchfygu gyda dynion, rhaid i ni lwyddo a gorchfygu gyda Duw yn gyntaf. Ar ei liniau yr aeth Jacob yn dywysog; ac os mynwn ninnau fyned yn dywysogion, rhaid fod yn amlach ac yn daerach ar ein gliniau." Hoffai adrodd hanesyn am y diweddar Barch. J. Griffiths, o Gaernarfon, yn fynych. 'Clywais," meddai, "am Mr. Griffiths, ei fod i bregethu mewn tŷ annedd un noson, ac iddo ddeisyfu cael myned ar ei ben ei hun i ystafell cyn dechreu y cyfarfod; arosodd yno nes y daeth y bobl ynghyd, ac iddi fyned ryw gymmaint dros yr amser pennodol i ddechreu; wrth ei weled yn oedi felly, anfonai gwr y tŷ y forwyn ato i ofyn iddo ddyfod at ei waith; yr hon, pan ddaeth at ddrws yr ystafell, a glywai ymddyddan lled ddystaw, rhwng dau â'u gilydd, fel y tybiai hi; safodd wrth y drws i wrando, a chlywai un yn dywedyd wrth y llall, 'Nid af oni ddeui gyda mi, nid af oni ddeui gyda mi.' Dychwelodd yn ol at ei meistr, a dywedai, Y mae rhywun gyda Mr. Griffiths, ac y mae yn dywedyd wrth hwnw na ddaw ef ddim os na ddaw yntau gydag ef, ac ni chlywais i y llall yn dywedyd un gair wrtho, felly nid wyf fi yn meddwl y daw oddiacw heno.' 'O daw, daw,' ebe ei meistr, ac fe ddaw y llall gydag ef, mi warantaf, os ydyw wedi myned felly; ni a ganwn ac a ddarllenwn i aros y ddau.' Daeth Mr. Griffiths, a daeth y llall gydag ef' hefyd, a chafwyd rhyw oedfa anghyffredinol iawn y noson hòno: bu yn ddechreuad diwygiad nerthol iawn yn yr ardal; dychwelwyd llawer o eneidiau at Dduw dan y bregeth, a bydd ei hol ar yr ardal hyd ddiwedd amser. Nid oes dim, frodyr, ond eisieu ein cael i'r un ysbryd a theimlad na byddai ein gweinidogaeth ninnau yr un mor nerthol i achub a dychwelyd." Yn ei ymweliadau â'r eglwysi, byddai bob anser yn y cyfrinachau neillduol, yn benaf dim, yn eu hannog i fagu ysbryd gweddi dros eu gilydd, a thros lwyddiant teyrnas Crist. "Gweddiwch dros eich gilydd," meddai, "yna ni ellwch ddrygu na chasâu eich gilydd—ni ellwch beidio caru eich gilydd, os byddwch yn gweddio. y naill dros y llall—daw gweddio yn hawdd, yn naturiol, ac yn bleserus wrth arfer gweddi—Minnau a arferaf weddi,' medd y Salmydd. Darllenais am wraig dduwiol yn America ag oedd wedi ymarfer cymmaint a gweddio, nes oedd gweddio wedi myned mor naturiol iddi ag anadlu. Yr oedd yn breuddwydio gweddio yn ei chwsg y nos; a fuoch chwi erioed yn breuddwydio gweddio?" Arferai alw gweddi yn "brif beiriant achub" o du yr eglwys. "Ni all pob Cristion fod yn bregethwr, yn swyddwr yn yr eglwys, yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol, ond gall pob un weddio; gall yr hen wraig gynnorthwyo gyda'r peiriant hwn. Peiriant ydyw y gall yr holl eglwys roddi ei hysgwyddau a'i holl nerth wrtho. Yr oedd yr eglwys apostolaidd yn deall nerth ac effeithiolaeth gweddi—yr oeddynt hwy oll yn gytun yn parhau mewn gweddi,' a'r weddi gytun hòno a rwygodd y cwmwl, ac a dỳnodd y tywalltiad mawr am eu penau.'

Byddai ei glywed ef yn gweddio mewn teulu, neu mewn addoliad cyhoeddus, yn argraffu ar bob meddwl mai un cydnabyddus iawn â'r gwaith ydoedd yn y dirgel. Y fath symledd plentynaidd a diaddurn yn gwisgo ei ddull a'i eiriau, y fath amlygiad o deimlad iselfrydig a hunan-ymwadol, a'r fath ystwythdra a meddalwch ysbryd, ag a barai i bawb presennol edrych arno fel plentyn bychan yn dadleu ei gwyn wrth draed tad caruaidd. Byddai ysbryd gweddi yn sicr o gael ei adfywio a'i ennyn yn mynwes pob gweddiwr a fyddai yn y lle.

Yn haf y flwyddyn 1838, cymmerodd daith drwy ran of Ogledd Cymru er mwyn ei iechyd—nid oedd yn alluog i bregethu—dychwelodd adref trwy Ddinbych; ac adroddai wrthyf yn llon-ddifyr hanes ei daith. "Treuliais y Sabboth cyntaf," meddai, "yn nhŷ fy hen gyfaill Mr. Timins, gerllaw Bangor. Bûm yn y capel y boreu, aethum allan wedi ciniaw i làn Menai, a rhodiais ychydig dan gysgod coedydd cauadfrig: y lle hyfrytaf i fyfyrio a gweddio a welais erioed; ac yr wyf yn meddwl y bydd yn hoff genyf i dragywyddoldeb am y llanerch hòno—yr oedd yn radd o nefoedd arnaf yno." Ond er mor fawr oedd mewn ysbryd gweddi, cyhuddai ei hun yn drwm am ei esgeulusdra gormodol o'i ddyledswydd yn fynych yn ei gystudd diweddaf. "O!" meddai unwaith, "yr wyf wedi treulio bywyd diweddi mewn cymhariaeth i'r peth a ddylasai fod; yma y collais hi fwyaf o unman. Yr wyf yn meddwl, os gwellhâf o'r cystudd hwn, y pregethaf yn well nag y darfu'm erioed, ond beth bynag am hyny, yr wyf yn penderfynu gweddïo yn well, yn amlach, ac yn daerach.' Gwellhaodd i raddau am dymhor byr wedi hyn, a thalodd ei addunedau yn ffyddlawn.

8. Yr oedd ei amynedd a'i ddyoddefgarwch dan groesau a chystuddiau yn dra hynod. Treuliodd tuag ugain mlynedd o'i fywyd gweinidogaethol yn y mwynhad o'r cysuron teuluaidd puraf a brofodd nemawr un. Yr oedd ei briod a'i blant yn ffynnonellau hapusrwydd iddo; ond wedi bod o'r haul yn hir dywynu ar ei babell, cyfnewidiodd yr hin: syrthiodd Mrs. Williams yn aberth i'r darfodedigaeth, yr hyn a roddodd archoll trwm i'w deimladau; ynddi hi collodd ymgeledd gymhwys, cynghorydd ddoeth, cydymdeimlydd ddiffuant, a chynnorthwyydd alluog iddo mewn llawer o bethau—un ag oedd feddiannol ar yr un ysbryd haelfrydig, ëang, a chyhoeddus ag yntau, fel y nodwyd o'r blaen. Symudodd yn fuan wedi hyny i Lynlleifiad, fel y dangoswyd eisioes: yma drachefn yr oedd "drygfyd yn ei dŷ:" cymmerwyd ei ferch hynaf yn sal gan anwyd trwm, yr hwn a derfynodd yn ddarfodedigaeth a marwolaeth; yr hwn a achlysurwyd drwy orfod codi ganol nos ar adeg y dymestl fawr, y 5ed o Ionawr, 1838, pan y syrthiodd cornfwg y tŷ i mewn trwy y tô i'r llofft. Yr oedd efe ei hun yn wael iawn er ys amryw fisoedd yn flaenorol: ni bu hithau ddiwrnod yn iach wedi hyny, ond gwaelodd a nychodd hyd ei marwolaeth. Yn holl ystod ei gystudd ei hun a'i anwyl blentyn, ni chlybuwyd unwaith gymmaint ag un gair o achwyniad oddiwrtho. Cadwai ei dymher, ac hyd y nod ei sirioldeb arferol dan yr holl dywydd. "Yr wyf yn gadael Eliza yn llaw yr Arglwydd," meddai, mae mewn llaw ddiogel a da, yn llaw Tad tynerach nâ fi; ac am danaf fy hun, yr unig beth sydd yn peri i mi ddymuno cael byw ychydig ydyw, i edrych a allaf bregethu Crist yn well nag y darfu i mi." Ychydig ddyddiau cyn ei marwolaeth hi, oddeutu mis cyn ei farwolaeth yntau, yr oeddwn wedi myned i ymweled ag ef: yr oedd fyth yn yr un dymher dawel a siriol, yn ymddyddan mor belled ag y caniatâi ei wendid a'i beswch iddo, am ei hoff destun, diwygiadau crefyddol. Pan ofynwyd iddo pa fodd yr oedd Miss Williams, atebai, "Meddyliwn ei bod yn y porth, yr wyf yn dysgwyl clywed y newydd am ei mynediad trwodd gyda phob cenad a ddel o'r llofft—yn ymyl cartref— y mae hi a minnau fel am y cyntaf, ond yr wyf yn meddwl yn awr mai hi a gaiff y blaen.' Mor wir geiriau y proffwyd, "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat ti, am ei fod yn ymddiried ynot."

9. Yr ydym bellach yn dyfod at y gamp uchaf yn ei fywgraffiad, sef i geisio gwneuthur portreiad o'i nodwedd fel pregethwr, oblegid mai yr hyn a ddywedir am dano dan y pen hwn, yn ddiau, a fydd yn brif destun beirniadaeth. Nid ydys yn dysgwyl y gellir boddloni pawb, ond ymdrechir i wneuthur cyfiawnder hyd y mae yn alluadwy â'r gwrthddrych hyglod, heb ddysgwyl canmoliaeth ar un llaw, nac ofni difriaeth ar y llaw arall. Dywed fy nghyfaill, Mr. D. Hughes, o St. Sior, mewn llythyr ataf, mewn perthynas i'r rhan yma o'r gwaith, fel hyn Ystyriwyf y gwaith o dynu darlun o'r hen seraph WILLIAMS, o'r Wern,—y fath ag y gellir dywedyd am dano wrth yr oes a ddel, Un fel yna yn gymhwys oedd efe,' yn orchest-gamp fawr.

"Yr oedd cymmaint o unigoledd a hynodrwydd yn perthyn iddo, o ran dullwedd ei feddwl, tarawiad ei ddawn, ac eglurder ei amgyffredion, fel y gofynid gradd helaeth o chwaeth athrylithaidd i adnabod ei gywir nodwedd, ond y mae yn llawer anhaws darlunio nag adnabod unrhyw wrthddrych.

Y mae yn deilwng i bawb gael tynu ei ddarlun yn ei ddillad goreu, felly yntau yn ddiau. Ymddangosai yn hynod, ïe, yn dra rhagorol brydferth, pe byddai yn bosibl ei gywir bortreiadu ar foreu cymmanfa, fel ei gwelwyd lawer gwaith, wedi esgyn y Rostrum o flaen rhai miloedd o wrandawyr, yn traethu ar ryw favourite topic, megys Mawredd, Trugaredd, Cariad, neu Amynedd Duw, &c., pan y byddai ei olwg, ei lais, ei loywon ddrychfeddyliau, ynghyd â mawredd y testun, wedi caethiwo pob meddwl trwy yr holl dorf, nes berwi y teimladau, gwlychu pob grudd â dagrau, a llanw pob mynwes â syndod. Byddai picture yr hen WILLIAMS, ar ddydd cymmanfa, yn ogoniant i'r wlad a'i magodd, yn hyfrydwch i filoedd a'i clywodd, ac yn glod i'r darluniedydd."

Bu codiad WILLIAMS i'r weinidogaeth yn ddechreuad era newydd, ac yn gyfnewidiad ar ei thôn a'i nhodwedd yn mysg yr Annibynwyr yn Nghymru, yn neillduol yn y Gogledd. Gallai mai nid anghywir iawn oedd y desgrifiad a rydd y diweddar fardd, Thomas o'r Nant, o ansawdd gyffredinol y weinidogaeth yn mhlith yr enwad hwn y pryd hwnw,—

"Nid oedd dim i'w ddywedyd,
Ond ei bod yn lled sychlyd."

Diau fod y Parchedigion George a Jenkin Lewis; Jones, Pwllheli; Griffiths o Gaernarfon; a Roberts o Lanbrynmair, yn wyr cedyrn nerthol yn yr ysgrythyrau, ac yn wyr o ddysg a synwyr mawr, ac yn bregethwyr grymus hefyd; Hughes o'r Dinas; a Pugh o'r Brithdir, hefyd oeddynt o ddoniau gwlithog a melusion; ond ni chyfododd yr un o honynt i ragoriaeth a hynodrwydd cyffredinol: yr oeddynt yn ser gloywon a dysglaer yn eu dydd: ond nid oeddynt wedi eu cynnysgaeddu â'r talentau anghenrheidiol i ddeffroi ystyriaeth, a thynu sylw gwlad o ddynion. Daeth WILLIAMS allan fel comet danllyd a llosgyrnog, ymddangosiad yr hon a dyn sylw pawb oddiwrth y ser sefydlog a frithant yr ëangder o'i deutu yn hollol ati ei hun; ei ffurf gwahanol, ei hagwedd anghyffredinol, cyflymder ei hysgogiad, nerth ei goleuni, ac anarferoldeb ymddangosiad y fath seren, a ennyna gywreinrwydd cyffredinol, nes y cyfyd pawb allan o'u tai mewn awydd i'w gweled, a niliynau o lygaid a gyd-syllant ar y parth hwnw o'r ffurfafen ag y bydd hi yn cymmeryd ei gyrfa drwyddo. Cyffelyb ydoedd yntau yn nechreuad ei yrfa weinidogaethol : tanbeidrwydd ei araethyddiaeth, cyflawnder ac ystwythder ei ddoniau, bywiogrwydd ei ddychymmyg, gwreiddiolder ei ddrych-feddyliau, a'i hyawdledd yn eu traddodi, a roddent adenydd megys i'w enw, ac a drosglwyddent y son am dano o'i flaen i laweroedd o fanau ag yr oedd efe ei hun yn bersonol yn hollol anadnabyddus ynddynt; fel i ba le bynag y deuai, byddai tyrfaoedd yn ymgynnull mewn awyddfryd mawr am ei glywed.

Yr oedd yn mlynyddau boreu ei weinidogaeth, yn danllyd a gwresog iawn o ran ei ddull yn traddodi, yn gollwng y ffrwyn i'w ddychymmyg a'i deimladau, braidd yn ormodol fe allai, o leiaf, felly y barnai efe ei hun, yn mlynyddau diweddaf ei oes. Addefai yn fynych ei rwymedigaeth i'w hen gyfaill a'i dad yn y weinidogaeth, y diweddar Barch. J. Roberts o Lanbrynmair, am lawer o addysg a hyfforddiant a gawsai ganddo, yn gystal tuag at weddeiddio a chymhedroli ei ddull yn traddodi yn yr areithfa, a thuag at "ddysgu ffordd Duw yn fanylach" iddo.

Soniai yn fynych yn mlynyddau diweddaf ei oes am dymmor blaenaf ei weinidogaeth; ond bob amser gyda gostyngeiddrwydd, a hunan-ymwadiad mawr. "Yr oeddwn wedi llyncu uchel-Galfiniaeth," meddai "yn raw, heb gymmeryd amser i'w chwilio, na meddwl yn wir bod angen gwneyd, oblegid tybiwn mai rhaid oedd ei bod yn ei lle; pregethwn hi gydag anffaeledigrwydd mawr, a cheisiwn gyssoni pethau â'u gilydd, a meddyliwn fy mod yn gwneuthur gwaith llyfn iawn arni, ond teimlwn fy ngwendid weithiau er hyny, a gobeithiwn na byddai y bobl yn ei weled." Dro arall, dywedai, "Bum yn ddiweddar yn edrych dros yr hen bregethau o bump i naw mlynedd ar hugain yn ol. Ah! ni thalant ond ychydig, y mae sawyr trwm uchel-Galfiniaeth arnynt; yr wyf yn ofni eu bod wedi gwneyd llawer o ddrwg, ond yr oedd gennyf ryw amcan erioed o dori at y bobl a'u deffroi, ond yn aml byddai y naill ran o'r bregeth yn milwrio yn erbyn y llall, ac felly, byddai yn debycach i ladd ei hun, nâ lladd y pechadur."

Cymhedrolodd ei olygiadau ar yr athrawiaeth, a'i ddull areithyddol yn traddodi gyda'u gilydd, fe ymddengys. Yn yr ugain mlynedd diweddaf o'i fywyd, yr oedd yn gryn wahanol o ran ansawdd ei bregethau a'r ffurf o'u traddodi, ond yr oedd yr hyawdledd a'r effeithiolaeth o hyd yn aros, ac yn hytrach yn cynnyddu. O'r blaen yr oedd o ran ei ddull yn gyffelyb i ruthr o wlaw taranau yn peri llifeiriant chwyddedig a ddylifa ac a ysguba bob peth o'i flaen a safai ar ei ffordd; tra yr ireiddia ac y tymhera y ddaear yn hyfryd er peri iddi dyfu a ffrwytho; ond yn awr, yr oedd ei weinidog· aeth a'i ddull yn debycach i ddisgyniad gwlith tyner, ac ambell gawod o glaear wlaw cymhedrol, bob yn ail â hauldes cynhesol yn saethu rhwng ochrau y cymylau dyfriog, nes y byddo holl lysiau, blodau, glaswellt, a hadau y ddaear yn cyd-lawenychu, ac yn cyd-yfu dan y dylanwad bendithiol.

Yr wyf yn gostyngedig farnu, mai tri chedyrn cyntaf gweinidogaeth eu hoes yn Nghymru, oeddynt Charles o Gaerfyrddin; Christmas Evans o Fon; a Williams o'r Wern. Am y cyntaf, sef Mr. Charles, ychydig mewn cydmariaeth oeddynt alluog i'w werthfawrogi yn ol ei wir deilyngdod; nid cymmaint o dân oedd yn ei areithyddiaeth un amser; yn nerth ei fater, ei bethau a'i ddrych-feddyliau yn unig yn mron yr oedd ef yn rhagori: a rhagorol iawn ydoedd, fel y dengys ei bregethau sydd yn awr yn cael eu cyhoeddi gan Mr. H. Hughes, y rhai a eglur brofant fod eu hawdwr yn feddiannol ar feddwl wedi ei ystorio â gwybodaeth a phrofiad efengylaidd, ar alluoedd treiddiol ac eryraidd, ar y chwaeth buraf, a boneddigeiddiaf, a'r golygiadau mwyaf llednais a goruchelwych. Ei bregethau, wedi eu gosod mewn argraff ydynt, fel "afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig." Wrth eu traddodi, byddai y pregethwr megys yn agor mwnglawdd o berlau gerbron ei wrandawyr, yn eu cloddio allan yn lled raddol o un i un, a chan ddysgwyl iddynt eu cymhell eu hunain i sylw yr edrychwyr, nes peri iddynt werthu yr oll a feddent er en pwrcasu, ni ofalai hwyrach gymmaint ag a fuasai ddymunol i'w caboli a'u coethi yn nhân araethyddiaeth, er peri i'w dysglaerdeb tânllyd belydru a gwreichioni yn ngolwg y marchnatawyr; o ganlyniad, elai llawer adref heb ganfod eu gwerth a'u gogoniant, ond pob marchnatawr call a'u gwerthfawrogent. Teimlai mwyngloddwyr enwog ereill yn ddigalon i geisio dangos yr eiddynt hwy yn yr un farchnad â Charles; y Parch. Ebenezer Morris, un ag yr oedd enw mawr iddo, a theilwng hefyd, yn mysg "y deg penaeth ar hugain," a ddywedai wedi ei wrando unwaith, ei fod yn "teimlo yn ddigalon, i feddwl ceisio pregethu drachefn."

Yr oedd Evans, yntau o'r ochr arall, yn eirias drwyddo oll, yn gyffelyb i losgfynydd tânllyd Etna, neu Vesuvius, yn bwrw allan ei lava fel afon ferwedig am ben ei wrandawyr, nes y by ddai eu holl deimladau yn cynneu, ac yn llosgi yn angerdd ei wres anorchfygol. Yr oedd yn ddyfalydd a dychymmygydd heb ei gymmar; personolai ei fater o flaen ei wrandawyr, yn y fath fodd ag a'u gorfodent yn mron i sylwi arno a'i deimlo. Os rhyw amgylchiad a fyddai ganddo i'w ddesgrifio, cerfiai ef mor naturiol, nes y meddyliai pawb yn y lle, mai edrych ar y ffaith mewn gwirionedd y byddent, ac nid gwrando ar ddarluniad neu adroddiad o honi: os moch cythreulig Gaderenia fyddai y testun, parai i chwi feddwl eich bod yn y fan a'r lle, gwelech y genfaint ddieflig yn rhuthro heb yn waethaf i'r ceidwaid, a'u gwrych yn eu sefyll, ac yn treiglo bendramwngl dros y dibyn i'r môr. Dygai chwi i olwg dyffryn esgyrn sychion Ezeciel, arweiniai chwi o'i amgylch ogylch, tybiech eich bod yn gweled yr esgyrn yn wasgaredig ar hyd ei wyneb, eu gweled yn cynhyrfu ac yn dyfod yn nghyd asgwrn at ei asgwrn, giau a chig yn cyfodi arnynt, tybiech glywed y gwynt yn anadlu arnynt, a hwythau ger eich bron yn cyfodi ar eu traed yn llu mawr iawn." Credech bryd arall wrth ei wrando eich bod yn gweled yr afradlon yn gadael tŷ ei dad, yn ei ganlyn i'r wlad bell, yn dyfod gydag ef yn ei ol, ei weled yn cael ei dderbyn gan ei dad; eich bod yn llygad-dyst, ac yn gyd-gyfranog o'r wledd, y llawenydd, y cânu a'r dawnsio, ac nid yn gwrando un yn desgrifio yr amgylchiad i chwi. Os angeu a buddugoliaeth y groes fyddai yr amgylchiad dan sylw, trosglwyddid chwi i'r lle, meddyliech eich bod yn sefyll yn ngodreu mynydd Calfaria, yn gweled gwrdd-deirw Basan, y cŵn, y llewod, a'r unicorniaid, yn cyd-ymosod ar y llew o lwyth Juda, ac yntau yn eu gorthddrechu, a'u gwasgaru, gan dòri eu dannedd a'u cyrn, nes y byddent fel cessair ar hyd ochr y mynydd. Neu beth bynag arall a fyddai y mater mewn llaw, trinid ef yr un modd, a chyda'r un cyffelyb effeithiau. Y coll, fe allai, oedd, bod ei ddychymmyg weithiau yn rhy grefi'w farn; byddai yn debyg i redegfarch porthiannus, yn prancio ymaith, gan gludo y marchogydd dros furiau a chloddiau, fel na allai bob amser gael llywodraeth briodol arno.

Yn y canol rhwng y ddau, cymmerai WILLIAMS yntau ei lwybr; elai i mewn i drysorau llyfr gras, dygai allan "bethau newydd a hen." Rhyw un o egwyddorion athrawiaethol neu ymarferol teyrnas nefoedd bob amser yn cael ei dwyn a'i gosod allan; eglurai hi gyda'r fath symledd, a dygai hi gerbron yn y fath oleuni, fel y gallai pob un o'i wrandawyr ei gweled a'i deall, byddai ganddo gyflawnder o'r cydmariaethau mwyaf hapus a phriodol er eglurhau ei fater, ac yn y diwedd, gwasgai hi adref at y gydwybod gyda nerth anorchfygol ni byddai yn bosibl i neb yn y lle fod yn ddifater a disylw, ac ni fyddai yn bosibl sylwi a bod heb deimlo.

Er fod ei ddychymmyg o'r fath rymusaf a bywiocaf y bu y meddwl dynol yn feddiannol arni, etto yr oedd bob amser—h. y., dros yspaid yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes—o dan lywodraeth a dysgyblaeth dda, wedi ei chaethiwo a'i dysgu i wasanaethu y mater a drinid, er ei egluro a'i wisgo gyda phrydferthwch a gogoniant. Yr oedd yn ofalus iawn i roddi ei holl dalentau allan er defnyddioldeb cyffredinol : "Usefulness," oedd ei hoff arwyddair, ac at hwn yr oedd yn cyrchu gyda holl nerthoedd ei ddoniau, ei ddychymmyg, a' wybodaeth.

Gallesid enwi un arall o gawri y weinidogaeth, yr hwn, a'i ystyried fel areithydd celfyddgar a meistrolgar, a ragorai ar bob un o'r tri, ond odid; ond gyda golwg ar ddyfnder meddwl, uchelwychedd golygiadau, gwreiddioldeb drychfeddyliau, prif elfenau cyfansoddiad gwir fawredd pregethwr, "ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf."

Wrth wrando WILLIAMS yn pregethu, gallasech ei gyffelybu i delynor medrus, yr hwn, cyn dechreu chwareu ei dôn, a drinia ac a gywreina dannau ei delyn; ac wedi cael' pob tant i gywair priodol, a chwery ei fysedd ar hyd-ddynt, nes y clywid y gyd-gerdd bereiddiaf a melusaf yn dylifo megys oddirhwng ei ddwylaw. Cymmerai yntau ei destun megys y cerddor ei delyn, ac wedi pum mynud, fe allai, o gyweirio ei dannau mewn rhagymadrodd a dosbarthiad, dechreuai chwareu arnynt, gan dywallt allan y fath beroriaeth seinber, fel os byddai rhywun o'r rhai a fyddent yno yn bresennol heb ei gynhyrfu dan ei dylanwad, rhaid ei fod wedi cau ei glustiau, fel y neidr fyddar, rhag gwrando ar lais y rhiniwr a'r swynwr cyfarwydd hwn.

Rhoddi y fath ddesgrifiad o hono ag a grybwyllai y cyfaill rhag-grybwylledig, pan safai uwchben tyrfa cymmanfa neu gyfarfod, sydd orchwyl pell uwchlaw fy ngallu i. Byddai yn hawdd i'r rhai cyfarwydd ag ef, frudiaw oddiwrth ei ddull a'i agwedd cyn pregethu, ar y cyfryw achlysuron, pa fodd y byddai arno pan elai ati. Pan fyddai yn llawn ysbryd pregethu, a'i feddwl yn cydio yn ei fater yn y rhag-olwg arno, nes y byddai ei enaid wedi chwyddo gan ddrych feddyliau, byddai ei wefusau a'i eiliau yn ymsymud ac yn crychu, gan gyfnewid eu dull a'u ffurf yn barhaus; byddai ei lygad megys yn chwyddo, ac yn mynych newid ei ddynodiant (expression), megys pe buasai drych-feddyliau ei enaid yn saethu allan trwyddo, y naill ar ol y llall, a phob un yn argraffu ei delw ei hun arno yn ei mynediad drwyddo, a'r naill yn dinystrio gwaith y llall, mor gynted ag y gorphenai ef. Edrychai weithiau yn hynod o absennol oddiwrtho ei hun, fel un wedi llwyr soddi, o ran ei feddwl, i ryw fater, pan orphenai yr hwn a bregethai o'i flaen. Cyfodai i fynu mewn agwedd a dull a ddangosai bod ei holl deimladau wedi eu hadsefydlu, a bod y gwaith ag oedd yn myned yn mlaen yn y peiriant mewnol yn awr wedi sefyll, i'r dyben i'w ail osod i droi yn rheolaidd, er bwrw allan ei gynnyrch i'r cyhoedd. Wedi darllen ei destun, yn lled afler yn gyffredin, a rhagymadroddi yn fyr, fel y crybwyllwyd, cydiai yn ei fater, a dosbarthai ef yn gryno ac yn fyr, a dechreuai ei osod allan a'i egluro mewn trefn, gan gadw perffaith lywodraeth ar ei deimladau a'i lais, fel un a fyddai yn gwbl feistr arno ei hun, ar ei fater, ac ar ei wrandawyr; fel y byddai yn myned i mewn iddo, ac yn cynhesu ynddo, dechreuai delweddau ei feddwl godi drachefn i'w wynebpryd a'i lygaid, a'r drychfeddyliau ysplenydd hyny a fuasent o'r blaen yn berwi yn ei galon, a ddechreuent ddylifo allan, gan gymmeryd eu hadenydd oddiar ei wefusau, y naill ar ol y llall, nes y byddai yn fuan wedi hoelio pob clust wrth ddôr ei enau, pob llygad o'r dorf a fyddent dano wedi ei sefydlu arno, a phob meddwl wedi ei gylymu wrth ei fater. Weithiau byddai yr holl gynnulleidfa yn gwrando mewn dystawrwydd syn, pob un megys yn arswydo gollwng nac ochenaid nac anadliad uwch nâ'u gilydd allan, a phob gair o'i enau, fel y disgynai ar y glust, yn taro y deigryn dystaw allan o'r cannoedd llygaid a fyddent wedi eu sefydlu arno, ac yn gwylio symudiad ei wefusau! Bryd arall, byddai ocheneidiau, gwenau, a dagrau, i'w clywed a'u gweled, y naill yn dyrchafu o'r fynwes, y lleill yn argraffedig ar y wedd, y lleill yn dylifo o'r llygaid, yn cydgymmysgu â'u gilydd, fel ag y byddai holl deimladau y natur ddynol wedi eu cynhyrfu a'u galw i weithrediad gan "Feistr y Gynnulleidfa." Yr oedd ei lais yn hyglyw i bawb, pa inor luosog bynag fyddai y gynnulleidfa, a'i dôn yn beraidd anghyffredinol, pan fyddai yn ei lawn hwyliau yn traddodi; ac ymddangosai yn myned trwy ei waith yn naturiol, esmwyth, a diboen, heb gymmaint â gwlithyn o chwys ar ei wyneb. Nid trwy ymladd, gorchest, a gorthrech, y byddai byth yn dryllio teimladau ei wrandawyr, ond eu denu, eu hennill yn esmwyth a naturiol, eu tymheru a'u toddi, yn gyffelyb i ddylanwad yr haul ar y cwyr.

Wedi gwneuthur yr ychydig sylwadau cyffredinol uchod ar ei ragoriaethau fel pregethwr, rhaid i ni aros yn fwy neillduol etto, gan fanylu ar rai pethau pennodol ag oeddynt yn elfenau cyfansawdd ei nodwedd gweinidogaethol.

1. Ei wybodaeth gyffredinol. Dan y pen hwn dylid nodi ei wybodaeth ysgrythyrol, anianyddol, ynghyd â'i adnabyddiaeth o'r galon ddynol. Am ei wybodaeth ysgrythyrol, gellid yn briodol ddywedyd fod ganddo ddeall da ac amgyffred. helaeth o "ddirgelwch Crist." Golygai y Bibl fel llyfr o egwyddorion moesol—fod pob hanes a ffaith wedi ei bwriadu er cynnwys a gosod allan ryw egwyddor—a bod yn anmhosibl ei iawn ddeall, a chanfod ei ogoniant fel llyfr Dwyfol, heb edrych arno yn y goleu hwn. Yr oedd wedi gwneuthur yn brif wrthddrych ei ymgais, wrth ddarllen a myfyrio yr ysgrythyrau, i chwilio pa egwyddorion a ddysgai y rhan dan sylw, neu os na byddai egwyddor neu egwyddorion yn cael eu gosod i lawr ynddo, pa egwyddor neu egwyddorion fyddent yn cael eu hegluro a'u hesbonio; ac fel hyn yr oedd, debygwn i, yn myned i mewn i enaid yr ysgrythyrau yn chwilio eu cymalau a'u mêr—yn barnu meddyliau a bwriadau calon gair Duw; oblegid enaid y Bibl yw ei egwyddorion. Nid ymddangosai fel un cydnabyddus iawn â geiriau y Bibl; ychydig o ranau o hono a allai adrodd yn gywir allan o'i gof, ac etto, soniech am unrhyw ran neu ymadroddion o'r Bibl wrtho, yr oedd yn gwybod am danynt, ac wedi sylwi arnynt, fel yr oedd ysbryd "cyfraith gwirionedd" ar ei wefus, os na fyddai ffurf yr ymadroddion ar ei gof. Felly gellir dywedyd ei fod yn ysgrythyrwr mawr mewn gwirionedd. Yr oedd ganddo lawer o egwyddorion wedi eu casglu oddiwrth wahanol ranau o'r gwirionedd, drwy gydmaru ysgrythyr ag ysgrythyr; ac i bregethu yr egwyddorion hyny, cymmerai ryw destun fel arwyddair, gan hysbysu ei wrandawyr, mai nid ei amcan y pryd hwnw fyddai pregethu gwir feddwl y cyfryw destun, ond mai cymmeryd ei fenthyg y byddai i osod allan y mater a fwriadai ei drin. Beiai rhai arno am hyn; ond yr wyf yn meddwl gellid dangos fod Crist ei hun, a'i apostolion, yn arfer gwneyd yr un modd rai gweithiau. Ei ddiffyg mwyaf, ac o herwydd yr hyn y cwynai yn fynych, ydoedd na allasai adrodd y rhanau hyny o'r ysgrythyr a fyddent yn dal perthynas â'i fater, oddiar ei gof, pan yn pregethu, yr hyn a'i gosodai dan yr anghenrheidrwydd i droi atynt a'u darllen. Byddai y drafferth hon yn ei daflu allan o hwyl a thymher traddodi yn aml, ac yn lleihau yr effeithiau ar y gwrandawyr dros yspaid yr amserau hyny o'i bregeth. Yr oedd mor adnabyddus a theimladwy o'i ddiffyg hwn, fel na chynnygai byth yn mron i ddyfynu adnod heb droi ati. Diau fod dau fath o ysgrythyrwyr: y cyntaf a ellid eu galw yn ysgrythyrwyr arwynebol, sef rhai cydnabyddus ag ymadroddion y Bibl; y maent fel mynegeir yn rhwydd, a pharod, a chyfarwydd â'r geiriau, yn gallu eu hadrodd yn gywir a digoll; ond dyna yn mron y cwbl sydd ganddynt; y maent heb erioed edrych i mewn i ystyr a meddwl yr ysgrythyr, ond wedi ymfoddloni ar y wybodaeth arwynebol o'i hymadroddion yn unig. Y lleill ydynt yn fwy o fyfyrwyr meddwl y gair nag ydynt o gofiaduron ei eiriau; gan y blaenaf Y mae y wisg, ond gan yr olaf y mae y cnewyllyn; ond yr un goreu yn sicr yw yr hwn sydd yn uno y ddau ynghyd, a chanddo ffurf yr ymadroddion yn ei gof, a sylwedd neu ystyr yr ymadroddion yn ei ddirnadaeth. Er mai y dosbarth olaf, yn ddiau, yw y gwir ysgrythyrwr, ac na all y blaenaf gael ei gyfrif mewn gwirionedd yn un cyfarwydd a chadarn yn yr ysgrythyrau; etto, yr hwn sydd yn meddu y ddwy ynghyd ydyw yr ysgrythyrwr cyflawn. Felly, yn ol y desgrifiad uchod, yr oedd Mr. WILLIAMS yn ysgrythyrwr mawr a gwirioneddol, er, o herwydd y diffyg rhag-grybwylledig, nad oedd yn ysgrythyrwr cyflawn.

2. Ei wybodaeth anianyddol, neu ei anianddysg. Wrth hon deallir adnabyddiaeth neu wybodaeth o egwyddorion y byd naturiol. Yr oedd ef yn wir hoffwr natur; ac nid yn unig yn ddarllenwr gweithiau ereill ar wahanol gangheni y wybodaeth hon, ond yn sylwydd a myfyriwr gwreiddiol o honynt ei hun. Yr oedd ganddo amryw ddyfalion (conjectures) o'i eiddo ei hun am egwyddorion a deddfau y gwynt, y gwlaw, y taranau, &c.; pa mor gywir oeddynt, nid yw yn ngallu, nac yn perthyn i'r ysgrifenydd farnu; ond crybwyllir hyn er prawf ei fod ef yn hoffwr a myfyriwr anian. Carai rodio ar hyd meusydd an fesurol y greadigaeth, fel y galwai hwynt: yr oedd yn rhyfeddol o hoff o weled y mellt a chlywed y taranau, a son am eu deddfau; ac felly holl wrthddrychau ereill natur, fel ag y byddai ganddo ryw beth wedi ei feddwl am bob gwrthddrych yn mron. Yr oedd yn sylwydd ar, ac yn fyfyriwr o natur yn yr un dull ag y myfyriai yr ysgrythyrau, fel ag mai nid prydferthwch a gogoniant geirweddiad y Bibl a darawai ei feddwl, ac a effeithiai ei galon yn benaf, ond ei sylwedd a'i egwyddorion; felly gwrthddrychau y byd anianyddol, nid yr olwg arnynt yn benaf nac yn gymmaint, (er yr hoffai hyny,) a gynhyrfent ei sylw, ac a ddiwallent ei chwaeth, ond eu deddfau a'u hegwyddorion, y rhai hyn a ystyriai fel enaid anian, yn nghyfansoddiad y rhai, yn nghyd â chywirdeb a rheoleidd-dra difeth eu gweithrediadau, yr ymddengys mawredd, dyfais, a doethineb y Creawdwr yn fwy gogoneddus nag yn nullweddiad y pethau a lywodraethir ganddynt. Dywedai yn aml "bod ei ddeddf yn perthyn i bob peth, a bod rhyw ddarganfyddiadau rhyfeddol etto i gael eu gwneuthur yn neddfau natur,—bod dirgeledigaethau y ddoethineb hon yn ddau cymmaint â'r hyn sydd" wedi ei gael allan. "Pe deallem natur yn well, (meddai,) byddai yn gymhorth i ni ddeall y Bibl yn well. Y mae trefn iachawdwriaeth a threfn natur yn debyg iawn i'w gilydd; y mae cyffely brwydd mawr rhwng egwyddorion anianyddol y naill ag egwyddorion moesol y llall." Oddiar fod y chwaeth hwn mor nerthol ganddo, yr oedd mor dra hoff o ddamhegion ein Hiachawdwr, y rhai gan mwyaf a dynid oddiwrth wrthddrychau anian er egluro natur ac egwyddorion ei deyrnas. "Yr oedd Iesu mawr (meddai) yn hoff iawn o waith ei Dad, yn caru edrych ar y lili, a gwrando swn y brain, a myfyrio dirgelwch yr hedyn, &c.; ac yr oedd bob amser yn dysgu egwyddorion oddiwrthynt. Y mae yn wir mai nid ei amcan ef yn gymmaint oedd dysgu ei wrandawyr yn egwyddorion a deddfau natur, ond dysgu egwyddorion ei deyrnas ei hun drwyddynt. Yr egwyddor a ddysgai oddiwrth waith ei Dad yn addurno y lili â gwisg mor brydferth oedd, y buasai yn sicr o ofalu am ddilladu ei blant—oddiwrth ei waith yn porthi y brain a'r adar ereill, y gofalai yn ddiau am borthi a diwallu anghenrheidiau ei bobl—ac oddiwrth dyfiant, cynnyddiant, a ffrwythlonrwydd yr hedyn, y buasai i egwyddorion moesol ei deyrnas, y rhai yr oedd efe yn eu hau yn y byd, i dyfu, cynnyddu, a dwyn ffrwyth ynddo. Diau ei fod ef wedi myfyrio ac yn deall egwyddorion a deddfau anian yn berffeithiach nâ neb arall, ond ni pherthynai i'w swydd ef eu hesbonio a'u hegluro, ond yr oedd natur ganddo fel book of reference, i wasanaethu yn awr a phryd arall fel eglurhad o egwyddorion mawrion trefn gras. Barnai y dylai pob pregethwr fod yn fyfyriwr natur drosto ei hun, a bod yr Arglwydd Iesu Grist yn siampl yn hyn yn gystal â phethau ereill, i weinidogion ei deyrnas. Ar y cyfrif hwn yr oedd yn hoff anghyffredinol o weithiau Ꭹ Parch. Jacob Abbott, o America, yn neillduol y "Gongl-Faen:" arferai ddywedyd "ei fod y tebycaf i Iesu Grist o ran caste ei feddwl, a wyddai efe am dano, o ddyddiau yr apostolion hyd yn bresennol." Y mae yn drueni mawr (meddai) na allem bregethu yn gyffelyb i'r modd y mae y dyn yma yn ysgrifenu."

3. Ei adnabyddiaeth o'r galon ddynol. Ystyriai y wybodaeth hon yn anhebgorol i bregethwr, ac y dylai pob pregethwr beth bynag ei gwneyd yn bwnc a chelfyddyd i fyfyrio y Bibl â'i galon ei hun, ac os deallai ei galon ei hun, yna y byddai ganddo wybodaeth am bob calon, "oblegid, megys mewn dwfr y mae gwyneb yn ateb i wyneb, felly y mae calon dyn i ddyn." Yr oedd yn amlwg iawn i'w weled ynddo ef bob amser ei fod yn sylwydd a myfyrydd dwfn a manylgraff ar weithrediadau y galon ddynol, gan fel y byddai yn eu desgrifio, ac yn eu dilyn yn ei holl dröadau. Teimlad cyffredin ei wrandawyr fyddai yn un o syndod pa fodd y daethai o hyd i wybod am danynt, am weithrediadau dirgel a distaw eu meddyliau, eu tueddiadau a'u hesgusion. Credaf nad yw yn ormod i'w ddywedyd, na ragorodd neb yn ei oes yn Nghymru arno, os oedd un teilwng i'w gystadlu ag ef yn y canghenau hyn o wybodaeth, ag ydynt mor anhebgorol anghenrheidiol i swydd-waith yr areithfa.

2. Doethineb. Hon oedd un arall o elfenau ei ragoriaeth fel pregethwr. Wrth ddoethineb yn y lle hwn, deallir Ꭹ fedr o ddwyn y wybodaeth allan, a'i gosod mewn arferiad. Y mae gan lawer ystor fawr o wybodaeth, heb nemawr iawn o fedr i'w defnyddio er lles ac addysg ereill. Gwaith mawry pregethwr yw "ennill eneidiau," "a'r hwn a ennillo eneidiau sydd ddoeth;" rhaid iddo fod yn fedrus i osod ei wybodaeth allan yn y modd goreu i ateb y dyben. Yr oedd Mr. WILLIAMS yn ddigymmar yn hyn. Yr oedd ei ddoethineb yn ogyfartal â'i wybodaeth; "ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd," ydoedd, yn dwyn allan o'i drysorau bethau newydd a hen," gan eu cyfleu gerbron ei wrandawyr a'u dangos yn y goleu mwyaf ffafriol a manteisiol. Wedi gosod i lawr unrhyw egwyddor efengylaidd, galwai i weithrediad ei wybodaeth ysgrythyrol, a'i wybodaeth anianyddol, er ei hegluro drwy ysgrythyrau, a chydmariaethau, nes y byddai yn ddigon eglur ac amlwg i'r gwanaf ei ddeall a'i amgyffred; a chan ei churo adref at y gydwybod â morthwylion o ysgrythyrau, a chyffelybiaethau wedi eu casglu o feusydd anian; byddai yn sicr o gynnyrchu argraffiad dwfn-ddwys yn gyffredin ar feddyliau ei wrandawyr. Ni phregethai ond anfynych iawn yn un man, na adawai ryw beth i gofio am dano ar ei ol yn mynwesau y rhai a'i clywent. Ei adnabyddiaeth o'r galon ddynol fel y sylwyd, a'i galluogai i ragweled yr holl wrthddadleuon a'r esgusodion a gyfodent yn meddyliau ei wrandawyr yn erbyn y gwirioneddau a draddodai iddynt, a byddai atebiad parod i bob un o honynt ganddo, nes y byddai raid i'r pechadur naill ai plygu yn y fan, neu sefyll yn fudan hunan-gondemniedig gerbron yr athrawiaeth. Yr oedd yn gyfarwydd iawn ar y ffordd at sylw, cydwybodau, a theimladau ei wrandawyr, ac yn ofalus iawn wedi eu galw i weithrediad, i dywallt goleuni drwyddynt i'r deall; ac amcanai bob amser ennill neges y weinidogaeth yn eu calonau, drwy ymdrechu er caethiwo eu meddyliau i ufydd-dod ac ymostyngiad dioedi i'r gwirionedd; fel hyn gellir dywedyd ei fod yn farchnatäwr call iawn gyda'i dalentau, yn eu troi oll i'r defnydd a'r dyben goreu. Y mae rhai yn gyflym iawn i yfed i mewn bob cangen o wybodaeth, ond yn hollol anfedrus i'w dwyn allan drachefn; "Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a'r hwn a ddygo ddeall allan," medd Solomon; a pherthynai y gwynfydedigrwydd yma mewn modd neillduol i wrthddrych y cofiant hwn.

Gallesid meddwl wrth wrando arno, mai dygwyddiad dawn naturiol yn unig ydoedd ei fedrusrwydd i ddeffroi a chynhyrfu teimladau ei wrandawyr, nid ymddangosai amcan a chelfyddyd at hyny yn y mesur lleiaf yn ei ddull; pan mewn gwirionedd, yr un pryd, mai wedi gwneuthur ei hunan yn gymmaint o feistr yn y gelfyddyd, drwy sylw a myfyrdod yr oedd, nes yr aeth yn hollol naturiol ynddi, yn gymmaint felly ag nad ellid canfod dim o ol trafferth dysgu arno. "Os bydd y bobl yn cael lle i feddwl (meddai) bod y pregethwr yn amcanu yn bennodol at effeithio eu teimladau, bydd hyny yn attalfa fawr ar ei ffordd i gael ei amcan i ben, ac yn attalfa i'r gwirionedd gael ei effaith ddyladwy ar y meddwl, a bydd yn ddigalondid ac yn rhwystr i'r pregethwr ei hun hefyd, os gwel ei gais yn troi yn aflwyddiannus. Y mae tuedd yn y fath argyhoeddiad yn meddyliau y gwrandawyr to destroy their confidence in our sincerity. Peidiwch byth a rhoddi lle iddynt feddwl eich bod yn awyddus iawn am ddryllio eu tymherau, ond gofalwch bob amser am sefydlu argyhoeddiad yn eu cydwybodau eich bod yn awyddus iawn am eu dychwelyd a'u hachub."

Yr oedd ei ddoethineb fel pregethwr hefyd yn ymddysgleirio yn fawr yn y ffaith o fod ganddo ryw un nod pennodol i bob pregeth, rhyw un argraff bob amser mewn golwg i'w gynhyrchu ar feddyliau ei wrandawyr; yr oedd ei ddyben, a rhyw un dyben neillduol ganddo mewn golwg bob tro yr esgynai i'r areithfa; ac at hwnw y cyrchai o'r dechreu hyd i'r diwedd, gan gadw ei nerth a'i lais at y rhanau pennodol hyny o'r bregeth a fyddent wedi eu hamcanu yn benaf i wasgu yr argraff bwriadol ar feddyliau y gynnulleidfa; ni byddai byth yn pregethu ar "antur, neu fel un yn curo awyr.' Bûm yn meddwl, wrth wrando llawer pregeth, (meddai,) Wel, i ba beth y mae hon dda? y pregethwr yn dweyd yn llyfn ac yn selog, heb un amcan yn y byd mewn golwg—no point whatever; ac ambell un arall â llawer o boints ynddi, heb yr un prif boint; ac felly y pregethwr yn dyrysu ei hun a'i wrandawyr rhyngddynt, ac yn colli y cwbl. Y mae yn ymddangos i mi, ein bod yn methu yn ddirfawr yn ein cyfarfodydd o herwydd hyn. Y mae yn anmhosibl, yn ol yr hyn yw cyfansoddiad y natur ddynol, i'n cyfarfodydd pregethu ateb llawer o ddyben, yn y dull y maent yn cael eu dwyn yn mlaen. Y mae Ysbryd Duw yn gweithio mewn trefn, ac yn ol deddfau cyfansoddiad y meddwl dynol, wrth ddychwelyd ac ail-eni pechadur, yn gystal ag y mae yn gweithio yn nhrefn natur, yn ol cyfansoddiad a deddfau pethau, er cynnyrchu gwahanol effeithiau yn y byd anianol. Yn ein cyfarfodydd ni, y mae un yn pregethu ar y mater hwn; cyfyd un arall ar ei ol, a phregetha ar fater arall digon pell oddiwrth y llall, ac felly yn mlaen drwy yr holl gyfarfod, fel mai damwain ydyw i ddim daioni gael ei effeithio drwyddynt. "Nid yw Duw awdwr anghydfod, ond trefn;" ond y mae annhrefn ac anghydfod mawr yn ein cyfarfodydd pregethu ni. Dylai fod trefn cyfarfod wedi ei thynu yn mlaen llaw—rhyw un argraff bennodol mewn golwg i gael ei heffeithio drwyddo―y pregethwyr i gael hysbysrwydd mewn pryd—a'r holl bregethau i dueddu yn uniongyrchol i gynnyrchu yr argraff hwnw; neu, o leiaf, dylai pob dwy bregeth a draddoder olynol, fod o'r un duedd uniongyrch â'u gilydd. Yr ydym yn fwy di-lun yn ceisio dwyn achos achub yn mlaen yn y byd, nag y mae neb ereill gyda'u galwedigaethau hwy. O, y mae plant y byd hwn yn gallach o lawer nâ ni. Pe baem yn meddwl am boliticians yn galw cyfarfod i gynnyg aelod seneddol i'r etholwyr; yr areithwyr yn dyfod yn mlaen, un i'w gynnyg arall i'w gefnogi, ac nid areithio un am y lleuad, a'r llall am y môr, a wnaent, ond am yr ymgeisydd―am ei egwyddorion ac am ei gymhwysderau i'r swydd. Cadwai pob un o honynt at ei bwnc; ac y maent yn ymddwyn yn gall ac yn philosophaidd hefyd; a dyma un rheswm paham yr ydym ninnau yn llwyddo cymmaint gyda dirwest; dirwest yw pwnc yr holl areithwyr; dal meddyliau y bobl at un peth, nes eu hennill ato, ac nid eu divertio â'r naill beth a'r llall, fel y gwneir yn y cyfarfodydd pregethu gyda ni. O, mi a garwn yn fy nghalon weled diwygiad trwyadl yn ein cyfarfodydd cyn fy marw.'

Traddodai y sylwadau uchod (o ran sylwedd), ynghyd â llawer o'u cyffelyb, ar y ffordd, yn nghlywedigaeth yr ysgrifenydd a rhai brodyr ereill, tua thair blynedd cyn ei farwolaeth; a da genyf allu ychwanegu ddarfod iddo gael ei ddymuniad o weled y diwygiad a ddesgrifiai yn y cyfarfodydd i raddau go helaeth cyn ei farwolaeth. Pwy na wel fod doethineb, priodoldeb, a synwyr mawr yn ei sylwadau blaenorol, a'u bod wedi tarddu o galon feddylgar a chraff, yn ffrwyth myfyrdod a sylw "gweithiwr difefl" ac ymroddgar. Hyderwn y gallant fod o fudd i bregethwyr a gweinidogion y gwahanol enwadau yn Nghymru etto. Yr wyf fi yn ystyried pob peth a glywais ganddo am bregethu a phregethau yn werth en dal a'u cofio, gan y golygaf mai efe oedd Solomon y weinidogaeth yn ei ddydd: "a hefyd am fod y pregethwr yn ddoeth."

Ychwanegwn etto sylw arall am ei ddoethineb fel pregethwr yr oedd bob amser yn ofalus i beidio treulio allan ei fater, neu i beidio dywedyd cymmaint arno ag a allasai ddywedyd; ond mor fuan ag y darfyddai iddo egluro un gangen o hono, gadawai hòno, ac ymaflai mewn cangen arall, ac felly yn mlaen, nes yr elai drwy holl ganghenau y mater a drinai; anaml iawn y pregethai uwchlaw tri chwarter awr; ni chwynid erioed ei fod wedi bod yn rhy faith, ond yn hytrach cwynid ei fod yn rhy fyr. Gofalai yr un modd hefyd am beidio gỳru gormod ar deimladau ei wrandawyr, wedi eu dirwyn megys i'w law, a'u cael "fel afonydd o ddwfr" dan ei lywodraeth. fel y gallai eu troi fel y mynai, ymattaliai ac arafai pan welai hwynt wedi codi yn lled uchel, fel y gostyngent ac yr ymionyddent drachefn. Mawr hoffai weled y gynnulleidfa yn astud ac effro, clywed eu hocheneidiau a gweled eu dagrau, ond yr oedd yn wrthwynebol iawn i waeddi a bloeddio, ac yr oedd yn gosod ei wyneb yn llyn iawn yn ei erbyn bob amser; barnai ei fod yn anweddaidd-dra mawr mewn addoliad crefyddol, a'i fod wedi bod yn atalfa i lawer o eneidiau gael eu hachub. Cynghorai ei frodyr yn y weinidogaeth a ddeuent i ymweled ag ef yn ei gystudd diweddaf, pan yr oedd adfywiad nerthol yn yr eglwysi, i beidio ar un cyfrif roddi cefnogaeth i'r gorfoleddu, fel ei gelwir. "Y mae yn dda iawn genyf ddeall (meddai) nad oes dim o hono hyd yma yn perthyn i'r adfywiad hwn; y mae arnaf ofn clywed ei fod yn dechreu, cânwn yn iach i'r adfywiad wedi hyny."

Byddai yn sylwi yn fynych, bod yr un mor bosibl i deimladau y gwrandawyr fod yn rhy gynhyrfus, yn gystal ag yn rhy farwaidd, i dderbyn argraff oddiwrth y gwirionedd, ac y dylai fod gan y pregethwr amcan pennodol at eu codi a'u cadw mewn teimlad astud, a bod yn ochelgar rhag eu codi yn rhy uchel i farn, a rheswm, a chydwybod gyflawni eu priodol swyddau tuag at y gwirionedd.

3. Un arall o'i ragoriaethau fel pregethwr oedd ei symledd, (simplicity.) Pa fater bynag a gymmerai mewn llaw, gwisgai ef â symledd ac eglurdeb rhyfeddol, ni byddai cymylau, a niwl, a thywyllwch o'i amgylch un amser. Nid un o'r pregethwyr hyny y clywid rhai yn dywedyd am dano, "Ni wn i yn y byd pa beth wyt yn geisio ddywedyd, gobeithio dy fod yn dywedyd y gwir," oedd WILLIAMS; gwnelai ef yn ddigon eglur i bawb o'i wrandawyr beth a fyddai yn geisio ddywedyd, oblegid nid ceisio dywedyd peth a methu a wnai ef, ond ei ddywedyd a'i egluro nes gwelai ac y deallai pawb a geisiai ei ddeall ef. Gwnelai ef sylw mawr o bethau a esgeulusid gan ereill yn gyffredin yn eu pregethau, codai a dangosai bethau ag a fyddent, (yn ol yr ymadrodd cyffredin,) dan drwynau pawb, ac etto heb eu gweled a'u defnyddio. Nid wyf yn cofio ddarfod i mi ei wrando unwaith erioed, na byddwn yn teimlo yn ddig wrthyf fy hun am na buaswn o'r blaen wedi canfod rhyw bethau a glywn ganddo, ac wedi gwneuthur defnydd o honynt—mor hawdd eu gweled erbyn iddo ef eu dangos, mor agos oeddynt erbyn iddo eu codi i sylw; ac etto mor briodol, a phrydferth, a defnyddiol i ateb y dyben a wnelai o honynt, pethau a wyddai pawb yn gystal ag yntau, ond rhoddai efe ryw oleu a golwg newydd arnynt. Yr oedd gwir oruchelwychedd (sublimity) yn ei symledd ef, a'i gwnelai yn bregethwr i'r dealldwriaethau mwyaf coethedig, a'r rhai gwanaf ac iselaf ar yr un pryd.

Yr oedd ei gydnabyddiaeth ag egwyddorion y Bibl, ei gydnabyddiaeth â gwrthddrychau ac egwyddorion anian, ynghyd â'i gydnabyddiaeth â'r natur ddynol, ac hefyd ei fedr i osod ei fater allan gyda symledd a goleuni, yn ei wneuthur yn wir fawr yn yr areithfa, yn ei alluogi i wasgu yr athrawiaeth adref at y galon gyda nerth a deheudra anarferol.

Fel enghraifft o'i hoffder at ddull syml ac eglur o bregethu, gellid dyfynu rhai o'i sylwadau yn y bregeth ddiweddaf a draddododd mewn cymmanfa, yn Bethesda, swydd Gaernarfon, yn y flwyddyn 1839, ar etholedigaeth a gwrthodedigaeth:—

"Yr ydym wedi mawr niweidio y byd, (meddai,) a mawr gymylu gogoniant llawer o athrawiaethau yr efengyl, drwy wneyd mystery o honynt; gwneyd dirgelwch o'r pethau a wnaeth Duw yn amlwg; yn lle cymmeryd y pethau fel y mae y Bibl yn eu gosod o'n blaen, rhaid i ninnau eu cipio i'r awyr a'r cymylau, a dywedyd bod rhyw ddirgelwch yn perthyn iddynt, ac felly myned â hwynt i'r dirgelwch, a'u cymylu a'u tywyllu, nes creu dadleuon ac ymrysonau yn eu cylch, a hurtio y byd a'i ddyrysu, yn lle symud y rhwystr o'i ffordd. Er siampl, pe cymmerem yr athrawiaeth o gyfiawnhad pechadur, pa nifer o gyfrolan mawrion a ysgrifenwyd ar y pwnc hwn, ac â pha ddirgelwch y gwisgwyd yr athrawiaeth fawr hon? a meddyliaf yn sicr, y byddai yr hwn a gymmerai y drafferth i ddarllen a cheisio deall yr oll a ysgrifenwyd ar y mater, yn mhellach oddiwrth ei ddeall yn y diwedd, nag oedd cyn dechreu, y byddai wedi ei hurtio a'i ddyrysu. Ond gwelwch mor fyr, syml, ac eglur, y pregethai Iesu Grist gyfiawnhad pechadur: 'Dau wr a aeth i fynu i'r deml i weddio, un yn Pharisead a'r llall yn bublican. A'r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynai gymmaint â chodi ei olygon tua'r nef, eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur. Dywedaf i chwi, aeth hwn i wared i'w dŷ wedi ei gyfiawnhau, ac nid y llall.' Ai dyna gyfiawnhad pechadur, Iesu mawr? Dyna efe; pechadur yn cwympo fel y mae, yn ei drueni, i drefn a thrugaredd Duw, heb ganddo un ddadl i'w chynnyg, ond trugaredd noeth, am ei fywyd. Dyna'r athrawiaeth yn ei gwaith; a phe buasem wedi dangos etholedigaeth a gwrthodedigaeth yn eu gwaith, ni buasai nemawr ddim ymryson wedi bod erioed yn eu cylch yn mysg Cristionogion. Darfu i ninnau theorizio yr athrawiaethau hyn, a thrwy hyny eu cuddio a'u cymylu, nes gwneyd drychiolaethau o honynt, a chreu casineb atynt yn meddyliau dynion. Ond y maent yn ymddangos yn brydferth a hardd iawn yn eu gwaith, yn gymmaint felly, fel na all neb ddigio wrthynt, nac anfoddloni iddynt.

"Gadewch i ni edrych ar etholedigaeth a gwrthodedigaeth yn y goleu hwn.

"I. Etholedigaeth.

"Wrth yr etholedigion yr wyf yn deall y personau hyny y rhagwybu Duw y byddai yn oreu ar y cyfan, er ei ogoniant ei hun, a lles a daioni cyffredinol y wladwriaeth fawr, i ddwyn oddiamgylch y fath oruchwyliaethau a dylanwadau Dwyfol, ag a effeithient eu dychweliad, a'u parhad hyd y diwedd. Ymdrechaf ddangos yr athrawiaeth yn ei gwaith, ac nid yn ngolyg-ddysg (theory). Caf roddi rhai siamplau.

"1. Cyfeiriaf chwi yn gyntaf at amgylchiadau dychweliad boneddiges, yr hon a fuasai byw yn mlynyddau boreuaf ei bywyd yn nghanol pleserau a meluswedd buchedd, yn hollol ddiystyr o grefydd, ac yn ddirmygus iawn o grefyddwyr. Priododd yn lled ieuanc â boneddwr ieuanc o'r un nodwedd â hi ei hun, ac aethant yn mlaen am rai blynyddau yn mhellach, i ddilyn pleserau a dullweddau y byd hwn. Ganwyd iddi ddau o blant, ac yn mhen rhyw gymmaint, cymmerwyd ei phriod yn glaf, a bu farw; felly gadawyd hi yn weddw, a'i phlant yn amddifaid. Yn mhen rhyw yspaid drachefn, bu farw un o'r plant, a'r llall drachefn a gymmerwyd oddiwrthi, fel y gadawyd hi, fel Naomi gynt, yn amddifad o'i gwr a'i dau blentyn. Yr oedd drygfyd wedi dyfod i'w thŷ, amgylchiad profedigaethus ar ol y llall a'i cyfarfu, nes ei dar. ostwng i amgylchiadau lled isel yn y byd. Gorfu iddi adael y palas yr oedd yn byw ynddo, a symud i le llai. Erbyn hyn yr oedd wedi ei dofi a'i dwyn i raddau ati ei hun, ond etto mor ddyeithr i grefydd ag erioed. Gyferbyn lle yr oedd yn byw yn awr yr oedd addoldy, a gwelai y bobl ar y Sabboth, ac amserau ereill, yn cyrchu iddo; ac yn mhen rhyw gymmaint o amser, dechreuodd feddwl pa beth a allent fod yn ei gael yno, gan eu bod yn parhau i gyrchu yno o bryd i bryd mai rhaid oedd eu bod yn cael rhyw bleser a budd, onidê, na buasent byth yn trafferthu eu hunain i ddyfod yno. Teimlai ei hunan yn annedwydd; ni wyddai beth oedd yr achos; ac ni wyddai beth a'i symudai. Penderfynodd, pa fodd bynag, i fyned yno ryw Sabboth, ac felly fu. Ymaflodd y gwirionedd yn ei meddwl—tywynodd goleuni newydd i mewn i'w chalon—canfu ogoniant crefydd Crist—a gwelodd mai adnabyddiaeth a meddiant o honi oedd yr unig beth anghenrheidiol iddi er ei dedwyddwch a'i chysur mewn bywyd ac angeu. Daeth yn Gristion gostyngedig a duwiolfrydig; pobl yr Arglwydd, y rhai a gasäai ac a ddirmygai gynt oeddynt ei chyfeillion anwylaf yn awr. Rhoddodd y profion mwyaf boddhaol o wir gyfnewidiad cyflwr, a bu farw mewn dyddanwch a gorfoledd. Beth oedd hyn? Etholedigaeth yn ei gwaith.

"2. Gwr ieuanc a ddygasid i fynu mewn teulu crefyddol, ond a droes allan yn wadwr a dirmygwr crefydd, yn anffyddiad penderfynol; ymroddasai i bob halogedigaeth, i" wneuthur pob aflendid yn un chwant." Bu agos iddo dori calon ei fam dduwiol; tywalltai aberoedd o ddagrau yn ei achos; ac yr oedd bron wedi anobeithio am ei ddychweliad; ond pa fodd bynag, wedi iddo fyned yn mlaen rai blynyddau mewn gyrfa o lygredigaeth ac anystyriaeth, daeth amgylchiad i'w gyfarfod a roddodd attalfa arno. Yn yr amgylchiad hwnw, gwasgwyd ef i ail feddwl am ei fywyd blaenorol—am gynghorion ac ymbiliau ei rieni—am ddagrau a gweddiau ei fam dduwiol drosto. Dechreuodd ddarllen y Bibl a ddirmygasai, a chafodd ef yn llyfr tra gwahanol i'r hyn y tybiasai ei fod; cyrhaeddodd y cleddyf dau-finiog trwodd hyd y cymalau a'r mêr, gan farnų meddyliau a bwriadau ei galon. Cyfnewidiwyd a dychwelwyd ef; daeth i fod yn aelod defnyddiol a dysglaer yn eglwys Dduw; gwelodd yr hen fam dduwiol ei mab hwn oedd farw, wedi dyfod yn fyw drachefn.' Etholedigaeth yn ei gwaith.

"3. Bywyd merch edifeiriol, yr hon a droisai allan yn wyllt ac anystyriol, gan ddilyn oferedd, ac o'r naill radd o ddrygioni i'r llall, nes o'r diwedd golli pob tynerwch cydwybod, a dibrisio ei hun yn gymmaint ag yr aeth i rodio heolydd Lynlleifiad yn butain gyffredin. Gyrfa o halogrwydd a wanychodd ac a ddinystriodd ei hiechyd a'i chyfansoddiad yn dra buan; dygwyd hi i'r edifeirdy (penitentiary) yn wrthddrych o drueni a gresyndod. Gwasgwyd gwirioneddau crefydd at ei meddwl yno, a gwelwyd hi, fel y bechadures yn nhŷ Simon gynt, yn golchi traed Gwaredwr pechadur â'i dagrau, a rhoddodd arwyddion gobeithiol o wir ddychweliad, a bu farw dan fawrygu a chanmol gras y Ceidwad. Etholedigaeth yn ei gwaith.

"4. Gwr meddw. Buasai unwaith yn ddyn parchus yn y gymmydogaeth; ond trwy ddilyn oferwyr, aethai wedi hyny yn ddiotwr, ac o'r diwedd, yn feddwyn hollol. Collodd ei gymmeriad a'i barch; diflanodd ei serch tuag at ei briod a'i blant; hollol esgeulusodd foddion gras. Yr oedd ei nodwedd, ei amgylchiadau, a'i gysuron teuluaidd, wedi eu llwyr ddyfetha; ei iechyd a'i gyfansoddiad hefyd oeddynt yn rhoddi y ffordd yn brysur. Yr oedd ei galon wedi caledu, a'i gydwybod wedi ei serio, a phob argraffiadau crefyddol yn mron wedi eu llwyr ddileu o'i fynwes. Daeth cyfarfod Dirwestol i'r gymmydogaeth lle yr oedd yn byw; daeth awydd arno yntau i fyned iddo; ennillwyd ef i arwyddo yr ardystiad; cadwodd ato; dechreuodd ymarfer â'r Bibl, yn lle â'r ddiod feddwol; dechreuodd gyrchu i'r ysgol Sabbothol a moddion gras; cafodd y gwirionedd argraff ar ei feddwl; daeth yn greadur newydd yn Nghrist Iesu, ac y mae yn awr yn aelod defnyddiol yn eglwys Dduw. Etholedigaeth yn ei gwaith., Yr etholedigaeth a'i cafodd.'

"Oddiwrth y ffeithiau uchod, y rhai a nodwyd yn unig fel ychydig enghreifftiau allan o filoedd, y mae y casgliadau canlynol yn naturiol a theg:—

"1. Y mae yn amlwg na allasai dim llai na gallu a dylanwad Dwyfol effeithio y fath gyfnewidiadau.

"2. Rhaid oedd fod y cwbl yn ffrwyth bwriad ac amcan—nid dygwyddiad a damwain.

"3. Rhaid fod y bwriad a'r amcan hwn yn dragywyddol: 'Hysbys i Dduw ei weithredoedd oll erioed.' Nid oes dim newydd yn dyfod i'w feddwl.

"4. Nid allai fod dim yn y gwrthddrychau yn teilyngu y fath garedigrwydd.

"5. Ni all fod y fath gyfnewidiad grasol ar y fath wrthddrychau yn taflu un math o ddianrhydedd ar nodwedd Duw, mewn un modd, ond yn hytrach yn tueddu i'w ogoniant a'i glod.

"6. Ni welwch ddim yn y ffeithiau i galonogi pechaduriaid i esgeuluso eu dyledswydd, ac i beidio ymarfer â phob moddion o ras yn eu cyrhaedd. "

7. Nid oes un tuedd ynddynt i yru neb i anobaith.

"II. Gwrthodedigaeth. Y gwrthodedigion yw y rhai hyny a fyddant golledig yn y diwedd, a hyny o herwydd iddynt wrthod edifarhau a dychwelyd.

"1. Mi a gaf eich cyfeirio at amgylchiad gwr ieuanc, yr hwn a gawsai fanteision addysg grefyddol: tyfodd i fynu er y cwbl yn galed a drygionus, gweithiodd allan o'i feddwl bob argraffiad crefyddol, aeth o ddrwg i waeth, gan ymgaledu fwy-fwy, nes y cyfarfu ag angeu anamserol yn nghanol ei annuwioldeb a'i anystyriaeth.

"2. Y pechadur anystyriol, yr hwn a fu byw dan weinidogaeth moddion yn ddifeddwl a dideimlad, heb ganddo un amgyffred na dirnadaeth o bethan crefydd; un o ddosparth "min y ffordd" yn y ddammeg,Bu fyw fel anifail, a bu farw fel anifail.

"3. Hen wrandawr efengyl, ag sydd wedi cynnefino â'i swn, nes ydyw wedi colli ei heffaith a'i dylanwad arno; y mae hwn yn debyg o fod yn un gwrthodedig, h. y. yn debyg iawn mai un a fydd yn ol ydyw.

"4. Y gwrthgiliwr. Wedi gadael crefydd er ys blynyddau, ac yn ymddangos yn hollol ddidaro a dideimlad yn nghylch ei gyflwr a'i sefyllfa.

"5. Y proffeswr rhagrithiol—wedi dyfod i eglwys Dduw, ac yn gwneyd tarian o'i broffes i gadw saethau y gwirionedd oddiwrtho, ac sydd yn cysgu yn dawel ac yn esmwyth arno yn Sïon.

"SYLWADAU.

"1. Ni all neb feio Duw am wrthod y fath nodweddau yn y diwedd. "

2. Os ydych dan un neu arall o nodau gwrthodedigion, eich bai chwi eich hunain yn hollol ydyw.

"3. Bydd gogoniant holl briodoliaethau moesol Duw yn cael ei amlygu yn namnedigaeth dragywyddol y fath nodweddau.

"4. Gallai fod rhai o honoch yn myned debycach debycach i rai gwrthodedig o hyd.

"5. Y mae cyflwr tragywyddol y gwrthodedig heb ei sefydlu yn anobeithiol tra parhao ei fywyd. 'I'r rhai sydd yn nghymdeithas y rhai byw oll y mae gobaith:' ond nid oes un gobaith y cedwir hwynt yn y cyflwr a'r nodwedd y maent ynddo; ond mae annogaethau iddynt i edifarhau a dychwelyd, a sicrwydd o dderbyniad iddynt ar eu dychweliad."

Gwasanaethed hyn yna fel siampl o symledd ei bregethau. Rhoddai bob amser ei ddoethineb ar waith i ddwyn allan ei wybodaeth yn y modd symlaf, er ennill sylw, argyhoeddi cydwybodau, goleuo deall, cyffroi serchiadau, a dychwelyd eneidiau ei wrandawyr; ac yn y fan hon y gadewir y desgrifiad o'i nodwedd fel pregethwr yn nwylaw darllenwyr y Cofiant, i'w feirniadu wrth eu hewyllys; y cwbl a ewyllysiai yr ysgrifenydd ddywedyd yw, y buasai yn dda ganddo pe buasai yn berffeithiach darlun, ond gwnaeth ei oreu, a phriodoler y ffaeleddau a ganfyddir ynddo i ddiffyg gallu ac nid diffyg ewyllys.

Deuwn yn nesaf i gymmeryd ber-olwg ar ei nodwedd fel gweinidog a bugail yn yr eglwys: y wybodaeth, y ddoethineb, a'r symledd a gyfansoddent ei ragoriaethau fel pregethwr uwchben y gynnulledfa yn yr areithfa; ynghyd ag elfenau ereill ei nodwedd fel dyn ac fel Cristion, a gydgyfansoddent ei gymhwysder a'i ragoroldeb o dan yr areithfa yn yr eglwys, fel gweinidog, bugail, a phorthwr praidd Crist.

1. Yr oedd yn ofalus iawn am heddwch a thangnefedd yr eglwys yn wneuthurwr heddwch. Mawr ddymunai "heddwch Jerusalem, a llwyddiant y rhai a'i hoffai." Mynych y dywedai mai cariad yw cyfraith y tŷ, ac nad oes un gyfraith na llywodraeth i gael ei gweinyddu yn Sïon ond cyfraith a llywodraeth cariad. Ymwelodd â llawer o eglwysi yn ei afiechyd diweddaf, ac annogai hwynt i undeb, tangnefedd, a chariad uwchlaw pobpeth. Mynych yr adroddai eiriau yr apostol, "Am ben hyn oll, gwisgwch gariad,"—"bydded yn egwyddor yn y galon, yn pelydru yn y llygad, ac yn diferu oddiar y wefus, ac yn wastad yn llifo mewn gweithredoedd o gymmwynasgarwch tuag at eich gilydd."

Adroddai yn mhob man sylw a glywsai gan y Parch. W. Griffiths, o Gaergybi, mewn cyfarfod blynyddol yn Llynlleifiad, "mai o bob aderyn, y golemen sydd yn dychrynu ac yn prysuro ymaith fwyaf pan glywo sŵn saethu." "Cofiwch (meddai) bod yr Ysbryd Glân yn cael ei gyffelybu i'r golomen, ac os ewch i saethu at eich gilydd, fe gymmer y golomen nefol ei haden, ac a'ch gedy yn fuan; ysbryd cariad a heddwch yw yr Ysbryd Glân, ac nid ysbryd ymryson a therfysg, ni all fyw yn y mŵg a'r tân, a lle byddo sŵn saethu: os ydych am ei dristâu, a'i ỳru ymaith, dyma y ffordd fwyaf effeithiol a ellwch gymmeryd, saethwch at eich gilydd ac fe ymedy yn union." Cafodd yr hyfrydwch a'r fraint fawr o fwynhau heddwch eglwysig yn y Rhos, a'r Wern, dros yr ysbaid maith o ddeng-mlynedd-ar-hugain ag y bu yr eglwysi hyny o dan ei ofal; aml waith y dywedodd am danynt, Y maent heb ddysgu yr art o ymladd erioed, a gobeithio na ddysg eu dwylaw, a'u bysedd byth y gelfyddyd o ymladd a rhyfela â'u` gilydd."

2. Yr oedd yn ddoeth, pwyllog, caruaidd, a ffyddlon iawn. Am ei nodwedd fel gweinidog ysgrifenai swyddogion eglwys y Rhos fel y canlyn:—

Gyda golwg arno fel gweinidog, ymddygai yn ddoeth, a gofalai am dreulio yr amser yn y cyfarfodydd eglwysig er adeiladaeth. Byddai yn fawr rhag blino neb â meithder mewn unrhyw gyfarfod: dywedai mai gwell yw tòri y cyfarfod tra yn ei flas, nâ threulio meithder o amser, a blino fe allai y rhan fwyaf o'r gynnulleidfa, a thrwy hyny eu difuddio. Ymddygai bob amser yn hynod o amyneddgar, pwyllog, a diduedd yn ngweinyddiad dysgyblaeth eglwysig; ond llym a phenderfynol yn erbyn troseddau cyhoeddus, pwy bynag a geid yn euog. Pan ddygwyddai anghydfod rhwng brodyr, yr oedd yn rhagori yn ei ddull a'i fedrusrwydd er dwyn y pleidiau i gymmod: anaml iawn y gwelid ef yn cyfryngu yn ofer ar y cyfryw achlysuron, "Ni fu erioed anghydfod (meddai) heb fod rhyw gymmaint o'r bai o bob tu, gwell yw ildio er mwyn heddwch yn y frawdoliaeth, er bod ar yr iawn; ochr ddiogel yw hon yna."

Dadleuai dros yr ochr a gymmerai mewn unrhyw achos ag y byddai gwahaniaeth barn yn yr eglwys arno, gydag amynedd, arafwch, ac addfwynder mawr, ac os yr ochr wrthwynebol a gai y mwyafrif, tawai, â gwen dros ei wyneb, a dywedai, "Wel, wel, gan y majority y mae mwyaf o deimladau beth bynag, yn mha ochr bynag y mae mwyaf o wybodaeth a deall." Sylwai fod yn dda ganddo nad oedd gofal eglwys Dduw ddim i fod ar ei ysgwyddau ef ei hun yn unig, ond mewn cydweithrediad â'r swyddogion. Pan ddygid unrhyw achos dyrus gerbron yr eglwys, byddai yn rhyfeddol o fanwl wrth ei osod gerbron, er ei egluro yn y fath fodd ag y gallai y gwanaf ei ddeall yn yr eglwys ei amgyffred. Wrth geryddu brawd unwaith, sylwodd mewn modd tra effeithiol, gan ddywedyd, "Ni byddaf byth yn dyfod â fflangell gyda mi i'r eglwys, ond cymmeryd y fflangell a rwymodd y dyn ei hun. Na rwgnached y troseddwr rhag STROKES y fflangell a glymodd efe ei hun. Ein Harglwydd pan yn gyru y prynwyr a'r gwerthwyr allan o'r deml, ei fflangell oedd y mân reffynau a ddygasent hwy eu hunain yno, sef y cortynau â'r rhai y rhwyment eu nwyfau."

"Arferai osod mater i lawr mewn cyfarfod eglwysig, i fod yn destun myfyrdod hyd, ac yn destun ymddyddau yn y cyfarfod nesaf, a'r Sabboth canlynol, pregethai yntau arno, gan ofalu cynnwys yr holl bethau y sylwyd arnynt, yn y bregeth; profwyd y dull hwn yn dra effeithiol i adeiladu yr eglwys mewn gwybodaeth a deall ysbrydol."

3. Yr oedd ganddo ofal neillduol am famau plant yn yr eglwys. Yr oedd ganddo rhyw fedr rhyfeddol i fyned i mewn i'w profiadau a'u teimladau. Cofia ugeiniau o honynt am y bregeth hono a gyfenwid, "Pregeth y mamau," a diamheu y bu yn fendithiol i laweroedd. Traddododd hi yn nghapel y Parch. Dr. Fletcher, yn Llundain, yn ei ymweliad diweddaf â'r brif-ddinas, ac er mor ddiffygiol oedd yn yr iaith Saesonaeg, cafodd y bregeth effeithiau anghyffredinol ar y gynnulleidfa, yr oedd y mamau yn y dyrfa yn foddfa o ddagrau. Pendefigesau parchus nid ychydig a ddeuent ato ar ddiwedd yr addoliad, i ddiolch iddo â'u dagrau. Ond yr oedd mamau bob amser yn wrthddrychau neillduol ei ofal a'i sylw gweinidogaethol yn yr eglwys. Cafwyd cyfleusdra i ddangos hyn o'r blaen pan grybwyllwyd am Gymdeithas y mamau," a sefydlid ganddo yn Llynlleifiad.

4. Yr oedd yn ofalus iawn am blant yr eglwys. Fel ag yr oedd yn goleddwr tirion i'r mamogiaid, felly hefyd yr oedd yn ofalus am yr ŵyn i'w dwyn yn ei fynwes, ac yn y pethau hyn yr oedd yn dwyn cyffelybrwydd neillduol i "Fugail mawr y defaid" yn y cyflawniad o'i swydd weinidogaethol, yn gystal ag yr oedd ei briod-ddull o lefaru yn dwyn cyffelybrwydd iddo fel pregethwr. Yr oedd plant rhieni duwiol yn agos iawn at ei feddwl; aml iawn y cyfarchai hwynt yn ei bregethau, ac aml iawn yr anerchai rieni crefyddol yn achos eu plant, o'r areithfa ac yn yr eglwys.

Ond y mae yn amser i mi bellach dỳnu y cerflun anmherffaith hwn o'n hanwyl gyfaill i derfyniad, gan fod cynnifer o frodyr teilwng wedi cyfoethogi ein Cofiant â'u cynnyrchion gwerthfawr ar yr un achos, a dysgwylir rhwng y naill a'r llall y gwel y darllenydd, WILLIAMS o'r Wern, wedi ei gerfio yn lled berffaith a chryno, ar du-dalenau ei Gofiant hwn.

Pan oeddwn ar anfon fy mhapurau i'r argraffydd, dygwyddodd ddyfod i'm llaw y "Traethawd Gwobrwyol ar Nodweddiad y Cymry fel Cenedl yn yr oes hon. Gan y Parch. W. Jones, offeiriad Llanbeulan, Môn." Awdwr Parchedig y Traethawd rhagorol hwn a sylwa ar nodweddiant Mr. WILLIAMS, gyda llawer o gymhwysder a phriodoldeb, a chaiff ei sylwadau tlysion ef derfynu y lith hon o'i Gofiant.

"Un o'r gweinidogion mwyaf galluog a phoblogaidd, a berthynodd erioed i'r blaid hon o Gristionogion, oedd y Parch. W. WILLIAMS, yr hwn a fu yr ystod hwyaf o'i yrfa weinidogaethol, yn y Wern, yn sir Ddinbych, ond symudodd ychydig cyn ei farwolaeth, i Lynlleifiad, gan olygu yno dros gynnulleidfa o Annibynwyr, nes gorphen ei daith. Diau ei fod ef yn ŵr o nodweddiad anghyffredin, ac yn feddiannol ar alluoedd meddwl gwreiddiol a godidog. Ei athrylith oedd nodedig am ei ffrwythlonrwydd. O holl areithwyr yr oes, tebyg mai efe oedd yr egluraf; pregethai mor eglur, nid yn unig fel y deallid ef gan bawb, ond annichonadwy oedd i neb fethu ei ddeall. Defnyddiai mewn dull medrus, bethau i egluro ei faterion, a esgeulusid gan bawb ereill. Byddai ei ddychymmyg yn wastad ar ehediad, yn casglu blodau prydferthaf araethyddiaeth, gan eu dangos gerbron y bobl er addysg a mwynhad iddynt. Ei ffraethder a ergydiai allan fflamiau bywiawg, y rhai a berent i'w bregethau dywynu gyda dysglaerdeb rhyfeddol.

"Yn gyffredinol byddai ganddo lywodraeth hollol ar feddyliau a theimladau ei wrandawyr gwelid gwenau yn aml ar eu gwyneb, ond pan daranai y pregethwr, ymaflai arswyd yn y pechadur, a byddai braw yn ymddangos yn ei wedd. Tarddai anmherffeithiau ei weinidogaeth o orffrwythlonder ei feddwl, yr hwn ni wareiddiesid yn ddigonol gan ddysgyblaeth foreuol. Yr oedd llawer un o'i syniadau yn anghoethaidd; ac yn fynych byddai ei siamplau eglurhaol a'i iaith yn annillynaidd. Am y mynai i'w holl wrandawyr ymwneyd yn bersonol â chrefydd, carai gymhwysaw ei ymadrodd at bob un trwy arferyd y rhagenw unigol yn yr ail ddyndawd. Diau na fuasai ei ddull ef o bregethu yn gymmeradwy gan gynnulleidfa ddysgedig o Saeson. Gellid dirnad gwahaniaeth yn chwaeth gwrandawyr yn Nghymru a rhai yn Lloegr, ond ystyried y buasai i amryw o brydweddion gweinidogaeth Mr. WILLIAMS, o achos y rhai yr hoffid ef gymmaint yn y Dywysogaeth, weithredu yn erbyn ei lwyddiant yn Lloegr. Ond hysbyswyd i mi fod ei weinidogaeth ef, dros amryw flynyddau cyn ei farwolaeth, yn gwbl rydd oddiwrth y pethau a anghymmeradwyid gan wrandawyr deallus. Ei olygiadau ar bynciau y ffydd oeddynt isel-Galfinaidd. Y mae crefydd ymarferol, yn Nghymru, mor ddyledus i'w weinidogaeth ef ag ydyw i eiddo neb o'i gydoesolion. Pan yn gwrthwynebu golygiad tra chyffredin, mai y derbyniad o ras yw sylfaen dyledswydd, hònai ef y dylai dynion ddefnyddio y galluoedd a roddodd Duw iddynt, pa un a fyddont wedi derbyn gras achubol ai peidio; a dywedai, er y pechent trwy ymwneyd â chrefydd heb ddybenion cywir, etto pechent fwy trwy eu hesgeuluso yn hollol. Ymresymai yn y modd a ganlyn:—' Gwir eich bod yn pechu tra yn gwrando yr efengyl ac heb ei chredu, ond byddai i chwi bechu mwy trwy beidio ei gwrando o gwbl. Yr wyf fi yn pechu yn erbyn Duw os ydwyf yn pregethu yn ddigariad at Grist ac eneidiau dynion, ond pechwn fwy ped esgeuluswn bregethu yn hollol.' Yn gyffelyb yr ymresymai gyda golwg ar ddyledswyddau ereill. Er hyny, meddyliwyf y cariai syniadau, am effeithioldeb offerynoliaeth dynol, dros eu gwir derfynau.

Bu farw y gwr da hwn yn ngwanwyn y flwyddyn hon, yn y pum deg a naw mlwydd o'i oedran."

Nodiadau

golygu
  1. Y Parch, Thomas Aubrey.