Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern/Pennod V

Pennod IV Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)

Pennod VI

PENNOD V.

Llythyrau ar ei nodweddau, oddiwrth y Parchedigion C. Jones, Dolgellau—M. Jones, Llanuwchllyn—T. Jones, Minsterley—H. Pugh, Mostyn—E. Davies, Llannerchymedd—R. Parry, Conwy—R. P. Griffiths, Pwllheli—S. Roberts, Llanbrynmair—D. Rees, Llanelli.

At y Parch. W. Rees.

ADWAENWN y brawd WILLIAMS er ys cryn amser cyn iddo ddechreu pregethu. Byddai yn arferol dyfod i Lanuwchllyn i ambell oedfa a chyfarfod blynyddol a gynnelid yno. Meddyliai y pryd hyny am fyned yn saer coed, a byddai yn arferol o naddu mwy nâ'r rhan fwyaf o'i gymmydogion; ond pan y cafodd annogaeth i bregethu gan eglwys Penstryd, trodd heibio yn hollol y naddu, a'r meddwl am fyned yn saer coed.

1. Am dano fel dyn, gellir dywedyd ei fod y pryd hwnw yn wr ieuanc gwridgoch, teg yr olwg, ac o gorff cadarn nerthol; yr oedd yn ŵyr i Edmund Morgan, y gwr cryfaf, o ran corffolaeth, y gwyddid am dano yn Ngogledd Cymru, yr hwn a fu farw, meddant, yn 110 oed. O ran ei enaid, yr oedd yn meddiannu ar ddeall cyflym, a hefyd gwroldeb a hyfdra. Unwaith, pan yn myned heibio i darw rhuthro, yr hwn, pan ei gwelodd, a redodd ar ei ol, ond cafodd WILLIAMS ben y clawdd o'i flaen, a safodd yno; a chyda hyny, dyma y tarw wrth ei sodlau, ac yn cynnyg y clawdd ar ei ol, dan wneuthur rhuadau dychrynllyd; ond WILLIAMS nid ysgogodd o'r fan, ond a'i mesurodd yn ei dalcen â gwegil y fwyall oedd yn ei law, gan waeddi allan ar y pryd, "Mi rof i tï'r chwech." Tarawodd ef nes yr aeth i fath o lewygfa, a phan ddaeth ato ei hun, efe a redodd ymaith, fel un yn dianc am ei einioes, a chafodd Mr. W. fel hyn fuddugoliaeth ar ei elyn. Dywedai y teulu i'r hwn y perthynai y tarw, ei fod yn cofio y geiriau, "Mi rof i ti'r chwech," tra y bu ef byw—pan y dywedid hwy wrtho, efe a ddangosai yr arswyd mwyaf. Yr oedd gan Mr. WILLIAMS ddeall cyflym, a dawn rhwydd a difyrgar i draddodi ei feddwl, fel y mae yn hysbys i bawb a'i hadwaenai.

2. Am dano fel Cristion, cyn a chwedi dechreu pregethu, ynghyd ag ystad ei fywyd yn gyffredin, profai Mr. WILLIAMS ei hun, yn ei gyfeillachau, yn llawer rhagorach Cristion nag y meddyliai llawer wrth edrych arno oddidraw. Barnai amryw, nad oeddynt gydnabyddus ag ef, mai un anystyriol, cellweirus, a hunanol, ydoedd; ond nid hir y byddent heb newid eu meddwl, wedi iddo ddyfod i'w cyfeillach; a buan yr argyhoeddid hwynt, fod WILLIAMS o egwyddor yr hyn a broffesai ei fod. Yr oedd ei awyddfryd i ymgyrhaedd am wybodaeth grefyddol yn gysson a pharhaus; ei ymdrech a'i awydd i ymddyddan am danynt oedd ddiflino; ac ystyriai yn wastad nad oedd crefydd yn y pen '(mewn theory) ond o ychydig werth, os nad esgorai ar ymarferiadau duwiol. Bum lawer canwaith yn ei gyfeillach pan oeddym yn yr athrofa, dan ofal y Parch. Jenkin Lewis, yn Ngwrecsam, a chwedi hyny, mewn amryw deithiau yn Nehau a Gogledd Cymru, ond nis gwelais ynddo erioed unrhyw ymddygiad annheilwng o Gristion gwirioneddol. Gwir yw fod Mr. WILLIAMS o dymher naturiol lawen a siriol, ac felly yn hawdd iawn myned yn hy arno yn ei gyfeillach; ond cadwai yn wastad i arfer ei hyfdra o fewn terfynau priodol; a dangosai fod ofn pechu yn egwyddor lywodraethol ei galon.

Yr oeddwn yn nghyfarfod ei ordeiniad ef yn y Wern, pryd yr oedd yn bresennol, 'rwyf yn meddwl, y Dr. Lewis, y pryd hwnw o Lanuwchllyn; Jones, o Drawsfynydd; Hughes, o'r Dinas; a Lewis, o Wrecsam. Dichon fod yno rai gweinidogion ereill, ond nid wyf yn sicr. Yn mhen ysbaid amser wedi ei sefydlu yno, ymddyddanai â mi ar wahanol amserau, am newid ei sefyllfa drwy briodas; a dywedai ei fod yn meddwl y gallai gael cyfeillach ag un o'r enw Rebecca Griffiths, (ei briod wedi hyny,) yr hon oedd yn werth rhai miloedd o bunnau; ond am nad oedd y pryd hyny yn aelod eglwysig yn y dref y preswyliai ynddi, sef Caerlleon, yr oedd yn mawr ofni y byddai iddo trwy gyfeillachu â hi, a'i phriodi, bechu yn erbyn Duw, tynu gwaradwydd ar grefydd, a gwneyd ei hun yn ddiddefnydd yn y weinidogaeth, er fod Miss Griffiths, y pryd hyny, yn un o'r merched ieuainc harddaf ei buchedd y gwyddid am dani. Ond yn mhen yspaid mawr o amser, (meddyliaf rai blynyddau) ymunodd y ferch ieuanc â'r eglwys Annibynol yn Nghaerlleon, pryd yr oedd pob arwyddion arni ei bod yn ddynes wir grefyddol. Trwy hyn symudwyd y rhwystr oedd yn ei feddwl i gyfeillachu â hi, a'i phriodi; a hwy a ymunasant â'u gilydd yn y flwyddyn 1817, yr hyn yn ddiau a fu o lawer o gysur personol a theuluaidd iddynt. Yn ysbaid y gyfeillach uchod, dangosai Mr. WILLIAMS lawer o dynerwch cydwybod fel Cristion gonest, a didwyll; yr oedd bob amser o'r farn, mai duwioldeb, doethineb, a chynnildeb, ydoedd y prif addurniadau perthynol i wraig gweinidog.

3. Am ddygiad Mr. WILLIAMS i fynu, gellir yn hawdd dywedyd ei fod wedi ei fagu gan rieni mor barchus â nemawr yn y gymmydogaeth, y rhai a ddalient dyddyn bychan mewn lle mynyddig, a lled anghysbell oddiwrth foddion crefyddol; fodd bynag, cafodd y fraint o ddysgu darllen Cymraeg yn lled dda yn ei ddyddiau boreuol; a chredaf, nas medrai ond hyn yn unig pan ddechreuai bregethu. Wedi iddo fyned i'r ysgol i Fwlchyffridd, ac i'r Athrofa, nid oedd ei gynnydd mewn dysgeidiaeth ieithyddol ond araf neillduol; bu bedair blynedd yn yr Athrofa; ond nid oedd ganddo ond ychydig flas ar ddysgu ieithoedd trwy y tymmor hwn, a mynych y dywedai, na's gwnaed mo'i dafod efi siarad Saesnaeg: duwinyddiaeth a phregethu oedd gwrthddrychau penaf ei fyfyrdodau y pryd hyny; a chwedi hyny, tra y parhaodd ei einioes. Yr oedd un peth nodedig i'w weled ynddo yn yr athrofa, a chwedi'n; rhy brin y darllenai awdwyr Saesnig yn agos i gywir, ar yr un pryd byddai yn dra sicr o ddeall eu meddwl—gwelai hwnw yn gynt nâ'r cyffredin o'i gyd-ysgolheigion. Yn gymmaint â bod Mrs. Williams o ddygiad i fynu mor dda, ac yn fwy o Saesnes nag o Gymraes, meddyliaf fod yr arferiad o siarad yr iaith Saesonaeg gyda hi a'r plant yn y teulu, wedi dysgu iddo draddodi ei feddwl yn yr iaith hon, yn llawn cymmaint, os nad mwy nâ dim arall yr ymarferodd ag ef mewn un amser blaenorol. Yr oedd ganddo gyflawnder o ymadroddion Saesonaeg, ac yr oedd yn eithaf parod a rhwydd yn yr arferiad o'r cyfryw, mewn siarad a phregethu, os byddai eisieu, er nad oedd eu cydiadau â'u gilydd, na'u haceniad, yn gywir bob amser; etto mawr hoffid ei bregethau a'i gyfeillach gan y Saeson adnabyddus o hono yn mhob man. Yr oedd ei ddull o siarad a thraddodi ei feddwl mor unplyg ac eglur, fel nas cam-ddeallid ef gan nemawr un a'i clywai,

4. Am dano fel pregethwr. Y tro cyntaf y clywais ef ydoedd mewn tŷ annedd, mewn lle a elwir "Y Parc, Cwm-glan-llafar;" nid oedd y pryd hwn ond newydd ddechreu pregethu yn gyhoeddus. Yr wyf yn meddwl mai cyhoeddiad ei hen athraw, y Parch. W. Jones, o Drawsfynydd, oedd yno y pryd hwnw, ond ddarfod i WILLIAMS ddyfod gydag ef yno, a phregethu ychydig o'i flaen. Pregethai Mr. W., hyd eithaf fy nghof, yn llyfr Datguddiad, yn nghylch y saith ganwyllbren aur, &c.; a'r hen wr duwiol, Mr. W. Jones, yn ymdrechu cynnal ei feddwl a'i gefnogi yn y gorchwyl, trwy duchan ac ocheneidio llawer iawn tra y parhaodd; ymddangosai yr hen wr fel pe buasai arno fawr ofn iddo fethu myned yn mlaen neu gam-ddywedyd; ond nid oedd fawr perygl methu myned yn mlaen ar WILLIAMS, ond yn hytrach o'r ochr arall, o ddweyd gormod. Yr oedd ei ddull a'i agwedd, pan y dechreuodd bregethu, yn lled annerbyniol gan lawer. Cof genyf am un yn Llanuwchllyn, wedi iddo ei glywed un o'r troion cyntaf y pregethodd yno, yn dywedyd, "Nad oedd arno ddim eisieu swmbwl i'w yru yn mlaen, ond yn hytrach yn ei drwyn i'w yru yn ol." Golwg hyf, a lled ysgafn a chellweirus oedd arno pan y dechreuodd bregethu, a byddai yn dueddol i ddywedyd lliaws o ymadroddion a dueddai i yru ei wrandawyr yn ysgafn a chwerthinllyd. Nis gwn am neb y dywedwyd mwy wrtho am ddiwygio yn ei ddull o bregethu nâ Mr. W., yn enwedig gan ei hen gyfaill, y Parch. J. Roberts, o Lanbrynmair; ond er cymmaint a ddywedid wrtho, ni byddai ein hanwyl gyfaill WILLIAMS byth yn tramgwyddo fel y gwna llawer, ond derbyniai y cynghor yn siriol a llawen, a gwnai ddefnydd da o hono yn wastad; nid mul ystyfnig, yn meddwl am ei ddull a'i bethau yn well nag y medrai neb arall ei ddysgu, oedd WILLIAMS; nage, ond un gostyngedig, parod i dderbyn pob peth da a gaffai gan bawb; gwella a wnai WILLIAMS trwy bob peth a'i cyfarfyddai, a thrwy bob triniaeth a gaffai. Dywedai lawer yn erbyn y pregethau nad oedd amcan daionus i'w weled yn amlwg ynddynt; nad eisiau myfyrio pregeth ddigon o hyd i dreulio amser oedfa, a ddylai fod mewn golwg gan bregethwyr, ond ei chyssylltu â'i gilydd yn y modd ag y byddai amcan mawr pregethu i'w weled yn eglur trwyddi oll. Dywedodd wrthyf amryw weithiau ei fod wedi newid ei archwaeth at bregethu, yn mlynyddoedd diweddaf ei oes, lawer iawn oddiwrth yr hyn ydoedd yn nechreuad ei weinidogaeth; y tybiai gynt fod pregethu y pwnc yn eglur a dawnus yn ddigon o bregethu, ond ei fod yn awr yn gweled yn eglur, mai pregethu y cyfan i ymarferiad oedd y gamp, ac mai amcan mawr yr holl Fibl ydoedd dwyn dyn i ymarferiad rhinweddol.

Y diweddar Barch. W. Griffiths, o Glandwr, a ofynai i Mr. WILLIAMS ryw dro, (fel y byddai arferol o siarad yn rhydd a difalais,) wyddoch chwi, Mr. WILLIAMS, pa fodd y mae eich pregethau chwi yu dwyn mwy o sylw nâ fy rhai i?" "Na wn i," meddai Mr. W. Wel, mi ddywedaf i chwi," eb efe; "yr ydych chwi yn rhoddi gwell myn'd ynddynt nâ myfi." Yr oedd mynediad rhwydd a grymus yn mhregethau Mr. W., y materion yn bwysig, a'r dull o'u trin yn eglur nodedig. Anhawdd y diangid o dan swn ei weinidogaeth heb i'r gydwybod haiarnaidd deimlo.

Meddyliwn mai ychydig a ysgrifenodd ein cyfaill yn ystod ei weinidogaeth. Bum yn ceisio ganddo lawer gwaith ysgrifenu rhai o'i bregethau rhagorol i'r DYSGEDYDD; ond pur gyndyn a fyddai i addaw gwneyd, o herwydd, meddai efe, nad oedd ganddo fedr na blas i ysgrifenu—fod ei law mor belled yn ol o ganlyn ei feddwl, fel yr oedd yn gyffredin yn dyrysu pan elai at y gwaith. Y bregeth gyntaf a gefais ganddo ei hysgrifenu, nid yw yn y DYSGEDYDD, ond a argreffais wrthi ei hun trwy ei gydsyniad ef, ac a ail-argraffwyd wedi'n gan y Parch. L. Everett, o Lanrwst. Ei mater ydyw, "Nad yw daioni dyn ddim i Dduw." Y pregethau y cefais ganddo eu hanfon i'r DYSGEDYDD, ydynt ar "Gyssondeb gras a dyledswydd," (gwel fl. 1822;) "Unoliaeth y Drindod," (gwel 1827;) "Cyssylltiad cyfatebol rhwng iawn ymarferiad o foddion a llwyddiant," (gwel 1831;) ac ar "Iawn Crist," (gwel 1832.) Ysgrifenodd hefyd draethawd byr ar " Ddyfodiad pechod i'r byd," (gwel 1828;) ac ar "Lywodraeth foesol," (gwel 1829;) ynghyd ag ychydig o fan bethau ereill. Y mae ganddo liaws o esgyrn pregethau, y rhai a ddefnyddid ganddo ei hun, fel y gŵyr llawer. Gobeithaf, a gobeithia llawer weled llawer o honynt yn argraffedig yn hanes ei fywyd.

Yn ei deithiau byddai Mr. WILLIAMS yn ofalus iawn am gychwyn yn brydlawn i bob man y byddai ei gyhoeddiadau; ac yn y manau y byddai yn bwyta neu yn lletya, byddai yn wastad yn ymgais am gael rhyw destunau ymddyddanion buddiol i'r bwrdd, er llesâd a gwir fuddioldeb y presennolwyr. Unwaith, pan oedd yn lletya yn Nolgellau, edrychai yn graff ar y bachgenyn ar lin ei dad, gwr y tŷ, a dywedodd wrth y tad, "Edrychwch ar ei ol yn ddyfal;" a thrachefn ail adroddai yr un geiriau wrtho, gan edrych arno yn ddifrifol. Dywed y tad hwn fel y canlyn: "Yna gofynais iddo, a fyddai cystal â rhoddi i mi rai cyfarwyddiadau i hyny. Yna y dangosai bob parodrwydd i wneyd, a dywedodd am i mi a'i fam bob amser gydweithredu, yn neillduol wrth geryddu—nid un yn ceryddu, a'r llall yn ceisio arbed; a gofalu na byddai i ni byth wneyd hyny dan lywodraeth nwydau drwg. 2. Am ddysgu i'n plant weled gwerth arian, a pheidio a'u gwastraffu am bethau melusion a diles, ac ar yr un pryd eu dysgu i fod yn hael at achosion crefyddol. 3. Am fod yn ofalus am gyflawni pob addewid iddynt yn y pethau lleiaf, yn gystal â'r pethau mwyaf. 4. Am fod yn ofalus i beidio rhoddi dim iddynt heb yn wybod y naill i'r llall. Ar y pen hwn coffaodd am un fam a wnai anrhegion i Tom ei hanwylyd, heb yn wybod i'w dad, yn enwedig pan oedd oddicartref yn yr ysgol, a Thom a waeddai am ragor o hyd, nes ar y diwedd i hyn achlysuro Tom i fod yn ddiotwr, ac yn Tom feddw, er gofid mawr i'w dad duwiol a'i fam dirionaf (neu greulonaf). 5. Am beidio un amser a'u gwobrwyo am fod yn dda; fod tuedd yn hyn i esbonio ymaith y rhwymau oedd arnynt i hyny," &c. Coffâ yr un gwr hefyd am sylw a glywodd gan Mr. WILLIAMS wrth bregethu, er ys amryw flynyddau cyn ei farw, sef "ei fod yn teimlo llawer o amheuaeth yn aml am wirionedd ei grefydd, ond ei fod yn penderfynu glynu gyda chrefydd hyd y diwedd, gan gredu nad oedd ond colledigaeth iddo yn mhob man y tu allan i eglwys Dduw a llwybr ei ddyledswydd." Mynych y dywedai wrth rieni plant, nad oedd eisieu iddynt arfer llywodraeth lem tuag at eu plant, ond iddynt ei harfer mewn gwastadrwydd ac yn gysson—nid eu cofleidio, eu canmol, a'u moli, weithiau, a thro arall arferyd gormod llymder.

Mynych y dywedai wrth ieuenctyd yr hyn a hir gofient. Pe buasai llawer yn sefyllfa Mr. WILLIAMS, ni buasent yn sylwi ond ychydig ar wehilion y bobl; ond cofiai Mr. WILLIAMS fod gan y rhei'ny eneidiau i fyw yn dragywyddol, a bod yn ddyled arno wneyd pob ymdrech a fedrai er eu dwyn i afael iachawdwriaeth dragywyddol.

Dolgellau.CAD. JONES.


At y Parch. W. Rees

GWYR y byd am lawer o wasanaeth Mr. WILLLAMS, am mai cyhoeddus iawn ydoedd, ond fe allai fod un ran dra buddiol o'i lafur, nad yw y cyffredin ddim wedi sylwi arni; yr ydwyf yn cyfeirio at ei fuddioldeb i'r myfyrwyr pan yr oedd Athrofa Gwynedd yn Ngwrecsam. Byddai yn dyfod yno at y myfyrwyr yn aml, nid fel un mewn swydd, ond fel cyfaill ac ewyllysiwr da i wybodaeth, a byddai yn cadw cyfarfodydd gyda'r gwyr ieuainc am awr neu ddwy, a byddai rhyw fater dyrus yn aml mewn duwinyddiaeth neu anianyddiaeth yn cael ei olrhain, mewn modd syml ac eglur, nes y byddai yn adeiladaeth fawr i feddyliau y myfyrwyr gwyddfodol. Byddai yr ymweliad hyn o'i eiddo yn fendithiol iawn i eangu eu ddeall, ac i'w tueddu i fyw yn fwy duwiol, i wneuthur gwell defnydd o'u hamser, er eu cynnydd eu hunain, a lles ereill, a gogoniant Duw. O'm rhan fy hun, gallaf dystiolaethu fod hyn yn un o'r pethau mwyaf bendithiol a gefais tra yn yr athrofa hòno; yr ydwyf yn rhwym o ffurfio fy syniadau duwinyddol yn ol gair Duw, a'm syniadau anianyddol yn ol prawf, achos, ac effaith, ond bu efe yn offeryn da i ddwyn fy meddwl i weithredu ar y pethau hyn, a'i hwylio yn ei ymchwil i ddirnad drosto ei hun er graddau o foddlonrwydd. Diau genyf fod gradd helaeth o wybodaeth gyhoeddus wedi ei chyfranu trwy ei ymdrech hyn gyda'r myfyrwyr; ond mwy nâ'r cwbl oedd, y byddai ei holl ymdrin â ni yn tueddu yn fawr er hunan-ymroddiad i Dduw, a'n dwyn i fyw yn fwy duwiol; dangosai yn eglur i ni mewn modd siriol a deniadol, y byddai ein bywyd gweinidogaethol yn ol ein bywyd athrofaol, ac y byddem yn sicr o fagu'r eglwysi dan ein gofal o'r un ysbryd ac archwaeth â ni ein hunain, am hyny, os mynem i'r eglwysi fod yn dduwiol, a'r byd i deimlo ein gweinidogaeth, y byddai yn rhaid i ni yn gyntaf fod yn yr unrhyw agwedd ein hunain; magai, a meithrinai ni yn fawr yn y pethau hyn. Gallwn hefyd grybwyll, am fy mod yn cofio hyny yn nerthol, am ei ymddygiad nefolaidd yn nghyfeillachau y gweinidogion mewn blynyddau diweddarach; doeth iawn a fyddai yn ei gynghor, a byddai yn hynod o nerthol mewn gweddi yn y cyfeillachau hyny. Dangosai ei fod yn meddwl ac yn teimlo yn fanylaidd mewn perthynas i'r pethau a draethai gerbron Duw, ac yn wastad byddai yr unrhyw ysbryd i raddau helaeth yn syrthio ar ei gyd-weddiwyr, nes y byddent yn gyffredin yn siriol wylo pan yn cyd-anerch gorsedd gras, a byddai y mynudau hyny y mwyaf buddiol oll o'r gyfeillach. Fy nymuniad yw, i'r un ysbryd gweddi i gael ei dywallt arnom ninnau oll, er ei fod ef wedi ein gadael.

Bum gydag ef amryw deithiau byrion trwy Ddeau a Gogledd. Byddai yn ofalus iawn am weddio yn mhob man, ac yn y daith ddiweddaf y buom gyda ein gilydd, ein cyfammod wrth ddechreu y ffordd, oedd, pan y byddem yn ymddyddan, am fod genym ryw fater da, a defnyddiol, a phan y byddem yn ddystaw, ein bod yn gweddio yn ddirgel yn ein meddyliau; bu ein taith yn dra hyfryd ac adeiladol i mi. Gŵr mawr iawn ydoedd am ddeall egwyddorion pob peth, ac yn neillduol eiddo yr ysgrythyrau. Mor eglur y dangosai fod egwyddorion ymddygiadau Duw at ddynion, yr un yn mhob oes o'r byd, ond bod amgylchiadau eu gweinyddiad yn amrywiol. Gwelai egwyddorion mawrion ymddygiadau Duw tuag at Israel yn y Môr Coch, mewn mân amgylchiadau eglwysi a theuluoedd yn ei ardal anneddol. Gwelai egwyddorion mawrion Abraham a Moses, ac ereill a gawsant air da trwy ffydd, er nid yn yr un amgylchiadau, ac nid i'r un graddau, yn ymddygiadau plant a gwragedd, a Christionogion cyffredin yr oes hon. Gwelai egwyddorion mawrion caledwch calon Pharoah, a chewri ereill mewn drygioni, yn ymddygiad cyffredin gwrandawyr yr efengyl, ac yn mhlant anufydd yr Ysgol Sabbothol, ac ereill; a thriniai yr holl egwyddorion hyn a'r cyffelyb mor hylaw a dedwydd â phe buasai wedi bod yn dyst o'u gweithrediadau cyntaf. Trwy y pethau hyn a'u cyffelyb yr ydoedd yn medru gwneuthur holl lyfr Duw yn fuddiol yn ei weinidogaeth; trwy hyn yr oedd yn gwneyd Crist yn bob peth iddo ei hun a'i wrandawyr. Clodforer Duw am ei godi cyfuwch yn y weinidogaeth, am ei gynnal cyhyd ynddi, a thywallter dau parth o'i ysbryd ar ei olafiaid, ac ar yr annheilyngaf o honynt,

Llanuwchllyn.MICHAEL JONES


At y Parch. W. Rees.

ANWYL GYFAILL,—Gyda theimladau galarus yr wyf yn ymaflyd yn fy ysgrifell i gydsynio â'ch cais ar yr achlysur presennol, wrth feddwl am y golled a gawsom fel brodyr yn y weinidogaeth, yn neillduol yr eglwysi Annibynol yn y Dywysogaeth, yn marwolaeth ein hybarch a'n gorhoffusaf gyfaill, y Parch. W. WILLIAMS. Ond pan feddyliwyf am aneffeithioldeb yr hiraeth mwyaf, y cwynion dwysaf, a'r dagrau halltaf, ar angeu, y bedd, a stâd y marwolion, cyfyd rheswm i fynu yn dalgryf, a dywed wrthyf yn awdurdodol am dewi â chwyno, sychu fy nagrau, a defnyddio fy ysgrifell i gyfleu ychydig bethau fyddo'n tueddu i drosglwyddo cymmeriad ein gwron enwog i'r oesoedd dyfodol. Ar yr ystyriaethau hyn, yr wyf yn ei chydnabod yn anrhydedd, ac yn fraint, i gael cyfleusdra i roi maen bychan yn rhyw ran o'r golofn goffadwriaethol.

Gwedi cael cyfleusdra yn ddiweddar i weled eich manuscript chwi, nid wyf yn golygu y gallaf chwanegu dim at e'ch darluniad rhagorol o'i gymmeriad cyhoeddus, gan hyny, troaf yn uniongyrchol i olrhain ei gamrau mewn cylchoedd anghyoedd.

Yn y cylch teuluaidd, yr oedd cymmeriad Mr. W. yn ddysglaer iawn. Ymddygai yn serchog tuag at bawb yn y tŷ, nid yn unig at ei briod cariadus, a'i blant tirionaidd, ond hefyd at y rhai fyddai yn gweini; gwell oedd gan bawb o honynt weled ei wyneb ná'i gefn. Heblaw hyn, yr oedd yn hynod fel hyfforddwr y teulu. Byddai ei ymddyddan â Mrs. W. yn gyffredin o'r natur hon; yr oedd hi yn fedrus iawn i ddal i fynu y fath gymdeithas. (Byr hanes o Mrs. W a gyhoeddwyd yn Dysg. Rhif. Gorph. 1836.) Yr oedd Mr. W. yn hynod fel hyfforddwr ei blant; beth bynag fyddai testun yr ymddyddan, pa un ai agoriad y blodeuyn, diwydrwydd y wenynen, y gylionen yn y ffenestr, dychweliad y wenol, neu gynnadledd y brain, tynai addysgiadiau buddiol ac adeiladol oddiwrthynt er agor eu deall, cyffroi eu serch, a dyfnhau eu hargraffiadau crefyddol. Aml y cyfranogai y gwas a'r forwyn o'r un breintiau.

Yr oedd ei lywodraeth deuluaidd yn dyner iawn, etto yn hynod o effeithiol. Yr oedd yn sylfaenedig ar egwyddorion moesol, yr oedd ei gweinyddiad yn sefydlog, ac nid yn ddamweiniol, a'i annogaethau (motives) yn rymus. Pan y byddai galwad am gerydd teuluaidd, dangosid yn bwyllog ac arafaidd, duedd, niweid, a chanlyniadau y trosedd; o ganlyniad, dangosid mai lles y troseddwr, ac nid boddio drwg-nwydau oedd mewn golwg. Hefyd, cyd-weithredai y rhieni yn rhagorol i'r perwyl hwn; ni byddent un amser, y naill am gospi a'r llall am arbed, y naill yn gwgu a'r llall yn gwenu; ond cyd-unent i ymddwyn tuag at y beius yn ol natur a maintioli ei fai, yr hyn a'u galluogai tu hwnt i bob peth i ddal i fynu drefn deuluaidd. Hefyd, ni wnai lanw meddyliau ei blant ag addewidion, na fwriedid byth eu cyflawni, ni ddygid dim chwaith oddiarnynt trwy gam-achwyn, ni chymmerid dim byth oddiwrthynt, a ystyrid yn eiddo personol iddynt, heb eu caniatad; fel hyn, dangosid mewn ymarferiad, werth a phwysfawrogrwydd egwyddorion moesol, megys cyfiawnder, gwirionedd, gonestrwydd, cymmwynasgarwch, yn nghyd â phob gweddeidd-dra.

Un peth yn mhellach a grybwyllaf am dano yn y cylch teuluaidd, nid y lleiaf chwaith yn mhlith ei rinweddau, sef, ei weddiau dros y teulu. Byddai ei weddiau teuluaidd bob amser yn syml, yn gymhwysiadol, ac yn wastadol yn daer iawn, am i bob aelod ynddo gael y fraint o fod yn ddefnyddiol dros Grist. Byddai ei gyflawniad o'r ddyledswydd hon mor rheolaidd ag ysgogiadau y ffurfafen; ni chai na phrysurdeb teuluaidd, na llafur na blinder corfforol, na hwyrol oriau y nos, byth osod o'r neilldu y ddyledswydd bwysig hon. Gwr cydwybodol oedd ef hefyd yn ei weddiau dirgelaidd; miloedd o honynt a offrymodd, nad oes iddynt neb tystion daearol ond yr ystafelloedd yn y rhai y derchafwyd hwynt.

Pan ystyriom gysuron teuluaidd Mr. W. o un tu, a'i deithiau hirfaith a llafurus o'r tu arall, yr ydym yn rhwym o gydnabod mawredd ei hunan-ymwadiad, a'i gariad at achos achub.

Yr oedd Mr. W. etto yn enwog yn y gymdeithas neillduol. Yr oedd yn fedrus i hyfforddi yr anhyfforddus, i rwymo y rhai ysig eu calon, i ddadleni twyll y rhyfygus, ac i agor iddynt yr ysgrythyrau. Yr oedd ei ddefnyddioldeb a'i gymmeradwyaeth yn fawr yn yr ardal, wrth wely y claf, at gwyn y tlawd, a chyfyng amgylchiadau y gymmydogaeth, pan gollasant Mr. W. collasant eu prif gynghorwr. Gŵyr ugeiniau o frodyr yn y Dywysogaeth, am ei werth mewn cynnadledd Cymmanfa, mor fedrus fyddai i ddattod cylymau dyrus, mor gymmeradwy fyddai ei gynnygiadau, ac mor dderbyniol fyddai ei gynghorion gan y brodyr oll. Pan feddyliom am ddefnyddioldeb, hynawsedd, a serchawgrwydd ein hanwyl gyfaill, y mae ynom ryw ymofyniad cymmysgedig o hiraeth, grwgnach, a syndod. Paham na chawsem ei gymdeithas addysgiadol a'i gydweithrediad effeithiol am dymmor yn mhellach? Yn neillduol pryd y gallasai o ran ei oed a grym ei gyfansoddiad fod yn ddefnyddiol yn yr eglwysi am flynyddau yn ychwaneg. Y rhesymau paham y cymmerir dynion defnyddiol ymaith, ac y gadewir ereill, y rhai pe symudid, na wybyddid eu colli, a gynnwysant lawer o ddirgeledigaethau annatguddiedig, a dyfnderoedd anamgyffredadwy i ni yn ein sefyllfa bresennol; etto, hwyrach y gallem yn ddibetrus gynnyg pedair neu bump o egwyddorion, y rhai a dueddant i daflu ychydig o oleuni ar y mater dan sylw. Mewn perthynas i'n hanwyl gyfaill, sylwn—

1. Ei fod wedi myned trwy ei raddau (degrees.) Y mae dyn yn y byd hwn yn debyg i blentyn yn yr ysgol, a chanddo lawer o wersi i'w dysgu, a llyfrau i'w darllen. Y mae Duw yn dysgu ei blant drwy gyfrwng dwy athrawes fawr, sef, Efengyl a Rhagluniaeth. Bydd Rhagluniaeth weithiau'n gwenu, ac weithiau'n gwgu—weithiau yn hael, ac weithiau'n gynnil—weithiau yn eu rhoi yn yr ystafell oleu, ac weithiau yn y daear-dŷ tywyll, a'r cwbl er dysgu'r plant. Y mae'r Efengyl gydag agwedd siriol, ddeniadol, a nefolaidd yn agor ei choleg, ac yn cynnyg ei baddysg; os bydd yr ysgolheigion yn gyndyn a gwrthnysig i gymmeryd eu dysg, hi try hwynt drosodd i law rhagluniaeth i'w ceryddu hyd oni chydnabyddont eu bai, a dysgu gwell moesau. Y mae y ddwy athrawes hon yn gweithredu dan gyfarwyddyd yr Ysbryd Glân, efe ydyw llywydd y Coleg. Yn yr ysgol hon dysgir y gwahaniaeth rhwng y gwerthfawr a'r gwael—rhwng pethau presennol a phethau i ddyfod—yma y dysgir dibrisio y naill, a gwerthfawrogi y llall. Gŵyr pawb a adwaenent Mr. W. ei fod ef yn y pethau yna yn ysgolar gwych.

2. Ei fod yn gwymhwys i goleg uwch. Pan y mae ysgolheigion da yn cael eu symud o'r a throfa isod, derbynir hwynt i'r athrofa uchod mewn trefn i ddyfod yn ysgolheigion gwell; pan y mae brodyr enwog yn cael eu cymmeryd o sefyllfa o ddefnyddioldeb yma, y maent yno yn cael eu codi i sefyllfa o ddefnyddioldeb mwy. Gallwn sylfaenu' yr haeriadau uchod ar awgrymiadau ysgrythyrol, Luc 19, 11—27; Dat. 7, 15; ar ddoethineb Duw, ac ar ddefnyddioldeb yn hanffodol i ddedwyddwch creadur deallawl. Ar yr egwyddor hon gellir sylwi, er cyw reinied oedd Mr. W. yma mewn gwersi moesol, ei fod yn gywreiniach ynddynt yn awr—er cymmaint oedd ei ddefnyddioldeb yma, y mae'n llawer mwy yn y nef. Y mae pob dyn duwiol yn ddefnyddiol yn y byd hwn, ond yn ddefnyddiol mewn sefyllfa uwch ac anrhydeddusach yn y byd arall. Gan hyny, er symud Mr. W. oddiwrthym ni, nid ydyw ei ddefnyddioldeb wedi ei golli o'r gymdeithas ddeallawl, y mae yn gweithredu yn ol amgylchiadau ei fodoliaeth heddyw yn rymusach ac effeithiolach nag erioed.

3. Fod ei Feistr mawr am ddangos nad ydyw llwyddiant ei achos yn ymddibynu ar alluoedd na chymhwysder neb o'i weision. Gwir yw, ei fod yn codi personau neillduol, erbyn amgylchiadan a gwaith neillduol, megys Luther a Chalfin, i effeithio y diwygiad Protestanaidd; Whitfield a Wesley, i godi crefydd ymarferol i sylw eu cyd-wladwyr; Fuller, Haweis, a Wilks, i sefydlu yr achos cenadol; Charles, a Hughes, i sylfaenu cymdeithas Biblau. Y mae'r enwogion hyn a'r rhan fwyaf o'u cyfoedion, wedi ehedeg ymaith, ond y mae y gwaith da a gychwynasant o hyd yn myned rhagddo. Cododd rhagluniaeth y Parchedigion J. Roberts, o Lanbrynmair; W. WILLIAMS o'r Wern, ac ereill, ar adeg dra neillduol er codi i sylw y Dywysogaeth duedd ymarferol athrawiaethau gras, llwyddasant yn rhyfedd yn yr ymgyrch, cyrhaeddasant eu hamcan i raddau dymunol; yr oedd poblogrwydd uchel-Galfiniaeth y pryd hyny, yn galw am nerth cewri idd eu gwrthsefyll a'i dadymchwelyd; ond bu gweinidogaeth effeithiol yr enwogion crybwylledig yn foddion yn llaw rhagluniaeth i gyfnewid golygiadau duwinyddol y Dywysogaeth yn mhlith pob enwad crefyddol o'i mewn. Effeithioldeb ysgrifell y naill, a hyawdledd y llall a gyd-wasanaethasant i boblogrwydd yr egwyddorion a amddiffynent, ac er rhoddi tôn arall i'r weinidogaeth gyhoeddus; fel y mae gwrthwynebwyr yr egwyddorion hyn heddyw mor anaml ag oedd eu cefnogwyr ddeng-mlynedd-ar-hugain yn ol; yr oedd amgylchiadau'r amseroedd y pryd hyny, yn galw am nerth ac effeithiolaeth cedyrn Dafydd, ond yn awr gall dynion o faintioli cyffredin ateb y dyben yn dda. Er mor effeithiol oedd gweinidogaeth ein cyfaill ymadawedig gwna yr achos a bleidiodd mor wresog, lwyddo mwy wedi iddo farw, nag a wnaeth tra y bu ef byw. Pan y mae y gweithwyr ffyddlon yn cael eu symud o'r winllan, y mae Arglwydd y winllan yn byw bob amser i gefnogi y gweithwyr sydd etto gyda'u gwaith gan ddywedyd, "Wele yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd." Pan y mae eglwys Dduw yn galaru ar ol ei henwog a'i ffyddlon weinidogion, gall ar yr un pryd lawenhau a gorfoleddu yn mywyd ac effeithioldeb ei Phen. Y mae ei chysur a'i llwyddiant yn ymddibynu mwy ar ei fywyd a'i ffyddlondeb ef, nag ar fywyd ac effeithiolaeth y ffyddlonaf o'i hanwyl weinidogion.

4. Cymmerwyd ef ymaith mewn trefn i symud achlysur tramgwydd o ffordd brodyr gweiniaid. Y mae amryw o osodiadau, Dwyfol o ran eu tarddiad, a buddiol eu tueddiad, wedi eu cam-ddefnyddio, a'u troi yn achlysuron tramgwydd, o herwydd gwendid y natur ddynol. Yr oedd y sarff bres yn ngwersyll Israel yn osodiad Dwyfol, ac yn foddion bywyd i'r cyfryw a frathid gan y seirff tanllyd, etto daeth yn achlysur tramgwydd pan wnawd eilun o honi; ac mewn trefn i ddileu'r effaith, yr oedd yn rhaid symud yr achos. Y mae bedydd hefyd yn achlysur tramgwydd, pan ei cymmerir yn lle adenedigaeth, ac y gosodir mwy pwys arno nâ ffydd yn Nghrist a chrefydd ymarferol. Yr un modd etto y Swper Santaidd, pan weinyddir ef i wrthryfelwr cyndyn yn ei oriau diweddaf, pan y bydd yr offeiriad yn ffug-ddirectio ei gymunwr, fel sypyn trefnus i bost office Caersalem, gan osod seal y llywodraeth arno, to demand a free passage. Y mae'r ordinhadau pwysicaf wedi bod, ac yn bod yn achlysur pechod. Etto am fod tuedd ymarferol yr ordinhadau hyn yn hanffodol anghenrheidiol i gysur a llesâd teithwyr Sïon nis gellir eu dileu, faint bynag o gamddefnydd a wneir o honynt gan y tywyll a'r anystyriol.

Os yw yr ordinhadau yn achlysuru tramgwydd, gall personau hefyd fod yn achosi tramgwydd. Os bydd nebo weinidogion y cyssegr, trwy ëangder eu gwybodaeth, hyawdledd eu doniau, dysgleirdeb eu cymmeriadau, a ffyddlondeb eu hymdrechiadau, yn achlysyru mwy o son am danynt, a dysgwyliad wrthynt, nag a fyddo o son am, a dysgwyliad wrth Grist; diau eu bod, faint bynag fyddo eu duwioldeb, a'u defnyddioldeb yn feini tramgwydd, a gwell ar y cwbl i'r eglwysi iddynt gael eu symud ymaith, nâ'u gadael yn feini tramgwydd i'w eu haelodau gweinion.

Nid oedd neb yn fwy gochelgar yn y pethau hyn nâ gwrthddrych ein sylw yn bresennol, oblegid dangosai bob amser mai ei brif amcan oedd llesàu ei gyd-ddynion, ac nid ennill eu cymmeradwyaeth, etto cymmeradwyaeth fawr a gafodd. Er hyn i gyd, wrth feddwl am enwogrwydd ei weinidogaeth, cymmeradwyaeth ei gynnygiadau, a llwyddiant anarferol ei lafur yn ei ddyddiau diweddaf, nid rhyfedd os oedd yn codi yn rhy uchel yn meddyliau rhai o weiniaid Sïon, ac yn cymmeryd gormod o le UN rhy deilwng a gwerthfawr i ormesu arno. Felly barnwyd yn y llys uchaf fod yn well symud y gwas ffyddlon i wlad lle mae y preswylwyr oll yn rhy ddoeth i gam-gymmeryd.


5. Fel y byddo i ffyddlondeb ei blant gael ei wobrwyo. "Diau fod ffrwyth (gwobr) i'r cyfiawn." "A'r doethion a ddysgleiriant fel â dysgleirdeb y ffurfafen, a'r rhai a droant lawer i gyfiawnder a fyddant fel y ser, byth yn dragywydd." Y mae yr enw gweision yn cael ei briodoli yn aml i bobl yr Arglwydd yn yr ysgrythyrau, er dynodi eu rhwymedigaeth a'u gwaith—o'r tu arall, mynych y sonir am danynt yn y gair dwyfol dan yr enw plant, i arwyddo eu perthynas â Duw, a'u hanwyldeb ganddo—ond golygir y byddant yn y byd arall yn fwy fel plant, nag fel gweision, a'u mwynhad yno yn wobr Tad i'w blant, yn hytrach nâ'r eiddo meistr i'w weision cyflog. Afreidiol fyddai dywedyd, nad yw yr egwyddor hon yn milwrio yn erbyn yr athrawiaeth o raddau mewn gogoniant, (yr hon a ystyrid yn egwyddor bwysig gan ein cyfaill ymadawedig,) oblegid ymddyga tad doeth a da tuag at ei blant yn ol eu teilyngdod, er na bydd yn talu iddynt yn ol swm eu gwasanaeth, ond yn eu gwobrwyo yn mhell uwchlaw hyny, fel y bydd pob un yn derbyn anfeidrol fwy nag atdaliad am ei wasanaeth ffyddlonaf a'i lafur caletaf: etto bernir y bydd graddau eu ffyddlondeb yn graddoli eu sefyllfaoedd yn ngwlad y purdeb.

Ar yr egwyddor hon, cafodd ein hanwyl WILLIAMS ei gymmeryd ymaith mor gynnar yn mhrydnawn ei fywyd i dderbyn gwobr ei "waith a'i lafurus gariad," y rhai a weiniasai mor ffyddlon i'r saint am dymhor ei weinidogaeth.

Cafodd Mr. W. y fraint o yfed yn dra helaeth o ffynnonau cysur yn y byd yma; a bu'n ddiolchgar iawn i'w Dad nefol am y cyfryw bethau. Yr oedd hawddgarwch ei deulu—dymunoldeb ei amgylchiadau bydol— ei gymmeradwyaeth fel dyn ac fel pregethwr—oll yn tuedddu i gysuro ei feddwl. Y farn a allasai ffurfio am gymmeradwyaeth ei berson gyda Duw, ynghyd â'i ddefnyddioldeb i'w gyd-ddynion, oeddent yn effeithio i'r un perwyl. Wrth edrych ar y pethau hyn a'r cyffelyb, gellir casglu nad oedd ei gysur cymdeithasol yn brin yma; ond gellir sicrhau ei fod yn annhraethol fwy yn y gymdeithas berffaith.

Cafodd hyfrydwch mwy nag ellir ddirnad gan ddynion o alluoedd cyffredin, wrth fyfyrio yn ngwirioneddau y gair. Pan y byddai rhyw bwnc yn dywyll, ac anhawdd ei benderfynu, teimlai radd mawr o annedwyddwch meddwl, hyd oni chai fuddugoliaeth ar yr anhawsderau a'i cylchynai, ac y ffurfiai olygiadau cysson mewn perthynas iddo; yna byddai gorfoledd ei feddwl gymmaint, nes fel Archimedes y byddai yn agos ag anghofio ei hun. Syllai gyda hyfrydwch llewygol ar gyssondeb egwyddorion trefn achub, nes y llenwid ei feddwl â llawenydd annhraethadwy; ond er pelled y treiddiai ei lygad eryraidd i ddyfnion bethau Duw, a chymmaint oedd y mwyniant a dderbyniai drwyddynt yn ei sefyllfa gyntefig; yn ei sefyllfa bresennol mae yn eu canfod yn gan mil eglurach, a'i fwyniant hefyd sydd gan mil eangach.

Yn y cylch cyhoeddus cai lawer o fwyniant nefolaidd i'w feddwl, yn neillduol yn ei bregethau egwyddorol, eglur, a chynhyrfus, y rhai a draddodai mor serchiadol, hyawdl, ac effeithiol, nes byddai y dyrfa fel yn hongian wrth ei wefusau, a'u calonau yn doddedig dan ddylanwadau ei weinidogaeth, pan yn mywiogrwydd ei feddwl y tywalltai iddynt y drychfeddyliau mwyaf goruchel gyda ffrwd o areithyddiaeth diaddurn. Etto, yn mharadwys y mae yn gweithredu ar dir annhraethol uwch mewn modd annhraethol berffeithiach—a than amgylchiadau annhraethol fwy manteisiol; o ganlyniad, rhaid fod ei fwyniant yn annhraethol helaethach nag y bu erioed yn ei orlenwad uchaf yn y byd yma. Gynt yr oedd yn nghymdeithas dynion llygredig, yn awr y mae gydag "ysbrydoedd y cyfiawn, y rhai a berffeithiwyd"—gynt yr oedd yn gweithredu mewn cadwynau, ond yn awr yn gwbl rydd―gynt yr oedd yn byw fel wrth oleu canwyll, ond yn awr y mae yn nysgleirdeb yr haul—gynt byddai yn canu ac yn cwyno bob yn ail, ond yn awr y mae yn canu heb gwyno byth—gynt byddai ei gwpaneidiau yn gymmysg o felus a chwerw, ond yn awr y maent i gyd yn felus a digymmysg. Gwelwn fod ein colled ni yn elw iddo ef, a'n testun cwyno ni iddo ef yn destun canu.

Yn awr, rhaid i mi ffarwelio a'm hanwyl gyfaill, gan obeithio, er mor annhebyg, y caf ei gyfarfod etto ar ardaloedd gwynfyd, pryd na raid ffarwelio mwy. Yr eiddoch, &c.

Minsterley, Ebrill 2, 1841.THOS. JONES.


At y Parch. W. Rees.

ANWYL GYFAILL,—Erioed ni ymeflais yn fy ysgrifell gyda mwy o betrusder nâ'r tro hwn, rhag im' fodd yn y byd ysgrifio unrhyw ymadrodd annheilwng o'm testun. Bydd prinder defnyddiau perthynol i, ambell destun yn gwneuthur yn anhawdd llefaru neu ysgrifio am dano; ond llawnder defnyddiau perthynol i'r testun hwn a wna y gorchwylion hyny yn anhawdd eu cyflawni. Y mae enw WILLIAMS O'R WERN yn gyssegredig. Yr oedd ei wasanaeth yn gyssegredig i'r eglwysi tra y bu byw, ac y mae ei goffadwriaeth yn gyssegredig gan yr eglwysi yn awr wedi iddo farw.

Ni fynwn er dim i neb dybied fy mod yn anfoddog i ymaflyd yn y gorchwyl galarus o ysgrifio ychydig linellau er cof am ein hanwyl dad a'n cyfaill yn y weinidogaeth; ond yn hollol i'r gwrthwyneb, dymunwn i bob darllenydd ddeall fy mod yn teimlo awydd pryderus at y gorchwyl; a chyflwynaf fy niolchfryd mwyaf diffuant i chwi, fel awdwr ei Gofiant, am ganiatâu i mi, gydag ereill, y fraint o ollwng fy nheimladau i'r cyhoedd. Gwell genyf ddywedyd yn anmherffaith ar y mater, nâ bod heb ddywedyd dim. Nid wyf yn meddwl y gallaf draethu dim newydd, ac ni cheisiaf deithio llwybr disathr. Ymdrechaf amlygu fy syniadau o fewn cylch ychydig ymadroddion, a diau genyf, wedi y derbyniwch ddatguddiad o syniadau brodyr ereill, y gwelwch mor berffaith y cyd-olygid o barth rhinweddau personol a rhagoriaethau swyddol ein hybarch frawd ymadawedig.

Ymddengys amryw bethau i mi fel achosion priodol o DRISTWCH уn ei ymadawiad. Wrth ei golli ef, collwyd

Un eang iawn ei wybodaeth. Athraw goleu yn ngair Duw ydoedd. Chwiliodd yr ysgrythyrau yn ddyfal, a chyrhaeddodd adnabyddiaeth o feddwl Duw ynddynt i raddau lawer iawn y tu hwnt i'r cyffredin. Canfyddai gyssondeb y llyfr Dwyfol, a gwelai gyssylltiad a dibyniad y naill ran ar y llall. Athrawiaethwr ysgrythyrol ydoedd.

Un helaeth iawn ei ddoniau. Yr oedd ganddo gymhwysderau neillduol i amlygu meddwl ei Arglwydd i ereill gydag eglurder. Ambell un sy'n meddu ar amgyffred a deall da ei hun, ond ni fedd ddawn i drosglwyddo gwybodaeth i ereill, ac o ganlyniad, erys ei wybodaeth yn eiddo iddo ei hun yn unig. Ni etyb ei lafur na'i gynnydd unrhyw ddyben defnyddiol, ond yn unig iddo ei hun. Nid felly ein brawd ymadawedig. Halen ydoedd—hallt ei hun, ac yn halltu ereill. Canwyll ydoedd—yn oleu ei hun, ac yn goleuo ereill. Llestr ydoedd llawn ei hun, ac yn arllwys yn barhaus ereill. Yr oedd ganddo ddoniau i osod allan feddwl ei Arglwydd, nid yn unig gydag eglurder, ond hefyd gydag effeithiolrwydd. Meddiannai ar bob cyfaddasiad i ddylanwadu yn rymus ar deimladau ei wrandawyr. Yr oedd cyfaddasiad at hyn yn ei wedd, ei lais, a'i draddod—ddull. Gallai dynu ei gynnulleidfa at odreu Sinai, ac oddiyno gallai ei llusgo at safn y pydew, a'i hysgwyd uwchben trigfa diafliaid, nes yr ysgogid pob gewin, ac y cyffröid pob teimlad gan arswyd. Gallai hefyd ei thywys i dremio ar helyntion Gethsemane a Golgotha, nes y byddai pob llygad fel ffynnon o ddagrau. Gallai, wedi hyu, ei dyrchafu at borth y nef, i syllu ar heolydd y ddinas santaidd, nes y byddai llawer Cristion gofidus yn anghofio ei drallodau oll, ac am yr amser hwnw, bron heb wybod pa un ai yn y corff yr ydoedd, ai allan o'r corff, ac yn ymadael o'r addoliad mewn awyddfryd mawr am fod oddicartref o'r corff, i gartrefu gyda'r Arglwydd. Y mae miloedd o dystion byw o hyn y dydd heddyw.

Un mawr iawn ei hynawsedd. Y mae llawer gwr da, doniol, a defnyddiol, ond yn anffodus yn meddu ar dymher ddrygnaws a sarugaidd, yr hyn a achosa anhyfrydwch mawr iddo ei hun ac i ereill, Ond tymher hollol i'r gwrthwyneb oedd gan ein diweddar frawd. Gŵyr pawb y sydd yn gwybod dim am dano, mai un tra hynaws a serchog ydoedd fel dyn ac fel cyfaill.

Un cyflawn iawn ei ddoethineb. Yr oedd yn llawn, nid yn unig o'r Ysbryd Glân, ond hefyd o ddoethineb. Ni wn am neb rhagorach nag efe gellid gofyn cynghor iddo mewn amgylchiadau dyrus. Yr oedd bob amser yn dra pharod i roddi cynghor, ac y mae lliaws profion yn gyrhaeddadwy heddyw o briodoldeb ei gynghorion.

Un dwfn iawn ei ostyngeiddrwydd. Pan yr ystyrir ei hynafiaeth, ei ddoniau, a'i ddylanwad ar fyd ac eglwys, ymddengys ei ysbryd diuchelgais yn un o brif ragorion ei nodwedd. Gwelwyd ef lawer gwaith yn nghyfeillachau cyfrinachol ei frodyr, ac yn llywyddu yn eu cynnulliadau cymmanfaol, ond gofalai bob amser am ymddangos yn y naill a'r llall, nid fel arglwydd ei frodyr, ond fel gwas yr Arglwydd. Yr oedd yn casâu trais a thra-arglwyddiaeth yn mhawb ereill, a gwyliai rhag coleddu yr ysbryd hwnw ei hun. Clywais ef, fwy nag unwaith, yn cyfeirio at ymadrodd yr hen ddiwygiwr gynt, sef bod " gan bob dyn bâb bach yn ei fol ei hun;" ac annogai bawb i ladd eu pabau bychain eu hunain, cyn amcanu darostwng pabyddiaeth neb arall.

Un cyhoeddus iawn ei ddefnyddioldeb. Yr oedd ei ddefnyddioldeb, nid yn unig yn un cartrefòl, ond hefyd yn un cyffredinol. Bu ei weinidogaeth yn fendithiol i liaws mawr o weinidogion ac eglwysi y Dywysogaeth. Teimlai ofal mawr dros lwyddiant, a phryder mawr yn helyntion achos y Gwaredwr yn gyffredinol. Yr oedd yn bleidiwr medrus a gwresog i bob achos rhinweddol. Llenwid ef gan ysbryd cyhoeddus. Nid oedd yn gwrthsefyll diwygiadau ei oes, ac nid oedd yn ymlusgo chwaith yn arafaidd ar eu hol. Blaenai yn mhob sefydliad teilwng, a cheid ef yn' wastadol yn mlaen-res yr ymdrech.

Un difrif-ddwys iawn mewn gweddi. Pan yr anerchai Wrandawr gweddi, gwnai hyny mewn symledd a gwyleidd-dra mawr. Tueddai ei ddull yn gweddio yn neillduol i ennyn duwiolfrydedd yn mynwes pawb o'i gyd-addolwyr. Yr oedd yn amlwg i bawb ei fod yn teimlo pwys y gorchwyl oedd yn ei gyflawni, ac yn gweled gwerth y bendithion oedd yn eu gofyn.

Wrth adolygu y pethau uchod, a meddwl am lawer ychwaneg a all esid ei ddywedyd, hawdd canfod i ni gael colled fawr wrth golli ein brawd, a bod i ni, mewn canlyniad, lawer o achosion priodol o DRISTWCH; ond y mae pethau ereill, mewn cyssylltiad â'i ymadawiad, yn deilwng o'u crybwyll, y rhai a ddangosant bod genym hefyd lawer o ddefnyddiau DYDDANWCH.

Gadawodd ei blant o fewn cylch proffes grefyddol. Sylwyd lawer gwaith, pan y byddai plant tad crefyddol yn troi allan yn annuwiol, "Da iawn nad yw yr hen ŵr eu tad yn fyw; buasai agwedd ei blant yn peri mawr ofid iddo." O'r ochr arall, pan y byddai y plant yn troi allan yn dduwiol a defnyddiol, sylwyd, "O na buasai yr hen wr eu tad yn fyw; buasai golwg ar rinwedd ei blant yn peri mawr lawenydd iddo." Cafodd ein brawd yr olwg siriol hon cyn ei farw, a diau fod hyny wedi peri mawr gysur iddo. Cychwynodd ei daith i fyd anfarwol, gan adael ei blant yn mynwes gwraig yr Oen.

Gadawodd ei eglwysi mewn heddwch a llwyddiant. Nid ymadael mewn ystorm a ddarfu, ond cafodd hin deg i gychwyn ei daith. Yr oedd eglwys y Tabernacl yn Liverpool yn blodeuo, ac eglwysi y Rhos a'r Wern yn ffrwythloni, fel prenau ar làn afonydd dyfroedd. Cafodd ei lygaid weled dymuniad ei galon.

Gadawodd y byd yn nghanol ei barch a'i boblogrwydd. Y mae rhai yn gorfyw eu parch, ac ereill yn gorfyw eu poblogrwydd; ond aeth ef adref â'r goron ar ei ben—coron yn ei llawn flodau heb wywo.

Gadawodd y byd yn yr amser hawddaf ei hebgor. Nid oedd ei golli pan ei collwyd yn ddyrnod mor drwm â phe buasid yn ei golli ddeg neu ugain mlynedd cyn hyny. Yr oedd yr achos y pryd hwnw mewn llawer mwy o wendid, a buasai ei golli yn ergyd o'r fath ag a fuasai yn peri digalondid cyffredinol. Ymddengys daioni a doethineb ein Harglwydd yn ei gymmeryd y pryd ei cymmerwyd. Ni ddisgynodd ddyrnod hyd nes oedd yr achos yn ddigon cryf i'w oddef. Gadawodd dystiolaeth dda ar ei ol. Nid yn unig bu farw mewn tangnefedd, ond hefyd mewn gorfoledd. Peth mawr yw cael myned i'r porthladd ryw fodd, ond peth mwy yw cael myned yno yn llawn hwyl. Peth mawr yw cael teithio y glyn heb ofn, ond peth mwy yw cael ei deithio dan ganu. Tystiodd yn eglur ei obaith cadarn o gael ail-ymuno â'i briod ac â'i ferch, i gyd-osod eu coronau euraidd wrth draed yr Oen.

Gadawodd anialwch blinderus, a gwynebodd ar orphwysfa ddedwydd. Ni bydd raid iddo farw mwy. Croesawyd ef yno gan hen frodyr anwyl ganddo, a chaiff eu cymdeithas byth mwy. Croesawyd ef yno gan ei briod a'i blentyn, a melus ganddynt feddwl "na bydd raid ymadael mwy." Ond uwchlaw y cwbl, croesawyd ef yno gan Arglwydd y wlad, yn mhresennoldeb yr hwn yr erys bellach yn oes oesoedd.

Boed ei Dduw ef yn Dduw i ninnau. Dymunwn i bob darllenydd o'r Cofiant ystyried mai "mewn bywyd mae gwasanaethu Duw." Truenus iawn ydyw i fywyd ddarfod, a gwaith mawr bywyd heb gael ei ddechreu. Nid oes dim ond crefydd y Gwaredwr a wna i'r llygad pwlaidd danbeidio mewn sirioldeb ar wely angeu.

Bydded i ni wneuthur y defnydd goreu o'r hyn a gawsom trwyddo. Gwn y chwennychai llawer darllenydd o'r Cofiant ei godi o'r beddrod, pe y gallai. Nid gormod fyddai ganddo gymmeryd taith i fynwent capel y Wern, sefyll uwchben ei bridd, a gwaeddi 'WILLIAMS, cyfod!" pe y gwyddai yr ail-gynhyrfai bywyd ynddo trwy hyny, ac y ceid y tafod prudd i ail-bregethu Gwaredwr i'r colledig. Ond gellir cael adgyfodiad gwell iddo nâ hyn, trwy osod ei bregethau, cynghorion, a gweddiau mewn ymarferiad. Fel hyn bydd efe byw yn ein bywyd ni.

Pan y byddo y gweision farw, diolchwn fod y Meistr yn fyw. Efe, yr hwn a fu farw, wele byw ydyw, a byw fydd yn oes oesodd. Dyweded pob calon, AMEN ac AMEN. Y mae Iesu Grist yr un ddoe, heddyw, ac yn dragywydd. mae brodyr, cyfeillion, a pherthynasau, yn marw, ond erys Iesu yr un. Y mae Hughes, Dinas; Jones, Treffynnon; Roberts, Llanbrynmair; Roberts, Dinbych; WILLIAMS, o'r Wern; a lliaws ereill o'r gweision wedi marw, ond y mae eu Meistr yn parhau o hyd yn fyw. Y mae efe yn byw bob amser i eiriol dros ei bobl.

"Israel, dy Frenin byth fydd byw,
Teyrnasa'th Dduw'n dragywydd."

Ymguddia y ser o dan gwmwl y naill ar ol y llall, ond erys yr Haul. Gallwn foddloni colli ambell seren, os cawn lewyrch yr Haul. Esgyned llef ein gweddiau i'r uchelder, "O HAUL, AROS!"

MostynHUGH PUGH.


At y Parch. W. Rees.

BARCH. AC ANWYL SYR,—Am wrthddrych eich Cofiant, y diweddar Barchedig W. WILLIAMS, er nad oedd berffaith rydd oddiwrth wendidau a gwaeleddau y natur ddynol, ymddengys i mi ei fod yn un o'r dynion goreu a flodeuodd, ac a gafodd y Cymry erioed; a sicr mai yr hyn sydd yn gwneuthur dyn yn un da, sydd hefyd yn ei wneuthur yn wir fawr.

Cefais ei gwmni i gyd-deithio, cynnal cyfarfodydd a chymmanfaoedd, am tuag 20ain mlynedd.

1. Ymddangosai yn un nodedig wastad a rheolaidd ei dymher, yn berffaith feddiannol arno ei hun bob amser.

2. Yr oedd o alluoedd cryfion, corff a meddwl: rhyfedd gymmaint a deithiai ac a bregethai mewn ychydig amser, pan yn ei gryfder!

3. Efe, y diweddar Mr. Roberts, o Lanbrynmair, a Mr. Jones, o Lanewchllyn, ydoedd y rhai mwyaf adeiladol a buddiol yn eu cwmniaeth a welais ac a gefais y fraint o'u canlyn erioed.

Tri o'r rhai mwyaf galluog, ewyllysgar, ac ymdrechgar i wneuthur daioni ar y ffordd—cael eu cwmni ydoedd megys cael college—parhaed a chynnydded yr un sydd yn fyw o'r tri.

4. Yr oedd Mr. WILLIAMS yn ysgolhaig tra chyflawn; yn berchenog ar lyfrau rhagorol, yn deall awdwyr yn hollol, ond ni chymmerai ddim o waith neb heb ei farnu a'i bwyso ei hun, rhwng ei gydwybod a gair Duw. Ond y peth mwyaf nodedig ynddo oedd ei duedd myfyrgar; y fath awdurdod oedd ganddo ar ei feddwl mawr! Myfyriai ef yn fanwl ar y materion pwysicaf ar ei geffyl, a hyny heb iddo gael ei ystyried yn un melancholaidd. Yr oedd yn ffieiddio yr ymffrost gan rai fod eu pregethwr yn felancolaidd, "Dyn o'i gof yn ddyn mawr!" meddai.

5. Yr oedd hefyd yn deall y natur ddynol yn rhagorol; ac yn neillduol amheus a drwgdybus am ddrygioni calon annuwiol—mor eiddigeddus rhag calon falch ac anniolchgar. O y fath eneinniad santaidd oedd gyda ei gynghorion a'i bregethau! Mor eglur fod llaw yr Arglwydd gyda ei bregethau! Fel pe buasai yr Ysbryd Glân wedi tywallt gras ar ei wefusau, &c.

Mor hapus y byddai yn trin trefn gras, heb arwain ei wrandawyr i benrhyddid—fel yr oedd yn deall athrawiaeth yr Iawn, yn ol llywodraeth foesol. Daliai ras Duw a dyledswydd dyn ar gyfer eu gilyddrhydd—weithrediad Duw, a rhydd—weithrediad dyn—trefn gras penarglwyddiaethol mewn cyssylltiad â chyfiawnder y llywodraeth Ddwyfol, &c., &c.

7. Mor alluog ydoedd i gymhedroli mewn cynnadledd. Yr oedd yn hynod, fel cadeirydd, am drefn a rheol, ac heb dra—awdurdodi. Yn ei holl fywyd gweinidogaethol yr oedd y fath sirioldeb a santeiddrwydd yn cyd—ymgyfarfod ynddo, ag oedd yn ei wneuthur yn ddychryn i annuwioldeb, ac yn fawl i weithredoedd da.

Llanerchymedd.E. DAVIES.

At y Parch. W. Rees.

FY ANWYL FRAWD,—Yn ol eich dymuniad, ysgrifenwyf yr ychydig linellau hyn atoch. Da genyf eich bod yn cymmeryd mewn llaw y gorchwyl o godi colofn goffadwriaethol am y diweddar Barch. W. WILLIAMS, o'r Wern. Hyderwyf y bydd yr adeilad yn deilwng o'i enw, er yn wir mai gorchest fydd gallu gwneyd cyfiawnder â bywgraffiad un ag yr "oedd ei glod mor hynod yn yr eglwysi."

Bendith, ag y pâr ei heffeithiau oesau maith yn yr eglwysi Cymreig, oedd ei roddiad i ni; a cholled y teimlir ei chanlyniadau yn hir, oedd ei gymmeryd ymaith oddiarnom. Ni allwn goffhau ei enw, heb gael ein taro â theimlad byw; y mae ei enw mor anwyl, fel y mae yn gwneyd ei goffadwriaeth yn gynnes. Y mae rhyw drwydded yn ganiataol i deimlad o alar dan archoll ergyd mor drwm. Wylodd Iesu ei hun wrth fedd ei gyfaill; tristaodd y dysgyblion yn benaf pan y dywedai yr apostol na chaent weled ei wyneb ef mwy; a gwnai gwyr bucheddol alar mawr am Stephan; ac felly ni allwn ninnau ymattal rhag galar cyffelyb yn yr amgylchiad hwn, wrth gofio un o'n prif flaenoriaid a draethodd i ni air Duw.

Y mae ei dduwiolfrydedd yn fyw ar ein meddwl. Byddai yn ofer ac anmherthynol i mi gynnyg tynu darluniad o'i gymmeriad; nid at hyny yr amcanaf, ond yn hytrach adrodd rhyw bethau a barant i mi ei gotio fwyaf effro. Cyfeiriais at ei dduwiolfrydedd. Bwriadai fy nghroesawu â llety y noswaith flaenorol i ystorm fawr Ionawr, ddwy flynedd yn ol, ond fo'm lluddiwyd i gyrhaedd Llynlleifiad hyd drannoeth wedi y rhyferthwy. Gwedi cyrhaedd yno, arweiniai fi yn fuan i nen y tŷ, i weled y gwely lle y bwriadai i mi orphwys, a oedd erbyn hyn wedi ei orchuddio â thunelli o geryg a syrthiasai drwy y tô o'r ffumer. Dywedai, yn ei ddull teuluaidd a charedig, "Wel, frawd, dyma lle buasai dy orweddfa, pe daethit yma yn ol dy fwriad." Ni allaf fyth anghofio ei sylwadau ar y waredigaeth, ac fel y dywedai am ein rhwymau o wneyd yr amgylchiad yn destun diolch. "Gallai fod rhywbeth etto i ni i'w wneyd," eb efe, ar ol arbediad fel hyn; y mae yn annogaeth i ni fod yn fwy cyssegredig i'r gwaith; we must improve it in a sermon." Arosais gydag ef hyd wedi addoliad teuluaidd. Yr oedd rhywbeth hynotach yn ei weddi y pryd hwnw nâ dim a glywswn erioed; yr oedd fel pe buasai yn gofyn cenad y Goruchaf i nesâu ato yn nes nag arferol, megys i ymddyddan ag ef wyneb yn wyneb—mor syml (simple), mor deimladol, etto mor eofn, ryw fodd, nes yr oeddwn yn arswydo yn grynedig yn fy lle; a pharhaodd rhyw deimlad nad allaf ei ddarlunio wrthyt dalm o ddyddiau; braidd na ddychymmygaswn fod ei wyneb yn dysgleirio fel Moses; ni welais fwy o arwyddion ysbryd duwiolfryd erioed.

Ni allaf anghofio y gofal oedd ganddo am yr achos mawr yn gyffredinol. Nid yn unig yn nghylch ei weinidogaeth ei hun, ond fel y dywedai Paul," Heblaw y pethau sy yn dygwydd oddiallan, yr ymosod sydd arnaf beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi"—y weinidogaeth—y diwygiadau achubiaeth y byd—y cymdeithasau rhinweddol, a gweithgarwch a lanwai ei galon. Yr oedd wedi bod ar ryw gyfrif yn weinidog i'r dywysogaeth. Nid oes odid gymmydogaeth yn Ngogledd Cymru, nad oes yno ryw rai wedi eu dychwelyd at y Gwaredwr drwy ei bregethau; ac nid oes nemawr deulu â'r hwn yr ymwelodd na adawodd yno ryw gynghorion ag sydd wedi glynu hyd heddyw yn eu plith.

Ni allaf anghofio ei ddefnyddioldeb fel cadeirydd yn mhlith ei frodyr. Yr oedd yn "fab tangnefedd ei hun," ac yn llwyddiannus fel tangnefeddwr yn mhlith ereill. Ni wn a arferwn ormodiaith pe dywedwn mai efe oedd y llygaid â pha rai y gwelem, y traed â pha rai y cerddem, y dwylaw â pha rai y gweithiem, a'r ffon ar yr hon y pwysem! Ni chamarferai ei ddylanwad; ymddygai yn wastadol fel brawd, ac nid fel un yn tra—awdurdodi ar etifeddiaeth Crist.

Ni allaf anghofio ei ostyngeiddrwydd. Yn nghanol mil o demtasiynau i ymchwyddo, ymgadwai yn gyd-ostyngedig â'r rhai isel-radd. Adroddwyd wrthyf yr hanesyn canlynol am dano yn ddiweddar. Cyfleaf hyn yma, er i mi ddweyd ar y dechreu, mai y pethau yr ydwyf yn eu cofio am dano yn unig a grybwyllwn. Dywedai, pan yr oedd yn ddyn ieuanc, ei fod weithiau yn agored i ysgafnder, ac i ryw hen wraig ryw bryd ei gyfarch ar ol ei bregeth, a dywedyd wrtho, "Yr ydych yn bregethwr da, ond y mae yn rhaid i chwi roddi heibio y cellwair yna, onidê, ni wnewch fawr o les." "Ni sylwais nemawr (eb efe) ar ddywediad yr hen chwaer y pryd hwnw, ond cofiais am dani yn mhen blynyddau ar ol hyny. Y mae hi wedi myned i'r nefoedd, yr wyf yn credu. Ni wn i a gaf fi fyned yno ai peidio, ond bûm yn meddwl lawer gwaith, os byth yr awn i yno, mai un o'r pethau cyntaf a wnawn, a fyddai ymofyn am dani, i gael siglo llaw â hi, i ofyn ei phardwn, a diolch am ei chyngor."

Ni allaf anghofio ei gyfeillgarwch. Yr oedd ei gyfeillach yn dra adeiladol, fel yr oedd ganddo gyflenwad o wybodaeth naturiol a chretyddol; ac yn barod i "gyfranu rhyw ddawn ysbrydol" Nid bob amser. wyf yn meddwl i un fod erioed yn ei gymdeithas, heb fod yn ennillwr. Byddai ei sylwadau yn argyhoeddiadol, etto yn ddengar, yn oddefgar, yn haelfrydig, a'u tuedd bob amser at fod yn lles. Yr oedd yn fawr am fod yn gysson ag ef ei hun, ei farn yn bwyllus, a rhyw sylwadau naturiol, gwreiddiol, a tharawiadol ar bob testun.

Ni allaf anghofio ei weinidogaeth. Yr athrawiaeth bur a draddodai a ddefnynai fel gwlaw, a'i ymadrodd a ddiferai fel gwlith. Deffro y meddwl a gafael yn y gydwybod oedd ei brif nod, er na chanfyddid mo hono, nes teimlo archoll y saeth; nid boddloni cywreingarwch, ond yn hytrach fel Paul a Barnabas, pan yr aethant i'r synagog, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr. Ni allaf byth anghofio ei hyawdledd. Yr oedd yn dra dedwydd yn ei ddull yn gosod allan y meddyliau cryfion oedd yn llanw ei enaid mawr yn nghyrhaedd y bobl, nes yr ymdeimlent fel pe byddent gartref ar yr aelwyd wrth ochr y tân. Gollyngai yr eloquence mawr fel ffrwd lifeiriol am ben cynnulleidfa, nes y byddai y dagrau yn llif yn llanw pob llygad. Ni allaf lai nâ chyfeirio at un tro neillduol mewn cymmanfa yn Llanerchymedd, rai blynyddau yn ol, ar y cae, am ddau o'r gloch, yn yr haf, yr hîn yn drymllyd, a'r gwrandawyr yn farwaidd. Yr oedd yr olwg arno cyn dechreu pregethu fel pe buasai yn dra anesmwyth; ái i lawr o'r, ac i fyuu i'r areithfa dro neu ddau, fel pe buasai ar ymdori o eisieu gollwng ei feddyliau allan. Daeth at y desk; edrychai yn o wyllt, fel yr arferwn ddywedyd, a'i ysbryd wedi tânio, a'i feddwl wedi ymlenwi i'r ymylon. Darllenai ei destun yn gyflym ac yn hyf, "Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennych, hyny ydyw un nefol." Gollyngodd y fath ddylif o ffraethineb am y nefoedd, nes yr oedd, cyn pen ugain mynud, fel pe buasai wedi swyno ein teimladau, a braidd na ddychymmygasem glywed y maes yn symud dan ein traed! Yr oedd efe ei hun yn ystyried y tro hwn yn un o droion hynotaf ei oes, canys bûm yn ymddyddan ag ef am y bregeth yn mhen blynyddau ar ol hyny. Yr wyf yn meddwl i'r bregeth hòno effeithio er daioni i'r enwad dros wlad Môn i gyd. Yr wyf yn cofio peth o ddull ei ddawn. Bûm rai gweithiau yn dychymmygu gweled comedy a tragedy yn ymryson am dano; mynai y flaenaf ef i'w osod wrth ochr Cicero, a mynai yr olaf ei gael a'i osod yn ymyl Demosthenes; ond ar y cyfan, byddwn yn meddwl mai y flaenaf a fyddai yn dadlu ei hawl decaf o hono. Yr oedd ei gydmariaethau a'i ddarluniadau yn dlws, yn naturiol, yn eglur, yn ysgafn, yn esmwyth, ac yn darawiadol. Ond Oh! "Wele yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, wedi tyuu ymaith o Jerusalem, ac o Judah, y proffwyd, y cynghorwr, a'r areithiwr hyawdl."

Ni allaf anghofio yr hyn a welais, yr hyn a glywais, a'r hyn a deimlais drwyddo. "Y mae efe wedi marw yn llefaru etto." A thra yr ydwyf yn dywedyd hyn, dymunwn ei fynegi, gan gofio, "Am hyny, na orfoledded neb mewn dynion;" "A'r hwn sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd." Yr oedd ei dalentau o'r fath ddysgleiriaf, ac yr oedd yn meddu y doniau goreu; a'r hyn oedd yn llathreiddio ei ddoniau yn benaf oedd, fod ganddo yr eneinniad oddiwrth y santaidd hwnw. Trwy ras Duw yr ydoedd yr hyn ydoedd.

Gwelodd Duw yn dda goroni ei lafur â llwyddiant mawr; gan hyny, dylem ddiolch am ei gael cyhyd. Etto, y mae yr amgylchiad hwn yn galw arnom i weddio ar i'r Arglwydd godi rhai i lanw y bylchau. Y mae yn alwad o gyd-ymdeimlad â'r eglwysi y llafuriai ynddynt, y gymmydogaeth y cyfanneddai ynddi, yr eglwysi Cymreig yn gyffredinol, ac yn enwedig y teulu a adawodd ar ei ol. Disgyned ei fantell arnynt; ac estyner iddynt hir oes, i fod yn offerynol i gysgodi y saint dani. Am dano ef, ennill oedd y cyfnewidiad iddo ef, ond colled fawr i ni. Ei iaith, wrth ymadael, oedd yn debyg i iaith y Gwaredwr, pan yn nesu at y groes: "Merched Jerusalem, nac wylwch o'm plegid i, ond wylwch o'ch plegid eich hunain ac oblegid eich plant." Y mae genym achos i lawenhau ei fod wedi ei ryddhau o bob gofid, a dianc uwchlaw trallod. Ond wele ni ar y maes. Beth yw eich dymuniad? Cael ei gymmeriad, cyn belled ag y dilynodd Grist, wedi ei argraffu yn ddwysach ar ein calon. Terfynaf, gan goffa iaith y Datguddiad: "Y maent hwy ger bron gorsedd—fainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml, a'r Hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd—fainc a drig yn eu plith hwy."

Conwy, Mawrth 18, 1841. RICHARD PARRY.


At y Parch. W. Rees.

ANWYL FRAWD,—Yr wyf yn anfon y llinellau canlynol atoch os bernwch hwynt yn deilwng o le yn Nghofiant y diweddar, a'r hybarch Mr. WILLIAMS, o'r Wern.

Ychydig flynyddoedd yn ol pan oedd Dirwest yn dechreu yn y Gogledd, cyfarfyddais â Mr. WILLIAMS yn ——— a bum yn cyd-bregethu, ac yn cyd-letya ag ef; ei destun ef ydoedd, 1 Cor. 8, 9-13, y ddyledswydd o hunan-ymwadu, a pheidio rhoddi tramgwydd i'r brawd gwan, &c., &c. Pan aethom i'r gwestdŷ yn yr hwn y lletyem, gofynodd gŵr y tŷ, "Mr. WILLIAMS, pa beth a yfwch chwi ar ol chwysu?" Atebodd Mr. W. "Nid oes arnaf fi ddim syched y rwan." Yna dywedodd gŵr y tŷ, "Y mae yn rhaid i chwi, Syr, gymmeryd gwydraid o frandy, gwna les i chwi ar ol chwysu." "Na, na, (ebe Mr. W.) os cymmeraf ddim, gwydraid o gwrw a fynaf fi; na roddwch ddim i 'nghyfaill, (eb efe,) y mae o yn Deetotaler." Yna galwodd gŵr y tŷ ar y forwyn i ddyfod â dau lasied o gwrw da, un i Mr. W. ac un i minnau, ebe efe, gan ddywedyd, "Ni chaiff y Teetotaler ddim." Pan ddaeth y cwrw i'r bwrdd, mi a ddywedais wrth Mr. W., "Os gwnewch chwi yfed y cwrw yna, byddwch yn tramgwyddo brawd gwan, Syr." "Wel, wel, (ebe yntau,) dyma hi yn lân." "Peidiwch gwrando arno, (ebe gŵr y tŷ,) y mae o yn Deetotaler, yfwch, yfwch, fe wna les i chwi, ar ol chwysu." "Na, na, (meddai Mr. W.) y mae yn rhaid i mi wrando arno." Yna, mi a chwanegais, gan ddywedyd, ei fod ef wedi pregethu yn rhagorol ar hunan-ymwadiad, y ddyledswydd o beidio a thramgwyddo'r brawd gwan, &c.; bod y gynnulleidfa luosog a fu yn ei wrando, yn canmol egwyddorion ei bregeth nodedig ef, ac yn meddwl yn fawr am ei ddawn rhyfeddol, ac am ei ysbryd efengylaidd yntau; ond os gwnewch chwi yfed y cwrw yna, (ebe fi,) byddaf yn ystyried eich bod yn dinystrio egwyddorion eich pregeth, yn yn twyllo'r gynnulleidfa, ac yn tramgwyddo brawd gwan, ar yr un pryd. "Wel, wel, (ebe Mr. W.) dyma fi wedi gwneyd rhwyd y rwan i mi fy hun, a thyma fi ynddi yn fast." "Na wrandewch arno, (ebe gŵr y tŷ,) Teetotaler yw o; yfwch, yfwch." "Yr wyf yn coelio y dylwn wrando," meddai Mr. W., gan ofyn i mi, a oeddwn i yn ystyried ei fod yn bechod ynddo ei hun iddo ef yfed y glasied cwrw hwnw? Dywedais wrtho, nad oeddwn yn benderfynol am hyny, fod llawer o bethau ynddynť eu hunain yn ddiniwed, ac yn gyfreithlon, ond nad oeddynt yn llesâu yn eu cyssylltiadau â phethau ereill, ac y gallasai esiampl gŵr o'i sefyllfa a'i gymmeriad ef, yn yfed ychydig yn gymhedrol, fod yn demtasiwn i ereill yfed yn anghymhedrol, a meddwi, &c. "Wel, (ebe Mr. W.) pe deuwn i yn ddirwestwr, ar yr egwyddor yna y deuwn i, yr wyf yn coelio, rhag i mi fod yn fagl i ereill, ond yn hytrach roddi siampl iddynt," &c. Ond trwy gael ei argymhell gan ŵr y tŷ, efe a brofodd y glasied cwrw, ac a'i rhoddes o'r neilldu. "Yfwch i fynu, yfwch i fynu Mr. W. (ebe'r gŵr,) i chwi gael un arall." "Na, yr wyf yn coelio fod hwn yn ddigon i mi i swper etto," ebe Mr. W., ac a ddechreuodd gynghori'r tafarnwr i roi y dafarn i fynu cyn i'r fasnach fyned yn warthus iawn yn ngolwg y wlad, &c. Dywedodd Mr. W. wrthyf y noson hono, ei fod yn meddwl ymuno â'r Gymdeithas Ddirwestol pan elai adref. Mi a gyfarfyddais ag ef eilwaith yn mhen oddeutu pum wythnos yn Ll—n—ll—f—d, ac efe a ofynodd i mi, "A wyt ti yn cofio am y glasied cwrw hwnw yn ?" Ydwyf, ebe finnau. "Dyna'r diwetha am byth i mi fel diod gyffredin." Craffais ar ddau beth neillduol ynddo ef y noson grybwylledig, sef, meddwl mawr, boneddigaidd, a gostyngedig, a pharodrwydd i hunan-ymwadu, er mwyn gwneuthur lles i ereill.

Pwllheli.R. P. GRIFFITHS.


At y Parch. W. Rees.

ANWYL FRAWD,—Nis gallaf lai nâ theimlo yn ddwys wrth feddwl nad oes genym yn awr ond ceisio galw i'n cof un ag oedd mor ddiweddar yn llenwi cylch mor helaeth, a defnyddiol yn ein plith. Daethum yn adnabyddus o hono pan yr oedd yn fyfyriwr yn Athrofa Gogledd Cymru, yr hon a gynnelid y pryd hyny yn Ngwrecsam. Cofus genyf fod ei bregethau nodedig, ac yn neillduol ei hyawdledd, a'i ddull priodol iddo ei hun yn eu traethu, yn tỳnu sylw ei wrandawyr y dyddiau hyny. Yn fuan wedi ei sefydliad yn y Wern, cefais yr hyfrydwch o gael ychydig gyfeill ach ag ef, ac fel y byddai yn hynod yn ei sylw o frodyr ieuainc, yn eu cynghori, a'u calonogi, rhoddodd i minnau rai cynghorion mewn perthynas i bregethu, ag sydd wedi aros yn fy meddwl hyd heddyw; sef, gofalu fy mod yn iawn ddeall fy nhestun—cadw golwg neillduol ar ei brif fater, a'r amcan penaf ynddo—ymdrecha at fod yn fedrus mewn tynu addysgiadau priodol oddiwrth yr athrawiaeth mewn ffordd gymhwysiadol at y gwrandawyr. Sylwais hefyd arno mewn cynnadledd gymmanfaol, pan wedi ei annog i roddi rhai cynghorion gyda golwg ar bregethu—yn dweyd am fod yn ofalus i gadw at feddwl priodol pob rhan o air Duw, gan ddywedyd, yn ei ddull, ag oedd mor briodol iddo ei hun, "Nad oedd yr hen Fibl un amser yn tòri i fynu;" ond fod digon o destunau ynddo i ddwyn pob mater gerbron ein gwrandawyr, heb fyned i lefaru allan o feddwl y testun. Bu y cynghorion uchod yn fuddiol i mi, ac y mae yn dda genyf eu coffâu er lles ieuenctyd ag a fydd etto yn dyfod i fynu at y gwaith mawr, yn nghyd â'r rhai ag sydd wrtho yn barod. Peth hynod amlwg yn ei nodweddiad, hyd y nod yn mlynyddoedd boreuaf ei weinidogaeth, oedd ei ofal dwys am achos yr Arglwydd. Gŵyr yr eglwysi ag oedd dan ei ofal am ei ymdrech a'i lafur, er lledaenu achos y Gwaredwr, ei deithiau mynych a meithion er talu dyledion yr addoldai; ac er fod ei berthynas â'r eglwysi hyny yn peri fod ei ofal a'i lafur yn benaf yn eu plith, a throstynt hwy; etto, teimlai yn gyffredinol dros yr achos crefyddol, ac ymdrechai hyd y gallai gyrhaedd i'w wasanaethu a'i lesâu yn mhob lle. Gallesid dweyd am dano yn nyddiau ieuengaf ei weinidogaeth, "Nad oedd yn byw iddo ei hun;" meddyliais lawer gwaith, nad oedd ei amgylchiadau ei hun yn cael fawr na dim lle ar ei feddwl, ond mai ei ofal mawr oedd byw i achos Duw; a gwyddom na chafodd ei adael heb i'r Duw ag yr oedd yn ei wasanaethu ofalu am dano yntau. Bu hefyd fel tad a brawd i'r myfyrwyr tra yr oedd yr athrofa yn gyfagos iddo yn Ngwrecsam, ac yn wir, ymwelai â hwynt yn fynych wedi ei symudiad o'r lle hwnw. Yr oedd ein hybarch athraw, y diweddar Barch. G. Lewis, D. D., yn wir hoff o hono. Pan y deuai i'r dref, wedi talu ei ymweliad â'n hathraw, rhoddai ei gyfeillach yn rhydd a siriol i'r myfyrwyr; cyrchem bawb yn dra awyddus i'r man lle y clywem ei fod, ac yn bur anfynych, os un amser yr ymwelai â ni, heb ganddo ryw beth pwysig i dynu ein sylw arno er ein gwir adeiladaeth, a byddai groesaw i ni osod o'i flaen unrhyw fater a ymddangosai yn anhawdd, neu yn ddyrus i ni, gwnai ei oreu bob amser i'w chwalu a'i egluro i'n meddyliau. Trwy ein bod yn llafurio yn ei gapeli bob yn ail Sabboth ag ef, yn gynnorthwyol iddo, byddem yn fynych yn cael yr hyfrydwch o lettya gydag ef, nos Sadwrn, neu nos Sabboth, a thrwy hyny yn cael bod yn dystion o'i weddiau taerion ar ein rhan. Cofus iawn genyf am ei weddi yn deuluaidd un boreu Sabboth drosof fi a'm cyd-fyfyrwyr; nid yw yr argraffiadau a wnaed ar fy meddwl a'm teimlad y pryd hyny wedi eu dileu hyd yr awr hon; ac y mae yn dra sicr genyf, mai nid pan y byddem yn bresennol yn unig y cofiai am danom, ond ein bod yn cael rhan helaeth yn ei weddiau yn wastadol; oblegid gwyddom fod y weinidogaeth ag oedd yn codi i fynu yn cael lle dwys ar ei feddyliau ef, fel un ag oedd mor helaeth yn ei ysbryd cyhoeddus, ac mor wresog yn ei gariad at achos yr Arglwydd. Hefyd, nid oedd neb ag a lawenhäai yn fwy nag ef yn ein cynnydd a'n llwyddiant mewn addysg, er bod yn ddefnyddiol yn ein hoes. Hawdd fuasai rhoddi enghreifftiau o hyny, oni bai eu bod yn arwain i gyfeiriadau rhy bersonol gyda golwg ar y rhai byw. Arderfyniad amser pob myfyriwr yn yr Athrofa, cynnelid cyfarfod neillduol rhyngddo ef a'i frodyr cyn ei ymadawiad i weddio dros eu gilydd, ac i gynghori y naill y llall; Mr. WILLIAMS a fyddai ein Cadeirydd bob amser ar yr achlysur hyny, ac wedi i bob brawd draethu y cynghor a fyddai ar ei feddwl i'r brawd a fyddai ar ymadael, ac iddo yntau roddi ei gynghorion iddynt hwythau a fyddai yn aros yn ol, yna rhoddai y Cadeirydd iddo ei gynghorion, a'i annogaethau difrifol, a therfynai y cyfarfod trwy weddi wresog a thaer ar ei ran. Nid peth hawdd a fyddai anghofio yn fuan y cyfarfod hwn. Yn y modd hyn yr oedd y caredigrwydd mwyaf, a'r cyfeillgarwch penaf yn bod rhwng y myfyrwyr a Mr. WILLIAMS dros y blynyddau a dreulient yn gymmydogaethol iddo; ac nid wyf yn cofio am y gradd lleiaf o oerfelgarwch yn neb o honom tuag ato, nag am un arwydd o hyny ynddo yntau tuag atom ninnau, a diau genyf fod hyn wedi gosod i lawr sylfaen cyfeillgarwch am eu hoes rhyngddo ef a'r rhai a gawsant y fraint o dreulio eu hamser yn yr Athrofa yn gymmydogaethol iddo. Byddem weithiau yn cael cyfleusdra i'w wrando yn pregethu, yr hyn a fyddai yn dra hyfryd genym, ac yn wir, adeiladaeth i'n meddyliau.

Amlwch. WM. JONES.


At y Parch. W. Rees.

ANWYL SYR,—Gwnaed argraffiadau dyfnion ar feddyliau miloedd drwy weinidogaeth gref a goleu ein diweddar gyfaill Mr. WILLIAMS, o'r Wern; ac yr wyf yn dra hyderus y bydd i'ch adgofion chwi am nodweddiadau ei ysbryd hawddgar, ei lafur helaeth, a'i ddawn deniadol, adnewyddu yr argraffiadau hyny, ac y gwneir felly ad-argraffiadau oddiwrthynt ar yr holl oesau a ddaw. Y mae yr ystyriaeth o hyn yn ennyn mewn llawer mynwes, heblaw yr eiddo fi, yr awyddfryd gwresocaf am weled ei Gofiant.

Yr wyf yn cofio yn dda am rai o'i ymweliadau â thŷ fy nhad pan oeddwn rhwng wyth a phymtheg oed, ac am rai o'i weddiau dros "blant y teulu," a'i gynghorion rhybuddiol rhag iddynt droi yn anffyddlawn trwy ymgyndynu ac ymwylltio, nes digio Duw eu hynafiaid, a chael eu gadael i ymgaledu ac ymddyrysu nes syrthio i golledigaeth.

Yr wyf yn cofio hefyd am amryw o'i ymweliadau â'r Athrofa tra y bûm yno; a gwn fod fy nghyd-fyfyrwyr yn barod iawn i ardystio, na byddai byth yn ymadael heb grybwyll wrthym ryw ranau o'i brofiad ei hun, neu o hanes ereill, er dyfnhau yn ein calonau yr ystyriaeth o fawr werth haf-dymhor byr a hyfryd rhagorfreintiau yr Athrofa; ac er ein hannog i ymgyrhaedd yn ddiwyd am wybodaeth, ac i ymorchestu beunydd am santeiddrwydd, fel rhag-gymhwysderau anhebgorol i fod yn ddefnyddiol a chysurus gyda gwaith y weinidogaeth.

Nid anghofir byth gan rai o'i gyfeillion am ei ysbryd caredig, a'i hoff gymdeithas adeiladol, pan gartref yn ei dŷ ei hun. Nid wyf yn meddwl fy mod gymmaint â phum mynud erioed yn ei gyfeillach, heb ei fod yn cychwyn rhyw ymddyddanion buddiol, a barent les, nid yn unig i'r deall, ond i'r teimlad hefyd. Ennynid y gyfeillach ganddo y rhan fynychaf drwy un o'r llwybrau canlynol: Naill ai drwy ymholiad am y llyfrau duwinyddol ag y byddai yn ddiweddar wedi eu darllen neu wedi clywed am danynt; neu ynte, drwy ymchwiliad i ystyr rhyw gyfran o'r gair, ac i'r dull mwyaf effeithiol i esbonio a chymhwyso y gyfran hòno at y teimlad a'r fuchedd; neu ynte, drwy grybwyll y gwelliadau rhyfeddol oedd yn cymmeryd lle yn holl gylch y celfyddydau, yn eu harweddiad ar gysur y teulu dynol; neu ynte, drwy gyfeirio at amcanion a rhesymiadau seneddwyr yn eu cyssylltiad â rhyddid cydwybod, ac â lledaeniad egwyddorion yr efengyl; neu ynte, drwy gydnabod yr achosion oedd genym i alaru eisieu fod mwy o ymdrech yn yr eglwysi i feithrin gwybodaeth, i symud beichiau eu haddoldai, ac i fagu brawdgarwch a hunan-ymwadiad, fel y gallent fod o helaethach effeithiolaeth dros achos y Gwaredwr.

Cefais unwaith yr hyfrydwch a'r budd o gyd-ymdaith ag ef drwy ranau o Ogledd Cymru gyda'r amcan o geisio ennill sylw ein cymmydogion at anghyfiawnderau y gaeth-fasnach; ac yr wyf yn cofio i mi sylwi yn neillduol ar ddau beth perthynol i'w ymddygiad yn yr amgylchiad hwnw ei ymdrech diflin, drwy ddarllen, ac ymholi, a myfyrio, i gael pob hysbysrwydd ac adnabyddiaeth cyrhaeddadwy o natur y fasnach, ac o'i heffeithiau andwyol ar deimladau ei phleidwyr, yn gystal ag ar gyflyrau y caethion; ynghyd â'i ofal manylaidd i adrodd y ffeithiau oedd ganddo i ddangos ei hechryslondeb mewn modd cysson â thegwch y gwirionedd. Ar ol craffu ar ei egni a'i ofal gyda'r ddau beth yma, nid oeddwn yn rhyfeddu cymmaint at yr effeithiau rhyfeddol, ag yr oedd bywiogrwydd ei ddull, a nerth ei ddawn, yn gael ar feddyliau ei wrandawyr.

Byddaf yn mynych ad- feddwl am yr olwg a ganfyddid yn gyffredin ar dorf fawr y gymmanfa yn ngwyneb apeliadau ei weinidogaeth—eu hastudrwydd llwyraf wedi ei ennill, a'u holl deimladau yn ufydd gydymdoddi i gymmeryd eu ffurfio yn hollol wrth ei deimlad ef.

Nid rhyfedd genyf fod yr awydd mor gryf yn mysg adnabyddwyr Mr. WILLIAMS am gael gweled ei hanes. Yr oedd yn un o'r dynion anwylaf a fagodd ein gwlad erioed; a chan iddo noswylio mor gynnar, heb adael ond ychydig iawn o ffrwyth llafur ei feddwl yn nghyrhaedd ei oloeswyr, yr wyf yn awyddus obeithio yr ymdrechir yn gydwybodol gan weinidogion ac eglwysi i wneuthur defnydd da o'r unig goffadwriaeth a gawn am Mr. WILLIAMS, o'r Wern,

Llanbrynmair, Gorph. 1, 1841.S. ROBERTS.


At y Parch. W. Rees.

ANWYL FRAWD,—Dywenydd nid bychan yw genyf eich bod wedi ymaflyd yn y gorchwyl difrifol a phwysig o gyfodi cof—golofn â phapur ac inc i'r diweddar anwyl WILLIAMS, o'r Wern. Gresynol fuasai i gymmaint o wir werth a mawredd fyned yn swrth i lwch anghof, fel yr aeth ei gorff i'r bedd. Mae y gorchwyl yr ydych wedi ymaflyd ynddo yn un anhawdd; ond cyfyd yr anhawsdra oddiar wreiddyn gwahanol i'r hwn y mae eiddo bywgraffwyr ereill yn cyfodi oddiarno. Gelwir ar ysgrifenwyr cofiantau weithiau i fod yn ddoeth i ddethol y gwerthfawr oddiwrth y gwael, gán amledd diffygion a cholliadau y gwrthddrychau. Mae eisieu mawr ddeheurwydd yn aml i godi rhinweddau teilwng o efelychiad i fynu, heb adgofio y darllenydd o'r gwendidau a'r beiau y byddai yn well i'w hanghofio, a thynu darlun gweddol deg o'r gwrthddrych, ac ar yr un pryd guddio y brychau ac esgusodi y crychni fyddo yn y nodweddiad. Ond yma nid rhaid i chwi ofni rhoddi rhaff i'ch galluoedd cerfiadol, dywedwch a fynoch am ei ragoriaethau, ei ddoniau, a'i hawddgarwch, ni feia neb a adwaenai WILLIAMS o'r Wern chwi am wneyd darlun gwenieithus o hono. Anaml iawn y cyfarfyddodd y fath bwng o rinweddau Cristionogol, heb ond ychydig neu ddim i dynu oddiwrthynt neu eu difwyno. Cyfyd eich holl anhawsdra chwi, gan hyny, oddiwrth fawr ragoriaeth gwrthddrych y Cofiant. Yr wyf yn hollol ymwybodol nas gallasai y gorchwyl syrthio i well llaw; etto, pe meddech ar alluoedd a medrusrwydd Raphael, byddech yn fyr o gerfio eich darlun i gyfateb rhagoriaethau y cynllun sydd o'ch blaen.

Pan fu WILLIAMS o'r Wern farw, gallesid dywedyd, yn ddibetrus, i "wr mawr a thywysog syrthio yn Israel." Nid aml y bu neb ar y ddaear yn dwyn mwy o ddelw yr Arglwydd Iesu. Clywais lawer o son am y dyn enwog hwn pan yn blentyn, yr hyn a greai awydd anghyffredin ynof ei weled a'i glywed; a phan gefais hyny o fraint, gallaswn ddefnyddio geiriau brenines Sheba, "Ni fynegwyd dim o'r hanner." Pan aethum i'r Athrofa, yr oeddwn yn cael y cyfleusdra o'i weled a'i glywed yn aml yn yr areithfa, yr ystafell, a'r wers-ystafell, a chydag hyfrydwch y cofiaf am ei ymweliadau â'r Drefnewydd y prydiau hyny. Gadawai arogledd daionus ar ei ol bob amser. Creai ynom, fel myfyrwyr yn gyffredinol, ofn pechu—awydd i ymgyssegru yn drwyadl i'r gwaith—penderfyniad i fod yn rhywbeth—a chryn hyder y gallasem ragori wrth ymroddi. Yr oedd ei feddwl mawr a'i galon eang a gwresog yn ennyn ynom dân nes yr oeddym yn llefaru wrth ein gilydd ac wrth ereill. Aml y dywedai wrthym, "Edrychwch ati, fechgyn, a chofiwch mai "College is the crucible of character." Yr ydych yn ffurfio eich caritor am byth yn yrAthrofa." Anaml iawn y gwelwyd neb yn gwella wedi treulio eu blynyddoedd yn yr Athrofa yn annefosiynol, yn ddiog, a diofal am achos Duw. Cyfeiriai ni at amrywiol enghreifftiau cyffrous o wirionedd ei nodiadau. Ni bum erioed yn ei gyfeillach heb deimlo yn well yn fy mhen a'm calon; ni chlywais o hono erioed yn pregethu heb dderbyn cynhyrfiadau newyddion i astudio yn ddwysach, i fyfyrio yn fanylach, ac i weddio yn ddyfalach. Fel dyn, ystyriwn ef y mwyaf hawdd ei garu, ac fel Cristion y mwyaf dirodres a difaldod; medrai drosglwyddo ei deimlad brwdfrydig i galon arall, heb ddywedyd, "Saf ar dy ben dy hun, santeiddiach ydwyf nâ thydi." Fel pregethwr, ynte, yr oedd y mwyaf teilwng o bawb i'w efelychu fel cynllun. Meddyliai yn syml a chlir, a thraddodai ei feddyliau yn eglur a rhwydd; gwiriai yr hen arwydd-air hwnw, "Words will follow things." Ni ofynai beth foddlonai, ond beth lesäai ei wrandawyr. Cyrhaeddodd boblogrwydd ar dir gwirionedd noeth. Ei amcan oedd bob amser gwaedu rhywrai, ac anaml y methai gyrhaedd yr amcan hwn; teimlai ei wrandawyr yn gyffredinol, fel Louis XIV. o Ffrainc, wrth wrando Massilon, "yn ddig wrthynt eu hunain." Teimlai y pechadur yn euog, ac hynod anfoddlon iddo ei hun, o herwydd ei fod yn anedifeiriol—y Cristion a gywilyddiai ac a wridiai,am na buasai yn fwy o Gristion; a digiai pob pregethwr wrtho ei hun eisieu na buasai yn well pregethwr. Hwyrach na bu neb erioed yn fwy llwyddiannus i roddi cyffroad cyffredinol i feddyliau. Ei ddrychfeddyliau mawrion, noethion, a diaddurn, a darawent feddyliau ei frodyr yn y weinidogaeth, nes oeddynt yn tânio a gwreichioni, a byddai y gwreichion yn ymledu, a pharhant felly yn Nghymru, nes byddo pob noddfa celwydd wedi ei llwyr losgi. `

Un o'r pethau ardderchocaf mewn hen weinidogion, ydyw ystwythder i blygu gyda yr oes. Bu llawer o weinidogion enwog mewn gwybodaeth, dawn, a defnyddioldeb, pan yn ieuainc; ond ar lechwedd bywyd, ffroment ar bawb fuasai yn cynnyg un gwelliant ar eu dull hwy; safent ar y terfyn, a cheintachent â phawb elai heibio iddynt, gan ddynodi pob peth newydd yn effeithiau balchder; ond WILLIAMS a flodeuodd mewn ieuenctyd hyd ei fedd. Dywedai y tro diweddaf y gwelais ef, fod arno fwy o ofn ystyfnigrwydd, ceiutachrwydd, a diogi henaint, na dim arall. Ar ddechreuad y diwygiad Dirwestol, pan oedd brodyr ieuangach nag. ef yn gofyn, Beth yw y ddysg newydd hon? ac ereill, llai galluog i ymresymu nag ef, yn coethi yn ddibendraw am gyfreithlondeb ac ysgrythyroldeb y gyfundraeth, ymaflodd ef ynddi pan welodd ei bod yn gwared y rhai a lusgid i angeu, ac yn tueddu i achub eneidiau. Cymmerodd ef ei ran o'r gwawd a'r dirmyg cyssylltiedig â sylfaeniad y diwygiad hwn yn Nghymru, a diau ei fod yn edrych o'r nef ar ei ddygiad yn mlaen gyda difyrwch a llawenydd. Nid oedd un serch rhyngddo â hen dybiau a chredoau, ond mor bell ag y barnai hwynt yn ol y Bibl; newidiai hwynt mor rhwydd â newid ei gôt, os byddai gwirionedd yn galw. Ei ysbryd oedd mor gyhoeddus ag ysbryd Gabriel: gofalai am yr oes a ddeuai, yn gystal ag am hon; a thra y gofalai yn dadol am yr eglwysi dan ei ofal, estynai aden ei ddylanwad dros Gymru; a gallesid dywedyd am dano, fel John Wesley am dano ei hun, "Y byd oedd ei blwyf." Y tro diweddaf yr ymwelodd â'r Deau, treuliodd fythefnos dan fy nghronglwyd; a llwyr ddeallais beth feddyliai yr apostol, pan ddywedai, "Nac anghofiwch letygarwch, 'canys wrth hyny y lletyodd rai angylion." Pryd hyn yr oedd angeu wedi gosod ei law arno, a'i nodi allan i'w saethau; yr oedd fel ysgafn o ŷd, yn aeddfedu i'r cynhauaf. Gwasgarai ber-aroglau paradwys o'i gwmpas; ac er nad oedd yn alluog i bregethu, gadawodd argraffiadau ar ei ol a barodd bregethu gwell; a'r effeithiau rhyfeddol a ddilynasant hyny a barant fod ei ymdaith ef yn ein plith ar gof yn y farn a ddaw. Gan hyderu y bydd i'r Hwn sydd yn dal y saith seren yn ei ddeheulaw i godi ereill i addurno ffurfafen ei eglwys; a chan obeithio y bydd i'ch Cofiant o hono fod fel mantell Elias i gadw dau parth o'i ysbryd ar ol, a pheri i Mr. WILLIAMS o'r Wern, er. wedi marw, etto i lefaru, y gorphwysaf,

Llanelli.DAVID REES.

Nodiadau

golygu