Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern (testun cyfansawdd)

Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern (testun cyfansawdd)

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William Rees (Gwilym Hiraethog)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William Williams o'r Wern
ar Wicipedia



William Williams o'r Wern

COFIANT

Y DIWEDDAR

BARCH.W.WILLIAMS,

O'R

WERN;

YN CYNNWYS

BYR-GRYNHODEB

O

HANES EI FYWYD, EI NODWEDD, EI LAFUR A'I LWYDDIANT
GWEINIDOGAETHOL, EI FARWOLAETH;

RHAI O'I

BREGETHAU A'I DDYWEDIADAU; BARDDONIAETH, &c.


GAN W. REES, DINBYCH.


"Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw; ffydd
rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."—PAUL.

"Udwch, ffynidwydd, canys torwyd y cedrwydd."


LLANELLI:
ARGRAFFWYD GAN REES A THOMAS, SWYDDFA'R DIWYGIWR.
1842

Y RHAGYMADRODD.

ANWYL GYFEILLION,—Wrth gyflwyno y Cofiant hwn i'ch dwylaw, dymunwn arddatgan, yn

1. Fy niolchgarwch diffuant i Dduw gras a rhagluniaeth am drefnu fy "amser gosodedig, a therfynau fy mhreswylfod," o fewn cylch manteisiol i ddyfod i gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch â'r gwrthddrych teilwng y dygir ei hanes ger bron yn y tudalenau canlynol. Diau genyf fod llawer o'm brodyr yn y weinidogaeth a gydgyfranogant â mi yn y teimlad hwn. Gallaf, a dylwn gydnabod, na buaswn y peth ydwyf heddyw, oni buasai yr addysg a'r hyfforddiant a dderbyniais ganddo drwy ei bregethau a'i gyfeillach, “er nad wyf fi ddim;" a dylwn alaru hefyd na buaswn wedi sylwi, dal, a dysgu mwy tra yr oedd yn bresennol gyda ni.

2. Yr wyf yn dra diolchgar i'm brodyr yn y weinidogaeth am fy anrhydeddu â'r ymddiried pwysig o gasglu a chyhoeddi Cofiant am yr addurn penaf i'n henwad crefyddol a ymddangosodd yn y Dywysogaeth yn yr oes bresennol. Oeddwn, ac ydwyf, yn ystyried hyn yn fwy o anrhydedd nag oedd genyf hawl i'w ddysgwyl ar amryw ystyriaethau. Ymaflais yn y gorchwyl, ac aethum trwyddo, dan deimladau ofnus, rhag na byddai mewn un modd yn deilwng o'r "tywysog a'r gwr mawr yn Israel" yr amcenid iddo fod megys yn gynnrychiolydd o hono, wedi iddo ef ei hunan syrthio i fro dystawrwydd a marwoldeb. Pa beth bynag fydd barn y darllenyddion yn gyffredin am dano, amser a brawf, hyn a allaf sicrhau, ei fod cystal ag y gallaswn ei wneyd, er nad cystal ag y dymunaswn iddo fod. Ni arbedais na llafur na thraul i'w grynhoi mor gyflawn ac mor deilwng ag oedd yn bosibl i mi. Fy esgusawd dros ei holl ddiffygion a'i anmherffeithderau ydyw hyn,—gwnaethum fy ngoreu; a chymmerais y gwaith arnaf mewn ufydd-dod i gais y rhan fwyaf o'm brodyr yn y weinidogaeth ag oeddynt yn bresennol yn angladd Mr. WILLIAMS, ac i'r brodyr hyny yn neillduol yr wyf yn cyflwyno fy nghydnabyddiaeth ddiolchus hon.

3. Yr wyf yn dymuno cyflwyno fy niolchgarwch hefyd i'r brodyr hyny a estynasant law garedig o gynnorthwy i'r gwaith, drwy anfon y llythyrau a ganfyddir yn argraffedig yn y Cofiant â'u henwau wrthynt. Y mae y rhai hyn yn cau i fynu lawer o adwyon a fuasent yn y gwaith, pe na buasai iddynt hwy fod mor gymmwynasgar. Teimla yr ysgrifenydd yn dra rhwymedig i'r beirdd hwythau am eu hanrhegion awenyddawl.

Yn ddiweddaf oll, yn gystal ag yn gyntaf a phenaf oll, yr wyf yn diolchgar gydnabod Awdwr a Ffynnonell pob daioni am estyniad oes ac iechyd i fyned drwy hyn o waith; a chyda y crybwyllion hyn, yr wyf yn awr, anwyl gyfeillion, yn ei ollwng fel y mae i'r argraffwasg, ac yn ei gyflwyno i'ch dwylaw a'ch sylw, dan obeithio, os na fydd iddo roddi cyflawn foddlonrwydd i bawb o'i ddarllenyddion, y bydd iddo roddi adeiladaeth a lles i lawer, a bod yn foddion i gadw coffadwriaeth ei wrthddrych teilwng heb ei ebargofio yn y Dywysogaeth, peri i'r eglwysi feddwl am y blaenor hwn "a draethodd iddynt air Duw, gan ystyried diwedd ei ymarweddiad, a dilyn ei ffydd a'i athrawiaeth."

Dinbych, Rhag. 29, 1841.
W. REES.

COFIANT
Y DIWEDDAR BARCH. W. WILLIAMS, O'R WERN, &c.




PENNOD I.

Y MAE gan bob gwlad a chenedl ei gwroniaid a'i henwogion, rai a fuont hynod yn eu dydd, cyhoeddus a defnyddiol mewn rhyw gylch o alwedigaeth. Y mae yr un dueddfryd yn mhob cenedl i anrhydeddu y cyfryw bersonau drwy ymffrostio yn eu perthynas â hwynt, a chadw eu henwau yn fyw wedi iddynt feirw, drwy gyhoeddi eu nhodweddau, a throsglwyddo yr hanes am eu rhinweddau a'u gorchestion i'r oesau dilynol. Y mae y fath wasanaeth yn ddiau yn gyfiawnder â'r personau hyny eu hunain, yn fantais a budd i rai a godant i fynu ar eu holau i bobli y byd, a dwyn yn mlaen eu hamrywiol orchwylion.

Diau nad oes dim yn fwy effeithiol i genhedlu a meithrin mawrfrydigrwydd meddwl, ac awyddfryd ymestyngar at ragoriaeth a defnyddioldeb, nâ darllen hanesion dynion a fuant ragorol ac enwog mewn gwlad neu eglwys. Dihunwyd galluoedd llawer enaid mawrwych i fywyd a gweithgarwch, a esgorodd ar y canlyniadau pwysicaf, gan y dylanwad a argraffai darllen hanes esiamplau o'r fath yma arnynt; y rhai, oni bai hyny, a fuasent, ond odid, yn gorphwys byth yn llonydd mewn cyflwr anweithgar. Y mae y meddyliau a fuont weithgar a diwyd i gloddio i mewn i drysorgellau gwybodaeth, ac a ddygasant allan bethau newydd a hen, yn yr oesau a aethant heibio, yn effeithio dylanwad cyffroawl ar feddyliau o'r cyffelyb ansawdd a thueddfryd yn yr oes bresennol; a bydd enwogion yr oes hon etto yn cydweithio yr un dylanwad ar yr oesau nesaf, nes y byddo gwybodaeth yn amlhau gyda chyflymdra cynnyddol y naill oes ar ol y llall.

Bu ei gwroniaid a'i henwogion gan eglwys Dduw hithau yn mhob oes. "Am Sïon y dywedir, y gwr a'r gwr a anwyd ynddi:" y gwr enwog hwn, a'r gwr enwog arall. Gall ymffrostio yn ei phatriarchiaid a'i phroffwydi—ei Christ—ei hapostolion a'i merthyron: "y rhai, drwy ffydd, a oresgynasant deyrnasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gauasant safnau llewod, a ddiffoddasant angerdd y tân, a ddiangasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio." Gall ddangos rhestr hirfaith o enwau meibion a fagodd, "y rhai nad oedd y byd yn deilwng o honynt." Bu yr Ysbryd Glân yn ofalus am drosglwyddo eu coffadwriaethau, rhoddi i lawr eu gair da, fel ag y maent hwy wedi marw "yn llefaru etto." Eu ffydd a'u hamynedd, eu cariad a'u dyoddefgarwch, a'u rhinweddau ereill, ydynt fyth ar gael yn yr hanes am danynt, ac yn effeithio dylanwad daionus ar nodweddiad yr eglwys yn barhaus. Wedi terfyngload y datguddiad Dwyfol, ysgrifenwyd llaweroedd o gyfrolau helaeth, o bryd i bryd, o hanesiaeth am arwyr Cristionogol, a fuant hynod a defnyddiol yn eu hoesau fel tystion ffyddlawn dros eu Duw, ac ymdrechwyr glewion "yn mhlaid y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint." Dilys yw, ar yr un pryd, bod llawer o "werthfawr feibion Sïon" wedi eu hanghofio, y rhai y darfu i ddifrawder ac esgeulusdod adael i'w henwau, eu gwaith, a'u llafurus gariad syrthio gyda'u cyrffi dir anghof. Hwyrach na bu un genedl yn fwy esgeulus yn hyn o ran nâ'r Cymry, er, ond odid, na anrhydeddwyd un genedl yn fwy â dynion nerthol a chedyrn mewn doniau a thalentau gweinidogaethol. Amcan y llyfryn hwn ydyw cadw yn fyw enw a choffadwriaeth un o'r cyfryw enwogion, tra y mae efe ei hun wedi marw, i gynhyrfu adgof a chydymddyddan am WILLIAMS O'R WERN, ei ragoriaethau Cristionogol, ei dalentau mawrion, ei bregethau nerthol ac efengylaidd, a'i fuchedd a'i fywyd llafurus a duwiol, pan nad ydyw efe ei hunan yn y golwg mwyach; er cyffroi y cyfryw o'i ddarllenwyr ag a glywsant y blaenor hwn yn "traethu gair Duw," i adfeddwl am y gwirioneddau a draddodwyd iddynt ganddo; ac er rhoddi desgrifiad, er yn dra anmherffaith, i'r oes sydd yn codi yn awr, a'r oesau a godant etto, o un a fu mor ragorol a defnyddiol cyn eu bod hwy erioed mewn bodoliaeth.

Pan graffom ar hanesyddiaeth eglwys Dduw dan bob goruchwyliaeth, yr ydym yn cael mai arferiad gyffredin yr Arglwydd, yn mhob oes a gwlad, ydoedd codi dynion o sefyllfaoedd a dospeirth isaf cymdeithas i'r swyddau a'r graddau uchaf mewn defnyddioldeb yn ei dŷ a'i deyrnas—gwneuthur tlodion y ddaear yn bendefigion ei bobl; rhai bychain y byd yn fawrion yn Sïon. O'r cawell brwyn cuddiedig yn hesg yr afon y cofododd Moses ei was, i fod yn waredydd ac arweinydd i'w bobl. "O gorlanau y defaid, ac oddiar ol y defaid cyfebron," y cymmerth Dafydd, ac y "daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth." "O fysg bugeiliaid Tecoa" y galwodd Amos i fod yn broffwyd. O bysgotwyr tlodion môr Galilea y gwnaeth Crist ei apostolion: o'r sefyllfa a'r alwedigaeth waelaf hon y dyrchafodd efe y dynion hyny i'r swydd a'r sefyllfa uchaf o anrhydedd ac ymddiried y gosodwyd dynion erioed ynddi. Yn gyffelyb y mae wedi gwneuthur o ddyddiau yr apostolion hyd heddyw. Yn nghyffiniau Trawsfynydd, yn nghanol mynydd-dir Cymru, y cododd ac yr addurnodd efe WILLIAMS â doniau a thalentau a'i gwnaeth yn un o'r ser dysgleiriaf a lawyrchodd yn ffurfafen eglwysig y Dywysogaeth yn ei oes.

Anfantais fawr er cael Cofiant teilwng am ein gwrthddrych hyglod ydyw, ei fod heb adael dim defnyddiau tuag ato o'r eiddo ei hun, gan nad oedd erioed wedi arfer cofnod-lyfr, yr hyn sydd yn ddiau yn fawr golled. Nid oedd ynddo nemawr iawn o duedd at ysgrifenu, ac yn enwedig am dano ei hun. Arferai nodi rhai gwyr o enwogrwydd a theilyngdod mawr yn yr areithfa, yn Nghymru a Lloegr hefyd, ac y buasai yn garedigrwydd â hwy pe cadwesid y pin a'r papur, wasg allan o'u cyrhaedd, ac na bydd gan y rhai a ddarllenant eu gwaith, ag na chawsant erioed y fantais o'u clywed, ond tybiau isel iawn am eu galluoedd a'u talentau: a meddyliai y buasai efe ei hun mor waeled â'r gwaelaf o honynt, pe cynnygiasai ymddangos i'r byd yn ysgrifenydd.

GANWYD MR. WILLIAMS

Mewn lle o'r enw Cwmhyswn (Cwm-y-swn, ond odid) ganol, yn mhlwyf Llanfachreth, swydd Feirion. Enwau ei riaint oeddynt William a Jane Probert, neu ab Robert; yr oeddynt yn dal tyddyn o dir, a gair da iddynt yn y gymmydogaeth am hynawsedd a gonestrwydd. Yr oedd ei fam yn aelod dichlynaidd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Nid yw'n hysbys ddarfod i'w dad erioed ymuno mewn proffes gydag un blaid grefyddol, er ei fod yn wrandawr cysson o'r efengyl: arferai gadw dyledswydd deuluaidd yn rheolaidd. Bu iddynt saith o blant, o'r rhai y mae pedwar etto yn fyw, a thri wedi meirw. WILLIAM, gwrthddrych y Cofiant hwn, ydoedd y chweched plentyn. Y brawd a'r chwaer a fuant feirw o'i flaen oeddynt aelodau eglwysig, un gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a'r llall gyda'r Annibynwyr, y ddau, yn ol pob arwyddion, yn meddu grym duwioldeb.

Yr oedd WILLIAM, er yn blentyn, yn hynod ar y plant ereill, o ran ei dymher lawen, fywiog a chwareüus, fel yr arferai ei dad ddywedyd yn aml am dano, na wyddai yn y byd pa beth i'w feddwl o hono, a'i fod yn ofni y byddai yn od ar holl blant y gymmydogaeth; ac yn wir, felly y bu, ni fagwyd o'r blaen ei gyffelyb yn yr holl ardaloedd hyny, nac ar ei of ychwaith, hyd yma.

Dygwyddodd iddo, pan oedd oddeutu tair-arddeg oed, fyned i wrando Mr. Rees Davies, yn awr o Saron, swydd Gaerfyrddin, yn pregethu, mewn lle a elwir Bedd-y-Coedwr, pryd yr ymaflodd y gwirionedd gyda nerth ac awdurdod mawr yn ei feddwl. Cyn ei fod yn bedair-ar-ddeg, ymunodd â'r eglwys Annibynol yn Pen-y-stryd, Trawsfynydd, y pryd hyny dan ofal gweinidogaethol y diweddar Barch. W. Jones. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod eglwysig cyn ei fod yn bymtheg, yr hyn oedd beth tra anghyffredin yn y dyddiau hyny. Yr oedd yn nodedig o ffyddlawn, diwyd, ac ymdrechgar gyda moddion gras: anfynych iawn y byddai na phregeth na chyfarfod gweddi, na chymdeithas grefyddol mewn un man yn y gymmydogaeth heb ei fod ef yno. Yr oedd arno gryn ofn cael ei gymhell i fyned i weddi yn gyhoeddus yn y teulu neu mewn cyfarfod, o herwydd, fel y dywedai lawer gwaith wedi hyny, y buasai y plant ereill, y teulu, a'r gymmydogaeth yn dysgwyl iddo fyw fel sant perffaith byth wedi hyny. Pa fodd bynag, un noson, pan oedd wedi aros ar ei draed gyda'i fam, wedi i ereill o'r teulu fyned i'w gwelyau, aeth hi i weddi gydag ef, ac wedi terfynu, dywedodd wrtho, "Dos dithau dipyn i weddi, Will bach;" yntau a aeth: yr oedd ei frawd hŷn nag ef yn dygwydd bod yn effro, ac yn clywed, ac edliwiai iddo drannoeth, gan ei alw "Yr hen weddiwr." "Yr oedd arnaf beth cywilydd," meddai, "ond bu arnaf lai o ofn a chywilydd byth wedi hyny."

Bu mewn trallod a gwasgfa nid bychan o ran ei feddwl yn nechreu ei grefydd. Arferai ddywedyd, na wyddai yn y byd beth a wnaethai iddo ei hun, oni buasai Aberth y groes. Cafodd waredigaeth hynod tua'r amser hwn. Pan yn torri coed yn Penybryn, Llanfachreth, syrthiodd pren arno, a drylliodd ei het yn chwilfriw, ond ni phrofodd ef unrhyw niwed. Gwnaeth y tro argraff ddwys ar ei feddwl, a chrybwyllai yn aml am dano gyda diolchgarwch. Pethau crefydd oeddynt destunau gwastadol ei ymddyddanion gyda'i gyfeillion; a chofia y rhai o honynt sydd etto yn fyw am ei ymholion a'i sylwadau gyda hiraeth a llawenydd.

Sylwodd yr eglwys arno yn lled fuan, a deallodd fod ei gynnydd prysur mewn gwybodaeth, doniau, a rhinweddau Cristionogol, yn rhag-arwyddo iddi, bod WILLIAM bach i ddyfod yn WILLIAMS mawr; ei fod yn llestr etholedig dan rag-barotoad i waith mawr y weinidogaeth; ei fod yn dechreu magu esgyll ag oeddynt ryw ddiwrnod i'w godi oddiwrth y ddaear a'i galwedigaethau, i "ehedeg yn nghanol y nef," gyda'r "efengyl dragywyddol;" ac felly, cyn ei fod yn bedair-ar-bymtheg oed, annogodd ef i ddechreu pregethu.

Pan soniwyd gyntaf wrtho am bregethu, yr oedd am beth amser megys wedi ei orthrechu gan gymmysg deimladau o ofn a llawenydd. Daeth amheuon am ei gyflwr, a'i alwad i'r swydd oruchel o bregethu yr efengyl, i bwyso yn drwm iawn ar ei feddwl; ond wrth ddarllen ei Fibl, a "Hall's Help to Zion's Travellers," a thaer weddio am oleuni ac arweiniad Dwyfol, daeth i'r penderfyniad, fel y dywedai, i wneuthur ei oreu dros ei Dduw, ac na chai byth ei feio am hyny, beth bynag; ond os byddai iddo guddio ei dalent yn y ddaear, y byddai yn sicr o gael ei alw i gyfrif a'i gospi. Felly, wedi peth petrusder, ymaflodd yn y gwaith, a phregethai yn Pen-y-stryd, ac mewn tai yn y gymmydogaeth, gyda mawr dderbyniad a chymmeradwyaeth. Nid oedd wedi cael nemawr ddim ysgol, ond dysgasai ddarllen Cymraeg er yn lled ieuanc. Nid oedd ond ychydig o lyfrau Cymreig, ag oeddynt o werth eu darllen, i'w cael y pryd hwnw. Y llyfrau a hoffai fwyaf, heblaw y Bibl, oeddynt Eliseus Cole ar "Ben-Arglwyddiaeth Duw," a "Hall's Help to Zion's Travellers," a grybwyllwyd o'r blaen, y rhai oeddynt wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yr oedd yn neillduol hoff o'r olaf. Yr oedd ei chwaer Catherine yn cyd-ddechreu proffesu ag ef, ac yr oeddynt yn hynod o hoff o'u gilydd. Byddai ef yn arferol o fyned, â'i lyfrgell fechan gydag ef, o'r neilldu i le dirgel, oddiar ffordd ei dad; a phan y deuai holi am dano i gyflawni rhyw swydd neu neges, megys porthi neu ddyfrhau yr anifeiliaid, rhedai ei chwaer yn uniongyrchol i'w gwneyd, er mwyn iddo ef gael llonydd a heddwch gyda'i lyfrau. Yn y sefyllfa isel hon, a than yr anfanteision mawrion hyn, y dechreuodd enaid dy'sgleirwych ein harwr ymweithio allan i olwg y byd.

Wedi bod o hono yn pregethu oddeutu cartref a manau ereill yn achlysurol, am oddeutu dwy flynedd, aeth i ysgol yn Aberhafest, gerllaw y Drefnewydd, swydd Drefaldwyn; ni bu yno ond oddeutu wyth neu naw mis; wedi hyny, dychwelodd adref, ac aeth i Wrexham, a derbyniwyd ef i'r Athrofa yno, yn y flwyddyn 1803, ag oedd y pryd hyny dan ofal athrawaidd yr hybarch Jenkin Lewis. Yr oedd yr amser hwnw yn tynu at ddwy-ar-hugain oed. Rhaid i mi grybwyll yn y fan hon hanesyn am dano, a adroddwyd i mi gan ei fab hynaf. Yr oedd WILLIAM, pan yn blentyn, yn wrthddrych o neillduol hoffder ei fam, ac yr oedd wedi esgeuluso ei ddyddyfnu hyd nes oedd rhwng tair a phedair blwydd oed. Dywedodd ei dad wrtho un diwrnod, "Will, os gwnei di beidio sugno, mi a roddaf yr oen dû i ti." Cytunodd Will â'r cynnygiad, ac ni cheisiodd sugno o'r dydd hwnw allan. Cynnyddodd yr oen dû fel praidd Jacob, ac ar ei fynediad i'r Athrofa gwerthodd y ddeadell ddefaid, a dyna oedd prif foddion ei gynnaliaeth dros ystod yr amser y bu yno.

Pan y daeth gyntaf i Wrexham, yr oedd mor hollol Gymreigaidd, fel na allai roddi ar ddeall i Mrs. Lewis, gwraig yr athraw, yr hon oedd Saesones, pa beth oedd ei neges, a chan nad oedd Mr. Lewis gartref ar y pryd, bu raid anfon allan i ymofyn am gyfieithydd rhyngddynt.

Nid cymmaint o gynnydd mewn dysgeidiaeth ieithyddol a gyrhaeddodd yn yspaid y pedair blynedd y bu yn yr Athrofa. Gellid priodoli hyny yn un peth, i ddiffyg ysgol yn ei dymhor bachgenaidd. Yr oedd raid iddo ef ddechreu yn y dosbarth isaf megys pan ddaeth i mewn, fel ag yr aeth llawer o'i amser heibio cyn iddo allu cyrhaeddyd y radd o ddysgeidiaeth, ag y byddai ereill yn gyffredin wedi myned drwyddi cyn dyfod i'r Athrofa; a pheth arall, yr oedd ei feddwl wedi gogwyddo at ganghenau ereill o ddysgeidiaeth, cyn iddo erioed gynnyg ei ddwyn at y ganghen hon; neu, mewn gair, yr oedd wedi tyfu yn rhy fawr a chryf yn ei dueddfryd at elfenau ereill gwybodaeth, i'w ddarostwng a'i ystwytho i ymgymmodi ag egwyddorion sychlyd grammadegau. Ei hoff waith ef ydoedd chwilio i mewn i egwyddorion athroniaeth naturiol a moesol, yn enwedig egwyddorion duwinyddiaeth; felly nid oedd Mr. WILLIAMS, y mae yn wir, yn ddyn dysgedig, yn ol yr ystyr a roddir yn gyffredin i'r gair dysgedig, sef, cyfarwydd-deb a hyddysgrwydd mewn ieithoedd; eithr os priodol galw dyn cyfarwydd ag egwyddorion a deddfau natur, y meddwl, a'r ysgrythyr, yn ddyn dysgedig, yna, yn ddiau, yr oedd Mr. WILLIAMS yn un o ysgolheigion penaf ei oes. Pa fodd bynag, dysgodd gymmaint, tra yn yr Athrofa, ag a'i galluogai i bregethu yn Saesonaeg, a digon o Roeg ag a'i gwnelai yn alluog i ddefnyddio rhyw gymmaint ar yr iaith hono. Trwsgl ydoedd ei leferydd yn yr iaith Seisnig, fel y gellid ddysgwyl i un wedi tyfu i'w oedran ef, cyn dysgu gair o honi, i fod. Ni fyddai un amser yn mron mewn diffyg o eiriau i osod ei feddwl allan, ond yn seiniad ac aceniad y geiriau y byddai yn colli. Arferai ddywedyd, nad oedd ei dafod ef wedi ei wneuthur na'i fwriadu gan ei Luniwr erioed i barablu Saesonaeg. Ond er ei fod yn safndrwm a thafod-drwm yn yr iaith hòno, ni wnai hyny yn esgus a dadl, fel y gwnai Moses gynt, rhag pregethu ynddi, pan fyddai galwad arno; ac nid anfynych, ond yn wir yn dra mynych, y ceisid hyny ganddo. Byddai y Saeson, yn mhob man ag yr oedd yn adnabyddus iddynt, yn neillduol o hoff o'i wrando. Cai gynnulleidfaoedd lluosog iawn i'w wrando yn Ngwrexham, Croesoswallt, a lleoedd ereill.

Y mae yn chwedl am dano ddarfod iddo ddywedyd wrth ei athraw, pan ar ymadael â'r Athrofa, ei fod yn coelio nad ymadawsai nemawr un oddiyno yn onestach nag ef; gan olygu nad oedd yn dwyn rhyw ystor o ddysgeidiaeth ieithyddol gydag ef oddiyno. Pan annogid ef gan rai cyfeillion i aros yn yr Athrofa dros ryw gymmaint o amser yn hŵy, "Na, na," eb efe, "os felly, bydd y cynhauaf drosodd tra fyddwyf fi yn hogi fy nghryman."

Yn ystod ei dymhor athrofaol y dechreuodd ei dalentau ysblenydd fel pregethwr ymddadblygu ac ymddysgleirio, yr hyn sydd yn ddigonol brawf nad rhyw lawer a arosai ei feddwl yn mhorfeydd y grammadegau. Rhagorai y rhan fwyaf o'i gyd-fyfyrwyr arno wrth adrodd y gwersi gerbron yr athraw; taflai yntau hwythau oll i'r cysgod yn yr areithfa gerbron y gynnulleidfa.

Ymwelodd unwaith neu ddwy â rhanau o'r Deheudir, yn yspaid gŵyl-ddyddiau yr Athrofa, lle yr ennillai enw a chymmeradwyaeth anghyffredinol fel pregethwr. Wedi ei ddychweliad adref y tro diweddaf oddiyno, derbyniodd alwad unleisiol oddiwrth yr eglwys gynnulleidfaol yn Horeb, swydd Aberteifi, a phenderfynodd gydsynio â hi. Fel ag yr oedd un diwrnod ar ganol ysgrifenu ei atebiad cadarnhaol i'r alwad grybwylledig, daeth un o'i gyd-fyfyrwyr i'w ystafell gyda'r hysbysiad, bod eu hathraw yn myned i Lynlleifiad, i'r cyfarfod blynyddol, a bod caniatâd i'r sawl a ewyllysient o'r myfyrwyr i fyned yno, ond gofalu na byddai iddynt ragor na'r diwrnod hwnw a thrannoeth o amser. Taflodd ei bin a'i bapur o'i law yn y fan, ac ymaith ag ef, cyn gorphen ei lythyr, gyda'i athraw a nifer o'i gyd-fyfyrwyr, i Lynlleifiad. Cyn dyfod yn ol, perswadiwyd ef gan y gwr tra rhagorol hwnw mewn duwioldeb a haelioni, Mr. Jones, cutler, o Gaer, i aros a sefydlu yn Harwd a'r Wern, ac felly y bu. Mor ddirgel, gofalus, a manwl, ydyw ffyrdd Rhagluniaeth Ddwyfol yn trefnu ac yn gwylio camrau a symudiadau gweision Duw! Yr oedd maes llafur gweinidogaethol y gwas ffyddlawn hwn wedi ei rag-bennodi yn meddwl a bwriad ei Feistr mawr cyn erioed iddo ef ymddangos mewn bodoliaeth; a phan, yn ol ei feddwl a'i fwriad personol ei hun, yr oedd wedi penderfynu gadael gogleddbarth y dywysogaeth, i sefydlu yn y deheubarth, gwelwn fel y trefnodd Rhagluniaeth ddygwyddiad prydlawn i droi ffrwd ei fywyd a'i weinidogaeth, i redeg yn y ffrydle a ddarparasai iddi. Dangoswyd fel hyn mai "anrheg y nef i Wynedd," oedd WILLIAMS, fel y dywedai y Parch. D. Rowlands, o Langeitho, am y diweddar Barch. T. Charles, o'r Bala; a diau bod mwy o angen am wr o'i alluoedd a'i ddoniau ar yr achos bychan a gwan, y pryd hyny, yn y Gogledd, nag oedd am ei fath yn y Deheudir, lle yr oedd yr achos gyda'r Annibynwyr yn gryf a blodeuog mewn cymhariaeth. Dysgodd yr Arglwydd ei was ieuanc i gerdded "llwybrau nad adnabu ef o'r blaen."

PENNOD II.

Ei sefydliad yn y Wern—Ei ordeiniad—Dechreuad yr achos yn Rhos-Llanerchrugog—Mr. WILLIAMS yn cymmeryd gofal yr eglwys yno —Cynnydd a llwyddiant yr achos yno—Adeiladu y capel cyntaf yn Rhos—Yr un presennol—Adeiladu capel Llangollen—Priodas Mr. WILLIAMS—Nodwedd Mrs. Williams—Eu symudiad i fyw i Langollen—Taith Mr. WILLIAMS i'r Deheudir—Ei symuniad i fyw i'r Talwrn, gerllaw y Rhos—Ei lafur cyhoeddus, hyd ei symudiad i Lynlleifiad.

GADAWODD Mr. WILLIAMS yr Athrofa yn y flwyddyn 1807, wedi pedair blynedd o arosiad ynddi, a daeth i'r Wern a Harwd ar brawf. Yr oedd yr eglwysi a'r ardaloedd hyn wedi cael digon o brawf o'i ddoniau a'i weinidogaeth tra yn yr Athrofa, oblegid mai y myfyrwyr o Wrexham a gynnaliasent bregethu ynddynt, gan mwyaf, o'r dechreuad. Derbyniodd a chydsyniodd â galwad a chais yr eglwysi, i gymmeryd ei ordeinio yn fugail arnynt, yr hyn a gymmerodd le ar yr 28ain o Hydref, 1808. Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. W. Hughes, Dinas; traddodwyd y ddarlith ar Natur Eglwys Efengylaidd gan Dr. Lewis, y pryd hyny Mr. Lewis, o Lanuwchllyn; anerchwyd y gweinidog ieuanc gan ei gyn-athraw, y Parch. Jenkin Lewis, o Wrexham; a'r eglwys, gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair. Buasai y gweinidogion uchod y diwrnod o'r blaen yn Dinbych, yn ordeinio y Parch. T. Powell, un o gyd-fyfyrwyr Mr. WILLIAMS, yn fugail ar yr eglwys gynnulleidfaol yn y dref hono.

Nid oedd yr eglwysi yn Harwd a'r Wern ond ieuainc a gweiniaid, pan y daeth Mr. WILLIAMS i ymsefydlu yn eu plith. Pump oedd y nifer yn y cymundeb cyntaf a weinyddwyd yn y Wern.

Ymroddodd Mr. WILLIAMS yn egniol at waith y weinidogaeth, ar ol ymaflyd ynddo. Dangosodd yn amlwg na chymmerasai y swydd gyda golwg ar esmwythdra a bwyta bara seguryd, ond yr ymaflai ynddi er mwyn ei gwaith. Treuliai ac ymdreuliai ynddo, gan "fod yn daer mewn amser, ac allan o amser." Yr oedd y pryd hyn yn mlodau ei ddyddiau a blaenffrwyth ei oes, yn meddu ar gyfansoddiad grymus, corff pybyr, tymher fywiog a hoenus, meddwl cyflym a gwrol, a thalentau ysblenydd; ac ymroddodd i'w dwyn oll allan i'r farchnadfa, a'u cyssegru at alwedigaethau y swydd bwysig yr ymaflasai ynddi.

Heblaw llenwi ei gylch gweinidogaethol yn y Wern a Harwd, cydymdrechai â'r myfyrwyr o Wrexham i gynnal pregethu a phlanu eglwysi yn Rhos-Llanerchrugog, Llangollen, a Ruabon, a phregethai yn fynych iawn ar nosweithiau yr wythnos mewn tai annedd, pa le bynag y byddai galwad am dano, neu ddrws agored iddo.

Sefydlwyd eglwys Annibynol Rhos-Llanerchrugog yn Chwefror, 1810, ychydig gyda dwy flynedd wedi ordeiniad Mr. WILLIAMS yn y Wern. Ymgynnullent y pryd hyny mewn tŷ annedd a elwid y Pant, yn gyfagos i'r pentref; symudasant yn Awst canlynol i'r Rhos, i ystafell ardrethol a gymmerasent i'r perwyl. Nifer yr eglwys pan ei sefydlwyd ydoedd saith. Wedi symud i'r ystafell grybwylledig, cytunasant â'u gilydd i ymgynnyg am weinidogaeth sefydlog, oblegid hyd hyny nid oeddynt dan ofal neillduol un gweinidog mwy nâ'i gilydd. Pregethid iddynt yn Sabbothol gan y myfyrwyr o Wrexham, a Mr. WILLIAMS ar gylch. Yn yr amgylchiad hwn rhoddasant eu hachos dan sylw y Parch. J. Lewis, athraw yr Athrofa, ac yntau a'u cynghorodd hwynt i gyflwyno eu hunain i ofal Mr. WILLIAMS, mewn cyssylltiad â'r Wern a Harwd, yr hyn a wnaethant; ac yntau, wedi ymgynghori â'i gyn-athraw hybarchus, a gydsyniodd â'u cais.

Dechreuodd yr achos yma flaguro a llwyddo yn fuan dan ei weinidogaeth, fel ag yr aeth yr ystafell yn rhy fechan o lawer i gynnwys y gwrandawyr, ac yr aethant i ddywedyd, "Rhy gyfyng yw y lle hwn i mi; dod le i mi fel y preswyliwyf!" Wedi bod yn yr ystafell hono yspaid dwy flynedd, ymofynwyd am, a chafwyd lle i adeiladu capel, yr hyn a gyf lawnwyd yn y flwyddyn 1812; ei faint ydoedd 13 llath. wrth 10. Bu Mr. WILLIAMS yn llafurus a llwyddiannus i gasglu at leihau dyled yr addoldy hwn, a chafodd yr hyfrydwch o'i weled yn cael ei lenwi â gwrandawyr, a'r eglwys yn myned ar gynnydd dymunol mewn rhifedi; a chyn diwedd ei oes, cafodd weled hwn drachefn wedi myned yn gymmaint yn rhy gyfyng i'r gynnulleidfa, ag y gwelsai y Pant a'r ystafell gynt; a gwelodd hefyd yr addoldy hardd ac eang presennol wedi ei orphen a'i agoryd, a'i lenwi â gwrandawyr; a'r eglwys hono, nad oedd ond saith mewn rhifedi pan gymmerasai ei gofal gyntaf, wedi lliosogi yn amryw gannoedd mewn nifer. Da y gallasai ddywedyd, megys y Salmydd gynt, "Ac â'th fwynder y'm lliosogaist.'

Yr oedd o ran ei farn a'i athrawiaeth yn Galfiniad lled uchel yn nyddiau boreuaf ei weinidogaeth, dyna oedd tôn y weinidogaeth yn fwyaf cyffredinol yn mhlith yr Annibynwyr yn y dyddiau hyny. Buasai dyfodiad y Wesleyaid i Gymru ychydig flynyddau cyn hyn, yn achlysur yn ddiau i'r Trefnyddion Calfinaidd, yr Annibynwyr, a'r Bedyddwyr, i sefyll yn dynach dros yr athrawiaeth Galfinaidd nag y gwnaethent cyn hyny; neu yn hytrach, i beri iddynt gilio oddiwrth Galfiniaeth gymhedrol i dir uchel Galfiniaeth, er mwyn ymgadw ac ymddangos yn ddigon pell, fel y tybient, oddiwrth yr heresi Arminaidd, fel yr edrychent arni, pan mewn gwirionedd yr oeddynt yn myned yn llawer nes ati o ran egwyddorion, tra yn cilio yn mhellach oddiwrthi mewn ymddangosiad arwynebol a swn geiriau yn unig. Cyn y dyddiau hyny yr oedd y corff Trefnyddol mor wresogfrydig dros yr athrawiaeth o gyffredinolrwydd yr Iawn, a galwedigaeth yr efengyl, ag y daethant wedi hyny yn erbyn y golygiadau hyny. Y Parch. J. Roberts o Lanbrynmair oedd un o'r rhai cyntaf yn Ngogledd Cymru a gyfododd i fynu dros yr hen athrawiaethau a fuasent yn foddion i ddeffroi, a chynnyrchu y diwygiadau nerthol yn nyddiau Lewis Rees, Howell Harris, Daniel Rowlands, William Williams, Pantycelyn, ac ereill, a gwrthddrych y cofiant hwn, oedd un o'r rhai cyntaf a ddaeth allan i'w gynnorthwyo. Y mae yn debygol fod hyn o wahaniaeth rhwng y ddau dô yma o weinidogion a'u gilydd; nid oedd gan hen dadau y tô blaenaf, unrhyw system bennodol o athrawiaeth, wedi ei chasglu a'i chrynhoi, a'i gosod yn drefnus wrth ei gilydd, ond ymollyngent yn ffrwd ymadroddion y Bibl, heb ofalu cymmaint am fanwl ddangos cyssondeb y naill gangen o athrawiaeth a'r llall, ac yn wir, fe ymddengys eu bod yn hollol yn eu lle, nid oedd amgylchiadau eu hoes a'u hamser yn galw am nemawr o hyny; yr oeddynt yn gwynebu ar y wlad pan oedd yn gorwedd mewn tywyllwch, anwybodaeth, a difrawder, a gwaith eu tymmor hwy, oedd seinio yr alarwm uwch ei phen, er ei deffroi o'i marwol gwsg trwm; ac at y gwaith hwn yr oedd eu Meistr mawr wedi eu haddurno â galluoedd corfforol a meddyliol i raddau helaeth iawn. Yr ail dô, yr ochr arall, a ddechreuasant osod trefniad o'r golygiadau wrth eu gilydd, gan ymdrechu dangos cyd-ffurfiant a chyssondeb y naill athrawiaeth â'r llall, ac yr oedd amgylchiadau eu hoes a'u hamser hwythau a mwy o alw am hyn, nag oedd o'r blaen; yr oedd y wlad erbyn hyn wedi ei goleuo i raddau, ac egwyddorion yr efengyl yn cael eu gosod gerbron mewn dullweddau gwahanol, nes oedd mwy o ysbryd ymofyniad wedi ei gyffroi ynddi, ac ymholi pa fodd y cyssonid y peth hwn a'r peth arall â'u gilydd. Gwnaeth Roberts, gyda'i ysgrifell yn benaf, a WILLIAMS, yn yr areithfa, lawer iawn o wasanaeth yn y ffordd hon.

Gyda golwg ar y cyfnewidiad dan sylw yn ei olygiadau ar rai athrawiaethau, ysgrifenai y Parch. T. Jones, gynt o Langollen, fel y canlyn: "Yn nechreuad ei weinidogaeth yr oedd Mr. WILLIAMS, o ran ei olygiadau duwinyddol, yn uchel Galfiniad, yr hyn oedd cred gyffredinol yr eglwysi y pryd hwnw. Cymmerai Mr. WILLIAMS, fel ereill, yn ganiataol mai hon oedd y wir athrawiaeth, hyd oni ddaeth i feddwl a chwilio yn fanylach drosto ei hun. Yr hyn a'i harweiniodd yn gyntaf i ddrwg-dybio cyfundraeth ei ieuenctyd, oedd anhawsdra a deimlai i'w chyssoni ag amrywyriol ranau o'r datguddiad Dwyfol. Yr hyn a fu y moddion cyntaf oll i'w ddwyn i dir goleuach a gwell mewn duwinyddiaeth, ydoedd darllen traethawd o waith Dr. Bellamy, a elwir "True Religion delineated." Cynnorthwyodd hwn ef i ddryllio yr hen lyffetheiriau a ddaliasent, hyd yn hyn, ei feddwl mawreddog mewn caethiwed. Bu cyfnewidiad ei farn. yn achos o gryn helbul iddo. Cafodd gryn wrthwynebiad oddiwrth ei frodyr ei hun, a'i gyhoeddi a'i ddynodi fel cyfeiliornwr a heretic gan enwadau ereill, yr hyn, yn ddiau, a darddai, yn benaf, oddiar eiddigedd at ei boblogrwydd a sel sectaidd, yn fwy nag oddiar gariad at yr hyn a farnent hwy yn wirionedd. Fel hyn y bu yn offeryn yn llaw Rhagluniaeth i ddwyn egwyddorion i'r golwg, a ystyrir yn Nghymru heddyw gan laweroedd, yn ddiau, yn werth dyoddef a marw drostynt, pe byddai galw am hyny; a chafodd yr hyfrydwch, cyn diwedd ei oes, o weled llawer o'i wrthwynebwyr a'i erlidwyr gynt, yn eu gwerthfawrogi a'u cofleidio.'

Mewn cyfeiriad at yr un amgylchiad, sylwai diaconiaid yr eglwys gynnulleidfaol yn Rhos-Llanerchrugog fel y canlyn: "Yr athrawiaeth a bregethai Mr. WILLIAMS oedd, i raddau, yn wahanol i'r hyn oedd wedi cael ei phregethu yn yr ardaloedd hyn o'r blaen, ac nid ychydig fu y gwrthwynebiadau a gafodd, a'r llafur a gymmerodd i argraffu ar feddyliau y bobl yr egwyddorion syml, ymarferol, ac ysgrythyrol, a draddodai iddynt. Byddai ei ddull yn wastad yn esmwyth a didramgwydd; ni fyddai byth yn ergydio at bersonau nac enwadau ereill, nac yn condemnio y rhai oeddynt yn barnú yn wahanol iddo ef. Gosodai ei egwyddorion yn oleu, syml, a theg, ger bron ei wrandawyr, heb gymmeryd arno ei fod yn gwybod fod neb yn y byd yn barnu yn wahanol, na bod neb yn ei osod allan fel cyfeiliornwr a heretic. Gadawai iddynt weithio eu ffordd yn eu nherth a'u goleuni eu hunain; a gweithio eu ffordd a wnaethant drwy lifeiriant o wrthwynebiadau, ac y maent yn awr yn sefydlog a chadarn yn meddyliau a chalonau cannoedd o drigolion yr ardal."

Mynych gydnabyddai ei fraint yn yr amser hwn o fod wedi bwrw ei goelbren yn mhlith yr Annibynwyr, lle nad oedd nac esgob, na llys, na chyfarfod, na chymmanfa, i hòni awdurdod i'w alw i gyfrif am ei gred a'i athrawiaeth, y teimlai ei hunan yn rhydd, wrth esgyn i'r areithfa, i draethu gwir olygiadau ei galon ar athrawiaethau yr efengyl, heb lyffetheiriau o erthyglau a chyffesion i gadwyno ei draed, na bod gofal arno rhag syrthio ar draws dim o'r fath bethau. Wrth bregethu teimlai nad oedd yn gyfrifol i un orsedd nac awdurdod ond gorsedd ac awdurdod Crist—mai ei was ef ydoedd, ac mai iddo ef yn unig yr oedd yn gyfrifol.

Ond er ei fod felly yn rhydd oddiwrth awdurdodau cymanfaol, cafodd gryn lawer o flinder, fel y rhag-grybwyllwyd, oddiwrth rai brodyr yn y weinidogaeth, ac ereill, ag oeddynt yn selog dros burdeb yr athrawiaeth, fel y meddylient hwy. Ystyrid ef ganddynt fel un wedi gŵyro oddiwrth y gwirionedd a'r athrawiaeth iachus, a diau, pe buasai awdurdod cymmanfaol i'w gael yn y cyfundeb, y buasai y gwŷr hyny yn, ei ddefnyddio yn ewyllysgar, os medrasent ei gael i'w dwylaw, er rhoddi gorfod arno ef, a phob un o'r un golygiadau ag ef, naill ai seinio eu Shibboleth hwy, neu, ynte, ymadael â'r corff. Buasai yn dda gan ambell un allu cau drws yr areithfa, pan ddygwyddai ddyfod heibio iddynt yn yr amserau hyny; ond yr oedd poblogrwydd a chymmeradwyaeth Mr. WILLIAMS yn y wlad yn gyfryw ag na feiddient wneuthur hyny. Gwahoddent ef i'w cyfarfodydd a'u cymmanfa oedd rhag ofn y bobl." Yr oedd y public opinion yn darian iddo rhag saethau o'r fath yma, yn gystal ag yr oedd y drefn gynnulleidfaol yn dwr amddiffyn i'w wared rhag y rhuthrgyrch arall a ddynodwyd.

Maddeua y nifer liosocaf o ddarllenwyr y Cofiant i'r ysgrifenydd, am dòri edefyn yr hanes yn y lle hwn, yn ngrym profedigaeth yr amgylchiad, i graffu ychydig ar yr ysbryd y mae uchel Galfiniaeth yn gynnyrchu bob amser yn mynwesau ei chofleidwyr. Ceir y rhai a fabwysiadant olygiadau ar nodwedd y Bôd Goruchaf fel un tra-awdurdodol yn ei arfaethau, ei fwriadau, a gweinyddiadau ei ras a'i ewyllys da, golygiadau culion a chyfyng ar Iawn y Cyfryngwr a darpariadau yr efengyl; ceir y duwinyddion hyn, meddaf, yn mhob gwlad Gristionogol, yn mhlith pob enwad a phlaid o Gristionogion, yn ddynion o ysbryd tra-awdurdodol a gormesol—bob amser yn ddynion na fedrant oddef eu gwrthwynebu mewn dim, er i hyny gael ei gynnyg yn yr ysbryd addfwynaf a gostyngeiddiaf. Y maent yn anffaeledigion oll, ac os bydd trefn eglwysig y blaid y perthynant iddi yn caniatâu, a hwythau, yn eu tyb eu hunain, yn ddigon cryfion, caiff eu brodyr a feiddiont farnu yn wahanol iddynt mewn dim, deimlo dwrn eu hawdurdod, oni wna arswyd barn y cyffredin eu lluddias. Y maent yn wastad yn fawr iawn eu stwr yn nghylch "athrawiaeth iachus," a chanddynt hwy, o anghenrheidrwydd, y mae hono, oblegid y maent hwy yn anffaeledig. Cyfeiliornwyr andwyol yw pawb nad ydynt yn hollol gydweled â hwy. Y mae duwinyddion old school yr eglwys Bresbyteraidd yn America, yn ateb yn berffaith i'r desgrifiad uchod. Galwent synod ar ol synod, ac assembly ar ol assembly, i gyhuddo, ac o'r diwedd esgymuno niferi o'r gweinidogion mwyaf eu dysg, eu dylanwad, a'u defnyddioldeb yn eu plith, am osod allan ddigonolrwydd darpariadau gras ar gyfer byd o dlodi ac angen! Y mae eu brodyr yr ochr yma i'r Werydd, yn mhlith pob plaid o bobl ag y maent i'w cael, yn hollol o'r un ysbryd â hwy. Ni chlybuwyd son erioed fod dynion o olygiadau cymhedrol, rhydd, a helaeth ar athrawiaethau yr efengyl yn ceisio cyfyngu a gwasgu ar derfynau eu rhyddid hwy i farnu drostynt eu hunain yn galw am gynghor na chynnadledd i'w dwyn i gyfrif am eu golygiadau, a bygwth eu hesgymuno allan o'u plith, er yn ddiau fod y dosbarth hwn mor gydwybodol ac mor wresog dros burdeb athrawiaethol â hwythau; y gwahaniaeth yw, nid yw yr olaf yn hòni hawl i anffaeledigaeth, yr hyn a wna y blaenaf, os nid mewn geiriau, etto mewn ymddygiadau mor uchel-groyw fel na ellir camddeall yr ysbryd.

Y mae y ffaith a gofnodwyd yn dangos yn eglur fod yr egwyddorion a gofleidio y farn yn dwyn dylanwad ar y galon, nes ei nhewid i'r unrhyw ddelw â hwy eu hunain; a pha rai yw y golygiadau cywiraf ar athrawiaethau gras, barned y darllenydd drosto ei hun, gan ystyried yr ysbryd a'r ffrwythau a gynnyrcha y ddau ddosbarth y bwriwyd golwg arnynt. Daw ansawdd a thymher ysbryd gwrthddrych ein Cofiant, un o'r rhai cyntaf a phenaf yn mhlith y tô diweddaf o dduwinyddion rhyddfrydig Cymru, dan sylw etto, pan ddelom yn mlaen i geisio rhoddi desgrifiad pennodol o'i nodwedd a'i deithi.

Yn fuan wedi cymmeryd o hono ofal bugeiliol yr eglwys fechan yn Rhos-Llannerchrugog, taer wahoddwyd ef i Langollen i bregethu. Nid oedd pregethu wedi bod gan yr Annibynwyr yn y dref hòno o'r blaen. Yr oedd Mr. E. Edwards, Trefor, wedi bod yn taer gymhell Mr. WILLIAMS amrywiol weithiau i fyned yno, ac yr oedd gwr parchus arall o'r dref hono, ag oedd yn aelod gyda y Trefnyddion Calfinaidd, yn awyddus iawn am ei gael yno. Fel ag yr oedd Mr. Edwards yn parhau i'w gymhell, ac wedi dyfod i'r Rhos, a gwr arall gydag ef, un Sabboth ar y neges hon, dywedodd Mr. WILLIAMS, "Pe gwyddwn mai ysbryd plaid sydd yn eich cynhyrfu, ni ddeuwn i Langollen byth," neu eiriau o'r cyffelyb. "Yr wyf yn sicrhau i chwi," ebe Mr. Edwards, "na buasai yn werth genyf symud cam oddicartref heddyw yn yr achos hwn, oni bai fod genyf rywbeth uwchlaw plaid mewn golwg." Ar hyn cytunodd Mr. WILLIAMS i fyned yno y Sabboth canlynol. Addawai y gwr y crybwyllwyd am dano o'r blaen, y cawsid benthyg capel y Trefnyddion iddo i bregethu; ond erbyn ymofyn yn fanylach, nid oedd i'w gael, ond cafwyd benthyg llofft helaeth y Royal Oak, ac yno y pregethodd ei bregeth gyntaf yn Llangollen, oddiar Sal. 119, 113, " Meddyliau ofer a gaseais." Cynnaliwyd pregethau rheolaidd yn Llangollen o'r dydd hwnw allan. Buwyd yn ymgynnull am gryn dymhor yn ngoruwch-ystafell y Royal Oak. Symudwyd wedi hyny i dŷ Mr. Thomas Simon. Casglwyd ychydig enwau yn nghyd yno, a sefydlwyd hon etto yn ganghen eglwys gyssylltiedig â'r lleill ag oeddynt dan ofal bugeiliol Mr. WILLIAMS. Wedi bod yno yn llafurio dan lawer o anfanteision am rai blynyddau, o eisieu lle mwy cyfleus i ymgynnull, penderfynwyd ar adeiladu capel yma drachefn. Hwn a adeiladwyd yn y fl. 1817. Priododd Mr. WILLIAMS yn y flwyddyn hon â Miss Rebecca Griffiths, o Gaer, yr hon oedd foneddiges ieuanc o gryn gyfoeth, a thra chyflawn o wybodaeth, doethineb, a synwyr, rhagorol mewn duwioldeb, a dysglaer yn mhob dawn rinweddol, ac felly yn mhob ystyr yn deilwng o'r ragorfraint o fod yn gydmar bywyd i wr o dymher serchus, calon haelionus, a doniau ysblenydd Mr. WILLIAMS; a dedwydd iawn a fuont yn eu gilydd, hyd nes eu gwahanwyd gan angeu. Bu, a dichon fod, ac y bydd etto, llawer o wragedd gweinidogion yn rwystrau ac yn faglau, yn ddarostyngiad a gwanychdod iddynt yn mhob ystyr; ond yr oedd y wraig ddoeth hon yn goron i'w gwr, "yn gymhorth iddo yn mhob golygiad; a diau ddarfod iddo ddysgu llawer mwy ar yr iaith Saesonaeg, a boneddigeiddrwydd moesau, oddiwrthi hi, nag a ddysgasai yn yr Athrofa. Bu iddynt bedwar o blant, dau fab a dwy ferch, tri o'r rhai sydd yn awr yn fyw; bu y ferch hynaf farw ychydig wythnosau o flaen ei thad, fel y ceir achlysur i grybwyll.

Lletyasai Mr. WILLIAMS dros y naw mlynedd blaenorol, sef o'r amser y daethai i'r Wern, hyd ei briodas â Mrs. Williams, yn nhŷ Mr. Joseph Challenor, gerllaw Adwy'rclawdd, yr hwn sydd etto yn fyw, ac wedi ennill iddo ei hunan radd dda, drwy wasanaethu swydd diacon yn ffyddlon a chymmeradwy yn eglwys y Wern dros lawer o flynyddoedd.

Yn fuan wedi ei briodi, symudodd i fyw i Langollen; cymmerodd daith drwy ranau o'r Deheudir y flwyddyn ganlynol, i gasglu at gapel newydd Llangollen. Pan ar y daith hon cafodd gymhelliad taer iawn gan eglwys luosog Abertawy, i ddyfod yno, a chymmeryd ei gofal gweinidogaethol; ond ni allai feddwl am adael yr ychydig braidd yn y Wern, a'r manau ereill, i ymdaraw drostynt eu hunain dan feichiau o ddyledion ag oeddynt yn aros ar eu haddoldai. Dewisodd yn hytrach ymwadu â'i esmwythder personol ac aros gyda hwy yn eu profedigaethau, i'w cynnorthwyo i ddwyn, ac ysgafnhâu eu gofalon.

Nid cymmaint fu llwyddiant ei weinidogaeth yn Llangollen; isel iawn oedd crefydd yn y dref hon yn mhlith pob enwad yr amser hwnw; ac nid ymddengys ei fod yn teimlo yn gysurus iawn tra y bu yno. Teimlai yr eglwys yn Rhosllanerchrugog, a theimlai yntau, ei bod o dan fawr anfantais o eisieu gweinidogaeth fwy rheolaidd; nid oedd erbyn hyn yn gallu myned yno yn amlach nag unwaith yn y pythefnos. Yn yr amgylchiad hwn, ymgynghorasant â'u gilydd yn nghylch ymofyn am weinidog iddynt eu hunain; gosodasant y peth o'i flaen yntau; dywedodd y deuai efe atynt os gallent gael tŷ cyfleus iddo i fyw; derbyniwyd y newydd gyda llawenydd mawr; ymofynwyd, a chafwyd tŷ cyfleus, yr wythnos ganlynol, sef y Talwrn, tua milldir o'r Rhos, ar ffordd y Wern; a symudodd yntau a'i deulu yno yn fuan; sylwai ar ei ddychweliad at ei hen gyfeillion, ei fod wedi cael gafael ar ei hen lyfr gweddi drachefn.

Dechreuasid pregethu gan yr Annibynwyr yn Rhuabon hefyd, yn agos i'r un amser â Llangollen. Byddai y myfyrwyr o Wrecsam yn dyfod yno ar gylch; y Parch. J. Breese, wedi hyny o Lynlleifiad, yn awr o Gaerfyrddin, a ddeuai yno fynychaf; pregethodd Mr. WILLIAMS ei bregeth gyntaf yno yn 1813, oddiwrth Luc 24, 47, "A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef, yn mhlith yr holl genedloedd, gan ddechreu yn Jerusalem." Bu y bregeth hon yn allu Duw er iachawdwriaeth i rai eneidiau. Dygwyddodd i un dyn tra annuwiol ac erlidgar ddyfod heibio i'r tŷ ar amser y bregeth, a throes i mewn, ymaflodd y gwirionedd yn ddwys yn ei feddwl, a chaled oedd iddo geisio gwingo yn erbyn y symbylau; ac efe oedd un o'r rhai cyntaf o ddaethant yn mlaen i ymofyn am aelodaeth eglwysig yn Rhuabon; yr oedd yn un o'r ychydig nifer yn ffurfiad cyntaf yr eglwys yno; hyn a gymmerodd le yn y flwyddyn rag-grybwylledig mewn tŷ annedd bychan; yr oedd Mr. Breese, ag oedd yn fyfyriwr y pryd hyny, yn cynnorthwyo Mr. WILLIAMS ar yr amgylchiad hwn. Bu yr eglwysi yn Rhuabon a Llangollen, dan ofal Mr. WILLIAMS, gan eu gwasanaethu ei hunan hyd y gallai, a gofalu am gynnorthwyon i lenwi y bylchau yn rheolaidd, hyd y flwyddyn 1822, pan yr ymunodd y ddwy i fod yn weinidogaeth rhyngddynt yn ol cynghor a dymuniad Mr. WILLIAMS; cytunasant i roddi galwad i Mr. W. Davies, myfyriwr yn Athrofa y Drefnewydd, yr hwn sydd yn bresennol yn gweinidogaethu yn Rhydy ceisiaid, swydd Gaerfyrddin, yr hwn a gyd-syniodd â'u cais, ac a sefydlwyd yn fugail arnynt y flwyddyn ganlynol. Adeiladwyd capel Rhuabon dan arolygiaeth Mr. WILLIAMS, ac agorwyd hefyd yn yr un flwyddyn, sef 1813.

Yr oedd baich ei ofal erbyn hyn wedi ei ysgafnhâu yn fawr; nid oedd ganddo mwyach dan ei ofal neillduol, ond Harwd, y Wern, a'r Rhos. Yr oedd y gwrandawyr a'r eglwysi yn y ddau le olaf yn myned ar gynnydd mewn rhifedi yn barhaus; ond am y cyntaf, Harwd, er cymmaint oedd dyfalwch, ffyddlondeb a doniau poblogaidd Mr WILLIAMS, yr oedd yr achos yn gwywo, ac yn marw dan ei ddwylaw; ychydig iawn a ddeuent i'w wrando yno. Dywedai fod Harwd wedi bod o fwy o les iddo ef, nag a fuasai efe i Harwd, ei bod yn swmbwl yn ei gnawd fel na'i tra dyrchefid, gan fawredd ei boblogrwydd cyffredinol mewn manau ereill; os byddai yn teimlo tuedd i ymchwyddo wrth weled tyrfaoedd mawrion yn ymgasglu i'w wrando, byddai cofio am Harwd, yn foddion i roddi attalfa arni. Rhoddodd ofal Harwd i fynu yn y flwyddyn 1828, a chymmerodd y Parch. Jonathan Davies, fugeiliaeth y lle mewn cyssylltiad â Phenuel, yn ardal Hope.

Gan nad oedd Mr. WILLIAMS, fel y sylwyd, wedi ysgrifenu dydd-lyfr, nid oes genym unrhyw ddygwyddiadau neillduol i'w cofnodi yn hanesyddiaeth ei fywyd, hyd nes y delom at y blynyddoedd diweddaf o hono. Ymdrechir gwneuthur y diffyg hwn i fynu goreu y gellir pan y delom i geisio rhoddi desgrifiad mwy neillduol a manylaidd o'i nodwedd gweinidogaethol. Gallem ychwanegu yn unig yn y lle hwn, iddo dreulio y blynyddoedd hyn o'i oes mewn llafur mawr, diwyd, a diflino, a mwynhau ar y cyfan, radd dda iawn o iechyd, a chysuron teuluaidd ac eglwysig. Teithiai lawer oddicartref i gyfarfodydd, yn mhell ac yn agos. Yr oedd yr eglwysi a'r gwrandawyr yn mhob man yn "dysgwyl am dano fel am y gwlaw," yn lledu eu genau am ei weinidogaeth, "fel am y diweddar-wlaw," a phan glywai clust ef, hi a'i bendithiai; "Canys ei athrawiaeth a ddyferai fel gwlith, a'i ymadrodd a ddefnynai fel gwlaw, fel gwlith-wlaw ar îrwellt, ac fel cawodydd ar laswellt." Ystyriai yr holl eglwysi WILLIAMS fel meddiant cyffredin, (public property,) ac yr oeddynt megys yn tybied bod ganddynt hawl gyfiawn i alw am ei wasanaeth pa bryd bynag y meddylient ei fod yn anghenrheidiol; ac mewn gwirionedd yr oedd llawer o reswm a phriodoldeb yn y dybiaeth hon; buasai yn drueni, ac yn golled gyffredinol i'w ddoniau a'i dalentau, gael eu cyfyngu o fewn cylch cynnulleidfa neu ddwy; ond teilwng iawn fuasai i'r fath wasanaeth gwerthfawr gael ei gydnabod yn well nag y cafodd; nid oes ynof yr amheuaeth leiaf, na threuliodd fwy o'i arian ar ei deithiau wrth wasanaethu yr eglwysi, nag a dderbyniodd am ei lafur. Yr oedd hyny yn eithaf annheilwng, ac anghyfiawn. Yr unig gwyn a ddygai'r eglwysi dan ei ofal yn ei erbyn, oedd, ei fod yn myned yn rhy fynych oddicartref. "Yr wyf yn deail, (meddai unwaith wrth frawd yn y weinidogaeth,) bod eich pobl chwithau yn cwyno llawer o herwydd eich bod yn myned gymmaint oddiwrthynt, peidiwn a chwyno bod yr eglwysi ereill yn galw am danom, a'r eglwysi gartref yn cwyno ar ein hol, ond diolchwn lawer am nad yw fel arall; yr eglwysi gartref yn cwyno ein bod yn aros gormod gyda hwynt, eisieu newid mwy â gweinidogion ereill; ac eglwysi ereill, yn well ganddynt beidio a'n gweled yn dyfod atynt ar y Sabboth na chyfarfod, a ninnau felly fel llestr heb hoffder ynddo;' y mae ryw faint yn boenus fel hyn, ond buasai yn dlawd iawn fel arall; cysur mawr ydyw i ni gael lle i feddwl fod ein gweinidogaeth yn gymmeradwy gan y saint.' Byddai yn llawer llai o draul a llafur i ni aros gartref, ond y mae amgylchiadau yr achos yn ein plith yn bresennol, yn gofyn am i ni aberthu rhyw faint yn y peth hwn." Buasai yn dda genym allu rhoddi cofrestr o'i deithiau, a'i lafur, yn y blynyddoedd hyn; hauodd lawer iawn o'r "hâd da" yn maes y Dywysogaeth, a chyrion Lloegr hefyd, o'r areithfaoedd, ac mewn cyfeillachau a theuluoedd; yr oedd yn dyfal ddilyn cyfarwyddyd y pregethwr, "Y boreu haua dy hâd, a'r prydnawn nac attal dy law, canys ni wyddost pa un a ffyna ai hyn yma, ai hyn acw, ai ynte da a fyddant ill dau yn yr un ffynud." Cynhauafwyd llawer t'wysen aeddfed i ogoniant a gododd i fynu o'r hâd a wasgarodd, a diau y cesglir llawer etto.

Oes y drafferth fawr gydag adeiladu addoldai newyddion oedd oes weinidogaethol Mr.WILLIAMs, yn enwedig y blynyddoedd y cyfeirir atynt yn bresennol; a chafodd ef ei gyfran helaeth o'r drafferth a'r gofal yma. Byddai ef a'i auwyl frodyr Jones o Dreffynnon, a Roberts o Ddinbych, yn fwyaf neillduol, yn wrthddrychau i apeliadau a chwynion o bob man yn mron, yn swyddi Dinbych a Fflint, ag y byddai angen am le newydd i addoli ynddynt; a byddai eu hysgwyddau yn fynych dan bynau trymion o'r gofal. Yr oedd gan Mr. WILLIAMS gariad neillduol at, a phryder mawr am yr achos, yn y manau hyny ag y cawsai lawer o draul a llafur gyda hwynt. Wrth adrodd ei deimlad hwn unwaith, sylwai, "Y mae hon yn reddfol yn ein natur, bod i ni deimlo cariad a gofal at ac am beth a fyddo wedi costio yn lled ddrud i ni; yr oedd mam Jabes yn anwylach o hono nag un arall o'i phlant, oblegid iddi ei ddwyn ef drwy ofid.' Y mae genyf finnau ryw serch mwy neillduol at ryw fanau nâ'u gilydd, oblegid i mi gael mwy o ofal a gofid o'u hachos." Gwnai yr un sylw yn mhen amryw o flynyddau drachefn, ac yn agos i ddiwedd ei oes, a chan gyfeirio at Ruthun yn neillduol, dywedai, "Y mae genyf ofal mawr er ys blynyddau am yr achos gwan yn thun, cefais lawer o drafferth a gofid gyda'r capel yno, a gweddiais lawer hefyd dros yr achos yno; y mae yn llawenydd mawr i mi weled yno weinidog o'r diwedd ag sydd yn debyg o fod yn un gweithgar a defnyddiol—yr wyf yn dra hyderus, y cyfyd crefydd ei phen odditan y dwfr yn raddol yno."

Diau y dylai, a diau fod coffadwriaeth y cyfiawn hwn yn fendigedig ac anwyl gan holl eglwysi Annibynol y Dywysogaeth; y rhai oll i raddau mwy neu lai a ddyfrhawyd â'i weinidogaeth; ond yn nesaf at eglwysi Harwd, y Wern, Llangollen, Rhuabon, Rhosllanerchrugog, a Llynlleifiad, y rhai a fuant yn wrthddrychau ei ofal bugeiliol; dylai eglwys Ruthun ac eglwys Gymreig Manchester, yn neillduol, fendithio ei lwch, a theimlo bythol anwyldeb tuag at ei enw a'i goffadwriaeth.

Ymwelodd Mr. WILLIAMS â'r brif-ddinas amrywiol weithiau, ac yr oedd ei barch, ei dderbyniad, a'i boblogrwydd yno, yn mhlith ein cyd-genedl, a'r Saeson hefyd yn fawr iawn. Yr oedd Duw yn arogli arogledd ei wybodaeth drwyddo yn mhob man." Y mae ei enw yn gariadus ac anwyl yno, fel yn mhob lle arall. Rhoddodd genedigaeth Iachawdwr y byd gyhoeddusrwydd ac enwogrwydd i Bethlehem fechan, na chawsai byth m'o hono, oni buasai yr amgylchiad hwnw; ac yn gyffelyb yn ei gyssylltiad ag enw ei ffyddlon was, WILLIAMS, rhoddwyd cyhoeddusrwydd ac enwogrwydd i enw y Wern, fel y daeth ei sain yn adnabyddus i glustiau miloedd yn Nghymru, Lloegr, ac America, na chlywsent byth am dani oni bai hyny.

Rhoddwn yn y fan hon bigion o lythyr y Parch. Calvin Colton, gweinidog enwog o America, a ysgrifenwyd ganddo yn Llundain, pan ar ymweliad yno; ac a ymddangosodd yn y "New York Observer," am Mawrth 7, 1835. Barnasom y rhoddai rhanau o'r llythyr hwn gryn ddifyrwch i'n darllenwyr yn gyffredin, fel ag y mae yn cynnwys sylwadau gŵr enwog o estron ar deithi a nodwedd ein cenedl, ac o herwydd hyny, rhoddir rhai darnau o hono yma, ag nad ydynt yn dal perthynas uniongyrchol â gwrthddrych ein cofiant.

"Llundain, Ion. 19, 1835. "CYMMERWCH ddysglaid o dê gyda ni y prydnawn heddyw am bump,' ebai gwraig anrhydeddus a chrefyddol o Gymraes wrthyf ddoe, ar ddiwedd addoliad boreuol yn un o addoldai Llundain, 'a daw fy ngwr gyda chwi i'r Borough, y capel Cymreig, lle yr ydych yn bwriadu myned. Chwi a gewch gyfeillach Mr. WILLIAMS, y gwr sydd i bregethu, a Mr. Roberts hefyd, yr hwn sydd i gymmeryd rhan yn y gwasanaeth, a dau neu dri ereill o weinidogion Cymreig, ag ydym yn ddysgwyl,'

"Fel yr oeddym yn croesi pont Southwark, wrth fyned tua'r Capel, ar ol tê, dywedai y gwr y buasem yn ei dŷ wrth Mr. Roberts, un o'r pregethwyr, 'Rhaid i chwi roddi i ni sylwedd eich pregeth yn Saesonaeg, gan nad yw ein cyfaill hwn (gan gyfeirio ataf fi) yn deall Cymraeg, Yr wyf wedi crybwyll wrth Mr. WILLIAMS, ac y mae yntau wedi addaw yr un peth.' 'Pa beth,' meddwn i, ‘a ydych yn ddifrifol?' 'Bid sicr,' eb efe. Y mae hyny yn anrhydedd na ddysgwyliais erioed am dani; ac heblaw hyny, yr wyf yn myned i'r capel heno i wrando Cymraeg, ac nid Saesonaeg.' Y mae y Cymry yn bobl dra chrefyddol—yn fwy felly nâ'r Yscotiaid na'r Americaniaid—hwyrach nad oes cenedl Gristionogol arall yn y byd a ddengys gymmaint o deimlad crefyddol, neu y gellir ei dwyn fel corff i'r fath raddau dan awdurdod a dylanwad crefydd. Y maent tua miliwn o rifedi, yn wasgaredig dros wyneb 150 o filldiroedd wrth 80, neu bum miliwn a dau cant o filoedd (5,200,000) o erwau o dir, rhanau o'r hwn a gynnwysant y golygfeydd prydferthaf yn Mhrydain Fawr.

* * * * Y mae y Cymry, gan mwyaf, yn siarad eu hiaith eu hunain, ac yn diwyllio dysgeidiaeth Gymreig. Y maent yn falch o'u henafiaeth, ac yn meddwl, gyda golwg ar hyn, eu bod yn un o'r cenedloedd anrhydeddusaf ar y ddaear. Y mae eu serch at eu hiaith yn nodedig, ac yr wyf yn cael fy nhueddu i'r un farn â hwy, y gellir ei defnyddio gyda nerth a dylanwad ar deimladau a nwydau y natur ddynol, yr hwn na all yr iaith Saesonaeg ddwyn un cydmariaeth iddo. Ymddengys bod yr effeithiau a gynnyrcha eu barddoniaeth a'u pregethau yn profi hyn. Y mae eu dynion mwyaf coethedig yn ddirmygus o'r iaith Saesonaeg mewn cymhariaeth i'w tafodiaith gynhenid, er y byddant mor hyddysg yn y naill ag yn y llall, yn neillduol os byddant o dymher awengar.

"Gellir dywedyd bod gan awenyddiaeth a chrefydd gartref yn serchiadau y Cymry mwy nag yn yr eiddo unrhyw genedl arall.

* * * *Dyna yw fy marn bersonol fy hun. Yr wyf yn cyffesu fy mod yn llwyr grediniol o wirionedd adfywiadau crefyddol America, er bod yno lawer o bethau ag hwnw ag sydd yn ddianrhydedd iddynt. Yr wyf yn credu hefyd bod yr ydynt yn myned dan yr enw adfywiadau hyn, sef y rhai gwirioneddol, yn waith Ysbryd Duw, ond nid, pa fodd bynag, yn annibynol ar drefniadau cymdeithasol. Gall fy mod yn methu, ond y mae sylw ac ystyriaeth wedi fy ngorfodi i ddyfod i'r penderfyniad, nad ydynt i'w dysgwyl yn sefyllfa cymdeithas na byddo ynddi gymundeb o deimlad; y mae cymundeb hwn o deimlad yn anghenrheidiol, fel ffrydle y dylanwad, yr hwn a ddefnyddia Ysbryd Duw i'r cyfryw ddybenion.

Yn y golygiad hwn yr wyf yn ystyried Cymru yn mhell iawn o flaen rhanau ereill o'r ymerodraeth Frytanaidd. Y mae y Cymry, gydag ond ychydig iawn o eithriadau, yn un gymdeithas gyffredin; yr hyn a deimla un a deimla pawb, os bydd yn achos o bwys cyffredinol; ac yr wyf yn credu ei fod yn gwbl wirionedd fod crefydd yn eu plith hwy yn wrthddrych mwy o deimlad a gofal cyffredinol nâ dim arall. Fy meddwl ydyw, nas gellir eu dwyn i deimlo, fel corff yn gyffredinol, mor ddwfn a dwys, gyda golwg ar unrhyw achos arall. Y mae yn mhell o fod felly yn Lloegr; y mae Yscotland beth yu nes, fe allai; y mae yn mhellach fyth o fod felly yn yr Iwerddon annedwydd.

"Ond y mae rhesymau cryfion ereill dros y golygiad hwn. Y mae dylanwad y sefydliad gwladol wedi ei lwyr ddiddymu agos yn Nghymru; y mae y weinidogaeth yno wedi mawr gynnyddu mewn cymhwysderau a ffyddlondeb, ac ar gynnydd yn barhaus. Y mae eu sel gynnyddol, o fewn ychydig o flynyddau, wedi codi lleoedd o addoliad agos, os nid llawn ddigon i gynnwys holl boblogaeth y dywysogaeth, a dysgwylir y byddant yn alluog i'w cynnysgaeddu â gweinidogion teilwng. Yr Annibynwyr Cymreig yn unig a aethant yn ddiweddar gymmaint dros ben eu gallu wrth adeiladu lleoedd o addoliad, nes tynu arnynt eu hunain yn agos i bymtheng mil a deugain o bunnau o ddyled. Wrth weled fod y baich hwn o ddyled yn attalfa mor fawr am eu llwyddiant crefyddol, daethant i'r penderfyniad ardderchog i wneuthur un ymdrech egniol er rhyddhau eu hunain oddiwrtho ar unwaith. Cyfranwyd y swm o ddeunaw mil, pedwar cant, a phedair o buunau yn y dywysogaeth yn unig; ac anfonasant genadau i Lundain, a rhanau ereill o Loegr, i wneuthur apeliad at eu brodyr Saesonig i'w cynnorthwyo i dalu y gweddill, yr hyn sydd, nid yn unig yn debyg o gael ei berffeithio, ond y mae yr anturiaeth wedi peri i'r Annibynwyr Saesonig feddwl cymmeryd yr un drefn i dalu dyledion eu haddoldai eu hunain, y rhai ydynt hefyd dan gryn faich; a dysgwylir y bydd iddynt yn fuan ddilyn esiampl eu brodyr Cymreig, ac fel hyn brofi i Loegr a'r byd oll, pa mor nerthol ac effeithiol ydyw yr egwyddor wirfoddol.

"Oud y mae yn amser i mi, bellach, ddwyn y llythyr hwn i derfyniad, drwy wneuthur sylw byr o'r cyfarfod Cymreig y bum ynddo neithiwr. Trefn y cyfarfod ydoedd dwy bregeth ar ol eu gilydd, a chanu rhyngddynt. Dywedir i mi fod yr arfer yma yn un dra chyffredin yn Nghymru, pan ddygwyddo dau weinidog dyeithr gydgyfarfod, a phob amser yn y gymmanfa. Nid yw yn beth anghyffredin ar yr achlysuron hyny fod amrywiol bregethau ac anerchiadau yn cael eu traddodi yn olynol yn yr un oedfa. Pregethu ydyw eu mawr ddywenydd cymdeithasol, ac y maent yn caru cael gwledd o hono.

"Y bregeth gyntaf neithiwr a draddodwyd gan y Parch. Samuel Roberts, o Lanbrynmair, oddiwrth Job 35, 10, 'Pa le y mae Duw, yr hwn a'm gwnaeth i, yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?" Treuliodd oddeutu deng mynud (er fy mwyn i) i roddi sylwedd ei bregeth yn Saesonaeg; wedi hyny llefarodd tua chwarter awr yn Gymraeg. Y mae yn wr ieuanc o dalentau gorwych, hawddgar, duwiol, tra pharchus, a mawr ei ddylanwad; medd yr anrhydedd o fod yn wr tra dysgedig, yn awdwr gwych, ac ennillodd amryw wobrwyon yn yr eisteddfodau. Y mae yn anuhraethol fwy o anrhydedd iddo ei fod yn llwyddiannus iawn mewn ennill eneidiau at Grist. Y mae yn llawn mor hyddysg yn yr iaith Saesonaeg ag ydyw yn ei iaith ei hun, a'r drychfeddyliau a adroddai efe yn Saesonaeg oeddynt fuddiol, prydferth, a thra effeithiol, ond yn hytrach yn farddonol, fel ag yr oedd y testun yn ei arwain yn naturiol i'r cyfryw ddull: Yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos.' Ei brif fater ydoedd dangos rhagoriaeth cysuron y credadyn ar yr eiddo yr anghredadyn, yn ngwahanol dymhorau ac amgylchiadau eu bywyd, ac, yn olaf, yn awr angeu, lle y perffeithiwyd y darlun yn y modd mwyaf effeithiol. Argyhoeddwyd fy meddwl na allai dim ond ffrwythlonrwydd yr iaith Gymraeg osod allan ddelweddau yr olygfa olaf hon, fel ag yr oedd ei law yn ei cherfio drwy yr ychydig eiriau Saesonig a ddefnyddiai i'w harddangos. Yr oedd yn tra ragori ar ddim o'r fath a wrandawswn o'r blaen.

Dilynwyd Mr. Roberts gan y Parch. W. WILLIAMS, o'r Wern. Ei destun ydoedd, 'O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim; etto, ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd,' Luc 5, 5. Rhoddodd yntau sylwedd ei bregeth yn Saesonaeg. Mawr oedd fy syndod at alluoedd a chyrhaeddiadau dyn, yr hwn oedd yn ddwy-ar-hugain oed cyn dechreu dysgu yr egwyddor yn iaith ei fam.[1] Y mae yn wr o wneuthuriad Duw ei hun mewn amryw ystyriaethau, ac yn un o ddynion mawrion Cymru; mawr yn ei gymhwysderau naturiol; mawr mewn canlyniad i'w lafur a'i ddiwydrwydd; a mawr yn ei wybobaeth a'i ragoriaethau crefyddol. Ei fater oedd, Mai nid ein teimladau, ond gair Duw ydyw rheol ein dyledswydd. Dangosai yr anghyssondeb a'r gwrthuni osod teimladau yn rheol dyledswydd; oblegid felly, pa fwyaf anystyriol a llygredig a fyddai y dyn, lleiaf oll fyddai ei rwymedigaethau i ufyddhau a byw yn dduwiol!

"Er ddarfod i'w bregeth pan draddodid hi yn Gymraeg, yn ei helaethrwydd a'i manylrwydd, gynnyrchu effeithiau a barent argraff ddwys iawn ar fy meddwl; etto, fel y'm hysbyswyd heddyw gan weinidog Cymreig arall, nid oedd mewn cymhariaeth ond methiant, oblegid iddo roddi y sylwedd o honi yn gyntaf yn Saesoneg, yr hon a ddeallai y rhan fwyaf o'r gynnulleidfa, yr hyn a leihâi yr astudrwydd yn ail-adroddiad y sylwadau. Gofidiai y brawd hwn yn fawr ddarfod i'r pregethwyr aberthu yr effeithiau a allasent gynnyrchu, drwy dalu gormod o sylw i mi. 'Nid i wrando pregeth Saesonaeg, ond Cymraeg, yr aethai Mr.—— yno,' eb efe wrth frawd arall, a thrueni ddarfod i neb geisio ganddynt wneyd." Yr oedd yn hollol yn ei le, ac ni allasai neb fod yn fwy blin arno o'r plegid nâ myfi, er i'r peth gael ei wneuthur er fy mwyn i yn bennodol.

"Ond etto, yr oedd yn bregeth dra bywiog a nerthol. Tra y traddodai yn Saesonaeg, yr oedd yn ddigon amlwg nad oedd gartref, nac yn ei elfen briodol; ac fel y dywedai wrthyf wedi hyny:—' Pan fyddwyf yn troseddu rheolau y Saesonaeg, byddaf yn gyffelyb i blentyn diriad ar ol tòri chwarel o wydr ffenestr—ni byddaf byth yn cynnyg troi yn ol i geisio gwella pethau, ond yn rhedeg ymaith, dan obeithio na bydd neb wedi fy ngweled a sylwi.' Tra yr ydoedd yn llefaru yn Saesonaeg, yr oedd y gynnulleidfa yn farwaidd; ond y foment yr agorodd ei enau yn Gymraeg, deffrowyd eu hystyriaethau, cynnyddai yr effeithiau fel yr elai yn mlaen; yr oeddynt fel yn crogi wrth ei wefusau, agorent eu geneuau, gwenent mewn cymmeradwyaeth, ac unwaith chwarddent allan. Ymofynais wedi hyny, pa un a oedd y teimlad hwnw ag oedd mor gyffredinol drwy y gynnulleidfa, a'r hwn oedd mor debyg i chwerthiniad, wedi ei achosi gan ffraetheb (wit)? 'Nac oedd,' meddid, 'ond trwy gymhwysiad bywiog o'r gwirionedd a drinid ganddo: cynhyrfai y pregethwr eu teimladau drwy gyfeirio at amgylchiad diweddar perthynol iddynt hwy fel cynnulleidfa, o'r hwn yr oeddynt oll yn hysbys, a theimlent ei rym mor effeithiol nes na allent ymattal rhag dangos eu teimladau yn y dull y gwnaethant.' Hysbysir i mi fod y Cymry weithiau yn eu cynnulliadau crefyddol yn amlygu eu teimladau yn y dull hwn."

Yr ydym bellach yn dyfod at gyfnod arall yn mywyd Mr. WILLIAMS: yn fuan wedi ei ddychweliad adref o'r brif-ddinas y tro y cyfeiriwyd ato uchod, dechreuodd awyrgylch ei gysuron wisgo cymylau a thywyllwch. Mwynhasai bedair blynedd ar bymtheg o heddwch a dedwyddwch gyda'i briod rinweddol a'i blant hawddgar, ond yn awr cafodd brofi mai ansicr ac anwadal yw cysuron daearol. Dechreuodd drygfyd yn ei dŷ.

Yr oedd iechyd Mrs. Williams wedi bod yn hytrach yn well nag arferol er ys rhai blynyddau yn flaenorol i 1835. Yn y flwyddyn hono cafodd anwyd trwm, yr hwn a effeithiodd yn ddwys ar ei chyfansoddiad gwanaidd; gwellhaodd i ryw raddau, ond yr oedd peswch poenus wedi glynu wrthi, yr hwn na allai un moddion ei symud. Tua dechreu y A. 1836, yr oedd arwyddion eglur i'w canfod bod y natur a'r cyfansoddiad yn prysur roddi ffordd dan ddylanwad darfodedigaeth, ac ar y trydydd o Fawrth y flwyddyn hòno, gorphenodd ei gyrfa mewn tangnefedd, a'i llygaid yn gweled iachawdwriaeth yr Arglwydd. Ysgrifenodd ein cyfaill hoffus, y Parch. T. Jones, Minsterley, Gofiant byr am y fam enwog hon yn Israel, yr hwn a ymddangosodd yn y DYSGEDYDD am Orphenaf, 1836. Wedi rhoddi byr-ddesgrifiad o nodwedd rhinweddol ei bywyd fel priod, mam, a Christion, cawn y dystiolaeth ganlynol am agwedd a phrofiad ei meddwl yn ei dyddiau olaf:

"Trwy ei chystudd oll yr oedd ei meddwl yn dawel a chysurus, nes oedd yn hyfrydwch bod yn ei chyfeillach. Yr oedd cysuron y grefydd a'i cynnysgaeddodd â'r fath gymhelliadau i ddyledswydd a bywyd duwiol, yn awr yn llifo fel afon i'w henaid, ac yn talu yn dda am bob traul a thrafferth a gymmerasai. Yr oedd ei meddwl yn gwbl ar Grist, ac yn rhyfeddu ei bod wedi caru cyn lleied arno, a gwneuthur cyn lleied drosto. Gyda'r myfyrdodau hyn ymddifyrai yn fawr mewn amryw bennillion, megys y canlynol:—

"Fy Nuw, fy nghariad wyt, a'm rhan,
A'm cyfan yn dragwyddol;
Ni feddaf ond tydi'n y ne',
Nac mewn un lle daearol."

"Yn ei horiau diweddaf, yn neillduol, yr oedd ei ffydd yn hynod o gref, eglur, a rhesymol, etto yr oedd yn ystyriol o dwyll y galon lygredig, ac yn ofni cymmeryd rhyfyg yn lle ffydd ddiffuant. Pan fyddai ei chysuron yn gryfion iawn, gofynai yn fynych, 'Can this be presumption?' A ddichon hyn fod yn rhyfyg? ac adroddai rai o'i hoff bennillion, megys—

"Tydi yw'r Môr o gariad rhydd,
Lle daw'm llawenydd dibaid;
Trogylch fy holl serchiadau wyt,
A Chanolbwynt fy enaid.

Fy enaid atat ti a ffy
Mewn gwresog gry' ddymuniad,
Ond O, mor bell yr wyf er hyn;
O lesu! tyn fi atad."

"Ei gweddi barhaus oedd am fwy o santeiddrwydd, a chael ei meddwl wedi ei sefydlu yn fwy ar Grist, fel pa nesaf i'r nefoedd yr oedd yn tynu, mwyaf i gyd oedd yn weled o'i gwaeledd; yn debyg i Paul wedi bod yn y drydedd nef, yn gwaeddi allan, 'Nid wyf fi ddim.' Dywedai yn aml am werthfawredd crefydd y galon—nad oedd crefydd allanol werth dim heb grefydd y meddwl. Ychydig oriau cyn ei hymadawiad, yn ymwybodol fod yr amgylchiad yn nesâu, ffarweliodd yn dawel â'i phriod hawddgar ac â'i phlant anwyl, gan eu cynghori yn y modd dwysaf, a'u rhybuddio gyda'r difrifoldeb mwyaf, i fod yn sicr o'i chyfarfod hi yn y nefoedd; yna torodd allan mewn llef eglur, 'Ac y'm ceir ynddo ef,'

"Yn ei mynudau olaf dywedai ei merch hynaf wrthi, fod yn anhawdd iawn ymadael. Atebai hithau, 'Nac ydyw, nac ydyw!' Dywedai fod ganddi lawer o gyfeillion yn y nefoedd, a dysgwyliai y byddai Jones o Dreffynnon, a Roberts o Lanbrynmair, a llawer ereill, yn ei chroesawi i mewn; ond meddyliai nas gallai gymmeryd amser i ysgwyd llaw â hwy i gyd, cyn myned i fwrw ei choron i lawr wrth draed yr Hwn a fu farw dros y penaf o bechaduriaid.

"Fel ffrwyth aeddfed, wedi ymddiosg oddiwrth bob peth gweledig, ar ddydd Iau, Mawrth 3, 1836, ehedodd ei henaid dedwydd i'w gartref bythol; gadawodd y byd trancedig, yn yr hwn yr ymlwybrasai dros 53 o flynyddau; aeth i fyd didranc a diofid; ymadawodd â'i phriod naturiol, ac aeth i fyw at briod ei henaid; ffarweliodd â'i chyfeillion daearol i fyned at luoedd o gyfeillion nefol, 'at fyrddiwn o angylion, ac at Gyfryngwr y Testament Newydd.'

"Dydd Mercher y 9fed, claddwyd ei rhan farwol yn nghladdfa capel y Wern, pryd y gweinyddodd y Parch. J. Saunders, Buckley. Y Sabbath canlynol, pregethwyd ar yr achlysur i dyrfa luosog, gan y Parch. I. Harris, Waeddgrug, oddiwrth Diar. 10, 7."

Effeithiodd marwolaeth Mrs. Williams yn drwm iawn ar deimladau Mr. WILLIAMS; curiodd a gwaelodd yn fawr yn ei iechyd dan y brofedigaeth hon. Yr oedd yn llawn deim. ladwy o fawredd ei golled ei hun, a cholled ei blant, yn ei marwolaeth hi; ac er cryfed ydoedd ei feddwl, ei synwyr, a'i ras, bu agos iddo ymollwng dan faich o deimlad galarus y pryd hwn. Ymddengys ei fod wedi hyn megys yn dymuno ymadael o'r ardaloedd lle y treuliasai holl flynyddau dedwydd (mewn cydmariaeth) a llafurus ei oes weinidogaethol ynddynt, ac anghofio ei ofid mewn golygfeydd a chyda chyfeillion newyddion. Yn y flwyddyn ganlynol, 1837, derbyniodd alwad unleisiol oddiwrth eglwys Gymreig y Tabernacl, Great Crosshall Street, Llynlleifiad, a chydsyniodd â hi, a rhoddodd yr eglwysi yn Rhos a'r Wern i fynu gyda chalon drom ei hun, ac er gofid mawr iddynt hwythau. Wedi bod o honynt gyda'u gilydd mewn cariad ac anwyldeb mawr dros ddeng mlynedd ar hugain. "Soniais lawer gwaith," meddai, "am roddi yr eglwysi i fynu, ac ymadael, ond ni ddychymmygais erioed y buasai yn waith mor galed hyd nes aethum yn ei gylch o ddifrif."

yr Parodd y newydd am ei symudiad syndod ac anfoddlonrwydd cyffredinol drwy Gymru yn mron, a gellir dywedyd mai dyma yr unig ymddygiad yn mywyd Mr. WILLIAMS ag y darfu i gyfeillion na gelynion fedru ei feio o'i herwydd: yn WILLIAMS O'R WERN y mynai y bobl iddo fod, fel pe buasai cyssylltiad annattodadwy rhwng y ddau enw a'u gilydd; a phenderfynent yn mhob man i wneuthur hyny o ddial arno, sef na alwent ef byth wrth un enw arall, pe buasai yn byw hanner cant o flynyddau. Pa un bynag a ymddygodd yn ddoeth ac yn ei le yn ei waith yn symud, ai peidio, diau fod llawer ag oeddynt yn ei feio yn siarad dan eu dwylaw, ac yn hollol anwybodus o'r rhesymau ag oedd ganddo ef i'w dueddu i wneuthur y penderfyniad hwnw. Dywedai lawer gwaith ei fod yn dawel ei feddwl, wedi difrifol a manwl ystyried yr holl amgylchiad, a gweddïo llawer am arweiniad dwyfol, nad oedd wedi pechu yn erbyn y nef a'i gydwybod ei hun, er ei fod yn droseddwr yn ngolwg llaweroedd ag nad oedd ganddynt y wybodaeth anghenrheidiol i roddi barn deg ar yr achos. Ac yn awr, wedi cael holl amgylchiadau a chanlyniadau ei symudiad gerbron ein sylw, fe allai bod mor anhawdd ag erioed i ni ddyfod i benderfyniad sicr yn ein meddyliau yn y mater, sef pa un a ymddygodd yn ddoeth ac yn ei le yn ei waith yn symud, ai peidio. Pan edrychom ar fawr lwyddiant ei weinidogaeth yn ystod y tair blynedd olaf o'i fywyd yn Llynlleifiad o un tu, buan adfeiliad ei iechyd ef ei hun a'i ferch hynaf, yr hyn a'u dygodd ill dau i wared i'r bedd mor fuan, ar y llaw arall, a gosod y naill beth ar gyfer y llall, nid oes genym ond tewi, ac yn wir, ni pherthyn i ni farnu. Ond y ffeithiau ydynt: Ymadawodd o'r Wern-ymsefydlodd yn Llynlleifiad—treuliodd dair blynedd o fywyd llafurus a llwyddiannus iawn yno adfeiliodd yn brysur o ran ei iechyd a'i gyfansoddiad—dychwelodd yn ol i'r Wern, a gorphenodd ei yrfa a'i fywyd llafurus a defnyddiol mewn tangnefedd. Yr amgylchiadau olaf hyn a fyddant yn ddefnyddiau y bennod nesaf. Dygwn y bennod i derfyniad â byr grynodeb o'i bregeth ymadawol yn Rhos a'r Wern y Sabboth cyn ei symudiad oddiwrth anwyl bobl ei ofal, sef y 26ain o Fedi, 1837. Yr oedd yr ysgrifenydd yn yr un amgylchiad ag ef ar yr un amser, neu yn mhen ychydig ddyddiau ar ol iddo ef, Mr. WILLIAMS, benderfynu symud i Lynlleifiad, penderfynodd yntau, yr ysgrifenydd, symud oddiwrth bobl a'i mawr garai, ac a fawr gerid ganddo, i'r dosbarth o winllan ei Arglwydd ag y mae yn awr yn cael y fraint o lafurio ynddo. Cyfarfu & Mr. WILLIAMS yr wythnos ar ol ei ymadawiad o'r Wern: "Wel," eb efe, "yr ydych chwithau ar fin yr amgylchiad caled o ymadael; un caled iawn ydyw yn wir: dau amgylchiad cyfyng i'm teimladau i oedd ymadael â Rebecca, ac ymadael â'r Wern: yr oeddynt yn methu dal i bregethu y Sabboth diweddaf. Chwennychwn i chwithau bregethu yr un bregeth ar eich ymadawiad, os nad ydych wedi parotoi eisoes.' Ac felly fu.

2 COR. I, 14.

"Megys y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu."

I. Paham y mae dydd y farn yn cael ei alw "dydd Crist?"

1. Gwaith Crist yn unig fydd yn cael ei ddwyn yn mlaen y diwrnod hwnw. Bydd gwaith pawb arall wedi ei osod o'r neilldu a'i attal. Bydd y byd mor brysur ar waith y boreu hwn ag erioed, megys yr oedd yn nyddiau Noe, priodi, planu, prynu, gwerthu, adeiladu, &c., hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch; "felly y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn." Rhydd ymddangosiad Crist y dydd hwnw attalfa fythol ar bob gwaith daearol: gwaith yr amaethwr, y masnachwr, y morwr, y celfyddydwr, y teithiwr, gwaith llywodraethwyr, cyfreithwyr, 66 a phob crefftwr o ba grefft bynag y bo," ac ni "chlywir trwst maen melin" ar y ddaear mwyach; gwaith pregethwyr yn darfod, ni chlywir swn turtur fwyn yr efengyl mwyach; gwaith Crist fel Barnwr fydd yn unig yn cael ei ddwyn yn mlaen. Ni ddarfu iddo attal gwaith neb pan ymddangosodd ar y ddaear, ond ettyl waith pawb pan ymddengys ar y cymylau.

2. Pethau Crist yn unig fyddant yn llenwi meddyliau ac yn destunau ymddyddanion pawb y diwrnod hwnw; holl achosion trafferthus y byd hwn wedi eu llwyr anghofio gan bawb; holl ofalon galwedigaethau ac amgylchiadau y ddaear wedi eu carthu allan o bob meddwl, y miliynau meddyliau anfarwol wedi eu cydgrynhoi at yr un gwrthddrychau, pob ymddyddanion am bethau ereill wedi tewi; Crist a'i bethau wedi llyncu y cwbl iddynt eu hunain.

3. Y dydd y bydd Crist yn gorphen ei waith mawr yn ngoruchwyliaethau rhagluniaeth a phrynedigaeth, ac y bydd ei fuddugoliaeth ar ei holl elynion yn cael ei pherffeithio.

4. Y dydd y bydd Crist yn ymddangos yn ei lawn ogoniant—y bydd yn dyfod i'w oed—dydd ei goroniad.

II. Y bydd dynion yn cyfarfod yn y dydd mawr hwnw, yn ol y gwahanol berthynasau a fuasai rhyngddynt â'u gilydd, er eu mawr orfoledd, neu eu mawr drueni.

1. Yn eu cyssylltiad cymmydogaethol.—Y rhai a fuasent yn cydfyw yn yr un gymmydogaeth â'u gilydd, ac felly yn effeithio dylanwad da neu ddrwg y naill ar y llall; byddant yn cyfarfod gerbron brawdle Crist i ateb am y dylanwad hwnw.

2. Cyssylltiad masnach a galwedigaethau.—Y prynwr a'r gwerthwr, cydweithwyr.

3. Cyssylltiad teuluaidd.—Gwyr a gwragedd, rhieni a phlant, meistriaid a gweinidogion.

4. Cyssylltiad Crefyddol.—Gweinidogion ac eglwysi, a gwrandawyr. Bydd yr holl gyssylltiadau hyn ag y buom ynddynt yn y byd hwn, yn effeithio ar ein dedwyddwch neu ein trueni yn nydd Crist. Byddwn yn adnabod ein gilydd, yn cofio am bob peth a fu rhyngom a'n gilydd. Buom yn y gwahanol gyssylltiadau hyn yn fendith neu yn felldith i'n gilydd. Y mae y cyssylltiad a fu rhyngof fi a chwithau, bellach er ys deng mlynedd ar hugain, yn awr yn darfod, ond nid yw ei effeithiau a'i ganlyniadau yn darfod, nac i ddarfod byth. Yr wyf fi wedi bod yn fy swydd bwysig yn athraw a dysgawdwr i chwi: cyflwynais y rhan fwyaf o honoch i'r Arglwydd trwy fedydd; cefais yr hyfrydwch a'r fraint o dderbyn llawer o honoch yn aelodau i eglwys Crist; ond yr wyf yn gadael llawer o honoch yn annychweledig. Cyfarfyddwn oll yn nydd Crist; a pha fath gyfarfod a fydd hwnw? pa fodd y bydd ein cyssylltiad hwn yn effeithio ar y naill a'r llall o honom? A gawn ni gyfarfod yno i fendithio a chydlawenhau yn ein gilydd, ddarfod i ni erioed ddyfod i'r cyssylltiad hwn? Er gorfoledd, ynte er galar a gofid y cyfarfyddwn?

III. Bydd y cyfarfod hwnw yn dra gwahanol i bob cyfarfod arall a gawsom erioed.

1. Bydd y cyfarfod mwyaf o bob un. Yr holl genedloedd, yr holl Ni welwyd un oes nac un genedl oll mewn un cyfarfod o'r blaen, ond holl genedloedd yr holl oesau yn hwn.

2. Byddwn yn cyfarfod yn wastad yma mewn ystâd o brawf, ond yno i dderbyn ein gwobr neu ein cosp.

3. Byddwn yn cyfarfod yma i ymadael drachefn, ond yno i beidio ymadael byth, ar un llaw; ac ar y llaw arall, byddwn yn ymadael yma oddiwrth ein gilydd mewn gobaith o gael cyfarfod drachefn, ond ymadael am byth y bydd y rhai a fyddant yn ymadael â'u gilydd yno.'

4. Y mae ein cyfarfodydd yma yn gymmysgedig o drallod a llawenydd, ond yno bydd yn ddigymmysg―llawenydd pur, neu drallod digymmysg.

Llythyr y Parch. T. Pierce ar nodwedd a llwyddiant llafur gweinidogaethol Mr. WILLIAMS yn Llynlleifiad—Ei gystudd—Ei ymweliadau â Chymru—Ei symudiad yn ol i'r Wern—Graddau o adferiad—Ei ail gystudd—Cystudd a marwolaeth ei ferch hynaf—Ei ddyddiau olaf yntau—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Cystudd a marwolaeth ei fab hynaf.

"At y Parch. W. Rees, Dinbych.

 "Liverpool, Meh. 24, 1841.

"ANWYL FRAWD,—Mae y gorchwyl teilwng sydd genych mewn llaw, sef crynhoi ynghyd hanes bywyd yr haeddbarch a'r byth-goffadwriaethol Mr. WILLIAMS, o'r Wern, yn beth ag sydd yn tynu sylw y wlad arnoch, a'i golwg atoch, a'i dysgwyliad wrthych, mewn pryder ac awyddfryd mawr.

"Mae teilyngdod gwrthddrych eich Cofiant y fath, fel y geilw ar bawb a wyddent ychydig am dano i'ch cynnorthwyo, trwy anfon i chwi y pethau hyny yn ei gymmeriad a'i hynodent fel un yn rhagori ar bawb yn ei oes. Diau nad gormod dweyd hyny am dano ef,

Dyn yn ail o dan y nef—i WILLIAMS
Ni welir, rhaid addef;
Myrdd welir mewn mawr ddolef,
Drwy y wlad ar ei ol ef.

"Gan fy mod wedi cael y fraint o gyd-weinidogaethu ag ef yn y dref hon am dair blynedd, a'r rhai hyny y blynyddoedd diweddaf o'i weinidogaeth, meddyliais y gallai ychydig o'i hanes yn ein plith, am yr yspaid hwnw, fod o ryw ddefnydd i chwi. Dir y gellir dweyd am dano ef, fod ei oes i gyd wedi bod o ddefnydd mawr yn yr holl eglwysi cynnulleidfaol trwy Gymru, ac o fendith fawr i ni fel cenedl; ond gyda phriodoldeb y gellir dweyd am dano, fod ei lwybr fel y goleuni, yr hwn a lewyrchai fwy-fwy hyd estyniad llinyn y cyhydedd tragywyddol yn nef y nef. Felly anrhydeddwyd Llynlleifiad â'i weinidogaeth pan oedd fel tywysen aeddfed, ac amlygiadau eglur arno ei fod yn ymyl y nefoedd.

"Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn mis Hydref, 1836. Effeithiodd ei ddyfodiad i'n plith ar y cynnulleidfaoedd yn rhyfeddol; ac er y dywedai rhai mai fflam a ddiffoddai yn fuan ydoedd, etto mae yn ddigon amlwg ei bod yn parhau hyd heddyw, a phob arwyddion y pery hefyd hyd ddiwedd amser, ïe, i dragywyddoldeb. Achosodd ddeffroad, gorfoledd, a phryder mawr yn yr eglwysi, a bu o fendith a llesâd mawr i grefydd yn y dref hon, ac i lawer o eneidiau; teimladau lluaws o'r rhai sydd yn gynnes iawn at ei enw, ac a barchant ôl ei draed mewn diolchgarwch i'r Arglwydd am ei anfon yma, a chael eistedd dan ei weinidogaeth.

"Ni ddangosodd yn ei weinidogaeth gyhoeddus ond ychydig o'r hyawdledd a'r tanbeidrwydd a'i hynodent flynyddoedd yn ol, etto yr oedd y fath nerth yn ei eiriau, awdurdod yn ei ymresymiadau, a'r fath blethiad o ddifrifoldeb a mwyneidd-dra yn ei ysbryd, fel y byddai yn sicr o gael gafael yn meddwl yr holl gynnulleidfa. Nid boddloni cywreinrwydd, na choglais tymherau dynion a amcanai efe, ond cael gafael. ddifrifol yn eu teimladau a'u cydwybodau oedd ei unig ymgais; a braidd bob amser y llwyddai yn hyny. Nid anfynych y gwelid y dagrau tryloywon yn treiglo dros ruddiau hyd y nod y rhai caletaf yn y gynnulleidfa.

"Bu yn foddion i ddwyn yr eglwys dan ei ofal i wisgo ei blodau yn fuan, a blodeuo fwy-fwy yr oedd tra y bu yn aros gyda ni; a dilys y gellir dweyd heb betruso, mai ffrwythau toreithiog dilynol i'r blodau hyny oedd y diwygiad nerthol a fu yma yn fuan ar ol ei ymadawiad; ac y mae yr eglwys hyd heddyw yn parhau i fod yn llawen fam plant, ac arwyddion o foddlonrwydd Iôr ar ei hymdrechiadau.

"Yr oedd Mr. W. yn llawn o ysbryd yr hen ddiwygwyr: gwrthsafai bob math o gadwynau gorthrwm, yn wladol a chrefyddol. Gwyddom yn dda fod llawer o'r ysbryd hwn ynddo trwy ei oes, ond wedi dyfod yma bu yn ddiwygiwr mwy cyflawn nag erioed: torodd trwy a thros yr hen ffurfioldeb a'r gwastadrwydd oeddynt fel cadwynau yn lleffetheirio crefydd yn yr eglwysi. Dangosai y mawr bwys a'r anghenrheidrwydd o fod pob aelod yn yr eglwys wrth ei waith, chwiorydd yn gystal â brodyr; torodd waith i bawb, a bu'n foddion, i raddau helaeth, i godi pawb at ei waith.

"Nid oedd ef yn cyfyngu ei ddefnyddioldeb i'r pwlpid yn unig, ond yr oedd ei holl fywyd yn pregethu, ac megys yn gyssegredig at lesâu dynion yn mhob man: tanbeidiai Cristionogaeth yn ei holl gyfeillachau; seiniai gras yn ei eiriau, a phelydrai efengyl yn ei wedd. Yr oedd ei fywyd santaidd, a'i ysbryd hynaws, yn ennill iddo barch a chariad oddiwrth y rhai mwyaf anystyriol; ac effeithiodd trwy ei ymddyddanion personol er llesâd tragywyddol i lawer o eneidiau.

"Sefydlodd a chefnogodd amrywiol o gymdeithasau daionus, y rhai sydd etto yn flodeuog a llwyddiannus yn ein plith; a thra y byddo y rhai hyn ar draed, byddant yn ddysglaer gof-golofnau o lafur, ymdrech, a doethineb yr hybarch Mr. WILLIAMS. Mynych goffeir ei enw gyda theimladau hiraethlon, a dagrau tryloywon, yn nghymdeithas y Mamau hyd heddyw, yr hon gymdeithas a sefydlodd ac a bleidiodd efe; yr hon hefyd sydd wedi bod o fendith fawr, ac sydd hefyd a'i heffeithiau daionus yn amlwg mewn llawer o deuluoedd. Felly, nid yn unig y mae ei ôl ef ar yr eglwysi, ond hefyd yn nhai ac anneddau ugeiniau o Gymry Llynlleifiad.

Sefydlodd hefyd gymdeithas y Merched Ieuainc, yr hon sydd etto yn parhau yn flodeuog, gweithgar, defnyddiol iawn. Annogai ef y merched ieuainc i fywiogrwydd a ffyddlondeb, ac y mae ôl ei gynghorion i'w weled ar y gymdeithas, ac yn cael eu cadw mewn ymarferiad yn ymddygiadau ac ymdrechiadau ei haelodau hyd heddyw; ïe, dylaswn ddywedyd hefyd yn eu gweddiau taerion, a'u dagrau. Diau y gellir edrych ar y cymdeithasau hyn fel rhyw gynnorthwyyddion (auxiliaries) neillduol i'r eglwysi.

"Efe a sefydlodd hefyd gymdeithas y Dynion Ieuainc. Ar hon hefyd y mae argraffiadau amlwg o'i gynghorion a'i gyfarwyddiadau tadol, y rhai ni ellir yn hawdd eu dileu o feddyliau blodau y cynnulleidfaoedd.

"Pleidiai sobrwydd a dirwest yn wresog a chadarn, etto'n foneddigaidd, ac yn deilwng o hono ei hunan. Yr oedd ei holl ymresymiadau yn hynaws ac yn ddengar, heb gablu neb. Yr oedd tynerwch ei feddwl, haelwychder ei farn am, a'i ymddygiadau tuag at y rhai nad oeddynt yn hollol o'r un farn ag ef, yn rhagori ar bawb a welais i erioed; llwyddodd felly er ennill llawer iawn o feddwon a diotwyr i dir sobrwydd, a llawer hefyd i roi cam yn mhellach yn mlaen, sef i dir crefydd a duwioldeb. Mewn gair, nid oes un sefydliad, na changen o grefydd yn ein plith, fel enwad o Annibynwyr Cymreig yn y dref hon, nad oes ei ôl ef arnynt oll, er eu gwellhad a'u cadarnhad. Rhedai ei ysbryd ef trwy bobpeth y rhoddai ei law arno.

"Mae ëangder a chyssondeb ei olygiadau duwinyddol, nefolrwydd awenyddawl ei ehediadau, tanbeidrwydd a gwreiddioldeb ei ddrychfeddyliau, &c., yn bethau mor adnabyddus, fel nad oes eisiau i mi ddweyd dim am danynt yn y llythyr hwn.

"Yr oedd yn rhagori hefyd fel athronydd ar bawb a adwaenais i erioed. Adwaenai ddynion o ran eu tueddiadau a'u hegwyddorion yn fuan iawn; a dewisai ei brif gyfeillion o ddynion, nid wrth eu siarad a'u tafodau teg, ond dynion o egwyddorion cywir, a sefydlogrwydd meddwl; yn rhai wedi profi eu hunain felly yn y tywydd, a than y croesau. Nid ymddiriedai un amser i ddynion poethlyd, y rhai a redent mewn sel benboeth o flaen pob gwynt.

"Yr oedd fel pe buasai wedi cyrhaedd adnabyddiaeth berffaith o natur trwyddi oll. Yr oedd ei gwmni a'i gyfeillach bob amser i mi yn werthfawr iawn, ac yn llawn o addysg ac adeiladaeth. Pob tro yr eisteddwn yn ei gwmni, byddai fy meddwl yn cael ei eangu, a'm hysbryd ei loni: ni chodais o'i gyfeillach erioed, heb achos i farnu fy mod wedi cael rhyw adeiladaeth. Ymddangosai ef bob amser nid fel un am ragori ar bawb arall, ond am ddysgu ereill i ragori. Yr wyf yn credu mai llawenydd ei galon fuasai fod ei frodyr oll yn well pregethwyr nag ef ei hun. Byddai yn llawenhau yn fawr pan welai arall yn rhagori arno mewn unrhyw ddawn neu dalent; cefnogai hyny mor dadol gyda'r sirioldeb mwyaf.

"Wedi cyffwrdd â'r tant hwn, sef fy nghyfeillachau personol gydag ef, nid wyf yn gwybod pa beth i ddweyd, na pha fodd i dewi. Colled fawr i mi oedd ei ymadawiad; yr wyf yn teimlo felly, a diau y teimlaf yn hir. Gellir dweyd yn eofn, fod y Dywysogaeth wedi cael colled ar ei ol ef; colled a deimlir yn hir yn yr holl eglwysi cynnulleidfaol; ond colled fwy yn yr eglwysi oedd dan ei ofal neillduol. Teimlir y golled hon gan ein holl frodyr yn y weinidogaeth; ond, o bawb, fel person unigol, (a rhoi ei anwyl a'i serchog blant yn eithriad,) yr wyf yn gorfod credu mai y fi a gafodd y golled fwyaf. Yn y golled hon collais frawd serchog a thad tyner ar unwaith—athraw a hyfforddwr tirion a doethïe, plaid a diffynwr ffyddlon a thrwyadl, fel y gallaf ddwedyd

Os gellwch, rhoddwch mewn rhi'—y cwynion
Wna cannoedd o'i golli :
Ni ddichon fod modd ichwi
Allu dweyd fy ngholled i.

"Am y tair blynedd gyntaf o'm gweinidogaeth yma, cefais y fraint a'r anrhydedd o gyd-lafurio â'r serchog gyfaill a ffyddlon frawd, Mr. Breese. Ei ymadawiad ef i Gaerfyrddin fu'n ergyd drom i'm teimladau, ac yr wyf yn teimlo y golled hòno hyd heddyw; collais y pryd hyny frawd a chyfaill caredig iawn. Am yn agos i ddwy flynedd wedi hyny, bu'm yma yn amddifad mewn ystyriaeth; dim ond ymweliadau brodyr dyeithrol yn eu tro. Gyda fy mod yn dechreu eu hadwaen, byddent yn ymadael, a thrwy hyny ail waedu y clwyf am ymadawiad Mr. Breese.

"Y tair blynedd ganlynol bu yr hybarch dad, Mr. W., gyda fi; a gallaf ddweyd ei fod ef a Mr. B. wedi bod o gymhorth a lles mawr i mi, fel nas gallaf byth eu hanghofio.

"Yr oedd ymadawiad Mr. W. yn fwy annyoddefol, ac yn taro'n drymach yn un peth, am fod effeithiau ymadawiad Mr. B. wedi tyneru y teimlad, yn fwy parod i dderbyn argraff ddyfnach, felly yr oedd fel yn ail-waedu hen archoll; peth arall, am mai MARW a wnaeth Mr. W. Cefais y fraint o weled Mr. B. droion ar ol ei ymadawiad, a gobeithio y caf etto; ac y mae modd cael gohebu trwy lythyrau gydag ef; ond Mr. W., "Teithiodd lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwel," ac nid oes fodd cael llythyr o'i hanes ef na'r wlad y preswylia: "Ni ddychwel efe ataf fi, ond myfi a af ato ef." Ein cysur, yn ngwyneb yr holl ergydion yw, fod Pen yr eglwys yn fyw, ac y medr efe ofalu am Sïon, a gwisgo rhyw Eliseus â mantell yr Elias hwn etto. Bydded i hyn ein cynhyrfu i fwy o ymdrech a ffyddlondeb yn ngwinllan Crist. A pharotoer ni i gael ail-gyfarfod â'n cyfeillion etto mewn gwlad na bydd raid ymadael mwy.

Ydwyf, &c.,  "THOMAS PIERCE."

Er cryfed y darluniad a rydd ein parchedig frawd, yn y llythyr uchod, am ei "waith a llafur ei gariad," yn ystod tymhor byr ei weinidogaeth yn Llynlleifiad, diau y tystia'r eglwys yno, ar ol ei ddarllen, nad oes ynddo ddim uwchlaw'r gwirionedd, ond yn hytrach na fynegwyd y cwbl a allesid.

Er ei fod, bellach, yn tynu tua thriugain oed, yr oedd ei ysbryd mor fywiog, a'i alluoedd mor gryfion; ei feddyliau mor dreiddiol, a'i awyddfryd gweithgar mor awchus, ag y buasent erioed. Adnewyddai ei ieuenctyd fel yr eryr;' ond er hyny yr oedd arwyddion dadfeiliad i'w gweled yn lled amlwg yn ei babell—ei ddyn oddiallan. Yr oedd ei wynebpryd yn graddol gulhau, a'i ysgwyddau yn araf grymu yn barhaus wedi marwolaeth Mrs. Williams, yr hyn a brofai fod rhyw estron yn' dystaw fwyta ei gryfder, a bod ei gyfansoddiad wedi dechreu rhoddi ffordd. Edrychai ei frodyr a'i gyfeillion lliosog ar yr arwyddion hyn gyda dwys bryder.

Yn nechreu Gwanwyn 1838, cychwynodd ar ddiwrnod anghyffredin o oer a drychinllyd, i fyned i Heol Mostyn, i gyfarfod Dirwestol; safodd yn hir iawn yn y gwynt a'r gwlaw ar y Pier Head, i ddysgwyl i'r agerdd-long hwylio; rhoddwyd ar ddeall o'r diwedd ei bod yn rhoddi i fynu fyned y diwrnod hwnw, o herwydd y tywydd; ond ni roddai WILLIAMS i fynu; aeth i ymofyn am y cerbyd oedd ar gychwyn i Gaernarfon. Rhedodd y rhan fwyaf o'r ffordd o'r Pier Head i swyddfa'r cerbyd, nes oedd yn chwys drosto, a chychwynodd yn union yn y cyflwr hwnw, yn wlyb at y croen gan y gwlaw, ac yn wlyb o chwys hefyd, a daeth gyda'r cerbyd i Dreffynnon, a llettyodd yno y noson hòno. Cyn cyrhaeddyd yno, teimlai iasau yn ymaflyd ynddo, a fferdod a chrynfa drwyddo oll. Nid oedd nemawr well drannoeth, ond daeth i Mostyn, a chymmerodd ei ran yn ngwaith y cyfarfod, ond gydag anhawsdra mawr y gallai sefyll i fynu. Y dydd canlynol, ymddangosai ryw faint yn well, a cherddodd gyda'i gyfeillion, Rees, Dinbych; Pugh, Mostyn; a Hughes, Treffynnon, i Bagillt, i gynnal cyfarfod Dirwestol yno; daliodd yn lled ganolig drwy y dydd, ond cafodd noswaith led galed; y boreu drannoeth, ymddangosai yn isel ac yn wael iawn. Dychwelodd y boreu hwnw yn ol i Lynlleifiad, ac mor gynted ag y cyrhaeddodd adref, aeth i'r gwely yn wael iawn, lle y bu yn gorwedd am rai wythnosau, a phob tebygoliaeth, am hir ysbaid, na buasai yn cyfodi drachefn.

Ei afiechyd, fel y sylwyd, oedd anwyd trwm. Yr oedd yn gwisgo ymaith gyda phrysurdeb anarferol. Methai y meddygon yn lân yn eu cais i'w dwymno a'i chwysu, ac nid oedd ganddynt ond gobaith gwan iawn am ei fywyd; ond, pa fodd bynag, llwyddwyd i'w chwysu o'r diwedd, a dechreuodd loni a chryfhau ychydig yn raddol, ond yr oedd peswch caled yn parhau arno, ac yn gwrthod gollwng ei afael o hono, er pob ymdrech.

Wedi iddo ymgefnogi ychydig, a dyfod yn ddigon galluog i'r daith, cynghorai ei feddyg ef i ddyfod drosodd i Gymru, fel y moddion mwyaf effeithiol i'w gryfhâu, a chael buddugoliaeth ar ei elyn—y peswch. Mor fuan ag y teimlai ei hun yn alluog i'r daith, daeth trosodd i dŷ y caredigion hoffus hyny i weision ac achos Crist, Mr. John, a Miss S. Jones, o Nanerch, swydd Fflint, lle y cafodd dderbyniad serchoglawn, ac ymgeledd dirion a gofalus am oddeutu tair wythnos. Teimlai ei hun yn gwellhau i raddau tra y bu yno, a meddyliodd y gwnaethai marchogaeth les iddo; ac wedi benthyca ceffyl i'r pwrpas, cymmerodd daith am bythefnos drwy ranau o sir Gaernarfon a Meirionydd, a dychwelodd yn ol wedi sirioli a chryfhau i raddau; ond yr oedd ei beswch o hyd yn parhau, fel yn benderfynol na chawsai na chyfferi meddygol, nac awyr hen wlad anwyl ei enedigaeth a'i weinidogaeth, beri iddo ollwng ei afael o'i ysglyfaeth.

Cyn cychwyn oddicartref i'r daith hon, ysgrifenodd at ei fab ieuengaf, yr hwn oedd y pryd hyny yn Llanbrynmair. Y pigion canlynol o'r llythyr hwnw a ddangosant agwedd a theimlad ei feddwl ei gystudd:yn

"Llynlleifiad, Ebrill 16, 1838.

"ANWYL BLENTYN,—Y mae yn ddrwg genyf fod eich teimladau mor ofidus o herwydd fy afiechyd; yr oeddwn yn ofni hyny o herwydd bod cymmaint o straeon yn cael eu taenu ar hyd y wlad. Mi a fum yn sal iawn, ond yr oedd Dr. Blackburn yn lled hyderus yr amser gwaethaf a fu arnaf; dywedai fod y lungs yn iach.

Yr wyf yn dyfod yn well bob dydd yn awr—yn pesychu llai, ac yn dechreu teimlo gwell archwaeth at fy mwyd, yr hwn hefyd sydd yn cynnyddu bob dydd.

Y mae y Dr. yn fy nghynghori i fyned i'r wlad am dair wythnos neu fis mor gynted ag y delo y tywydd yn ffafriol. Yr wyf yn bwriadu myned i Nanerch at Miss Jones, bydd yno le cysurus iawn i mi.

"Yr wyf yn gobeithio, ac yn gweddio, ar fod yr afiechyd hwn o fendith fawr i mi, i'm dwyn i fyw yn nes at Dduw, ac i bregethu Crist yn well nag y darfu i mi erioed.

"Yr oeddwn yn teimlo awydd i fyw ychydig yn hŵy er mwyn fy mhlant. Y mae llawer iawn o weddïau wedi, ac yn cael eu hoffrymu i'r nef ar fy rhan. * * * * Anwyl blentyn, gobeithiaf eich bod yn ymdrechu cynnyddu a myned rhagoch mewn dysg, ond yn enwedig mewn crefydd; crefydd yw sylfaen bywyd defnyddiol. Ffarwel, anwyl William.

Ydwyf, eich cariadlawn   "DAD."

Erbyn iddo ddychwelyd adref i Lynlleifiad, nid oedd ofnau ei gyfeillion am dano wedi cael eu cwbl symud, na'u gobeithion am ei adferiad yn cael seiliau cryfion i fod yn hyderus, oddiwrth ei ymddangosiad, er fod cryn gyfnewidiad er gwell wedi cymmeryd lle. Ni chafodd aros gartref ond ychydig drachefn; cynghorodd ei feddyg ef i gymmeryd mordaith; a phenderfynodd fyned i Abertawy. Dygwyddodd fod cadben llong o Abertawy ag oedd yn adnabyddus iddo yn Llynlleifiad y pryd hwnw, yr hwn a gynnygiai ei gymmeryd gydag ef, ac felly y bu. Bu orfod i'r llestr, o herwydd gwynt gwrthwynebus, droi i borthladd Caergybi; a chafodd felly gyfleusdra am y tro olaf i dalu ymweliad â'i anwyl gyfeillion yn y dref hòno. Cawsant eu cadw yno am dridiau neu bedwar. Sylwai y Parch. W. Griffiths ei fod mor fywiog a siriol ei ysbryd ag y gwelsai ef erioed; a bod ei gyfeillach a'i ymddyddanion yn hynod fuddiol ac adeiladol.

"Yr wyf yn hyderu (meddai mewn llythyr ataf o Gaergybi) y gwna y fordaith lawer o les i mi. Yr wyf yn ceisio meddwl fy mod yn pesychu llai yn barod. Taflodd y gwynt ni yma, ac yr oedd yn dda genyf gael ymweled â'r cyfeillion yn y lle hwn. Bwriadwn hwylio y fory," &c.

Wedi cyrhaeddyd Abertawy, cafodd wahoddiad a derbyniad caredig i letya gan Mr. a Mrs. Hughes, Yscety Isaf, gerllaw y dref hono. Y goffadwriaeth ganlynol am dano, tra yn lletya yno, a dderbyniodd yr ysgrifenydd mewn llythyr oddiwrth Mr. Thomas Nicolas, pregethwr ieuanc gobeithiol perthynol i eglwys Trefgarn, swydd Benfro, yr hwn sydd yn bresennol yn fyfyriwr yn Athrofa Windsor, Llynlleifiad, dan arolygiaeth y Parch. Mr. Brown:

"Trefgarn, Ion. 4, 1841.

"ANWYL SYR,—Deallaf eich bod wrth y gorchwyl o gasglu Cofiant am y diweddar Barch. Mr. WILLIAMS. Gwelais ar amlen y DYSGEDYDD ddymuniad oddiwrthych ar i bawb a wyddent rywbeth o bwys am dano, ei anfon atoch. Efallai y bydd yr hanesyn byr a ganlyn o werth genych.

"Bûm yn ddiweddar drwy ran o swydd Forganwg; bûm yn lletya un noson yn Yscety Isaf—y man y lletyai Mr. WILLIAMS, pan y bu drosodd am ei iechyd, a lle y mae ei goffawdwriaeth yn anwyl a bendigedig. Dywedai Mrs. Hughes, fod ei ymddygiad, tra y bu yno, yn wir ddelw o symledd, gostyngeiddrwydd, a duwiolfrydigrwydd. Ofnai yn fawr rhag bod o ddim trafferth nac anghyfleusdra i neb; byddai yn hynod ddiolchgar am y gymmwynas leiaf; ac ymdrechai wneuthur rhyw ad-daliad am bob un. Ymddangosai yn dra awyddus am adferiad iechyd, fel y gallai wneyd mwy o ddaioni; cwynai yn aml iawn nad oedd wedi gwneuthur nemawr iawn o ddaioni yn ei oes. 'Yr wyf yn penderfynu, yn nghymhorth y nef, (meddai,) os caf wella, i bregethu yn well, a gweithio mwy nag erioed.'

"Daliodd Mrs. Hughes sylw arno un boreu, ei fod yn edrych yn hynod o bruddaidd ac isel ei feddwl; a chan dybied mai gwaeledd ei iechyd, ac nad oedd yn gwellhau cystal â'i ddysgwyliad, oedd yr achos, hi a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn rhyfeddu atoch, Mr. Williams, fod gwr o'ch bath chwi yn gofidio wrth feddwl am farw, mwy nâ phe byddech yn meddwl am fyw.' Taflodd olwg dreiddiol arni, ond methodd ateb gair; crymodd ei ben ychydig, a sylwai Mrs. Hughes fod y dagrau yn llifo ar hyd ei ruddiau: pan welodd hithau hyny, gadawodd ef, gan fyned i barotoi boreufwyd. Wedi i'r teulu ymwasgaru, galwodd arni, ac wedi iddi eistedd gerllaw iddo, dywedai, Dywedasoch gyneu, eich bod yn rhyfeddu ataf fi, fy mod yn drwm fy nghalon gyda golwg ar farw, yn awr mi a ddywedaf i chwi, y mae arnaf fawr awydd byw i wneyd llawer mwy dros Grist nag a wnaethum erioed. O! nid wyf wedi gwneuthur dim! A pheth arall, dymunwn fyw nes gweled fy mhlant wedi tyfu i fynu i allu gofalu am danynt eu hunain.'

Yr wyf yn meddwl mai drannoeth wedi'r ymddyddan uchod yr aeth Mr. WILLIAMS i Abertawy heb feddwl llai na dychwelyd yn ol i'r Yscety eilwaith, ond cafodd lythyr yn y dref, oddiwrth ei deulu gartref, yn ei hysbysu fod ei fab hynaf wedi dychwelyd adref o'r Coleg i dalu ymweliad â'i deulu, penderfynodd i fyned adref y diwrnod hwnw gyda'r agerdd-long, 'rhag' ebe efe, 'na chaf gyfle i'w weled ef byth mwy.' Felly ymadawodd â Morganwg. Yr eiddoch, &c.,

"THOMAS NICOLAS."

Cafodd gryn lawer o les yn y daith hon, yr oedd ryw gymmaint yn gryfach erbyn dychwelyd adref; ond dilynodd ei hen beswch ef bob cam o'r daith yn mlaen ac yn ol; methodd awyr y môr na'r mynydd a chael ganddo ollwng ei afaelion o hono.

Penderfynodd gynnyg pregethu unwaith drachefn, wedi cyrhaedd adref; nid wyf yn gwybod ddarfod iddo anturio pregethu er dechreuad ei afiechyd cyn y Sabboth cyntaf wedi iddo ddychwelyd o'r Deheudir; yr oedd dan gaeth waharddiad ei feddyg i beidio; yr oedd yr iau hon yn gorwedd yn anesmwyth iawn ar ei war; yr oedd fel "llô heb ei gynefino" â hi, a mynych teimlai awydd i ddryllio y rhwymau, a thaflu y rheffynau hyn oddiwrtho. Cyn ei gychwyn i'r Deheudir, ysgrifenai ataf, a dywedai yn ei lythyr, "Yr wyf gryn lawer yn well, ac yn meddwl y gallwn bregethu, ond dywed y Doctor nad gwiw i mi sôn—I dont like that at all." Dro arall mewn ymddyddan, dywedai, "Byddai yn dda genyf gael gwybod barn onest y meddygon am danaf; os ydynt yn meddwl na allaf wellhau, mi a bregethwn fy ngoreu tra daliai yr ychydig nerth sydd genyf—y mae yn garchar mawr i mi fod fel hyn.' Pa fodd bynag, y Sabboth crybwylledig, tòrodd bob cyfraith ag oedd ar y ffordd, ni allai ymattal yn hwy. Yr oedd cenadwri y cymmod "yn ei galon, yn llosgi megys tân, wedi ei chau o fewn ei esgyrn, blinasai yn ymattal, ac ni allai beidio." Ei destun y nos Sabboth hwnw, ydoedd Act. 24, 25, "Dos ymaith ar hyn o amser, a phan gaffwyf amser cyfaddas mi a alwaf am danat." Yr oedd rhyw ddifrifolder a dwysedd anghyffredinol yn ei ddull y waith hon, a rhyw ddylanwad anarferol gyda'r genadwri. Yr hen dân a fuasai yn llosgi cyhyd yn ei galon, yn rhedeg allan fel hylif poethlym, nes oedd y calonau caletaf yn dadmer yn ei wres. Diwreiddiodd corwynt ei weinidogaeth y noson hòno lawer o hen dderi cedyrn ag oeddynt wedi dal llawer rhuthr nerthol cyn hyny; a diau y gellir edrych ar yr oedfa hono, fel rhagredegydd i'r diwygiad grymus a dòrodd ar eglwys a chynnulleidfa y Tabernacl yn lled fuan ar ei hol.

Wedi unwaith ail ymaflyd yn ei waith, nid hawdd fuasai cael ganddo ei ollwng eilwaith; ac felly aeth yn mlaen gan bregethu, weithiau unwaith, ac weithiau ddwywaith bob Sabboth am gryn dymmor, ac nid oedd yn teimlo bod pregethu yn gwneuthur nemawr ddim niwed iddo, ac yr oedd yn llawen dros ben o herwydd hyny. Fel hyn yr oedd yr haul megys yn dechreu ad-dywynu ar ei babell, ei obaith ei hun, a gobeithion ei gyfeillion lluosog yn dechreu cryfhau am estyniad ei oes dros rai blynyddau yn mhellach.

Cynghorwyd ef drachefn i fyned cyn diwedd y flwyddyn hon i ffynnonau Llandrindod, a hwyliodd tuag yno gyda'i ferch hynaf; yr oedd hithau hefyd yn bur wael ei hiechyd, profodd y ddau lesâd mawr oddiwrth y dyfroedd, a dychwelasant adref wedi cryfhâu a sirioli yn dda.

Daliodd yn lled lew drwy y gauaf dilynol, pregethai ddwywaith yn mron bob Sabboth. Ond nid oedd y seibiant hwn ondo fyr barhad; oblegid ar noson y rhyferthwy mawr, y pummed o Ionawr, (fel y crybwyllwyd o'r blaen) taflodd y rhuthrwynt y ffumer, yr hon a ddisgynodd ar dô y tŷ, gan ei ddryllio, ac ymdywallt i'r llofft yn garnedd fawr ar wely yno, yn yr hwn, drwy drugaredd, nid oedd neb yn cysgu y noswaith hono. Parodd hyn ddychryn nid bychan i'r teulu, cyfodasant o'u gwelyau, a chafodd y ferch hynaf anwyd trwm, yr hwn, yn nghyd â'r dychryn, a'i daliodd pan oedd eisioes mewn cyflwr o fawr wendid, ac a fu yn foddion i brysuro o leiaf ei marwolaeth. O'r dydd hwnw allan, parhaodd i nychu a gwaelu hyd ei thrancedigaeth. Yr oedd ef yn neillduol o hoff o'i ferch hon, ac yn wir, yr oedd pawb a'i hadwaenent yn ei mawr hoffi, o herwydd ei symledd duwiolfrydig, ei challineb dymunol, ei thymher hynaws, a'i hymddygiad caredig a llednais. Rhaid fod edrych ar y fath flodeuyn prydferth yn gwywo gerbron ei lygaid o ddydd i ddydd, yn ergyd trwm iawn i'w deimladau; gweled yr hon oedd dymuniant ei lygaid, ag oedd erbyn hyn wedi dyfod yn alluog i gymmeryd gofal llywodraeth amgylchiadau ei dŷ, a'r hon y gobeithiasai y cawsai weinyddiaeth ei llaw dyner yn nyddiau henaint a nychdod; ei gweled yn prysuro ymaith o'i flaen, ar ol ei mham, ac yn arwyddo y buasai iddi yn fuan ei adael ef a'r plant ieuengaf yn amddifaid wylofus ar ei hol, oedd raid fod yn chwerwder chwerw iddo. Ond er llymed oedd y prawf hwn iddo yn ei wendid, ymgynnaliodd dano uwchlaw pob dysgwyliad, fel y cafwyd achlysur i sylwi o'r blaen. Llewyrchodd ei nodwedd fel Cristion ymroddgar, fel plentyn ymostyngar i ewyllys ei Dad nefol, yn dra rhagorol yn ystod amser y profiad tanllyd hwn. Nid ymroddiad costogaidd ysbryd ystyfnig, yr hwn a "chwanega ddig," ond "ni waedda," pan groeser ei ewyllys a'i deimlad, oedd yr eiddo ef, ac nid un tawel yn unig ydoedd, ond un siriol ewyllysgar, parod a llawen, ymddangosai yn hollol megys pe na buasai ganddo un ewyllys na theimlad o'r eiddo ei hun yn yr achos. Pregethasai lawer ar y rhinwedd Cristionogol hwn, ac yn awr nerthwyd ef yn rhyfedd i osod esiampl ragorol o honi. Mynych y dywedai wrth ei chyflwyno mewn gweddi, "Yr ydym yn ei gadael yn dy law di, Arglwydd, a dyna y lle goreu iddi, y mae yn well ac yn ddiogelach yno, nag yn un man arall; cymmer hi, a chymmer dy ffordd gyda hi."

Mawr oedd gobaith a dysgwyliad ei gyfeillion, buasai gwyneb blwyddyn tymmor hâf y fl. 1839, yn adnewyddiad iddo ef a'i anwyl ferch; ond nychu, a gwaelu yn brysur oedd hi; ac adnewyddu ei nerth yn hytrach yr oedd ei beswch a'i anhwyldeb yntau. Pa fodd bynag, parhaodd i fyned yn mlaen yn ei lafur gweinidogaethol, ac i dalu ymweliadau achlysurol â'i frodyr a'r eglwysi yn y Dywysogaeth, hyd ddiwedd yr hâf hwnw.

Tua diwedd Awst y flwyddyn ddywededig, dywedodd y meddyg wrtho fod yn rhaid iddo adael Llynlleifiad, a dychwelyd yn ol i Gymru, onidê, nad oedd dim gobaith y byddai efe nac Elizabeth fyw ond ychydig amser; ac mai dyna yr unig foddion tebygol i'w gwellhau. Yr oedd ei afael yn yr eglwys a'r gynnulleidfa yn y Tabernacl, yn dyn iawn; a'u gafaelion hwythau ynddo yntau yn dynach, dỳnach, bob dydd: ond yn awr, rhaid oedd iddynt ollwng eu gilydd, er mor anhawdd; gwelai ef, a gwelai yr eglwys mai dyna oedd trefn y nef, a llwybr dyledswydd; ac felly yn fuan wedi hyn, rhoddodd ofal gweinidogaethol yr eglwys i fynu, wedi tair blynedd o lafur diflin a llwyddiannus, ond hyny o attaliad a barasai y cystudd arno.

Pan ddeallasant eglwysi y Wern a'r Rhos, ei fod dan orfod i symud yn ol i Gymru, cytunasant, er eu mawr anrhydedd, i anfon gwahoddiad caredig iddo i ddychwelyd yn ol atynt i dreulio gweddill ei ddyddiau gyda'r hen braidd y buasai yn eu ffyddlon fugeilio flynyddau lawer; canys yr oeddynt heb weinidog er pan ymadawsai Mr. WILLIAMS. Derbyniodd eu gwahoddiad, daeth drosodd, a chymmerodd dŷ, y nesaf i'r hwn y buasai byw ynddo o'r blaen cyn symud i Lynlleifiad.

Nos Sabboth, Hydref 20, 1839, traddododd ei bregeth ymadawol yn Llynlleifiad, i gynnulleidfa luosog a galarus. Yr oedd, yn groes i bob dysgwyliad, yn hynod o fywiog a hwylus ei ysbryd; pregethodd yn mhell dros awr gyda rhwyddineb anghyffredin; yr oedd golwg effeithiol ar y gynnulleidfa, y dagrau yn treiglo dros y gwenau boddhaol a eisteddent ar eu gwynebau. Haws yn ddiau fyddai dychymmygu teimladau y fath gynnulleidfa ar y fath achlysur, nag a fyddai eu darlunio. Diau fod yno lawer yn ei wrando dan yr argraffiad na chaent weled ei wyneb, na chlywed ei lais, ond odid, byth wedi hyny; a buasai yn hawdd ganddynt syrthio ar ei wddf, a'i gusanu, ac wylo yn dost, o herwydd hyny, fel y gwnai yr Ephesiaid gynt wrth ymadael â Phaul.

Rhoddasom o'r blaen sylwedd ei bregeth ymadawol ag eglwysi a chynnulleidfaoedd y Wern, a'r Rhos, rhoddwn yn y fan hon etto sylwedd yr un hon â Llynlleifiad. Y testun oedd

EPHES. IV. 10—13.

"Yr hwn a ddisgynodd, yw yr hwn hefyd a esgynodd," &c.

I. Sefyllfa bresennol yr eglwys :—Y mae mewn cyflwr o wasgariad. 1. Mae yn wasgaredig iawn mewn ystyr ddaearyddol (geographical); a rhaid iddi fod felly tra yn y byd hwn. Y mae y saint yn wasgaredig ar hyd wyneb y ddaear,―ychydig yma, ac ychydig acw.

2. Mewn ystyr Ragluniaethol. Mae llawer yn gorfod gadael y cyfeillion crefyddol yr unasant gyntaf â hwy, a myned i blith dyeithriaid. Mae mawr wahaniaeth yn amgylchiadau bydol y naill a'r llall o honynt.

3. Mewn ystyr sectaraidd. Y mae y gwahaniad hwn yn llawer mwy nag y dylai fod.

II. Sefyllfa bresennol Crist,—" Goruwch yr holl nefoedd." Y mae yn y sefyllfa fwyaf manteisiol i gynnull yr eglwys at ei gilydd, a'i gwneud yn un.

1. Y mae mewn lle ag y gall oruwch-reoli holl amgylchiadau rhagluniaeth i ateb y dyben hwn.

2. Y mae yr holl ddylanwadau Dwyfol yn ei feddiant, i'r dyben i gymhwyso a gosod yr amrywiol swyddwyr yn yr eglwys, ag y mae eu gwasanaeth yn anghenrheidiol er perffeithio y saint,—" Ac efe a roddes rai yn apostolion, &c.—i berffeithio y saint—hyd oni ymgyfarfyddom oll," &c.

III, Sefyllfa yr eglwys yn y byd a ddaw.

1. Cyferfydd yr holl saint â'u gilydd yn yr un man, er mor wasgaredig ydynt yn bresennol.

2. Cyfarfyddant mewn perffaith undeb ffydd.

3. Mewn perffeithrwydd gwybodaeth.

4. Yn berffaith rydd oddiwrth bechod a gofid.

5. Nid ymadawant â'u gilydd byth drachefn.

Ystyriwn, Beth a gawn ni wneyd mewn trefn i ymbarotoi erbyn y cyfarfod mawr hwnw?

1. Cyrchu yn mlaen gymmaint ag a allom, myned rhagom at berffeithrwydd.

2. Helpu ein gilydd yn mhob modd galluadwy i ni.

3. Ymdrechu ein goreu i gael ereill gyda ni.

4. Cydweithredu â'n gilydd yn mhob peth y gallwn gyduno yn ei gylch—Cyfarfod wrth yr un orsedd, yfed yr un ysbryd, ymolchi yn yr un ffynnon, a chymmeryd ein cyfarwyddo gan yr un seren.

5. Pa beth a gaf i'w ddywedyd wrth y rhai nad ydyw yn debyg y cawn eu cyfarfod yn y nefoedd!

Symudodd yn nghorff yr wythnos hono, gyda'i deulu, i'r tŷ crybwylledig gerllaw Gwrecsham; a'r Sabboth canlynol ail-ymaflodd yn y weinidogaeth yn mhlith ei hen braidd."

Ymddangosai yn mhen ychydig wythnosau ar ol ei symudiad o Lynlleifiad, ei fod yn gwellhau o ddifrif; dywedai ei fod yn teimlo ei hun yn cryfhau bob dydd, a'i fod yn bur agos mor gryfed ag ydoedd cyn ei gystudd; ond yr oedd ei anwyl Elizabeth yn gwanhau yn brysur; ac Och! nid oedd ei welliant yntau ond megys tywyniad haul am fomentyn rhwng dau gwmwl dudew, ar ddiwrnod cawodog yn mis Hydref.

Yr oedd diwygiad nerthol wedi tòri allan yn y Wern ychydig amser cyn ei symudiad yno o Lynlleifiad, ac yr oedd hyny yn rhoddi hyfrydwch dirfawr i'w feddwl. Gwahoddodd yr ysgrifenydd, a'r brawd Jones o Ruthin, ato i gynnal cyfarfod yno yn fuan wedi ei ddyfodiad atynt, a dyna y cyfarfod diweddaf y bu ef ynddo ar y ddaear, er iddo bregethu rai gweithiau wedi hyny. Yr oedd ei weddiau a' 'i anerchion yn hynod ddwysion a gafaelgar y cyfarfod hwn. Yr oedd ei deimladau yn methu dal yn y gymdeithas eglwysig ar ol y moddion cyhoeddus yr hwyr olaf, wrth anerch y dychweledigion ieuainc. "Yr wyf yn gweled yma lawer o wynebau," meddai, "na feddyliais y cawswn eu gweled byth yn eglwys Dduw, rhai o honoch ag y bum yn amcanu at eich dychweliad flynyddau lawer, ac yn methu; treuliais hyny o ddoethineb a dawn a feddwn i geisio cyrhaedd ac ennill eich calonau, ond yn ofer; gorfu i mi eich gadael yn annychweledig; ond cefais fy arbed a'm dychwelyd yn ol i'ch gweled yn ddychweledigion yr Arglwydd, gobeithio. Y mae fel breuddwyd genyf weled rhai o honoch. O mor ddiolchgar y dymunwn fy mod am gael byw i weled y pethau a welaf heno." Yr oedd hyn, hyd y gallaf gofio, tua diwedd Tachwedd.

Yr oedd yn dal i wella yn ddymunol hyd Rhagfyr yr 20fed: yn hwyr y dydd hwnw, yr oedd yn siriol ymddyddan gyda'i gyfaill a'i hen gymmydog, y Parch. T. Jones, gynt o Langollen, yn awr o Minsterley, yr hwn a ddaethai i ymweled ag ef, pan yn ddisymwth, ar ei waith yn pesychu, torodd llestr gwaed o'i fewn, a rhedodd cryn lonaid cwpan ffwrdd oddiwrtho. Dygwyddodd yn ffodus fod y meddyg, Dr. Lewis o Wrecsham, yn y tŷ ar y pryd, yn talu ymweliad â'i anwyl Elizabeth, yr hon erbyn hyn ydoedd yn wael iawn, ac yn cadw ei gwely. Dododd y meddyg ef yn ei wely, gyda gorchymyn iddo i ymgadw yn llonydd, i beidio na symud na siarad dim, a phethau ereill. Yr oedd y dyrnod hwn yn farwol yn ei ganlyniadau: o'r awr hòno allan ni feddyliodd am wella. Mor siomedig yw pob gobeithion daearol! Pan oedd ei obaith ef ei hun, a'r eiddo cannoedd o gyfeillion pryderus, am ei adferiad, ac estyniad o rai blynyddau yn mhellach at ei oes werthfawr a defnyddiol,—pan oedd y gobaith hwn, meddaf, yn dechreu ymagor a blodeuo, wele un awel wenwynig yn anadlu arno, nes y mae yn gwywo ac yn cwympo i'r llawr yn ddisymwth!

Adgryfhaodd ryw ychydig wedi hyn, fel y gallai ddyfod o'r gwely, ac i lawr i'r tŷ, ond nid cymmaint ag i roddi y sail leiaf i hyderu am ei welliant.

O hyn allan yr oedd ef a'i ferch, megys y sylwai wrthi un diwrnod, fel yn rhedeg am y cyntaf tua phen y daith. Cymmerwyd yr hanesyn canlynol am danynt allan o'r Dysgedydd am Mai, 1840 :—

"Ymddengys eu bod yn arfer ymddyddan â'u gilydd am farw, ac am fyned i'r nef, fel pe buasent wedi cynnefino â hyny, ac yn ymhyfrydu yn y meddwl o gael eu datod a bod gyda Christ, gan gredu mai llawer iawn gwell ydyw. Byddai Mr. WILLIAMS, pan godai y boreu, yn myned at ei gwely i edrych am dani. Ac un tro gofynai iddi,' Wel, Eliza, pa fodd yr ydych chwi heddyw?' 'Gwan iawn, fy nhad,' oedd yr ateb. Ebai yntau, Yr ydym ein dau ar y race, pwy a â gyntaf i'r pen, debygech chwi?' 'O,' meddai hithau, ‘dysgwyliaf mai myfi, fy nhad—fod genych chwi waith i'w wneuthur etto ar y ddaear.' 'Na,' ebe yntau, 'meddyliwyf fod fy ngwaith innau agos ar ben.' 'Wel,' ebe hithau, 'yr wyf yn meddwl mai myfi a â'n gyntaf.' Atebai yntau, 'Hwyrach mai felly y mae'n oreu—fy mod i ychydig yn gryfach i ddal yr ergyd.' 'Ond a ydych yn hiraethu am weled pen y daith?' eb efe drachefn. 'Ydwyf o'm calon,' oedd ei hateb. 'Paham hyny? Am y caf weled llawer o'm hen gydnabyddiaeth, a chaf weled fy mam, a mwy nâ'r cwbl, caf weled Iesu.' 'Ho,' ebe yntau, 'wel, dywedwch wrthynt fy mod innau yn dyfod.""

Yr oedd ef a hithau fel hyn yn cyd-aeddfedu yn brysur i'r bedd ac i'r nefoedd; ac yn ol rhagddysgwyliadau y ddau, y hi gyrhaeddodd ben y daith gyntaf. Yr oedd ei dyddiau olaf yn llawn tangnefedd. "Tangnefedd! Tangnefedd!" oedd ei geiriau olaf, ac felly yr aeth "i dangnefedd," ac y gorphwysodd yn ei hystafelloedd, ar yr 21ain o Chwefror, 1840, a chladdwyd hi yn mynwent capel y Wern, yn yr un bedd a'i mam, ar y 26ain o'r un mis; yn y 22ain flwyddyn o'i hoedran.

Rhaid i ni bellach ddychwelyd yn ol ato yntau, a chawn ef yn prysuro yn gyflym ar ei hol; yn gwaelu ac yn aeddfedu bob dydd—dyddiau ei filwriaeth" ar derfynu, ac nid oes ganddo bellach ond "dysgwyl am ei gyfnewidiad." Un diwrnod daeth y Parch. J. Pearce, o Wreesham, i ymweled ag ef; yr oedd newydd orphen trefnu amgylchiadau ei dŷ; gofynodd Mr. Pearce iddo, pa fodd yr ydoedd? "Yr wyf yn awr," eb efe, "wedi cwbl ddarfod â'r ddaear, dim ond y nefoedd bellach !"

Pa nesafi angeu ac i'r nefoedd yr oedd yn tynu, cynnyddai ei deimlad dros achos Crist ac eneidiau dynion yn barhaus. Yr adfywiadau grymus oeddynt yn yr eglwysi y dyddiau hyny a lanwent ei galon â llawenydd a diolchgarwch. "Yn Chwefror diweddaf," medd y Parch. B. W. Chidlaw, o'r America, "yr ymwelais ag ef, pan ar fy nhaith drwy ranau o'm gwlad enedigol, ond nid oedd gobaith am ei adferiad. Yr oedd diwygiadau mawrion yn y Wern a'r Rhos—dwy o'r cynnulleidfaoedd a fuasent gynt dan ei ofal gweinidogaethol—lluoedd yn dyfod at yr achos, ac yntau yn analluog i adael ei ystafell. Dywedodd gyda mawr deimlad, a'r nefoedd yn llon'd ei enaid, 'Dyma fi fel hen huntsman methedig, yn swn yr helfa, ond yn methu canlyn; mae fy nghalon gyda hwy, a mawr lwydd ar eu holl ymdrechiadau i achub eneidiau. 0! pe buasai yr Ysbryd yn mhlith gweinidogion ac eglwysi ugain mlynedd yn ol, buasem heddyw yn canu caniadau buddugoliaeth.'

Cynnaliwyd cyfarfod yn Rhos oddeutu pum wythnos cyn ei farwolaeth, yn yr hwn yr oedd "nerthoedd y byd a ddaw" mewn modd anghyffredinol yn deimladwy,—ugeiniau o bechaduriaid "dan gerdded ac wylo yn ymofyn y ffordd tua Sïon." Yr oedd pryder a gofal dwys ar ei feddwl yn nghylch y cyfarfod hwnw: anfonai aml genadwri yn ystod y dydd i'r cyfarfod, er annog a chymhell ei frodyr yn y weinidogaeth, a'r eglwys yn ei gwaith, i'w sicrhau, er ei fod yn absennol oddiwrthynt yn y corff, ei fod yn bresennol gyda hwynt yn yr ysbryd; ac i ddeisyf eu gweddiau drosto ef a'i blant.

Y boreu trannoeth, aeth yr ysgrifenydd, a'r brawd Jones, o Ruthin, i ymweled ag ef. Yr oedd wedi codi o'r gwely, ac yn eistedd wrth y tân yn y llofft. Daethai y Parch. W. Griffiths o Gaergybi, a Joseph Jones, ysw., drosodd o Lynlleifiad y boreu hwnw i ymweled ag ef. Nid anghofiwn byth yr olwg a gawsom arno pan aethom i'r ystafell! Pan welodd ni, cyfododd ar ei draed, a'i wyneb yn dysgleirio fel wyneb angel; tybiem fod holl alluoedd ei enaid a'i deimladau fel wedi ymgodi i'w wynebpryd; ei ddau lygad oeddynt yn gyffelyb i feini tanllyd, ac ar yr un pryd fel dwy ffynnon o ddwfr yn bwrw allan eu haberoedd gloywon, Dilynodd pob llygad yn yr ystafell siampl yr eiddo ef, ac wylasom ynghyd. fy mrodyr anwyl," eb efe, "mor dda genyf eich gweled yn dychwelyd o faes y frwydr! Cawsoch fuddugoliaeth ogoneddus ddoe! a minnau yma, yn hen filwr methedig yn swn y frwydr, ond yn methu dyfod i gymmeryd rhan ynddi. O fel y dymunaswn fod gyda chwi, ond nid felly y gwelodd fy Nhywysog yn dda: rhoddodd fi o'r neilldu, ond gwnaeth hyny yn dirion iawn, ni chymmerodd fy nghoron oddiar fy mhen, ni fwriodd fi i'r domen. O! pe buaswn yn yr ysbryd a'r teimladau yr wyf ynddynt y dyddiau hyn bump ar hugain o flynyddau yn ol, pa faint mwy o ddaioni a wnaethwn nag a wnaethum! Mi a gefais amser, talentau, a dylanwad, y gallaswn, ond eu hiawn ddefnyddio, ysgwyd yr holl Dywysogaeth; ond Och! darfu i minnau chwarae â hwynt; a pheth rhyfedd iawn ydyw na buasai fy Meistr mawr yn fy mwrw ymaith oddiger ei fron, fel llestr heb hoffder ynddo!"

"O, (ebe un o honom,) yr ydym yn mawr hiraethu, ac yn gobeithio am eich gweled yn ail ymddangos ar y maes etto." "Nid oes genyf fi nemawr o obaith am hyny, (ebe yntau,) ond pe bai hyny i fod, yr wyf yn gobeithio y byddwn yn llawer gwell milwr nag y bum erioed."

Yr oedd ei anwyl Elizabeth ar gyffiniau y glyn, yr amser hwn, aethom gydag ef i ymweled â hi cyn ymadael, ni allai hi wneyd nemawr ond siriol wenu arnom, yr hyn a ddangosai ei phrofiad ac agwedd gysurus ei meddwl. Wedi eu gorchymyn i'r Arglwydd mewn gweddi fèr, ymbarotoisom i ymadael; ac O, fynudau cyssegredig! Edrychodd arnom gyda golwg nad yw yn bossibl ei desgrifio, a dywedodd, "Wel, fe allai, ac y mae yn debyg ein bod yn myned i ymadael y tro diweddaf, ond os na chawn weled wynebau ein gilydd ar y ddaear mwy, gadewch i ni dyngu ein gilydd yn y fan hon, y fynud hon, y bydd i ni gyd-gyfarfod yn y nefoedd!" Mewn gwirionedd, yr oedd y lle yn ofnadwy iawn! Llefarai y geiriau uchod gyda'r fath ddwysder a phwys, a greai deimladau ag oeddynt yn mhell tuhwnt i ddagrau; yr oeddynt ry sobr-ddwysion i ddagrau, ac felly ymadawsom.

Gwelsom ef unwaith drachefn, wedi gwaelu llawer, ac yn rhy wanaidd i ymddyddan nemawr, ond yn dra thawel a siriol. Gyda'n bod ni yno y waith hon, daeth y meddyg i mewn, yr hwn a gaeth-waherddai ollwng dyeithriaid i mewn ato, felly yn fuan, canasom yn iach iddo am byth ar y ddaear, ac ymadawsom. Meddyliem mai ei deimlad y pryd hwn oedd, "O hyn allan na flined neb fi."

Un noson yr oedd yn dwys ocheneidio, Mrs. Edwards, (o Gadwgan gynt, yr hon a fu yn gymmwynas-wraig dirion iddo ef a'i ferch drwy ystod eu cystudd,) a nesaodd at y gwely, a gofynodd iddo pa beth oedd yr achos, "Achos eneidiau dynion, (meddai yntau,) A oes dim a fedrech chwi wneyd tuag at achub eneidiau, Mrs. Edwards?" "Fe allai y gallwn wneyd mwy, pe byddwn fwy yn y goleu," ebe hithau. "Ië, ïe, (meddai yntau,) mwy yn y goleu am eu gwerth."

Nos Lun, yr 16eg o Fawrth, dymunodd gael gweled diaconiaid eglwysi y Wern a'r Rhos; ac wedi eu cael ato, ymddyddanodd gryn lawer â hwynt yn nghylch amgylchiadau yr eglwysi, a rhoddodd lawer o gynghorion iddynt. Wedi iddynt fyned ymaith, sylwyd ei fod yn colli ei wybodaeth ac yn prysuro ymaith, a'r boreu trannoeth oddeutu naw o'r gloch, a WILLIAMS o'r Wern nid oedd mwyach! Bu farw ar y 17eg o Fawrth, 1840, yn y 59 fl. o'i oedran.

Ar y 25ain ymgasglodd tyrfa luosog iawn o gyfeillion i dalu eu teyrnged olaf o barch iddo, drwy ganlyn ei farwol ran i dŷ ei hir gartref. Wrth y tŷ, cyn cychwyn y corff, darllenodd a gweddiodd y Parch. A. Jones, Bangor; a'r Parch. Dr. Raffles, Llynlleifiad; yna cychwynwyd tua'r Wern.

Aed â'r corff i'r capel, a dechreuwyd y gwasanaeth drwy ddarllen a gweddio gan y brawd S. Roberts, Llanbrynmair; cyfarchwyd y gynnulleidfa mewn areithiau byrion ac effeithiol gan y brodyr Pearce, o Wrecsham; Jones, o Lanuwchllyn; a Jones, o Ddolgellau. Drachefn wrth y bedd, traddododd y brodyr Rees, Dinbych, a Dr. Raffles, anerchion byrion; a chyn ymwasgaru, gweddiodd ei hen gyfaill, Roberts o Danyclawdd, gweinidog perthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd. Yr oedd o leiaf bumtheg ar hugain o weinidogion yn bresennol.

Y Sabboth canlynol traddodwyd pregethau angladdol iddo gan agos yr holl weinidogion ag oeddynt yn bresennol yn y claddedigaeth, a chan lawer ereill hefyd. Cyflawnwyd y gwasanaeth hwn, y Sabboth hwnw, yn y Wern a'r Rhos, gan W. Rees, Dinbych, yn nghlywedigaeth cynnulleidfaoedd lluosog a galarus. Y testun oedd 2 Sam. 1, 19, "O ardderchawgrwydd Israel," &c.

Ei dri phlentyn galarus ac amddifaid o fam a thad, a chwaer hawddgaraf a duwiolaf, oeddynt wrthddrychau tosturi a chydymdeimlad; ond nid oedd angeu wedi gorphen ei waith etto y mab hynaf, James, pan oedd yn nghapel y Rhos, nos y Sabboth crybwylledig, yn gwrando pregeth angladdol ei anwyl dad, a gymmerwyd yn glaf gan waew llym yn ei goes. Daeth gyda'r ysgrifenydd drannoeth i gyfarfod i Lanuwchllyn, gan ddysgwyl cael llesâd, ond gwaethygu yr oedd y boen, a chwyddo yn fawr yr oedd ei aelod. Dychwelodd adref yn dra gwaeledd; parhaodd ei aelod yn boenus am rai wythnosau, a gwelwyd arwyddion yn fuan fod y darfodedigaeth angeuol wedi ymaflyd ynddo. Parhaodd i nychu a gwaelu hyd tua diwedd Mawrth, 1841, pryd y dilynodd ar ol ei fam, ei dad, a'i chwaer, i "dŷ ei hir gartref," a chladdwyd ef yn yr un bedd; ac felly—

Y pedwar hawddgar rai hyn
A roddwyd i'r un priddyn.

Yr oedd yn wr ieuanc o dymher ddystaw, gwylaidd, a gochelgar iawn. Ymddengys fod ei gydwybod yn hynod dyner. Dywedai ychydig cyn marw bod ofn rhag cael ei gyfrif fel un yn ceisio yr hyn nad oedd, wedi ei attal lawer gwaith i fynegu yr hyn a deimlai. Nad oedd mor amddifad o deimladau a chysuron crefyddol ar hyd ei fywyd, ag y gallasai ei gyfeillion gasglu oddiwrth ei ddystawrwydd; ac nad oedd yn amddifad o'r cysuron hyny yn yr oriau diweddaf. Ei fod yn hollol ac yn tawel ymorphwys ar Grist fel ei unig noddfa a'i obaith.

Bellach nid oes ond y ddau ieuengaf, Jane a William, wedi eu gadael o'r teulu hawddgar, yn anialwch y byd profedigaethus hwn; a boed i Dduw a Thad yr amddifaid eu bendithio, a'u cymmeryd dan gysgod ei adenydd; Duw a Chraig iachawdwriaeth eu tad a'u mam, eu chwaer a'u brawd, a fyddo yn Dduw a Chraig iachawdwriaeth iddynt hwythau—yn Arweinydd a Thywysydd hyd angeu, nes eu dwyn adref i uno gyda'r perthynasau anwyl sydd wedi blaenu, yn y ddedwydd wlad ag nad oes na chystudd, na galar, na marw ynddi.—Amen.

PENNOD IV.

PERSON A NODWEDD MR. WILLIAMS.

O RAN ei berson, yr oedd Mr. WILLIAMS o daldra canolig, ac yn wr o gorff lluniaidd, lled gadarn ei wneuthuriad, ond yn hytrach yn deneu; o bryd a gwedd serchoglawn a dymunol, yn neillduol pan fyddai delweddau ei feddwl wedi derchafu i'w wynebpryd wrth bregethu, neu y pryd y byddai wrth ei fodd mewn cyfeillach. Ei lygaid yn benaf oedd arwyddnod o fawreddusrwydd ei feddwl: cymhwysder ei faintioli a'i osodiad, dull ei droad a'i ddynodiant (expression) oeddynt ddigon i beri i unrhyw graff-sylwydd, er yn anghydnabyddus ag ef, ddysgwyl cael rhywbeth tuhwnt i'r cyffredin yn ei berchenog. Ond y meddwl oedd y dyn, ac awn rhagom i geisio rhoddi desgrifiad o'i ansawdd, ei deithi, a'i gynheddfau ysplenydd, y rhai ydynt etto yn gweithredu gyda bywiogrwydd a nerth anfarwol a chynnyddol yn nedwydd fyd yr ysbrydion, pan y mae y cyfrwng trwy yr hwn y gweithredent ac yr amlygent eu hunain yma i ni, yn llygru yn mro dystawrwydd a marwoldeb.

1. Yr oedd wedi ei gynhysgaeddu â gradd helaeth iawn o synwyr cyffredin, yr hyn a'i cymhwysai i fod yn gynghorwr doeth a da. Yr oedd ganddo wybodaeth helaeth o amgylchiadau a galwedigaethau cyffredin bywyd, ynghyd ag adnabyddiaeth ddofn o'r natur ddynol, a'i galluogai i draethu synwyr, a bod yn gyfarwyddwr call ar unrhyw achos. Ystyrid ei farn a'i gyngor o bwys a gwerth bob amser mewn pethau cyffredin, yn gystal â materion eglwysig; ac ar ol ei "'ymadrodd ef ni ddywedid eilwaith." Nid oedd na phruddglwyf na phengamrwydd (eccentricity) yn perthyn iddo yn y mesur lleiaf; ffieiddiai y dybiaeth a goleddir yn rhy gyffedin o fod y fath dymherau yn elfenau hanfodol i ffurfio y nodwedd o ddyn mawr; a meddyliai fod llawer wedi llafurio i geisio ffurfio pruddglwyfiaeth a phengamiaeth i'r dyben gwael o gael eu cyfrif yn ddynion mawrion gan ddynion ffolion. Yn mysg y cyffredin, a chyda phethau cyffredin yr oedd ef bob amser fel dyn cyffredin arall; cuddiai bob ymddangosiad o ddyn mawr o'r golwg hyd nes y byddai gwaith mawr, a phethau mawrion yn galw am dano. Yr oedd ei wybodaeth ëang a'i dalentau gwychion yn wastad o dan reolaeth a dysgyblaeth callineb a synwyr.

2. Tymher ei feddwl.—Yr oedd o dymher meddwl fywiog, siriol, a chymdeithasgar. Pan fyddai y cyfeillion a'r gyfeillach yn gyfryw a gyd-darawent â'i archwaeth, byddai wrth ei fodd, ac yn ei elfen, pa un bynag ai anian-ddysg, ai llywod-ddysg, ai duwinyddiaeth fyddai testun yr ymddyddan, yr oedd ganddo ef sylwadau cyfoethog o feddyliau, a ddangosent ei fod yn gyfarwydd yn egwyddorion y naill gangen a'r llall. Ond at dduwinyddiaeth yr oedd prif dueddfryd a gogwyddiad ei feddwl. Yma yr ymddangosai megys yn ei wlad, ei awyr, a'i elfen gartrefol. Ni byddai ei feddwl ffrwythlon byth yn amddifad o elfenau, a thestunau ymddyddan o'r natur yma. Dywedai, "Os nad oes gan ryw frawd arall fater i'w osod i lawr, y mae genyf fi ryw bwnc ag y buaswn yn dymuno cael ei roddi dan ystyriaeth." Byddai pob dyn o chwaeth a theimlad, yn rhwym o'i garu a gwerthfawrogi ei gymdeithas. Mewn gwirionedd, yr oedd ei gyfeillach yn anmhrisiadwy. Ni welid dim o naws uchelfrydigrwydd ynddo ef, dim i darfu na dal y meddwl draw oddiwrtho—nid ymddangosai fel yn ymwybodol o'i uwchafiaeth a'i fawreddigrwydd ei hun—dim i beri y petrusdod lleiaf yn neb i fod yn rhydd o'i feddwl yn ei bresennoldeb; ymddygai nid fel arglwydd, ond fel brawd a chydwas. Ond er na byddai efe yn cymmeryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, byddai pawb o'i frodyr yn foddlawn i'w roddi iddo. Er na byddai ar neb ei ofn, yr oedd gan bawb barch calon iddo. Er y teimlai ei frodyr ieuengach y gallent fod yn ofn a rhydd yn ei gyfeillach, teimlent hefyd eu bod yn mhresennoldeb dyn mawr, yr hyn a barai iddynt roddi iddo y parch a'r flaenoriaeth ddyledus, fel, os nad oedd ef yn awyddus am ei gael, y byddent hwy yn awyddus am ei ddangos iddo. Gallaf ddywedyd, nad ymadewais erioed o'i gyfeillach, na byddai fy meddwl yn ei garu ac yn ei werthfawrogi yn fwy nag o'r blaen; ac yr wyf yn sicr bod degau o frodyr a dystient yr un peth.

Heblaw sirioldeb a hynawsedd ei dymher, gwnai ei gyfeillach yn ddifyrus a buddfawr â chyflawnder o sylwadau bywioglawn a grymusion. Yr oedd ei feddwl megys yn ystwyth ac aeddfed i gymmeryd gafael yn mhob mater, neu destun o'r Bibl a gynnygid i sylw; a cheid rhyw beth ganddo ar bob peth a fyddai o werth ei ddal a'i gofio; a thradd odai ei sylwadau yn ei briod-ddull daràwgar ei hun, yr hon oedd yn neillduol gyfaddas er argraffu ei bethau ar y côf. Yr oedd yn neillduol o hoff er ys cryn amser i ymddyddan am y nefoedd, carai dynu darluniadau o natur ei gwaith a'i chymdeithas yn fawr. "Yr wyf yn tybied, (meddai unwaith,) na bydd y nefoedd yn lle mor ddyeithr i mi; yr wyf wedi bod yn meddwl cryn lawer am dani yn ddiweddar; y mae genyf lawer o gyfeillion anwyl a hoff yno, yr wyfyn sicr; ac y mae arnaf gryn hiraeth am eu gweled weithiau, ac am fod gyda hwynt; Jones o Dreffynnon; a Roberts o Lanbrynmair, a llawer ereill, a Rebecca hefyd," (sef Mrs. Williams.) Dro arall wrth son am y nefoedd mewn cyfeillach, dywedai, "Os yw tybiaeth Dr. Dick o Scotland am y nefoedd yn gywir, y byddant yn dysgu y celfyddydau ynddi, y mae yn sicr mai i ddysgu y gelfyddyd o spelio y troir fi yn gyntaf oll yno." Am ei nodwedd gyfeillgar, sirioldeb, addfwynder, a graslonrwydd ei dymher, ysgrifenai y Parch. Dr. Raffles ataf fel y canlyn:" Am yr hyn ydoedd fel pregethwr, nis gallwn wybod dim ond yn unig drwy dystiolaeth ereill; ac a gasglwn oddiar weled yr effeithiau a ganfyddwn fod yn cael eu cynnyrchu ar y gwrandawyr a ddeallent yr iaith yn yr hon y llefarai. Am yr hyn ydoedd fel dyn ac fel Cristion, cefais y fantais a'r hyfrydwch i wybod ychydig drwy fy sylw a'm profiad personol; a gallaf sicrhau fod pob cyfleusdra y cefais y fraint o fwynhau ei gyfeillach, yn dyfnhau fwy-fwy yn fy meddwl yr argraff o wresogrwydd ei dduwiolfrydedd, a hynawsedd ei galon. Dywedais lawer gwaith, fy mod yn ei gyfrif yn un o'r nodweddau hawddgaraf a siriolaf, o'r rhai y cefais erioed yr hyfrydwch o'u hadnabod. Meddyliais lawer gwaith pan yn ei gymdeithas, am yr iaith brydferth a ddefnyddiodd Andrew Fuller, pan yn son am y diweddar Mr. Pearce, o Birmingham, "Tyner fel hwyrddydd hâf, a hyfryd-ber, fel rhôs Mai."

Er ei fod, fel y sylwyd, o'r fath ansawdd fywiog a siriol o ran tymher ei feddwl, yr oedd ganddo lywodraeth nodedig ar ei ysbryd a'i deimladau. Nid un o'r cyfryw fawrion nad allant byth oddef eu gwrthwynebu heb ffromi ac ymddigio oedd WILLIAMS, ond hollol i'r gwrthwyneb, pan fyddai pump neu chwech wedi cyd-ymosod arno, fel y gwelais un waith, mewn dadl, ac oll wedi gwresogi dros eu pwnc, yr oedd ef yn bwyllog a thawel yn eu canol, yn amddiffyn ei olygiadau ar y mater. Goddefai sèn neu anfriaeth bersonol oddiwrth rai annheilwng o'r fraint o ddwyn ei esgidiau; heb gymmeryd arno eu clywed, neutröai y peth heibio gyda gwen, a rhwymai i fynu dafod y senwr. Yr oedd yn gyffelyb i Moses, yn un o'r llarieiddiaf o feibion dynion.

3. Yr oedd yn dyner a gofalus iawn am deimladau ereill. Arferai ddywedyd yn aml, nad oes gan neb fwy o hawl i dòri ar draws teimladau arall, nag a fyddai ganddo i gymmeryd cyllell a thòri archoll ar ei fys, neu ryw ran arall o'i gorff; ac o'r ddau, mai mwy dewisol fuasai ganddo ef gael ei archolli yn ei gnawd nag yn ei deimladau bod yn haws gwella archoll ar ryw aelod, nag archoll teimlad; y dylai teimladau eu gilydd gael eu hystyried gan ddynion yn bethau rhy dyner a chyssegredig i chwarae a chellwair gyda hwynt; ac na ddylid byth eu cyffwrdd heb fod achos neillduol yn galw am hyny; a bod amean cywir at wneuthur lles i'r person bob amser drwy hyny. Dengys hyn fod ganddo deimladau tyner iawn ei hunan, ond ei fod wedi ei gynnysgaeddu â gras a synwyr yn ehelaeth i gadw llywodraeth ar ei nwydau, fel ag i beidio ffromi a chythruddo, fel y sylwyd, pan gyffyrddid â hwy. Ond yn benaf dim, yr oedd ganddo ofal neillduol rhag dolurio teimladau dynion duwiol. Clywais ef lawer gwaith yn dywedyd, "O! ni fynwn er dim ddolurio teimladau dyn duwiol, os gallwn beidio; it is a dreadful thing." Yn mhlith ei resymau dros fod yn Ddirwestwr, yr oedd hwn yn un "Hwyrach," medd efe wrth areithio unwaith, "yr ewyllysiech glywed y rhesymau a barasant i mi ymuno â'r gymdeithas, dyma un o honynt: yr oeddwn yn gweled fod y dynion duwiolaf, (o leiaf y rhai a olygwn i felly bob amser,) yn mhlith gweinidogion ac eglwysi, yn dechreu myned yn ddirwestwyr, a meddyliais y byddai yr holl ddynion ag yr oedd genyf fi feddylian uchel am eu duwioldeb, yn wyr llen a lleyg, yn ddirwestwyr yn fuan iawn; a gwelais, os nad ymunwn innau â'r gymdeithas, y byddwn ar eu ffordd, ac y doluriwn eu teimladau, a hyny ni fynaswn ar un cyfrif ar wyneb y ddaear. Felly ymroddais i'r penderfyniad o fyned ar ol y rhai oeddynt wedi blaenu, ac achub y blaen ar y lleill, a hyny gynted ag y gallwn; a gwelaf erbyn hyn, mai fel y rhag-dybiaswn y mae pethau wedi dygwydd; ac ni fynwn, er yr oll a fedd y ddaear, fod yn wrthddirwestwr heddyw, heb son am ddim ond yr ystyriaeth unigol hon. Annogwn fy nghyfeillion gwrthddirwestol i ddyfod trosodd atom er mwyn ein teimladau; yr ydych yn clwyfo ein teimladau yn ddwys, nid yn unig drwy ein gwrthwynebu, ond hefyd drwy ein gadael ein hunain ar y maes, attal eich cynnorthwy, eich cyngor, a'ch cymdeithas yn y gwaith hwn. Ni all fod yfed y diodydd meddwol yn fater cydwybod genych chwi, y mae peidio yfed yn fater cydwybod genym ni. Gellwch chwi roddi heibio y ddiod er mwyn ein teimladau ni, heb dramgwyddo eich cydwybodau; ond ni allwn ni ymwrthod â dirwest heb dramgwyddo a halogi ein cydwybodau. 'Wel ïe,' medd gwrthddadleuwr, eich gwendid chwi yw hyny.' Caniataer hyny, a 'rwystrwch chwi y brawd gwan, dros yr hwn y bu Crist farw? A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist.' Ha! y mae tramgwyddo, a rhwystro, a churo gwan gydwybod brawd gwan dros yr hwn y bu Crist farw, yn beth na fynai rhai o honom mo'i wneyd er llawer iawn o elw, heb son am bechu yn erbyn Crist." Rhoddais yr ymadroddion uchod o'i eiddo i lawr yn y lle hwn, yn unig fel eglurhad o'r hyn a chwennychwn ei ddangos yma: sef un o deithi prydferth meddwl y dyn mawr hwn—un o'r pethau oedd yn ei gyfansoddi yn wir fawr, sef ei dynerwch neillduol o deimladau ereill, ac yn neillduol dynion y credai ef eu bod yn ddynion duwiol.

4. Un arall o elfenau y dyn a'r Cristion hwn, ydoedd ei ffyddlondeb a'i onestrwydd diffuant. Er mor dyner o deimladau oedd ei hun, ac er cymmaint oedd ei dynerwch a'i ofal am deimladau ereill, pell iawn ydoedd ei nodwedd oddiwrth feddalwch gwlanenaidd; cyd-dymherasid ei addfwynder a'i hynawsedd â gonestrwydd a gwrolfrydigrwydd meddwl. Ni phetrusai geryddu yn llym iawn, pan farnai yn gydwybodol fod achos yn galw am hyny. Ffieiddiai weniaith a derbyn wyneb o'i galon, a chredať na chafodd neb erioed y sail leiaf i ddwyn y cyfryw gyhuddiad i'w erbyn, ac nid wyf yn gwybod ddarfod i neb gynnyg gwneyd hyny chwaith. Casaai ffalsedd mewn gweinidogion, ac yn y weinidogaeth, â chas cyflawn. Nid allai aros gwrando y pregethwyr hyny a ymddangosent eu bod yn gofalu mwy am foddio a difyru eu gwrandawyr, nag am eu hargyhoeddi, eu goleuo, eu dychwelyd, a'u hadeiladu; ac nid oedd dim, o'r tu arall, a'i boddhäai yn fwy nâ chlywed geiriau gwirionedd a sobrwydd yn cael eu traethu yn eu syml-noethedd priodol eu hunain. Dywedai "fod yr areithfa yn lle rhy ofnadwy i wenieithio ynddi, a bod eneidiau yn rhy werthfawr i ffalsio iddynt." Cof genyf ei glywed yn dywedyd fwy nag unwaith, yn ei briod—ddull arferol ei hun, "Y mae dosbarth o bregethwyr ag y mae yn ymddangos i mi that their chief aim is to please sinners, and not to convert them: y mae yn fater dychrynllyd."

Mor fawr oedd ei gariad at gywirdeb a gonestrwydd, fel os unwaith y caffai le cyfiawn i amheu cywirdeb egwyddor unrhyw berson, neu weled tuedd wenieithgar a maleisus ynddo, anhawdd iawn fyddai i'r cyfryw ennill cymmeradwyaeth ei feddwl drachefn. Ni fynwn ddywedyd ei fod bob amser yn hollol yn ei le o ran ei farn am bersonau; yr wyf yn sicr ei fod yn hollol gydwybodol; y cwbl yn mron a ddywedai fyddai, "I can feel no respect for the man, I am sorry for it;" oblegid ymddengys i mi mai dyn diegwyddor, gwenieithus, ac annheilwng o ymddiried ydyw ef." Byddai yn dueddol iawn i gymmysgu Cymraeg a Saesonaeg yn ei ymddyddanion cyffredinol a chyfrinachol. Y tro diweddaf y bu yn pregethu yn W——ch, cafodd gyfle i ymddyddan yn bersonol â hen wrandawr o'r ardal hòno, yr hwn a fuasai yn proffesu crefydd gynt. Yr oedd efe yn dra adnabyddus ag ef er ys llawer o flynyddau, ac yr oedd ganddo deimlad dwys drosto. Dywedodd wrtho, os nad ymadawai â'i ddiod feddwawl, a dyfod yn Ddirwestwr, y byddai mor sicr o fod yn golledig â bod ei enw yn ——; ond os byddai iddo ymwrthod â'r ddiod, y byddai ganddo ryw obaith o'i gyfarfod yn y nefoedd: "Yr ydych wedi cynnyg gyda chrefydd fwy nag unwaith o'r blaen, (meddai,) a hi a'ch maglodd bob tro, ac y mae ei dylanwad arnoch yn myned yn gryfach-gryfach o hyd, a myned gryfach-gryfach a wna bob dydd tra yr ymarferoch â hi." Gwelais ef drannoeth, ac adroddai yr hanes wrthyf, gan ychwanegu, "Yr wyf yn teimlo fy meddwl wedi cael esmwythâd ar ol ymddyddan ag ef; yr oeddwn yn ofni na buaswn yn ddigon ffyddlon a gonest tuag ato; y mae fy meddwl yn rhedeg yn aml at lawer o hen wrandawyr draw ac yma, y rhai y byddai yn dda genyf gael cyfle i ymddyddan yn bersonol â hwynt cyn fy marw; yr wyf yn teimlo yn euog na buaswn yn tori atynt pan y byddwn yn eu tai, lawer o honynt." Ychydig ddyddiau cyn ei farw, pan oeddwn i ac amryw frodyr yn ymweled ag ef, ac yn ein mysg gweinidog y lle yr arferai y gwr y cyfeiriwyd ato wrando ynddo, gofynodd "Pa drefn sydd ar hwn a hwn yn bresennol?" "Wedi myned yn ei ol i'r un pwll," neu eiriau cyffelyb, oedd yr ateb. "Wel, wel, (meddai yntau,) dyn a fyn fyned i uffern ydyw, er pob peth." Dengys yr ychydig enghreifftiau uchod, allan o'lawer o'u cyffelyb, mor dyner oedd ei gydwybod, ac mor ofalus oedd y gwas ffyddlawn hwn am onestrwydd a chywirdeb.

5. Yr oedd yn hynod hefyd o ran ei ysbryd rhydd a diragfarn. Meddai ar feddwl rhy eangfrydig i gulni a rhagfarn gael nawddle o'i fewn. Nid ffug-ymddangosiad o ryddfrydigrwydd yn unig yn y cyhoedd oedd yr eiddo ef; ond y peth a ymddangosai ei fod yn y cyhoedd, ydoedd mewn gwirionedd. Anadlai yr un ysbryd rhydd a diragfarn tuag at frodyr o enwadau ereill, yn ei gyfeillach gyda'i frodyr ei hun, ag a arferai osod allan yn ei bregethau a'i areithiau. Dywedai yn fynych ei fod wedi penderfynu gwneyd ei oreu tra y byddai byw i ladd rhagfarnau Cristionogion tuag at eu gilydd. Llawenhäai yn fawr wrth weled undeb a chyd-weithrediad y gwahanol enwadau yn yr achos Dirwestol; ac ofnai yn fawr rhag i ddim ddygwydd i oeri a dyrysu yr undeb hwn. "Y mae pob sect newydd (meddai unwaith) yn wrthddrych eiddigedd a rhagfarn yr hen sectau: felly yr oedd y Trefnyddion Calfinaidd a Wesleyaidd yn eu hymddangosiad cyntaf. Edrychai yr hen sectau arnynt fel rhyw bethau echryslon a niweidiol iawn; dynodid hwy fel rhyw gyfeiliornwyr ofnadwy; ond gwelir erbyn heddyw pa fawr ddaioni a wnaethant. Pe codai rhyw sect newydd etto yn y wlad, codai yr hen yn ei phen yn ddiatreg. Yn wir, o'm rhan fy hun, dymunwn i'r Arglwydd godi rhyw sect neu sectau newyddion yn Nghymru, i ỳru eiddigedd ar yr hen rai, a'u codi i fwy o fywyd a gweithgarwch.'

"O! (meddai dro arall,) y mae yn rhaid fod ysbryd cul a rhagfarnllyd Cristionogion yn rhywbeth ffiaidd a drewedig iawn yn ffroenau y nefoedd: 'Canys nid yw Duw dderbyniwr wyneb, oblegid yn mhob sect, yr hwn sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymmeradwy ganddo ef.' Byddaf yn meddwl yn sicr nad oes dim yn ddamniol gyfeiliornus mewn un sect ag y gwelom arwyddion fod Duw yn bendithio ei hymdrechiadau : Os rhoddes Duw iddynt hwy yr Ysbryd Glân, pwy ydym ni i allu luddias Duw?' Ysbryd brwnt yw hwnw ag y mae llwyddiant plaid arall o Gristionogion yn boen ac yn ofid iddo; ysbryd lluddias Duw ydyw! Pe gallai hwn, ni chai neb byth yr Ysbryd Glân ond ei enwad ef. Os rhoddes Duw i ni, yr Annibynwyr, yr Ysbryd Glân, na edryched ein brodyr o enwadau ereill yn gul arnom. Os rhoddes efe yr Ysbryd Glân iddynt hwythau, na edrychwn ninnau yn gul, ac na feddyliwn yn gyfyng am danynt; derbyniwn ein gilydd megys ag y 'derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw.' Nid oes gan Gristionogion amser i daeru a dadleu â'u gilydd ar y ffordd; y mae eu hamser yn rhy werthfawr, a'u gwaith yn rhy bwysig."

Cofir yn hir gan y rhai oeddynt yn bresennol, am y dull tra effeithiol yr adroddai hanesyn, gan wneyd cymhwysiad o hono at ei hoff-bwnc hwn, sef undeb a chariad rhwng Cristionogion â'u gilydd, mewn cyfarfod cyhoeddus yn RhosLlannerchrugog: "Yr wyf yn cofio (meddai) fy mod unwaith yn ymddyddan â môr-filwr, yr hwn a adroddai i mi gryn lawer o'i hanes a'i helyntion; dywedodd mai y frwydr fwyaf ofnadwy y buasai ynddi erioed, oedd un a gymmerodd le rhwng y llong yr oedd ef ynddi, a llong arall berthynol i Loegr, pan ddygwyddasant gyfarfod eu gilydd yn y nos, a chamgymmeryd y naill y llall. Tybiai y naill, a thybiai y llall ei bod yn ymladd yn erbyn llong Ffrengig. Lladdwyd amryw ar fwrdd y ddwy, ac anmharwyd a drylliwyd y ddwy lestr yn fawr iawn. Ond erbyn goleuo y boreu, mawr oedd eu syndod a'u gofid, pan welodd y naill fanerau Lloegr yn chwarae ar y llall, ac y deallasant eu bod wedi bod y nos o'r blaen yn ymladd â'u gilydd mewn cam-gymmeriad! Nesâodd y naill at y llall; cyfarchasant eu gilydd, a chydwylent mewn gofid a chydymdeimlad. Tebyg iawn i hyn y mae Cristionogion yn y byd hwn; y naill enwad yn cam-gymmeryd y llall am elyn; nos ydyw—methu adnabod eu gilydd y maent. Beth fydd y syndod pan welant eu gilydd yn ngoleu byd arall—pan gyfarfyddont eu gilydd yn y nefoedd, wedi bod o honynt yn saethu at eu gilydd yn niwl y byd hwn! Pa fodd y byddant yn cyfarch eu gilydd yno, wedi dyfod i adnabod y naill y llall, wedi bod yn clwyfo ac yn gwaedu eu gilydd yn y nos! Ond dylent ddysgu aros i'r dydd dori cyn gollwng at eu gilydd, bid a fyno, fel y gallont fod yn sicr o beidio â saethu cyfeillion mewn cam-gymmeriad."

6. Ei ysbryd cyhoeddus hefyd oedd yn dra nodedig. Cai pob achos da gynnorthwy parod a siriol ei dalentau a'i arian. Yr oedd fel enaid a bywyd pob sefydliad a chynllun tuag at wasanaethu yr achos yn mhlith yr enwad y perthynai iddo. Er yn sicr na bu neb erioed ddedwyddach gartref nag ef, nac yn hoffi ei gartref yn fwy nag yr oedd efe, etto ni bu neb erioed parotach i fyned oddicartref pan fyddai rhyw amgylchiad perthynol i achos Crist yn gofyn am hyny. Nid oedd nemawr addoldy perthynol i'r Annibynwyr mewn tref na phentref yn swydd Fflint a Dinbych, na byddai ef naill ai dan ryw ran o'r baich mewn ymrwymiad, neu na chostiai lafur a gofal iddo mewn rhyw ffordd neu gilydd. Llawer a deithiodd trwy Ogledd a Deau Cymru a Lloegr hefyd, ar bob tymhor a thywydd, i ddadleu achosion eglwysi gweiniaid a thlodion, er eu rhyddhau odditan feichiau trymion dyledion eu haddoldai, pan y gallasai fod yn esmwyth a diofal arno ar ei aelwyd gysurus, ac yn nghanol ei deulu dedwydd gartref. Ac nid siarad drostynt yn unig a wnai, ond efe bob amser a roddai ei law gyntaf a dyfnaf yn ei logell, er cyfranu tuag at eu cynnorthwyo. Llafuriodd lawer yn achos yr Undeb Cyffredinol, er talu dyledion yr addoldai, a sefydlwyd yn y fl. 1834, drwy deithio drwy amrywiol siroedd i annog a deffroi yr eglwysi yn yr achos. Bu yn y brifddinas hefyd gyda'i frodyr, Morgan, Machynlleth; Jones, Abertawy; Saunders, yn awr o Aberystwyth, yn casglu tuag ato; a chyfranodd gyda hyny y swm o ddeg punt a deugain ei hunan at yr achos. Felly y byddai gyda golwg ar bob achos teilwng a da: yr oedd ysbryd hunan-geisiol a chybyddlyd yn beth na wyddai ef ddim am dano, ond yn unig mewn teimlad o ffieiddiad tuag ato. Byddai yn barod bob amser i fenthyca gwasanaeth ei dalentau i unrhyw enwad o Gristionogion a geisient hyny ganddo. Yn ddadleuydd grymus ac effeithiol dros bob achos, cymdeithas, a sefydliad, er goleuo a diwygio y byd mewn gair, yr oedd "yn bob peth i bawb," heb fod yn ddim iddo ei hun. Ni thybia un darllenydd a ŵyr am dano, (a pha ddarllenydd na ŵyr,) fy mod yn dywedyd gormod wrth ddywedyd fel hyn: Yr oedd ei fywyd yn aberth cyssegredig i wasanaeth y ffydd; ymdrechai yn mhob modd i "adael y byd yn well (fel y dywedai) pan elwid ef o hono, nag yr oedd pan y danfonwyd ef iddo;" ac, o ganlyniad, yr oedd colli WILLIAMS yn golled, nid i ryw eglwys neu eglwysi neillduol—nid i un enwad o Gristionogion yn unig—ac nid i un wlad bennodol, ond i'r eglwys fawr gyffredinol, ac i'r byd mawr cyffredinol, fel y sylwai gweinidog o enwad arall, pan dderbyniai y newydd o'i farwolaeth.[2]

7. Yr oedd yn wr cadarn nerthol mewn gweddi. Yma yn ddiamheu yr oedd "cuddiad cryfder" ei weinidogaeth. Dywedai y Parch. M. Jones, o Lanuwchllyn, am dano, yn ei gyfarchiad ar ddiwrnod ei gladdedigaeth, y byddai bob amser pan yn ei gyfrinach, yn cael ei daro â'r ystyriaeth hon am dano, sef ei fod yn un ag oedd yn arfer dal llawer o gyfrinach â'i "Dad yr hwn sydd yn y dirgel." Mewn cyfrinach gyda'i frodyr, mewn cyfarfod neu gymmanfa, byddai bob amser yn ymdrechgar iawn i fagu ynddynt yr ysbryd hwn: arferai ddywedyd "ei fod yn meddwl nad oedd ein hen dadau yn llawer amgen pregethwyr nâ ninnau yn yr oes hon, a'u bod yn mhell yn ol at eu gilydd, mewn llawer o bethau, ond yr oedd rhyw eneinniad ar weinidogaeth llawer o honynt, a llwyddiant yn ei dilyn, na welir 'mo hono ond anfynych yn bresennol; a pha beth yw y rheswm am hyn? Yr oeddynt yn well gweddiwyr, dyna'r paham. Os mynwn lwyddo a gorchfygu gyda dynion, rhaid i ni lwyddo a gorchfygu gyda Duw yn gyntaf. Ar ei liniau yr aeth Jacob yn dywysog; ac os mynwn ninnau fyned yn dywysogion, rhaid fod yn amlach ac yn daerach ar ein gliniau." Hoffai adrodd hanesyn am y diweddar Barch. J. Griffiths, o Gaernarfon, yn fynych. 'Clywais," meddai, "am Mr. Griffiths, ei fod i bregethu mewn tŷ annedd un noson, ac iddo ddeisyfu cael myned ar ei ben ei hun i ystafell cyn dechreu y cyfarfod; arosodd yno nes y daeth y bobl ynghyd, ac iddi fyned ryw gymmaint dros yr amser pennodol i ddechreu; wrth ei weled yn oedi felly, anfonai gwr y tŷ y forwyn ato i ofyn iddo ddyfod at ei waith; yr hon, pan ddaeth at ddrws yr ystafell, a glywai ymddyddan lled ddystaw, rhwng dau â'u gilydd, fel y tybiai hi; safodd wrth y drws i wrando, a chlywai un yn dywedyd wrth y llall, 'Nid af oni ddeui gyda mi, nid af oni ddeui gyda mi.' Dychwelodd yn ol at ei meistr, a dywedai, Y mae rhywun gyda Mr. Griffiths, ac y mae yn dywedyd wrth hwnw na ddaw ef ddim os na ddaw yntau gydag ef, ac ni chlywais i y llall yn dywedyd un gair wrtho, felly nid wyf fi yn meddwl y daw oddiacw heno.' 'O daw, daw,' ebe ei meistr, ac fe ddaw y llall gydag ef, mi warantaf, os ydyw wedi myned felly; ni a ganwn ac a ddarllenwn i aros y ddau.' Daeth Mr. Griffiths, a daeth y llall gydag ef' hefyd, a chafwyd rhyw oedfa anghyffredinol iawn y noson hòno: bu yn ddechreuad diwygiad nerthol iawn yn yr ardal; dychwelwyd llawer o eneidiau at Dduw dan y bregeth, a bydd ei hol ar yr ardal hyd ddiwedd amser. Nid oes dim, frodyr, ond eisieu ein cael i'r un ysbryd a theimlad na byddai ein gweinidogaeth ninnau yr un mor nerthol i achub a dychwelyd." Yn ei ymweliadau â'r eglwysi, byddai bob anser yn y cyfrinachau neillduol, yn benaf dim, yn eu hannog i fagu ysbryd gweddi dros eu gilydd, a thros lwyddiant teyrnas Crist. "Gweddiwch dros eich gilydd," meddai, "yna ni ellwch ddrygu na chasâu eich gilydd—ni ellwch beidio caru eich gilydd, os byddwch yn gweddio. y naill dros y llall—daw gweddio yn hawdd, yn naturiol, ac yn bleserus wrth arfer gweddi—Minnau a arferaf weddi,' medd y Salmydd. Darllenais am wraig dduwiol yn America ag oedd wedi ymarfer cymmaint a gweddio, nes oedd gweddio wedi myned mor naturiol iddi ag anadlu. Yr oedd yn breuddwydio gweddio yn ei chwsg y nos; a fuoch chwi erioed yn breuddwydio gweddio?" Arferai alw gweddi yn "brif beiriant achub" o du yr eglwys. "Ni all pob Cristion fod yn bregethwr, yn swyddwr yn yr eglwys, yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol, ond gall pob un weddio; gall yr hen wraig gynnorthwyo gyda'r peiriant hwn. Peiriant ydyw y gall yr holl eglwys roddi ei hysgwyddau a'i holl nerth wrtho. Yr oedd yr eglwys apostolaidd yn deall nerth ac effeithiolaeth gweddi—yr oeddynt hwy oll yn gytun yn parhau mewn gweddi,' a'r weddi gytun hòno a rwygodd y cwmwl, ac a dỳnodd y tywalltiad mawr am eu penau.'

Byddai ei glywed ef yn gweddio mewn teulu, neu mewn addoliad cyhoeddus, yn argraffu ar bob meddwl mai un cydnabyddus iawn â'r gwaith ydoedd yn y dirgel. Y fath symledd plentynaidd a diaddurn yn gwisgo ei ddull a'i eiriau, y fath amlygiad o deimlad iselfrydig a hunan-ymwadol, a'r fath ystwythdra a meddalwch ysbryd, ag a barai i bawb presennol edrych arno fel plentyn bychan yn dadleu ei gwyn wrth draed tad caruaidd. Byddai ysbryd gweddi yn sicr o gael ei adfywio a'i ennyn yn mynwes pob gweddiwr a fyddai yn y lle.

Yn haf y flwyddyn 1838, cymmerodd daith drwy ran of Ogledd Cymru er mwyn ei iechyd—nid oedd yn alluog i bregethu—dychwelodd adref trwy Ddinbych; ac adroddai wrthyf yn llon-ddifyr hanes ei daith. "Treuliais y Sabboth cyntaf," meddai, "yn nhŷ fy hen gyfaill Mr. Timins, gerllaw Bangor. Bûm yn y capel y boreu, aethum allan wedi ciniaw i làn Menai, a rhodiais ychydig dan gysgod coedydd cauadfrig: y lle hyfrytaf i fyfyrio a gweddio a welais erioed; ac yr wyf yn meddwl y bydd yn hoff genyf i dragywyddoldeb am y llanerch hòno—yr oedd yn radd o nefoedd arnaf yno." Ond er mor fawr oedd mewn ysbryd gweddi, cyhuddai ei hun yn drwm am ei esgeulusdra gormodol o'i ddyledswydd yn fynych yn ei gystudd diweddaf. "O!" meddai unwaith, "yr wyf wedi treulio bywyd diweddi mewn cymhariaeth i'r peth a ddylasai fod; yma y collais hi fwyaf o unman. Yr wyf yn meddwl, os gwellhâf o'r cystudd hwn, y pregethaf yn well nag y darfu'm erioed, ond beth bynag am hyny, yr wyf yn penderfynu gweddïo yn well, yn amlach, ac yn daerach.' Gwellhaodd i raddau am dymhor byr wedi hyn, a thalodd ei addunedau yn ffyddlawn.

8. Yr oedd ei amynedd a'i ddyoddefgarwch dan groesau a chystuddiau yn dra hynod. Treuliodd tuag ugain mlynedd o'i fywyd gweinidogaethol yn y mwynhad o'r cysuron teuluaidd puraf a brofodd nemawr un. Yr oedd ei briod a'i blant yn ffynnonellau hapusrwydd iddo; ond wedi bod o'r haul yn hir dywynu ar ei babell, cyfnewidiodd yr hin: syrthiodd Mrs. Williams yn aberth i'r darfodedigaeth, yr hyn a roddodd archoll trwm i'w deimladau; ynddi hi collodd ymgeledd gymhwys, cynghorydd ddoeth, cydymdeimlydd ddiffuant, a chynnorthwyydd alluog iddo mewn llawer o bethau—un ag oedd feddiannol ar yr un ysbryd haelfrydig, ëang, a chyhoeddus ag yntau, fel y nodwyd o'r blaen. Symudodd yn fuan wedi hyny i Lynlleifiad, fel y dangoswyd eisioes: yma drachefn yr oedd "drygfyd yn ei dŷ:" cymmerwyd ei ferch hynaf yn sal gan anwyd trwm, yr hwn a derfynodd yn ddarfodedigaeth a marwolaeth; yr hwn a achlysurwyd drwy orfod codi ganol nos ar adeg y dymestl fawr, y 5ed o Ionawr, 1838, pan y syrthiodd cornfwg y tŷ i mewn trwy y tô i'r llofft. Yr oedd efe ei hun yn wael iawn er ys amryw fisoedd yn flaenorol: ni bu hithau ddiwrnod yn iach wedi hyny, ond gwaelodd a nychodd hyd ei marwolaeth. Yn holl ystod ei gystudd ei hun a'i anwyl blentyn, ni chlybuwyd unwaith gymmaint ag un gair o achwyniad oddiwrtho. Cadwai ei dymher, ac hyd y nod ei sirioldeb arferol dan yr holl dywydd. "Yr wyf yn gadael Eliza yn llaw yr Arglwydd," meddai, mae mewn llaw ddiogel a da, yn llaw Tad tynerach nâ fi; ac am danaf fy hun, yr unig beth sydd yn peri i mi ddymuno cael byw ychydig ydyw, i edrych a allaf bregethu Crist yn well nag y darfu i mi." Ychydig ddyddiau cyn ei marwolaeth hi, oddeutu mis cyn ei farwolaeth yntau, yr oeddwn wedi myned i ymweled ag ef: yr oedd fyth yn yr un dymher dawel a siriol, yn ymddyddan mor belled ag y caniatâi ei wendid a'i beswch iddo, am ei hoff destun, diwygiadau crefyddol. Pan ofynwyd iddo pa fodd yr oedd Miss Williams, atebai, "Meddyliwn ei bod yn y porth, yr wyf yn dysgwyl clywed y newydd am ei mynediad trwodd gyda phob cenad a ddel o'r llofft—yn ymyl cartref— y mae hi a minnau fel am y cyntaf, ond yr wyf yn meddwl yn awr mai hi a gaiff y blaen.' Mor wir geiriau y proffwyd, "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat ti, am ei fod yn ymddiried ynot."

9. Yr ydym bellach yn dyfod at y gamp uchaf yn ei fywgraffiad, sef i geisio gwneuthur portreiad o'i nodwedd fel pregethwr, oblegid mai yr hyn a ddywedir am dano dan y pen hwn, yn ddiau, a fydd yn brif destun beirniadaeth. Nid ydys yn dysgwyl y gellir boddloni pawb, ond ymdrechir i wneuthur cyfiawnder hyd y mae yn alluadwy â'r gwrthddrych hyglod, heb ddysgwyl canmoliaeth ar un llaw, nac ofni difriaeth ar y llaw arall. Dywed fy nghyfaill, Mr. D. Hughes, o St. Sior, mewn llythyr ataf, mewn perthynas i'r rhan yma o'r gwaith, fel hyn Ystyriwyf y gwaith o dynu darlun o'r hen seraph WILLIAMS, o'r Wern,—y fath ag y gellir dywedyd am dano wrth yr oes a ddel, Un fel yna yn gymhwys oedd efe,' yn orchest-gamp fawr.

"Yr oedd cymmaint o unigoledd a hynodrwydd yn perthyn iddo, o ran dullwedd ei feddwl, tarawiad ei ddawn, ac eglurder ei amgyffredion, fel y gofynid gradd helaeth o chwaeth athrylithaidd i adnabod ei gywir nodwedd, ond y mae yn llawer anhaws darlunio nag adnabod unrhyw wrthddrych.

Y mae yn deilwng i bawb gael tynu ei ddarlun yn ei ddillad goreu, felly yntau yn ddiau. Ymddangosai yn hynod, ïe, yn dra rhagorol brydferth, pe byddai yn bosibl ei gywir bortreiadu ar foreu cymmanfa, fel ei gwelwyd lawer gwaith, wedi esgyn y Rostrum o flaen rhai miloedd o wrandawyr, yn traethu ar ryw favourite topic, megys Mawredd, Trugaredd, Cariad, neu Amynedd Duw, &c., pan y byddai ei olwg, ei lais, ei loywon ddrychfeddyliau, ynghyd â mawredd y testun, wedi caethiwo pob meddwl trwy yr holl dorf, nes berwi y teimladau, gwlychu pob grudd â dagrau, a llanw pob mynwes â syndod. Byddai picture yr hen WILLIAMS, ar ddydd cymmanfa, yn ogoniant i'r wlad a'i magodd, yn hyfrydwch i filoedd a'i clywodd, ac yn glod i'r darluniedydd."

Bu codiad WILLIAMS i'r weinidogaeth yn ddechreuad era newydd, ac yn gyfnewidiad ar ei thôn a'i nhodwedd yn mysg yr Annibynwyr yn Nghymru, yn neillduol yn y Gogledd. Gallai mai nid anghywir iawn oedd y desgrifiad a rydd y diweddar fardd, Thomas o'r Nant, o ansawdd gyffredinol y weinidogaeth yn mhlith yr enwad hwn y pryd hwnw,—

"Nid oedd dim i'w ddywedyd,
Ond ei bod yn lled sychlyd."

Diau fod y Parchedigion George a Jenkin Lewis; Jones, Pwllheli; Griffiths o Gaernarfon; a Roberts o Lanbrynmair, yn wyr cedyrn nerthol yn yr ysgrythyrau, ac yn wyr o ddysg a synwyr mawr, ac yn bregethwyr grymus hefyd; Hughes o'r Dinas; a Pugh o'r Brithdir, hefyd oeddynt o ddoniau gwlithog a melusion; ond ni chyfododd yr un o honynt i ragoriaeth a hynodrwydd cyffredinol: yr oeddynt yn ser gloywon a dysglaer yn eu dydd: ond nid oeddynt wedi eu cynnysgaeddu â'r talentau anghenrheidiol i ddeffroi ystyriaeth, a thynu sylw gwlad o ddynion. Daeth WILLIAMS allan fel comet danllyd a llosgyrnog, ymddangosiad yr hon a dyn sylw pawb oddiwrth y ser sefydlog a frithant yr ëangder o'i deutu yn hollol ati ei hun; ei ffurf gwahanol, ei hagwedd anghyffredinol, cyflymder ei hysgogiad, nerth ei goleuni, ac anarferoldeb ymddangosiad y fath seren, a ennyna gywreinrwydd cyffredinol, nes y cyfyd pawb allan o'u tai mewn awydd i'w gweled, a niliynau o lygaid a gyd-syllant ar y parth hwnw o'r ffurfafen ag y bydd hi yn cymmeryd ei gyrfa drwyddo. Cyffelyb ydoedd yntau yn nechreuad ei yrfa weinidogaethol : tanbeidrwydd ei araethyddiaeth, cyflawnder ac ystwythder ei ddoniau, bywiogrwydd ei ddychymmyg, gwreiddiolder ei ddrych-feddyliau, a'i hyawdledd yn eu traddodi, a roddent adenydd megys i'w enw, ac a drosglwyddent y son am dano o'i flaen i laweroedd o fanau ag yr oedd efe ei hun yn bersonol yn hollol anadnabyddus ynddynt; fel i ba le bynag y deuai, byddai tyrfaoedd yn ymgynnull mewn awyddfryd mawr am ei glywed.

Yr oedd yn mlynyddau boreu ei weinidogaeth, yn danllyd a gwresog iawn o ran ei ddull yn traddodi, yn gollwng y ffrwyn i'w ddychymmyg a'i deimladau, braidd yn ormodol fe allai, o leiaf, felly y barnai efe ei hun, yn mlynyddau diweddaf ei oes. Addefai yn fynych ei rwymedigaeth i'w hen gyfaill a'i dad yn y weinidogaeth, y diweddar Barch. J. Roberts o Lanbrynmair, am lawer o addysg a hyfforddiant a gawsai ganddo, yn gystal tuag at weddeiddio a chymhedroli ei ddull yn traddodi yn yr areithfa, a thuag at "ddysgu ffordd Duw yn fanylach" iddo.

Soniai yn fynych yn mlynyddau diweddaf ei oes am dymmor blaenaf ei weinidogaeth; ond bob amser gyda gostyngeiddrwydd, a hunan-ymwadiad mawr. "Yr oeddwn wedi llyncu uchel-Galfiniaeth," meddai "yn raw, heb gymmeryd amser i'w chwilio, na meddwl yn wir bod angen gwneyd, oblegid tybiwn mai rhaid oedd ei bod yn ei lle; pregethwn hi gydag anffaeledigrwydd mawr, a cheisiwn gyssoni pethau â'u gilydd, a meddyliwn fy mod yn gwneuthur gwaith llyfn iawn arni, ond teimlwn fy ngwendid weithiau er hyny, a gobeithiwn na byddai y bobl yn ei weled." Dro arall, dywedai, "Bum yn ddiweddar yn edrych dros yr hen bregethau o bump i naw mlynedd ar hugain yn ol. Ah! ni thalant ond ychydig, y mae sawyr trwm uchel-Galfiniaeth arnynt; yr wyf yn ofni eu bod wedi gwneyd llawer o ddrwg, ond yr oedd gennyf ryw amcan erioed o dori at y bobl a'u deffroi, ond yn aml byddai y naill ran o'r bregeth yn milwrio yn erbyn y llall, ac felly, byddai yn debycach i ladd ei hun, nâ lladd y pechadur."

Cymhedrolodd ei olygiadau ar yr athrawiaeth, a'i ddull areithyddol yn traddodi gyda'u gilydd, fe ymddengys. Yn yr ugain mlynedd diweddaf o'i fywyd, yr oedd yn gryn wahanol o ran ansawdd ei bregethau a'r ffurf o'u traddodi, ond yr oedd yr hyawdledd a'r effeithiolaeth o hyd yn aros, ac yn hytrach yn cynnyddu. O'r blaen yr oedd o ran ei ddull yn gyffelyb i ruthr o wlaw taranau yn peri llifeiriant chwyddedig a ddylifa ac a ysguba bob peth o'i flaen a safai ar ei ffordd; tra yr ireiddia ac y tymhera y ddaear yn hyfryd er peri iddi dyfu a ffrwytho; ond yn awr, yr oedd ei weinidog· aeth a'i ddull yn debycach i ddisgyniad gwlith tyner, ac ambell gawod o glaear wlaw cymhedrol, bob yn ail â hauldes cynhesol yn saethu rhwng ochrau y cymylau dyfriog, nes y byddo holl lysiau, blodau, glaswellt, a hadau y ddaear yn cyd-lawenychu, ac yn cyd-yfu dan y dylanwad bendithiol.

Yr wyf yn gostyngedig farnu, mai tri chedyrn cyntaf gweinidogaeth eu hoes yn Nghymru, oeddynt Charles o Gaerfyrddin; Christmas Evans o Fon; a Williams o'r Wern. Am y cyntaf, sef Mr. Charles, ychydig mewn cydmariaeth oeddynt alluog i'w werthfawrogi yn ol ei wir deilyngdod; nid cymmaint o dân oedd yn ei areithyddiaeth un amser; yn nerth ei fater, ei bethau a'i ddrych-feddyliau yn unig yn mron yr oedd ef yn rhagori: a rhagorol iawn ydoedd, fel y dengys ei bregethau sydd yn awr yn cael eu cyhoeddi gan Mr. H. Hughes, y rhai a eglur brofant fod eu hawdwr yn feddiannol ar feddwl wedi ei ystorio â gwybodaeth a phrofiad efengylaidd, ar alluoedd treiddiol ac eryraidd, ar y chwaeth buraf, a boneddigeiddiaf, a'r golygiadau mwyaf llednais a goruchelwych. Ei bregethau, wedi eu gosod mewn argraff ydynt, fel "afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig." Wrth eu traddodi, byddai y pregethwr megys yn agor mwnglawdd o berlau gerbron ei wrandawyr, yn eu cloddio allan yn lled raddol o un i un, a chan ddysgwyl iddynt eu cymhell eu hunain i sylw yr edrychwyr, nes peri iddynt werthu yr oll a feddent er en pwrcasu, ni ofalai hwyrach gymmaint ag a fuasai ddymunol i'w caboli a'u coethi yn nhân araethyddiaeth, er peri i'w dysglaerdeb tânllyd belydru a gwreichioni yn ngolwg y marchnatawyr; o ganlyniad, elai llawer adref heb ganfod eu gwerth a'u gogoniant, ond pob marchnatawr call a'u gwerthfawrogent. Teimlai mwyngloddwyr enwog ereill yn ddigalon i geisio dangos yr eiddynt hwy yn yr un farchnad â Charles; y Parch. Ebenezer Morris, un ag yr oedd enw mawr iddo, a theilwng hefyd, yn mysg "y deg penaeth ar hugain," a ddywedai wedi ei wrando unwaith, ei fod yn "teimlo yn ddigalon, i feddwl ceisio pregethu drachefn."

Yr oedd Evans, yntau o'r ochr arall, yn eirias drwyddo oll, yn gyffelyb i losgfynydd tânllyd Etna, neu Vesuvius, yn bwrw allan ei lava fel afon ferwedig am ben ei wrandawyr, nes y by ddai eu holl deimladau yn cynneu, ac yn llosgi yn angerdd ei wres anorchfygol. Yr oedd yn ddyfalydd a dychymmygydd heb ei gymmar; personolai ei fater o flaen ei wrandawyr, yn y fath fodd ag a'u gorfodent yn mron i sylwi arno a'i deimlo. Os rhyw amgylchiad a fyddai ganddo i'w ddesgrifio, cerfiai ef mor naturiol, nes y meddyliai pawb yn y lle, mai edrych ar y ffaith mewn gwirionedd y byddent, ac nid gwrando ar ddarluniad neu adroddiad o honi: os moch cythreulig Gaderenia fyddai y testun, parai i chwi feddwl eich bod yn y fan a'r lle, gwelech y genfaint ddieflig yn rhuthro heb yn waethaf i'r ceidwaid, a'u gwrych yn eu sefyll, ac yn treiglo bendramwngl dros y dibyn i'r môr. Dygai chwi i olwg dyffryn esgyrn sychion Ezeciel, arweiniai chwi o'i amgylch ogylch, tybiech eich bod yn gweled yr esgyrn yn wasgaredig ar hyd ei wyneb, eu gweled yn cynhyrfu ac yn dyfod yn nghyd asgwrn at ei asgwrn, giau a chig yn cyfodi arnynt, tybiech glywed y gwynt yn anadlu arnynt, a hwythau ger eich bron yn cyfodi ar eu traed yn llu mawr iawn." Credech bryd arall wrth ei wrando eich bod yn gweled yr afradlon yn gadael tŷ ei dad, yn ei ganlyn i'r wlad bell, yn dyfod gydag ef yn ei ol, ei weled yn cael ei dderbyn gan ei dad; eich bod yn llygad-dyst, ac yn gyd-gyfranog o'r wledd, y llawenydd, y cânu a'r dawnsio, ac nid yn gwrando un yn desgrifio yr amgylchiad i chwi. Os angeu a buddugoliaeth y groes fyddai yr amgylchiad dan sylw, trosglwyddid chwi i'r lle, meddyliech eich bod yn sefyll yn ngodreu mynydd Calfaria, yn gweled gwrdd-deirw Basan, y cŵn, y llewod, a'r unicorniaid, yn cyd-ymosod ar y llew o lwyth Juda, ac yntau yn eu gorthddrechu, a'u gwasgaru, gan dòri eu dannedd a'u cyrn, nes y byddent fel cessair ar hyd ochr y mynydd. Neu beth bynag arall a fyddai y mater mewn llaw, trinid ef yr un modd, a chyda'r un cyffelyb effeithiau. Y coll, fe allai, oedd, bod ei ddychymmyg weithiau yn rhy grefi'w farn; byddai yn debyg i redegfarch porthiannus, yn prancio ymaith, gan gludo y marchogydd dros furiau a chloddiau, fel na allai bob amser gael llywodraeth briodol arno.

Yn y canol rhwng y ddau, cymmerai WILLIAMS yntau ei lwybr; elai i mewn i drysorau llyfr gras, dygai allan "bethau newydd a hen." Rhyw un o egwyddorion athrawiaethol neu ymarferol teyrnas nefoedd bob amser yn cael ei dwyn a'i gosod allan; eglurai hi gyda'r fath symledd, a dygai hi gerbron yn y fath oleuni, fel y gallai pob un o'i wrandawyr ei gweled a'i deall, byddai ganddo gyflawnder o'r cydmariaethau mwyaf hapus a phriodol er eglurhau ei fater, ac yn y diwedd, gwasgai hi adref at y gydwybod gyda nerth anorchfygol ni byddai yn bosibl i neb yn y lle fod yn ddifater a disylw, ac ni fyddai yn bosibl sylwi a bod heb deimlo.

Er fod ei ddychymmyg o'r fath rymusaf a bywiocaf y bu y meddwl dynol yn feddiannol arni, etto yr oedd bob amser—h. y., dros yspaid yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes—o dan lywodraeth a dysgyblaeth dda, wedi ei chaethiwo a'i dysgu i wasanaethu y mater a drinid, er ei egluro a'i wisgo gyda phrydferthwch a gogoniant. Yr oedd yn ofalus iawn i roddi ei holl dalentau allan er defnyddioldeb cyffredinol : "Usefulness," oedd ei hoff arwyddair, ac at hwn yr oedd yn cyrchu gyda holl nerthoedd ei ddoniau, ei ddychymmyg, a' wybodaeth.

Gallesid enwi un arall o gawri y weinidogaeth, yr hwn, a'i ystyried fel areithydd celfyddgar a meistrolgar, a ragorai ar bob un o'r tri, ond odid; ond gyda golwg ar ddyfnder meddwl, uchelwychedd golygiadau, gwreiddioldeb drychfeddyliau, prif elfenau cyfansoddiad gwir fawredd pregethwr, "ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf."

Wrth wrando WILLIAMS yn pregethu, gallasech ei gyffelybu i delynor medrus, yr hwn, cyn dechreu chwareu ei dôn, a drinia ac a gywreina dannau ei delyn; ac wedi cael' pob tant i gywair priodol, a chwery ei fysedd ar hyd-ddynt, nes y clywid y gyd-gerdd bereiddiaf a melusaf yn dylifo megys oddirhwng ei ddwylaw. Cymmerai yntau ei destun megys y cerddor ei delyn, ac wedi pum mynud, fe allai, o gyweirio ei dannau mewn rhagymadrodd a dosbarthiad, dechreuai chwareu arnynt, gan dywallt allan y fath beroriaeth seinber, fel os byddai rhywun o'r rhai a fyddent yno yn bresennol heb ei gynhyrfu dan ei dylanwad, rhaid ei fod wedi cau ei glustiau, fel y neidr fyddar, rhag gwrando ar lais y rhiniwr a'r swynwr cyfarwydd hwn.

Rhoddi y fath ddesgrifiad o hono ag a grybwyllai y cyfaill rhag-grybwylledig, pan safai uwchben tyrfa cymmanfa neu gyfarfod, sydd orchwyl pell uwchlaw fy ngallu i. Byddai yn hawdd i'r rhai cyfarwydd ag ef, frudiaw oddiwrth ei ddull a'i agwedd cyn pregethu, ar y cyfryw achlysuron, pa fodd y byddai arno pan elai ati. Pan fyddai yn llawn ysbryd pregethu, a'i feddwl yn cydio yn ei fater yn y rhag-olwg arno, nes y byddai ei enaid wedi chwyddo gan ddrych feddyliau, byddai ei wefusau a'i eiliau yn ymsymud ac yn crychu, gan gyfnewid eu dull a'u ffurf yn barhaus; byddai ei lygad megys yn chwyddo, ac yn mynych newid ei ddynodiant (expression), megys pe buasai drych-feddyliau ei enaid yn saethu allan trwyddo, y naill ar ol y llall, a phob un yn argraffu ei delw ei hun arno yn ei mynediad drwyddo, a'r naill yn dinystrio gwaith y llall, mor gynted ag y gorphenai ef. Edrychai weithiau yn hynod o absennol oddiwrtho ei hun, fel un wedi llwyr soddi, o ran ei feddwl, i ryw fater, pan orphenai yr hwn a bregethai o'i flaen. Cyfodai i fynu mewn agwedd a dull a ddangosai bod ei holl deimladau wedi eu hadsefydlu, a bod y gwaith ag oedd yn myned yn mlaen yn y peiriant mewnol yn awr wedi sefyll, i'r dyben i'w ail osod i droi yn rheolaidd, er bwrw allan ei gynnyrch i'r cyhoedd. Wedi darllen ei destun, yn lled afler yn gyffredin, a rhagymadroddi yn fyr, fel y crybwyllwyd, cydiai yn ei fater, a dosbarthai ef yn gryno ac yn fyr, a dechreuai ei osod allan a'i egluro mewn trefn, gan gadw perffaith lywodraeth ar ei deimladau a'i lais, fel un a fyddai yn gwbl feistr arno ei hun, ar ei fater, ac ar ei wrandawyr; fel y byddai yn myned i mewn iddo, ac yn cynhesu ynddo, dechreuai delweddau ei feddwl godi drachefn i'w wynebpryd a'i lygaid, a'r drychfeddyliau ysplenydd hyny a fuasent o'r blaen yn berwi yn ei galon, a ddechreuent ddylifo allan, gan gymmeryd eu hadenydd oddiar ei wefusau, y naill ar ol y llall, nes y byddai yn fuan wedi hoelio pob clust wrth ddôr ei enau, pob llygad o'r dorf a fyddent dano wedi ei sefydlu arno, a phob meddwl wedi ei gylymu wrth ei fater. Weithiau byddai yr holl gynnulleidfa yn gwrando mewn dystawrwydd syn, pob un megys yn arswydo gollwng nac ochenaid nac anadliad uwch nâ'u gilydd allan, a phob gair o'i enau, fel y disgynai ar y glust, yn taro y deigryn dystaw allan o'r cannoedd llygaid a fyddent wedi eu sefydlu arno, ac yn gwylio symudiad ei wefusau! Bryd arall, byddai ocheneidiau, gwenau, a dagrau, i'w clywed a'u gweled, y naill yn dyrchafu o'r fynwes, y lleill yn argraffedig ar y wedd, y lleill yn dylifo o'r llygaid, yn cydgymmysgu â'u gilydd, fel ag y byddai holl deimladau y natur ddynol wedi eu cynhyrfu a'u galw i weithrediad gan "Feistr y Gynnulleidfa." Yr oedd ei lais yn hyglyw i bawb, pa inor luosog bynag fyddai y gynnulleidfa, a'i dôn yn beraidd anghyffredinol, pan fyddai yn ei lawn hwyliau yn traddodi; ac ymddangosai yn myned trwy ei waith yn naturiol, esmwyth, a diboen, heb gymmaint â gwlithyn o chwys ar ei wyneb. Nid trwy ymladd, gorchest, a gorthrech, y byddai byth yn dryllio teimladau ei wrandawyr, ond eu denu, eu hennill yn esmwyth a naturiol, eu tymheru a'u toddi, yn gyffelyb i ddylanwad yr haul ar y cwyr.

Wedi gwneuthur yr ychydig sylwadau cyffredinol uchod ar ei ragoriaethau fel pregethwr, rhaid i ni aros yn fwy neillduol etto, gan fanylu ar rai pethau pennodol ag oeddynt yn elfenau cyfansawdd ei nodwedd gweinidogaethol.

1. Ei wybodaeth gyffredinol. Dan y pen hwn dylid nodi ei wybodaeth ysgrythyrol, anianyddol, ynghyd â'i adnabyddiaeth o'r galon ddynol. Am ei wybodaeth ysgrythyrol, gellid yn briodol ddywedyd fod ganddo ddeall da ac amgyffred. helaeth o "ddirgelwch Crist." Golygai y Bibl fel llyfr o egwyddorion moesol—fod pob hanes a ffaith wedi ei bwriadu er cynnwys a gosod allan ryw egwyddor—a bod yn anmhosibl ei iawn ddeall, a chanfod ei ogoniant fel llyfr Dwyfol, heb edrych arno yn y goleu hwn. Yr oedd wedi gwneuthur yn brif wrthddrych ei ymgais, wrth ddarllen a myfyrio yr ysgrythyrau, i chwilio pa egwyddorion a ddysgai y rhan dan sylw, neu os na byddai egwyddor neu egwyddorion yn cael eu gosod i lawr ynddo, pa egwyddor neu egwyddorion fyddent yn cael eu hegluro a'u hesbonio; ac fel hyn yr oedd, debygwn i, yn myned i mewn i enaid yr ysgrythyrau yn chwilio eu cymalau a'u mêr—yn barnu meddyliau a bwriadau calon gair Duw; oblegid enaid y Bibl yw ei egwyddorion. Nid ymddangosai fel un cydnabyddus iawn â geiriau y Bibl; ychydig o ranau o hono a allai adrodd yn gywir allan o'i gof, ac etto, soniech am unrhyw ran neu ymadroddion o'r Bibl wrtho, yr oedd yn gwybod am danynt, ac wedi sylwi arnynt, fel yr oedd ysbryd "cyfraith gwirionedd" ar ei wefus, os na fyddai ffurf yr ymadroddion ar ei gof. Felly gellir dywedyd ei fod yn ysgrythyrwr mawr mewn gwirionedd. Yr oedd ganddo lawer o egwyddorion wedi eu casglu oddiwrth wahanol ranau o'r gwirionedd, drwy gydmaru ysgrythyr ag ysgrythyr; ac i bregethu yr egwyddorion hyny, cymmerai ryw destun fel arwyddair, gan hysbysu ei wrandawyr, mai nid ei amcan y pryd hwnw fyddai pregethu gwir feddwl y cyfryw destun, ond mai cymmeryd ei fenthyg y byddai i osod allan y mater a fwriadai ei drin. Beiai rhai arno am hyn; ond yr wyf yn meddwl gellid dangos fod Crist ei hun, a'i apostolion, yn arfer gwneyd yr un modd rai gweithiau. Ei ddiffyg mwyaf, ac o herwydd yr hyn y cwynai yn fynych, ydoedd na allasai adrodd y rhanau hyny o'r ysgrythyr a fyddent yn dal perthynas â'i fater, oddiar ei gof, pan yn pregethu, yr hyn a'i gosodai dan yr anghenrheidrwydd i droi atynt a'u darllen. Byddai y drafferth hon yn ei daflu allan o hwyl a thymher traddodi yn aml, ac yn lleihau yr effeithiau ar y gwrandawyr dros yspaid yr amserau hyny o'i bregeth. Yr oedd mor adnabyddus a theimladwy o'i ddiffyg hwn, fel na chynnygai byth yn mron i ddyfynu adnod heb droi ati. Diau fod dau fath o ysgrythyrwyr: y cyntaf a ellid eu galw yn ysgrythyrwyr arwynebol, sef rhai cydnabyddus ag ymadroddion y Bibl; y maent fel mynegeir yn rhwydd, a pharod, a chyfarwydd â'r geiriau, yn gallu eu hadrodd yn gywir a digoll; ond dyna yn mron y cwbl sydd ganddynt; y maent heb erioed edrych i mewn i ystyr a meddwl yr ysgrythyr, ond wedi ymfoddloni ar y wybodaeth arwynebol o'i hymadroddion yn unig. Y lleill ydynt yn fwy o fyfyrwyr meddwl y gair nag ydynt o gofiaduron ei eiriau; gan y blaenaf Y mae y wisg, ond gan yr olaf y mae y cnewyllyn; ond yr un goreu yn sicr yw yr hwn sydd yn uno y ddau ynghyd, a chanddo ffurf yr ymadroddion yn ei gof, a sylwedd neu ystyr yr ymadroddion yn ei ddirnadaeth. Er mai y dosbarth olaf, yn ddiau, yw y gwir ysgrythyrwr, ac na all y blaenaf gael ei gyfrif mewn gwirionedd yn un cyfarwydd a chadarn yn yr ysgrythyrau; etto, yr hwn sydd yn meddu y ddwy ynghyd ydyw yr ysgrythyrwr cyflawn. Felly, yn ol y desgrifiad uchod, yr oedd Mr. WILLIAMS yn ysgrythyrwr mawr a gwirioneddol, er, o herwydd y diffyg rhag-grybwylledig, nad oedd yn ysgrythyrwr cyflawn.

2. Ei wybodaeth anianyddol, neu ei anianddysg. Wrth hon deallir adnabyddiaeth neu wybodaeth o egwyddorion y byd naturiol. Yr oedd ef yn wir hoffwr natur; ac nid yn unig yn ddarllenwr gweithiau ereill ar wahanol gangheni y wybodaeth hon, ond yn sylwydd a myfyriwr gwreiddiol o honynt ei hun. Yr oedd ganddo amryw ddyfalion (conjectures) o'i eiddo ei hun am egwyddorion a deddfau y gwynt, y gwlaw, y taranau, &c.; pa mor gywir oeddynt, nid yw yn ngallu, nac yn perthyn i'r ysgrifenydd farnu; ond crybwyllir hyn er prawf ei fod ef yn hoffwr a myfyriwr anian. Carai rodio ar hyd meusydd an fesurol y greadigaeth, fel y galwai hwynt: yr oedd yn rhyfeddol o hoff o weled y mellt a chlywed y taranau, a son am eu deddfau; ac felly holl wrthddrychau ereill natur, fel ag y byddai ganddo ryw beth wedi ei feddwl am bob gwrthddrych yn mron. Yr oedd yn sylwydd ar, ac yn fyfyriwr o natur yn yr un dull ag y myfyriai yr ysgrythyrau, fel ag mai nid prydferthwch a gogoniant geirweddiad y Bibl a darawai ei feddwl, ac a effeithiai ei galon yn benaf, ond ei sylwedd a'i egwyddorion; felly gwrthddrychau y byd anianyddol, nid yr olwg arnynt yn benaf nac yn gymmaint, (er yr hoffai hyny,) a gynhyrfent ei sylw, ac a ddiwallent ei chwaeth, ond eu deddfau a'u hegwyddorion, y rhai hyn a ystyriai fel enaid anian, yn nghyfansoddiad y rhai, yn nghyd â chywirdeb a rheoleidd-dra difeth eu gweithrediadau, yr ymddengys mawredd, dyfais, a doethineb y Creawdwr yn fwy gogoneddus nag yn nullweddiad y pethau a lywodraethir ganddynt. Dywedai yn aml "bod ei ddeddf yn perthyn i bob peth, a bod rhyw ddarganfyddiadau rhyfeddol etto i gael eu gwneuthur yn neddfau natur,—bod dirgeledigaethau y ddoethineb hon yn ddau cymmaint â'r hyn sydd" wedi ei gael allan. "Pe deallem natur yn well, (meddai,) byddai yn gymhorth i ni ddeall y Bibl yn well. Y mae trefn iachawdwriaeth a threfn natur yn debyg iawn i'w gilydd; y mae cyffely brwydd mawr rhwng egwyddorion anianyddol y naill ag egwyddorion moesol y llall." Oddiar fod y chwaeth hwn mor nerthol ganddo, yr oedd mor dra hoff o ddamhegion ein Hiachawdwr, y rhai gan mwyaf a dynid oddiwrth wrthddrychau anian er egluro natur ac egwyddorion ei deyrnas. "Yr oedd Iesu mawr (meddai) yn hoff iawn o waith ei Dad, yn caru edrych ar y lili, a gwrando swn y brain, a myfyrio dirgelwch yr hedyn, &c.; ac yr oedd bob amser yn dysgu egwyddorion oddiwrthynt. Y mae yn wir mai nid ei amcan ef yn gymmaint oedd dysgu ei wrandawyr yn egwyddorion a deddfau natur, ond dysgu egwyddorion ei deyrnas ei hun drwyddynt. Yr egwyddor a ddysgai oddiwrth waith ei Dad yn addurno y lili â gwisg mor brydferth oedd, y buasai yn sicr o ofalu am ddilladu ei blant—oddiwrth ei waith yn porthi y brain a'r adar ereill, y gofalai yn ddiau am borthi a diwallu anghenrheidiau ei bobl—ac oddiwrth dyfiant, cynnyddiant, a ffrwythlonrwydd yr hedyn, y buasai i egwyddorion moesol ei deyrnas, y rhai yr oedd efe yn eu hau yn y byd, i dyfu, cynnyddu, a dwyn ffrwyth ynddo. Diau ei fod ef wedi myfyrio ac yn deall egwyddorion a deddfau anian yn berffeithiach nâ neb arall, ond ni pherthynai i'w swydd ef eu hesbonio a'u hegluro, ond yr oedd natur ganddo fel book of reference, i wasanaethu yn awr a phryd arall fel eglurhad o egwyddorion mawrion trefn gras. Barnai y dylai pob pregethwr fod yn fyfyriwr natur drosto ei hun, a bod yr Arglwydd Iesu Grist yn siampl yn hyn yn gystal â phethau ereill, i weinidogion ei deyrnas. Ar y cyfrif hwn yr oedd yn hoff anghyffredinol o weithiau Ꭹ Parch. Jacob Abbott, o America, yn neillduol y "Gongl-Faen:" arferai ddywedyd "ei fod y tebycaf i Iesu Grist o ran caste ei feddwl, a wyddai efe am dano, o ddyddiau yr apostolion hyd yn bresennol." Y mae yn drueni mawr (meddai) na allem bregethu yn gyffelyb i'r modd y mae y dyn yma yn ysgrifenu."

3. Ei adnabyddiaeth o'r galon ddynol. Ystyriai y wybodaeth hon yn anhebgorol i bregethwr, ac y dylai pob pregethwr beth bynag ei gwneyd yn bwnc a chelfyddyd i fyfyrio y Bibl â'i galon ei hun, ac os deallai ei galon ei hun, yna y byddai ganddo wybodaeth am bob calon, "oblegid, megys mewn dwfr y mae gwyneb yn ateb i wyneb, felly y mae calon dyn i ddyn." Yr oedd yn amlwg iawn i'w weled ynddo ef bob amser ei fod yn sylwydd a myfyrydd dwfn a manylgraff ar weithrediadau y galon ddynol, gan fel y byddai yn eu desgrifio, ac yn eu dilyn yn ei holl dröadau. Teimlad cyffredin ei wrandawyr fyddai yn un o syndod pa fodd y daethai o hyd i wybod am danynt, am weithrediadau dirgel a distaw eu meddyliau, eu tueddiadau a'u hesgusion. Credaf nad yw yn ormod i'w ddywedyd, na ragorodd neb yn ei oes yn Nghymru arno, os oedd un teilwng i'w gystadlu ag ef yn y canghenau hyn o wybodaeth, ag ydynt mor anhebgorol anghenrheidiol i swydd-waith yr areithfa.

2. Doethineb. Hon oedd un arall o elfenau ei ragoriaeth fel pregethwr. Wrth ddoethineb yn y lle hwn, deallir Ꭹ fedr o ddwyn y wybodaeth allan, a'i gosod mewn arferiad. Y mae gan lawer ystor fawr o wybodaeth, heb nemawr iawn o fedr i'w defnyddio er lles ac addysg ereill. Gwaith mawry pregethwr yw "ennill eneidiau," "a'r hwn a ennillo eneidiau sydd ddoeth;" rhaid iddo fod yn fedrus i osod ei wybodaeth allan yn y modd goreu i ateb y dyben. Yr oedd Mr. WILLIAMS yn ddigymmar yn hyn. Yr oedd ei ddoethineb yn ogyfartal â'i wybodaeth; "ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd," ydoedd, yn dwyn allan o'i drysorau bethau newydd a hen," gan eu cyfleu gerbron ei wrandawyr a'u dangos yn y goleu mwyaf ffafriol a manteisiol. Wedi gosod i lawr unrhyw egwyddor efengylaidd, galwai i weithrediad ei wybodaeth ysgrythyrol, a'i wybodaeth anianyddol, er ei hegluro drwy ysgrythyrau, a chydmariaethau, nes y byddai yn ddigon eglur ac amlwg i'r gwanaf ei ddeall a'i amgyffred; a chan ei churo adref at y gydwybod â morthwylion o ysgrythyrau, a chyffelybiaethau wedi eu casglu o feusydd anian; byddai yn sicr o gynnyrchu argraffiad dwfn-ddwys yn gyffredin ar feddyliau ei wrandawyr. Ni phregethai ond anfynych iawn yn un man, na adawai ryw beth i gofio am dano ar ei ol yn mynwesau y rhai a'i clywent. Ei adnabyddiaeth o'r galon ddynol fel y sylwyd, a'i galluogai i ragweled yr holl wrthddadleuon a'r esgusodion a gyfodent yn meddyliau ei wrandawyr yn erbyn y gwirioneddau a draddodai iddynt, a byddai atebiad parod i bob un o honynt ganddo, nes y byddai raid i'r pechadur naill ai plygu yn y fan, neu sefyll yn fudan hunan-gondemniedig gerbron yr athrawiaeth. Yr oedd yn gyfarwydd iawn ar y ffordd at sylw, cydwybodau, a theimladau ei wrandawyr, ac yn ofalus iawn wedi eu galw i weithrediad, i dywallt goleuni drwyddynt i'r deall; ac amcanai bob amser ennill neges y weinidogaeth yn eu calonau, drwy ymdrechu er caethiwo eu meddyliau i ufydd-dod ac ymostyngiad dioedi i'r gwirionedd; fel hyn gellir dywedyd ei fod yn farchnatäwr call iawn gyda'i dalentau, yn eu troi oll i'r defnydd a'r dyben goreu. Y mae rhai yn gyflym iawn i yfed i mewn bob cangen o wybodaeth, ond yn hollol anfedrus i'w dwyn allan drachefn; "Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a'r hwn a ddygo ddeall allan," medd Solomon; a pherthynai y gwynfydedigrwydd yma mewn modd neillduol i wrthddrych y cofiant hwn.

Gallesid meddwl wrth wrando arno, mai dygwyddiad dawn naturiol yn unig ydoedd ei fedrusrwydd i ddeffroi a chynhyrfu teimladau ei wrandawyr, nid ymddangosai amcan a chelfyddyd at hyny yn y mesur lleiaf yn ei ddull; pan mewn gwirionedd, yr un pryd, mai wedi gwneuthur ei hunan yn gymmaint o feistr yn y gelfyddyd, drwy sylw a myfyrdod yr oedd, nes yr aeth yn hollol naturiol ynddi, yn gymmaint felly ag nad ellid canfod dim o ol trafferth dysgu arno. "Os bydd y bobl yn cael lle i feddwl (meddai) bod y pregethwr yn amcanu yn bennodol at effeithio eu teimladau, bydd hyny yn attalfa fawr ar ei ffordd i gael ei amcan i ben, ac yn attalfa i'r gwirionedd gael ei effaith ddyladwy ar y meddwl, a bydd yn ddigalondid ac yn rhwystr i'r pregethwr ei hun hefyd, os gwel ei gais yn troi yn aflwyddiannus. Y mae tuedd yn y fath argyhoeddiad yn meddyliau y gwrandawyr to destroy their confidence in our sincerity. Peidiwch byth a rhoddi lle iddynt feddwl eich bod yn awyddus iawn am ddryllio eu tymherau, ond gofalwch bob amser am sefydlu argyhoeddiad yn eu cydwybodau eich bod yn awyddus iawn am eu dychwelyd a'u hachub."

Yr oedd ei ddoethineb fel pregethwr hefyd yn ymddysgleirio yn fawr yn y ffaith o fod ganddo ryw un nod pennodol i bob pregeth, rhyw un argraff bob amser mewn golwg i'w gynhyrchu ar feddyliau ei wrandawyr; yr oedd ei ddyben, a rhyw un dyben neillduol ganddo mewn golwg bob tro yr esgynai i'r areithfa; ac at hwnw y cyrchai o'r dechreu hyd i'r diwedd, gan gadw ei nerth a'i lais at y rhanau pennodol hyny o'r bregeth a fyddent wedi eu hamcanu yn benaf i wasgu yr argraff bwriadol ar feddyliau y gynnulleidfa; ni byddai byth yn pregethu ar "antur, neu fel un yn curo awyr.' Bûm yn meddwl, wrth wrando llawer pregeth, (meddai,) Wel, i ba beth y mae hon dda? y pregethwr yn dweyd yn llyfn ac yn selog, heb un amcan yn y byd mewn golwg—no point whatever; ac ambell un arall â llawer o boints ynddi, heb yr un prif boint; ac felly y pregethwr yn dyrysu ei hun a'i wrandawyr rhyngddynt, ac yn colli y cwbl. Y mae yn ymddangos i mi, ein bod yn methu yn ddirfawr yn ein cyfarfodydd o herwydd hyn. Y mae yn anmhosibl, yn ol yr hyn yw cyfansoddiad y natur ddynol, i'n cyfarfodydd pregethu ateb llawer o ddyben, yn y dull y maent yn cael eu dwyn yn mlaen. Y mae Ysbryd Duw yn gweithio mewn trefn, ac yn ol deddfau cyfansoddiad y meddwl dynol, wrth ddychwelyd ac ail-eni pechadur, yn gystal ag y mae yn gweithio yn nhrefn natur, yn ol cyfansoddiad a deddfau pethau, er cynnyrchu gwahanol effeithiau yn y byd anianol. Yn ein cyfarfodydd ni, y mae un yn pregethu ar y mater hwn; cyfyd un arall ar ei ol, a phregetha ar fater arall digon pell oddiwrth y llall, ac felly yn mlaen drwy yr holl gyfarfod, fel mai damwain ydyw i ddim daioni gael ei effeithio drwyddynt. "Nid yw Duw awdwr anghydfod, ond trefn;" ond y mae annhrefn ac anghydfod mawr yn ein cyfarfodydd pregethu ni. Dylai fod trefn cyfarfod wedi ei thynu yn mlaen llaw—rhyw un argraff bennodol mewn golwg i gael ei heffeithio drwyddo―y pregethwyr i gael hysbysrwydd mewn pryd—a'r holl bregethau i dueddu yn uniongyrchol i gynnyrchu yr argraff hwnw; neu, o leiaf, dylai pob dwy bregeth a draddoder olynol, fod o'r un duedd uniongyrch â'u gilydd. Yr ydym yn fwy di-lun yn ceisio dwyn achos achub yn mlaen yn y byd, nag y mae neb ereill gyda'u galwedigaethau hwy. O, y mae plant y byd hwn yn gallach o lawer nâ ni. Pe baem yn meddwl am boliticians yn galw cyfarfod i gynnyg aelod seneddol i'r etholwyr; yr areithwyr yn dyfod yn mlaen, un i'w gynnyg arall i'w gefnogi, ac nid areithio un am y lleuad, a'r llall am y môr, a wnaent, ond am yr ymgeisydd―am ei egwyddorion ac am ei gymhwysderau i'r swydd. Cadwai pob un o honynt at ei bwnc; ac y maent yn ymddwyn yn gall ac yn philosophaidd hefyd; a dyma un rheswm paham yr ydym ninnau yn llwyddo cymmaint gyda dirwest; dirwest yw pwnc yr holl areithwyr; dal meddyliau y bobl at un peth, nes eu hennill ato, ac nid eu divertio â'r naill beth a'r llall, fel y gwneir yn y cyfarfodydd pregethu gyda ni. O, mi a garwn yn fy nghalon weled diwygiad trwyadl yn ein cyfarfodydd cyn fy marw.'

Traddodai y sylwadau uchod (o ran sylwedd), ynghyd â llawer o'u cyffelyb, ar y ffordd, yn nghlywedigaeth yr ysgrifenydd a rhai brodyr ereill, tua thair blynedd cyn ei farwolaeth; a da genyf allu ychwanegu ddarfod iddo gael ei ddymuniad o weled y diwygiad a ddesgrifiai yn y cyfarfodydd i raddau go helaeth cyn ei farwolaeth. Pwy na wel fod doethineb, priodoldeb, a synwyr mawr yn ei sylwadau blaenorol, a'u bod wedi tarddu o galon feddylgar a chraff, yn ffrwyth myfyrdod a sylw "gweithiwr difefl" ac ymroddgar. Hyderwn y gallant fod o fudd i bregethwyr a gweinidogion y gwahanol enwadau yn Nghymru etto. Yr wyf fi yn ystyried pob peth a glywais ganddo am bregethu a phregethau yn werth en dal a'u cofio, gan y golygaf mai efe oedd Solomon y weinidogaeth yn ei ddydd: "a hefyd am fod y pregethwr yn ddoeth."

Ychwanegwn etto sylw arall am ei ddoethineb fel pregethwr yr oedd bob amser yn ofalus i beidio treulio allan ei fater, neu i beidio dywedyd cymmaint arno ag a allasai ddywedyd; ond mor fuan ag y darfyddai iddo egluro un gangen o hono, gadawai hòno, ac ymaflai mewn cangen arall, ac felly yn mlaen, nes yr elai drwy holl ganghenau y mater a drinai; anaml iawn y pregethai uwchlaw tri chwarter awr; ni chwynid erioed ei fod wedi bod yn rhy faith, ond yn hytrach cwynid ei fod yn rhy fyr. Gofalai yr un modd hefyd am beidio gỳru gormod ar deimladau ei wrandawyr, wedi eu dirwyn megys i'w law, a'u cael "fel afonydd o ddwfr" dan ei lywodraeth. fel y gallai eu troi fel y mynai, ymattaliai ac arafai pan welai hwynt wedi codi yn lled uchel, fel y gostyngent ac yr ymionyddent drachefn. Mawr hoffai weled y gynnulleidfa yn astud ac effro, clywed eu hocheneidiau a gweled eu dagrau, ond yr oedd yn wrthwynebol iawn i waeddi a bloeddio, ac yr oedd yn gosod ei wyneb yn llyn iawn yn ei erbyn bob amser; barnai ei fod yn anweddaidd-dra mawr mewn addoliad crefyddol, a'i fod wedi bod yn atalfa i lawer o eneidiau gael eu hachub. Cynghorai ei frodyr yn y weinidogaeth a ddeuent i ymweled ag ef yn ei gystudd diweddaf, pan yr oedd adfywiad nerthol yn yr eglwysi, i beidio ar un cyfrif roddi cefnogaeth i'r gorfoleddu, fel ei gelwir. "Y mae yn dda iawn genyf ddeall (meddai) nad oes dim o hono hyd yma yn perthyn i'r adfywiad hwn; y mae arnaf ofn clywed ei fod yn dechreu, cânwn yn iach i'r adfywiad wedi hyny."

Byddai yn sylwi yn fynych, bod yr un mor bosibl i deimladau y gwrandawyr fod yn rhy gynhyrfus, yn gystal ag yn rhy farwaidd, i dderbyn argraff oddiwrth y gwirionedd, ac y dylai fod gan y pregethwr amcan pennodol at eu codi a'u cadw mewn teimlad astud, a bod yn ochelgar rhag eu codi yn rhy uchel i farn, a rheswm, a chydwybod gyflawni eu priodol swyddau tuag at y gwirionedd.

3. Un arall o'i ragoriaethau fel pregethwr oedd ei symledd, (simplicity.) Pa fater bynag a gymmerai mewn llaw, gwisgai ef â symledd ac eglurdeb rhyfeddol, ni byddai cymylau, a niwl, a thywyllwch o'i amgylch un amser. Nid un o'r pregethwyr hyny y clywid rhai yn dywedyd am dano, "Ni wn i yn y byd pa beth wyt yn geisio ddywedyd, gobeithio dy fod yn dywedyd y gwir," oedd WILLIAMS; gwnelai ef yn ddigon eglur i bawb o'i wrandawyr beth a fyddai yn geisio ddywedyd, oblegid nid ceisio dywedyd peth a methu a wnai ef, ond ei ddywedyd a'i egluro nes gwelai ac y deallai pawb a geisiai ei ddeall ef. Gwnelai ef sylw mawr o bethau a esgeulusid gan ereill yn gyffredin yn eu pregethau, codai a dangosai bethau ag a fyddent, (yn ol yr ymadrodd cyffredin,) dan drwynau pawb, ac etto heb eu gweled a'u defnyddio. Nid wyf yn cofio ddarfod i mi ei wrando unwaith erioed, na byddwn yn teimlo yn ddig wrthyf fy hun am na buaswn o'r blaen wedi canfod rhyw bethau a glywn ganddo, ac wedi gwneuthur defnydd o honynt—mor hawdd eu gweled erbyn iddo ef eu dangos, mor agos oeddynt erbyn iddo eu codi i sylw; ac etto mor briodol, a phrydferth, a defnyddiol i ateb y dyben a wnelai o honynt, pethau a wyddai pawb yn gystal ag yntau, ond rhoddai efe ryw oleu a golwg newydd arnynt. Yr oedd gwir oruchelwychedd (sublimity) yn ei symledd ef, a'i gwnelai yn bregethwr i'r dealldwriaethau mwyaf coethedig, a'r rhai gwanaf ac iselaf ar yr un pryd.

Yr oedd ei gydnabyddiaeth ag egwyddorion y Bibl, ei gydnabyddiaeth â gwrthddrychau ac egwyddorion anian, ynghyd â'i gydnabyddiaeth â'r natur ddynol, ac hefyd ei fedr i osod ei fater allan gyda symledd a goleuni, yn ei wneuthur yn wir fawr yn yr areithfa, yn ei alluogi i wasgu yr athrawiaeth adref at y galon gyda nerth a deheudra anarferol.

Fel enghraifft o'i hoffder at ddull syml ac eglur o bregethu, gellid dyfynu rhai o'i sylwadau yn y bregeth ddiweddaf a draddododd mewn cymmanfa, yn Bethesda, swydd Gaernarfon, yn y flwyddyn 1839, ar etholedigaeth a gwrthodedigaeth:—

"Yr ydym wedi mawr niweidio y byd, (meddai,) a mawr gymylu gogoniant llawer o athrawiaethau yr efengyl, drwy wneyd mystery o honynt; gwneyd dirgelwch o'r pethau a wnaeth Duw yn amlwg; yn lle cymmeryd y pethau fel y mae y Bibl yn eu gosod o'n blaen, rhaid i ninnau eu cipio i'r awyr a'r cymylau, a dywedyd bod rhyw ddirgelwch yn perthyn iddynt, ac felly myned â hwynt i'r dirgelwch, a'u cymylu a'u tywyllu, nes creu dadleuon ac ymrysonau yn eu cylch, a hurtio y byd a'i ddyrysu, yn lle symud y rhwystr o'i ffordd. Er siampl, pe cymmerem yr athrawiaeth o gyfiawnhad pechadur, pa nifer o gyfrolan mawrion a ysgrifenwyd ar y pwnc hwn, ac â pha ddirgelwch y gwisgwyd yr athrawiaeth fawr hon? a meddyliaf yn sicr, y byddai yr hwn a gymmerai y drafferth i ddarllen a cheisio deall yr oll a ysgrifenwyd ar y mater, yn mhellach oddiwrth ei ddeall yn y diwedd, nag oedd cyn dechreu, y byddai wedi ei hurtio a'i ddyrysu. Ond gwelwch mor fyr, syml, ac eglur, y pregethai Iesu Grist gyfiawnhad pechadur: 'Dau wr a aeth i fynu i'r deml i weddio, un yn Pharisead a'r llall yn bublican. A'r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynai gymmaint â chodi ei olygon tua'r nef, eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur. Dywedaf i chwi, aeth hwn i wared i'w dŷ wedi ei gyfiawnhau, ac nid y llall.' Ai dyna gyfiawnhad pechadur, Iesu mawr? Dyna efe; pechadur yn cwympo fel y mae, yn ei drueni, i drefn a thrugaredd Duw, heb ganddo un ddadl i'w chynnyg, ond trugaredd noeth, am ei fywyd. Dyna'r athrawiaeth yn ei gwaith; a phe buasem wedi dangos etholedigaeth a gwrthodedigaeth yn eu gwaith, ni buasai nemawr ddim ymryson wedi bod erioed yn eu cylch yn mysg Cristionogion. Darfu i ninnau theorizio yr athrawiaethau hyn, a thrwy hyny eu cuddio a'u cymylu, nes gwneyd drychiolaethau o honynt, a chreu casineb atynt yn meddyliau dynion. Ond y maent yn ymddangos yn brydferth a hardd iawn yn eu gwaith, yn gymmaint felly, fel na all neb ddigio wrthynt, nac anfoddloni iddynt.

"Gadewch i ni edrych ar etholedigaeth a gwrthodedigaeth yn y goleu hwn.

"I. Etholedigaeth.

"Wrth yr etholedigion yr wyf yn deall y personau hyny y rhagwybu Duw y byddai yn oreu ar y cyfan, er ei ogoniant ei hun, a lles a daioni cyffredinol y wladwriaeth fawr, i ddwyn oddiamgylch y fath oruchwyliaethau a dylanwadau Dwyfol, ag a effeithient eu dychweliad, a'u parhad hyd y diwedd. Ymdrechaf ddangos yr athrawiaeth yn ei gwaith, ac nid yn ngolyg-ddysg (theory). Caf roddi rhai siamplau.

"1. Cyfeiriaf chwi yn gyntaf at amgylchiadau dychweliad boneddiges, yr hon a fuasai byw yn mlynyddau boreuaf ei bywyd yn nghanol pleserau a meluswedd buchedd, yn hollol ddiystyr o grefydd, ac yn ddirmygus iawn o grefyddwyr. Priododd yn lled ieuanc â boneddwr ieuanc o'r un nodwedd â hi ei hun, ac aethant yn mlaen am rai blynyddau yn mhellach, i ddilyn pleserau a dullweddau y byd hwn. Ganwyd iddi ddau o blant, ac yn mhen rhyw gymmaint, cymmerwyd ei phriod yn glaf, a bu farw; felly gadawyd hi yn weddw, a'i phlant yn amddifaid. Yn mhen rhyw yspaid drachefn, bu farw un o'r plant, a'r llall drachefn a gymmerwyd oddiwrthi, fel y gadawyd hi, fel Naomi gynt, yn amddifad o'i gwr a'i dau blentyn. Yr oedd drygfyd wedi dyfod i'w thŷ, amgylchiad profedigaethus ar ol y llall a'i cyfarfu, nes ei dar. ostwng i amgylchiadau lled isel yn y byd. Gorfu iddi adael y palas yr oedd yn byw ynddo, a symud i le llai. Erbyn hyn yr oedd wedi ei dofi a'i dwyn i raddau ati ei hun, ond etto mor ddyeithr i grefydd ag erioed. Gyferbyn lle yr oedd yn byw yn awr yr oedd addoldy, a gwelai y bobl ar y Sabboth, ac amserau ereill, yn cyrchu iddo; ac yn mhen rhyw gymmaint o amser, dechreuodd feddwl pa beth a allent fod yn ei gael yno, gan eu bod yn parhau i gyrchu yno o bryd i bryd mai rhaid oedd eu bod yn cael rhyw bleser a budd, onidê, na buasent byth yn trafferthu eu hunain i ddyfod yno. Teimlai ei hunan yn annedwydd; ni wyddai beth oedd yr achos; ac ni wyddai beth a'i symudai. Penderfynodd, pa fodd bynag, i fyned yno ryw Sabboth, ac felly fu. Ymaflodd y gwirionedd yn ei meddwl—tywynodd goleuni newydd i mewn i'w chalon—canfu ogoniant crefydd Crist—a gwelodd mai adnabyddiaeth a meddiant o honi oedd yr unig beth anghenrheidiol iddi er ei dedwyddwch a'i chysur mewn bywyd ac angeu. Daeth yn Gristion gostyngedig a duwiolfrydig; pobl yr Arglwydd, y rhai a gasäai ac a ddirmygai gynt oeddynt ei chyfeillion anwylaf yn awr. Rhoddodd y profion mwyaf boddhaol o wir gyfnewidiad cyflwr, a bu farw mewn dyddanwch a gorfoledd. Beth oedd hyn? Etholedigaeth yn ei gwaith.

"2. Gwr ieuanc a ddygasid i fynu mewn teulu crefyddol, ond a droes allan yn wadwr a dirmygwr crefydd, yn anffyddiad penderfynol; ymroddasai i bob halogedigaeth, i" wneuthur pob aflendid yn un chwant." Bu agos iddo dori calon ei fam dduwiol; tywalltai aberoedd o ddagrau yn ei achos; ac yr oedd bron wedi anobeithio am ei ddychweliad; ond pa fodd bynag, wedi iddo fyned yn mlaen rai blynyddau mewn gyrfa o lygredigaeth ac anystyriaeth, daeth amgylchiad i'w gyfarfod a roddodd attalfa arno. Yn yr amgylchiad hwnw, gwasgwyd ef i ail feddwl am ei fywyd blaenorol—am gynghorion ac ymbiliau ei rieni—am ddagrau a gweddiau ei fam dduwiol drosto. Dechreuodd ddarllen y Bibl a ddirmygasai, a chafodd ef yn llyfr tra gwahanol i'r hyn y tybiasai ei fod; cyrhaeddodd y cleddyf dau-finiog trwodd hyd y cymalau a'r mêr, gan farnų meddyliau a bwriadau ei galon. Cyfnewidiwyd a dychwelwyd ef; daeth i fod yn aelod defnyddiol a dysglaer yn eglwys Dduw; gwelodd yr hen fam dduwiol ei mab hwn oedd farw, wedi dyfod yn fyw drachefn.' Etholedigaeth yn ei gwaith.

"3. Bywyd merch edifeiriol, yr hon a droisai allan yn wyllt ac anystyriol, gan ddilyn oferedd, ac o'r naill radd o ddrygioni i'r llall, nes o'r diwedd golli pob tynerwch cydwybod, a dibrisio ei hun yn gymmaint ag yr aeth i rodio heolydd Lynlleifiad yn butain gyffredin. Gyrfa o halogrwydd a wanychodd ac a ddinystriodd ei hiechyd a'i chyfansoddiad yn dra buan; dygwyd hi i'r edifeirdy (penitentiary) yn wrthddrych o drueni a gresyndod. Gwasgwyd gwirioneddau crefydd at ei meddwl yno, a gwelwyd hi, fel y bechadures yn nhŷ Simon gynt, yn golchi traed Gwaredwr pechadur â'i dagrau, a rhoddodd arwyddion gobeithiol o wir ddychweliad, a bu farw dan fawrygu a chanmol gras y Ceidwad. Etholedigaeth yn ei gwaith.

"4. Gwr meddw. Buasai unwaith yn ddyn parchus yn y gymmydogaeth; ond trwy ddilyn oferwyr, aethai wedi hyny yn ddiotwr, ac o'r diwedd, yn feddwyn hollol. Collodd ei gymmeriad a'i barch; diflanodd ei serch tuag at ei briod a'i blant; hollol esgeulusodd foddion gras. Yr oedd ei nodwedd, ei amgylchiadau, a'i gysuron teuluaidd, wedi eu llwyr ddyfetha; ei iechyd a'i gyfansoddiad hefyd oeddynt yn rhoddi y ffordd yn brysur. Yr oedd ei galon wedi caledu, a'i gydwybod wedi ei serio, a phob argraffiadau crefyddol yn mron wedi eu llwyr ddileu o'i fynwes. Daeth cyfarfod Dirwestol i'r gymmydogaeth lle yr oedd yn byw; daeth awydd arno yntau i fyned iddo; ennillwyd ef i arwyddo yr ardystiad; cadwodd ato; dechreuodd ymarfer â'r Bibl, yn lle â'r ddiod feddwol; dechreuodd gyrchu i'r ysgol Sabbothol a moddion gras; cafodd y gwirionedd argraff ar ei feddwl; daeth yn greadur newydd yn Nghrist Iesu, ac y mae yn awr yn aelod defnyddiol yn eglwys Dduw. Etholedigaeth yn ei gwaith., Yr etholedigaeth a'i cafodd.'

"Oddiwrth y ffeithiau uchod, y rhai a nodwyd yn unig fel ychydig enghreifftiau allan o filoedd, y mae y casgliadau canlynol yn naturiol a theg:—

"1. Y mae yn amlwg na allasai dim llai na gallu a dylanwad Dwyfol effeithio y fath gyfnewidiadau.

"2. Rhaid oedd fod y cwbl yn ffrwyth bwriad ac amcan—nid dygwyddiad a damwain.

"3. Rhaid fod y bwriad a'r amcan hwn yn dragywyddol: 'Hysbys i Dduw ei weithredoedd oll erioed.' Nid oes dim newydd yn dyfod i'w feddwl.

"4. Nid allai fod dim yn y gwrthddrychau yn teilyngu y fath garedigrwydd.

"5. Ni all fod y fath gyfnewidiad grasol ar y fath wrthddrychau yn taflu un math o ddianrhydedd ar nodwedd Duw, mewn un modd, ond yn hytrach yn tueddu i'w ogoniant a'i glod.

"6. Ni welwch ddim yn y ffeithiau i galonogi pechaduriaid i esgeuluso eu dyledswydd, ac i beidio ymarfer â phob moddion o ras yn eu cyrhaedd. "

7. Nid oes un tuedd ynddynt i yru neb i anobaith.

"II. Gwrthodedigaeth. Y gwrthodedigion yw y rhai hyny a fyddant golledig yn y diwedd, a hyny o herwydd iddynt wrthod edifarhau a dychwelyd.

"1. Mi a gaf eich cyfeirio at amgylchiad gwr ieuanc, yr hwn a gawsai fanteision addysg grefyddol: tyfodd i fynu er y cwbl yn galed a drygionus, gweithiodd allan o'i feddwl bob argraffiad crefyddol, aeth o ddrwg i waeth, gan ymgaledu fwy-fwy, nes y cyfarfu ag angeu anamserol yn nghanol ei annuwioldeb a'i anystyriaeth.

"2. Y pechadur anystyriol, yr hwn a fu byw dan weinidogaeth moddion yn ddifeddwl a dideimlad, heb ganddo un amgyffred na dirnadaeth o bethan crefydd; un o ddosparth "min y ffordd" yn y ddammeg,Bu fyw fel anifail, a bu farw fel anifail.

"3. Hen wrandawr efengyl, ag sydd wedi cynnefino â'i swn, nes ydyw wedi colli ei heffaith a'i dylanwad arno; y mae hwn yn debyg o fod yn un gwrthodedig, h. y. yn debyg iawn mai un a fydd yn ol ydyw.

"4. Y gwrthgiliwr. Wedi gadael crefydd er ys blynyddau, ac yn ymddangos yn hollol ddidaro a dideimlad yn nghylch ei gyflwr a'i sefyllfa.

"5. Y proffeswr rhagrithiol—wedi dyfod i eglwys Dduw, ac yn gwneyd tarian o'i broffes i gadw saethau y gwirionedd oddiwrtho, ac sydd yn cysgu yn dawel ac yn esmwyth arno yn Sïon.

"SYLWADAU.

"1. Ni all neb feio Duw am wrthod y fath nodweddau yn y diwedd. "

2. Os ydych dan un neu arall o nodau gwrthodedigion, eich bai chwi eich hunain yn hollol ydyw.

"3. Bydd gogoniant holl briodoliaethau moesol Duw yn cael ei amlygu yn namnedigaeth dragywyddol y fath nodweddau.

"4. Gallai fod rhai o honoch yn myned debycach debycach i rai gwrthodedig o hyd.

"5. Y mae cyflwr tragywyddol y gwrthodedig heb ei sefydlu yn anobeithiol tra parhao ei fywyd. 'I'r rhai sydd yn nghymdeithas y rhai byw oll y mae gobaith:' ond nid oes un gobaith y cedwir hwynt yn y cyflwr a'r nodwedd y maent ynddo; ond mae annogaethau iddynt i edifarhau a dychwelyd, a sicrwydd o dderbyniad iddynt ar eu dychweliad."

Gwasanaethed hyn yna fel siampl o symledd ei bregethau. Rhoddai bob amser ei ddoethineb ar waith i ddwyn allan ei wybodaeth yn y modd symlaf, er ennill sylw, argyhoeddi cydwybodau, goleuo deall, cyffroi serchiadau, a dychwelyd eneidiau ei wrandawyr; ac yn y fan hon y gadewir y desgrifiad o'i nodwedd fel pregethwr yn nwylaw darllenwyr y Cofiant, i'w feirniadu wrth eu hewyllys; y cwbl a ewyllysiai yr ysgrifenydd ddywedyd yw, y buasai yn dda ganddo pe buasai yn berffeithiach darlun, ond gwnaeth ei oreu, a phriodoler y ffaeleddau a ganfyddir ynddo i ddiffyg gallu ac nid diffyg ewyllys.

Deuwn yn nesaf i gymmeryd ber-olwg ar ei nodwedd fel gweinidog a bugail yn yr eglwys: y wybodaeth, y ddoethineb, a'r symledd a gyfansoddent ei ragoriaethau fel pregethwr uwchben y gynnulledfa yn yr areithfa; ynghyd ag elfenau ereill ei nodwedd fel dyn ac fel Cristion, a gydgyfansoddent ei gymhwysder a'i ragoroldeb o dan yr areithfa yn yr eglwys, fel gweinidog, bugail, a phorthwr praidd Crist.

1. Yr oedd yn ofalus iawn am heddwch a thangnefedd yr eglwys yn wneuthurwr heddwch. Mawr ddymunai "heddwch Jerusalem, a llwyddiant y rhai a'i hoffai." Mynych y dywedai mai cariad yw cyfraith y tŷ, ac nad oes un gyfraith na llywodraeth i gael ei gweinyddu yn Sïon ond cyfraith a llywodraeth cariad. Ymwelodd â llawer o eglwysi yn ei afiechyd diweddaf, ac annogai hwynt i undeb, tangnefedd, a chariad uwchlaw pobpeth. Mynych yr adroddai eiriau yr apostol, "Am ben hyn oll, gwisgwch gariad,"—"bydded yn egwyddor yn y galon, yn pelydru yn y llygad, ac yn diferu oddiar y wefus, ac yn wastad yn llifo mewn gweithredoedd o gymmwynasgarwch tuag at eich gilydd."

Adroddai yn mhob man sylw a glywsai gan y Parch. W. Griffiths, o Gaergybi, mewn cyfarfod blynyddol yn Llynlleifiad, "mai o bob aderyn, y golemen sydd yn dychrynu ac yn prysuro ymaith fwyaf pan glywo sŵn saethu." "Cofiwch (meddai) bod yr Ysbryd Glân yn cael ei gyffelybu i'r golomen, ac os ewch i saethu at eich gilydd, fe gymmer y golomen nefol ei haden, ac a'ch gedy yn fuan; ysbryd cariad a heddwch yw yr Ysbryd Glân, ac nid ysbryd ymryson a therfysg, ni all fyw yn y mŵg a'r tân, a lle byddo sŵn saethu: os ydych am ei dristâu, a'i ỳru ymaith, dyma y ffordd fwyaf effeithiol a ellwch gymmeryd, saethwch at eich gilydd ac fe ymedy yn union." Cafodd yr hyfrydwch a'r fraint fawr o fwynhau heddwch eglwysig yn y Rhos, a'r Wern, dros yr ysbaid maith o ddeng-mlynedd-ar-hugain ag y bu yr eglwysi hyny o dan ei ofal; aml waith y dywedodd am danynt, Y maent heb ddysgu yr art o ymladd erioed, a gobeithio na ddysg eu dwylaw, a'u bysedd byth y gelfyddyd o ymladd a rhyfela â'u` gilydd."

2. Yr oedd yn ddoeth, pwyllog, caruaidd, a ffyddlon iawn. Am ei nodwedd fel gweinidog ysgrifenai swyddogion eglwys y Rhos fel y canlyn:—

Gyda golwg arno fel gweinidog, ymddygai yn ddoeth, a gofalai am dreulio yr amser yn y cyfarfodydd eglwysig er adeiladaeth. Byddai yn fawr rhag blino neb â meithder mewn unrhyw gyfarfod: dywedai mai gwell yw tòri y cyfarfod tra yn ei flas, nâ threulio meithder o amser, a blino fe allai y rhan fwyaf o'r gynnulleidfa, a thrwy hyny eu difuddio. Ymddygai bob amser yn hynod o amyneddgar, pwyllog, a diduedd yn ngweinyddiad dysgyblaeth eglwysig; ond llym a phenderfynol yn erbyn troseddau cyhoeddus, pwy bynag a geid yn euog. Pan ddygwyddai anghydfod rhwng brodyr, yr oedd yn rhagori yn ei ddull a'i fedrusrwydd er dwyn y pleidiau i gymmod: anaml iawn y gwelid ef yn cyfryngu yn ofer ar y cyfryw achlysuron, "Ni fu erioed anghydfod (meddai) heb fod rhyw gymmaint o'r bai o bob tu, gwell yw ildio er mwyn heddwch yn y frawdoliaeth, er bod ar yr iawn; ochr ddiogel yw hon yna."

Dadleuai dros yr ochr a gymmerai mewn unrhyw achos ag y byddai gwahaniaeth barn yn yr eglwys arno, gydag amynedd, arafwch, ac addfwynder mawr, ac os yr ochr wrthwynebol a gai y mwyafrif, tawai, â gwen dros ei wyneb, a dywedai, "Wel, wel, gan y majority y mae mwyaf o deimladau beth bynag, yn mha ochr bynag y mae mwyaf o wybodaeth a deall." Sylwai fod yn dda ganddo nad oedd gofal eglwys Dduw ddim i fod ar ei ysgwyddau ef ei hun yn unig, ond mewn cydweithrediad â'r swyddogion. Pan ddygid unrhyw achos dyrus gerbron yr eglwys, byddai yn rhyfeddol o fanwl wrth ei osod gerbron, er ei egluro yn y fath fodd ag y gallai y gwanaf ei ddeall yn yr eglwys ei amgyffred. Wrth geryddu brawd unwaith, sylwodd mewn modd tra effeithiol, gan ddywedyd, "Ni byddaf byth yn dyfod â fflangell gyda mi i'r eglwys, ond cymmeryd y fflangell a rwymodd y dyn ei hun. Na rwgnached y troseddwr rhag STROKES y fflangell a glymodd efe ei hun. Ein Harglwydd pan yn gyru y prynwyr a'r gwerthwyr allan o'r deml, ei fflangell oedd y mân reffynau a ddygasent hwy eu hunain yno, sef y cortynau â'r rhai y rhwyment eu nwyfau."

"Arferai osod mater i lawr mewn cyfarfod eglwysig, i fod yn destun myfyrdod hyd, ac yn destun ymddyddau yn y cyfarfod nesaf, a'r Sabboth canlynol, pregethai yntau arno, gan ofalu cynnwys yr holl bethau y sylwyd arnynt, yn y bregeth; profwyd y dull hwn yn dra effeithiol i adeiladu yr eglwys mewn gwybodaeth a deall ysbrydol."

3. Yr oedd ganddo ofal neillduol am famau plant yn yr eglwys. Yr oedd ganddo rhyw fedr rhyfeddol i fyned i mewn i'w profiadau a'u teimladau. Cofia ugeiniau o honynt am y bregeth hono a gyfenwid, "Pregeth y mamau," a diamheu y bu yn fendithiol i laweroedd. Traddododd hi yn nghapel y Parch. Dr. Fletcher, yn Llundain, yn ei ymweliad diweddaf â'r brif-ddinas, ac er mor ddiffygiol oedd yn yr iaith Saesonaeg, cafodd y bregeth effeithiau anghyffredinol ar y gynnulleidfa, yr oedd y mamau yn y dyrfa yn foddfa o ddagrau. Pendefigesau parchus nid ychydig a ddeuent ato ar ddiwedd yr addoliad, i ddiolch iddo â'u dagrau. Ond yr oedd mamau bob amser yn wrthddrychau neillduol ei ofal a'i sylw gweinidogaethol yn yr eglwys. Cafwyd cyfleusdra i ddangos hyn o'r blaen pan grybwyllwyd am Gymdeithas y mamau," a sefydlid ganddo yn Llynlleifiad.

4. Yr oedd yn ofalus iawn am blant yr eglwys. Fel ag yr oedd yn goleddwr tirion i'r mamogiaid, felly hefyd yr oedd yn ofalus am yr ŵyn i'w dwyn yn ei fynwes, ac yn y pethau hyn yr oedd yn dwyn cyffelybrwydd neillduol i "Fugail mawr y defaid" yn y cyflawniad o'i swydd weinidogaethol, yn gystal ag yr oedd ei briod-ddull o lefaru yn dwyn cyffelybrwydd iddo fel pregethwr. Yr oedd plant rhieni duwiol yn agos iawn at ei feddwl; aml iawn y cyfarchai hwynt yn ei bregethau, ac aml iawn yr anerchai rieni crefyddol yn achos eu plant, o'r areithfa ac yn yr eglwys.

Ond y mae yn amser i mi bellach dỳnu y cerflun anmherffaith hwn o'n hanwyl gyfaill i derfyniad, gan fod cynnifer o frodyr teilwng wedi cyfoethogi ein Cofiant â'u cynnyrchion gwerthfawr ar yr un achos, a dysgwylir rhwng y naill a'r llall y gwel y darllenydd, WILLIAMS o'r Wern, wedi ei gerfio yn lled berffaith a chryno, ar du-dalenau ei Gofiant hwn.

Pan oeddwn ar anfon fy mhapurau i'r argraffydd, dygwyddodd ddyfod i'm llaw y "Traethawd Gwobrwyol ar Nodweddiad y Cymry fel Cenedl yn yr oes hon. Gan y Parch. W. Jones, offeiriad Llanbeulan, Môn." Awdwr Parchedig y Traethawd rhagorol hwn a sylwa ar nodweddiant Mr. WILLIAMS, gyda llawer o gymhwysder a phriodoldeb, a chaiff ei sylwadau tlysion ef derfynu y lith hon o'i Gofiant.

"Un o'r gweinidogion mwyaf galluog a phoblogaidd, a berthynodd erioed i'r blaid hon o Gristionogion, oedd y Parch. W. WILLIAMS, yr hwn a fu yr ystod hwyaf o'i yrfa weinidogaethol, yn y Wern, yn sir Ddinbych, ond symudodd ychydig cyn ei farwolaeth, i Lynlleifiad, gan olygu yno dros gynnulleidfa o Annibynwyr, nes gorphen ei daith. Diau ei fod ef yn ŵr o nodweddiad anghyffredin, ac yn feddiannol ar alluoedd meddwl gwreiddiol a godidog. Ei athrylith oedd nodedig am ei ffrwythlonrwydd. O holl areithwyr yr oes, tebyg mai efe oedd yr egluraf; pregethai mor eglur, nid yn unig fel y deallid ef gan bawb, ond annichonadwy oedd i neb fethu ei ddeall. Defnyddiai mewn dull medrus, bethau i egluro ei faterion, a esgeulusid gan bawb ereill. Byddai ei ddychymmyg yn wastad ar ehediad, yn casglu blodau prydferthaf araethyddiaeth, gan eu dangos gerbron y bobl er addysg a mwynhad iddynt. Ei ffraethder a ergydiai allan fflamiau bywiawg, y rhai a berent i'w bregethau dywynu gyda dysglaerdeb rhyfeddol.

"Yn gyffredinol byddai ganddo lywodraeth hollol ar feddyliau a theimladau ei wrandawyr gwelid gwenau yn aml ar eu gwyneb, ond pan daranai y pregethwr, ymaflai arswyd yn y pechadur, a byddai braw yn ymddangos yn ei wedd. Tarddai anmherffeithiau ei weinidogaeth o orffrwythlonder ei feddwl, yr hwn ni wareiddiesid yn ddigonol gan ddysgyblaeth foreuol. Yr oedd llawer un o'i syniadau yn anghoethaidd; ac yn fynych byddai ei siamplau eglurhaol a'i iaith yn annillynaidd. Am y mynai i'w holl wrandawyr ymwneyd yn bersonol â chrefydd, carai gymhwysaw ei ymadrodd at bob un trwy arferyd y rhagenw unigol yn yr ail ddyndawd. Diau na fuasai ei ddull ef o bregethu yn gymmeradwy gan gynnulleidfa ddysgedig o Saeson. Gellid dirnad gwahaniaeth yn chwaeth gwrandawyr yn Nghymru a rhai yn Lloegr, ond ystyried y buasai i amryw o brydweddion gweinidogaeth Mr. WILLIAMS, o achos y rhai yr hoffid ef gymmaint yn y Dywysogaeth, weithredu yn erbyn ei lwyddiant yn Lloegr. Ond hysbyswyd i mi fod ei weinidogaeth ef, dros amryw flynyddau cyn ei farwolaeth, yn gwbl rydd oddiwrth y pethau a anghymmeradwyid gan wrandawyr deallus. Ei olygiadau ar bynciau y ffydd oeddynt isel-Galfinaidd. Y mae crefydd ymarferol, yn Nghymru, mor ddyledus i'w weinidogaeth ef ag ydyw i eiddo neb o'i gydoesolion. Pan yn gwrthwynebu golygiad tra chyffredin, mai y derbyniad o ras yw sylfaen dyledswydd, hònai ef y dylai dynion ddefnyddio y galluoedd a roddodd Duw iddynt, pa un a fyddont wedi derbyn gras achubol ai peidio; a dywedai, er y pechent trwy ymwneyd â chrefydd heb ddybenion cywir, etto pechent fwy trwy eu hesgeuluso yn hollol. Ymresymai yn y modd a ganlyn:—' Gwir eich bod yn pechu tra yn gwrando yr efengyl ac heb ei chredu, ond byddai i chwi bechu mwy trwy beidio ei gwrando o gwbl. Yr wyf fi yn pechu yn erbyn Duw os ydwyf yn pregethu yn ddigariad at Grist ac eneidiau dynion, ond pechwn fwy ped esgeuluswn bregethu yn hollol.' Yn gyffelyb yr ymresymai gyda golwg ar ddyledswyddau ereill. Er hyny, meddyliwyf y cariai syniadau, am effeithioldeb offerynoliaeth dynol, dros eu gwir derfynau.

Bu farw y gwr da hwn yn ngwanwyn y flwyddyn hon, yn y pum deg a naw mlwydd o'i oedran."

PENNOD V.

Llythyrau ar ei nodweddau, oddiwrth y Parchedigion C. Jones, Dolgellau—M. Jones, Llanuwchllyn—T. Jones, Minsterley—H. Pugh, Mostyn E. Davies, Llannerchymedd—R. Parry, Conwy—R. P. Griffiths, Pwllheli—S. Roberts, Llanbrynmair—D. Rees, Llanelli.

At y Parch. W. Rees.

ADWAENWN y brawd WILLIAMS er ys cryn amser cyn iddo ddechreu pregethu. Byddai yn arferol dyfod i Lanuwchllyn i ambell oedfa a chyfarfod blynyddol a gynnelid yno. Meddyliai y pryd hyny am fyned yn saer coed, a byddai yn arferol o naddu mwy nâ'r rhan fwyaf o'i gymmydogion; ond pan y cafodd annogaeth i bregethu gan eglwys Penstryd, trodd heibio yn hollol y naddu, a'r meddwl am fyned yn saer coed.

1. Am dano fel dyn, gellir dywedyd ei fod y pryd hwnw yn wr ieuanc gwridgoch, teg yr olwg, ac o gorff cadarn nerthol; yr oedd yn ŵyr i Edmund Morgan, y gwr cryfaf, o ran corffolaeth, y gwyddid am dano yn Ngogledd Cymru, yr hwn a fu farw, meddant, yn 110 oed. O ran ei enaid, yr oedd yn meddiannu ar ddeall cyflym, a hefyd gwroldeb a hyfdra. Unwaith, pan yn myned heibio i darw rhuthro, yr hwn, pan ei gwelodd, a redodd ar ei ol, ond cafodd WILLIAMS ben y clawdd o'i flaen, a safodd yno; a chyda hyny, dyma y tarw wrth ei sodlau, ac yn cynnyg y clawdd ar ei ol, dan wneuthur rhuadau dychrynllyd; ond WILLIAMS nid ysgogodd o'r fan, ond a'i mesurodd yn ei dalcen â gwegil y fwyall oedd yn ei law, gan waeddi allan ar y pryd, "Mi rof i tï'r chwech." Tarawodd ef nes yr aeth i fath o lewygfa, a phan ddaeth ato ei hun, efe a redodd ymaith, fel un yn dianc am ei einioes, a chafodd Mr. W. fel hyn fuddugoliaeth ar ei elyn. Dywedai y teulu i'r hwn y perthynai y tarw, ei fod yn cofio y geiriau, "Mi rof i ti'r chwech," tra y bu ef byw—pan y dywedid hwy wrtho, efe a ddangosai yr arswyd mwyaf. Yr oedd gan Mr. WILLIAMS ddeall cyflym, a dawn rhwydd a difyrgar i draddodi ei feddwl, fel y mae yn hysbys i bawb a'i hadwaenai.

2. Am dano fel Cristion, cyn a chwedi dechreu pregethu, ynghyd ag ystad ei fywyd yn gyffredin, profai Mr. WILLIAMS ei hun, yn ei gyfeillachau, yn llawer rhagorach Cristion nag y meddyliai llawer wrth edrych arno oddidraw. Barnai amryw, nad oeddynt gydnabyddus ag ef, mai un anystyriol, cellweirus, a hunanol, ydoedd; ond nid hir y byddent heb newid eu meddwl, wedi iddo ddyfod i'w cyfeillach; a buan yr argyhoeddid hwynt, fod WILLIAMS o egwyddor yr hyn a broffesai ei fod. Yr oedd ei awyddfryd i ymgyrhaedd am wybodaeth grefyddol yn gysson a pharhaus; ei ymdrech a'i awydd i ymddyddan am danynt oedd ddiflino; ac ystyriai yn wastad nad oedd crefydd yn y pen '(mewn theory) ond o ychydig werth, os nad esgorai ar ymarferiadau duwiol. Bum lawer canwaith yn ei gyfeillach pan oeddym yn yr athrofa, dan ofal y Parch. Jenkin Lewis, yn Ngwrecsam, a chwedi hyny, mewn amryw deithiau yn Nehau a Gogledd Cymru, ond nis gwelais ynddo erioed unrhyw ymddygiad annheilwng o Gristion gwirioneddol. Gwir yw fod Mr. WILLIAMS o dymher naturiol lawen a siriol, ac felly yn hawdd iawn myned yn hy arno yn ei gyfeillach; ond cadwai yn wastad i arfer ei hyfdra o fewn terfynau priodol; a dangosai fod ofn pechu yn egwyddor lywodraethol ei galon.

Yr oeddwn yn nghyfarfod ei ordeiniad ef yn y Wern, pryd yr oedd yn bresennol, 'rwyf yn meddwl, y Dr. Lewis, y pryd hwnw o Lanuwchllyn; Jones, o Drawsfynydd; Hughes, o'r Dinas; a Lewis, o Wrecsam. Dichon fod yno rai gweinidogion ereill, ond nid wyf yn sicr. Yn mhen ysbaid amser wedi ei sefydlu yno, ymddyddanai â mi ar wahanol amserau, am newid ei sefyllfa drwy briodas; a dywedai ei fod yn meddwl y gallai gael cyfeillach ag un o'r enw Rebecca Griffiths, (ei briod wedi hyny,) yr hon oedd yn werth rhai miloedd o bunnau; ond am nad oedd y pryd hyny yn aelod eglwysig yn y dref y preswyliai ynddi, sef Caerlleon, yr oedd yn mawr ofni y byddai iddo trwy gyfeillachu â hi, a'i phriodi, bechu yn erbyn Duw, tynu gwaradwydd ar grefydd, a gwneyd ei hun yn ddiddefnydd yn y weinidogaeth, er fod Miss Griffiths, y pryd hyny, yn un o'r merched ieuainc harddaf ei buchedd y gwyddid am dani. Ond yn mhen yspaid mawr o amser, (meddyliaf rai blynyddau) ymunodd y ferch ieuanc â'r eglwys Annibynol yn Nghaerlleon, pryd yr oedd pob arwyddion arni ei bod yn ddynes wir grefyddol. Trwy hyn symudwyd y rhwystr oedd yn ei feddwl i gyfeillachu â hi, a'i phriodi; a hwy a ymunasant â'u gilydd yn y flwyddyn 1817, yr hyn yn ddiau a fu o lawer o gysur personol a theuluaidd iddynt. Yn ysbaid y gyfeillach uchod, dangosai Mr. WILLIAMS lawer o dynerwch cydwybod fel Cristion gonest, a didwyll; yr oedd bob amser o'r farn, mai duwioldeb, doethineb, a chynnildeb, ydoedd y prif addurniadau perthynol i wraig gweinidog.

3. Am ddygiad Mr. WILLIAMS i fynu, gellir yn hawdd dywedyd ei fod wedi ei fagu gan rieni mor barchus â nemawr yn y gymmydogaeth, y rhai a ddalient dyddyn bychan mewn lle mynyddig, a lled anghysbell oddiwrth foddion crefyddol; fodd bynag, cafodd y fraint o ddysgu darllen Cymraeg yn lled dda yn ei ddyddiau boreuol; a chredaf, nas medrai ond hyn yn unig pan ddechreuai bregethu. Wedi iddo fyned i'r ysgol i Fwlchyffridd, ac i'r Athrofa, nid oedd ei gynnydd mewn dysgeidiaeth ieithyddol ond araf neillduol; bu bedair blynedd yn yr Athrofa; ond nid oedd ganddo ond ychydig flas ar ddysgu ieithoedd trwy y tymmor hwn, a mynych y dywedai, na's gwnaed mo'i dafod efi siarad Saesnaeg: duwinyddiaeth a phregethu oedd gwrthddrychau penaf ei fyfyrdodau y pryd hyny; a chwedi hyny, tra y parhaodd ei einioes. Yr oedd un peth nodedig i'w weled ynddo yn yr athrofa, a chwedi'n; rhy brin y darllenai awdwyr Saesnig yn agos i gywir, ar yr un pryd byddai yn dra sicr o ddeall eu meddwl—gwelai hwnw yn gynt nâ'r cyffredin o'i gyd-ysgolheigion. Yn gymmaint â bod Mrs. Williams o ddygiad i fynu mor dda, ac yn fwy o Saesnes nag o Gymraes, meddyliaf fod yr arferiad o siarad yr iaith Saesonaeg gyda hi a'r plant yn y teulu, wedi dysgu iddo draddodi ei feddwl yn yr iaith hon, yn llawn cymmaint, os nad mwy nâ dim arall yr ymarferodd ag ef mewn un amser blaenorol. Yr oedd ganddo gyflawnder o ymadroddion Saesonaeg, ac yr oedd yn eithaf parod a rhwydd yn yr arferiad o'r cyfryw, mewn siarad a phregethu, os byddai eisieu, er nad oedd eu cydiadau â'u gilydd, na'u haceniad, yn gywir bob amser; etto mawr hoffid ei bregethau a'i gyfeillach gan y Saeson adnabyddus o hono yn mhob man. Yr oedd ei ddull o siarad a thraddodi ei feddwl mor unplyg ac eglur, fel nas cam-ddeallid ef gan nemawr un a'i clywai,

4. Am dano fel pregethwr. Y tro cyntaf y clywais ef ydoedd mewn tŷ annedd, mewn lle a elwir "Y Parc, Cwm-glan-llafar;" nid oedd y pryd hwn ond newydd ddechreu pregethu yn gyhoeddus. Yr wyf yn meddwl mai cyhoeddiad ei hen athraw, y Parch. W. Jones, o Drawsfynydd, oedd yno y pryd hwnw, ond ddarfod i WILLIAMS ddyfod gydag ef yno, a phregethu ychydig o'i flaen. Pregethai Mr. W., hyd eithaf fy nghof, yn llyfr Datguddiad, yn nghylch y saith ganwyllbren aur, &c.; a'r hen wr duwiol, Mr. W. Jones, yn ymdrechu cynnal ei feddwl a'i gefnogi yn y gorchwyl, trwy duchan ac ocheneidio llawer iawn tra y parhaodd; ymddangosai yr hen wr fel pe buasai arno fawr ofn iddo fethu myned yn mlaen neu gam-ddywedyd; ond nid oedd fawr perygl methu myned yn mlaen ar WILLIAMS, ond yn hytrach o'r ochr arall, o ddweyd gormod. Yr oedd ei ddull a'i agwedd, pan y dechreuodd bregethu, yn lled annerbyniol gan lawer. Cof genyf am un yn Llanuwchllyn, wedi iddo ei glywed un o'r troion cyntaf y pregethodd yno, yn dywedyd, "Nad oedd arno ddim eisieu swmbwl i'w yru yn mlaen, ond yn hytrach yn ei drwyn i'w yru yn ol." Golwg hyf, a lled ysgafn a chellweirus oedd arno pan y dechreuodd bregethu, a byddai yn dueddol i ddywedyd lliaws o ymadroddion a dueddai i yru ei wrandawyr yn ysgafn a chwerthinllyd. Nis gwn am neb y dywedwyd mwy wrtho am ddiwygio yn ei ddull o bregethu nâ Mr. W., yn enwedig gan ei hen gyfaill, y Parch. J. Roberts, o Lanbrynmair; ond er cymmaint a ddywedid wrtho, ni byddai ein hanwyl gyfaill WILLIAMS byth yn tramgwyddo fel y gwna llawer, ond derbyniai y cynghor yn siriol a llawen, a gwnai ddefnydd da o hono yn wastad; nid mul ystyfnig, yn meddwl am ei ddull a'i bethau yn well nag y medrai neb arall ei ddysgu, oedd WILLIAMS; nage, ond un gostyngedig, parod i dderbyn pob peth da a gaffai gan bawb; gwella a wnai WILLIAMS trwy bob peth a'i cyfarfyddai, a thrwy bob triniaeth a gaffai. Dywedai lawer yn erbyn y pregethau nad oedd amcan daionus i'w weled yn amlwg ynddynt; nad eisiau myfyrio pregeth ddigon o hyd i dreulio amser oedfa, a ddylai fod mewn golwg gan bregethwyr, ond ei chyssylltu â'i gilydd yn y modd ag y byddai amcan mawr pregethu i'w weled yn eglur trwyddi oll. Dywedodd wrthyf amryw weithiau ei fod wedi newid ei archwaeth at bregethu, yn mlynyddoedd diweddaf ei oes, lawer iawn oddiwrth yr hyn ydoedd yn nechreuad ei weinidogaeth; y tybiai gynt fod pregethu y pwnc yn eglur a dawnus yn ddigon o bregethu, ond ei fod yn awr yn gweled yn eglur, mai pregethu y cyfan i ymarferiad oedd y gamp, ac mai amcan mawr yr holl Fibl ydoedd dwyn dyn i ymarferiad rhinweddol.

Y diweddar Barch. W. Griffiths, o Glandwr, a ofynai i Mr. WILLIAMS ryw dro, (fel y byddai arferol o siarad yn rhydd a difalais,) wyddoch chwi, Mr. WILLIAMS, pa fodd y mae eich pregethau chwi yu dwyn mwy o sylw nâ fy rhai i?" "Na wn i," meddai Mr. W. Wel, mi ddywedaf i chwi," eb efe; "yr ydych chwi yn rhoddi gwell myn'd ynddynt nâ myfi." Yr oedd mynediad rhwydd a grymus yn mhregethau Mr. W., y materion yn bwysig, a'r dull o'u trin yn eglur nodedig. Anhawdd y diangid o dan swn ei weinidogaeth heb i'r gydwybod haiarnaidd deimlo.

Meddyliwn mai ychydig a ysgrifenodd ein cyfaill yn ystod ei weinidogaeth. Bum yn ceisio ganddo lawer gwaith ysgrifenu rhai o'i bregethau rhagorol i'r DYSGEDYDD; ond pur gyndyn a fyddai i addaw gwneyd, o herwydd, meddai efe, nad oedd ganddo fedr na blas i ysgrifenu—fod ei law mor belled yn ol o ganlyn ei feddwl, fel yr oedd yn gyffredin yn dyrysu pan elai at y gwaith. Y bregeth gyntaf a gefais ganddo ei hysgrifenu, nid yw yn y DYSGEDYDD, ond a argreffais wrthi ei hun trwy ei gydsyniad ef, ac a ail-argraffwyd wedi'n gan y Parch. L. Everett, o Lanrwst. Ei mater ydyw, "Nad yw daioni dyn ddim i Dduw." Y pregethau y cefais ganddo eu hanfon i'r DYSGEDYDD, ydynt ar "Gyssondeb gras a dyledswydd," (gwel fl. 1822;) "Unoliaeth y Drindod," (gwel 1827;) "Cyssylltiad cyfatebol rhwng iawn ymarferiad o foddion a llwyddiant," (gwel 1831;) ac ar "Iawn Crist," (gwel 1832.) Ysgrifenodd hefyd draethawd byr ar " Ddyfodiad pechod i'r byd," (gwel 1828;) ac ar "Lywodraeth foesol," (gwel 1829;) ynghyd ag ychydig o fan bethau ereill. Y mae ganddo liaws o esgyrn pregethau, y rhai a ddefnyddid ganddo ei hun, fel y gŵyr llawer. Gobeithaf, a gobeithia llawer weled llawer o honynt yn argraffedig yn hanes ei fywyd.

Yn ei deithiau byddai Mr. WILLIAMS yn ofalus iawn am gychwyn yn brydlawn i bob man y byddai ei gyhoeddiadau; ac yn y manau y byddai yn bwyta neu yn lletya, byddai yn wastad yn ymgais am gael rhyw destunau ymddyddanion buddiol i'r bwrdd, er llesâd a gwir fuddioldeb y presennolwyr. Unwaith, pan oedd yn lletya yn Nolgellau, edrychai yn graff ar y bachgenyn ar lin ei dad, gwr y tŷ, a dywedodd wrth y tad, "Edrychwch ar ei ol yn ddyfal;" a thrachefn ail adroddai yr un geiriau wrtho, gan edrych arno yn ddifrifol. Dywed y tad hwn fel y canlyn: "Yna gofynais iddo, a fyddai cystal â rhoddi i mi rai cyfarwyddiadau i hyny. Yna y dangosai bob parodrwydd i wneyd, a dywedodd am i mi a'i fam bob amser gydweithredu, yn neillduol wrth geryddu—nid un yn ceryddu, a'r llall yn ceisio arbed; a gofalu na byddai i ni byth wneyd hyny dan lywodraeth nwydau drwg. 2. Am ddysgu i'n plant weled gwerth arian, a pheidio a'u gwastraffu am bethau melusion a diles, ac ar yr un pryd eu dysgu i fod yn hael at achosion crefyddol. 3. Am fod yn ofalus am gyflawni pob addewid iddynt yn y pethau lleiaf, yn gystal â'r pethau mwyaf. 4. Am fod yn ofalus i beidio rhoddi dim iddynt heb yn wybod y naill i'r llall. Ar y pen hwn coffaodd am un fam a wnai anrhegion i Tom ei hanwylyd, heb yn wybod i'w dad, yn enwedig pan oedd oddicartref yn yr ysgol, a Thom a waeddai am ragor o hyd, nes ar y diwedd i hyn achlysuro Tom i fod yn ddiotwr, ac yn Tom feddw, er gofid mawr i'w dad duwiol a'i fam dirionaf (neu greulonaf). 5. Am beidio un amser a'u gwobrwyo am fod yn dda; fod tuedd yn hyn i esbonio ymaith y rhwymau oedd arnynt i hyny," &c. Coffâ yr un gwr hefyd am sylw a glywodd gan Mr. WILLIAMS wrth bregethu, er ys amryw flynyddau cyn ei farw, sef "ei fod yn teimlo llawer o amheuaeth yn aml am wirionedd ei grefydd, ond ei fod yn penderfynu glynu gyda chrefydd hyd y diwedd, gan gredu nad oedd ond colledigaeth iddo yn mhob man y tu allan i eglwys Dduw a llwybr ei ddyledswydd." Mynych y dywedai wrth rieni plant, nad oedd eisieu iddynt arfer llywodraeth lem tuag at eu plant, ond iddynt ei harfer mewn gwastadrwydd ac yn gysson—nid eu cofleidio, eu canmol, a'u moli, weithiau, a thro arall arferyd gormod llymder.

Mynych y dywedai wrth ieuenctyd yr hyn a hir gofient. Pe buasai llawer yn sefyllfa Mr. WILLIAMS, ni buasent yn sylwi ond ychydig ar wehilion y bobl; ond cofiai Mr. WILLIAMS fod gan y rhei'ny eneidiau i fyw yn dragywyddol, a bod yn ddyled arno wneyd pob ymdrech a fedrai er eu dwyn i afael iachawdwriaeth dragywyddol.

Dolgellau. CAD. JONES.


At y Parch. W. Rees

GWYR y byd am lawer o wasanaeth Mr. WILLLAMS, am mai cyhoeddus iawn ydoedd, ond fe allai fod un ran dra buddiol o'i lafur, nad yw y cyffredin ddim wedi sylwi arni; yr ydwyf yn cyfeirio at ei fuddioldeb i'r myfyrwyr pan yr oedd Athrofa Gwynedd yn Ngwrecsam. Byddai yn dyfod yno at y myfyrwyr yn aml, nid fel un mewn swydd, ond fel cyfaill ac ewyllysiwr da i wybodaeth, a byddai yn cadw cyfarfodydd gyda'r gwyr ieuainc am awr neu ddwy, a byddai rhyw fater dyrus yn aml mewn duwinyddiaeth neu anianyddiaeth yn cael ei olrhain, mewn modd syml ac eglur, nes y byddai yn adeiladaeth fawr i feddyliau y myfyrwyr gwyddfodol. Byddai yr ymweliad hyn o'i eiddo yn fendithiol iawn i eangu eu ddeall, ac i'w tueddu i fyw yn fwy duwiol, i wneuthur gwell defnydd o'u hamser, er eu cynnydd eu hunain, a lles ereill, a gogoniant Duw. O'm rhan fy hun, gallaf dystiolaethu fod hyn yn un o'r pethau mwyaf bendithiol a gefais tra yn yr athrofa hòno; yr ydwyf yn rhwym o ffurfio fy syniadau duwinyddol yn ol gair Duw, a'm syniadau anianyddol yn ol prawf, achos, ac effaith, ond bu efe yn offeryn da i ddwyn fy meddwl i weithredu ar y pethau hyn, a'i hwylio yn ei ymchwil i ddirnad drosto ei hun er graddau o foddlonrwydd. Diau genyf fod gradd helaeth o wybodaeth gyhoeddus wedi ei chyfranu trwy ei ymdrech hyn gyda'r myfyrwyr; ond mwy nâ'r cwbl oedd, y byddai ei holl ymdrin â ni yn tueddu yn fawr er hunan-ymroddiad i Dduw, a'n dwyn i fyw yn fwy duwiol; dangosai yn eglur i ni mewn modd siriol a deniadol, y byddai ein bywyd gweinidogaethol yn ol ein bywyd athrofaol, ac y byddem yn sicr o fagu'r eglwysi dan ein gofal o'r un ysbryd ac archwaeth â ni ein hunain, am hyny, os mynem i'r eglwysi fod yn dduwiol, a'r byd i deimlo ein gweinidogaeth, y byddai yn rhaid i ni yn gyntaf fod yn yr unrhyw agwedd ein hunain; magai, a meithrinai ni yn fawr yn y pethau hyn. Gallwn hefyd grybwyll, am fy mod yn cofio hyny yn nerthol, am ei ymddygiad nefolaidd yn nghyfeillachau y gweinidogion mewn blynyddau diweddarach; doeth iawn a fyddai yn ei gynghor, a byddai yn hynod o nerthol mewn gweddi yn y cyfeillachau hyny. Dangosai ei fod yn meddwl ac yn teimlo yn fanylaidd mewn perthynas i'r pethau a draethai gerbron Duw, ac yn wastad byddai yr unrhyw ysbryd i raddau helaeth yn syrthio ar ei gyd-weddiwyr, nes y byddent yn gyffredin yn siriol wylo pan yn cyd-anerch gorsedd gras, a byddai y mynudau hyny y mwyaf buddiol oll o'r gyfeillach. Fy nymuniad yw, i'r un ysbryd gweddi i gael ei dywallt arnom ninnau oll, er ei fod ef wedi ein gadael.

Bum gydag ef amryw deithiau byrion trwy Ddeau a Gogledd. Byddai yn ofalus iawn am weddio yn mhob man, ac yn y daith ddiweddaf y buom gyda ein gilydd, ein cyfammod wrth ddechreu y ffordd, oedd, pan y byddem yn ymddyddan, am fod genym ryw fater da, a defnyddiol, a phan y byddem yn ddystaw, ein bod yn gweddio yn ddirgel yn ein meddyliau; bu ein taith yn dra hyfryd ac adeiladol i mi. Gŵr mawr iawn ydoedd am ddeall egwyddorion pob peth, ac yn neillduol eiddo yr ysgrythyrau. Mor eglur y dangosai fod egwyddorion ymddygiadau Duw at ddynion, yr un yn mhob oes o'r byd, ond bod amgylchiadau eu gweinyddiad yn amrywiol. Gwelai egwyddorion mawrion ymddygiadau Duw tuag at Israel yn y Môr Coch, mewn mân amgylchiadau eglwysi a theuluoedd yn ei ardal anneddol. Gwelai egwyddorion mawrion Abraham a Moses, ac ereill a gawsant air da trwy ffydd, er nid yn yr un amgylchiadau, ac nid i'r un graddau, yn ymddygiadau plant a gwragedd, a Christionogion cyffredin yr oes hon. Gwelai egwyddorion mawrion caledwch calon Pharoah, a chewri ereill mewn drygioni, yn ymddygiad cyffredin gwrandawyr yr efengyl, ac yn mhlant anufydd yr Ysgol Sabbothol, ac ereill; a thriniai yr holl egwyddorion hyn a'r cyffelyb mor hylaw a dedwydd â phe buasai wedi bod yn dyst o'u gweithrediadau cyntaf. Trwy y pethau hyn a'u cyffelyb yr ydoedd yn medru gwneuthur holl lyfr Duw yn fuddiol yn ei weinidogaeth; trwy hyn yr oedd yn gwneyd Crist yn bob peth iddo ei hun a'i wrandawyr. Clodforer Duw am ei godi cyfuwch yn y weinidogaeth, am ei gynnal cyhyd ynddi, a thywallter dau parth o'i ysbryd ar ei olafiaid, ac ar yr annheilyngaf o honynt,

Llanuwchllyn. MICHAEL JONES


At y Parch. W. Rees.

ANWYL GYFAILL,—Gyda theimladau galarus yr wyf yn ymaflyd yn fy ysgrifell i gydsynio â'ch cais ar yr achlysur presennol, wrth feddwl am y golled a gawsom fel brodyr yn y weinidogaeth, yn neillduol yr eglwysi Annibynol yn y Dywysogaeth, yn marwolaeth ein hybarch a'n gorhoffusaf gyfaill, y Parch. W. WILLIAMS. Ond pan feddyliwyf am aneffeithioldeb yr hiraeth mwyaf, y cwynion dwysaf, a'r dagrau halltaf, ar angeu, y bedd, a stâd y marwolion, cyfyd rheswm i fynu yn dalgryf, a dywed wrthyf yn awdurdodol am dewi â chwyno, sychu fy nagrau, a defnyddio fy ysgrifell i gyfleu ychydig bethau fyddo'n tueddu i drosglwyddo cymmeriad ein gwron enwog i'r oesoedd dyfodol. Ar yr ystyriaethau hyn, yr wyf yn ei chydnabod yn anrhydedd, ac yn fraint, i gael cyfleusdra i roi maen bychan yn rhyw ran o'r golofn goffadwriaethol.

Gwedi cael cyfleusdra yn ddiweddar i weled eich manuscript chwi, nid wyf yn golygu y gallaf chwanegu dim at e'ch darluniad rhagorol o'i gymmeriad cyhoeddus, gan hyny, troaf yn uniongyrchol i olrhain ei gamrau mewn cylchoedd anghyoedd.

Yn y cylch teuluaidd, yr oedd cymmeriad Mr. W. yn ddysglaer iawn. Ymddygai yn serchog tuag at bawb yn y tŷ, nid yn unig at ei briod cariadus, a'i blant tirionaidd, ond hefyd at y rhai fyddai yn gweini; gwell oedd gan bawb o honynt weled ei wyneb ná'i gefn. Heblaw hyn, yr oedd yn hynod fel hyfforddwr y teulu. Byddai ei ymddyddan â Mrs. W. yn gyffredin o'r natur hon; yr oedd hi yn fedrus iawn i ddal i fynu y fath gymdeithas. (Byr hanes o Mrs. W a gyhoeddwyd yn Dysg. Rhif. Gorph. 1836.) Yr oedd Mr. W. yn hynod fel hyfforddwr ei blant; beth bynag fyddai testun yr ymddyddan, pa un ai agoriad y blodeuyn, diwydrwydd y wenynen, y gylionen yn y ffenestr, dychweliad y wenol, neu gynnadledd y brain, tynai addysgiadiau buddiol ac adeiladol oddiwrthynt er agor eu deall, cyffroi eu serch, a dyfnhau eu hargraffiadau crefyddol. Aml y cyfranogai y gwas a'r forwyn o'r un breintiau.

Yr oedd ei lywodraeth deuluaidd yn dyner iawn, etto yn hynod o effeithiol. Yr oedd yn sylfaenedig ar egwyddorion moesol, yr oedd ei gweinyddiad yn sefydlog, ac nid yn ddamweiniol, a'i annogaethau (motives) yn rymus. Pan y byddai galwad am gerydd teuluaidd, dangosid yn bwyllog ac arafaidd, duedd, niweid, a chanlyniadau y trosedd; o ganlyniad, dangosid mai lles y troseddwr, ac nid boddio drwg-nwydau oedd mewn golwg. Hefyd, cyd-weithredai y rhieni yn rhagorol i'r perwyl hwn; ni byddent un amser, y naill am gospi a'r llall am arbed, y naill yn gwgu a'r llall yn gwenu; ond cyd-unent i ymddwyn tuag at y beius yn ol natur a maintioli ei fai, yr hyn a'u galluogai tu hwnt i bob peth i ddal i fynu drefn deuluaidd. Hefyd, ni wnai lanw meddyliau ei blant ag addewidion, na fwriedid byth eu cyflawni, ni ddygid dim chwaith oddiarnynt trwy gam-achwyn, ni chymmerid dim byth oddiwrthynt, a ystyrid yn eiddo personol iddynt, heb eu caniatad; fel hyn, dangosid mewn ymarferiad, werth a phwysfawrogrwydd egwyddorion moesol, megys cyfiawnder, gwirionedd, gonestrwydd, cymmwynasgarwch, yn nghyd â phob gweddeidd-dra.

Un peth yn mhellach a grybwyllaf am dano yn y cylch teuluaidd, nid y lleiaf chwaith yn mhlith ei rinweddau, sef, ei weddiau dros y teulu. Byddai ei weddiau teuluaidd bob amser yn syml, yn gymhwysiadol, ac yn wastadol yn daer iawn, am i bob aelod ynddo gael y fraint o fod yn ddefnyddiol dros Grist. Byddai ei gyflawniad o'r ddyledswydd hon mor rheolaidd ag ysgogiadau y ffurfafen; ni chai na phrysurdeb teuluaidd, na llafur na blinder corfforol, na hwyrol oriau y nos, byth osod o'r neilldu y ddyledswydd bwysig hon. Gwr cydwybodol oedd ef hefyd yn ei weddiau dirgelaidd; miloedd o honynt a offrymodd, nad oes iddynt neb tystion daearol ond yr ystafelloedd yn y rhai y derchafwyd hwynt.

Pan ystyriom gysuron teuluaidd Mr. W. o un tu, a'i deithiau hirfaith a llafurus o'r tu arall, yr ydym yn rhwym o gydnabod mawredd ei hunan-ymwadiad, a'i gariad at achos achub.

Yr oedd Mr. W. etto yn enwog yn y gymdeithas neillduol. Yr oedd yn fedrus i hyfforddi yr anhyfforddus, i rwymo y rhai ysig eu calon, i ddadleni twyll y rhyfygus, ac i agor iddynt yr ysgrythyrau. Yr oedd ei ddefnyddioldeb a'i gymmeradwyaeth yn fawr yn yr ardal, wrth wely y claf, at gwyn y tlawd, a chyfyng amgylchiadau y gymmydogaeth, pan gollasant Mr. W. collasant eu prif gynghorwr. Gŵyr ugeiniau o frodyr yn y Dywysogaeth, am ei werth mewn cynnadledd Cymmanfa, mor fedrus fyddai i ddattod cylymau dyrus, mor gymmeradwy fyddai ei gynnygiadau, ac mor dderbyniol fyddai ei gynghorion gan y brodyr oll. Pan feddyliom am ddefnyddioldeb, hynawsedd, a serchawgrwydd ein hanwyl gyfaill, y mae ynom ryw ymofyniad cymmysgedig o hiraeth, grwgnach, a syndod. Paham na chawsem ei gymdeithas addysgiadol a'i gydweithrediad effeithiol am dymmor yn mhellach? Yn neillduol pryd y gallasai o ran ei oed a grym ei gyfansoddiad fod yn ddefnyddiol yn yr eglwysi am flynyddau yn ychwaneg. Y rhesymau paham y cymmerir dynion defnyddiol ymaith, ac y gadewir ereill, y rhai pe symudid, na wybyddid eu colli, a gynnwysant lawer o ddirgeledigaethau annatguddiedig, a dyfnderoedd anamgyffredadwy i ni yn ein sefyllfa bresennol; etto, hwyrach y gallem yn ddibetrus gynnyg pedair neu bump o egwyddorion, y rhai a dueddant i daflu ychydig o oleuni ar y mater dan sylw. Mewn perthynas i'n hanwyl gyfaill, sylwn—

1. Ei fod wedi myned trwy ei raddau (degrees.) Y mae dyn yn y byd hwn yn debyg i blentyn yn yr ysgol, a chanddo lawer o wersi i'w dysgu, a llyfrau i'w darllen. Y mae Duw yn dysgu ei blant drwy gyfrwng dwy athrawes fawr, sef, Efengyl a Rhagluniaeth. Bydd Rhagluniaeth weithiau'n gwenu, ac weithiau'n gwgu—weithiau yn hael, ac weithiau'n gynnil—weithiau yn eu rhoi yn yr ystafell oleu, ac weithiau yn y daear-dŷ tywyll, a'r cwbl er dysgu'r plant. Y mae'r Efengyl gydag agwedd siriol, ddeniadol, a nefolaidd yn agor ei choleg, ac yn cynnyg ei baddysg; os bydd yr ysgolheigion yn gyndyn a gwrthnysig i gymmeryd eu dysg, hi try hwynt drosodd i law rhagluniaeth i'w ceryddu hyd oni chydnabyddont eu bai, a dysgu gwell moesau. Y mae y ddwy athrawes hon yn gweithredu dan gyfarwyddyd yr Ysbryd Glân, efe ydyw llywydd y Coleg. Yn yr ysgol hon dysgir y gwahaniaeth rhwng y gwerthfawr a'r gwael—rhwng pethau presennol a phethau i ddyfod—yma y dysgir dibrisio y naill, a gwerthfawrogi y llall. Gŵyr pawb a adwaenent Mr. W. ei fod ef yn y pethau yna yn ysgolar gwych.

2. Ei fod yn gwymhwys i goleg uwch. Pan y mae ysgolheigion da yn cael eu symud o'r a throfa isod, derbynir hwynt i'r athrofa uchod mewn trefn i ddyfod yn ysgolheigion gwell; pan y mae brodyr enwog yn cael eu cymmeryd o sefyllfa o ddefnyddioldeb yma, y maent yno yn cael eu codi i sefyllfa o ddefnyddioldeb mwy. Gallwn sylfaenu' yr haeriadau uchod ar awgrymiadau ysgrythyrol, Luc 19, 11—27; Dat. 7, 15; ar ddoethineb Duw, ac ar ddefnyddioldeb yn hanffodol i ddedwyddwch creadur deallawl. Ar yr egwyddor hon gellir sylwi, er cyw reinied oedd Mr. W. yma mewn gwersi moesol, ei fod yn gywreiniach ynddynt yn awr—er cymmaint oedd ei ddefnyddioldeb yma, y mae'n llawer mwy yn y nef. Y mae pob dyn duwiol yn ddefnyddiol yn y byd hwn, ond yn ddefnyddiol mewn sefyllfa uwch ac anrhydeddusach yn y byd arall. Gan hyny, er symud Mr. W. oddiwrthym ni, nid ydyw ei ddefnyddioldeb wedi ei golli o'r gymdeithas ddeallawl, y mae yn gweithredu yn ol amgylchiadau ei fodoliaeth heddyw yn rymusach ac effeithiolach nag erioed.

3. Fod ei Feistr mawr am ddangos nad ydyw llwyddiant ei achos yn ymddibynu ar alluoedd na chymhwysder neb o'i weision. Gwir yw, ei fod yn codi personau neillduol, erbyn amgylchiadan a gwaith neillduol, megys Luther a Chalfin, i effeithio y diwygiad Protestanaidd; Whitfield a Wesley, i godi crefydd ymarferol i sylw eu cyd-wladwyr; Fuller, Haweis, a Wilks, i sefydlu yr achos cenadol; Charles, a Hughes, i sylfaenu cymdeithas Biblau. Y mae'r enwogion hyn a'r rhan fwyaf o'u cyfoedion, wedi ehedeg ymaith, ond y mae y gwaith da a gychwynasant o hyd yn myned rhagddo. Cododd rhagluniaeth y Parchedigion J. Roberts, o Lanbrynmair; W. WILLIAMS o'r Wern, ac ereill, ar adeg dra neillduol er codi i sylw y Dywysogaeth duedd ymarferol athrawiaethau gras, llwyddasant yn rhyfedd yn yr ymgyrch, cyrhaeddasant eu hamcan i raddau dymunol; yr oedd poblogrwydd uchel-Galfiniaeth y pryd hyny, yn galw am nerth cewri idd eu gwrthsefyll a'i dadymchwelyd; ond bu gweinidogaeth effeithiol yr enwogion crybwylledig yn foddion yn llaw rhagluniaeth i gyfnewid golygiadau duwinyddol y Dywysogaeth yn mhlith pob enwad crefyddol o'i mewn. Effeithioldeb ysgrifell y naill, a hyawdledd y llall a gyd-wasanaethasant i boblogrwydd yr egwyddorion a amddiffynent, ac er rhoddi tôn arall i'r weinidogaeth gyhoeddus; fel y mae gwrthwynebwyr yr egwyddorion hyn heddyw mor anaml ag oedd eu cefnogwyr ddeng-mlynedd-ar-hugain yn ol; yr oedd amgylchiadau'r amseroedd y pryd hyny, yn galw am nerth ac effeithiolaeth cedyrn Dafydd, ond yn awr gall dynion o faintioli cyffredin ateb y dyben yn dda. Er mor effeithiol oedd gweinidogaeth ein cyfaill ymadawedig gwna yr achos a bleidiodd mor wresog, lwyddo mwy wedi iddo farw, nag a wnaeth tra y bu ef byw. Pan y mae y gweithwyr ffyddlon yn cael eu symud o'r winllan, y mae Arglwydd y winllan yn byw bob amser i gefnogi y gweithwyr sydd etto gyda'u gwaith gan ddywedyd, "Wele yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd." Pan y mae eglwys Dduw yn galaru ar ol ei henwog a'i ffyddlon weinidogion, gall ar yr un pryd lawenhau a gorfoleddu yn mywyd ac effeithioldeb ei Phen. Y mae ei chysur a'i llwyddiant yn ymddibynu mwy ar ei fywyd a'i ffyddlondeb ef, nag ar fywyd ac effeithiolaeth y ffyddlonaf o'i hanwyl weinidogion.

4. Cymmerwyd ef ymaith mewn trefn i symud achlysur tramgwydd o ffordd brodyr gweiniaid. Y mae amryw o osodiadau, Dwyfol o ran eu tarddiad, a buddiol eu tueddiad, wedi eu cam-ddefnyddio, a'u troi yn achlysuron tramgwydd, o herwydd gwendid y natur ddynol. Yr oedd y sarff bres yn ngwersyll Israel yn osodiad Dwyfol, ac yn foddion bywyd i'r cyfryw a frathid gan y seirff tanllyd, etto daeth yn achlysur tramgwydd pan wnawd eilun o honi; ac mewn trefn i ddileu'r effaith, yr oedd yn rhaid symud yr achos. Y mae bedydd hefyd yn achlysur tramgwydd, pan ei cymmerir yn lle adenedigaeth, ac y gosodir mwy pwys arno nâ ffydd yn Nghrist a chrefydd ymarferol. Yr un modd etto y Swper Santaidd, pan weinyddir ef i wrthryfelwr cyndyn yn ei oriau diweddaf, pan y bydd yr offeiriad yn ffug-ddirectio ei gymunwr, fel sypyn trefnus i bost office Caersalem, gan osod seal y llywodraeth arno, to demand a free passage. Y mae'r ordinhadau pwysicaf wedi bod, ac yn bod yn achlysur pechod. Etto am fod tuedd ymarferol yr ordinhadau hyn yn hanffodol anghenrheidiol i gysur a llesâd teithwyr Sïon nis gellir eu dileu, faint bynag o gamddefnydd a wneir o honynt gan y tywyll a'r anystyriol.

Os yw yr ordinhadau yn achlysuru tramgwydd, gall personau hefyd fod yn achosi tramgwydd. Os bydd nebo weinidogion y cyssegr, trwy ëangder eu gwybodaeth, hyawdledd eu doniau, dysgleirdeb eu cymmeriadau, a ffyddlondeb eu hymdrechiadau, yn achlysyru mwy o son am danynt, a dysgwyliad wrthynt, nag a fyddo o son am, a dysgwyliad wrth Grist; diau eu bod, faint bynag fyddo eu duwioldeb, a'u defnyddioldeb yn feini tramgwydd, a gwell ar y cwbl i'r eglwysi iddynt gael eu symud ymaith, nâ'u gadael yn feini tramgwydd i'w eu haelodau gweinion.

Nid oedd neb yn fwy gochelgar yn y pethau hyn nâ gwrthddrych ein sylw yn bresennol, oblegid dangosai bob amser mai ei brif amcan oedd llesàu ei gyd-ddynion, ac nid ennill eu cymmeradwyaeth, etto cymmeradwyaeth fawr a gafodd. Er hyn i gyd, wrth feddwl am enwogrwydd ei weinidogaeth, cymmeradwyaeth ei gynnygiadau, a llwyddiant anarferol ei lafur yn ei ddyddiau diweddaf, nid rhyfedd os oedd yn codi yn rhy uchel yn meddyliau rhai o weiniaid Sïon, ac yn cymmeryd gormod o le UN rhy deilwng a gwerthfawr i ormesu arno. Felly barnwyd yn y llys uchaf fod yn well symud y gwas ffyddlon i wlad lle mae y preswylwyr oll yn rhy ddoeth i gam-gymmeryd.


5. Fel y byddo i ffyddlondeb ei blant gael ei wobrwyo. "Diau fod ffrwyth (gwobr) i'r cyfiawn." "A'r doethion a ddysgleiriant fel â dysgleirdeb y ffurfafen, a'r rhai a droant lawer i gyfiawnder a fyddant fel y ser, byth yn dragywydd." Y mae yr enw gweision yn cael ei briodoli yn aml i bobl yr Arglwydd yn yr ysgrythyrau, er dynodi eu rhwymedigaeth a'u gwaith—o'r tu arall, mynych y sonir am danynt yn y gair dwyfol dan yr enw plant, i arwyddo eu perthynas â Duw, a'u hanwyldeb ganddo—ond golygir y byddant yn y byd arall yn fwy fel plant, nag fel gweision, a'u mwynhad yno yn wobr Tad i'w blant, yn hytrach nâ'r eiddo meistr i'w weision cyflog. Afreidiol fyddai dywedyd, nad yw yr egwyddor hon yn milwrio yn erbyn yr athrawiaeth o raddau mewn gogoniant, (yr hon a ystyrid yn egwyddor bwysig gan ein cyfaill ymadawedig,) oblegid ymddyga tad doeth a da tuag at ei blant yn ol eu teilyngdod, er na bydd yn talu iddynt yn ol swm eu gwasanaeth, ond yn eu gwobrwyo yn mhell uwchlaw hyny, fel y bydd pob un yn derbyn anfeidrol fwy nag atdaliad am ei wasanaeth ffyddlonaf a'i lafur caletaf: etto bernir y bydd graddau eu ffyddlondeb yn graddoli eu sefyllfaoedd yn ngwlad y purdeb.

Ar yr egwyddor hon, cafodd ein hanwyl WILLIAMS ei gymmeryd ymaith mor gynnar yn mhrydnawn ei fywyd i dderbyn gwobr ei "waith a'i lafurus gariad," y rhai a weiniasai mor ffyddlon i'r saint am dymhor ei weinidogaeth.

Cafodd Mr. W. y fraint o yfed yn dra helaeth o ffynnonau cysur yn y byd yma; a bu'n ddiolchgar iawn i'w Dad nefol am y cyfryw bethau. Yr oedd hawddgarwch ei deulu—dymunoldeb ei amgylchiadau bydol— ei gymmeradwyaeth fel dyn ac fel pregethwr—oll yn tuedddu i gysuro ei feddwl. Y farn a allasai ffurfio am gymmeradwyaeth ei berson gyda Duw, ynghyd â'i ddefnyddioldeb i'w gyd-ddynion, oeddent yn effeithio i'r un perwyl. Wrth edrych ar y pethau hyn a'r cyffelyb, gellir casglu nad oedd ei gysur cymdeithasol yn brin yma; ond gellir sicrhau ei fod yn annhraethol fwy yn y gymdeithas berffaith.

Cafodd hyfrydwch mwy nag ellir ddirnad gan ddynion o alluoedd cyffredin, wrth fyfyrio yn ngwirioneddau y gair. Pan y byddai rhyw bwnc yn dywyll, ac anhawdd ei benderfynu, teimlai radd mawr o annedwyddwch meddwl, hyd oni chai fuddugoliaeth ar yr anhawsderau a'i cylchynai, ac y ffurfiai olygiadau cysson mewn perthynas iddo; yna byddai gorfoledd ei feddwl gymmaint, nes fel Archimedes y byddai yn agos ag anghofio ei hun. Syllai gyda hyfrydwch llewygol ar gyssondeb egwyddorion trefn achub, nes y llenwid ei feddwl â llawenydd annhraethadwy; ond er pelled y treiddiai ei lygad eryraidd i ddyfnion bethau Duw, a chymmaint oedd y mwyniant a dderbyniai drwyddynt yn ei sefyllfa gyntefig; yn ei sefyllfa bresennol mae yn eu canfod yn gan mil eglurach, a'i fwyniant hefyd sydd gan mil eangach.

Yn y cylch cyhoeddus cai lawer o fwyniant nefolaidd i'w feddwl, yn neillduol yn ei bregethau egwyddorol, eglur, a chynhyrfus, y rhai a draddodai mor serchiadol, hyawdl, ac effeithiol, nes byddai y dyrfa fel yn hongian wrth ei wefusau, a'u calonau yn doddedig dan ddylanwadau ei weinidogaeth, pan yn mywiogrwydd ei feddwl y tywalltai iddynt y drychfeddyliau mwyaf goruchel gyda ffrwd o areithyddiaeth diaddurn. Etto, yn mharadwys y mae yn gweithredu ar dir annhraethol uwch mewn modd annhraethol berffeithiach—a than amgylchiadau annhraethol fwy manteisiol; o ganlyniad, rhaid fod ei fwyniant yn annhraethol helaethach nag y bu erioed yn ei orlenwad uchaf yn y byd yma. Gynt yr oedd yn nghymdeithas dynion llygredig, yn awr y mae gydag "ysbrydoedd y cyfiawn, y rhai a berffeithiwyd"—gynt yr oedd yn gweithredu mewn cadwynau, ond yn awr yn gwbl rydd―gynt yr oedd yn byw fel wrth oleu canwyll, ond yn awr y mae yn nysgleirdeb yr haul—gynt byddai yn canu ac yn cwyno bob yn ail, ond yn awr y mae yn canu heb gwyno byth—gynt byddai ei gwpaneidiau yn gymmysg o felus a chwerw, ond yn awr y maent i gyd yn felus a digymmysg. Gwelwn fod ein colled ni yn elw iddo ef, a'n testun cwyno ni iddo ef yn destun canu.

Yn awr, rhaid i mi ffarwelio a'm hanwyl gyfaill, gan obeithio, er mor annhebyg, y caf ei gyfarfod etto ar ardaloedd gwynfyd, pryd na raid ffarwelio mwy. Yr eiddoch, &c.

Minsterley, Ebrill 2, 1841. THOS. JONES.


At y Parch. W. Rees.

ANWYL GYFAILL,—Erioed ni ymeflais yn fy ysgrifell gyda mwy o betrusder nâ'r tro hwn, rhag im' fodd yn y byd ysgrifio unrhyw ymadrodd annheilwng o'm testun. Bydd prinder defnyddiau perthynol i, ambell destun yn gwneuthur yn anhawdd llefaru neu ysgrifio am dano; ond llawnder defnyddiau perthynol i'r testun hwn a wna y gorchwylion hyny yn anhawdd eu cyflawni. Y mae enw WILLIAMS O'R WERN yn gyssegredig. Yr oedd ei wasanaeth yn gyssegredig i'r eglwysi tra y bu byw, ac y mae ei goffadwriaeth yn gyssegredig gan yr eglwysi yn awr wedi iddo farw.

Ni fynwn er dim i neb dybied fy mod yn anfoddog i ymaflyd yn y gorchwyl galarus o ysgrifio ychydig linellau er cof am ein hanwyl dad a'n cyfaill yn y weinidogaeth; ond yn hollol i'r gwrthwyneb, dymunwn i bob darllenydd ddeall fy mod yn teimlo awydd pryderus at y gorchwyl; a chyflwynaf fy niolchfryd mwyaf diffuant i chwi, fel awdwr ei Gofiant, am ganiatâu i mi, gydag ereill, y fraint o ollwng fy nheimladau i'r cyhoedd. Gwell genyf ddywedyd yn anmherffaith ar y mater, nâ bod heb ddywedyd dim. Nid wyf yn meddwl y gallaf draethu dim newydd, ac ni cheisiaf deithio llwybr disathr. Ymdrechaf amlygu fy syniadau o fewn cylch ychydig ymadroddion, a diau genyf, wedi y derbyniwch ddatguddiad o syniadau brodyr ereill, y gwelwch mor berffaith y cyd-olygid o barth rhinweddau personol a rhagoriaethau swyddol ein hybarch frawd ymadawedig.

Ymddengys amryw bethau i mi fel achosion priodol o DRISTWCH уn ei ymadawiad. Wrth ei golli ef, collwyd

Un eang iawn ei wybodaeth. Athraw goleu yn ngair Duw ydoedd. Chwiliodd yr ysgrythyrau yn ddyfal, a chyrhaeddodd adnabyddiaeth o feddwl Duw ynddynt i raddau lawer iawn y tu hwnt i'r cyffredin. Canfyddai gyssondeb y llyfr Dwyfol, a gwelai gyssylltiad a dibyniad y naill ran ar y llall. Athrawiaethwr ysgrythyrol ydoedd.

Un helaeth iawn ei ddoniau. Yr oedd ganddo gymhwysderau neillduol i amlygu meddwl ei Arglwydd i ereill gydag eglurder. Ambell un sy'n meddu ar amgyffred a deall da ei hun, ond ni fedd ddawn i drosglwyddo gwybodaeth i ereill, ac o ganlyniad, erys ei wybodaeth yn eiddo iddo ei hun yn unig. Ni etyb ei lafur na'i gynnydd unrhyw ddyben defnyddiol, ond yn unig iddo ei hun. Nid felly ein brawd ymadawedig. Halen ydoedd—hallt ei hun, ac yn halltu ereill. Canwyll ydoedd—yn oleu ei hun, ac yn goleuo ereill. Llestr ydoedd llawn ei hun, ac yn arllwys yn barhaus ereill. Yr oedd ganddo ddoniau i osod allan feddwl ei Arglwydd, nid yn unig gydag eglurder, ond hefyd gydag effeithiolrwydd. Meddiannai ar bob cyfaddasiad i ddylanwadu yn rymus ar deimladau ei wrandawyr. Yr oedd cyfaddasiad at hyn yn ei wedd, ei lais, a'i draddod—ddull. Gallai dynu ei gynnulleidfa at odreu Sinai, ac oddiyno gallai ei llusgo at safn y pydew, a'i hysgwyd uwchben trigfa diafliaid, nes yr ysgogid pob gewin, ac y cyffröid pob teimlad gan arswyd. Gallai hefyd ei thywys i dremio ar helyntion Gethsemane a Golgotha, nes y byddai pob llygad fel ffynnon o ddagrau. Gallai, wedi hyu, ei dyrchafu at borth y nef, i syllu ar heolydd y ddinas santaidd, nes y byddai llawer Cristion gofidus yn anghofio ei drallodau oll, ac am yr amser hwnw, bron heb wybod pa un ai yn y corff yr ydoedd, ai allan o'r corff, ac yn ymadael o'r addoliad mewn awyddfryd mawr am fod oddicartref o'r corff, i gartrefu gyda'r Arglwydd. Y mae miloedd o dystion byw o hyn y dydd heddyw.

Un mawr iawn ei hynawsedd. Y mae llawer gwr da, doniol, a defnyddiol, ond yn anffodus yn meddu ar dymher ddrygnaws a sarugaidd, yr hyn a achosa anhyfrydwch mawr iddo ei hun ac i ereill, Ond tymher hollol i'r gwrthwyneb oedd gan ein diweddar frawd. Gŵyr pawb y sydd yn gwybod dim am dano, mai un tra hynaws a serchog ydoedd fel dyn ac fel cyfaill.

Un cyflawn iawn ei ddoethineb. Yr oedd yn llawn, nid yn unig o'r Ysbryd Glân, ond hefyd o ddoethineb. Ni wn am neb rhagorach nag efe gellid gofyn cynghor iddo mewn amgylchiadau dyrus. Yr oedd bob amser yn dra pharod i roddi cynghor, ac y mae lliaws profion yn gyrhaeddadwy heddyw o briodoldeb ei gynghorion.

Un dwfn iawn ei ostyngeiddrwydd. Pan yr ystyrir ei hynafiaeth, ei ddoniau, a'i ddylanwad ar fyd ac eglwys, ymddengys ei ysbryd diuchelgais yn un o brif ragorion ei nodwedd. Gwelwyd ef lawer gwaith yn nghyfeillachau cyfrinachol ei frodyr, ac yn llywyddu yn eu cynnulliadau cymmanfaol, ond gofalai bob amser am ymddangos yn y naill a'r llall, nid fel arglwydd ei frodyr, ond fel gwas yr Arglwydd. Yr oedd yn casâu trais a thra-arglwyddiaeth yn mhawb ereill, a gwyliai rhag coleddu yr ysbryd hwnw ei hun. Clywais ef, fwy nag unwaith, yn cyfeirio at ymadrodd yr hen ddiwygiwr gynt, sef bod " gan bob dyn bâb bach yn ei fol ei hun;" ac annogai bawb i ladd eu pabau bychain eu hunain, cyn amcanu darostwng pabyddiaeth neb arall.

Un cyhoeddus iawn ei ddefnyddioldeb. Yr oedd ei ddefnyddioldeb, nid yn unig yn un cartrefòl, ond hefyd yn un cyffredinol. Bu ei weinidogaeth yn fendithiol i liaws mawr o weinidogion ac eglwysi y Dywysogaeth. Teimlai ofal mawr dros lwyddiant, a phryder mawr yn helyntion achos y Gwaredwr yn gyffredinol. Yr oedd yn bleidiwr medrus a gwresog i bob achos rhinweddol. Llenwid ef gan ysbryd cyhoeddus. Nid oedd yn gwrthsefyll diwygiadau ei oes, ac nid oedd yn ymlusgo chwaith yn arafaidd ar eu hol. Blaenai yn mhob sefydliad teilwng, a cheid ef yn' wastadol yn mlaen-res yr ymdrech.

Un difrif-ddwys iawn mewn gweddi. Pan yr anerchai Wrandawr gweddi, gwnai hyny mewn symledd a gwyleidd-dra mawr. Tueddai ei ddull yn gweddio yn neillduol i ennyn duwiolfrydedd yn mynwes pawb o'i gyd-addolwyr. Yr oedd yn amlwg i bawb ei fod yn teimlo pwys y gorchwyl oedd yn ei gyflawni, ac yn gweled gwerth y bendithion oedd yn eu gofyn.

Wrth adolygu y pethau uchod, a meddwl am lawer ychwaneg a all esid ei ddywedyd, hawdd canfod i ni gael colled fawr wrth golli ein brawd, a bod i ni, mewn canlyniad, lawer o achosion priodol o DRISTWCH; ond y mae pethau ereill, mewn cyssylltiad â'i ymadawiad, yn deilwng o'u crybwyll, y rhai a ddangosant bod genym hefyd lawer o ddefnyddiau DYDDANWCH.

Gadawodd ei blant o fewn cylch proffes grefyddol. Sylwyd lawer gwaith, pan y byddai plant tad crefyddol yn troi allan yn annuwiol, "Da iawn nad yw yr hen ŵr eu tad yn fyw; buasai agwedd ei blant yn peri mawr ofid iddo." O'r ochr arall, pan y byddai y plant yn troi allan yn dduwiol a defnyddiol, sylwyd, "O na buasai yr hen wr eu tad yn fyw; buasai golwg ar rinwedd ei blant yn peri mawr lawenydd iddo." Cafodd ein brawd yr olwg siriol hon cyn ei farw, a diau fod hyny wedi peri mawr gysur iddo. Cychwynodd ei daith i fyd anfarwol, gan adael ei blant yn mynwes gwraig yr Oen.

Gadawodd ei eglwysi mewn heddwch a llwyddiant. Nid ymadael mewn ystorm a ddarfu, ond cafodd hin deg i gychwyn ei daith. Yr oedd eglwys y Tabernacl yn Liverpool yn blodeuo, ac eglwysi y Rhos a'r Wern yn ffrwythloni, fel prenau ar làn afonydd dyfroedd. Cafodd ei lygaid weled dymuniad ei galon.

Gadawodd y byd yn nghanol ei barch a'i boblogrwydd. Y mae rhai yn gorfyw eu parch, ac ereill yn gorfyw eu poblogrwydd; ond aeth ef adref â'r goron ar ei ben—coron yn ei llawn flodau heb wywo.

Gadawodd y byd yn yr amser hawddaf ei hebgor. Nid oedd ei golli pan ei collwyd yn ddyrnod mor drwm â phe buasid yn ei golli ddeg neu ugain mlynedd cyn hyny. Yr oedd yr achos y pryd hwnw mewn llawer mwy o wendid, a buasai ei golli yn ergyd o'r fath ag a fuasai yn peri digalondid cyffredinol. Ymddengys daioni a doethineb ein Harglwydd yn ei gymmeryd y pryd ei cymmerwyd. Ni ddisgynodd ddyrnod hyd nes oedd yr achos yn ddigon cryf i'w oddef. Gadawodd dystiolaeth dda ar ei ol. Nid yn unig bu farw mewn tangnefedd, ond hefyd mewn gorfoledd. Peth mawr yw cael myned i'r porthladd ryw fodd, ond peth mwy yw cael myned yno yn llawn hwyl. Peth mawr yw cael teithio y glyn heb ofn, ond peth mwy yw cael ei deithio dan ganu. Tystiodd yn eglur ei obaith cadarn o gael ail-ymuno â'i briod ac â'i ferch, i gyd-osod eu coronau euraidd wrth draed yr Oen.

Gadawodd anialwch blinderus, a gwynebodd ar orphwysfa ddedwydd. Ni bydd raid iddo farw mwy. Croesawyd ef yno gan hen frodyr anwyl ganddo, a chaiff eu cymdeithas byth mwy. Croesawyd ef yno gan ei briod a'i blentyn, a melus ganddynt feddwl "na bydd raid ymadael mwy." Ond uwchlaw y cwbl, croesawyd ef yno gan Arglwydd y wlad, yn mhresennoldeb yr hwn yr erys bellach yn oes oesoedd.

Boed ei Dduw ef yn Dduw i ninnau. Dymunwn i bob darllenydd o'r Cofiant ystyried mai "mewn bywyd mae gwasanaethu Duw." Truenus iawn ydyw i fywyd ddarfod, a gwaith mawr bywyd heb gael ei ddechreu. Nid oes dim ond crefydd y Gwaredwr a wna i'r llygad pwlaidd danbeidio mewn sirioldeb ar wely angeu.

Bydded i ni wneuthur y defnydd goreu o'r hyn a gawsom trwyddo. Gwn y chwennychai llawer darllenydd o'r Cofiant ei godi o'r beddrod, pe y gallai. Nid gormod fyddai ganddo gymmeryd taith i fynwent capel y Wern, sefyll uwchben ei bridd, a gwaeddi 'WILLIAMS, cyfod!" pe y gwyddai yr ail-gynhyrfai bywyd ynddo trwy hyny, ac y ceid y tafod prudd i ail-bregethu Gwaredwr i'r colledig. Ond gellir cael adgyfodiad gwell iddo nâ hyn, trwy osod ei bregethau, cynghorion, a gweddiau mewn ymarferiad. Fel hyn bydd efe byw yn ein bywyd ni.

Pan y byddo y gweision farw, diolchwn fod y Meistr yn fyw. Efe, yr hwn a fu farw, wele byw ydyw, a byw fydd yn oes oesodd. Dyweded pob calon, AMEN ac AMEN. Y mae Iesu Grist yr un ddoe, heddyw, ac yn dragywydd. mae brodyr, cyfeillion, a pherthynasau, yn marw, ond erys Iesu yr un. Y mae Hughes, Dinas; Jones, Treffynnon; Roberts, Llanbrynmair; Roberts, Dinbych; WILLIAMS, o'r Wern; a lliaws ereill o'r gweision wedi marw, ond y mae eu Meistr yn parhau o hyd yn fyw. Y mae efe yn byw bob amser i eiriol dros ei bobl.

"Israel, dy Frenin byth fydd byw,
Teyrnasa'th Dduw'n dragywydd."

Ymguddia y ser o dan gwmwl y naill ar ol y llall, ond erys yr Haul. Gallwn foddloni colli ambell seren, os cawn lewyrch yr Haul. Esgyned llef ein gweddiau i'r uchelder, "O HAUL, AROS!"

Mostyn HUGH PUGH.


At y Parch. W. Rees.

BARCH. AC ANWYL SYR,—Am wrthddrych eich Cofiant, y diweddar Barchedig W. WILLIAMS, er nad oedd berffaith rydd oddiwrth wendidau a gwaeleddau y natur ddynol, ymddengys i mi ei fod yn un o'r dynion goreu a flodeuodd, ac a gafodd y Cymry erioed; a sicr mai yr hyn sydd yn gwneuthur dyn yn un da, sydd hefyd yn ei wneuthur yn wir fawr.

Cefais ei gwmni i gyd-deithio, cynnal cyfarfodydd a chymmanfaoedd, am tuag 20ain mlynedd.

1. Ymddangosai yn un nodedig wastad a rheolaidd ei dymher, yn berffaith feddiannol arno ei hun bob amser.

2. Yr oedd o alluoedd cryfion, corff a meddwl: rhyfedd gymmaint a deithiai ac a bregethai mewn ychydig amser, pan yn ei gryfder!

3. Efe, y diweddar Mr. Roberts, o Lanbrynmair, a Mr. Jones, o Lanewchllyn, ydoedd y rhai mwyaf adeiladol a buddiol yn eu cwmniaeth a welais ac a gefais y fraint o'u canlyn erioed.

Tri o'r rhai mwyaf galluog, ewyllysgar, ac ymdrechgar i wneuthur daioni ar y ffordd—cael eu cwmni ydoedd megys cael college—parhaed a chynnydded yr un sydd yn fyw o'r tri.

4. Yr oedd Mr. WILLIAMS yn ysgolhaig tra chyflawn; yn berchenog ar lyfrau rhagorol, yn deall awdwyr yn hollol, ond ni chymmerai ddim o waith neb heb ei farnu a'i bwyso ei hun, rhwng ei gydwybod a gair Duw. Ond y peth mwyaf nodedig ynddo oedd ei duedd myfyrgar; y fath awdurdod oedd ganddo ar ei feddwl mawr! Myfyriai ef yn fanwl ar y materion pwysicaf ar ei geffyl, a hyny heb iddo gael ei ystyried yn un melancholaidd. Yr oedd yn ffieiddio yr ymffrost gan rai fod eu pregethwr yn felancolaidd, "Dyn o'i gof yn ddyn mawr!" meddai.

5. Yr oedd hefyd yn deall y natur ddynol yn rhagorol; ac yn neillduol amheus a drwgdybus am ddrygioni calon annuwiol—mor eiddigeddus rhag calon falch ac anniolchgar. O y fath eneinniad santaidd oedd gyda ei gynghorion a'i bregethau! Mor eglur fod llaw yr Arglwydd gyda ei bregethau! Fel pe buasai yr Ysbryd Glân wedi tywallt gras ar ei wefusau, &c.

Mor hapus y byddai yn trin trefn gras, heb arwain ei wrandawyr i benrhyddid—fel yr oedd yn deall athrawiaeth yr Iawn, yn ol llywodraeth foesol. Daliai ras Duw a dyledswydd dyn ar gyfer eu gilyddrhydd—weithrediad Duw, a rhydd—weithrediad dyn—trefn gras penarglwyddiaethol mewn cyssylltiad â chyfiawnder y llywodraeth Ddwyfol, &c., &c.

7. Mor alluog ydoedd i gymhedroli mewn cynnadledd. Yr oedd yn hynod, fel cadeirydd, am drefn a rheol, ac heb dra—awdurdodi. Yn ei holl fywyd gweinidogaethol yr oedd y fath sirioldeb a santeiddrwydd yn cyd—ymgyfarfod ynddo, ag oedd yn ei wneuthur yn ddychryn i annuwioldeb, ac yn fawl i weithredoedd da.

Llanerchymedd. E. DAVIES.

At y Parch. W. Rees.

FY ANWYL FRAWD,—Yn ol eich dymuniad, ysgrifenwyf yr ychydig linellau hyn atoch. Da genyf eich bod yn cymmeryd mewn llaw y gorchwyl o godi colofn goffadwriaethol am y diweddar Barch. W. WILLIAMS, o'r Wern. Hyderwyf y bydd yr adeilad yn deilwng o'i enw, er yn wir mai gorchest fydd gallu gwneyd cyfiawnder â bywgraffiad un ag yr "oedd ei glod mor hynod yn yr eglwysi."

Bendith, ag y pâr ei heffeithiau oesau maith yn yr eglwysi Cymreig, oedd ei roddiad i ni; a cholled y teimlir ei chanlyniadau yn hir, oedd ei gymmeryd ymaith oddiarnom. Ni allwn goffhau ei enw, heb gael ein taro â theimlad byw; y mae ei enw mor anwyl, fel y mae yn gwneyd ei goffadwriaeth yn gynnes. Y mae rhyw drwydded yn ganiataol i deimlad o alar dan archoll ergyd mor drwm. Wylodd Iesu ei hun wrth fedd ei gyfaill; tristaodd y dysgyblion yn benaf pan y dywedai yr apostol na chaent weled ei wyneb ef mwy; a gwnai gwyr bucheddol alar mawr am Stephan; ac felly ni allwn ninnau ymattal rhag galar cyffelyb yn yr amgylchiad hwn, wrth gofio un o'n prif flaenoriaid a draethodd i ni air Duw.

Y mae ei dduwiolfrydedd yn fyw ar ein meddwl. Byddai yn ofer ac anmherthynol i mi gynnyg tynu darluniad o'i gymmeriad; nid at hyny yr amcanaf, ond yn hytrach adrodd rhyw bethau a barant i mi ei gotio fwyaf effro. Cyfeiriais at ei dduwiolfrydedd. Bwriadai fy nghroesawu â llety y noswaith flaenorol i ystorm fawr Ionawr, ddwy flynedd yn ol, ond fo'm lluddiwyd i gyrhaedd Llynlleifiad hyd drannoeth wedi y rhyferthwy. Gwedi cyrhaedd yno, arweiniai fi yn fuan i nen y tŷ, i weled y gwely lle y bwriadai i mi orphwys, a oedd erbyn hyn wedi ei orchuddio â thunelli o geryg a syrthiasai drwy y tô o'r ffumer. Dywedai, yn ei ddull teuluaidd a charedig, "Wel, frawd, dyma lle buasai dy orweddfa, pe daethit yma yn ol dy fwriad." Ni allaf fyth anghofio ei sylwadau ar y waredigaeth, ac fel y dywedai am ein rhwymau o wneyd yr amgylchiad yn destun diolch. "Gallai fod rhywbeth etto i ni i'w wneyd," eb efe, ar ol arbediad fel hyn; y mae yn annogaeth i ni fod yn fwy cyssegredig i'r gwaith; we must improve it in a sermon." Arosais gydag ef hyd wedi addoliad teuluaidd. Yr oedd rhywbeth hynotach yn ei weddi y pryd hwnw nâ dim a glywswn erioed; yr oedd fel pe buasai yn gofyn cenad y Goruchaf i nesâu ato yn nes nag arferol, megys i ymddyddan ag ef wyneb yn wyneb—mor syml (simple), mor deimladol, etto mor eofn, ryw fodd, nes yr oeddwn yn arswydo yn grynedig yn fy lle; a pharhaodd rhyw deimlad nad allaf ei ddarlunio wrthyt dalm o ddyddiau; braidd na ddychymmygaswn fod ei wyneb yn dysgleirio fel Moses; ni welais fwy o arwyddion ysbryd duwiolfryd erioed.

Ni allaf anghofio y gofal oedd ganddo am yr achos mawr yn gyffredinol. Nid yn unig yn nghylch ei weinidogaeth ei hun, ond fel y dywedai Paul," Heblaw y pethau sy yn dygwydd oddiallan, yr ymosod sydd arnaf beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi"—y weinidogaeth—y diwygiadau achubiaeth y byd—y cymdeithasau rhinweddol, a gweithgarwch a lanwai ei galon. Yr oedd wedi bod ar ryw gyfrif yn weinidog i'r dywysogaeth. Nid oes odid gymmydogaeth yn Ngogledd Cymru, nad oes yno ryw rai wedi eu dychwelyd at y Gwaredwr drwy ei bregethau; ac nid oes nemawr deulu â'r hwn yr ymwelodd na adawodd yno ryw gynghorion ag sydd wedi glynu hyd heddyw yn eu plith.

Ni allaf anghofio ei ddefnyddioldeb fel cadeirydd yn mhlith ei frodyr. Yr oedd yn "fab tangnefedd ei hun," ac yn llwyddiannus fel tangnefeddwr yn mhlith ereill. Ni wn a arferwn ormodiaith pe dywedwn mai efe oedd y llygaid â pha rai y gwelem, y traed â pha rai y cerddem, y dwylaw â pha rai y gweithiem, a'r ffon ar yr hon y pwysem! Ni chamarferai ei ddylanwad; ymddygai yn wastadol fel brawd, ac nid fel un yn tra—awdurdodi ar etifeddiaeth Crist.

Ni allaf anghofio ei ostyngeiddrwydd. Yn nghanol mil o demtasiynau i ymchwyddo, ymgadwai yn gyd-ostyngedig â'r rhai isel-radd. Adroddwyd wrthyf yr hanesyn canlynol am dano yn ddiweddar. Cyfleaf hyn yma, er i mi ddweyd ar y dechreu, mai y pethau yr ydwyf yn eu cofio am dano yn unig a grybwyllwn. Dywedai, pan yr oedd yn ddyn ieuanc, ei fod weithiau yn agored i ysgafnder, ac i ryw hen wraig ryw bryd ei gyfarch ar ol ei bregeth, a dywedyd wrtho, "Yr ydych yn bregethwr da, ond y mae yn rhaid i chwi roddi heibio y cellwair yna, onidê, ni wnewch fawr o les." "Ni sylwais nemawr (eb efe) ar ddywediad yr hen chwaer y pryd hwnw, ond cofiais am dani yn mhen blynyddau ar ol hyny. Y mae hi wedi myned i'r nefoedd, yr wyf yn credu. Ni wn i a gaf fi fyned yno ai peidio, ond bûm yn meddwl lawer gwaith, os byth yr awn i yno, mai un o'r pethau cyntaf a wnawn, a fyddai ymofyn am dani, i gael siglo llaw â hi, i ofyn ei phardwn, a diolch am ei chyngor."

Ni allaf anghofio ei gyfeillgarwch. Yr oedd ei gyfeillach yn dra adeiladol, fel yr oedd ganddo gyflenwad o wybodaeth naturiol a chretyddol; ac yn barod i "gyfranu rhyw ddawn ysbrydol" Nid bob amser. wyf yn meddwl i un fod erioed yn ei gymdeithas, heb fod yn ennillwr. Byddai ei sylwadau yn argyhoeddiadol, etto yn ddengar, yn oddefgar, yn haelfrydig, a'u tuedd bob amser at fod yn lles. Yr oedd yn fawr am fod yn gysson ag ef ei hun, ei farn yn bwyllus, a rhyw sylwadau naturiol, gwreiddiol, a tharawiadol ar bob testun.

Ni allaf anghofio ei weinidogaeth. Yr athrawiaeth bur a draddodai a ddefnynai fel gwlaw, a'i ymadrodd a ddiferai fel gwlith. Deffro y meddwl a gafael yn y gydwybod oedd ei brif nod, er na chanfyddid mo hono, nes teimlo archoll y saeth; nid boddloni cywreingarwch, ond yn hytrach fel Paul a Barnabas, pan yr aethant i'r synagog, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr. Ni allaf byth anghofio ei hyawdledd. Yr oedd yn dra dedwydd yn ei ddull yn gosod allan y meddyliau cryfion oedd yn llanw ei enaid mawr yn nghyrhaedd y bobl, nes yr ymdeimlent fel pe byddent gartref ar yr aelwyd wrth ochr y tân. Gollyngai yr eloquence mawr fel ffrwd lifeiriol am ben cynnulleidfa, nes y byddai y dagrau yn llif yn llanw pob llygad. Ni allaf lai nâ chyfeirio at un tro neillduol mewn cymmanfa yn Llanerchymedd, rai blynyddau yn ol, ar y cae, am ddau o'r gloch, yn yr haf, yr hîn yn drymllyd, a'r gwrandawyr yn farwaidd. Yr oedd yr olwg arno cyn dechreu pregethu fel pe buasai yn dra anesmwyth; ái i lawr o'r, ac i fyuu i'r areithfa dro neu ddau, fel pe buasai ar ymdori o eisieu gollwng ei feddyliau allan. Daeth at y desk; edrychai yn o wyllt, fel yr arferwn ddywedyd, a'i ysbryd wedi tânio, a'i feddwl wedi ymlenwi i'r ymylon. Darllenai ei destun yn gyflym ac yn hyf, "Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennych, hyny ydyw un nefol." Gollyngodd y fath ddylif o ffraethineb am y nefoedd, nes yr oedd, cyn pen ugain mynud, fel pe buasai wedi swyno ein teimladau, a braidd na ddychymmygasem glywed y maes yn symud dan ein traed! Yr oedd efe ei hun yn ystyried y tro hwn yn un o droion hynotaf ei oes, canys bûm yn ymddyddan ag ef am y bregeth yn mhen blynyddau ar ol hyny. Yr wyf yn meddwl i'r bregeth hòno effeithio er daioni i'r enwad dros wlad Môn i gyd. Yr wyf yn cofio peth o ddull ei ddawn. Bûm rai gweithiau yn dychymmygu gweled comedy a tragedy yn ymryson am dano; mynai y flaenaf ef i'w osod wrth ochr Cicero, a mynai yr olaf ei gael a'i osod yn ymyl Demosthenes; ond ar y cyfan, byddwn yn meddwl mai y flaenaf a fyddai yn dadlu ei hawl decaf o hono. Yr oedd ei gydmariaethau a'i ddarluniadau yn dlws, yn naturiol, yn eglur, yn ysgafn, yn esmwyth, ac yn darawiadol. Ond Oh! "Wele yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, wedi tyuu ymaith o Jerusalem, ac o Judah, y proffwyd, y cynghorwr, a'r areithiwr hyawdl."

Ni allaf anghofio yr hyn a welais, yr hyn a glywais, a'r hyn a deimlais drwyddo. "Y mae efe wedi marw yn llefaru etto." A thra yr ydwyf yn dywedyd hyn, dymunwn ei fynegi, gan gofio, "Am hyny, na orfoledded neb mewn dynion;" "A'r hwn sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd." Yr oedd ei dalentau o'r fath ddysgleiriaf, ac yr oedd yn meddu y doniau goreu; a'r hyn oedd yn llathreiddio ei ddoniau yn benaf oedd, fod ganddo yr eneinniad oddiwrth y santaidd hwnw. Trwy ras Duw yr ydoedd yr hyn ydoedd.

Gwelodd Duw yn dda goroni ei lafur â llwyddiant mawr; gan hyny, dylem ddiolch am ei gael cyhyd. Etto, y mae yr amgylchiad hwn yn galw arnom i weddio ar i'r Arglwydd godi rhai i lanw y bylchau. Y mae yn alwad o gyd-ymdeimlad â'r eglwysi y llafuriai ynddynt, y gymmydogaeth y cyfanneddai ynddi, yr eglwysi Cymreig yn gyffredinol, ac yn enwedig y teulu a adawodd ar ei ol. Disgyned ei fantell arnynt; ac estyner iddynt hir oes, i fod yn offerynol i gysgodi y saint dani. Am dano ef, ennill oedd y cyfnewidiad iddo ef, ond colled fawr i ni. Ei iaith, wrth ymadael, oedd yn debyg i iaith y Gwaredwr, pan yn nesu at y groes: "Merched Jerusalem, nac wylwch o'm plegid i, ond wylwch o'ch plegid eich hunain ac oblegid eich plant." Y mae genym achos i lawenhau ei fod wedi ei ryddhau o bob gofid, a dianc uwchlaw trallod. Ond wele ni ar y maes. Beth yw eich dymuniad? Cael ei gymmeriad, cyn belled ag y dilynodd Grist, wedi ei argraffu yn ddwysach ar ein calon. Terfynaf, gan goffa iaith y Datguddiad: "Y maent hwy ger bron gorsedd—fainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml, a'r Hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd—fainc a drig yn eu plith hwy."

Conwy, Mawrth 18, 1841.  RICHARD PARRY.


At y Parch. W. Rees.

ANWYL FRAWD,—Yr wyf yn anfon y llinellau canlynol atoch os bernwch hwynt yn deilwng o le yn Nghofiant y diweddar, a'r hybarch Mr. WILLIAMS, o'r Wern.

Ychydig flynyddoedd yn ol pan oedd Dirwest yn dechreu yn y Gogledd, cyfarfyddais â Mr. WILLIAMS yn ——— a bum yn cyd-bregethu, ac yn cyd-letya ag ef; ei destun ef ydoedd, 1 Cor. 8, 9-13, y ddyledswydd o hunan-ymwadu, a pheidio rhoddi tramgwydd i'r brawd gwan, &c., &c. Pan aethom i'r gwestdŷ yn yr hwn y lletyem, gofynodd gŵr y tŷ, "Mr. WILLIAMS, pa beth a yfwch chwi ar ol chwysu?" Atebodd Mr. W. "Nid oes arnaf fi ddim syched y rwan." Yna dywedodd gŵr y tŷ, "Y mae yn rhaid i chwi, Syr, gymmeryd gwydraid o frandy, gwna les i chwi ar ol chwysu." "Na, na, (ebe Mr. W.) os cymmeraf ddim, gwydraid o gwrw a fynaf fi; na roddwch ddim i 'nghyfaill, (eb efe,) y mae o yn Deetotaler." Yna galwodd gŵr y tŷ ar y forwyn i ddyfod â dau lasied o gwrw da, un i Mr. W. ac un i minnau, ebe efe, gan ddywedyd, "Ni chaiff y Teetotaler ddim." Pan ddaeth y cwrw i'r bwrdd, mi a ddywedais wrth Mr. W., "Os gwnewch chwi yfed y cwrw yna, byddwch yn tramgwyddo brawd gwan, Syr." "Wel, wel, (ebe yntau,) dyma hi yn lân." "Peidiwch gwrando arno, (ebe gŵr y tŷ,) y mae o yn Deetotaler, yfwch, yfwch, fe wna les i chwi, ar ol chwysu." "Na, na, (meddai Mr. W.) y mae yn rhaid i mi wrando arno." Yna, mi a chwanegais, gan ddywedyd, ei fod ef wedi pregethu yn rhagorol ar hunan-ymwadiad, y ddyledswydd o beidio a thramgwyddo'r brawd gwan, &c.; bod y gynnulleidfa luosog a fu yn ei wrando, yn canmol egwyddorion ei bregeth nodedig ef, ac yn meddwl yn fawr am ei ddawn rhyfeddol, ac am ei ysbryd efengylaidd yntau; ond os gwnewch chwi yfed y cwrw yna, (ebe fi,) byddaf yn ystyried eich bod yn dinystrio egwyddorion eich pregeth, yn yn twyllo'r gynnulleidfa, ac yn tramgwyddo brawd gwan, ar yr un pryd. "Wel, wel, (ebe Mr. W.) dyma fi wedi gwneyd rhwyd y rwan i mi fy hun, a thyma fi ynddi yn fast." "Na wrandewch arno, (ebe gŵr y tŷ,) Teetotaler yw o; yfwch, yfwch." "Yr wyf yn coelio y dylwn wrando," meddai Mr. W., gan ofyn i mi, a oeddwn i yn ystyried ei fod yn bechod ynddo ei hun iddo ef yfed y glasied cwrw hwnw? Dywedais wrtho, nad oeddwn yn benderfynol am hyny, fod llawer o bethau ynddynť eu hunain yn ddiniwed, ac yn gyfreithlon, ond nad oeddynt yn llesâu yn eu cyssylltiadau â phethau ereill, ac y gallasai esiampl gŵr o'i sefyllfa a'i gymmeriad ef, yn yfed ychydig yn gymhedrol, fod yn demtasiwn i ereill yfed yn anghymhedrol, a meddwi, &c. "Wel, (ebe Mr. W.) pe deuwn i yn ddirwestwr, ar yr egwyddor yna y deuwn i, yr wyf yn coelio, rhag i mi fod yn fagl i ereill, ond yn hytrach roddi siampl iddynt," &c. Ond trwy gael ei argymhell gan ŵr y tŷ, efe a brofodd y glasied cwrw, ac a'i rhoddes o'r neilldu. "Yfwch i fynu, yfwch i fynu Mr. W. (ebe'r gŵr,) i chwi gael un arall." "Na, yr wyf yn coelio fod hwn yn ddigon i mi i swper etto," ebe Mr. W., ac a ddechreuodd gynghori'r tafarnwr i roi y dafarn i fynu cyn i'r fasnach fyned yn warthus iawn yn ngolwg y wlad, &c. Dywedodd Mr. W. wrthyf y noson hono, ei fod yn meddwl ymuno â'r Gymdeithas Ddirwestol pan elai adref. Mi a gyfarfyddais ag ef eilwaith yn mhen oddeutu pum wythnos yn Ll—n—ll—f—d, ac efe a ofynodd i mi, "A wyt ti yn cofio am y glasied cwrw hwnw yn ?" Ydwyf, ebe finnau. "Dyna'r diwetha am byth i mi fel diod gyffredin." Craffais ar ddau beth neillduol ynddo ef y noson grybwylledig, sef, meddwl mawr, boneddigaidd, a gostyngedig, a pharodrwydd i hunan-ymwadu, er mwyn gwneuthur lles i ereill.

Pwllheli. R. P. GRIFFITHS.


At y Parch. W. Rees.

ANWYL FRAWD,—Nis gallaf lai nâ theimlo yn ddwys wrth feddwl nad oes genym yn awr ond ceisio galw i'n cof un ag oedd mor ddiweddar yn llenwi cylch mor helaeth, a defnyddiol yn ein plith. Daethum yn adnabyddus o hono pan yr oedd yn fyfyriwr yn Athrofa Gogledd Cymru, yr hon a gynnelid y pryd hyny yn Ngwrecsam. Cofus genyf fod ei bregethau nodedig, ac yn neillduol ei hyawdledd, a'i ddull priodol iddo ei hun yn eu traethu, yn tỳnu sylw ei wrandawyr y dyddiau hyny. Yn fuan wedi ei sefydliad yn y Wern, cefais yr hyfrydwch o gael ychydig gyfeill ach ag ef, ac fel y byddai yn hynod yn ei sylw o frodyr ieuainc, yn eu cynghori, a'u calonogi, rhoddodd i minnau rai cynghorion mewn perthynas i bregethu, ag sydd wedi aros yn fy meddwl hyd heddyw; sef, gofalu fy mod yn iawn ddeall fy nhestun—cadw golwg neillduol ar ei brif fater, a'r amcan penaf ynddo—ymdrecha at fod yn fedrus mewn tynu addysgiadau priodol oddiwrth yr athrawiaeth mewn ffordd gymhwysiadol at y gwrandawyr. Sylwais hefyd arno mewn cynnadledd gymmanfaol, pan wedi ei annog i roddi rhai cynghorion gyda golwg ar bregethu—yn dweyd am fod yn ofalus i gadw at feddwl priodol pob rhan o air Duw, gan ddywedyd, yn ei ddull, ag oedd mor briodol iddo ei hun, "Nad oedd yr hen Fibl un amser yn tòri i fynu;" ond fod digon o destunau ynddo i ddwyn pob mater gerbron ein gwrandawyr, heb fyned i lefaru allan o feddwl y testun. Bu y cynghorion uchod yn fuddiol i mi, ac y mae yn dda genyf eu coffâu er lles ieuenctyd ag a fydd etto yn dyfod i fynu at y gwaith mawr, yn nghyd â'r rhai ag sydd wrtho yn barod. Peth hynod amlwg yn ei nodweddiad, hyd y nod yn mlynyddoedd boreuaf ei weinidogaeth, oedd ei ofal dwys am achos yr Arglwydd. Gŵyr yr eglwysi ag oedd dan ei ofal am ei ymdrech a'i lafur, er lledaenu achos y Gwaredwr, ei deithiau mynych a meithion er talu dyledion yr addoldai; ac er fod ei berthynas â'r eglwysi hyny yn peri fod ei ofal a'i lafur yn benaf yn eu plith, a throstynt hwy; etto, teimlai yn gyffredinol dros yr achos crefyddol, ac ymdrechai hyd y gallai gyrhaedd i'w wasanaethu a'i lesâu yn mhob lle. Gallesid dweyd am dano yn nyddiau ieuengaf ei weinidogaeth, "Nad oedd yn byw iddo ei hun;" meddyliais lawer gwaith, nad oedd ei amgylchiadau ei hun yn cael fawr na dim lle ar ei feddwl, ond mai ei ofal mawr oedd byw i achos Duw; a gwyddom na chafodd ei adael heb i'r Duw ag yr oedd yn ei wasanaethu ofalu am dano yntau. Bu hefyd fel tad a brawd i'r myfyrwyr tra yr oedd yr athrofa yn gyfagos iddo yn Ngwrecsam, ac yn wir, ymwelai â hwynt yn fynych wedi ei symudiad o'r lle hwnw. Yr oedd ein hybarch athraw, y diweddar Barch. G. Lewis, D. D., yn wir hoff o hono. Pan y deuai i'r dref, wedi talu ei ymweliad â'n hathraw, rhoddai ei gyfeillach yn rhydd a siriol i'r myfyrwyr; cyrchem bawb yn dra awyddus i'r man lle y clywem ei fod, ac yn bur anfynych, os un amser yr ymwelai â ni, heb ganddo ryw beth pwysig i dynu ein sylw arno er ein gwir adeiladaeth, a byddai groesaw i ni osod o'i flaen unrhyw fater a ymddangosai yn anhawdd, neu yn ddyrus i ni, gwnai ei oreu bob amser i'w chwalu a'i egluro i'n meddyliau. Trwy ein bod yn llafurio yn ei gapeli bob yn ail Sabboth ag ef, yn gynnorthwyol iddo, byddem yn fynych yn cael yr hyfrydwch o lettya gydag ef, nos Sadwrn, neu nos Sabboth, a thrwy hyny yn cael bod yn dystion o'i weddiau taerion ar ein rhan. Cofus iawn genyf am ei weddi yn deuluaidd un boreu Sabboth drosof fi a'm cyd-fyfyrwyr; nid yw yr argraffiadau a wnaed ar fy meddwl a'm teimlad y pryd hyny wedi eu dileu hyd yr awr hon; ac y mae yn dra sicr genyf, mai nid pan y byddem yn bresennol yn unig y cofiai am danom, ond ein bod yn cael rhan helaeth yn ei weddiau yn wastadol; oblegid gwyddom fod y weinidogaeth ag oedd yn codi i fynu yn cael lle dwys ar ei feddyliau ef, fel un ag oedd mor helaeth yn ei ysbryd cyhoeddus, ac mor wresog yn ei gariad at achos yr Arglwydd. Hefyd, nid oedd neb ag a lawenhäai yn fwy nag ef yn ein cynnydd a'n llwyddiant mewn addysg, er bod yn ddefnyddiol yn ein hoes. Hawdd fuasai rhoddi enghreifftiau o hyny, oni bai eu bod yn arwain i gyfeiriadau rhy bersonol gyda golwg ar y rhai byw. Arderfyniad amser pob myfyriwr yn yr Athrofa, cynnelid cyfarfod neillduol rhyngddo ef a'i frodyr cyn ei ymadawiad i weddio dros eu gilydd, ac i gynghori y naill y llall; Mr. WILLIAMS a fyddai ein Cadeirydd bob amser ar yr achlysur hyny, ac wedi i bob brawd draethu y cynghor a fyddai ar ei feddwl i'r brawd a fyddai ar ymadael, ac iddo yntau roddi ei gynghorion iddynt hwythau a fyddai yn aros yn ol, yna rhoddai y Cadeirydd iddo ei gynghorion, a'i annogaethau difrifol, a therfynai y cyfarfod trwy weddi wresog a thaer ar ei ran. Nid peth hawdd a fyddai anghofio yn fuan y cyfarfod hwn. Yn y modd hyn yr oedd y caredigrwydd mwyaf, a'r cyfeillgarwch penaf yn bod rhwng y myfyrwyr a Mr. WILLIAMS dros y blynyddau a dreulient yn gymmydogaethol iddo; ac nid wyf yn cofio am y gradd lleiaf o oerfelgarwch yn neb o honom tuag ato, nag am un arwydd o hyny ynddo yntau tuag atom ninnau, a diau genyf fod hyn wedi gosod i lawr sylfaen cyfeillgarwch am eu hoes rhyngddo ef a'r rhai a gawsant y fraint o dreulio eu hamser yn yr Athrofa yn gymmydogaethol iddo. Byddem weithiau yn cael cyfleusdra i'w wrando yn pregethu, yr hyn a fyddai yn dra hyfryd genym, ac yn wir, adeiladaeth i'n meddyliau.

Amlwch.  WM. JONES.


At y Parch. W. Rees.

ANWYL SYR,—Gwnaed argraffiadau dyfnion ar feddyliau miloedd drwy weinidogaeth gref a goleu ein diweddar gyfaill Mr. WILLIAMS, o'r Wern; ac yr wyf yn dra hyderus y bydd i'ch adgofion chwi am nodweddiadau ei ysbryd hawddgar, ei lafur helaeth, a'i ddawn deniadol, adnewyddu yr argraffiadau hyny, ac y gwneir felly ad-argraffiadau oddiwrthynt ar yr holl oesau a ddaw. Y mae yr ystyriaeth o hyn yn ennyn mewn llawer mynwes, heblaw yr eiddo fi, yr awyddfryd gwresocaf am weled ei Gofiant.

Yr wyf yn cofio yn dda am rai o'i ymweliadau â thŷ fy nhad pan oeddwn rhwng wyth a phymtheg oed, ac am rai o'i weddiau dros "blant y teulu," a'i gynghorion rhybuddiol rhag iddynt droi yn anffyddlawn trwy ymgyndynu ac ymwylltio, nes digio Duw eu hynafiaid, a chael eu gadael i ymgaledu ac ymddyrysu nes syrthio i golledigaeth.

Yr wyf yn cofio hefyd am amryw o'i ymweliadau â'r Athrofa tra y bûm yno; a gwn fod fy nghyd-fyfyrwyr yn barod iawn i ardystio, na byddai byth yn ymadael heb grybwyll wrthym ryw ranau o'i brofiad ei hun, neu o hanes ereill, er dyfnhau yn ein calonau yr ystyriaeth o fawr werth haf-dymhor byr a hyfryd rhagorfreintiau yr Athrofa; ac er ein hannog i ymgyrhaedd yn ddiwyd am wybodaeth, ac i ymorchestu beunydd am santeiddrwydd, fel rhag-gymhwysderau anhebgorol i fod yn ddefnyddiol a chysurus gyda gwaith y weinidogaeth.

Nid anghofir byth gan rai o'i gyfeillion am ei ysbryd caredig, a'i hoff gymdeithas adeiladol, pan gartref yn ei dŷ ei hun. Nid wyf yn meddwl fy mod gymmaint â phum mynud erioed yn ei gyfeillach, heb ei fod yn cychwyn rhyw ymddyddanion buddiol, a barent les, nid yn unig i'r deall, ond i'r teimlad hefyd. Ennynid y gyfeillach ganddo y rhan fynychaf drwy un o'r llwybrau canlynol: Naill ai drwy ymholiad am y llyfrau duwinyddol ag y byddai yn ddiweddar wedi eu darllen neu wedi clywed am danynt; neu ynte, drwy ymchwiliad i ystyr rhyw gyfran o'r gair, ac i'r dull mwyaf effeithiol i esbonio a chymhwyso y gyfran hòno at y teimlad a'r fuchedd; neu ynte, drwy grybwyll y gwelliadau rhyfeddol oedd yn cymmeryd lle yn holl gylch y celfyddydau, yn eu harweddiad ar gysur y teulu dynol; neu ynte, drwy gyfeirio at amcanion a rhesymiadau seneddwyr yn eu cyssylltiad â rhyddid cydwybod, ac â lledaeniad egwyddorion yr efengyl; neu ynte, drwy gydnabod yr achosion oedd genym i alaru eisieu fod mwy o ymdrech yn yr eglwysi i feithrin gwybodaeth, i symud beichiau eu haddoldai, ac i fagu brawdgarwch a hunan-ymwadiad, fel y gallent fod o helaethach effeithiolaeth dros achos y Gwaredwr.

Cefais unwaith yr hyfrydwch a'r budd o gyd-ymdaith ag ef drwy ranau o Ogledd Cymru gyda'r amcan o geisio ennill sylw ein cymmydogion at anghyfiawnderau y gaeth-fasnach; ac yr wyf yn cofio i mi sylwi yn neillduol ar ddau beth perthynol i'w ymddygiad yn yr amgylchiad hwnw ei ymdrech diflin, drwy ddarllen, ac ymholi, a myfyrio, i gael pob hysbysrwydd ac adnabyddiaeth cyrhaeddadwy o natur y fasnach, ac o'i heffeithiau andwyol ar deimladau ei phleidwyr, yn gystal ag ar gyflyrau y caethion; ynghyd â'i ofal manylaidd i adrodd y ffeithiau oedd ganddo i ddangos ei hechryslondeb mewn modd cysson â thegwch y gwirionedd. Ar ol craffu ar ei egni a'i ofal gyda'r ddau beth yma, nid oeddwn yn rhyfeddu cymmaint at yr effeithiau rhyfeddol, ag yr oedd bywiogrwydd ei ddull, a nerth ei ddawn, yn gael ar feddyliau ei wrandawyr.

Byddaf yn mynych ad- feddwl am yr olwg a ganfyddid yn gyffredin ar dorf fawr y gymmanfa yn ngwyneb apeliadau ei weinidogaeth—eu hastudrwydd llwyraf wedi ei ennill, a'u holl deimladau yn ufydd gydymdoddi i gymmeryd eu ffurfio yn hollol wrth ei deimlad ef.

Nid rhyfedd genyf fod yr awydd mor gryf yn mysg adnabyddwyr Mr. WILLIAMS am gael gweled ei hanes. Yr oedd yn un o'r dynion anwylaf a fagodd ein gwlad erioed; a chan iddo noswylio mor gynnar, heb adael ond ychydig iawn o ffrwyth llafur ei feddwl yn nghyrhaedd ei oloeswyr, yr wyf yn awyddus obeithio yr ymdrechir yn gydwybodol gan weinidogion ac eglwysi i wneuthur defnydd da o'r unig goffadwriaeth a gawn am Mr. WILLIAMS, o'r Wern,

Llanbrynmair, Gorph. 1, 1841. S. ROBERTS.


At y Parch. W. Rees.

ANWYL FRAWD,—Dywenydd nid bychan yw genyf eich bod wedi ymaflyd yn y gorchwyl difrifol a phwysig o gyfodi cof—golofn â phapur ac inc i'r diweddar anwyl WILLIAMS, o'r Wern. Gresynol fuasai i gymmaint o wir werth a mawredd fyned yn swrth i lwch anghof, fel yr aeth ei gorff i'r bedd. Mae y gorchwyl yr ydych wedi ymaflyd ynddo yn un anhawdd; ond cyfyd yr anhawsdra oddiar wreiddyn gwahanol i'r hwn y mae eiddo bywgraffwyr ereill yn cyfodi oddiarno. Gelwir ar ysgrifenwyr cofiantau weithiau i fod yn ddoeth i ddethol y gwerthfawr oddiwrth y gwael, gán amledd diffygion a cholliadau y gwrthddrychau. Mae eisieu mawr ddeheurwydd yn aml i godi rhinweddau teilwng o efelychiad i fynu, heb adgofio y darllenydd o'r gwendidau a'r beiau y byddai yn well i'w hanghofio, a thynu darlun gweddol deg o'r gwrthddrych, ac ar yr un pryd guddio y brychau ac esgusodi y crychni fyddo yn y nodweddiad. Ond yma nid rhaid i chwi ofni rhoddi rhaff i'ch galluoedd cerfiadol, dywedwch a fynoch am ei ragoriaethau, ei ddoniau, a'i hawddgarwch, ni feia neb a adwaenai WILLIAMS o'r Wern chwi am wneyd darlun gwenieithus o hono. Anaml iawn y cyfarfyddodd y fath bwng o rinweddau Cristionogol, heb ond ychydig neu ddim i dynu oddiwrthynt neu eu difwyno. Cyfyd eich holl anhawsdra chwi, gan hyny, oddiwrth fawr ragoriaeth gwrthddrych y Cofiant. Yr wyf yn hollol ymwybodol nas gallasai y gorchwyl syrthio i well llaw; etto, pe meddech ar alluoedd a medrusrwydd Raphael, byddech yn fyr o gerfio eich darlun i gyfateb rhagoriaethau y cynllun sydd o'ch blaen.

Pan fu WILLIAMS o'r Wern farw, gallesid dywedyd, yn ddibetrus, i "wr mawr a thywysog syrthio yn Israel." Nid aml y bu neb ar y ddaear yn dwyn mwy o ddelw yr Arglwydd Iesu. Clywais lawer o son am y dyn enwog hwn pan yn blentyn, yr hyn a greai awydd anghyffredin ynof ei weled a'i glywed; a phan gefais hyny o fraint, gallaswn ddefnyddio geiriau brenines Sheba, "Ni fynegwyd dim o'r hanner." Pan aethum i'r Athrofa, yr oeddwn yn cael y cyfleusdra o'i weled a'i glywed yn aml yn yr areithfa, yr ystafell, a'r wers-ystafell, a chydag hyfrydwch y cofiaf am ei ymweliadau â'r Drefnewydd y prydiau hyny. Gadawai arogledd daionus ar ei ol bob amser. Creai ynom, fel myfyrwyr yn gyffredinol, ofn pechu—awydd i ymgyssegru yn drwyadl i'r gwaith—penderfyniad i fod yn rhywbeth—a chryn hyder y gallasem ragori wrth ymroddi. Yr oedd ei feddwl mawr a'i galon eang a gwresog yn ennyn ynom dân nes yr oeddym yn llefaru wrth ein gilydd ac wrth ereill. Aml y dywedai wrthym, "Edrychwch ati, fechgyn, a chofiwch mai "College is the crucible of character." Yr ydych yn ffurfio eich caritor am byth yn yrAthrofa." Anaml iawn y gwelwyd neb yn gwella wedi treulio eu blynyddoedd yn yr Athrofa yn annefosiynol, yn ddiog, a diofal am achos Duw. Cyfeiriai ni at amrywiol enghreifftiau cyffrous o wirionedd ei nodiadau. Ni bum erioed yn ei gyfeillach heb deimlo yn well yn fy mhen a'm calon; ni chlywais o hono erioed yn pregethu heb dderbyn cynhyrfiadau newyddion i astudio yn ddwysach, i fyfyrio yn fanylach, ac i weddio yn ddyfalach. Fel dyn, ystyriwn ef y mwyaf hawdd ei garu, ac fel Cristion y mwyaf dirodres a difaldod; medrai drosglwyddo ei deimlad brwdfrydig i galon arall, heb ddywedyd, "Saf ar dy ben dy hun, santeiddiach ydwyf nâ thydi." Fel pregethwr, ynte, yr oedd y mwyaf teilwng o bawb i'w efelychu fel cynllun. Meddyliai yn syml a chlir, a thraddodai ei feddyliau yn eglur a rhwydd; gwiriai yr hen arwydd-air hwnw, "Words will follow things." Ni ofynai beth foddlonai, ond beth lesäai ei wrandawyr. Cyrhaeddodd boblogrwydd ar dir gwirionedd noeth. Ei amcan oedd bob amser gwaedu rhywrai, ac anaml y methai gyrhaedd yr amcan hwn; teimlai ei wrandawyr yn gyffredinol, fel Louis XIV. o Ffrainc, wrth wrando Massilon, "yn ddig wrthynt eu hunain." Teimlai y pechadur yn euog, ac hynod anfoddlon iddo ei hun, o herwydd ei fod yn anedifeiriol—y Cristion a gywilyddiai ac a wridiai,am na buasai yn fwy o Gristion; a digiai pob pregethwr wrtho ei hun eisieu na buasai yn well pregethwr. Hwyrach na bu neb erioed yn fwy llwyddiannus i roddi cyffroad cyffredinol i feddyliau. Ei ddrychfeddyliau mawrion, noethion, a diaddurn, a darawent feddyliau ei frodyr yn y weinidogaeth, nes oeddynt yn tânio a gwreichioni, a byddai y gwreichion yn ymledu, a pharhant felly yn Nghymru, nes byddo pob noddfa celwydd wedi ei llwyr losgi. `

Un o'r pethau ardderchocaf mewn hen weinidogion, ydyw ystwythder i blygu gyda yr oes. Bu llawer o weinidogion enwog mewn gwybodaeth, dawn, a defnyddioldeb, pan yn ieuainc; ond ar lechwedd bywyd, ffroment ar bawb fuasai yn cynnyg un gwelliant ar eu dull hwy; safent ar y terfyn, a cheintachent â phawb elai heibio iddynt, gan ddynodi pob peth newydd yn effeithiau balchder; ond WILLIAMS a flodeuodd mewn ieuenctyd hyd ei fedd. Dywedai y tro diweddaf y gwelais ef, fod arno fwy o ofn ystyfnigrwydd, ceiutachrwydd, a diogi henaint, na dim arall. Ar ddechreuad y diwygiad Dirwestol, pan oedd brodyr ieuangach nag. ef yn gofyn, Beth yw y ddysg newydd hon? ac ereill, llai galluog i ymresymu nag ef, yn coethi yn ddibendraw am gyfreithlondeb ac ysgrythyroldeb y gyfundraeth, ymaflodd ef ynddi pan welodd ei bod yn gwared y rhai a lusgid i angeu, ac yn tueddu i achub eneidiau. Cymmerodd ef ei ran o'r gwawd a'r dirmyg cyssylltiedig â sylfaeniad y diwygiad hwn yn Nghymru, a diau ei fod yn edrych o'r nef ar ei ddygiad yn mlaen gyda difyrwch a llawenydd. Nid oedd un serch rhyngddo â hen dybiau a chredoau, ond mor bell ag y barnai hwynt yn ol y Bibl; newidiai hwynt mor rhwydd â newid ei gôt, os byddai gwirionedd yn galw. Ei ysbryd oedd mor gyhoeddus ag ysbryd Gabriel: gofalai am yr oes a ddeuai, yn gystal ag am hon; a thra y gofalai yn dadol am yr eglwysi dan ei ofal, estynai aden ei ddylanwad dros Gymru; a gallesid dywedyd am dano, fel John Wesley am dano ei hun, "Y byd oedd ei blwyf." Y tro diweddaf yr ymwelodd â'r Deau, treuliodd fythefnos dan fy nghronglwyd; a llwyr ddeallais beth feddyliai yr apostol, pan ddywedai, "Nac anghofiwch letygarwch, 'canys wrth hyny y lletyodd rai angylion." Pryd hyn yr oedd angeu wedi gosod ei law arno, a'i nodi allan i'w saethau; yr oedd fel ysgafn o ŷd, yn aeddfedu i'r cynhauaf. Gwasgarai ber-aroglau paradwys o'i gwmpas; ac er nad oedd yn alluog i bregethu, gadawodd argraffiadau ar ei ol a barodd bregethu gwell; a'r effeithiau rhyfeddol a ddilynasant hyny a barant fod ei ymdaith ef yn ein plith ar gof yn y farn a ddaw. Gan hyderu y bydd i'r Hwn sydd yn dal y saith seren yn ei ddeheulaw i godi ereill i addurno ffurfafen ei eglwys; a chan obeithio y bydd i'ch Cofiant o hono fod fel mantell Elias i gadw dau parth o'i ysbryd ar ol, a pheri i Mr. WILLIAMS o'r Wern, er. wedi marw, etto i lefaru, y gorphwysaf,

Llanelli. DAVID REES.

PENNOD VI.

PREGETHAU A DYWEDIADAU.

Y PIGION canlynol o'i bregethau a anfonwyd i'r ysgrifenydd gan amryw gyfeillion a arferent gymmeryd nodau o honynt wrth ei wrando yn eu traddodi. Cydnabydda yr ysgrifenydd ei rwymedigaethau pennodol i Mr. S. Evans, gynt o Ruabon, yn awro Llandegle; y Parch. W. Roberts, o Penal; a'r Parch. E. Davies, o Drawsfynydd, am y briwsion hyn. Cymmerais fy rhyddid gyda rhai o honynt i ychwanegu cryn lawer atynt o'r drychfeddyliau hyny a gofiwn wedi gwrando Mr. WILLIAMS yn eu pregethu: ond wedi y cwbl, anmhosibl i unrhyw un a'u darlleno, a'r na chafodd y fantais o'i glywed ef yn traddodi, ffurfio un drychfeddwl am ei ragoriaethau fel pregethwr. Ni ellir byth gosod WILLIAMS o'r Wern allan y peth ydoedd drwy ddim a ysgrifener am dano, nag a ysgrifener o hono, rhaid oedd ei glywed ef ei hun yn dywedyd ei bethau ei hun, i gael golwg iawn arno ef ei hun.

PREG. I.—Y BYD YSBRYDOL.

DANIEL 12, 2.—"Rhai i fywyd tragywyddol a rhai i warth a dirmyg tragywyddol."

YR oedd athrawiaeth yr adgyfodiad, barn, byd i ddyfod, gwobr a chosp, yn cael ei phregethu gan broffwydi yr Hen Destament, er nad gyda'r un goleuni ac awdurdod ag y pregethwyd hi wedi hyny gan Grist a'i apostolion. Y mae yn cael ei chymhell i'n sylw yn y testun; "Llawer o'r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant;" neu y llawer sydd yn cysgu, sef yr holl rai hyny—cysgu y maent yno. Y mae llawer o honynt wedi cysgu am oesoedd lawer, rhai wedi cysgu miloedd o flynyddau, rhai newydd fyn'd i gysgu; a rhai yn syrthio ac yn cael eu dodi i gysgu yn barhaus; ond nid ydynt i gysgu byth yn llwch y ddaear; hwy a ddeffröant, medd y testun—deffröant oll, y rhai cyntaf a'r diweddaf; deffröant oll ar unwaith, a deuant allan o lwch y ddaear; deffröant, a denant allan, byth i gysgu a dychwelyd yn ol i lwch y ddaear mwy. Y maent oll yn awr yn llwch y ddaear yn yr un cyflwr o gwsg, wedi cyd-ymgymmysgu â'u gilydd, ac â'r ddaear, ond bydd agwedd wahanol iawn arnynt wedi codi—" Rhai i fywyd tragywyddol, a rhai i warth a dirmyg tragywyddol." Y mae y testun yn rhoddi i ni olwg ar y byd a ddaw. Yn—

I. Ni a gynnygwn rai ystyriaethau fel profion o fodoliaeth byd i ddyfod; y mae rhai wedi bod yn ei wadu yn mhob oes: yr oedd anffyddiaid yn amser Crist, y rhai a ddywedent, nad oes nac angel nac ysbryd, nac adgyfodiad, neu sefyllfa i ddyfod—y mae eu hiliogaeth yn y byd etto.

1. Gallem ystyried natur enaid fel prawf o hono. Bôd ysbrydol yw enaid; y mae bôd ysbrydol yn rhag-arwyddo byd ysbrydol, bod byd neu sefyllfa o'r un natur ag ef. Sylwedd defnyddiol (material) yw y corff, a byd defnyddiol yw y byd hwn. Y mae byd y corff, a'r corff ei hun, o'r un natur â'u gilydd. O'r byd hwn y cymmerwyd ei ddefnyddiau —oddiyma y mae yn cael ei gynnaliaeth—yn ei awyrgylch y mae yn anadlu o'r ddaearen y daw bara i gynnal ei galon—olew i beri i'w wyneb ddysgleirio, &c.; ac i'r ddaear fel y bu y dychwela yn y diwedd. Ond yr enaid nid yw oddiyma, nid o ddefnyddiau y byd isod hwn y cyfansoddwyd ef: y mae yn wahanol ei natur i bob peth a berthyn i'r byd yma; nid yw o'r "adeiladaeth yma;" estron o fyd arall ydyw, ysbryd ydyw, ac y mae hyn yn rhoddi ar ddeall i ni, fod byd ysbrydol. Sylwedd anweledig yw, yr hyn a ddysg i ni fod byd anweledig yn bod, o'r lle y daeth, ac i'r lle y dychwel etto.

2. Cynneddfau neu alluoedd yr enaid. Y mae yn gallu meddwl ac amgyffred rhyw gymmaint am fyd i ddyfod, yn gallu ei ddymuno, gobeithio, ofni, &c. Pe na fyddai y fath fyd yn bod, buasai yn well i ni fod o'r un cynneddfau â'r anifail, heb fedru amgyffred dim, na meddu un syniad am fyd ysbrydol. Gellir dysgu llawer o bethau i anifail, ond ni ellir dysgu dim iddo am fyd arall; ni ellir ei effeithio i feddwl, ofni, na gobeithio dim mewn perthynas iddo. Ond y mae "ysbryd mewn dyn," a ellir ei ddysgu am y byd hwnw, a ellir ei ddylanwadu â phethau ysbrydol ac anweledig; y gellir magu dymuniadau a gobeithion ynddo am dano. Pa ddyben rhoddi y cynneddfau a'r galluoedd hyn i ddyn, mwy nâ'r anifail, os nad oes byd arall iddo? A wnaed ef yn greadur â greddf, megys yn ei natur i ddymuno a gobeithio byw byth, i'r dyben o'i siomi yn y diwedd? Ni fyddai y fath dybiaeth yn gysson â doethineb a daioni y Creawdwr; pe felly, byddai wedi ymddwyn yn fwy caredig at bob creadur, nâ dyn. Y mae galluoedd, neu gynneddfau ei enaid, yn rhag brawf o fyd i ddyfod.

5. Llywodraeth foesol Duw dros y byd hwn. Ni byddai dyben i lywodraeth foesol, oni bai fod byd arall. Ni byddai dim o bwys yn ymddangos mewn da na drwg. Yn eu perthynas â byd i ddyfod, y mae pwysigrwydd yn perthyn i nodweddau dynion; os fel yr haera rhai personau yn Corinth, yr oedd pethau yn bod, pob peth yn darfod yn angeu, dyn yn gorphen ei daith—yn terfynu ei fodoliaeth yn awr marwolaeth—yn disgyn i'r bedd i aros yno byth yn darfod am dano fel anifail, &c., 66 Bwytawn, ac yfwn," medd Paul, os felly y mae yn bod;" "Canys y fory, marw yr ydym;" "Y fory," neu yn fuan "syrthio i ddiddymdra yr ydym." Nid oes pwys na gwerth mewn crefydd, Ac os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yn Nghrist, truanaf o'r holl ddynion ydym ni." Yn dyoddef ein herlid a'n gorthrymu, a'n "lladd ar hyd y dydd," er mwyn Crist, ein "cyfrif fel defaid i'r lladdfa," gan "ddysgwyl adgyfodiad gwell;" nyni yw y ffolaf o bawb, os nad oes byd arall. Byd i ddyfod sydd yn argraffu gwerth ar grefydd; ac yn dangos drwg, niwed, a pherygl pechod; ac felly, yn dangos priodoldeb a chyssondeb sefydliad llywodraeth foesol.

4. Y mae ymddygiadau cyffredinol Duw tuag at ddynion yn y byd hwn, yn ein rhagddysgu fod byd arall, a gwadu byd i ddyfod, y mae anghyssondeb anamgyffredadwy yn y goruchwyliaethau hyn. Y mae y pechaduriaid gwaethaf ac annuwiolaf y rhai mwyaf hapus yma yn fynych. "Lluestai yr yspeilwyr yn llwyddiannus—diogelwch i'r rhai sydd yn cyffroi Duw." "Nid ydynt mewn blinder fel dynion ereill;" er eu bod wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawsder, yn dweyd yn uchel, yn gosod eu genau yn erbyn y nefoedd, trawsder yn gwisgo am danynt fel dilledyn, balchder wedi eu cadwyno," &c. Er hyn oll, "Nid ydynt mewn blinder fel dynion ereill;" saif eu llygaid allan gan frasder; ânt dros feddwl calon o gyfoeth. 'Dychwel ei bobl ef yma, a gwesgir iddynt ddwfr phiol lawn;" neu "gerydd yn dyfod bob boreu—baeddir hwynt ar hyd y dydd—cymmysgant eu diod ag wylofain —dadwina eu llygaid gan ofid," a'u "hwynebau yn fudrou gan wylo." Pa gyssondeb sydd yn hyn oll, os nad oes byd arall ar ol hwn i union; pethau, "i roddi i bob un yn ol ei waith." Ond ar y gred o fod byd i ddyfod, y mae yr holl oruchwyliaethau hyn yn ymddangos yn ddigon cysson. Ar yr ystyriaeth mai byd o brawf yw y byd hwn erbyn byd arall—byd i gospi y beius, a gwobrwyo y rhinweddol, y mae pob dyryswch yn cael ei symud ar unwaith.

5. Y mae genym air sicrach yr ysgrythyr ar y mater—tystiolaeth bendant Duw, am fodoliaeth y byd hwnw. "Diddymodd" yr Arglwydd Iesu "angeu, a dygodd fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy yr efengyl."

II. Natur y byd i ddyfod.

1. Byd ysbrydol ydyw. Byd yr ysbrydion—ysbrydion sydd yn byw ynddo ysbrydol yw pob peth yno—ysbrydol yw holl elfenau y byd hwnw—ysbryd yw Duw—ysbrydion yw yr angylion—ysbrydion dynion sydd yno yn bresennol; rhaid gwneyd y corff yn "gorff ysbrydol," i'w addasu, a'i gymhwyso i fyw yno—corff ysbrydol yw corff yr Arglwydd Iesu—cyrff ysbrydol fydd cyrff y saint yn yr adgyfodiad—a chyrff yr annuwiolion hefyd. Awyrgylch ysbrydol yw yr awyrgylch sydd yn ei amgylchynu, ac y mae yr holl drigolion yn ei sugno, ac yn ei anadlu. Ymborthi ar bethau ysbrydol y maent oll yno—goleuni ysbrydol, a thywyllwch ysbrydol yw ei oleuni a'i dywyllwch.

2. Byd ag y bydd rhyw helaethiad ac ëangiad rhyfedd ar gynneddfau a galluoedd dyn ynddo ydyw. Y mae yn natur yr enaid ymëangu; y mae yn cael ei wasgu yn y plisgyn, megys yn y byd hwn, yn gaeth, fel yr aderyn yn ei gell, (cage.) Pan ddryllia angeu ei gell, ac y caiff ryddid i ebedeg i'w fro a'i elfen briodol ei hun, fe ymëanga yn ei alluoedd a'i amgyffrediadau, fe dyfa, ac a gynnydda am byth. Edrych trwy ugolau ei gell y mae ar bethau ysbrydol yn bresennol, trwy "ddrych a dammeg o ran," ond "yno wyneb yn wyneb, yna yr adnabydda megys ei hadwaenir."

3. Pa beth bynag yw prif dueddfryd calon dyn yn y byd hwn, hyny fydd ef yn y byd hwnw. Ni effeithia y cyfnewidiad, neu y symudiad o'r naill fyd i'r llall, ddim ar anian foesol yr enaid. Pa un bynag ai at santeiddrwydd, ai at bechod, yr oedd bryd llywodraethol yr enaid yma, felly y bydd yno. Os caru Duw yma, caru Duw fydd yno, &c.

4. Byd ag y bydd pob un yn gweithredu i fynu i'w brif dueddfryd ydyw. Nid oes neb felly yma; yr un sant mor santaidd yn ei ymarweddiad ag y dymunai ei galon fod; yr un annuwiol mor gyflawn ddrygionus ag y mae tuedd yn ei galon i fod; ond daw pob un i fynu i'w farc yno, pob un yn cyrhaedd ei nod. Yr un attalfa ar ffordd y naill na'r llall i weithio allan i berffeithrwydd dueddfryd llywodraethol ei galon. Y mae attalfeuon, anfanteision, a rhwystrau yn y byd hwn, ar ffordd y naill a'r llall—"ewyllysio gwneuthur da, y drwg yn bresennol gyda mi, deddf arall yn yr aelodau," &c. Y mae attalfeuon ar ffordd gelyn Duw ynte, yn awr, i gyrhaedd ei nod. Gorchymynion a bygythion Duw yn gloddiau o'i flaen—argyhoeddiadau cydwybod—goruchwyliaethau rhagluniaeth—amgylchiadau ei fywyd yn ei ffrwyno yn aml; yr Arglwydd yn ei attal, fel yr attaliodd Laban ac Esau, rhag cyflawni llawer o ddrygau; ond yn y byd hwnw, bydd pob attalfa wedi ei symud oddiar ffordd y naill a'r llall, a daw pob un o honynt i fynu ag ansawdd ei galon.

5. Byd digymmysg ydyw. Byd cymmysglyd yw y byd hwn: cymmysgedd personau a nodweddau, a chymmysgedd pethau. Y mae cymmysgedd o bersonau a nodweddau ynddo—y rhai da yn mhlith y rhai drwg—Judas yn mhlith y dysgyblion—y morwynion ffol yn mhlith y call—y da a'r drwg yn byw yn yr un ardal, yn yr un heol, yn yr un teulu, cyd-fwyta wrth yr un bwrdd, cyd-gysgu yn yr un gwely, &c. Ond nid felly yno; wedi eu didoli, y rhai da o blith y rhai drwg—y "defaid oddiwrth y geifr"—yr un pechadur yn "nghynnulleidfa y rhai cyfiawn," na'r un cyfiawn yn nghynnulleidfa y pechaduriaid—" gagendor mawr wedi ei sicrhau" rhyngddynt a'u gilydd. Cymmysgedd pethau yma: cymmysgedd yn y personau; drwg yn aros yn y rhai goreu, rhyw bethau hawddgar a dymunol yn y rhai gwaethaf; ond byddant yn ddigymmysg yn y byd hwnw; un dyrfa yn dda ddigymmysg, a'r llall yn ddrwg ddigymmysg.

6. Byd o gosp a gwobr ydyw. Byd i unioni holl bethau ceimion y byd hwn. Bydd dylanwad y byd yma ar drigolion y byd hwnw byth. Yma y buont yn ffurfio eu nodweddau, yn gwneyd eu character i fynu; a derbyn y bydd pob un yno, yn ol yr hyn a wnaeth yma, pa un ai da ai drwg fyddo; y rhai a wnaethant dda i adgyfodiad bywyd, a'r rhai a wnaethant ddrwg, i adgyfodiad barn."

III. Elfenau neu egwyddorion dedwyddwch ac annedwyddwch y byd anweledig.

1. Ansawdd foesol y galon. Dyma un elfen fawr sydd yn gwneyd i fynu ddedwyddwch y nefoedd, a thrueni uffern. Ni byddai y nefoedd yn nefoedd i galon ddrwg, lawn gelyniaeth yn erbyn Duw. Byddai y cyfryw yn druenus ac annedwydd yno, yn gymmaint felly ag yn uffern ei hun. Nid y nefoedd, o'ran lle yn unig, nac yn beuaf, sydd yn gwneyd y nefolion yn ddedwydd; ac nid uffern, o ran lle yn benaf, sydd yn gwneyd ei phreswylwyr yn druenus. Ni fyddai calon rasol yn annedwydd yn uffern, ac ni fyddai calon ddrwg yn ddedwydd yn y nefoedd.

2. Tystiolaeth a barn cydwybod. Cydwybod dda a fydd yn gwneyd i fynu ran o ddedwyddwch y nef; a chydwybod ddrwg, cydwybod yn edliw, yn cyhuddo, yn condemnio, ydyw y pryf nad yw yn marw yn mynwes yr enaid colledig yn uffern. Colli tystiolaeth gymmeradwyol y gydwybod, fyddai colli un elfen o ddedwyddwch y nefoedd; a phe collid y teimlad oddiwrth gydwybod yn uffern, byddai un llai o elfenau yn ei thrueni. Y mae pob un yno yn adyn erlidiedig gan ei gydwybod ei hun, ac yn cael ei huntio ganddi yn ddibaid, heb fodd byth i ymguddio rhagddi, na dianc o'i chyrhaedd.

3. Adgofiant o bethau a aethant heibio. Diau y bydd y cof yn cyfranu llawer at ddedwyddwch y saint yn y nef, Cofio geiriau y Bibl— cofio yr addewidion, a'r blas a gafwyd arnynt ar y daith—cofio y pregethau—cofio amser ac amgylchiadau y dychweliad at Dduw—cofio y manau y buwyd yn ymwneyd â Duw mewn gweddi. Bydd yn felus gan Jacob gofio Bethel a gweledigaeth yr ysgol i dragywyddoldeb; fe gofia gyda phleser byth am y noson hòno y bu yn ymdrechu â'r angel am y fendith. Cofio melus am droion y daith.

"Ar fryniau Caersalem caf weled
Holl daith yr anialwch i gyd;
Pryd hyn bydd holl droion yr yrfa
Yn felus yn llanw fy mryd."

Bydd cofio yr ochr arall yn cynnyddu y trueni yu uffern, neu bydd yn un o elfenau ei thrueni. O! pe gellid dileu neu ddinystrio y cof, byddai yn llinaru angerdd y fflam. "Ha, fab! coffa i ti." Cofio dydd grascofio geiriau y Bibl a ddarllenwyd ac a ddysgwyd yn yr Ysgol Sabbothol, fydd fel cleddyf yn myned trwy yr enaid! Cofio pregethau, cynghorion, rhybuddion, gweddiau; pa fodd y gall yr enaid ddal heb ymddryllio wrth feddwl am danynt? Cofio fod yr iachawdwriaeth wedi ei gwrthod a wna uffern yn uffern yn wir.

4. Un arall o elfenau dedwyddwch a thrueni y byd anweledig, ydyw yr adnabyddiaeth fydd gan y preswylwyr o'u gilydd. Y mae dedwyddwch cymdeitnas yn dibynu, i raddau helaeth, ar adnabyddiaeth yr aelodau o'u gilydd. Felly y bydd cymdeithas wynfydedig y nef yn cael ei chylymu wrth ei gilydd gan yr adnabyddiaeth hon. Rhai na welsant wynebau eu gilydd erioed o'r blaen, adnabyddant naill y llall ar yr olwg gyntaf; y naill yn adrodd ei hanes i'r llall:

"Yno mi gaf ddweyd yr hanes,
P'odd y dringais, eiddil gwan,
Drwy afonydd, a thros greigiau
Dyrus, anial, serth, i'r lan," &c.

Ond yn neillduol, y rhai oeddynt adnabyddus i'w gilydd yn y byd hwn, a fuant gymhorth i'w gilydd i fyw yn dduwiol, yn helpu eu gilydd ar y daith, cyfarfod eu gilydd yno, adnabod eu gilydd, a chyd-ymddyddan â'u gilydd am yr "hen amser gynt." "Er mwyn yr amser gynt," byddant yn yfed at eu gilydd yno. Ac uwchlaw y cwbl, gweled ac adnabod Iesu, y Brawd hynaf, cael cymdeithasu ag ef wyneb yn wyneb.

Ond och! pa fath ychwanegiad fydd hyn at drueni uffern; gweled ac adnabod y rhai a fuant yn cyd-bechu, y rhai a fuasent yn cyd-gynnorthwyo i ddamnio eu gilydd yn y byd, yn cadarnhau breichiau eu gilydd mewn gwrthryfel yn erbyn Duw, yn cyfarfod eu gilydd yn uffern, yn adnabod eu gilydd yno, yn melldithio eu gilydd. Bydd yr adnabyddiaeth o'r naill y llall yn un elfen fawr o'u hannedwyddwch. "Rhag dyfod o honynt hwythau hefyd i'r lle poenus hwn."

5. Cymmeradwyaeth ac anghymmeradwyaeth hefyd sydd un arall o'r elfenau hyn. Pob un yn y nefoedd yn teimlo ei fod yn gymmeradwy gan bawb yno; pawb yn gymmeradwy gan eu gilydd; a phob un yn gwybod ac yn teimlo hyny. Bydd y teimlad hwn yn esmwythyd ac yn ddyddanwch i bob meddwl yno; dim un meddwl cul, eiddigus, yn y naill am, a thuag at y llall, a phob un yn llawn ymwybodol o hyny.

Yr ochr arall, pawb yn uffern yn anghymmeradwy gan eu gilydd, a chan bawb; pob un yn gwybod ac yn teimlo hyny. "Nid da gan neb no honof; yr wyf yn wrthodedig gan bawb." Yr oedd yr uffern yma yn dechreu cynneu yn mynwes Voltaire yr infidel ar ei wely marwolaeth. "Yr wyf yn wrthodedig ac anghymmeradwy gan Dduw a dyn," meddai yr adyn hwnw.

6. Cymdeithas hefyd sydd un o elfenau dedwyddwch a thrueni y byd a ddaw; ac yn wir, y mae felly yn y byd hwn. Cymdeithas yn ol natur ac ansawdd teimladau y naill tuag at y llall. Meddyliwch am deulu ag y byddai ei, holl aelodau yn caru eu gilydd, perffaith ewyllys da rhwng y naill a'r llall, pob un yn myfyrio y ffordd oreu i wneyd eu gilydd yn ddedwydd a chysurus; pa fath gymdeithas wynfydedig? nefoedd fechan ar y ddaear; "gwynfa" wedi ei chael yn ol! Tybiwch am dref felly, ei holl drigolion o'r ansawdd calon, a'r teimlad yma tuag at eu gilydd; nefoedd ar y ddaear fyddai; gwlad felly fyddai baradwys Duw; gwlad felly yw y nefoedd; cymdeithas felly yw y gymdeithas hòno; dedwyddwch y naill yn ddedwyddwch i'r llall; pob un am wneyd eu gilydd yn ddedwydd; cariad ac ewyllys da perffaith yn eu rhwymo i'w gilydd. "Cariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd." Meddyliwch, o'r tu arall, am deulu ag y byddai eiddigedd yn mynwes y naill tuag y llall, yn casâu eu gilydd, yn cenfigenu wrth eu gilydd ; pob un yn myfyrio pa fodd i ddrygu, clwyfo, a niweidio y llall; pa fath gymdeithas? Uffern fechan ar y ddaear fyddai tref felly. Gwlad o ddynion felly, pa fath le ofnadwy a fyddai gwlad felly? Cymdeithas, pe priodol ei galw yn gymdeithas, felly, ydyw uffern. Yno y mae pawb yn llawn eiddigedd, malais, a chenfigen, tuag at eu gilydd, yn casâu eu gilydd, yn rhegu ac yn melldithio eu gilydd, yn myfyrio pa fodd i ddrygu ac annedwyddu y naill y llall; pob un yn cyfranu at drueni arall, ac yn helpu eu gilydd i wneyd y lle yn annedwydd.

7. Un arall o'r elfenau hyn, ydyw yr olwg a geir ar nodwedd a goruchwyliaethau Duw. Bydd ei nodwedd a'i oruchwyliaethau wedi eu dadlenu ger eu bron yn y byd hwnw. Bydd yr olwg ar ei gyfiawnder, ei santeiddrwydd, ei gariad, a'i ras, fel afon bywyd, yn rhedeg drwy y nefoedd, a bydd y saint yn ymddifyru byth ar ei glànau, yn yfed eu dedwyddwch o'i dyfroedd, yn ymddigrifu yn dragywyddol yn ngogoniant natur, priodoliaethau, llywodraeth, ac iachawdwriaeth eu Duw. Yr ochr arall, bydd hon fel afon danllyd yn rhedeg drwy uffern. Yr olwg ar nodwedd Duw, a'i oruchwyliaethau, yn llenwi pab enaid â phoen ac euogrwydd. Yr olwg ar ei nodwedd a'i oruchwyliaethau ef, yn condemnio eu nodwedd a'u bywydau hwy. Duw yn ei gyfiawnder, ei burdeb, yn ei dosturi a'i ras, wedi ei ddadlenu o flaen eu llygaid, wedi i ddydd gras ddarfod arnynt. Teimlant ei bresennoldeb yno byth, ac ni bydd modd dianc yr olygfa.

8. Cymmeradwyaeth ac anghymmeradwyaeth Duw; neu ei ewyllys a'i ffafr o un tu, a'i soriant a'i anfoddlonrwydd o'r tu arall. Gorchest y Cristion yn awr yw bod yn "gymmeradwy ganddo ef." Nef yn yr enaid yw teimlad o ewyllys da Duw: "Ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni." Wedi eu sefydlu am byth yn y teimlad a'r mwynhad o hono. Eu huffern ar y ddaear oedd colli y mwynhad hwn: "Cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus." Ond wedi myned yno, byddant yn ei fynwes ef, gerbron ei wyneb: "Fel un yr hwn y dyddana ei fam ef, felly y dyddanaf ti chwi." Nid oes neb a all ddyddanu y plentyn fel y fam; anniddig ydyw, er pob tegan a phob triniaeth, nes cael y fam. Pan y mae y fam yn dyfod adref, y mae yn achwyn ei gam iddi, a hithau yn dyddanu, "A ddarfu i'th fam dy adael, fy anwylyd? A ddarfu iddynt wneyd cam â'm plentyn? Wel, wel, ni wna dy fam dy adael mwyach, na wna fam." Y mae y plentyn wrth ei fodd wedi cael ei fam, a chaelfy fron: "Fel un yr hwn y dyddana ei fam ef." Wedi myned adref, dweyd yr hanes a'r achwyn, bydd yno ddyddanu: "Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddiwrthyt megys ennyd awr." Ond ni adawaf byth mo honot etto; ni chuddiaf fy wyneb oddi wrthyt yn dragywyddol mwy; ni edrychaf byth yn ddig arnat etto. Dyma fywyd y nefoedd. "Yr Hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-fainc a drig gyda hwynt; ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddiar bob wyneb," fel y fam yn sychu dagrau ei phlentyn.

O'r tu arall, anghymmeradwyaeth a soriant Duw. Dyma angeu uffern. Duw wedi cuddio ei wyneb mewn soriant anghymmodlawn. Pa fodd y deil yr annuwiol, pan ddywed Duw wrtho, "Wel, ni fydd yn dla genyf byth mo honoch! Ni edrychaf yn siriol byth arnat! Ni faddeuaf i ti yn dragywyddol!" Rhaid y sudda y geiriau, a'r olwg ar Dduw wedi digio, fel plwm i'w galon, gan ei wasgu i lawr i ddyfnderau eithaf trueni a phoen.

IV. Bod y byd hwnw yn dragywyddol ei barhad. "Bywyd tragywyddol, gwarth a dirmyg tragywyddol." Tragywyddol, tragywyddoldeb, ni allwn yn awr amgyffred ond ychydig, a dywedyd ond llai am dano.

1. Parhad diraniad ydyw. Y mae amser yn cael ei ranu yn flynyddau, tymhorau, misoedd, wythnosau, dyddiau, a nosweithiau, oriau a mynudau, &c.; ond nid oes rhaniad ar dragywyddoldeb—un cylchgyfnewidiad o ddechreuad a diwedd blwyddyn, o wahanol dymhorau; dim rhifo misoedd, wythnosau, a dyddiau yno. Un tymhor, un oes, un parhad, heb na rhan na chyfran yn perthyn iddo.

2. Parhad dileihad ydyw. Nid yw yn treulio ac yn lleihau, fel y mae amser. Y mae amser yn lleihau bob yn foment a mynud, awr, dydd, mis, a blwyddyn, yn barhaus er pan ddechreuodd; ond sefyll y mae tragywyddoldeb. Nid oes dim o hono wedi myned heibio etto, yr un foment o hono wedi treulio—sefyll byth yr un faint—dileihad! Ni allwn ei amgyffred.

3. Y mae yr un ddelw ac argraff ar ei holl bethau. Sefyllfa y gwynfydedigion yn y nef, â thragywyddoldeb yn argraffedig arni; tragywyddol yn argraffedig ar baladr pob telyn aur yno, yn gerfiedig ar y gorseddau a'r coronau; ac felly yr ochr arall, tân tragywyddol, tywyllwch tragywyddol. Edryched yr enaid colledig lle yr edrycho, y mae yn gweled tragywyddoldeb yn argraffedig ar furiau ei garchar, ar y clo, yr agoriad wedi ei dynu allan, a'i ollwng, fel y dywed Young, i wagle diwaelod, yn adsain wrth gwympo i wared-Tragywyddol! tragywyddol flam—gwae, rhincian dannedd—hanner nos am byth-nid â byth yn un o'r boreu yno-pob peth o'r ddwy ochr, yn dragywyddol a digyfnewid.

CASGLIADAU.-1. Yr ydym ni oll yn dal perthynas â'r byd y buom yn son am dano. Pwy a wrendy hyn, a ystyr ac a glyw, erbyn yr amser a'r byd a ddaw? Ein byd ni ydyw, a byd y byddwn yn gwybod yn brofiadol beth yw byw ynddo yn fuan bawb o honom.

2. Y mae yn amlwg mai nefoedd meddwl yw y nefoedd, ac mai uffern meddwl ydyw uffern; y meddwl yw gorsaf dedwyddwch a thrueni —ansawdd foesol y galon yw y ffynnonell o'r naill a'r llall. 3. Bod yn anmhosibl cymmeryd gormod o ofal, arfer gormod o hunanymwadiad er ennill y nef, a gochelyd uffern.

4. Bydded i ni feddwl llawer am y byd hwnw. Y mae tuedd rhyfeddol yn hyn i ddifrifoli y meddwl; cyn cydsynio ag un brofedigaeth i bechod, aros yn gyntaf i feddwl am fyd arall, i daflu golwg i'r nef, ac i uffern dân. Ni fyddai mor hawdd pechu pe cedwid byd arall yn y meddw).

PREG. II.-Y MAWR BERYGL O OEDI CREFYDD.

HOSEA 13, 13.-" Gofid un yn esgor a ddaw arno; mab anghall yw efe, canys ni ddylasai efe aros yn hir yn esgoreddfa y plant."

Y MAE Ephraim yn dynodi teyrnas y deg llwyth a ymwahanasant oddiwrth deulu Dafydd, yn amser Rehoboam, mab Solomon. Llwyth Ephraim oedd yr enwocaf a'r lluosocaf o'r llwythau hyny, ac yn ei randir ef yr oedd Samaria, prif ddinas y llywodraeth, ac o herwydd hyny, gelwir y wladwriaeth, neu y deyrnas yn ol ei enw ef. Ymlygrodd y deg llwyth yn ddwfn mewn eilun-addoliaeth wedi gadael teulu Dafydd, ac ymsefydlu yn freniniaeth wahanol ar eu penau eu hunain o dan Jeroboam, mab Nebat, a'i olynwyr. Gwelwyd rhai arwyddion o ddiwygiad arnynt yn awr a phryd arall, ond yr oeddynt yn "ymadaw fel y cwmwl a'r gwlith boreuol," cyn gweithio allan i lawn a thrwyadl ddychweliad. Rhagfynega y testun ddiwedd eu gyrfa o eilun-addoliaeth. "Gofid un yn esgor a ddaw arno." Y mae gofid un yn esgor yn cyfodi o'i hamgylchiadau personol ei hun, felly y byddai gofid Ephraim; gofid wedi ei dynu arno ei hunan, yn cyfodi o'i amgylchiadau ei hun-yn otid llym, yn gyfyngder, a gwasgfa fawr; felly gofid Ephraim, a phob pechadur fel Ephraim. "Mab anghall yw efe, canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant;" aros i oedi dychwelyd at ei Dduw, oddiwrth ei eilunod, wedi meddwl, bwriadu, ac addaw gwneyd hyny: oedodd, hir oedodd, nes collodd yr adeg o'r diwedd, ac y goddiweddodd barn Duw ef yn ei eilun-addoliaeth, y daeth y gofid arno; y caethgludwyd ef yn llwyr allan o'i wlad, ac ni ddychwelodd iddi mwyach, arno ef yr oedd y bai-ni ddylasai efe aros, oedi, taflu amser dychweliad yn mhellach bellach o hyd; yr oedd yn "anghall" wrth wneyd felly, yr oedd hefyd yn gwneyd peth na "ddylasai." Cymmeraf fantais oddiwrth eiriau y testun, i geisio dangos, Y mawr berygl, a'r niwed o oedi crefydd, neu ddychweliad at Dduw.

I. Y mae aros yn hir mewn cyflwr annychweledig, yn peri fod moddion dychweliad yn colli eu heffaith. Y mae pob peth yn colli ei effaith wrth hir ymarfer ag ef. Wrth fynych a hir ymarfer â'r Bibl, a gweinidogaeth yr efengyl mewn cyflwr annychweledig, y mae y meddwl yn dyfod yn gynnefin â hwy. Y mae darllen y Bibl yn myned yn fwy dieffaith bob tro; y galon yn brasâu dan bob pregeth; y gwirioneddau a fyddent yn gafael yn y gydwybod gynt, yn taro ar y teimladau, yn cyffroi ac yn effeithio y meddwl, wedi myned erbyn hyn yn llawer mwy dieffaith —y mae yr un grym a nerth yn y gwirioneddau hyny etto, y mae yr un awdurdod Ddwyfol ynddynt ag oedd o'r blaen, ond y mae y dyn wedi hir gynnefino â hwynt, nes y maent wedi colli eu heffaith arno ef—" perarogl bywyd," wedi myned "yn arogl marwolaeth." Y mae yma rai o honoch ag y bu yr efengyl yn cynnyg ei holl nerth arnoch am flynyddau, nes y mae erbyn hyn wedi colli ei grym yn hollol arnoch, braidd, o berwydd ymarfer â chynnefino â'i gwrando, dan oedi ufydd-dod.

II. Y mae ymroadau y meddwl yn colli eu grym fwy-fwy, wrth oedi, neu y mae y meddwl yn colli ei rym i ddychwelyd, mewn mân ymroadau, rhyw hanner penderfyniadau, ac etto yn aros yn yr un fan, fel anifail yn y gors, yn cynnyg dyfod allan, ac yn myned wanach, wanach, bob tro, yn fwy digalon i gynnyg, bob methiant. Y mae yn tori ei galon, ac yn ymroi i aros a marw yno o'r diwedd. Y ddafad yn y mieri, yn ceisio ymryddhau, yn troi o amgylch, ac yn myned sicrach, sicrach yn y dyrysni o hyd, a'i nherth hithau yn gwanhau, un ymegniad nerthol yn y dechreu, a fuasai yn effeithiol er ymryddhad. Yn gyffelyb y mae'r oedwr, gwneyd addunedau, llunio bwriadau, gwneyd rhyw osgo yn awr ac eilwaith i ddychwelyd; y mae rhyw fath o ymroad yn ei feddwl, ond y maent yn myned yn wanach, wanach, y naill ar ol y llall, fel y ddafad yn y dyrysni, pan mai un ymegniad nerthol a phenderfynol ar y cychwyn a fuasai yn effeithiol er dyfod yn rhydd o fagl y diafol. Y mae y meddwl yn colli ei nerth o'r diwedd, yr ymroadau yn marw, y pechadur o'r diwedd yn gwan-obeithio am ddychwelyd fel yr anifail yn y gors: "Nid oes obaith, nac oes, canys cerais ddyeithriaid, ar eu hol hwynt yr af fi." Swn pechadur megys wedi tòri ei galon, yn ymroi i farw yn y gors, yn ei bechod, wedi bod megys rhwng difrif a chwareu, yn ceisio dychwelyd.

III. Y mae llafur ac ymdrech ereill er dychwelyd ac achub yr oedwr yn pallu, wrth gael eu siomi mor aml yn eu dysgwyliadau. Bu amser ag yr oedd eglwys Dduw yn edrych gyda llygad gobeithiol ar ryw rai—dysgwyl eu gweled bob Sabboth yn dychwelyd-gweled arwyddion teimlo dan y weinidogaeth-gweled y dagrau, hyny yn codi dysgwyliad -dwyn eu hachos at Dduw mewn gweddi gyda gradd o hyder-eu cynghori a'u cymhell gyda theimlad awyddus a gobeithiol; ond wrth gael eu siomi yn eu dysgwyliadau, y mae eu nherth mewn gweddi drostynt yn llesgâu—eto hyder am lwyddo wrth eu hannog a'u cynghori yn gwanychu. Yr ydym yn deimladwy o wirionedd byn gyda golwg ar rai dynion. Y mae eglwys Dduw wedi colli rhai gwrandawyr dan ei dwylaw fel hyn; y maent wedi graddol lithr0 o'i gafael wrth orsedd gras―ei dysgwyliadau am danynt yn marw yn raddol a diarwybod iddi yu mron-wedi cael o honi ei siomi yn ei dysgwyliadau am danynt gynnifer o weithiau: Y mae yr angylion wedi eu siomi ynddynt lawer gwaith-wedi bod gyda'u costrelau yn dysgwyl am eu dagrau—wedi bod megys yn sefyll ar eu haden uwch eu penau, yn dysgwyl eu gweled yn cwympo yn edifeiriol wrth draed trugaredd lawer gwaith—dysgwyl cael y newydd am eu dychweliad i'w adrodd yn y nef, a chael eu siomi. Y mae eu gobeithion hwythau am danynt wedi gwanhan o'r diwedd. Fe baid yr eglwys â gweddio drostynt; y rhai fyddant arferol o'n hannog a'u cymhell a dawant wrthynt, ac a'u rhoddant i fynu. Ha! hen wrandawyr yr oedi, go ddifrifol, onidê, eich bod wedi lladd nerth yr eglwys i weddio trosoch—wedi lladd grym y rhai a fyddent arferol o'ch cynghori, fel nad oes ynddynt nerth mwyach—wedi siomi dysgwyliadau angylion, fel y mae eu hyder am eich dychweliad byth yn wanach o lawer nag y bu! Prin y mae ganddynt obaith erbyn hyn, y cânt y newydd am eich dychweliad chwi i'w adrodd, ac i fod yn destun llawenydd yn y nefoedd!

IV. Y mae yr ymddygiad yn effeithio yn ddrwg ar ereill. Y mae y rhai hyn yn sefyll ar borth yr eglwys; y mae rhywrai ereill yn sefyll y tu ol iddynt, yn dysgwyl eu gweled hwy yn myned i mewn, i gael iddynt hwythau le i nesu yn mlaen. Ni ŵyr y bobl yma yn y byd pa faint o ddrwg y maent yn ei wneuthur i ereill. Y mae llygaid llawer arnynt, ac y maent yn gwneyd cysgod ac esgus o honynt. "Hen wrandawyr cysson am flynyddau lawer," meddant; "y maent hwy wedi gwrando, ac yn gwybod llawer mwy nà ni, paham na baent hwy yn grefyddol? Os oes rhyw bwys mewn arddel Crist, paham na wnaent hwy? ac os nad ydynt hwy yn gweled hyny yn anghenrheidiol, paham y dysgwylir i ni? Y maent wedi gwrando mwy nâ ni, a phaham na allwn ni fod yn dawel, tra y byddont hwy yn ddigrefydd." Rhwystro ereill! damnio ereill! sefyll rhwng eneidiau a drws yr arch! attal ereill i'r noddfa! cuddio gwerth crefydd o olwg ereill! Trwm iawn eu gweled eu hunain yn oedi, eu gweled yn yml y nefoedd, yn yml teyrnas Dduw, heb fyned i mewn; ond y mae rhywbeth yn drymach yn yr ystyriaeth fod rhywrai ereill yn aros yn eu cysgod. Y maent fel tarianau iddynt rhag i saethau y weinidogaeth eu cyrhaedd. Y maent ar ein ffordd i gael gafael ynddynt. Y maent yn cysgu yn dawel o'r tu ol iddynt. Ni ŵyr yr oedwr yn y byd pa nifer o eneidiau y mae yn ddamnio gyda'i enaid ei hun,

V. Y mae yr oedwr yn temtio y diafol i'w demtio ef. Y mae, wrth gloffi, addunedu, hanner penderfynu, yn dweyd wrth Satan megys, "Paid a fy rhoddi i fynu; nid wyf wedi llawn benderfynu; ni wn yn iawn beth a wnaf," &c. Pan y mae ymgeisydd, ar amser etholiad, yn cyfarfod â dynion fel hyn, wrth ymofyn pleidleiswyr, y maent yn dywedyd, "Ni a alwn gyda chwi etto; peidiwch chwi ag addaw i'r ochr arall hyd nes wedi i ni gael eich gweled, beth bynag "O'r goreu," medd y dyn, "gelwch chwithau." Erbyn galw y tro drachefn, y maent yn cael y dyn yn anmhenderfynol, y maent yn cael eu temtio i alw eilwaith gydag ef. Pe buasai yn rhoddi ateb uniongyrch a phenderfynol yn y dechreu, cawsai lonydd o hyny allan. Felly y mae yr oedwr gyda y diafol, aros yn anmhenderfynol. "Mi a alwaf etto," medd Satan, "paid a phenderfynu yn union; cymmer amser i ystyried." "O'r goreu," medd yr oedwr, "galw dithau, ynte; nid wyf wedi llawn benderfynu gadael dy wasanaeth; nid wyf yn benderfynol i fyned ar ol Mab Duw; y mae genyf ryw fwriadau i wneyd hyny, weithiau, ac yn benderfynol hefyd i wneyd hyny rywbryd, ond nid wyf wedi penderfynu ar yr amser." Dyna gymmaint sydd ar y diafol eisieu. Y mae yn ddigon boddlon i'r dyn benderfynu ar grefydd rywbryd, ond iddo oedi yr amser presennol. Y mae yr oedwr fel hyn yn cadw y diafol yn agos ato, yn temtio y temtiwr ei hunan i'w demtio ef. Un ateb penderfynol a fuasai yn ei yru ar ffo—fuasai yn diarfogi ei demtasiynau— yn tori ei rym i demtio. "Yr wyf wedi penderfynu, Satan, i adael dy wasanaeth yr wyf wedi rhoddi fy mhleidlais i Iesu mawr—ei eiddo ef ydwyf mwy. Dos ymaith, Satan; nid yw o un dyben i ti alw gyda mi ar yr achos hwn." "Gwrthwynebu diafol" fuasai hyn. Oud temtio y diafol y mae yr oedwr.

VI. Y mae yr ymddygiad yn tristâu yr Ysbryd Glân, ac yn fforffetu ei ddylanwadau. Y mae yr oedwr yn temtio yr Ysbryd Glân oddiwrtho, fel y mae yn temtio yr ysbryd aflan ato. Eiddo Satan ydyw, tra ar y tir hwn, ac y mae arno ofn ei golli; felly y mae yn ddyfal iawn gydag ef i gadw meddiant o hono. Y mae yr Ysbryd Glân am ei gael o'i feddiant, ei gael at Grist; ac y mae ei waith yn bwriadu ac yn oedi, yn addaw ac yn cloffi, yn aros yn hir yn anmhenderfynol, yn ei dristâu, yn tueddu i beri iddo adael llonydd iddo. "Nid byth yr ymryson ag et; nid yn dragywydd." Unwaith y gadawo yr Ysbryd Glân ef, y mae pob gobaith am ei ddychweliad a'i iachawdwriaeth yn darfod.

VII. Os unwaith y collir argyhoeddiad, annhebyg iawn y daw yn ol drachefn. Wedi i'r mwynder unwaith ymado, nid tebyg iawn ydyw y ceir ef yn ol eilwaith. Teimladau crefyddol wedi darfod o'r galon, odid fawr y ceir hwynt byth wedi hyny; dagrau wedi sychu i fynu. Y mae natur yn dysgu rhywbeth tebyg i hyn. Peth anghyffredin iaw ydyw gweled pren yn blodeuo ddwy waith yr un tymhor. Y mae y cae gwenith tua chanol Mehefin yn dyfod i ryw adeg dyner iawn; pan y mae wedi dyfod i'w flodeu, a'r blodeu yn aeddfedu, y mae wedi dyfod i adeg ag y bydd yn gogwyddo ryw ffordd neu gilydd, naill ai at ddwyn ffrwyth, neu at ddiffrwythdra. Ni effeithiai gwynt oer nemawr iawn arno cyn hyn; ond yn awr, dichon i un gawod o hono fyned ar draws y gwenith yn ei flodau, a gwywo ffrwyth y tymhor, gwenwyno y blodau cyn iddynt droi i ffrwyth. Ni effeithiai gymmaint arno wedi i'r gronyn ddechreu ymffurfio; ond yr adeg dyner ydyw y pryd y mae ar droi Felly blodau y coed ffrwythau. Y mae rhyw adeg fel hyn ar gyflyrau gwrandawyr yr efengyl; gwelir blodau dychweliad yn tori allan yn ddagrau dros y gruddiau, yn eu dyfalwch a'u difrifoldeb dan y weinidogaeth; y maent yn dyfod i ryw adeg, o'r diwedd, fel y cae gwenith y mae ar droi ryw ochr neu gilydd; ac os o ochr diffrwythdra y try ei gyflwr yn yr adeg hon, odid fawr y gwelir blodau arno mwy—y gwelir arwyddion gobeithiol o ddychweliad arno drachefn. Y mae yn troi adref o ryw oedfa yn yr adeg yma, wedi oedi dychweliad; yr oedd llais uwch ei ben bob cam yn gwaeddi, "Na thyfed arnat ffrwyth byth mwyach."

VIII. Argyhoeddiad, unwaith wedi gadael y cyfarfod, a edy dyn yn galetach nag erioed o'r blaen. Y mae dosbarth fel hyn i'w cael. Argyhoeddiad wedi gadael y gydwybod; y mae hi wedi ei serio megys â haiarn poeth. Mae yn anhaws menu ar y galon yn awr nag a fu erioed o'r blaen. Medr y bobl hyn ddal pob gweinidogaeth, fel y ceryg, a'u hwy nebau fel y gallestr; eu calonan yn galetach na chraig. Y llygaid a welwyd unwaith yn ffynnonau o ddagrau, ydynt yn awr mor syched â mynyddoedd Gilboa—argyhoeddiadau wedi eu gadael—yr Ysbryd Glân wedi ei dristâu, a'r galon wedi caledu.

CASGLIADAU.—1. Y mawr bwys o fagu a chroesawi pob argyhoeddiad yn y meddwl. Dyma hadau dychweliad, hadau crefydd a bywyd tragywyddol; os cânt gyfiawnder, hwy a ddygant ffrwyth; os cânt eu croesawi, hwy a derfynant mewn dychweliad buan at Dduw.

2. Na ddiystyrwch "ddydd y pethau bychain." Afresymol dysgwyl afalau ar y pren wedi ysgwyd y blodan ymaith. Os tarewir y plant bach wrth y meini, ni wiw dysgwyl cenedl o ddynion. Os lleddir argyhoeddiadau bychain, ofer dysgwyl rhai cryfion, dysgwyl ffrwyth mewn dychweliad. O! pa fodd yr edrychi yn y farn ar y babanod a darew. aist wrth y meini? ar yr argyhoeddiadau a leddaist? Gofynir eu gwaed oddiar dy law.

3. Gofaled eglwys Dduw am y bobl hyn, rhag iddynt farw yn yr enedigaeth—help llaw iddynt. Trwm iawn os bydd yr enaid farw o eisieu help.

PREG. III.—Y DDWY FFORDD; Y FERAF A'R HWYAF.

ECSOD. XIII, 17, 18.—" A phan ollyngodd Pharao y bobl, ni arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos; oblegid dywedodd Duw, Rhag i'r bobl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft. Ond Duw a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch," &c.

DALIODD Pharao ei afael yn hir iawn yn y bobl. Yr oedd Duw wedi cymmeryd gafael ynddynt mewn cyfammod i fod yn bobl iddo ef. Yr oedd Pharao wedi cymmeryd gafael ynddynt mewn trais, i fod yn gaeth-weision iddo yntau. Yr oedd yr Arglwydd wedi dyfod yn awr i gymmeryd gafael ynddynt, i'w gwaredu o law Pharao. Wedi curo Pharao, nes y gollyngodd ei afael o'r diwedd, yn awr yr oeddynt yn myned i gychwyn o'r Aifft, a Duw o'u blaenau, yn Arweinydd iddynt; y dydd mewn colofn gwmwl, a'r nos mewn colofn o dân. Ni arweiniodd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos. Yr oedd ffordd fer o'r Aifft i Ganaan trwy wlad y Philistiaid; nid oedd uwchlaw taith pedwar neu bum diwrnod o ogleddbarth yr Aifft i ddeheubarth Canaan; ond nid y ffordd hòno a ddewisodd Duw. Yn y bennod nesaf cawn hanes eu symudiadau tua'r anialwch. Buasent mewn taith neu ddwy yn cyrhaeddyd Horeb, pe cawsent ddilyn yn mlaen y ffordd yr oeddynt wedi cychwyn; ond yn lle canlyn yn mlaen, cawsant orchymyn i droi yn ddisymwth tua'r môr, gan adael gwlad Canaan ar y llaw ddeau. Y symudiad hwn a barodd i Pharao dybied eu bod wedi dyrysu yn yr anialwch, ac a'i dug i'r penderfyniad i ymlid ar eu hol, gan sicrhau buddugoliaeth hawdd ac esmwyth arnynt. Felly parotodd ei lu, ei feirch, a'i gerbydau, a goddiweddodd hwynt mewn cyfyng-leoedd nad oedd yn bosibl iddynt ddianc o'i afael, yn ol ei feddwl. Yr oedd Pihahiroth, craig serth, o un tu iddynt; Baal-sephon o'r tu arall. Dywed rhai mai craig oedd hon, a bod yr Aifftiaid wedi gosod eilun-dduw o'r enw hwnw ar ei phen. Ystyr yr enw yw, Arglwydd neu Warcheidwad y Gogledd. Yr oedd y duw hwn ar lun pen ci, meddant, wedi ei osod yno ar gyffiniau yr Aifft, i gyfarth, a chadw y gelynion draw, a chadw y caethion rhag dianc; ac mewn cyfeiriad at hyn, fe allai, y dywedir, "Yn erbyn neb o feibion Israel ni symud ci ei dafod." Yr oedd yr Arglwydd fel hyn yn tywallt dirmyg ar eilunod yr Aifft, drwy ddwyn ei bobl, a fuasent gaethion ynddi, heibio i drwyn y ci, ac yntau yn ddigon llonydd a dystaw ar y pryd. Agorodd yr Arglwydd ffordd i'w bobl y pryd hwn trwy ganol y môr; ymlidiodd Pharao ar eu hol i'r môr; aethant trwodd yn ddiangol drwy ei ganol ar dir sych, a boddwyd yntau a'i holl liaws yn y dyfroedd. Y bore drannoeth, pan ddaeth boneddwyr a boneddesau yr Aifft allan, i fyned i gyfarfod eu brenin a'i fyddin fuddugoliaethus, fel y tybient, gan ddysgwyl gweled gweddillion y cleddyf o Israel yn cael eu dwyn yn ol i'r caethiwed. Erbyn dyfod i olwg y môr, pa beth a welent, ond cyrff meirw yn hulio y traeth, meirch, marchogion, olwynion a darnau cerbydau, wedi eu golchi a'u treiglo at y làn gan y tònau, ac Israel yn gwersyllu ar y làn yr ochr arall, yn canu cân buddugoliaeth: "Israel yn rhydd, a Pharao yn yr eigion."

Rhydd y testun hysbysrwydd o'r ffordd a ddewisodd yr Arglwydd i'w harwain o wlad y caethiwed i wlad yr addewid. Nid y ffordd a gymmerasai dyn a gymmerodd Duw. Cymmerasai dyn y ffordd rwyddaf ac agosaf; dewisodd Duw y ffordd anhawddaf a phellaf; ac etto, gwell oedd ffordd hwyaf Duw nâ ffordd feraf dyn.

Y mae yr Arglwydd yn Arweinydd i'w bobl etto; y mae yn arwain drwy ei air a'i ragluniaeth; ac nid ein ffyrdd ni yw ei ffyrdd ef yn aml. Ond ei ffordd ef bob amser yw y ffordd oreu, pa mor groes bynag y dichon iddi fod i'n syniadau a'n teimladau ni.

I. Mai nid y ffordd agosaf ydyw yr oreu bob amser. Nid "ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos," oedd y ffordd oreu i Israel gynt; ac nid y ffordd a fyddo yn ymddangos rwyddaf ac agosaf iddynt hwy, yw yr oreu yn aml i bobl Dduw etto.

1. Dichon fod ar y ffordd agosaf beryglon a phrofedigaethau na allwn eu cynnal a myned trwyddynt. "Rhag i'r bobl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft." Nid oedd Israel etto yn brofiadol o ryfel; nid oeddynt wedi gweled na dysgu rhyfel; caethweision y pyllau clai a fuasent; dysgasent wneuthur priddfeini yn dda, ond nid trin arfau rhyfel. Yr oedd y Philistiaid yn genedl ryfelgar iawn, ac ni chawsai Israel fyned trwy eu gwlad, heb eu darostwng. Y mae yn wir y gallasai yr Arglwydd yn hawdd eu darostwng o'u blaen, fel y darostyngodd Pharao; ond yr oedd eisieu eu dysgu hwy i wynebu caledi; felly nid oeddynt yn gymhwys yn bresennol i fyned y ffordd hòno. Gwyddai Duw y buasent yn debyg iawn i edifarhau a throi yn ol, pe buasent yn eyfarfod â gelynion a pheryglon; am hyny, arweiniodd hwynt o amgylch heibio i beryglon. Y mae peryglon a phrofedigaethau fel hyn ar y ffordd, a fyddo yn ymddangos yn rhwydd, hawdd, ac agos yn ein golwg ni, yn aml. Y mae yr Arweinydd mawr, yn ei ragluniaeth, yn ein harwain heibio iddynt, o amgylch i'r anialwch, rhag i'r Cristion ieuanc a dibrofiad edifarhau cychwyn y daith, a dychwelyd yn ol i'r Aifft. Pe cawsit dy ffordd dy hun, digon tebyg mai yn ol yn yr Aifft y buasit cyn hyn. Yr oedd llawer o beryglon a phrofedigaethau ar y ffordd hòno na wyddit ti am danynt, ond gwyddai yr Arweinydd.

2. Anfantais arall a allai fod ar y ffordd agosaf, pe na buasai perygl oddiwrth elynion a rhyfel er eu digaloni, buasai mewn perygl o ymchwyddo mewn balchder, ac anghofio eu Duw. Yr oedd eisieu eu dysgu i fod yn ostyngedig, profiadol, a theimladwy o'u dibyniad ar Dduw. Yr ydym yn dueddol iawn i ymchwyddo mewn hunanoldeb cnawdol, os cawn y ffordd agosaf a rhwyddaf, ein ffordd ein hunain—i golli y golwg ar Dduw, a theimlad o'n dibyniad arno, a'n rhwymau iddo: "Yr uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist; yna anghofiaist Dduw, yr hwn a'th wnaeth, ac a ddiystyraist Graig dy iachawdwriaeth." Fy llaw uchel i, ac nid yr Arglwydd."

II. Ffordd Duw yw y ffordd oreu er ei bod yn mhellach. Mae pedair mantais ar y ffordd hon,

1. Gwell mantais i adnabod ein hunain. Deugain mlynedd yr anialwch a roddodd gyflawn fantais i Israel i'w hadnabod eu hunain. Ni buasent byth yn credu eu bod yn genedlaeth mor war-galed, gwrthryfelgar, ac anniolchgar, oni buasai i daith yr anialwch ddangos hyny iddynt. Yno y profwyd hwy, ac y dangoswyd iddynt beth oedd yn eu calon. Ni chawsid ganddynt gredu eu bod mor ddrwg ag y gwnaethant rwgnach yn erbyn Moses ac yn erbyn Duw, wedi gweled rhyfeddodau yr Aifft, oni buasai taith yr anialwch. Ond pan adfyfyrient ar y daith, cofio grwgnach Mara, cofio dyfroedd cynnen Cades, y tuchan am gig wrth feddau y blys, llo aur Horeb, gwrthryfel Cora, &c., deuent i'w hadnabod eu hunain. Ni buasem ninnau yn meddwl byth fod cymmaint o ddrwg yn ein calon, ond buasai i daith yr anialwch ei dangos i ni. Ni buasem byth yn coelio fod cymmaint o falchder, anghrediniaeth, a gwrthryfelgarwch ynddi, oni bai manteision y ffordd er ei hadnabod. Buasai yn anhawdd genym gredu am danom ein hunain, y buasai yn bosibl i ni fod byth mor anniolchgar ag y buom lawer gwaith, pe dywedasid wrthym pan oeddym newydd ein codi a'n cychwyn o'r hen Aifft—o'r caethwasanaeth caled ac isel, pan newydd ein codi o'r hen byllau clai, ein gwaredu o dan iau yr hen Pharao greulon; ond wrth adfeddwl am droion y daith, yr ydym yn cael mantais i adnabod ein calonau drwg.

2. Mantais i adnabod Duw. Y mae efe yn cael gwell mantais i'w ddangos ei hun i'w bobl yn y ffordd y mae efe yn eu harwain. Yr oedd gwell cyfleusderau yn ffordd yr anialwch, nâ ffordd gwlad y Philistiaid. Ni buasent yn gwybod yr hanner am eu Duw, oni buasai taith yr anialwch. Yn yr anialwch y cawsant weled y medrai efe droi y cymylau yn feusydd bara iddynt; yn yr anialwch y cawsant weled y gallai dynu dwfr o'r gallestr—gwlawio cig ac adar asgellog fel tywod y môr; yno cawsant brofi ei amynedd a'i faddeugarwch anfeidrol ef. "Yn yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd eu Duw hwynt, y deugain mlynedd hyny." Ni buasai y rhai ffyddlon a duwiol yn eu plith yn cymmeryd gwlad â llaeth a mêl am daith yr anialwch. Yno y dysgasant adnabod eu Duw—ei garu, ac ymddiried ynddo. Yn yr anialwch y clywsant ei lais yn llefaru o ganol y tân—y gwelsant ei ogoniant—y derbyniasant ei gyfraith a'i farnedigaethau—y "profasant ac y gwelsant ei weithredoedd ef." Cefaist dithau lawer mantais, Gristion, i adnabod dy Dduw, wedi dy gychwyn o'r Aifft; llawer pryd o fanna nefol a gaed wedi hyny; dwr megys o'r graig lawer gwaith yn nhir y sychdwr mawr; profi ei ddaioni yn dilyn, yn tywys, ac yn maddeu, yn ceryddu ac yn cysuro. Gwerth y nefoedd bron oedd y manteision i adnabod Duw a gaed ar y daith.

3. Mantais i rasusau y Cristion weithredu, a thrwy hyny i gynnyddu. Ysgol dda i Israel oedd yr aniaiwch i ddysgu dyoddefgarwch, profiad, amynedd, a ffydd. Yr oedd llawn fantais i'r rhinweddau hyn i weithredu yn y diffaethwch—tir y sychdwr mawr. "Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach nâ'r aur coethadwy, cydbrofer ef trwy dan." Profedigaethau y daith sydd yn galw y grasusau hyn allan i weithrediad; heb y rhai hyn ni chaent gyfle i'w dangos eu hunain. Y mae Duw yn caru eu gweled, ac yn caru i'r saint eu hunain eu gweled; ac hefyd yn caru i'r byd eu gweled—i angylion a chythreuliaid eu gweled "er mawl gogoniant ei ras ef." Wrth weithredu y maent yn cryfhau ac yn cynnyddu hefyd. Y mae pob peth bron yn cynnyddu ac yn cryfhau yn ei waith. Y mae y dyn sydd yn arfer cario beichiau trymion yn fwy galluog i hyny nâ'r dyn nad yw byth yn dwyn beichiau; Paham? O herwydd ymarferiad. Y mae fy mraich ddeau yn gryfach o lawer na'm haswy; Paham? O herwydd fy mod yn arfer mwy arni. Felly y mae pob gras yn cryfhau yn ei waith; ac y mae y fantais hon yn y ffordd hwyaf ragor y feraf: mantais i gryfhau grasusau.

4. Melusu pen y daith. Dyma fantais fawr arall a berthyn i'r ffordd hwyaf. Pe cawsai Israel fyned i Ganaan drwy wlad y Philistiaid, heb ragor nâ phed war neu bum diwrnod o daith, ni buasai yr orphwysfa yn Nghanaan hanner mor felus. Yr oedd holl brofedigaethau mawrion y daith wedi cydweithio i wneyd gwlad yr addewid yn felus: dyfod o'r tir diffaeth i wlad y llaeth a'r mêl—yr oeddynt wedi eu parotoi i'w mwynhau. Felly y bydd y nefoedd i'r Cristion; bydd taith yr anialwch wedi aeddfedu ei enaid i'w mwynhau. Wedi bod yn nghanol y seirff tanllyd, yn ymyl darfod am dano yn ei dyb ei hun lawer gwaith, mor hyfryd fydd rhoddi ei draed ar dir yr addewid; mor felus i'w enaid blin fydd cael eistedd i lawr ar y gwyrddlas fryn, wedi "gweled aml a blin gystuddiau," a dyfod adref i wlad yr iechyd tragywyddol, bydd ei wefusau yn cael blas ar y gân. Ni buasai y nefoedd ei hunan mor felus yn y mwynhad o honi oni buasai taith yr anialwch. Gwelwn, gan hyny, yn—

1. Nad ydym ni yn addas i farnu pa un ydyw y ffordd oreu er ein lles. 2. Dysgwn ymddiried i ddoethineb a daioni ein Harweinydd—" Mae efe yn ddoeth o galon," gŵyr bob cam o'r ffordd; ac y mae yn sicr o fyned a ni y ffordd oreu, er ein lles ni a'i ogoniant ei hun.

3. Y bydd rhyw ddifyrwch rhyfedd i edrych ar ddarlunlen y daith wedi myned adref—adgofio " yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd ein Duw ni"—rhyfeddu a chanmol ei ddoethineb yn arwain—ei ras yn maddeu ac yn cynnal.—" Iddo ef y byddo y gogoniant."

AMRYWIAETH.

SYLWADAU A DYWEDIADAU HYNOD O'I EIDDO, &c.

Anerchiad i Fyfyrwyr Ieuainc yn yr Athrofa.

YMDRECHWCH i gyrhaedd golygiadau eglur a chysson ar bob mater, Os ymfoddlonwch ar olygiadau aneglur am y ddwy flynedd gyntaf o'ch gweinidogaeth, byddwch yn debyg o fod yn bregethwyr aneglur a diwerth ar hyd eich hoes. Y mae pob un o honoch yn debyg o sefydlu ei nodwedd yn y ddwy flynedd gyntaf o'i arosiad yn yr athrofa. Yn ol y farn a ffurfir am danoch yn ystod yr amser hwn, yr ymddygir tuag atoch dros eich hoes; ac anaml iawn y ceir achos i'w nhewid.

Pregethu effeithiol.

Y MAE bywyd duwiol yn anhebgorol anghenrheidiol er pregethu yn effeithiol. Bydd rhai yn defnyddio substitutes, megys cyfansoddiad da —iaith oruchel—hyawdledd—llais peraidd, &c., y rhai hyn, er yn burion yn eu lle eu hunain, nid ydynt ond ysgerbydau meirwon oddieithr iddynt gael eu gweithio gan agerdd bywyd duwiol.

Yr hyn a wna Dduwinydd a Phregethwr da.

MEWN trefn i fod yn dduwinydd da, y mae yn anghenrheidiol deall pedair egwyddor yn neillduol, sef, Nodwedd Duw—Rhwymedigaeth foesol dyn—athrawiaeth yr Iawn—ac athrawiaeth dylanwadau yr Ysbryd. I bregethu yn dda, rhaid gwneuthur defnyddioldeb yn brif amcan: defnyddioldeb raid ddewis y testun, ei ranu, cyfansoddi y bregeth, ac eistedd wrth y llyw tra y traddoder hi. Os bydd y blaen-sylwadau yn dywyllion ac anmherthynasol, y mae yn amlwg na ŵyr y pregethwr ddim i ba le y mae yn myned; os bydd yr ôl-sylwadau felly hefyd, y mae yn eglur na ŵyr efe ddim yn mha le y mae wedi bod. Nid yw pregethau heb eu myfyrio yn werth eu gwrando. Pwy a ymddiriedai ei fywyd i ddwylaw meddyg na fydd byth yn meddwl dim am ei gelfyddyd? Mynwn gyfundraeth a gymmero y Bibl i gyd o'i blaen.

Am y Cyfarfod Gweddi.

Y CYFARFOD gweddi yw pulse yr eglwys: os bydd y pulse yn taro yn gryf a rheolaidd, arwydda fod y cyfansoddiad yn gryf ac iachus; os yn wanaidd ac afreolaidd, arwydda nychdod ac afiechyd. Pan ddelo iechyd a chyfansoddiad yr eglwys i'w lle, bydd y cyfarfod gweddi yn fwy poblogaidd nâ'r gymmanfa.

Ffydd mewn gweddi.

Y MAE gweddi y ffydd yn ddigon sicr o lwyddo. Y mae ein gweddiau ni yn aml yn debyg i gastiau direidus plant drygionus tref; cura y rhai hyny ddrysau eu cymmydogion, a rhedant ymaith nerth eu traed. Yr ydym ninnau yn aml yn curo wrth borth y nefoedd, ac yn rhedeg ymaith i ysbryd a helyntion y byd, heb aros mewn dysgwyliad am agoriad ac atebiad. Yr ydym yn ymddwyn yn fynych fel pe byddai arnom ofn cael ein gwrando.

Drws y nefoedd.

Y MAE drws y nefoedd yn cau oddilawr bob amser, ac nid oddifynu,"Eich pechodau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a'ch Duw."

Saeth-weddi.

SAETH-WEDDI ydyw anadl y Cristion—ei lwybr cuddiedig i'w ddirgel noddfa—ei frys-negesydd (express) i'r nefoedd mewn amgylchiad o bwys a pherygl.

Cyweirydd ei holl deimladau crefyddol i'w gosod mewn tymher a hwyl. Ei ffon-dafl a'i gàreg, gyda'r hon y lladd efe nerth y brofedigaeth cyn y gall y gelyn ei wybod.

Cuddiad cryfder y Cristion ydyw; ac o bob cyflawniad crefyddol y hi ydyw y fwyaf cyfleus.

Y mae saeth-weddi yn debyg i dynu yn llinyn cloch-dŷ: y mae y gloch mewn un ystafell, a phen y llinyn a'i rhydd ar waith mewn ystafell arall. Gallai na bydd swn y gloch i'w glywed yn ystafell y llinyn, ond clyw pawb hi yn ei hystafell ei hun. Cydiodd Moses a thynodd yn nerthol yn y llinyn ar làn y Môr Coch, ac er nad oedd neb yn yr ystafell isod yn clywed nac yn gwybod, yr oedd y gloch yn canu yn uwch nag arferol yn yr ystafell uchod, nes cynhyrfu yr holl le—" Paham y gwaeddi arnaf?"

Adfywiad crefyddol.

TYBIAI yr henafiaid gynt am y gwefr-hylif (electricity) mai rhywbeth i fynu yn yr awyr ydoedd, ac y gallesid cael peth o hono i lawr i'r ddaear ar amser mellt a tharanau, ond cael offeryn priodol i'r pwrpas. I'r dyben hwn ffurfiodd Dr. Franklin farcutan papur, a gollyngodd ef i fynu ar ystorm o fellt a tharanau, a llwyddodd yn ei amcan i gael peth o'r hylifi wared; ond wedi dyfod yn fwy cyfarwydd mewn gwybodaeth, deallwyd fod y gwefr-hylif i'w gael unrhyw bryd, ei fod yn wasgaredig yn yr awyr o'n deutu, ac nad oedd ond eisieu arfer moddion priodol er ei gasglu yn nghyd, y gellid ei gael bob amser. Yn gyffelyb yr ydym ninnau wedi arfer meddwl am adfywiadau crefyddol, mai pethau rhyw dymmorau neillduol ydynt, ac nas gellir eu cael nes y dygwyddo eu tymmor ddyfod, fel ystorm o fellt a tharanau; ond pe buasem yn deall Bibl yn well, y mae yn ein dysgu mai peth yn ymyl ac yn nghyraedd yr eglwys bob amser ydyw adfywiad, ac nad oes dim ond eisiau cael yr eglwys i deimlo, i gredu, ac arfer y moddion gosodedig, y byddai yn sicr o'i gael y naill amser fel y llall,—"Os cydsynia dau o honoch ar y ddaear, am ddim oll, pa beth bynag a ofynont gan y Tad yn fy enw i, efe a fydd iddynt." "Pa faint mwy y rhydd eich Tad o'r nef yr Ysbryd Glân i'r sawl a'i gofynant ganddo."

Y mae yr eglwys, os bydd yn hir heb adfywiad, yn myned yn gyffelyb i'r ddaear pan fyddo yn hir heb wlaw. Mae y ddaear pan wedi myned yn sech iawn yn gwrthod y gwlaw, saif y cymylau yn llwythog o ddyfroedd am ddyddiau uwch ei phen, heb dywallt eu cynnwysiad arni: Beth yw yr achos? Diffyg sygn-dyniad yn y ddaear. Y mae cymylau addewidion Duw yn llwythog o wlaw graslawn dylanwadau yr Ysbryd yn sefyll uwchben yr eglwys; Paham na cheid y tywalltiad mawr? Diffyg sygn-dyniad yn Sïon,—gweddi y ffydd, ac undeb teimlad a dymuniad am dano. Y mae bronau y nefoedd yn llawnion o laeth bob amser, ond rhaid i'r eglwys sugno cyn y caiff ef. Nid yw y plentyn wrth sugno bron y fam yn rhoddi dim ynddi, ond tynu o honi yr hyn oedd ynddi o'r blaen y mae.

Adda a'i blant.

GALL pob plentyn i Adda ddywedyd yn hawdd,—"Pe buaswn innau yn ei le, mae yn ddigon sicr mai yr un peth a wnaethwn i ag a wnaeth yntau." Dylai hyn dawelu pob ffrae rhyngom a'r hen dad.

Tymmorau, &c., y byd ysbrydol.

HAF bythol heb auaf i ddyfod ar ei ol, ydyw tymmor y nefoedd; a gauaf bythol heb haf i'w ddysgwyl mwy, ydyw tymmor uffern.

Goleuni diddarfod heb dywyllwch i'w ddilyn, ydyw dydd y nefoedd; a thywyllwch diddiwedd heb obaith llewyrch o oleuni, ydyw nos uffern. Hanner dydd heb fyned byth bythoedd yn un o'r gloch brydnawn, ydyw awr y nefoedd; a hanner nos heb obaith yn dragywydd am un o'r gloch y boreu, ydyw awr uffern.

Y Ddimai beryglus.

PEIDIWCH byth, famau plant, a dechreu rhoddi dimai iddynt i brynu mint cake; y ddimai ddamnio ydyw hòno. Wrth roddi dimai i'r hogyn bach o ddydd i ddydd, yn mhen ychydig amser bydd wedi dysgu dau gast, sef porthi blys, a dibrisio arian; rhaid cael y pint cwrw yn lle y mint cake yn fuan, ac felly nid oes wybod yn y byd pa faint o drueni a genhedla y ddimai hòno.

Y galon gàreg.

CALON drom yw y galon gàreg, oblegid "trom yw y gàreg, a phwysfawr yw y tywod;" y mae yn pwyso ac yn tynu tua'r ddaear—un ddaearol ydyw. Y mae yr Ysbryd Glân yn gyntaf yn ei tharo â "gordd" y gair nes ei thòri a'i dryllio, yna y mae yn ei thynu yn raddol bob yn ddarn, a phan dyner ymaith y darn olaf o honi, y mae y dyn yn ddigon ysgafn i ehedeg i'r nefoedd.

Y tri chythraul.

Y MAE tri chythraul ag sydd yn gwneuthur mawr anrhaith a niwed yn ein cynnulleidfaoedd a'n heglwysi, sef cythraul cânu—cythraul gosod eisteddleoedd a chythraul dewis swyddogion; y maent o'r rhywogaeth waethaf o gythreuliaid, 66 ac nid â y rhywogaeth hon allan ond trwy weddi ac ympryd.""

Meddwl dyn.

Y MAE meddwl dyn yn gyffelyb i felin, yr hon a fâl pa beth bynag a rodder ynddi, pa un bynag ai eisin ai gwenith. Y mae y diafol yn awyddus iawn i gadw ei gylch yn y felin hon, ac i'w llanw yn barhaus ag eisin meddyliau ofer; ac am hyny, y mae gwyliadwriaeth wastadol yn anghenrheidiol i gadw gwenith y gair yu y myfyrdod. "Cadw dy galon yn dra diesgeulus."

Am ba beth yr ydym yn gyfrifol.

GALL llawer o bethau drwg ymgynnyg i'r meddwl na byddwn yn gyfrifol am danynt, os na roddwn lety a chroesaw iddynt. Nid oes genyf help os daw mintai o ladron at fy nrws, i geisio derbyniad a llety; ond os bydd i mi eu derbyn, yr wyf yn gyd-gyfrannog â hwy. Ac os bydd y galon yn gwahodd y meddyliau halogedig i mewn, ac yn aelwyd iddynt, yn lle eu gyru ymaith, yna y mae yn gyd-gyfrannog â hwy, ac yn gyfrifol am danynt; ond nid oes ganddi help fod y lladron hyn yn troi at ei drws, ac yn ceisio llety ganddi. Meddyliai ofer a gaseais," ebe Dafydd.

Hanfod Pabyddiaeth.

Y MAE yn ffaith mai y rhai hyny ag ydynt yn cadw mwyaf o dwrw yn erbyn Pabyddiaeth, yn ei hathrawiaeth a'i defodau, ydynt bob amser agos yn dal ac yn cofleidio mwyaf o'i hysbryd, eu hunain. Hanfod ac enaid y dyn pechod ydyw anffaeledigaeth; ac unwaith yr elo unrhyw ddyn, neu unrhyw blaid, i ystyried ei hunan yn anffaeledig mewn unrhyw beth, y mae y dyn hwnw, neu y blaid hòno, yn wir Babaidd, pa mor selog bynag y dichon eu bod yn erbyn athrawiaethau a gosodiadau y Pâb o Rufain. Meddyliwn fy mod yn ffieiddio'r ysbryd hwn o'm calon yn Rhufain a phob man arall; ond o'r ddau, haws genyf oddef ei santeiddrwydd Rhufeinaidd nâ neb arall; y mae ganddo hynafiaeth o'i du, ac y mae yn onestach nâ'r lleill yn gwneuthur ei hòniadau. Y mae efe yn cyhoedd arddel y peth, tra yr ewyllysiai y lleill ei wadu. O'r ffynnon felldigaid hon y tardd yr holl gollfarnu cyflyrau a glywir yn fynych. Os na bydd pawb yn ymostwng i farn Mr. Anffaeledig yn mhob peth, esgyna i'r orsedd, a chyhoedda ddedryd damnedigaeth dragywyddol ar eu cyflyrau. A dyma yw "ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw, a dangos ei hun mai Duw ydyw." Gallaf fod yn sicr yn fy meddwl fy hun" ar bob pwnc, a gallaf ystyried fod yr hwn sydd yn barnu yn wahanol i mi mor gydwybodol ac mor sicr yn ei feddwl yntau. Yr wyf fi yn golygu mai myfi sydd yn fy lle, ac mai efe sydd yn camsynio, ond yn cofio ei bod yn bosibl mai fel arall y mae yn bod. Yr wyf fi mor agored i fethu ag yntau. Ni pherthyn i mi ei farnu a'i gondemnio ef, mwy nag y perthyn iddo yntau fy marnu a'm condemnio innau. Gweision un arall ydym ein dau, a gosodir ni oll gerbron gorseddfainc farnol Crist.

Ysbryd a thymher addfwyn yn gweddu i weinidogion yr efengyl.

Y MAE y Bibl, yn rhywle, yn cyffelybu rhyw ddynion i ddrain, gwr a gyffyrddo â hwynt a amddiffynir â phaladr gwaewffon." O! na fydded angen am baladr gwaewffon na lledr-fenyg i'n trin ni, gweinidogion yr efengyl; na fydded ein hysbrydoedd, ein tymherau, na'n geiriau, o ansawdd ddreiniog a phigog. Un addfwyn a gostyngedig o galon oedd ein Meistr ni; byddwn ninnau yn debyg iddo. Yr wyf yn meddwl y gallaf ddywedyd am danaf fy hun, heb ryfygu, "Myfi wyf un o heddychol ffyddloniaid Israel," neu, o leiaf, heddychol.

PENNOD Vİ.

BARDDONIAETH.

HIRAETHGAN,—GAN AWDWR Y COFIANT.

"WRTH im' eiste' i lawr i ddechreu
Ysgrifenu'r ganiad hon,
Mae rhyw lawer o deimladau
'N ymgynhyrfu dan fy mron,
Fel am redeg draws eu gilydd,
Am y cynta'i flaen y bys;
Ar y papyr, maent mewn awydd
Cael ymddangos gyda brys.

Cariad, hiraeth, tristwch calon,
Digter, llonder, yn gytun,
Ni fedd iaith ar eiriau ddigon
I roi enw ar bob un;
Buont fel yn gwresog ddadlu
Enw p'un roid ar y gân; R
Rhoddwyd ar yr awen farnu—
Hiraeth aeth â'r dydd yn lân.

'R achos barai'r ymrysonfa
Ddwys, ddiniwed, ddystaw hon,
Ydoedd colli tad anwyla',
Gormod yw ei enwi 'mron;
"Ardderchowgrwydd Israel" glwyfwyd
Frathwyd gan angeuol gledd—
Holl ffurfafen Cymru dduwyd,
Pan roed Williams yn ei fedd.

Dyna'r testyn! canu arno
Sydd yn orchwyl caled, trwm;
Anhawdd canu—haws yw wylo
Pan fo'r galon fel y plwm;
Pan fo gwrthdeimladau 'n berwi
Yn y fynwes, megys pair,
Ton ar ol y llall yn codi,
Anhawdd iawn rhoi gair wrth air.


Hoffai cariad gael desgrifio
Rhagoriaethau'r athraw cu;
Hiraeth, yntau fynai lwytho
'R gân, drwy adrodd pethau fu;
Mynai tristwch droi'n gwynfanau
Gwlychu'r gân â dagrau i gyd;
Ceisiai digter senu angeu,
Am ei waith yn 'speilio'r byd.

Teimlad arall ymresymai
Gan wrth'nebu'r lleill yn nghyd;
D'wedai mai llawenydd ddylai
Sain y gân fod trwyddi'i gyd;
"A fyn cariad genfigenu
Wrth ddedwyddwch WILLIAMS gu?
Fynit, hiraeth ffol, ei gyrchu
Eto 'nol i'r ddaear ddu?

Dig wrth angeu am drosglwyddo
Aeddfed sant i'r nefoedd wen!
Beio arno am ei gludo
At ei Brynwr hwnt y llen;
Dig fod Williams uwch pob gelyn
Wrth ei fodd yr ochr draw;
Dig ei fod yn awr â thelyn
Buddugoliaeth yn ei law!

Dristwch, fynit tithau wylo,
Gwisgo llaes wynebpryd prudd,
Pan mae'r hwn y wyli am dano
Heb un deigryn ar ei rudd?
Pan mae ef mewn môr o wynfyd,
Ac heb arno unrhyw glwy'?
Cadw, sycha'th ddagrau ynfyd,
Taw, a phaid a chwyno mwy.

Ust! dystawrwydd! fy nheimladau,
Cewch bob un gyfiawnder glân,
Os caiff awen iaith a geiriau,
I'ch cyfleu chwi yn y gân;
Rhaid i Gariad dynu darlun
Williams; Hiraeth ddweyd ei gwyn;
Goddef raid i Dristwch wedy'n
Dywallt deigryn er ei fwyn.

Anhawdd myned heibio angeu,
Heb ro'i iddo air o sen;

Rhy anhawdd yn wir yw maddeu
Lladd gwrolion Seion wen;
Rhaid yw llawenychu hefyd,
Wrth alaru'r golled hon—
Cafodd WILLIAMS goron bywyd,
Pwy all beidio bod yn llon?

"Haeddai WILLIAMS," (meddai cariad,)
'Ryw gofgolofn uchel iawn,
Rhagoriaethau ei nodweddiad
Wedi'u cerfio arni'n llawn;
Haeddai'i enw ei drosglwyddo
Draw i oesau pell i dd'od,
Fel bo parchus son am dano,
Tra bo Cymru a Chymro'n bod.

Pan ei ganwyd yn Nghwmhwyswn
Nid oedd gan ei fam a'i dad
Fawr o feddwl, mi dybygwn,
Fod fath fendith fawr i'w gwlad;
Hwy ni wyddent, wrth ei fagu,
Fod rhyw drysor mawr o ddawn
Ynddo, dorai'n llif dros Gymru,
I ddylanwad nerthol llawn.

'Roedd y nef â'i llygad arno
Pan yn sugno bron ei fam,
Angel wrth ei gryd yn gwylio
Rhag i William bach gael cam;
Pan fel Samson wedi tyfu
'N fachgen gynt yn ngwersyll Dan,
Ysbryd Duw ddechreuai'i nerthu
A chynhyrfu'i feddwl gwan.

Ca'dd ei ddwyn yn more'i fywyd,
Cyn ei lygru â beiau'r oes,
Dan yr iau, i brofi hyfryd
Wleddoedd crefydd bur y groes;
Taran Sinai a'i dychrynodd,
A'r cymylau'n duo'r nen,
Ffodd yn nghysgod Craig yr Oesoedd
Cafodd fan i guddio'i ben.

Eglwys Penystryt, Trawsfynydd
Ga'dd y fraint o'i dderbyn ef,
Ac i fod yn famaeth ddedwydd
Un o gedyrn gwych y nef;

Prin y tybiai, pan yn derbyn
William bach i'w breichiau, 'i fod
Yn un y byddai'n fuan wedy'n
Drwy eglwysi'r wlad ei glod.

Pan agorodd ei alluoedd,
Ac y lledodd hwyliau'i ddawn,
Aeth y son drwy'r holl ardaloedd
Am ei enw'n gyflym iawn;
'Roedd swynyddiaeth yn ei enw,
A phan y cyhoeddid e',
Gwlad o ddynion y pryd hwnw
A gydgyrchent tua'r lle.

O! 'r fath olwg fyddai arno,
Pan uwchben y dyrfa fawr—
Delw'i enaid yn dysgleirio
Yn ei wedd ac ar ei wawr;
Myrdd o glustiau wedi'u hoelio
Wrth ei enau'n ddigon tyn,
A phob llygad syllai arno
Pawb yn ddystaw ac yn syn.

Yntau'n tywallt allan ffrydiau
O'r hyawdledd pura'i flas,
Agor ger eu bron wythienau
Hen drysorau Dwyfol ras,
Arg'oeddiadau'r nef yn cerdded,
Cydwybodau deimlent loes—
Ni chai'r euog un ymwared
Nes y deuai at y groes.

Egwyddorion gair y bywyd
A bregethai'n hyfryd iawn,
Cymhariaethau bywiog hefyd,
Er ei eglurhau yn llawn;
Natur fawr, a'i holl wrthddrychau,
Oedd agored iddo ef;
Gwnai forthwylion o'i helfenau
Oll i hoelio'r gwir i dref.

Byddai'r galon ddynol hithau,
Megys telyn yn ei law;
Chwarae'i fysedd ar ei thanau
Wnai, a'i holrhain drwyddi draw;
Fel y gwlith disgynai'i eiriau,
Mor effeithiol oedd ei ddawn,

Nes bai'r dyrfa'n gwlawio dagrau
Dan ei weinidogaeth lawn.

Weithiau byddai yn ymwisgo
A chymylau Sinai draw—
Mellt yn saethu, t'ranau'n rhuo,
Nes y crynai'r dorf mewn braw;
Wedi hyny, i Galfaria,
Enfys heddwch am ei ben, Yna'r storom a ddystawa,
T'w'na'r haul yn entrych nen.

Fe ddynoethai gellau'r galon
Gyda rhyw ryfeddol ddawn—
Pethau celyd, tywyll, dyfnion,
Wnelai'n oleu eglur iawn;
Llosgai'n ulw esgusodion
Y pechadur oll i gyd,
Nes gorfyddai blygu'n union,
Neu fod dan ei warth yn fud,

Oedd ei ofal dros yr achos
Yn cyrhaeddyd i bob lle,
Yr eglwysi pell ac agos
Fyddent ar ei galon e';
Oedd fel tad i'r rhai amddifaid,
Fe wrandawai ar eu cwyn,
I'r canghenau t'lodion gweiniaid,
Ef oedd gyfaill pur a mwyn.

Bugail diwyd a gofalus,
Anwyl iawn o ŵyn y gail,
Doeth geryddwr, athraw medrus,
Cyfarwyddwr heb ei ail,
Ymgeleddwr gweiniaid Sïon,
Cydymdeimlad lon'd ei fron;
Esmwythau y trwm ei galon
Wnai, a'i godi uwch y don.

Addfwyn, siriol, gostyngedig,
Gonest, gwrol, yr un pryd;
Cyfaill cywir, ëangfrydig,
Oen, ac ych, a llew yn nghyd;
Natur fu fel ar ei goreu
'N ffurfio ei gyneddfau ef,
Cawsant wed'yn eu tymheru
A dylanwad gras y nef.

Byddai'n blentyn wrth weddïo,
Ai at draed ei Dad i lawr;
Symledd, taerni, ffydd yn cydio,
Yn y drugareddfa fawr;
Breichiau'i enaid yn dyrchafu
Megys i gofleidio'r nen,
Hithau arno yntau'n gwenu,
Tynu'i llaw ar hyd ei ben!

"Gad i minau le," medd Hiraeth,
"Yn fy mynwes teimlaf dan;
Hawl sy' genyf 'does amheuaeth,
F'enw i sydd ar y gân;
Gallwn adrodd myrdd o bethau
Sy'n dylifo i'm cof yn awr,
Ydynt megys llym awelau
Yn cynhyrfu'r tan yn fawr.

Delw'i wedd sy'n argraffedig
Ar fy nghof yn berffaith lawn;
Ac mae llygad fy nychymyg
Yn ei wel'd yn amlwg iawn;
Cofiaf dôn ei lais pereiddgu,
Clust dychymyg fyth a'i clyw,
Nes y'm hudir bron i gredu
I fod WILLIAMS eto'n fyw.

Myn'd i ganlyn fy nychymyg
Wamal, tua'r Wern a'r Rhos;
Dysgwyl cael yn anffaeledig,
Weled WILLIAMS cyn y nos;
Holi'r areithfaoedd wyddynt
Ddim o'i hanes, gyfaill cu,
Ni chawn un atebiad ganddynt,
Awgrym roddai'r brethyn du!

Gwel'd y Beibl mewn galarwisg
Ar yr astell, fel yn syn;
Ato â theimladau cymysg
Awn dan holi, Beth yw hyn?
Wedi'i agor, gwelwn olion
Dwylaw WILLIAMS ar y dail—
Gwel destynau, meddai'r plygion,
'Hen bregethwr heb ei ail!"

Y mae rhywbeth wedi dygwydd,
Meddwn, ag y sy' o bwys—

Mae y brethyn du yn arwydd
Colled fawr, a galar dwys;
Ofni 'rwyf i fod gwirionedd
Yn y son ei farw ef,
Ac nad ydyw ond oferedd
Ceisio'i wel'd tu yma i'r nef.

Ac fel hyn dan ddwys fyfyrio,
I dŷ cyfaill oedd gerllaw—
Awn, ond ofnwn holi am dano,
Rhag cael dyfnach clwyf a braw;
Coffa'i enw wnaethum unwaith,
A deallwn ar y pryd
I mi gyffwrdd tanau hiraeth,
Yn nghalonau'r teulu i gyd.

Tua'r Talwrn yn fy mhryder,
Y cyfeiriwn ar fy hynt,
Lle treuliaswn oriau lawer
Yn ei gwmni'n ddedwydd gynt
Myn'd yn mlaen dan ymgysuro
At y ty, fel lawer gwaith
Gynt; ond erbyn cyrhaedd yno,
Och! nid oedd ef yma chwaith.

Aethum wed'yn i Lynlleifiad,
Dyeithr holi hwn a'r llall—
Taflent ataf syn edrychiad,
Tybient hwy nad oeddwn gall;
Aeth oddi yma'n ol i Gymru,
'Clywsoch hyn a gwyddoch chwi,
Ei fod wedi——— tewch a haeru,
Meddwn, yna ffwrdd â mi,

O gyfarfod i gyfarfod
Awn dan holi yn mhob lle,
Ydyw WILLIAMS wedi dyfod,
Yma'n wastad gwelid e'?
Gwel'd ei le yn mhlith y brodyr
Heb ei lanw gan yr un,
Ail ymholi mewn trwm ddolur,
'I b'le'r aeth yr anwyl ddyn?'
 
Dyfod adref yn siomedig
Wedi'r daith drafferthus hon;
Eiste'i lawr yn dra lluddedig,
Codi cyn gorphwyso 'mron;

Myn'di chwilio fy mhapyrau
Rhag y gallai oddiwrtho dd'od
Lythyr, pan o'wn oddicartre'
Gwelais hyny'n dygwydd bod.
 
Wedi troi a chwilio gronyn
Ar y rhei'ny yma a thraw,
Gwelwn yn y man lythyryn,
Meddwn, 'Dyma'i 'sgrifen—law!'
Ei agoryd wnawn yn fuan,
Och! y chwerw siom a ges,
Yr oedd hwnw'n ddwyflwydd oedran
Mi nid oeddwn ronyn nes.
 
Yna i'r gwely i orphwyso
Wedi'r drafferth flin yr awn,
Cwsg yn fuan ddaeth i'm rhwymo,
Gorwedd yn ei freichiau wnawn;
Gwelwn WILLIAMS draw yn dyfod
Tuag ataf yn ei flaen,
Rhedwn inau i'w gyfarfod
Fel yr ewig ar y waun.


Gwenai ef, a gwenwn inau,
At ein gilydd wrth neshau,
Estynwn i, estynai yntau,
Ddwylaw i ymgofleidio'n dau;
Pan yn agor fy ngwefusau
I'w gyfarch ef â llawen floedd,
Cwsg ddatodai'n rhydd ei g'lymau,
Och! y siom! can's breuddwyd oedd !

WILLIAMS, ni chaf mwy dy weled
Byth yr ochr yma i'r bedd;
Byth y pleser o dy glywed
Mwy ni cheir, hen angel hedd;
Ofer teithio i chwilio am danat
Mwyach ar y ddaear hon,
Ofer yw breuddwydion anfad,
Ni wnant ond archolli'r fron.

"Gwn lle mae ei gorff yn huno,"
Ebai Tristwch, "minau äf
Yno uwch ei ben i wylo,
Gwlychu'i fedd â'm dagrau wnaf;
Yn y Wern gerllaw'r addoldy,
Lle bu'n efengylu gynt,

Myn'di chwilio fy mhapyrau
Rhag y gallai oddiwrtho dd'od
Lythyr, pan o'wn oddicartre'
Gwelais hyny'n dygwydd bod.
 
Wedi troi a chwilio gronyn
Ar y rhei'ny yma a thraw,
Gwelwn yn y man lythyryn,
Meddwn, 'Dyma'i 'sgrifen—law!'
Ei agoryd wnawn yn fuan,
Och! y chwerw siom a ges,
Yr oedd hwnw'n ddwyflwydd oedran
Mi nid oeddwn ronyn nes.
 
Yna i'r gwely i orphwyso
Wedi'r drafferth flin yr awn,
Cwsg yn fuan ddaeth i'm rhwymo,
Gorwedd yn ei freichiau wnawn;
Gwelwn WILLIAMS draw yn dyfod
Tuag ataf yn ei flaen,
Rhedwn inau i'w gyfarfod
Fel yr ewig ar y waun.


Gwenai ef, a gwenwn inau,
At ein gilydd wrth neshau,
Estynwn i, estynai yntau,
Ddwylaw i ymgofleidio'n dau;
Pan yn agor fy ngwefusau
I'w gyfarch ef â llawen floedd,
Cwsg ddatodai'n rhydd ei g'lymau,
Och! y siom! can's breuddwyd oedd !

WILLIAMS, ni chaf mwy dy weled
Byth yr ochr yma i'r bedd;
Byth y pleser o dy glywed
Mwy ni cheir, hen angel hedd;
Ofer teithio i chwilio am danat
Mwyach ar y ddaear hon,
Ofer yw breuddwydion anfad,
Ni wnant ond archolli'r fron.

"Gwn lle mae ei gorff yn huno,"
Ebai Tristwch, "minau äf
Yno uwch ei ben i wylo,
Gwlychu'i fedd â'm dagrau wnaf;
Yn y Wern gerllaw'r addoldy,
Lle bu'n efengylu gynt,
Rhoes ei ben i lawr i gysgu
Islaw cyrhaedd haul a gwynt.

Dyna'r fan mae'r tafod hwnw,
Gynt ro'i Gymru oll ar dân;
Wedi'i gloi yn fudan heddyw,
Yn isel—fro'r tywod mân;
Ar y wefus fu'n dyferu
Geiriau fel y diliau mel,
Mae hyawdledd wedi fferu,
Clai sydd arni, mae dan sel.

Cwyno wna dy frodyr gweiniaid,
WILLIAMS, heddyw am danat ti,
Megys eiddil blant amddifaid,
Am eu tad yn drwm eu cri;
Mae dy enw'n argraffedig
Ar galonau myrdd a mwy,
Mae dy goffa'n fendigedig
Ac yn anwyl ganddynt hwy.

Son am danat mae'r eglwysi
Bob cyfarfod d'ont yn nghyd;
'R hen bregethau fu'n eu toddi
Gynt, sydd eto yn eu bryd;
Merched Seion, pan adgofiant
D'enw a'th gynghorion call,
Ceisiant adrodd, buan methant,
Wyla hon, ac wyla'r llall.

Pe bai tywallt dagrau'n tycio
Er cael eilwaith wel'd dy wedd,
Ni chait aros, gallaf dystio,
Haner munyd yn dy fedd;
Deuai'r holl eglwysi i wylo,
A gollyngent yn y fan,
Ffrwd ddigonol i dy nofio
O waelodion bedd i'r lan.

WILLIAMS anwyl! llecha dithau
Mewn dystawrwydd llawn a hedd—
Boed fy neigryn gloyw inau
Byth heb sychu ar dy fedd;
Haul a gwynt! mi a'ch tynghedaf,
Peidiwch byth a'i gyffwrdd ef,
Caffed aros haf a gauaf
Nes rhydd udgorn barn ei lef.

Cysga gyda'th blant a'th briod,
Yn 'stafellau'r dyffryn du,
Melus fydd priddellau'r beddrod,
Mwyach i chwi, bedwar cu;
Minau dawaf—teimlad arall
Sydd yn dysgwyl am fy lle,
Gwn ei fod mewn awydd diwall—
Dig wrth angeu ydyw e'.

Nid oes gen'i ond gair i'w dd'wedyd
Wrthyt, angeu creulon, mawr,
Hen anghenfil brwnt a gwaedlyd,
Ceir dy gopa dithiau i lawr;
Dydd sy'n d'od, cawn weled claddu
Dy ysgerbwd hyll ei wedd,
Minau ddeuaf yno i ganu
Haleluia ar dy fedd.

Dydd sy'n d'od i'th laddedigion
Ydynt dan dy draed yn awr,
Godi'n fyw, a sathrant weithion
Dithau dan eu traed i lawr;
Ni bydd wed'yn son am farw,
Gair o son am frenin braw,
Nid oes m'o lyth'renau d'enw
Yn ngeirlyfrau'r byd a ddaw.

"Nawr 'rwy'n gweled,' medd Llawenydd,
'Mai myfi a bia'r gân,
Fi yw'r môr, chwi yw'r afonydd
Rhedech i mi'n ddiwahan;
Cariad ddystaw 'mdoddai'n Hiraeth,
Hiraeth yntau'n Dristwch trwm,
Tristwch droes yn Ddigter eilwaith,
At y bedd ac angeu llwm.

Digter droai'n ddiarwybod
Iddo 'i hun, y gân i mi;
Pan yn senu angeu—syndod!
Llawen gân y troes ei gri;
Yn llawenydd pur ei Arglwydd
Y mae WILLIAMS heddyw'n byw,
Nid ä galar yn dragywydd
Ato i'r trigfanau gwiw.

Darfu'r llafur a'r gofalu,
Teithio drwy y gwlaw a'r gwynt,

Fel bu wrth bregethu a chasglu
At addoldai Cymru gynt;
Darfu'r llafur, darfu'r cystudd,
Darfu'r peswch, darfu'r boen,
Darfu marw—ond ni dderfydd
Ei lawenydd gyda'r Oen.

Ca'dd yr orsedd, ca'dd y goron,
Ca'dd y delyn yn ei law;
Byth y bydd wrth fodd ei galon
Gyda'r dyrfa'r ochr draw;
Caiff ei gorff o'r bedd i fyny,
Foreu 'r adgyfodiad mawr,
Bydd ar ddelw'i briod Iesu,
Yn dysgleirio fel y wawr.


ENGLYNION

AR NODWEDD A MARWOLAETH Y PARCH, W. WILLIAMS, Y WERN.

WILLIAMS anwyl, mae synu,—ar ei ol
Mawr yw alaeth Cymru;
Cleddyf drwy'i bron oedd claddu
Anhuddo'i dawn yn y bedd du.

Oedd enwog arch-dduwinydd,—iachusaf
A chysson athronydd,
A didwyll gyfaill dedwydd,
Brawd o wir hael ysbryd rhydd.

Dododd hen draddodiadau,—do, ar dân;
Dirdynodd hen dybiau;
Chwiliodd, eglurodd yn glau
Groth aur yr ysgrythyrau.

Sain ei ddawn swynai ddynion,—e ddrylliai,
Toddai rewllyd galon;
Deigr heillt, wedi agor hon,
Ymlifent yn aml afon.


'Hyd dannau'r enaid dynol—â'i fysedd
Gwnai fiwsig bêr seiniol;
Taro wnai'i ddull naturiol
At y nwyd, heb dant yn ol.

Ei goron a flagurodd—hyd y bedd,
Do, a'i burch gynnyddodd;
Ei wisg o gnawd ddyosgodd―
Aeth i fyd sydd wrth ei fodd.

 —AWDWR Y Cofiant.


Hysbysid ar amlen y DYSGEDYDD am fis Hydref, 1841, y rhoddid copi o Gofiant Mr. WILLIAMS yn wobr i'r bardd a gyfansoddai y chwe englyn goreu ar ei nodwedd a'i farwolaeth; ac hefyd am y chwe phennill goreu ar hir a thoddaid. Mewn canlyniad i hyn, derbyniodd yr ysgrifenydd ddeuddeg o gyfansoddiadau englynol, a thri ar fesur hir a thoddaid. Bernid englynion "Un sydd yn caru coffadwriaeth WILLIAMS yn fwy nâ'r wobr," yn oreu. Rhoddir tri o'r cyfansoddiadau a fernid yn nesaf ato mewn teilyngdod i ganlyn yr eiddo ef. O'r tri chyfansoddiad ar hir a thoddaid, bernid yr eiddo "Pererin" ac "Urbanus" yn gyd—deilwng o'r wobr.

NODWEDD A MARWOLEATH Y DIWEDDAR BARCH. W.
WILLIAMS, O'R WERN.

OCH loes! roi gorwych lusern
O'n tir yn mynwent y Wern.

Ochenaid clywch o Wynedd—aeth WILLIAMS
I'w thalaeth i orwedd;
Mor rhydlyd mae'r hyawdledd,
Daniai y byd yn y bedd!

Adfywiai gynnulleidfaoedd,—ei ddawn
Ddenai ddagrau filoedd;
Athraw o werth Luther oedd,
A phen seraph ein siroedd.

Hen anwyl opiniynau—ddiflanodd
O flaen ei bregethau;
Bu'n ei gylch heb ddyben gau—
Ei nod oedd troi eneidiau.


Er du ragfarn, er drygfyd,—ei foes ef
Safai'n ddifrycheulyd;
Deil ei barch tra dalio byd,
A charwn lwch ei weryd.

Heb lygru ei boblogrwydd—fe hunodd
Ar fynwes ei Arglwydd;
Aeth i wared yn ddedwydd
I'w farwol hynt o'i fawr lwydd.

Ar lan y pur oleuni,—fe welai
Filoedd i'w groesawi;
A thrwy nef ein hathraw ni
Arweiniwyd i'w goroni.


UN SYDD YN CARU COFFADWRIAETH WILLIAMS
YN FWY NA'R WOBR,
Sef y Parch. W. Ambrose, Porth Madog.


EREILL.

Y SEREN wib brysura,—a gwyn wawl
O eigion nef tardda;
Heibio'r huan llwybröa,
Lleibia'i wres, ac i'w llwybr â.

Ys ein WILLIAMS yn oleu,—seren oedd
Roisai'r nef i'n parthau;
A'i nod oedd cael eneidiau
Rhag y tân i'r burlan bau.

Gan arwain yn gain wrth ei gol,—lewyrch
Ol ei lafur duwiol;
Drwy fad attypiad taniol
Tua'r nef troai yn ol.

O'i fôr dawn, pan dwfr dynai—gwlith nef wen
Ar ei ben derbyniai;
Tan ei araeth tynerai
'R galon oer, ac wylo wnai.

Er fai'i lwydd, ymorfoleddu—ni wnai
Ond yn Nuw a'i allu;
Gwas isel megys Iesu,
Carai fod, un hygar fu.


Yr oedd yn ymarweddu—yn dduwiol
Bu'n ddiwyd heb ballu;
Briw gwlad oedd iddo'n gadu,
A gloes fawr i'r eglwys fu.

 —GORONWY.


EREILL.

MEISTR WILLIAM WILLIAMS, y Wern—ddiogel
Fuddugodd ar uffern;
Er dd'ai o gur i'w ddwy gern,
Trech wthiodd trwy ei chethern.

Da filwriodd, do, fel arwr—rhodiai
 :'N anrhydedd i'w Brynwr;
Troediai'n deg trwy dân a dw'r,
Uchelaidd oruchwyliwr.

Llariaidd, addfwynaidd a fu—gŵr anwyl,
Gwir enwog trwy Gymru;
Doethineb, callineb llu
O ddynion, ga'dd feddiannu.

Gwas ffyddlawn, cyflawn ddyn call—rhyw Gerub
Rhagorol ei ddeall;
Dyn Duw oedd, a dawn diwall,
Na chwerwai wrth barch arall.

Ei bêr goethion bregethau—a lifai
Fel afon o'i enau;
Bwriai o hyd i barhau
Oruchel feddylddrychau.

Y doeth oracl, daeth ei arwyl—enwog
Terfynodd ei orchwyl;
Yn Iesu cadwai nos—ŵyl,
Gyda'r Oen caiff gadw hir wyl.

 —JOSUA.


NODWEDD A MARWOLAETH Y PARCH. W. WILLIAMS,
O'R WERN.

Och alar! dadymchwelwyd—ar ein mur
Gwron mawr a gollwyd;
WILLIAMS! ei gwymp a welwyd,
Addoer loes i'r ddaear lwyd!


Synwyr a gras a unwyd—ei galon
A goleu nef lanwyd;
Dawn pur iaith natur a'i nwyd—
Yn WILLIAMS cyflawn welwyd.

Addwyn oedd, nawdd i weinion,―arweinydd
I wirioniaid Sïon;
WILLIAMS gofleidiai waelion,
Adeiliai ef deulu Iôn.

Drwy ei oes gwaed yr Iesu—a'i glwyfau
Wrth gleifion fu'n draethu;
Nodai loches gynnes gu,
I lwchyn tlawd ymlechu.

Llafuriodd â'i holl fwriad—er odiaeth
Anrhydedd ei Geidwad;
Dysgodd, goleuodd, ein gwlad,
O barth ei ddrud aberthiad.

O fyd anhyfryd di-hedd—annedd fan
A noddfa pob llygredd;
Ei enaid aeth i annedd,
Eirian wlad yr Oen a'i wledd.

 —PENTHEKOS.


TODDEIDIAU AR FARWOLAETH MR. WILLIAMS O'R WERN.

PAN oedd Sïon fel mewn isel oesiad,
Yn dawel lonydd heb ddim dylanwad,
Ar ei was WILLIAMS, Iôn a roes alwad;
Cododd i'r adwy, cadwodd ei rodiad;
Ei lewyrch, mawr oleuad—danbeidiodd,
A'n bröydd ddygodd i bur ddiwygiad.

Un â dawn addien mewn duwinyddiaeth
Oedd, a'i holl anian am roddi lluniaeth;
Gwyddai, a thrinai agwedd athroniaeth,
Trinai iawn addysg trwy anianyddiaeth;
Nes agor i'r Dywysogaeth—ddirgelion,
Eurawg olwynion gras a Rhagluniaeth.


Rhoi iawn addysg er cynnydd rhinweddau,
Wnaeth ei oesiad, i'r holl gymdeithasau
Ieuenctyd hawddgar, mor wâr ei eiriau,
A'i rym i ymwrdd, er dysgu'r mamau;
A Dirwest, gwerth ei dorau—ddangosodd,
Myrdd a ddyddanodd mawredd ei ddoniau.

Er cael ei fawredd, yn awyr Calfaria,
Myfyriodd hefyd, am fawredd Jehofa;
Eangder y wledd yn ngwaed yr ail Adda,
A gwaed yr ammod i'r euog droi yma—
Sïon deg, nid oes un da,—ladmerydd,
Fath ŵr dielfydd, fyth ar dy wylfa.

Y Wern a'r Rhos, mawr iawn yw eu rhusiant
A saethau rhyfedd trwy Wynedd trywanant,
Yr holl eglwysi ereill a glywsant,
Llid mwy o loesion oll a deimlasant;
A'u gweinidogion ddygant,—yn lluoedd
Iasau laweroedd, a dwys alarant.

Ocheneidiau a lle fau'n Llynlleifiad,
Sy ar ei ol, y gwir Israeliad,
Hen athrist angeu wnaeth ddarostyngiad,
A mwy o dywydd trwy'i ymadawiad;
Ei rasol arosiad,—yno gofir,
A'i ol adwaenir tra haul ar dywyniad.

 —URBANUS,

 Sef y Parch, T. Pierce, Llynlleifiad.


NODWEDD A MARWOLAETH Y PARCH. W. WILLIAMS, WERN.

SWN galarnad drwy y wlad a ledodd
Wele mae son! ein WILLIAMS a hunodd,
Y ddunos drom am danom ymdaenodd,
Ië, hoff addurn ein tir ddiffoddodd;
Hwnt i'r glyn gartre' glaniodd—o'i ofid,
Ac i wir ryddid, y nef cyrhaeddodd!

Goralarus yw gwir wylwyr Sïon
Am wir Gerub o dramawr ragorion,

Yn ddiau mawr gur oedd marw y gwron,
Dyn a gerid—i'w enwad yn goron,
Diwygiai weinidogion—cynghorai,
I lawr e fwriai eu gwael arferion.

Y dawnus Seraph ysgydwai'n siroedd,
A mynai fywyd i'n cymmanfaoedd,
Bu yn blaid i fanau gweiniaid gannoedd,
Lledai fywyd drwy'n cynnulleidfaoedd;
Goleuad i'n gwlad oedd—mewn bryn a phant
Dygai orfoliant a dagrau filoedd.

Hidlai addysg drwy'n cynnadleddau,
Ei agwedd dyner ostegodd dònau,
Agorai duedd yr hen gredöau,
Drylliai yufyd a thaglyd erthyglau;
Torodd did y traddodiadau—dynol
Bu hynodol mewn achub eneidiau!

I gyrau'n gwledydd blagurai'n glodus,
E ddenai y miloedd â'i ddawn melus,
Heibio i ddannedd eiddigedd wgus,
A thraethai uchel athrawiaeth iachus;
Heb chwerwedd, cabledd, nac ûs—bu dan lwydd
A chul ynfydrwydd a chwalai'n fedrus.
Aeth mewn tangnef i'r Ganaan nefawl,

Mae'n gwel'd ei frodyr mewn gwlad hyfrydawl,
Unodd â'r saint a'i geraint rhagorawl,
Yn llon niferi mewn dull anfarwawl;
Selyf oedd, preswylia'i fawl—yn ein mysg
Ni gadwn ei addysg duwinyddawl.

 —PERERIN,

 Sef y Parch. W. Ambrose, Porth Madog.





LLANELLI: ARGRAFFWYD GAN REES A THOMAS


Nodiadau golygu

  1. Yr oedd y gwr parchedig wedi ei gam-hysbysu yn hyn; yr oedd Mr. WILLIAMS wedi dysgu darllen Cymraeg er yn fachgen ieuanc, ac yn yr Athrofa cyn bod yn ddwy-ar-hugain.
  2. Y Parch, Thomas Aubrey.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.