Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry/Cofiant

Braslun o Hanes Ei Fywyd Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry

gan Thomas Lewis Jones, Machen

Llythyrau

COFIANT, &c.

Y MAE pedwar ugain mlynedd yn effeithio cyfnewidiadau mawrion, yn wladol a chrefyddol. Mae y ffaith yma yn amlwg iawn, wrth i ni droi ein golwg yn ol i edrych ar fro Mynwy, tua'r flwyddyn 1782. Yn yr adeg hon, nid oedd yr un eglwys Annibynol yn y fro, oddieithr yr un yn Heol-y-felin, Casnewydd, ac efallai ychydig frodyr yn ymgyfarfod yn Machen i addoli eu Duw, yn ol y drefn Annibynol. Mae yn wir fod eglwys Annibynol wedi bod am rai blynyddau yn nhŷ Jane Rowlands, yn Marshfield, ond yr oedd hono yn awr wedi gwywo a marw, a dim ond ychydig yn gwybod fod y fath beth wedi bodoli erioed."

Golygfa resynus iawn oedd i'w chanfod ar foesoldeb y wlad hon y pryd hwnw. Y rhan fwyaf o arweinyddion y bobl yn ddeillion, a'r ddau yn syrthio yn yr un ffôs ddofn o lygredigaeth-llèn gaddugawl yn gorchuddio meddyliau y bobloedd-dydd yr Arglwydd yn cael ei halogi-y bêl-droed yn cael ei chicio, a nerth corphorol amryw o'r bechgyn ieuainc yn cael ei brofi ar ddiwedd y chwareu, drwy ymladd â'u gilydd, nes byddai eu gwaed yn llifo i'r llawr-talcen yr eglwys yn cael ei ddefnyddio i guro'r bêl yn ei erbyn, a'r offeiriad mewn nwyfiant a hwyl yn eistedd ar y gareg farch gerllaw, i gadw cyfrif pwy oedd ar y blaen-y Beibl yn llyfr seliedig i'r lluaws-angeu'r groes, a'r Iawn a roed yno, yn bethau dyeithr, a'r bobl yn rhedeg i golledigaeth dragywyddol, heb ond ychydig i'w rhwystro. Ond, yn yr amseroedd tywyll hyn, yr oedd rhywrai yn mro Mynwy ag ofn Duw o flaen eu llygaid, a'u calonau yn teimlo wrth weled trueni trigolion y wlad. Yr oedd eglwys go gref yn Heol-y-felin, Casnewydd, ac amryw ar hyd y wlad yma ac acw yn aelodau o honi, ac yn eu plith yr oedd Thomas Morgan Harry, o Dwyncadnaw, (Twyncanddo, godreu Mynwy,) gerllaw'r 'pump heol,' yn mhlwyf Bassaleg, neu yn hytrach Maesyrhelyg, a'i briod. Mae Twyncadnaw yn aros hyd heddyw, ac wrth edrych ar ei furiau llathen o lêd, y beam derw dwy droedfedd betryal, ag sydd a'i ysgwydd gadarn dan y lloft, a'r tylathau brâff ag sydd yn dal y tô, y gall aros yn ddigwymp am un oes eto beth bynag Cafodd gwr a gwraig Twyncadnaw y fraint o ymuno â chrefydd yr addfwyn Iesu, yn y flwyddyn 1760. Nis gwyddom pa fodd yr argyhoeddwyd hwynt; ond nid yw fawr gwahaniaeth, gan fod digon o brofion eu bod wedi cael troedigaeth gyflawn a thrwyadl. Ymddengys fod y ddau ddyn hyn yn esiampl i'w cymydogion ac yn anrhydedd i grefydd yr Oen. Felly, rhesymol dysgwyl iddynt orphen eu gyrfa mewn llawenydd, a'u llygaid yn gweled iachawdwriaeth Duw. Gweinidog Heol-y-felin y pryd yma, oedd y Parch Rosser Prosser; bu farw yn fuan wedi hyn.

Cafodd Thomas Morgan Harry ei fendithio â theulu lluosog, yr ieuengaf o ba rai oedd gwrthrych ein Cofiant. Cafodd Isaac Morgan Harry ei eni i fyd gofidus a thrafferthus, ac nid hir y bu heb gael teimlo y groes ar ei ysgwydd dyner. Bu farw ei fam cyn iddo ef gyrhaedd ei ddwy flwydd oed, yr hyn fu yn golled ddirfawr iddo ef a'r plant ereill, ond gallodd y lleill ymdaro yn well nag ef, o herwydd eu bod yn henach, a chaletach i ddal y tywydd garw oedd yn eu haros yn myd yr anial. Yn mhen rhyw ychydig amser ar ol y tro chwerw hwn, meddyliodd ei dad y byddai yn well iddo gael ymgeledd gymhwys iddo yr ail waith, a thybiai yn ddiau ei fod yn gwneyd lles mawr i'r rhai bychain oedd ganddo wrth wneyd hyny; ond buan y cafodd ef a hwythau deimlo nad oes modd cael ychwaneg nag un fam. Ymddengys i Isaac bach gael teimlo pwys dyrnodiau y ddynes hon lawer gwaith, a mynych yr wylai ei dad yn chwerw dost am fod y fath anffawd wedi dygwydd iddo; ond yr oedd erbyn hyn yn rhy ddiweddar i gael unrhyw gyfnewidiad, oblegid hyd angeu yr oedd priodas y pryd hwnw fel yn awr. Mae llawer iawn o blant Duw wedi myned i'r fagl hon yn eu hen ddyddiau, a phrydnawn digon ystormus a gofidus a ddaeth i'w rhan yn herwydd hyn. Mae llawer un wedi canu oddiar brofiad chwerw gyda Dafydd Williams, Llanbedr-y-fro

"Yn y dyfroedd mawr a'r tònau," &c.

Bu gwrthddrych ein Cofiant dan anfantais fawr pan yn ieuanc, o herwydd nad oedd ei dad mewn amgylchiadau cyfleus i roi ysgol iddo; ni bu ddiwrnod yn yr ysgol yn un man, hyd nes i'r ysgol Sul i ddangos ei gwyneb llachar, ac erbyn hyn, yr oedd wedi cyrhaedd yn mlaen mewn dyddiau lawer.

Yr oedd llawer iawn o ymdrech yn ei dad i'w ddysgu mewn gwybodaeth gyffredinol, a gwnaeth ei ran yn dda gyda'r plant hynaf; ond pan yr oedd Isaac mewn oedran i gael ei ddysgu, ni chai yr un llyfr aros y gyfan gan ei lys-fam. Mae yn debyg fod yr hen frawddeg hono wedi gwreiddio yn ddwfn yn ei chalon hi, "Mammaeth duwioldeb yw anwybodaeth;" beth bynag am hyny, aberth-llosg oedd tynged pob llyfr a ddeuai o hyd iddi; a'r unig fan ag y cai ei dad lonydd i ddysgu yr A B C iddo oedd, ar ben y tŷ wrth doi; a mynych y dywedai "Fod y pregethwyr yn awr yn cael eu dysgu yn y tŷ—y coleg-dŷ, ond ei fod ef wedi ei ddysgu ar ben y tŷ. Er holl drafferth T. M. Harry, ni anghofiodd grefydd. Mae llawer yn crefydda pan fyddo pob peth o'u tu, ond pan ddel ystorm i'w cyfarfod, ymofynant am loches yn rhyw le heblaw yn nghysgod eu crefydd; ond am yr hen bererin o Dwyncadnaw, gyrodd gofid a thrafferth teuluaidd ef yn nes at ei Dduw nag erioed o'r blaen.

Nid oedd yn meddu ar lais i ganu; ond eto, canai lawer wrtho ei hun, a diau fod ei ganu yn fwy derbyniol gan y Nefoedd nag eiddo llawer un ag sydd yn meddu ar well llais. Bu farw mewn oedran teg, ac nid bychan oedd colled yr eglwys yn Casnewydd ar ei ol. Bu yn aelod eglwysig am 70 o flynyddoedd.

Bachgen go ddrwg oedd Isaac pan yn ieuanc; yr oedd gyda y blaenaf yn y gymydogaeth am bob math o ddrygau cyffredin. Man-cyfarfod y bechgyn ieuainc yn y gymydogaeth hon ar brydnawn Sul, oedd y 'pump heol,' sef y man lle y mae pump o heolydd yn cyfarfod a'u gilydd. Yn y cyfarfodydd wythnosol hyn, byddai tri o bethau yn cael eu gwneyd yn gyffredin :

1. Dyweyd hanes y gymydogaeth; yn enwedig, sut yr oedd business y llanciau a'r llancesau yn cael ei gario mlaen.

2. Codymu a neidio.

3. Taflu y bar a'r goetan, a rhwng y tri pheth hyn parhaai y cyfarfod yn gyffredin o ddwy i dair awr. Dywedir nad oedd nemawr o un yn gallu trechu Isaac yn y campiau hyn, a hawdd iawn genym gredu hyn, o herwydd yr oedd ei gyfansoddiad naturiol yn gryf, a'i freichiau a'i ddwylaw mawrion fel wedi eu bwriadu i wneyd caledwaith. Yn yr amseroedd hyn byddai yn myned aml i dro i wrando pregethu yr Efengyl. Bu yn gwrando lawer gwaith ar y Parch. Mr. Heir, Casbach, yr hwn oedd genad gwrol dros Arglwydd y lluoedd yn y dyddiau hyny. Clywodd hefyd y Parchedigion John Elias a Christmas Evans; ond er cystal eu doniau hwy, nid effeithiai dim er ei ddarbwyllo ef i adael ei ffyrdd drygionus o fyw.

Byddai yn myned gyda'i dad yn aml i Heol-y-felin. Gwrandawodd lawer ar y Parchedigion Howel Powel ac R. Davies, ond nid oedd dim yn tycio er ei ddwyn i'r goleu am ei gyflwr. Ymholai yn aml â'i dad wedi dyfod adref o'r cymundeb, i ba ddyben oedd cymeryd yr elfenau; a meddyliwn fod yr eglurhad a gafodd droiau gan ei dad ar natur y Swper Santaidd a dyoddefiadau y Gwaredwr, wedi bod yn gam pwysig er ei enill at Waredwr. Yr oedd llawer o ddynion cyfrifol yn perthyn i hen eglwys Heol-y-felin yn yr adeg hon, megis P. Rees, Ysw., tad Treharne Rees, Ysw., &c. Heol-y-felin oedd Jerusalem y rhan isaf o sir Fynwy, yn yr adeg hon. Drwg genym weled golwg mor İlwydaidd ar yr achos yno yn awr. Pe byddai rhai o'r hen deidiau yn cael rhoi tro yno ar foreu Sabboth, synent weled y gynulleidfa mor fechan. Yr oedd golwg ardderchog ar gynulleidfa yr hen gapel hwn yn amser y Parchedigion T. Sanders, H. Powel, &c.; yr oedd eu gweled yn ymdynu yno o bob cyfeiriad yn ddigon i greu parch yn meddyliau y trigolion oddiamgylch at grefydd yr addfwyn Iesu.

Yr oedd crefyddwyr yr oes hono yn ystyried fod boreu'r Sabboth mor santaidd a'i brydnawn. Meddyliwn nad yw yr un farn yn ffynu yn awr; o'r hyn leiaf, ni weithir y grediniaeth allan, os yw yno o gwbl, o herwydd dangosir mwy o barch i gwrdd y nos na chwrdd y boreu; ond yn yr hen amser gynt byddai cyfarfod y boreu yn enwog iawn, ac ni byddai yr un pregethwr yn cael ei demtio i barotoi gwell pregeth erbyn yr hwyr na'r boreu, yn nyddiau boreuol I. M. Harry.

Pan fyddai Isaac yn myned i Heol-y-felin, eisteddai yn gyffredin yn agos i gefn y capel, ac wrth ei ochr eisteddai dyn o'r enw John Williams; byddai John Williams yno yn wastad, ac ni fyddai nemawr oedfa yn myned heibio heb fod John yn wylo y dagrau yn hidl, ond arosai Isaac yn galed a dideimlad. Bu yr eglwys yn dysgwyl am weled John yn dyfod i ymofyn am grefydd, ond nid oedd yno neb yn dysgwyl am Isaac mwy na rhywun arall, ond ei dad; yr oedd ei dad yn pryderus ddysgwyl, o herwydd yr oedd wedi anfon aml i weddi at orsedd nef am i'w fab gael teimlo i fywyd, a chafodd y fraint o weled ei weddiau yn cael eu hateb cyn ei briddo yn y cudd-fedd caeth. Nid â gweddiau y saint yn ofer, ond bendith fawr i rieni yw gweled eu gweddiau ar ran eu plant yn cael eu hateb cyn eu marw.

Pan oedd Isaac yn agos i bump-ar-hugain oed, daeth y Parch. D. Williams o Ferthyr, (M.C.) heibio ar ei dro, a chafodd yntau y fraint, yn mysg ereill, o fyned i'w wrando, ac yn yr oedfa hon, glynodd y saeth yn ei galon-llefarodd ysbryd Duw wrth ei enaid-hyd yma yr âi, ac nid yn mhellach. Bu yn glaf iawn ar ol hyn am rai wythnosau, ond ychydig oedd ar y Morfa y pryd yma yn deall dim am glefyd o'r fath. Yr oedd y pryd yma newydd briodi â Miss Mary Morgan, o Goed Cernyw; ond er ei fod yn hoff o wraig ei ieuenctyd, a hithau yn hoff o hono yntau, nid oedd hyny yn ddigon i esmwythâu doluriau ei fron. Yr oedd yn byw y pryd yma yn agos i eglwys Llansantffraid, ac yr oedd ganddo yn agos i bedair milltir o ffordd cyn gallu cyrhaedd cyfeillach grefyddol, yn yr hen fan ag yr arferai ei dad fynychu; ond ar ryw ganol dydd, dacw ef yn cychwyn, am y tro cyntaf erioed i'r gyfeillach, yr hon a gynelid am ddau o'r gloch yn y prydnawn. Nid oedd neb dynion yn gwybod y terfysg oedd dan ei fron yn yr amser hwn. Bu amser maith yn myned o'r Morfa i Gasnewydd y tro hwn, o herwydd byddai yn aml yn sefyll, ac yn troi yn ol, ond o'r diwedd cyrhaeddodd gapel Heol-y-felin; ond er ei ofid, yr oedd y drws wedi ei gau, ac nid oedd digon o nerth yn ei fraich yntau ar y pryd i godi y clicied, ac felly trodd yn ei ol; ond cyn gadael y lle, pwysodd ei ben ar y mur gerllaw, fel un ar ddiffygio, ac yn yr adeg daeth Mary Powel yn mlaen, yr hon oedd gyda chrefydd er ys blynyddau; adnabu hi yn union glefyd y dyeithr, ac ymafaelodd yn ei law, gan ei arwain yn dirion at y brodyr tufewn, y rhai pan welsant, a lawenychasant â llawenydd mawr dros ben, am weled gras Duw yn gweithio ar feddwl un yn ychwaneg.

Yr oedd John Williams yn gwrando y Parch. D. Williams, a gwelwyd ef yn wylo dagrau fel arfer yno, ond ni roddodd ef ufudd-dod i'r alwad, ond caledodd yn ei bechod, nes o'r diwedd iddo fyned yn ddigon caled i wrando y doniau goreu heb wylo dim, ac fel hyn y bu farw. Cyfaddefodd cyn ei farw ei fod yn teimlo ei hun mor galed a'r gareg. Llawer un o hen wrandawyr efengyl sydd yn ymrithio o flaen ein llygaid wrth ysgrifenu y llinellau hyn, rhai y gwelwyd eu llygaid yn ffynonau o ddagrau, ond yn awr y maent wedi sychu. Y maent yn nes i fyd arall, ond yn llawer mwy difater.

Os achubir y rhai yma, fel yr ydym yn gobeithio y gwneir, dygir hyny oddiamgylch drwy edifeirwch cryf a dagrau, o herwydd mae eu pechod yn fawr iawn. Hoffem yn fawr weled gras Duw yn cael ei ogoneddu yn achubiaeth y rhai hyn eto cyn eu marw; ond bydd yn rhy bell yn fuan, gan hyny, O! Arglwydd, tyred yn awr. Derbyniwyd Isaac M. Harry yn gyflawn aelod pan yn llawn pump-ar-hugain oed, gan y Parch. Rees Davies, gweinidog Heol-y-felin ar y pryd. Wedi ei dderbyn yn aelod, nid eisteddodd i lawr. Gwelsom rai yn ffyddlon iawn am wythnosau eu prawf, fel y dywedir; ond wedi eu derbyn yn gyflawn aelodau, meddylient fod pob peth yn iawn, y frwydr trosodd, y fuddygoliaeth wedi ei henill, y goron yn eu haros, y gwaith wedi ei orphen, a'r nef wedi ei sicrhau ; ond nid un felly oedd Mr. Harries; na, aeth i'r winllan fel gweithiwr, ac nid fel segurwr, a theimlodd yr eglwys yn fuan ei bod wedi cael caffaeliad gan Dduw ynddo. Yn mhen rhyw ychydig flynyddau, dechreuodd rhai o'r bobl graffus yn yr eglwys weled cymhwysderau ynddo i fod yn rhywbeth mwy nag aelod cyffredin. Bendith fawr i eglwys yw cael dynion o'i mewn â llygad digon craff i weled pwy ddylai esgyn grisiau yr areithfa, a phwy ddylai drigo yn dawel yn ei eisteddle, gan wneyd ei ran fel aelod cyffredin. Cymhellwyd Mr. Harries at y gwaith pwysig o bregethu Crist i'w gyd-greaduriaid. Ië, cymhellwyd ef, nid rhuthro a wnaeth. Byddai yn burion peth i ni gofio yn y dyddiau hyn, mai peth eglwysig yw codi pregethwyr, ac nid peth personol, ac fod yr eglwys a gwyd bregethwr, yn gyfrifol i'r eglwysi o'r bron am ei gymhwysder fel pregethwr. Meddyliwn ei bod yn llawn bryd i'r eglwysi fagu digon o wroldeb a gonestrwydd i ddyweyd wrth lawer un a deimla awydd pregethu, eu bod yn seiri, gofiaid, glöwyr, neu fasnachwyr ardderchog; ac yna gadawer iddynt hwy ddychymygu y rhan arall o'r ymadrodd, ac os bydd dim ynddynt, gwelant yr awgrym yn fuan.

Bu Mr. Harries yn petruso cryn lawer cyn cydsynio â chais yr eglwys, ond o'r diwedd cynygiodd hi, ac yr oedd y cynyg cyntaf yn lled awgrymu i'r hen bobl a'u gwelodd gyntaf, nad oeddynt wedi camsynied yn eu dewisiad. Y tro cyntaf y pregethodd yn gyhoeddus oedd ar brydnawn Sabboth, yn nhŷ Sion Howel, ar y Morfa, yr hwn oedd yn glaf iawn ar y pryd. Nid oedd ond dau yn proffesu crefydd gyda'r Annibynwyr ar y Morfa y pryd yma, sef Mr. Harries a Mrs. James, gwraig Mr. Edward James. Buont felly am rai blynyddau. Byddai brodyr o'r Casnewydd, a rhai a berthynent i enwadau ereill yn y gymydogaeth, yn eu cynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddio, a byddent yn cael pregethwyr yn o aml i dŷ Mr. James. Bu y Parchedigion canlynol yno droion:-G. Hughes, Groeswen; Jones, Llangan; D. Thomas, Penmain; E. Jones, Pontypwl, &c. Meddyliwyd yn mhen ychydig am gael capel yn y lle, ac amlygwyd y bwriad i Mr. James, yr hwn, yn ol ei garedigrwydd arferol, a roddodd dir iddynt at gapel a monwent, am bum swllt yn y flwyddyn, yr hwn sydd agos cystal a freehold', gan fod hyd y lease yn 999 o flynyddau. Mae y cyfraniadau canlynol tuag at y capel newydd yn deilwng o gael eu coffhau:—

Parch. Rees Davies ........ £10/0/0
Mr. Edward James ........ £10/0/0
" Edmund James ........ £10/0/0
" David Francis ........ £5/0/0
Mrs. Blanch Baker ........ £5/0/0
Mr. David Williams... ........ £5/0/0
" D. Turberville ........ £2/2/0
" J. Rees, Llanvabon ........ £2/2/0
" I. Morgan Harry ........ £6/0/0
" T. Harries, Mardy ........ £2/2/0
Casgliad o'r Rhydri ........ £1/4/0
" " New Inn ........ £10/0/0

Yr oll a gasglwyd erbyn yr agoriad oedd £88 17s. 10c. Costiodd y capel £230, ac felly talwyd yn agos yr haner erbyn dydd yr agoriad, yr hyn oedd yn weithio go dda, wrth ystyried sefyllfa yr achos yn y lle ar y pryd.

Agorwyd y capel newydd ar y drydedd o Dachwedd, 1826. Y gweinidogion a weinyddasant ar yr achlysur oeddynt y Parchedigion D. Jones, Llanharran; W. James, Caerdydd; H. Jones, Llaneurwg, (M.C.); E. Jones, Casbach, (B.); D. Davies, New Inn; ac E. Jones, Pontypwl. Corphorwyd yr eglwys yn y lle ar Sabboth canlynol. Nid oeddynt eto yn ddim ond dau. Wedi i'r Arglwydd gael lle i aros, daeth yno at y brawd a'r chwaer, ac nid hir y buont heb gynyddu i unarddeg, yr hyn oedd yn rhif mawr yn eu golwg. Teimlwyd yn awr fod eisieu bugail i ofalu am y praidd bychan, ac nid oedd neb yn fwy cymhwys yn eu golwg na Mr. Harries; o ganlyniad, cafodd alwad ganddynt, a chydsyniodd yntau â'u cais; penodwyd dydd y sefydliad, a daeth y brodyr yn nghyd. Cymerodd hyn le ar y 18fed o Fehefin, 1829. Bu y rhai canlynol yn cymeryd rhan yn ngwaith y dydd :-y Parchedigion G. Hughes, Groeswen; D. Jones, Taihirion; T. Harries, Mynyddislwyn; E. Jones, Tabernacl, Casnewydd; Jenkin Lewis, Časnewydd; a D. Davies, New Inn; E. Rowlands, Pontypwl; W. Watkins, Pontypwl; a Rees Davies, Heol-y-felin. Wele ef yn awr yn gyflawn yn ei swydd fel gweinidog i Iesu Grist, ac nid yw heb deimlo fod rhwymau newydd arno yn ei sefyllfa newydd. Yr oedd erbyn hyn wedi symud i fyw i'r Heol-las—ffarm fechan yn agos i'r capel. Bu yno am flynyddoedd lawer; ac yno y magodd y plant, y rhai oeddent bedwar mewn rhif, sef pedair merch—Anne, Hannah, Mary, a Ruth, tair o'r rhai'n sydd yn fyw yn awr, ac un, sef Mary, wedi huno yn yr angeu, gan adael rhai bychain i alaru eu colled ar ei hol.

Yn y flwyddyn 1841, daeth amgylchiad chwerw i'w gyfarfod, sef marwolaeth ei anwyl briod. Wedi iddynt fod mor hir gyda'u gilydd, nid hawdd oedd tòri y cwlwm; ond er agosed oedd y cysylltiad, yn rhydd y daeth, pan oedd Mrs. Harries yn 56 oed, ac felly cafodd yr hen frawd deithio dyffryn galar ei hunan, am dros ugain mlynedd; ond yn yr yspaid hirfaith hyn, gweddus crybwyll fod ei blant wedi dangos pob caredigrwydd tuag ato, a diau na chollant eu gwobr am eu llafurus gariad a'u gofal am eu tad.

Er ys rhyw ddeng mlynedd yn ol, symudodd o'r Heollas i ymyl y capel, lle y gorphenodd ei yrfa yn nhŷ ei ferch Hannah, ac y mae hi a'i phriod yn haeddu parch am eu caredigrwydd a'u hynawsedd tuag ato yn ei hen ddyddiau. Bydded fod bendith yr Arglwydd yn dilyn ei blant, a phlant eu plant, o genedlaeth i genedlaeth, hyd byth.

YN AWR, NI DAFLWN OLWG FER AR MR. HARRIES YN EI HYNODION.— Os bydd rhyw un yn ei ystyried yn bwysig iddo gael gwybod pa fath ddyn oedd o ran ei ymddangosiad naturiol a chorphorol, gallwn ddyweyd nad oedd yn un o'r rhai glanaf o feibion Adda, ac ni byddai un amser yn cymeryd fawr o drafferth i harddu tipyn ar ei gyfansoddiad. Pwy bynag a welodd Mr. Harries, gwelodd ef fel yr oedd yn union; yr oedd ef yn wan iawn ei ffydd yn yr athrawiaeth o newid y ffasiwn; yr oedd ef yn gwbl yr un farn a'r Llyfr Gweddi Cyffredin gyda golwg ar hyn—"Fel yr oedd yn y dechreu, y mae'r awr hon, ac y bydd yn oes oesoedd. Amen." Ychydig iawn oedd newidiadau a ffasiynau'r byd yn effeithio arno ef. Buasai wedi myned yn newyn yn y West of England er ys llawer dydd, oni buasai fod rhyw rai yn gwisgo mwy o'u broad cloth nag efe; ac ni fuasai eisieu cael rhyfel gartrefol America, i beri i felinau cotton Manchester aros, pe buasai pawb yn gwisgo cyn lleied o'u lliain main ag efe. Nid oedd efe 'chwaith, fel llawer, yn credu fod rhyw rinwedd neillduol mewn ymlynu wrth hen arferiadau. Meddylia rhai fod cadw gwallt i dyfu lawr dros y talcen, fel bargod tŷ nhadcu—gofalu fod yr hugan wedi ei thòri yn unol â'r hen ffasiwn, a'r holl ddillad ereill yn cyfateb, yn haner, ac yn wir, os nid yn ddigon o grefydd iddynt; a phwy bynag a anturia ddilyn y dull cyffredin, mae yn ddyn colledig, beth bynag yw ei rinweddau; ond nid oedd Mr. Harries o'r sect hon. Yr oedd efe yn ddigon boddlon i ddyn wisgo coat o sidan, os gallasai ei chael; ond fel arall yr oedd efe yn dewis byw, heb osod unrhyw bwys neillduol ar y dull allanol.

Byddai yn werth i ni hefyd edrych ar Mr. Harries fel cyfaill. Nid un o'r pethau hawddaf yw cael cyfaill cywir yn y byd drwg presenol, ond pwy bynag a gafodd Mr. Harries yn gyfaill, cafodd un cywir. Nid oedd un amser yn newid ei gyfeillion heb gael rhyw achos digonol i hyny. Mae rhai a'u cyfeillion yr un fath a'r plant a'u teganau—mor gynted ag y cânt un newydd, taflant yr hen o'r neilldu; ond gweithredai Mr. Harries gyda hyn yr un fath a'r cybydd a'i arian; pan fyddai yn gwneud eyfaill newydd, ychwanegu at ei stock y byddai, ac nid newid y naill yn lle y llall. Mae llawer wrth newid yn myned heb un yn mhell cyn marw. Ni chlywais ef erioed yn dyweyd mwy yn nghefn rhywun nag a ddywedasai yn ei wyneb, ac ni welais nemawr o neb erioed yn casâu ymddygiad felly yn fwy nag efe. Os na fuasai ganddo ryw dda i ddyweyd am frawd, yr oedd wedi dysgu tewi. Yr oedd yn medru codi pob da i sylw, a chladdu pob drwg o'r golwg. Gwyddai yn dda ei fod yn meddu ar golliadau ei hunan, ac nid oes neb o'r rhai felly yn rhy barod i estyn bys at ei gymydog. Mae cyfeillgarwch ac ymlyniad yn elfen bwysig iawn yn nghymeriad gweinidog, ac yn ychwanegu llawer at ei ddylanwad a'i werth yn y man lle mae yn aros. Mae yn anmhosibl bod yn weinidog da, heb fod yn gyfaill trwyadl.

Heblaw hyn, yr oedd Mr. Harries yn Gristion da. Yfodd yn helaeth o ysbryd Crist. Llefarai ei ymddygiadau mai Cristion iawn ydoedd. Nid wyf yn meddwl fod neb a'i adwaenai wedi cael lle i gredu erioed nad oedd gras Duw wedi gafael yn ei enaid. Y siomedigiaeth fwyaf erioed i ganoedd yn sir Fynwy fyddai gweled "Harries o'r Morfa" ar yr aswy law, o herwydd credai pawb am dano ei fod yn blentyn i Dduw, ac yn etifedd teyrnas nef, a diau ei fod felly mewn gwirionedd. Deuai ei gymeriad i'r amlwg yn ei weithgarwch gyda chrefydd. Gweithiwr caled ydoedd yn mhob ystyr. Mae llawer o hen dai y Morfa a'r cylchoedd yn dystion heddyw, mai nid dyn segur oedd efe gyda ei orchwyl gwaith, sef toi; ond er gweithio yn galed ar hyd yr wythnos, ni rwystrai hyny ef i wneud ei ran gyda chrefydd. Byddai yn aml yn myned tuag ochr Risca a manau ereill i doi ; ond ni fyddai un amser braidd yn colli cyfarfod gartref; cerddodd ganwaith wyth a deg milltir o ffordd i'r cyfarfod gweddi neu y gyfeillach gartref, wedi gweithio yn galed drwy y dydd. Pregethodd lawer yn y cylchoedd oddiamgylch; ond nid yn aml y byddai yn aros dros nos yn un man.

Rhaid fod ganddo gyfansoddiad tuhwnt i'r cyffredin, ac onide, nis gallasai wneud y pethau hyn. Gwnaeth ef bethau ag ydynt yn ein golwg ni yn awr y nesaf peth i wyrthiau. Yr ydym ni yn awr yn masweiddio ein cyfansoddiadau, nes y mae yr awel leiaf yn effeithio arnom; tra yr oedd ein tadau yn haiarneiddio eu hunain trwy galedwaith a phenderfyniad, hyd nes oeddynt yn alluog i ddal pob tywydd braidd, a dichon y byddai yn dda i ni gymeryd gwersi oddiwrthynt yn hyn o beth. Gwir ei fod ef wedi cael cyfansoddiad tuhwnt i'r cyffredin, a chafodd fwynhau y fendith o iechyd yn dra rhyfeddol ar hyd ei oes, ac o herwydd hyn, nid pawb allasai gystadlu ag ef mewn cerdded a phregethu; ond eto, mae yn ddiddadl y gallai y gweiniaid gryfhau llawer arnynt eu hunain drwy beidio anwesi ac ofni cymaint ; gwyddom am rai ag ydynt yn or—ofalus am eu hiechyd, a hwynt—hwy yw y mwyaf afiach wedi yr holl drafferth. Weithiau iawn y byddai Mr. Harries yn gwisgo dwy hugan, (coat), ac ni thrafferthai ei hun drwy wisgo dau gadach am ei wddf, hyd yn ddiweddar iawn; ond er hyny, ychydig iawn o weithiau yn ei oes y bu yn achwyn o herwydd anwyd, ac os na chai gystal hwyl ag arfer wrth bregethu, ni fyddai un amser yn gwneud ystumiau a phesychu, gan ddyweyd fod yr "anwyd just ei ladd." Bu yn dyfod i'r Rhydri bob mis am tuag ugain mlynedd. Deuai oddicartref boreu'r Sabboth, gan groesi y caeau, hyd at Bont Llanfihangel, a thrwy y Draethen, a byddai yn dra sicr o fod yn y Rhydri erbyn deg; pregethai am dri o'r gloch yn y prydnawn yn nhŷ Mrs. Gibbon, yn y Ffaldgerrig gerllaw Rhydri, a chyrhaeddai y Morfa erbyn chwech. Byddai felly yn pregethu dair gwaith ar y Sabboth hwn, a cherdded tua phymtheg milltir o ffordd; ond nid oedd gwneud hyn ond un o'i orchestion cyffredin ef. Byddai weithiau yn myned mor bell a Tabor, ar foreu Sabboth, a chyrhaedd gartref cyn cysgu, wedi pregethu ddwy waith, ac weithiau âi i Fynyddislwyn ac yn ei ol, wedi pregethu dwy, ac weithiau dair gwaith. Byddai hyn dros ugain milltir o gerdded yn yr un diwrnod, a phregethu yn galed drwy y dydd. Nid oedd yn edrych fawr ar ddyfod i Machen yn y boreu, a phregethu dair gwaith, ac yn ei ol y noswaith hono. Gwnai hyn o herwydd ei fod yn ewyllysio gwneud. Pe buasai yn dewis, cawsai le cyfleus i aros dros nos, a digon o garedigrwydd. Pan yn dyfod ar ei deithiau Sabbothol i'r Rhydri, deuai Mr. P. Rees, tad Treharne, Ysw., gydag ef, braidd bob amser. Yr oedd Mr. Rees yn hen aelod parchus yn Heolyfelin, ac yn golofn gadarn dan yr achos yn y İle. Bydded fod Duw y tad yn Dduw i'r plant, a phlant eu plant hyd byth. Ymddengys fod Mr. Rees yn hoff iawn o Mr. Harries, er yr amser y daeth at grefydd, ac wedi iddo ddechreu pregethu, daeth yn hoffach o hono. Bu yn pregethu lawer gwaith yn ei dŷ, a dilynai ef, fel y nodwyd ar ei deithiau, i lawer man, a gweddus yw crybwyll fod ceffylau Mr. Rees at wasanaeth Mr. Harries pryd bynag y buasai yn dewis.

Crybwyllasom am Mrs. Gibbon, Ffaldgerrig. Yr oedd y ddynes dda hon yn aelod gwreiddiol o Heolyfelin, ac felly yn teimlo yn gynhes at Mr. Harries, gan ei fod yntau hefyd yn aelod gwreiddiol o'r un lle. Yr oedd hon yn un o'r tri ag fu yn cadw y ganwyll i oleuo pobl ardaloedd y Rhydri am flynyddoedd Mrs. Gibbon, Mrs. M. Edmunds, a Mr. D. W. Dafydd, dyma y tri chedyrn a fuont nerthol yn y dyddiau gynt. Mae yn wir nad oedd Mrs. Gibbon yn gallu myned gyda'r ddau ereill i'r cyfarfodydd; eto, yr oedd ei henw yn berarogl yn y gymydogaeth. Profwyd wedi hyny fod gweddiau y tri hyn yn dderbyniol gan Dduw. Daeth bechgyn gwrol, megis Thomas Harry Jenkins, David Morgan, George Lewis, Edward Sion, &c., &c., 1 ymoryn am grefydd yn yr ardal, ac mae yr agwedd lewyrchus sydd ar yr achos yn y lle dan ofal Parch. J. Jones, yn eglur dangos mai nid ofer fu llafurus gariad crefyddwyr cyntaf y Rhydri. Gallem hefyd grybwyll gair am Mr. Harries, fel un o synwyr cyffredin cryf iawn. Dyma beth gwerthfawr iawn i weinidog sefydlog,—yr wyf yn dyweyd gweinidog sefydlog, am fod yn hawddach i ddyn deithio o fan i fan ag ychydig o synwyr cyffredin, nag aros yn yr un fan. Gwelai Mr. Harries yn mhell iawn, a thrwy hyn y bu yn alluog i gadw llawer terfysg maes o'r eglwys. Yr oedd yn gall fel y sarph, ac yn ddiniwed fel y golomen. Nid yn aml y gwelais ddyn â llygad mor graff ganddo i adnabod dynion ac amgylchiadau. Mae rhagweled y drwg yn fwy o gamp na'i attal wedi y tòro allan. Clywais ddyweyd am weinidog yn y Gogledd unwaith, mai y ffordd oreu i wneud ag ef fuasai rhoi gwely, bwrdd, a llyfrgell gydag ef yn y pulpud, a digon o fwyd o Sabboth i Sabboth, a gofalu na fuasai yn cael siarad â neb, ond â'r gynulleidfa, ar y Sabboth; ond nid oedd angen gwneud felly â Mr. Harries. Meddai ef ar ddigon o ddoethineb i ymddwyn yn briodol a chymeradwy yn mhob man. Pa le bynag y buasai yn cael drws agored unwaith, gallasai droi ei wyneb yno yr ail waith, a buasai ei roesaw yn sicr o fod gymaint, os nad mwy, yr ail waith na'r tro cyntaf. Fel enghraifft o'i sylw craff, cawn nodi y canlynol:—Pan nad oedd neb ond Mrs. James ac yntau yn grefyddol gyda'r Annibynwyr yn y Morfa, dywedodd Mrs. James wrtho un diwrnod, "Mr. Harris, rhaid i ni gael cyfeillach yma yn awr, yr ydym yn cael cyrddau gweddi a phregethu yma er ys blynyddau; ond ni chawsom yr un gyfeillach yma eto." "Na," meddai yntau," nis gallwn gael cyfeillach yn awr, o herwydd nid ydym ond dau, a rhaid i ni edrych at ein cymeriadau ar ddechreu yr achos yn y Morfa. Mae yn debyg ein bod ni yn ddigon gonest ein dau; ond beth ddywed y bobl am danom wedi i ni fod gyda'n gilydd yn cynal cyfeillach am awr neu awr a haner; pan gawn un atom, i fod yn witness, ni gawn gyfeillach.'

Gwelir wrth hyn, ei fod â'i "lygad yn ei ben," ac yn deall yn dda duedd lygredig pobl y byd, yn enwedig pan siaradant am grefydd a chrefyddwyr. Yr oedd ei ddoethineb yn uchel iawn yn ngolwg yr eglwys dan ei ofal; ei farn ef yn gyffredin oedd i fod yn derfyn ar bob dadl. Nid ydym wrth ddyweyd hyn, am daflu yr awgrym lleiaf ei fod yn tra awdurdodi ar etifeddiaeth Duw; na, deallai reolau y Testament Newydd yn well na hyny, ond yr oedd gan y bobl gymaint o olwg ar ei dduwioldeb a'i gallineb, fel y trosglwyddent yr hawl yn ddieithriad braidd i'w ddwylaw ef. Eisteddai ef yn y gadair isaf yn wastad, ond gorfodai y bobl ef i eistedd yn uwch, ac felly yr oedd iddo glod gerbron yr holl eglwys.

Gweithiodd yn galed am ychydig iawn o dâl. Yr oedd hyn o angenrheidrwydd yn y rhan gyntaf o'i weinidogaeth, o herwydd nad oedd yr eglwys ond bechan; ond ni fu ei fwrdd ef yn fras iawn wedi i'r eglwys gynyddu. Yr ydym wedi bod yn chwilio yn fanwl am yr achos o hyn, a dymunwn fod yn onest iawn wrth grybwyll am y ffaith. Mae yn eglur iawn mai golwg isel oedd gan Mr Harries arno ei hun, ac o ganlyniad nid oedd yn ystyried fod ei waith yn gofyn am dâl priodol; ac o herwydd hyn, ni byddai yn cymhell y bobl i fod yn haelionus tuag at y weinidogaeth gartrefol. Mae yn wir ei bod drueni mawr fod yn rhaid i weinidog son gair am arian; ond eto, lle na byddo'r egwyddor wirfoddol wedi ei deall, rhaid i'r gweinidog wneud, os na wna neb arall. Yn ol dim ag wyf wedi ddeall, byddai Mr. Harries yn gwrthwynebu pob symudiad er ychwanegu ei gyflog. Nis gwyddom pa beth oedd ei amcan yn hyn; dichon ei fod yn rhagweled y buasai symudiad o'r fath yn debyg o greu oerfelgarwch yn meddyliau rhyw rai, ac fod yn well ganddo adael pob peth fel yr oedd na hyny. Mae yn ddiau fod yn rhaid cael penderfyniad meddwl go gryf mewn gweinidog sefydlog i ddysgu y ddyledswydd bwysig hon i'r gynulleidfa, yn enwedig lle mae pregethu rhad yn boblogaidd iawn gan lawer. Nis gallwn gydymdeimlo yn iawn â Mr. Harries yn y peth hwn, gan na chawsom y drafferth ein hunain erioed. Mae peth arall yn amlwg iawn yn y cysylltiad hwn, sef fod cyfeillion y Morfa yn dra haelionus at amrywiol achosion a ddygwyddent ddyfod dan eu sylw; megis, y Colegau a chasglu at wahanol gapelau. Casglasant yn 1862 at y Genadaeth £3 6s., yr hyn oedd yn dda iawn mewn lle fel y Morfa. Casglasant at Fund yr hen weinidogion £4 4s., yr hyn oedd yn rhagorol.

Wrth edrych yn fanwl dros lyfr eglwys y Morfa, mae yn eglur fod yno un dosparth wedi bod yn ffyddlon a chyson iawn yn eu cyfraniadau, ac ni fyddai yn iawn beio eglwys y Morfa gyda'u gilydd, heb grybwyll y ffaith hon; ac felly yr hyn sydd yn angenrheidiol yn eglwys y Morfa, fel degau o eglwysi ereill, yw cydweithrediad. Mae yn llawn bryd i'r eglwysi yn mroydd Mynwy a Morganwg ddeall a chredu fod llafur meddyliol yn haeddu ei gyflog fel rhyw lafur arall, a dylent gofio gyda llaw mai cyflog gyfiawn yw tâl gweinidog, ac nid elusen. Mae'r eglwysi yn credu yn dra chyffredin yn awr mai melldith ac nid bendith yw gweinidogaeth rad.

Y mae yn llawn bryd i ni bellach grybwyll am dano fel pregethwr. Gellir dyweyd am dano, beth bynag, ei fod yn gwbl wreiddiol yn ei ddull ac yn ei bethau; ond, o ran hyny, gan ei fod ef wedi boddloni byw yr un fath ag y gwnaeth ei Greawdwr ef, nis gallasai fod fel arall, oblegid nid yw Efe yn gwneud dau yr un fath.

Yr oedd dull corph Mr. Harries yn hynod, ac felly am ei feddwl a'i ystum. Yr oedd ei ddull yn y pulpud yn effeithiol iawn, pan fuasai mewn hwyl. Nid oedd erioed yn ei fywyd wedi darllen unrhyw fath o draethawd ar araethyddiaeth; ac eto yr oedd ei ystumiau yn hollol naturiol ac effeithiol, a'r rheswm am hyny yn ddiau oedd, ei fod yn meddu ar brif elfen araethyddiaeth, sef teimlad: nid yw yr holl reolau ereill yn werth dim, os bydd hon ar goll. Nid yn fuan yr anghofiaf ei freichiau hirion yn estynedig dros yr areithfa, ar flaenau y rhai'n yr oedd dwylaw gyda'r mwyaf a welais erioed; a phan y byddai ef yn ei hwyliau goreu, rhedai hyawdledd a theimlad megis drwy flaenau ei fysedd. Nis gellir ei alw yn bregethwr mawr, yn ol yr ystyr a roddir i'r gair mawr yn y cysylltiad hwn yn gyffredin; ond er hyny, yr oedd yn bregethwr mawr mewn gwirionedd. Nid oedd yn fawr o herwydd ei fod yn gallu dyweyd pethau na ddeallai y bobl, ac na ddeallai ei hun—nid oedd un amser yn gwneud hyn. Nid oedd yn fawr o herwydd ei fod yn alluog i ddyweyd brawddegau hirion, nes y gellid gwneud rhaff llong o honyntnis gallai wneud hyn; ond os yw pregethu Crist, a hwnw wedi ei groeshoelio, i dorf o bobl, nes peri iddynt deimlo, yn gwneud pregethwr, yr oedd Mr. Harries felly; os yw bod yn ddefnyddiol ar hyd oes hir i droi pechaduriaid cyndyn at Waredwr, yn gwneud pregethwr mawr, gwnaeth ef hyny; ac os yw enill cymeradwyaeth gyffredinol yn y manau yr adwaenir dyn oreu, yn gwneud pregethwr mawr, yr oedd ef yn wir fawr. Buasai yn dda genym allu cael gafael mewn rhai o'i bregethau, fel y meddyliodd ac y dywedodd ef hwynt; ond nid oes dim o honynt ar gael; o herwydd ni ysgrifenodd ef linell o'i bregethau erioed. Nid oedd angen neillduol am hyny pan oedd yn ei nerth, o herwydd yr oedd ei gof rhyfeddol yn cario'r cwbl. Cofiai unwaith wyth ugain o bregethau; yr oeddent at ei law fel saethau mewn cawell, a gallasai afael yn yr un a fynai. Cofiai y pedair Efengyl bob gair unwaith, ac âi drostynt yn ei wely'r nos, pan fuasai pawb ereill yn cysgu yn dawel. Treuliodd ddegau o nosweithiau fel hyn heb gysgu dim; ond buasai yn dda iddo ef erbyn ei hen ddyddiau, yn gystal ag i ereill, pe buasai wedi ysgrifenu ei bregethau.

Yr oedd yn gyfarwydd iawn yn y Beibl, a medrai gymhwyso amgylchiadau ac adnodau er grymusu ei bwnc, yn hynod fedrus. Yr oedd mor gyfarwydd yn ei Feibl, fel yr oedd yn gallu darllen Cymraeg pur mewn Beibl Saesneg, yr hwn a ddygwyddai weithiau fod ar y pulpud; ac nid yn unig darllenai ryw sut, ond cadwai yr attalnodau a'r pwyslais yn rhagorol dda; ac yr oedd ei gydnabyddiaeth â'r Beibl yn gymhorth mawr iddo ar hyd ei oes.

Pregethodd lawer yn y blynyddoedd diweddaf ar y testun hwnw, "Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr—lanhâ ei lawr dyrnu, ac a gasgl ei wenith i'w ysgubor, eithr yr ûs a lysg efe â thân anniffoddadwy."

I. Yr eglwys dan y gymhariaeth o lawr-dyrnu.

II. Y gwaith mae Crist yn wneud ar ei eglwys—ei "llwyr-lanhau."

III. Yr hyn y cyffelybir y saint a'r rhagrithwyr iddynt "gwenith ac ûs."

IV. Yr hyn a wneir â'r ddau yn y diwedd,—"Casglu y gwenith i'r ysgubor, a "llosgi yr ûs." Sylwai fod gan Grist "wyntyll yn ei law, ac fod gan y "wyntyll " hono "bedair aden—aden y ddysgyblaeth—aden rhagluniaeth—aden erlidiau, ac aden y farn." "Yr wyf i, meddai, "wedi bod ar y llawr dyrnu am flynyddoedd lawer bellach, ac yr wyf wedi dal y driniaeth hyd yn hyn; ond mae y nithio mawr heb fod yn mhell, gobeithio na cha i ddim myned gyda'r gwynt y pryd hyny—ni cha y gwenith gwan, os yn wenith, ddim myned dros y garthen—gogoniant; a mwy na hyny, mae Duw yn gallu gwneud mwy nag un ffarmwr yn y wlad; mae Ef yn gwneud yr ûs yn wenith, ac yn wenith a ddaliant nithio y boreu mawr; mae y gwenith yn werthfawr iawn, mae yn cyrhaedd pris uchel yn y farchnad; mae y saint yn werthfawr—gwerth gwaed ydynt; talwyd yn ddrud am danynt gan Iesu wrth farw ar y groes.' Byddai yn hoff yn y blynyddoedd diweddaf o bregethu ar y testun hwn hefyd, "Tyn fi, a ni a redwn ar dy ol." "Gelwir y llyfr hwn" meddai (Caniad Solomon,) "yn gân cariad, ac mae yn right ei alw felly, o herwydd mae yma ddau yn caru, a'r ddau ryfedda 'rioed, sef Crist a'r eglwys. Crist garodd gynta', a fe sydd wedi caru fwya'. Peth rhyfedd iddo garu'r eglwys hefyd, oblegid 'doedd dim yn lân ynddi; na, yr oedd yn ddû ei lliw; ond fe'i carodd, a dylai hithau yn awr garu yn ol. Mae yma sŵn dyn ar lawr yn y testun"tyn fi—dyma'r fi ar lawr yn gofyn am help; tyn fi, 'rwy'n ffaelu d'od fy hunan; tyn fi, y fi sy' ar ffordd ; tyn fi, ac yna fe ddaw'r lleill—ni a redwn ar dy ol."

Er ys tuag ugain mlynedd yn ol, yr oedd yn pregethu mewn cyfarfod chwarterol yn Sion, Rumni. Ei bwne oedd, "Undeb y saint â Christ." Dywedai, "Mae nerth yn yr undeb hwn; i chi'n cofio am y cawr Goliah o Gath yn myned i warthruddo byddinoedd y Duw byw, a Dafydd, llencyn gwridgoch, yn myned i fanc yr afon i hol pump o gerig yr oedd crac yn ei ffydd ef hefyd, buasai un yn ddigon—dododd un o honynt yn ei sling, a tharawodd y cawr nes y soddodd y gareg fach yn ei dalcen, a Dafydd bach yn fuddygoliaethwr." Dywedai yn mhellach, mae yr undeb hwn yn un bywiol, ac mae yr holl aelodau yn derbyn eu bywyd a'u nerth o'r Pen. Mae holl aelodau y corph dynol yn derbyn cyfnerthiad o'r pen; mae co's bren weithiau, ond rhaid cael strap i ddal hono—dioich am y strap hefyd, pan fyddo angen am dani; ond nid oes ei heisieu ar aelodau Crist, oblegid mae bywyd ganddynt."

Soniai yn fynych am y dysgyblion yn ceisio attal y wraig o Ganaan at yr Iesu, ac mewn atebiad iddynt, dywedai hithau, "Gadewch i fi fyn'd." "Paid a blino'r Athro." "Sefwch o'r ffordd, (gan agor ei freichiau mawr,) mi fyna fyn'd;" "a phan ddaeth at y Gwaredwr, gofynai iddi, 'Be wyt ti yn mo'yn (mofyn)?' Mo'yn iechyd i'm merch.' 'Be 'dy'r mater arni?' 'Mae'n ddrwg ei hwyl gan gythra'l.' 'Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid cyfrgolledig tŷ Israel.' Be 'dy hyny i fi? mo'yn iechyd i'm merch w i.' 'Nid teilwng rhoddi bara'r plant i'r cwn.' 'Nid dyna mhwne i, mo'yn iechyd i'm merch w i. Os na cha i fara, rho friwsionyn bach i fi, fe fydd hyny'n ddigon i fi.' 'Hwra, (gan gydio yn y Beibl â'i ddwylaw), 'dyma'r dorth bob tamaid i ti, a gad lonydd i fi?'"

Clywais ef lawer gwaith yn myned dros ei hanes cyn iddo gael crefydd, ac yn rhoi y goron ar ben gras am ei attal ar y ffordd tua dystryw. "Clywais Heir, Casbach; ond myn'd own i. Gwrandewais John Elias; ond myn'd own i. Clywais Christmas Evans fawr o Fôn; ond myn'd own i. Yr own yn gwneud sport o Morgan Howell, o'r Casnewydd; ond, gogoniant, daeth Efe, a chas finau lawr."

Pregethai yn Nghymanfa Tresimwn, yn haf 1861, am saith o'r gloch yn y boreu. Ei destyn yno oedd, "Gwlad well y maent hwy yn ei chwenych,"—un o'i hoff destynau. Yr oedd yr effaith a ganlynai y bregeth hon yn dra nodedig, ac yr oedd ei leferydd y tro hwn yn profi yn amlwg ei fod yn addfedu yn gyflym i'r nefoedd. "Gwlad well y maent hwy yn ei haeddu," meddai. Nage, gwlad well y maent hwy yn ei chwenych. Mae yma lawer wedi ei chwenych er ys blynyddau, ac yr wyf inau wedi ei chwenych, ac 'rwy' i yn meddwl mai yno yr â i, onide, frodyr (gan droi at y gweinidogion ar y stage). Gwlad well,—mae yn well yn ei thrigolion; mae gen i lawer o ffryndiau da yn y wlad yma, ond mae gwell yno; yno mae llawer o'm hen gyfoedion i. Yno mae Hughes, Groeswen; Rowlands, Pontypwl, &c., a chyn y cwrddwn ni eto, yno bydda inau yno y cwrddwn ni nesaf; gobeithio y bydd yno lawer iawn o bobl y Gymanfa yma."

Yr oedd yn gwbl wreiddiol, ac ar ei ben ei hun fel pregethwr, ac anhawdd yw rhoi unrhyw ddrychfeddwl i'r rhai na chlywsant ef erioed, pa fath ŵr ydoedd ; ond yn awr, rhaid i ni adael yr hen frawd; ond cyn sychu yr ysgrifell, gadawer i ni roi tro i'w ystafell wely. Yr oedd er ys rhai misoedd yn methu pregethu, a bu am wythnosau yn methu dyfod o'i wely. Cawsom ein siomi yn hyn. Credem bob amser am dano, mai ar unwaith y buasai yn cael myned; a'n rheswm dros feddwl hyny oedd, ei fod wedi cael iechyd mor dda am oes mor hir; ond nid felly y bu. Buom yn ei weled ychydig o wythnosau cyn iddo huno, ac ni fuom mewn lle mwy cysegredig erioed. Yr oedd y dyn oddiallan â golwg wael arno, ond yr oedd rhyw arogl esmwyth ar yr ystafell, ac arwyddion eglur fod yno blentyn i Dduw ac etifedd teyrnas nef. Dywedai wrthym fod pob peth yn sound rhyngddo â Duw, ac adroddai yr hen bennill hwnw gyda nerth,—

Cyfamod rhad, cyfamod cadarn Duw,
Ni syfl o'i le, nid ïe nage yw," &c.

Dywedai wrth Mr. Davies, Risca, ar y pryd, ei fod ar ymadael â'r wlad yma; ac mewn atebiad, dywedai Mr. Davies fod gwlad well yn ei aros. "Ie, llawer gwell," meddai yntau, "a pheidiwch chwi myned i gountio tua Risca oco, oblegid nis gellir dweyd faint gwell." Yr oedd yn ceisio canu llawer iawn yn ei gystudd diweddaf. Nid oedd ganddo lais peraidd i ganu, mae'n wir; ond eto, canai â'r ysbryd, ac erbyn heddyw, mae yn gallu canu yn dda. Pan ddaeth awr ei ymddattodiad, yr oedd yn llawer cryfach nag yr oedd wedi bod, er dechreu ei gystudd, a gofynai yn hyf a gwrol, yn ngwyneb angau, "Angau, pa le mae dy golyn ?" Nid oedd ganddo yr un colyn i Mr. Harries, ac felly nid oedd ond cenad oddiwrth ei Dad i'w ymofyn tua thref. Cafodd fyned yn ei lawn hwyliau, ar yr ail ddydd Awst, 1862; ac ar y Mercher canlynol, ymgasglodd torf luosog i isod ei ran farwol yn y ddaear, gerllaw drws y capel ag y bu yn pregethu ynddo mor hir. Nid ydym yn cofio i ni weled angladd mwy galarus erioed. Nid yn unig yr oedd y perthynasau yn wylo, ond yr oedd yr holl eglwys â chalon drom, ac nid yn unig ei eglwys a'i enwad ei hun, ond enwadau ereill hefyd; ac nid oedd hyn yn rhyfedd 'chwaith, o herwydd yr oedd ef yn byw mewn heddwch â phawb, ac yn barod iawn i roi help llaw i bawb wrth angen, ac nid oedd neb yn fwy cymeradwy nag efe, gan wahanol enwadau y gymydogaeth. Gallesid meddwl weithiau ei fod ar fyned yn Drochwr, a phrydiau ereill ei fod ar droi yn Drefnydd, o herwydd byddai yn pregethu yn aml yn nghapeli y ddau enwad a nodwyd, ac yn barchus iawn ganddynt. Nid rhyfedd, o ganlyniad, eu bod yn galaru ar ei ol.

Ar ddydd ei angladd, pregethodd y Parchedigion H. Daniel, Cefncrib, a D. Davies, New Inn. Dechreuwyd gan y Parch. L. Lawrence, Mynydd Seion, Casnewydd. Anerchwyd y dorf ar lan y bedd gan y Parch. J. Jones, Rhydri, a gweddiodd yr Ysgrifenydd. Heddwch fyddo i'w lwch. Bendith a llwyddiant a ddilyno ei blant, a'i ŵyrion, a'i orŵyrion. Arosed tangnefedd a chariad yn yr eglwys; a phan ddelo boreu'r codi, bydded ein bod oll ar y ddeheulaw. Pregethodd Mr. Davies, New Inn, yn ol ei orchymyn, y trydydd Sabboth ar ol ei gladdu, ar ei destun ef ei hun, "Mi a ymdrechais ymdrech deg," &c.

Nodiadau

golygu