Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth/Pregeth III
← Pregeth II | Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth gan John Evans, Abermeurig |
Pregeth IV → |
PREGETH III.
GOGONEDDU DUW TRWY DDWYN FFRWYTH.
"Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad, trwy ddwyn o honoch ffrwyth lawer,. a disgyblion fyddwch i mi." ..IOAN XV. 8.
PAN y byddwch yn myned i mewn i'r gwahanol Museums yn y Brifddinas, neu ryw fanau cyffelyb, os bydd genych lygaid i weled, mae yno fanteision i chwi, trwy y cerfluniau a'r paintings, i ddal cysylltiad â phersonau, meddyliau, ac amgylchiadau yn yr oesoedd o'r blaen, y rhai y gellwch gael gwersi lawer oddiwrthynt. Ond, pe byddai ein deall yn gweithredu yn dda, ac yn gallu gweled deddfau natur yn briodol, gwelem ein bod mewn museum gogoneddus bob dydd ; a bod genym destynau i ryfeddu ac addoli, yn y gwersi a ddysgir i ni gan natur, am ddoethineb gallu a daioni y Creawdwr. Felly yr oedd holl natur i'r Person mawr a lefarodd ddameg y winwydden a'r canghenau; a diau genym fod y byd naturiol wedi ei amcanu i ddysgu i ni wersi am y byd ysbrydol. Gwelwn hyn yn amlwg oddiwrth y pregethwr goreu fu yn y byd erioed; hynod y fath wersi ysbrydol a ddysgai i'r byd trwy y pethau naturiol, yr oedd dynion yn fwyaf cyfarwydd â hwynt, megis yr hauwr, yr adeiladydd, y gwinllanydd, &c. A thrwy ddameg y winwydden yn y benod hon, mae yn dangos yr undeb agos sydd rhwng Crist a'i eiddo. Ac y mae adnod y testyn yn dangos yr angenrheidrwydd am ddwyn ffrwyth i'r diben i brofi yr undeb. Byddwn trwy hyny, yn gyntaf, yn gogoneddu Duw; yn ail, byddwn yn profi ein bod yn ddisgyblion i Grist. Edrychwn,
I. BETH YW Y FFRWYTH.—Mae y gymhariaeth yn gref, dangosir fod y pren yn y canghenau, a'r canghenau yn y pren, a bod y nôdd sydd yn cerdded trwyddynt yn dyfod yn fywyd tyfol a ffrwythlon. Felly y mae ei eiddo yn Nghrist trwy undeb ffydd, a Christ ynddynt hwythau drwy ei air a'i Ysbryd, yn allu i ddwyn ffrwyth ysbrydol er gogoniant i Dduw. Dangosir fod yn anmhosibl dwyn ffrwyth heb fod mewn undeb â Christ, "Hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim;" ond os mewn undeb âg ef, dangosir fod yr un ysbryd ag sydd ynddo ef, yn sicr o ddangos ei hun mewn ymdrech i fyw bywyd tebyg i Grist, trwy ddilyn esiampl Crist. Mae gwir undeb & Christ yn cynyrchu bywyd tebyg i Grist. Oddiwrth y winwydden y disgwylir grawnwin, ac oddiwrth yr hwn sydd yn Nghrist y disgwylir rhinweddau Cristionogol. Beth a ddisgwyliwch oddiwrth gangen fyddo mewn undeb bywiol â'r winwydden ond grapes yn bunches cyfatebol i'r nodd? a beth a ddisgwyliwch oddiwrth ddisgybl fyddo wedi ei ddwyn i fyny wrth draed ei athraw am gynifer o flynyddoedd, ond ei fod wedi yfed o'i ysbryd a'i ddysgeidiaeth, nes bod yn debyg iddo? Gwyddom mai un sanctaidd, diddrwg, dihalog, a didoledig oddiwrth bechaduriaid, oedd Crist; a bod ei hunanymwadiad y fath, nes gwneyd hunanaberthiad. Gwna pawb sydd mewn undeb ffydd âg ef dynu y nodd yma o hono er bod yn debyg iddo. Ac i ddangos hyn, edrycher ar yr apostolion, yn eu hymroddiad i bregethu yr efengyl, yn eu gwroldeb, eu hunanymwadiad, a'u hunanaberthiad, i fyned trwy bob rhwystrau yn ngwasanaeth Crist. Y ffrwyth a ddisgwylir gael ar bob disgybl i Grist eto, yw bywyd duwiol, sanctaidd, gonest, geirwir, hunanymwadol a hunanaberthol.
Mae llawer o honoch yn barod i ddweyd nad oes genych fawr o weithredoedd felly i'w dangos. Wel, "aroswch ynddo, megis na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y winwydden, felly ni ellwch chwithau, onid aroswch ynddo ef." Yr oedd yn nghynllun dwyfol yr iachawdwriaeth wneyd yr eglwys yn sanctaidd, ei chreu i weithredoedd da, er mawl gogoniant ei ras ef, yn gystal a gwneyd cyfiawnder i'w chyfiawnhau, gwneyd trefn i faddeu i'r troseddwr, a mabwysiadu yr estron i deulu Duw. Ond rhaid aros yn ngeiriau ac esiampl Crist tuag at fyw yn debyg iddo; a thrwy rinwedd yr undeb hwn yn unig y gellir dwyn y ffrwyth y dywed Crist am dano yma.
II. BETH YW AMCAN Y FFRWYTH.—Mae yma ddau beth yn yr amcan:
1. Gogoneddu y Tad.—Cynllun tragwyddol y Tad yw yr eglwys, iddo Ef y priodolir yr arfaethu, yr ethol, &c. Ac yn y cynllun hwn y mae wedi " rhaglunio" pa fath yw y rhai a wnant i fyny yr eglwys i fod, sef, yr un ffurf a delw ei Fab Ef." Yr oedd y gwaith o ddwyn haeddiant tuag at wneyd hyny wedi ei ymddiried i'r Mab. Yr oedd y Tad yn ewyllysio iddo farw er mwyn cael trefn i gyfiawnhau yr euog a golchi yr aflan. Ac O! fel yr ymhyfrydai y Mab yn hyny, fel y dywedodd, "Da genyf wneuthur dy ewyllys, o fy Nuw;" ac O! mor dda ganddo ar derfyn ei daith gael dywedyd, "Mi a'th ogoneddais di ar y ddaear, mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i'w wneuthur." Ac ar y groes dywedodd, "Gorphenwyd." Amcan Crist yn ei holl waith ef oedd gogoneddu y Tad; ac amcan yr holl gynllun yw cael pechaduriaid yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ger ei fron Ef mewn cariad."
Fel hyn y mae dyfeisiau yn dyfod i bob cynlluniwr. Wrth weled y train yn rhedeg ar y railway mor gyflym, a'r telegraph yn cludo y newyddion gyda'r fath frys, yr oedd y gwyr a'u cynlluniodd yn cael eu boddhau yn fawr, ac yn cael eu hedmygu hefyd gan eraill. Felly y mae gweled y pechadur yn aros yn Nghrist, ac yn ffrwytho, yn rhoddi boddlonrwydd mawr i'r Tad. A “phan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant," fel y mae yr adeiladaeth fawr, gadarn, wedi ei gorphen yn hardd, yn dyfod yn glod i'r cynllunydd. Os daw y winllan yn ffrwythlon, bydd hyny yn adlewyrchu gogoniant i'r gwinllanydd. Cynllun y Tad yw y cynllun, ac y mae dy weled yn byw yn sanctaidd yn adlewyrchu gogoniant iddo.
2. Profi ein bod yn ddisgyblion i Grist.—Mae y drychfeddwl o unoliaeth ac amrywiaeth mewn eglwys, yr un fath ag y mae mewn adeilad, ac mewn pren, gyda golwg ar y meini a'r canghenau ynddynt. Mae pob cangen unigol yn ffrwytho, ond nid o honi ei hun, mae yma undeb ac amrywiaeth. Pan welir y gangen yn tyfu, yn blodeuo, ac yn ffrwytho, mae hyny yn ddigon o sicrwydd ei bod mewn undeb bywiol â'r pren. Felly am fywyd y dyn duwiol. Ac y mae ffrwyth lawer yn rhoddi mwy o sicrwydd.