Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth/Pregeth IV

Pregeth III Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth

gan John Evans, Abermeurig

Pregeth V

PREGETH IV.

Y MYNYDDOEDD TYWYLL.

"Rhoddwch ogoniant i'r Arglwydd eich Duw, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a'i wneuthur yn dywyllwch."—JER. XIII. 16.

PAN y mae yn digwydd bod yn ddiwrnod teg, a nodedig o dawel, yn enwedig yn nhymor y gauaf, darogenir fod drycin, a dyddiau ystormus gerllaw; ac felly y mae, yn ol fel y mae sylw a phrofiad yn cadarnhau. Mae y dosbarth hwnw o ddynion, sydd yn chwilio i fewn i ddeddfau natur, yn egluro beth yw yr achos o hyn,—sef fod rhyw elfenau yn yr awyrgylch, sydd yn ei ddal mewn gweithrediad cyffredinol, yn cael eu caethiwo yn amser tawelwch ; a phan dorir y rhwymau, mae y rhai hyny fel yn "rhuthro allan o'r groth," mewn gwynt ystormus, fel pe byddent yn penderfynu adenill y tir a gollasant. Mae deddf debyg yn llywodraeth foesol Duw ; a gwelir hi yn gweithredu yn fynych, mewn canlyniad i lwyddiant tymhorol a manteision crefyddol wedi eu camddefnyddio. Pan y mae dynion yn amlhau pechodau yn ngwyneb daioni a gras Duw, bydd cyfiawnder yn fynych yn gorfod llechu o'r golwg megis mewn caethiwed; ond pan dorir ei rwymau, rhuthra ar y cyfryw mewn ystorm ddinystriol, fel y ceir esiamplau yn hanes yr hen fyd a dinasoedd y gwastadedd.

Mae llawer o'r cyffelyb siamplau i'w cael yn hanes y genedl y cyfeirir ati yn y benod hon. Yr oedd tymhorau llwyddianus iawn wedi myned drosti yn amser Heseciah a Josiah ; ond beth bynag o ddaioni a wnelai yr Arglwydd iddynt, trais ac ysbail oedd yn aros yn y tir, fel erbyn dyddiau Jeremiah, yr oedd holl awyrgylch uchelfreintiog y genedl yn llawn o arwyddion dryghin,— y "ddeddf ar esgor, a'r dydd ar fyned heibio fel peiswyn." Ac nid oedd gan broffwydi yr Arglwydd ddim i wneyd ond proffwydo drwg iddynt. Yr oeddynt wedi myned yn hynod o feilchion ar bwys trugareddau Duw, er eu bygwth â barnau am hyny. Ac os deuai rhyw gyfyngder arnynt, yr oeddynt wedi myned i ymddiried yn eu cyngor eu hun am waredigaeth. A chyfarwyddir Jeremiah yma i ddefnyddio dau o arwyddluniau. Un oedd gwregys a guddiwyd yn yr Euphrates, ag oedd wedi pydru, er dangos y modd y difwynid eu balchder; a'r llall oedd y "costrelau a lenwid gan win," i ddangos y modd y diddymid eu cyngor.

Ond cyn eu taro, dyma anogaeth daer a grasol arnynt i ddychwelyd a throi. "Rhoddwch ogoniant i'r Arglwydd eich Duw" Mae hyn yn cydnabod ei lywodraeth, cyffesu eu pechodau ac edifarhau am danynt, a dychwelyd at yr Arglwydd. "Cyn iddo ef ddwyn tywyllwch." Mae tywyllwch mewn ystyr ffigyrol yn arwyddo trallodau a gofidiau. Yn y fan hon arwydda y cyfyngder a oddiweddai y genedl, pan ddeuai y Caldeaid gyda gallu anwrthwynebol i'r wlad, a llosgi eu dinas brydferth â than. "A chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll." Mae rhai yn deall hyn mewn ystyr lythyrenol, am y mynyddoedd y deuai Israel i gyffyrddiad â hwynt pan ar eu taith i gaethiwed Babilon. Eraill a'u deallant am adeiladau mawrion Babilon, neu eilunod y Caldeaid. Mae Babilon yn cael ei galw yn "fynydd dinystriol" yn Jeremiah li. 25. Mynyddoedd tywyll iawn fu y llywodraeth Galdeaidd i Judea, pan ddygodd arnynt y fath ofid, dyryswch a chyfyngder.

Mae yn anhawdd i ni gael un adeg mewn unrhyw oes, hyd yn nod pan y byddo crefydd yn flodeuog, a dynion duwiol yn aml, ac yn para yn ffyddlon yn ngwasanaeth eu Duw, na byddo ymhob cynulleidfa ryw un, neu ragor, ag y byddo geiriau y testyn yn briodol iddynt. Ond ar adegau eraill, maent yn gymwys, nid yn unig i berson, neu deulu neillduol, ond i genedl a gwlad yn gyffredinol Ac os ydym yn deall arwyddion yr amseroedd, maent yn briodol genadwri at ein cenedl a'n teyrnas ni yn y dyddiau hyn.

I. MAE Y TESTYN YN CYNWYS FOD LLYWYDDIAETH DRYGFYD DYNION YN LLAW YR ARGLWYDD.—Nid oes un o bynciau sylfaenol gwir grefydd, sydd yn cael ymosod arno y dyddiau hyn gyda chymaint o haerllugrwydd a nerth, a llywodraeth Duw ar y byd. Mae yn cael ei wadu nid ar weithredoedd yn unig, ond mewn geiriau ac ysgrifeniadau. Y rhai sydd yn syrthio ddyfnaf i'r amryfusedd hwn, yw y rhai a dybiant eu bod wedi dringo ychydig uwchlaw y cyffredin mewn dealltwriaeth o wahanol ddeddfau natur, a phynciau gwybodaeth, ond yn amddifad o ffydd. Mae diffyg ffydd uwchben ail achosion, yn cadw dynion rhag myned at y gwreiddiol achos, ac ar yr un pryd yn eu llanw â balchder. Adeg beryglus i wneyd camsyniadau yw yr adeg rhwng tywyll a goleu. Gwna dynion weled gwrthddrychau, ond ni allant sicrhau beth ydynt; ac mewn adegau felly y mae cyfeiliornadau yn cael eu dechreuad, trwy fod dynion yn cymeryd yr hyfdra i ffurfio barn ar dybiaeth, ac yn ei mynegu fel sicrwydd.

Adeg rhwng y tywyll a'r goleu yw y dyddiau hyn mewn llawer ystyr; a gwelir llawer o rai eofn ac anochelgar yn syrthio i gyfeiliornadau pwysig gyda golwg ar bynciau sylfaenol crefydd. Da fyddai i ni ddal, mewn dyddiau fel hyn, ar dystiolaethau eglur y gwirionedd, hyd nes y gwawrio y dydd, pan na byddo eisiau dweyd wrth neb "Adnebydd yr Arglwydd," gan y bydd pawb yn ei adnabod, ac yn cydnabod ei lywodraeth. Mae yn wir fod "cymylau a thywyllwch o'i amgylch, a bod ei farnedigaethau yn ddyfnder mawr," ond gwyddom mai "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu," ac y gellir dweyd "dyn ac anifail a gedwi di Arglwydd. Tân a chenllysg, eira a tharth, y gwynt ystormus a'r dymhestl, sydd yn gwneuthur ei air ef; mae ef yn llunio goleuni ac yn creu tywyllwch, yn gwneuthur llwyddiant ac yn creu drygfyd. Myfi yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn oll." Llechwch yn dawel yn nghysgod ei dystiolaethau am dano ei hun. Cyn iddo, Ef ddwyn tywyllwch.

1. Efe sydd yn dwyn trallodau tymhorol.—Gwna hyn weithiau â phersonau a theuluoedd, trwy anfon afiechyd hir neu glefyd heintus. Gall ddwyn tywyllwch trwy dynu yr amddiffyn oddiar ein synhwyrau, yr hyn fyddai yn dywyllwch mawr. Bobl, a ydym yn gweled gwerth ein synhwyrau ? Mae miloedd yn yr un byd a ni heddyw, fu yn meddu synhwyrau digon cryfion i lywodraethu achosion pwysig perthynol i deulu, cymdeithas, neu wladwriaeth, ond sydd yn awr yn faich ar gymdeithas a theuluoedd, ac yn berygl iddynt eu hunain ac eraill o'u hamgylch. Cofiwn fod y cysylltiadau dirgelaidd, ar ba rai y mae ein synhwyrau ninau oll yn crogi, yn dyner iawn, a phe byddai y rhai hyny yn tori, neu gael eu hanmharu, elem yn wallgofiaid ar unwaith.

Ond yr hyn yr amcanaf alw eich sylw ato yn benaf, yw y trallodion hyny, sydd yn y dyddiau hyn yn dechreu taenu eu cysgodion tywyll dros ein teyrnas yn gyffredinol, neu dros ranau helaeth o honi. Mae rhan o'n trugareddau wedi cael eu nodi â haint er's llawer o flynyddau; ac y mae hyny wedi achlysuro i laweroedd o deuluoedd ffurfio habit o fywiolaethu, sydd yn eu harwain i dlodi a chyfyngder. Ar ol hyny dyna ranau helaeth o'n gwlad wedi cael eu dwyn i drallodau gan haint yr anifeiliaid. Mae miloedd trwy hyn wedi cael eu dwyn o sefyllfa o oleuni a chysur, i sefyllfa o drallod a thywyllwch. Ond yn y pethau a nodwyd, nið yw yr ergydion ond yn cael eu gollwng dros ein penau, heb eu taflu i'r castell. Erbyn hyn, modd bynag, mae wedi dyfod yn nes atom trwy yr haint sydd yn ysgubo ei chanoedd a'i miloedd yn ddisymwth i fyd arall, mewn aml gwm o'r deyrnas. Er hyny, araf iawn, trwy drugaredd, y mae yn amlygu ei anfoddlonrwydd. Nid yw yn dywyll iawn eto, bendigedig fyddo ei enw am hyny. Beth yw y trallod mae wedi ei ddwyn arnom ni at yr hyn a ddygodd ar Juda; pan y gwarchaewyd ar Jerusalem nes treulio nerth y bobl gan y newyn, pan y llosgwyd y palasau â thân, pan y cafodd y wlad hyfryd ei throi yn anialwch, a'r trigolion eu caethgludo i wlad ddieithr? Beth yw y trallod y mae wedi ei ddwyn arnom ni at y tywyllwch sydd yn gorchuddio India'r dwyrain y flwyddyn hon (1866). Rhaid i ni gyfaddef nad yw yr adfyd sydd wedi ein goddiweddyd ni, yn deilwng o'i gymharu â'r hyn a welodd llawer cenhedlaeth; ond yr un pryd, y mae y pethau a nodwyd, yn dangos fod yr Arglwydd wedi dyfod allan o'i fangre i ymweled â ni yn ei anfoddlonrwydd.

2. Efe sydd yn dwyn tywyllwch moesol. Cawsom ni ein geni mewn gwlad lle yr oedd goleuni gwerthfawrocach na'r haul yn tywynu. O bob goleuni a gawsom, goleuni yr efengyl yw y gwerthfawrocaf. Mae miloedd o'r rhai a eisteddent yn mro a chysgod angau, trwyddi hi wedi gweled goleuni mawr. Beth feddyliech am golli yr efengyl o'n plith? Nid oes perygl y collir yr efengyl o'r ddaear mwy, hyd nes "rhoddi y deyrnas i fyny i Dduw a'r Tad;" ond gall gael ei chymeryd oddiar un genedl a'i rhoddi i un arall, yr hon a ddygo ffrwyth iddo yn ei amser. Gwnaeth hyny â'r Iuddewon, a gwnaeth hyny âg eglwysi Asia Leiaf. Nid yw dan rwymau i adael yr efengyl i ninau, os byddwn yn ddibris o'i goleuni. Hyn ddaethai a thywyllwch ar ein gwlad! Mae trallodau tymhorol yn dywyllwch blin, ond beth yw hyny at golli yr efengyl o'n gwlad? Mae llygru ein hawyrgylch naturiol gan heintiau afiachus yn ofid mawr, ond llawer mwy fyddai llygru ein hawyrgylch grefyddol gan gyfeiliornadau. Peth difrifol iawn fyddai "newyn am fara a syched am ddwfr," ac heb ddim i'w ddiwallu; ond llawer mwy fyddai "newyn am air yr Arglwydd." Mae wedi anfon newyn felly cyn hyn (Amos viii. 11, 12). Nid ar unwaith y mae yn myned yn dywyll; na, mae cysgodau yr hwyr yn ymestyn cyn y llwyr gilia y goleuni. Nid ar unwaith y mae Duw yn cymeryd yr efengyl o wlad—gadewir yr athrawiaeth i ddwylaw dynion heb ysbryd gweinidogaeth, a muriau Seion i wylwyr diofal am burdeb yr athrawiaeth a'r ddisgyblaeth. Ac â pethau ymlaen felly am amser maith, heb i'r cyfryw bryderu fawr am y dyfodol.

Mae lle i ofni fod canoedd mewn tywyllwch yn swn efengyl yn y dyddiau hyn, sef caledwch calon, yr hyn sydd yn rhagflaenu tywyllwch arall, sef symudiad yr efengyl ymaith. Gwel weledig. aeth y pedwar anifail, Dat. vi. 1—8. Rhoddodd Duw ddynion i "fyny i amryfusedd cadarn fel y credent gelwydd." Cosbi un pechod â phechod arall, "am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig." Maent yn myned i galedwch calon, ac yna yn taro eu traed wrth y mynyddoedd tywyll." Maent yn cael eu gollwng i ynfydu yn eu rhesymau cnawdol eu hunain. Crist yn ei Berson a'i efengyl yn myned yn "faen tramgwydd iddynt, ac yn graig rhwystr." Un o'r barnau trymaf a all oddiweddyd neb yw caledwch calon yn swn efengyl. Mae arnaf ofn fod gŵr y tŷ wedi digio wrth ddegau o ddynion, oherwydd iddynt ddirmygu ei ymrysoniadau â hwynt y blynyddoedd o'r blaen, a’i fod erbyn hyn wedi dwyn tywyllwch arnynt, a'u bod yn dechreu taro eu traed wrth y mynyddoedd tywyll, trwy ameu y Bôd o Dduw, gwirionedd crefydd, dwyfoldeb y Beibl, &c. Er cael efengyl, maent heb glust i'w chlywed yn ei hyfryd sain, ac heb lygad i weled ei phrydferthwch, na chalon chwaith i deimlo ei nerth. Ond gobeithiwn nad oes neb o honom yn y caddug ofnadwy hwn.

II. Y DYLAI YSTYRIAETH O HYNY EIN CYFFROI I EDIFEIRWCH PRYDLON A DIDWYLL.— —Gan fod pob llywodraeth yn llaw y Duw yr ydym yn pechu i'w erbyn, mae yn gweddu i ni roddi y gogoniant iddo, trwy edifarhau am ein beiau a dychwelyd ato Ef. Mae ganddo Ef filoedd o ffyrdd i oleuo ar ein llwybrau, a miloedd o ffyrdd i dywyllu arnynt hefyd. Gan ei fod Ef wedi dyfod allan i'n ceryddu, nid gwiw i ni ymgyndynu mewn un modd, gan mai Efe a orchfyga yn y diwedd. "Mae llawer o ddynion duwiol eto yn y wlad," meddai rhywrai. Oes, yn ddiameu. "Onid oes gan yr Arglwydd olwg fawr ar y rhai hyny a gofal mawr am danynt ?" Oes, mae'n wir. Ond dichon mai o achos y rhai hyn y mae yr adfyd yn benaf. Nid yw pechodau neb mor annioddefol gan Dduw a phechodau ei bobl; ac y mae yn debyg o arfer moddion chwerw er eu cael oddiwrthynt, fel na'u damnier gyda'r byd, ac er mwyn eu cael at eu dyledswydd. Yr ydych yn cofio hanes y llestr hono, pwy ddydd, oedd yn hwylio o Joppa i Tarsus, yr hon a gyfarfyddodd ag ystorm ofnadwy. "Pa ryfedd ?" meddai rhywrai, "onid crew o ddynion paganaidd oedd ar ei bwrdd ?" Ië, ond nid o achos yr un o honynt y daeth yr ystorm, ond o achos un teithiwr oedd ynddi; ac ni pheidiodd y môr a'i gyffro nes cael Jonah anufudd i'w geudod, am mai efe oedd mewn man ac agwedd na ddylai fod—yn cysgu mewn llong, yn lle bod yn Ninifeh yn traethu cenadwri Duw. O pa gynifer o giefyddwyr sydd mewn agweddau annheilwng, mewn manau na ddylent fod, yn y dyddiau hyn ? Gwelir Seion yn cysgu, a'r byd yn prysuro i ddamnio ei hun. Helyntion masnach ac amgylchiadau yn myned a meddwl yr eglwys yn llwyr, a'r byd yn marw o eisiau gwybodaeth. A welwch chwi y brawd yna sydd yn hollol ymroddedig i'r byd, a'r brawd acw yn y dafarn yn diota? Meddylier am y cydorwedd a'r anlladrwydd sydd yn myned ymlaen ! Pa ryfedd ei fod yn dwyn tywyllwch arnom. Dymunwn am ras i gofio ei lywodraeth, ac edifarhau yn brydlon a gwirioneddol.

Mae digon o Sabeaid a Chaldeaid eto gan Dduw i ruthro arnom, ac ysglyfaethu hyny o feddianau sydd genym; mae ganddo wyntoedd cryfion i fwrw pob adeilad a feddwn i lawr ar eiliad; ac y mae ganddo glefydau a'n rhoddai mewn un dydd mor anniddan a phoenus â Job. Hawdd y gall Efe ddyrysu masnach ar fôr a thir, a throi pob peth yn fethiant; ac, mewn canlyniad, y gweithwyr heb neb i'w cyflogi, &c. Beth a ganlynai ond tywyllwch? Mae wedi tywyllu ychydig yn barod mewn llawer cyfeiriad, trwy yr heintiau, y gwlybaniaeth, a panic yr ariandai. Dywedir y gwna "preswylwyr y byd ddysgu cyfiawnder, pan y byddai ei farnedigaethau ar y ddaear?" onid gwell dysgu cyn iddo Ef ddwyn tywyllwch Yr ydym wedi cael iechyd da, a synhwyrau yn eu lle am flynyddoedd; ond, atolwg, pwy gafodd eu gwasanaeth? Yr ydym wedi cael cynhauafau llawnion, mewn ansawdd dda, am flynyddoedd, a llwyddiant amgylchiadau ; ond, ai nid i droi olwynion llygredigaeth a gwastraff y cafodd y ffrydiau hyn eu cyfeirio?

Onid priodol yw galwad y testyn i gydnabod llaw Duw, ac edifarhau? Yr ydym yn gweled fod perygl os na wnawn. Mae y testyn yn agor drws gobaith, ac yn dangos fod yn bosibl i ni atal y tywyllwch tymhorol a moesol, trwy roddi y gogoniant i Dduw. Rhoddwn ein cyrff yn aberth byw iddo, cysegrwn ein hiechyd a'n synhwyrau i'w wasanaeth, a defnyddiwn lwyddiant amgylchiadau yn ffrydiau i droi olwynion achos Duw ar y ddaear.

Ond y mae tywyllwch anocheladwy o flaen pawb o honom, pryd y diffoddir pob goleuni naturiol, sef cyfyngder marwolaeth. Mae hwnw mor sicr a machludiad haul—"gosodwyd i ddynion farw unwaith." Dichon fod yma aml un a wna ddianc rhag llawer o gyfyngderau tymhorol, ond nid oes yma neb a all ddianc rhag marw. Ar yr un pryd, yr wyf yn ofni fod yma rai heb ei bod yn dda rhyngoch â Duw. Nid oes yma neb, mi feddyliwn, nad yw yn meddwl edifarhau a rhoddi gogoniant i Dduw, cyn y daw y nos, ond hwyrach fod y tywyllwch yn nes nag yr ydych wedi meddwl. O! gymaint o ffolineb yw gadael y pethau mwyaf pwysig i groni hyd yr hwyr. Feallai y bydd haul dy fywyd yn machlud yn nghanol "tymhestl nid bychan yn pwyso arnat," fel y bydd yn rhy dywyll i ganfod un gilfach a glan, na gweled un man i fwrw angor hyder am drugaredd. Bydd yn anhawdd y pryd hwnw gael un meddwl mawr am drugaredd Duw, ac am ei barodrwydd faddeu er mwyn Iesu Grist. Byddi yn taro y traed wrth y mynyddoedd tywyll, wrth gofio y breintiau a gamddefnyddiwyd, ac euogrwydd yn llanw y meddwl o'r herwydd, pan yn gwybod fod cyfiawnder yn ymddangos a thrugaredd yn ymguddio. Ni fydd cymaint a goleuni seren, sef adnod o'r Beibl, i'w chanfod trwy y niwl caddugawl fydd yn toi y glyn. Os äi ymlaen mor bell a hyn heb edifarhau, un o fil, os nad o filiwn, na bydd y tywyllwch, y dyryswch, a'r braw, y byddi yn eu teimlo, yn ddechreuad tywyllwch. eithaf y byddi ynddo byth, lle y byddi yn taro dy draed yn ddiderfyn wrth fynyddoedd tywyll euogrwydd ac anobaith, yn wyneb deddf, dan nawdd cyfiawnder dwyfol, fydd yno yn ei ddal.

O enaid gwerthfawr, dyro y gogoniant yn awr i'r hwn sydd yn dy alw yn raslawn i ddychwelyd ato. Mae y testyn yn llawn gras cyn iddo ddwyn tywyllwch." Nid oes dim yn well na bod ar delerau da â'r hwn sydd yn llywodraethu ar bob peth. Bydd yn hyfryd ar y cyfiawn hyd yn nod pan yn marw. Bydd chwerwder marwolaeth wedi myned ymaith. Bydd gweled Iesu yn hwylio i'w gyfarfod, trwy oleuni addewid, yn troi cysgod angau yn foreu ddydd ; ac yn y cyfwng, bydd yntau yn cael entrance i'r goleuni tragwyddol. Rhed i gysgod yr Hwn fu yn y tywyllwch ar Galfaria, yna bydd pob peth yn dda.

Nodiadau

golygu