Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Barddoniaeth Alarnadol

Cofiant Mrs. Elizabeth Everett Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Extracts

BARDDONIAETH ALARNADOL.


PENILLION AR OL Y PARCH. ROBERT EVERETT, D. D.,
REMSEN, N. Y.

Mae Seion Americ a'i gruddiau yn wlybion
A galar a thristwch yn gwelwi ei gwedd;
Yn nydd yr uchelwyl ei threm sy'n ddigalon,
Am fod y tad Everett yn huno'n y bedd.
Heb bwyll ac arafwch y duwiol arweinydd,
Mae perygl i'r gwersyll ymdd'rysu mewn braw;
Heb onest rybuddion y ffyddlawn wyliedydd,
Mae'n berygl fod adeg dirywiad ger llaw.

Nid dysg heb athrylith, nid dawn heb dduwioldeb,
Ond cydbwys fantoliad, y naill fel y llall,
A'i cododd i binacl o fawr ddefnyddioldeb,
Nes myned yn ddychryn i fyddin y fall;
Athrawiaeth fendigaid a santaidd ei Geidwad,
Ddefnynai fel neithdar o'i wefus i lawr;
A hon adlewyrchai 'n ei hardd ymarweddiad,
Ail ddweyd ei bregethau wnai 'i fywyd bob awr.

Dyn Duw fu'n ei gartref, ac felly 'n ei ardal,
Fel yn yr areithfa, a'i fuchedd yn bur;
Cynyddu ei rasau wnai trafferth a gofal,
A gloewi ei grefydd wnai trallod a chur;
Ni fu yn arlwyo i eraill ddanteithion
Y trefniant cyfryngol heb fwyta ei hun,
Ni huliodd ddysgleidiau o flaen ei gyd-ddynion
Heb gael manna enaid wrth ddarpar pob un.

Nid rhuad taranau, na rhuthrau y gwyntoedd,
Nid hinon o'r tecaf, na stormydd ar fôr,
Nid bydol fwynderau, cyfeillach na gwleddoedd,
Wnai iddo anghofio cymdeithas ei Iôr;
Yn agos i'r orsedd, yn nhawel ddirgelwch
Ei Arglwydd Goruchaf y treuliodd ei oes;
Tra eraill mewn rhyfel, 'r oedd yntau mewn heddwch,
Yn gwledda ar felus rawnsypiau y groes.


Newmarket yn Nghymru a gadd yr anrhydedd
O fagu y seraph, mab penaf ei bro;
Bu Dinbych a llawer o fanau yn Ngwynedd
Ar flaenffrwyth ei ddoniau yn gwledda am dro;
Yn minio'i bregethau 'r oedd nefol eneiniad,
Wnai ddryllio a thoddi calonau 'r un pryd,
Gan wau am yr enaid ryw gadwyn o gariad
I'w dynu i fynwes Iachawdwr y byd.

Llaw Duw a'i harweiniodd i'r Unol Dalaethau,
Maes penaf ei lafur 'n ol arfaeth y Nef,
I gadw'r ymfudwyr Cymreig o grafangau
Llywodraeth y fagddu sy'n greulawn a chref;
I Gymry a Saeson bu hidliad ei ddoniau,
Fel tyner gawodydd, llawn bendith a lles;
A cha'dd llawer euog fyn'd lawr ar ei liniau,
A llawer un clauar ei lenwi â gwres.

Bu'n dad i'r Cenhadwr, ystorfa bwyd nefol,
Er's meithion flynyddau sy'n fendith i'r oes;
Yn hwnw rhoes ganoedd o wleddoedd rhagorol,
I feithrin hil Gomer mewn crefydd a moes;
Dysgleidiau traethodol o fwyd cryf i'r doethion,
Ond resin, a ffigys, a llaeth i rai bach;
Pur enllyn y Duwdod, dil mêl a gwin Helbon
Arlwyodd yn fisol;-gwledd flasus ac iach.

Ei hyglod Genhadwr fu'n tanio meddyliau
A nefol dan rhyddid, nes oeddynt yn fflam;
Diarbed fagneliad ei rymus erthyglau
Fu'n gymhorth i ddatod cadwynau plant Ham;
Dadleuodd dros ryddid pan oedd yn ddirmygus,
Yn wawd ac yn ogan gan fawrion y wlad;
Bob mis pleidiai achos y caethwas truenus
Mewn geiriau llosgedig, hyd ddydd ei ryddhad.

Ar ddysg y Cenhadwr e fagwyd enwogion
Sy' heddyw'n brif ddynion yr eglwys a'r byd,
Dan wres ei belydrau bu gwag ofergoelion
A drwg arferiadau yn gwywo yn nghyd;
Ei lithiau ysbrydol fu'n foddion adfywiad
Mewn llawer sefydliad Cymroaidd trwy'r wlad;

Nid oes ond y bythfyd rydd gywir amlygiad
O rym ei ddylanwad a maint ei leshad.

I Gymry heb ddeall na phregeth na gweddi,
Na thraethawd nac araeth ond yn yr hen aeg,
A swn yr estroniaith o'u hamgylch fel dyli',
Heb freintiau crefyddol i'w cael yn Gymraeg,
Rhyw drysor annhraethol ei werth fu'r Cenhadwr,
Yn llenwi lle 'r breintiau a gaent gynt yn nhref;
Efe oedd eu hathraw a'u hunig bregethwr,
I'w dysgu mewn crefydd a'u harwain i'r nef.

Gwnaeth lawer gweinidog yn fwy o ddyn Iesu,
A llawer proffeswr yn llawnach o sêl,
Ca'dd Laodiceaid eu cyflawn gynesu
Gan wres ei anerchion, ddyferent fel mel;
Cyfnerthodd ryw lawer wrth ddisgyn i angau,
Er bod yr oer ddyfroedd yn fferu eu traed,
Dyfnderau'r glyn tywyll gyffroent a'u seiniau
Am olud trugaredd a rhinwedd y gwaed.

Parhaed y Cenhadwr i weithio a brwydro,
Er myn'd o'i sylfaenydd i orphwys mewn hedd;
Tra lluoedd y fagddu yn para i ymddullio,
Parhaed y Cenhadwr yn finiog ei gledd;
Boed delw ei sefydlydd o hyd i'w wel'd arno,
A'i ysbryd angylaidd yn nawsio pob rhan;
Er fod llyfrau'n methu, a "ser" yn machludɔ,
Parhaed y Cenhadwr i esgyn i'r lan.

Nid yw Dr. Everett o fewn ei fyfyrgell
Yn llunio syniadau dihalog a glân,
O'i bin ni ddyfera, yn llinell ar linell,
Feddyliau i osod y gwledydd ar dân;
Nid yw mewn cyfeillach yn tywallt balm nefol
I archoll ddolurus brawd eiddil a gwan,
Nid yw wrth glaf wely pererin cystuddiol
Yn offrwm taer weddi i'r nef ar ei ran.

Nid uwch y prawfleni mae heddyw 'n y swyddfa,
Ond uwch cyfrol arfaeth ar oriel y nef;
Nid yw yn pregethu 'n mhrif gwrdd y gymanfa,
A'i ran mewn cymanfa o uwch y mae ef;

Yn nghadair cynadledd nid yw yn llywyddu,
Ei gadair a'i gwmni ragorant yn mhell;
Wrth fwrdd y cymundeb nid yw'n ymhyfrydu,
Fe aeth i gymundeb sy' filwaith yn well.

Mae'r dawn wnai'r wynebau'n ffynonau o ddagrau,
Trwy randir Oneida mor ddystaw a'r bedd;
Mae gwron dewr Seion fu'n llywio ei brwydrau,
Yn gorphwys yn dawel, diosgodd ei gledd;
Mae'r gwersyll galarus i syrthni'n ymollwng,
'Nol colli'r llais bywiog fu'n tanio eu gwaed,
Pa beth ddaw o'r fyddin? Ai cael ei darostwng
Gan lu y Philistiaid, yn wasarn i'w traed?

Na atto y nefoedd! Cyfoder gwroniaid
I ymladd â'r gelyn yn ysbryd a nerth
Yr hoff Doctor Everett, a'u crefydd yn danbaid,
Yn llawn o sêl fflamiol Preswylydd y berth;
Rhai pur na chaiff llymaid o wirod hud-ddenol,
Na myglys ffieiddsawr â'i boeredd a'i fwg,
Wanychu eu hegni, na phylu awch nefol
Arfogaeth eu henaid wrth ymladd â'r drwg.

Un pur a thryloyw oedd Everett, yn gochel
Holl leidiog dir cellwair a chorsydd y blys;
Gwnai ddod at ei frodyr fe pe buasai 'r angel
Agosaf i'r orsedd yn disgyn o'r llys.
Yn llawn o danbeidrwydd pur, santaidd a nefol,
A'i wyneb fel Moses 'n ol bod gyda'r Iôr,
A chariad ei fynwes, fel eiddo 'r apostol
Fu â'i ben ar fron Iesu, can ddyfned a'r mor.

Mae eglwys Dduw'n colli gwasanaeth enwogion;
Aeth Everett a Rowlands, dau ddoctor o'r byd;
Mae'r dewr Morris Roberts, ac S. Williams,[1] ffyddlon,
Ar lanau'r Iorddonen yn chwilio am ryd;[2]
Y prif efengylwyr, yr hoelion wyth gollir,
Man hoelion esgidiau diglop welir mwy;
Mae cyfnod y cewri ar ben, a chanfyddir
Rhyw dô o gorachod yn dod o'u hol hwy.


Tra cenedl y Cymry yn caru yr heniaith,
Bydd enw'r tad Everett yn hoff ganddi hi;
Trwy Gymru a'r Unol Dalaethau eangfaith,
A thorch anfarwoldeb coronir ei fri;
Ei fywyd edmygir tra dyn yn Oneida,
A'r haul yn goreuro y bryniau lle bu;
Ei santaidd ddylanwad o hyd ymled-daena,
A'i gofiant flodeua uwchben y bedd du.

Parhaed ei hoff deulu 'n fagwrfa duwiolion,
Parhaed ei eglwysi yn ffrwythlawn ac ir,
Ei famwlad fo'n codi meib eto mor gryfion
A'i chedyrn fynyddoedd i bleidio y gwir;
Mawryged ol-oesoedd ei bêr goffadwriaeth,
A'i grefydd fo'n gynllun crefyddol i fyrdd;
O lanerch ei feddrod, 'n ol tywallt ein hiraeth,
Gwnawn frysio i'w ganlyn i'r llenyrch byth wyrdd.


DEWI EMLYN.
Parisville, Ohio.


MARWNAD AR OL Y DIWEDDAR BARCH. ROBERT EVERETT, D. D.

[BUDDUGOL YN EISTEDDFOD UTICA, IONAWR 1, 1877.]

Ffowch drafferthion dibwys daear
Draw, clwyfedig yw fy mron;
Hen gymdeithion chwerwon galar
Sydd yn llywodraethu hon;
Er ymdrechu am ddyddanwch,
Ify mynwes, megys cynt,
Cilio 'n llwyr i dir tywyllwch
Wnaeth dedwyddwch ar ei hynt.

Troais at fy nghymydogion
I gael gwel'd oedd ganddynt hwy
Falm i ysgafnhau fy nghalon,
A lliniaru 'm dirfawr glwy;
Ond arwyddion trallod welais
Yn teyrnasu yn mhob man;
A galarus iaith a glywais,
Nes diffygio'm henaid gwan.


Everett hawddgar, dy symudiad
Ymaith, draw o'n daear ni,
Barodd archolledig deimlad,
Drwy fy mron hiraethus i.
Tyred awen fwyn, dadebra,
Hwylia'th edyn uwch y llawr,
Ac mewn odlau pêr darlunia
Heddyw 'n llawn fy nhrallod mawr.

Rhai ddywedant, Paid ag wylo,
Sych dy ddagrau, bydd yn llon ;
Y mae Everett yn gorphwyso,
Heb un gofid dan ei fron.
Rhaid i'm dagrau gael eu rhyddid,
I ymdreiglo dros fy ngrudd;
Ac i'm hocheneidiau hefyd,
Ddyfod o'u carcharau 'n rhydd.

Os oes ambell un dideimlad,
Yn fy ngalw heddyw'n ffol,
Ac yn gwneyd i'r balch dibrofiad
Estyn bysedd ar fy ol—
Dichon y cânt hwythau eto
Yfed o drallodion llawr,
Pan y bydd gofidiau 'n llifo
Atynt fel llifeiriant mawr.

Rhaid im' draethu fy nheimladau,
Gwawdied holl ynfydion byd;
Ac adseinied uchel fryniau
Daear fy ngruddfanau i gyd.
Ymadawiad Everett dirion,
Fu mor ffyddlon dan bob croes,
Aeth fel picell drwy fy nghalon,
Nes byrhau prydnawn fy oes.

Ni chanfyddaf wawr goleuni
Yn ymddangos o un man,
Fel y gallwyf o'm trueni,
Gyrhaedd eto at y lan;
Echrys donau môr trallodion,
Sydd yn rhuo ar bob llaw,

Nes mae holl deimladau'm calon
Yn llesgau gan ofn a braw.

Nid un teulu sydd mewn galar,
Nac Oneida drist ychwaith;
Lluoedd drwy bellafoedd daear
Sydd a'u llygaid heddyw 'n llaith;
Sain wylofain ddyg awelon
O gyffiniau'r Werydd draw,
A galarnad prudd drigolion,
Glanau y Tawelfor ddaw.

Er fod Everett yn gorphwyso,
A hardd goron ar ei ben,
Mae llinynau 'n serch am dano,
Fel yr eiddew am y pren;
Ac fe bery ein hymlyniad
Anwyl tuag ato ef
Hyd y dydd cawn deg fynediad
Adref i drigfanau 'r nef.

Wrth arsyllu ar ei lwybrau,
Teg ac uniawn is y nen,
Trwy fil myrdd o orthrymderau,
Ni cheir achos gostwng pen;
Yn nghymdeithas ffydd y teithiodd
Ddyrys fryniau'r ddaear hon,
Hyd ei fedd, a thawel hunodd,
Heb yr un derfysglyd don.

Braidd na thybiwyf na bu'n rhodio
Yn ein byd anwylach un,
Er y pryd daeth Iôr i wisgo
Natur wan, llygredig ddyn;
Delw 'i Nefol Dad dywynodd
Ar ei ysbryd tawel ef;
Ac fel llewyrch haul esgynodd,
Mewn dysgleirdeb tua'r nef.

Syllwn arno, draw yn Nohymru,
Pan yn fachgen ieuanc iawn,
Fel Elias yn cynhyrfu
Lluoedd gyda'i rymus ddawn;

Fflam angerddol oedd yn llosgi,
Yn ei fynwes, megys tân,
Wrth draddodi'r genadwri
Gafodd gan ein Prynwr glân.

Hyf gyhoeddodd iechydwriaeth
Duw i euog fel myfi,
Ac wrth deimlo dros achubiaeth
Dyn, gollyngai ddagrau 'n lli;
Llawer darlun prydferth roddodd,
O anfeidrol gariad Iôr—
O'r bendithion fyrdd anfonodd
Ef o'i annherfynol stôr.

Ar ol dyfod dros y Werydd
I'r Amerig uchel glod,
Gwasanaethu ei Waredydd,
Heb ddiffygio, fu ei nod;
Ni lychwinodd ef ei ddillad
Prydferth gyda phethau'r llawr:
Ond ymborthi wnaeth ar gariad,
Tyner ein Hiachawdwr mawr.

Ni choleddodd ef genfigen,
At un brawd o fewn y wlad—
Yn eu llwyddiant byddai lawen
Beunydd, megys tyner dad;
Cyd-ymdrechodd gyda'i frodyr,
Yn y weinidogaeth fawr,
I ddwyn dynion i gydnabod
Hawliau Llywydd nen a llawr.

Pan bu Finney yn cynhyrfu
Swydd Oneida gyda'i ddawn,
Gan ddwyn llawer un i waeddi,
Arglwydd grasol, beth a wnawn?
Everett dyner mewn difrifol
Eiriau a ddyrchafai 'i lef,
Gan gyfeirio 'r edifeiriol
At fendithion teyrnas nef.

Hwyr a boreu yr ymroddodd
I lesoli'n cenedl ni;

Ac er llawer croes gosododd
Arnom ychwanegol fri;
Ond cywilydd sydd yn perthyn
I'n wynebau ni yn awr,
Am na chafodd yntau dderbyn
Teilwng wobr i'w lafur mawr.

Yn mhlith tywysogion Seion,
Yn ein gwlad ni welais un,
Fu 'n fwy diball mewn ymdrechion,
Teilwng i ddyrchafu dyn;
Trwy y wasg bu'n hyf wynebu
Ar bechodau pena'r oes,
Ac o'r pwlpud yn pregethu
Rhagorfreintiau angau'r groes.

Gwel yr Holwyddoreg destlus,
Roddodd i hyfforddi 'n plant,
Ac i'w harwain dros bob dyrys
Fryn, i deg orphwysfa'r sant;
Eglurhaodd bob gofyniad,
Gyda byr atebiad llawn,
Ac anfeidrol ddwyfol gariad
Duw at ddyn, yr hwn a gawn.

Yn ei gasgliad o ganiadau
Cysegr Iòr, a gawsom ni,
Gwelir llawer o emynau,
Fyddant o anfarwol fri;
Maes y Plwm, a Phant y Celyn,
A enynant ynom dân,
Ac Ann Griffiths gyda 'i thelyn
Seinber, ddaw mewn nefol gân.

Fel golygydd i'r Cenhadwr,
Bu'n wyliedydd ffyddlon iawn,
Yn darparu i'w ddarllenwyr,
Luaws o ddysgleidiau llawn;
Yr ysgrifau oedd a gwenwyn
Ar eu hedyn, gadwodd draw;
A'r diles ddadleuon cyndyn,
A wasgarodd ar bob llaw.


Plant yr ysgol Sul drwy Gymru,
Ac Amerig hefyd, sydd
Yn mwynhau y claer oleuni,
A wasgarodd ef mor rhydd;
Ac mae llawer tyner blentyn,
A oleuwyd drwyddo ef,
Heddyw 'n canu seinber delyn,
Yn mhalasau heirdd y nef.

Gweithiodd gyda phob diwygiad
Gwladol, drwy ei weithgar oes,
Er cyfarfod gwrthwynebiad,
A chyfodi llawer croes;
Nid oedd hudawl addewidion
Dynion yn ei ddenu ef;
Ac nid all'sai holl fygythion,
Gelyn brwnt ddystewi 'i lef.

Gwnaeth ei ran yn ddoeth a gwrol,
I ddwyn sobrwydd dros y byd,
A chondemnio'r fasnach feddwol,
A'i holl ddawn a wnaeth o hyd;
Tan eneiniad nef y teithiodd,
I argymell dirwest lon,
Ac ar gopa 'r bryniau safodd,
I gyhoeddi breintiau hon.

Y gaethfasnach a'i choleddwyr
Creulawn, fu yn nod i'w saeth,
A chyfodi ofn a dychryn,
Ganwaith yn eu rhengau wnaeth ;
Dewr ymladdodd yn ei herbyn,
Gyda'i rymus finiog gledd,
A cha'dd wel'd y dydd pan roddwyd,
Ei "hysgerbwd" yn y bedd.

Gwelir dydd pan byddo enwau
Clodfawr penrhyfelwyr byd,
Oll mewn gwarth, a'r gwaedlyd frwydrau,
Wedi eu anghofio'i gyd;
Ond enillodd Everett enw,
Bery mewn urddasol fri,

Pan bydd llais o'r nef yn galw,
"Aeth y byd i'n Harglwydd ni."

Er mai tawel, diymhongar
Efengylwr ydoedd ef,
Rhyw awdurdod bron digymar,
A ddilynai 'i dyner lef;
Clywais ef yn dweyd ei brofiad,
Pan oedd bron ar ben ei daith;
A'r holl dorf yn dangos teimlad
Nefol, gyda gruddiau llaith.

Prudd hyfrydwch i'm golygon,
Ydyw edrych arno ef,
Pan yn nesu at yr afon
Ddu, sydd rhyngom ni a'r nef—
Gwel'd ei hawddgar wyneb tawel,
Wedi llwyr ddystewi'r don,
Ac yn siriol roddi ffarwel,
I oleuni 'r ddaear hon.

Mae 'm dychymyg am ei ddilyn,
I ardaloedd y wlad bell,
I gael gwel'd ei wisg ddilychwin,
Mewn cymdeithas llawer gwell;
Ond ni flinaf eich amynedd,
Gyda ffol ddychymyg gwan;
Digon yw, aeth i dangnefedd,
I fwynhau ei ddedwydd ran.

Ffarwel i ti, Everett hawddgar;
Huna'n dawel yn y bedd;
Nis gall holl derfysgoedd ddaear,
Mwyach aflonyddu 'th hedd;
Cwsg, gofalir am dy ddeffro
Yn y boreu mawr mewn pryd,
Pan bydd angel Iôr yn bloeddio,
Nes dihuno yr holl fyd.

Os yw natur heddyw'n gofyn
Prudd deimladau dan ein bron,
Ac yn tynu llawer deigryn,
Allan o gilfachau hon;

Cawn gyfarfod a'n cyfeillion,
Ar heirdd fryniau'r nefol wlad,
Pan fydd holl deimladau'r galon
Wedi derbyn llwyr iachad.

PHILEMON,
Sef MR. ELLIS THOMAS, Utica, N. Y.

ENGLYNION ER COFFADWRIAETH AM Y PARCH.
ROBERT EVERETT, D. D.

Ar ein memrwn mae amryw—wnaent lawer
At loywi dynolryw;
Ac Everett fel y cyfryw,
Mae 'i enw i fod yma'n fyw.

Ei sylw a fynodd sylfaenu—dirwest,
O herwydd ymlygru
Ei genedl,—er ei oganu,
Gwr o farn dyoddefgar fu.

Ond drwy ddal dyfal, y daeth—ei oddef
Iddo 'n fuddugoliaeth;
Ei synwyr yn ei wasanaeth
Enillai'r oes—yn well yr aeth.

Ffrwd y meddwl cyffredin—arafodd
Yn ei ryfyg gerwin;
A thaer fu wrth y werin,
Rhag ofera gyda gwin.

Y cen ar lygaid canoedd—a dyfodd
Nes difa'u galluoedd;
Wrth ei rym, syrthio yr oedd,
A gwell llewych gai lluoedd.

Seren ddydd ein cysuron ddaeth—efo
Ei hyfawl anturiaeth;
Arogl sur o'r eglwys aeth,
Fu rwd dwl i'r frawdoliaeth.


Heblaw y dirwestol blan—pwnc arall
I'r pen cariodd allan,—
Am amser hir, gwir, mai gwan,
Y bu'i achos, a bychan.

Caeth-wasanaeth, coethus hynod—eto
Fel mater cydwybod,
Medrai ef ei lym drafod,
Yn dda 'i naws, er mor ddu 'i nod.

Nerth anobaith, gwrthwynebu—daliodd,
A dwylaw heb laesu;
Yn mhob cynadl a dadlu
Yn d'weyd ei farn diwyd fu.

Ond dedryd diwydrwydd—ydyw llwyddiant,
A lluddio lledneisrwydd;
Metha chwant er moeth a chwydd,
Neu ystryw anonestrwydd.

Gwelai fuddugoliaeth—yr egwyddor
Guddiai'r weinidogaeth,
A rhyw hug o warogaeth
Efo'r llu, am fara a llaeth.

Ond trodd olwyn trwy ddylanwad—gwrol
Dyngarwyr diymwad,
A'i ddadl ef ddodai ei wlad,
Yn werinol arweiniad.


EOS GLAN TWRCH.

  1. Bradford, Pa.
  2. Yr oedd y ddau hen frawd clodfawr yn fyw pan gyfansoddwyd y penillion hyn.