Cofiant y diweddar Barch Robert Everett/Cofiant Mrs. Elizabeth Everett

Dr. Everett fel Diwygiwr Cofiant y diweddar Barch Robert Everett

gan David Davies (Dewi Emlyn)

Barddoniaeth Alarnadol

COFIANT MRS. ELIZABETH EVERETT,

STEUBEN, SWYDD ONEIDA, E. N.


GAN Y PARCH. EDWARD R. HUGHES, STEUBEN.


Yr wyf yn teimlo mai nid gwaith rhwydd i mi ydyw ysgrifenu cofiant i wrthddrych mor deilwng ag ydoedd Mrs. Everett; a hyny am ddau reswm. Yn gyntaf, nid dynes gyffredin ydoedd o ran meddwl, dysg, na duwioldeb; ond safai o'i hysgwyddau i fyny yn uwch na'r mwyafrif o'i chylch. Yn ail, yn mlynyddoedd diweddaf ei hoes y daethum i gyffyrddiad â hi, pan oedd y pren almon yn blodeuo, a'i nerth yn cyflym ballu. Adnabyddais hi ychydig dros bedair blynedd yn ol, pan ydoedd oddeutu 76 mlwydd oed. Ond y mae hen ddyddiau, fel rheol, yn dweyd yn bur eglur pa fodd y treuliwyd cyfnodau blaenorol y bywyd. Y mae ffrwyth yr hydref yn dweyd am flodau y gwanwyn a thyfiant yr haf. Y mae pob peth "yn deg yn ei amser”—blodau yn y gwanwyn, a ffrwyth yn yr hydref. Pan y gwelais Mrs. Everett gyntaf yr oedd ffrwythau hydref profiad yn llawn arni. Yr oedd llaw gras wedi bod yn gweithio arni am driugain mlynedd. Yr ydoedd yn golofn hardd yn tystio mai daionus a thrugarog ydoedd y Duw fu yn ei wasanaethu.

Rhoddwn yma amlinelliad o'i hanes, ac ymdrechwn wneyd rhai sylwadau ar brif nodweddion ei chymeriad. Yr oedd Mrs. Everett yn ail ferch i Mr. Thomas ac Elizabeth Roberts, Rosa Fawr, ger Dinbych, Gogledd Cymru. Ganwyd hi Mai 8, 1797. Yr oedd ei thad yn ddyn o safle bwysig a dylanwadol yn y sir y trigianai ynddi yn ddiacon parchus iawn yn eglwys henafol Dinbych-o ran ei dduwioldeb yn ddiamheuol; ac yn nglyn â'r enwad y perthynai iddo adnabyddid ef yn mhell ac yn agos. Bu farw yn y flwyddyn 1834, ac yn y Cenhadwr, Hydref, 1842, cawn y nodiad a ganlyn: "Bu farw gan adael tystiolaeth gref mai Crist oedd ei fywyd, a bod marw iddo yn elw tragywyddol."

Am Mrs. Roberts, mam Mrs. Everett, dywedir ei bod yn ddynes uwchlaw y cyffredin ar lawer o ystyriaethau. Yn yr un Cenhadwr ceir cofiant rhagorol gan ei barchus olygydd iddi. Gwnawn y dyfyniadau canlynol allan o hono: "O ran cryfder ei chyneddfau yr oedd yn rhagori ar y cyffredin; o ran ei thymer naturiol, yr oedd yn addfwyn, yn bwyllog a dwys; fel cymydoges, yn serchog, caruaidd a dirodres; wrth y tlawd yr oedd yn dyner ac elusengar, ond yn ei thylwyth ac yn eglwys Dduw y gwelid ei gwerth fwyaf.” Terfynodd ei gyrfa ddaearol Mawrth 5, 1842, a chladdwyd hi yn meddrod y teulu yn Llanrhaiadr, ger Dinbych.

Yr oedd Elizabeth yn un o naw o blant, o'r rhai nid oes ond dau yn fyw-John, yn Sacramento, Cal., a Henry, yn Utica, N. Y. Yn 1836, ar ol marwolaeth ei thad, dewiswyd ei brawd Nathaniel yn un o ddiaconiaid eglwys Lôn Swan, Dinbych, a llanwodd y swydd hono er anrhydedd iddo ei hun a chysur i'r eglwys hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Gorphenaf 20, 1879. Bu Jane, ei chwaer ieuengaf, yn briod â'r Parchedig Edward Williams, un o'r cenhadon cyntaf, ffyddlonaf a mwyaf llwyddianus yn mhlith yr Hottentotiaid a'r Negroaid yn Affrica Ddeheuol.

Bu y llinach adnabyddus, parchus a chrefyddol hon yn byw yn Rosa Fawr am agos i bedwar ugain o flynyddoedd, pryd y prynwyd y lle gan foneddwr a fwriadai ymsefydlu yno ei hun.

Teimlid dylanwad crefyddol y teulu drwy y wlad o gylch yn mhob cyfeiriad. Yr oedd yn "dwr cadarn" i achos Ymneillduaeth yn y cylchoedd hyny pan nad oedd ond yn dechreu enill nerth, ac yr oedd Rosa yn llety clyd a chysurus i weinidogion a phregethwyr yr efengyl drwy y blynyddoedd. Nodweddid yr holl deulu gan sirioldeb, cymwynasgarwch a charedigrwydd, ond nid oedd un o honynt yn fwy felly nag Elizabeth. Yr oedd wedi ei chymwyso gan natur a gras i fod yn gyfrwng hapus i ddedwyddoli eraill. Byddai y rhai a ymwelent ag anedd ei rhieni yn myned ymaith gyda y syniadau uchaf am garedigrwydd, sirioldeb ac addfwynder yr eneth Elizabeth.

Ar aelwydydd crefyddol y megir enwogion y ffydd bron yn mhob oes a gwlad. A chafodd gwrthddrych ein cofiant ei geni mewn teulu hynod am eu crefydd, a'i dwyn i fyny o dan gronglwyd lle y perchid y Beibl ac yr arferid plygu glin ger bron gorseddfainc y gras. Cynelid yno addoliad teuluaidd gyda y cysondeb a'r rheoleidd-dra mwyaf, a'r nefoedd yn unig a wyr werth y rhagorfraint o gael ein magu mewn teulu fel hyn, oblegid tyr dylanwadau yr aelwyd allan yn ffrwyth yn y cymeriad. Yr oedd rhieni Mrs, Everett o amgylchiadau bydol pur gysurus; felly yr oeddynt yn alluog i roddi i'w plant fanteision addysgiaeth uwchlaw yr hyn a fwynheid yn gyffredin yn y dyddiau hyny. Credai ei rhieni mewn gosod allan ychydig o'u pethau bydol ar feddyliau eu plant; amcanent at ddadblygiad meddyliol yn gystal a chorphorol eu rhai bychain; a gwyn fyd na fyddai mwy o'r un ysbryd. Cafodd Elizabeth yn bur foreu y fantais o yfed o ffynonau dysgeidiaeth, ac yr oedd ôl y ddysgeidiaeth a gafodd yn nhymor ei hieuenctyd i'w weled arni yn ei hen ddyddiau. Medrai droi yn esmwyth yn y gymdeithas fwyaf gwrteithiedig. Cafodd ei gwreiddio yn lled dda yn elfenau darllenyddiaeth a rhifyddeg, a chyrhaeddodd wybodaeth bur eang a manwl o'r iaith Seisnig, yr hyn fu iddi yn hwylusdod mawr wedi dyfod drosodd i'r wlad Seisnigaidd hon. Yr ydym yn cael i'r Parch. Arthur Jones, D. D., Bangor, fod yn athraw iddi am beth amser, ond nis gwyddom pa hyd. Siaradai Mrs. Everett yn y modd cynesaf bob amser am Dr. Jones, a thybiwn na fu ei ddylanwad yn anffafriol iddi.

Fel y tyfai i fyny amlygodd chwaeth neillduol at ddarllen; ymhyfrydai yn nghymdeithas rhai o'r ysgrifenwyr goreu. Nid darllen er difyrwch yr ydoedd, ond er cyrhaedd gwybodaeth, a thrwy hyny ddyfod yn aelod defnyddiol o'r ysgol Sabbothol. Gadawodd yr ysgol ddyddiol pan yn gymharol ieuanc, ond parhaodd i fod yn ddysgybl ac athrawes, fel y byddai galw, o'r ysgol Sabbothol hyd derfyn ei gyrfa. Dywedir mai hi oedd un o gychwynwyr cyntaf y sefydliad gogoneddus hwn yn Ninbych, ac ni throdd ei chefn arno wedi dyfod drosodd i'r wlad hon. Fel athrawes gwnaeth ddaioni nas gwyr neb ond Duw ei faint. Cymerai y dyddordeb mwyaf yn y dosbarth fyddai dan ei gofal. Nid yn unig medrai gyfranu yn ddeheuig ac effeithiol y wybodaeth a feddianai, ond hefyd meddai ar y cymwysder ardderchog hwnw sef y gallu i ddeffroi meddyliau ei dysgyblion. Gwnai hyn yn bur rhwydd a didrafferth. Y mae llawer heddyw, yn ngwahanol barthau y wlad, yn bendithio ei henw a'i choffadwriaeth oblegid y lles a dderbyniasant drwyddi yn y cymerind o athrawes yn yr ysgol Sabbothol.

Fel hyn yr oedd Mrs. Everett yn gwybod yr Ysgrythyr lân er yn ieuanc, ac nis gallasai gofio adeg pan nad oedd yn meddu argraffiadau crefyddol. Yr oedd er yn blentyn yn meddu tuedd gref i roddi ei hun i "fyny i'r Arglwydd ac i'w bobl yn ol ei ewyllys," a phan yn yr oedran tyner o 16 mlwydd oed, derbyniwyd hi i gymundeb fel aelod eglwysig yn Ninbych, gan y Parch. Thomas Powell, yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog yr eglwys yn y lle. Cyfeiriai yn aml at yr adeg hono, a siaradai gyda pharch neillduol am y gwr Duw" a estynodd iddi ddeheulaw cymdeithas. Os am ddyfod yn ddefnyddiol gydag achos Duw rhaid dechreu yn foreu. "Da i wr ddwyn yr iau yn ei ieuenctyd."

Awst, 1816, ymbriododd â'r Parch. Robert Everett, olynydd ei hen weinidog yn Ninbych, a bu iddo yn ymgeledd gymwys yn llawn ystyr y gair hyd derfyn ei oes. Yr oedd yn meddu ar galon digon eang i gydymdeimlo ag ef yn yr holl drafferthion yr aeth drwyddynt yn nglyn a'i ddyledswyddau fel gweinidog, gwleidiadwr, a golygydd. Nid rhwystr iddo fu-nid plwm wrth ei odreu ydoedd i'w anhwyluso yn ei symudiadau ; ond bu yn gymorth iddo ar ei daith faith a llafurfawr. Gwelir ysgogiadau y goeden, ond ni welir y gwynt sydd yn eu hachosi; felly gwelir y gweinidog doeth a gofalus, y gwleidiadwr tanllyd ac ymroddgar, a'r golygydd chwaethus a manwl; ond bydd y wraig o'r golwg, er mai iddi hi yn aml y gellid priodoli i raddau mawr lwyddiant ac effeithioldeb llafur ei gwr. Yr effeithiau wêl llygad dyn, ond gwêl llygad Duw yr achosion a'u cynyrchant, ac ef yn unig wyr faint o effeithioldeb llafur Dr. Everett oedd i'w briodoli i'w briod ddoeth, synwyrol, a chrefyddol.

Bu iddynt un-ar-ddeg o blant, pump o fechgyn a chwech o ferched; ond nid oes ond saith yn fyw, y rhai ydynt oll mewn amgylchiadau cysurus, ac yn ymdrechu rhodio yn llwybrau eu rhieni enwog a duwiol.

Mae John, eu mab hynaf, yn byw ar fferm o'i eiddo ei hun yn Kansas; Lewis, yr hwn sydd yn olynydd i'w dad fel golygydd y Cenhadwr Americanaidd, yn Steuben; Edward yn Turin, N. Y.; Mary yn Homeopathic physician yn ninas New York; a'r tair eraill, sef Jennie, Anna, a Sarah (gweddw y diweddar Mr. Wm. R. Prichard), yn nghyda'u nai, John Edward, mab John, ar dyddyn eu diweddar rieni.

Yr ydym wedi crybwyll yn barod fod Mrs. Everett yn enwog am ei theimlad crefyddol cryf; a chyfeiriwn yn awr at rai o'r moddau y dangosai y teimlad hwnw ei bun. Trwy y blynyddau cedwid i fyny addoliad teuluaidd ar ei haelwyd, ac yn aml byddai ei phriod yn cael ei alw oddicartref gan ddyledswyddau oeddynt yn nglyn a'i "alwedigaeth nefol," i'r hon y cysegrodd ei fywyd; ond ni fyddai yr addoliad byth yn cael ei esgeuluso. Yr oedd yn meddu ar ddigon o wrolder moesol i arwain yn y gwasanaeth. Golygfa hardd oedd gweled gwraig, yn absenoldeb ei phriod, yn agor yr hen Feibl, ac wedi darllen "allan o gyfraith yr Arglwydd," yn myned ar ei gliniau gan gyflwyno achos ei theulu i ofal Tad pob daioni, ac erfyn am i fendith y Nef gael ei thywallt arnynt, ac am i amddiffyniad Rhagluniaeth fod drostynt. Hyd yn nod pan y buasai ei phriod gartref, gwnai yn aml, ar ei gais ef, arwain yn yr addoliad, a byddai ei gweddiau yn afaelgar, gwresog, bywiog, a chynwysfawr. Amlygai bob amser y parodrwydd mwyaf i ymgymeryd â'r gorchwyl; yr oedd yn wastad o ran ei meddwl mewn teimlad gweddigar. Gyda y taerni mwyaf gweddïai dros yr eglwys, gweinidogion, a chenadau; ac yn neillduol dros y tô ieuanc; a gwnai hyny gyda'r fath deimlad a dwysder nes difrifoli pawb a'i clywai. Gyda chynesrwydd diolchai am drugareddau ei Thad nefol. Yr oedd ynddi y teimlad dyfnaf o'i hannheilyngdod, a chydnabyddai yn y modd mwyaf diolchgar ddaioni ac hir-ymaros Duw tuag ati. Mynych o flaen gorsedd gras yr adroddai y geiriau melus a ganlyn o eiddo Jeremiah: "Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu am danom; o herwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. Bob boreu y deuant o'r newydd; mawr yw dy ffyddlondeb."

Cyfarfyddodd y chwaer hon yn Israel a llawer o dywydd garw a phrofedigaethau ar ei thaith drwy y byd; cafodd y chwerw yn gystal a'r melus; y storm yn gystal a'r tywydd teg. Daeth i'w rhan rai damweiniau poenus; y rhai a roddasant iddi esgyrn drylliedig ryw bump o weithiau. Un tro, mor ddiweddar a phymtheg mis cyn ei marwolaeth, pan yn myned i'r cyfarfod, ar foreu Sabboth yn y gauaf, taflwyd hi o'r sleigh a thorodd ei chlun mewn dau fan. Dyoddefodd yn fawr iawn yn ganlynol i hyny, ac ni adferwyd iddi mwyach ei nerth cyntefig; eto daeth yn alluog i fynychu cynulliadau yr eglwys yn dra rheolaidd a chyson.

Fel yr oedd yn tynu tua'r porthladd dymunol yr oedd y stormydd fel yn lluosogi ac ymgryfhau; gwelwn hi yn colli ei hanwyl briod wedi bod yn cyd-deithio yr anial, yn cyd-ddwyn beichiau bywyd, yn cydofidio a chyd-lawenhau am flynyddau meithion, Ergyd trwm oedd hwn iddi, eto parodd iddi feddwl mwy nag erioed am y wlad dda yr aeth ei phriod iddi, ac ar yr hon yr oedd ei gwyneb hithau er's blynyddau lawer. Buan ar ol hyn claddodd ddwy o'i merched, sef Cynthia ac Elizabeth, anwyl briod y Parch. J. J. Butler, D. D., Hillsdale, Mich. Bu y trallodion chwerw hyn yn foddion iddi ollwng ei gafael yn fawr ar bethau y byd hwn a pheri iddi awyddu mwy nag erioed am y wlad hono lle nad oes ing, gofid, nac angau o'i mewn. Er gwaethaf y cwpaneidiau chwerw hyn bu yn ofalus i beidio dyweyd dim yn ynfyd yn erbyn Duw; a theimlai os oedd wedi derbyn cymaint o'r "hyn sydd dda" o law ei Thad Nefol, y dylasai hefyd gyda thawelwch, ymroddiad ac ymostyngiad dderbyn yr "hyn sydd ddrwg." Rhyfedd y fath ymddiriedaeth oedd ganddi yn y Duw da sydd yn llywodraethu yn amgylchiadau plant dynion. Gwelid erbyn hyn ei bod yn tynu yn gyflym tua gororau gwlad well, a gellid meddwl wrthi ei bod yn fwy cymwys o lawer i'r nefoedd nag ydoedd i fyw yn y byd hwn. Yr oedd ei thraed yn cyffwrdd â'r ddaear, ond yr oedd ei hysbryd yn anadlu yn awyrgylch y nef. Yr oedd anian y wlad nefol yn ei henaid, ysbryd y nef yn anadlu drwy ei holl ymddyddanion, a delw y nef fel yn gorphwys ar ei holl ysgogiadau; ac nid oedd y fath drysor i gael ei gadw yn hir bellach yn y byd hwn. Nid hir y bu heb i angau, "brenin braw," ddyfod yn mlaen i wneyd ei waith, a Mawrth 12fed, 1878, yn 80 mlwydd, deng mis a phedwar diwrnod oed, hunodd ein hanwyl chwaer Mrs. Elizabeth Everett yn dawel yn mreichiau ei Chyfryngwr. O, mor ddymunol oedd yr olwg arni! Os oedd yn rhy wan i fyw, yr oedd yn ddigon cryf i farw. Mor werthfawr yw crefydd Crist! Y fath brofiad cysurus a meddwl tawel y mae yn ei roddi yn y fath amgylchiad! Mae yn rhoddi rhyw ddylanwad rhyfedd ar feddwl ei meddianydd. Ei chlefyd ydoedd pneumonia. Rhyw ddau neu dri diwrnod cyn i'r "clefyd a fu iddi i farwolaeth" wneyd ei ymosodiad arni, galwodd ei hen gyfaill y Parch. Jas. Griffiths, Cattaraugus, i'w gweled; a hynod mor dda oedd ganddi gael ychydig o'i gymdeithas. Teimlai Mr. Griffiths yn ddiau ei bod yn debyg nas gallasai ei gweled byth mwy ar dir y byw; a siaradai, ar ei waith yn ymadael, rywbeth am ansicrwydd bywyd, pan yr adroddodd hithau, gyda rhyw nerth a dwysder mawr y geiriau hyny o eiddo y Salmydd, "Os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto ei nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith." Gosododd bwyslais neillduol ar y gair "ehedwn," a diameu ei bod yr adeg hono yn teimlo ei hedyn fel yn dechreu cael eu gosod mewn ystum briodol ar gyfer yr ehedfa oedd o'i blaen.

Cafodd gystudd trwm, ond nid maith. Dyoddefodd lawer y pythefnos diweddaf, ond yr oll gyda thawelwch ac amynedd mawr. Nid oes angen gofyn pa fodd y teimlai yn ei horiau olaf, na pha fodd yr ymdarawodd yn y bwlch cyfyng. Yr oedd ei theimlad yn angau yn hollol gydgordiol â'i bywyd blaenorol. Bu farw fel y bu fyw. Gwasanaethodd Dduw yn ei bywyd, a gogoneddodd Dduw yn ei marwolaeth. Galwodd cyfaill i'w gweled yn ei chystudd, a gofynodd iddi "Pa un oedd oreu ganddi, gwella, neu gael ei chymeryd i'w chartref yn y nef." Atebodd, "Buaswn yn caru aros ychydig yn hwy gyda y plant yma." Tawelodd am ychydig, yna ychwanegodd, "Nid ydwyf yn teimlo fy mod mor barod i fyned a'r rhai sydd wedi myned, ond yr wyf dan law yr un Arweinydd." A gwnaeth yr Hwn a'i "harweiniodd a'i gyngor ac a'i tywysodd a'i ewyllys ei harwain yn ddiogel i ogoniant."

Cofus genyf glywed y sylw canlynol ganddi fwy nag unwaith: "Bum yn edrych ar y daith i'r nefoedd fel un bell iawn, ond yn awr, oddiar pan y mae fy mhriod a'm plant wedi myned yno, yr wyf yn teimlo fod y nefoedd yn fy ymyl; dim ond cam." Teimlai fod ei pherthynasau ymadawedig yn ei hymyl. I rai, y mae y byd ysbrydol yn mhell iawn, ond iddi hi yr oedd yn ymyl. Teimlai ddyddordeb mawr yn y nef, ar gyfrif y cydnabyddion a'r cyfeillion oedd yno, a hefyd am y rheswm ei bod yn bwriadu yn fuan myned i fyw yno ei hun.

Ychydig oriau cyn ei hymadawiad, pan oedd ei thraed yn oeri yn yr afon, a chills y dwfr yn codi i fyny, adroddodd yr hen benill canlynol mewn llais clir ac effeithiol iawn :

"Gan fy mod i heddyw'n fyw,
Mi ro'f deyrnged
Clod a mawl i'm Harglwydd Dduw,
Am fy arbed."


Yn fuan ar ol hyn ymadawodd ei henaid anfarwol i'r gorfoledd tragywyddol.

Y dydd Gwener canlynol i'w marwolaeth, sef Mawrth 15fed, cymerodd ei chladdedigaeth le, pryd y rhoddwyd ei gweddillion marwol i orphwys yn ochr ei hanwyl briod a'i phlant yn mynwent brydferth Steuben. Er fod y ffyrdd yn lleidiog ac anhawdd eu teithio, dangoswyd iddi barch mawr yn ymgasgliad tyrfa luosog anarferol i dalu y gymwynas olaf iddi. Gwelwyd yno wynebau braidd o bob man yn Swydd Oneida. Hawdd iawn oedd gwybod y diwrnod hwnw fod tywysoges yn Israel wedi syrthio. Yn y ty darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. R. Trogwy Evans. Yna aed yn orymdaith tua'r Capel Ucha', lle y dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. S. Jones, (B.), ac y pregethwyd gan y Parch. Mr. Short, (M. E.), Remsen, yn Saesneg, a'r Parch. Edward R. Hughes, Steuben, yn Gymraeg. Wrth y bedd, wedi i'r Parch. Morris J. Williams (B.) wneyd ychydig sylwadau pwrpasol, ac i'r Parch. R. T. Evans weddio yn fyr, unodd y dorf gyda'r côr i ganu:

"Ffarwel gyfeillion anwyl iawn,
Dros enyd fechan ni 'madawn,
Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd,
Yn Salem hardd oddeutu'r bwrdd."

Yna ymwasgarodd y dorf fawr gyda'r syniad eu bod wedi claddu un a wasanaethodd ei chenedlaeth yn dda—orphenodd ei gwaith ac a aeth i lawenydd ei Harglwydd.

Teimlir colled nid bychan ar ei hol, nid yn unig gan ei theulu trallodedig, ond gan yr eglwys y perthynai iddi hefyd, a chan y cymydogaethau yn gyffredinol. Ond yr ydym yn cwbl gredu fod y golled a gawsant hwy wedi troi yn elw tragywyddol iddi hi. "Gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint." Er wedi marw y mae yn byw yn ei theulu, ac yn mysg ei chyfeillion. Bydded i dangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, aros ar ei hanwyl blant, ac ar blant ei phlant, yn nghyd a'r holl berthynasau o'r pryd hwn hyd yn dragywydd.