Cwm Eithin/At y Darllenydd
← Cwm Eithin | Cwm Eithin gan Hugh Evans, Lerpwl |
Rhestr o Enwau Lleoedd a Phobl → |
AT Y DARLLENYDD
CYNNWYS y llyfr hwn ddetholiad o gyfres o Straeon Atgof a ysgrifennwyd i'r Brython yn y blynyddoedd 1923-26. Bu'n rhaid eu cwtogi i'r hanner, eu crynhoi ac ad-drefnu peth arnynt i'w cael i mewn i lyfr a ellid ei werthu am bris isel, Yr oedd yn yr ysgrifau fel yr ymddangosasant yn Y Brython lawer o ddyfyniadau o hen gylchgronau a hen lyfrau. Bu'n rhaid eu gadael allan bron i gyd, ond rhoddir cyfeiriadau at rai ohonynt fel y gall y darllenydd droi iddynt os dewisa.
Nid oedd gennyf yr un bwriad o'u cyhoeddi'n llyfr wrth eu hysgrifennu; y rheswm i mi ofyn i'r golygydd eu cyhoeddi oedd mai hel hen hanesion fu fy hobi ar hyd fy oes, ac yr oedd gennyf doreth o nodiadau wrth law pan ddechreuais eu cyhoeddi. Rhoddais y gwaith i fyny oherwydd rhyw ddifaterwch, er bod gennyf ddigon o ddefnyddiau wrth law i ysgrifennu cyfres arall debyg. Hoffwn eto gyhoeddi cofiant i'r Tylwyth Teg oedd yn byw o gylch fy hen gartref, a rhai o'r ysbrydion a adwaenwn yn dda pan oeddwn yn hogyn, er na fûm erioed mor hoff ohonynt hwy ag o'r Tylwyth Teg; arferai rhai ohonynt wneud hen droeon digon sâl â mi ac eraill. Yr oedd i'r Tylwyth Teg ac i'r ysbrydion ran fawr ym mywyd Cymru yn yr hen amser, yn enwedig yn yr ystraeon a adroddid wed'-bo-nos, ond sydd erbyn hyn wedi diflannu a bron myned yn angof.
Diau y gofyn aml un, pa ddiben cyhoeddi ysgrifau fel hyn? Yn ôl fy syniad i y mae dau amcan, sef yn gyntaf magu gewynnau yn y to sydd yn codi, ac yn ail, gwneud cyfiawndêr â'r tadau. Credaf mai ychydig iawn o'r to sydd yn codi a ŵyr y nesaf peth i ddim am un o'r cyfnodau caletaf a fu erioed yn hanes Cymru, sef tua hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Dywaid Syr O. M. Edwards mai dyna'r cyfnod y bu fwyaf o ddioddef eisiau bwyd yn hanes ein cenedl. Yr ydym ninnau yn byw mewn cyfnod caled, ac efallai y bydd yn galetach yn y dyfodol, er yn wahanol iawn i amser y tadau. Ond pwy a ŵyr na all darllen am y modd y brwydrodd llawer tad a mam am fwyd i'w plant bach ganrif yn ôl fod yn symbyliad i ryw dad a mam eto yn y dyfodol ?
Y mae cymeriad y tadau a'n dyled iddynt yn gofyn am i rywun eu hamddiffyn.
Diau y gofynnir pa gymhwyster a feddaf i ysgrifennu hanes y cyfnod. Dyma'r ateb, sef bod fy nghof yn myned yn ôl ganrif a chwarter yn bur glir. Nid am fy mod yn gant a hanner mlwydd oed a mwy, ond oherwydd y ffaith i mi gael fy magu gyda'm taid a'm nain oedd wedi eu geni yn y ddeunawfed ganrif, a'u hoff bleser hwy oedd atgoffa treialon y cyfnod gyda'i gilydd a chyda'u hen gyfoedion. Yr oedd fy nhaid wedi cael addysg dda, wedi bod yn Ellesmere yn yr ysgol am flynyddoedd, a'i ddwyn i fyny yn dirfesurydd. Yr oedd yn well Sais nag oedd o Gymro. Efô a arferai wneud ewyllysiau trigolion y cwm, gwneud llyfr y dreth, a gofalu am Restr y Plwyf. Felly yr oedd llawer o gyrchu i'm hen gartre, ac yr oeddwn innau yn clywed yn dda iawn y pryd hynny. Arferai fy mam a'm nain adrodd hanes treialon yr amserau beunydd beunos. Gallai fy mam fyned â mi unrhyw adeg ar ei braich yn ôl i 1820, a gallai fy nain fy nghymryd i 1795 yn ddidrafferth, a thrwy'r hyn a glywsai gan ei mam, i 1750. Enynnodd yr ymddiddanion ynof ddiddordeb yn yr hanes, ac y mae wedi parhau hyd heddiw. Y mae gennyf nifer o ewyllysiau'r trigolion, hen lyfrau Festri Cwm Eithin, llawer o bapurau ynglŷn â'r degwm a'r trethi, Receipts y rhenti, llawer o filiau masnachwyr Caer pan oedd fy nhaid yn cadw siop ddechrau'r ganrif ddiwethaf, hen gytundebau, papurau oddi wrth y Llywodraeth am drethi'r golau, etc., a ddaeth i'm meddiant ar ôl fy nhaid.
Pan ymddangosodd yr ysgrifau yn Y Brython, derbyniais nifer dda o lythyrau yn fy nghymell i'w cyhoeddi'n llyfr, ambell un ohonynt gan frodyr yr arferwn roddi gwerth ar eu barn, er y gwn y bydd pob hogyn yn rhoddi gwerth ar farn y rhai a fydd yn ei ganmol. Mentraf ollwng y llyfr ar ei daith fer neu hir.
Dymunaf gydnabod fy niolch i'm nai, Mr. John Edwards, M.A., Llandeilo, am gywiro'r orgraff, ac i'm mab yng nghyfraith, Mr. Wm. Williams, F.L.A., a Mr. J. J. Jones, M.A., y ddau olaf o Aberystwyth, am lawer o awgrymiadau, am y mynegai, ac am ddarllen y proflenni. Yr wyf yn ddyledus i Dr. Cyril Fox, .F.S.A., Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol, am ei garedigrwydd yn rhoddi benthyg nifer o ddarluniau hen gelfi sydd yn yr Amgueddfa, a chaniatâd i wneud blocs ohonynt. Gadawyd orgraff y dyfyniadau mor agos ag y gellid i'r gwreiddiol.RHAGAIR I'R AIL ARGRAFFIAD
DIAU mai'r peth cyntaf a ddylwn ei wneuthur yw diolch yn gynnes am y derbyniad a roddwyd i'm Cyfrol, ac am yr adolygiadau ffafriol a roddwyd iddi, peth a barodd fawr syndod i mi, yn enwedig eiddo yr Athro W. J. Gruffydd, M.A., yn Y Llenor. Gwerthwyd argraffiad pur helaeth mewn pymtheng mis. Bûm yn pryderu am flynyddoedd a gyhoeddwn y gyfrol ai peidio, ond daliwn i gredu y byddai hanes hen draddodiadau ac arferion dechrau'r ganrif ddiwethaf yn ddiddorol i'r to sy'n codi, ac y gallai darllen am ddewrder y tadau yn wyneb gorthrwm a thlodi fod yn gymorth iddynt ymladd ag amgylchiadau gwasgedig eu tymor hwythau.
O'r diwedd, wedi hir berswâd amryw o gyfeillion, cymerais y cam, er mai ychydig ffydd oedd gennyf y gallwn wneuthur cyfiawnder â'r tadau, na chyfleu yr hanes mewn dull diddorol. Drwg gennyf erbyn hyn na fuaswn wedi cyhoeddi'r gwaith yn gynt, a rhoddi rhagor ynddo cyn i'm cof ddechrau chware mig â mi.
Un peth arall a'm cymhellai i gyhoeddi'r llyfr oedd fy nghred mai trychineb i'r iaith Gymraeg fyddai i lenorion gwerin ddarfod o'r tir; fe gadwant ddolen gysylltiol rhwng ein dysgedigion a'r darllenwr cyffredin. Credaf i'n ddysgedigion ddechrau'r ganrif hon, wrth wneuthur y gwaith ardderchog o buro'r iaith, fod yn rhy lawdrwm ar y gwerinwr ac eraill na allent ysgrifennu Cymraeg cywir, er y gallent ysgrifennu Cymraeg dealladwy a diddorol, ac aethant, lawer ohonynt, i ysgrifennu hyd yn oed eu llythyrau yn Saesneg. Caent ysgrifennu rhyw fath o Saesneg heb i neb eu beirniadu. Ond mae pethau'n dod yr. well. Ceir llythyrau Cymraeg o ardaloedd digon Seisnigaidd i'r Brython heddiw gyda'r deisyfiad ar y Golygydd, " Os y gwelwch' yn dda bolisio tipyn ar fy Nghymraeg." Credaf pa bryd bynnag y peidia'r gwerinwr ag ysgrifennu iaith ei fam nad hir y bydd cyn ei cholli oddi ar ei wefus. Rhaid i'r gwerinwr gael llonydd i ysgrifennu Cymraeg orau y medro, fel y caffai o dan deyrnasiad Syr O. M. Edwards.
Caraf y Gymraeg â'm holl galon, er na fedraf ei hysgrifennu agos yn gywir, a gwneuthum fy ngorau i'w chadw yn fyw yn Lerpwl. Dechreuais werthu llyfrau Cymraeg ar ôl fy niwrnod gwaith ddechrau 1885, a dechreuais argraffu yn 1896, ac o hynny ymlaen, gyda'm meibion, Evan Meirion a Howell Evans, argraffwyd a chyhoeddwyd dros 300 0 lyfrau mawr a mân gennym. Y mae'r Brython wedi dathlu ei seithfed flwydd ar hugain, ac yn gwneuthur ei orau i gadw'r hen iaith yn fyw.
Yn awr, wele ail argraffiad o Gwm Eithin. Gwneuthum rai cywiriadau yma ac acw. Diolchaf i Bodfan, Mr. J. J. Jones, M.A., a'm mab yng nghyfraith, Mr. William Williams, y ddau ddiwethaf o'r Llyfrgell Genedlaethol, am ei ddarllen drwyddo yn fanwl i chwilio am wallau, a'u cywiro, ac i amryw eraill am eu hawgrymiadau; i'm nai, Mr. John Edwards, M.A., Llandeilo, am ymweled â rhai o hen drigolion Cwm Eithin yn ystod ei wyliau, a chael eu barn ar rai pethau yn y gyfrol. Ychwanegais hefyd ychydig dudalennau[1] i egluro rhai pethau yn y llyfr.
HUGH EVANS.
Mawrth 1933.
NODIAD I'R TRYDYDD ARGRAFFIAD
Dymuna'r Cyhoeddwyr ddiolch yn arbennig i Mr. E. G. Bowen, M.A., Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, am dynnu allan y map o "Gwm Eithin." Gwêl y darllenydd fod y map a'r Rhestr o Enwau Lleoedd a Phobl yn ychwanegiad gwerthfawr i'r gyfrol a'r argraffiad hwn.
Hugh Evans a'i Feibion, Cyf.
Medi, 1943.
Nodiadau
golygu- ↑ Gweler yr Atodiad ar y diwedd.