Cwm Eithin/Rhestr o Enwau Lleoedd a Phobl
← At y Darllenydd | Cwm Eithin gan Hugh Evans, Lerpwl |
Cynnwys → |
RHESTR O ENWAU LLEOEDD A PHOBL Y
CRYBWYLLIR AMDANYNT YN CWM EITHIN
Wrth ysgrifennu'r llyfr bwriadodd Hugh Evans iddo fod yn ddisgrifiad o ardal wledig nodweddiadol Gymreig. Oherwydd hynny, dychmygol hollol yw llawer o enwau'r lleoedd a'r personau a ddisgrifir yn y llyfr. Ni chytunai'r awdur â datgelu cyfrinach yr enwau hyn adeg yr ail— argraffiad yn 1933. Serch hynny, ymhen amser, fe gasglwyd ganddo restr o enwau, a chytunodd roddi rhestr gyflawn ynghyd â map o'r ardal mewn argraffiadau diweddarach. Hugh Evans ei hun a roes imi, ar dafod leferydd, y rhestr ganlynol. Dynoda'r enwau lleoedd yr ardal arbennig honno a gyfenwyd gan yr awdur yn Cwm Eithin. Gwelir nad yw llawer o enwau'r bobl ond enwau ffug hollol, tra'r lleill yn dangos ychydig newid, addasu ac ystumio ar yr enwau priodol.
Cynnwys Cwm Eithin rannau o Sir Ddinbych a Sir Feirionnydd. Ymestyn, mewn un rhan, o Bentrefoelas i'r Bala, gan gynnwys Cwm— Penanner, Cwmtirmynach a Chwm Main; yna mewn hanner cylch o'r Bala i Landderfel, Llandrillo, Cynwyd a Chorwen, gyda chyfeiriadau at Lyndyfrdwy a Llangollen; yna'n ôl trwy Fryneglwys, Gwyddelwern, Melin y Wig, Hafod Elwy a Cherrigydrudion i Bentrefoelas. Y prif ardaloedd o fewn Cwm Eithin, a chefndir y cyfan o'r gwaith, yw Llangwm (Llanfryniau), Cerrigydrudion (Llanaled), Llanfihangel Glyn Myfyr (Llanllonydd)) a Chwm Main (Cwm Annibynia a Chwm Dwydorth).
Nid rhyfedd i Hugh Evans ddewis ' Cwm Eithin' yn enw i'w lyfr,— nodwedd amlycaf yr holl ardal yw'r tyfiant aruthrol o eithin aur a welir ymhobman.
- Aer y Pyllau—Enw ar Y Clawdd Newydd, rhwng Cerrig-y-Drudion a Rhuthun, yw Y Pyllau.
- Bardd y Drysau— R. H. Jones, Wallasey194
- Betsan y Garwyd—Gwraig i Ellis y Garwyd, nai John Ellis y cerddor. Tyddyn bychan yn ardal Dinmael, oedd Y Garwyd.
- Bowen, Mr., Twrnai—Enw dychmygol i gynrychioli twrnai o Gorwen.
- Bryn Bras—Tu ôl i ffermdy Pen-y-bryn, Ty'n Rhyd, Cerrig-y-Drudion.
- Bwlchrhisgog—Gallt rhwng gorsaf Berwyn (Llan— gollen) a Glyn Dyfrdwy.
- Clough, Mr.—Enw iawn porthmon yn byw yn Llandrillo.
- Carreg Fawr Syrior (ffridd)—Yn ymyl Llandderfel.
- Cors Pant Dedwydd—Rhwng Cerrig-y-Drudion a Glas—fryn.
- Cwm Annibynia—Cwm Main (rhwng Pont-y-Glyn a Dinmael, ac yn gorffen yn y Big— faen, y Sarnau).
- Cwm Dwydorth—Ffug—enw ar yr uchod.
- Cwm Main —Yr enw arferol ar yr uchod.
- Edwards, John—Crydd, Cerrig-y-Drudion.
- Edwards, William—Yn byw yn y Colomendy, Cynwyd.
- Elian, ffynnon—Yn agos i Fae Colwyn
- Ellis, Jenny / William—Gŵr a gwraig Llys Dinmael Uchaf, lle bu'r awdur fyw am ddwy flynedd.
- Ellis, John—Y cerddor. Ewythr yr awdur. Am hanes John Ellis gweler adroddiadau capel M.C. Llanrwst.
- Ellis, Robert—Yn byw yng Nghefn Brith, yn ymyl Cerrig—y—Drudion. Yn arfer dyrnu yn Hendre ar Ddwyfan, y fferm agosaf i gartre'r awdur.
- Ellis, William—Nai John Ellis, y cerddor. Gweler hefyd Ellis, Jenny, uchod.
- Elusendai—Yng Ngherrig-y-Drudion.
- Ffowc, Peter—Aer Tŷ Gwyn, Llangwm.
- Gruffydd yr Odyn—Enw ar y Maerdy, Corwen, yw yr Odyn.
- Hafod Elwy—O'r tu uchaf i Gerrig-y-Drudion. Yn awr o dan lyn dwr Penbedw.
- Henblas, Yr—Fferm yn ymyl Capel Gellioedd.
- Huw Dafydd, Cwm Eithin —John Parry, Moelfre Fawr, Cerrig—y—Drudion, ond yn byw yn Bryn Bras pan gymerth yr ymddiddan yma le.
- Huws, Evan—Pen-y-gaer, y tu uchaf i Tynrallt.
- Huws, John, Cwm Eithin—Y Castell, bwthyn ar y llechwedd tu ôl i Disgarth Ucha, Llangwm.
- Jac Lanfor—Dyma'r unig enw y gwyddys amdano.
- Jac y Pandy—Mab Pandy'r Glyn, y tu isaf i Bont y Glyn. Yr oedd yn perthyn i deulu John Ellis y cerddor.
- Jones, Beti, Ceunant-Cymeriad allan o hen goel ar lafar gwlad.
- Jones, Edward, Aeddren—Enw fferm yn ymyl Capel Gellioedd, oedd Aeddren.
- Ffermwr, Tŷ Cerrig, Llangwm.
- Jones, Evan, Aeddren—Tad yr Edward Jones uchod
- Jones, John, Pen-y-Geulan —Pen-y-Geulan, Cynwyd
- Jones, Richard, Cwm Eithin —Ffermwr Tŷ Cerrig, Llangwm
- Jones, Robert—Brawd ' Jac Glan y Gors.' Bu farw ym Mwlch-y-Beudy, Cerrig-y-Drudion.
- Jones, Robert, Tŷ Newydd—Mab Tŷ Tafarn, Llangwm. Yr unig dafarn yn y llan.
- Jones, Siân—Gwraig Evan Jones, sadler. Yn pobi ac yn gwerthu bara mewn tŷ bychan, ym mhen uchaf llan
- Jones, Thomas—Bardd, Cerrigellgwm.
- Jones, Thomas, Llidiart y Gwartheg / Jones, Thomas, töwr Yr un dyn. Yn byw mewn tŷ mewn rhes o dai yn ymyl Cerrig- y-Drudion.
- Jones, William, Lerpwl—Mab y Lion, Cerrig-y-Drudion, a ddaeth yn contractor mawr yn Lerpwl, ac a adwaenid fel William Jones, Duke Street.
- Lias y siop—Elias Williams, fferyllydd yng Ngherrig-y-Drudion. Tad Isaac, John a Gruffydd Williams, doctoriaid yn Llundain, a thaid Cecil Williams, Ysgrifennydd presennol Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
- Llanaled—Enw ar bentref Cerrig-y-Drudion
- Llanfryniau—Enw ar Langwm
- Llanllonydd—Llanfihangel Glyn Myfyr
- Lloyd, John—Tŷ'n y Berth. Fferm yn ymyl Cynwyd
- Llwyd, Morris— Hwsmon yn Hendre ar Ddwyfan, Llangwm. Yn byw mewn bwthyn ar ochr y Gwernannau.
- Llwyd, William—Cychwynnydd yr achos Methodistaidd yn Lerpwl. Prynwr a gwerthwr 'sanau.
- Mari Wiliam—Pen-y-Criglyn, bwthyn ar y boncyn o'r tu uchaf i Ysgol y Cyngor, Cynwyd.
- 'Monyn '—Adwaenid fel Rhobert [?], Pig-y- bont, Llangwm.
- Morgan Dafydd, Llanllonydd—Cadwaladr Lloyd, Rhiw Goch, pen-blaenor yng Nghapel Llanfìhangel Glyn Myfyr.
- Morgan, Huw—Huw Hughes, Tŷ Nant, ffermdy tu ôl i Glyn Nannau, Llangwm.
- Morgan, John—Enw dychmygol
- Morus y Craswr —. Morris Williams. Yn byw mewn bwthyn yn y King, Cerrig-yn Drudion.
- Morus y Crydd—Cefnder i fam yr awdur. Crydd yn cadw gweithdy yn Nhy'n Rhyd, Cerrig-y-Drudion.
- Mwrog—Bailiff o dan yr Ecclesiastic Commissioners (helynt y degwm) ac yn byw yn Ninbych.
- Mynydd Main—Rhwng Cerrig-y-Drudion a Phentre Llyn Cymer.
- Owen, Tomos, Tai Mawr —Cwm Main. Tad Edward Owen (Owens & Peck, timber mcrchants, Bootle).
- Pentre Gwernrwst—Yng Nghwmtirmynach
- Phillip, Gwen—. Gwen Phillip Morris, o Gerrig-y- Drudion.
- Plas yn Ddôl—Y Ddwyryd, Corwen
- Richards, Ellen-. Yn byw mewn caban unnos, yn ymyl Tynygwern, Nannau, Llangwm. Gwraig Dafydd Richard, Tŷ Dafydd Richard.
- Robert Nelar—Nelar yn gweithio i Elias Williams (Lias y Siop) tad y doctoriaid.
- Roberts [?]—Botegir, Llanfihangel Glyn Myfyr
- Roberts, Dafydd—Ty'n Rhyd, Cerrig-y-Drudion.
- Roberts, Edward —Y Rhyl, gynt 0 Gynwyd. Yn fyw yn 1931, adeg cyhoeddi Cwm Eithin.
- Roberts, Robert —Gwernannau, Llangwm.
- Roberts, Thomas—Cwper, Cynwyd.
- Rhyd, Olwen—Yn agos i Gellioedd Ucha, Cwmtirmynach.
- Sali, Tŷ Tan y Berllan—Tŷ Nant, Llangwm.
- Siôn Ifan—John Evans, Pennant, yn ymyl Tyn-y-gwern, Nannau, Llangwm.
- Siôn y Fawnog —Evan (?) y Gaerwen, rhwng Cynwyd a Glan'rafon. Brawd iddo wedi priodi chwaer mam yr awdur.
- Soar, Capel—Yng Nghwm Main.
- Stephenson, William—Hafod Bleddyn, Cynwyd.
- Syth, William—Edward Thomas. Yn byw yn llan Llangwm. Ewythr ' Uncle Ned ' (Edward Thomas, y Groudd) porthmon yn byw yng Ngherrig-y-Drudion.
- Tŷ Dafydd Richard—Yn ymyl Tynygwern, Nannau, Llangwm.
- Tŷ John y Cwmon—Y tu uchaf i Bont Tai'n rhos, gwaelod Cwmpenanner. Priododd Dafydd Richard a John y Cwmon ddwy chwaer.
- Tŷ Twyrch —Ar ochr Mynydd Main rhwng Cerrig-y-Drudion a Phentre Llyn Cymer.
- Watson, James—Ty'n Rhyd, Cerrig-y-Drudion.
- ' Wil Bryn Hir —O Lanfihangel Glyn Myfyr.
- Wil y Cwmon—Enw hollol ddychmygol.
- Williams, Meistr —William Williams, Gwerclas, Cynwyd.
- Williams, Evan, ffeltiwr—Byw yn agos i gapel Salem, Cynwyd.
- Williams, William —Brawd Evan Williams, Yn byw yn agos i gapel Salem, Cynwyd.