Ein Capel Ni Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Mynegai


ATODIAD

DYMUNAF ddiolch i Mr. (yn awr y Dr.) Iorwerth C. Peate, M.A., o'r Amgueddfa Genedlaethol, am ei adolygiad a ymddangosodd yn Y Brython, Hydref 22, 1931, ac am alw fy sylw at rai camgymeriadau, a rhai gwelliannau a ellid eu gwneuthur yn y gyfrol. Galwodd fy sylw at y Dog Wheel, y Felin Falu Eithin a'r Olwyn i Gorddi gyda Chŵn sydd yn yr Amgueddfa Genedlaethol, a dywaid: "Os â Hugh Evans i ffermdy o'r enw Bwlch Tocyn, ger Blaenau Ffestiniog, fe wêl fuddai gŵn yn dal i weithio; o leiaf fe'i gwelais yno yn nechrau gwanwyn 1930, a dau gi yn ei gweithio; ac yr oedd y cŵn yn falch o'u gwaith ac yn ymddangos yn hapus ddigon wrth gorddi. Ni cheisient ymguddio ac anodd oedd eu cadw oddi wrth y fuddai."

Galwodd Mr. Joseph Hughes, Bootle, ac amryw eraill, fy sylw at y ffaith fod cŵn yn parhau i gorddi mewn mannau yn Arfon a Mon. Dywedais fod yr arferiad wedi ei roddi heibio ym mro fy mebyd pan oeddwn yn ieuanc iawn, a chredwn iddo gael ei roddi heibio trwy rym deddf. Ymholais â chyfaill a oedd deddf o'r fath wedi ei phasio, a chefais yr hyn a ganlyn:

In 1839 a clause was inserted in the Metropolitan Police Act forbidding dogs to be used as beasts of burden in the Metropolitan Police Area (i.e. within a radius of 15 miles of Charing Cross).

In 1854 a bill was passed for the prevention of cruelty to animals, and in this bill a clause was inserted to the effect that no person should, in any part of the United Kingdom, use any dog for the purpose of drawing or helping to draw any cart, carriage, truck or barrow. This bill was passed into law, but did not come into operation until January 1st, 1855. A report of the Society for the Prevention of Cruelty to Animals of that year states that, to the best of their belief, there was not a single dog employed to draw a cart or vehicle on any public roadway in the United Kingdom.

Ni enwir cŵn yn corddi yn y ddeddf, ond credaf mai dyna'r adeg y rhoddwyd yr arferiad i fyny ym mro fy mebyd.

Galwodd Mr. Peate fy sylw hefyd at y camgymeriad a wnaed yn y darlun ar dudalen 106; trwy ryw amryfusedd rhoddwyd haearn torri mawn Sir Gaerfyrddin yn lle Bach Gwair Rhif 4. Ychwanegir y Bach Gwair at y darlun y tro hwn, Rhif 5.

Yr un pryd, goddefer i mi alw sylw at y gwahaniaeth a welir rhwng Haearn Mawn y Deheudir ac un Cwm Eithin. Yn un y Deheudir nid oes ond rhyw glap bach ar ben y goes i afael ynddo, tra yn ein rhai ni yr oedd dwrn neu fesen yn ei wneuthur yn debyg i T. A'r un fath gyda'r rhawiau, coesau byrion a lle i afael gyda grym, a gellid defnyddio ochr i mewn i'r glin i wthio'r rhaw o dan y pridd neu y marial y ceisid ei symud. Ond gwelais rawiau rhai o siroedd y deheudir, a choesau hirion fel picffyrch; edrychent yn anhylaw iawn i Ogleddwr. Beth yw'r rheswm am y gwahaniaeth? Galwodd fy sylw hefyd at y defnydd a wneuthum o'r gair pwysgwr am bwys o wlân (tud. 88). Dywaid mai 'pwys gwyr' a ddylai fod, sef y pwys a ddefnyddid gan wehyddion Gŵyr, rhanbarth o Gymru oedd yn nodedig am ei gwlân. Diau mai ef sy'n gywir. Dywedodd fy nain wrthyf lawer tro, "Rhaid i ti fynd a phwysgwr neu ddau o wlân i'r ffatri, gael i mi gael 'dafedd i droedio sane." Felly gadawaf ef i mewn fel gair llafar gwlad. Anodd erbyn hyn yw gwybod paham y galwyd ef yn bwys gŵyr ar y dechrau. A ydoedd yr un bwysau ag mewn rhannau eraill o'r wlad?

Ar dudalen 126 soniais am "ddeunawiaid." Dywaid fy nghyfaill "Bodfan" mai "dyniawed," "dyniewaid" a ddylai fod, ac nad yw'r gair deunawiaid yn air llafar gwlad o gwbl. A galwodd fy sylw at y ffaith fod y gair "dyniawed" i'w gael yn "Breuddwyd Rhonabwy," yn Llyfr Coch Hergest, yn y 14 ganrif, ac yn y Beibl. Dylaswn gofio fy Meibl yn well, a bod Micah wedi ei ddefnyddio. Ond gan fod trigolion Cwm Eithin yn parhau i'w ddefnyddio, a bod deunawiaid yn enw da ar wartheg deunaw mis oed gadawaf ef i mewn.

Ar dudalen 115 wrth sôn am ddyrnu â ffust, defnyddiais y geiriau troedffust a llemffust. Mewn llythyr a dderbyniais oddi wrth yr Athro Edward Edwards, dywaid iddo fod yn gweithio gyda'r holl hen gelfi a enwir yn CWM EITHIN: gwelaf mai bonffust a llafn ffust a ddefnyddía ef. Ni wn pa un sydd gywir.

Troedffust a lemffust a glywais i ar lafar gwlad yng Nghwm Eithin.

Gofynnodd amryw i mi beth yw ystyr y gair "Gluad" (gleuad) a ddefnyddiais ar dudalen 91 am dail gwartheg sych a losgid i sychu gwlanen a brethyn yn y pandy. Drwg gennyf na allaf ei egluro, ond dyna fel y clywais ef yn cael ei swnio, a gwelaf fod Ap Cenin yn ei ddefnyddio wrth ysgrifennu hanes Llanfairfechan.

Ar dudalen 12, wrth sôn am yr arwres o Dŷ Cerrig, a gadwodd ei theulu rhag newyn trwy weu tair hosan y dydd, dywedais, "Dylai ei henw hi a llawer un debyg iddi gael ei gerfio yn y graig â phlwm, ond methaf yn lân yn awr â bod yn sicr o'i henw, Phebi Jones, Tŷ Cerrig, yr wyf yn meddwl, onid wyf yn cymysgu, ac mai dyna oedd enw gwraig Richard Jones, etc." Yn ffodus iawn, mae Mr. J. Clark Jones, Mochdre, wrthi ers blynyddoedd yn hel achau pobl Cwm Eithin, a chefais enw yr arwres ganddo a'i hanes. Sioned Roberts oedd ei henw, gwraig Thomas Jones, Pen y Gaer Bach, ac yno yr oedd yn byw pan gadwodd ei theulu rhag y newyn du. Yr oedd Thomas Jones, ei phriod, yn ewythr frawd ei dad i Jac Glan y Gors. Yr oedd tri Phen y Gaer pan gofiaf y lle,—Pen y Gaer Dafydd, Pen y Gaer Thomas a Phen y Gaer Evan Huws. Pen y Gaer Bach oedd enw gwreiddiol Pen y Gaer Thomas.

Anfonodd Mr. Jones lawer o hanes Phoebe gwraig Richard Jones i mi hefyd. A chan fod yr hanes yn taflu llawer o oleuni ar y modd y byddai'r twrneiod o Lundain yn trin ein tadau a'u mamau, rhoddaf yr hanes i mewn fel y cefais ef gan Mr. Clark Jones. Gwelaf hefyd fod Sioned Roberts o'r un teulu â Pheter Ffowc, Ty Gwyn, y soniaf amdano yn Helynt yr Arian Mawr ar dudalen 59.

"Gwraig Richard Jones, Tŷ Cerrig, Llangwm, oedd Phoebe, merch ieuengaf John Jones, Tŷ Cerrig,—gorŵyr i Thomas Ffoulkes, Tŷ Gwyn.

"Ganwyd John Jones yn 1750, a bu farw yn 1833, ac adweinid ef yn ei ddyddiau olaf fel "John Jones, White Bear." Ei wraig gyntaf (mam Phoebe) oedd Mari, merch John Jones, Y Groesfaen, a'i ail wraig oedd Catherin Maurice, gwraig weddw ag iddi fab wedi tyfu i fyny o'r enw Richard Maurice, Penucha, Sir Fflint.

"Yr oedd John Jones yn berchen stâd helaeth,—tua dwy a r bymtheg o ffermydd ym mhlwyfi Gwyddelwern, Corwen, Llangar, Llanfawr, Llangwm a Llanfihangel-glyn-myfyr,— ac yn ei ewyllys, ddyddiedig Mawrth 23, 1833, ar ôl darparu ar gyfer ei wraig, gadawodd y cwbl, ynghŷd â'i eiddo personol, i ddau o ymddiriedolwyr,—Richard Maurice, mab ei ail wraig, a John Jones, Cynlas,—er budd ei blant a'i ŵyrion, sef (1) Mary, gwraig Samuel Jones, Pentre Ffynnon, Whitford; (2) Phoebe, gwraig (fel y cyfeiriwyd uchod) Richard Jones, Tŷ Cerrig, a (3) plant ei ferch ymadawedig Catherine, gwraig Meredydd Roberts, Moelfre Fawr, Tŷ Nant. Ynglŷn a'r gymynrodd i blant Catherine, yr oedd yn amodol ar Meredydd Roberts (yr hwn oedd wedi ail-briodi ers dwy flynedd) i roddi i fyny ysgrif-rwym (bond) am £1,000.

"Ar ôl marwolaeth John Jones ym mis Rhagfyr, 1833, nid oedd yr ewyllys wreiddiol ar gael, ond yr oedd copi ohoni wedi ei gadw gan y cyfreithiwr a'i gwnaeth. Codwyd cyngaws yn yr Uchel Lys am ganiatâd i brofi'r copi, ac ar yr 8fed o Rhagfyr, 1835, cafodd y weddw lythyr-cymyn (Probate) i'r ewyllys, ac ymhen y mis rhoddwyd iddi lythyr-terfynedig (limited probate).

"Yn y cyfamser yr oedd y stâd wedi myned i ddwylo Richard Maurice, un o'r ymddiriedolwyr, ac ni allai'r weddw na'r plant gael unrhyw ran o'r eiddo.

"Yn 1835 dechreuodd y weddw gyngaws yn Llys yr Arglwydd Ganghellor (Chancery) yn erbyn yr ymddiriedolwyr am gyfrif o'r stâd a'r eiddo, ac am gael penodi ymddiriedolwyr newydd i weinyddu'r ymddiriedaeth. Gwnaed ymchwiliad gan y Llys, a gorchmynnwyd bod cyfrif yn cael ei roddi o'r holl eiddo. Gorchmynnwyd hefyd fod y ffermydd yn cael eu gwerthu a'r arian a dderbynnid amdanynt yn cael eu talu i mewn i'r llys.

"Bu'r weddw farw yn 1838, a chariwyd y gyfraith ymlaen gan gyflawnydd ei hewyllys (executor); dygwyd i mewn i'r cyngaws liaws o bersonnau, cynhaliwyd amryw o ymchwiliadau (inquiries), a chadwyd yr achos o flaen y Llys yn ddi-dôr am ugain mlynedd, hyd 1856, pryd y gwelwyd fod yr holl arian yn y Llys, dros ddeng mil ar hugain o bunnau (£30,000), wedi eu llyncu gan y costau! Ar hynny, cytunodd y cyfreithwyr o boptu i ddirwyn y cyngaws i ben, a gadawyd yn y cyfrif, i'w ranu rhwng y plant a'r wyrion, y swm o £27/2/3, ac y mae'r swm yna yn aros heb ei hawlio hyd heddiw."

Anfonodd Mr. Clark Jones hanes manwl am helynt arian mawr Peter Ffoulkes, Ty Gwyn; fel y bu i ryw Peter Ffoulkes o Sais geisio trawsfeddiannu'r arian; a'r ffaith nad oedd rhyw Gymro wedi ysgrifennu Saesneg yn gywir yn rhwystro i drigolion Cwm Eithin gael eu harian o Lundain. Pe buasai ein tadau ni, drigolion Cwm Eithin, wedi cael eu hawliau, diau na fuasem ni mor dlawd ag ydym heddiw.

Ond gan fod y manylion a anfonodd Mr. Clark Jones braidd yn faith, ac nad ydynt o ddiddordeb neilltuol ond i nifer fach o ddarllenwyr y llyfr, ni roddais hwy i mewn i gyd. Er hynny diolchaf yn gynnes iawn iddo am y drafferth a gymerodd yn casglu'r holl fanylion a'u hanfon. Ymddangosodd yr hanes yn Y Brython, Chwefror 1, 1933.

Dywedodd un neu ddau a adolygodd y llyfr y credent fy mod yn rhy lawdrwm ar y tirfeddianwyr a'u stiwardiaid. Credaf innau fel arall, a byddaf yn synnu i'n tadau eu goddef cyhyd. Ac i brofi fy mhwnc rhoddaf ddyfyniad o lythyr yn diolch am fy llyfr a dderbyniais oddi wrth Mrs. L. D. Jones, gweddw Llew Tegid:

Gwn innau am greulondeb y stiwardiaid. Yr oedd fy nhad yn un o ferthyron '59, sef John Thomas, Pandy Mawr, Llanuwchllyn, ar stad Syr Watcyn. Yr oedd fy nhad wedi bod yn yr America cyn priodi, ac wedi cael ideas newydd, ac felly wedi gwario cannoedd o bunnau drwy ychwanegu at y tŷ a thrin y ffarm nes clywais rai yn dywedyd ei bod fel gardd. Yna daeth y lecsiwn, ac wedyn warning i ymadael, a dim dimai o compensation. Methwyd â chael ffarm am flwyddyn, a gorfod gwerthu popeth. Cawsant sicrwydd wedyn na wyddai Syr Watcyn ddim am y peth nes bod y tenantiaid gorau oedd ganddo ar y stad wedi chwalu.

"Nid wyf yn cofio'r lecsiwn honno, ond ar ôl lecsiwn wedyn—'68 mae'n debyg, pan oedd y ffermwyr yn y South yn cael eu troi i ffwrdd, y peth yr wyf yn ei gofio yw mam yn darllen Y Faner; y gohebydd yn darlunio ocsiwn ar ffarm a gwerthu'r fuwch goch, a'r dagrau yn disgyn ar y papur. Ond nid rhyfedd, yr oedd wedi myned trwy'r un peth.

"Yr wyf yn cofio merched yn dod i wlana, ac ambell un i hel blawd, yn enwedig Jimmie Lanfor. Byddai yn dod yn gyson. Ni fûm yn gwisgo'r Welsh Not, ond y mae gennyf un wedi i'm diweddar briod ei gael o dan lawr ysgol y Garth yma."

Mae'n debyg fod Syr Watcyn yn rhy brysur yn rhoddi'r Gwyddelod i lawr i wybod beth oedd ei stiwardiaid yn ei wneuthur. Ond amlwg ei fod yn cyfiawnhau eu gwaith neu buasai'n rhoddi compensation i'r ffermwyr y gwnaeth y fath anghyfiawnder â hwy. Cynghorwn bleidwyr y tirfeddianwyr i ddarllen hanes dioddefaint nifer o amaethwyr Sir Aberteifi ar ôl etholiad 1868, a gofyn a allant gyfiawnhau eu gwaith.

Diolchaf i Mr. Thomas Thomas, Y.H., Dinmael, am ddarlun o Ferthyron y Degwm, ef yn un o'r merthyron ei hunan (hen gyfeillion bore oes i mi lawer ohonynt). Gwelir y darlun yn yr Atodiad. Ond dywedir nad yw rhai o'r prif arweinwyr yn y darlun, a bod ynddo rai na chymerasant fawr o ran yn y rhyfel; ond ceir ynddo gynrychiolaeth dda o drigolion Cwm Eithin.

Diolch iddo hefyd am alw fy sylw at un camgymeriad a wneuthum wrth adrodd eu hanes oddi ar fy nghof ar dudalen 33 trwy ddywedyd: "Goddefodd hen gyfoedion i mi gael eu hanfon i garchar Rhuthyn yn hytrach na pharhau i ymostwng i gyfraith orthrymus oedd wedi dyfod i lawr o'r Oesoedd Tywyll." Nid yw hyn yn hollol wir. Ceir cyfeiriad hefyd at Ferthyron y Degwm ar dudalennau 187 a 189.

Yr wyf erbyn hyn wedi cael yr hanes yn weddol gyflawn gan Mr. Thomas Thomas, Dinmael, ac o hen gyfrolau o'r Faner, ond ni allaf ei roddi yma yn gyflawn am y llanwai gryn nifer o dudalennau. Rhoddaf ychydig o'r prif ffeithiau. Yn nechrau blynyddoedd yr wyth degau yr oedd pris cynnyrch amaethyddiaeth yn isel iawn, a chredai'r amaethwyr y dylent gael gostyngiad o tua 2/- yn y bunt am mai ar gynnyrch y tir yr oedd y degwm wedi ei drethu. A gwnaethant apêl at bersoniaid y plwyfi. Caniataodd nifer o'r personiaid, rai 1/-, rai 2/-, ac ambell un 3/- yn y bunt, am y gwelent gyni'r amaethwyr. Ond gwrthododd person Llangwm, y Parch. Ellis Roberts, "Elis Wyn o Wyrfai," a rhai personiaid eraill, ostwng dim i'r amaethwyr. Penderfynodd nifer o amaethwyr Cwm Eithin beidio â thalu oni chaent y gostyngiad. Canlyniad hynny oedd i'r Ecclesiastical Commissioners, Mai 18, 1887, anfon oddeutu ugain o feiliaid i atafaelu ar eiddo pedwar ar hugain o amaethwyr dewr Cwm Eithin a wrthodai dalu. Ond canwyd corn gwlad, a daeth y lluoedd ynghyd, a rhwystrwyd hwy gan y dorf mewn nifer o ffermydd rhag cario eu bwriad allan, ond llwyddasant i atafaelu ar eiddo pedwar o amaethwyr.

Ar ôl atafaelu yr oedd yn rhaid gwerthu'r fuwch goch neu pa anifail bynnag yr oeddynt yn cymryd meddiant ohoni. Y dydd cyntaf o Fehefin, 1887, yr oedd arwerthiant i fod yn y Fron Isa, lle y

trigai fy nghyfnither a'i phriod, Thomas Hughes, ar ddwy fuwch

MERTHYRON Y DEGWM—1887. (Mae y rhai y mae * ar eu cyfer yn fyw).

Y rhes isaf o'r chwith i'r dde—1 Rt. Jones, Crydd, Glasfryn; 2 Rt. Jones, Ffynnon Wen; 3 Wm. Hughes, Saer, Glasfryn; 4 Owen Parry, Penrhiw, Cerrigydrudion; 5 Dd. Jones, Llwyn Mali, Llangwm; 6 Dd. Roberts, Tynfelin, Llangwm; 7 *Rt. Roberts, Pant y Mel Bach, Bettws G.G.

Y rhes ganol o'r chwith i'r dde—1 Wm. Williams, Arddwyfaen, Llangwm; 2 Ellis Jones, Ty'n-y-Mynydd, Cerrig;3 *John Lloyd, Tŷ Isa'r Cwm, Cerrig; 4 Rhys Jones, Tŷ Cerrig, Bettws; 5 John Lloyd, Glasfryn; 6 Ed. Davies, Bodyneliw, Bettws.

Y rhes uchaf o'r chwith i'r dde—1 *E. T. Edwards, Saracen's Head, Cerrig; 2 Ed. E. Jones, Cysulog, Dinmael; 3 Thos. O. Jones, Aelwydbrys, Cerrig; 4 Robt. Parry, Cigydd, Cerrig; 5 David Edwards, Pen Llan, Bettws; 6 John Vaughan, Teiliwr, Bettws; 7 James Metcalf, Cerrig; 8 David Davies, Plase, Tŷ Nant; 9 Alun Lloyd, Cyfreithiwr; 10 John Jones, Brynmadog, Llangwm; 11 Morgan Hughes, Bryniau, Llandderfel; 12 John Jones, Moelfre; 13 Robt. Hughes, Tŷ'n-y-Waen, Glasfryn; 14 Thos. Thomas, Tŷ Nant; 15 *Urias Jones, Glasfryn.

yr atafaelwyd arnynt. Erbyn chwech o'r gloch y bore yr oedd 25 o heddgeidwaid Sir Ddinbych a'u harolygydd wedi cyrraedd y Fron Isa. Ond yr oedd Mwrog yr arwerthwr a'i gyfeillion ar ôl yn cyrraedd, ac erbyn hynny yr oedd holl drigolion y cylch wedi casglu,—yr amaethwyr â'u ffyn, a'r gweithwyr a'r gweision â phastynau cryfion, a'r merched yn eu cefnogi i sefyll y frwydr. Dechreuodd yr arwerthwr gynnig y gwartheg ar werth, ond ni chynigiodd neb geiniog i'w prynu i mewn, ac yr oedd agwedd y dorf yn myned yn fwy cynhyrfus. Gan na phrynai neb y gwartheg, nid oedd dim i'w wneuthur ond ceisio myned â hwy ymaith. Ond buan iawn y gwelwyd na chaniatâi'r dorf hynny,—myned â dwy fuwch oedd yn werth pedair gwaith swm y dyled,—a da iawn fu gan yr arwerthwr a'i gyfeillion gael myned adref â'u hesgyrn yn gyfain. Anfonwyd hwy a'r heddgeidwaid i ffwrdd, a dywedir bod dros dri chant o bobl yn eu danfon ar hyd y ffordd trwy'r Glyn i Gorwen, wedi eu cynhyrfu i waelod eu bodolaeth a golwg fygythiol iawn arnynt.

Deallwyd bod yr arwerthwr a'i deulu yn dod i gynnal arwerthiant mewn ffermydd eraill, ond ni wyddid o ba gyfeiriad y deuent. A dyna'r pryd y daeth y teleffon gyntaf i Gwm Eithin,—gosod dynion ar bennau'r bonciau yn bolion o fewn cyrraedd gwaedd y naill i'r llall, a chynnau coelcerthi i hysbysu'r ffordd y deuai'r arwerthwr a gwŷr ar gefnau ceffylau cyflym i gario'r newyddion. Daethant o gyfeiriad Cerrig y Drudion mewn cerbyd a dau geffyl yn eu tynnu. Ac erbyn iddynt gyrraedd yr oedd tyrfa anferth wedi casglu. Stopiwyd y cerbyd, a chaed pawb ond y gyrrwr allan. Dychrynwyd y ceffylau, ac aethant i lawr i gyfeiriad Corwen ar garlam gwyllt. Yna gwnaed i'r gelynion gychwyn cerdded tua Chorwen trwy'r Glyn. Bygythiwyd taflu Mwrog yr arwerthwr i'r trobwll ofnadwy hwnnw, ac oni bai am ymyriad rhai o'r arweinwyr, diau mai wedi ei ladd y buasai. Yr oedd y gelynion. yn y fath fraw nes begio am eu bywyd. Gwnaed iddynt fyned ar eu gliniau ac arwyddo papur fel y canlyn: "We hereby promise not to come on this business again in any part of England or Wales to sell for Tithes:—E. J. Roberts, Wellington Chambers, Rhyl; Edward Vaughan, Bothis, Rhyl."

Yna gwnaed iddynt dynnu eu cotiau a'u gwisgo amdanynt y tu chwith allan i ddangos eu hedifeirwch. Yna trefnwyd gorymdaith i fyned â hwy i orsaf y trên i Gorwen, pum milltir o ffordd, cynrychiolwyr yr Eglwys yn y canol a'u cotiau y tu chwith allan, baner goch o'u blaenau, a baner ddu o'r tu ôl yng nghanol bloeddiadau ac ysgrechiadau'r bobl. Mehefin 15, derbyniodd nifer o amaethwyr lythyrau fod y Dirprwywyr Eglwysig yn cychwyn cyngaws yn eu herbyn am rwystro i'w gwartheg gael eu cymryd i ffwrdd, a chodi cynnwrf ar ffordd fawr.

Mehefin 22, gwysiwyd tua 15 o'r arweinwyr o flaen ynadon. Rhuthyn, a pharhaodd y treial am ddyddiau. Y diwedd fu ei daflu i'r frawdlys chwarterol, a gollyngwyd hwy yn rhydd ar yr amod eu bod i ymddangos yn y frawdlys.

Pan gyfarfu'r Frawdlys, amlwg fod y Dirprwywyr Eglwysig wedi dod i ddeall eu bod wedi codi'r wlad yn eu herbyn. A chafwyd allan fod rhai o dystion y Dirprwywyr Eglwysig wedi tyngu anudon yn y prawf gerbron yr Ustusiaid Heddwch trwy ddywedyd bod rhai personau wedi cymryd rhan yn yr helynt nad oeddynt yn agos i'r lle, felly fod rhai o'r rhai a wysiwyd i ymddangos yn berygl o droi arnynt.

Gwnaeth y Barnwr beth pur anghyffredin, sef galw'r diffynyddion a'r cyfreithwyr a'u cynrychiolai a'r rhai a gynrychiolai'r Dirprwywyr Eglwysig i gyfarfod â'i gilydd, i edrych a oedd bosibl iddynt ddod i gyd—ddealltwriaeth, ac felly fe dynnodd y Dirprwywyr Eglwysig yn ôl ar yr amod fod y diffynyddion yn addef iddynt dorri'r gyfraith. Dywedodd y Barnwr ei fod yn falch eu bod wedi dod i ddeall ei gilydd; mai pobl heddychol yr oedd ef wedi gweled y Cymry bob amser, a bod golwg mor respectable ar y diffynyddion fel na hoffai ef eu cosbi; ond y byddai raid iddo ef gario'r gyfraith allan, ac mai'r unig beth iddynt ei wneuthur, os nad oedd y gyfraith wrth fodd y wlad, oedd ceisio ei newid trwy ffordd gyfansoddiadol. A gollyngodd hwy yn rhydd ar ymrwymiad o £20 yr un i ymddangos ger ei fron os byddai galw. Enw'r Barnwr oedd Justice Wills.

Costiodd y cyngaws yn ddrud iawn i Ferthyron y Degwm o Gwm Eithin, ond iddynt hwy y perthyn rhan helaeth o'r clod am gael dadsefydlu'r eglwys.

Dymunaf ddiolch i Mr. Peate hefyd am anfon i mi'r ddau ddarlun a welir yn yr Atodiad,—y Fuddai Gŵn a'r Felin Falu Eithin,— ac am gael caniatâd Cyngor yr Amgueddfa Genedlaethol i'w rhoddi yn fy llyfr. Mae un y fuddai gŵn yn berffaith hyd y gwelaf fi, un ci sydd arni tra byddai dau fel rheol yn y ffermydd mwyaf lle y ceid hwy; y chwiorydd a fyddai'n corddi yn y tyddynnod bychain. Gwêl dudalennau 131—140.

Am y darlun o'r Felin Falu Eithin, diau y gŵyr Mr. Peate yn dda nad hi yw'r un y cyfeirir ati ar dudalen 141, yn cael ei throi ag olwyn ddŵr yn yr hen amser, ac y cyfeiria "Ap Cenin" ati wrth ysgrifennu hanes Llanfairfechan i'r Brython Medi a Hydref, 1925.

Nid wyf yn meddwl fod yr un y ceir ei llun yn hen iawn. Nid yw namyn injan dorri gwellt, ac nid yw'r hynaf o'r rhai hynny. Cyfeiriaf at un hŷn na hi ar dudalen 130. Yn ystod y tair blynedd poethion tua 1869-71 y cyfeiriaf atynt ar dudalen 141, pan nad oedd gwair na gwellt i'w gael i'r anifeiliaid yr haul wedi ei losgi ar y maes, cafwyd i'm hen gartref injan dorri gwellt newydd yr un fath â'r un sydd yn y darlun i falu eithin yn fwyd i'r gwartheg rhag iddynt lwgu. Bûm yn ei throi gannoedd o weithiau i falu eithin. Cofiaf yn dda un anlwc a gefais gyda hi. Er meddwl fy mod wedi cnocio ac ysigo'r eithin yn dda a gofalu na roddais ond brigau ieuainc i mewn yn y cafn heb fod yn ddigon gofalus, neu feallai feddwl y malai yr injan newydd unrhyw beth, gadewais i fonyn caled fyned i mewn a chraciodd un o'r cyllill ar ei thraws. Ni wyddwn pa fodd i wynebu fy mam a'm nain a chyfaddef fy helynt, ond ni chefais lawer o ddrwg am fy niffyg gofal, ac ni feddyliasant hwythau y buasai cyllell haearn weddol dew yn cracio. Gwnaeth ei gwaith am lawer o flynyddoedd wedyn, ond ei bod yn fwy anhwylus i'w thynnu i'w llifo a'i rhoi yn ei hôl.

Galwodd Mr. Thomas Thomas, Mr. Thomas Hughes, Fron Isa, a Mr. D. Jones, Pen y Bont, fy sylw at gamgymeriad a wneuthum wrth ysgrifennu oddi ar fy nghof ar dudalen 186, wrth sôn am frwydr addysg yn Llanfryniau. Dywedais fod yr Ysgol Frics wedi ei chodi o flaen yr Ysgol Gerrig, ac mai o'r Ysgol Frics yr arferai'r Person anfon plant adref fore Llun os na fyddent wedi bod yn yr Eglwys y Sul. Ond ymddengys mai pan gynhelid ysgol mewn llofft yn perthyn i'r Eglwys, a'i ddwy ferch ef yn gofalu amdani, y gwnâi hynny. Yna cych- wynnodd yr Ymneilltuwyr ysgol yn Siop Pen Ucha, a bu Miss Catherine Ellis, merch y diweddar Barch. Humphrey Ellis, a Robert Jones, Tŷ Newydd, oedd wedi cael tipyn o addysg o'r tu allan i Lanfryniau, yn gofalu amdani. Yn 1867 yr adeiladodd yr Ymneilltuwyr yr Ysgol Gerrig. Ac yn 1869 y cododd y Person yr Ysgol Frics i geisio lladd y llall. Felly nid oeddwn yn hollol gywir wrth ddywedyd i'r Ymneilltuwyr gynorthwyo i adeiladu'r Ysgol Frics.

Bu farw'r hen Berson yn 1872, a daeth "Elis Wyn o Wyrfai" yn ei le; gŵr llawer callach, er ei fod yn eglwyswr selog, a chan cheid grant gan y Llywodraeth at ysgol yr Ymneilltuwyr, cytunwyd i gau'r Ysgol Gerrig ar y dealltwriaeth fod yr holl blant i gael yr un chwarae teg.

Edrydd Mr. Thomas hanes un arall o ystrywiau'r hen Berson i geisio atal plant i'r ysgol, sef ceisio cau llwybr oedd yn arwain o'r Gellioedd i'r Llan heibio Hendre Ddu i'w rhwystro i ddod y ffordd agosaf. Ond methodd yn ei ymgais.

Felly fe welir fod yr hen Berson wedi gwneuthur popeth yn ei allu i geisio atal un o'r symudiadau mwyaf damniol yn ei syniad ef a ddaeth i Gymru erioed, sef Ymneilltuaeth—y werin dlawd anwybodus yn hawlio rhyddid i addoli eu Creawdwr yn y ffordd a ddymunent, ac nid fel y gorchmynnai ef iddynt wneuthur. Ar dudalen 200, soniais am y Parch. John Williams, Llecheiddior, ond nad oeddwn yn sicr o enw'r lle. Dywed "Elldeyrn," Nantglyn, wrthyf mai Lledrod yn y Deheudir a ddylai fod, ac nid Llecheiddior. Amaethdy yn Eifionydd yw y diweddaf. Bu hen bregethwr o'r un enw yn trigianu yno, ond yn fwy diweddar na'r hen offeiriad duwiol o Ledrod.

Nodiadau

golygu