Cwm Eithin/Ein Capel Ni

Enwadau Cwm Eithin Cwm Eithin

gan Hugh Evans, Lerpwl

Atodiad


PENNOD XVII

EIN CAPEL NI

SAFAI Capel Cefn Cwm Eithin nid mewn llan na phentref, ond ar ei ben ei hun ar godiad tir ychydig lathenni o'r hen ffordd. Codwyd ef ar derfyn y ddeunawfed ganrif. Ef oedd yr hynaf yn y cylch. Capel ysgwâr a dau ddrws i fyned i mewn iddo. Yr oedd y pulpud a'r allor rhwng y ddau ddrws, a'r seti'n codi yn uchel tua'r cefn a stepiau uchel i fyned iddynt. Yr oedd llwybr ar gyfer pob drws ac un yn y canol, y seti'n ddyfnion â drysau'n cau, yn fy nghof cyntaf, a dwy res o feinciau ar y llawr, y bechgyn yn eistedd un ochr a'r genethod yr ochr arall; ond yn fuan rhoed dwy sêt hir yn lle dwy o'r meinciau, ac aeth rhagor o'r plant i eistedd i'r seti. Yr oedd tŷ'r capel wrth ei dalcen, ac ystabl wrth dalcen hwnnw, a mynwent o'r tu ôl, a chotel o dir i gael gwair i geffylau'r pregethwyr, gyda lawnt weddol fawr o dir o'i flaen; y tir i gyd wedi ei roddi gan ŵr a fu â llaw fawr yng nghychwyn yr achos. Lle diddorol dros ben i ni yr hogiau oedd yr ystabl lle'r arhosai ceffylau'r pregethwyr, yn enwedig ceffylau'r pregethwyr teithiol. Llawer ymgom felys a gawsom gyda hwy yn eu holi am eu teithiau. Meddylier gymaint a allai hen geffyl melyn yr hen Brydderch o'r Gopa, neu geffyl John Dafis Nerquis, ei ddywedyd wrthym yn eu dull eu hunain. Yr oeddynt gymaint o wags â'u meistradoedd. Ond fel yr oedd yr oes yn myned yn fwy materol, fe drowyd yr ystabl yn dŷ er mwyn cael rhent at gynnal yr Achos. Ac yn fuan fe brynodd masnachydd anturiaethus ddarn o'r lawnt ac adeiladodd dŷ a siop, fel y gallai mynychwyr y capel saethu dwy frân ar yr un ergyd, cael cynhaliaeth corff ac enaid.

Yr oedd gwydr golau yn y ffenestri, a phan fyddem wedi blino yn gwrando'r bregeth ar brynhawn Sul marwaidd, gallem ein difyrru ein hunain wrth edrych ar rywun yn rhedeg i droi'r hwch o'r haidd, neu'r ŵyn bach yn prancio ar hyd llethrau'r ochr gyferbyniol i'r cwm. Yn yr haf byddai'r ffenestri a'r drysau yn agored, a deuai'r gwenoliaid i mewn i wrando'n fynych, yn enwedig pan fyddai yno bregethwyr wrth eu bodd. "Y wennol a gafodd dŷ.' Gwelais y gwenoliaid droeon yn gwrando'n astud

ar y Parch. William Pugh, Llandrillo, yn pregethu. Mae'n

debyg eu bod yn meddwl mai un o'u cyfeillion y gwenyn fyddai wrthi. Ys gwn i beth a fuasai pobl yr oes hon yn ei feddwl o wrando ar William Pugh yn pregethu am awr ar brynhawn Sul marwaidd, fel cacynen mewn bys coch? Bu'n rhaid i ni ddwyn y groes honno lawer tro.

Nid oedd yno ddim i dwymno'r capel yn y gaeaf, ond nid wyf yn cofio i mi erioed fod yn oer ynddo, er nad oeddwn yn meddu côt ucha'. Arwydd o henaint neu o falchter oedd gwisgo côt uchaf yng Nghwm Eithin. Gresyn na buasai'r hen arferiad dda honno wedi parhau. I beth yn y byd y mae gan ŵr ieuanc a'i wythiennau yn llawn o waed eisiau côt uchaf? Mae llawer o hogiau o bregethwyr yn andwyo eu hiechyd a'u cyfansoddiad wrth wisgo côt uchaf a chadach mawr fel hanner gwrthban am eu gyddfau er ceisio ymddangos yn debyg i hen gewri'r pulpud. Pan welaf un o'r creaduriaid bach hynny byddaf bob amser yn dyfod i'r casgliad nad yn ei frest y mae'r gwendid ond yn ei ben. Mae'n debyg mai'r rheswm fod eisiau twymno capeli yn ein dyddiau ni yw bod y pregethwyr a'u gwrandawyr wedi oeri llawer rhagor y byddent yn yr hen amser. Yr oeddynt wedi dechrau twymno'r eglwysi lawer o flynyddoedd cyn dechrau twymno'r capeli. Clywais adrodd fod y dyrnaid addolwyr a fynychai Eglwys Cynwyd wedi myned i deimlo'n oer iawn, a galwyd cyfarfod o'r wardeniaid ac eraill er cael gafael ar ryw gynllun effeithiol i dwymno'r lle. Cynigiwyd amryw ffyrdd i wneuthur hynny, ond nid oedd llawer o lewych arnynt. Cododd yr hen Feistar Williams, Gwerclas, ar ei draed, a chynigiodd eu bod yn cael John Jones, Talsarn, yno i bregethu, mai dyna fuasai'n ei thwymno drwyddi. Ardderchog, yr hen Williams! Ond ni bu angen am dwymno'r capeli am flynyddoedd ar ôl hynny. Ond ysywaeth fe ddaeth angen am dwymno'r capel. Os edrychir dros ddalennau'r Faner am y blynyddoedd '67 a '68, ymhen llai na deng mlynedd ar ôl Diwygiad '59, fe welir fod y cwestiwn o oerni'r capeli wedi datblygu'n gwestiwn poeth. Erbyn hyn ceir heating apparatus ym mhob capel, ac eto maent yn oerach nag yn yr hen amser gynt.

Pan gyrhaeddais i gapel bach Cwm Eithin, yr oedd yno dri o flaenoriaid. Yr oedd yno bedwar arall wedi bod o'u blaen er amser cychwyn yr Achos, tri o'r pedwar wedi marw, ac un wedi symud oddi yno, a bu'n flaenor mewn dwy eglwys arall ar ôl hynny. Dim ond tri o flaenoriaid y capel hynaf yn y cylch oedd wedi marw cyn cof i mi. Rhaid fy mod yn dechrau myned yn hen, ond cofier mai un blaenor oedd yno, rhoddwr y tir, yn yr oes gyntaf. Yr oedd yr hynaf o'r tri yn ffarmwr mawr, ac o ymddangosiad boneddigaidd. Gwallt gwyn, cyrliog, ac yn ysgwyd ei ben bob amser, arwydd i ni'r plant ei fod yn dduwiol iawn. Yr oedd ganddo gorffolaeth fawr. Yr oedd drysau'r capel yn ddau ddarn, ac un hanner a agorid bob amser. Gyda thrafferth y deuai ef i mewn. Gwthiai y rhan oedd o dan ei wasgod i mewn yn gyntaf, ac yna deuai yn wysg ei ochr am gongl yr hanner drws caeedig ac i mewn yn debyg fel y deuir â bwrdd crwn i mewn i ystafell. Wrth feddwl amdano wedi dyfod i oedran addfetach, credaf mai hen ŵr da ydoedd; a gallwn feddwl wrth gofio am ffurf ei wyneb a'i ben ei fod yn ŵr o farn ac yn gymeriad cryf. Cofiaf yn dda ddiwrnod ei gladdu. Dyna'r tro cyntaf i mi roddi fy nhroed yn Eglwys Blwyf Cwm Eithin.

Gŵr pur wahanol oedd blaenor arall. Ffarmwr mawr heb ddim hynod iawn ynddo. Rhoddai bwys neilltuol ar ei air a gofalai am ei gadw. Arferwn feddwl ei fod yn ŵr mawr ar ei liniau, a meddyliai yntau ei fod yn bur fawr ar ei draed, ac felly yr oedd o ran ei gymeriad, ond nid oedd ei wybodaeth na'i allu i siarad yn gyhoeddus ond pur gyffredin. Siaradai yn uchel iawn ym mhob man, yn enwedig mewn cwmni; ond ar gefn y ferlen neu yn ei gerbyd yr oedd yn ei ogoniant. Meddai ferlen dda bob amser. Byddai'n barchus iawn o'r plant a'r bobl ieuanc. Yr oedd gennyf barch mawr iddo ef a'i deulu caredig, a chefais gystal cyfle, os nad gwell, i'w adnabod â llawer o drigolion Cwm Eithin.

Y trydydd oedd ein pen blaenor. Ffarmwr oedd yntau, ond fod ei ffarm yn llawer llai, a buasai un llai fyth yn gwneuthur y tro iddo o ran hynny o waith a wnâi. Ond yr oedd yn flaenor ardderchog. Blaenor yn byw mewn ffarm oedd ef, ac nid ffarmwr wedi ei wneuthur yn flaenor. Meddai bersonoliaeth hardd a gwybodaeth eang, ac yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, yn drefnydd medrus, yn holwyddorwr pobl mewn oed, ieuenctid neu blant, dan gamp. Ymysg yr holl flaenoriaid y deuthum i gyffyrddiad â hwy, ni chyfarfum â'i debyg am holwyddori. Byddai ei gael i ddarllen pennod ac i holi arni ar ddechrau'r cyfarfod gweddi nos Sul y wledd flasusaf yng nghapel Cwm Eithin. Yr oedd yn un o'r athrawon medrusaf, a phlannodd awydd angerddol am wybodaeth mewn to ar ôl to o blant Cwm Eithin. Ef oedd y dechreuwr canu, ac nid oedd ei debyg am hynny yn yr holl ardaloedd. Ei unig fai, am a wyddwn i yr adeg honno, oedd ei fod yn rhy arw am ei ffordd ei hun. Ac âi i'w ful oni châi hi. Safai ei gartref yn agos i'r capel. Yr oedd yn dŷ da, hen gartref yr hen frenin weinidog ac un o brif arweinwyr y Methodistiaid yr oes o'r blaen; ac yno y lletyai'r pregethwyr. A byddai wrth ei fodd gyda hwy. Ond ofnai hogiau'r Bala ef; yr oedd yn holwr caled. Byddai yn ei ogoniant wrth arwain y pregethwr at y capel. Os digwyddai fod pregethwr enwog yn y daith, dyweder Dr. Edwards, y Bala, yr adeg honno, yn lle rhoddi ei ddwylo ym mhocedau ei lodrau fel arfer, tynnai ei wasgod i fyny a gwthiai ei ddwylo oddi tan ei lodrau, er mwyn teimlo'n llond ei ddillad. Meddai rai ffaeleddau, ond diolch amdano, gwnaeth waith na ddileir mohono.

Nid oedd yr un o flaenoriaid "Ein Capel Ni" yn amlwg yn y Cyfarfod Misol; Morgan Dafydd, blaenor Llanllonydd, eglwys oedd yn yr un daith â ni, oedd popeth yno. Hen lanc yn cadw siop, neu'n hytrach y siop oedd yn cadw'r hen lanc, ac yntau'n treulio ei amser i ddarllen a gwasanaethu'r Corff. Gŵr hyddysg yn ei Feibl, ac yn medru darllen y Testament Newydd yn y Roeg, a gweithiau diwinyddion gorau ei oes ar flaenau ei fysedd. Ond siaradwr afrwydd ydoedd, er siarad bob amser; gŵr cryf; o gymeriad dilychwin, yn cael ei anrhydeddu gan bawb, ond blaenor digon sâl gartref. Nid oedd yno ar hyd y blynyddoedd ond un blaenor gydag ef, dyn bychan ym mhob peth ond mewn ffyddlondeb a duwioldeb, ond yr oedd yn gwneud yn iawn i gario dŵr i Morgan Dafydd. Pan ofynnid ei farn ar gwestiwn, "O, yr un fath â fo," fyddai ei ateb bob amser. Morgan Dafydd a fyddai'n dechrau bron bob cyfarfod gweddi, a'r blaenor arall yn diweddu, ac yr oedd yno un brawd arall yn arfer moddion yn y canol, i wneud sandwich, a phan fu'r ddau hen bererin farw, nid oedd yno neb braidd i gario'r gwaith ymlaen Eglwys wan mewn ardal fawr a phoblog ydoedd.

Yr oedd yno well eglwys, gwell pobl, rhai mwy darllengar a deallgar nag yn yr un ardal arall yng Nghymru " yn ein capel ni." Gellir nodi amryw resymau am hynny. Un yw y bu y Parch. Thomas Charles o'r Bala yn ofalus iawn am ein capel ni yn ei gychwyn, am mai ef oedd y cyntaf i gael ei godi yn y cylch ar ôl y Bala; hynny'n brawf fod pobl Cwm Eithin yn rhai effro wrth natur. Peth arall, daeth un o brif dadau Methodistiaeth i fyw o fewn ychydig o lathenni i'r capel yn 1815, a bu yno hyd 1834. Gŵr byw ac effro, meddylgar, ac yn fyfyriwr mawr. Clywais Evan Huws yn sôn llawer am ei weithgarwch. Pan fyddai ganddo hamdden, arferai adael i'w geffyl gerdded yn araf tra byddai yntau wedi ymgolli mewn myfyrdod. "Cofiaf ei gyfarfod aml dro o Gwernanau i'r hen Ffolt," ebe Evan Huws, "a phasiai fi heb sylwi." Cydnabyddid fod Ysgol Sul "Ein Capel Ni" ar y blaen i holl ysgolion y cylch. Arferai ei rhif fod yn ddwbl rhif yr aelodau eglwysig. Bu'r Eglwys fach heb weinidog yn gofalu dim amdani o 1834 hyd 1864, a phan ymunais i â hi nid oedd yr un gweinidog yn byw yn nes na rhyw bum neu chwe milltir iddi. Felly, er byw heb ofal unrhyw weinidog am ddeng mlynedd ar hugain, yr oedd yn un o'r eglwysi mwyaf byw yng Nghymru. Ychydig iawn oedd nifer y paganiaid o'i chylch, dim ond dau neu dri, a deuent hwythau i'r cyfarfod diolch am y cynhaeaf.

Llenwid pulpud "Ein Capel Ni" gan weinidogion y cylch, megis Dafydd Rolant, y Bala; Robert Thomas, Llidiardau; John Hughes, Gwyddelwern; Dafydd Hughes, Bryneglwys; Robert Williams, Llanuwchllyn; Richard Williams, Llwynithel, Glan'rafon; John Williams, Llandrillo; Edward Williams, Cynwyd; Elis Evans, Llandrillo; Dafydd Edwards, Glan'rafon; Robert Edwards, Llandderfel; y ddau Isaac Jones (y tad a'r mab), Nantglyn; Robert Roberts, Parc; John Jones, Penmachno; Eli Evans, Dolwyddelan, a William Pugh, Llandrillo. Deuai Dr. Edwards yn ei dro. Ni chefais i'r fraint o glywed Dr. Parry, ond toreth y pregethwyr oedd "Hogiau'r Bala." "Gŵr ifanc o'r Bala fydd yma yn pregethu y Sul nesa," dyna a glywid Sul ar ôl Sul yn aml, ac yr oeddym ni'r plant yn meddwl yn uchel iawn ohonynt, ac yr oedd corff y gynulleidfa yn eu parchu a'u mwynhau yn fawr.

Arferai Evan Huws ddywedyd nad oedd yn iawn i neb aros gartref ar nos Sul ystormus hyd yn oed i ddarllen pregethau John Jones, Talsarn, ei arwr mawr ef, os gallai ymlwybro i'r capel. Yr oedd dyfod i'r Tŷ yn beth mawr yng ngolwg yr hen saint. Yn hynny yr oeddynt yn wahanol iawn i seintiau'r dyddiau diweddaf hyn. Oni bydd y pregethwr wrth eu bodd arhosant gartref. Ond y peth mawr yng ngolwg yr hen bobl oedd cyfarfod y Gŵr yn Ei Dŷ. Eto yr oedd peth rhagfarn yn aros yn erbyn hogiau'r Bala, yn enwedig ymhlith rhai o'r hen bobl oedd yn hongian rhwng y Capel a'r Eglwys, heb fynychu ond ychydig ar na'r naill na'r llall, ac yr oedd ambell un o'r dosbarth hwnnw yn teimlo'n bur gryf yn eu herbyn. Cofiaf glywed am un ohonynt yn dywedyd ei farn fel y canlyn am hogiau'r Bala. Galwn ef yn Huw Dafydd. Gŵr wedi darllen llawer, ac yn meddu cryn graffter meddwl. Adwaenwn ef yn dda. Anaml yr âi i gapel, ambell dro i'r Eg- lwys. Yn amser Diwygiad Richard Owen perswadiwyd ef i fyned i wrando arno, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi teimlo o dan ei weinidogaeth. Wrth gydgerdded adref mentrodd cyfaill ofyn iddo, "Beth oeddych chwi yn ei feddwl o'r pregethwr yna, Huw Dafydd?" "Wel," ebe yntau, "dyna ŵr wedi ei anfon gan Dduw heb os nac onibai." Yna stopiodd, ac meddai ymhen munud neu ddau, "Ond am y diawled bach o'r Bala yna sydd gynnoch chi bob Sul, wn i ddim pwy sydd yn anfon y rhai yna."

Er nad oedd ond dau flaenor yn Ein Capel Ni am ran o'r amser y bûm i yno, nid oedd yr allor yn wag; byddai'r hen bererinion yn yr amser gynt yn ddigon gostyngedig i ddyfod i'r allor. Yr oedd yno ddau neilltuol yn arfer eistedd, Richard Jones a John Huws. Hen ŵr bychan oedd yr olaf, a phob amser yn eistedd yn fflat ar ben grisiau'r pulpud, a phob amser â gwên ar ei wyneb; a phan fyddai pregethwr wrth ei fodd estynnai ei big dros ddrws y pulpud. Llawer o hwyl a gawsom ni'r plant yn ei wylio yn tynnu ei ben yn ôl pan fyddai pregethwr hwyliog â breichiau hirion ganddo, dyweder John Hughes, Tyddyn Cochyn, yn rhoddi ei bregeth fawr ar y cribddeiliwr ac yn ei ddisgrifio yn cribinio'r cloddiau a'r cymylau, ac yn glanio yn y byd tragwyddol heb gymaint a botingen o wellt, ac yn gweiddi Dim byd i mi, bobol bach; rhywbeth i mi hefyd, rhywbeth i mi hefyd." Hen bregethwr llawn dwylath o daldra, â breichiau anghyffredin o hirion. Bûm yn ofni lawer tro gweled pen John Huws wedi ei dynnu o'r gwraidd ac yn disgyn ar y Beibl, ond gofalai'r hen frawd am dynnu ei big i ddiogelwch pan welai y breichiau mawr yn dechrau chwifio. Yr oedd gan rai o'r hen bererinion ryw hyfdra, neu beth bynnag y galwaf ef. Yr oeddynt yn nes at y pregethwyr ac yn fwy cartrefol nag ydym ni yn yr oes hon, a dywedent eu barn wrthynt yn bur ddifloesgni. Clywais adrodd am hen bererin mewn capel arall. Hen ŵr tal, tenau, yn eistedd mewn sêt ar godiad wrth ochr y pulpud; a phan safai i fyny yr oedd cyn daled â'r rhan fwyaf o'r pregethwyr. Un tro yr oedd yno ŵr yn pregethu ar y " Ddeddf a Moses," a Moses a Moses oedd ganddo ar hyd yr amser. Y funud y dywedodd Amen, cododd yr hen bererin ar ei draed a'i hanner drosodd i'r pulpud, a lediodd y pennill a ganlyn gyda phwyslais neilltuol:—

"Er cymaint gŵr oedd Moses,
Mae'r Iesu'n fwy, medd Duw !
Mae Moses wedi marw,
Mae'r Iesu eto'n fyw.
Ni welais neb mor fedrus
Ag Iesu am drin fy nghlwy,
A chan ei fod fath feddyg
Ffarwel i Moses mwy."

A chanwyd ef gyda hwyl.

Yr oedd y Seiat yn bur boblogaidd yn Ein Capel Ni. Byddai braidd yr holl aelodau yn ei mynychu. Ar ôl gwrando'r plant yn dywedyd eu hadnodau a'u holi'n bur fanwl ar adnod y testun ac ar y bregeth (yr oedd y rhan fwyaf ohonom yn ysgrifennu'r testunau a'r pennau), gofynnai un o'r blaenoriaid am air o brofiad, a dechreuai un o'r brodyr neu'r chwiorydd, bron yn ddieithriad, ohonynt eu hunain. Cwyno llawer ar eu bywyd diffrwyth y byddai'r hen saint a'r saint ieuainc, ond yr oedd eu profiad yn real iawn, mi gredaf. Dywaid rhai: Pa ddiben i blant wrando peth felly, nad ydynt yn deall dim ohono? Ond mi gredaf oddi ar fy mhrofiad fy hun fod plant yn deall profiad crefyddol yn dda iawn, a bod ei wrando yn gwneud argraff ddofn iawn ar eu meddwl. Anaml iawn y gallai'r un o'r chwiorydd ddywedyd ei phrofiad heb dorri i lawr i wylo'n hidl oherwydd ei diffyg cariad at, a ffyddlondeb i'r, Gŵr a garai mor fawr. Yr hen chwaer hynaf oedd yno, Sali, Tŷ Tan y Berllan, fyddai'r orau am fedru dal i ddywedyd ei phrofiad heb wylo. Hen chwaer olau yn ei Beibl, o gynheddfau cryfion, blaen ei geiriau, ond torrai hithau i lawr yn lân weithiau. Yr oedd y blaenoriaid yn fedrus iawn i ddefnyddio'r Balm o Gilead i wella'r clwyfau.

Yn Ein Capel Ni yr oedd yr Ysgol Sul orau yn yr holl gwmpasoedd. Gyda dosbarth y plant lleiaf byddai'r hen frawd arall a arferai eistedd yn yr allor, Richard Jones, neu'r "hen dynnwr clustiau," fel y galwem ni ef. Ei ddull oedd rhoddi gwers i un ohonom ar y tro, ac oni byddai'r gweddill yn edrych ar eu gwersi gafaelai yn eu clustiau gan roddi hanner tro a phlwc sydyn. Cadwai hynny ni mewn trefn ac i edrych ar ein gwersi. Gellir adnabod y rhai a fu yn ei ddosbarth wrth hyd eu clustiau a'r hanner tro sydd ynddynt. Er y cyfan, byddem ni yn hoff iawn ohono. Nid hen ŵr cas ydoedd, ond yr oedd direidi yn llond ei groen. Llawer tro y cymerodd fi adref gydag ef i de, EIN CAPEL NI ond byddai'n rhaid i mi ofalu am eistedd yn ddigon pell oddi wrtho pan fyddwn yn yfed te neu ni fyddai fy nghlustiau yn ddiogel. Ni chlywais sôn am safonau, safoni a safonwyr yno; ond yr oedd gennym ni drefn lawer gwell na hynny. Unwaith bob blwyddyn âi'r arolygwr ac un o'r athrawon trwy ddosbarthiadau'r plant, a châi bob un oedd wedi gwneud cynnydd mewn darllen a gwybodaeth ei symud i ddosbarth uwch, a chryn anfri oedd i'r un gael ei adael ar ôl. Yr oedd yr ysgol yn un fyw iawn. Yr oedd y blaenor a enwais, ac eraill oedd wedi codi yn ei gysgod, yn gallu taflu rhyw asbri ac awydd yn y plant i ddarllen a deall hanes cymeriadau yr Hen Destament, ac yn y rhai hŷn i ddeall y Testament Newydd. Plant Ein Capel Ni a fyddai ar y blaen bob amser yn ateb yn Sasiwn y Plant. Cynhelid cyfarfod darllen yn y gaeaf. Yr oedd yno gôr, a chôr Ein Capel Ni a enillai bob amser yng Nghyfarfod Mawrth oni byddai yn cael cam.

Bugail cyntaf Cwm Eithin, hynny yw, bugail cyntaf y saint, oedd un o fyfyrwyr cynharaf y Bala. Yr oedd yno aml fugail defaid wedi bod, ac yr oedd pawb yn gynefin â'r gair bugail ac yn deall ei ystyr yn bur dda. Ond yr oedd y syniad o fugail eglwysig yn newydd iawn. Yr oedd i ddyn roddi ei holl amser i bregethu a chadw seiat, ac felly gael ei dalu am wneud dim byd, a gallu byw heb ffarm na siop, yn beth na welwyd neb erioed yn ei wneud yng Nghwm Eithin ond y Person. Ac nid rhyw awydd mawr oedd yn neb am weled rhagor o Bersoniaid.

Ni fu unrhyw bregethwr yn cymeryd y gofal lleiaf o'n Capel Ni ar ôl marw'r hen wron yn 1834, ac yr oedd yr hen long o dan ei llawn hwyliau; ond yn 1864 daeth y bugail newydd, yn ŵr ieuanc yn syth o'r coleg. Meddai bersonoliaeth hardd iawn, ac yr oedd yn bregethwr hwyliog iawn, dyna syniad hogyn amdano. Bu farw yn 1874, ymhen deng mlynedd, a chyhoeddwyd cofiant iddo. Bob tro y byddai fy hen weinidog, y diweddar Barch. Griffith Ellis, a minnau yn sôn amdano byddem yn methu â chytuno. Daliwn i allan, pe buasai wedi cael byw i aeddfedrwydd oedran, y daethai yn bregethwr poblogaidd, ond credai ef fel arall. Ond peidier â'm camddeall nid cael ei alw i ofalu am ryw drigain a deg yn Ein Capel Ni a wnaeth, ond ei alw i ofalu am chwech o eglwysi, a'r ffordd rhwng y ddwy bellaf oddi wrth ei gilydd tuag wyth milltir. Daeth yntau i fyw i Lanaled, yn y canol. Yno yr oedd yr eglwys fwyaf a'r dref fwyaf ymysg y chwech. Yr oedd ganddo ferlyn da i'w gario o gwmpas a deuai unwaith yn y pythefnos i'n Capel Ni i gynnal cyfarfod gyda'r plant a'r bobl ieuainc am chwech, a'r seiat am saith.

Beth a feddyliai llawer o'r gweinidogion sydd bron â cholli eu gwynt a'u lladd eu hunain gydag un eglwys o ryw ddau cant o aelodau neu ddwy eglwys fach o gant yr un, a'r rhai hyn ddim ond dwy filltir oddi wrth ei gilydd—o ofalu am chwech o eglwysi ar wasgar trwy ddarn o wlad yn estyn o bymtheg i ugain milltir. Ni wn a all bugail defaid y dyddiau hyn ofalu am gynifer o ddefaid ag a wnâi rhai y dyddiau gynt. Nid wyf yn cofio sut yr aeth yr alwad iddo. Mae'n debyg fod y chwech eglwys wedi cytuno i'w alw. Ymhen pedair blynedd drachefn rhannwyd yr esgobaeth yn ddwy, ac yn 1868 daeth yr ail fugail. Ymneilltuodd y cyntaf i'r tair eglwys uchaf, a daeth y bugail newydd i'n Capel Ni, Llanaled a Llanllonydd. Gŵr ieuanc tal gyda llais mawr, pregethwr gwych, oedd yn fyw hyd yn ddiweddar.

Yr oedd y fugeiliaeth erbyn hyn yn dechrau dyfod yn gwestiwn llosgawl. Credaf i'r fugeiliaeth gael ei mabwysiadu yng Nghwm Eithin yn un o'r lleoedd cyntaf. Mae'n debyg fod dau reswm am hynny. Yn un peth yr oedd yn agos i'r Bala, yn yr un Cyfarfod Misol â Dr. Edwards, ac yr oedd ei ddylanwad ef yn fawr iawn yno. Peth arall, yno yr oedd yr eglwysi mwyaf byw yng Nghymru ac yn gweled gwerth y fugeiliaeth yng nghynt na rhannau eraill o'r wlad, er bod llai o angen amdani yno nag yn yr un rhan arall. Nid wyf yn credu bod dim angen amdani yn Ein Capel Ni yr adeg honno, oherwydd gofal a medr y blaenoriaid. Cyn pen hir iawn drachefn rhannwyd yr esgobaeth yn dair, gan roddi dwy eglwys i ofal pob bugail. Felly yn awr mae tri yn gofalu am ran o Gwm Eithin lle nad oedd un yn fy nghof cyntaf i. Methaf â gweled fod yr eglwysi fawr mwy llewyrchus nag oeddynt o dan ofal yr hen do o flaenoriaid. Ond cwestiwn arall yw pa fath olwg a fuasai arnynt erbyn hyn pe buasent heb ofal bugeiliol ar ôl i'r hen do o flaenoriaid farw.

Nodiadau

golygu