Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch/Am borthi a phesgi moch
← Am gytiau moch—Glan weithdra | Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Pa fodd i wybod pwysau mochyn wrth ei fesur → |
¶
AM BORTHI A PHESGI MOCH.
Y mae y dull o borthi moch yn un o bwysigrwydd mawr. Fel anifeiliaid gwangcus dylid cadw golwg yn barhaus arnynt. Ni ddylid rhoddi ormodedd o fwyd cyn eu bod wedi prifio yn dda, ac ni ddylid eu porthi yn rhy aml. Rhodder iddynt ymborth yn gymedrol, y fath ag a'u ceidw mewn cyflwr da, ac yn rhwystro iddynt fod yn rhy farus. Os bydd i'r moch grwydro llawer yn ystod y dydd, a bwyta gormod o laswellt, yn enwedig yn y gwanwyn, y maent yn ddarostyngedig i fath o haint yn eu coluddion, yr hyn a eilw y Saeson yn gargut—nid ydym yn gwybod am enw Cymraeg arno. O ganlyniad, cyhyd ag y byddoch yn eu troi allan, ymarferwch â'u porthi bob bore a hwyr, ac ni fydd yn agos gymaint o berygl.
Mewn manau gwledig, lle y mae coedwigoedd mawrion i'w cael, a lle nad yw y borfa o fawr werth at ddim dyben arall, byddai epilio a magu moch yn orchwyl tra enillgar i'r llafurwr; oblegyd pan y mae ganddynt gylch eang grwydro, ni ofynant ond ychydig ymborth heblaw yr hyn a loffant eu hunain wrth bori o dan y coed, ac wrth gloddio am fân bryfaid a gwreiddiau o wahanol fathau—at y gorchwyl olaf y mae eu trwynau hirion a chryfion yn eu gwneyd yn dra chyfaddas. Nid ydys yn eu pesgi âg ymborth pryn, oddigerth yn y gauaf, a phan besgir y moch at y farchnad, neu i'w lladd. Y mae yn beth inwy cyffredin, pa fodd bynag, i'r llafurwr gadw mochyn neu ddau yn y cwt, er mwyn ychwanegu at foddion cynaliaeth ei deulu; ac hyd yn nod pan y cedwir ef gyda'r amcan cyfyngedig yma, nid yw y mochyn yn anifail dibwys. Y mae Cobbett yn gwneyd sylw craff ysmala ar hyn:—"Bydd i olwg ar hanerob neu ddwy o gig moch yn mhen y bwthyn, wneyd mwy tuag at gadw dyn tlawd rhag herwhela a lladrata, nag a wna cyfrolau cyfain o actau seneddol. Y maent yn dda hefyd at larieiddio y dymher, a meithrin cydgordiad teuluaidd."
Os byddwch yn myned i brynu porchell at ei borthi a'i ladd, gwell ydyw ceisio un a fyddo yn un mis ar bymtheg oed tua'r Nadolig, oblegyd tua'r amser hwnw neu yn Ionawr ydyw yr adeg oreu i ladd yr anifail. Oddieithr bod eisiau porc tyner, ni ddylid ei ladd tan flwydd oed. Yn yr haf, gellir porthi y mochyn ar unrhyw ysbwrial o'r gegin neu o'r ardd, yn cynwys crwyn maip a phytatws, gwehilion y bwrdd, dail cabaits, &c.; ond os gellir cael llwch haidd, neu soig o ddarllawdy neu dŷ tafarn, yn lled rad, y mae y naill neu y llall yn ymborth da iddo. Ond dylid cofio yn wastad mai po goreu fyddo yr ymborth, goreu a fyddo y porc. Dylai y bwyd fod o natur lysieuol, neu gan mwyaf felly; ni ddylid rhoddi iddo ddim ymborth o natur gigol, heblaw golchion oddiar y bwrdd. Beth bynag a roddir iddo, cynygier ef yn ddognau bychain, a hyny yn fynych, gan ei fod yn bwysig peidio gadael i'r mochyn fyned i gyflwr anarferol o wangclyd. Anoethineb mawr ydyw haner newynu moch, ac ad—delir am hyny trwy gael ysgerbwd teneu a gwael, na fyddo prin yn werth ei ladd.
Y mae gan ffermwyr fanteision mawrion i borthi moch. Mae y gwellt—fuarth ynddo ei hun, yn cynyrchu cynaliaeth ddigonol iddynt; ac y mae llawer o foch yn flwydd oed cyn derbyn dim ymborth ond a gasglant eu hunain, eto y maent mewn cyflwr da. Gydag ysbwrial yr ysgubor, a'r gwellt, y maip, y moron, a'r meillion, a orweddant hyd y lle, ystyrir y gall ffermwr gynal moch yn y cyfartaledd o un at bob saith neu wyth erw o dir a fyddo ganddo dan gnwd, heb wybod am yr hyn a fwytânt. Anfynych y megir moch yn y fath rifedi fel ag i beri codi cnydau pennodol ar eu cyfer, er fod rhai ysgrifenwyr yn haeru y cynyrchent, yn y cyfryw amgylchiad, fwy o enill mewn llai o amser nag anifeiliaid ereill a borthir yn y dull hwnw. Mewn manau lle y megir moch ar raddfa eang, adeiladir rhês briodol o sheds, buarthau, a chafnau bwyta; ac heblaw ysbwrial a golchion cymysg y fferm, codir cnydau geirwon o bytatws, cabaits, moron, a maip Sweden, gogyfer a'r moch.
Dechreuir ar y gorchwyl o besgi moch tua mis Medi, pa un bynag ai at borc ai bacwn y bwriadwyd hwy. Os at borc, ni ddylid eu pesgi mor dewion. Yn y naill amgylchiad a'r llall, rhaid iddynt gael ymborth maethlon; yr unig ragocheliad ydyw peidio dechreu porthi yn rhy gyflym, onidê gellir eu syrffedu. Y defnyddiau goreu at borthi ydyw haidd a blawd pŷs; ac os gellir rhoddi llaeth iddynt ar yr un pryd, naill ai wedi ei ysgumio neu ei gorddi, bydd yn llawer haws eu porthi, a gwellheir ansawdd y cig hefyd. Y mae llawer iawn o bobl yn porthi eu moch ar bytatws; ond yn yr amgylchiad hwn nid yw y cig mor galed a rhagorol, ac y mae y brasder yn lled rydd a llipa.
Gall bwyd meddal wneyd y tro yn burion foch pan fyddont yn tyfu, ond nid dyna yr ymborth a roddir iddynt pan besgir hwy at eu lladd. Y mae y rhai a besgant foch at eu gwasanaeth eu hunain yn gyffredin yn rhoddi iddynt ddogn neu ddau o geirch yn feunyddiol am bedwar diwrnod ar ddeg cyn eu lladd, ac ni roddant iddynt ond llaeth wedi ei ysgumio neu ei gorddi i'w yfed; a'r diwrnod cyn ei ladd, ni ddylai y mochyn gael math yn y byd o ymborth.
Pan na byddo amgylchiadau rhyw rai yn hyfforddio iddynt ddylyn yr un o'r cynlluniau a nodwyd o borthi at ladd, gellir defnyddio pytatws wedi eu berwi, a'u cymysgu â dyrnaid neu ddau o flawd ceirch, yn eu lle.
Ond er yr hyn a nodwyd uchod, nis gellir gwadu nad ydyw y Gwyddelod yn magu porc rhagorol trwy borthi moch a phytatws, a hyny braidd yn gwbl. Nid ydyw mor frâs a'r porc a gynyrchir trwy borthi â phŷs a haidd, ond y mae, ar y cyfrif hwnw, yn well at ystumog ag sydd yn anghynefin âg ymborth cryf. Y mae maip Sweden, moron, ac ŷd wedi ei friwsioni, ynghydag ychydig flawd pŷs neu ffa, yn ymborth rhagorol at besgi moch, a gellir ei gael am ychydig yn fwy na haner y draul yn ol yr hen drefn—pytatws a blawd.
Terfynwn ein sylwadau ar borthi, gydag ail—adroddiad o ocheliadau pwysig awdwr arall ar y pwngc yma:—
"1 Gochelwch borthi y moch yn fudr.
2. Nac anghofiwch roddi dognau cymedrol o halen yn yr ymborth a roddwch iddynt—canfyddwch y bydd hyn les mawr.
3. Bwydwch hwy ar adegau rheolaidd.
4. Glanhewch y cafnau cyn rhoddi bwyd ynddynt.
5. Peidiwch a rhoddi gormod o fwyd ynddynt; na roddwch ond cymaint ag a fwytânt ar un pryd.
6. Rhoddwch iddynt amrywiaeth o ymborth. Bydd i amrywiaeth greu, neu o leiaf gynyddu chwant bwyd, ac yn mhellach y mae yn meithrin iechyd. Arweinier chwi berthynas i'r amrywiaeth gan liw y dom a fwriant; dylai hwn fod o dewedd canolig, ac o liw llwyd. Os bydd yn galed, cynydder swm y rhuddion a'r gwreiddiau noddlyd; os bydd yn rhy feddal, lleihäer neu atalier y gyfran an o ruddion, a gwnewch yr ymborth yn dewach: os gellwch, ychwanegwch gyfran o ŷd—peth wedi dyfetha, ac felly yn anghyfaddas at unrhyw bwrpas arall, a wna y tro yn burion.
7. Porthwch eich ystôrfoch ar wahan, yn ddosparthiadau, yn ol eu cyflyrau perthynasol; cedwch hychod torog ar eu penau eu hunain; a moch at facwn a rhai at borc ar eu penau eu hunain. Nid ydyw yn ddymunol cadw yr ystôrfoch yn rhy gigog, canys y mae porthiad uchel, pa mor ddyeithr bynag yr ymddengys hyny, yn cael ei ystyried yn rhwystr iddynt gyrhaedd maintioli a ffurf briodol. Y mae yn well porthi moch a fwriedir at facwn yn feddal, ac heb fod yn rhy helaeth, nes iddynt gyrhaedd eu llawn faint; yna gellwch eu dwyn i'r cyflwr goreu ag sydd yn ddichonadwy, a hyny mewn yspaid rhyfeddol o fyr. Trwy y drefn yma y codir y moch anferthol hyny a bwysant ddeuddeg cant yn fynych, neu o leiaf haner tunell.
8. Peidiwch ag esgeuluso cadw eich moch yn lân, sychion, a chynhesion. Y mae hyn o bwysigrwydd hanfodol, ac nid ydyw fymryn yn llai felly na'u porthi; canys bydd i ymborth gwael lwyddo yn well gyda'r pethau hyn, na'r ymborth goreu hebddynt.'
Ar ddiwedd y rhagocheliadau hyn y mae awdwr arall yn sylwi fel y canlyn:—"Tra y byddaf yn son am lanweithdra, gadewch i mi ail—adrodd am y lles a ddeillia oldiwrth olchi moch; bydd i hyn ad—dalu am eich trafferth lawer gwaith."
Y DULL O OLCHI MOCH.
Y prif atalfa ar ffordd moch i ddyfod yn eu blaenau ydyw gadael iddynt orwedd mewn gwlybaniaeth. Os bydd gwrych eich moch yn sefyll i fyny, ac yn edrych yn arw, y mae yn arwydd ar unwaith nad ydynt mewn cyflwr da. Felly cymerwch haner pegaid neu ychwaneg o ludw, berwch ef yn drwyth; yna gosodwch y moch a fyddont yn goddef felly ar faingc, a golchwch hwy â'r trwyth yma, gan eu crafu âg ysgrafell nes y byddo yr holl grêst wedi dyfod oddiar eu crwyn; yna golchwch hwy â dwfr glân, a lluchiwch ludw drostynt, a bydd i hyny ladd y llau, a pheri i'r moch ddyfod yn eu blaenau yn rhagorol, ac yn gwbl glir oddiwrth bryfaid.