Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch/Am gytiau moch—Glan weithdra

Diddyfnu y perchyll—hychod—baeddod Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
Am borthi a phesgi moch


AM GYTIAU MOCH—GLAN WEITHDRA.

Dichon y gall rhai feddwl yn isel am y pwngc hwn; ond er hyny, ac er fod moch i'w cael yn mhob gwlad mewn cyflwr llwyddiannus, a bod eu cyfansoddiad wedi ei gyfaddasu at bob hinsawdd, eto canfyddir eu bod yn gwaethygu, ac heb ddyfod yn mlaen cystal, mewn eithafion gwres ac oerni. Canfyddir hwy yn eu cyflwr naturiol, pan yn preswylio naill a'i mewn gwledydd eithafol o boeth neu oer, yn chwilio am y lleoedd cyfaddasaf i'w cyfansoddiad.

Y mae moch, yn eu cyflwr dof, yn gofyn cael eu cadw yn dra sychion a chynhesion, onitê ni ddeuant byth yn eu blaenau yn dda. Gellir eu gweled yn y tywydd oer bob amser yn ymgladdu yn y gwellt a'r gwasarn a roddir iddynt fel gwely, ac fel hyn dynodant eu hawydd naturiol at wres. Gan hyny, dylai cytiau y moch fod mewn llecyn gysgodog, ac yn gwynebu y dehau neu y gorllewin, os bydd modd. Os cedwir hwy mewn cytiau bychain, dylai fod agorfa fechan yn mhob pen iddynt, fel ag i ollwng awyr iach drwyddynt i'w gwyntellu. Gellir cadw y rhai hyn yn agored bob amser yn ystod y misoedd haf; ond ni ddylid eu hagor i ollwng awyr i mewn ond unwaith bobyneildydd yn y gauaf, a hyny yn y bore, a gofaler am eu cau i fyny at yr hwyr.

Canfyddir y bydd i foch dyfu hyd yn nod pe yr esgeulusid yr holl bethau hyn; ond yr ydym yn gwybod trwy brofiad y tyfant ac y pesgant yn gyflymach o lawer, ac y byddant yn fwy iachus, os telir sylw priodol iddynt. Os bydd y tywydd yn deg, gall ychydig oriau o ryddid wneuthur mawr les i iechyd a chyflwr mochyn ar ei dyfiant, ac os ca ychydig borfa, goreu oll.

Cedwir moch yn gyffredin mewn cyflwr cywilyddus o fudr; eu cytiau heb awyr iach yn myned drwyddynt, y gwellt odditanynt yn ffiaidd, eu buarth cyfyng ronyn gwell na thomen wleb, a chroen yr anifail o ganlyniad yn orchuddiedig â chrêst a phob math o amhureddau. Y mae yr hen ddywediad, "Yr hwch wedi ei golchi yn dychwelyd i'w hymdreiglfa yn y dom," megys yn cadarnhau y syniad mai un naturiol fudr ydyw yr anifail yma; ond nis gellir beio y dull cyffredin o drin y mochyn, gyda golwg ar hyn yn rhy lym, oblegyd nid ydyw yn naturiol yn fudr, fel y tybiai rhai, ond y mae yn hoffi cael ei gadw yn sych a glân, yn gystal a chynhes, fel y gall pawb weled wrth sylwi ar yr hyfrydwch a arddengys pan y mae ei groen yn cael ei grafu a'i ysgrwbio. Gan hyny, yr ydym yn atolygu ar bawb sydd yn cadw moch, am iddynt gadw eu cytiau yn y cyflwr sychaf a glanaf ag y mae modd, newid y gwellt yn fynych, a chrafu croen y mochyn o leiaf unwaith yn yr wythnos. Trwy wneyd hyn, pe byddai yr anifail heb fymryn o ymborth yn ychwaneg nag arferol, bydd iddo ddyfod yn ei flaen a phesgi i raddau uwch, a bydd y cig yn fwy pur a thyner.

Ffurfiad a Sefyllfa y Cytiau.—Tuag at wneyd y mochyn yn gysurus, dylai ei gwt gael ei rana yn ddwy ran ystafell at gysgu, a buarth agored, y naill yn agor i'r llall. Dylai yr ystafell lle y byddont i gysgu fod tua saith troedfedd ysgwâr; wedi ei hadeiladau a'i thoi yn gadarn, er mwyn cadw gwlybaniaeth allan; a'r llawr, yr hwn y dylid ei wneyd o fyrddau cryfion, a ddylai redeg ychydig ar oriwaered at y drws. Dylai y buarth allanol fod tua deg troedfedd ysgwâr, wedi ei balmantu yn gadarn â llechfeini mawrion, ac yn rhedeg ychydig ar oriwaered mewn cyfeiriad pennodol, fel y gallo yr ysgarthion redeg i gwter o dan y ddaear. Y mae yn ddymunol i'r adeilad fod gerllaw y domen, fel y gallo yr holl wlybaniaeth redeg iddi, ac hefyd fel y galler trosglwyddo yr holl ysbwrial sylweddol iddi yn ddigolled. Bydded i chwi gadw digonedd o wellt yn y cwt ac yn y buarth, fel y byddo iddo sugno lleithder a thom, a rhacier y cyfan allan yn rheolaidd, a rhodder gwellt newydd yn ei le. Y mae yr arian a gollir trwy adael i'r dom redeg ymaith, trwy fygdarthiad—hyny ydyw, trwy iddo ehedeg ymaith i'r awyr —yn fwy nag a feddyliai llawer un. Dylai buarth y cwt mochyn, os bydd modd, fod yn agored i'r haul, gan fod y moch yn dra hoff o dorhenlo yn ei belydrau. Dylai y llestri bwyta a osodir o flaen y moch yn y buarth fod yn gafnau cryfion o geryg, y rhai nis gellir yn hawdd eu dymchwelyd. A dylai y rhai hyn gael eu golchi a'u hysgwrio bob dydd; oblegyd er mai anifail budr yr ystyrir y mochyn, y mae bob amser yn fisi ar ei fwyd.

Nodiadau

golygu