Cyffelyb un i'm Duw

Iesu dyrchafedig Cyffelyb un i'm Duw

gan William Williams, Pantycelyn

O! Enw annwyl iawn
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

153[1] Neb yn gyffelyb i Grist.
66. 66. 88.

1 CYFFELYB un i'm Duw
Ni welodd daer na nef;
'D oes un creadur byw
Gymherir iddo Ef;
Cyflawnder mawr o ras di-drai
Sydd ynddo fythol yn parhau.

2 Yn nyfnder twllwch nos
Mi bwysaf ar ei ras;
O'r twllwch tewa' 'rioed
Fe ddwg oleuni i maes:
Os gwg, os llid, mi af i'w gôl,
Mae'r wawr yn cerdded ar ei ôl.

3 Ymffrostiaf ynddo Ef
Ped ymderfysgai'r byd,
Pe dilyw ddôi'r ail waith
I guddio'r ddaer i gyd;
Rhyw noddfa lawn a lloches sy
Uwch tymestl yn f'Anwylyd cu.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 153, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930