Iesu dyrchafedig
← Teg wawriodd arnom ddydd | Iesu dyrchafedig gan William Ambrose (Emrys) |
Cyffelyb un i'm Duw → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
152[1] Iesu dyrchafedig.
665. 665. 786.
1 IESU dyrchafedig,
Geidwad bendigedig,
Mawl a'th erys Di;
Arglwydd llawn tosturi,
Edrych ar ein gweddi,
Iesu, cymorth ni;
Trugarha, O! Arglwydd da,
Rho faddeuant, rho dangnefedd,
Dwg ni i'th orfoledd.
2 Ymaith, ffôl amheuon,
Heriaf bob treialon,
Iesu yw fy rhan;
Canaf ym mhob tywydd,
Os caf wenau f'Arglwydd,
Gobaith f'enaid gwan;
O! fy Nuw, fy ngweddi clyw,
Os cyrhaeddaf nef y nefoedd
Molaf Di'n oes oesoedd.
William Ambrose (Emrys)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 152, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930