Teg wawriodd arnom ddydd

Fy Iesu yw fy Nuw Teg wawriodd arnom ddydd

gan Evan Pritchard (Ieuan Lleyn)

Iesu dyrchafedig
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

151[1] Teg wawriodd arnom Ddydd.
66. 46. 88. 76.

1 TEG wawriodd arnom ddydd
A welwyd gynt trwy ffydd
Gan rai sy'n awr
O'u cystudd mawr yn rhydd;
Ac os oedd dyled arnynt hwy
Foliannu'r Oen a'i farwol glwy',
Mae'n dyled ni, genhedloedd,
Fil miloedd foli mwy.

2 Trwy Grist a'i werthfawr waed
Y daeth maddeuant rhad:

I ddynol-ryw
Iachawdwr gwiw a gad;
Ei fywyd pur a'i angau loes
A'i ddioddefaint ar y groes
A ddygo fy serchiadau
Tra pery dyddiau f'oes.

3 Yn nyfnder pob rhyw loes,
A gorthrymderau f'oes,
Fy noddfa a'm nerth
Yw aberth mawr y groes:
Rhinweddol haeddiant marwol glwy'
Yw 'nghysur yn y byd tra fwy',
A'm hunig ddigonoldeb
I dragwyddoldeb mwy.

1 Evan Prichard (Ieuan Lleyn)
2-3 Siarl Mark


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif , Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930