Fy Iesu yw fy Nuw
← Ar aur delynau'r nef | Fy Iesu yw fy Nuw gan William Williams, Pantycelyn |
Teg wawriodd arnom ddydd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
150[1] Iesu y tu mewn i'r Llen.
664. 6664.
1 FY Iesu yw fy Nuw,
Fy Mrawd a'm Prynwr yw,
Ffyddlonaf gwir;
Arwain fy enaid wnaeth
O'r gwledydd tywyll caeth,
I wlad o fêl a llaeth,
Paradwys bur.
2 Efe a aeth o'm blaen,
Trwy ddyfnder dŵr a thân,
I'r hyfryd wlad;
Mae'n eiriol yno'n awr
O flaen yr orsedd fawr,
Yn maddau bach a mawr
O'm beiau'n rhad.
3 Mae lluoedd maith y
Yn plygu iddo Ef,
Anfeidrol Dduw ;
Canu telynau clir nef
Mewn gŵyl dragwyddol bur,
Am waredigaeth wir
I ddynol-ryw.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 150, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930