Ar aur delynau'r nef
← Does destun gwiw i'm cân | Ar aur delynau'r nef gan Thomas Jones, Dinbych |
Fy Iesu yw fy Nuw → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
149[1] Y Gan Newydd.
664. 6664.
1 AR aur delynau'r nef
Bydd seinio uchel lef,
Heb ball, na phoen;
Yr anthem felys faith
Fydd am achubol daith
A phur rinweddol waith
Y nefol Oen.
2 Pan ddelo'r saint ynghyd,
Uwch poen a maglau'r byd,
Yn groyw eu cân,
Caniadau am ei loes
A rhinwedd llawn ei groes
Fydd hyd dragwyddol oes
Yn Salem lân.
3 I'r nefol byrth ni ddaw
Nac ofn, na phoen, na braw,
Na phechod cas;
Pwy na hiraethai'n wir
Am rodio'r sanctaidd dir,
Ac yfed dyfroedd clir
Ei ryfedd ras?
Thomas Jones, Dinbych
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 149, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930