Does destun gwiw i'm cân

Arhosaf ddydd a nos Does destun gwiw i'm cân

gan John BLackwell (Alun)

Ar aur delynau'r nef
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

148[1] "Iddo Ef." .
664. 6664.

"'DOES destun gwiw i'm cân
Ond cariad f'Arglwydd glân,
A'i farwol glwy';
Griddfannau Calfari
Ac angau Iesu cu
Yw 'nghân a'm bywyd i—
Hosanna mwy!

2 Caniadau'r nefol gôr
Sydd oll i'm Harglwydd Iôr
A'i ddwyfol glwy':

Y brwydrau wedi troi,
Gelynion wedi ffoi,
Sy'n gwneud i'r dyrfa roi
Hosanna mwy!

3 Pan ddelo'r plant ynghyd,
O bedwar cwr y byd,
I'w mangre hwy;
Gobeithiaf yn ddi—lyth
Gael telyn yn eu plith,
I ganu, heb gŵyno byth,
Hosanna mwy

John Blackwell (Alun)


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 148, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930