Cyfrinach y Dwyrain/Ysgrifau ar Bapur-Frwyn
← Ysgrifau mewn Clai | Cyfrinach y Dwyrain gan David Cunllo Davies |
Ysgrifau ar Briddlestri a Llafnau o Gerrig → |
IV. YSGRIFAU AR BAPUR-FRWYN.
BU papur-frwyn yn ddefnydd ysgrifennu am yng ngwlad yr Aifft. Tyfent ar fin y Nilus mewn gorddigonedd gynt, ond erbyn. hyn, fel pe byddent yn cilio am nad oes angen am danynt; ni cheir llawer o honynt islaw'r Sudan. Planhigyn a dyf o ddeg i ddeunaw troedfedd o hyd ydyw'r bapur-frwynen, ac y mae ei changhennau yn dair onglog. Ynddynt y mae pabwyryn neu fadrudd; a thorrid hwn yn ddalennau teneu, hirgul, a glynai y dail wrth eu gilydd, ochr wrth ochr, nes ffurfio darn digonol o ran maint i ateb yr angen at ysgrifennu. Yna gosodid dwy ddalen ar eu gilydd er gwneud y defnydd yn gryfach; ac wedi i'r ddeilen o ddau drwch sychu yn yr haul a chael ei llyfnhau, yr oedd yn barod at law'r ysgrifennydd.
O ran hyd, y mae'r rholiau papurfrwyn yn amrywio cryn lawer. Darganfuwyd un sydd yn wyth llath a deugain; ac yn gyffredin y maent yn naw a deng modfedd o led. Ysgrifennwyd ar y ddau tu iddynt. Un felly a welodd Ezeciel yn y llaw a anfonwyd ato. "Ac wele ynddi blyg llyfr. Ac efe a'i datblygodd o'm blaen i: ac yr oedd efe wedi ei ysgrifennu wyneb a chefn" (ii, 10). Yn y Datguddiad, gwelodd Ioan un tebyg yn llaw'r hwn. a eisteddai ar yr orseddfainc. Yn ysgrifenedig ynddo yr oedd rhaglen holl oesoedd y ddaear, ac yr oedd hwnnw wedi ei ysgrifennu oddifewn ac oddiallan (v. 1).
Yr oedd hinsawdd sech yn ffafriol i barhad y papur-frwyn. Y mae yr Aifft, yn hyn, yn rhagori ar Ganan, ac ni cheir ysgrifau ar y defnydd a gadwyd mor hynod yn sychder hen wlad y caethiwed ym Mhalestina. Yn Oxyrhynchus, lle bynnag y gallai dwfr y Nilus gyrhaeddyd, yr oedd yr ysgrifau wedi eu difa gan wlybaniaeth. Yn y flwyddyn 1752, yn ninas Herculaneum, un o'r dinasoedd a gladdwyd dan ludw y mynydd tanllyd Vesuvius yn y flwyddyn 79, darganfuwyd mewn ystafell fechan a fu yn ddiau yn fyfyrgell, nifer o weithiau athronyddol yr Epicureaid. Nid hinsawdd yr Eidal fu garediced ag amddiffyn y casgliad hwn; eithr y nwyon a defnyddiau fferyllol ereill a ruthrasant i'r ystafell i ddinistrio ac i gadw yr un pryd. Ni wyddom am un darganfyddiad tebyg mor bell i gyfeiriad. machlud haul. Yn nhomennau ysbwriel trefydd yr Aifft, o dan adfeilion, o gwmpas cyrff dynion ac anifeiliaid cysegredig fel crocodeiliaid ac adar a bêr eneiniwyd, y ceir yr ysgrif-rolau amlaf. Y mae Ilawer o honynt mewn Aiffteg, ond ar ol i Alexander Fawr (356-323 c.c.) orchfygu. Persia, ac i'r Aifft ddyfod o dan ei lywodraeth, bu dylanwad gwareiddiad a diwylliant ei deyrnas yn drwm ar y wlad, a daeth yr iaith Roeg yn gyfrwng dysgeidiaeth a masnach y byd a orchfygodd; ac yn honno y mae'r ysgrifau a gynyrchwyd ar ol dyddiau y teyrn dysgedig hwn.
Wedi manylu o honom ar y defnydd fu mewn cymaint o fri i ysgrifennu arno, a chymeryd cipdrem ar yr iaith yr ysgrifennwyd ynddi, ein cwestiwn nesaf yw, pa beth a geir yn ysgrifenedig ar y papur-frwyn?
Darganfuwyd darnau byrion o'r Hen Destament a'r Newydd; ond y maent mor fyrr fel nad ydynt o fawr gwasanaeth i astudiaeth ysgrythyrol. Dyddorol iawn oedd llechres o eiddo pentrefwyr Ibion, Fayum, a ddaeth i law'r ymchwilydd dro yn ol. Pentref Cristionogol oedd hwn, a pherthyn yr ysgrif i'r bumed neu'r chweched ganrif. Cafwyd llawer o adroddiadau am gwynion a ddygwyd gan yr Iddewon at yr ymherawdwyr Claudius a Trajan. Yn y bumed ganrif yr cedd Apion yn esgob Syené ac Elephantiné; a phan erlidiwyd ef danfonodd am amddiffyniad at yr orsedd. Yr oedd Theodosius II. (401-450 o.c.) yn llywodraethu y rhan orllewinol o'r ymherodraeth Rufeinig, a Valentinian III. (420-455 o.c.) yn feistr ar yr ochr ddwyreiniol iddi; a chafwyd atebiad y ddau benadur i'r esgob, dro yn ol, ar y rholiau Aifftaidd. Ymysg y pethau sydd o werth amhrisiadwy er cynorthwyo esboniadaeth Feiblaidd, y mae ysgrifau a wnaed yn oes yr apostolion a chyfnod cyfieithiad y deg a thrigain o'r Hen Destament. Cawn ynddynt oleuni ar arferion dwyreiniol, ar briod-ddulliau Groeg y werin, ac ar eiriau, Yn 1893, darganfuwyd ysgrif ar bapur-frwyn yn Sakkara, ar yr hon yr oedd yn ysgrifenedig gyfrifon dyddiedig mor bell yn ol a than deyrnasiad Asa (3580-3536 c.c.); ac hyd nes i'r memrwn gael ei ystyried yn rhagorach defnydd parhaodd brwyn y Nilus mewn bri. Ynghanol afon yr Aifft, ychydig islaw'r rhaeadr cyntaf, saif ynys fechan o'r enw Elephantiné. Ar hyn o bryd y mae'r argae anferth a adeiladwyd ar draws y Nilus, er cronni y dŵr a chael mwydiad helaethach i dir cynyrchiol y wlad drwy orlifiad, wedi codi'r dŵr i uchder mawr yn y lle hwn. Ar y tir gyferbyn a'r ynys y mae amddiffynfa Syené; ac ar Elephantiné ei hun y mae hen amddiffynfa y bu ei harfau am lawer oes yn gwarchod trafnidiaeth yr afon. Yn 1901, tarawodd Dr. Sayce ar rol o bapur yn dwyn ysgrifen mewn Aramaeg; ac yn fuan ar ol hynny darganfuwyd nifer liosog o ysgrifau cyffelyb a gynhwysent gytundebau cyfreithiol o lawer math rhwng Iddewon a'u cymdogion yn Assouan ac Elephantiné. Yr enwau Iddewig, megis Hosea, Nathan, Haggai, Isaiah, Azariah, sydd mewn rhan yn arwyddo i ba genedl y perthynai y bobl; ac nid hollol ddibwys yw tystiolaeth un o'r papyri sydd yn cofnodi benthyciad arian a chytundeb ynglŷn â thaliad llog. Y mae teulu Jacob wedi arfer llwyddo mewn gwaith fel hwn; ond y mae un dystiolaeth arall i brofi mai Iddewon oeddynt. Sonnir am dy Yahu (Jehovah), ac allor ar yr hon yr offrymid aberthau. Ysgrifennwyd y cytundebau o dan deyrnasiad Xerxes (485-464 c.c.), Artaxerxes, Xerxes II., a Darius II. (423—405 c.c.). Cyrhaeddant dros gyfnod o drigain mlynedd—sef o 471 i 411; ac y maent yn gyf— oedion i lyfr y proffwyd Malachi, a thua'r un adeg y digwyddodd yr amgylchiadau a gofnodir gan Ezra a Nehemiah ac yn llyfr Esther. Y Xerxes a enwyd gyntat gennym yw yr Ahasferus, a gymerodd y frenhin-fraint o feddiant Fasti. Ymysg yr ysgrifau ceir deiseb oddiwrth yr Iddewon at Bagohi, llywodraethwr Judah. Dyma led—gyfieithiad o ran o honi,—
I'n Harglwydd, Bagohi. Dy weision, Jedonijah a'i gymdeithion yr offeiriaid sydd yn Elephantiné, yn yr amddiffynfa, tangnefedd. Bydded i'n Harglwydd, Duw y nefoedd, ganiatau ti yn helaeth bob amser.& boed i ti dderbyn ffafr o flaen Darius y brenin... Bydded i ti fod yn hapus ac mewn iechyd da bob amser. Yn awr, llefara Jedonijah a'i gymdeithion fel hyn—ym mis Tammuz, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i Darius y brenin, pan ymadawodd Arsam ac yr aeth at y brenin, offeiriaid y Duw. Khnub, y rhai oedd yn yr amddiffynfa yn Elephantiné (yeb) [a wnaethant] frad-fwriad mewn undeb à Waidrang, yr hwn oedd lywodraethwr yma. Gan ddywedyd—Cymerer ymaith oddiyma y deml a berthyn i'r Duw Yahu—y Duw sydd yn Elephantiné (yeb) yr amddiffynfa."
Y llywodraethwr lleol oedd Arsam, ac ar adeg un o'i ymweliadau â'i feistr y digwyddodd yr ymosodiad yr achwynir arno gan Iddewon yr ynys. A y deisebwyr yn eu blaen i adrodd yr hanes. Yr oedd mab i Waidrang, sef Nephayan, yn gadfridog y llu oedd yn Syené; ac o'i amddiffynfa arweiniodd allan yr Aifftiaid a'r cadlengoedd ereill. Daethant yn groes i Elephantiné "a'u cawellau saethau." Aethant i deml Yahu. Dinistriwyd hi. Torrwyd y drysau o garreg. Llosgwyd y nen o goed cedrwydd; a chymerasant y cawgiau o aur ac arian, gan eu neillduo iddynt eu hunain. Tua chan mlynedd cyn hyn bu ymosodiad cyffredinol ar demlau duwiau yr Aifft. Ni wyddom hyd sicrwydd paham y bu hyn; eithr yr oedd perygl i'r offeiriadaeth fyned yn ormesol a thrahaus bob amser, a ffordd ferr at dynnu oddiwrth urddas yr offeiriad oedd dinistrio ei sefydliad crefyddol. Dan Cambyses (529- 522 c.c.) y digwyddodd yr ymosodiad, ond ni chyffyrddwyd yr adeg honno â theml Elephantiné. Wedi i offeiriaid Khnub gael un i'w gwasanaethu, a chael cyfle yn absenoldeb y llywodraethwr, ac iddynt. ddinistrio ty'r Duw Yahu, yr oedd galar yr Iddewon yn chwerw.
"Ac wedi gwneuthur o honynt hyn, nyni gyda'n gwragedd a'n plant a wisgasom sachlian ac a ymprydiasom ac a weddiasom ar Yahu, Duw y nefoedd, a rhoddodd i ni ein dymuniad ar y Waidrang hwn. Cymerwyd y dorch neu'r fodrwy oddiar ei droed."
Hon oedd yr arwydd gweledig o urddas ei safle; ac yr oedd ei thynnu ymaith yn dynodi cryn ddarostyngiad iddo. O ddydd yr anrhaith i ddydd y ddeiseb ni eneiniodd yr Iddewon hyn eu cyrff. Nid yfasant win, ac ymbiliasant yn daer am ganiatad i adeiladu eu teml. Os bydd i Bagohi ganiatau hyn iddynt, addawant aberthu ar allor Yahu yn ei enw a gweddiant drosto. Dywedant hefyd eu bod wedi ysgrifennu ar yr un mater at Delaiah. a Shelamiah, meibion Sanbalat, llywodraethwr Samaria. Mewn ysgrif arall a gafwyd yn yr un man, cofnodir caniatad. Bagohi a Delaiah i ail adeiladu'r deml, ac fel cynt i gyflwyno blawd-offrymau ac i losgi perarogl-darth.
Pwy oedd yr Iddewon hyn? O ba le y daethant? Wrth geisio ateb y cwest iynau hyn y mae cnwd o ddyfaliadau wedi eu cynhyrchu. Y mae un peth yn sicr. Siaradent yr Aramaeg. Bu farw'r Hebraeg fel iaith amgylchiadau a masnach; a rhaid oedd ei hegluro ynglyn â phethau crefydd. "A hwy a ddarllenasant yn eglur (h.y., gyda dehongliad) yn y llyfr yng nghyfraith Dduw; gan osod allan y synwyr, fel y deallent wrth ddarllen" (Nehem. viii. 8). Dyna oedd sefyllfa pethau yn Jerusalem yn y dyddiau hynny. Ai disgynyddion yr Iddewon a ffoisant i'r Aifft ar ol dyddiau y gaethglud Fabilonaidd oeddynt? Tua 597 c.c. dinistriodd y Caldeaid Jerusalem; a chymerwyd gor- euon y wlad i Babilon. Yr oedd Eseciel y proffwyd yno gyda hwynt. Ar y gweddill. a adawyd gosodwyd Zedeciah yn frenin, a bu yntau yn ddigon ffol i wrthryfela. Lladdwyd ef. Dinistriwyd Jerusalem; a ffodd yr Iddewon a drigent o fewn terfynau Judah i'r Aifft, a gorfodwyd y proffwyd Jeremiah i'w dilyn yno (Jerem. xliii. v.). Ai rhan o'r deg llwyth oeddynt, neu Samariaid a honnent, fel y cyfeiria Josephus at rai (Ant. xi. 8, 9) mai Iddewon oeddynt Ni allwn ateb, a'n dyddordeb mwyaf yn yr hanes yw y ffaith fod teml i Jehovah y tu allan i Jerusalem. Gwaherddid hynny o ddyddiau Hezeciah; ond gwyddom, yn awr, am dair o honynt; sef hon, yr un ar Gerizim, a theml Onias. yn yr Aifft. Y mae Esaiah (xix. 19) fel pe bai yn cyfeirio at un o'r temlau. "Y dydd hwnnw y bydd allor i'r Arglwydd ynghanol tir yr Aifft, a cholofn i'r Arglwydd gerllaw ei therfyn hi." Dywed Malachi hefyd wirionedd sy'n dod i'n meddwl wrth ymdrin â hanes yr Iddewon hyn—"Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawr fydd fy enw ymysg y cenhedloedd: ac ym mhob lle arogldarth a offrymir i'm henw, ac offrwm. pur, canys mawr fydd fy enw ym mhlith y cenhedloedd, medd Arglwydd y lluoedd" (i. 11). Yr oedd Iddewon yn yr Aifft cyn dyddiau'r gaethglud, fel y gwelir oddiwrth Hosea ix. 3, &c.
Llyfr ar bapyrus, sydd yn hynod ar lawer cyfrif, ydyw yr un a adnabyddir fel Llyfr y Meirw. Ceir llawer o gopiau a rhannau o hwn yn yr hen feddau; ac y mae'r goleuni a rydd ar syniadau'r Aifftiaid am y sefyllfa ddieithr y tu hwnt i wahanlen y ddeufyd yn hynod o ddyddorol. Ni fu pobl erioed yn rhoddi cymaint o le i'r bedd, yn eu bywyd, a thrigolion gwlad y Nilus. O'i gwmpas y datblygodd eu celfyddydau mwyaf cain. mewn cerfwaith ac arluniaeth. Credent mor gryf mewn anfarwoldeb fel y galwent y bedd yn dŷ y tragwyddol, ac ni roddent amgenach enw ar eu tai na llety y teithiwr. Eneinient y cyrff â pheraroglau. costus o fyrr, cassia, a natron. Cyfeirient at y rhai a hunasant fel rhai byw. Ymwelai'r enaid â'r corff ar ol ei gladdu. Teithiai'r enaid gryn lawer yn yr ail fyd. Cyfarfyddai â llawer o anhawsderau a gelynion, a rhaid oedd darparu ar eu cyfer. Ac i'r amcan o gynorthwyo'r marw yr ysgrifennwyd y llyfr. Cynhwysa gyfarwyddiadau manwl am deithiau a pheryglon y byd arall, a chredir mai Thoth—yr hwn a leinw'r swydd bwysig o fod yn gofiadur tynged y ddynoliaeth, yw awdur llawer rhan o hono. Bu'r eneidiau cyntaf i groesi trothwy'r bedd mewn enbyddrwydd; a honna Llyfr y Meirw y gallu i roddi gwybodaeth oll bwysig am ffyrdd dedwyddwch yr ardaloedd y teithia'r enaid drwyddynt wedi tynnu'r olaf anadl. Disgwylid i bob un ddysgu cynnwys y gyfrol, a rhan o waith yr offeiriad oedd canu dysg y gyfrol yng nghlust y trancedig. Ysgrifennid rhannau o hono ar yr eirch ac ar furiau'r bedd.
Y mae yr holl lyfr yn fawr, ac iddo gant a phedwar ugain o benodau, a hefyd ddarluniau lawer. Gwelir oddiwrtho mai helyntion y bywyd hwn yn cael eu hail fyw yw yr hyn a ddigwydd ym mro marwolaeth yn ol drychfeddwl yr Aifftiaid. Yr afon oedd gwrthrych mwya'u gwlad; a gwlad a llawer o ddŵr ynddi yw eu nefoedd. Yr oeddent hwy yn fwy hoff o ddŵr na'r Iddew. Afon i'w hofni oedd yr Iorddonen iddo ef. Gwir fod ganddo mewn addewid yr afon bur o ddwfr y bywyd, a bod y pren na fydd gwyw ei ddail ac a rydd ei ffrwyth yn ei bryd wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd. Afon a'i dŵr yn iachau dyfroedd y môr oedd yr un a welodd Eseciel. Afon a ddygai fywyd ydoedd, ac yr oedd yn llawn pysgod. Cofiwn am yr heddwch fel afon; eithr ar y cyfan y mae yr afon yn peri braw i'r Iddew, a'i ddisgrifiad ef o honi sydd yn emynnau Cymru. "Ac na'm hofner gan y llif" yw byrdwn cân y pererin wrth groesi'r afonydd. Ond i'r Aifftiwr y mae y nefoedd yn rhyw wlad a Nilus o'i mewn. Y mae camlesi yno. Cleddir bad gyda'i gorff yn aml.
Ar lan aswy y Nilus, fel y rhed i Fôr Canoldir, tua chwech ugain o filltiroedd yn uwch na Chairo, y mae adfeilion dinas Oxyrhynchus. Behnesh yw yr enw diweddar ar y lle. Yn y bedwaredd a'r bumed ganrif yr oedd y lle yn enwog am y nifer o eglwysi a mynachlogydd Cristionogol o'i fewn; a chyda disgwyliad am ddarganfod llawer o lenyddiaeth foreol y cychwynnodd y Proffeswr Flinders Petrie gloddio yno yn 1896. Gwelodd mai dinas ydoedd fu mewn bri mawr pan oedd y Rhufeiniaid yn feistri ar y wlad, a throsglwyddodd y gwaith i Mr. B. P. Grenfell, D.Litt., M.A., a Mr. Arthur S. Hunt, D.Litt., M.A., dau o ysgolheigion Rhydychen. Yn nhomennau'r lle darganfuwyd llawer iawn o bapyri; ac mewn mynwent berthynol i gyfnod Groeg a Rhufain, tarawyd ar sypyn o gyfrifon ariannol yn perthyn i'r ail ganrif. Y mae'r adfeilion yn ymyl darn o ddaear fras yn yr anialwch. Dyna a ddenodd bobl yn y gwahanol gyfnodau i wneud cartref yn Oxyrhynchus; ond gan fod lladron y diffeithwch yn dyfod yn aml dan len y nos i gipio eiddo y rhai a amaethent y tir glas, gadawai'r trigolion y lle, gan geisio Ille nad oedd raid iddynt fod a'u cleddyfau yn eu llaw o hyd i amddiffyn eu hanifeiliaid a'u hŷd. Ymosododd y Bedawin o'r anialwch ar wersyll Dr. Grenfell ar adeg yr ymchwil gyntaf yn y lle yn 1897.
Yn fuan wedi dechreu cloddio daethpwyd o hyd i chwe phennod o weithiau'r hanesydd Thucydides o Athen (465-400 c.c.); a phan yr oedd Dr. Hunt yn edrych. drwy y papur—frwyn disgynnodd ei lygad ar y gair Karphos—a gyfieithir brycheuyn; a meddyliodd ar unwaith am yr adnodau ym Math. vii. a mannau ereill sydd yn cynnwys y gair. Ac wedi sylwi yn fanylach gwelodd mai geiriau'r Arglwydd Iesu, fel y cofnodir hwynt yn Luc vi. 42, oeddent; ond yr oedd y rhan arall o'r ysgrif yn wahanol i'r Efengylau, a phenderfynodd fod yn ei law gasgliad o ddywediadau Crist na chroniclir mo honynt, i gyd, yn yr Ysgrythyr, Cynhwysa'r ysgrif ddwy ochr i ddalen, ac un linell ar hugain o ysgrifen ar bob tu. Adnabyddir yr hyn a ddarganfuwyd, heddyw, fel y Logia. Trannoeth, a Dr. Hunt yn ymchwilio ymysg y darganfyddiadau, cafodd ddarn o'r bennod gyntaf o'r Efengyl yn ol Mathew. Yn ol y llawysgrif o'r dywediadau ei hun, a darnau ereill o bapyri sydd yn dwyn dyddiadau, credir fod y Logia a'r gyfran o'r Efengyl yn perthyn i'r cyfnod rhwng 150 a 300 0.c.; ac os felly y maent yn ol pob tebyg yn ganrif hŷn nag unrhyw ysgrif sydd ar gael o'r Ysgrythyrau. Y mae Dr. Grenfell o'r farn eu bod yn eiddo i rywun a fu farw yn yr erledigaeth o dan Diocletian; ac iddynt gael eu taflu i ffwrdd yr adeg honno. Y mae'r dywediad cyntaf yr un a rhan o Luc vi. 42.
i. Yna y gweli yn eglur i dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd. Rhoddwn yma y dywediadau ereill,—
ii. Yr Iesu a ddywed, Oddieithr i chwi ymprydio i'r byd, nis gellwch mewn un modd gael teyrnas Dduw; ac oddieithr i chwi wneuthur y Sabbath yn Sabbath gwirioneddol, ni chewch weled y Tad.
iii. Yr Iesu a ddywed,—Mi a sefais ynghanol y byd, ac yn y cnawd y'm gwelwyd gan— ddynt, a chefais bawb dynion yn feddw, ac ni chefais neb yn sychedig yr eu mysg. a'm henaid sydd yn galaru dros feibion dynion, o herwydd eu bod yn ddall yn eu calon ac ni welant. .
iv. .Tlodi.
v. Yr Iesu a ddywed—Pa le bynnag y mae (dau), nid ydyat heb Dduw, a pha le bynnag y mao un yn unig, yr wyf yn dywedyd, yr wyf fi gydag ef. Cyfod y garreg ac yno ti a'm cei i; hollta y cood ac yno yr wyf fi.
vi. Yr Iesu a ddywed.—Nid yw proffwyd yn dderbyniol yn ei wlad ei hun, ac nid yw meddyg ychwaith yn gweithio iachad ar y sawl a'i hadnabyddant.
vii. Yr Iesu a ddywed,—Dinas a adeiladwyd ar ben bryn uchel ac a gadarnhawyd ni all syrthio ac ni ellir ychwaith ei chuddio. viii. Yr Iesu a ddywed,—Ti a glywi ag un glust, (eithr y llall ti a'i ceuaist).
Y mae'r geiriau hyn a briodolir i'r Arglwydd yn gyson â'i ddysgeidiaeth; ac o'r un naws a'i ysbryd. Yn hyn, nid ydynt yn debyg i'r geiriau a'r gweithredoedd a gysylltir â'r enw gogoneddus yn yr Efengylau Apocryffaidd. Dywed Papias, —esgob Hierapolis yn Phrygia Leiaf, yr hwn a anwyd yn niwedd y ganrif gyntaf ar ol Crist—i Mathew ysgrifennu llyfr o ddywediadau'r Arglwydd, mewn Aramaeg, a chymerir yn ganiataol nad yr Efengyl sydd yn dwyn ei enw ydyw. Ai at y Logia y cyfeiria? Feallai y cryfha'r goleu ar y cwestiwn rywbryd. Bu llawer o esbonio ar frawddeg ola'r pumed dywediad; ond nis gwelwn fod Île i ddau feddwl ar y cwestiwn. Onid cyfeiriad at wr yn codi allor ac yn darpar y tanwydd sydd yno fel ffigiwr? Yn gyson â'r hyn a geir yn y rhan gyntaf o'r dywediad, gwelwn fod y gwrandawr lle bynnag mae'r gweddiwr. Fe ddywedodd Edward Jones, Maesyplwm, wirionedd tebyg,—
"Clyw f'enaid tlawd, mae gennyt Dad
Sy'n gwel'd dy fwriad gwan,
A brawd yn eiriol yn y nef
Cyn codi'th lef i'r lan."
Aeth y gwrandawr ei Hun ymhellach pan
ddywedodd, "A bydd cyn galw o honynt i mi ateb," &c.
Wedi cael o honynt y copiau hyn gosodwyd cant a deg o ddynion i gloddio, a
tharawyd ar gynifer o ysgrifau fel y cadwyd dau ddyn mewn llawn gwaith am
ddeg wythnos er gwneud blychau alcan i'w
cynnwys.
Darganfuwyd papur—frwyn Aramaeg perthynol i'r wythfed a'r nawfed ganrif, ynghyd a llawer iawn o gyfnod ymherodraeth Caercystenyn (395—1453). Yng nghofnodfa tref a dinas cedwid pob gweithred ynglŷn â llywodraethiad a threthiad gwlad; a danfonai pobl y lle ysgrifau i'w cadw yn ddiogel yno. Deuai adeg pan nad oedd eisieu'r gweithredoedd. Yr oedd eu dydd drosodd; ac yna teflid hwynt allan i domen y ddinas; ac yn anffortunus y mae dynion am wneud yr hyn sydd yn ddiwerth iddynt hwy yn ddifudd i ereill drwy eu rhwygo yn ddarnau wrth eu taflu ymaith. Mawrth 18, 1897, tarawyd ar dwmpath oedd ymron drwyddo yn gynhwysedig o ysgrifau y papyri. Llanwyd y dydd a enwyd un basgedaid ar bymtheg ar hugain â hwynt, a thrannoeth cafwyd llond pump ar hugain; ac yr oedd ynddynt roliau deg troedfedd o hyd. Cafwyd hefyd rannau o gyfieithiad y Deg a Thrigain o Lyfr Genesis, cyfran o'r Epistol at yr Hebreaid, a nifer o weithiau'r tadau.
Cyn agos gorffen cloddio yr Oxyrhynchus symudwyd Dr. Grenfell i dalaeth Fayûm ar yr ochr orllewinol i'r Nilus. Darganfuwyd papyri yno yn 1778; ac yn 1878, daeth y brodorion o hyd i roliau. lawer o hono yn yr adfeilion, a thra yr oedd yn bosibl cael marchnad barod. iddynt cloddiwyd yn ddiatal; ac yn 1895-6, megis ar yr unfed awr ar ddeg, y dechreuodd Dr. Grenfell a'i gymdeithion gloddio mewn trefn o dan nawdd yr Egypt Exploration Fund. Yn y dalaeth. hon, sydd yn enwog am ei ffigys a'i rhosynau, ceir olion peirianwaith er rheoli dyfroedd llyn ac afon: ac mor anhywaith oedd y galluoedd hyn ar brydiau fel y bur raid i'r trigolion ffoi o rannau o'r wlad. Yn ysgrifau Fayûm ceir llawer iawn of dderbynebau am drethoedd; a gallem gasglu oddiwrth yr amrywiaeth fod pawb a phopeth yn gwybod am bwysau'r dreth.
A chyfrol ddyddorol Dr. Grenfell, Dr. Hunt, a Mr. Hogarth o'n blaen, dyfynwn ychydig. Dyma rybudd a ddanfonwyd tua 150 A.D. i'r awdurdodau i hysbysu genedigaeth mab.
"I Socrates a Didymus . . . yr ydym yn rhoddi rhybudd am y mab a anwyd i ni, Ischyras, un mlwydd oed yn y bresennol, y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i Antoninus Caesar ein harglwydd."
Yr oedd y mab yr un enw a'i dad, a Thaisarion oedd enw'r fam. Dyma gofnodiad swyddogol arall,—
"Heraclides, pentref ysgrifennydd Euhemeria, oddiwrth Mysthes, mab Peneouris, o Euhemeria yn rhanbarth Themister. Fy mrawd Peneouris, cofrestredig fel un o drigolion ardal y pentref a enwyd, a fu farw ym mis Mesore o flwyddyn gyntaf Gaius Caesar Augustus Germanicus. Myfi a gyflwynaf i chwi y rhybudd hwn fel y bydd i'w enw gael ei osod ar restr y personau trancedig yn ol yr arfer."
Y peth mwyaf dyddorol o Fayûm a welsom oedd llythyr mab afradlon at ei fam (Deissman 177). Dyma gyfieithiad o hono,—
"Antonis Longus i'w fam Nilus, cyfarchiadau lawer. Ac yn wastad y deisyfaf ar i ti fod mewn iechyd. Erfyniaf drosot bob dydd at yr Arglwydd Serapis (ei duw). Dymunwn i ti ddeall nad oedd gennyf obaith y byddet yn myned i fyny i'r brif ddinas ac felly ni ddaethum i'r ddinas. Eithr yr oedd cywilydd arnaf i ddod i Caranis, am fy mod yn rhodio oddiamgylch mewn carpiau. Ysgrifenais atat fy mod yn noeth. Atolygaf arnat, mam, cymoder di à mi. Ymhellach gwn pa beth a ddygais arnaf fy hun, Cosbwyd fi ymhob modd. Gwn fy mod wedi pechu. Clywais oddiwrth Postumus, yr hwn a gyfarfu à thi yn y wlad ger Arsinoe, ac a ddywedodd wrthyt yn anhymig bob peth. Oni wyddost ti y byddai yn well gennyf gael fy anafu na gwybod fy mod eto yn nyled dyn o obol? Tyred dy hun... Clywais fod. . . Atolygaf arnat . . . yr wyf bron . . .Atolygaf arnat.
Yn y lleoedd y mae'r brawddegau'n doredig, yr oedd y papur felly; ac yr ydym yn lled sicr fod teimlad yr ysgrifennydd a'r derbynydd felly. Nid aeth i'r brifddinas am na thybiodd y buasai'r fam yn alluog i fynd yno; a gresyn i Postumus. gario'i feiau i glustiau i fam.
Wedi chwilio'r Fayûm am rai blynyddoedd, dychwelodd Dr. Grenfell a Dr. Hunt i Oxyrhynchus yn Chwefrol, 1903; ac yn fuan iawn ar ol taro rhaw yn yr ysbwrial disgynnwyd ar gopi o "ddywediadau " ereill o eiddo'r Gwaredwr wedi eu hysgrifennu ar gefn rhestr o fesuriadau. Y mae yn ol pob tebyg ychydig flynyddoedd yn nes atom o ran oed na'r Logia. Cafwyd hefyd ddarn o ysgrif cyffelyb o
Craig Behistun
ran cynnwys i'r Efengyl sydd yn debyg iawn i'r Bregeth ar y Mynydd. Cynhwysa'r dywediadau ddwy a deugain o linellau. Y mae'r geiriau cyntaf yn fath o ragymadrodd. Dyma gyfieithiad of hono,—
Dyma y geiriau (hynod) a lefarodd yr Iesu, yr (Arglwydd) byw . . . a Thomas, ac efe a ddywedodd (wrthynt), Pob un a wrendy y geiriau hyn ni phrawf farwolaeth byth."
Dyma'r dywediad cyntaf,—
"Yr Iesu a ddywed, na fydded yr hwn sydd yn ceisio . . . beidio nes iddo gael, a phan y caiff bydd yn synn ganddo, yn synn ganddo, efe a gyrhaedda y deyrnas, ac wedi cyrraedd y deyrnas caiff orffwys."
Dyma'r pedwerydd dywediad,—
"Yr Iesu a ddywed, Pob peth nad yw o flaen dy wyneb a'r hyn a guddir oddiwrthyt a ddatguddiri ti. Canys nid oes dim cuddiedig a'r nis datguddir, nac ychwaith wedi ei gladdu, na chyfodir. (Gwel Mat. x. 26; Luc xii. 2; Marc iv. 22).
Fel hyn y cyfyd yr oesoedd o'u beddau i ddyddori, i ddysgu, ac i oleuo; ac yn y fan hon yr ymadawn â'r ysgrifau mewn papur-frwyn.